Bangor Beth Sydd Ymlaen Mai – Medi 2013
Clawr blaen: BIANCO gan NoFit State Circus
TUD
MAI
MEHEFIN
TUD
Sad 4 AR Y RÊLS: Y BANDANA ■ Clwb Rheilffordd Bangor, 8pm
8
Sad 1 AR Y RÊLS: SWEET BABOO ■ Clwb Rheilffordd Bangor, 8pm
9
Sad 4 Cerddoriaeth ym Mangor: ■ CARMINA BURANA
16
Llun 3 ASTON’S STONES ■ Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor,
12
Llun 6 Seann Walsh a ■ Chomedïwyr Myfyrwyr
18
Maw 4 CWTSH CYNGHANEDDU Siop Pontio, Stryd Fawr Bangor, ■
27
Sad 11 GWYN
13
Gwe 7 Cerddoriaeth ym Mangor: ■ CYNGERDD GALA’R HAF
16
Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor, 7.30pm
Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor, 7.30pm
(angen cofrestru) 4pm – 5.30pm
■ Ysgol Glanaethwy, LL57 4BN, 9.30am, 11am & 1.30pm
Llun 13 YMA AC ACW ■ Siop Pontio, Stryd Fawr Bangor,
24
Sad 25 DUET FOR THREE / TAIKABOX ■ Siop Pontio, Stryd Fawr Bangor, 10am – 3pm
24
arddangosfa am 4 wythnos
Sad 25 SANCHO PANZA 10 ■ Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor, 2.30pm Mer 29 MERCHED YN BENNAF ■ Caffi Blue Sky, Bangor, 7.30pm
1.30pm & 5.30pm
10
Neuadd Prichard Jones, Prifysgol Bangor, 7.30pm
Gwe 7 FFilm Gwener: AMOUR (12A) 19 ■ Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm Sad 8 Y BONT, CARNIFAL BANGOR
25
Maw 11 CWTSH CYNGHANEDDU Siop Pontio, Stryd Fawr Bangor, ■
25
Ffordd y Traeth, Bangor, 2.30pm
(angen cofrestru) 4pm – 5 30pm
Mer 12 CERDYN POST O WLAD Y RWLA 13 ■ Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor, 10am & 1pm Gwe 14 CABARET PONTIO: ETRAN FINATAWA ■ Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 7.30pm
17
Sad 15 Gwahoddiad i rannu: CAI TOMOS ■ Siop Pontio, Stryd Fawr Bangor, 1pm – 4pm
26
Maw 18 CWTSH CYNGHANEDDU Siop Pontio, Stryd Fawr Bangor, ■
27
Iau 20 BEDWYR WILLIAMS ■ A'r "THE STARRY MESSENGER"
22
(angen cofrestru) 4pm – 5.30pm
Rhif elusen gofrestredig: 1141565
2
Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 11am, 2pm & 7pm
Cipolwg sydyn Gwe 21 Siapiau Sŵn
23
GORFFENNAF
Gwe 21 Ffilm Gwener: MAMA AFRICA! ■ Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor,
19
Gwe 5 Jam: sesiwn ddrymio 27 ■ Siop Pontio, Stryd Fawr Bangor, 1pm – 2.30pm
Sad 22 POBOL Siop Pontio, Stryd Fawr Bangor, 1pm ■
26
Neuadd Prichard Jones, Prifysgol Bangor
7.30pm
(angen cofrestru)
Maw 25 CWTSH CYNGHANEDDU 27 Siop Pontio, Stryd Fawr Bangor, (angen cofrestru) ■ 4pm – 5.30pm
Mer 26- VANGST / RHWYDO Sad 29 Hen Lawnt Fowlio, Bangor, 11am, 2pm, 7pm ■ dibynnu ar y diwrnod
11
Sad 29 Clwb POPCORN: THE PIRATES! 14 IN AN ADVENTURE WITH SCIENTISTS (U) ■ Clwb Cymdeithasol Maesgeirchen, Bangor, 10am-1pm
Ymunwch â’r rhestr bostio i gael y diweddara’ am ddigwyddiadau, newyddion a chynigion arbennig. Tudalen 38
TUD
Gwe 5 Ffilm Gwener: ZERO DARK THIRTY (15) 19 ■ Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm Sad 6 Clwb POPCORN: CHARLIE & ■ THE CHOCOLATE FACTORY (PG)
14
CABARET DRAMA
Clwb Cymdeithasol Maesgeirchen, Bangor, 10am-1pm
FFILM
Sad 6 Sesiwn Cornel Stori a Chân 28 ■ Siop Pontio, Stryd Fawr Bangor, 1.30pm – 2.30pm
Hwyl plant a TheulU
Sad 6 AR Y RÊLS: MEIC STEVENS ■ Clwb Rheilffordd Bangor, 8pm
9
Gwe 12- BIANCO: NOFIT STATE CIRCUS Sad 20 Ffordd y Traeth, Bangor, 2pm, 3.30pm, 7.30pm ■ dibynnu ar y diwrnod
7
Sad 13 Sgiliau NoFit State Circus ■ Siop Pontio, Stryd Fawr Bangor, 12pm – 1pm
28
SIOP Pontio
Sad 13 Clwb POPCORN: BEAUTY & THE BEAST (U) 15 ■ Clwb Cymdeithasol Maesgeirchen, Bangor, 10am-1pm
Digrifwr
Sad 13 POBOL Siop Pontio, Bangor, 1pm (angen cofrestru) ■
26
Cerddoriaeth PerffomiAd
PONTIO’N AWGRYMU
Sad 20 Clwb POPCORN: LITTLE RASCALS (U) 15 ■ Clwb Cymdeithasol Maesgeirchen, Bangor, 10am-1pm
AWST Sad 24 POBOL ■ Siop Pontio, Bangor, 1pm (angen cofrestru)
26
MEDI Sul 1 Cyngerdd Mawr: Ymestyn am y Sêr 20 ■ Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor, 7.30pm
Pontio: Digwyddiadau
@Trydar Pontio
3
Shwmai a chroeso i lyfryn haf 2013 Pontio! Mae tîm Pontio’n falch o gyflwyno rhaglen haf sy’n amrywio o ddigwyddiadau graddfa fechan i sioeau graddfa fawr. A ninnau bellach wedi ymgartrefu yn ein siop dros dro ynghanol Bangor bydd cyfle i chi brofi a mwynhau tamaid o ddawns, cerdd, stori, ffilm a barddoniaeth i aros pryd, ond i chi alw heibio dros y misoedd nesaf. Bydd cyfle hefyd i chi gael gwybod mwy am Pontio, Canolfan i’r Celfyddydau ac Arloesi, a fydd yn agor ei drysau yn hydref 2014.
Croeso
Croeso!
Cyflwynir sioeau theatr hudolus i blant; Gwyn, gan Theatr Fran Wen ac Aston’s Stones gan Teater Pero o Sweden, sydd ymysg y darnau theatr graddfa fechan mwyaf dyfeisgar i blant bach i mi weld erioed.
Mae Siop Pontio ar agor ar Stryd Fawr Bangor rhwng 10am-3pm, Llun i Sadwrn. Dewch i brynu tocynnau neu ymunwch â gweithdai a gweithgareddau amrywiol - gwelwch dudalen 24 am fanylion.
