Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Arts and Innovation Centre Bangor
COPI AM DDIM FREE COPY
n e a l m y d d y s h t Be n o s ’ t Wha Rhagfyr 2019 a Ionawr 20 20 December 2019 and Janu ary 2020
Gan gynnwys….featuring Gruff Rhys / Eric and Ern’s Christmas Show / Elephant Sessions / Nadolig Calan / Only Men Aloud / Y Trol Wnaeth Ddwyn y ‘Dolig / GISDA Giggles / Trials of Cato/Sarah Churchwell / The Sorcerer’s Apprentice
Croeso i be sy’ ‘mlaen mis Rhagfyr a Ionawr Welcome to the December & January what’s on Gwelwyd cyfnod prysur yma yn Pontio dros y misoedd diwethaf wrth i ni groesawu Cyfarwyddwr newydd Celfyddydau Pontio, Osian Gwynn. Gydag ychydig o ddigwyddiadau ychwanegol yn rhaglen y gaeaf, rydym wedi cynhyrchu’r llyfryn bychan yma ar gyfer mis Rhagfyr a mis Ionawr, gan achub ar y cyfle i gyflwyno ein Cyfarwyddwr newydd a gadael i chi ddod i’w adnabod ychydig yn well. Bydd ein rhaglen dymhorol ar gyfer Ionawr-Ebrill 2020 ar gael tua diwedd Rhagfyr, ond yn y cyfamser mwynhewch hwyl yr ŵyl, a gobeithio y cawn eich cwmni yn Pontio’n fuan!
It’s been a busy few months at Pontio as we welcome our new Director of Pontio Arts, Osian Gwynn. With some extra activities in our winter programme, we’re trying out a new format with this mini guide to what’s on over the next couple of months, and have taken the opportunity to invite you to get to know our new director a little better. Our full seasonal programme for January-April 2020 will be available towards the end of December, but in the meantime have a wonderful festive season and we hope to see you soon - enjoy!
Sut i archebu How to book Arlein Online pontio.co.uk PontioTweets
Dros y ffôn Over the phone 01248 38 28 28 PontioBangor
Pontio, Ffordd Deiniol, Bangor, LL57 2TQ pontio_bangor
Am fanylion agor a chau for opening and closing times, see pontio.co.uk PontioBangor
Os hoffech gopi o destun y rhaglen yma mewn print bras, neu fersiwn glywedol, cysylltwch ar 01248 38 28 28 If you would like a large print version or audio copy of the text of this programme, please contact us on 01248 38 28 28
Mae’r wybodaeth yn gywir adeg argraffu. Information is correct at time of going to print. Rhif Elusen | Registered Charity Number: 1141565
Cwrdd â Chyfarwyddwr newydd Celfyddydau Pontio - Osian Gwynn Meet our new Director of Pontio Arts - Osian Gwynn Croeso i Pontio. Dywedwch ychydig wrthym am eich gweledigaeth ar gyfer y ganolfan… Welcome to Pontio. Tell us a little more about your vision for the centre… Mae Pontio’n le llawn bwrlwm ac yn ofod cyhoeddus o’r radd flaenaf. Dwi’n awyddus i Pontio gael ei ddefnyddio gan gymaint o bobl â phosib, a thrwy barhau ac adeiladu ar arlwy amrywiol a chyffrous dwi’n ffyddiog y gallwn barhau i apelio at y rhai sy’n dod yma yn barod a chynulleidfaoedd newydd. Mae gan yr ardal leol gymaint i gynnig o ran artistiaid hefyd a dwi’n angerddol dros roi llwyfan iddyn nhw yn ogystal ag artistiaid a chwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol. Dwi am weld Pontio yn le llawn hwyl a llawenydd, sy’n dathlu amrywiaeth ein cymunedau ac yn dod â phobl at ei gilydd i brofi celfyddyd o bob math! Pontio is a place that’s buzzing with life and energy, and a civic space of the highest quality. I’m passionate about Pontio being used by as many people as possible, and through presenting an exciting and varied programme, I believe we can continue to appeal to our current audiences and attract new ones. The local area has so much talent to offer and I am a strong advocate of showcasing local talents, as well as offering a platform to national and international artists. I want people to experience a fun and joyful ethos when visiting Pontio, and for it to be seen as
