Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Bangor
COPI AM DDIM
Rhaglen Artistig
Ionawr - Ebrill 2020 1
Croeso i Pontio Oriau Agor Dydd Llun i ddydd Sadwrn 8.30am-11pm Dydd Sul 12.00pm-8pm
Bar Ffynnon Lefel 0 Llun - Gwener * 4.30pm – 9pm (Prynhawn dydd Mercher o 1.30pm) Sadwrn 10.30am-9pm Sul 12pm-6pm (Mae Bar Ffynnon ar agor tan 11pm ar gyfer perfformiadau theatr nos)
Ewch i pontio.co.uk neu holwch y Swyddfa Docynnau am oriau agor y Pasg Tocynnau Ar-lein www.pontio.co.uk 01248 38 28 28 Ymholiadau: info@pontio.co.uk
*Yn ystod gwyliau ysgol bydd Bar Ffynnon ar agor 10.30am Llun-Sadwrn
Cegin Lefel 2 Llun - Sadwrn 8.30am archebion bwyd olaf 8pm Sul 12pm- archebion bwyd olaf 6pm
Llinellau ffôn 01248 38 28 28 Dydd Llun i ddydd Sadwrn 10am-8.30pm Sul 12pm-6pm
Cofrestrwch i gael y newyddion diweddaraf ar pontio.co.uk @TrydarPontio PontioBangor pontio_bangor PontioBangor
Os hoffech gopi o destun y rhaglen yma mewn print bras, neu fersiwn glywedol, cysylltwch ar 01248 38 28 28 Mae’r wybodaeth yn gywir adeg argraffu Rhif Elusen: 1141565
Clawr: Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, KIN Llun gan Jorge Lizalde a Hoffi
Cynllun Seddi Theatr Bryn Terfel
llwyfan
d— dd— e— f— ff— g— ng— h— l— ll— m— balconi lefel 1
*Mae Theatr Bryn Terfel yn ofod hyblyg, a gall cyfansoddiad y seddi newid yn dibynnu ar y perfformiad. 2 i’r wefan i gael y wybodaeth Ewch am y perfformiad dan sylw.
1a— 1b— balconi lefel 2 2a— 2b—
2ch—
c— ch—
1dd— 1d—
r— ph—
n— p—
2c—
1c— 1ch—
a— b—
PONTIO Cipolwg Ionawr – Ebrill 2020 Ionawr Gwener 10 Sadwrn 11 Gwener 17 Sadwrn 18 Llun 20 Iau 23 Iau 23 Sadwrn 25 Mercher 29 Iau 30 Chwefror Sadwrn 1 Mercher 5 Iau 6 Sadwrn 8 Llun 10 Mercher 12 Iau 13 Gwener 14 Gwener 14 Gwener 14 Sadwrn 15 Mercher 19 Iau 20 Sadwrn 22 Sul 23 Mercher 26 Iau 27 Gwener 28 Sadwrn 29 Mawrth Iau 5 Gwener 6 Gwener 6 Iau 12 Sadwrn 14 Mawrth 17 Gwener 20
Amser 7.30pm 8pm 8pm 1.30pm – 12am 12pm 7.30pm 8pm 11.30am & 2.30pm 7.30pm 7.30pm
Cerddorfa WNO: Taith i Fienna GISDA Giggles Gig Comedi Elusennol Cabaret Pontio: The Trials of Cato Gŵyl Neithiwr Hedfan am Hanner Dydd - Gweithdy Awyrol Behold, America: A History of ‘America First’ Clwb Comedi Teulu Pontio Family: The Sorcerer’s Apprentice BEDS: Of Mice and Men - Cynhyrchiad Myfyrwyr BEDS: Of Mice and Men - Cynhyrchiad Myfyrwyr
Tud 8 9 10 11 12 13 14 15 16 16
Gala Blwyddyn Newydd Tsieineaidd gyda Sefydliad Confucius BLAS: Dod â Siwan yn Fyw Gandini Juggling: Sigma Cystadleuaeth UniBrass 2020 Hedfan am Hanner Dydd - Gweithdy Awyrol The Other Room Theatre: The Violence Series The Other Room Theatre: The Violence Series The Other Room Theatre: The Violence Series The Other Room Theatre: The Violence Series Gŵyl Gerdd Bangor 2020 Gŵyl Gerdd Bangor 2020 The Fureys Clwb Comedi Teulu Pontio Family: What a Wonderful World Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor P’nawn Ffilm, Cacen a Chân: Meet Me In St Louis (U) Gweithdy Theatr Gerdd (SODA) Cabaret Pontio: Breabach Cabarela Dewi Sant
17 20 21 22 12 23 23 23 23 24 24 27 28 29 31 32 33 34 35 36 36 38 39 41 42 44
1.45pm 11.30am & 2.30pm 12pm 7.30pm 7.30pm 3.30pm 7.30pm
Cwmni Frân Wen: Llyfr Glas Nebo Cwmni Frân Wen: Llyfr Glas Nebo Jen Brister: Under Privilege Clwb Comedi Mid Wales Opera: The Marriage of Figaro National Dance Company Wales: KIN Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC: Campweithiau Llinynnol – Tchaikovsky a Mozart Theatr Iolo: Chwarae Theatr Iolo: Chwarae Hedfan am Hanner Dydd - Gweithdy Awyrol Connie Orff Georgia Ruth Lost in the Rhythm Theatr Genedlaethol Cymru: Tylwyth
Gwener 20 Sadwrn 21 Llun 23 Gwener 27 Sadwrn 28 Sul 29 Mawrth 31 Ebrill Mercher 1 Iau 2 Gwener 3 Gwener 3 Sul 5 Sul 5 Iau 9 Mercher 15 Mawrth 21 Mercher 22 Iau 23 Gwener 24 Sadwrn 25 Llun 27 Mawrth 28
7.30pm 6pm 7.30pm 8pm 4pm 7.30pm 10.30am, 12.30pm & 2.30pm 11.30am-2pm 7.30pm 7.30pm 8pm 8pm 7.30pm 12pm 7.30pm
Theatr Genedlaethol Cymru: Tylwyth Hyrwyddo merched nodedig ym maes iechyd ac arloesi Pumed Symffoni Sibelius Kiri Pritchard-McLean: Empathy Pains Take 2 the Stage: The Greatest Show Cerddorfa Symffoni a Chorws Prifysgol Bangor Teulu Pontio Family: Antur Bwni Basg Pontio Teulu Pontio Family / Ffilm+: Disgo Trac Sain Theatr Clwyd: Milky Peaks Theatr Clwyd: Milky Peaks Clwb Comedi Cabaret Pontio: Meinir Gwilym & Gwenan Gibbard Criw Brwd: Pryd Mae’r Haf? Hedfan am Hanner Dydd - Gweithdy Awyrol Electroacwstig Cymru
49 50 51 52 53 54 55 55 56 56 57 59 60 12 61
1pm 1pm - 3pm 7.30pm 10.30am 12pm 7pm 7pm 2.30pm 7pm 7.30pm 8pm 11.30am / 1.30pm / 3.30pm 6pm 2pm 10.30am / 12.30pm / 4.30pm 8pm 7.30pm 1pm & 7.30pm 1pm & 7.30pm 8pm 8pm 7.30pm 7.30pm 7.30pm
www.pontio.co.uk 01248 38 28 28
Cofrestrwch ar gyfer y newyddion diweddaraf www.pontio.co.uk
45 45 12 46 47 48 49
@TrydarPontio
PontioBangor
Pontio_Bangor
PontioBangor
1
f
Connie Orf
rchwell
Sarah Chu
Tylwyth
Trials of Cato
2
Dwi wrth fy modd i fod yma yn Pontio ac i gyflwyno’r rhaglen gyflawn gyntaf ers fy mhenodi. Gobeithio y byddwch yn cytuno ei bod yn rhaglen amrywiol, llawn hwyl a bwrlwm. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i’r holl dîm yn Pontio ac yn enwedig i’r tîm marchnata am y cyflwyniad yma. Yn ogystal â rhai hen ffrindiau yn ymweld â ni yn Pontio, mae rhai wynebau newydd yn teithio atom am y tro cyntaf, fel Connie Orff a Cabarela gyda’u hegni heintus. Bydd cwmni The Other Room, o Gaerdydd, yn teithio yma gyda’u harlwy o dri darn o ysgrifennu newydd, sydd wedi derbyn cryn ganmoliaeth yn barod!