I'r pegwn arall, bydd cwmni syrcas rhyngwladol NoFit State Circus yn ymgartrefu ar Ffordd y Traeth ym Mangor ganol Gorffennaf i’n gwefreiddio gyda’u sioe syrcas gyfoes ‘big top’ BIANCO. Daw Theatr Genedlathol Cymru yn ôl, y tro hwn ag addasiad o'r profiad theatrig Vangst / Rhwydo o’r Islediroedd ar y lawnt fowlio ym Mangor. Ac ar gynffon ein rhaglen haf, bydd un o artistiaid sioe gerdd amlycaf Cymru John Owen Jones a Chôr Ysgol Glanaethwy yn dod at ei gilydd i gydberfformio mewn cyngerdd mawreddog. Bydd seren y West End a Broadway ei hun yn dewis dau ganor ifanc addawol 16–25 oed i rannu’r llwyfan gyda gydag e. Cyfle euraidd i sêr y dyfodol! Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio
neuadd lawn 4
ideas
where we cynhesrwydd plant our
canu
drama’n surround sound
FFOR
DD Y T
RAET
H
KWIK FIT
YC OL
PE NR A
L LT
IO
DE
G L A N R AF
IN I DE DD OR FF
D
ED
DO
F FO
F
DD FA RR AR
RD
K AC DS
L V IL
ST RE ET
AWR YD F STR
E
P
Caffi Blue Sky
ASDA
R
FF OR
Siop Pontio
FA W
FF
R FO
P
ST
FF O
RY D
D RI
W FA
A5
P
OL
Clwb y Rheilffordd
DD
P
ON
MORRISONS
R
D RY
ST
CLOC
DD OR
VIC TO RI A
P
L
SAFLE PONTIO
FF
HE OL
RD
M&S
A5
IN
AI EN FA M OD
EG OL YC
ST
ALDI
LLE I’N CANFOD
BANGOR DD OR FF
LLT
R
P
RH
DY RA
RO RS E
OR DD
P LO N
STR Y
NoFit State Circus mewn pabell fawr R W FAy Traeth ar Ffrodd YD NE
DD
EN
YN GL
OR
IW SIL
EG
D
FF
Hen Lawnt Fowlio
ME
FA
D OR
HW
FF
DD OR
BBC
AM B
Neuadd Powis
FF
Neuadd John Phillips
IRI ON
OR
FFOR DD M E
Neuadd PrichardJones
FF
Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau
RD
D
FA R
RA
GORSAF LIDL
R
Ysgol Glanaethwy Parc Menai
Gwesty'r Victoria Porthaethwy
Clwb Cymdeithasol Maesgeirchen
5
Sut i archebu
Sut i archebu
Awgrymwn eich bod yn archebu tocynnau o flaen llaw. A fyddech cystal â gwirio manylion digwyddiadau unigol am amseroedd, prisiau, manylion archebu a lleoliadau. AR Y FFÔN Gall archebion i ddigwyddiadau Pontio (y rhai sydd wedi’u rhestru ar dudalennau dau a thri) gael eu gwneud dros y ffôn lle y dynodir ar: 01248 382828. Gweithredir ein llinell docynnau mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru a darperir gwasanaeth llawn dwyieithog o ddydd Llun - ddydd Sadwrn, 10am-6pm. YN BERSONOL Gellir prynu tocynnau ymlaen llaw ar gyfer digwyddiadau Pontio o Siop Pontio yn y Stryd Fawr. ARLEIN Bydd modd archebu tocynnau i ddigwyddiadau detholedig Pontio arlein: www. pontio.co.uk. Bydd y gwasanaeth hwn yn terfynnu bedair awr cyn y digwyddiad, neu am 5pm y diwrnod blaenorol os yw’r digwyddiad ymlaen yn y bore. TÂL POST Ni fydd ffi yn cael ei godi wrth archebu tocynnau, ond bydd tâl post o 50 ceiniog yn cael ei ychwanegu pe baech angen i ni yrru’ch tocynnau drwy’r post. Er mwyn sicrhau bod tocynnau sydd angen eu postio yn cyrraedd mewn pryd bydd rhaid eu harchebu o leiaf 10 diwrnod ymlaen llaw. Wedi hyn, bydd pob tocyn sydd wedi’i archebu o flaen llaw ar gael i’w gasglu wrth y drws.
6
GOSTYNGIADAU Ble bynnag y nodir ‘gostyngiadau’ ar gyfer digwyddiadau Pontio, mae’r canlynol wedi eu cynnwys yn y diffiniad
hwnnw: plant dan 16 oed, myfyrwyr a’r rhai dros 65. Mynediad am ddim i ofalwyr a phlant o dan 2. AD-DALIADAU Yn anffodus, unwaith y bydd tocynnau wedi’u prynu, ni allwn eu had-dalu oni bai i’r perfformiad gael ei ddileu. Bydd unrhyw docynnau sydd heb eu gwerthu o flaen llaw ar gael i’w prynu wrth y drws. Eithriad Seann Walsh, tud 18. MYNEDIAD ‘Rydym wedi ymroi i wneud mynediad i’n digwyddiadau mor hwylus â phosib. Cysylltwch â ni pe bae gennych unrhyw ofynion mynediad arbennig ar: 01248 388090 neu ebost: info@pontio.co.uk. SUT I’N CANFOD Mae’r mwyafrif o ddigwyddiadau Pontio yn cael eu cynnal mewn lleoliadau hyd a lled Bangor, ond mae perfformiadau hefyd yn cael eu llwyfannu’n rheolaidd o fewn tri deg milltir i’r ddinas, o Ynys Môn i Ben Llŷn, Dyffryn Conwy ac arfordir Gogledd Cymru. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion ynglŷn â lleoliad penodol ar: 01248 388090 neu ebostiwch ni: info@pontio.co.uk. ‘Rydym yn argymell i chi gyrraedd y digwyddiadau hyn 30 munud cyn yr amser cychwyn a hysbysebir.
Gwener, 12 Gorffennaf - Sadwrn, 20 Gorffennaf, 2pm (13, 20), 3.30pm (14) a 7.30pm (12, 13, 17, 18, 19, 20) Ffordd y Traeth, Bangor £15/£10 gostyngiadau (ac eithrio dydd Mercher 17 a dydd Iau 18, £10 pob perfformiad) ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk Siop Pontio
BIANCO Turning Savage SGILIAU ANHYGOEL, GWYCH A CHWYLDROADOL
Mae NoFit State, sydd wedi ennill bri rhyngwladol am eu perfformiadau syrcas cyfoes byw a dramatig, yn dychwelyd gyda BIANCO. Mae'n brofiad promenâd sy'n digwydd uwchben, y tu ôl ac o amgylch y bobl yn y gynulleidfa fydd yn sefyll ar eu traed. Mae'n brofiad theatrig llawn gyda naratif parhaus i gyfeiliant cerddoriaeth a berfformir gan fand byw.
Performance
NoFit State Circus yn cyflwyno: :
Cyfarwyddwr y sioe yw Firenza Guidi a gyda chast byd-enwog mae NoFit State yn parhau i ailddyfeisio'r syrcas gyda'r perfformiad syfrdanol hwn. Cyd gynhrychiad gwreiddiol gyda'r Eden Project.
7
Sadwrn 4 Mai, 8pm Clwb y Rheilffordd Bangor, Ffordd Euston
AR Y RÊLS
£10/£8 gostyngiadau ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk Siop Pontio Pontio, mewn cydweithrediad â Gŵyl Gardd Goll, yn cyflwyno:
8
Cerddoriaeth o Gymru yng Nghlwb y Rheilffordd Welwn ni chi Ar y Rêls!
Y Bandana
BAND INDI-ROC Â SAWL GWOBR SY’N ENWOG AM EU GEIRIAU DONIOL AC ALAWON BACHOG Yn dod o Gaernarfon ac yn adnabyddus am ei geiriau doniol, cafodd y band egnïol, cyffrous yma eu hysbrydoli gan Led Zeppelin, Queen a Jimi Hendrix Experience. Mae’r band, sef Gwilym Rhys (prif leisydd), Tomos Owens (allweddfwrdd), Sion Owens (gitâr bâs) a Robin Jones (drymiau), wedi teithio hyd a lled Cymru. Ennillon nhw’r sengl orau ar gyfer Dal dy Drwyn / Cân y Tân, a’r band byw gorau gan gylchgrawn Selar, mae Y Bandana yn fand hwyliog a chewch chi ddim mo’ch siomi!
