Datblygu a rheoli prosiect gwaith chwarae

Page 9

Adran 1

Cynllunio ar gyfer chwarae

Cynllunio, yn syml iawn, yw’r broses o fabwysiadu cynllun neu ffordd o weithredu i gyflawni ein nodau a’n amcanion. Mae’n galw am feddwl ymlaen, rhagweld anghenion a chamau gweithredu, a phennu blaenoriaethau. Mae cynllunio effeithlon yn dibynnu ar gael bwriad clir a syniad o’r hyn yr ydym am ei gyflawni. Wrth gynllunio, dylem wastad gofio ein bod yn cynllunio ar gyfer chwarae plant – a bod chwarae’n berchen i’r plant. Byddwn yn cynllunio i’r plant fynegi eu hymddygiad chwarae’n rhydd, ac nid i gyflawni ein hawydd personol ni am drefn ac i reoli. Man cychwyn da ar gyfer unrhyw brosiect gwaith chwarae yw meddwl am yr hyn yr ydym yn anelu i’w wneud. Beth yw pwrpas y ddarpariaeth yr ydym yn ei datblygu? Pa ganlyniadau ydym eu heisiau? Sut allwn ni gyflawni’r canlyniadau hyn orau? A sut fyddwn ni’n gwybod os ydyn ni’n eu cyflawni?

Gwahanol fathau o gynllunio Mae gwahanol amgylchiadau’n galw am wahanol agweddau tuag at gynllunio a gall cynllunio ddigwydd dros wahanol gyfnodau yn dibynnu ar ei bwrpas. Isod rhestrir rhai mathau cyffredin o gynllunio allai fod o ddefnydd i uwch-weithwyr chwarae: •

Bydd cynllunio tactegol fel arfer yn digwydd dros gyfnod byr neu ganolig ac mae’n ymwneud â’r modd y caiff pethau eu gwneud a sicrhau bod nodau ein cynlluniau strategol yn cael eu cyflawni. Gallai enghreifftiau o gynllunio tactegol gynnwys cael y cynghorydd lleol i gefnogi ein hachos neu gael plant sydd wedi colli diddordeb i ailymweld â’r ddarpariaeth gwaith chwarae.

Cynllunio wrth gefn yw dynodi a pharatoi ar gyfer yr hyn allai fynd o’i le, er enghraifft cynllunio cyfleoedd gwahanol rhag ofn y bydd y tywydd yn ddifrifol wael.

Mae cynllunio rheolaidd yn cyfeirio at ddigwyddiadau arferol, rheolaidd fel cyfarfodydd staff, rotâu neu gasglu deunyddiau.

Mae cynllunio bob dydd yn cynnwys paratoi adnoddau’n uniongyrchol ar gyfer chwarae.

Mae cynllunio prosiect yn cyfeirio at brosiect penodol sydd ag amserlen benodedig, fel paratoi ar gyfer digwyddiad arbennig.

Gelwir un math o gynllunio y byddem am ei osgoi yn reoli argyfwng. Nid yw hyn yn gynllunio yn yr ystyr traddodiadol mewn gwirionedd, gan ei fod yn cynnwys delio’n barhaus â bygythiadau wedi iddynt ddigwydd. Mae’n ymateb i sefyllfaoedd yn barhaus yn hytrach na chynllunio ar eu cyfer ymlaen llaw.

Mae cynllunio tymor hir neu strategol yn ymwneud â’n gweledigaeth a’r hyn yr ydym am ei gyflawni yn y pen draw. Gallai enghreifftiau o gynllunio tymor hir gynnwys adeiladu gofod chwarae newydd, eiriolaeth a marchnata.

9


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.