Mae’n bleser gennym groesawu’r awdures, Sarah Churchwell, fydd yn rhan o’n partneriaeth newydd gyda Gŵyl y Gelli Gandryll, yn ogystal â’r hynod gyffrous Tylwyth gan Dafydd James, a gyflwynir gan Theatr Genedlaethol Cymru. Dwi’n ffyddiog fod hwn yn arlwy amrywiol gyda rhywbeth at ddant pawb! Hyn oll, sinema ddyddiol a llawer mwy i ddod dros y tymor o’n blaenau!
Osian Gwynn Cyfarwyddwr Celfyddydau Pontio
3
Cegin advert
Ar lefel 2!
Ar agor yn ddyddiol BAGELS • PITSA WAFFLAU • CACENNAU PRYDAU ARBENNIG Am fwy o wybodaeth ewch i’r tudalennau bwyd a diod pontio.co.uk Oriau agor Dydd Llun - Dydd Sadwrn 8.30am - archebion bwyd olaf 8pm Dydd Sul 12pm - archebion bwyd olaf 6pm
4
7. 50 LL esday esday idays* £SINEMA 13. 50 lidays* £
TICK
Rwan ar lefel 2!
CINE TICK
BARGEN FWYD
ailsPob Dydd Mercher ac yn ystod gwyliau ysgol*
tails
*Ac eithrio rhai perfformiadau gweler gwefan am fanylion
Pitsa Pitsaplentyn plentyn + diod diodmeddal feddal + popcorn popcorn
Call or v 7.50 pizza ild’s : k o o B o T 01248 3 oft drink + popcorn hild’s 13.50 pizza soft drink + popcorn £
TOCYN SINEMA
£
TOCYN SINEMA
Pitsa+10” + diod* Pitsa diod*
(*naill gwydriadoowin wintŷ, tŷ,potel potel (*naill ai gwydraid oogwrw ddiodmeddal) feddal) gwrw neu ddiod
Gallwch arbed dros 40% gyda’r fargen plant a dros 20% gyda’r fargen oedolyn! bu: Ffoniwch neu ewch i’n swyddfa e h c r a I docynnau ar 01248 382828 Archebwch: 5 pontio.co.uk
01248 38 28 28
Dangosiadau byw i ddod o’r Royal Opera House yn Sinema Pontio…
ROH Live: The Cellist / Dances at a Gathering (bale) Mawrth 25 Chwefror ROH Live: The Sleeping Beauty (bale) Iau 16 Ionawr
ROH Live: La Bohème (opera) Mercher 29 Ionawr
ROH Live: Fidelio (opera) Mawrth 17 Mawrth
Gweler ein rhaglen sinema fisol am fanylion dangosiadau byw National Theatre Live ac eraill nad ydynt wedi eu cyhoeddi eto a rhestr sinema lawn, neu cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 6 01248 38 28 28
ROH Live: Cavalleria Rusticana / Pagliacci (opera) Mawrth 21 Ebrill
ROH Live: Swan Lake (bale) Mercher 1 Ebrill
Archebwch ar pontio.co.uk 01248 38 28 28
7 DIWRNOD YR WYTHNOS AGORED I BAWB
1 Sgrin 3D 70 dangosiad y mis 15 ffilm newydd y mis 1 llwyfan ar gyfer goreuon byd opera a theatr fyw Mae rhaglen Sinema Pontio ar gael ar-lein a thrwy gyhoeddiad misol a ddosberthir yn lleol ac yn y ganolfan. I dderbyn bwletinau e-bost wythnosol, crëwch gyfrif ar-lein yn www.pontio.co.uk gan roi tic wrth ymyl ‘Sinema’ yn y categori diddordebau. Dilynwch y newyddion ffilm diweddaraf ar Trydar @sinemapontio
7 DIWRNOD YR WYTHNOS - AGORED 7 DAYS A WEEK I BAWB Hydref • October, - ALL WELCOME 2019 7 DIWRNOD YR WYTHNOS - AGORED 7 DAYS A WEEK I BAWB Hydref • October, - ALL WELCOME 2019
SINEMA SINCI EM NAEMA CINEM A PONTIO BA NGOR PONTIO BA NGOR
Ad Astra, Farma geddon, Joker, Abert Ad Astra, Farma oir, ROH: Don Pasquale, Judy geddo Fleab n, Joker, ag, Billy Connolly, Abertoir, ROH: Don a llawerPasqu andJudy The Irishman much more! Fleabag, Billy Conn mwy! ale, olly, @sinemapontio The Irishman a llawer mwy! and much more!
@sinemapontio
Archebwch ar pontio.co.uk 01248 38 28 28 7
Gwener 10 Ionawr 7.30pm Theatr Bryn Terfel Cerddorfa WNO
Taith i Fienna £17 / £16 dros 60 / £5 myfyrwyr a dan 18 Gyda Prosecco: £19.50 / £18.50 dros 60 / £7.50 myfyrwyr Yn y Flwyddyn Newydd, bydd Cerddorfa WNO yn mynd ar Daith i Fienna i ddathlu peth o gerddoriaeth orau Ewrop. Mewn rhaglen a fydd yn eich cludo ar draws y cyfandir, bydd Cerddorfa WNO, dan gyfarwyddyd y Blaenwr a’r Meistr Cyngerdd, David Adams, yn ymweld â phob cornel o Ewrop gyda gwaith gan Offenbach, Mozart, Brahms, Dvořák ac,
8
wrth gwrs, Strauss. Mae’r Gerddorfa yn falch iawn o gael cwmni’r soprano, Mary Elizabeth Williams, sydd yn y blynyddoedd diwethaf wedi dod yn un o ffefrynnau cynulleidfaoedd WNO, wedi iddi gael clod enfawr am ei rhannau yn Un ballo in maschera, La forza del destino a Die Fledermaus. Pa ffordd well i ddechrau 2020?
Sadwrn 11 Ionawr 8pm Theatr Bryn Terfel
GISDA Giggles £17.50 £13 gostyngiadau Noson o chwerthin i godi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer grŵp LGBT+ GISDA Caernarfon. Mae’r ferch leol Kiri Pritchard-McLean (Have I Got News For You, 8 Out of Ten Cats), wedi casglu lein-yp o rai o gomedïwyr gorau LGBT+ gan gynnwys Joe Lycett (Live at the Apollo, Never Mind the Buzzcocks, 8 Out of 10 Cats, QI) Stephen Bailey
(Celebs on the Farm, Live at the Apollo) Rosie Jones (The Last Leg, Live at the Apollo, Hypothetical) a Bethany Black (Doctor Who, Cucumber, Banana and Tofu). Croeso i bawb (a fel ‘na ddylia’i fod). Iaith gref. Canllaw oed 14+ Gall enwau newid.
9
Gwener 17 Ionawr 8pm Theatr Bryn Terfel Pontio Cabaret yn cyflwyno
The Trials of Cato gyda Tant yn agor BARGEN GYNNAR (tan 3 Ionawr 2020): £12 / £11 gostyngiadau £14 £13 gostyngiadau Yn wreiddiol o Ogledd Cymru a Swydd Efrog, mae dyrchafiad y triawd arobryn The Trials of Cato wedi bod yn destun trafod mawr ar sîn werin y DU. Wedi cael eu galw’n “The Sex Pistols of folk,” (J Davis) maent yn talu teyrnged amlwg i’r traddodiadol tra’n troi hen
10
“One of the most impressive debut folk albums of the year ” Songlines
esgyrn yn rhywbeth cyffrous a modern, gyda tiwns egnïol a straeon cofiadwy, cyfuniad sydd wedi gweld y tri, mewn tair blynedd, yn mynd o fysgio allan o gefn fan Transit i ennill gwobr BBC Folk Award.
Sadwrn 18 Ionawr 1.30pm – 12am Theatr Bryn Terfel + Bar Ffynnon
Gŵyl Neithiwr £15 ymlaen llaw £18 ar y diwrnod DAFYDD HEDD / DIENW / PASTA HULL / KIM HON / LOS BLANCOS / MELLT / ADWAITH / PYS MELYN / PAPUR WAL / 3 HWR DOETH DJs - Sam De Gal, DJ Pydew, DJ Dilys, DJ Tindall Celf - Llinos Owen
Gŵyl Neithiwr yn cyflwyno y gorau sydd gan y sîn gerddoriaeth Gymraeg i’w gynnig. O guriadau hip hop y 3 Hŵr Doeth i synau hudolus Pys Melyn ac egni amrwd y band ifanc DIENW.
