Pontio Ar y Lôn... Gwanwyn 2015

Page 1

Gwanwyn 2015

Beth sydd ymlaen a ble i fynd yn ardal Bangor Cerddoriaeth, Ffilm, Drama, Comedi, Syrcas, Hwyl i’r Teulu a llawer mwy mewn lleoliadau’n agos i chi

1


Clawr blaen: SMASHED, Gandini Juggling, tudalen 12

Ionawr

Tudalen

Gwe 16 Penblwyddi, Camerata Cymru Cadeirlan Bangor, 7.30pm Iau 29 Sgwrs Cyn Cyngerdd Gyda’r Athro Carol Tully, Ystafell Cledwyn 3, 6.30pm Iau 29 James Gilchrist a Sholto Kynoch Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 7.30pm

Chwefror

10 11 11

Tudalen

Gwe 6 Ffilm: Northern Soul (2014) Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor 7.30pm 6 Sad 7 Dosbarth Meistr Gandini Juggling Canolfan Brailsford, Prifysgol Bangor, 3.30pm-4.30pm 13 Sad 7 Smashed! Neuadd Ogwen, 7.30pm 12 Maw 10 Comedy Central Live Clwb Pêl-droed Dinas Bangor, 8pm 14 Iau 12 Pedwarawd Allegri Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 7.30pm 15 Gwe 13 Pedwarawd Allegri Dros Ginio Cadeirlan Bangor, 1pm 15 7 Sad 14 Ffilm: Heartbeats (2010) Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm Iau 19 Celticsonic Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor, 8pm 16 7 Gwe 20 Ffilm: Leviathan (2014) Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm Sad 28 Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor, 7.30pm 17

Mawrth Sul 8 Maw 10 Iau 12 Sul 15 Rhif elusen gofrestredig: 1141565

2

Tudalen

Ffilm: The Big Sleep (1946) Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm 8 Comedy Central Live Clwb Pêl-droed Dinas Bangor, 8pm 18 Beta Testing Neuadd Ogwen, Bethesda, 7.30pm 19 Artistiaid Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru: Y Gerddorfa Linynnol Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor, 1.30pm 20

Sul 15 Penblwydd Codi’r To Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor, 7pm Maw 17-Gwe 20 Crouch, Touch, Pause, Engage Neuadd Ogwen, Bethesda, 7.30pm Gwe 20 Ffilm: What We Do In The Shadows (2014) Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm Merch 25 The Harri Parris: The Big Day Neuadd Ogwen, Bethesda, 7.30pm Gwe 27 Tynged a Dathlu, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor, 7.30pm Gwe 27 Jam yn y Bar Y Teras, Prifysgol Bangor, ar ôl y gyngerdd Sat 28 Whatever The Weather Neuadd Ogwen, Bethesda, 11am & 2pm Maw 31 Pum Cynnig i Gymro Neuadd Ogwen, Bethesda, 7.30pm

Ebrill Gwe 3 Maw 14 Gwe 17 Iau 23 Sad 25 Iau 30

Gwe 1 Pedwarawd Benyounes Cadeirlan Bangor, 1pm Sad 2 Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor, 7.30pm

8 24 25 25 26 27

Tudalen

Ffilm: Nightcrawler (2014) Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm Comedy Central Live Clwb Pêl-droed Dinas Bangor, 8pm Ffilm: Dewis Ysgolion! Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm Luminico Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor, 8pm Shh…Bang! Neuadd Ogwen, Bethesda, 11am a 2pm Pedwarawd Benyounes Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 7.30pm

Mai

21 22

9 28 9 29 29 31

Tudalen 31 32 3


OR DD

PONTIO

S

IO IN DE DD

CLOC

OR

VIC TO RI A

G L A N R AF

ON A5

MORRISONS

Cadeirlan Bangor

A5

L LT

LLT

Neuadd Reichel

IO IN DE D OR D D OR

KV AC DS

Bangor FF

OR

DD FA RR AR

ASDA

FF O

RD

GORSAF

D

FA R

RA

R

FF

FA W

DD

Cadeirlan Bangor

E IL L

RY D

FF

DD OE

AWR YD F STR

L

Canolfan Brailsford

Neuadd Reichel

EG

M&S

ST

Elen ap Robert Cyfarwyddwr Artistig Pontio @elenpontio

www.neuaddogwen.com

L CO

(Neuaddau PrichardJones, Powis a’r Teras)

FF

HE OL

Pontio ar y Lôn!

Neuadd Ogwen Bethesda

STR YD YR A

Y DD OR FF

PE NR A

L

Bangor Rhwng Bangor Uchaf a’r Bont

D

4

YC

! Clwb Pêl-droed Dinas

RD

www.bangorcityfc.com

FF

LO N

AI

Felly, ar drothwy 2015, cymerwn, yng ngeiriau doeth Bryn Terfel: “yr amser angenrheidiol er mwyn cwblhau’r prosiect yn iawn”, awn ati i ddiwygio rhaglen agoriadol canolfan Pontio ac fe ddiolchwn uwchlaw pob dim i chi gynulleidfaoedd am eich holl amynedd yn ystod y cyfnod heriol hwn. Llawn gobaith i’r dyfodol, fe’ch croesawn ni chi’n gynnes i brofi adloniant a chelfyddyd…

Neuadd Ogwen Bethesda " Dilyn arwyddion ALDI A5

Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau

O FF

Canolfan Brailsford

N

Bydd gweithgareddau prosiect BLAS yn parhau yn y gymuned ac fe gynhaliwn breswyliad cerdd a dementia Corneli Cudd 3 yn Nyffryn Ogwen.

RI

Clwb Pêl-droed Prif Ddarlithfa’r Dinas Bangor Celfyddydau Stadiwm (Neuaddau PrichardJones, Powis a’r Teras) Book People

O

RD

WE I LI DS

FF

Daw Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn ôl i’n gwefreiddio, a sefydlwn bartneriaeth arbennig gyda Chwmni Opera Cymru. I’r pegwn arall, dathlwn ben-blwydd cyntaf cerddorion ifanc

FF

EN

Awn a sioe jyglo ryngwladol Smashed Gandini Juggling, drama newydd National Theatre Wales Crouch, Touch, Pause, Engage, sioe Theatr Bara Caws Pum Cynnig i Gymro a sioeau theatr plant Teuluoedd yn Gyntaf i Neuadd Ogwen Bethesda, cyngherddau clasurol: Camerata Cymru o dan arweiniad Owain Arwel Hughes, Pedwarawd Allegri a Phedwarawd Benyounes i‘r Gadeirlan ym Mangor a gigs comedi i glwb pêl-droed Bangor.

Codi’r To – oll yn neuaddau Prichard-Jones a Powis, Prifysgol Bangor.

OD FA M

Rydym am gynnal rhaglen lawn o ddigwyddiadau yn y gymuned yn ystod gwanwyn 2015 a ninnau wedi methu cynnal tymor agoriadol oherwydd oedi yn y rhaglen adeiladu.

RH

Pontio ar y Lôn

F

R

5


Ffilm

Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor Chwefror – Ebrill 2015 £4 / £3 gostyngiadau

Sadwrn 14 Chwefror, 7.30pm

Gwener 20 Chwefror, 7.30pm

(2010) 101 munud – Drama | Rhamant Cyfarwyddwr: Xavier Dolan Sêr: Xavier Dolan, Monia Chokri, Niels Schneider

(2014) 140 munud - Drama Cyfarwyddwr: Andrey Zvyagintsev Sêr: Elena Lyadova, Vladimir Vdovichenkov, Aleksey Serebryakov

Mae Dydd Sant Ffolant yn amser gwych i wylio ffilm ramantus, ffres a chwareus gan un o sêr newydd y sinema ryngwladol, Xavier Dolan. Mae’r ffilm yn dilyn hanes a helyntion dau ffrind agos Francis (Xavier Dolan) a Marie (Monia Chokri) wrth i atyniad y ddau at fachgen ifanc golygus, Nicolas (Niels Schneider), fygwth chwalu’r berthynas glos sydd wedi bodoli rhwng y ddau. Mae’r ffilm yn cynnig llygaid clir a gogwydd gonest ar oblygiadau cariad a chyfeillgarwch pan mae chwant am rywun arall yn gafael.

