Mae patrwm y gofod, ble mae pethau wedi eu gosod, a’r modd y mae’r plant wedi addasu’r gofodau ac wedi symud pethau o amgylch, i gyd yn gliwiau i angen plant i chwarae a’u hoff ddewisiadau chwarae personol. Gall ffasiynau, diddordebau a dylanwadau newydd, ynghyd â demograffeg newidiol i gyd ddylanwadu ar y modd y byddwn yn cynllunio a gweithredu yn y dyfodol ac mae angen inni fod yn hyblyg a pharod i newid mewn ymateb.
yn yr hyn yr ydym yn ei wneud a byddant, yn syml, yn bwrw ymlaen â’u chwarae. Mae casglu gwybodaeth am y man chwarae’n hanfodol wrth werthuso ansawdd ac arfer. Yn ogystal, bydd angen i’r wybodaeth hon ymgorffori myfyrdodau gweithwyr chwarae ar eu harfer. Mae arfer myfyriol yn hanfodol er mwyn sicrhau nad yw ein hagweddau, ein syniadau, neu hyd yn oed ein bwriadau da yn cael effaith niweidiol ar y gofod a’r chwarae a geir ynddo. Mae’n hawdd, dros amser, inni syrthio i arferion penodol, ymgorffori rheolau fel rhai cyffredinol pan oeddent, ar y cychwyn, yn benodol i gyd-destun neu ganiatáu i rywbeth ddod yn arferiad a hynny heb fawr ddim ystyriaeth. Gall neilltuo amser i fyfyrio fel tîm o staff ar yr ystod hon o bethau sicrhau bod y cynnig gwaith chwarae’n un llawn bwriad a’ch bod yn sicr o’i ansawdd.
Gall cofnodi canlyniadau archwiliadau chwarae rheolaidd dros gyfnod o amser helpu i hysbysu rheolaeth tymor canolog a thymor hir y ddarpariaeth chwarae a rheolaeth y mudiad chwarae. Bydd arsylwi plant yn rheolaidd yn golygu na fyddwn ni’n ymddangos yn wahanol yn sydyn. Os byddwn yn newid ein patrwm ymddygiad gwaith arferol a chrwydro o gwmpas gyda chlipfwrdd, bydd y plant yn stopio chwarae a fyddwn ni ddim yn cofnodi eu hymddygiad naturiol. Gall defnyddio pad ysgrifennu neu recordio ein meddyliau ar ffôn fod yn ddulliau defnyddiol ar gyfer cofnodi’r eiliad, cyn belled nad ydym yn ymwthgar. Ddylen ni fyth adael i’n hangen i gasglu gwybodaeth ymyrryd yn sylweddol â hawl plant i chwarae. Os byddwn yn cario ein hoffer arsylwi gyda ni, yna gallwn gofnodi pethau wrth iddynt ddigwydd yn ogystal â chynllunio pryd a ble y byddwn yn cynnal arsylwadau. Pa fodd bynnag y penderfynwn arsylwi’r plant, os cawn ein gweld yn gwneud hynny’n rheolaidd bydd y plant â llai o ddiddordeb
Dewis offeryn gwerthuso Mae amrywiaeth o offer a dulliau ar gael all ein cynorthwyo i benderfynu effeithlonrwydd ein prosiect. Mae’r offer hyn yn amrywio o ran cwmpas a chymhlethdod a chyrhaeddiad y ddamcaniaeth sy’n sail iddynt, ond mae pob un o’r rhai da yn mynnu y dylai’r plentyn yn chwarae fod wrth galon y broses. Hynny yw, ydi’r ddarpariaeth chwarae’n cynnig amgylchedd diogel, cyfoethog a hyblyg sydd yn wirioneddol agored i bob plentyn ble gallant fynegi ystod gyflawn o ymddygiadau chwarae? Bydd rhaid i unrhyw offeryn y byddwn yn ei ddefnyddio i fesur ansawdd allu barnu’n gywir yr hyn yr ydym yn ei wneud yn erbyn yr hyn y dylem fod yn ei wneud. Mae hyn yn golygu bod rhaid i sut y byddwn yn cofnodi ein harfer fod yn gywir, yn gynrychiadol ac yn hydrin, a bydd rhaid inni ei fesur yn erbyn egwyddorion sy’n ddilys, perthnasol ac eglur. Yn y pen draw, waeth pa ddull a ddewiswn ar gyfer gwerthuso ansawdd, bydd rhaid inni sicrhau ei fod yn mesur yr hyn sy’n arbennig a neilltuol am waith chwarae. Ceir hyd i enghreifftiau da o gynlluniau asesu neu sicrhau ansawdd trwy ymweld â gwefannau mudiadau chwarae cenedlaethol yn y DU.
37