Cardiff Manifesto Final Cymraeg whole

Page 1

Cyflawni Cyflawnidros dros Gaerdydd Gaerdydd Dewis DewisNewydd Newydd i i Brifddinas Brifddinas Cymru Cymru Mai 2012 Mai 2012

1


Dyluniwyd gan: Matthew Bumford Ysgrifennwyd gan: Matthew Bumford a Luke Nicholas Argraffwyd a Hyrwyddwyd gan: Plaid Cymru T天 Gwynfor Llys Anson Glanfa'r Iwerydd Caerdydd CF10 4AL Sganiwch y cod QR hwn i gael rhagor o wybodaeth am Blaid Cymru 2


Cyflawni dros Gaerdydd Maniffesto Plaid Cymru 2012

Gwneud addewidion y mae eraill - ond rydym ni'n cyflawni.

Dewis Newydd i Gaerdydd// Ein Gweledigaeth - Prifddinas Deinamig

Rydym yn cefnogi Prifysgol Caerdydd fel sefydliad Grŵp Russell i ysgogi twf economaidd yn y ddinas a denu'r bobl fwyaf talentog i Gaerdydd. Dan lywodraethiad y Blaid yng Nghyngor Caerdydd rydym hefyd wedi parhau i gynyddu gwariant ar addysg. Bellach, mae gennym yr ail wariant mwyaf yng Nghymru y disgybl. Rydym hefyd wedi dechrau rhaglen adeiladu ysgolion newydd sy'n cynnwys darpariaeth addysg Gymraeg, sydd wedi cynyddu'n aruthrol yn y ddinas yn ddiweddar. Rydym yn rhoi'r sgiliau i'n plant i feithrin y Gymru gyfoes, hyderus y mae'r Blaid am ei gweld.

Mae eich cynghorwyr Plaid Cymru wedi cyflawni rhai o gyfrifoldebau pwysicaf y Cyngor yn ystod y dirwasgiad a'r dirywiad economaidd sy'n mynd rhagddo.

Plaid Cymru yw'r unig blaid gwbl Gymreig, gan mai ni yw'r unig blaid sy'n bodoli er lles Cymru'n unig, ac er budd Cymru a'i phobl. Am y rheswm hwn, ni yw'r unig blaid a all ddweud heb amheuaeth mai Cymru yw sail ein bodolaeth; a dyma pam bod Caerdydd wrth wraidd ein gweledigaeth dros Gymru. I ni, nid dim ond dinas arall yn y Deyrnas Unedig yw Caerdydd - dyma galon y genedl. Oherwydd hyn, ni all neb ragori ar ein polisïau ar gyfer Caerdydd. Rydym am i Gaerdydd fod yn ddinas wych a hawlio'i lle ymhlith prifddinasoedd Ewrop. Dyma pam, dros y pedair blynedd ddiwethaf o fod mewn llywodraeth yng Nghaerdydd ein bod wedi gwneud buddsoddiad mawr i wella ein cymunedau a helpu i greu mwy o swyddi.

Rydym eisoes wedi rhoi cynlluniau pellach ar waith i wella ffyrdd a rheilffyrdd y ddinas. Rydym wedi creu gweledigaeth economaidd i'r ddinas yn seiliedig ar yr Ardal Fusnes Ganolog a allai wneud Caerdydd yn un o ddinasoedd pwysicaf Ewrop ym maes cyllid. Yn wahanol i rai cynghorau cyfagos nid ydym wedi gorfodi toriadau tâl enfawr ar staff, ond wedi delio â materion y gweithlu mewn modd sensitif, gan weithio mewn partneriaeth ag undebau. Mae hyn yn golygu bod staff y cyngor wedi cael un o'r setliadau gorau yng Nghymru, gan osgoi'r tarfu ar wasanaethau a welwyd mewn cynghorau eraill.

Gwyddom hefyd mai'r hyn sy'n gwneud Caerdydd yn lle gwych yw nid dim ond y ffaith mai prifddinas yw hi, ond ei phobl. Dyma pam, dros y pedair blynedd ddiwethaf o fod mewn llywodraeth yng Nghyngor Caerdydd, ein bod wedi gwneud buddsoddiad mawr ym mhobl Caerdydd a'r swyddi sydd eu hangen arnynt. 3


Rydym hefyd wedi osgoi'r toriadau i wasanaethau llyfrgell pwysig sydd wedi bod yn bwnc llosg yn Lloegr. Ni chaewyd yr un llyfrgell. Yn wir, yn ystod ein cyfnod mewn llywodraeth gwnaethom agor Llyfrgell Ganolog Caerdydd, sy'n un o dirnodau'r ddinas ac yn ganolfan addysg bwysig. Mae Plaid Cymru wedi dangos bod dewis arall ac y gallwn weithio at yfory gwell.

Cyngor yn cymryd sylw ohonynt. Rydym yn cysylltu â thrigolion gydol y flwyddyn - nid dim ond yn ystod etholiadau - a'r gwaith llawr gwlad hwn sy'n golygu ein bod yn gwybod beth sydd angen ei wneud nesaf. Mae Caerdydd yn ddinas unigryw prifddinas fyd-eang, ryngwladol, ond â'r gymuned leol wrth wraidd iddi. Rhaid i ni ddiogelu treftadaeth y ddinas drwy gydol ein datblygiad a buddsoddi yn ein pobl a'n seilwaith i sicrhau twf economaidd parhaus. Gallwn ragori ar ein cyflawniadau drwy ddatblygu'r economi leol er mwyn sicrhau cyfiawnder cymdeithasol.

Rydym hefyd wedi meithrin hunaniaeth Gymreig Caerdydd, gan gynyddu'r gwariant ar addysg Gymraeg, cefnogi gwyliau diwylliannol lleol gan gynnwys Gorymdaith Dydd Gwyl Dewi, a denu digwyddiadau pwysig i'r ddinas fel y gallwn farchnata Cymru i'r byd fel cyrchfan gyffrous a lle i fuddsoddi ynddo.