Ffilm fawr, bwysig, ddifrifol o Rwsia yw Leviathan. Dyma ffilm ddiweddaraf Andrey Zvyagintsev, a oedd yn gyfrifol am The Return (2003), The Banishment (2007) ac Elena (2011). Mewn pentref bach ger y môr mae teulu cyffredin yn ceisio byw eu bywydau. Mae Nikolai (Aleksey Serebryakov) yn rhedeg garej trwsio ceir ac yn byw gyda’i wraig a’i fab sydd yn ei arddegau. Mae’r maer lleol yn ceisio dwyn tir, busnes a chartref Nikolai trwy ddefnyddio twyll a grym y gyfundrefn fiwrocrataidd.

Heartbeats

Leviathan

Gwener 6 Chwefror, 7.30pm

Northern Soul (2014) 102 munud – Drama | Cerddoriaeth Cyfarwyddwraig: Elaine Constantine Sêr: Antonia Thomas, Steve Coogan, Elliot James Langridge Ffilm Brydeinig boblogaidd dros ben sy’n cyfuno stori dau fachgen ifanc, John a Matt (Elliot James Langridge a Josh Whitehouse), wrth i’w bywydau cael eu trawsnewid am byth ar ôl iddynt ymweld â chasino Wigan a darganfod cerddoriaeth soul Americanaidd.

6

7


Sul 8 Mawrth, 7.30pm

The Big Sleep (1946) 114 munud – Trosedd | Ffilm Noir | Dirgelwch Cyfarwyddwr: Howard Hawks Sêr: Humphrey Bogart, Lauren Bacall, John Ridgley

Film

Gwener 20 Mawrth, 7.30pm

What We Do In The Shadows (2014) 89 mun – Comedi | Arswyd Cyfarwyddwyr: Jemaine Clement, Taika Waititi Sêr: Jemaine Clement, Taika Waititi, Jonathan Brugh Hon yw ffilm ddiweddaraf y comedïwr dawnus Jemaine Clement, seren y gyfres deledu Flight of The Conchords. Comedi digri iawn sy’n dilyn hynt a helynt tri o fampirod sy’n rhannu tŷ gyda’i gilydd yn Seland Newydd. Mae’r ffilm yn dilyn arddull ‘mockumentary’ sy’n ein galluogi i weld ymddygiad y creaduriaid arswydus hyn mewn golau gwahanol! Mae hon yn ffilm sydd wedi cael ei chanmol a’i chymharu yn ffafriol gyda’r clasur gomedi Shaun of the Dead am ddarganfod comedi gwych ynghanol yr arswyd.

Dyma ffilm sy’n cynnig profiad sinematig heb ei ail. Mae’r sgript sy’n addasiad gan William Faulkner o nofel 1939 gan Raymond Chandler yn cynnig cyfres o gymeriadau anwadal, twyllodrus sy’n llawn parablu ffraeth; ceir digonedd o herian a geiriau amwys rhwng y gwahanol gyplau. Mae’n stori droellog sy’n ddigon i achosi cur pen os mai datrys plot y ffilm oedd prif bwynt gwylio’r ffilm.

8

Ffilm

Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor Chwefror – Ebrill 2015 £4 / £3 gostyngiadau

Film

Gwener 3 Ebrill, 7.30pm

Nightcrawler (2014) 117 munud – Trosedd | Drama | Drama Gyffrous Cyfarwyddwr: Dan Gilroy Sêr: Jake Gyllenhaal, Rene Russo, Bill Paxton Mae Lou Bloom (Jake Gyllenhaal) yn gymeriad rhithiol, yn droseddwr cyson sydd un noson yn darganfod gyrfa a dyfodol gwbl newydd ac annisgwyl. Wrth yrru ar hyd priffyrdd LA yn hwyr yn y nos mae Lou yn dod ar draws criw o ddynion camera llawrydd sy’n gwario’r nosweithiau neon yn dilyn galwadau’r cyhoedd i’r gwasanaethau brys er mwyn cyrraedd lleoliad damweiniau erchyll, tanau, a throseddau treisgar. Cyn hir mi fydd llwyddiant Lou ym myd y nightcrawlers yn disodli ei gymeriad bregus unwaith ac am byth.

Gwener 17 Ebrill, 7.30pm

Dewis Ysgolion! Bydd ffilm olaf nosweithiau ffilm Pontio tymor y Gwanwyn yn cael ei dewis gennych chi! Os ydych yn hoffi ffilm ac yn dal i fod yn yr ysgol neu dosbarth 6, yna gallwch anfon eich dewis o ffilm atom. Gwnewch yn siŵr fod y ffilm â gradd 15 neu iau, yna anfonwch e-bost, tweet neu neges ar ein cyfrif Facebook gyda’ch dewis, eich enw a’ch ysgol erbyn 27 Mawrth, ac rydym yn addo i raglennu’r dewis lleol mwyaf poblogaidd. Bydd popcorn am ddim i bawb o’ch ysgol os caiff eich ffilm ei ddewis! #DewisFfilmChoice info@pontio.co.uk 9


Ionawr

Gwener 16 Ionawr, 7.30pm

Penblwyddi

CYNGERDD

Franz Schubert: Winterreise Yn dilyn eu perfformiad llawn ysbrydoliaeth o Die Schöne Müllerin y llynedd, bydd deuawd adnabyddus y tenor James Gilchrist a’r pianydd Sholto Kynoch yn dychwelyd i Fangor gydag ail gylch caneuon Schubert. Mae Winterreise yn dilyn ôl troed cariad a dorrodd ei galon, sydd newydd adael y ddinas i geisio cysur gan gerdded yn unigedd y dirwedd aeafol. Dewiswyd recordiad James Gilchrist yn 2011 o Winterreise gan gylchgrawn BBC Music yn CD y Mis, a chan The Independent yn Albwm yr Wythnos. Mewn perfformiad byw y mae effaith deimladwy lawn y gwaith swynol hwn i’w chlywed ar ei gorau. Datganiad na ddylech ei golli.

Unawdydd: David Childs Traethydd: Will Thomas Mae Owain Arwel Hughes yn dathlu penblwyddi yng ngherddoriaeth Karl Jenkins, Paul Mealor, Dylan Thomas a mwy Karl Jenkins: Concerto Paul Mealor: A Welsh Prayer Gareth Wood: Under Milk Wood Suite: “Rum & Laverbread” Mark Thomas: What Has Become Of Him Now Sefydlwyd Camerata Cymru yn 2005 gan yr arweinydd blaenllaw o Gymru, Owain Arwel Hughes, gyda’r bwriad craidd o greu cerddorfa lawrydd o’r safon ryngwladol uchaf. Mae Camerata Cymru wedi perfformio yn rhai o leoliadau perfformio mwyaf mawreddog y wlad, gan gynnwys Neuadd Dewi Sant, Caerdydd; Neuadd Cadogan, ac - ar wahoddiad Tywysog Cymru - ym Mhalas St James, Llundain.