a place that celebrates the diversity of our communities. A place that brings people together to enjoy the arts in all its wonderful variety! Pa bum peth fyddai’n amhosib i chi fyw hebddynt? What five things could you not live without? Teulu Family / Ffrindiau Friends / Spotify / Coffi Coffee / Caws Cheese Oes yna un digwyddiad yr ydych yn edrych ymlaen at weld yn rhaglen Rhagfyr-Ionawr? Is there one event you’re particularly looking forward to during December and January? Ma’ ‘na gymaint o ddigwyddiadau grêt yn Pontio rhwng nawr a diwedd Ionawr. Mae’n amhosib dewis ffefryn, ond mae’n rhaid dweud ‘mod i’n edrych ‘mlaen at gyngerdd Nadolig Ysgol Llanllechid a Chôr y Penrhyn, gan mai dyna hen ysgol gynradd Dad! There are so many amazing acts coming to Pontio between now and the end of January. It’s impossible to pick a favourite but I have to say that from a personal point of view, I’m looking forward to Ysgol Llanllechid and Cor y Penrhyn’s Christmas concert, as that was primary school that my father attended!
7 DIWRNOD YR WYTHNOS AGORED I BAWB 7 DAYS A WEEK ALL WELCOME
1 Sgrin | Screen 3D 15 ffilm newydd y mis | 15 new films a month 70 dangosiad y mis | 70 showings a month SINEMA Un llwyfan ar gyfer goreuon byd opera a theatr fyw CINEMA One stage for the best in live opera and theatre 7 DIWRNOD YR WYTHNOS - AGORED 7 DAYS A WEEK I BAWB - ALL WELCOME
Hydref • October,
2019
PONTIO BA NGOR
Mae rhaglen Sinema Pontio ar gael ar-lein a thrwy gyhoeddiad misol a ddosberthir yn lleol ac yn y ganolfan. I dderbyn bwletinau e-bost wythnosol, crëwch gyfrif ar-lein yn www.pontio.co.uk gan roi tic wrth ymyl ‘Sinema’ yn y categori diddordebau. Dilynwch y newyddion ffilm diweddaraf ar Trydar @sinemapontio
Pontio’s monthly cinema programme is available online and published and distributed locally or you can pick one up at the centre. To receive weekly email bulletins, sign up at www.pontio.co.uk and tick ‘Cinema’ in the interest categories. Follow the latest cinema news on Twitter @ sinemapontio
Ad Astra, Farma geddo Abertoir, ROH: Don n, Joker, Pasquale, Judy Fleabag, Billy Conn olly, The Irishman a llawer mwy! and much more!
@sinemapontio
Archebwch Book at pontio.co.uk 01248 38 28 28
Eric and Ern Christmas Show Nos Iau Rhagfyr 5 Thursday 5 December Nos Wener Rhagfyr 6 Friday 6 December 7.30pm Theatr Bryn Terfel £18 Noson yng nghwmni sêr y sioe wefreiddiol o’r West End, ‘Eric and Little Ern’ sydd wedi cael cymaint o ganmoliaeth a’i henwebu am Wobr Olivier. Teyrnged wych i’r holl sgestys doniol hynny a fu’n cynnig gymaint o ddifyrrwch i bobl, ac mae’n taro’r holl nodau iawn! Bydd y sioe wefreiddiol hon yn sicr o ddwyn atgofion yn ôl o’r adeg pan fyddai teuluoedd cyfan yn ymgasglu rownd y teledu ar nosweithiau Sul.
From the Olivier nominated duo behind the hugely celebrated and critically-acclaimed West End hit ‘Eric and Little Ern’ comes a brilliant homage crammed full of renditions of those famous comedy sketches, that hits all the right notes! This wonderful show evokes memories of times when whole families would huddle around the telly on Sunday evenings.
