Y Ddraig Goch - Haf 2016

Page 1

Hydref 2016

£1

Y Ddraig Goch Ymlaen. Yn Gryfach.

gan Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood

Y

r hydref hwn fe wnawn ni ymgynnull unwaith eto yn Llangollen ar gyfer ein Cynhadledd Flynyddol. Daw aelodau ein plaid at ei gilydd mewn ysbryd herfeiddiol a gwydn wrth i wleidyddiaeth barhau i newid yn dilyn pleidlais y refferendwm diweddar. Yn sgil y bleidlais honno, gadael yr Undeb Ewropeaidd fydd y pwnc wnaiff ddiffinio gwleidyddiaeth dros y blynyddoedd nesaf. Fel mae pethau’n sefyll rydym yn parhau i fod yn aelod o’r UE a dyw’r llywodraeth heb ddechrau’r broses o adael drwy weithredu Erthygl 50. Rydym yn derbyn fod mwyafrif bychan o bobl Cymru wedi rhoi’r mandad i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i adael yr undeb honno. Dyletswydd Plaid Cymru nawr yw sicrhau’r math o ymadawiad sydd er budd ein cenedl. Rydym yn gwybod nad ‘Brexit Caled’ yw hwn, gan y byddai’n gweld y DG yn gadael y Farchnad Sengl yn ogystal â’r UE. Mae 200,000 o swyddi yng Nghymru yn gysylltiedig â’r Farchnad Sengl ac mae’n rhaid eu gwarchod fel ein blaenoriaeth gyntaf. Byddai aelodaeth o’r farchnad drwy Ardal Economaidd Ewrop (EEA) neu’r Ardal Fasnach Rydd Ewropeaidd (EFTA) yn cynrychioli’r fargen orau sydd ar gael i Gymru o ystyried natur a her y sefyllfa. A beth am ddyfodol y Deyrnas Gyfunol? Os yw pobl yr Alban yn

dewis gadael, dyna ddiwedd y wladwriaeth. Mewn sefyllfa o’r fath mae’n rhaid i bob opsiwn fod ar gael i Gymru. A phobl Cymru ddylai gael dewis ein dyfodol. Dylai penderfyniadau am Gymru gael eu cymryd yng Nghymru. Mae rhai yn teimlo’n hy yn sgil canlyniad y refferendwm ac yn credu y dylai Cymru yn awr symud yn agosach at San Steffan. Byddai hynny yn gamgymeriad dybryd. Ni ddylai unrhyw wlad barchus gwestiynu ei gallu i lywodraethu ei hun. Gallwn a dylem wneud mwy dros ein hunain. Gallwn a dylem symud tuag at fwy o annibyniaeth, nid llai, mewn ymateb i ymadawiad y DG o’r UE. Byddwn ni yn gwneud yr achos hwn fel rhan o ymgyrch newydd byddwn yn ei lansio yn fuan ac rwy’n gobeithio eich gweld chi, ein haelodau, yn chwarae rhan fawr yn yr ymgyrch hon. Ewch allan i’ch cymuned i siarad gyda phobl am ddemocratiaeth a chyfeiriad ein gwlad. Bydd hyn yn gysylltiedig â’n hymgyrch etholiadau lleol. Yn ddiweddar fe wnaeth y llywodraeth Lafur leiafrifol ymuno ag UKIP gan gefnogi cynnig gan y Ceidwadwyr oedd yn arddel safbwynt ‘Brexit Caled’.

Mae ein heconomi a’n diwylliant yn nwylo llywodraeth heb gynllun na syniad ynglŷn â sut i ddelio gyda’r cyd-destun gwleidyddol newydd. Yr unig ffordd gallwn sicrhau fod pobl yn gwybod pa blaid sy’n gweithio’n galed i gynrychioli eu diddordebau, gan fod y materion hyn yn cael eu hanwybyddu gan y wasg Gymreig mor aml, yw wrth ddweud wrthynt yn uniongyrchol. Oherwydd hyn mae’n rhaid i ni ddefnyddio’r Gynhadledd Genedlaethol er mwyn cynllunio a threfnu i gymryd ein neges allan i’r bobl. Newid Cymru er gwell yw ein cenhadaeth ac mae’n rhaid i ni atgoffa’n hunain fod y newid hwn yn dechrau ar lefel leol. Mae’n dechrau yn eich cymuned chi. Yn eich stryd chi. Gyda chi. Felly beth am ymrwymo i gyfarfod yn Llangollen mewn ysbryd o undod a pharatoi i symud Cymru ymlaen. Yn gryfach.


