Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Bangor
COPI AM DDIM
Rhaglen Artistig Ionawr - Ebrill 2019 1
Croeso i Pontio Oriau Agor Dydd Llun i ddydd Sadwrn 8.30am-11.00pm Dydd Sul 12.00pm-8.00pm Ewch i pontio.co.uk neu holwch y Swyddfa Docynnau am oriau agor Pasg Tocynnau Ar-lein www.pontio.co.uk 01248 38 28 28 Ymholiadau: info@pontio.co.uk
Bwyty Gorad Lefel 2 Llun 8.30am – 6.00pm Mawrth – Sadwrn 8.30am – archeb bwyd olaf 8pm Sul 12pm – archeb bwyd olaf 6pm Bar Ffynnon Lefel 0 Llun - Sadwrn 11am-9.00pm (ar agor tan 11pm yn ystod perfformiadau nos) Sul 12.00pm- 6.00pm
Caffi Cegin Lefel 3 Llun-Gwener 8.30am-5.30pm Ar gau ddydd Sadwrn a dydd Sul
Llinellau ffôn 01248 38 28 28 Dydd Llun i ddydd Sadwrn 10.00am-8.30pm Sul 12.00pm-6.00pm Cofrestrwch i gael y newyddion diweddaraf ar pontio.co.uk @TrydarPontio PontioBangor pontio_bangor PontioBangor
Os hoffech gopi o destun y rhaglen yma mewn print bras, neu fersiwn glywedol, cysylltwch ar 01248 38 28 28
Mae’r wybodaeth yn gywir adeg argraffu Registered Charity Number: 1141565
Cynllun Seddi Theatr Bryn Terfel
llwyfan
d— dd— e— f— ff— g— ng— h— l— ll— m— balconi lefel 1
*Mae Theatr Bryn Terfel yn ofod hyblyg, a gall cyfansoddiad y seddi newid yn dibynnu ar y perfformiad. Ewch i’r wefan i gael y wybodaeth am y perfformiad dan sylw.
1a— 1b— balconi lefel 2 2a— 2b—
2
2ch—
c— ch—
1dd— 1d—
r— ph—
n— p—
2c—
1c— 1ch—
a— b—
Cipolwg Pontio Ionawr – Ebrill 2019 IONAWR Gwener 11 Iau 17 Sadwrn 19 Sul 20 Mercher 23 Iau 24 Sadwrn 26
WNO: Noson yn Fienna Clwb Comedi Cyffwrdd Syria Dancing Through Life The Dark The Dark Teulu Pontio Family: Little Gift
Tud 4 8 10 11 12 12 15
Cabaret Pontio: Bardd Cystadleuaeth a Chyngerdd Gala UniBrass 2019
16 17
Mercher 6 Gwener 8 Sadwrn 9 Iau 14 Gwener 15 Mawrth 19 Mercher 20 Iau 21 Gwener 22 Sadwrn 23 Mawrth 26
8pm Cystadleuaeth 10:30am Cyngerdd Gala 8pm 2pm Drwy gydol y dydd Drwy gydol y dydd 8pm 7.30pm 7.30pm 12.30pm 7.30pm 7.30pm 11.30am a 2.30pm 8pm
P’nawn Ffilm, Cacen a Chân Gŵyl Gerdd Bangor 2019 Gŵyl Gerdd Bangor 2019 Clwb Comedi Cerddoriaeth yn Gorad Cwmni'r Frân Wen: Anweledig Cwmni'r Frân Wen: Anweledig Cwmni'r Frân Wen: Anweledig Cwmni'r Frân Wen: Anweledig Teulu Pontio Family: Pen-blwydd Poenus Pete Villagers
19 20-21 20-21 24 23 25 25 25 25 26 27
MAWRTH Gwener 1 Mercher 6 Iau 7 Sul 10 Mawrth 12 Mercher 13 Iau 14 Gwener 15 Gwener 15 Sadwrn 16 Sul 17 Mawrth 19 Mawrth 19 Mercher 20 Iau 28 Iau 28 Gwener 29 Sadwrn 30
7.30pm 1-3pm 7.30pm 6pm 7.30pm 6.30pm 7.30pm 7pm 8pm 7.30pm 1:30pm a 4pm 7.15pm 7.30pm 7.30pm 8pm 7.30pm 7.30pm 11.30am a 2.30pm
Dathlu Dawn Dilys Elwyn-Edwards Cofio’r Bugail: Panel Trafod y Ffilm Hedd Wyn Cartographic Imaginaries: Delweddau Pigeon gan Alys Conran Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor Into the Light Opera Canolbarth Cymru: Operatif Opera Canolbarth Cymru: Tosca Cymdeithas John Gwilym Jones: Ac Eto Nid Myfi Barely Methodical Troupe: KIN Best of BE FESTIVAL Tripula Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru: Awakening Merched Caerdydd / Nos Sadwrn o Hyd Merched Caerdydd / Nos Sadwrn o Hyd Clwb Comedi SODA Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC / Thibaut Garcia Teulu Pontio Family: Taith Gerddorol trwy Ewrop
28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 40 41 41 42 43 44 45
EBRILL Gwener 5 Sul 7 Iau 11 Gwener 12 Gwener 12 Sadwrn 13 Mawrth 16 Iau 18 Sadwrn 13 Iau 25 Mercher 24 Iau 25 Gwener 26 Mawrth 30
7pm 3.30pm 7.30pm 8pm 8pm 1.30pm a 3.30pm 11.30am-2pm 10.30am, 12.30pm a 2.30pm 7.30pm 8pm 11.30am-2pm 7.30pm 7.30pm 7.30pm
Sioe BLAS Bach Côr Siambr Cymru Pontio’r Dwyrain a’r Gorllewin Kiri Pritchard-Mclean: Victim, Complex Cabaret Pontio: Siân James Teulu Pontio Family: Jack and the Beanstalk Disgo Trac Sain Antur Bwni Basg Pontio! Gruffydd Wyn Clwb Comedi Disgo Trac Sain OPRA Cymru: Fidelio Cerddoriaeth yn Gorad Bost-Uni Plues
47 48 48 49 51 52 53 53 54 55 53 56 22 57
CHWEFROR Gwener 1 Sadwrn 2
Amser 7.30pm 8pm Drwy gydol y dydd 4pm 7.30pm 7.30pm 11.30am a 2.30pm
1
Sylwadau Cynulleidfa o’r tymor diwethaf… Ar Now or Never, sioe syrcas gafodd ei pherfformio mewn pabell fawr ar safle Coleg Menai, Bangor
“Waw!! Noson arbennig! Diolch Band Jazz Tryfan, Pontio a Circa Tsuica.”
Ar Palas Hwyl Pontio, gweithgareddau creadigol am ddim i bob oed
“Cawsom ddiwrnod gwych yma ddoe. Gwneud pitsas, karate a dawnsio drwy chwaraeon. Wir wedi mwynhau!”
Ar Y Gadeirlan Dan y Dŵr, project ysgol a chyngerdd dathlu Debussy
“Ro’n i’n gwybod y byddwn ni’n cael rhywbeth reit arbennig heno … roedd o i gyd yn plethu at ei gilydd i greu noson wirioneddol ddifyr, dwi wrth fy modd i ddeud y gwir.” 2
Blwyddyn Newydd, Arlwy Newydd Ar ddechrau blwyddyn a thymor newydd mae’n teimlo fel amser priodol i ni ddiolch yn y lle cyntaf i chi, aelodau triw ein cynulleidfa, am eich chwilfrydedd a’ch cefnogaeth dros y flwyddyn ddiwethaf, wrth ddod i weld cynyrchiadau a gigs, syrcas a sgyrsiau. Rydym yn mawr obeithio bod arlwy y flwyddyn nesaf yma hefyd yn mynd i apelio atoch yn yr un modd... yn ddrama,
ICronfa Datblygu Pontio IPontio Development Fund
opera, ffilmiau, cabarét, cyngherddau, sioeau comedi neu sioeau plant, gan eich annog i ddod yn ôl. Mae’n gyfle hefyd i ni ddiolch o galon i’n gwirfoddolwyr, y bobl hynny sydd yn gwneud ein mwynhad ni’n bosib. Maent yn gofalu’n arbennig am un ac oll sy’n dod i ddigwyddiadau yma yn Pontio ac mae ein dyled iddynt yn enfawr.
3
Yn olaf, hoffwn ddiolch i’n staff yn yr adran dechnegol, marchnata, blaen tŷ, swyddfa docynnau, gweithredol, gweinyddol ac artistig, a hefyd staff arlwyo am helpu i wneud hyn oll yn bosib. Edrychwn i gyd ymlaen i’ch gweld chi nôl yma yn 2019! Tîm Celfyddydau Pontio
Nos Wener 11 Ionawr 7.30pm Cerddorfa WNO
Noson yn Fienna Theatr Bryn Terfel £17/£16 dros 60 /£5 myfyrwyr a dan 18 Yn cynnwys gwydriad o Prosecco: £19.50/£18.50 dros 60/£7.50 myfyrwyr* * Bydd angen cerdyn adnabod
Yn dilyn cyngerdd a gafodd groeso eithriadol yn 2018, mae Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn dychwelyd i Fangor ym mis Ionawr gyda chyngerdd Blwyddyn Newydd poblogaidd arall. Yn ein rhaglen eleni mae gennym nid yn unig ein cerddorfa ddawnus, ond hefyd ddimensiwn newydd a phriodol, caneuon a fydd yn sicr o ddod ag ysbryd Fienna
a'i neuaddau cyngerdd yn fyw. Dan gyfarwyddyd medrus ein Blaenwr ac Arweinydd Cerddorfa, David Adams, mae'r cyngerdd yn agor gydag ynni anorchfygol Agorawd Oberon gan Weber. Yna cawn fwynhau David fel unawdydd yn chwarae gweithiau cain a meistrolgar gan Fritz Kreisler. Yn unol â thraddodiad blynyddoedd maith, bydd y Gerddorfa wedyn yn eich 4
arwain drwy ddetholiad hyfryd o waltsiau, polcas a chaneuon Fiennaidd sy'n adnabyddus a hoff gan lawer ledled y byd. Bydd Cân Chwerthin Strauss, Csárdás, Vilja o waith Lehar, y Blue Danube fytholwyrdd a’r Radetsky March cynhyrfus yn sicr o wneud hon yn Flwyddyn Newydd Dda Iawn i chi gan Opera Cenedlaethol Cymru!