Iau 29 Chwefror, 7.30pm

James Gilchrist (tenor) a Sholto Kynoch (piano)

Owain Arwel Hughes CBE Camerata Wales

Cadeirlan Bangor £12 / £10 gostyngiadau / £3 myfyrwyr

10

CYNGERDD

James Gilchrist

Owain Arwel Hughes

Sgwrs cyn y sioe 6.30pm

David Childs

Mae ‘Die Winterreise’ gan Wilhelm Müller (Taith y Gaeaf) yn fwyaf adnabyddus yng nghyd-destun gosodiad Schubert. Bydd yr Athro Tully yn craffu ar yr ysbrydoliaeth y tu ôl i waith Müller fel cynnyrch Rhamantiaeth Almaenig ac yn gosod y gwaith llenyddol o fewn ei gyddestun diwylliannol ac artistig ehangach. Yn ganolog i hyn mae dwy elfen y teitl: y gaeaf, sef tymor prudd-der a dadfeiliad, a’r daith, sef un o brif themâu llên Ramantaidd. Pam dewisodd Müller

Sholto Kynoch Will Thomas

Neuadd Powis, Prifysgol Bangor £14 / £12 gostyngiadiau / £3 myfyrwyr y thema hon, a beth a’i gwnaeth mor boblogaidd - gan gynnwys, wrth gwrs, gyda Schubert? Athro Almaeneg ym Mhrifysgol Bangor yw’r Dirprwy Is-ganghellor Carol Tully. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar gyfnewid diwylliannol yn Ewrop yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn Rhamantiaeth Almaenig.

Ystafell Cledwyn 3, Prifysgol Bangor Am ddim - dylid archebu lle’n gynnar 11


Sadwrn 7 Chwefror, 7.30pm

SYRCAS

Gandini Juggling yn cyflwyno

Smashed Celfyddyd dywyll jyglo. 4 set o lestri, 9 jyglwr, 80 o afalau. Estynnir gwahoddiad cynnes i chi i de parti na fyddwch chi byth yn ei anghofio....

Mae Gandini Juggling ar flaen y gad ym myd y syrcas gyfoes ers dros 20 mlynedd, ac wedi perfformio mewn dros 40 o wledydd, ac yn awr maent yn dod â’u sioe anhygoel SMASHED i Fethesda. Dyma gyfle prin i ni yng ngogledd Cymru weld y gymysgedd syfrdanol hon o syrcas a theatr, wedi ei hysbrydoli gan waith Pina Bausch, sydd wedi cyfareddu cynulleidfaoedd drwy’r byd. ‘Dyfeisgar a hynod o ddoniol.’ The Independent ‘Darn o theatr sy’n syfrdanu. Pleser pur.’ Time Out ‘Cymysgedd unigryw o jyglo, clownio, dawns a dweud stori.’ What’s On Stage ‘Perfformiad sy’n llifo’n rhwydd ac sy’n cyffwrdd â’r gynulleidfa’. The Stage Taith a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Lloegr a Chyngor Celfyddydau Cymru. Addas i blant 8 oed ac i fyny.

Dosbarth M Gandini Ju eistr ggling

Rhowch dro ar jy Gandini mew glo gydag arbenigwyr nd rhad ac am d osbarth meistr sy’n dim.

Mae tîm Gan dini yn hyffo rddwyr profiadol dro sb yn rhai o ysgo en sydd wedi dysgu lion syrcas go rau’r byd. Bydd dau wei thdy ar y pry d yn cael eu harwain ga n berfformw yr Gandini: un yn addas ar llall ar gyfer gyfer oedran 12+ a’r 18+ oed. Mae’r tocynn au ond nifer cyfy am ddim ond dim ng Rydym yn aw edig sydd ar gael. grymu eich b od yn archebu lle yn gynnar.

Sadwrn 7 Chw efror, 3.30pm – 4.30pm Canolfan Brails ford Am ddim

Neuadd Ogwen, Bethesda £12 / £10 gostyngiadau

12

13


Chwefror Mawrth 10 Chwefror, 8pm

Pedwarawd Allegri COMEDI

Gary Delaney

Felicity Ward

Matt Rees

Mae Gary Delaney yn ddigrifwr chwim a sydyn gyda llinellau bachog - caiff ei ystyried yn gyffredinol fel y comedïwr a gaiff ei ddyfynnu fwyaf ym maes comedi. Mae Gary yn westai rheolaidd ar Mock The Week ac wedi ymddangos ar One Night Stand ar sianel Dave, The Comedy Store a Comedy Blue ar Comedy Central, ac ar Robert’s Web ar Sianel 4. “Chwip o linellau cofiadwy.” – Daily Telegraph @GaryDelaney

Mae Felicity Ward yn ddigrifwraig standyp, perfformiwr comedïau, awdures ac actores o Awstralia sydd wedi ennill llawer iawn o wobrau. Perfformiodd Felicity ei sioe gomedi standyp lawn, Felicity Ward’s Ugly As A Child Variety Show, am y tro cyntaf yn y Melbourne Fringe yn 2008. Daeth ei sioe hunangofiannol yn llwyddiant masnachol ac yn llwyddiant gyda’r beirniaid. Yn 2013 symudodd Felicity i Lundain ac mae wedi bod yn perfformio’n rheolaidd yng nghlybiau’r DU. “Mae ei bwrlwm a’i hamseru comig yn wych, ac yn aml mae ei deunydd yn broffwydol ac yn gwneud i chi chwerthin allan yn uchel.” – Cylchgrawn Gŵyl Caeredin @felicityward

Mae’r digrifwr o Gymru, Matt Rees, sydd wedi ennill nifer o wobrau, wedi creu llawer o gynnwrf dros y blynyddoedd diwethaf gyda’i fath unigryw o jôcs crefftus a’i ddull sych o’u cyflwyno. Enwebwyd Rees, o Faesteg, i’r wobr Chortle Awards ac mae wrthi’n ennill enwogrwydd yn y byd comedi. “Meddwl comedi gwreiddiol go iawn.” – The Guardian @themattrees

Clwb Pêl-droed Bangor £10 / £8 gostyngiadau 14

CYNGERDD

Iau 12 Chwefror, 7.30pm

Gwener, 13 Chwefror, 1pm

Haydn Op.103 (cwblhawyd gan Bill Drabkin) Pedwarawd Llinynnol Alec Roth Rhif 3 Beethoven Op.127

Beethoven Op.18 Mendelssohn Op.80

Cyngerdd Nos Bydd un o grwpiau siambr hynaf Gwledydd Prydain, Pedwarawd Allegri, yn dychwelyd i Fangor eleni, gan ddathlu ei benblwydd yn 60 oed. Mae’r rhaglen hon yn cynnwys pedwarawd olaf Haydn, a gwblhawyd yn ddiweddar gan William Drabkin ar sail y nodiadau bras a ysgrifennodd Haydn, ac a berfformiwyd am y tro cyntaf yn Llundain eleni. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys 3ydd pedwarawd Alec Roth, sydd bob amser yn boblogaidd ymysg cynulleidfaoedd, a phedwarawd diweddar epig Beethoven yn E meddalnod, Op.127. Yn ddiweddar, mae’r Pedwarawd wedi rhyddhau CD o Bedwarawd rhif 6 Matthew Taylor ar Label Toccata Classics, ynghyd â CD arall o gerddoriaeth y cyfansoddwr a anwyd yn Bolzano, Ludwig Thuille, cyfaill a chyfoeswr i Richard Strauss a chanddo ddeunydd a ddarganfuwyd yn ddiweddar ac nad oedd wedi’i recordio o’r blaen. Mae projectau ar y gorwel yn cynnwys gwahoddiadau i’r Eidal ac i Uzbekistan, dau berfformiad cyntaf yn y byd o Bedwarawdau gan Alec Roth, a llawer iawn o ddathliadau pen blwydd ar draws y DU.