Diolch

Fe wnaeth Ian Johnson ymuno â thîm Plaid Cymru fel ymchwilydd yn San Steffan. Fe enillodd gwobr Dods/epolitix am Ymchwilydd y Flwyddyn yn 2011 am ei waith ar ddatgelu straeon yn ymwneud â’r sgandal hacio ffonau. Pan cafodd ei ethol i Gyngor Bro Morgannwg a Chyngor Tref y Barri yn Awst 2012 fe symudodd yn ôl i’r Barri ac ymuno â’r tîm yn y Cynulliad cyn cael ei benodi yn Bennaeth Polisi yn 2013. Fel Pennaeth Polisi fe ddefnyddiodd ei wybodaeth a’i arbenigedd chwedlonol, sy’n cwmpasu pob haen o lywodraeth, i ddatblygu seiliau polisi cryfion i’r Blaid. Mae Ian wedi cyfrannu’n helaeth at gynnydd y Blaid ac mae ei ymrwymiad diflino yn ysbrydoliaeth.

Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau gwresog i Gynghorydd newydd Cilycwm, Dafydd Tomos, a thîm Sir Gâr am redeg ymgyrch mor lwyddiannus.

Cynhadledd Mae’r Gynhadledd Flynyddol yn cymryd lle ym Mhafiliwn Llangollen ar yr 21ain ac 22ain o Hydref. Rydym yn edrych ymlaen i’ch croesawu i chi yno. Manylion llawn yn eich copi o Ymlaen.

Undeb Credyd

Plaid Cymru Aelodau yn ei rhedeg Y Ddraig Goch aelodau er budd

Mae Undeb Credyd Plaid Cymru (UCPCCU) yn dyst ymarferol i athroniaeth gydweithredol y Blaid o adeiladu Cymru newydd annibynol, hyderus.

Mae cynilo arian yn golygu bod gennych chi rywbeth i edrych ymlaen ato ac i syrthio’n ôl arno.Talwyd difidend o 2% ar gynilion yn 2011/12.

Yr aelodau sy’n berchen ar UCPCCU ac ers 20 mlynedd mae UCPCCU wedi gweithio dros aelodau’r Blaid a’u teuluoedd, yn cefnogi eu busnesau teuluol bychain a Changhennau’r Blaid.

Yn ddibynnol ar statws mae’n bosib benthyg hyd at £5,000 trwy benthyciad isel ei gost, heb unrhyw daliadau cudd.

Ymunwch ag Undeb Credyd Plaid Cymru ein sefydliad ariannol cenedlaethol ni. Am fwy o fanylion, ewch at www.ucpccu.org Cliciwch ar ‘Ffurflenni’ er mwyn dadlwytho’r Ffurflenni Cais am Aelodaeth ac Archeb Banc. Printiwch a chwblhau y ffurflennni a’u postio i Swyddfa’r Undeb Credyd. Undeb Credyd Plaid Cymru (UCPCCU) Tŷ’r Cymry, 11 Heol Gordon, Caerdydd, CF24 3AJ Hydref 2016 T: 029 2049 1888 www.ucpccu.org E: post@ucpccu.org


Gair o Dyˆ Gwynfor gan y Prif Weithredwr Gareth Clubb Wedi’r cyfan, mae’n bosib dysgu Cymraeg fel oedolyn. Fe ddyliwn i wybod. Ond dysgu holl hanes Cymru fel rhan o’ch rhuddin? Dwi ddim yn ymwybodol o’r gronynnyn lleiaf o’r Mabinogi.