Addas i bawb 0-100!
Suitable for all 0-100!
Pre Theatre Menu available in Cegin Bwydlen cyn-Theatr ar gael yn Cegin
Ar agor yn ddyddiol Open daily BAGELS • PITSA PIZZA WAFFLAU WAFFLES • CACENNAU CAKES BWYD CYN-THEATR PRE-THEATRE MEALS Am fwy o wybodaeth ewch i’r tudalennau bwyd a diod pontio.co.uk For more information visit the food & drink pages on pontio.co.uk
Ar lefel 2! On level 2!
Comisiwn Nadolig y Wal Wen White Wall Christmas Commission
Lowri Davies Gofodau Cyhoeddus Public Spaces Am ddim | Free Dewch i brofi ychydig o hud y Nadolig wrth i ddarluniau swynol yr artist Lowri Davies ddod yn fyw o flaen eich llygaid yn ystod mis Rhagfyr. Witness a sprinkling of Christmas magic as artist Lowri Davies’ enchanting illustrations come to life before your eyes during December.
Pontio a thîm Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno: Pontio and Welsh National Opera present:
Dewch i Ganu Carolau Come and Sing Carols Dydd Sadwrn 7 Ragfyr Saturday 7 December 1.30-2.30pm Bar Ffynnon, Pontio Am ddim | Free Dewch i ganu carolau i gyfeiliant y piano mewn awyrgylch anffurfiol a hwyliog ym Mar Ffynnon, Pontio gyda Morgana Warren-Jones a Jenny Pearson o Opera Cenedlaethol Come and sing carols accompanied by the piano in an informal and fun environment at Bar Ffynnon, Pontio with Morgana Warren-Jones and Jenny Pearson of Welsh National Opera. Mins peis a lluniaeth ar gael i’w prynu o Bar Ffynnon Mince pies and refreshments will be available to buy at Bar Ffynnon
Pontio yn cyflwyno Pontio presents
Elephant Sessions Nos Sadwrn 7 Rhagfyr Saturday 7 December 8pm Theatr Bryn Terfel £14 / £12 gostyngiadau | concessions Ffrwydrodd y band o’r Alban ar y sîn indie gwerin mewn ffordd ryfeddol gyda’u halbwm ‘All We Have is Now’ ac ers hynny maent wedi ymddangos yn rhai o leoliadau a gwyliau mwyaf nodedig y byd. Dyma gerddoriaeth draddodiadol wedi’i throi ar ei phen, gan ailddyfeisio disgwyliadau a chreu sain newydd sbon. Dewch i brofi’r cyffro! 16+ gig sefyll. Bydd Big Love and the Fuzz yn agor y noson, gweler y wefan am rhagor o wybodaeth. Hailing from the Highlands of Scotland, Elephant Sessions exploded onto the indie folk scene to unparalleled effect with ‘All We Have is Now’ and have since appeared at some of the world’s most notable venues and festivals. This is traditional music turned on its head, a re-invention of expectation, and a brand new sound. Come and savour the excitement! 16+ standing gig.
Cwmni Mega yn cyflwyno | presents
Arwyr Rhagfyr 11 - 13 December, 10am & 12.45pm Theatr Bryn Terfel £10 oedolion | adults £8 plant | children Ymunwch yn yr hwyl a sbri, y canu a’r dawnsio yn Ysgol Aberarwr ymysg Cewri’r Mabinogi. Awdur a chyfansoddwr: Hywel Gwynfryn, Caryl Parry Jones. Cysylltwch â’r swyddfa docynnau 01248 38 28 28 am gynigion i ysgolion. Addas i bawb.
Big Love and the Fuzz will be opening – see website for further details.
Join in the fun, singing and dancing at Ysgol Aberarwr, where the legends of the Mabinogi live this Christmas.
Pre Theatre Menu available in Cegin Bwydlen cyn-Theatr ar gael yn Cegin
Contact box office 01248 38 28 28 for school bookings. Suitable for all ages – Welsh language production.