Wedi profi llwyddiant gyda’i nosweithiau Social Hours yn Leeds, mae Sam de Gal yn dychwelyd i Fangor i ymuno â DJ Pydew, DJ Dilys a DJ Tindall. Bydd yr artist Llinos Owen yn cyflwyno arddangosfa gelf. Gig Sefyll. Oedran 16+ yn unig Gweler y wefan am ddiweddariadau
11
Llun 20 Ionawr Llun 10 Chwefror Llun 23 Mawrth Llun 27 Ebrill 12pm Stiwdio
“Spending time upside down, weightless, and flying through space hands down makes the Lunch on the Fly workshop the most exciting and invigorating way you can spend your lunch hour in North Wales!” Yr Athro Emily Cross, Ysgol Seicoleg, Prifysgol Bangor
Vertical Dance Kate Lawrence a Pontio
Hedfan am Hanner Dydd £6 £20 am y 4 sesiwn Sesiwn hwyliog a chyfle i roi tro ar ddawnsio awyrol. Dechreuwn gydag ychydig o gynhesu hawdd, yna fe fyddwch yn ceisio sefyll a neidio oddi ar lawr fertigol gan ddefnyddio harnais o gwmpas eich canol.
12
Byddwch yn cael eich tywys drwy symudiadau syml, ac yna fe gewch chi hedfan!
Gwisgwch ddillad cyfforddus sy’n dynn o gwmpas eich canol a thop eich coesau.
Rhowch dro ar 1 sesiwn neu talwch am 4 am bris gostyngedig!
Canllaw oed 16+ Dim ond lle i 12 sydd ar gael. Does dim angen profiad
Iau 23 Ionawr 7.30pm Theatr Bryn Terfel Gŵyl y Gelli Gandryll a Pontio yn cyflwyno
Behold, America: A History of ‘America First’ Noson yng nghwmni Sarah Churchwell £12 £10 myfyrwyr a dan 18 Ymunwch â ni i gael golwg a’r hanes ‘America First’, hoff slogan Donald Trump a’i gefnogwyr. Er fod y farn boblogaidd yn priodoli’r ymadrodd i Charles Lindbergh ac ‘America First Committee’ ymynysol 19401941, mewn gwirionedd mae gan yr ymadrodd hanes llawer hirach a thywyllach. Mae’n stori o gynhwynoliaeth a’r Ku Klux Klan, diffyndollaeth, ‘Americaniaeth 100%’ ac ymynysoliaeth, ac o ffasgiaeth gynhenid y mae America yn parhau i gymryd arni ‘na all ddigwydd yma’. Digwyddiad yn y Saesneg Canllaw oed 14+
Am Sarah Churchwell Mae Sarah Churchwell yn Athro mewn Llenyddiaeth Americanaidd ac yn Gadeirydd Dealltwriaeth Cyhoeddus o’r Dyniaethau yn Ysgol Astudiaethau Pellach Prifysgol Llundain. Hi yw awdur Careless People: Murder, Mayhem and The Invention of The Great Gatsby, The Many Lives of Marilyn Monroe, ac yn fwy diweddar, Behold, America: A History of America First and the American Dream. Mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer y New York Review of Books, Guardian, New Statesman, Financial Times, Times
Literary Supplement a’r New York Times Book Review, ymysg sawl cyfrol arall ac yn cynnig sylwadau cyson ar y celfyddydau, diwylliant, a gwleidyddiaeth ar gyfer teledu a radio yn y DU, gan ymddangos ar Question Time, Newsnight a The Review Show. Mae hi wedi bod ar banel beirniadu sawl gwobr lenyddol, gan gynnwys y Man Booker Prize yn 2014 a’r Baillie Gifford Prize for nonfiction yn 2017, ac roedd yn gyd-enillydd yr Eccles British Library Writer’s Award yn 2015.
13
14
Sadwrn 25 Ionawr 11.30am a 2.30pm Stiwdio Soap Soup Theatre + Open Attic Company
The Sorcerer’s Apprentice £6.50 £22 Tocyn Teulu a Ffrindiau (4 person, o leiaf un dan 18) Peidiwch ag anghofio’r gair hud ... Beth pe baech chi’n darganfod y gyfrinach mai dewin mewn gwirionedd ydi’ch cymydog piwis ac mai hud yn unig sy’n rhoi pŵer i’w dŷ? A beth pe bai cytuno i fwydo eu cath tra maent i ffwrdd yn troi’n antur sy’n bygwth mynd allan o bob rheolaeth ... Fyddech chi’n gwybod sut i ymdopi â sugnwr llwch sydd â meddwl ei hun? A sut ydych chi’n argyhoeddi’r platiau a’r sosbenni i aros yn y cwpwrdd?!
Wedi’u cyfareddu gan un o gerddi’r bardd Almaenig, Goethe, mae dau o deuluoedd theatrig amlycaf Bryste, Soap Soup Theatre (The Snow Baby, The Pixies ’Scarf) ac Open Attic Company (Much Ado About Puffin, Mistletoes and Whiney), yn ymuno am y tro cyntaf i greu’r sioe arbennig iawn hon. Yn The Sorcerer’s Apprentice gwelir eu doniau gwych mewn pypedwaith celfydd, cymeriadau digri dros ben a set ysblennydd. Mae’n bosib iawn mai hon yw eu sioe fwyaf hudolus hyd yma. Ymunwch â ni i fwynhau stori wefreiddiol am geisio rhoi help
llaw, rhedeg cyn y gellwch chi gerdded, brathu mwy nag y gellwch ei gnoi a sut y gall yr argraff sydd gennych o bobol gyfarwydd i chi eich twyllo ar brydiau! Addas i oed 3+ Sioe yn y Saesneg
Gweithdy Creadigol Gweithdy creadigol AM DDIM gyda Luned Rhys Parri yn dilyn pob perfformiad Bocs bwyd a pitsa plant ar gael yn Cegin
15
Cynhyrchiad myfyrwyr
Mercher 29 Ionawr Iau 30 Ionawr 7.30pm Theatr Bryn Terfel BEDS (Cymdeithas Ddrama Prifysgol Bangor) yn cyflwyno
Of Mice and Men £8 £6 gostyngiadau £25 Tocyn Teulu (i 4 person) Cymdeithas Ddrama Saesneg Prifysgol Bangor yn cyflwyno nofel enwog Steinbeck ar y llwyfan. Mae Of Mice and Men yn stori am ddau unigolyn, George Milton alluog a Lennie Small, sy’n gryf ond fel plentyn. Mae’r ddau yn cael gwaith ar
16
fferm yng Nghaliffornia, ond mae cariad Lennie tuag at anifeiliaid diniwed yn rhoi eu cyfeillgarwch mewn peryg. Canllaw oed 12+
Sadwrn 1 Chwefror 1pm Theatr Bryn Terfel
Gala Blwyddyn Newydd Tsieineaidd gyda Sefydliad Confucius AM DDIM ond angen tocyn Ymunwch â Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor i ddathlu Blwyddyn Newydd Tsieineaidd 2020, Blwyddyn y Llygoden Fawr, gyda gwledd glyweledol ysblennydd o gerddoriaeth a dawns draddodiadol Tsieineaidd. Ceir caleidosgop o berfformiadau rhyfeddol gan grŵp ifanc o
artistiaid o Brifysgol Southbank Llundain, yn cynnwys crefft ymladd, blas o opera Tsieineaidd, a cherddoriaeth ar Erhu a Ffliwt a fydd yn cludo’r cynulleidfaoedd i galon Tsieina! Croeso i’n gala Tsieineaidd fywiog a disglair ar gyfer pob oedran!
Gorymdaith y Ddraig 12-12.30pm Bydd Gorymdaith y Ddraig drwy Fangor, o’r Gadeirlan draw i Pontio heibio’r cloc cyn y Cyngerdd Gala.
17
BLAS yw rhaglen ieuenctid Pontio sy’n rhoi’r cyfle i blant a phobl ifanc gael blas o’r celfyddydau Rydym yn cynnal gweithdai drama wythnosol yn Stiwdio Pontio. Bob dydd Llun Blwyddyn 3 a 4 – 5-6pm Blwyddyn 5 a 6 – 6.15-7.15pm Bob dydd Mercher Blwyddyn 7, 8 a 9 – 6.30-7.30pm Blwyddyn 10-13 – 7.45-8.45pm
Mae BLAS hefyd yn gweithio gydag ysgolion a’r gymuned. I archebu lle yn y gweithdai wythnosol, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01248 382828, neu cysylltwch â Mared Elliw Huws, m.huws@bangor.ac.uk, am ragor o wybodaeth.