D

erbyniais fy addysg trwy’r iaith Saesneg. Ddyle hwnna ddim fod yn sioc. Magwraeth ddi-Gymraeg y cefais, a’n nhad yn athro hanes yn yr ysgol gyfun leol oedd – ar y pryd – ymhlith y gorau yng Nghymru. A braint oedd mynychu Ysgol Gynradd Coety – pentre’ bach tlws â chastell ail-fwyaf Cymru yn ei ganol (dyna oedd y stori’n lleol), eglwys ganoloesol a swyddfa’r post lle ‘roedd yn bosib prynu mojos am hanner ceiniog. Buodd yn rhaid i ni i gyd ddysgu ‘cân yr ysgol’ ar gof. Gyda threigl 30 o flynyddoedd, dwi wedi anghofio’r rhan fwyaf o’r gân. Ond dyma linellau a erys yn y cof: “Owain Glyndŵr, the dirty rascal Tried to tear down our Coity castle”. A oedd Ysgol Gynradd (Gymraeg) Pen-y-bont yn disgrifio un o arwyr pennaf Cymru yn yr un modd? Annhebygol. Mi oedd fy nghyfoedion yn dysgu awen y Mabinogi, hanes tywysogion Cymru, Cantre’r Gwaelod ac yn y blaen. I fi, dyma un o hanfodion cefnogi addysg Gymraeg.

Na, nid cenedlaetholwyr sy’n cael eu creu gan addysg Gymraeg – mae ‘na ddigon o dystiolaeth i leddfu hunllefau’r Blaid Lafur. Ond pobl sy’n ymwybodol o’u hanes yn ogystal â’u hieithoedd, sy’n deall yn reddfol y cysylltiad unigryw ac uniongyrchol rhwng hanes Cymru a’r iaith Gymraeg. Pobl sy’n deall Cymru, ei phobl, ei anghenion ac felly sy’n malio amdani. Mi ddyle hwn fod yn rheswm digonol i unrhyw un gefnogi addysg Gymraeg, waeth bynnag blaid maen nhw’n ei chefnogi. Ond cynghorwyr Plaid Cymru yn unig sy’n cefnogi ehangu a chadarnhau addysg Gymraeg doed a ddêl. A dyna pam mae’n hynod o bwysig ein bod ni’n ethol niferoedd mawr o gynghorwyr Plaid Cymru yn 2017. Os ydych chi’n byw rhywle y bydd ymgeisydd dros y Blaid blwyddyn nesaf, da chi, sicrhewch fuddugoliaeth iddi/iddo drwy roi o’ch amser, eich arian, eich awydd. Ac os ydych chi’n byw mewn ardal lle na fu dewis i roi croes wrth enw ymgeisydd y Blaid yn 2012, eleni yw’r flwyddyn i chi. Y flwyddyn i benderfynu ei bod yn bryd i bobl Cymru gael y dewis i bleidleisio i’r unig blaid fydd yn rhoi’r cyfle i blant ymdreiddio yn hyfrytwch ein hanes a’n hiaith. Cysylltwch â’ch cangen leol, a sefwch yn enw’r Blaid. Mae cenedlaethau dyfodol Cymru eich angen, ac mae Cymru eich angen.

Cyflwyno Gareth Clubb Ein Prif Weithredwr newydd Brodor o Ben-y-bont ar Ogwr yw Gareth Clubb. Mae wedi gweithio i Adran Ddatblygu Rhyngwladol Prydain, Comisiwn Ewrop, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Asiantaeth Amgylchedd Cymru, ac yn ddiweddaraf fel Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru. Mae’n byw ym Mhenarth gyda’i wraig a’u tri o blant. Fe oedd ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn 2005.


Gwrthblaid Go Iawn gan Adam Price AC

Lafur yn San Steffan, mae’n gyfrifoldeb rydym yn ei gymryd o ddifri. Golygai hyn graffu yn galed ar waith y llywodraeth, ei herio hi i wneud yn well, ac i’w dwyn hi i gyfrif pan mae hi’n methu.