Sadwrn 1 Mehefin, 8pm Clwb y Rheilffordd Bangor, Ffordd Euston
Sadwrn 6 Gorffenaf, 8pm Clwb y Rheilffordd Bangor, Ffordd Euston
£10/£8 gostyngiadau ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk Siop Pontio Pontio, mewn cydweithrediad â Gŵyl Gardd Goll, yn cyflwyno:
£10/£8 gostyngiadau ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk Siop Pontio Pontio, mewn cydweithrediad â Gŵyl Gardd Goll, yn cyflwyno:
O HIWMOR TYWYLL I SWYNO TREIDDGAR
UN O EICONAU BYD ROC CYMRU
Ar ôl bod ar rhestr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2011 am ei drydydd albwm ‘I’m a Dancer / Songs About Sleeping’, mae esblygiad Sweet Baboo (neu Stephen Black) fel cerddor a chyfansoddwr yn dal i ddatblygu gyda’i albwm newydd ‘Ships’.
Ers 1967 mae Meic Stevens wedi difyrru ein cenedl mewn miloedd o gyngherddau, gan recordio pymtheg albwm a nifer o senglau a CDs, mewn gyrfa hir ac amryliw. Bydd ei ganeuon unigryw yn para byth. Y llynedd bu’n ymladd canser, a da yw dweud ei fod wedi brwydro’n llwyddiannus. Pleser a braint yw croesau’r rebel 70 oed i lwyfan Pontio am y tro cyntaf!
AR Y RÊLS
SweeT Baboo Meic Stevens
Mae cynhyrchiant Black hyd yn oed yn fwy rhyfeddol wrth ystyried ei weithgareddau allanol yn gweithio gydag enwogion fel Cate Le Bon, Euros Childs a Gruff Rhys. Gyda chlust am alawon hudol, byddwch yn difaru colli Sweet Baboo!
9
Mercher 29 Mai, 7.30pm Caffi Blue Sky, oddi ar Stryd Fawr Bangor
Sadwrn 25 Mai, 2.30pm Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor
£9/£7 gostyngiadau ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk
£6/£4 gostyngiadau ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk
Siop Pontio
Siop Pontio
Hijinx Theatre yn cyflwyno:
Merched yn Bennaf
Sancho Panza
NOSON DDIFYR O DDRAMA, BARDDONIAETH A CHÂN GAN DAIR O HOFF SÊR Y SGRÎN YNG NGHYMRU
“MAE ‘NA FILIWN O BOBL ERAILL YN Y BYD YMA ‘SA WELL GEN I FOD ‘NA FI…”
Ymunwch â rhai o actorion fwyaf enwog Cymru: Betsan Llwyd, Christine Pritchard ac Olwen Rees am noson o adloniant eithriadol. Mae Merched yn Bennaf yn archwilio cerdd, rhyddiaith a dramáu awduron Cymru wedi ei gydblethu â chaneuon digyfeiliant. Wedi ei lunio a’i gyfarwyddo gan Betsan Llwyd, mae Theatr Peña yn rhoi menywod yn bennaf.
Mae Anturiaethau Sancho Panza yn addasiad hwyliog, gyfoes, o chwedl glasurol Cervantes 'Don Quixote', wedi ei weld drwy lygaid ei gydymaith Sancho Panza. Mae Theatr Hijinx yn eiriolwyr angerddol ar gyfer cynnwys pobl â anawsterau dysgu yn y celfyddydau.
drama
Theatr Peña yn cyflwyno:
Lluniaeth ysgafn a diodydd ar gael i’w prynu.
Digwyddiad Iaith Gymraeg. 10
Addas i bob oedran. Cynhyrchiad iaith Saesneg.
RHWYDO / VANGST Y Casgliad o Ofnau a Dymuniadau
Mercher 27 Sadwrn 29 Mehefin, 11am (29), 2pm (27, 28, 29), 7pm (26, 27, 28), Yr Hen Lawnt Fowlio, Bangor £9/£7 ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk Siop Pontio
Mae dymuniadau’n mynd o dan y croen a theimlir ofnau i’r byw yn y darn diffuant hwn o theatr gorfforol o’r Iseldiroedd gan Roos van Geffen. Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn dod ag addasiad arobryn Angharad Price o’r cynhyrchiad trawiadol hwn i Fangor mewn theatr symudol a gynlluniwyd yn arbennig. Bydd y cynhyrchiad yn defnyddio tair iaith, sef y Gymraeg, yr Iseldireg a’r Saesneg.
Mae Roos wedi creu casgliad o’r ofnau a’r dymuniadau mwyaf a fynegwyd gan bobl y cyfarfu â hwy ar hap ledled Ewrop. Wrth iddi weu’r hanesion tra phersonol hyn wrth ei gilydd, mae Roos yn creu gwaith diymhongar a barddonol lle daw’r personol yn gyffredin. Bydd hi’n ychwanegu at y casgliad parhaus hwn ar ei hymweliad â Chymru, gan gasglu ac ymgorffori ofnau a dymuniadau pobl ar hyd a lled y wlad. Oedran 12+.
drama
Mae Roos van Geffen, Theatr Genedlaethol Cymru, Pontio a Chanolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno:
11
Llun 3 Mehefin, 1.30pm & 5.30pm Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor £6/£4 gostyngiadau ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk
Siop Pontio
Hwyl plant a TheulU
Teater Pero yn cyflwyno
STORI AM GI BACH, CARIAD A GWELD GWERTH YN Y PETHAU BYCHAIN Mae Aston’s Stones am gi bach sydd eisiau gofalu am bob carreg fedrith o ffeindio. Mae pob carreg yn cael dilyn Aston gartref ac yn cael gwely cynnes a chyfforddus. Mae’r stori dyner yma yn son am bwysigrwydd gweld a gwerthfawrogi gwerth yn hyd yn oed y peth lleiaf. Cyflwyniad prydferth i theatr addas i oedrannau 3-6 ac yn parau tua 30 munud.
12
Sadwrn 11 Mai, 9.30am, 11am & 1.30pm Ysgol Glanaethwy, LL57 4BN
Mercher 12 Mehefin, 10am + 1pm Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor
£5 ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk
£4, athrawon am ddim,10% disgownt i bartion o 10+
Cwmni’r Frân Wen yn cyflwyno
) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk
Siop Pontio
Cwmni Theatr Arad Goch yn cyflwyno:
DYCHMYGWCH FYD SYML, TACLUS A DI-LIW… Bydd Bryn Fôn a Rhodri Sion yn cyflwyno plant i fyd prydferth gwyn lle mae lle i bopeth a phopeth yn ei le… ond beth fydd yn digwydd pan fydd lliw yn ymddangos am y tro cyntaf? Mae Cwmni'r Frân Wen yn teithio'r cyfieithiad Cymraeg cyntaf o ddrama arobryn Andy Manley, White, a gynhyrchwyd yn wreiddiol gan Gwmni Catherine Wheels o’r Alban.
Sioe Cymraeg addas i blant a theuluoedd.
EICH HOFF CYMERIADAU RALA RWDINS I GYD MEWN SIOE LLAWN ANTUR, LLIW A CHANU
Hwyl plant a TheulU
Siop Pontio
Ymunwch â Chwmni Theatr Arad Goch wrth iddyn nhw ddathlu 30 mlwyddiant llyfrau Rala Rwdins gyda sioe theatr liwgar ac anturus gan yr awdures Angharad Tomos. Dewch i gwrdd a Rala Rwdins, Rwdlan, Dewin Doeth, Dewin Dwl, Llipryn Llwyd, Strempan a heb anghofio Mursen y gath, ag ymuno yn yr helynt wrth iddynt fynd ar eu gwyliau. Fel arfer yng nghwmni’r criw mae yna gastiau a thriciau gyda digon o ganu a chwerthin (a chrio yng nghwmni Llipryn!). Sioe addas i blant 4 -8 oed 13
Crefftau lliwgar a ffilmiau gwych i blant 5-10 blwydd Popcorn, te, coffi a da da ar werth. Goruchwyliaeth oedolion yn ofynnol.