Dyma flas ar waith diweddaraf BLAS Sioe BLAS Bach Dymuniad / Wish Fe unodd dosbarthiadau blwyddyn 3 a 4 gyda blwyddyn 5 a 6 er mwyn creu sioe a’i pherfformio ar lwyfan Theatr Bryn Terfel. Fe aeth y gynulleidfa ar daith hudolus gyda chriw BLAS Bach.
18
Mae het yn beth gwych, gall eich cadw’n gynnes, neu newid y ffordd yr ydych yn edrych, ond beth os allai wneud mwy na hynny? Beth os allai ddod â’ch breuddwyd yn wir? Newyddion da? Ynteu hunllef.
Lleisiau’r Stryd Street Voices Yn dilyn llwyddiant ein projectau ‘Lleisiau / Voices’ yn 2017 ac ‘Ein Lleisiau / Our Voices’ yn 2018, eleni rydym yn rhoi llais i bobl sy’n ddigartref. Dyma benllanw project pontio’r cenedlaethau wedi’i arwain gan BLAS gyda defnyddwyr Hostel y Santes
Fair yma Mangor, a Tai Gogledd Cymru, a myfyrwyr Drama ac Iechyd a Gofal Ysgol Friars. Rhoddwyd cyflwyniad i ddeg o fyfyrwyr am waith Rheolwr Hostel y Santes Fair, Hayley Owen, cyn iddynt ddod i adnabod unigolion o gymuned
Gorymdaith Gwledd Syrcas Bu BLAS yn gweithio gydag Ysgol Glancegin, Ysgol Hirael, Ysgol Y Faenol, Ysgol Glanadda a’r artist Nerys Jones i greu gwisgoedd ar gyfer Gorymdaith Gwledd Syrcas 2019 ar hyd Stryd Fawr Bangor. Ysbrydolwyd y gwaith celf gan liwiau Affricanaidd a phatrymau Cymreig, a dangoswyd y gwaith ar furiau Pontio dros yr haf. Hefyd, bu’r plant yn dysgu am Affrica gan aelodau Cymdeithas Gogledd Cymru ac Affrica, a
sut i ddawnsio Samba gyda’r ddawnswraig Angharad Harrop er mwyn sicrhau bod yr orymdaith yn un hynod egnïol! Yn ogystal â’r ysgolion yma, roedd Band Jazz Tryfan yn arwain yr orymdaith, Cwmni Syrcas Abyssinia yn perfformio a Codi’r To yn dod â’r egni i gynffon yr orymdaith.
yr hostel dros gyfnod o bum wythnos. Recordiwyd y sgyrsiau a gafwyd yno a’u datblygu’n ddrama air am air gan y myfyrwyr dan gyfarwyddyd Branwen Davies, dramodydd ac ymarferwr theatr. Darllenwyd y ddrama i leisiau mewn dangosiad arbennig.
Project Celf Pontio’r Cenedlaethau Cydweithiodd BLAS gyda Caffi Hafan, Bangor, Age Cymru Gwynedd a Môn ac Ysgol Tryfan, dros gyfnod o ddeg wythnos. Bu myfyrwyr celf Ysgol Tryfan yn mynd draw i Gaffi Hafan ym Mangor i gynnal gweithdai celf gyda phobl wedi ymddeol fel modd o frwydro unigedd. Bu’r myfyrwyr yn cydweithio gyda’r to hŷn i hel syniadau a chyfnewid sgiliau celf, gyda’r artistiaid Eleri Jones a Nerys Jones yn eu cefnogi.
19
Mercher 5 Chwefror 1pm-3pm Sinema Pontio Project BLAS Pontio yn cyflwyno
Dod â Siwan yn Fyw £3.50 Yn dilyn llwyddiant ein sesiynau blaenorol yn trafod testunau Cymraeg, byddwn yn dychwelyd eleni gyda phanel o arbeingwyr i drafod y ddrama Siwan gan Saunders Lewis. BYDD Y PANEL YN CYNNWYS Dr Llio Mai Hughes Maureen Rhys John Ogwen CADEIRYDD Dr Manon Wyn Williams
20
Mae’r digwyddiad wedi’i anelu’n arbennig at rai sy’n astudio’r ddrama fel rhan o faes llafur CBAC, ond mae’n agored i bawb. Cofiwch am gynllun Ewch i Weld gan Gyngor Celfyddydau Cymru y gall ysgolion ei ddefnyddio i ariannu teithiau i weld digwyddiadau o ansawdd uchel, ewch i www.arts.wales am fanylion
Yn dilyn y sgwrs, bydd cyfle i wylio dangosiad arbennig o’r fersiwn ffilm o ddrama rymus Saunders Lewis gyda Iola Gregory yn y brif ran.
Iau 6 Chwefror 7.30pm (gyda sgwrs ar ôl sioe) Theatr Bryn Terfel Gandini Juggling
Sigma
Gandini yn Juggling ! d ly e w h c dy
£15 £13 gostyngiadau Mae Sigma yn gynhyrchiad ysblennydd a thrawiadol o wahanol ffurfiau celf gan Gandini Juggling, gyda’r dawnsiwr a choreograffydd Bharatanatyam disglair Seeta Patel. Yn y cynhyrchiad gwelir rhythmau, patrymau a lliwiau afieithus, gan ddathlu’r cyswllt sydd rhwng meysydd jyglo, cerddoriaeth a dawns glasurol Indiaidd. Perfformir Sigma gan gast athrylithgar, sy’n cynnwys Seeta Patel ac Indu Panday - arbenigwyr mewn Bharatanatyam, a Kati YläHokkala a Kim Huynh - jyglwyr arloesol o Gandini Juggling. Cynlluniwyd y goleuo gan y cynllunydd enwog Guy
Hoare sy’n fframio’r gofod yn bensaernïol, gan ychwanegu at y patrymau cymhleth a gynhyrchir gan beli ac aelodau cyrff. Mae tafluniadau amlgyfrwng gan Zsolt Balogh yn cyfnerthu’r gweithredu ar y llwyfan, gyda’r tafluniad yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno geometreg haniaethol a gweithredu fel gwrthbwynt gweledol i lif a rhythm y jyglo. Mae cyfansoddiad aml-haenog gan Andy Cowton, a gwisgoedd a gynlluniwyd gan Lydia Cawson, yn ychwanegu dyfnder a gwead i’r darn gan blethu’r cyfan yn llwyddiannus fel ei fod yn ymosodiad ar y synhwyrau. Canllaw oed: 8+
Project Celf Rhyfeddwch ar y gweithiau celf sydd i’w gweld yng ngofodau cyhoeddus Pontio, a grewyd mewn ymateb i gynhyrchiad unigryw Sigma gan fyfyrwyr Cwrs Sylfaen Celf a Dylunio Coleg Menai.
21
Sadwrn 8 Chwefror o 10.30am Theatr Bryn Terfel a Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor
Cystadleuaeth UniBrass 2020 Tocynnau o £10* Mae UniBrass, unig bencampwriaeth y byd i fandiau pres prifysgolion, yn dychwelyd i Brifysgol Bangor ar 8 Chwefror 2020. Bydd bandiau pres o bob rhan o wledydd Prydain yn tyrru i Fangor i gystadlu yn adrannau’r Tlws a’r Darian, yn negfed Pencampwriaeth Flynyddol Bandiau Pres Prifysgolion Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.
22
Yn ogystal â’r gystadleuaeth a gynhelir yn Theatr Bryn Terfel a Neuadd Prichard-Jones, ceir perfformiadau trwy gydol y dydd gan fandiau a grwpiau lleol. Gyda cherddoriaeth wych ac awyrgylch gynnes, dyma un o uchafbwyntiau cyffrous byd y bandiau pres!
