Bangor Beth Sydd Ymlaen Medi-Rhagfyr 2012
Llun y clawr: Mud Morganfield (tudalen 11)
MEDI
Tudalen
SAD 1 GLOBE THEATRE: AS YOU LIKE IT Castell Penrhyn, 7pm ■
7
SAD 15 GŴyl y ‘FAla Yr Hen Lawnt Fowlio, Bangor, 12pm - 6pm ■
12
SAD 22 MACBETH GAn VERDI Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 7.30pm ■
9
GWE 28 FFILM GWENER: THE ARTIST Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, ■
Prifysgol Bangor, 7.30pm
HYDREF
16
Tudalen
MAW 2 Y STORM, SAD 6 Ystad y Faenol, 1.30pm (3ydd, 4ydd, 5ed, 6ed) ■ a 7.30pm (2il, 3ydd, 4ydd, 5ed)
10
SUL 14 AFRICA CALLING Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 7.30pm ■
14
GWE 19 FFILM GWENER: A DANGEROUS METHOD Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, ■ Prifysgol Bangor, 7.30pm
SAD 20 FEVER PITCH Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor, ■
Rhif elusen gofrestredig: 1141565
2
7.30pm
rif Ddarlithfa’r Celfyddydau, P Prifysgol Bangor, 7.30pm
18
LLUN 22 SUDDO’R ARANDORA STAR Ysgol Tryfan, Bangor, 7.30pm ■
14
GWE 26 AR Y RÊLS: EUROS CHILDS Clwb y Rheilffordd, Bangor, 8.00pm ■
20
SAD 27 SAFETY LAST NeuaddJohn Phillips, Prifysgol Bangor, ■
7.30pm
MAW 30 UN BACH ARALL ETO Stadiwm y Book People, Bangor, 8.00pm ■
25 15
8
SUL 7 CABARET: THE PEATBOG FAErIES Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 7.30pm ■
SUL 21 SINEMA SUL: UNCLE BOONMEE WHO ■ CAN RECALL HIS PAST LIVES
16
15
Ymunwch â’r rhestr bostio i gael y diweddara’ am ddigwyddiadau, newyddion a chynigion arbennig. Ewch i dudalen 40
Cipolwg sydyn TACHWEDD GWE 2 CABARET: Seckou Keita A ■ Robin Huw Bowen
Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 7.30pm
SUL 4 SINEMA SUL: THE WHITE RIBBON ■ Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm
IAU 8 CARIAD@IAITH Caffi Blue Sky, Bangor, 7.30pm ■
Tudalen 10
18
Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm
SUL 11 SINEMA SUL: THE CLASS Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, ■ Prifysgol Bangor, 7.30pm
euadd Powis, Prifysgol Bangor, 7.30pm N (a gweithdy canu canoloesol, 2.45pm)
17
Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor, 10am – 1pm
SUL 18 SINEMA SUL: ■ 4 MONTHS, 3 WEEKS, 2 DAYS Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm
MER 21 BRAIN OF A DANCER Neuadd Fwyta Reichel ■
Prifysgol Bangor, 7.30pm
Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm
GWE 30 FFILM GWENER: A SEPARATION ■ Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm
SAD 1 CLWB POPCORN: THE GRINCH ■ Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor,
19
13
SAD 17 CLWB POPCORN: ■ Y DYN WNA’TH DDWYN Y ‘DOLIG
RHAGFYR
GWE 16 BRAGOD & ■ RACHEL NEWTON A LAURA-BETH SALTER
SUL 25 SINEMA SUL: ■ THE WIND THAT SHAKES THE BARLEY
24
GWE 9 FFILM GWENER: THE BEST EXOTIC MARIGOLD HOTEL ■
SAD 24 AR Y RÊLS: STEVE EAVES A SIAN JAMES 20 ■ Clwb y Rheilffordd, Bangor, 8.00pm
10am – 1pm
7.30pm
GWE 7 PANTO: TRYWERYNWS SAD 8 Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor, ■ 7pm (7fed), 1pm (8fed) GWE 7 FFILM GWENER: BLUE VALENTINE Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, ■
22
19
Cymuned
17
drama
Prifysgol Bangor, 7.30pm
FFILM
Tudalen
22
SAD 1 CABARET: MUD MORGANFIELD A’R BAND Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor, ■
CABARET
11
23
17
Hwyl plant a TheulU Cerddoriaeth Yn Arbennig PONTIO’N AWGRYMU
SAD 29 AR Y RÊLS: COWBOIS RHOS BOTWNNOG Clwb y Rheilffordd, Bangor, 8.00pm 21 ■
19
24
Pontio: Digwyddiadau
@Trydar Pontio
3
Edrych ymlaen
Edrych ymlaen Does dim amheuaeth nad ydan ni ar drothwy cyfnod cyffrous ac arwyddocaol yn hanes Bangor, y rhanbarth, Cymru a thu hwnt ac mae’n fraint cael bod yn rhan ohono. Gyda’r gwaith adeiladu yn cychwyn dros yr haf gallwn edrych ymlaen gyda hyder at agoriad Canolfan i’r Celfyddydau ac Arloesi, cartref i theatr amlbwrpas yn eistedd 450, theatr stiwdio lai, sinema, gofodau arloesi a darlithfeydd, bariau a chaffi yn 2014 yng nghalon Bangor.
Edrychaf ymlaen yn y cyfamser, i weithio gyda Dyfan Roberts a thîm Pontio i ddatblygu arlwy gelfyddydol a chymunedol y rhaglen ynghyd a Bedwyr Williams, Ymgynghorydd celf cyhoeddus y prosiect. Edrychaf ymlaen hefyd at blannu hadau creadigol fydd yn dwyn ffrwyth pan fydd y drysau’n agor…. A phwy well i arwain y ffordd na phlant a phobl ifanc ysgolion Bangor, cynulleidfa yfory. Dros y misoedd diwethaf gwahoddwyd grwpiau o bob ysgol i fynegi eu HaDAsyniaDA ar gyfer y Ganolfan o dan arweiniad rhai o’n Prifeirdd amlycaf, syniadau a gafodd eu plannu ym mhridd y safle adeiladu. Daliwyd y syniadau, y dychymyg a’r bwrlwm mewn cerddi syml yn cynnwys cwpledi bachog fel hyn...
Elen ap Robert, a phlant o ysgolion Bangor, yn gweithio ar brosiect HaDAsyniadDA
…Dim ond twll yn y ddaear oedd yno ddoe Ond heddiw mae yno gan a sioe”… (plant Glanadda gyda chymorth y Prifardd Tudur Dylan Jones…) …A gawn ni neuadd lawn cynhesrwydd, Cymreictod a chroeso, …i’n gwneud ni yn falch o gael perthyn iddo? GAWN NI HYN I GYD YM MANGOR – AI? (pobl ifanc Tryfan gyda chymorth Y Prifardd Gerwyn Williams …) Tra bod y gwaith adeiladu yn magu momentwm yr hydref hwn bydd ymweliad cyntaf Theatr y Globe i Ogledd Cymru gydag As You Like It, cynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru, Y Storm, cyfieithiad o‘r Tempest, gweithiau gan Shakespeare, Cabaret Pontio misol, gigs Cymraeg Ar Y Rêls, a digwyddiad arloesol sy’n dod a’r celfyddydau a gwyddoniaeth ynghyd: Ymennydd y Dawnsiwr, digon i’n diddanu a pheri i ni feddwl. Hyn, panto Dolig Trywerinws a llawer mwy… Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio
4
Sut i archebu
Awgrymwn eich bod yn archebu tocynnau o flaen llaw. A fyddech cystal â gwirio manylion digwyddiadau unigol am amseroedd, prisiau, manylion archebu a lleoliadau.
YN BERSONOL Gellir prynu tocynnau ymlaen llaw ar gyfer digwyddiadau Pontio o Palas Print Pendref (digwyddiadau sydd wedi eu rhestru ar dudalennau dau a thri). ARLEIN Bydd modd archebu tocynnau i ddigwyddiadau detholedig Pontio (y rhai sydd wedi’u rhestru ar dudalennau dau a thri) arlein: www.pontio.co.uk. Bydd y gwasanaeth hwn yn terfynnu bedair awr cyn y digwyddiad, neu am 5pm y diwrnod blaenorol os yw’r digwyddiad ymlaen yn y bore. TÂL POST Ni fydd ffi yn cael ei godi wrth archebu tocynnau, ond bydd tâl post o 50 ceiniog yn cael ei ychwanegu pe baech angen i ni yrru’ch tocynnau drwy’r post. Er mwyn sicrhau bod tocynnau sydd angen eu postio yn cyrraedd mewn pryd bydd rhaid eu harchebu o leiaf 10 diwrnod ymlaen llaw. Wedi hyn, bydd pob tocyn sydd wedi’i archebu o flaen llaw ar gael i’w gasglu wrth y drws.