E

rs yr etholiad mae Plaid Cymru wedi gwneud argraff yn ein rôl fel prif wrthblaid Llywodraeth Cymru. Ni wnaeth y bobl roi mandad i unrhyw blaid weithredu ei maniffesto’n llawn ar Fai’r 5ed, na llywodraethu heb geisio darganfod tir cyffredin gyda phleidiau eraill. Mae’n rhaid i’r Lywodraeth Lafur hon gofio ei bod yn un leiafrifol, ac os ydi hi’n anghofio, fe wnawn ni ei hatgoffa. Mae gennym ddyletswydd i bobl Cymru i weithredu fel gwrthblaid effeithiol, ac yn wahanol i’r wrthblaid

Mae consensws cyffredinol na lwyddodd y Ceidwadwyr yn eu rôl fel gwrthblaid yn ystod y tymor Cynulliad diwethaf. Yn wir, fe wnaeth Plaid Cymru sicrhau mwy i bobl Cymru mewn un bleidlais na wnaeth y Ceidwadwyr yn ystod pum mlynedd y buon nhw ar feinciau’r wrthblaid. Rwy’n cyfeirio wrth gwrs at y ‘Compact i Symud Cymru Ymlaen’. Mi fydd nifer o’n polisïau craidd yn cael eu gweithredu o ganlyniad i’r fargen un-bleidlais hon, gan gynnwys: •

Sefydlu Comisiwn Isadeiledd Cenedlaethol i Gymru;

Mwy o ofal plant am ddim;

Adolygiad o’r system Geisiadau Cyllido Cleifion Unigol, fydd yn helpu cleifion sy’n dioddef o ganser a chlefydau eraill gael mynediad haws at gyffuriau a thriniaethau.

Yn ddiweddar fe gyhoeddon ni Raglen yr Wrthblaid, sef rhaglen gynhwysfawr y byddwn yn ceisio ei gweithredu dros y tymor Cynulliad hwn. Gan amlinellu blaenoriaethau allweddol, amcanion clir, a phrostiectau cyfalaf o ystod eang o feysydd, byddai gweld ei wireddu yn newid Cymru er gwell. Am y tro cyntaf bydd y llywodraeth Lafur yn cael ei dwyn i gyfrif a’i gorfodi i weithio dros Gymru gyfan gan blaid sydd â rhaglen amgen fanwl o’i gymharu â’i chynnig tila ei hun. Wrth gwrs, mae hyblygrwydd yn perthyn i Raglen yr Wrthblaid. Mae hon yn ddogfen fyw fydd yn cael ei diweddaru’n gyson fel mae amgylchiadau yn newid er mwyn gallu cymryd mantais o’r cyfleoedd fydd yn codi. Nid bod yn wrthblaid er mwyn bod yn wrthblaid yw hyn. Rydym yn anelu at wella bywydau pobl a sicrhau buddiannau Cymru yn y tymor byr, fydd yn rhoi seiliau cadarn mewn lle ar gyfer dyfodol disgleiriach. Mewn geiriau eraill, bydd Plaid Cymru yn gwasanaethu pobl Cymru mewn modd cyfrifol drwy fod yn Wrthblaid â phwrpas. Gallwch ddarllen Rhaglen yr Wrthblaid ar ein gwefan: http://www.plaid2016.cymru/ programmeforopposition Adam Price yw Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi a Chyllid

Y Ddraig Goch

Hydref 2016


Ysgol Haf 2016 gan Math Wiliam, Uwch Swyddog Cyfathrebu

Y

ng Nghlyn Ebwy y cynhaliwyd Ysgol Haf y Blaid y flwyddyn hon. Glyn Ebwy, wrth gwrs yw prif dref etholaeth Blaenau Gwent, lle gwelwyd gogwydd rhyfeddol tuag at y Blaid yn yr Etholiad Cynulliad diweddar. Roedd y dref hon yn enwog ar un adeg am arloesedd a diwydiant, ond mae hi wedi gweld dirywiad cyson ers i’r diwydianau hynny gau ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf. Gyda lefelau tlodi a diweithdra mor uchel, fe wnaeth neges obeithiol yr ymgeisydd Plaid Cymru, yr Athro Nigel Copner, apelio at lawer. Fe esboniodd yn ei sesiwn sut iddo ef a’i dîm brwydfrydig a gweithgar (sef Eli Jones) ddod mor agos at achosi sioc enfawr drwy