Yn dilyn llwyddiant y project SYNTHESIS cyntaf i annog dau bâr gwahanol o wyddonwyr ac artistiaid i ddatblygu syniadau gyda'i gilydd sy'n pontio'r ddau fyd, rydym yn chwilio am brojectau newydd. Gwahoddir ceisiadau ar y cyd am y gronfa o £2,000 y pâr. Yr ymgeiswyr llwyddiannus y llynedd oedd y gwyddonydd ffotonics Ray Davies o Academi Ffotonics
Bangor a Kate Lawrence, cyfarwyddwr Vertical Dance Kate Lawrence gydag Yn y Golau a phartneriaeth yr eigionegydd Dr Jonathan Malarkey a’r artistiaid aml-gyfrwng Lindsey Colbourne a Lisa Hudson, Llif/Flow. Cysylltwch â Shari Llewelyn ar s.llewelyn@bangor.ac.uk neu 01248 382179 am ragor o wybodaeth am SYNTHESIS 2.
5
Dyddiad ca u ar gyfer ceisia dau SYNTHESIS 2: 28 Ionawr 2019
Llun 14 Ionawr 12pm Mercher 27 Chwefror 12pm Llun 11 Mawrth 12pm Llun 15 Ebrill 12pm Vertical Dance Kate Lawrence a Pontio
Hedfan am Hanner Dydd Stiwdio £6/£20 am y 4 sesiwn Sesiwn hwyliog a chyfle i roi tro ar ddawnsio awyrol. Dechreuwn gydag ychydig o gynhesu hawdd, yna fe fyddwch yn ceisio sefyll a neidio oddi ar lawr fertigol gan ddefnyddio harnais o gwmpas eich canol. Byddwch yn cael eich tywys drwy symudiadau syml, ac yna fe gewch chi hedfan!
Rhowch dro ar 1 sesiwn neu talwch am 4 am bris gostyngedig! Gwisgwch ddillad cyfforddus sy’n dynn o gwmpas eich canol a thop eich coesau. Oed: 16+ Nifer cyfyngedig - lle i 12
6
sinema cinema
Darllediadau byw i ddod yn Sinema Pontio…
NT LIVE: The Tragedy of King Richard the Second 15 Ionawr
ROH LIVE: The Queen of Spades 22 Ionawr
ROH LIVE: La Traviata 30 Ionawr
NT LIVE: I’m Not Running 31 Ionawr
Gweler y daflen sinema fisol am fanylion dangosiadau byw eraill nad ydynt wedi eu cyhoeddi eto a rhestr sinema lawn, 7 28 neu cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01248 38 28
ROH LIVE: Don Quixote 19 Chwefror
ROH LIVE: La Forza Del Destino 2 Ebrill
ROH LIVE: Faust 30 Ebrill
8
Bwyty Restaurant
Pryd Clwb Comedi
Byrgyr a Chwrw*
£10
Ar gael i bob digwyddiad Clwb Comedi
*Neu wydriad 175ml o win tŷ neu ddiod ysgafn Byrgyr llysieuol ar gael Bwyd a Diod
I archebu: 01248 383826 bwydabar@pontio.co.uk
flyer.indd 4
Food & Drink
26/02/2018 16:21:24
Arddangosfa YMYL-2-EDGE Bocs Gwyn Pontio, Lefel 2 Mae'r byd celfyddydol a’r byd technolegol yn dod at ei gilydd i archwilio ein profiad dynol yn y byd modern: arddangosfa o weithiau a gynhyrchwyd yn ystod rhaglen YMYL-2-EDGE Helfa Gelf yng Ngofod Arloesi Bocs Gwyn Pontio, o ddydd
Sadwrn 19 Ionawr tan ddydd Sul 10 Chwefror 2019. (11am - 5pm, dydd Mercher i ddydd Sadwrn, 12pm - 5pm, dydd Sul.) Manylion Dangosiadau Preifat a Sgyrsiau gan Artistiaid: helfagelf.co.uk/cy/ events 9
Detholiad o luniau gan Remy Dean, enghreifftiau o waith ar y gweill gan: Susan Williams, Sarah Holyfield, Stephen Green, Lorna Bates
Cyffwrdd Syria Byrion Syria Sadwrn 19 Ionawr
(12A)
2:30pm, Sinema, £2.50 Detholiad o ffilmiau byr a baratowyd gan Khaled Youssef.
Hanes Byr o Ddiwylliant Syria Celf, Diwylliant a Rhyfel 1pm, Stiwdio, £3
Ymunwch â Ffion Dafis wrth iddi gyfweld y ffotograffydd, y bardd a'r llawfeddyg, Khaled Youssef, am yr hyn â'i harweiniodd i ffurfio’r sefydliad, Syria. Art. Bydd gwesteion eraill o fyd celf Syria a thu hwnt yn ymuno â hwy.
Dewch i’r h oll ddigwyddia dau am bris arb ennig o £12
4.30pm, Stiwdio, £3 Dywedodd Van Gough unwaith "Diben celf yw cysuro'r rhai a dorrwyd gan fywyd" - pa mor wir yw'r datganiad hwn? Pa mor allweddol yw'r Celfyddydau i roi llais i bobl ac adennill eu hurddas, eu rhyddid a'u gallu i fynegi eu hunain? Bydd Lisa Gwilym yn arwain y drafodaeth banel ddadlennol hon. Oasis World Choir and Band Bydd y côr a’r band o Gaerdydd yn perfformio set 10 munud ym mar Ffynnon am 7.15pm
10
Llun: Khaled
Youssef
Wal Wen Dechrau am 7.30pm Gofod cyhoeddus Pontio Mae Omar Shammah, Syria.Art, a Catrin Menai, CARN (Rhwydwaith Artistig Ardal Caernarfon) – wedi cydweithio o bell er mwyn archwilio cysylltiadau rhwng diwylliant Cymru a Syria. Byddwch yn dyst i ganlyniad y cywaith creadigol yma pan fydd yn cael ei daflunio ar raddfa fawr ar Wal Wen Pontio.
Noson Musiqaa 8pm, Stiwdio, £6 CERDDORIAETH + Elfennau Gweledol: Cerddoriaeth fyw gan Blodau Gwylltion a DJs yn chwarae cerddoriaeth gyfoes gan rai o artistiaid blaenllaw Cymru a Syria.
P’nawn Sul 20 Ionawr 4pm Take 2 the Stage yn cyflwyno
Dancing Through Life Theatr Bryn Terfel £10.50/£5.50 o dan 18 Mae myfyrwyr ysgol ddrama enwog Ava Williams ym Mangor a Llangefni wedi bod yn gweithio'n galed drwy'r flwyddyn i lwyfannu eu perfformiad diwedd blwyddyn ysblennydd. Dyma eu hail sioe yn Pontio ac maent yn teimlo'n gyffrous iawn i fod yn ôl.
Mae Dancing Through Life yn gymysgedd perffaith o gân, dawns a drama. Ymunwch â nhw ar daith trwy Broadway a thu hwnt, gyda chaneuon cofiadwy o The Wizard of Oz, Michael Jackson, Back to the 80s a'n X Factor ein hunain.
11
Mae Dancing Through Life yn rhoi'r holl sylw i blant lleol yn serennu ar y llwyfan. Peidiwch â cholli'r cyfle i'w gweld yn disgleirio!
Drama
Nos Fercher 23 Ionawr 7.30pm Nos Iau 24 Ionawr 7.30pm Fuel ac Ovalhouse yn cyflwyno
The Dark Stiwdio £12/£10 gostyngiadau Ysgrifennwyd gan Nick Makoha Cyfarwyddwyd gan Roy Alexander Weise Nid nos yw'r unig dywyllwch. Mae Nick yn anadlu'n drwm wrth iddo geisio cofio. Mae darnau o daith anghofiedig yn fflachio o flaen ei lygaid. Mae'n nos yn Nhachwedd 1978. Mae'n bedair oed. Mae'n gafael yn llaw ei fam wrth iddynt ddisgwyl ar y llethr. Maent yn gadael Kampala. Gan ddefnyddio popeth sydd
ganddynt i fedru dianc oddi yno'n ddiogel, maent yn teithio mewn matatu ac nid yw'r tocynnwr yn gofyn unrhyw gwestiynau. Eu cymheiriaid yw'r rhai sydd ar goll ac wedi diflannu. Rhai sydd wedi dioddef wyth mlynedd hir o dan reolaeth Idi Amin. Mae The Dark yn stori am daith a wnaed gan fachgen pedair oed a'i fam i ddianc o wlad a oedd wedi'i rhannu oherwydd unbennaeth a'i rhwygo gan wrthdaro.
12
BARGEN FWYD
SINEMA
@
Bwyty Restaurant
Pob Dydd Mercher *Ac eithrio rhai perfformiadau gweler gwefan am fanylion
£10 £15 bu:
I arche
TOCYN SINEMA TOCYN SINEMA
Prif gwrs plentyn + diod feddal + popcorn Pitsa 12” + diod* (*naill ai gwydraid o win tŷ, potel o gwrw neu ddiod feddal)
Archebu ar lein www.pontio.co.uk Ffoniwch neu ewch i’n swyddfa docynnau ar 0124813382828
pontio.co.uk
Dathlwch Ben-Blwydd Dwdl! Ymunwch â ni ddydd Sadwrn 26 Ionawr i ddathlu penblwydd Dwdl (masgot Teulu Pontio) yn 3 oed! Bydd yr hudolus M6 Theatre Company yn cyflwyno eu sioe newydd sbon, Little Gift a bydd sesiynau addurno cacennau bach i ddilyn.
Rydym hefyd wedi gwahodd rhai o ffrindiau Dwdl – Sblij a Sbloj o S4C i ymuno yn yr hwyl a bydd cyfle i gael tynnu eich llun o flaen ein sgrin werdd arbennig gyda chefndir o’ch dewis! Cadwch olwg ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.
14
“Leaders in their field” Children’s Theatre Reviews
Dydd Sadwrn 26 Ionawr 11.30am a 2.30pm M6 Theatre Company mewn cydweithrediad ag Andy Manley yn cyflwyno
Little Gift Stiwdio £6.50/£22 tocyn teulu a ffrindiau (4 person, o leiaf un dan 18)
Cyfeillgarwch sy'n disgwyl i dyfu Hen greadur yn byw ar ei ben ei hun. Felly mae o eisiau i bethau fod. Mae'n dawelach ac yn fwy diogel. Ond un diwrnod, mae ymwelydd annisgwyl yn plannu hedyn bach o obaith a throi'r bywyd unig yma â'i draed i fyny.