GOSTYNGIADAU Ble bynnag y nodir ‘gostyngiadau’ ar gyfer digwyddiadau Pontio, mae’r canlynol wedi eu cynnwys yn y diffiniad hwnnw: plant dan 16 oed, myfyrwyr a’r rhai dros 65. Mynediad am ddim i ofalwyr a phlant o dan 2. AD-DALIADAU Yn anffodus, unwaith y bydd tocynnau wedi’u prynu, ni allwn eu had-dalu oni bai i’r perfformiad gael ei ddileu. Bydd unrhyw docynnau sydd heb eu gwerthu o flaen llaw ar gael i’w prynu wrth y drws. MYNEDIAD ‘Rydym wedi ymroi i wneud mynediad i’n digwyddiadau mor hwylus â phosib. Cysylltwch â ni pe bae gennych unrhyw ofynion mynediad arbennig ar: 01248 388090 neu ebost: info@ pontio. co.uk. SUT I’N CANFOD Mae’r mwyafrif o ddigwyddiadau Pontio yn cael eu cynnal mewn lleoliadau hyd a lled Bangor, ond mae perfformiadau hefyd yn cael eu llwyfannu’n rheolaidd o fewn tri deg milltir i’r ddinas, o Ynys Môn i Ben Llŷn, Dyffryn Conwy ac arfordir Gogledd Cymru. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion ynglŷn â lleoliad penodol ar: 01248 388090 neu ebostiwch ni: info@pontio. co.uk.
sut i archebu
AR Y FFÔN Gall archebion i ddigwyddiadau Pontio (y rhai sydd wedi’u rhestru ar dudalennau dau a thri) gael eu gwneud dros y ffôn lle y dynodir ar: 01248 382828. Gweithredir ein llinell docynnau mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru a darperir gwasanaeth llawn dwyieithog o ddydd Llun - ddydd Sadwrn, 10am-6pm.
‘Rydym yn argymell i chi gyrraedd y digwyddiadau hyn 30 munud cyn yr amser cychwyn a hysbysir.
5
FFOR DD M E
BBC
YC OL
H
DD
DD OR FF
P
R
D RY ST
IO
L
SAFLE PONTIO
LLT
DD
G L A N R AF
P
ON
MORRISONS
A5
BANGOR IN I
DD
F FO
V CK SA
IL L
E
Palas Print Pendref
P R
DD FA RR AR
FA W
OR
D RD
ST
FF O
RY D
FF
RD
D
FA R
RA
R
GORSAF
Ysgol Tryfan Lôn Powys
Stadiwm y Book People Llun: Daniel Jones
6
AWR YD F STR
DE
E DD
OR
DDO
FF
F FR I
RGY BI
DD
FFORDD CA E
OR FF
Clwb y Rheilffordd
P
OL
Neuadd Fwyta Neuadd Reichel
Caffi Blue Sky
P
OR
VIC TO RI A
W FA
CLOC
FF
HE OL
P
M&S A5
L LT
RH
OD
FA M
DY RA
O YC
PE NR A
IN
AI EN
STR Y
P N EO
LO N
G LE
Neuadd John Phillips
YD
Yr Hen Lawnt Fowlio
P D RY
P
A DD C ERGYBI OR FF
A5
LLE I’N CANFOD
OR
EN
ST
FF
IW SIL
EG
OR DD
FF
DD OR
Neuadd Powis A WF
FF
Neuadd PrichardJones
DE
Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau
IRI ON
Ystad y Faenol Y Felinheli
Castell Penrhyn Llandegai
Sadwrn 1 Medi, 7pm Castell Penrhyn, Bangor, LL57 4HT Tocynnau: £15/£12 gostyngiadau ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk Palas Print Pendref
drama
Canolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno cynhyrchiad y Globe Theatre on Tour o
Mewn cydweithrediad â Pontio a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Drama fwya’ rhamantus Shakespeare Mae Rosalind, merch dug sydd wedi ei alltudio o’r llys, yn syrthio mewn cariad ag Orlando mewn gornest reslo, ond mae ei hewythr, sydd wedi disodli ei thad, yn eiddigeddus o’i phoblogrwydd ac yn ei hanfon hithau ymaith. A hithau wedi ei gwisgo fel bachgen, mae hi’n cwrdd ag Orlando am yr eilwaith ac yn rhith dyn ifanc yn rhoi cyngor iddo am gariad.
Mae’r perfformiad yn digwydd y tu allan, felly dewch â mat picnic neu sedd â chefn isel a dillad addas ar gyfer pob tywydd.
Cynhyrchiad Saesneg sy’n addas ar gyfer 7 oed+.
Photo: Fiona Moorhead
Wedi ei pherfformio ar lwyfan tebyg i un o oes Elisabeth y Cyntaf, mae grŵp bychan o actorion yn rhoi bywyd newydd i’r ffefryn hon o blith comedïau Shakespeare. Mae’n llawn o groes-wisgo a llythyron serch; barddoniaeth a sgwrsio gwych; dychan ysgafn, slapstig ac angerdd.
7
Mawrth 2 Hydref, 7:30pm Mercher 3, Iau 4, Gwener 5 Hydref, 1:30pm a 7:30pm Sadwrn 6 Hydref, 1.30pm Stad y Faenol, Bangor, LL57 4BP Tocynnau: £15/£12 gostyngiadau (£2 o ostyngiad i grwpiau o 10+) ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk Palas Print Pendref
drama
Theatr Genedlaethol Cymru yn cyflwyno
Y Storm Cyfieithiad Gwyneth Lewis o gampwaith William Shakespeare, ‘The Tempest’
Ar ynys anghysbell, mae storm yn corddi a chyfle o’r diwedd i frawd ddial ar frawd. Mae Ariel yn barod i dalu’r pwyth yn ôl gyda chorwyntoedd, dŵr a thân. Ar fôr tymhestlog, mae Antonio’n gweddïo am ei einioes, wrth i Prospero wylio’r cyfan o’r tir. Mae chwerthin ac ofn, hunllef a dryswch yn arwain creaduriaid truenus o orffennol Prospero mewn ffair wyllt o gwmpas yr ynys. Yn ôl pob tebyg, Y Storm oedd drama olaf, fwya’ uchelgeisiol Shakespeare. Gyda chyfieithiad newydd gan gyn Fardd Cenedlaethol Cymru, Gwyneth Lewis, tafluniadau arbennig, syrcas a cherddoriaeth fyw, daw Theatr Genedlaethol Cymru â byd hudolus yr ynys ryfeddol hon yn fyw. Mercher 3 Hydref sgwrs ar ôl sioe 7.30pm
Iau 4 Hydref – isdeitlau Saesneg yn y ddau berfformiad Cynhyrchiad Cymraeg. #YStorm
8
Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru, Pontio a Citrus Arts. Rhan o Ŵyl Shakespeare Y Byd (Royal Shakespeare Company) a Gŵyl Llundain 2012.
Sadwrn 22 Medi, 7:30pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor Tocynnau: £9/£6 gostyngiadau ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk Palas Print Pendref
Macbeth gan Verdi
drama
OPRA Cymru yn cyflwyno
Perfformiad unigryw o’r opera enwog, yn Gymraeg Perfformiad y cwmni opera unigryw, OPRA Cymru, o fersiwn Cymraeg newydd sbon o gampwaith enwog Verdi. Mae’r opera’n cyfuno stori ddramatig Shakespeare gyda rhai o ddarnau cerddorol mwyaf cofiadwy a gwefreiddiol Verdi. Mae’r bariton Phil Gault a’r soprano ryngwladol Anne Williams-King ymysg y cast talentog fydd yn perfformio’r stori am uchelgais Macbeth mewn modd angerddol a digyfaddawd. Mae cynhyrchiad OPRA Cymru o Macbeth yn siŵr o gyflwyno cyfuniad heb ei ail o theatr a cherdd dan gyfarwyddyd llwyfan cyfarwyddwr artistig y cwmni, Patrick Young.
