Datblygu a rheoli prosiect gwaith chwarae

Page 23

polisi allweddol yn dueddol o fod ar chwarae a gostwng troseddu, chwarae a dysgu cynnar neu chwarae a gordewdra.

Yn ogystal, dylai’r polisi gynnwys datganiadau am rôl y gweithwyr chwarae a sut y maent yn hwyluso chwarae yn y lleoliad. Dylai ddisgrifio agwedd gwaith chwarae sy’n gynhwysol, holistig ac anfarnol, ac sy’n seiliedig ar y fframwaith proffesiynol a moesegol – yr Egwyddorion Gwaith Chwarae. Dylai hanfod ein credau am chwarae a sut yr ydym yn ei gefnogi gael ei gynnwys hefyd yn y wybodaeth y byddwn yn ei rhoi i rieni. Bydd hyn nid yn unig yn egluro beth, sut a pham yr ydym yn hwyluso cyfleoedd chwarae, ond mae hefyd yn ffurfio rhan o’n cyfrifoldeb i eiriol dros bwysigrwydd chwarae.

Fel y cydnabyddir yn Sylw Cyffredinol 17, mae gweithgareddau strwythuredig, dan arweiniad oedolion yn fwy tebygol o gael eu cymeradwyo ac yn dueddol o gael eu ffafrio dros chwarae a hamdden anffurfiol. Mae’n hanfodol, felly, bod gan ein lleoliadau bolisi chwarae clir a chadarn sy’n pwysleisio ein hymrwymiad i gynnal hawl plant i chwarae ac sy’n canolbwyntio ar hyn fel pwrpas ein darpariaeth.

Cydraddoldeb

’Does dim angen i’n polisi fod yn hir neu’n gymhleth ond dylai, o leiaf, amlinellu bod: •

Chwarae’n allweddol bwysig i lesiant a datblygiad plant ac yn darparu buddiannau pellgyrhaeddol ar gyfer plant, heddiw ac i’r dyfodol

Chwarae yn broses reddfol naturiol sydd angen bod dan reolaeth y plentyn

Gan bob plentyn hawl i chwarae, er bod eu cyfleoedd wedi cael eu cyfyngu fwyfwy gan gymdeithas gyfoes

Amgylcheddau hyblyg a llawn symbyliaeth yn gallu cefnogi ac annog chwarae

Plant eisiau ac angen cymryd risg fel rhan o’u chwarae.

Yn y DU, mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd gyffredinol ar sefydliadau i ddileu gwahaniaethu ac erledigaeth anghyfreithlon, hybu cyfleoedd cyfartal, a meithrin perthnasau da rhwng pobl. Dylai’r ystyriaethau hyn fod yn amlwg ym musnes dydd-i-ddydd darparwyr gwaith chwarae a dylid ei adlewyrchu yn ein polisïau a throsglwyddiad ein gwasanaeth. Mae’r ddeddf yn mynnu bod gan bawb hawl i gael eu trin yn deg ac mae’n eu diogelu rhag gwahaniaethu ar sail nodweddion penodol fel anabledd, hil, crefydd, rhyw neu oedran. Mae hefyd yn gwarchod rhag gwahaniaethu anuniongyrchol, er enghraifft trin person yn

23


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.