Mae Little Gift yn stori newydd sbon gan M6 Theatre ac Andy Manley, enillwyr sawl gwobr, ac fe'i cyflwynir drwy gyfrwng pypedwaith gwefreiddiol, cerddoriaeth wreiddiol a llawer o gariad. Ymunwch â ni am wledd weledol i ddod â golau i mewn i dymor tywyllaf y flwyddyn. Canllaw oed: 3-7 Sioe yn Saesneg
15
Sesiwn addurno cacennau AM DDIM gyda staff Gorad yn dilyn pob sioe
Mae prydau plant ar gael ym mwyty Gorad o £4.25
Cerddoriaeth
“Anhygoel” “Ardderchog”, “Wow! Prior as perffaith” (Sylwadau'r Gynulleidfa)
Nos Wener 1 Chwefror 8pm Cabaret Pontio yn cyflwyno
Bardd Theatr Bryn Terfel Bargen gynnar ar gael tan 18 Ionawr £12/£11 gostyngiadau
£14/£13 gostyngiadau Yn dilyn llwyddiant ysgubol eu sioe gyntaf ym Mehefin 2018, mae Bardd yn ôl gyda dwy set ryfeddol lle maent yn dod ag elfennau o gerddoriaeth fyd-eang ynghyd yn eu dull unigryw eu hunain. Gan gynnwys Barddoniaeth Lafar Martin Daws (Bardd Pobl Ifanc Cymru 2013-16)
ac Emceeing Mr Phormula (Pencampwr Lwpio Dwbl Cymru 2016/18), mae Bardd yn seilio eu synau arbennig ar gerddoriaeth ailadroddus Kalimba Martin, sy'n efelychu'r delyn, ac athrylith dechnegol Mr Phormula fel beatbox dynol a lwpiwr byw. O'r sylfaen Hip Hop hon, mae cerddgarwch byd-eang 16
Mwynhewch ein platiad rhannu Cabaret newydd yn y Theatr, ar gael o far Ffynnon y cydweithio hwn yn cael ei ymestyn i gynnwys Jas, Gwerin, Afro-Funk a Drwm a Bas gan offerynwyr dawnus sy'n feistri ar sawl offeryn, sef Neil Yates (Trwmped / Bas Trydan) a Henry Horrell (Gitâr / Allweddellau / Telyn). Cynhyrchir gyda chefnogaeth Pontio
Dydd Sadwrn 2 Chwefror Cystadleuaeth 10:30am Cyngerdd Gala 8pm
Cystadleuaeth a Chyngerdd Gala UniBrass 2019 Theatr Bryn Terfel a Neuadd Hugh Owen, Y Ganolfan Rheolaeth Tocynnau o £10* O Fangor i Fryste; Caergrawnt i Gaerdydd, bydd UniBrass 2019 yn gweld bandiau pres prifysgolion o bob cwr o'r DU yn dod i Fangor am ddiwrnod o greu cerddoriaeth ym Mhencampwriaethau Band Pres Prifysgolion Prydain a Gogledd Iwerddon. Gyda cherddoriaeth wych, ac awyrgylch gwych, dyw bandiau pres ddim yn dod yn fwy cyffrous na hyn. I
orffen y gystadleuaeth, sy'n cael ei chynnal yn Theatr Bryn Terfel a Neuadd Hugh Owen, mae'n bleser gan UniBrass groesawu Band Tref Tredegar i berfformio yn y Gyngerdd Gala yn Theatr Bryn Terfel. Bydd y cyngerdd yn dathlu bandiau pres, gan dalu teyrnged i wreiddiau Cymreig y band a pherfformiad cyntaf UniBrass yng Nghymru.
17
Mae hwn yn gyngerdd na ddylid ei golli. *am ragor o wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau, prisiau tocynnau a’r amserlen ewch i: http://www.unibrass.co.uk/ contest/unibrass-2019/
Dangosiadau hamddenol yn Sinema Pontio Boreau Sadwrn am 11.00am: 5 Ionawr, 2 Chwefror, 2 Mawrth, 6 Ebrill
Dangosiadau Ffilm Hamddenol Misol Wedi ei anelu at deuluoedd Sinema Pontio £5.50 i bawb Dewch i weld ffilm deuluol ddiweddar wrth i ni addasu tipyn ar y sinema – croeso i chi fynd a dod, mae’r lefelau sain wedi eu gostwng a’r goleuadau ymlaen yn isel. Does dim hysbysebion a gallwch wneud sŵn ac eistedd lle bynnag yr hoffwch.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â pha ffilm fydd yn cael ei dangos ewch i pontio.co.uk neu ffoniwch 01248 38 28 28
18
Circus
P'nawn Mercher 6 Chwefror 2pm
P’nawn Ffilm, Cacen a Chân Mewn cydweithrediad ag Opera Cenedlaethol Cymru. Wedi ei anelu at 60+ Sinema Pontio a Bar Ffynnon £4 Ymunwch â ni yn Sinema Pontio am brynhawn o adloniant a chanu. Bydd y prynhawn yn dechrau gyda dangosiad arbennig o hen ffefryn wedi ei ddewis gan aelodau o’r gymuned leol, gydag adloniant cerdd byw yn yr egwyl am 3pm gan animateuriaid lleisiol WNO,
Morgana Warren-Jones a Sioned Foulkes gydag Annette Bryn Parri yn cyfeilio. Mi fydd cyfle i roi tro ar ganu ar y cyd hwyliog wrth fwynhau paned a chacen, cyn dychwelyd i’r sinema i fwynhau hanner olaf y ffilm. Digwyddiad Dewch i Ganu WNO 19
“Am bnawn hyfryd, gadewch i ni wybod pryd fydd y nesaf!” “Anhygoel, fydde fo ddim wedi gallu bod yn well. Dwi wedi cael pnawn hollol fendigedig!” Ymateb y gynulleidfa i ddigwyddiad 2018
Dydd Gwener a Dydd Sadwrn 8 - 9 Chwefror
Gŵyl Gerdd Bangor 2019 Thema: ACWSTEG Gwyl Gerdd Bangor Dros gyfnod o ddau ddiwrnod bydd Gŵyl Gerdd Bangor yn rhoi cyfle unigryw i archwilio acwsteg Pontio, i ddysgu rhagor am wyddoniaeth mewn perthynas â cherddoriaeth ac wrth gwrs, i brofi’r gerddoriaeth gyfoes ac arbrofol ddiweddaraf. Cyflwyna y Swansea Laptop Orchestra archwiliad sonig o gyfansoddiadau chwe chyfansoddwr ifanc cyffrous yn y cyngerdd CoDI ELECTRONICS. Canolbwyntir ar synau arferol ac anarferol y ffliwt yn ystod cyngerdd atmosfferig yr amryddawn Richard Craig ac Electroacwstig Cymru. Theatr Bryn Terfel fydd lleoliad y cyngerdd olaf lle ceir ail berfformiad yr ensemble newydd UPROAR, lle maent yn cyflwyno 10 o gomisiynau gan 10 o gyfansoddwyr o bob cwr o Gymru.
Drwy gydol y ddau ddiwrnod cynhelir y digwyddiadau eraill mewn gwahanol leoliadau a lefelau yn Pontio a Neuadd Mathias yn yr Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau, gyda chyfle i brofi cerddoriaeth i’r ieuengaf ohonom gyda Marie-Claire Howorth, i archwilio gwrthrychau sonig gyda Techniquest Glyndŵr a’n cyfareddu gan gyfansoddiadau myfyrwyr a berfformir gan Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor. Ymunwch yn y dathliad! Chwiliwch am weithiau celf diddorol o gwmpas Pontio gan fyfyrwyr Cwrs Sylfaen Celf a Dylunio Coleg Menai, wedi’u hysbrydoli gan thema’r ŵyl – Acwsteg.
20
DIGWYDDIADAU
08/02/2019
11:00am – 12:30pm / 3:00pm – 4:30pm Ffiseg a Cherddoriaeth Mewn cydweithrediad â Techniquest Glyndŵr Darlithfa 2, Pontio
Trwy’r Dydd Arddangosiad Cerddoriaeth a Gwyddoniaeth Mewn cydweithrediad â Techniquest Glyndŵr Pontio Bangor
11.00am – 12.30pm Y Cyfansoddwr: beth yw dy frand? Gweithdy ar gyfer cyfansoddwyr gyda Naomi Belshaw (mewn cydweithrediad â Tŷ Cerdd) Lefel 5, Pontio
4:00pm – 6:00pm Gweithdy Gwobr Gyfansoddi William Mathias Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor
12:30pm – 1:00pm Boom 1 Lefel 2, Pontio
Am fwy o wybodaeth ewch i www.gwylgerddbangor.org.uk
1:00pm Richard Craig ac Electroacwstig Cymru Stiwdio, Pontio £12/ £10 (Henoed) / £5 (Myfyrwyr/Plant)
7:30pm CoDI ELECTRONICS Swansea Laptop Orchestra gyda Jenn Kirby a Simon Kilshaw mewn cydweithrediad â Tŷ Cerdd Stiwdio, Pontio £15 / £12 (Henoed) / £5 (Myfyrwyr/Plant)
2:15pm – 2:45pm Boom 2 Lefel 2, Pontio 4:30pm – 5:30pm Interference Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor Lefel 0 – 5, Pontio
09/02/2019 Trwy’r Dydd Arddangosiad Cerddoriaeth a Gwyddoniaeth Mewn cydweithrediad â Techniquest Glyndŵr Pontio Bangor
5:30pm – 5:50pm Boom 3 Lefel 2, Pontio 6:00pm Sgwrs Cyn y Cyngerdd a Derbyniad yr Ŵyl Darlithfa 2, Pontio
10:00am – 10:50am / 11:00am – 11:50am / 12:00pm – 12:50pm Camau Cerdd gyda Marie-Claire Howorth Grwpiau i blant: 15 mis - 3 oed / 4 - 7 oed Lefel 0, Pontio £5
7:30pm 10 Cyfansoddwr o Gymru, 10 Comisiwn UPROAR Cymru dan arweiniad Michael Rafferty Theatr Bryn Terfel, Pontio £15 / £12 (Henoed) / £5 (Myfyrwyr/Plant)
10:00am – 12:00pm Dosbarth Meistr gydag aelodau UPROAR Cymru Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor £15 (Cyfranogwyr) / £2 (i wylio)
Yn ddibynnol ar nawdd. 21
Y l l e p e r f f a i t h i f w y t a c y n si oe n e u i f w yn hau p r y d ha m d d e n o l g y d a f f r i n diau a t he ulu. M a e e i n b w y d l e n y n c y n n w y s p r y d a u c a r t r e f w e d i ’u g w n e u d g y d a r h a i o ’r c y n h w y s i o n g o r a u l l e o l . Ry d y m y n ddigon ffodus i gael cyflenwyr gwych ar garreg ein d r w s a c f e l l y m a e ’n b l e s e r c a e l d e f n y d d i o e u c y n n y r c h .