Cynhyrchiad Cymraeg. Phil Gault
Anne Williams-King
9
cabaret
Sul 7 Hydref, 7:30pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
Gwener 2 Tachwedd, 7:30pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
Tocynnau: £12/£10 gostyngiadau ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk
Tocynnau: £12/£10 gostyngiadau ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk
Peatbog Faeries
Seckou Keita a Robin Huw Bowen
Byddwch yn barod i ddawnsio i gerddoriaeth werin-roc y band AlbanaiDD
Cerddoriaeth Delyn o Affrica a Chymru
Daw’r band hynod lwyddiannus hwn – sydd wedi eu galw’n ‘ddyfodol cerddoriaeth ddawnsio Geltaidd’ a’u henwebu am wobr ‘Y Band Byw Gorau’ yng Ngwobrau Gwerin 2012 BBC Radio 2 - o’r Ynys Hir (Isle of Skye). Mae eu harddull unigryw a dyfeisgar yn cymysgu jigs traddodiadol â cherddoriaeth jazz, hip hop a reggae gan greu cyfuniad o gerddoriaeth Albanaidd draddodiadol a phŵer cerddoriaeth ddawns Geltaidd. Mae’r band 6 darn newydd yn cyfuno deinameg band mwy gyda sain newydd, fyrlymus a chyffrous.
10
Mae Seckou yn feistr ar y Kora, y Delyn Affricanaidd 21 tant. Er ei fod yn parchu traddodiad cerddorol sy’n ymestyn yn ôl i’r 13eg canrif ac Ymerodraeth Mandinka yng ngorllewin Affrica, mae traed Seckou yn sownd yn yr 21ain ganrif ac mae’n arbrofi a datblygu syniadau newydd wrth barhau ag ymwybyddiaeth gryf o’i dreftadaeth. Mae’r perfformiad hwn gyda’i fand o saith o gerddorion yn argoeli i fod yn un i’w gofio! Mae Seckou yn cael ei gefnogi gan Robin Huw Bowen, sydd wedi ei enwi gan rai yn ‘Telynor Cymru II’, a’i adnabod led led y byd am fod yn arbenigwr ar y delyn deires Gymreig. Mae’r ffigwr pwysig hwn yn nhraddodiad gwerin Cymru yn treiddio at enaid y gerddoriaeth a’i throsglwyddo’n fyw i’r gynulleidfa.
Sadwrn 1 Rhagfyr, 7:30pm Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor Tocynnau: £12/£10 gostyngiadau ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk Palas Print Pendref
ˆ s Muddy Waters yn Mab hynaf y seren Flw dychwelyd i Fangor Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae Mud Morganfield, mab Brenin y Blŵs, Muddy Waters, wedi bod yn teithio’r byd gyda cherddoriaeth garismatig Blŵs Chicago. Mae’n edrych ac yn swnio’r un ffunud â’i dad, i’r fath raddau fel bod un o gyn gerddorion ei dad wedi dweud, “Mae fel gwylio ysbryd yn y cnawd”. Ond mae Mud yn wych ar lwyfan wrth iddo berfformio yn ei ffordd unigryw ei hun. Dewch i’w weld yn fyw ym Mangor wrth iddo deithio gyda thalentau Blŵs gorau Prydain – West Weston (telyn), Ronni Buysack-Boysen (gitâr), Ian Jennings (bâs dwbl), Mike Hellier (drymiau).
cabaret
Mud Morganfield a’r Band
11
Sadwrn 15 Medi, 12-6pm Yr Hen Lawnt Fowlio, Ffordd Deiniol, Bangor Mynediad i’r babell adloniant: £3/£1.50 i blant o dan 10
Pontio a Botanical Beats yn cyflwyno
CYMUNED
“Gw ˆyl unigryw reit ynghanol Bangor... gwledd o weithgareddau, digwyddiadau, bwyd a diod”
ˆ yl llawn hwyl i ddathlu gogoniant yr hydref GW Eleni mae Pontio wedi cyfuno efo brwdfrydedd ac egni criw y Botanical Beats i greu gŵyl unigryw i bobl Bangor, reit ynghanol y ddinas. Mi fydd yna fwrlwm o weithgareddau, digwyddiadau, bwyd a diod i fewn ac o amgylch y babell syrcas fawr: cerddoriaeth, dawnsio, sioe syrcas, byd natur, celf a chrefft. Hen ac ifanc – dowch i’r wledd am ddathliad mawr cyn dyfodiad y gaea’.
12
£10/£8 gostyngiadau (£8/£6 gostyngiad codwr cynnar drwy archebu arlein cyn 6 Tachwedd) ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk Palas Print Pendref
Bragod
Llun: John Stammers
Gwener 16 Tachwedd, 7:30pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
gyda Rachel Newton a Laura-Beth Salter
Sain unigryw’r crwth Cymreig hynafol Mae Bragod - sef Robert Evans yn canu’r crwth a llais Mary-Anne Roberts – yn cyfuno barddoniaeth ganoloesol â cherddoriaeth linynnol i greu byd acwstig sy’n llawn seiniau cyfoethog ac yn hollol wahanol i gerddoriaeth glasurol neu werin.
Gweithdy Canu Canoloesol 2.45pm Neuadd Powis Am ddim
cerddoriaeth
Pontio a Cerddoriaeth ym Mangor yn cyflwyno …
Rachel Newton a Laura-Beth Salter fydd yn ymuno â Bragod. Cyrhaeddodd Rachel rownd derfynol cystadleuaeth Cerddor Traddodiadol Ifanc yr Alban yn 2005 gyda’i cherddoriaeth telyn a’i llais hyblyg. Mae Laura-Beth wedi canu a chanu’r mandolin led led Prydain wrth deithio gyda nifer o fandiau.
13
drama
Sul 14 Hydref, 7:30pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
Llun 22 Hydref, 7:30pm Neuadd Ysgol Tryfan, Bangor LL57 2TU
Tocynnau: £7/£5 gostyngiadau ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk Palas Print Pendref
Tocynnau: £7/£5 gostyngiadau (10% o ostyngiad i grwpiau o 10+) ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk Palas Print Pendref
Grassroots Theatre Company, Zimbabwe yn cyflwyno
Theatr Na n’Og yn cyflwyno
Africa Calling! Suddo’r Arandora Star Stori merch ifanc yn chwilio am y gwirionedd am farwolaeth ei thad Dathlu diwylliant Affrica trwy ddawns, drama a chân Mae Grassroots Theatre yn defnyddio dawns, drama a chân er mwyn addysgu a grymuso cymunedau trefol a gwledig ar draws Zimbabwe a thu hwnt. Wedi llwyddiant ysgubol ‘Africa Heart and Soul’ yng Ngŵyl Ymylol Caeredin, mae ‘Africa Calling!’ yn defnyddio cymysgedd o ganeuon, dawnsfeydd a drama o Zimbabwe, De Affrica a Zambia i ddathlu pobl Affrica, eu diwylliannau unigryw a’u hundod. Mae’r perfformiad pwerus hwn yn dweud stori Affrica fel y mae.
14
Wedi ei seilio ar stori wir teulu o Eidalwyr yn byw yn Ne Cymru adeg yr Ail Ryfel Byd, mae’r ddrama’n dilyn hynt Lina, a welodd ei thad yn cael ei arestio a’i lusgo o’u caffi i fynd ar fwrdd yr Arandora Star i wersyll-garchar yng Nghanada. Wedi i’r llong gael ei chamgymryd am long ryfel a’i saethu gan dorpido a lladd 446 o Eidalwyr, mae Lina’n ceisio chwilio am y gwir am ei thad coll. Mae’r ddrama’n edrych ar fywyd mewnfudwyr a oedd yn byw a gweithio yng Nghymru adeg rhyfel ac yn gofyn pwy yw’r gelyn, ni neu nhw
Cynhyrchiad Cymraeg yn addas ar gyfer oed 9+.
Sadwrn 20 Hydref, 7:30pm Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor
Mawrth 30 Hydref, 8pm Stadiwm y Book People, Bangor, LL57 2HQ
Tocynnau: £7/£5 gostyngiadau ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk Palas Print Pendref
Tocynnau: £7.50/£5 gostyngiadau ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk Palas Print Pendref
Theatr Bara Caws yn cyflwyno
Addasiad hynod lwyddiannus o lyfr poblogaidd Nick Hornby
Sioe Glybiau unigryw arall gan Theatr Bara Caws
James Kermack yw’r actor yn y sioe un-dyn hon sy’n tyrchu’n ddwfn i feddwl ffan pêl-droed. Mae’r ddrama – sydd wedi ei haddasu a’i chyfarwyddo gan Paul Hodson – wedi ei disgrifio fel ‘theatr stand-up’ ac yn mynd â ni o swbwrbia’r 60au trwy gatiau Highbury ac yn ôl i’r dyddiau pan oedd pêl-droed yn gêm y bobl yn hytrach na busnes i noddwyr corfforaethol ac oligarchiaid. Mae’r stori hon am deuluoedd, pêl-droed, dosbarth cymdeithasol, hunaniaeth a llawenydd yn waith theatr cyflym, doniol a bywiog.