Mae dewis clir i bobl Caerdydd yn yr etholiadau hyn: cynnydd a gweledigaeth â Phlaid Cymru neu gynilo a methiant gyda'r pleidiau eraill. Rwy'n erfyn arnoch i gefnogi Plaid Cymru, y blaid wleidyddol sy'n tyfu gyflymaf yng Nghaerdydd a Chymru.

Mae Plaid Cymru wedi rhoi pwyslais mawr ar ailgylchu a'r agenda werdd, a gyda chefnogaeth pobl Caerdydd wedi cynyddu cyfraddau ailgylchu domestig yn sylweddol, a byddwn yn parhau i ymdrechu i fod y gorau yng Nghymru. Plaid Cymru a greodd y fenter Dinas Deithio Gynaliadwy i Gaerdydd, gan arwain y blaen yng Nghymru.

Y Cynghorydd Neil McEvoy Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd

Felly mae ailgylchu'n cynyddu, gwariant ar addysg yn eich ysgolion lleol yn cynyddu, mae gan yr economi gynllun clir yn seiliedig ar fuddsoddi, nid cynilo, gyda nifer yr ymwelwyr yn uchel a digwyddiadau o'r radd flaenaf ar y gorwel.

Arweinydd Grŵp Plaid Cymru Caerdydd

Yn eich cymunedau ledled y ddinas mae gennym gynghorwyr Plaid Cymru gweithgar yn mynd i'r afael â'r materion lleol sy'n bwysig i chi. Mae pobl bellach yn deall pan fydd ardal yn ethol cynghorwyr Plaid Cymru fod y 4


Neges gan Arweinydd Plaid Cymru. Mae gan Blaid Cymru hanes rhyfeddol. O fewn wyth mlynedd, aeth y blaid o gael un cynghorydd wedi'i ethol yng Nghaerdydd, i fod mewn grym. Mae cyflawniadau'r Blaid yn ein prifddinas yn dangos yr hyn y gellir ei wneud. Plaid Cymru yw'r dewis go iawn yng Nghaerdydd. Ni yw plaid genedlaethol Cymru, ac mae ein llwyddiant yng Nghaerdydd yn dangos nad oes bellach ardaloedd lle na all y Blaid ffynnu ynddynt. Rydym yn ddewis arall cenedlaethol a chredadwy i'r pleidiau eraill.

Rydym yn gwerthfawrogi ein prifddinas a'i rôl ym mheiriant economaidd y genedl. Cyflawnwyd y datblygiadau siopa newydd, cyfoes ynghyd â Llyfrgell Ganolog Caerdydd gyda'r Blaid wrth y llyw, gan hefyd gefnogi'r hen arcedau, busnesau bach a gwerthfawrogi hanes balch Caerdydd. Mae gan Gaerdydd orffennol y gall ymfalchïo ynddo, a gyda Phlaid Cymru ar Gyngor Caerdydd mae dyfodol o'n blaen.

Yn seiliedig ar gyflawniadau Caerdydd, sy'n parhau i ddatblygu, mae gennym weledigaeth glir ar gyfer y blynyddoedd nesaf. Gan fynd yn groes i'r duedd ryngwladol, bydd y cynllun economaidd a gynigiwyd gennym yn cefnogi buddsoddiad yn lle cynilo, a bydd gwasanaethau i'r rhai mwyaf diamddiffyn yn cael eu diogelu.

Yng Nghaerdydd, Plaid Cymru yw'r Dewis Newydd. Dyma'r tro cyntaf yn hanes ein Plaid y gallwn gynnig rhaglen i bobl Caerdydd y mae gennym gyfle gwirioneddol o'i chyflawni.

Mae tîm y Blaid yng Nghaerdydd yn gymysgedd o brofiad ac egni a all ddatblygu'r cyngor. Mae'r nifer fwyaf erioed o ymgeiswyr yn sefyll yng Nghaerdydd drosom o bob math o gefndiroedd. Rhyngddynt, mae degawdau o brofiad o weithio yn eu cymunedau ac ymgyrchu dros eu buddiannau. Cofiwch, Plaid Cymru yw eich plaid leol chi, ac nid yw'n atebol i neb ond am bobl Cymru.

Rydym wedi cyflawni llawer ers 2008. Ymunwch â ni i gael y maen i'r wal. Ymlaen! Leanne Wood AC

5


dirwasgiad gan lunio Cronfa Cyfalaf Caerdydd, sy'n darparu buddsoddiad cyhoeddus i gwmnïau hen a newydd y ddinas. Rhaid i gwmnïau greu swyddi i fanteisio ar yr arian hwn. Hyd yma, mae'r cynllun eisoes wedi darparu dros £1 filiwn i 48 o gwmnïau i helpu i greu a diogelu 648 o swyddi yn y ddinas.

Yr Economi, Swyddi a Thrafnidiaeth// Y mae'n gyfnod anodd i bawb. Dros y blynyddoedd diwethaf mae economi Cymru wedi gwanychu, gyda thair prif blaid Llundain yn mabwysiadu polisïau cynilo.

Cadw eich Treth Gyngor yn isel Mae Plaid Cymru'n deall bod y dreth gyngor yn faich ar bobl, a dyma pam ein bod wedi sicrhau'r cynnydd isaf ond un yng Nghymru yn y dreth annheg hon dros y pedair blynedd ddiwethaf. Ar gyfartaledd, cynyddodd y Dreth Gyngor 2.7% y flwyddyn yng Nghaerdydd. Dan Lafur yng Nghaerdydd, y ffigur oedd 11%. Yr unig gyngor gyda chynnydd is yn ystod y cyfnod hwn oedd Caerffili, a reolir gan Blaid Cymru, lle na gwelwyd cynnydd ers 2 flynedd. Drwy waith rheoli ariannol gofalus a lleihau ar fiwrocratiaeth ddiangen, nid ydym wedi gorfod cyflwyno toriadau mawr i gyflawni hyn.