A l e d C l o s s - D a v i e s , Pr i f G o g y d d I a r c h e b u : b w y d a b a r @ p o n t i o . c o . u k / 0124 8 3 8 3 8 2 6
22
CERDDORIAETH
yn Gorad
Ym u n w c h â n i a m n o s o n h a m d d e n o l o f wyd gwych gyda cherddoriaeth f yw. M a e p o b u n o ’r d i g w y d d i a d a u h y n y n r h a d a c a m d d i m i b a w b s y ’n b w y t a y n G o ra d , g y d a p he r f f o r m i a d a u ’n p a ra t u a a w r.
Richy Jones N o s We n e r, 15 C h w e f r o r | 7. 3 0 p m Mae’r canwr Richy Jones yn byw yn Nolgellau ac mae’n canu jas a chaneuon poblogaidd yn Gymraeg a Saesneg. Mae ei driawd yn cynnwys Andy Mackenzie ar y gitâr a Greg Robley ar y bas dwbl. Disgwyliwch ganeuon o Sinatra i Sheeran, dehongliadau modern o hen alawon gwerin ac ailwampio safonau jas clasurol.
Mared Williams N o s We n e r 2 6 E b r i l l | 7. 3 0 p m Yn wreiddiol o Lannefydd ger Dinbych, dechreuodd Mared gyfansoddi ei chaneuon ei hun pan oedd yn yr ysgol uwchradd ac ar hyn o bryd mae’n astudio am MA mewn Theatr Gerddorol yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Yn 2018 derbyniodd ganmoliaeth am ei chân “Byw a Bod” a ddaeth yn ail yn Cân i Gymru, a gynhaliwyd yn Theatr Bryn Terfel, ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno cafodd ei henwi yn Llais Rhyngwladol Theatr Gerdd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, a arweiniodd at gyfle i berfformio yn Eisteddfod yr Arfordir Aur yn Awstralia. Bydd Mared yn canu cymysgedd o ganeuon gwreiddiol ac o waith artistiaid eraill, gan gyfuno elfennau o gerddoriaeth jas, pop a soul.
Archebwch yn gynnar i sicrhau eich bwrdd b w y d a b a r @ p o n t i o . c o . u k / 012 4 8 3 8 3 8 2 6 23
24
Mawrth 19 Chwefror 7.30pm (gyda sgwrs ar ôl sioe) Mercher 20 Chwefror 12.30pm (perfformiad i ysgolion) Iau 21 Chwefror 7.30pm Gwener 22 Chwefror 7.30pm
Anweledig gan Aled Jones Williams
“…dyma’r stori fwya’ afaelgar, gwefreiddiol i mi glywed ers amser maith – os erioed falle.”
Theatr Bryn Terfel 19, 21, 22 Chwefror: £15/£12 gostyngiadau 20 Chwefror: £10 Mae gwella’n beth blêr... Dyma gynhyrchiad cignoeth a dirdynnol sy’n dilyn taith Glenda (Ffion Dafis), dynes sy’n byw gydag iselder difrifol, wrth iddi frwydro i ymdopi â salwch anweledig.
Dilynwn ornest bersonol Glenda wrth iddi brofi gwellhad a mentro i fywyd tu hwnt i’r ysbyty. Sut mae Glenda, ei theulu a’i ffrindiau yn ymdopi â realiti’r gwellhad? Oes goleuni ym mhen draw’r twnnel?
Elinor Gwynn yn trafod Anweledig ar raglen Dewi Llwyd (13/07/14).
Dyma benllanw cyfres Anweledig sydd wedi ei ysbrydoli gan gofnodion meddygol Ysbyty Meddwl Dinbych. Anaddas i rai dan 14 oed.
Yn ystod yr egwyl ac ar ôl y perfformiad…
Llun gan Kirsten McTernan
Darn wedi’i gomisiynu ar gyfer Wal Wen Pontio yn ymateb i’r themâu sy’n codi o’r ddrama -‘Anweledig’.
25
Dydd Sadwrn 23 Chwefror 11.30am a 2.30pm Theatr Iolo yn cyflwyno
Pen-blwydd Poenus Pete Stiwdio £6.50/£22 tocyn teulu a ffrindiau (4 person, o leiaf un dan 18)
Comedi ddisglair, frathog a beiddgar i’r teulu cyfan gan y dramodydd adnabyddus Gary Owen. Mae ’na deulu – Mam, Dad, dau o blant a Cadi y gath. Mae Dad yn dweud nad yw eisiau unrhyw ffwdan ar ei ben-blwydd ac mae Mam yn ei gymryd ar ei air! OND pan mae siom Dad a phŵer drygionus y gath yn dod ynghyd, mae’n achosi anrhefn gyda chanlyniadau digri a doniol tu hwnt. Cynhyrchiad Cymraeg Canllaw oed: 6+
Dewch draw i’r Stiwdio cyn y perfformiad am 10.30am neu 1.30pm i fwynhau gweithgareddau difyr wedi’u cynllunio’n arbennig i helpu teuluoedd sy’n dysgu Cymraeg ehangu eu dealltwriaeth o’r sioe. Bydd pecynnau adnoddau am ddim ar gael i helpu dysgwyr! Am ddim ond bydd angen tocyn 26
Gweithdy creadigol AM DDIM yn dilyn pob sioe
Gig
Nos Fawrth 26 Chwefror 8pm
Villagers Theatr Bryn Terfel £20 Mae Conor O’Brien wedi cymryd cam ymlaen enfawr unwaith eto gyda phedwerydd albwm stiwdio y Villagers, The Art Of Pretending To Swim. Yma eto gwelir ei ddyfeisgarwch anniddig a'i ymdeimlad â grym a mawredd caneuon ac alawon cofiadwy. Yn dilyn cyffyrddiadau hynod gynnil ac agosatoch Darling Arithmetic, a ymddangosodd yn 2015, yn record newydd
O'Brien gwelir troi yn ôl at nodweddion aml-weddog albwm cyntaf y Villagers yn 2010, Becoming a Jackal, ac {Awayland} a ddaeth allan yn 2013. Ond yn yr albwm newydd hwn ceir ymdeimlad o ddwyster arbennig. The Art Of Pretending To Swim yw albwm mwyaf athrylithgar y Villagers hyd yma, lle gwelir cyffyrddiadau ysgafn a themâu telynegol sy'n cofleidio'r ofnau a'r gobeithion a welir yn yr 27
oes ddystopaidd hon sy'n rhoi cymaint o bwys ar ddatblygiadau technolegol. Mae 5 aelod i’r band sy’n cynnwys Gwion Llewelyn, sy'n wreiddol o Ynys Môn a Mali Llywelyn, sy'n wreiddol o Benarth. Oedran 14+ Gig sefyll
Nos Wener 1 Mawrth 7.30pm
Dathlu Dawn Dilys Elwyn-Edwards Theatr Bryn Terfel £14/£12 dros 60/£5 myfyrwyr a dan 18 Cyngerdd gyda'r soprano Elin Manahan Thomas, y Prifardd a Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn a Chôr Siambr Prifysgol Bangor Mae’n bleser gennym roi lle amlwg ar ddydd Gŵyl Dewi i un o gyfansoddwyr enwocaf ei chyfnod ac uchaf ei pharch ym myd y gân Gymraeg - Dilys Elwyn-Edwards - a hynny ar gynffon blwyddyn pryd y byddai wedi dathlu ei phenblwydd yn gant oed.
Wedi ei geni yn Nolgellau, fe astudiodd y grefft o gyfansoddi gyda’r cyfansoddwr Seisnig Herbert Howells cyn treulio y rhan fwyaf o’i hoes yng Nghaernarfon, ar lannau’r Fenai, lle cynhyrchodd gasgliad bychan o gyfansoddiadau lleisiol cain. Heno, cawn gyfle i glywed detholiad o’r caneuon hyn yn cael eu perfformio gan y soprano Elin Manahan Thomas, sy'n cynnwys Caneuon Gwynedd
28
Bydd Pontio ac Ysgol Gerddoriaeth Prifysgol Bangor hefyd yn cynnal dosbarth meistr gydag Elin Manahan Thomas a Chaneuon y Tri Aderyn. Maent oll yn osodiadau o gerddi gan feirdd mwya’n cenedl, yn eu plith R. Williams Parry, T. Gwynn Jones, Dic Jones, Gwyn Thomas a Saunders Lewis. Yn ystod y noson cawn ddarlleniadau gan ein Bardd Cenedlaethol, Ifor ap Glyn, ynghyd â cherdd a chân wedi eu comisiynu’n arbennig gan Ifor ap Glyn a’r cyfansoddwr Geraint Lewis i nodi’r achlysur.
P'nawn Mercher 6 Mawrth 1-3pm Project BLAS Pontio yn cyflwyno
Cofio’r Bugail: Panel Trafod y Ffilm Hedd Wyn Stiwdio
Mercher 6 Mawrth, 9.30am Theatr Bryn Terfel AM DDIM Biggest Book Show on Earth Digwyddiad arbennig i ysgolion gydag awduron yn ysbrydoli plant i ddarllen. Cysylltwch ag Angharad.sinclair@ llyfrau.cymru am ragor o wybodaeth
£3 Yn dilyn llwyddiant ein sesiynau eraill yn edrych ar destunau Cymraeg o fri, byddwn yn dod â phanel o arbenigwyr ynghyd y tro hwn i drafod y ffilm eiconig Gymraeg, Hedd Wyn. Mae’r ffilm Gymraeg gyntaf i gael enwebiad am Oscar nôl yn 1994 yn dilyn hanes y bardd Ellis Humphrey Evans, Hedd Wyn, a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Panel llawn i’w gadarnhau ond bydd yn cynnwys: Dr Gerwyn Wiliams Gwen Ellis Cadeirydd Dr Manon Wyn Williams Mae'r digwyddiad wedi'i anelu'n arbennig at rai sy'n astudio'r ffilm fel rhan o faes llafur CBAC, ond mae'n agored i bawb.