Drama Saesneg yn addas i rhai sy’n 14 oed+. Bydd bar arian parod yn unig, ar agor o 7pm ymlaen’
‘Mae Ron y tafarnwr mewn twll, mae cwsmeriaid y ‘Cwch a’i Chaptan’ cyn brinad â chwys fforddoliwr. Mae’r hen griadur a’i din at wal a dydi Lavs, ei wraig fawr o help … pur anamal mae hi’n llnau a fedar hi ddim cwcio chwaith – cwcio ddudson ni! Be ddaw o’r hen le? Fedar y ddau godi’r hen byb yn ôl ar ei draed?
drama
Fever Pitch un bach arall eto The Future is Unwritten yn cyflwyno
Noson ddifyr yng nghwmni llu o gymeriadau lliwgar… Wedi ei hysgrifennu gan Twm Miall a’i chyfarwyddo gan Bryn Fôn, mae Un Bach Arall Eto yn argoeli i fod yn Sioe Glybiau boblogaidd arall gan Theatr Bara Caws.
Sioe Gymraeg yn addas i rai 18 oed+
‘A GEM’ The Observer, ‘UNSPARINGLY FUNNY’ Time Out 15
FFILM
GWENER
FFILM Gwener 28 Medi, 7:30pm
The Artist (Ffrainc 2011) Tyst PG 100 munud Cyfarwyddwr: Michel Hazanavicius Prif Rannau: Jean Dujardin, Bérénice Bejo & John Goodman
Croeso i bawb 16
Mae seren ffilmiau di-sain yn cwrdd â dawnswraig ifanc ond, wrth i ffilmiau siarad ddod yn boblogaidd, mae eu gyrfaoedd yn mynd i gyfeiriadau gwahanol. Enillydd Oscar y Ffilm Orau 2012.
Gwener 19 Hydref, 7:30pm
A Dangerous Method (UDA 2011) Tyst 15 99 munud Cyfarwyddwr: David Cronenberg Prif rannau: Michael Fassbender, Keira Knightley & Viggo Mortensen
Ffilm am sut yr arweiniodd perthynas ddwys Carl Jung a Sigmund Freud at ddatblygiad seicdreiddio.
Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor Tocynnau: £4/£3 gostyngiadau. Ffôn: 01248 382828 neu prynwch ar y we: www.pontio.co.uk. Hefyd ar gael wrth y drws.
RHAGLEN SINEMA GYMUNEDOL
Gwener 9 Tachwedd, 7:30pm
The Best Exotic Marigold Hotel (DU 2011) Tyst 12A 124 munud Cyfarwyddwr: John Madden Prif rannau: Judi Dench, Bill Nighy & Maggie Smith
Mae criw o Brydeinwyr sydd wedi ymddeol yn teithio i India i aros mewn gwesty, gan feddwl ei fod newydd gael ei adnewyddu. Er fod y Marigold Hotel yn llai moethus nag yn yr hysbysebion, mae’n llwyddo i’w cyfareddu mewn ffyrdd annisgwyl.
Gwener 30 Tachwedd, 7:30pm
Gwener 7 Rhagfyr, 7:30pm
A Separation
Blue Valentine
(Iran 2011) Tyst PG 123 munud Cyfarwyddwr: Asghar Farhadi Prif rannau : Peyman Moadi, Leila Hatami & Sareh Bayat
(UDA 2010) Tyst 15 112 munud Cyfarwyddwr: Derek Cianfrance Prif rannau: Ryan Gosling, Michelle Williams & John Doman
Mae’n rhaid i bâr priod wneud penderfyniad anodd – symud i wlad arall er mwyn gwella bywyd eu plentyn neu aros yn Iran i ofalu am riant sy’n dioddef o glefyd Alzheimer.
Mae’r ffilm yn neidio yn ôl ac ymlaen mewn amser er mwyn olrhain datblygiad y berthynas rhwng pâr priod.
FFILM
Daw’r rhaglen ffilm gymunedol yn fyw gyda Ffilm Gwener i’n harwain at agoriad adeilad newydd Pontio, lle bydd sinema 180 sedd. Os hoffech gymryd rhan yn un o’n grwpiau rhaglennu cymunedol, yna anfonwch ebost atom: info@pontio.co.uk neu ffôn: 01248 388090.
17
SUL
SINEMA
fFilm
Tymor o ffilmiau nos Sul
Sul 21 Hydref, 7:30pm
Uncle Boonmee Who Can Recall His Past Lives (Gwlad Thai 2010) Tyst 12A 114 munud Cyfarwyddwr: Apichatpong Weerasethakul Prif rannau: Thanapat Saisaymar, Jenjira Pongpas & Sakda Kaewbuadee
Croeso i bawb 18
Stori Uncle Boonmee sy’n medru cofio’i fywydau blaenorol ar ei wely angau yw testun enillydd y Palme d’Or yn 2010.
Sul 4 Tachwedd, 7:30pm
The White Ribbon
(Yr Almaen 2009) Tyst 15 144 munud Cyfarwyddwr: Michael Haneke Prif rannau: Christian Friedel, Ernst Jacobi & Leonie Benesch
Mae digwyddiadau od, sy’n ymddangos fel cosbi defodol, mewn pentref bychan yng Ngogledd yr Almaen ychydig flynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n ymddangos mai plant y pentrefwyr sydd wrth wraidd y dirgelwch. Enillydd y Palme d’Or yn 2009’
Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor Tocynnau: £4/£3 gostyngiadau. Ffôn: 01248 382828 neu prynwch ar y we: www.pontio.co.uk. Hefyd ar gael wrth y drws.
Sul 11 Tachwedd, 7:30pm
The Class
(Ffrainc 2008) Tyst15 128 munud Cyfarwyddwr: Laurent Cantet Prif rannau: François Bégadeau, Agame Malembo-Emene & Angélica Sancio
Mae’r athro a’r nofelydd François Bégaudeau yn actio fersiwn ohono’i hun wrth iddo dreulio blwyddyn gyda’i ddisgyblion o ardal ddi-fraint ym Mharis, Enillydd y Palme d’Or yn 2008.
Sul 18 Tachwedd, 7:30pm
4 Months, 3 Weeks & 2 Days (Romania 2007) Tyst 15 113 munud Cyfarwyddwr: Cristian Mungiu Prif rannau: Anamaria Marinca, Vlad Ivanov & Laura Vasiliu
Drama am ddynes sy’n helpu ei ffrind i drefnu erthyliad anghyfreithlon yn Romania yn yr 1980au. Enillydd y Palme d’Or 2007.
Sul 25 Tachwedd, 7:30pm
FFILM
Y tymor hwn, mae staff a myfyrwyr yr Adran Astudiaethau Creadigol wedi dewis cyn enillwyr gwobr y ‘Palme d’Or’ yng Ngw ˆ yl Ffilmiau Cannes. Ychydig ym Mangor a gafodd gyfle i weld y ffilmiau annibynol Ewropeaidd diddorol yma ar y sgrîn fawr pan gawson nhw eu dangos gynta’. Dyma eich cyfle ar nos Sul felly i ddal i fyny, a mwynhau goreuon Ewrop! Bydd taflen fach o wybodaeth gefndirol flasus ar gael gyda phob ffilm.