A Merry Little Christmas with Only Men Aloud Little Wander a Pontio yn cyflwyno Little Wander and Pontio present
Mark Simmons Rob Kemp Rachel Fairburn Nos Iau 12 Rhagfyr Thursday 12 December Stiwdio | Studio 8pm £10.50/£8.50 gostyngiadau | concessions Mwynhewch noson o chwerthin gyda tri digrifwr arbennig. Gall enwau newid. Oedran 16+ Join us for a night of laughs with three brilliant comedians. Lineups subject to change. Age 16+ Cynnig Byrgyr a Chwrw ar gael yn Cegin – ewch i’r wefan am fanylion pellach Cegin Burger and Beer deal available see website
Nos Sadwrn 14 Rhagfyr Saturday 14 December 7.30pm Theatr Bryn Terfel £27 Yn dilyn llwyddiant eu Gala yn dathlu degawd yn Nghanolfan Mileniwm Cymru a’u taith o amgylch Prydain y llynedd, mae Only Men Aloud yn mynd ar daith eto y gaeaf hwn er mwyn dathlu’r Nadolig gyda’u ffans yng Nghymru. Yn ymuno â hwy i berfformio yn Pontio bydd seren y West End Sophie Evans sy’n wreiddiol o Donypandy, a Chôr Only Kids Aloud. Rhaid i blant dan 14 fod gydag oedolyn. After the rip-roaring success of their Decade Gala Celebration at the Wales Millennium Centre and UK Tour last year, firm Pontio favourites Only Men Aloud are going back out on the road this Winter to have a Merry Little Christmas with their fans across Wales. Joining them this Christmas will be Tonypandy’s very own West End star Sophie Evans and the brilliant Only Kids Aloud Choir. Children under 14 must be accompanied by an adult. Pre Theatre Menu available in Cegin Bwydlen cyn-Theatr ar gael yn Cegin
Theatr Clwyd + Pontio
Cyngerdd Nadolig Ysgol Llanllechid a Chôr y Penrhyn Nos Lun 16 Rhagfyr Monday 16 December 7pm Theatr Bryn Terfel £6 Dewch draw i ddathlu Gŵyl y Geni yng nghwmni disgyblion Ysgol Gynradd Llanllechid a Chôr y Penrhyn o dan arweiniad Mrs Delyth Humphreys a Mr Owain Arwel Davies. Cyfle i wrando ar sain unigryw y ddau gôr yma! Come and celebrate the festive season with Ysgol Llanllechid and the Penrhyn Male Voice Choir, under the direction of Mrs Delyth Humphreys and Mr Owain Arwel Davies. This is an unique opportunity to enjoy the vocals of two local choirs!
Y Trol Wnaeth Ddwyn y ‘Dolig Rhagfyr 17-21 December Stiwdio | Studio £6.50 £22 Tocyn Teulu a Ffrindiau (4 person, o leiaf un dan 18) / Family and Friends Ticket (4 people, at least one under 18) Mae’r Nadolig wedi’i ganslo! Christmas is cancelled! Mae trol yn rhydd yn y mynyddoedd ac mae’n fwli mawr cas. Dim ond merch fach a’i iâr anwes fedr achub pawb. Wedi’r cyfan, bod yn ddewr, disglair a beiddgar sy’n bwysig... Stori llawn antur yn y Gymraeg ar gyfer y teulu cyfan! Cysylltwch â’r swyddfa docynnau am gynigion i ysgolion. Manylion llawn ar pontio.co.uk 4 -7 oed There’s a troll loose in the mountains and he’s a big, bad bully. All hope rests in the hands of a little girl and her pet chicken. After all, it’s being bold, bright and brave that counts… A Welsh language storytelling adventure for the whole family! Welsh Language production. Contact the box office for school bookings. Full details on pontio.co.uk Ages 4 -7
Nos Iau Rhagfyr 19 Thursday 19 December Theatr Bryn Terfel Drysau’n agor / doors open 7pm £20 Daw Gruff Rhys i Pontio am y tro cyntaf fel rhan o’i daith ddiweddaraf, gyda’i albwm newydd PANG!
