Y Ddraig Goch Hydref 2013

Page 1

Hydref 2013

£1

Y Ddraig Goch Ymgyrchu gyda gwên Cofnod Rhun ap Iorwerth AC o isetholiad Ynys Môn

D

echreuodd ymgyrch isetholiad Ynys Môn o fewn munudau i ddiwedd etholiad arall - fy etholiad cyntaf ers dyddiau gwleidyddiaeth Prifysgol - sef yr ornest am enwebiad y Blaid. Nid gartref i’r gwely oedd y drefn wedi’r ‘hustings’, ond gartref gyda’r dylunydd Rhys Llwyd yn gwmni i lunio’r bamffled etholiadol gyntaf. Nos Iau, Mehefin 27ain oedd hynny. Erbyn nos Sadwrn y 29ain, byddai byddin o wirfoddolwyr wedi sicrhau bod y pamffledi hynny wedi’u dosbarthu i bron bob cartref ar yr ynys. Roedd yr effeithlonrwydd hwnnw’n rhywbeth ddaeth yn batrwm hyd Awst 1af - diolch i gynllunio manwl, gwaith disgybledig, ac yn bennaf oll diolch i ymroddiad ac amser llu o staff a gwirfoddolwyr o Fôn a ledled Cymru.

Canlyniad Etholiad

Pleidleisiau

Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) 12,601 Tal Michael (Llafur) 3,435 Nathan Gill (UKIP)

3,099

Neil Fairlamb (Ceidwadwyr) 1,843 Kathrine Jones (Llaf. Sos.)

348

Stephen Churchman (Dem. Rhydd.) 309 Tra bod Llafur wedi paratoi cryn dipyn o lenyddiaeth etholiadol, yr hyn oedd yn nodweddiadol am

ein hymgyrch ni oedd y cyswllt personol. Aed a’n pamffledi ni o dŷ i dŷ gyda gwên, cnociodd ugeiniau o wirfoddolwyr ar filoedd o ddrysau gyda brwdfrydedd ac egni. Dwi’n adnabod Ynys Môn yn dda, ond y pleser mawr i mi drwy’r ymgyrch oedd dod i adnabod yr ynys a’i phobl yn well fyth. Bûm ym mhob cwr o’r ynys, yn curo drysau, yn galw mewn i fusnesau a siopau, yn cymryd rhan mewn sesiynau hawl-i-holi ac yn bennaf oll yn sgwrsio. Roedd pobl Môn, yn barod iawn i sgwrsio, a’r haul tanbaid wenodd arnom ni drwy’r cyfan, bron, yn rhoi cyfle cyson am glonc hamddenol. Gyda llu o gefnogwyr newydd yn dod atom o bob cyfeiriad gwleidyddol, roedd arwyddion clir bod pobl Môn, llawer ohonynt am y tro cyntaf, yn barod i roi eu ffydd ym Mhlaid Cymru. Ond fel cyn-ohebydd gwleidyddol, sydd wedi arfer gweld gwleidyddion gor-optimistaidd, roeddwn i a’r tîm yn gyndyn o

gredu’r darlun oedd yn amlygu’i hun. Dyna pam y parhaodd yr ymgyrch gydag ymdrech 100% hyd y diwedd. Ddiwrnod yr etholiad, ymwelais ag ymhell dros hanner y gorsafoedd pleidleisio - cyfle olaf i deimlo pa ffordd yr oedd y gwynt yn chwythu, i ddiolch i’r timau etholiadol...ac i basio’r amser wrth i 10 y nos nesáu! Anghofia i fyth noson y cyfrif yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur - y papurau pleidleisio’n pentyrru wrth i gefnogwyr lu ganu yn y cyntedd. Roedd cyffro yn yr awyr. Erbyn iddyn nhw gael eu gadael i mewn ar gyfer y cyhoeddiad, roedd maint y fuddugoliaeth yn amlwg. Roedd cyfnod newydd yn fy mywyd ar ddechrau, cyfnod lle y gallaf, gobeithio, wneud cyfraniad bach at ddatblygiad ein cenedl, a dadlau - wedi 20 mlynedd o orfod cadw ’marn i mi fy hun - mai dim ond drwy roi grym yn nwylo pobl Cymru y gall ein cenedl gyrraedd ei llawn botensial.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.