Cyngerdd amser cinio Bydd Pedwarawd Allegri yn chwarae mewn cyngerdd awr ginio a fydd yn cynnwys gwaith cynnar gan Beethoven, i’w ddilyn gan Bedwarawd diweddar gan Mendelssohn, a gyfansoddwyd ychydig ar ôl i’w chwaer farw, ac sy’n adlewyrchu’r stormydd a oedd ym mywyd Mendelssohn. “Mae’r Allegri yn chwarae gyda dwysder, ond yn osgeiddig: maent yn gwybod pa bryd mae gadael i’r gerddoriaeth anadlu.” – David Cairns, Sunday Times, Mehefin 2013

Cadeirlan Bangor £10 / £8 gostyngiadau / £3 myfyrwyr

Neuadd Powis, Prifysgol Bangor £12 / £10 gostyngiadau / £3 myfyrwyr

15


Iau 19 Chwefror, 8pm Electroacwstig CYMRU yn cyflwyno

CelticSonic Celfyddyd sonig o Gymru a’r Alban gyda Kathy Lane Mae gwaith Kathy Lane yn cyfosod recordiadau maes, deunyddiau archifol, cyfweliadau a sgyrsiau, a seiniau offerynnol synthesedig ac acwstig, er mwyn archwilio cysylltiadau rhwng pobl, lleoedd, hanes a’r amgylchedd, gan ganolbwyntio’n aml ar syniadau ynglŷn â’r cartref, mudo a dadleoli. Mae’r chwe gwaith sy’n ffurfio Cyfres yr Hebrides wedi deillio o gariad tymor hir tuag at yr Hebrides Allanol, ynysfor anghysbell o ynysoedd 130 o filltiroedd ar ei hyd, ryw 40 milltir oddi ar arfordir gogledd-orllewinol yr Alban. Mae pob gwaith yn defnyddio cymysgedd o recordiadau maes a geiriau llafar a gasglwyd trwy gyfweliadau a sgyrsiau, yn ogystal â deunydd llafar hanesyddol o archifau cenedlaethol a lleol yn yr Alban, gyda’r bwriad o archwilio agweddau ar fywyd yr ynysoedd trwy gyfrwng detholiad o seiniau wedi’u cyfosod.

Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor £10 / £8 gostyngiadau / £3 myfyrwyr

16

CELF SONIG

Sadwrn 28 Chwefror, 7.30pm

Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor

CYNGERDD

Chris Collins a Steffan Morris (arweinyddion) Bydd Pontio a’r Ysgol Cerddoriaeth yn dathlu canmlwyddiant a hanner geni Jean Sibelius gyda pherfformiad o Symffoni Gyntaf y cyfansoddwr o’r Ffindir. Mae’n waith ardderchog, yn fyfyrgar ac yn ddyrchafol am yn ail, yn cyfleu eangderau agored y dirwedd yn y Ffindir a grym a dirgelwch mytholeg Nordig. Bydd enillydd cystadleuaeth unawdydd concerto yr Ysgol Cerddoriaeth yn ymuno â’r gerddorfa. Rydym yn falch o wahodd y sielydd Steffan Morris yn ôl i Fangor eleni, y tro hwn fel arweinydd gwadd i rannu llwyfan gyda Chris Collins. Steffan Morris

Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor £10 / £8 gostyngiadau, £3 myfyrwyr

17


Mawrth

Mawrth 10 Mawrth, 8pm

Andy Robinson

Phil Jerrod

A hithau newydd ategu perfformiadau rhai o brif ddigrifwyr y DU ar eu teithiau o flaen tai llawn, yn cynnwys Chatty Man ar Sianel 4, Alan Carr, seren The Last Leg, Josh Widdicombe a’r gorau o’r Alban, Kevin Bridges, mae Suzi Ruffell wrthi’n teithio ar hyn o bryd gyda’i hail sioe, Social Chameleon, y bu disgwyl brwd amdani. Ynddi, mae’r ‘stand-up gem’ (The Guardian) yn cwestiynu pam y bu’n treulio 27 mlynedd yn ceisio gwneud i bawb ei hoffi.

Cychwynnodd Phil Jerrod ar ei yrfa stand-up o dan Angus Steakhouse yn 2012. Ers hynny, mae wedi methu ei PhD, rhoi’r gorau i’w swydd ym myd cyhoeddi, a difyrru cynulleidfaoedd ar hyd a lled y wlad gan refru a rhuo’n goeth ar broblemau bywyd modern sy’n amlwg yn amhosibl eu dirnad. Yn ddiweddar, enwebwyd ef ar gyfer Gwobr Digrifwr y Flwyddyn 2014 y Leicester Mercury, cyrhaeddodd hefyd y rownd gynderfynol yn So You Think You’re Funny New Act of the Year a’r gogynderfynol yn yr Amused Moose Laugh Off.

‘Wedi mwynhau’n eithriadol.’ – British Comedy Guide @suziruffell

“Set wedi ei gyflwyno yn berffaith, wedi ei amseru’n berffaith a chomedi gogoneddus.” - Broadway Baby @PhilJerrod

SYRCAS

Circus Geeks yn cyflwyno

Beta Testing Mae Beta Testing yn gybolfa gymysglyd o is-ddiwylliant jyglo a dylanwadau megis sgyrsiau TED, The Hitch Hikers Guide to the Galaxy ac ofni hadog. Dechreuodd Circus Geeks fel blog, a sefydlwyd yn dilyn sgwrs yn hwyr y nos am jyglo, celfyddyd a sut i wneud y bitsa berffaith. Mae Beta Testing wedi datblygu o rai o’r cyfraniadau mwyaf poblogaidd i’r blog, sydd â chynulleidfa ryngwladol mewn cornel ymylol o’r rhyngrwyd. Ymunwch â’r cast o 3 wrth iddynt chwilota drwy’r archifau i gael hyd i’r darnau rhyfeddaf a’u rhannu efo chi. Addas ar gyfer oed 12+.

Stuart Leech

Mae Andy Robinson wedi perfformio dros 2,000 o weithiau ar draws y wlad, mewn Clybiau Glee, Comedy Stores, Highlights a Jongleurs a hefyd mewn mannau cymharol ddi-nod. Mae Andy wedi gweithio ar Never Mind The Buzzcocks, Shooting Stars, Later with Jools Holland, Jonathan Ross, yn ogystal ag ar ddwsinau o rai eraill a all fod yn gyfarwydd i chi, a rhai a fydd bendant yn anghyfarwydd. ‘Mae Andy Robinson yn bleser pur i weithio gydag e…yn hael, doniol a hamddenol.’ – Jo Brand

Suzi Ruffell

Iau 12 Mawrth, 7.30pm

Neuadd Ogwen, Bethesda £10 / £8 gostyngiadau

Clwb Pêl-droed Dinas Bangor £10 / £8 gostyngiadau 18

19


Sul 15 Mawrth, 1.30pm

CYNGERDD AMSER CINIO

Sul 15 Mawrth, 7pm

Cyngerdd Penblwydd 1af Codi’r To!

Artistiaid Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru: Y Gerddorfa Linynnol Vivaldi/Piazzolla - Yr Wyth Tymor Cyfarwyddwr ac unawdydd - David Adams

Wedi’i ysbrydoli gan y dull byd enwog El Sistema o Venezuela, mae Codi’r To yn brosiect adfywio cymunedol, sy’n gweithio gydag ysgolion cynradd a’u cymunedau i ddarparu profiadau cerddorol rheolaidd ac addysg offerynnol i flwyddyn gyfan o blant.

Ymunwch â ni i glywed aelodau un o gerddorfeydd gorau Cymru’n perfformio’r darn mwyaf poblogaidd o gerddoriaeth glasurol. Mae pawb yn adnabod Pedwar Tymor Vivaldi, ond ni fyddwch wedi clywed y gwaith yn union fel hyn. Ar ôl pob un o dymhorau Vivaldi, ceir ymateb angerddol, mewn arddull tango, gan y cyfansoddwr Astor Piazzolla o’r Ariannin, yn chwistrellu gwres o Dde America i noson o wanwyn yng Nghymru.

Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor £14 / £12 gostyngiadau, £5 myfyrwyr

20

Dewch i ddathlu penblwydd cyntaf Codi’r To gyda cherddorion ifanc Blwyddyn 4 Ysgol Glancegin, Bangor, fydd yn siwr o godi’r to gyda’i côr, band pres ac ensemble taro bywiog!

Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor £4 / £2 gostyngiadau

Ffoto: Brian Tarr

Ymunwch â ni am de, coffi a bara brith yn Neuadd Powis ar ôl y cyngerdd am gyfle i gwrdd â’r cerddorion mewn sefyllfa anffurfiol.

CYNGERDD

21


Mawrth 17 – Gwener 20 Mawrth, 7.30pm

DRAMA

National Theatre Wales, Out of Joint & Arcola Theatre gyda Sherman Cymru yn cyflwyno

Crouch, Touch, Pause, Engage

Sgwrs ar ôl sioe AM DDIM Cymerwch gyfle i siarad â’r Cyfarwyddwr Artistig Max Stafford-Clark ac aelodau’r cwmni am ddulliau gweithio Out of Joint a’u cyd-gynhyrchiad diweddaraf Crouch, Touch, Pause, Engage gyda National Theatre Wales..

Ysgrifennwyd gan Robin Soans Cyfarwyddwyd gan Max Stafford-Clark “Roeddwn yn gwneud rhywbeth na wnaethpwyd o’r blaen, ac os mai chi yw’r cyntaf i wneud rhywbeth, mae’n rhaid i chi fod yn barod i gymryd y sh*t.” Ar noswyl un o gemau pwysicaf ei yrfa, derbyniodd arwr rygbi Cymru Gareth Thomas rybudd: roedd y papur newydd The Sun yn mynd i ddatgelu ei fod yn hoyw. Dyma stori dau enw Cymreig gafodd eu lambastio, ond nid eu trechu, gan sylw yn y wasg; Gareth “Alfie” Thomas, 100 cap i Gymru, unwaith yn gapten ar ei wlad, a nawr yn chwaraewr hoyw amlycaf y byd; a thref ei febyd, Pen-y-Bont ar Ogwr.

Mawrth 17 Mawrth

Gan weithio gydag Alfie ei hun, a phobl ifanc ym Mhen-y-Bont ar Ogwr, mae dau o gwmnïau theatr mwyaf cyffrous y DU - National Theatre Wales ac Out of Joint – wedi dod at ei gilydd i adrodd stori Gymreig arbennig am chwaraeon, gwleidyddiaeth, cyfrinachau, bywyd a dysgu i fod yn chi eich hun. Addas ar gyfer oed 14+ Sioe Saesneg.

Mercher 18 Mawrth, 7.30pm

Perfformiad Gyda Geiriau ar Sgrin Mae hyn yn darparu mynediad i’r theatr ar gyfer pobl fyddar, wedi’u byddaru neu bobl â nam ar eu clyw. Mae’r sgript yn cael ei throsglwyddo i sgrin ar, neu ger y llwyfan gan berson hyfforddedig. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol megis cerddoriaeth, sain neu effeithiau arbennig. Ni ddylai’r sgriniau capsiwn dynnu sylw at aelodau eraill o’r gynulleidfa.

Neuadd Ogwen, Bethesda £14 / £12 gostyngiadau, cysylltwch â’r swyddfa docynnau i archebu ar gyfer ysgolion. #ntwalfie

22

£8 Cynnig arbennig i fyfyrwyr: perfformiadau nos Fawrth a nos Iau yn unig, tocyn i gynnwys cludiant bws fydd yn gadael Canolfan Brailsford am 6.30pm a Phrif Adeilad y Celfyddydau, Bangor am 6.40pm 23


Mercher 25 Mawrth, 7.30pm

DRAMA

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cyflwyno

Cynhyrchiadau Mai oh Mai yn cyflwyno

The Harri-Parris: The Big Day

Tynged a Dathlu Erbyn iddo ysgrifennu ei Bedwaredd Symffoni roedd gan Tchaikovsky obsesiwn gyda’r syniad o dynged. O’r ffanffer agoriadol rymus hyd at y diwedd mawreddog, mae’r un mor ddramatig ag y disgwyliech gan feistr symffonïau Rwsia.

Gan Llinos Mai Sioe gomedi gerddorol newydd sbon o’r un stabl creadigol a gyflwynodd The Harri-Parris: The Leaving Do.

Yn hollol groes, mae Agorawd Gŵyl Shostakovich bron yn ysgafala, yn berwi gan lawenydd di-ffrwyn. Mae yma hefyd ddwy o’r agorawdau utgorn mwyaf poblogaidd, gan Haydn ac Arutiunian. Shostakovich Agorawd Gŵyl Arutiunian Concerto Utgorn Haydn Concerto Utgorn Tchaikovsky Symffoni Rhif 4

Teulu o ffermwyr o Orllewin Cymru yw’r Harri-Parris. Yn ddoniol a’n gwbl gamweithredol, eu hoff beth yn y byd yw ymwelwyr. A chi yw’r rheina! Mae Anni, unig ferch y fferm yn priodi, ac felly mae’r Harri-Parris eisiau dathlu’r diwrnod mawr gyda chi. Wel, nid y diwrnod mawr ei hun wrth gwrs, ‘dyn nhw ddim yn graig o arian. Ond beth am y noson gynt? Y noson maen nhw’n mynd i gwrdd â’r cerddor annibynnol a llysieuwr o ddarpar- ŵr Anni, am y tro cyntaf un. Beth yn y byd galle fynd o’i le?! Ewch i ffeindio’ch hetiau posh ac ymunwch â’r Harri-Parris am noson o adloniant pur drwy ganeuon, straeon a chacennau. Lot o gacennau.

Mewn partneriaeth â Chapter, Torch Theatre a Little Wander. Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Bristol Ferment. @TheHarri_Parris

Neuadd Ogwen, Bethesda £12 / £10 gostyngiadau 24

Sioe Saesneg, addas ar gyfer 14+

Warren Orchard

“Nes i garu’r sioe. Yn ddoniol, gwreiddiol ac yn eich cyffwrdd” Les Dennis ar ‘The Leaving Do’.

CYNGERDD

Gwener 27 Mawrth, 7.30pm

Arweinydd – Ben Gernon Utgorn – Tine Thing Helsesh

Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor £15 / £13.50 gostyngiadau Tocynnau Teulu: £18 / £12.50, Myfyrwyr: £3

Ar ôl y cyngerdd

Jam yn y Bar Ymunwch â ni ym mar Teras ar ôl y cyngerdd ar gyfer rhywbeth bach ychwanegol gyda rhai o berfformwyr gorau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Digwyddiad ar y cyd rhwng Pontio a’r BBC. 25


Sadwrn 28 Mawrth, 11am & 2pm M6 Theatre Company mewn cydweithrediad â Polka Theatre yn cyflwyno

Whatever the Weather Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Gilly Baskeyfield Mae cynhyrchiad llawn dychymyg M6 Theatre i blant bach iawn wedi’i leoli ym myd hudolus tŷ tywydd alpaidd traddodiadol. Mae’r tŷ rhyfeddol yma’n dweud wrthym pa dywydd y dylem ei ddisgwyl heddiw. Pan mae’r ddynes fach yn dod allan mae am fod yn heulog! Pan ddaw’r dyn bach allan mae am fwrw glaw! Allai’r ddau gymeriad ddim bod yn fwy gwahanol i’w gilydd. Ond beth sy’n digwydd pan mae gwyntoedd yn newid cyfeiriad? Chwythu mor galed fel bod popeth yn mynd bendramwnwgl? Beth fydd ein pâr hoffus yn ei ddysgu yn eu hamodau newydd ac anghyfarwydd?