gipio’r sedd. Doedd dim cyfrinach hud – roedd ganddynt neges gryf iawn wedi ei selio ar gynnig atebion i broblemau lleol, ac fe lwyddont i gyfathrebu’r neges honno yn hynod, hynod effeithiol. Roedd dosbarthu taflenni a’r cyfryngau cymdeithasol yn bwysig, ond yr hyn oedd yn wir yn eithriadol ynglŷn a’u hymgyrch oedd eu bod wedi siarad yn uniongyrchol gyda cynifer o bobl drwy gnocio drysau. Dros 12,000 o ddrysau. Bydd Nigel ac Eli yn rhoi cyflwyniad am yr ymgyrch yn y Gynhadledd a byddwn yn argymhell eich bod yn mynd i’w weld. Gyda’r etholiad awdurdodau lleol ar y gorwel, ennill seddi cyngor yn 2017 oedd canolbwynt gweddill y penwythnos. Cafwyd sesiynau meistrolgar gan Carl Harris, sydd yn aelod o dîm lleol Sir Gâr, ynglŷn â sut i drefnu ymgyrch, cadw’r data a sicrhau fod ein cefnogwyr yn pleidleisio ar y dydd. Gwych oedd gweld bythefnos yn ddiweddar bod y technegau wir yn gweithio, wrth i Blaid Cymru gipio

sedd Cilycwm mewn is-etholiad cyngor. Roedd uchafbwyntiau eraill yn cynnwys: • Cyflwyniad a thrafodaeth gyda Leanne Wood. • Trafodaeth gyda Steffan Lewis AC ynglŷn â sicrhau bod Cymru yn cael y fargen orau yn sgil Brexit. • Sesiwn gydag Adam Price AC am Raglen yr Wrthblaid (gweler tudalen 4 am fwy o wybodaeth am hyn). • Dosbarthiadau data gyda Geraint Day – cysylltwch ag ef (geraintday@ plaid.cymru) os ydych eisiau trefnu dosbarth Treeware ar gyfer eich cangen chi. I gloi yr Ysgol Haf mi gafon ni gwmni aelodau o dîm Leanne Wood yn y Rhondda, sef Danny Grehan ac Alun Cox. Roedd y stori o sut y llwyddon nhw i droi mwyafrif chwe mil a hanner y Blaid Lafur yn fwyafrif o dair mil i Blaid Cymru yn thriller wleidyddol o’r radd flaenaf. Ond yr hyn a oedd wir yn eich taro oedd bod ymgyrch y Rhondda ac ymgyrch Blaenau Gwent yn rhannu yr un prif nodwedd – bôn braich. Y mae yma egin gobaith, gan ei fod yn dangos nad oes un man lle na gall Plaid Cymru ennill os ydym yn fodlon gweithio’n galed. A gan mai deuparth gwaith yw ei ddechrau, beth am fynd ati nawr i drefnu cyfarfod a chreu cynllun i weithio er mwyn sicrhau llywodraeth Plaid Cymru yn 2021, gan gyflawni canlyniadau gwych yn 2017 a 2020 ar y ffordd?


‘Gall Brexit wneud Cymru’r genedl iswladwriaeth mwyaf adnabyddus ar wyneb y ddaear’ gan Steffan Lewis AC