*am ragor o wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau, prisiau tocynnau a’r amserlen ewch i: www.unibrass.co.uk/unibrass/ unibrass-2020
12 – 14 Chwefror Stiwdio The Other Room Theatre yn cyflwyno
The Violence Series £12 £10 gostyngiadau Gwelwch ddau berfformiad am £20 / £16 gostyngiadau Mercher 12 Chwefror, 7pm American Nightmare Iau 13 Chwefror, 7pm The Story + Hela (Double Bill) Gwener 14 Chwefror, 2.30pm The Story + Hela (Double Bill) Gwener 14 Chwefror, 7pm American Nightmare
Triawd o ddramâu dystopaidd yw THE VIOLENCE SERIES American Nightmare gan Matthew Bulgo, The Story gan Tess BerryHart a Hela gan Mari Izzard. Maent wedi’u lleoli mewn byd sy’n gyfarwydd i ni, ond sydd ar dân. Cafodd y dramâu hyn eu comisiynu a’u cynhyrchu gan The Other Room ar gyfer eu tymor hydref 2019,
ac mae pob un ohonynt yn ymdrin â’r themâu sy’n ein rhannu ac yn gofyn cwestiynau dyrys am ochr dywyllach dynoliaeth. Pryd mae gweithred yn mynd yn dreisgar? A ddylem ni ymladd tân â thân mewn gwirionedd? A pha mor bell fyddech chi’n mynd i’w osgoi? Canllaw oed: 16+
23
Cerddoriaeth
Dydd Gwener a Dydd Sadwrn 14 - 15 Chwefror
Gŵyl Gerdd Bangor 2020
20
YN DATHLU
MLYNEDD
Thema: IECHYD A LLES
Pa well ffordd i ddathlu pen-blwydd Gŵyl Gerdd Bangor yn ugain oed na chynnwys cyngherddau sy’n cyflwyno ei phrif egwyddorion, sef y newydd, arloesedd a’r arbrofol a’u gweu’n naturiol o amgylch y thema amserol Iechyd a Lles? O ganlyniad, gwahoddir yr ensemblau arloesol UPROAR ac Electroacwstig CYMRU, y pianydd talentog ifanc Siwan Rhys, cyn cloi gyda chynhyrchiad arbrofol Exploration in Sound mewn perfformiadau cyffrous a gafaelgar o fewn adeilad mawreddog Pontio. Dethlir cerddoriaeth newydd ymhellach gyda chomisiynau gan Juan Pablo Barrios a Tom Sissons, darnau newydd gan Jordan
24
Hirst, Ashley John Long, Niamh O’Donnell, David Roche, Joss Smith a Jerry Zhuo fel rhan o’r project CoDI SAIN, cerddoriaeth wedi ei chyfansoddi’n arbennig ar gyfer yr organ stryd Astrid, ynghyd â llawer o ddarnau newydd gan fyfyrwyr cyfansoddi Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor. Mae cerddoriaeth ar gael i bawb yn y gymdeithas a phleser yw medru cydweithio gyda sefydliadau o’r un anian i ddarparu Camau Cerdd i’r aelodau ieuengaf, sesiynau Yoga ar gyfer pob oedran a chyfle i glywed perfformiadau Canfod y Gân.
Cerddoriaeth
CYNGHERDDAU Am fwy o wybodaeth ewch i www.gwylgerddbangor.org.uk (£) = cyngerdd/digwyddiad am dâl 14/02/2020 19.30-21.00, Bocs Gwyn, Pontio (£) CoDI SAIN (mewn cydweithrediad â Thŷ Cerdd a’r Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau, PB) UPROAR a Michael Rafferty gydag Electroacwstig CYMRU ac Andrew Lewis Cyflwynir cyngerdd penllanw Project CoDI SAIN gan Tŷ Cerdd, lle bu UPROAR ac Electroacwstig CYMRU yn cydweithio i greu cyfansoddiadau gan Jordan Hirst, Ashley John Long, Niamh O’Donnell, David Roche, Joss Smith a Jerry Zhuo. Ceir sgwrs a derbyniad cyn y cyngerdd am 18.00
19.30-21.30, Theatr BT, Pontio (£) Dychwelyd Exploration in Sound Bydd y cyfansoddwyr a’r perfformwyr Katherine Betteridge (feiolin), Sioned Eleri Roberts (clarinetau) a Duncan Chapman (celf sonig) yn archwilio ein perthynas gyda natur gan ein tywys i fytholeg Geltaidd am y môr a chreu cynhyrchiad cyffrous i gynnwys cerddoriaeth, synau electronig, coreograffi, actorion, goleuo a delweddau. Bydd sgwrs a derbyniad cyn y cyngerdd am 18.00
Ceir nifer o gyngherddau a digwyddiadau eraill drwy gydol y dydd, gweler yr amserlen ar y dudalen nesaf am yr amserlen gyfan. Ymwelwch â’n gwefan am ragor o fanylion am bob digwyddiad:
15/02/2020
www.gwylgerddbangor.org.uk
13.00-14.00, Stiwdio, Pontio (£) Unigrwydd Siwan Rhys (piano)
Swyddfa Docynnau: 01248 38 28 28
Gan gymryd Transit gan y cyfansoddwr o’r Iseldiroedd Michel van der Aa fel man cychwyn, bydd y cyngerdd hwn yn archwilio unigrwydd fel ysbrydoliaeth artistig, gyda chomisiynau gŵyl gan Juan Pablo Barrios a Tom Sissons (fel rhan o Wobr Gyfansoddi William Mathias) yn atgyfnerthu’r thema ymhellach. Yn ogystal, ceir cyfansoddiad diweddar hiraethus atgofus gan Joanna Bailie. Ceir sgwrs cyn y cyngerdd am 12.00
25
CIPOLWG… Am fwy o wybodaeth ewch i
www.gwylgerddbangor.org.uk (£) = cyngerdd/digwyddiad am dâl 14/02/2020 18.00 19.30 15/02/2020 10.00, 11.00 a 12.00 10.30-12.00
12.00 12.00 13.00 14.15, 14.45 a 15.15 14.15 15.00 16.00 18.00 19.30 26
10.00 – 12.00 Deborah Keyser (Tŷ Cerdd) a PL2, Pontio: Sgwrs cyn y cyngerdd a Derbyniad chyfansoddwyr CoDI SAIN Bocs Gwyn, Pontio (£): CoDI SAIN Uproar ac Electroacwstig CYMRU
Lefel 0, Pontio (£): Camau Cerdd PL2, Pontio: Tŷ Cerdd – CoDI RHYNGWEITHIO PL2, Pontio: Sgwrs cyn y cyngerdd Stryd Fawr (Cloc), Bangor: Astrid yr organ stryd Stiwdio, Pontio (£): Unigrwydd Bocs Gwyn, Pontio (£): Yoga Lefel 2, Pontio: Canfod y Gân Lefel 2, Pontio: Deialog Lefel 2, Pontio: Astrid yr organ stryd PL2, Pontio: Miwsig a’r Meddwl a Derbyniad Theatr Bryn Terfel, Pontio (£): Dychwelyd
Marie-Claire Howorth a CGWM – rhaid archebu lle Y Cyfansoddwr Gwydn: methiant, adborth a gwroldeb dan arweiniad Richard Whitelaw (hyfforddwr a chwnselydd) Guto Pryderi Puw gyda Pablo Barrios a Tim Sissons David Roche a Francis Stapleton gyda Gŵyl VoG Siwan Rhys Leisa Mererid – rhaid archebu lle CGWM Ensemble Cerdd Newydd Bangor David Roche a Francis Stapleton gyda Gŵyl VoG Astudiaethau Achos gan fyfyrwyr ôl-radd i ddilyn gyda thrafodaeth dan arweiniad Dr Gwawr Ifan Exploration in Sound
Mercher 19 Chwefror 7.30pm Theatr Bryn Terfel
The Fureys £20 Mae’r band Gwyddelig The Fureys, sy’n adnabyddus am eu caneuon enwog ‘I will love you’, ‘When you were sweet 16’, ‘The Green fields of France’, ‘The old man’, ‘Red rose café’, ‘From Clare to here’, ‘Her father didn’t like me anyway’, ‘Leaving Nancy’, ‘Steal away’ yn dychwelyd i Pontio, Nos Fercher 19 Chwefror 2020! Mae The Fureys wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd ledled y byd am 42 mlynedd, ac wedi perfformio o flaen cyn Brif Weinidog Awstralia,
John Howard, cyn Arlywydd Iwerddon, Mary McAleese a’r diweddar Bab, John Paul, a daeth Yr Arlywydd Michael D Higgins i’w cyngerdd diwethaf yn y National Concert Hall. Gadawodd y brawd hynaf, Eddie Furey gartref yn 1966 a thrafeiliodd i’r Alban yn ystod cyfnod yr adfywiad gwerin ble bu iddo gyfarfod y cantorion gwerin Billy Connolly, Gerry Rafferty ac Alex Campbell. Yn 1969, gyda’i frawd Finbar, roeddent yn westeion arbennig i’r Clancy Brothers
a Tommy Makem, ar daith drwy’r Unol Daliaethau a Chanada. Yn 1971 symuddod i Ewrop i deithio am saith mlynedd. Mae Dave Stewart o’r Eurythmics, yn rhoi’r clod i Eddie am ddysgu iddo ei gordiau cyntaf ar y guitar pan fu iddynt gyfarfod yn Lloegr pan oedd Dave yn ei arddegau.