THEATR TEULUOEDD YN 1AF

Mawrth 31 Mawrth, 7.30pm

DRAMA

Pum Cynnig i Gymro Gan Dyfan Roberts Dianc o garcharau rhyfel yr Almaen bum gwaith yn ystod yr Ail Ryfel Byd - dyna un o gampau y diweddar John Elwyn Jones. Camp arall oedd ei ddawn lenyddol wrth ysgrifennu’r stori mewn cyfrol sy’n byrlymu o antur a beiddgarwch. “Cymeriad eofn, anystywallt, hwyliog, penderfynol a di-flewyn-ar-dafod” – dyna ddisgrifiad Nesta Wyn Jones ohono. Yn y sioe hon, bydd Dyfan Roberts yn mynd dan groen yr arwr o Ddolgellau, gyda Meilir Rhys Williams yn portreadu’r J E ifanc. Ar sail y llyfr, ei gyfrolau hunan-gofiannol, ac ymchwil pellach i’w gefndir, bydd yn tyrchu i’r hyn oedd yn gyrru’r cymeriad unigryw hwn yn ei flaen, a’i awydd anorchfygol am ddianc.... Cast: Dyfan Roberts a Meilir Rhys Williams Cyfarwyddo: Betsan Llwyd

Gall fwrw, gall fynd braidd yn wyntog, ond rhaid i’r sioe fynd yn ei blaen beth bynnag fo’r tywydd!

Cynhyrchiad Cymraeg

Addas ar gyfer oed 3+ Sioe Saesneg

Neuadd Ogwen, Bethesda £10 / £8 concessions

Neuadd Ogwen, Bethesda £5 / £3 gostyngiadau 26

27


Ebrill

Iau 23 Ebrill, 8pm Electroacwstig CYMRU yn cyflwyno

Lumínico

Mawrth 14 Ebrill, 8pm

Tom Wrigglesworth Ivo Graham

Ed Gamble

Mae Tom Wrigglesworth, y dyn doniol o Sheffield yn Swydd Efrog, yn ddigrifwr dawnus, yn gyflwynydd radio a theledu ac yn artist trosleisio. Mae Tom wedi dod i amlygrwydd yn bennaf ar sail ei sioeau chwedleua byw a’i raglenni comedi ar radio’r BBC, sy’n edrych ar agweddau digri ac emosiynol cysylltiadau teuluol.

Dechreuodd Ed Gamble berfformio tra oedd yn y brifysgol ac aeth â nifer o sioeau sgets i ŵyl Ymylol Caeredin. Dros y pum mlynedd ddiwethaf mae Gamble wedi gweithio’n bennaf gyda Ray Peacock, a chydag ef mae wedi cyflwyno dwy gyfres wahanol o bodlediadau, sef dros 100 o benodau i gyd. Mae wedi ymddangos hefyd ar y teledu, gan berfformio set chwarter awr ar fersiwn estynedig o Russell Howard’s Good News yn niwedd 2010.

“Dewisodd dduwiau comedi Tom Wrigglesworth i gyflawni pethau mawr” Scotsman @tomwriggleswort

CELF SONIG

Yn ei flwyddyn gyntaf o berfformio, enillodd Ivo Graham y gystadleuaeth bwysig, So You Think You’re Funny New Act yng Ngŵyl Ymylol Caeredin 2009 ac fe’i henwebwyd am wobr y Digrifwr Newydd Gorau yng Ngwobrau Chortle. Tra oedd yn dal yn y brifysgol yn Rhydychen dechreuodd wneud gigs proffesiynol o gwmpas y wlad, a hefyd perfformiodd dramor yn y Montreal Just For Laughs Festival ac yn yr Hollywood Fringe “Set sydd yn argyhoeddi gan y comediwr dysgedig hwn” **** – The Independent @IvoGraham

Mae’r triawd rhyngddisgyblaethol o Fecsico, Lumínico, yn defnyddio fideo amser real, technoleg newydd, goleuo, tryledu sain, ac electrónica o greu cyfuniad diwnïad o sain a delwedd. Mae’r arbrawf amlddisgyblaethol syfrdanol hwn yn defnyddio synesthesia i ysgogi’r synhwyrau a threiddio’r cydwybod. Gyda’r ffliwtydd/ cyfansoddwr Alejandro Escuer, y cyfansoddwr/ artist sain Rodrigo Sigal a’r artist gweledol José Luis García Nava.

Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor £10 / £8 gostyngiadau / £3 myfyrwyr

@EdGambleComedy

Clwb Pêl-droed Dinas Bangor £10 / £8 gostyngiadau 28

29


Sadwrn 25 Ebrill, 11am a 2pm Peut-être Theatre yn cyflwyno

THEATR TEULUOEDD YN 1AF

Pedwarawd Benyounes

Shh… Bang!

Gwener 1 Mai, 1pm

Cyngerdd dros ginio i blant - Papa Haydn

Perfformiad dawns-theatr i blant a’u hoedolion, sy’n archwilio tawelwch a sŵn yn chwareus. Mae “Tawel” yn byw mewn byd distaw o gymylau a meddalwch. Y drws nesaf mae “Uchel” yn casglu mwy a mwy o synau a synau gwyllt. Mewn droriau a chesys mae boings, sblashis, clepiau a swsial. Sut ar wyneb y ddaear all ‘Tawel’ ac ‘Uchel’ ddod o hyd i ffordd i wrando ar ei gilydd? Mae Theatr Peut-être yn creu gwaith rhyngweithiol i gynulleidfaoedd ifanc gan ddefnyddio pethau gweledol cryf, symudiad corfforol a cherddoriaeth.. Yn addas i rai 3 oed a hŷn

Neuadd Ogwen, Bethesda £5 / £3 gostyngiadau

Iau 30 Ebrill, 7.30pm

Cyngerdd Nos Schubert Pedwarawd Llinynnol yn D leiaf D.880 ‘Death and the Maiden’ George Crumb ‘Black Angels’ Barber Adagio Ar ôl ennill Cystadleuaeth Ryngwladol gyntaf Sándor Végh i Bedwarawdau Llinynnol yn Budapest yn 2012, ac ennill yr ail wobr yng Nghystadleuaeth Pedwarawd Llinynnol Rhyngwladol Orlando yn 2014, mae Pedwarawd Benyounes wrthi’n ennill enw da fel un o’r pedwarawdau ifainc mwyaf atyniadol, egnïol a llwyddiannus i ddod o’r DU yn y blynyddoedd diwethaf.

Neuadd Powis, Prifysgol Bangor £12 / £10 gostyngiadau / £3 myfyrwyr

30

CYNGERDD

Pwy oedd Haydn? A pham Papa Haydn? I blant Cyfnod Allweddol 2 (Blwyddyn 5 a 6) Cyngerdd awr ginio i blant cynradd - awr o gerddoriaeth siambr gan y cyfansoddwr a elwir yn dad y symffoni a thad y pedwarawd llinynnol. Sgrifennodd Haydn 83 pedwarawd i gyd – a bydd y Pedwarawd Benyounes yn dod â ni yn agosach at y gerddoriaeth a’r dyn ei hun, trwy ein cyflwyno i’w bedwarawdau llinynnol - eu rhythmau drygionus a’u naws gosgeiddig. Mae gan Benyounes brofiad helaeth o gynnig profiadau cerddorol rhyngweithiol i blant - cyfle i ddysgu am rhythm, tempo, alaw, ensemble, cymeriadu, naws, a hyd yn oed tawelwch! Awr o ddysgu am gerddoriaeth ac awr o fwynhad pur, yn awyrgylch hyfryd ein Cadeirlan.

Cadeirlan Bangor £4 Yn ystod eu hymweliad bydd y Benyounes yn arwain gweithdai a pherfformiadau mewn nifer o leoliadau cymunedol.