Nadolig Celtaidd yng Nghymru gyda Calan A Celtic Christmas in Wales with Calan Nos Sadwrn Rhagfyr 21 Saturday 21 December 7.30pm Theatr Bryn Terfel
16+ gig sefyll. Gruff Rhys performs at Pontio for the first time as part of his latest tour, with his new album PANG!
£16
16+ standing gig.
Dathlwch dymor y Nadolig gyda'r band rhyngwladol o Gymru yn sain y bagbibau, ffidlau a dawnsio stepio.
£14 gostyngiadau | concessions
Celebrate the yuletide season with the international band from Wales to the tune of bagpipes, fiddles and step dancing. www.calan-band.com Pre Theatre Menu available in Cegin Bwydlen cyn-Theatr ar gael yn Cegin
Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru WNO Orchestra
Taith i Fienna Journey to Vienna Nos Wener 10 Ionawr Friday 10 January 7.30pm Theatr Bryn Terfel £17 / £16 dros 60 | over 60s £5 Myfyrwyr ac o dan 18 | Students and under 18s Gyda | With prosecco: £19.50 / £18.50 dros 60 | over 60s / £7.50 Myfyrwyr | Students Mewn rhaglen a fydd yn eich cludo ar draws y cyfandir, ar gyfer y Flwyddyn Newydd bydd Cerddorfa WNO, o dan gyfarwyddyd y Blaenwr a’r Meistr Cyngerdd, David Adams, yn ymweld â phob cornel o Ewrop gyda gwaith gan Offenbach, Mozart, Brahms, Dvorak ac, wrth gwrs, Strauss. Mae’r Gerddorfa yn falch iawn i gael cwmni’r soprano, Mary Elizabeth Williams, sydd yn y blynyddoedd diwethaf wedi dod yn un o ffefrynnau cynulleidfaoedd WNO. In a programme to transport you across the continent this New Year, WNO Orchestra, under the direction of Leader and Concertmaster David Adams, will visit all corners of Europe in works by Offenbach, Mozart, Brahms, Dvorak and, of course, Strauss. The Orchestra is thrilled to be joined by soprano Mary Elizabeth Williams who has become a firm favourite with WNO audiences in recent years.
GISDA Giggles Nos Sadwrn Ionawr 11 Saturday 11 January 8pm Theatr Bryn Terfel £17.50 £13 gostyngiadau / concessions Noson o chwerthin i godi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer grwp LGBT+ GISDA Caernarfon. Mae’r ferch leol Kiri Pritchard-McLean (Have I Got News For You, 8 Out of Ten Cats), wedi casglu leinyp o rai o gomedïwyr gorau LGBT+ gan gynnwys Joe Lycett (Live at the Apollo, Never Mind the Buzzcoks, 8 Out of 10 Cats, QI) Stephen Bailey (Celebs on the Farm, Live at the Apollo) a Rosie Jones (The Last Leg, Live at the Apollo, Hypothetical). Croeso i bawb (a fel ‘na ddylia’i fod). Iaith gref. Oedran 14+. Gall enwau newid. A night of laughter to raise money and awareness for the LGBT+ group in GISDA in Caernarfon. Local girl Kiri Pritchard-McLean (Have I Got News For You, 8 Out of Ten Cats), has got together a stellar line up of the UK’s best LGBT+ acts, including Joe Lycett (Live at the Apollo, Never Mind the Buzzcoks, 8 Out of 10 Cats, QI) Stephen Bailey (Celebs on the Farm, Live at the Apollo) and Rosie Jones (The Last Leg, Live at the Apollo, Hypothetical). Everyone welcome (as it should be). Strong language. Age guidance 14+. Line-up subject to change.