M

ae penderfyniad y Deyrnas Gyfunol i adael yr UE wedi codi ansicrwydd ynglŷn â dyfodol ein cenedl. Nid yw’r Torïaid yn Llundain na Llywodraeth Lafur Cymru wedi dangos unrhyw weledigaeth am sut ddylai Brexit edrych. Tra mae Plaid Cymru yn dangos arweiniad drwy baratoi Cynllun Lliniaru Cenedlaethol er mwyn gwarchod cymunedau a busnesau Cymreig rhag sgil effeithiau Brexit, does dim cyfeiriad at adael yr UE yn Rhaglen Lywodraethol Llywodraeth Cymru. Y mae cymaint o gwestiynau sydd heb gael eu hateb. Mae’r Alban â llaw fargeinio gref y gallan nhw ddefnyddio i ddadlau dros driniaeth arbennig mewn trafodaethau gyda’r UE. Gallai’r potensial am godi ffin galed rhwng Gweriniaeth Iwerddon a’r Gogledd, yn groes i Gytundeb Gwener y Groglith, gael effaith anferth ar Gymru. Mae cyfansoddiad y DG yn edrych yn fwyfwy bregus. Mae bygythiad go iawn y gallwn wynebu setliad ar y cyd ar gyfer Cymru a Lloegr, gan olygu bod ein llais yn cael ei ddistewi gan ein cymdogion swnllyd. Er mwyn atal hyn, mae’n hanfodol ein bod yn adeiladu cysylltiadau gyda gwledydd eraill o amgylch y byd. Rydym angen creu partneriaethau cryf tu hwnt i’n ffiniau ni. Golygai hyn nid yn unig hyrwyddo buddsoddiad a masnach, ond hefyd datblygu ein gallu i ddylanwadu a gweithio ar wella ein henw da

diplomyddol. Wrth i berthynas y DG gyda’r UE gael ei ailddiffinio, mae gennym gyfle unigryw i estyn allan ac adeiladu proffil ein gwlad ar y llwyfan rhyngwladol. Mae cynsail sylweddol yn bodoli dros hyn. Mae cenhedloedd is-wladwriaethol eraill eisoes yn ymgymryd â phara-ddiplomaeth: perthnasau diplomyddol rhyngwladol yn cael eu cynnal gan lywodraeth ranbarthol. Yr Alban, Cwebéc, Catalwnia: dyw’r cenhedloedd hyn heb adael i’w diffyg statws gwladwriaethol eu hatal rhag meithrin presenoldeb rhyngwladol sylweddol. Ni allwn adael i lais Boris Johnson gynrychioli Cymru yn y byd, mae’n rhaid i ni fynnu ein llais ein hun. Yr haf hwn fe deithiais i Lundain a Brwsel er mwyn cyfarfod cynrychiolwyr o wladwriaethau UE er mwyn trafod goblygiadau Brexit iddyn nhw, eu hagwedd mewn cysylltiad â’r trafodaethau sydd ar fin cychwyn ac i ddechrau adeiladu’r dolenni pwysig y soniais amdanynt. Darganfyddais bod brwdfrydedd go iawn i ddeall a gweithio gyda Chymru. Mae’r chwant yno, yr oll rydym ei angen yw Llywodraeth gyda’r dyhead i fachu ar y cyfle. Ein blaenoriaeth ddylai fod gwneud Cymru’r is-wladwriaeth mwyaf adnabyddus ar wyneb y ddaear, ac fel yr Alban a Chatalwnia, adeiladu ar hynny ar y ffordd tuag at annibyniaeth. Gallaf eich sicrhau fy mod i a phawb arall o fewn y Blaid yn effro i’r her sy’n wynebu Cymru wrth i’r DG wahanu o’r UE. Er mwyn gwrthsefyll y gwyntoedd croes economaidd a chymdeithasol sydd ar y gorwel, mae angen i Gymru fod yn ystwyth ac allblyg. Mae gennym gyfle digynsail wrth i berthynas y DG a’r UE gael ei ailddiffinio i adeiladu proffil ein gwlad ar y llwyfan rhyngwladol. Gall Plaid Cymru arwain y ffordd. Steffan Lewis AC yw Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru dros Faterion Allanol