31


Mai Sadwrn 2 Mai, 7.30pm

Corws a Cherddorfa Symffoni Prifysgol Bangor Graeme Cotterill, Chris Collins Matthias Wurz (arweinyddion) Bydd holl rengoedd y brifysgol yn ymuno â chast o unawdwyr proffesiynol ar gyfer perfformiad o Symffoni Môr gan Ralph Vaughan Williams, sy’n gerddoriaeth hynod atgofus i eiriau gan y bardd o America, Walt Whitman, yn portreadu’r môr yn ei holl hwyliau. Bydd y cyngerdd yn agor gyda dau o agorawdau enwog Beethoven, Coriolan a The Creatures of Prometheus, a bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys perfformiad concerto gydag unawdydd o’r Ysgol Cerddoriaeth.

Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor £10 / £8 gostyngiadau / £3 myfyrwyr

CYNGERDD

Caban Darn o gelf cyhoeddus yw Caban gan yr artist Joep Van Lieshout. Bydd y cerflun a leolir yn nhirlun Pontio yn ddehongliad modern o gaban y chwarelwyr ac yn fan ymgynnull ar gyfer sgyrsiau a pherfformiadau ffurfiol ac anffurfiol, yn lle i gael hwyl. Fe fydd yn lle i bawb – yn drigolion lleol, myfyrywr, plant ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Yng ngeiriau’r artist Bedwyr Williams: “Mae Caban Pontio yn mynd i ddathlu’r ffordd yr arferai’r chwarelwyr llechi Cymreig drawsnewid defnydd o’u cwt o fod yn rhywle i gyfarfod yn ystod eu hegwyl, lle cinio i fod yn fan i ganu, dadlau, trafod pynciau amrywiol, perfformio ac ati.” Fel rhan o brosiect adeiladu Pontio bydd rhaglen gyffrous Yn 1995 sefydlodd Joep Van Lieshout gwmni Atelier o gelf gyhoeddus a fydd yn Van Lieshout, cwmni sydd wedi ennill cydnabyddiaeth cynnwys y CABAN. ryngwladol yn creu gwrthrychau sy’n croesi ‘r ffiniau rhwng celf, pensaernïaeth a dylunio. Mae’r gweithiau celf yn ymarferol, syml ac yn sylweddol.

Caban fydd darn celf cyhoeddus comisiwn cyntaf Joep ym Mhrydain. Yn ystod mis Awst 2014, bu myfyriwr BA lleol o Goleg Menai, Anna Milner yn gweithio â’r artist yn Rotterdam, wrth iddo ddechrau ar y gwaith o greu Caban unfed ganrif ar hugain ar gyfer Pontio. Dilynwch y stori drwy ymweld â blog Anna: http:// cabanprojectrotterdam.wordpress.com/ Ariennir y gwaith gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Prifysgol Bangor a Chyngor Gwynedd.

32

CELF GYHOEDDUS

Argraff Artist 33


BLAS Mewn Blwyddyn Bryn Terfel yn Pontio

Dechreuodd 2014 ar nodyn uchel, trwy ganu ac arwyddo Anfonaf Angel gyda’r canwr opera byd-enwog Bryn Terfel ar safle Pontio. Roedd yn berfformiad cyffrous, gan ddod â deigryn i lygaid y gweithwyr adeiladu. Chwiliwch amdano ar sianel Pontio ar YouTube!

Gŵyl PICS a Gwobr Zoom ar gyfer Gwneuthurwyr Ffilmiau Ifainc

Bendigeidfran a Spike

Enwebwyd y ffilm fer Ofn Fy Het o eiddo plant o BLAS yn Ysgol Hirael ar gyfer dwy wobr, a chawsant eu trin fel gwesteion pwysig iawn yn y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn Galeri. Dewiswyd Jac Brown a Christopher Jones i gynrychioli’r ffilm ym Mheny-bont ar gyfer Seremoni Wobrwyo Zoom ar gyfer Gwneuthurwyr Ffilmiau Ifainc.

The Lion King

Ym mis Mai, aeth BLAS i noson agoriadol y Lion King yn yr Empire, Lerpwl. Er bod llawer o wynebau enwog yn y gynulleidfa, y sioe, yn llawn caneuon gwych, gwisgoedd, pypedau a dawnsiau ysblennydd, a’n cyfareddodd.

Ar ôl y Lion King, cafodd aelodau BLAS gyfle i greu eu pypedau eu hunain. Gyda chymorth Owen Glynne Davies a Joannah Munton o Gwmni Cortyn, creodd y ddwy ysgol eu draig 6” eu hunain i’w harddangos trwy strydoedd Bangor yn ystod y Carnifal.

Project Animeiddio

Trwy haelioni Ffilm Cymru llwyddodd BLAS i ddatblygu ei sgiliau ffilmio ymhellach – y tro hwn ym myd Animeiddio, gan weithio gyda’r animeiddiwr proffesiynol Meical Roberts a’r myfyrwraig MA Caryl Burke. Bu’r cyfansoddwr Dr Owain Llwyd a Gethin Griffiths ac Alex Bailey, myfyrwyr o’r Ysgol Gerdd, yn helpu’r plant i gyfansoddi sgôr ar gyfer eu ffilmiau. A diolch enfawr i Cerddorfa Sesiwn Bangor am recodrio’r gerddoraith mor broffesynnol ac i’r myfyrwyr Emily Knowles a Jo Arvanitis am y gwaith trefnu.

Beth Yw BLAS?

Gweithdai drama difyr Pontio, i ddatblygu medrau theatr a pherfformio ac a gynhaliwyd yn wythnosol yn Ysgolion Hirael a Glancegin ers Ionawr 2013. Rydym hefyd yn dyfeisio perfformiadau ac yn rhoi llwyfan i dalent ifanc ym Mangor. 34

Gweithdai Seinwedd gydag Ed Wright

Bu’r cyfansoddwr o fri ym myd Celfyddyd Sonig Ed Wright, yn gweithio gydag ysgolion lleol i greu darnau seinwedd unigryw ar gyfer syrcas NoFit State. Perfformiwyd y darn am y tro cyntaf yn Neuadd Powis i gynulleidfa arbennig iawn – sef y cyfansoddwyr ifanc, plant blwyddyn 6 Ysgol Felinheli, Llandygai, Cae Top ac Ein Harglwyddes.

BLASU

Bu tiwtoriaid drama BLAS, Mared a Manon, yn ymweld ag ysgolion Bangor, i gynnal gweithdai drama a hyrwyddo BLAS.

80 o Blant, 8 Ysgol, 3 Gweithdy, 2 Leoliad

Bu 80 o blant Bangor, o Ysgolion Cae Top, Ein Harglwyddes, Faenol, Glanadda, Glancegin, Hill Grove a Hirael yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai unigryw iawn gyda: Firenza Guidi, Cyfarwyddwr Artistig cwmni syrcas NoFit State: Gweithdy HaDAsyniaDA. Sarah Mumford, Coreograffwriag: Gweithdy Theatr Corfforol Ben Brodie: Dawnsiwr Stryd: Gweithdy Dawnsio Stryd.

Mae BLAS yn symud ac yn newid!

ieithyddol.

Bellach, mae BLAS, fel project yn ysgolion Hirael a Glancegin, wedi dod i ben. Hoffai Mared a Manon ddiolch i’r ddwy ysgol am eu cefnogaeth a’u hymroddiad rhyfeddol i’r project ers Ionawr 2013. Er ei bod yn drist ffarwelio, rydym yn gynhyrfus iawn ynglŷn â chyfeiriad newydd BLAS... Beth? Gweithdai drama a pherfformio wythnosol. Pam? I ddatblygu hyder, sgiliau perfformio a chael hwyl. Lle? Neuadd Cymunedol Hirael, Bangor Pryd? Bob Nos Lun Pwy? 5pm – 6pm, blynyddoedd 3 a 4 6.15pm – 7.15pm, blynyddoedd 5 a 6 7.30pm – 8.30pm, blynyddoedd 7, 8 a9 £25 y tymor. Cymraeg fydd prif iaith y gweithdai ond nid yw’n hanfodol siarad yr iaith yn rhugl ac rydym yn croesawu pawb o bob gallu

Cofrestrwch trwy wefan Pontio neu 01248 382828. Byddwn yn gweithio ar sail y cyntaf i’r felin. Ceir gostyngiad i blant sy’n byw yn ardal cod post LL57 1ST. Fe fydd y côd ar gael o Swyddfa Gymuned Maesgeirchen. Bydd angen prawf ynglŷn â chyfeiriad. Am fwy o fanylion, anfonwch e-bost at Mared: m.huws@bangor.ac.uk.