Cabaret Pontio yn cyflwyno/presents
The Trials of Cato Nos Wener Ionawr 17 Friday 17 January 8pm Theatr Bryn Terfel
Gŵyl Neithiwr Dydd Sadwrn 18 Ionawr Saturday 18 January 1.30pm-12am £15 o flaen llaw | in advance
£14/£13 gostyngiadau | concessions
£18 ar y diwrnod | on the day
Bargen gynnar | Early bird offer: £12/11 tan/until 2/1/2020
DAFYDD HEDD / DIENW / PASTA HULL / KIM HON / LOS BLANCOS / MELLT / ADWAITH / PYS MELYN / PAPUR WAL / 3 HWR DOETH DJs - Sam De Gal, DJ Pydew, DJ Dilys, DJ Tindall Celf - Llinos Owen
Gyda Tant yn agor Yn wreiddiol o Ogledd Cymru a Swydd Efrog, mae dyrchafiad y triawd arobryn The Trials of Cato wedi bod yn destun trafod mawr ar sîn werin y DU. Wedi cael eu galw’n “The Sex Pistols of folk,” (J Davis) maent yn talu teyrnged amlwg i’r traddodiadol tra’n troi hen esgyrn yn rhywbeth cyffrous a modern, gyda tiwns egnïol a straeon cofiadwy, cyfuniad sydd wedi gweld y tri, mewn tair mlynedd, yn mynd o fysgio allan o gefn fan Transit i wobr BBC Folk Award. With Tant opening Originally from North Wales and Yorkshire, the remarkable rise of double BBC Radio 2 folk award nominees The Trials of Cato on the UK folk-scene has been the subject of massive critical attention. Dubbed “the Sex Pistols of folk,” (J Davis) they pay clear homage to the tradition whilst twisting old bones into something febrile and modern, with stomping tunes and captivating stories.
Gŵyl Neithiwr yn cyflwyno y gorau sydd gan y sîn gerddoriaeth Gymraeg i’w gynnig. O guriadau hip hop y 3 Hŵr Doeth i synau hudolus Pys Melyn ac egni amrwd y band ifanc DIENW. Wedi profi llwyddiant gyda’i nosweithiau Social Hours yn Leeds, mae Sam de Gal yn dychwelyd i Fangor i ymuno â DJ Pydew, DJ Dilys a DJ Tindall. Yn cyflwyno arddangosfa celf bydd yr artist Llinos Owen. Gig sefyll. 16+ Gŵyl Neithiwr present the best the that the Welsh music scene has to offer. From the hip hop beats of 3 Hŵr Doeth to the magical sounds of Pys Melyn and the raw energy of the young band DIENW. Hot off the success of his Social Hours night in Leeds, Sam de Gal returns to Bangor to join DJ Pydew, DJ Dilys and DJ Tindall. The artist Llinos Owen will also present an exhibition. Standing gig. 16+
VDKL + Pontio yn cyflwyno/presents
Hedfan am Hanner Dydd Lunch on the Fly Dydd Llun 20 Ionawr Monday 20 January 12pm Stiwdio | Studio £6 £20 am y bedair sesiwn | for all four sessions Cyflei roi tro ar ddawnsio awyrol. Dechreuwn gydag ychydig o gynhesu hawdd, yna fe fyddwch yn ceisio sefyll a neidio oddi ar lawr fertigol gan ddefnyddio harnais o gwmpas eich canol. Byddwch yn cael eich tywys drwy symudiadau syml, ac yna fe gewch chi hedfan! Dewch i’r 4 sesiwn unwaith y mis tan ddiwedd Ebrill neu un yn unig. Rhagor o wybodaeth ar y wefan. Oed 16+ Does dim angen profiad Dim one lle i 12 sydd ar gael ym mhob sesiwn Gwisgwch ddillad cyfforddus sy’n dynn o gwmpas eich canol a thop eich coesau. This is a fun session in which you can have a go at vertical dance. Starting with an easy warm up, you will then try to stand on and jump off a vertical floor using waist harnesses. You will be guided through some simple positions, and then you will fly! Sign up for one session or all 4 monthly sessions until end of April. See website for details. Age: 16+ No experience necessary. Only 12 spaces available at each session. Wear comfortable clothing with snug layers around waist and top of legs.