Ond nid yw'r camgymeriadau a wnaed gan bleidiau yn Llundain yn esgusodi eu diffyg gweithgarwch yng Nghymru. Nid yw'r Blaid yn credu mewn cynilo. Credwn mewn buddsoddi. Nid ni a achosodd yr argyfwng ariannol, ond rydym bellach yn ymrwymedig i sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i bobl Caerdydd. Mae ein record yn profi y gallwn fanteisio i'r eithaf ar adnoddau cynyddol brin, gyda'n polisïau yn profi y gallwn greu economi a fydd yn diwallu anghenion pobl Caerdydd.

Ein Record// Yr Ardal Fusnes Ganolog- Rydym wedi cyflwyno gwerth £160m o gynlluniau i Ardal Fusnes Canol Caerdydd. Enillwyd statws Parth Menter Cymru, sy'n cynnig dyfodol hyfyw i ganol y ddinas. Bydd yn codi proffil Caerdydd, gyda'r buddiannau cymdeithasol ac economaidd yn cynnwys Gorsaf Fysus Ganolog gyfoes gwerth £10m, a'r Ganolfan Gynadledda Ryngwladol gwerth £18m. Gwnaed hyn gan fod y Blaid yn delio â phortffolio economi'r cyngor.

Diogelu swyddi - Oherwydd agenda'r Ceidwadwyr yn San Steffan, mae pwysau mawr ar bob cyngor i wneud toriadau. Ond, er bod cynghorau Llafur cyfagos wedi ymosod ar dâl ac amodau'r gweithwyr, mae'r Blaid wedi ailstrwythuro swyddi uwch reoli i wneud arbedion a chyd-drafod â'r undebau llafur, gan roi un o'r setliadau tâl mwyaf hael yng Nghymru i'n gweithwyr, ac osgoi'r math o darfu ar wasanaethau a welwyd mewn cynghorau a redir gan bleidiau eraill.

Cronfa Cyfalaf Caerdydd - Ni wnaethom ymateb i'r dirywiad economaidd drwy segura. Yn y cyngor, brwydrodd y Blaid yn erbyn y

Sicrhau digwyddiadau mawr Rydym wedi dod â digwyddiadau 6


mawr i Gaerdydd fel WOMEX digwyddiad mwyaf Diwydiant Cerddoriaeth y Byd, a gefnogir gan y Cenhedloedd Unedig. Rydym hefyd wedi dechrau datblygu Caerdydd fel cyrchfan o safon i hyrwyddiadau bocsio, dan ddod â Noson Pencampwyr WBC i Gaerdydd yn ogystal â Chynhadledd Focsio'r Byd 2013 - gan guro'r gystadleuaeth o Dubai a Croatia. Mae'r rhain, a digwyddiadau rhyngwladol eraill, yn denu ymwelwyr a masnach ac yn dangos Caerdydd i'r byd.

Elfen ryngwladol i Gronfa Cyfalaf Caerdydd - Mae Cynghorwyr Plaid Cymru eisoes yn gwneud cynlluniau i siartro awyren o Efrog Newydd i Gaerdydd ar gyfer Gorymdaith Dydd Gwyl Dewi 2013. Y nod fydd dod â phobl fusnes o UDA i ddangos iddynt y cyfleoedd i fuddsoddi sydd yng Nghaerdydd mewn sectorau economaidd allweddol fel y diwydiannau creadigol, gwyddorau bio/bywyd a thechnoleg werdd. Ni fyddwn yn llaesu dwylo pan fo cyllidebau'n lleihau, ond yn ceisio bod yn arloesol a denu buddsoddiad o dramor. Caiff Cronfa Cyfalaf Caerdydd ei hehangu.

Cyrchu Caerdydd - Gwnaethom ddyrannu £50,000 i 'Gyrchu Caerdydd', menter barhaus sy'n ceisio dyfarnu mwy o gontractau'r cyngor i fusnesau lleol. Rydym yn cefnogi busnesau Caerdydd fel rhan o'r polisi craff ac arloesol hwn. Mae Plaid Cymru'n deall bod yn rhaid i ni feithrin busnesau Cymru, ac felly byddwn yn ymdrechu i ddefnyddio busnesau lleol ar gyfer ein gwasanaethau lle y bo'n bosibl.

Hyrwyddo arcedau a marchnadoedd - Rydym wedi sicrhau datblygiadau cyfoes o'r safon uchaf fel Dewi Sant 2. Ond rydym hefyd am hyrwyddo cymeriad hanesyddol a chynnyrch lleol Caerdydd fel arcedau canol y ddinas, y Farchnad Ganolog a Marchnad Glanyr-afon. Rydym yn addo helpu i hyrwyddo cyllid ac ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd i hybu nifer yr ymwelwyr a rhoi gwybod i fwy o bobl am yr asedau unigryw hyn.

Ein Haddewidion// Cyflwyno'r Ardal Fusnes Ganolog Mae angen i ni sicrhau bod yr Ardal Fusnes Ganolog yn llwyddiant, drwy gyd-drafod â chwmnïau allweddol i symud yno, ac ymgyrchu'n ehangach dros gysylltiadau ffordd, rheilffordd ac awyr gwell i'r ddinas. Roedd Cynghorwyr Plaid Cymru'n rhan allweddol o drafodaethau i sicrhau arian gan Lywodraeth Cymru a chynllunio ar gyfer y datblygiad pwysig hwn. Rydym yn benderfynol o gael y maen i'r wal.

Diogelu ein treftadaeth Llwyddodd y Blaid i newid polisi Cyngor Caerdydd a chadw'r casgliad llyfrau hanesyddol yng Nghymru. Byddwn yn dangos yr un penderfyniad wrth lobïo Llywodraeth Cymru i helpu i achub tafarn y Vulcan. Arwyneb y ffyrdd a cheudyllau Mae angen gwneud buddsoddiad cyson yn rhwydwaith trafnidiaeth y ddinas gan ei fod yn cael ei 7


ddefnyddio'n helaeth. Yn gyntaf, byddwn yn cadw ymrwymiad Caerdydd i sicrhau buddsoddiad o £44 miliwn mewn Priffyrdd dros y pum mlynedd nesaf, gyda'r nod o'u hehangu. Caiff llinell gymorth ar geudyllau ei sefydlu.

yn y seilwaith trafnidiaeth i alluogi ein dinasyddion i symud o amgylch yr ardal economaidd ranbarthol leol. Rydym hefyd am weld Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynlluniau call i adfer Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, gan gynnwys gwasanaeth rheilffordd uniongyrchol, i gystadlu â dinasoedd eraill. Mae angen maes awyr ar Gaerdydd sy'n deilwng o'n huchelgais i fod yn ddinas wirioneddol ryngwladol, ac felly byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru nes i faes awyr modern sydd â chysylltiadau da gael ei roi i Gaerdydd. Byddwn yn parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu cysylltiadau awyr rhyngwladol ag Efrog Newydd a Dubai yn y dyfodol.