27
28
Sadwrn 22 Chwefror 11.30am / 1.30pm / 3.30pm Stiwdio Lyngo Theatre yn cyflwyno
What a Wonderful World £6.50 £22 Tocyn Teulu a Ffrindiau (4 person, o leiaf un dan 18) O’n canolfan ym Môr y Tawelwch ar y lleuad rydym yn cael golwg wych o’r ddaear ac mae’n amser i ni wneud un newydd yn union fel rydym yn ei wneud bob nos. Beth wnawn ni ei roi ym myd yfory? Wel, peli eira a fflamingos wrth gwrs! Felly ffwrdd â ni i gyd ar drên cwsg wrth iddo fynd â ni ar daith ryfeddol ein breuddwydion.
Rydym yn dechrau drwy roi’r sêr yn yr awyr a symud drwy hanes, gan ddarganfod tân o’r newydd unwaith eto ac o’r diwedd cyrraedd coeden fawr y byd lle rydym yn dathlu’r ddaear newydd rydym wedi’i gwneud gyda’n gilydd. Mae hon yn siwrnai ryfeddol drwy’r bydysawd lle gellwch gael eich dwylo ar elfennau crai y cread! Addas i oed 2-5
Gweithdy creadigol Gweithdy creadigol AM DDIM gydag Aaron Palmer – aelod o’n tîm Blaen Tŷ – yn dilyn pob sioe Bocs bwyd a pitsa plant ar gael yn Cegin
29
ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Mae mwy o fyfyrwyr yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor nag yn unrhyw un o’r prifysgolion eraill yng Nghymru. Cewch ysgoloriaeth cymhelliant gwerth £1,500* am astudio credydau trwy’r Gymraeg ym Mangor.
30 *£500 y flwyddyn am dair blynedd. Ysgoloriaethau ar gael gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
www.bangor.ac.uk/ysgoloriaethau
Sul 23 Chwefror 6pm Theatr Bryn Terfel
Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor £15 £12 dros 60 £5 myfyrwyr a dan 18 Chris Collins arweinydd Leonard Bernstein Dawnsiau Symffonig o West Side Story Amy Beach Gaelic Symphony Mae cerddorfa symffoni nodedig Gogledd-orllewin Cymru yn cyflwyno dau gampwaith Americanaidd. Dyfeisiodd Leonard Bernstein ei Ddawnsiau Symffonig bedair blynedd ar ôl perfformiad cyntaf West Side Story ar Broadway ym 1957. Mae’r gwaith yn cyfleu drama, lliw a bywiogrwydd rhythmig un
o’r sioeau cerdd mwyaf a ysgrifennwyd erioed, gyda’i themâu o gariad, trais a cholled yn cael eu dwyn ynghyd mewn cyfres symffonig o ddwyster rhyfeddol. Ysgrifennodd y cyfansoddwr Amy Beach, a anwyd yn New Hampshire, ei Gaelic Symphony ym 1894. Gan efelychu enghraifft gyfoes Dvořák, New World Symphony, mae’n addasu themâu sy’n tarddu o draddodiadau Celtaidd hynafol llawer o drigolion gogledd-ddwyrain yr Unol Daleithiau. Mae’n
bersain, yn feiddgar ac yn gyffrous ac, wedi blynyddoedd lawer yn y cysgodion, mae’n derbyn cydnabyddiaeth ddyledus o’r diwedd fel symffoni Americanaidd fwyaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn y cyngerdd hefyd ceir perfformiad concerto gan enillydd cystadleuaeth flynyddol Prifysgol Bangor i unawdydd.
31
Mercher 26 Chwefror 2pm Sinema Pontio a Bar Ffynnon
P’nawn Ffilm, Cacen a Chân Meet Me In St Louis (U) £4.50 Ymunwch â ni yn Sinema Pontio ar gyfer un o brynhawniau poblogaidd P’nawn Ffilm, Cacen a Chân. Bydd y prynhawn yn dechrau gyda dangosiad o un o’r ffilmiau Technicolor gorau a wnaethpwyd erioed, Meet
Me in St Louis, y comedi gerddorol llawn rhamant sy’n canolbwyntio ar bedair chwaer ar drothwy Ffair y Byd St Louis ym 1904. Yna ceir adloniant byw yn yr egwyl am 3pm gan dîm o Opera Cenedlaethol Cymru.
Mwynhewch baned a chacen cyn dychwelyd i’r sinema i fwynhau hanner olaf y ffilm. Digwyddiad Dewch i Ganu Opera Cenedlaethol Cymru Wedi ei anelu at 60+ ond croeso i bawb!
Mercher 26 Chwefror 7pm Lefel 0, Pontio
Cwis Dydd Gŵyl Dewi i ddysgwyr Cymraeg gyda Daniela Schlick AM DDIM Cwis Dydd Gŵyl Dewi i ddysgwyr gan Dysgu Cymraeg Cymru i gyd-fynd â dathliadau Dydd Gŵyl Dewi drwy ddinas 32 Bangor!
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: cwisdysgwyr@gmail.com
Gweithdy gan fyfyrwyr
Iau 27 Chwefror 10.30am - 12pm (5-7 oed) 12.30pm - 2pm (8-11 oed) 4.30pm - 6pm (11-15 oed) Stiwdio
Gweithdy Theatr Gerdd (SODA) £2.50 Ydych chi erioed wedi bod eisiau rhoi cynnig ar gymryd rhan mewn theatr gerdd? Wel, nawr fe ellwch chi! Mae SODA, Cymdeithas Theatr Gerdd Prifysgol Bangor, yn cynnal gweithdy fel y gellwch roi cynnig arni eich hun. Bydd eu cyfarwyddwr cerdd yn dysgu caneuon i chi a’u coreograffydd yn dysgu coreograffi i chi. Mae hwn yn gyfle unigryw na ddylid ei golli!
P’un a ydych yn brofiadol mewn theatr gerdd, erioed wedi rhoi cynnig arni o’r blaen, neu hyd yn oed yn chwilfrydig yn unig, mae’n werth dod draw i weld beth ellwch chi ei wneud.
33
Gwener 28 Chwefror 8pm Theatr Bryn Terfel Pontio Cabaret yn cyflwyno
Breabach Yn agor: Elidyr Glyn
“As polished as it was passionate, matching fiery intensity with exquisite finesse, this was a magnificent set.” The Scotsman
BARGEN GYNNAR (tan 14 Chwefror) £12 / £11 gostyngiadau £14 £13 gostyngiadau Mae 2020 yn flwyddyn nodedig yn hanes y grŵp gwerin hynod boblogaidd o’r Alban, Breabach, gan eu bod yn dathlu pymtheg mlynedd ers eu ffurfio. Trwy gydol y cyfnod hwnnw mae Breabach bob amser wedi ceisio cydnabod a pharchu gwreiddiau’r gerddoriaeth y maent yn ei chwarae a gwreiddiau’r band, ond gan gofleidio’r dyfodol
34
gyda syniadau newydd ac egni hefyd. Y nodweddion allweddol hyn, ynghyd â gwaith caled a doniau, sydd wedi eu gweld yn datblygu i fod yn un o grwpiau gwerin mwyaf cyffrous a llwyddiannus yr Alban. Eisoes maent wedi rhyddhau 6 albwm, wedi ennill llu o wobrau ac wedi bod ar deithiau prysur i bedwar ban byd. Ac mae’n ymddangos na fydd dim yn eu
rhwystro rhag parhau i feithrin eu llwyddiannau. Yn Breabach ceir doniau Megan Henderson (Ffidil, Llais), James Lindsay (Bas Dwbl, Llais), Calum MacCrimmon (Bacbibau, Chwiban, Bouzouki, Llais), James Duncan Mackenzie (Bacbibau, Ffliwt, Chwiban) ac Ewan Robertson (Gitâr, Llais, Cajon).