Y Ddraig Goch

Hydref 2016


Newyddion Plaid Ifanc

A

r benwythnos y 3ydd a’r 4ydd o Fedi cynhaliwyd penwythnos hyfforddi i aelodau pwyllgor gwaith Plaid Ifanc ynghyd â swyddogion canghennau hyd a lled Cymru yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog. Erbyn hyn, mae gennym un ar ddeg o ganghennau o Ben Llŷn i Gasnewydd ac mae’n argoeli’n dda iawn ar gyfer y dyfodol gyda grwpiau newydd yn cael eu ffurfio yn ystod yr hydref. Cafwyd cyflwyniadau ar redeg cangen lwyddiannus, cynrychiolaeth gyfartal o fewn y blaid, cyfathrebu a hefyd cymryd ysbrydoliaeth oddi ar ein chwaer bleidiau a’r ffordd maent yn gweithredu. Cawsom drafodaeth hir ynglŷn â’n cynlluniau ar gyfer y misoedd nesaf a’r ffordd i gryfhau ein strwythyrau mewnol. Penderfynwyd bod addysg wleidyddol yn mynd i fod yn greiddiol yn y broses o adeiladu ein mudiad yn y misoedd nesaf, felly trafodwyd y byddem yn cynnal dau ddiwrnod hyfforddi yn ystod y gaeaf, un yn y gogledd a’r llall yn y de, yn debyg iawn i’r penwythnos hwn yn Llangrannog. Roedd cael clywed cyd-aelodau yn trafod eu gweledigaeth dros ein cenedl a’n cymdeithas yn chwa o awyr iach, ac rydym yn falch o allu estyn y cyfle hwn i’r aelodaeth i gyd drwy gyfrwng diwrnodau hyfforddi yn y dyfodol. Yn ogystal â hyn, mae nifer o’n haelodau wedi bod yn adeiladu pontydd gyda’n chwaer-bleidiau ar draws Ewrop, sy’n hynod bwysig o ystyried yr hinsawdd bresennol. Bu Llyr Williams yn Galicia yn mis Gorffennaf i ddathlu eu diwrnod cenedlaethol, Owain Hughes a Christian Webb yng Hwngari ym mis Awst mewn cynhadledd ryngwladol ar yr argyfwng ffoaduriaid, ac Emyr Gruffydd, ein Cadeirydd, yn helpu Bildu yng Ngwlad y Basg i ymgyrchu ar gyfer eu hetholiad. Rydym hefyd wedi bod yn hynod brysur mewn ffeiriau’r glas ym mhrifysgolion mwyaf Cymru, lle mae nifer o fyfyrwyr wedi ymuno â Phlaid Ifanc. Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn parhau i gynyddu’n gweithgarwch er mwyn gallu cyrraedd hyd yn oed mwy o bobl ifanc. Os hoffech chi gefnogi’n gwaith, yn enwedig yn ariannol, anfonwch e-bost at: info@plaidifanc.org.


Cofio dau o Gewri Cwmaman gan David Leslie Davies

Gwyneth Williams

Howard Davies

Syrthiodd un o gonglfeini’r hen Gwmaman, ger Aberdâr, o’i lle ym muriau Amser pan glýwyd ddiwedd Gorffennaf am farwolaeth Gwyneth Menai Williams, Dan-y-rhiw, ychydig cyn ei phenblwydd yn 78 oed.

Ysigwyd ei gyfeillion a thrigolion yr ardal o glywed am farwolaeth y cyngynghorydd Howard Davies, Cwrt Alun Lewis, Cwmaman, ar Fedi’r 12fed, yn Ysbyty Merthyr. Roedd yn 66 oed. Carai Howard Gwmaman a’i phobl. Bu’n rhan amlwg o fywyd yr ardal ar hyd ei oes.