Cysylltu Rhanbarth Caerdydd Llywodraethau Cymru a'r DU sy'n gyfrifol am lawer o'r seilwaith o amgylch Caerdydd. Ar ôl lobïo'n llwyddiannus dros drydanu'r prif reilffordd i Gaerdydd o Lundain, bydd Plaid Cymru'n parhau i hybu'r achos i drydanu Cledrau'r Cymoedd. Bydd yn help mawr i gymudwyr ac yn ysgogi'r economi. Rydym yn gwbl anfodlon ar y ffordd y caiff trenau eu gorlenwi a byddwn yn anfon neges glir at y cwmnïau trenau a Llywodraeth y DU bod yn rhaid i fuddsoddiad yn y rheilffyrdd gyfateb i'r galw amdanynt.

O fewn y ddinas rydym eisoes wedi cyflwyno cynllun llogi ceir i leihau ar dagfeydd a lleihau allyriadau carbon ac wedi dyblu nifer y lonydd beicio yn y ddinas. Rydym hefyd wedi cyflawni project pwysig Pont y Werin i gysylltu'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ym Mae Caerdydd â Phenarth. Delme Bowen, Cynghorydd y Blaid ac Arglwydd Faer Caerdydd, arweiniodd y gwaith o gyflawni'r bont i gerddwyr a beicwyr, a chafodd y project ei ariannu'n rhannol gyn-ddirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones o Blaid Cymru.

Dinas i'r 21ain Ganrif yw Caerdydd sy'n haeddu rhwydwaith trafnidiaeth i'r 21ain Ganrif ond ar hyn o bryd rhaid i gymudwyr fodloni ar system drafnidiaeth a adeiladwyd yn oes Fictoria. Dyma pam y byddwn yn cefnogi cynlluniau ar gyfer system Fetro i Gaerdydd i gysylltu Caerdydd a rhanbarth ehangach y de-ddwyrain. O ystyried ein bod eisoes wedi llwyddo i gyd-drafod Ardal Fusnes Ganolog gwerth miliynau o bunnoedd, teimlwn mai ni yw'r unig blaid a allai gyflawni'r system Fetro sydd ei hangen ar Gaerdydd, ac rydym yn addo cyfrannu at y gwaith o'i sicrhau.

Un o gyflawniadau amlycaf Caerdydd oedd cyflwyno'r cerdyn call 'Iff' y gellir ei ddefnyddio i dalu am Fws Caerdydd. Dyma'r cerdyn cyntaf o'i fath yng Nghymru. Byddwn nawr yn pwyso i Gerdyn Iff gael ei ddefnyddio ar drenau hefyd fel y gall teithwyr

Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol eraill yn y Rhanbarth Dinesig i fenthyca arian i'w fuddsoddi 8


ddefnyddio sawl ffurf ar drafnidiaeth i deithio'r ddinas.

manteisio ar 75% parcio i drigolion, felly dros y weinyddiaeth nesaf byddwn yn ymgynghori â chymaint o strydoedd â phosibl i ddysgu a hoffent wneud y newid pwysig hwn. Fodd bynnag, ni fyddwn yn gorfodi parcio i drigolion mewn ardaloedd nad oes mo'i eisiau na'i angen.

Ar ôl Cynllun Peilot llwyddiannus Plaid Cymru - cynllun ar eich beic byddwn yn cyflwyno cynllun gwell sy'n fwy o faint, sy'n debyg i'r hyn a geir yn Llundain. I sicrhau arbedion cost gyda hyn, byddwn yn gofyn i Lywodraeth Cymru weithio mewn partneriaeth â ni i osod y cynllun mewn sawl ardal hyfyw yng Nghymru. Cydweithio yw'r ffordd ymlaen i'r cenhedloedd bychain. Cadw'r economi i symud - Dan lywyddiaeth y Blaid, ni yw'r unig gyngor yn y DU sydd wedi cymryd cyfranddaliadau ecwiti mewn busnesau twf uchel. Byddwn yn parhau â'r polisi hwn ac yn ceisio ei ehangu i sicrhau y caiff y cyngor fudd o'r buddsoddiadau a wneir fel y gellir buddsoddi ymhellach. Credwn mewn adeg lle mae cyllidebau'n crebachu y dylai'r sector cyhoeddus wneud i'w arian wella i sicrhau mwy o refeniw yn hytrach na thorri swyddi a gwasanaethau. Cadw'r economi'n lleol - Byddwn yn parhau i hyrwyddo undebau credyd fel ffordd o alluogi pobl i fanteisio ar gynilion a benthyciadau yn y ddinas, gan hefyd barhau i gefnogi menter gymdeithasol. Parcio haws - Gwyddom fod nifer o drigolion Caerdydd yn cael trafferth dod o hyd i lefydd parcio, yn aml gan fod pobl o'r tu allan i'r gymuned yn parcio am ddim yn ein strydoedd. Dyma pam ein bod wedi cynyddu'r ddarpariaeth parcio i drigolion yn y ddinas hyd at 75%. Rydym nawr am weld cymaint o strydoedd â phosibl yn 9


Adeiladau ar gyfer eich plant

Addysg//

Yn 2010, lansiodd y Cyngor ei gynllun ar gyfer dyfodol ysgolion Caerdydd ar gyfer yr 15 mlynedd nesaf, oedd yn cynnwys rhaglen adeiladu ysgolion uchelgeisiol.