Sadwrn 29 Chwefror 7.30pm Theatr Bryn Terfel
Cabarela Dewi Sant £12 Noson o gân a chomedi heb ffiltyr! Wedi’i lywio gan y tair chwaer o Aberystwyth a’u harmoniau hudolus, Sorela.
Dychan cyfredol ac unigryw y digrifwr cerddorol Hywel Pitts.
Os nag ydych chi wedi bod i Cabarela o’r blaen yna, ble chi ‘di bod?!
Parodïau di-flewyn ar dafod o ganeuon y byd sioeau cerdd.
Os ydych chi... welwn ni chi na! Canllaw oed: 16+
35
Iau 5 Mawrth, 1pm* a 7.30pm Gwener 6 Mawrth, 1pm a 7.30pm Theatr Bryn Terfel
Cwmni’r Frân Wen
Llyfr Glas Nebo £12 £10 gostyngiadau Ffenomenon ôlapocalyptaidd Manon Steffan Ros yn cael ei thrawsnewid i’r llwyfan Wrth i’r llwch lonyddu ar ôl apocalyps niwclear, mae Rowenna a’i phlant, Siôn a Dwynwen, yn wynebu byd lle mae bywyd yn diflannu’n gyflym. Cofnodir eu stori mewn llyfr bach glas wrth i’r teulu geisio goroesi digwyddiad a gafodd effaith ddychrynllyd ar drigolion pentref Nebo a thu hwnt.
Mae’r gyfrol wedi creu argraff syfrdanol ers ei chyhoeddi yn 2018. Ychydig dros wythnos ar ôl iddi ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd 2018, roedd ail argraffiad yn cael ei baratoi, ac aeth ymlaen i gipio gwobr driphlyg yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2019. *GYDAG UWCHDEITLAU SAESNEG
Mae Frân Wen a Galeri yn hynod o falch i ddod â nofel ddirdynnol Manon Steffan Ros i’r llwyfan.
Mae’r perfformiad yma o Llyfr Glas Nebo yn cynnwys cyfieithiad ar y pryd i’r rheini sydd ddim yn siarad Cymraeg. Bydd yr uwchdeitlau yn ymddangos ar ochr chwith y llwyfan (wrth i chi wynebu’r llwyfan).
36
12+
Wal Wen Bydd ffilm gydweithredol, sy’n ymateb i themâu ac emosiwn y ddrama, yn cael ei thaflunio ar y Wal Wen cyn ac ar ôl y perfformiad. Cynhyrchwyd gan fyfyrwyr MA Ffilm Prifysgol Bangor.
Sgwrs ar ôl sioe Bydd sgwrs ar ôl sioe yn dilyn y perfformiad 7.30pm ar Nos Iau 5 Mawrth
37
Gwener 6 Mawrth 8pm Stiwdio
Idil S
ukan
Jen Brister: Under Privilege £12.50 £10 gostyngiadau Mae ganddi bopeth: gwraig, plant, cartref a swydd y mae’n ei charu (weithiau!) felly, be sydd ganddi i gwyno amdano? Ymunwch â Jen wrth iddi drafod
38
y testun dadleuol ‘braint’. Pwy sy’n freintiedig? A phwy sydd ddim? A pham bod pobl yn gwadu eu bod yn freintiedig? Canllaw oed: 16+
“Blisteringly funny” List
“‘Brister uses anger to quite stunning comedic effect” Skinny
39
Ymunwch â’n tîm o wirfoddolwyr! Oes gennych chi ...? -D diddordeb mewn theatr, cerddoriaeth fyw a ffilmiau
- Awydd i ddysgu, datblygu a defnyddio sgiliau newydd
-F rwdfrydedd i roi gwasanaeth arbennig o dda i gwsmeriaid
- Ddymuniad i gyfarfod â phobl newydd ac adeiladu eich hyder
Credwn y dylai’r Celfyddydau fod yn gynhwysol ac felly rydym yn annog gwirfoddolwyr o bob cefndir i ymuno â ni yr unig ofynion yw eich bod dros 16 oed, yn frwdfrydig, yn gyfeillgar ac yn ddibynadwy.
Diddordeb? gwirfoddolwyr@pontio.co.uk 01248 382666
40
Sadwrn 14 Mawrth 7.30pm Theatr Bryn Terfel Opera Canolbarth Cymru
The Marriage of Figaro £21 £18 dros 60 £10 myfyrwyr a dan 18 Cyflwynir ymdriniaeth ffres o orchestwaith oesol Mozart gan Opera Canolbarth Cymru ar gyfer taith Gwanwyn 2020. Gyda chyfieithiad Saesneg Amanda Holden sy’n llawn ‘digrifwch diymatal’ a threfniant cerddorfaol ein
Cyfarwyddwr Cerdd ein hunain o sgôr aruchel Mozart, bydd ein cynhyrchiad newydd sbon yn cael ei deilwra yng Nghymru, gyda thalent ifanc o Academi Llais Ryngwladol Cymru yn ymuno â pherfformwyr rhyngwladol ar y llwyfan.
Ymunwch â Figaro a Susanna ar feri-go-rownd eu priodas, wrth i weision dwyllo eu meistri, y merched dwyllo’u dynion ac wrth i gariad drechu er gwaethaf pob disgwyl.
41
Mawrth 17 Mawrth, 7.30pm (gyda sgwrs ar ôl sioe) Theatr Bryn Terfel Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
KIN £14
£12 gostyngiadau Dawns sy’n ein huno ni Mae’n uno pobl, teuluoedd, ffrindiau, clybiau, timau, llwythau a chymunedau. CDCCymru’n perfformio barddoniaeth, chwaraeon a gwleidyddiaeth ar draws tri darn dawns pwerus. Mae Rygbi: Yma / Here yn codi calon: llawn gobaith, gogoniant a chyfeillgarwch. Mae’n dathlu’r balchder a’r angerdd mae’r chwaraewyr a’r cefnogwyr rygbi yn ei brofi gyda’i gilydd.
42
Cynnwrf egnïol yw Lunatic. Mae’n uno cerddoriaeth a steil y 30au gyda diwydiant pop y 90au. Mae Time and Time and Time yn gain. Dawnswyr yn datgelu cerdd sy’n tywynnu, ynghylch y berthynas rhwng hanes amser a barddoniaeth tynged. Canllaw oed 12+
Darganfod Dawns Mercher 18 Mawrth, 1pm Theatr Bryn Terfel £8 Mae Darganfod Dawns yn hamddenol a llawn hwyl. Rhowch gynnig ar ddawnsio, yna gwyliwch y dawnswyr proffesiynol wrth eu gwaith cyn gwylio Rygbi.
Gwylio Dawns Theatr Bryn Terfel, 12.45pm Arsylwch, brasluniwch neu tynnwch luniau o’r dawnswyr yn cynhesu. Am ddim ond bydd angen tocyn
Cerflun o amser ac ystum Arddangosfa gan Freya Moran, a frasluniodd ddawnswyr CCDC yn ymarfer tra’n fyfyriwr, brasluniau a ddylanwadodd yn fawr ar ei phroject terfynol yn Coleg Menai
Wal Wen (yn ystod yr egwyl) Gwaith comisiwn newydd gan Gweni Llwyd a ysbrydolwyd gan rai o themâu Rygbi
43
Gwener 20 Mawrth 7.30pm Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Campweithiau Llinynnol Tchaikovsky a Mozart £15 £13.50 dros 60 £5 myfyrwyr a dan 26 £15 / £20 Tocyn Teulu Prokofiev Sonata ar gyfer Ffidil Unawd Mozart Sinfonia Concertante yn Eb Fwyaf ar gyfer Ffidil a Fiola Tchaikovsky Serenâd ar gyfer Llinynnau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC Cyfarwyddwr a Ffidil Unawd Lesley Hatfield Fiola Rebecca Jones
44
Lesley Hatfield, blaenwr Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, sy’n cyfarwyddo’r rhaglen hon o weithiau hyfryd sy’n cynnwys un o goncertos enwocaf Mozart a champwaith Tchaikovsky i gerddorfa linynnol. Mae Mozart, a oedd ei hun yn chwaraewr medrus ar y ffidil a’r fiola, yn caniatáu i’w gyfuniad anarferol o unawdwyr ddisgleirio, ond gan roi mwy i’w ddweud i’r gerddorfa hefyd, gan arwain
at ddeialog gyfoethog. Gall astudiaeth Prokofiev ar gyfer unawdwyr ffidil blaengar gael ei chwarae naill ai gan linynnau unawd neu unsain, ac yma gwelir y cyfansoddwr ar ei fwyaf swynol. Yng ngwrogaeth Tchaikovsky i Mozart a’r ddeunawfed ganrif mae’n edrych ar yr hyn y gall adran linynnau ei wneud mewn gwirionedd, a hynny mewn pedwar symudiad cyferbyniol iawn o gyfoeth melodig.