Hwyl plant a TheulU
Sadwrn 29 Mehefin, 10am
14
Sadwrn 6 Gorffennaf, 10am
Gweithgaredd: Creu hetiau y Pirate Captain a Cutlass Liz, ratlau parot a thaflegrynau/ chatapyltiau Terror of the High Seas! Arrgh!
Gweithgaredd: Coginio Lolis Wynebau Gwirion Siocled Peintio Tafod pypedau Willy Wonka a gwahoddiadau Tocynnau Aur.
THE PIRATES! IN AN ADVENTURE WITH SCIENTISTs
Charlie and the Chocolate Factory (2005)
Antur wedi ei hanimeiddio â’i henwebu am Oscar. Gan gynnwys lleisiau sêr fel Hugh Grant, Martin Freeman, David Tennant, Salma Hayek, Lenny Henry, Brian Blessed a Brendan Gleeson.
Fersiwn Tim Burton o’r stori glasurol i blant. Yn serenu Johnny Depp fel y gwneuthurwr siocled fwyaf anghyffredin yn y byd.
Boreau Sadwrn 10am-1pm Clwb Cymdeithasol Maesgeirchen
Sadwrn 13 Gorffennaf, 10am
Sadwrn 20 Gorffennaf, 10am
Gweithgaredd: Creu Llwyau Hudol, Phillipe Ffyddlon y ceffyl, mygydau Anghenfil a coron o flodau Belle.
Gweithgaredd: Creu gwib-gartiau cardfwrdd, ffon hudd swigod Alfalfa a thegannau ‘sbwriel “Ein Gang Ni”.
Beauty and the Beast (Disney 1991)
The Little Rascals
Ffilm glasur gan Disney sy’n cynnwys llawer o hwyl, hud a lledrith a chaneuon cofiadwy addas i’r teulu cyfan.
Hwyl plant a TheulU
Tocynnau: £2 plant ac oedolion. (£1.50 ymlaen llaw) 01248 382828 www.pontio.co.uk Siop Pontio Llefydd yn gyfyngedig, argymell cael tocyn ymlaen llaw.
Mae sancteiddrwydd y “He-Man Womun Haters Club” a’u gobeithion o ennill y ras gwib-gartio o dan fygythiad pam mae un o’u aelodau mwyaf uchel ei barch yn syrthio mewn cariad (o bopeth!) hefo merch!
15
phone
Cerddoriaeth ym Mangor
walk
Cerddoriaeth ym Mangor Sadwrn 4 Mai, 7.30pm Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor £12 / £9 gostyngiadau / £5 myfyrwyr
Gwener 7 Mehefin, 7.30pm Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor £12 / £9 gostyngiadau / £5 myfyrwyr
Carmina Burana
CYNGERDD GALA’R HAF
CORWS A CHERDDORFA SYMFFONI PRIFYSGOL BANGOR
DIWEDD TRADDODIADOL I DYMOR CERDDORIAETH YM MANGOR
Bydd corws Prifysgol Bangor (gyda’r baritôn Terence Ayebare, soprano Elizabeth Cameron a'r tenor Andrew Powis) yn ymuno â Cherddorfa estynedig Symffoni Prifysgol Bangor, o dan faton Chris Collins, am berfformiad o cantata gyffrous Carl Orff, Carmina Burana!
Mae tymor Cerddoriaeth ym Mangor eleni yn dod i’w ddiwedd draddodiadol gyda cyngherdd gala o ddarnau clasurol poblogaidd yn cael eu perfformio gan ensemblau'r Brifysgol, gan gynnwys Cerddorfa Symffoni, Côr Siambr, Band Cyngerdd, Band Pres a Chymdeithas Cerddoriaeth. Gwydriad o cava am ddim.
) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk
16
Siop Pontio
Gwener 14 Mehefin, 7.30pm Gwesty’r Victoria, Porthaethwy
a w a t a n i F n a r Et BAND ‘DESERT BLUES’ AROBRYN O NIGER Mae Etran Finatawa yn cyfuno diwylliannau nomadig cyfoethog pobloedd y Tuareg a’r Wodaabe o wlad Niger yng Ngorllewin Affrica – rhanbarth sydd, ers miloedd o flynyddoedd, megis croesffordd rhwng Arabiaid gogledd Affrica a’r traddodiadau isSaharaidd.
cabaret
£12/£10 gostyngiadau ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk Siop Pontio
Mae Etran Finatawa yn cyfuno offerynnau traddodiadol â gitarau trydanol, caneuon polyffonig pobl y Wodaabe â threfniadau modern, gan eich cludo i’r Sahara â’u sain atgofus. Enillwyr Gwobr Cerddoriaeth Ryngwladol y BBC am y Newyddddyfodiaid Gorau.
“Wailing, twisting songs as gritty as the desert wind.” – Robin Denselow Songlines ★★★★ 17
Llun 6 Mai, 8pm Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor £10 / £8 gostyngiadau ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk
Siop Pontio
Digrifwr
Seann Walsh efo
Comedi stand-yp myfyrwyr MYFYRWYR DAWNUS BANGOR YN CEFNOGI COMEDÏWR STAND-YP Seann Walsh o Brighton, dyn difyr a diddorol sy'n geg i gyd, yw un o'r bobl ifanc mwyaf dawnus i ymddangos ar y sîn comedi ers amser maith. Mae ei ddull cyflwyno hyderus a'i hunan ddychan ar ‘Michael McIntyre’s Comedy Roadshow’ a ‘Mock The Week’, wedi ei wneud yn un o ddeg comedïwr gorau DAVE. Bydd enillydd cystadleuaeth i ddod o hyd i gomedïwr stand-yp mwyaf digri Bangor yn cefnogi Seann. Bydd comedïwr gorau Bangor yn rhannu'r llwyfan gyda Seann a pherfformwyr byrfyfyr. Bar (arian parod yn unig) ar agor o 7pm ymlaen.
18
CYNNIG ARBENNIG I FYFYRWYR! Bydd Pontio'n treialu cynllun newydd, "Methu mynd heno? Dim problemo!" ar gyfer y digwyddiad hwn. Os na allwch ddod i’r sioe am ba bynnag reswm, gallwch ddod â'ch tocyn a'ch cerdyn NUS i siop Pontio y diwrnod wedyn a chael eich arian yn ôl yn llawn. Mae'r cynnig yn ddilys tan amser cau'r siop, 3pm, dydd Mawrth 7 Mai 2013.
Methu mynd heno ? Dim problemo!
FFILM GWENER Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor £4/£3 ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk
FFILM
Cafodd ffilmiau’r Haf 2013 eu dewis yn ofalus gan Grŵp Ffilm Cymuned Bangor ar ran Pontio. Os oes unrhyw gynnigion ffilm gynnoch chi, gadewch i ni wybod! Cysylltwch â ni drwy info@pontio.co.uk neu beth am ymweld â ni yn Siop Pontio ar y stryd fawr a cynnig ffilm yno? CROESO I BAWB!
Mehefin 7, 7.30pm
Mehefin 21, 7.30pm
Gorffennaf 5, 7.30pm
Amour
Mama Africa
Zero Dark Thirty
(DU 2012) 127 mun Cyfarwyddwr: Michael Haneke Prif rannau: Jean-Louis Trintignant, Emmanuelle Riva a Isabelle Hupper
(Yr Almaen 2011) 90 mun Cyfarwyddwr: Mika Maurismäki Prif rannau: Harry Belafonte, Kathleen Cleaver a Leopoldo Fleming
(DU 2012) 157 mun Cyfarwyddwr: Kathryn Bigelow Prif rannau: Jessica Chastain, Joel Edgerton a Chris Pratt
Drama/Rhamant. Mae Georges ac Anne yn eu wythdegau. Maen nhw’n hen athrawon cerddoriaeth. Mae eu merch, sydd hefyd yn gerddor, yn byw dramor gyda’i theulu. Un diwrnod, mae Anne yn dioddef trawiad ar y galon. Mae eu ymrwymiad a’u cariad yn cael ei herio.