Mae Plaid Cymru yn cydnabod bod dyfodol Caerdydd yn ddibynnol ar weithlu addysgedig a hyddysg. Rydym am i'n plant gael y dechrau gorau i'w bywyd, ac iddynt gael addysg o'r radd flaenaf hyd nes iddynt ddod o hyd i swydd.

Bydd y rhaglen hon yn golygu adeiladu ysgolion newydd ym Mhontprennau a Threganna a buddsoddi ac ehangu ysgolion ledled y ddinas. Bydd y cynllun hefyd yn golygu cynnydd sylweddol yn y nifer o lefydd meithrin sydd ar gael i helpu plant i gael y dechrau gorau posibl o'u diwrnod cyntaf.

Ond i Blaid Cymru, dyw addysg ddim yn dod i ben pan ddewch chi o hyd i swydd. Credwn mewn dysgu gydol oes a chredwn y dylai oedolion gael bob cyfle posibl i barhau i ddysgu, hyfforddi ac ailhyfforddi. Mae'r gwerthoedd craidd hyn yn effeithio ar ein hagwedd at addysg yng Nghaerdydd ac mae wedi arwain at record addysg ddihafal.

Bodloni'r galw Ym mis Ionawr 2011, cyhoeddodd Cyngor Caerdydd, lle mae Plaid yn llywodraethu, ei ymgynghoriad ar addysg cyfwng Cymraeg yn ardal Treganna.

Ein Record// Gwario mwy ar eich plentyn

Rydym yn falch i allu dweud fod y galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn sylweddol, sy'n cyfiawnhau'n gweithredu cryf i sicrhau adeiladu ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn Nhreganna. Bydd yr adeilad newydd yn ailosod Ysgol Treganna ac yn cael ei adeiladu ar safle sy'n eiddo i'r Cyngor ar Sanatorium Road. Bydd yr ysgol yn derbyn tri dosbarth y flwyddyn a bydd yno gyfleusterau o'r radd flaenaf i addysgu'n plant i'r safon uchaf posibl.

Does dim osgoi'r ffaith fod gwariant y weinyddiaeth Llafur ddiwethaf ar bob disgybl yng Nghaerdydd yn isel. Mewn gwirionedd, daeth Caerdydd yn unfed ar ddeg allan o 22 awdurdod lleol Cymru. Doedd y sefyllfa ddim yn dderbyniol i blant prifddinas Cymru. Erbyn 2012, gyda Plaid yn llywodraethu yng Nghyngor Caerdydd, mae’r gwariant y disgybl yn ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd y ddinas yn ail uchaf yng Nghymru erbyn hyn. Mae hwn wedi bod yn gyrhaeddiad gwych i'n plant ni ac mae'n dangos ymrwymiad mae Plaid yn ei roi i bob un o blant Caerdydd.

Hwyl i'r teulu i gyd Mae Plaid Cymru yn deall fod angen i deuluoedd gael rhywle lle gall y teulu i gyd ddod at ei gilydd i ddefnyddio a mwynhau'r iaith Gymraeg. Dyna pam mai Menter Caerdydd yw'r fenter a 10


gyllidir orau yng Nghymru gyfan. Mae hyn wedi arwain at ystod o weithgareddau hwyl i'r teulu, gan gynnwys gweithgareddau cymdeithasol a phecynnau dysgu ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

Byddwn hefyd yn cyflawni'r weledigaeth o bedwaredd Ysgol Uwchradd Cyfrwng Cymraeg, tra'n sicrhau ein bod yn buddsoddi yn addysg cyfrwng Saesneg yn ogystal. Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain- Mae ein cynllun ar gyfer dyfodol ysgolion Caerdydd yn gyrhaeddiad y gallwn fod yn falch ohono. Ond rydym am fynd hyd yn oed ymhellach. Dyna pam ein bod ni'n bwriadu gwthio Llywodraeth Cymru yn galed ar gyfer mwy o fuddsoddiad drwy Raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, i sicrhau bod ein plant yn barod i fyw yn y brifddinas fodern, hyderus ac uchelgeisiol y mae Plaid yn ei hadeiladu.

Bwyd- Fel plaid sy'n parchu amrywiaeth crefyddol, rydym yn falch i ddweud y llwyddom yn ein haddewid i ddarparu bwyd hala i blant Islamaidd ysgolion Caerdydd.

Ein Haddewidion// Ein hamcan o roi Caerdydd ar y brig- Mae bod yn yr ail safle o ran faint o gyllid a geir ar gyfer pob plentyn yng Nghaerdydd yn gyrhaeddiad yn ei hun. Ond i Plaid, dyw dod yn ail ddim yn ddigon da. Caerdydd yw prifddinas Cymru ac felly rydym ni'n credu fod ein plant ni'n haeddu hyd yn oed gwell. Rydym yn addo rhoi Caerdydd ar frig y rhestr awdurdodau Cymru o ran gwariant y disgybl.

Dinas amlieithog- Yn ystod ein hamser mewn llywodraeth yng Nghyngor Caerdydd rydym wedi gwneud y buddsoddiad mwyaf mewn addysg cyfrwng Cymraeg y mae'r ddinas erioed wedi ei gweld. Mae hyn yn arwain at Gaerdydd yn bod yn ddinas gwirioneddol amlieithog, fydd yn rhoi cyfle i'n plant weithio, astudio a chymdeithasu yn Gymraeg a Saesneg. Ond fel plaid sy'n rhoi pwyslais ar amrywiaeth diwylliannol a buddion amlieithrwydd, rydym am sefydlu coleg chweched dosbarth pwrpasol i ddysgu ieithoedd modern pellach i'n plant, gan gynnwys Mandarin ac ieithoedd is-gyfandir Asia. Credwn y byddai gan gam o'r fath fuddion i'n heconomi ac i gyfleoedd ein plant trwy gysylltu Caerdydd ymhellach 창'r economi fyd-eang. Byddwn hefyd yn ymchwilio i ehangu addysgu ieithoedd modern yn yr ysgolion cynradd.