Ymroddai at ei chymuned ac at wleidydda, gan sefyll droeon yn enw Plaid Cymru yn ystod y 1970au a’r ‘80au. Er i’r Blaid bryd hynny roi tîmau cryf gerbron a threfnu yn egnïol yn wardiau Aberaman a De Aberaman, Gwyneth, gan amla’ oedd ymgeisydd blaen yr ymdrech a’i hwyneb cyhoeddus amlycaf. Cymaint felly nes iddi gael ei ‘nabod gan lawer tan y diwedd fel ‘Gwyneth Plaid’. Brwydrai Gwyneth yn ddi-dor yn erbyn dominiddiaeth y Blaid Lafur, oedd wedi ennill popeth yn y ward ers y 1920au cynnar. Wedi sefyll sawl gwaith dros ddau ddegawd, ym 1987 bu iddi bron â llwyddo disodli un o gynghorwyr y Blaid Lafur yn Ne Aberaman o ennill 742 pleidlais i 766 Llafur. Ym 1991, ar ôl i Gwyneth ac eraill fraenaru’r tir, torrodd argaeau y Blaid Lafur ac enillodd y Blaid dair sedd De Aberaman ar y cyngor dosbarth mewn un trawiad a gyda mwyafrifoedd da. By Gwyneth ar ben ei digon – er ychydig yn eiddigeddus taw i eraill y ‘syrthiodd Jericho’ ac nid iddi hi (oedd yn adwaith naturiol wrth gwrs). Daliai i fod yn weithgar er na sefodd hi eto. Pe bai modd, ni chollai funud o bresenoldeb y tu allan i orsaf bleidleisio Cwmaman mewn etholiad, na’r un Cyfrif chwaith, nes iddi golli ei symudedd fwyfwy wrth heneiddio. Dathlwn ei henw; ei chymeriad hoenus; ei synnwyr digrifwch heintus a’i chyfraniad parod i’w chymuned ac i bawb o’i chwmpas. Gwir y dywedir bod coffa da ar led amdani. Swyddfa Plaid Cymru: Tŷ Gwynfor, Marine Chambers, Cwrt Anson, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4AL Ffôn: 02920 472272 E-bost: post@plaid.cymru Gwefan: www.plaid.cymru Golygydd: Math Wiliam Dylunio: Rhys Llwyd

Y Ddraig Goch

Fe’i codwyd yn Byron Street, Milton Street a - lawn cymaint – Seion: yn un o ‘gywion’ Idwal Rees a saint yr achos teilwng hwnnw. Wedi sefydlu Ysgol Gymraeg Aberdâr ym 1949, i’r fan honno yr aeth Howard ym 1955 gan aeddfedu’n Gymro naturiol o waed ac awydd tan y diwedd. Wedi iddo fynychu Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Aberdâr, aeth i Goleg Hyfforddi Cyn-coed. Ni apeliai gyrfa athro iddo a gadawodd i ymuno â gwasanaeth Treth y Wlad yn Llanisien. Yno yr arhosodd nes iddo ymddeol ryw chwe blynedd yn ôl. Os taw yng Nghaerdydd y bu ei draed o ran ei waith, yng Nghwmaman y bu ei galon bob tro. Gwasanaethodd fel cynghorydd ardaloedd De Aberaman yn enw Plaid Cymru rhwng 1991-95 ac eto rhwng 2008-2012. Un o’i hoff bethau oedd llythyr ato yn llaw Dafydd Wigley - arweinydd y Blaid ar y pryd - yn ei longyfarch yn dilyn ei ethol i’r Cyngor am y tro cyntaf ym 1991. Gwerthfawrogai hwn yn fawr iawn ac fe’i cadwodd yn ofalus hyd ei oes. Ar ddechrau’r ‘90au, fe’i penodwyd yn llywodraethwr ac yna’n gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gynradd Glynhafod: swydd a ddaliai tan ddiwrnod ei farw. Dirywiodd iechyd Howard yn fawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf a bu teithio ‘nôl ac ymlaen i ysbyty yn rhan annatod o’i fywyd. Cafodd gyfoeth o gefnogaeth gan ei gyfeillion. Cynhaliwyd angladd Howard yn Amlosgfa Llwydcoed fore Gwener, 23 Medi, gyda lliaws yn arddel parch ac yn talu’r gymwynas olaf iddo yno.

Cyhoeddwr: Plaid Cymru Argraffwr: Gwasg Morgannwg, Uned 28, Ystad Ddiwydiannol Mynachlog Nedd Castell-nedd, SA10 7DR. Yn ogystal â’r cyfranwyr hoffai Blaid Cymru ddiolch i’r canlynol am eu cymorth gyda’r rhifyn hwn: Heledd Brooks-Jones, Emyr Gruffydd, Ben Lake, Angharad Lewis, Luke Nicholas ac Elin Roberts.

Hydref 2016


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.