29
Cofiwch am gynllun Ewch i Weld gan Gyngor Celfyddydau Cymru y gall ysgolion ei ddefnyddio i ariannu teithiau i weld digwyddiadau o ansawdd uchel, ewch i www.arts.wales am fanylion Gyda diolch i S4C a Pendefig am ddarparu’r llun
Nos Iau 7 Mawrth 7.30pm
Cartographic Imaginaries: Delweddu Pigeon gan Alys Conran Stiwdio AM DDIM ond bydd angen tocyn Fe wnaeth nofel arobryn Alys Conran, Pigeon (2016), a leolwyd ym Methesda a'r cyffiniau, ysbrydoli'r arlunydd Amy Sterly i greu 'The Missing Piece / Y Darn Sydd ar Goll'. Daethpwyd â'r ddwy at ei gilydd gan Literary Atlas, project a gyllidir gan AHRC dan arweiniad yr Athro Jon Anderson (Prifysgol Caerdydd) a'r Athro Kirsti Bohata (Prifysgol Abertawe). Nod y project oedd creu atlas ar-lein o 'fapiau llenyddol' o nofelau a leolwyd yng Nghymru. Yn ddiweddarach,
ychwanegwyd at y mapiau hyn drwy gomisiynu deuddeg gwaith celf gwreiddiol a luniwyd mewn ymateb i'r nofelau a'u lleoliadau. Yn y sesiwn hon, bydd Jon Anderson yn siarad ag Alys Conran ac Amy Sterly am eu gwaith, ac am y cysylltiadau rhyfeddol rhwng ffuglen, mapiau, celf weledol, a'r bobl a'r lleoedd y maent yn eu darlunio. Gwefan: literaryatlas. wales/literaryatlas.cymru Trydar: @LitAtlasWales 30
Caiff gweithdai ysgrifennu llên micro eu cynnal fel rhan o’r daith sy’n defnyddio “MiPlot” - map cyhoeddus llên micro Literary Atlas. Caiff y gweithdai eu cynnal yn Pontio/Storiel ar 8-9 Mawrth. Am fwy o wybodaeth ewch i http:// literaryatlas.wales/en/ microfictions/
Nos Sul 10 Mawrth 6pm
Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor Theatr Bryn Terfel £12/£10 dros 60 /£5 myfyrwyr a dan 18 Yr Athro Chris Collins (arweinydd) Louise Farrenc: Symffoni Rhif 3 yn G leiaf, Op. 36 Igor Stravinsky: The Firebird (bale cyflawn) Daeth y bale cyntaf a gomisiynwyd gan yr enwog Serge Diaghilev, The Firebird, i'r llwyfan ym Mharis yn 1910 mewn ffrwydrad o liw, egni a symud, gan effeithio ar bopeth o gyfansoddi cerddoriaeth
i haute couture. Awdur ei sgôr hudolus oedd Igor Stravinsky, 28 oed ar y pryd, ac ynddo fe welwn arwyddion cyntaf yr holl elfennau a oedd i nodweddu cerddoriaeth yr ugeinfed ganrif. Cafodd Trydedd Symffoni'r cyfansoddwr Ffrengig Louise Farrenc (1804-75) ei pherfformio gyntaf ym Mharis 61 mlynedd ynghynt. Gyda'r perfformiad hwnnw, llwyddodd Farrenc i herio 31
confensiynau ei hoes a oedd, i raddau helaeth, yn gwahardd gwaith cyfansoddwyr benywaidd o'r neuaddau cyngerdd. Mae'n waith godidog, lle mae Farrenc yn dod â'i llais ei hun i idiom symffonig gyfoes Schumann a Mendelssohn. Bydd y cyngerdd hwn hefyd yn cynnwys perfformiad concerto gydag enillydd cystadleuaeth unawdydd Prifysgol Bangor 2019.
Nos Fawrth 12 Mawrth 7.30pm Cynhyrchiad Hijinx a Teatro La Ribalta (Yr Eidal), mewn cydweithrediad â Frantic Assembly, mewn partneriaeth â Danza Mobile (Sbaen) a Theatr y Sherman
Theatr Bryn Terfel £10/£8 gostyngiadau Rydym i gyd eisiau cysylltu a chymysgu ag eraill a chael ein derbyn a’n deall. Mae llewyrch ein ffonau symudol yn ein gwahodd i gael ein gwerthfawrogi, ein hanwylo a’n caru. Mae'r her o gamu ar y llwyfan yn cynnig rhywbeth tebyg i ni. Ond ai cael ein goleuo yr ydym ni neu gael ein datgelu?
Mae Into the Light, sioe Hijinx a Theatro la Ribalta, dan gyfarwyddiaeth Scott Graham o Frantic Assembly, yn cynnwys cast o berfformwyr rhyngwladol, rhai ohonynt gydag anableddau dysgu ac eraill heb rai. Mae’n theatr gorfforol, fentrus am yr hawl i gael eich gweld a'ch clywed,
32
a gaiff ei pherfformio gan rai y mae angen inni eu gweld a'u clywed . Sesiwn holi ac ateb i ddilyn
Nos Fercher 13 Mawrth 6.30pm
Operatif Bar Ffynnon AM DDIM Yn dilyn llwyddiant y llynedd, bydd unawdwyr Opera Canolbarth Cymru, y tenor Robyn Lyn Evans a’r soprano Alys Mererid Roberts, yn ymuno unwaith eto â chantorion addawol lleol, yn cynnwys Kiefer
Adnodd ar gyfer dysgu, ymchwil, addysgu’r cyhoedd a mwynhad. Mae gan Ardd Fotaneg Treborth gwlâu planhigion, glaswelltir sy’n doreithiog mewn rhywogaethau, pyllau, gardd goed, gardd Tsieineaidd, choedir hynafol a chynefin creigiog ar lannau’r Fenai. Mae chwech tŷ gwydr yn cynnig awyrgylch arbenigol ar gyfer casgliadau planhigion trofannol a thymherus, tegeirianau a phlanhigion cigysol. Rydym yn trefnu sgyrsiau, sêl planhigion, gweithdai arbenigol, crefftau (a mwy!) yn rheolaidd.
Jones, Morgana WarrenJones ac Erin Williams i berfformio darnau operatig yn lleoliad anffurfiol Bar Ffynnon ar Lefel 0. Rhywbeth i godi blys cyn Tosca!
Sesiynau gwirfoddoli rheolaidd phob dydd Mercher a dydd Gwener DIDDORDEB MEWN GWIRFODDOLI? CYSYLLTWCH Â NI Gardd Fotaneg Treborth Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ www.treborth.bangor.ac.uk treborth@bangor.ac.uk 01248 353398
33
Mwynhewch ein platiad rhannu blasus yn ystod y perfformiad, ar gael o’r bar o £7.95
Cerddoriaeth
Nos Iau 14 Mawrth 7.30pm Opera Canolbarth Cymru
Theatr Bryn Terfel £19/£18 dros 60/£10 myfyrwyr a dan 18 Mae grym ac angerdd yn gwrthdaro yng nghampwaith syfrdanol Puccini Tosca. Wedi eu dal mewn brwydr bywyd a marwolaeth yn erbyn y pennaeth heddlu llwgr Scarpia, mae'r brif gantores, Tosca a'i chariad, yr artist, yn wynebu'r aberth eithaf.
Ymunwch ag OCC ar eu taith y gwanwyn hwn, wrth i gerddoriaeth fawreddog Puccini arwain cynulleidfaoedd drwy ystod o emosiynau, o stori garu dyner drwy greulondeb grymus i'r drychineb eithaf.
34
Cyfarwyddwr Artistig: Richard Studer Cyfarwyddwr Cerddoriaeth: Jonathan Lyness Cerddorfa: Ensemble Cymru Cenir yn Saesneg
Drama
has ymdeit r hen G io gan y Jones rm fo rf ilym ei be fi wedi wyd John Gw Nid My d Ac Eto dan gyfarwyd a Ddram
Nos Wener 15 Mawrth 7pm Cymdeithas John Gwilym Jones yn cyflwyno
Ac Eto Nid Myfi gan John Gwilym Jones Stiwdio £5 Mae hon yn ddrama ddifyr a bywiog sy’n trafod llencyndod a thyfu i fyny, cariad a pherthynas pobl â’i gilydd, ond y cwestiynau pwysicaf a godir ganddi yw pwy ydym ni, a beth sy’n pennu llwybr ein bywyd.
Perfformiwyd y ddrama hon am y tro cyntaf gan aelodau Cymdeithas y Ddrama Gymraeg, Coleg Bangor, a dyma berfformiad gan y gymdeithas honno ar ei newydd wedd a dan ei henw newydd, sef Cymdeithas John Gwilym Jones.
35
Syrcas
Nos Wener 15 Mawrth 8pm
Llun: Tristram Kenton
Barely Methodical Troupe
KIN Theatr Bryn Terfel Bargen gynnar ar gael tan 1 Mawrth £12/£10 gostyngiadau
£14/£12 gostyngiadau Mae'r bechgyn o sioe wych BROMANCE 2015 yn ôl efo'r perfformiad syrcas gwefreiddiol yma sy'n dangos cydweithio rhwng grŵp a chyfeillgarwch ar ei orau. AC maen nhw wedi dod â ffrindiau efo nhw hefyd! Gwelir eu medrusrwydd a'u cryfder corfforol rhyfeddol
wrth iddynt hedfan drwy'r awyr a dal ei gilydd mewn symudiadau sy'n gofyn am gyd-symud cywrain a ffydd lwyr yn y naill a'r llall. Mae Barely Methodical Troupe yn un o gwmnïau syrcas mwyaf blaenllaw Prydain gan arloesi gyda math newydd o berfformio
36
“A beautiful, sad, funny complicated thing…” The Stage
corfforol, gan greu sioeau sy'n wledd o adloniant gan gymysgu acrobateg syrcas gyda grym emosiynol theatr. Canllaw oed: 8+ Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr
Nos Sadwrn 16 Mawrth 7.30pm
Best of BE FESTIVAL Stiwdio £14/£12 gostyngiadau Cyfuniad o syrcas, theatr a rhith mewn un noson syfrdanol. Bob blwyddyn, mae BE FESTIVAL yn pecynnu tair o'u hoff sioeau o'u gŵyl ryngwladol a'u hanfon ar daith o amgylch Prydain. Yn Take Care of Yourself bydd Marc Oosterhoff, perfformiwr syrcas hynod fentrus o'r Swistir, yn llyncu rhes o laseidiau bach o wisgi cyn mynd ati wedyn i geisio perfformio cyfres o gampau fydd yn ddigon i godi gwallt eich pen.