Ymgynghoriad pellach ar addysg cyfrwng Cymraeg- Bydd yr Ysgol Treganna newydd ar Sanatorium Road yn gwneud llawer i fodloni'r galw presennol am addysg cyfrwng Cymraeg, ond mae'r galw yn cynyddu cymaint fod angen i ni barhau i gynllunio at y dyfodol. Dyna pam fod Plaid yn addo ymgymryd ag ymgynghoriadau pellach i weld beth yw'r galw, yn enwedig yn ardal Grangetown y ddinas. Unwaith i ni weld beth yw'r galw bydd gennym y wybodaeth sydd ei angen i ddiwallu'r galw hwnnw.

11


Llyfrgelloedd i bawb

Cymuned//

Gyda'r toriadau llym y mae Cynghorau wedi'u dioddef yn ddiweddar, mae nifer o bobl wedi gweld eu llyfrgelloedd cymunedol gwerthfawr yn cau. Rydym yn falch o allu dweud nad dyma ddigwyddodd yng Nghaerdydd, ac ni chaewyd unrhyw lyfrgell yng Nghaerdydd yn ystod y dirywiad. Yn ystod ein cyfnod yn llywodraethu, darparom y Llyfrgell Ganolog gwerth £4.7 miliwn sydd wedi bod yn ganolfan ddysgu eiconig yng nghanol y ddinas ers y dechrau.

Mae Caerdydd mewn safle unigryw ac eiddigeddus. O dan arweiniad Plaid yn y Cyngor rydym yn dod yn ddinas fydeang, ond wrth wraidd y ddinas mae cymuned leol. Y gymuned leol honno sy'n gwneud Caerdydd yn ddinas wych i fyw ynddi, a dyna pam mae'n rhaid i ni roi'r gymuned wrth wraidd ein hamser ar Gyngor Caerdydd.

Ein Record// Gwyliau'r Brifddinas Mae dinasoedd mawrion yn haeddu gwyliau mawrion a dyna pam rydym wedi bod yn cefnogi Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi yn y ddinas. Gyda chymaint o Gymry ledled y byd, credwn y gall dydd Gŵyl Dewi fod yn ddathliad gwirioneddol ryngwladol, ond er mwyn i hyn ddigwydd, rhaid i’r brifddinas arwain y ffordd. Rydym felly wedi buddsoddi £100,000 yn Nathliadau Dydd Gŵyl Dewi. Byddwn yn rhoi diwrnod cyfan o wyliau i staff ar Ddydd Gŵyl Dewi ac yn annog pob cyflogwyr mawr i wneud hefyd. Byddwn hefyd yn cysylltu ag ysgolion ac undebau llafur i sicrhau bod plant ysgolion Caerdydd yn gallu cymryd rhan yn y digwyddiad.

Rydym hefyd wedi rhoi adnewyddiad o £1.2 miliwn i Lyfrgell Cathays, gan adnewyddu'r llyfrgell i'w mawredd Edwardaidd gyda phensaernïaeth Ewropeaidd fodern. Rydym hefyd wedi ailwampio llyfrgelloedd eraill ledled y ddinas, gan gynnwys Canolfan Ddysgu a Gwybodaeth Llanrhymni (£156k), Llyfrgell a Chanolfan Gymunedol Peny-lan (£1.84m), Llyfrgell Radur (£229k), Llyfrgell y Tyllgoed (£215k) a Llyfrgell Treganna (£9k). Rydym wedi buddsoddi £888,000 mewn system adnabod amledd radio (RFID) ar gyfer ein llyfrgelloedd a £70,000 i ailosod a diweddaru cyfleusterau cyfrifiadurol. Bydd y gwaith yn parhau gyda’r weinyddiaeth nesaf wrth i ni geisio cynyddu darpariaeth y llyfrgelloedd.

Ond rydym wedi mynd ymhellach gan ddarparu £20,000 i Ŵyl Tafwyl sy'n cael ei chynnal am wythnos ym mis Mehefin. Mae'r ŵyl yn cynnal nifer o weithgareddau i oedolion a phlant gan gynnwys celf, cerddoriaeth, coginio a chomedi, i hyrwyddo ac annog defnyddio'r Gymraeg yn y ddinas.

Ein dinas, ein cartref Rydym am i bobl fod yn falch i alw Caerdydd yn gartref iddynt, ac mae hynny'n golygu darparu cartrefi o safon uchel i bobl Caerdydd fyw ynddynt. Pan ddaethom i lywodraeth yng Nghaerdydd bron i 4 blynedd yn ôl, etifeddwyd rhestr aros hirfaith ar 12


gyfer tai, wedi degawdau o ddiffyg gweithredu gan weinyddiaethau blaenorol. Dyna pam yr ydym wedi cyhoeddi cynllun adeiladu tai mwyaf y ddinas ers deng mlynedd ar hugain. Bydd y cynllun yn golygu adeiladu bron i 1,000 o gartrefi dros y 5 mlynedd nesaf, ac rydym yn falch o allu dweud y bydd 40% o'r tai hyn yn dai fforddiadwy. Bydd hyn hefyd yn creu oddeutu 250 o swyddi lleol, a byddwn yn gwthio bod prentisiaethau yn cael eu cynnig.

hynny sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i'w cymunedau, a chyflwynwyd y wobr gyntaf yn 2011 i ymgyrchydd dros anableddau.

Ein Haddewidion// Cynllun Cymydog Da- Yn anffodus mae gormod o bobl yng Nghaerdydd y dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol. Weithiau gall ymddygiad un unigolyn amharu ar fywydau stryd gyfan. Dyna pam yr ydym yn cynnig Cynllun Cymydog Da y bydd disgwyl i drigolion lynu ato.

