Tra dylai’r tîm cyfan allu gweithio gyda phob plentyn, efallai y bydd rhai plant angen cymorth sydd bron yn barhaus, fydd yn galw ar weithiwr chwarae i ganolbwyntio eu sylw arnynt. Efallai y bydd angen hefyd i’r tîm reoli tasgau gofal personol, gan roi cymorth i blant gyda mynd i’r toiled neu eu newid, os bydd angen. Bydd rhaid rhoi ystyriaeth i sut a ble y bydd hyn yn digwydd a hyder y staff i gyflawni’r tasgau hyn.
Wrth greu swyddi staff a recriwtio staff, bydd angen inni ystyried:
Mae’n bosibl hefyd y bydd nifer y staff sydd ei angen yn amrywio trwy gydol y flwyddyn a bydd rhaid inni ddarogan y galw, er enghraifft, trwy sicrhau bod gweithwyr chwarae ychwanegol ar gael yn ystod y gwyliau neu pan fo’r oriau agor yn hirach. Gallai ein gwaith cynllunio gynnwys sicrhau bod gennym y cyfuniad cywir o wybodaeth a sgiliau yn ein tîm neu wneud yn siŵr ein bod yn gwneud y defnydd gorau o weithwyr chwarae gyda sgiliau arbenigol. Mae angen i’n prosiect fod â digon o staff i sicrhau bod y sesiynau’n cael eu goruchwylio’n ddigonol ac, o ganlyniad, bydd nifer y staff sydd ei angen yn dibynnu ar y nifer o blant y disgwylir iddynt fynychu. Efallai y bydd angen inni hefyd gydymffurfio gyda chymarebau staffio a osodir gan yr arolygiaethau perthnasol yn ein gwlad.
Recriwtio a dethol staff Mae ansawdd darpariaeth chwarae’n ddibynnol ar recriwtio, dethol a chadw staff priodol sy’n meddu ar wybodaeth ac agweddau priodol ar gyfer y swydd. Bydd rhaid cynllunio dethol a recriwtio effeithlon yn ofalus bob amser er mwyn sicrhau bod y plant yn cael gweithiwr chwarae cymwys ac effeithlon sy’n gallu ateb eu hanghenion, a’u bod yn cael eu hamddiffyn rhag arfer gwael, amhriodol. Yn ogystal, bydd cynllunio gofalus yn helpu i sicrhau fod y sefydliad yn cyflawni ei gyfrifoldebau cyfreithlon o ran tegwch a chydraddoldeb ac yn helpu i baru’r ymgeiswyr cywir â’r swyddi cywir.
15
•
Oriau staff – Yn ogystal â’r amser y bydd staff yn gweithio’n uniongyrchol gyda’r plant, bydd angen rhoi oriau ychwanegol iddynt ar gyfer dyletswyddau eraill. Gallai’r rhain gynnwys gwirio’r safle, casglu a pharatoi adnoddau, pacio a chadw, cynhyrchu monitro, rhoi cyhoeddusrwydd i’r ddarpariaeth a dilyn i fyny ar bryderon ynghylch plant unigol. Dylid rhoi amser hefyd i’r staff fyfyrio ar eu harfer fel elfen hanfodol o wella ansawdd y ddarpariaeth.
•
Cymwysterau – Pa gymwysterau gwaith chwarae fydd angen i staff feddu arnynt cyn cael eu cyflogi? Yng Nghymru, er mwyn cyflawni’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol (NMS), bydd rhaid i o leiaf un aelod o staff feddu ar gymhwyster lefel 3 mewn gwaith chwarae. Bydd angen i rai aelodau o staff feddu hefyd ar gymhwyster cymorth cyntaf.
•
Swydd-ddisgrifiadau – Mae’n bwysig bod gan bob aelod o staff swydd-ddisgrifiad sy’n amlinellu eu rôl a’u cyfrifoldebau cyffredinol. Gallai hwn gynnwys i bwy y mae’r swydd yn atebol, manylebau fel y cymwysterau neu’r sgiliau sydd eu hangen ar y person yn y swydd ar raddfa gyflog.