Little Wander a Pontio yn cyflwyno Little Wander and Pontio present
Clwb Comedi Comedy Club Nos Iau 23 Ionawr Thursday 23 January 8pm Stiwdio | Studio £10.50/£8.50 gostyngiadau | concessions Mwynhewch noson o chwerthin gyda tri digrifwr arbennig. Ewch i’n gwefan i ddarganfod mwy, pontio.co.uk. Join us for a night of laughs with three brilliant comedians. See website for line up, pontio.co.uk Cynnig Byrgyr a Chwrw ar gael yn Cegin – ewch i’r wefan am fanylion pellach Cegin Burger and Beer deal available see website
Gŵyl y Gelli Gandryll a Pontio yn cyflwyno Hay Festival and Pontio present
Behold, America: A History of ‘America First’ Noson gyda Sarah Churchwell An Evening with Sarah Churchwell
Nos Iau 23 Ionawr Thursday 23 January 7.30pm Theatr Bryn Terfel £12/£10 myfyrwyr ac o dan 18oed students and under 18s Ymunwch â ni ar gyfer mewnwelediad arbennig gan yr awdur Sarah Churchwell i hanes ‘America First’, hoff slogan Donald Trump a’i gefnogwyr. Er fod y farn boblogaidd yn priodoli’r cymal i Charles Lindbergh ac ‘America First Committee’ ymynysol 1940-1941, mewn difrif mae gan yr ymadroddiad hanes llawer hirach a thywyllach, stori o gynhenidiaeth a’r Ku Klux Klan, o ddiffynnaeth ‘Americaniaeth 100%’ ac ymynysoldeb, ac o ffasgiaeth brodorol y mae America yn parhau i gymryd arni ‘na all ddigwydd yma’.
Join author Sarah Churchwell for a fascinating insight into the history of ‘America First’, a favourite slogan of Donald Trump and his supporters. Although popular wisdom attributes the phrase to Charles Lindbergh and the isolationist ‘America First Committee’ of 1940-1941, in fact the expression has a longer, darker history than that, a story of nativism and the Ku Klux Klan, of protectionism, ‘100% Americanism,’ and isolationism, and of a homegrown fascism that America continues to pretend ‘can’t happen here.’
Digwyddiad yn y Saesneg, canllaw oedran 14+
English language event, age guidance 14+
Soap Soup Theatre + Open Attic Company
The Sorcerer’s Apprentice Dydd Sadwrn 25 Ionawr Saturday 25 January 11.30am & 2.30pm Stiwdio | Studio £6.50/£22 tocyn teulu a ffrindiau (4 person, o leiaf un o dan 18 /family and friends ticket, at least one under 18) Mae’r cwmniau blaengar o Fryste, Soap Soup Theatre (The Snow Baby, The Pixies’ Scarf) ac Open Attic Company (Much Ado About Puffin, Mistletoes a Whiney) yn cydweithio i ddod â’r sioe arbennig hwn, a ysbrydolwyd gan farddoniaeth Goethe. Dewch i rannu eu hangerdd am bypedau dyrys, cymeriadau doniol a dylunio gwych yn eu sioe fwyaf hudolus hyd yma: The Sorcerer’s Apprentice. Sioe yn yr iaith Saesneg. Gweithdy creadigol am ddim gyda Luned Rhys Parri yn dilyn pob perfformiad. Taking their inspiration from Goethe’s poem, two of Bristol’s leading family theatre makers, Soap Soup Theatre (The Snow Baby, The Pixies’ Scarf) and Open Attic Company (Much Ado About Puffin, Mistletoes and Whiney), team up for the first time to make this very special show. Come and share their passion for intricate puppetry, hilarious characters and sumptuous design on what could be their most magical offering yet: The Sorcerer’s Apprentice. English language show. Free creative workshop with Luned Rhys Parri follows each performance.