Dogfen/Bywgraffiad/Cerddoriaeth. Teyrnged fywiog i un o arwyr cerddoriaeth a diwylliant Affrica, Miriam Makeba. Mae casgliad o gyfweliadau a chlipiau archif, o’r 50au i‘r presennol, yn darparu portread o’r aml-ieithog Makeba.
Drama/Hanes/Cyffro. Cronicl o’r helfa deng mlynedd o hyd am arweinydd terfysgol yr al-Qaeda, Osama bin Laden ar ôl yr ymosodiadau Medi 2001; a’i farwolaeth yn nwylo Tîm 6 y Navy S.E.A.L. yn Mai 2011. 19
Mission Photographic
PerffomiAd
Sul 1 Medi, 730pm Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor £14/£8 gostyngiadau; tocyn teulu (2 oedolyn a 2 blentyn): £40 Cynnig cyntaf i'r felin: 80 tocyn 1af am £8 ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk Pontio Shop
Cyngerdd Mawreddog ˆ
Caiff dau gantor ifanc talentog eu dethol gan John Owen Jones i rannu'r llwyfan ag ef yn y cyngerdd.
Os ydych rhwng 16 a 25 uno mlwydd oed ac yn dym wn me n cymryd rha clyweliad, cysylltwch â o.uk Pontio ar info@pontio.c diad dyd Y . 90 neu 01248 3880 f 31 na en rff Go : tru cau i gofres d, lia we cly o’r n rha Fel 2013. gân 1 bydd gofyn i chi ganu o'ch cof.
20
Ymestyn am y SEr
Seren y West End a Broadway John Owen Jones yn ymuno gyda Chôr Ysgol Glanaethwy i gyflwyno rhaglen o ganeuon poblogaidd o'r sioeau cerdd.
Mae John Owen Jones, o Borth Tywyn yn ne Cymru, yn berfformiwr o fri ar y West End a Broadway sydd wedi ennill gwobrau lu. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei berfformiad fel Jean Valjean yn Les Miserables ac fel y Ddrychiolaeth yn The Phantom of the Opera. Pan oedd yn 26 mlwydd oed, ef oedd yr actor ieuangaf erioed i chwarae rhan Jean Valjean yng nghynhyrchiad y West End o Les Mis. Sefydlwyd Ysgol Glanaethwy, sy'n ysgol y celfyddydau perfformio ym Mangor, gan Rhian a Cefin Roberts yn 1990. Daeth yr ysgol i gryn amlygrwydd pan ganodd côr disgyblion hŷn yr ysgol yn Last Choir Standing BBC1 ac ennill yr ail wobr yn y bleidlais derfynol ac yn 2010 cipiodd Ysgol Glanaethwy dwy wobr aur yn y 'World Choir Games' Shaoxing.
Gwener 4, Sadwrn 5 Hydref Eich cyfle i gymryd rhan - Clyweliadau 27 Gorffennaf
BODIES IN URBAN SPACES gan Willi Dorner (Awstria)
PerffomiAd
Mae Migrations a Pontio yn cyflwyno perfformiad teithiol sy'n eich arwain drwy leoedd newydd a chyfarwydd yn eich ardal chi. Bydd 20 o berfformwyr, yn cynnwys rhedwyr, gymnastwyr, dringwyr, artistiaid ymladd neu ddawnswyr, wedi eu gosod mewn lle ar hyd y daith ynghanol adeiladau Bangor.
Cynhelir y clyweliadau ar 27 Gorffennaf gyda phum diwrnod o ymarfer yn arwain at y perfformiadau ym mis Hydref. Taliad ar gael i'r perfformwyr. Gyda chefnogaeth swyddfa ddiwylliannol dinas Fienna.
Photo: Lisa Rastl
Hoffech chi fod yn un o'r 20 perfformiwr? Cysylltwch â Migrations ar 01492 642291 neu post@migrations.co.
21
Iau 20 Mehefin, 11am, 2pm & 7pm, Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
PerffomiAd
Bedwyr Williams a’r “Starry Messenger” Digwyddiad “seryddol” yn Neuadd Powis! Mae Bedwyr Williams, artist ymgynghorol Pontio yn mynd a phrosiect arbenning i'r Biennale yn Fenis eleni, sy' n edrych ar y microscopig a’r astronomig. Dewch i glywed am ei waith, a chael profiad planedol arbennig... Digwyddiad am ddim. I sicrhau eich lle, archebwch drwy ebostio info@pontio.co.uk, neu ffoniwch 01248 388090 neu dewch i Siop Pontio. Yn addas ar gyfer 11+. Mae ymweliad Bedwyr a’r Biennale yn bartneriaeth gydag Oriel Davies, MOSTYN a Chyngor Celfyddydau Cymru.
"Starry Messenger" gan Bedwyr Williams Dylunwyd gan Åbäke Trwy garedigrwydd Wales in Venice | Cymru yn Fenis 2013 22
Gwener 21 Mehefin Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor
Sadwrn 1 Mehefin
Siapiau SWN
Mae Pontio yn falch i gefnogi un o ddigwyddiadau myfyrwyr mwyaf y flwyddyn – Dawns yr Haf 2013. Bydd y Ddawns eleni yn lawn dop â chestyll neidio, gemau rhedeg bungee, reidiau ffair, ystafell Ministry of Sound sy’n cynnwys bandiau teyrnged, casino, coctêls ac wrth gwrs, y brif lwyfan gyda Professor Green, James Arthur a K-Koke! Mae tocynnau yn £45 ac ar werth yn y Siop Academi, Undeb Myfyrwyr, siop Ffriddoedd, Bar Uno a www.gigantic.com.
Dan arweiniad Manon Llwyd mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd a Pontio
CYMUNED
^
Bydd y cerddor a'r cyfansoddwr Manon Llwyd yn arwain gweithdai i annog plant i fynegi eu hunain drwy gerddoriaeth a dysgu sut i chwarae yn ôl y glust. Bydd Manon yn treulio cyfnodau preswyl cerddorol mewn nifer o ysgolion yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau, lleisiau ac offerynnau, bydd plant yn trafod yr hyn sy'n eu hysbrydoli ac yn edrych ar wahanol synau a thechnegau cerddorol. Bydd pob un o'r ysgolion sy'n cymryd rhan gyda'i gilydd yn rhannu cerddoriaeth yn Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor.
Mae’r digwyddiad hwn yn agored i'r ysgolion sy'n cymryd rhan yn unig. 23
SIop Pontio
Yn Cyflwyno Tamaid bach o Pontio SBIA Be' Sy' Ymlaen Ar Sadwrn 11 Mai, 10am – 2pm
Llun 13 Mai, trwy’r dydd am 4 wythnos
Sadwrn 25 Mai, 10am – 3pm
SGWAD SGWENNU
Yma ac Acw
Deuawd i Dri
Sesiwn greadigol cyfrwng Gymraeg ar gyfer talentau Sgwad Sgwennu Gwynedd gyda’r bardd Llion Jones, i greu cerddi sydd yn ymgyrffori thema 'blaguro'. Mewn partneriaeth gyda 24
Arddangosfa i ddathlu cymdeithasu aml-ethnig a dwyieithog Bangor. Fel rhan o brosiect Yma ac Acw mae pobl hŷn o gefndir Cymreig, Seisnig a diwylliannau eriall wedi cyfnewid straeon. Gwelir yn yr arddangosfa hon weithiau creadigol sydd wedi tyfu allan o'r cyfnewid hwn.
Mae Deuawd i Dri yn brofiad fideo rhyngweithiol sydd yn gadael i chi reoli'r ddawns. duetforthree.com
Stryd Fawr Bangor Sadwrn 25 Mai, 1pm – 2pm
Sadwrn 8 Mehefin, 2.30pm
Sadwrn 8 Mehefin, 11.30am
TaikaBox
Y BONT
Mae Taikabox mewn cydweithrediad a dawnswyr annibynnol lleol yn arbrofi gyda'r gofod cyhoeddus i greu symudiad. Dewch i weld ac ymateb i'r dawnswyr a dylanwadu ar ddatblygiad eu hymchwil creadigol.