Bydd yr artist perfformio, y lledrithiwr a'r celwyddgi proffesiynol, Tom Cassani, yn gwneud i ni feddwl sut yn union rydym yn dehongli gwirionedd a chelwydd yn Someone Loves You Drive With Care. Bydd sioe amlgyfrwng hynod ddigri Kulu Orr, Control Freak, yn dangos ei athrylith gyfrifiadurol a'i awydd obsesiynol i reoli popeth ar y llwyfan gan ddefnyddio gwahanol siwtiau electronig o'i gynllun ei hun. Canllaw oed: 14+ 37
“Ground-breaking new theatre from across Europe” The Guardian 2016
P'nawn Sul 17 Mawrth 1:30pm a 4pm
TRIPULA Farrés Brothers & Co., Catalonia. Theatr Bryn Terfel £10 Taith ar y gwynt mewn balŵn! Taith i hwylio tu hwnt i’r byd, i’ch cludo gan yr awyr a’ch dychymyg Mae dau wyddonydd goleuedig wedi darganfod modd newydd o deithio a heddiw byddan’ nhw’n ei rannu gyda grŵp newydd o deithwyr – gyda chi! Ar ôl llawer o waith caled maen nhw’n mentro arddangos yr esblygiad trafnidiaethol hynod yma: Y Balŵn Awyr Llonydd!
Mae’r Balŵn Awyr Llonydd yn teithio drwy’r gofod, yn agos at ffiniau realaeth, ac yn caniatáu i chi fynd i lefydd ‘doedd neb cyn hyn yn gwybod dim am eu bodolaeth. Mae’r daith yn argoeli i fod yn llonydd a hudol – oni bai y daw ambell i anffawd gan orfodi’r teithwyr i fod yn rhan o’r criw... Mae cwmni’r Brodyr Farrés wedi cymryd hen falŵn awyr a’i droi yn brofiad theatraidd unigryw. Mae eu gwaith yn adnabyddus iawn
38
yng Nghatalonia ac mewn gwledydd eraill ar y cyfandir; dyma’r tro cyntaf iddyn nhw berfformio yng Nghymru. Canllaw oed: 6+ Cyflwynir mewn Catalaneg a Saesneg, ond tydi iaith ddim yn rhan ganolog o’r sioe Archebwch yn fuan (nifer cyfyngedig) Cyflwynir gan Gwmni Theatr Arad Goch fel rhan o Ŵyl Ryngwladol Agor Drysau-Opening Doors 2019, a gefnogir gan Gronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru.
Ymunwch â'n tîm o wirfoddolwyr! Oes gennych chi ...? -D diddordeb mewn theatr, cerddoriaeth fyw a ffilmiau
-A wydd i ddysgu, datblygu a defnyddio sgiliau newydd
-F rwdfrydedd i roi gwasanaeth arbennig o dda i gwsmeriaid
-D dymuniad i gyfarfod â phobl newydd ac adeiladu eich hyder
Credwn y dylai'r Celfyddydau fod yn gynhwysol ac felly rydym yn annog gwirfoddolwyr o bob cefndir i ymuno â ni - yr unig ofynion yw eich bod dros 16 oed, yn frwdfrydig, yn gyfeillgar ac yn ddibynadwy.
Oes gennych chi ddiddordeb? gwirfoddolwyr@pontio.co.uk 01248 382666
39
Dawns
Nos Fawrth 19 Mawrth 7:15pm (gyda sgwrs ar ôl sioe) Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
AWAKENING Theatr Bryn Terfel £14/£12 gostyngiadau Coreograffi gan: Fernando Melo, Caroline Finn a Marcos Morau. Tair dawns unigryw i'ch diddanu a'ch synnu. Taith wibiol drwy ddelweddau ydi Afterimage. Profiad theatrig unigryw, gan ddefnyddio cymysgedd o ddrychau mewn stori o ymddangos a diflannu a gaiff ei dweud drwy arddull greadigol dawns.
Troi i fyd defodau mae Revellers' Mass. Mae grŵp annhebygol yn dod ynghyd ar gyfer parti cinio, lle rhoddir prawf ar safonau ymddygiad arferol. Caiff coreograffi a chymeriadau chwilfrydig eu hysbrydoli gan ddarluniau eiconig. Mae They Seek To Find The Happiness They Seem yn archwiliad o'r dadgysylltiad all ddigwydd o fewn perthynas. Mae’n defnyddio ac yn addasu digwyddiadau eiconig o ddiwylliant pop. 40
Gwylio Dosbarth y Cwmni Theatr Bryn Terfel 12.45pm Dewch i gael cip unigryw tu ôl i’r llen i weld sut mae’r dawnswyr yn paratoi oriau yn unig cyn llwyfannu’r sioe. Gallwch wylio, sgetsio, recordio a thynnu lluniau. Profiad perffaith i fyfyrwyr dawns, artistiaid, ffotograffwyr ac yn wir unrhyw un arall sy’n ymddiddori yn y cwmni. Am ddim ond bydd angen tocyn
Drama
Nos Fawrth 19 Mawrth 7.30pm Nos Fercher 20 Mawrth 7.30pm Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Mas ar y Maes ac OOMFF, gyda chefnogaeth Theatr Clwyd
Merched Caerdydd Nos Sadwrn o Hyd Stiwdio £14/£12 gostyngiadau Merched Caerdydd gan Catrin Dafydd Caerdydd yw cartref Cariad, Liberty ac Awen. Er eu bod nhw’n troedio llwybrau gwahanol iawn i’w gilydd, mae ganddyn nhw fwy yn gyffredin na’u dinas. Dyma dair o ferched ifanc, disglair ac, efallai, annisgwyl y Gymru gyfoes sy’n ceisio gwneud synnwyr o’u bywydau blêr. Merched sy’n ymrafael â’u
gorffennol wrth geisio llywio’u dyfodol. Ond a fydd newid yn bosib? Neu a ydi eu ffawd eisoes wedi’i benderfynu? Nos Sadwrn o Hyd gan Roger Williams Wedi i Take That chwalu perthynas Lee a Matthew mewn clwb nos yn y brifddinas, mae Lee yn cymryd camau cynnar, melys ar lwybr carwriaeth newydd. 41
Am gyfnod byr mae bywyd yn fêl, ond ar ôl bob nos Sadwrn daw realiti oer bore Sul. Ac fel mae Lee’n darganfod, does dim byd yn para am byth. 14 + Bydd modd i’r di-Gymraeg ddilyn y perfformiad gydag ap Sibrwd. Manylion: theatr.cymru
42
Perfformiad Myfyrwyr
Nos Iau 28 Mawrth 7.30pm
SODA (Cymdeithas Theatr Gerdd Prifysgol Bangor) yn cyflwyno Theatr Bryn Terfel £10/£7 gostyngiadau £30 tocyn teulu Bydd SODA, y cwmni a ddaeth â High School Musical, Cinderella a Fame i ni, yn ôl yn perfformio yn Pontio ym mis Mawrth gyda'u sioe nesaf. Caiff ei chyhoeddi ar eu tudalen Facebook yn fuan iawn a bydd rhaid i chi frysio i gael tocynnau oherwydd gwerthwyd pob un ar gyfer eu perfformiadau blaenorol.
SODA yw Cymdeithas Myfyrwyr Theatr Gerdd Prifysgol Bangor, sy'n canolbwyntio ar gynhyrchu perfformiadau o safon uchel a chael hwyl.
Instagram: soda_bangor
Dilynwch eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i weld sut mae eu hymarferion yn mynd ac i gael cyhoeddiad y sioe fawr!
Snapchat: SODA_Bangor
43
Twitter: SODA_Bangor Facebook: SODA - Bangor University’s Musical Theatre Society
Nos Wener 29 Mawrth 7.30pm
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC / Thibaut Garcia Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor £15/£13.50 dros 60 /£5 myfyrwyr a dan 18 Tocyn Teulu: £15/£20
Joaquín Rodrigo Concierto de Aranjuez Tchaikovsky Symffoni Rhif. 5 Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC Thibaut Garcia Gitâr Kensho Watanabe Arweinydd Mae New Generation Artist BBC Radio 3, Thibaut Garcia, yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i chwarae clasur hyfryd
Joaquin Rodrigo ar gyfer gitâr a cherddorfa: Concierto de Aranjuez. Ffynhonnau a gerddi palas Aranjuez ar lan Afon Tagus, ger Madrid, oedd yr ysbrydoliaeth i'r cyfansoddwr dall ysgrifennu'r darn hwn. Mae sawr melys rhosod a choed magnolia ar yr alaw Sbaenaidd, a gellir clywed llif dyfroedd tawel. Eto, gellir ymglywed ag arlliw o emosiwn melancolig yn y darn hefyd o ystyried y drychineb bersonol a gymhellodd Rodrigo i'w 44
ysgrifennu; ac ar ddiwedd yr adagio mae'r alawon ysgafn a gwan yn cyfleu esgyniad enaid i'r nefoedd. Yn ail hanner y cyngerdd, mae Tchaikovsky yn gwneud defnydd medrus o'r syniad o ffawd yn ei bumed symffoni.
Jam yn y bar Ymunwch ag Alun Tan Lan a cherddorion eraill am sesiwn ukulele anffurfiol am 9.30pm ym mar Ffynnon, Pontio.
Dydd Sadwrn 30 Mawrth 11.30am a 2.30pm Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Pontio yn cyflwyno
Taith Gerddorol trwy Ewrop Stiwdio £6.50/£22 Tocyn Teulu a Ffrindiau (4 person, o leiaf un dan 18) Ymunwch â ni ar antur gyda cherddorion o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, gyda digon o gyfleoedd ar gyfer hwyl, dawnsio a chymryd rhan! Bydd y Gweithdy Rhyngweithiol Cyfranogol hwn i deuluoedd, dan arweiniad cerddorion o BBC NOW, yn cynnwys taith gerddorol i wahanol wledydd drwy ddarnau o gerddoriaeth wedi'u trefnu'n arbennig gan y cerddorion.
Bydd y gwledydd yr ymwelir â hwy yn cynnwys Sbaen, Hwngari, y Ffindir a gwledydd yn nes at adref. Bydd y sesiwn yn cynnwys chwarae offerynnau taro neu ddefnyddio dulliau taro'r corff a chopïo. Mae'r gweithdy wedi'i anelu at blant oedran ysgol gynradd, ond mae croeso i blant o unrhyw oed (gan gynnwys rhai ifanc iawn) ddod iddo.