BEDS, cymdeithas ddrama Saesneg Prifysgol Bangor BEDS, Bangor University’s English drama society
Of Mice and Men Nos Fercher 29 Ionawr a Nos Iau 30 Ionawr Wednesday 29 January and Thursday 30 January 7.30pm Theatr Bryn Terfel £8/£6 gostyngiadau | concessions £25 tocyn teulu | family ticket Cymdeithas Drama Saesneg Prifysgol Bangor yn cyflwyno nofel enwog Steinbeck ar y llwyfan. Mae Of Mice and Men yn stori am y ddau unigolyn, George Milton alluog a Lennie Small, sy'n gryf ond fel plentyn. Mae’r ddau yn darganfod gwaith ar fferm yng Nghaliffornia, ond mae cariad Lennie tuag at anifeiliaid meddal yn rhoi eu cyfeillgarwch mewn peryg. Canllaw oedran 12+ BEDS, Bangor University’s English drama society present Of Mice and Men tells the story of intelligent George Milton and strong but childlike Lennie Small. The two drifters find work on a small ranch in California to buck barley, but Lennie’s love for soft things soon puts their friendship in danger. Age guidance 12+
Gwybodaeth gyffredinol General information Archebion Grŵp Group Bookings Rydym yn darparu ar gyfer grwpiau ac ysgolion, ac yn achlysurol, gallwn gynnig gostyngiadau sylweddol. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau am fwy o wybodaeth ar 01248 38 28 28. Mae’r holl archebion yn amodol ar ein telerau a’n hamodau safonol. Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan https://www. pontio.co.uk/Online/term We cater for groups and schools and can occasionally offer great discounts. Please contact our Box Office for more information on 01248 38 28 28. All bookings are subject to our standard terms and conditions. Please visit our website for more information https://www.pontio.co.uk/ Online/term Tâl Postio Postal Charges Codir £1 o dâl postio os gofynnwch am docynnau trwy’r post.Ni allwch ofyn am docynnau trwy’r post yn hwyrach na 10 niwrnod cyn y digwyddiad, er mwyn sicrhau eu bod yn eich cyrraedd mewn da bryd. Wedi hynny, fe allwch
gasglu’r holl docynnau sydd wedi’u prynu ymlaen llaw o’r swyddfa docynnau, neu eu hargraffu gartref. £1 mailing charge is applied if you request tickets by post. Tickets by post can only be requested until 10 days before the event to ensure they reach you on time. After this, all pre-bought tickets can be collected from the box office or printed at home. Teuluoedd Families Lle nodir pris tocyn teulu, mae’r cynnig ar gael i grŵp o bedwar. Rhaid i o leiaf un aelod o’r grŵp fod o dan 18 oed. Where a family ticket price is denoted, the offer is available to a group of four. A minimum of one member of the group must be under 18. Gostyngiadau Concessions Lle bynnag y bo ‘gostyngiadau’ wedi’i nodi ar gyfer digwyddiadau Pontio, mae’r categorïau isod wedi’u cynnwys yn y diffiniad hwnnw: myfyrwyr a rhai dros 60. Mae plant a phobl ifanc yn cynnwys unrhyw un o dan 18 oed. Caiff plant dan 2 oed fynd i mewn am ddim.
Wherever concessions are denoted for Pontio events, the following categories are included in that definition, unless otherwise stated: students and those over 60. Children and young people include anyone under the age of 18. Children under 2 years of age go free. Cerdyn Aelodaeth yw Hynt Mae Hynt yn adnodd Hynt is a Membership Card Hynt is a resource Mae gan rai â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad ac am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalydd yn Pontio a phob theatr a chanolfan gelf sy’n rhan o’r cynllun. Ewch i www.hynt.co.uk neu www.hynt.cymru am wybodaeth ac arweiniad am y cynllun. Hynt cardholders are entitled to a ticket free of charge for a personal assistant or carer at Pontio and all the theatres and arts centres participating in the scheme. Visit hynt.co.uk or www.hynt.cymru to find a range of information and guidance about the scheme.