‘Y Bont’: perfformiad dyfeisiol gan griw prosiect BLAS Pontio (blwyddyn 4 a 5, ysgolion Hirael a Glancegin) ar Ffordd y Traeth, o dan gyfarwyddyd Mared Huws, cydlynydd prosiect BLAS.
CARNIFAL BANGOR Prosesiwn yn pasio’r siop.
SIop Pontio
n Ein Y h c y w G iadau dd r o g n Digwy Ba r Faw d y r t Siop Newydd Ar S
(Pontio mewn cydweithrediad a Taikabox a Confucius)
25
SIop Pontio
Sadwrn 22 Mehefin, 13 Gorffennaf, 24 Awst, 1pm - 4pm
POBOL Mae Pontio yn chwilio am aelodau o’r gymuned hoffai fod yn rhan o brosiect cyffrous ac unigryw: POBOL. Da ni’n chwilio am bobl o bob cefndir, oed, a galwedigaeth ac yn awyddus i recordio’ch lleisiau a’ch wynebau – gyda’r bwriad o’ch clywed, a’ch gweld maes o law, yn Pontio. Mae prosiect POBOL mewn partneriaeth gyda chwmni animeiddio Griffilms. I fynegi diddordeb mewn cymryd rhan, ebostiwch POBOL@ pontio.co.uk erbyn dydd Gwener Mai 31.
26
Gwener 14 Mehefin, 1pm – 4pm
Gwahoddiad i rannu… Straeon am rywbeth sydd wedi ei golli. Mae’r dawnsiwr Cai Tomos yn eich gwahodd i alw heibio i’r siop i rannu eich stori bersonol chi gydag e am rywbeth yr ydych wedi ei golli…. Bydd eich straeon yn ysbrydoli ymateb creadigol gan Cai fel rhan o'i waith ym maes dementia a’r celfyddydau gyda Pontio.
n Ein Y h c y w G iadau dd r o g n Digwy Ba r Faw d y r t Siop Newydd Ar S Cwtsh Cynganeddu 4 sesiwn am ddim ar ôl ysgol yn cyflwyno‘r grefft o gynganeddu i bobl ifanc 16 -18.
Gwener 5 Gorffennaf, 1pm – 2.30pm
Jam Sesiwn ddrymio i bawb o bob oed mewn partneriaeth a Cerdd Cymunedol Cymru. Darperir offerynnau.
SIop Pontio
Mawrth 4, 11, 18 & 25 Mehefin, 4pm – 5.30pm
Nifer cyfyngedig o lefydd. Gofynir i chi gofrestru erbyn dydd gwener Mai 31 trwy gysylltu a GwenLasarus@ gwynedd.gov.uk neu 01286 679465 (Llun-Mercher). Pontio mewn partneriaeth a
27
Ein n Y h c y w G iadau ngor Digwydd Ba r Faw d y r t S r Siop Newydd A SIop Pontio
Sadwrn 6 Gorffennaf, 1.30pm – 2.30pm
Sesiwn Cornelˆ Straeon a ChAn gyda Lisa Jên Brown i blant bach 3 – 6 oed a’u rhieni.
i ddod... Sadwrn 13 Gorff , 12pm – 1pm
O fis Medi ymlaen
NoFit State Circus
GWADDOL
Cwmni NoFit State Circus yn arddangos sgiliau syrcas.
Bydd Pontio yn cychwyn ar brosiect fydd yn chwilio am eich straeon ac atgofion am Theatr Gwynedd…. Dwi’n cofio…. A byddwn yn awyddus i gael eich cyfraniadau. Mwy o fanylion i ddod yn fuan.
28
Yma yn Pontio, rydym 9 wrth ein boddau efo’r TudaLeN celfyddydau. Hoffwn wybod o Restru pa ddigwyddiadau sydd Yn dechrau ymlaen. Mae’r tudalennau yma sy’n dilyn yn llawn o ddigwyddiadau amrywiol o gwmpas ac yng nghanol Bangor y mae Pontio yn eu hawgrymu’n gryf! O ffilmiau a chyngherddau roc i arddangosfeydd gwyddonol a darlithoedd cyhoeddus, mae ‘na rhywbeth at ddant pawb! Ystyriwch hon yn raglen “Beth sydd ‘mlaen”, mwynhewch… Os hoffech chi restru’ch digwyddiad yn rhaglen tymor yr hydref Pontio, e-bostiwch ni ar info@pontio.co.uk.
Gwener 17 Mai, 7.30pm Canolfan Thomas Telford, Porthaethwy, LL59 5EA Oedolion £7.50, o dan 18 £3
Noson yng nghwmni Jonathan Richards
Pontio’n awgrymu
Pontio’n Awgrymu
Mi fydd y gitarydd clasurol, Jonathan Richards yn perfformio amrywiaeth o gerddoriaeth gan Bach, Haydn, Albeniz, Schubert a chyfansoddwyr eraill. Noddir y cyngerdd gan ‘Noson Allan’ a Chyngor Ynys Mon. Tocynnau ar gael gan Jane Sinnett 01407 831480 www.northwalesguitarcircle.co.uk 29
GigS OWEN
Detholiad o gigs dan ofal y dyn hynod hwnnw, Owen Hughes o Recordiau Cob
Pontio’n awgrymu
Gwesty'r Victoria, Portaethwy LL59 5DR Tocynnau o Palas Print, Bangor Iau 8 Mai, 8pm £10
Mawrth 25 Mehefin, 8pm £10
Mawrth 23 Gorffennaf, 8pm £12
Sul 25 Awst, 8pm £10
Vera van Heeringen Trio
Matt Anderson
Steve Riley and the Mamou Playboys
Katy Moffat
'Roedd gitarydd gorau Canada yn gwneud i un gitâr acwstig swnio fel band llawn. Sgiliau rhyfeddol a llawenydd heintus' - The Times
Bluegrass cyfoes o'r Iseldiroedd gan Vera van Heeringen a'i thriawd talentog.
www.veravanheeringen.com
'Caneuon crefftus wedi eu fframio gan lais soprano cyfoethog....gogoneddus' USA Today www.katymoffat.com
www.stubbyfingers.ca
'Mae hi'n gallu chwarae unrhyw beth gyda llinynnau, ysgrifennu caneuon gwych a'i canu nhw hefyd' - Tim O'Brien
30
Canwr/cyfansoddwr/gitarydd Blues hynod boblogaidd o Ganada.
Un o gantorion/cyfansoddwyr mwyaf gonest ac effeithiol America.
Cerddoriaeth Cajun ar ei orau a mwyaf cyffrous. Enillodd Steve Riley gwobr Grammy 2012 ac mae wedi enwebu am bedair arall heb son am arwain y band syfrdanol byw yma o Dde-orllewin Louisiana i Borthaethwy! www.mamouplayboys.com
Cynhadledd ar gyfer unigolion a theuluoedd y byddar yng Ngogledd Cymru 10am – 3.30pm Sadwrn 8 Mehefin Prif Adeilad y Celfyddydau Ffordd y Coleg, Prifysgol Bangor Cynhadledd am ddim i oedolion a rhieni plant sy’n dioddef o fyddardod
CYNGERDD MS Noson o gerddoriaeth wych gan gantorion a cherddorion lleol. Arweinir gan Nia Parry ac yn cynnwys Elin Fflur, Iona Stevens, Côr Ysgol Rhiwlas, Band Ukelele de Gwynedd, Bron Cathos a’r adnybyddus Côr MS. Tocynnau ar gael drwy 07920 429477 neu Palas Print Bangor a Chaernarfon
Pontio’n awgrymu
Clust i wrando
Sadwrn 22 Mehefin, 7.30pm Neuadd Prichard-Jones £7.50
Siaradwyr, trafodaethau a chyfle i gymdeithasu Manylion pellach a chofrestru: i.r.cooke@bangor.ac.uk (01248) 382255 31
Caffi Blue Sky
Pontio’n awgrymu
Neuadd Ambassador, yng nghefn 236 Stryd Fawr, Bangor LL57 1PA www.blueskybangor.co.uk Iau 2 Mai Bwyd o 6.30pm Gig 8pm Gig £8 pryd o fwyd dau gwrs £10
Gwener 10 Mai Bwyd o 6.30pm Gig 8pm Gig £8 pryd o fwyd dau gwrs £10
Gwener 17 Mai Bwyd o 6.30pm Gig 8pm Gig £8 pryd o fwyd dau gwrs £10
Iau 23 Mai Bwyd o 6.30pm Gig 8pm Gig £8 pryd o fwyd dau gwrs £10
Common Tongues
The Rip Roaring Success
T G Elias a Rob Jones
Huw Warren Diamond Express
Mae Common Tongues yn grŵp gwerin gyda phum aelod o Brighton. Mae eu sŵn yn gyfuniad o Crosby, Stills and Nash ac Arcade Fire, ac maent hefyd yn enwi Bon Iver, Local Natives, The Band a'r Eels ymhysg rhai o'r grwpiau eraill sydd wedi dylanwadu arnynt. commontonguesepk. tumblr.com
Y Rip Roaring Success yw'r band swing gorllewinol orau i'r dwyrain o El Paso! Cewch eich tanio gan flas y paith wrth wrando ar eu caneuon bywiog.