45
Hyd: 50 munud Digwyddiad dwyieithog
Gwnewch yn siŵr eich bod yn bachu poster a thaflen gweithgareddau’r daith gerddorol ar y diwrnod!
BLAS yw rhaglen ieuenctid Pontio sy’n rhoi’r cyfle i blant a phobl ifanc gael blas o’r celfyddydau. Rydym yn cynnal gweithdai drama wythnosol yn Stiwdio Pontio: Bob dydd Llun Dosbarth Bl 3 a 4, 5-6pm Dosbarth Bl 5 a 6, 6:15-7:15pm Bob dydd Mercher Dosbarth Bl 7, 8 a 9 6:30-7:30pm Dosbarth Bl 10 i 13 7:45pm-8:45pm
I archebu lle yn y gweithdai wythnosol, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01248 38 28 28, neu cysylltwch â Mared Elliw Huws, m.huws@ bangor.ac.uk, am ragor o wybodaeth. Hefyd mae BLAS yn gweithio gydag ysgolion a’r gymuned.
Dyma flas o’r gwaith Rumpelstiltskin – balletLORENT Dychwelodd balletLORENT i Pontio gyda'u cynhyrchiad diweddaraf, Rumpelstiltskin. Bu dros 90 o blant mewn clyweliad agored a chlyweliadau unigol yn Ysgol Glancegin ac Ysgol Bro Dewi a dewiswyd 7 o blant lleol ifanc i fod yn eu cynhyrchiad. Roedd ganddynt hefyd weithdy aduniad gyda'r cast ieuenctid lleol o'u cynhyrchiad o SnowWhite nôl yn 2016. Cafodd dau o'r rhain eu castio fel Young Rumpelstiltskin a Young Shepherd's Daughter.
Perfformiad Hamddenol I baratoi am berfformiad hamddenol balletLORENT o Rumpelstiltskin, cynhaliwyd gweithdy ar thema Rumpelstiltskin yn Ysgol Pendalar i’r plant a’r rhieni ac fe’u hanogwyd i ymweld â’r theatr.
46
Nos Wener 5 Ebrill 7pm BLAS Pontio yn cyflwyno
Sioe BLAS Bach Theatr Bryn Terfel Tocynnau’n mynd ar werth Chwefror 2019 Fe fydd dosbarth Blwyddyn 3 a 4 a Blwyddyn 5 a 6 yn dod at ei gilydd i ddyfeisio sioe newydd sbon. Dilynwch dudalen Facebook BLAS am fwy o wybodaeth.
Taith Criw Hŷn i Lerpwl – The Play That Goes Wrong, Liverpool Empire Fe aeth criw hŷn BLAS ar daith i Lerpwl i weld y comedi The Play That Goes Wrong. Lot o hwyl, a lot o chwerthin!
Fi, Chdi a Chelwydd Bu dosbarth blwyddyn 7, 8 a 9 yn gweithio gyda dosbarth blwyddyn 10 -13 ar ddyfeisio sioe newydd sbon. "Mae’r cynhyrchiad ieuenctid ar fin dechrau, ond mae’r sioe yn bell o fod yn barod ac fe ddaw celwydd pawb i’r wyneb yn ara’ deg…"
Ymchwilio i Hyder Merched Project Ymchwil Celfyddydau gydag Ysgol Llandygai Dangoswyd y ffilm "Hyder Merched" gan Meinir Siencyn am y tro cyntaf yn Sinema Pontio. Bu’r cyfarwyddwr yn dilyn project “Hyder Merched” BLAS a chreu ffilm ddogfen am y gwaith. Trwy ddefnyddio cerddoriaeth, dawns a drama, buom yn ymchwilio i’r materion a godwyd o astudiaeth gan Science Journal ar 27 Ionawr 2017. 47
Gyda 3 o ymarferwyr profiadol iawn, fe wnaethom dreulio 10 wythnos yn Ysgol Llandygai yn gweithio gyda'r plant ym Mlwyddyn 1 a 2 i weld a oedd y materion hyn yn bodoli, ac os felly, a all y celfyddydau helpu i’w datrys.
P'nawn Sul 7 Ebrill 3.30pm
Côr Siambr Cymru Neuadd Powis, Prifysgol Bangor £12/£10 dros 60/£5 myfyrwyr a dan 18 Yn ystod eu taith gyntaf erioed, mae Côr Siambr Cymru yn cyflwyno rhaglen o gerddoriaeth brydferth, ramantus o Gymru ac Ynysoedd Prydain. Gan ddechrau gydag emyn gwefreiddiol i natur gan Edward Elgar, O Wild West Wind, mae’r Côr yn cloi gyda
thawelwch torcalonnus Requiem Howells. Yn ogystal, byddant yn perfformio Hymn to the Creator of Light, darn ffrwydrol gan John Rutter, darnau gan yr hoff gyfansoddwyr Cymreig, William Mathias a Dilys ElwynEdwards, a dau ddarn gan y cyfansoddwr corawl ifanc,
Gareth Treseder, a fydd yn cael eu perfformio am y tro cyntaf. Mae hwn yn gôr – a chyngerdd – na ddylid ei golli gan ei fod yn cynnwys rhai o gantorion gorau Cymru, dan arweiniad Tomos Watkins sy’n prysur ddod i amlygrwydd fel arweinydd.
Nos Iau 11 Ebrill 7.30pm
Pontio’r Dwyrain a’r Gorllewin Stiwdio £12/£10 dros 60/£5 myfyrwyr a dan 18 Mewn cyngerdd sy'n dod â dau ddiwylliant gwahanol at ei gilydd, mae Pontio’r Dwyrain a’r Gorllewin yn dwyn ynghyd gerddoriaeth ac offerynnau Tseineaidd traddodiadol i'w clywed ochr
yn ochr â gweithiau newydd a gyfansoddwyd o Gymru. Caiff cyfansoddiadau gan Toru Takemitsu, a'r cyfansoddwyr Cymreig Andy Lewis, Sioned Eleri Roberts a Katherine Betteridge, 48
eu chwarae gan driawd o gerddorion (Mared Emlyn, Richard Craig a Sioned Eleri Roberts) a fydd yn ymdrin â synau'r Dwyrain a'r Gorllewin yn eu ffordd arbennig eu hunain.
Comedi
“Making powerhouse stand-up from the thorniest of subjects” Guardian
Nos Wener 12 Ebrill 8pm
Kiri Pritchard-Mclean Victim, Complex
Stiwdio £12.50 Efallai eich bod wedi gweld Kiri ar Comedy Central at the Comedy Store, The Russell Hour, wedi ei chlywed ar The Now Show neu wedi ei gweld yn Pontio o’r blaen. Efallai nad ydych yn ei hadnabod, ond mae hynny’n iawn! Dylech wybod, mae hi wedi bod yn mynd o’i cho’ am
ychydig o flynyddoedd, ac, gan ddyfynnu Uma Thurman yn ‘disgwyl…i fod yn llai blin’. Felly, mae’n amser siarad am ddioddefwyr, cariad a chelwyddau. Hwyrach na fyddwch yn ei chredu, ond mae wedi hen arfer â hynny. 16+
49
Ydych chi wedi bod yn un o’n nosweithiau Cabaret eto? Dewch i fwynhau cerddoriaeth wych o bob cwr o’r byd mewn awyrgylch anffurfiol a hamddenol yn Theatr Bryn Terfel. Gallwch eistedd lle y mynnoch a mynd a dod o’r bar.
Cynnig Arbennig
Platiad Rhannu
Bachwch docyn pris gostyngol sydd ar gael i’n nosweithiau cabaret hyd at bythefnos cyn y digwyddiad!
Mwynhewch blatiad o fwyd blasus Cabaret Pontio i’w rannu yn y Theatr, ar gael o far Ffynnon.
50
Nos Wener 12 Ebrill 8pm Cabaret Pontio yn cyflwyno
Siân James Theatr Bryn Terfel Bargen gynnar ar gael tan 29 Mawrth £12/£11 gostyngiadau
£14/£13 gostyngiadau Siân James yw un o gantorion cyfoes mwyaf blaenllaw Cymru ac un o'n prif arloeswyr ym myd cerddoriaeth draddodiadol. Cana’r delyn Geltaidd, mae’n bianydd o fri, ac yn gyfansoddwr. Mae ei dawn fel perfformwraig wedi mynd â hi i theatrau a gwyliau cerddorol ledled y byd ac fe’i perchir fel un o’n prif lysgenhadon cerddorol. Mae’n enwog am ei gallu greddfol i gyfleu emosiwn dwfn yn ei chaneuon a hynny gyda didwylledd ac angerdd. Erbyn hyn, mae
wedi rhyddhau deg albwm o’i gwaith, casgliadau eclectig o ganeuon gwreiddiol a thraddodiadol sy'n cwmpasu ein hemosiynau dyfnaf, o gariad a chwerthin, i golled a’r byd ysbrydol. Bydd yn cyflwyno casgliad o ganeuon ac ambell i gyfansoddiad offerynnol caneuon o bob cyfnod dros y 30 mlynedd ddiwethaf o'i gyrfa, gan gynnwys rhai oddi ar ei halbwm diweddaraf gafodd ei rhyddhau yn 2018, Gosteg.
51
P'nawn Sadwrn 13 Ebrill 1.30pm a 3.30pm Lyngo Theatre yn cyflwyno
Jack and the Beanstalk Stiwdio £6.50/£22 tocyn teulu a ffrindiau (4 person, o leiaf un dan 18) Fee Fi Fo Fum! Mae'n gawr o sioe, byddem wrth ein bodd pe baech chi'n dod! Y stori dylwyth teg enwog hon sydd wedi cael ei haddasu gan Lyngo y tro yma, felly disgwyliwch bob math o syrpreisys a delweddau hyfryd wrth i Patrick Lynch (o Cbeebies) adrodd stori ryfeddol Jack sy'n gwerthu
ei fuwch am 5 o ffa hud a chanfod ei hun yn y wlad ledrithiol uwchlaw'r cymylau. Mae'n sioe i rai dros 3 oed (a'u cewri) ac mae rhywbeth i bawb ynddi - esgidiau enfawr, tai bach bach, cawodydd o arian ac aur a ffrwydrad ddeiliog anferth.
