Datblygu a rheoli prosiect gwaith chwarae

Page 14

Offer arbenigol

cymdeithas angen gwneud newidiadau er mwyn cynnwys pobl â namau. Gallai buddsoddi mewn trafnidiaeth hygyrch, er enghraifft, alluogi person â phroblemau symudedd i gyrraedd at ble maent am chwarae. Mae’r agwedd hon yn wahanol i’r model meddygol o anabledd ble mae pobl yn dueddol o gael eu hadnabod yn ôl enw eu nam ac mae’r label hwn yn arwain at lunio tybiaethau am sut un yw’r person, a’r hyn y mae’n gallu neu ddim yn gallu ei wneud.

Efallai y bydd rhai plant sydd â namau difrifol a chymhleth angen mynediad i offer arbenigol i’w galluogi i gael mynediad i’n darpariaeth. Fodd bynnag, bydd y graddau y mae hyn yn bosibl yn dibynnu ar yr adnoddau sydd ar gael, y math o ddarpariaeth yr ydym yn ei hwyluso a’i leoliad. Dylai cyfleuster penodedig, fel maes chwarae antur, fod â mynedfeydd a drysau hygyrch a thoiledau sy’n ddigon mawr ar gyfer dau weithiwr chwarae. Gallai hefyd fod â chadair olwyn, peiriant codi a bwrdd newid. Gallai hyd yn oed fod ag ystafell gawod ag ystafell golchi dillad ynghyd â pheiriant sychu a chwpwrdd i gadw dillad sbâr.

Fel uwch-weithwyr chwarae, rydym yn gyfrifol am reoli’r amgylchedd er mwyn ymateb i a darparu ar gyfer anghenion chwarae pob plentyn, yn ddelfrydol heb iddynt fod yn ymwybodol o’n gwaith. Mae hyn yn adlewyrchu’r disgwyliad bod rhaid i gymdeithas gyfaddasu i gyflawni hawliau pobl sydd â namau.

Fodd bynnag, tra gallai hyn i gyd fod yn ddymunol fydd o ddim yn ymarferol bosibl bob tro. Mae’n hyfryd cael ystafell chwarae meddal ar gyfer chwarae gwyllt, ond bydd matres, sachau ffa anferth neu fatiau gymnasteg yn gweithio cystal. Gallwn benderfynu i fuddsoddi miloedd o bunnoedd ar byllau peli ac ystafelloedd synhwyraidd ond gall mannau awyr agored ddarparu cystal ar gyfer profiadau tebyg – mannau ble y gall y plant orwedd ar y glaswellt, sblasio dŵr, tyllu yn y tywod, dychryn pobl gyda mwd, a bod yn dawel neu’n swnllyd. Unwaith eto, bydd cyflenwad da o rannau rhydd (gweler yr adran ar Sicrhau adnoddau ar gyfer y ddarpariaeth) yn hanfodol.

Dyluniad cyffredinol Canlyniad ymarferol arall a gododd o’r mudiad hawliau anabledd fu twf dyluniad cyffredinol. Yr athroniaeth oedd y gallai cymdeithas, trwy gamau dylunio syml iawn, dyfu’n llawer mwy hygyrch i lawer mwy o bobl. Enghraifft glasurol yw’r ‘cwrb isel’ sydd bellach mor gyffredin fel nad ydym yn edrych arno ddwywaith. Mae rhiant â bygi, person sy’n defnyddio cadair olwyn neu sydd â phroblemau golwg neu symudedd, neu berson mewn oed, yn ei chael yn haws i gerdded ar hyd balmentydd a chroesi ffyrdd oherwydd hyn.

Sicrhau lefelau staffio digonol Gellid dadlau mai’r elfen bwysicaf yn unrhyw ddarpariaeth wedi ei staffio (ar wahân i’r plant) yw ein cydweithwyr gwaith chwarae. Bydd sut y byddwn yn ymateb ac ymddwyn a’r agweddau y byddwn yn eu cyfleu yn dylanwadu’n uniongyrchol ar yr awyrgylch y byddwn yn ei greu ar gyfer chwarae ac, o ganlyniad, yn dylanwadu’n sylweddol ar lwyddiant neu fethiant ein darpariaeth.

Wrth ddewis lleoliad neu ddylunio gofod ar gyfer ein darpariaeth gwaith chwarae bydd angen inni feddwl sut y gellid ei wneud yn hygyrch i amrywiaeth eang o wahanol blant tra ar yr un pryd gynnig man amrywiol, hyblyg a chyffrous i chwarae. Mae rhaid i’r lleoliad chwarae fod â chynnig chwarae o ansawdd ar gyfer pob plentyn. ’Does dim angen i bob plentyn allu chwarae gyda neu ar bob peth, ond maent i gyd angen yr ystod ehangaf posibl o opsiynau chwarae. Gall lleoliad chwarae gyda chyflenwad da o rannau rhydd (gweler yr eglurhad yn yr adran ar Sicrhau adnoddau ar gyfer y ddarpariaeth) alluogi pob plentyn i greu beth bynnag y mynnant drostynt eu hunain.

Os oes gennym gyfrifoldeb am staffio, mae angen inni sicrhau bod gennym nifer digonol o staff ar gael a bod gan y staff hynny’r personoliaethau, yr ysgogiad, y wybodaeth a’r profiad i gefnogi plant yn chwarae. Mae hyn yn cynnwys cael capasiti digonol a’r sgiliau angenrheidiol yn ein tîm o staff i ddarparu lefelau mwy sylweddol o gefnogaeth i blant unigol ble fo angen.

14


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.