www.theriproaring success.co.uk
Mae T G Elias yn awdur toreithiog ac yn berfformiwr sy'n swyno'r gynulleidfa.
“Cerddoriaeth hudolus o'r galon”- Bob Harris, Radio 2 Mae Rob Jones yn frodor o ogledd Cymru ac yn ganwr gwerin unigryw. www.facebook.com/ tgeliasmusic
Bydd tocynnau ar gael o Blue Sky pedair wythnos cyn y digwyddiad. 32
Huw Warren – Piano Maria Lamburn - Clarinet bas Huw V Williams - Bas Zoot Warren - Drymiau Noson o jas hapus ac ysbrydoledig sy'n deillio o faestrefi De Affrica. Caneuon gan Abdullah Ibrahim (Dollar Brand) Dudu Pukwana, Hugh Masakela Chris McGregor ac eraill wedi eu trefnu gan y cerddor jas blaenllaw, Huw Warren. Cerddoriaeth i'r pen, y galon a'r traed! www.huwwarren.co.uk
Noson Arbennig Brasil Huw Warren Huw Warren - Piano/Acordion Maria Lamburn - Clarinet Huw V Williams - Bas Lloyd Haines - drymiau Yn ôl oherwydd galw mawr! Noson o gerddoriaeth heulog Brasil dan arweiniad un o gerddorion blaenllaw Cymru. Samba, Bossa, Baião Frevo Chorino gan Tom Jobim, Hermeto Pascoal, Tania Maria, a llawer mwy... www.huwwarren.co.uk
Mercher 31 Gorffennaf Bwyd o 6.30pm Gig 8pm Gig £8 pryd o fwyd dau gwrs £10
Clwb Jazz @ Teras bob mis
'Anhygoel o dda' www.sarahsmithtrio.co.uk
Rhyddid, Anarchiaeth a’r 21ain Ganrif Dyma drafodaeth gyffrous nesaf Agor-A. Bydd yn cynnwys syniadau academaidd, gwleidyddol a chelfyddydol ynglŷn â rhyddid ac anarchiaeth ac fe fydd panel diddorol. Croeso i bawb gael dweud eu dweud.
Sarah Smith Trio Cerddoriaeth wedi’i drosglwyddo’n uniongyrchol gan fawrion jazz y 30au a’r 40au, Django Reinhardt a Stephane Grappelli – cymysgedd hudolus o swing Americanaidd, sipsi ac arddulliau Ewropeaidd.
Iau 9 Mai, 7pm Neuadd Gerddoriaeth, Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Bangor. Am ddim
Noson Jazz gyda cherddorion gwadd arbenning. Edrychwch ar ein gwefan www.bangor. ac.uk neu Facebook am fanylion.
www.facebook.com/pages/ Agor-A
Pontio’n awgrymu
Mercher 25 Gorffennaf Bwyd o 6.30pm Gig 8pm Gig £8 pryd o fwyd dau gwrs £10
Gwener 3 Mai, Gwener 31 Mai, Gwener 21, Mehefin 12 Bwyd o 6pm, Miwsig o 7.30pm Y Teras, Prif Adeilad y Celfyfddydau, Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DG £8
Archebu o flaen llaw yn hanfodol 01248 388686 neu Teras@Bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/venues
33
Gwener 3, Sadwrn 4, Sul 5 Mai Neuadd John Phillips £5/£4 NUS
Pontio’n awgrymu
Macbeth gan William Shakespeare Mae trasiedi Shakespeare yn adrodd hanes cadfridog dewr Albanaidd o’r enw Macbeth. Wedi ei demtio gan uchelgais a’i annog gan ei wraig i weithredu, mae Macbeth yn llofruddio Brenin Duncan ac yn dwyn ei goron. Mae’r trais gwaedlyd yn tywys Macbeth a’i wraig i wallgofrwydd a marwolaeth. Manylion i archebu www.facebook.com/pages/BEDSPerform-Macbeth Gwener 17, Sadwrn 18, Sul 19 Mai Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor £5/£4 NUS
Spring Awakening gan Frank Wedekind Drama sy'n feirniadol o ddiwylliant ormesol-rhywiol yr Almaen yn y 19fed ganrif a sy'n cynnig dramateiddiad o ffantasïau erotig. Oherwydd natur ddadleuol y pwnc, mae’r drama wedi derbyn tystysgrif 18. www.facebook.com/pages/ BEDS-Perform-Spring-Awakening
34
S N W DA Mawrth 21 Mai - 26 Mehefin, 6-7pm Feed My Lambs, Lôn Ysgol, Caernarfon, LL55 2AP £30 am gwrs 6-wythnos, neu £5 i drio'r sesiwn gyntaf
Gweithdy Dawns Burlesque
Dysgwch i ddawnsio â cheinder, gwella safiad a datblygu eich ffitrwydd. Croeso i llwyr ddechreuwyr. Sadwrn 1 Mehefin, 1-5pm Capel Penrallt, Ffordd Caergybi, Bangor Uchaf, LL57 2EU £20
Gweithdy Dawns Lindy Hop (Swing Jive) Cafodd y ddawns hwyliog a bywiog hon ei geni yn Harlem yn y 1920au. Cyfle i ddechreuwyr ddysgu’r symudiadau dan arweiniad yr athrawes brofiadol Sandy Bennett.
Sadwrn 1 Mehefin, 8-11pm Capel Penrallt, Ffordd Caergybi, Bangor Uchaf, LL57 2EU £5
‘Yn y Hop’ Parti Swing Jive Amser Parti! Gwers i ddechreuwyr 8pm, wedyn dawnsio i fiwsig Jive gwych. Croeso i bawb (hyd yn oed rhai â dwy droed chwith). Dyddiau Mercher 15 Mai a 5 Mehefin, 6.30-7.30pm Ysgol Friars, Ffordd Eithinog, Bangor, LL57 2LN £4
Sesiwn Blasu Dawns Zumba Sesiwn dawns hawdd llawn hwyl sy’n llosgi caloriau. Cymysgedd o Salsa a Hip Hop, dawns Affricaniadd a Bollywood. helenmcgreary7@hotmail.com 07751 017157 017157 neu just troi ifyny!