35


Gwirfoddolwch Bydd Pontio yn leoliad prysur, gyda channoedd o ddigwyddiadau a dangosiadau sinema bob blwyddyn. Mae angen tîm o wirfoddolwyr ymroddedig i gynorthwyo er mwyn sicrhau bod ein cynulleidfaoedd yn cael profiad pleserus a chadarnhaol.

Beth yw’r buddion o wirfoddoli gyda Pontio? • Cyfle i gyfarfod ystod eang o bobl. • Cyfle i ddysgu, datblygu a defnyddio sgiliau newydd (cyfathrebu, gofal cwsmer, gwaith tîm, rheoli amser). • Bydd Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn derbyn cydnabyddiaeth am y sgiliau y maent yn eu datblygu tra’n gwirfoddoli gyda Pontio - gall pwyntiau ychwanegol XP gael eu hawlio tuag at Wobr Cyflogadwyedd Bangor. • Bydd Canolfan Bedwyr yn cynnig hyfforddiant iaith ac yn darparu sesiynau ar bolisi iaith. Am fwy o fanylion cysylltwch â gwirfoddolwyr@pontio.co.uk neu ffoniwch 01248 382666.

Ers lansiad sialens Profi yr hydref diwethaf, bu timau o bobl ifanc o ysgolion uwchradd Môn yn gweithio’n galed i ddatblygu atebion i broblemau sy’n wynebu eu cymunedau. Wedi’i hwyluso gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor a’i chefnogi gan gyflogwyr lleol, mae’r rhaglen dysgu a mentora ymarferol hon yn ehangu gorwelion, datblygu medrau cyflogadwyedd ac yn hybu hyder y bobl ifanc sy’n cymryd rhan. Bydd y rhaglen yn dod i ben mewn digwyddiad hyrwyddo a gynhelir gan Pontio yn Chwefror 2015, lle bydd timau’n cyflwyno eu syniadau i banel o feirniaid, a phob un yn gobeithio ennill gwobr ariannol ar gyfer eu hysgol fel y gallant roi eu syniadau ar waith. Os yr hoffech gael mwy o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda gydag Elen Bonner, Rheolwr Prosiect Profi ar 01248 382813 neu e.bonner@bangor.ac.uk

Mae Profi wedi’i seilio ar raglen dysgu drwy brofiad i israddedigion Prifysgol Bangor, sef ‘Menter trwy Ddylunio’, a chaiff Profi ei hariannu gan Ymddiriedolaeth Esm.e Fairbairn gyda chefnogaeth hael Pŵer Niwclear Horizon, Santander, trwy Is-adran Fyd-eang Prifysgolion Santander, a Magnox. Cyd-gynhyrchwyd y gweithgareddau gan Pontio, Chris Walker - People Systems International, myfyrwyr Prifysgol Bangor a disgyblion o Ysgol Gyfun Llangefni.

36

37


Taleb anrheg Pontio Anrheg berffaith ar gyfer unrhyw achlysur Gydag amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ar gael yn Pontio, o ddrama i syrcas, cerddoriaeth byd a gigs i ddawnsio bale, panto, ffilm a mwy prynwch daleb anrheg am £10, £20 neu £50 oddi ar ein gwefan, pontio.co.uk dros y ffôn ar 01248 382828 neu ewch draw i’n Swyddfa Docynnau, bydd rhywbeth at ddant bawb.

Sut i Archebu Dros y Ffôn

Tâl Postio

Teuluoedd

Gellwch archebu tocynnau ar gyfer digwyddiadau Pontio dros y ffôn lle nodir, ar: 01248 382828. Ceir gwasanaeth archebu cwbl ddwyieithog ar y ffôn, Llun - Gwener: 10am-5pm, Sadwrn: 10am-3pm.

Ni chodir ffi pan fyddwch yn prynu tocynnau, ond codir £1 o dâl postio os gofynnwch am docynnau trwy’r post. Ni ellwch ofyn am docynnau trwy’r post yn ddiweddarach na 10 niwrnod cyn y digwyddiad, er mwyn sicrhau eu bod yn eich cyrraedd mewn da bryd. Wedyn, fe ellwch gasglu’r holl docynnau sydd wedi’u prynu ymlaen llaw o’r swyddfa docynnau.

Mae Pontio wedi ymrwymo i gynnal perfformiadau a digwyddiadau o ansawdd uchel i bobl ifanc a’u teuluoedd. Mae prisiau gostyngol ar gael i bobl ifanc. Lle nodir pris tocyn teulu, mae’r cynnig ar gael i grŵp o bedwar. Rhaid i o leiaf un aelod o’r grŵp fod dan 16 oed.

Yn Bersonol Gellwch brynu o Siop Pontio ar Stryd Fawr Bangor. Oriau agor: Llun, Mawrth, Mercher, 10am-5pm, Iau, Gwener: 9am5pm, Sadwrn: 10am-3pm. Bydd y Swyddfa Docynnau’n symud i ganolfan Pontio yn ystod y Tymor Agoriadol. Yn y cyfamser, bydd modd parhau i brynu tocynnau o Siop Pontio ar Stryd Fawr Bangor.

Archebion Grŵp Rydym yn darparu ar gyfer grwpiau ac, yn achlysurol, gallwn gynnig gostyngiadau mawr. Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau am fwy o wybodaeth ar 01248 382828.

Ar-lein Gellwch archebu ar-lein ar gyfer digwyddiadau Pontio ar: tickets. pontio.co.uk Gellwch archebu ar gyfer digwyddiadau Neuadd Ogwen hefyd trwy neuaddogwen.com

38

Gostyngiadau Lle bynnag y bo ‘gostyngiadau’ wedi’i nodi ar gyfer digwyddiadau Pontio, mae’r categorïau isod wedi’u cynnwys yn y diffiniad hwn: plant dan 18 oed, myfyrwyr a’r rhai dros 60. Caiff plant dan 2 oed a gofalwyr fynd am ddim. Rydym yn argymell eich bod cyrraedd 30 munud ymlaen llaw ar gyfer digwyddiadau. Mae’r holl archebion yn amodol ar ein telerau a’n hamodau safonol. Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan. www.tickets.pontio.co.uk/ online/term.

39


Cofrestrwch i gael gwybod beth sydd ymlaen, newyddion a chynigion arbennig Os ydych yn rhoi eich cyfeiriad e-bost, fe fyddwn yn creu cyfrif ar-lein ar eich cyfer I weld polisi preifatrwydd Pontio, edrychwch ar: tickets.pontio.co.uk/online/data

Beth yw eich... Enw: E-bost: Cyfeiriad:

Côd post: Ffôn: Amdanoch chi. Caiff y wybodaeth hon ei defnyddio i ddod i wybod mwy am ein hymwelwyr yn unig. Oedran: 4-10, Gwryw

11-15, Benyw

16-24,

25-34,

45-54,

55-64,

Ydych chi’n fyfyriwr

Sut hoffech dderbyn y wybodaeth?

40

35-44,

E-bost

Post

Testun

Pontio, Prifysgol Bangor, Rhadbost, Bangor, Gwynedd, LL57 2BR

65+


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.