Prifddinas hamdden

Cymorth i brynwyr tro cyntafRydym yn deall ei bod hi'n anodd yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni i sicrhau morgais er mwyn bod ar ris gyntaf yr ysgol. Rydym am i bobl allu galw Caerdydd yn gartref iddynt, ond mae hynny'n anodd iawn os nad yw'r banciau yn fodlon benthyg i bobl brynu eu cartref cyntaf. Dyna pam fod Cynghorwyr Plaid wedi cynnig cynllun, a dderbyniwyd, fydd yn caniatáu i brynwyr tro cyntaf i gael mynediad at fenthyciad o 95% ar gyfer morgais. Bydd y Cynllun Morgais Awdurdod Lleol yn golygu bod y Cyngor yn warant ariannol ar gyfer y benthyciadau am y pum mlynedd gyntaf. Bydd y cynllun yn cael ei weinyddu gan y benthyciwr ac nid gan y Cyngor. Bydd pob benthyciad yn ddibynnol ar wiriadau ariannol trylwyr a llawn.

Mae cadw'n heini a gweithgareddau hamdden yn rhan allweddol o'n gweledigaeth ar gyfer Caerdydd. Eto, fe etifeddom gyfleusterau oedd angen eu diweddaru'n ddirfawr, wedi degawdau o esgeulustra gan weinyddiaethau blaenorol. Credwn fod pobl Caerdydd yn haeddu cyfleusterau hamdden modern, a dyna pam yr ydym wedi buddsoddi miliynau yn diweddaru neu'n adeiladu cyfleusterau hamdden newydd. Mae'r buddsoddiadau hyn wedi cynnwys gwario £8.5 miliwn ar Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd, £6.8 miliwn ar Ganolfan Hamdden y Gorllewin, £1.2 miliwn ar Ganolfan Maendy, £1.5 miliwn ar ailwampio Canolfan STAR ac £845,000 ar ailwampio Cwrt Insole. Cydnabod ein harwyr di-glod Ledled Caerdydd mae pobl yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl a'u cymunedau, ond yn aml nid ydynt yn cael y clod haeddiannol. Dyna pam gychwynnodd cynghorwyr Plaid Cymru Wobr Seren Owain Glyndŵr. Bydd y wobr hon yn cydnabod y bobl

Byddwn hefyd yn ffurfio cwmni hyd braich i hyfforddi prentisiaid ac yn datblygu mannau tir llwyd a thai mewn cyflwr gwael, gyda'r amcan o ddarparu tai addas a ffynhonnell gyllid i'r Cyngor. 13


Byddwn yn gofyn am fwy o bwerau gan Lywodraeth Cymru i gychwyn cynllun prynu yn ôl, i helpu cyn-denantiaid y Cyngor sy'n cael anawsterau yn addalu eu morgeisi.

Lle bo trefniadau yn eu lle i gau gorsafoedd heddlu, byddwn yn edrych yn agos ar sut y gellir rhannu safle rhwng y Cyngor a'r Heddlu er mwyn cynnal presenoldeb yr heddlu, a pharhau i leihau costau.

Gwelliannau hamdden pellachRydym eisoes wedi cychwyn y broses ar gyfer ailddatblygiad gwerth £6.2 miliwn i Ganolfan Hamdden y Dwyrain rhwng 2012 a 2014, ac rydym wedi ymrwymo £600,000 i welliannau hamdden eraill yn ystod y cyfnod hwn. Byddwn hefyd yn ceisio cynyddu'r diddordeb yn y 'Cerdyn Actif' fel bod gan drigolion y ddinas fynediad at gyfleusterau hamdden yn ystod tymor nesaf y Cyngor.

Byddwn hefyd yn darparu cyllid i heddlu i roi diwedd ar niwsans beiciau modur y mae cymaint o drigolion Caerdydd yn gorfod ei ddioddef. Prentisiaethau mewn Gwaith Cymdeithasol- Rydym yn cydnabod gwerth Gweithwyr Cymdeithasol fel rhan o'r gymuned yng Nghaerdydd, ac felly rydym yn addo darparu prentisiaethau i bobl sy'n astudio Gwaith Cymdeithasol yn y ddinas. Bydd y prentisiaid a'r ddinas yn elwa o'r trefniant hwn, fydd yn golygu eu bod yn arwyddo contract i weithio i'r awdurdod tra'u bod yn astudio.

Rydym yn falch iawn o'r cynnydd y mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi ei wneud ar y cae ac oddi arno. Rydym yn addo gweithio gyda'r clwb er mwyn iddo gyrraedd ei lawn botensial. Rydym yn addo hefyd gweithio gyda bocswyr amatur a phroffesiynol i adeiladu ar lwyddiant y Ddinas yn y mae hwn yn ddiweddar. Plismona Rydym yn falch fod ein gwaith trwy Heddlu De Cymru wedi arwain at y lefel isaf o drosedd yn ne Cymru ers chwarter canrif. Credwn fod plismona yn bartneriaeth ac y dylai cymunedau fod yn rhan o blismona eu strydoedd. Dyna pam y byddwn yn gweithio gyda Heddlu De Cymru i gynhyrchu protocol Heddlu a Chymunedau Gyda'i Gilydd (PACT), gan hwyluso cydweithio'n agosach a chyfnewid gwybodaeth.

14


Teithio Cynaliadwy

Amgylchedd//

Sicrhaodd Plaid Cymru £12m gan y Llywodraeth Cymru flaenorol i dalu am yr holl welliannau yng Nghaerdydd sydd wedi'n gwneud ni'n Ddinas Deithio Gynaliadwy swyddogol. Ar lawr gwlad mae hyn yn golygu gwelliannau i'r bysus yng nghanol y ddinas, mwy o ardaloedd i gerddwyr yn unig, llwybrau seiclo newydd, cysylltu'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol â Phenarth gyda Phont y Werin a chynllun Parcio a Theithio / Parcio a Rhannu i leihau tagfeydd ac allyriadau yn y ddinas.

Does dim modd osgoi'r ffaith fod newid yn yr hinsawdd yn fygythiad a'i fod yn cynrychioli her wirioneddol i'r ffordd yr ydym yn byw ein bywydau ar hyn o bryd. Er bod newid yn yr hinsawdd yn her i ni yma yng Nghaerdydd, mae hefyd yn gyfle i newid y modd yr ydym yn byw ein bywydau er gwell. Mae addasu ein ffordd o fyw i ymdopi â'r newid yn yr hinsawdd yn golygu byw mewn dinas lanach, wyrddach a mwy cynaliadwy, gyda'r posibilrwydd o swyddi â gwerth ychwanegol yn y sector gwyrdd.