The Wind that Shakes the Barley (Iwerddon 2006) Tyst 15 127 munud Cyfarwyddwr: Ken Loach Prif rannau: Cillian Murphy, Padraic Delaney & Liam Cunningham
Ffilm am Weriniaethwyr yn Iwerddon yn yr 20fed ganrif ac am effeithiau’r gwrthryfel yn erbyn Prydain ar berthynas dau frawd. Enillydd y to Palme d’Or yn 2006 19
AR Y RÊLS
Gwener 26 Hydref, 8pm Clwb y Rheilffordd Bangor, Ffordd Euston, Bangor, LL57 2YP
Sadwrn 24 Tachwedd, 8pm Clwb y Rheilffordd Bangor, Ffordd Euston, Bangor, LL57 2YP
Tocynnau: £10/£8 gostyngiadau ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk Palas Print Pendref
Tocynnau: £10/£8 gostyngiadau ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk Palas Print Pendref
Pontio, mewn cysylltiad â Gŵyl Gardd Goll yn cyflwyno
Pontio, mewn cysylltiad â Gŵyl Gardd Goll yn cyflwyno
Prif leisydd y Gorky’s yn cael ei gefnogi gan The Wellgreen ac Adam Stearnes
Noson arbennig efo dau o eiconau cerddoriaeth Cymru
Euros Childs
Yr unigryw Euros Childs yn perfformio traciau o’i albwm newydd yn ogystal â rhai o’i glasuron o’i yrfa hir a llwyddiannus yn y sîn roc Gymraeg. Bydd The Wellgreen ac Adam Strearnes o Glasgow hefyd yn perfformio.
Steve Eaves a Siân James Mae Steve Eaves wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd gyda’i eiriau barddonol a’i gerddoriaeth werin, roc a blŵs ers mwy na 40 mlynedd. Mae Steve yn un o gerddorion mwya’ llwyddiannus Cymru sydd wedi cyhoeddi naw albwm a chasgliad o’i holl ganeuon rhwng 1984-1999. Mae Siân James yn gerddor llwyddiannus ac amlwg arall sydd wedi cyhoeddi wyth albwm a pherfformio ei cherddoriaeth werin led-led Prydain a thu hwnt.
20
Sadwrn 29 Rhagfyr, 8pm Clwb y Rheilffordd Bangor, Ffordd Euston, Bangor, LL57 2YP Tocynnau: £10/£8 gostyngiadau ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk Palas Print Pendref
Cowbois Rhos Botwnnog Un o fandiau mwya’ poblogaidd Cymru yn cael eu cefnogi gan Creision Hud a Swnami
Cyfres newydd o gerddoriaeth Gymraeg a Chymreig yng Nghlwb Rheilffordd Bangor. Bandiau... artistiaid... nosweithiau i’w cofio.
Ers ei ffurfio gan y brodyr Iwan, Aled a Dafydd Hughes yn 2006, mae Cowbois Rhos Botwnnog wedi cyhoeddi tri albwm ac wedi recordio nifer o sesiynau gwych i BBC Radio Cymru. Mae’r bandiau talentog Creision Hud o Gaernarfon a Swnami o Ddolgellau hefyd wedi cael misoedd prysur o gyfansoddi a gigio. Felly, mentrwch allan o’r tŷ rhwng ‘Dolig a’r Flwyddyn Newydd i fwynhau un o gigs ola’r flwyddyn yng nghwmni rhai o fandiau gorau Gwynedd.
AR Y RÊLS
Pontio mewn cysylltiad â Gŵyl Gardd Goll yn cyflwyno
Welwn ni chi Ar y Rêls! 21
Hwyl plant a TheulU
Blant a rhieni - dewch i Glwb Popcorn y Dolig i gael hwyl yn gwneud crefftau lliwgar Nadoligaidd cyn gweld ffilm wych! Addas i blant 5-10 oed. Popcorn ar werth. Mae gofyn i rieni neu ofalwyr aros efo’u plant yn ystod y clwb. Sadwrn 17 Tachwedd, 10am-1pm Gweithgareddau: Bwyd i’r ceirw, penwisg ceirw, coed Nadolig a dynion eira 3D
Sadwrn 1 Rhagfyr, 10am-1pm Gweithgareddau: Mwgwd Grinch, addurniadau Nadolig y Grinch a Whoville a bwlyn drws y Grinch
Y Dyn Wna’th Ddwyn y ’Dolig
The Grinch
Cyfarwyddwr: Endaf Emlyn Prif rannau: Emyr Wyn, Meical Povey a Ffion Bowen Davies Un o ffilmiau Nadolig clasurol Cymru. Digwyddiad Cymraeg
(DU 1985)
(UDA 2000) Tyst PG, 104 munud
Cyfarwyddwr: Ron Howard Prif rannau: Jim Carrey, Taylor Momsen a Jeffrey Tambor Fersiwn o’r cartŵn enwog am greadur sydd am ddwyn y Nadolig.
Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor
Tocynnau wrth y drws: £2 i blant ac oedolion (£1.50 o’u harchebu o flaen llaw). )01248 382828 8 www.pontio.co.uk.
22
Gwener 7 Rhagfyr, 7pm Sadwrn 8 Rhagfyr, 1pm Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor
Cwmni Mega yn cyflwyno
Trywerynws Panto Cymraeg llawn hwyl i blant Mae Pontio’n croesawu un o gwmnïau pantomeim proffesiynol mwya’ llewyrchus Cymru, Cwmni Mega, gyda’u sioe liwgar, hwyliog, dymhorol. Eleni mae’n mynd yn ôl mewn amser i bentref bach o’r enw Trywerynws, sy’n cael ei fygwth gan Ymerawdwr creulon Rhufeinig, Cawrasiws. A fydd yr ymerawdwr yn cipio Elen, merch y tywysog, ynteu a fydd y gŵr ifanc lleol Owain Llywelyn gyda help hud ei ffrind, Electws Ddewin, yn llwyddo i drechu’r cawr a pheri bod heddwch yn dychwelyd i’r pentref ... am rai canrifoedd o leiaf?
Hwyl plant a TheulU
Tocynnau: £10/£7 gostyngiadau (10% o ostyngiad i grwpiau o 10+) ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk Palas Print Pendref
Actio, canu, dawnsio...a digon o gyfle i weiddi “bŵ” neu “hwre”! Dewch i’r sioe!
Pantomeim Cymraeg i blant addas i 4+.
23
Mercher 21 Tachwedd, 7:30pm Neuadd Fwyta Reichel, Prifysgol Bangor
Iau 8 Tachwedd, 7:30pm Caffi Blue Sky, oddi ar y Stryd Fawr, Bangor
Tocynnau: £5/£3.50 gostyngiadau ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk Palas Print Pendref
£6/£4 gostyngiadau ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk
Pontio’n cyflwyno
YN ARBENNIG
Brain of a Dancer Cariad@Iaith Taith weledol arloesol a diddorol drwy batrymau’r meddwl wrth i ni symud Beth sy’n dal eich sylw pan fyddwch yn gwylio dawnsiwr ar lwyfan? Gwisg, coreograffi, sgiliau technegol y dawnsiwr? Mae’r dawnsiwr cyfoes adnabyddus Riley Watts a Dr.Emily Cross, sy’n niwrowyddonydd ym Mhrifysgol Bangor, yn dangos bod yna ffactorau llai amlwg yn dylanwadu ar ein canfyddiadau. Mae’r darn arloesol hwn o waith ymchwil, a’r perfformiad sy’n mynd law yn llaw ag ef, yn dangos beth sy’n digwydd yn yr ymennydd pan fyddwn ni’n gwylio symudiadau cymhleth. Fe fyddwch yn siŵr o gael eich rhyfeddu…
24
Trafodaeth ddwyieithog ddifyr am brofiadau dysgu Cymraeg
Mike Parker
Simon Thirsk
Bethan Gwanas
Bydd Mike Parker (awdur Neighbours From Hell a Rough Guides) a Simon Thirsk (awdur Not Quite White) – dau awdur sydd wedi setlo yng Nghymru ac yn ysgrifennu am y profiad o gael eu hamgylchynu gan y diwylliant a’r iaith Gymraeg – yn trafod sut fath o brofiad yw bod yn ddysgwr ac yn awdur yng Nghymru heddiw. Yr awdur, colofnydd a’r cyflwynydd teledu, Bethan Gwanas, fydd yn cadw trefn ar y ddau. Mae’r digwyddiad hwn yn hynod o addas i rai sy’n dysgu Cymraeg neu â diddordeb yn sut mae dau ddiwylliant yn cyddaro neu’n cyd-fyw.
Sadwrn 27 Hydref, 7:30pm Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor Tocynnau: £6/£4 gostyngiadau ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk Palas Print Pendref
Safety Last Comedi glasurol Harold Lloyd i gyfeiliant piano byw Mae clerc siop yn trefnu cystadleuaeth i ddringo adeilad uchel, ond mae amgylchiadau’n ei orfodi i geisio gwneud y gamp beryglus ei hun.