52
Canllaw oed: 3+ Sioe yn yr iaith Saesneg Gweithdy creadigol AM DDIM gyda’r artist Eleri Jones yn dilyn pob sioe
Hwyl gwyliau'r
PASG
yn Pontio
Dydd Mawrth 16 a Dydd Mercher 24 Ebrill 11.30am-2pm
£1
Disgo Trac Sain Dros wyliau'r Pasg byddwn yn cynnal ein Disgo Trac Sain FFILM + yn y Stiwdio ar Lefel 2 yn Pontio. Dewch i'w fwynhau cyn neu ar ôl ffilmiau. Mae croeso
i chi wisgo fel eich hoff gymeriad ffilm! Gweler ein rhaglen sinema fisol am fanylion ffilmiau a ddangosir ar y dyddiadau hyn.
Dydd Iau 18 Ebrill 10.30am, 12.30pm a 2.30pm
£5
Antur Bwni Basg Pontio! Ymunwch â ni am sesiwn awr o hyd yn llawn hwyl ac yn addas i'r teulu cyfan. Fe wnawn ddechrau drwy greu clustiau a chynffonnau bach del i'r bwnis ac yna fe awn i gyd ar antur drwy Pontio i fwydo'r cwningod bach llwglyd ’ma ac efallai ennill gwobr! 53
Gweithgaredd i deuluoedd yw hon ac ni all plant ddod eu hunain ond ni fydd angen i oedolyn dalu am docyn. Nifer cyfyngedig all ddod felly archebwch le rhag cael eich siomi.
Cerddoriaeth Dance
Nos Sadwrn 13 Ebrill 7.30pm
Gruffydd Wyn Theatr Bryn Terfel £20/£18 gostyngiadau Dewch i ymuno â’r llanc o Fôn, Gruffydd Wyn, am noson o gerddoriaeth glasurol hynod boblogaidd, a gyflwynir gyda steil lleisiol gwych! Mae Gruffydd yn ganwr yn y maes Clasurol, sydd wedi bod yn canu ers pan oedd yn blentyn ifanc ac mae wedi ymroi’n ddiflino i wireddu ei freuddwyd o ddod yn berfformiwr lleisiol o’r safon ryngwladol uchaf un.
Yn ddiweddar cafodd Gruffydd, sy’n dychwelyd i Pontio ar ôl perfformio mewn Cyngerdd Dathlu ym Medi 2018, lwyddiant fel un a gyrhaeddodd rownd derfynol y sioe dalentau nodedig ‘Britain’s Got Talent’, lle derbyniodd ‘Golden Buzzer’ Amanda Holden. Yn ystod y gyfres cafodd ganmoliaeth eang am ei lais nerthol a’i berfformiadau proffesiynol. Ymysg sylwadau’r beirniaid cafwyd ‘Epic, phenomenal 54
and outrageously good’ gyda Simon Cowell yn ei alw ‘The musical version of Rocky’. Dyma sioe na ddylid ei cholli’n sicr!
55
Nos Iau 25 Ebrill 7.30pm OPRA Cymru
FIDELIO
gan Ludwig van Beethoven Theatr Bryn Terfel £14/£12 dros 60 / £5 myfyrwyr a dan 18 Tocyn Teulu £30
Fersiwn newydd Gymraeg gan Mererid Hopwood Mae OPRA Cymru yn dathlu deng mlynedd ers eu cyngerdd agoriadol gyda fersiwn Gymraeg newydd o unig opera Beethoven, sef Fidelio.
Dyma stori ysbrydoledig am ddewrder dynes sy’n achub ei gŵr rhag iddo gael ei ddienyddio am resymau gwleidyddol. Mae cerddoriaeth Beethoven yn dyst i’w brif gredoau mewn rhyddid, ffyddlondeb a chariad, ac mae’n cynnwys y gwaith enwog hwnnw ‘Corws y Carcharorion.’
56
Caiff yr opera ei hadrodd drwy eiriau Mererid Hopwood, y ddynes gyntaf erioed i ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r cynhyrchiad hwn o Fidelio yn dilyn cynhyrchiad première arobryn Wythnos yng Nghymru Fydd gan Mererid Hopwood a Gareth Glyn.
Nos Fawrth 30 Ebrill 7.30pm
Bost-Uni Plues Stiwdio £5 Mae pawb yn dweud mai'r cyfnod mewn prifysgol yw tair blynedd orau eich bywyd! Felly beth sy'n digwydd nesaf?
cyflwyno gwaith a bywyd myfyrwyr yn gyffredinol a wynebu'r byd go iawn. Byd yn llawn disgwyliadau, swyddi 'iawn' a threth cyngor.
Yn seiliedig ar brofiadau gwirioneddol graddedigion, ymunwch â thri chlown wrth iddynt droi cefn ar amserlenni, dyddiadau
Mae Bost-Uni Plues yn ffrwydrad o egni, gonestrwydd, dawns, symudiad, techno a gwiriondeb noeth sy'n edrych 57
ar fywyd ar ôl graddio trwy'r da, y drwg a'r hyll. Oherwydd os dywedir wrthym fod tair blynedd orau ein bywyd tu ôl i ni, beth arall sydd ar ôl heblaw y post-uni blues? Canllaw Oed: 16+ Yn cynnwys cerddoriaeth uchel
Nos Fercher 15 Mai 8pm Off The Kerb Productions yn cyflwyno
SEANN WALSH ‘After This One, I’m Going Home’ Theatr Bryn Terfel £15 Enwebwyd Seann Walsh am Wobr Comedi Caeredin ac yn ôl ei gyfaddefiad ei hun ef yw'r “Lie-In King”, ac mae The Guardian o'r farn mai Walsh yw "unquestionably the best observational comic of his generation". Dychwelodd Seann Walsh yn ddiweddar o'i daith yn yr Unol Daleithiau, lle'r ymddangosodd ar y rhaglen deledu Conan, a bellach mae ar daith drwy wledydd Prydain. Mae'r creadur blêr, tanllyd a bywiog hwn, sydd eto'n hoff iawn o segura, yn cael ei gydnabod bellach yn un o'r comediwyr byw gorau i ddod o'r Deyrnas Unedig.
arweiniodd hynny at iddo gynhyrchu, ysgrifennu ac ymddangos yn ei gyfres gomedi ddi-eiriau ei hun ar y we, The Drunk. Hefyd ysgrifennodd a serennu yn ei ffilm fer ei hun ar gyfer Sky Arts ac yn awr mae'n cyd-serennu yng nghyfres gomedi newydd sbon Jack Dee, Bad Move (ITV one). Yn ddiweddar ymddangosodd am y tro cyntaf mewn ffilm hir fel nemesis y plant yn y ffilm i deuluoedd, 2:hrs. Mae Seann yn brysur ar ei ffordd i fod yn un o’r actorion comedi gorau ym Mhrydain. 14+
Daeth Seann i'r amlwg gyntaf fel actor yn rhaglen gomedi Comedy Central, Big Bad World, ac yn fuan wedyn cafodd y brif ran yn Monks (BBC One). Aeth ati i ddefnyddio ei ddoniau comedi corfforol yng nghomedi ddi-eiriau Sky, Three Kinds of Stupid, ac 58
Yma'n fuan...
SHAKESPEARE’S GLOBE yn ôl! Pericles, The Comedy of Errors a Twelfth Night Gwener 5 – Sul 7 Gorffennaf Bydd tocynnau ar werth 10am Gwener 14 Rhagfyr ynghyd â mwy o wybodaeth
“Gwych gweld Theatr Bryn Terfel yn cael ei thrawsnewid neithiwr i efelychu y Globe. Awyrgylch grêt ac actio rhagorol – noson fythgofiadwy. Gobeithio daw’r cwmni yn ôl yn fuan!” Aelod o’r gynulledifa ar ymweliad Shakespeare’s Globe yn 2018
Gwledd Syrcas 2019 Y Byd wrth ein Traed Prif sioe: CIRCUS ABYSSINIA yn cyflwyno Ethiopian Dreams Gwener 19 – Mawrth 23 Gorffennaf Tocynnau a mwy o wybodaeth am Wledd Syrcas 2019 ar gael yn fuan 59
“Cyfleoedd gwych i bobl Bangor.” “Anhygoel. Mi wnes i fwynhau’r orymdaith a’r demo sgiliau yn arbennig.” Ymateb cynulleidfa i Wledd Syrcas 2017
Gwybodaeth Gyffredinol Archebion Grŵp Rydym yn darparu ar gyfer grwpiau ac ysgolion, ac yn achlysurol, gallwn gynnig gostyngiadau sylweddol. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau am fwy o wybodaeth ar 01248 38 28 28. Mae’r holl archebion yn amodol ar ein telerau a’n hamodau safonol. Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan https://www.pontio.co.uk/ Online/term Tâl Postio Ni chodir ffi pan fyddwch yn prynu tocynnau, ond codir £1 o dâl postio os gofynnwch am docynnau trwy’r post. Ni allwch ofyn am docynnau trwy’r post yn hwyrach na 10 niwrnod cyn y digwyddiad, er mwyn sicrhau eu bod yn eich cyrraedd mewn da bryd. Wedi hynny, fe allwch gasglu’r holl docynnau sydd wedi’u prynu ymlaen llaw o’r swyddfa docynnau, neu eu hargraffu gartref.
Teuluoedd Lle nodir pris tocyn teulu, mae’r cynnig ar gael i grŵp o bedwar. Rhaid i o leiaf un aelod o’r grŵp fod o dan 18 oed. Gostyngiadau Lle bynnag y bo ‘gostyngiadau’ wedi’i nodi ar gyfer digwyddiadau Pontio, mae’r categorïau isod wedi’u cynnwys yn y diffiniad hwnnw: myfyrwyr a rhai dros 60. Mae plant a phobl ifanc yn cynnwys unrhyw un o dan 18 oed. Caiff plant dan 2 oed fynd i mewn am ddim. Cynllun Mynediad Hynt Mae celf a diwylliant i bawb. Ond os oes gennych nam neu ofynion mynediad penodol, yn aml gall mwynhau ymweliad â theatr neu ganolfan gelf fod yn fwy cymhleth na dim ond archebu tocynnau a dewis beth i’w wisgo.
60
Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celf ar draws Cymru i wneud pethau’n glir ac yn gyson. Mae Pontio yn rhan o’r cynllun Hynt am ein bod yn credu ei fod yn cynnig yr arfer gorau i’n cwsmeriaid o ran polisi tocynnau a mynediad teg. Cerdyn Aelodaeth yw Hynt Mae Hynt yn adnodd Mae gan rai â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad ac am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalydd yn Pontio a phob theatr a chanolfan gelf sy’n rhan o’r cynllun. Ewch i www.hynt.co.uk neu www.hynt.cymru am wybodaeth ac arweiniad am y cynllun.