Buddsoddiad Gwyrdd

Ein Record//

Defnyddiwyd cronfa fenthyciadau Salix (benthyciad arbennig i dalu am welliannau amgylcheddol) i osod unedau Gwres a Phŵer Cyfunedig yn ein canolfannau hamdden, yn ogystal â thalu am fesurau lleihau carbon yn yr ysgolion. Rhoddodd y mesurau hyn arian yn yr economi leol a lleihaodd allyriadau carbon yn yr hir dymor, ac mae'n cynrychioli buddsoddiad o £2.5 miliwn.

Caerdydd Gynaliadwy Mae Caerdydd Gynaliadwy wedi bod wrth wraidd gwaith y Cyngor yn ddiweddar. Mae'n cynnwys hyrwyddo cynnyrch masnach deg, datblygu Cynllun Gweithredu Carbon Isel i leihau allyriadau'r Cyngor, a chyflawni a chynnal ein Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd. Bod yn falch o'n cyfraddau ailgylchu

Mae 2 olwyn yn well na 4 Rydym am i fwyfwy o bobl fynd ar eu beiciau yn y ddinas gan fod gan seiclo cymaint o fuddion amlwg. Mae'n cadw pobl yn heini, mae'n lleihau tagfeydd, mae'n cadw aer y ddinas yn lanach ac mae'n mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Ond rydym yn gwybod na fydd pobl yn mynd ar eu beiciau os nad yw hi'n ddiogel ac yn hawdd. Dyma'r rhesymau yr ydym wedi rhoi cymaint o flaenoriaeth i seiclo yn ystod ein hamser yn llywodraethu yng

Mae Caerdydd wedi cynyddu ei gyfradd ailgylchu ei 53%. Mae hyn yn gyrhaeddiad enfawr, o ystyried mai 11% oedd y gyfradd ailgylchu o dan Llafur. Mae'r newid hwn wedi'i gael gan fod Plaid wedi cyflwyno ailgylchu wythnosol ac annog negeseuon Testun Taclus i atgoffa trigolion, gan wneud ailgylchu hyd yn oed yn haws i drigolion Caerdydd.

15


Nghaerdydd a dyma pam ein bod ni wedi gweithio gyda sefydliadau partner i ddyblu gwariant ar seiclo yn y ddinas, yn ogystal â dyblu'r lonydd seiclo sydd ar gael yn y ddinas.

broses hir. Byddwn yn cynnal adolygiad dinas-gyfan i nodi tir rhandir newydd ac ymchwilio i gynlluniau tyfu'ch bwyd eich hunain. Mae angen tir rhandir newydd i leihau'r rhestrau aros am randiroedd ac annog cynhyrchu bwyd lleol. Byddwn hefyd yn gweithio gyda Marchnad Glan-yr-afon i gefnogi cynhyrchwyr bwyd lleol yn fasnachol.

Ein Haddewidion// Heddlu Sbwriel- Mae'n anffodus, er ein bod ni wedi buddsoddi mewn biniau newydd yn ddinas, fod nifer o bobl yn parhau i feddwl ei bod hi'n dderbyniol gollwng eu sbwriel ar ein strydoedd. Mae hyn yn golygu fod sbwriel yn dod yn broblem ddifrifol a chredwn fod angen i'r Cyngor fod yn fwy cadarn wrth fynd i'r afael â'r broblem. Rydym yn awr yn cynnig cyflwyno Heddlu Sbwriel i'r ddinas i roi dirwyon i'r rheiny sy'n teimlo ei bod hi'n dderbyniol gollwng sbwriel yn ein dinas. Bydd hyn yn cael ei gyfuno â mentrau mewn ysgolion a phrifysgolion i annog pobl i beidio â gollwng sbwriel.

Rhoi'r Ddinas Deithio Gynaliadwy ar waith- Byddwn yn datblygu Cynlluniau Teithio Personol i'r gweithle, ysgol a phreswyl, cynyddu darpariaeth y Clwb Ceir, gwella'r Cynllun Rhannu Beiciau a hyrwyddo cynlluniau rhannu ceir fel rhan o ddatblygu'r cysyniad Dinas Deithio Gynaliadwy. Buddsoddi mwy mewn SeicloRydym eisoes wedi dyblu'r gwariant ar lwybrau seiclo, byddwn yn awr yn ceisio cynyddu'r buddsoddiad ymhellach i gadw gyda'r galw cynyddol, yn ogystal â bodloni unrhyw rwymedigaethau newydd sy' codi o ddeddfwriaeth seiclo'r dyfodol Llywodraeth Cymru. Wedi Cynllun Peilot llwyddiannus Plaid Ar Eich Beic, byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno ac ehangu'r cynllun llogi beiciau, yn debyg i'r un a geir yn Llundain. Er mwyn iddo fod yn gosteffeithiol, byddwn yn gwthio Llywodraeth Cymru i roi'r cynllun ar waith yn ardaloedd eraill Cymru.

Llinell Glanhau Strydoedd- Mae gan drigolion hawl i amgylchedd cymunedol glân. Mae staff y Cyngor yn ceisio'u gorau i gadw'n strydoedd yn lân, ond mae angen llinell ffôn ymateb cyflym fydd yn golygu y gellir glanhau mannau trafferthus a draeniau wedi’u blocio yn gyflym. Byddai Llinell Glanhau Strydoedd yn gallu dweud wrth drigolion pryd y gallant ddisgwyl i'w stryd gael ei glanhau, yn ogystal â gallu ymateb yn gyflym i'r achosion gwaethaf fel tipio anghyfreithlon. Adolygiad o Randiroedd LleolRydym yn falch o allu dweud fod nifer o bobl yn y ddinas yn achub ar y cyfle i dyfu eu bwyd eu hunain, ond i nifer o bobl sy'n aros am randir, gall fod yn 16


17


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.