FFILM
(1923)
Mae’r gomedi glasurol hon yn cynnwys un o ddelweddau eiconig byd y ffilmiau – Harold Lloyd yn gafael am ei fywyd mewn bys cloc ar ben adeilad uchel. Bydd y ffilm yn cael ei dangos i gyfeiliant piano hen ffasiwn yn cael ei ganu gan y pianydd cyngerdd a ffilmiau di-sain rhyngwladol, y cyfansoddwr a’r trefnydd cerddoriaeth Costas Fotopoulos, sydd wedi cyfeilio i ffilmiau di-sain led led y byd. Teithiwch yn ôl mewn amser i werthfawrogi’r gomedi wych hon! Bydd bar arian parod yn unig, ar agor o 7pm ymlaen’
25
Cerddoriaeth ym Mangor
Cerddoriaeth ym
26
Prisiau tocynnau (os nac oes pris arall yn cael ei nodi): £10 oedolion £7 gostyngiadau £5 myfyrwyr Mynediad am ddim i un plentyn gyda phob oedolyn sy’n talu am docyn Plant ychwanegol £2 Gall tocyn tymor Cerddoriaeth ym Mangor gael ei brynu o www.bangor.ac.uk/cyngherddau neu wrth y drws mewn unrhyw gyngerdd Prisiau: £110 pris llawn £190 dau oedolyn pris-llawn gyda’i gilydd; £65 gostyngiadau £115 dau ostyngiad gyda’i gilydd £27.50 myfyrwyr
Triawd Rachel Hair Ensemble Cymru Iau 4 Hydref, 8pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
Iau 18 Hydref, 8pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
Mae’r delynores Rachel Hair yn dychwelyd i Fangor gydag Euan Burton (bâs dwbl) a Jenn Butterworth (gitâr a llais). Mae’r triawd o’r Alban yn dewis cymysgedd o gerddoriaeth draddodiadol, fodern a rhyngwladol i greu perfformiadau llawn cymeriad ac angerdd.
Peryn Clement-Evans, Oliver Wilson a Richard Ormrod yn cyflwyno cerddoriaeth ar gyfer y clarinet, fiola a’r piano gan Mozart, Jean Françaix a Schumann. Ensemble Cymru yw Ensemble preswyl Prifysgol Bangor a Venue Cymru. www.ensemblecymru.co.uk
Krista Martynes (clarinet) a Xenia Pestova (piano) Iau 25 Hydref, 8pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
Cerddoriaeth Gynnar Bangor Sadwrn 10 Tachwedd, 8pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
www.bangor.ac.uk/ cyngherddau
Beyounes Quartet Iau 15 Tachwedd, 8pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor Gwener 16 Tachwedd, 1:15pm Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor
Prisiau tocyn arbennig ar gyfer cyngerdd amser cinio dydd Gwener: £6 oedolion/£4 gostyngiadau/£2 myfyrwyr Bydd y clarinetydd o Fontréal, Krista Martynes, yn perfformio nifer o unawdau a deuawdau gyda’r pianydd Xenia Pestova, gan gynnwys gwaith gan Brahms, Schumann, Berg a Jonathan Harvey.
Bydd ensemble Baroc Bangor, o dan gyfarwyddyd y fiolinydd Nicholas Hardisty, yn perfformio gwaith gan Purcell a Corelli ymysg eraill, a hynny yn arddull yr 17eg ganrif. Bydd Côr Siambr y Brifysgol yn ymuno â’r ensemble i berfformio campwaith lawen Vivaldi, Gloria.
Mae Beyounes Quartet yn cael eu croesawu yn ôl i Fangor i berfformio dau gyngerdd arbennig. Byddant yn chwarae gwledd o gerddoriaeth yn cynnwys pedwarawd cyntaf Janacek sydd wedi ei ysbrydoli gan nofel fer drasig Tolstoy Kreutzer Sonata, Crisantemi hardd Puccini a K.421, pedwarawd atgofus Mozart mewn D leiaf
Cerddoriaeth ym Mangor
Mangor
Am fanylion pellach:
27
Cerddoriaeth ym Mangor
Cerddoriaeth ym
28
Prisiau tocynnau (os nac oes pris arall yn cael ei nodi): £10 oedolion £7 gostyngiadau £5 myfyrwyr Mynediad am ddim i un plentyn gyda phob oedolyn sy’n talu am docyn Plant ychwanegol £2 Gall tocyn tymor Cerddoriaeth ym Mangor gael ei brynu o www.bangor.ac.uk/cyngherddau neu wrth y drws mewn unrhyw gyngerdd Prisiau: £110 pris llawn £190 dau oedolyn pris-llawn gyda’i gilydd; £65 gostyngiadau £115 dau ostyngiad gyda’i gilydd £27.50 myfyrwyr
Cerddorfa Electroacoustic Symffoni WALES 29 Tachwedd, 8pm Prifysgol Bangor Iau Neuadd Powis, Prifysgol Bangor Sadwrn 24 Tachwedd, 7:30pm Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor Tocynnau: £12 pris llawn /£9 gostyngiadau/£5 myfyrwyr
Un o gerddorfeydd prifysgol gorau Prydain, o dan arweiniad Chris Collins, yn perfformio cerddoriaeth gynnes a thelynegol, gan gynnwys Dances of Galanta gan Kodály, Consierto Ffliwt Nielsen (unawdydd: Faye Snowdon) a Thrydedd Symffoni odidog Brahms.
Y cyfansoddwr enwog o Loegr, Trevor Wishart, yn cyflwyno ei waith diweddara’, Encounters in the Republic of Heaven, sef ‘opera sain’ anweledig lle mae storïau o ddydd i ddydd gan oedolion a phlant o ogledd Lloegr yn cael eu trawsnewid gan gyfrifiadur i greu profiad ffantastig o gael eich amgylchynu gan sain.
Cerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC Catrin Finch (telyn), Owain Arwel Hughes (arweinydd) Sadwrn 1 Rhagfyr, 7:30pm Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor Tocynnau: £12.50/£10.50 gostyngiadau/£8.50 myfyrwyr. Heb ei gynnwys yn Nhocyn Tymor Cerddoriaeth ym Mangor Mae Catrin Finch yn ymuno â cherddorfa symffoni genedlaethol Cymru i berfformio Concerto Telyn Germaine Tailleferre ac Introduction ac Allegro gan Ravel. Rhan o’r wledd hefyd fydd Ballads gan Grace Williams, nad yw braidd byth yn cael ei berfformio, a Phumed Symffoni lonydd Vaughan Williams.
www.bangor.ac.uk/ cyngherddau
Monteverdi Singers Sadwrn 8 Rhagfyr, 7:30pm Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor Tocynnau: £12 pris llawn/£9 gostyngiadau/£5 myfyrwyr
Cerddoriaeth ym Mangor
Mangor
Am fanylion pellach:
Bydd FESTIVAL ORCHESTRA Gogledd Cymru a’r Gogledd Orllewin ac unawdwyr yn ymuno â’r Monteverdi Singers i berfformio The Kingdom gan Elgar. Bydd John Huw Davies yn arwain y perfformiad o’r oratorio wych hon am y tro cyntaf ers mwy na 20 mlynedd yng ngogledd Cymru.
29
Sioe Nadolig Clwb Dawns Prifysgol Bangor Bangor English Drama Society yn cyflwyno
Pontio’n awgrymu
Amadeus gan Peter Shaffer Gwener 14 a Sadwrn 15 Rhagfyr, 7:30pm Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor Tocynnau: £4/£3 wrth y drws gyda charden NUS Sioe ddawns Nadolig arbennig.
Gwynedd Greadigol Iau 29, Gwener 30 Tachwedd a Sul 2 Rhagfyr, 7:30pm Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor Tocynnau: £5/£4 i fyfyrwyr Mae Wolfgang Amadeus Mozart yn athrylith cerddorol. Ond dydy’r Llys yn Fienna yn y 18fed ganrif ddim yn cydnabod ei dalentau – dim ond Antonio Salieri sy’n gwneud hynny, ac mae’n cael ei arteithio gan yr hyn y mae’n ei glywed.
