Gaeaf 2017
Y Ddraig Goch Y Gynhadledd Orau Erioed Gan Gareth Clubb, Prif Weithredwr Plaid Cymru
C
ynhaliwyd “y Gynhadledd orau erioed”, yn ôl un Aelod Cynulliad. “A dwi wedi bod i nifer fawr o gynadleddau”! Yn sicr, roedd yna ymdeimlad o gyffro wrth i fwy o aelodau nag erioed o’r blaen - 380 ohonoch - lifo drwy ddrysau’r Galeri i glywed cynigion ac areithiau gwych. Roedd y cyfraniadau gan ein haelodau etholedig ni’n gampus, fel y basech yn dychmygu. Ond cawsom hefyd areithiau ysbrydoledig iawn gan ein gwesteion arbennig, Tommy Shepherd o’r SNP a Josep-Maria Terricabras ASE o Gatalwnia. Beth yw’r elfennau hynny sy’n sicrhau cynhadledd lwyddiannus? Mae gwaith caled gan staff ymroddedig y Blaid tu ôl i’r llenni yn rhoi pob dim mewn trefn. Mawr yw’n diolch iddynt hwy. Rydym yn ogystal yn ffodus i gael cynifer o aelodau etholedig huawdl â’r gallu i’n hysbrydoli. Ond mae’r
diolch mwyaf i chi, ein haelodau. Chi sy’n rhannu gweledigaeth dros Gymru well, dros Gymru deg, a thros Gymru sy’n cymryd ei lle priodol ar y llwyfan rhyngwladol. Chi sy’n gweithio i’r Blaid, boed glaw neu hindda, oherwydd eich ymrwymiad i’n cydddinasyddion a’n gwlad. Felly diolch am ddod i’r gynhadledd a rhannu yn y rhialtwch. Ymlaen, gyda hyder, tua dyfodol gwell. I wylio areithiau o’r Gynhadledd ewch i https://www.youtube.com/user/plaidtv i edrych ar y lluniau ymwelwch â https://www.flickr.com/photos/plaidcymru/ neu os am grynodeb ymwelwch â https://storify.com/PlaidCymru
YN Y RHIFYN HWN... Brexit
Carchar Port Talbot
Catalwnia
Ysgol Aeaf