Penwythnos Gŵyl Banc Sadwrn 25 Mai - Sul 26 Mai Gŵyl o gerddoriaeth, digwyddiadau ieuenctid, gweithgareddau amrywiol a’r celfyddydau. Tocyn Penwythnos Oedolyn: £60 - Mynediad i safle’r ŵyl a’r maes pebyll. Parcio am ddim. Gostyngiadau Oedolyn: £55 – Myfyrwyr, yr henoed, diwaith, 1417 oed – mynediaid i safle’r ŵyl a’r maes pebyll. Parcio am ddim. Tocyn Diwrnod Oedolyn: £35. Parcio am y dydd £7. Dim gwersylla. Tocyn Consesiwn Dydd i Oedolyn: £30 Plant 0-13: Am ddim! Parcio Fan Gwersylla: £30 kayafestival.co.uk Ticketline: 0844 888 9991 info@kayafestival.co.uk
BALCHDER GOGLEDD CYMRU 2013 Dyma fydd ail flwyddyn y digwyddiad unigryw yma gyda’r bwriad o ddenu cymunedau at ei gilydd a dathlu amrywiaeth yng ngogledd Cymru.
Sul 28 Ebrill, 3pm Neuadd Powis, Bangor £7 / £4 (plant) Canolfan Gerdd William Mathias yn cyflwyno:
CYNGERDD er budd Cronfa CGWM er cof am Ben Muskett
Cyfle i fwynhau perfformiadau gan Nicki Pearce (cello), Sioned Webb (piano) ac unawdwyr ac ensemblau o’r Ganolfan. Tocynnau ar gael o Ganolfan Gerdd William Mathias, Galeri, Caernarfon a Palas Print Pendref. www.cgwm.org.uk (01286) 685230
Tocynnau ar gael ar ein gwefan a rhai siopiau yn yr ardal. www.northwalespride.com
Pontio’n awgrymu
Gwener 26 Gorffennaf Sadwrn 27 Gorffennaf Neuadd Hendre, Tal y Bont, Bangor, LL57 3YP £15 (tocyn penwythnos), £5 pob person i wersylla (penwythnos)
Iau 18 – Sul 21 Gorffennaf, Caernarfon Prisiau Amrywiol Dyma’r 5ed ŵyl! Penwythnos llawn dop o lenyddiaeth, comedi, cerddoriaeth, celf, ffilm, drama, teithiau cerdded, a bwyd yn llenwi’r dref. Digwyddiadau i’r teulu oll. www.gwylarall.com 35
AMGUEDDFA & ORIEL GWYNEDD Ffordd Gwynedd, Bangor, Gwynedd LL57 1DT
Pontio’n awgrymu
Yn yr Oriel
36
Gilly Thomas
John Hedley
Ebrill 27 – 8 Mehefin 2013
Ebrill 27 – 8 Mehefin 2013
Yr Ymyl Rhyfedd Mae gweithiau awgrymog Gilly Thomas, a symbylir gan obsesiwn, dilema ac eironi, yn archwilio naratifau a sefyllfaoedd personol ac archdeipaidd.
Pwyso a Haenu Casgliad o waith newydd sy’n archwilio’r cysyniadau o bwyso, cracio a haenu, gyda chyfeiriad at y ddaeareg yn ymwneud â Geo Môn (Geoparc Ynys Môn) a’r tebygrwydd gyda rhai nodweddion coedwigol. Mae John Hedley wedi ennill Grant Cyngor y Celfyddydau i ddatblygu’r corff hwn o waith mewn print, gludwaith a phaent a chreu delweddau o wynebweddau haniaethol ac organig.
Graddedigion Prifysgol Bangor
Wendy Mayer Stephanie Inglis
15 – 29 Mehefin 2013
Gorffennaf 27 – 21 Medi 2013
Graddedigion Coleg Menai
Pinnau a Nodwyddau Cymysgedd diddorol o chwarëusrwydd ac afluniad. Gan ddefnyddio hwiangerddi a diarhebion fel y man cychwyn, mae Wendy Mayer a Stephanie Inglis yn rhoi tro annisgwyl ar bethau sydd i’w gweld yn gyfarwydd i ddechrau.
6 – 20 Gorffennaf 2013 Mae graddedigion cwrs gradd BA Celf Gain, Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor a graddedigion cwrs gradd BA Celf Gain Coleg Menai yn arddangos, yn eu tro, detholiad o uchafbwyntiau eu gwaith.
Agor: Maw-Gwe12.30-4.30pm; Sad 10.30am-4.30pm Am ddim www.gwynedd.gov.uk/amgeuddfeydd
Yn yr Amgueddfa
Arddangosfa Hilary Cartmel Niki Pilkington Gorffennaf 27 – 21 Medi 2013 Darlunydd ffasiwn Cymreig yw Niki Pilkington sydd wedi gweithio yn Llundain, Caerdydd a Paris. Drwy weithio gyda deunyddiau y gallech ddod o hyd iddynt mewn blwch pensiliau plentyn, mae ei steil chwareus, yn canolbwyntio ar ffasiwn a'r bobl sy'n ei wisgo.
Merched Rhyfeddol
‘Salem’ Gartref
Dorothea Pughe-Jones, Dorothy Drage, Lady Reade
Paentiad dyfrlliw yw ‘Salem’ gan Sidney Curnow Vosper (1866-1942) o gapel Bedyddwyr bychan yng Nghefncymerau, Llanbedr. Bydd yr arddangosfa hon yn dathlu’r gwaith ac yn adlewyrchu ar sut y mae’n parhau i dreiddio i gartrefi Cymreig ac yn mynegi hunaniaeth Gymreig.
Mawrth 23 – 22 Mehefin 2013 Mae’r arddangosfa yn edrych ar y casgliadau a’r merched a fu’n gyfrifol amdanynt. Nid siapio’r cymunedau o’u hamgylch yn unig a wnaethant, ond mae’r merched ymhlith yr arloeswragedd ar gyfer cydraddoldeb i ferched ac ar yr un pryd yn dathlu ac yn cadw’r ffordd wledig o fyw ar raddfa fyd-eang.
Mehefin 29 – 12 Hydref 2013
Arddangosfa o waith celf 2D a 3D gan yr artist Hilary Cartmel ym mhrif fynedfa’r Ysbyty www.creativegwynedd.com
Pontio’n awgrymu
Mai a Mehefin Oriel Ysbyty Gwynedd, Bangor Am Ddim
37
#
Ymunwch â’n rhestr bostio Beth yw eich…
Cadwch mewn cysylltiad
Enw: Ebost:
I gael gwybod am ddigwyddiadau, newyddion a chynigion arbennig, yna ymunwch arlein: www. pontio.co.uk, ebostiwch ni: info@pontio.co.uk neu llenwch y ffurflen hon a’i dychwelyd i: Pontio, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DG.
Cyfeiriad:
Côd post:
Ffôn Sut hoffwch chi dderbyn y gwybodaeth? e-bost
post
Unrhyw sylwadau?
Amdanoch chi Caiff y wybodaeth hyn ei ddefnyddio i ddarganfod gwybodaeth am ein hymwelwyr yn unig. Oedran: 4-10
11-15 16-24 25-34 35-44 45-54 55-64 65+ Rhyw: Gwryw Benyw
Hoffwn hefyd dderbyn diweddariadau o rhestr bostio Grw ˆp Celfyddydau Gogledd Cymru
38
*The *MaeNorth Grw ˆp Celfyddydau’r Wales Arts Group Gogledd includes yn cynnwys PontioPrifysgol & BangorBangor University, & Pontio, ArtsCyngor Council Celfyddydau for Wales,Cymru, Creu Cymru, Creu Cymru, TheatrTheatr Genedlaethol Genedlaethol Cymru, Cymru, Theatr Theatr BaraBara Caws, Caws, Galeri, Galeri, Ucheldre CanolfanCentre, Ucheldre, Venue Venue Cymru, Cymru, Cwmni’r Cwmni’r Fran FranWen, Wen,Dawns Dawnsi iBawb, Bawb,Oriel Oriel Plas Plas Glyn-y-Weddw, Glyn-y-Weddw, Oriel Oriel Mostyn, Mostyn, Canolfan CanolfanGerdd GerddWilliam WilliamMathias, Mathias, Neuadd Neuadd Dwyfor, Dwyfor, Cyngor Cyngor Gwynedd Gwynedd ac Oriel andYnys OrielMôn. Ynys Môn.