Perfformiad Saesneg. 30
Am newyddion a chyfleoedd yn y celfyddydau yng Ngwynedd ymwelwch â www.gwyneddgreadigol.com Cipio’r Castell Gorffennaf 2012
Balchder Gogledd Cymru 2012 Gwener 5 Hydref, 8pm, Sadwrn 6 a Sul 7 Hydref Neuadd Hendre, Lôn Aber, Tal y Bont, Bangor LL57 3YP
Shakespeare on Page and Stage Sadwrn 8 Rhagfyr, 4pm Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor LL57 2DG
Ymunwch â Balchder Gogledd Cymru i ddathlu diwedd yr haf ac amrywiaeth cymdeithas mewn digwyddiad llawn hwyl, cyfeillgarwch a cherddoriaeth. Dyma benwythnos llawn dop o gerddoriaeth, adloniant, bwydydd lleol a stondinau masnach. Mae modd aros trwy gydol y penwythnos trwy wersylla ar y safle. www.northwalespride.com
Digwyddiad am ddim. Does dim angen archebu lle o flaen llaw Cysylltwch â’r Athro Andrew Hiscock ar els408@bangor.ac.uk am fanylion pellach Darlith gyhoeddus yng nghwmni’r Athro Andrew Gurr, ymgynghorwr academaidd y prosiect i ail-adeiladu Theatr y Glôb, a fydd yn trafod perfformiadau cynnar o ddramâu Shakespeare. Dyma benllanw’r gynhadledd Shakespeare sy’n cael ei chynnal ym Mangor a’i noddi gan y Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (Bangor ac Aberystwyth), yr Ysgol Saesneg (Bangor) a Chymdeithas Brydeinig Shakespeare. Mae’r Athro Gurr yn ysgolhaig Shakespeareaidd nodedig ac ef yw awdur yr astudiaeth enwog, ‘Playgoing in Shakespeare’s London’.
Sami Brookes, a gyrhaeddodd rownd derfynol yr X Factor yn 2011, fydd prif artist y digwyddiad ddydd Sadwrn 6 Hydref.
Pontio’n awgrymu
Tocynnau: £6-£20, edrychwch ar y wefan
www.bangor.ac.uk/english/events 31
Nosweithiau Owen Pontio’n awgrymu
Detholiad o gigs dan ofal y dyn hynod hwnnw, Owen Hughes o Recordiau Cob
32
Alvin Youngblood Hart
Hymn for Her
Mawrth 11 Medi, 8pm Gwesty’r Victoria, Ffordd Telford, Porthaethwy LL57 5DR
Iau 27 Medi, 8pm Gwesty’r Fictoria, Ffordd Telford, Porthaethwy LL57 5DR
Tocynnau: £12, Palas Print Pendref
Tocynnau: £10, Palas Print Pendref
Mae Alvin Youngblood Hart yn gymysgedd cosmig rhwng Howlin Wolf a Link Wray. Mae wedi ennill Grammy a gwobr W C Handy Blues a’i ganmol gan artistiaid mor amrywiol â Bob Dylan, Eric Clapton a Mick Taylor.
Lucy Tight a Wayne Waxing - gyda’u meics 2 fwled, coes brws/gitâr, bocs sigar 3 tant, banjo, dobro, drwm bâs, hihat ac organ geg - yw Hymn For Her, sy’n derbyn canmoliaeth lle bynnag y maen nhw’n chwarae.
www.mojomusic.com/alvin
www.hymnforher.com
Blame Sally
Sara Petite
Sul 28 Hydref, 8pm Gwesty’r Fictoria, Ffordd Telford, Porthaethwy LL59 5DR
Gwener 16 Tachwedd Gwesty’r Fictoria, Ffordd Telford, Porthaethwy LL59 5DR
Tocynnau: £10, Palas Print Pendref
Tocynnau: £12, Palas Print Pendref
Tocynnau: £10, Palas Print Pendref
Mae Sam Baker â’i steil lleisiol cras, sydd bron fel siarad, a’i ganeuon craff, sy’n sôn am brydferthwch, cymlethdodau a trasiedïau bach y byd, yn drysor o Decsas.
Mae gan y grŵp hwn o San Ffransisco sain hudol, caneuon anhygoel a dilyniant enfawr o gefnogwyr ar draws America. Maen nhw bellach yn cyrraedd Prydain am y tro cyntaf gyda chyfuniad grymus o gerddoriaeth arbennig a chrefft lwyfan fywiog.
Cerddoriaeth rocio a honci-toncio, caneuon cryf a llais rhyfeddol wedi ei ysbrydoli gan Loretta Lynn sydd gan Sara Petite o San Diego. “Gallai ei llais symud boncath oddi ar lorri sbwriel” Mojo Nixon.
Mawrth 9 Hydref, 8pm Gwesty’r Victoria, Ffordd Telford, Porthaethwy LL59 5DR
www.sambakermusic.com
Pontio’n awgrymu
Sam Baker
www.sarapetite.com
www.blamesally.com
33
Pontio’n awgrymu
Dewi Pws a Radwm = Sesh Bach Gwener 16 Tachwedd, 8pm (drysau’n agor am 7pm) Tŷ Golchi, Ffordd Caernarfon, Bangor LL57 4BT Tocynnau: £12 o Tŷ Golchi Mae Dewi a’i fand yn dychwelyd i Tŷ Golchi am noson arall llawn cerddoriaeth, dawnsio a chwerthin.
Digwyddiad Cymraeg. Iau 27 Medi, Iau 25 Hydref a Iau 22 Tachwedd, 8pm (drysau’n agor am 7pm) Tŷ Golchi, Ffordd Caernarfon, Bangor LL57 4BT Tocynnau: £12 o Tŷ Golchi neu www.wegottickets.com Y digrifwyr gorau o’r gylchdaith orau yn y byd i’w gweld yn ein noson gomedi fisol. Nosweithiau comedi i rai 18 oed+. Ddim yn addas i bobl sy’n cael eu digio’n hawdd.
34
Llun: Huw John
www.tygolchi.com
Nosweithiau Mawrth a Mercher, dydd Mercher ar ôl ysgol a bore Gwener Yr Hen Iard Nwyddau, Treborth, Bangor LL57 2HZ (tu ôl i Dafarn yr Antelope) Plant: £3, pobl ifanc: £4, oedolion £5/£6 Cysylltwch â Colin ar 07773 798199 neu e-bostiwch info@capoeiramocambo.co.uk Cafodd Capoeira ei datblygu yn grefft ymladd dan gochl dawns gan Affricaniaid yn gwrthryfela yn erbyn eu caethwasiaeth ym Mrasil. Mae dosbarthiadau Capoeira’n cynnwys ciciau ymladd, acrobateg, symudiadau dawns, cerddoriaeth a llawer o hwyl. www.capoeiramocambo.co.uk
Sadwrn 27 Hydref, 8pm
Pontio’n awgrymu
Photo: Natasha Brooks
Dosbarthiadau rheolaidd wythnosol ar gyfer pob oedran
Yr Hen Ysgubor, Stâd y Faenol, Bangor LL57 1BQ Tocynnau: £10 Ymunwch â ni yn eich gwisg ffansi fwya’ brawychus mewn noson llawn hwyl ac adloniant i ddathlu Calan Gaeaf. Mwynhewch gerddoriaeth fyw, disgo, rhostio mochyn, bar a gemau mewn lle hawdd i’w gyrraedd efo digonedd o le parcio. vaynolhalloween@gmail.com 35
Caffi Blue Sky Pontio’n awgrymu
Neuadd Ambassador, yng nghefn 236 Stryd Fawr, Bangor LL57 1PA www.blueskybangor.co.uk
Mark Abis
Martin Harley
Sadwrn 15 Medi, 8pm
Mercher 26 Medi, 8pm
(Bwyd ar gael rhwng 6:30-7:45pm) Gig: £8, pryd-dau gwrs un dewis: £10
(Bwyd ar gael rhwng 6:30 – 7:45pm) Gig: £8, pryd dau gwrs un dewis: £10
Dyma gerddoriaeth acwstig ar ei gorau – dilynwch Mark ar daith gerddorol fythgofiadwy.
Mae’r meistr ar y gitâr yn dychwelyd i’r Blue Sky ar gyfer perfformiad unigol deinamig a chyfareddol. Does dim rhyfedd fod Martin Harley wedi derbyn canmoliaeth ryngwladol.
www.markabis.com
www.martinharley.com
The Emma Black Band a Stacey Cohen Gwener 28 Medi, 8pm (Bwyd ar gael rhwng 6:30-7:45pm) Gig: £8/£6 gostyngiadau, pryd dau gwrs un dewis: £10
Perfformiad o ganeuon gwerin a gwlad gwreiddiol gan y gantores brofiadol Emma Black. Bydd y chwaraewr pedal haearn a dobro Alan Cook a’r chwaraewr bâs-dwbl hudolus Anthony Haller yn ymuno â hi. www.emmablack.com
36
Steven Finn Gwener 5 Hydref, 8pm (Bwyd ar gael rhwng 6:30-7:45pm) Gig: £8, pryd dau gwrs un dewis: £10
Mae perfformiad Steven Finn - gyda rhythm curiadau ei draed, ei ffordd egnïol o ganu’r gitâr wddw potel a’r delyn a geiriau gwych sy’n cael eu canu ag angerdd - yn drydanol. www.herding-cats.co.uk
Tocynnau o flaen llaw drwy ffonio’r Blue Sky Café: 01248 355444
Iau 11 Hydref, 8pm (Bwyd ar gael rhwng 6:30-7:45pm) Gig: £8, pryd dau gwrs un dewis: £10
Ahab Mercher 10 Hydref, 8pm (Bwyd ar gael rhwng 6:30-7:45pm) Gig: £8, pryd dau gwrs un dewis: £10
Harmonïau rhyfeddol a chaneuon medrus Ahab sy’n gyfrifol am eu nifer cynyddol o edmygwyr
“Mae Ahab yn wirioneddol dda – Americana Prydeinig o’r radd flaenaf a harmonïau pedwar llais tynn”. Simon Mayo, BBC Radio 2
Byddwch yn barod i gael eich syfrdanu gan ffidlau, cresiendos pres, harmonïau llais ac offerynnau chwyth a grŵfs pwerus sioe fyw y seithawd o Firmingham. Dyma gerddoriaeth werin heb ei thebyg o’r blaen, yn afieithus weithiau ac yn brydferth a bregus y funud nesaf. www.theolddanceschool.com
Kreg Vieselmann
Sparkwood a 21
Gwener 16 Tachwedd, 8pm
Sadwrn 24 Tachwedd, 8pm
(Bwyd ar gael rhwng 6:30-7:45pm) Gig: £8, pryd dau gwrs un dewis: £10
(Bwyd ar gael rhwng 6:30-7:45pm) Gig: £8, pryd dau gwrs un dewis: £10
Mae’r canwr a’r ysgrifennwr caneuon o Oslo ar ei daith gyntaf o amgylch Prydain yn rhan o driawd. Ei lais rhagorol sy’n mynnu sylw’r gynulleidfa, yn union fel yn ei sioeau undyn uchel eu clod.
Roc-gwerin modern yn cael ei berfformio gan gerddorion o Lannau Mersi sydd â chlust am gerddoriaeth dynn. Mae eu harmonïau lleisiol perffaith yn creu Americana cynnes a chyfeillgar.
www.kregviesselman.com
www.sparkwoodand21.co.uk
Pontio’n awgrymu
The Old Dance School
37
Gwˆyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru
Pontio’n awgrymu
Cymysgedd o leisiau aml-ieithog wrth i feirdd blaenllaw o Gymru a’r byd ymweld â Bangor, gan gynnwys Morten Søndergaard (Denmarc); Julia Fiedorczuk (Gwlad Pwyl); Eduard Escoffet (Catalonia); Estíbaliz Espinosa (Galicia); Katerina Iliopoulou (Gwlad Groeg); Yu Jian (Tsieina); Cia Rinne (Y Ffindir/Sweden/Yr Almaen); Jeroen Theunissen (Gwlad Belg); Anja Utler (Yr Almaen) a mwy
Corws Barddoniaeth Conran Llun 8 Hydref, 8pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
Tocynnau: £5/£3 gostyngiadau Bydd cerddi Saesneg a Chymraeg y bardd enwog o Fangor Tony Conran yn cael eu perfformio ar y cyd.
Llyfr y Flwyddyn Cymru Iau 4 Hydref, 6pm Ystafell Teras 3, Prifysgol Bangor Tocynnau: £5/£3 gostyngiadau Jason Walford Davies yn cyflwyno darlleniadau gan yr awduron a enwebwyd ar gyfer gwobr farddoniaeth Gymraeg Llyfr y Flwyddyn, sef Ifor ap Glyn, Gerwyn Wiliams a Karen Owen. Digwyddiad Cymraeg gyda chyfieithu ar y pryd ar gael.
In Transit Cyfieithiadau o Farddoniaeth Ryngwladol Iau 4 Hydref, 8pm Ystafell Teras 3, Prifysgol Bangor Tocynnau: £5/£3 gostyngiadau Darlleniadau gan feirdd rhyngwladol sy’n ymweld â’r Ŵyl, gyda chyfieithiadau i’r Gymraeg a’r Saesneg. 38
Tocyn penwythnos ar gyfer holl ddigwyddiadau dydd IauSadwrn: £12/£8 gostyngiadau www.northwalesinternationalpoetryfestival.org
Cystadleuaeth Top of the Bench yr RSC
Poetry Wales yn cyflwyno... Gwener 5 Hydref, 6.30pm Caffi Kyffin, 129 Stryd Fawr, Bangor
¡Viva la Poesía! Gwener 5 Hydref, 8pm Caffi Kyffin, Stryd Fawr, Bangor Digwyddiad am ddim Noson meic agored o dan arweiniad Rhys Trimble.
Enillwyr llynedd, Ysgol David Hughes
Mercher 5 Rhagfyr Yr Ysgol Gemeg, Prifysgol Bangor Rhagbrofion lleol y cwis Cemeg Cenedlaethol hwn. www. bangor.ac.uk/chemistry
Mae’n Bwrw Geiriau! Sadwrn 6 Hydref, 12pm Pier Bangor, Bangor Digwyddiad am ddim Cwrdd am hanner dydd wrth Gaffi’r Whistlestop ar y pier ar gyfer taith farddoniaeth trwy Fangor – boed law neu hindda.
A Word in Your Ear
Cyfieithiadau o Farddoniaeth Ryngwladol Sadwrn 6 Hydref, 8pm Ystafell Teras 3, Prifysgol Bangor Tocynnau: £6/£4 gostyngiadau
Darlleniadau gan feirdd rhyngwladol sy’n ymweld â’r Ŵyl, gyda chyfieithiadau i’r Gymraeg a’r Saesneg. Mi fydd perfformiadau cerddoriaeth hefyd (ewch i’r wefan am fwy o wybodaeth).
Dyddiadau amrywiol ar hyd y flwyddyn, gan gynnwys gwyliau’r ysgol Mae lleoliadau gwahanol yn cael eu defnyddio’n ddibynnol ar faint y grŵp a’r gweithgaredd Gweithdai am ddim
Pontio’n awgrymu
Darlleniadau o waith newydd gyda gwesteion arbennig.
Gweithdai cyfrifiadurol i bobl ifanc 11-19 oed. Mae’r gweithdai’n canolbwyntio ar ddarn penodol o wyddoniaeth cyfrifiadur gan ddatblygu ‘Meddwl Cyfrifiadol’ y rhai sy’n cymryd rhan. Mae pob gweithdy’n cael eu rhestru ar y wefan ac mae modd archebu lle ar-lein. www.technocamps.com 39
Cadwch mewn cysylltiad
Cadwch mewn cysylltiad
Hoffem gadw mewn cysylltiad â chi, clywed eich barn a’ch gwahodd i ddigwyddiadau i ddod. Pe hoffech ymuno â’n rhestr bostio i gael eich diweddaru ar ddigwyddiadau, newyddion a chynigion arbennig, yna ymunwch arlein: www.pontio.co.uk, ebostiwch ni: info@pontio.co.uk neu llenwch y ffurflen hon a’i dychwelyd i: Pontio, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DG.
Beth yw eich… Enw: Ebost: Cyfeiriad: Côd post:
Eich sylwadau...
Ffôn:
Ychydig o wybodaeth amdanoch chi… Caiff y wybodaeth hyn ei ddefnyddio i ddarganfod gwybodaeth am ein hymwelwyr yn unig. Oedran:
4-10 11-15 16-24 35-44 45-54 55-64
25-34 65+
Rhyw: Gwryw Benyw Grw ˆp Celfyddydau Gogledd Cymru Hoffwn hefyd derbyn diweddariadau o rhestr bostio Grw ˆp Celfyddydau Gogledd Cymru*. 40
*Mae Grw ˆp Celfyddydau’r Gogledd yn cynnwys Prifysgol Bangor & Pontio, Cyngor Celfyddydau Cymru, Creu Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Bara Caws, Galeri, Canolfan Ucheldre, Venue Cymru, Cwmni’r Fran Wen, Dawns i Bawb, Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Oriel Mostyn, Canolfan Gerdd William Mathias, Neuadd Dwyfor, Cyngor Gwynedd ac Oriel Ynys Môn.