Gwener 20 Mawrth, 1.45pm Sadwrn 21 Mawrth, 11.30am a 2.30pm Stiwdio Theatr Iolo a Pontio yn cyflwyno
Chwarae
teulu family
£6.50 £22 Tocyn Teulu a Ffrindiau (4 person, o leiaf un dan 18) Gan Elgan Rhys Ysgrifennwr / Perfformiwr Elgan Rhys Cerddor a Chydweithredwr Robin Edwards Sioe theatr newydd sbon i deuluoedd
“Pob dydd, dw i’n chwarae efo Mam. Yn sydyn, mae’r gêm yn newid…” Un bore rhwng deffro a dechrau’r dydd mae bachgen bach yn mynd â ni ar siwrne i edrych ar fydoedd chwarae, boed hynny yn ei ddychymyg, ar-lein neu yn y byd ‘go iawn’ er mwyn darganfod ffordd newydd o chwarae ...
Sioe weledol llawn cerddoriaeth fyw a symudiadau syfrdanol sydd wedi cael ei datblygu’n gydweithredol gyda theuluoedd yng ngogledd Cymru. Ar gyfer oed 4+ www.theatriolo.com
Gweithdy creadigol Gweithdy creadigol AM DDIM yn dilyn pob perfformiad Bocs bwyd a pitsa plant ar gael yn Cegin
45
Gwener 27 Mawrth 7.30pm Theatr Bryn Terfel
Connie Orff £12 £10 myfyrwyr a dan 18 Daw Connie Orff i Pontio gyda llond ei phwrs o gomedi a chaneuon am noson wych o gabaret dwyieithog… Gyda straeon am ei siwrne fewn i Drag, holl realiti bywyd fel Dad Dragtastig, a chyfle i ofyn UNRHYW gwestiwn licet ti, mae hon am fod yn noson go arbennig! Os wyt ti’n siarad Cymraeg neu beidio, ti’n siŵr o fwynhau straeon a hiwmor ffraeth Connie! Addas i bawb 16+ Digwyddiad hamddenol, arddull cabaret
46
Sadwrn 28 Mawrth 7.30pm Stiwdio
Georgia Ruth Rhodri Brooks yn cefnogi
“One of the British folk discoveries of the year” The Guardian
£12 £10 gostyngiadau Yn ei thrydydd albwm, mae Georgia Ruth yn mynd i’r afael â’i gwreiddiau. Yn dilyn genedigaeth ei phlentyn cyntaf, symudodd y cerddor a’i theulu yn ôl i’r dre lle’i magwyd hi - Aberystwyth. Recordiwyd ‘Mai’ yn Neuadd Joseph Parry, dros gyfnod o wythnos yng ngwanwyn 2019.
Dyma gasgliad o ganeuon a ysgrifennwyd o grombil tŷ, tra bod plentyn bach yn cysgu. Caneuon am y profiad o fod yn fam newydd, a’r ymgais i drio canfod defodau fyddai’n cyfleu’r newid byd. Am y teimlad o golli dy hunan, a chanfod dy hunan o’r newydd. Am erddi sy’n tyfu dan ddrysau cefn ynghanol y nos, a’r dyddiau sy’n llifo nôl drwy’r ffenest. Wrth wraidd y cyfan mae geiriau bythol Eifion Wyn “Gwn ei ddyfod, fis y mêl”.
Myfyrdod ydi Mai ar geisio darganfod gobaith yn y tymhorau, mewn byd lle mae sicrwydd gwanwyn yn teimlo’n fwyfwy bregus. Peidiwch â cholli perfformiad arbennig gan un o leisiau mwyaf unigryw Cymru. Canllaw oed 12+ Gig hamddenol, arddull cabaret
47
Sul 29 Mawrth 3.30pm Theatr Bryn Terfel AspireMedia Productions
Lost in the Rhythm £28 £27 gostyngiadau Cyfarch a Chwrdd + Perfformiad: £58 / £57 gostyngiadau Mae seren Strictly Come Dancing, y Gymraes Amy Dowden a’i phartner, Ben Jones, sy’n bencampwr Prydain, yn dod â sioe newydd gyffrous i’r llwyfan. Gyda chymorth eu cyfaill Colin Jackson, a gyrhaeddodd rownd derfynol Strictly,
48
a chast o ddawnswyr, daw Amy a Ben â stori serch bwerus yn fyw drwy gyfrwng arddulliau Lladin a Ballroom. Gyda chantorion byw a thrac sain fydd yn siŵr o gael y gynulleidfa i symud – mae’n amser i ymgolli’n llwyr yn y rhythm!
Cyfarch a Chwrdd Cyfle arbennig i 45 o bobl gyfarch a chwrdd y cast, archebwch yn gynnar i osgoi siom
Mawrth 31 Mawrth Mercher 1 Ebrill 7.30pm Theatr Bryn Terfel Theatr Genedlaethol Cymru + Theatr y Sherman
Tylwyth
Mawrth 31 Mawrth 6.30pm Bar Ffynnon
£16 £14 dros 60 a myfyrwyr
Ap Sibrwd
£10 dan 18 Gan Daf James Mae Aneurin wedi bod yn dianc rhag ei orffennol, ond – mewn tro annisgwyl, diolch i Grindr – mae e wedi syrthio mewn cariad. Pan mae Dan ac yntau’n penderfynu mabwysiadu, mae’r ddau ohonynt ar ben eu digon. Ond wrth addasu i fywyd fel tad, a throi cefn ar orffennol gwyllt, mae ofnau duaf Aneurin yn dychwelyd.
Sgwrs cyn sioe i ddysgwyr
Ddeng mlynedd ers y ddrama glodwiw ac arloesol Llwyth, mae Aneurin, Rhys, Gareth a Dada yn ôl mewn drama newydd, dyner a direidus gan Daf James. Gan daflu golwg grafog ar gariad, teulu a chyfeillgarwch, mae Tylwyth yn cynnig sylwebaeth feiddgar a phryfoclyd ar y Gymru gyfoes. Canllaw oed: 16+ Yn cynnwys iaith gref, golygfeydd o natur rywiol a themâu aeddfed
Bydd Sibrwd, yr ap mynediad iaith, ar gael ym mhob perfformiad. Manylion: theatr.cymru Os hoffech ddefnyddio Sibrwd, gadewch i’r Swyddfa Docynnau wybod ymlaen llaw drwy ffonio 01248 382828
49
Iau 2 Ebrill 6pm Stiwdio
Hyrwyddo merched nodedig ym maes iechyd ac arloesi
Jon Pountney
AM DDIM, croesewir cyfraniadau i WEN ac elusennau merched / NHS lleol ym Mangor Ymunwch â Rhwydwaith Cydraddoldeb Merched (WEN) Cymru am noson i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Merched trwy gyfarfod â merched nodedig sy’n arloeswyr ym meysydd iechyd a thechnoleg.
Bydd Dr Elin Haf Davies, sy’n anturiaethwraig ac awdur a Phrif Swyddog Gweithredol Aparito, yn siarad am sefydlu Aparito cwmni iechyd digidol. Mae Elin hefyd wedi cyflawni’r orchest o rwyfo ar draws Môr Iwerydd a bydd yn sôn am y cryfderau sydd eu hangen i gyflawni’r her honno.
Bydd sesiwn banel yn dilyn, gyda merched sydd wedi arloesi ym maes iechyd a thechnoleg. Fe’i cadeirir gan Dr Olwen Williams OBE, Llywydd y British Association for Sexual Health and HIV. Cynhelir y digwyddiad yn Saesneg.
Arddangosfa ‘wasgaredig’ am anabledd dysgu, cyfeillgarwch a chariad Dewch o hyd i’n podiau sain ym Mhontio a lleoliadau eraill ledled Bangor 01/03/2020 – 30/04/2020 Lawrlwythwch ein ap symudol er mwyn dysgu mwy: Neu chwiliwch am ‘Our Social Networks’ yn siop apiau eich dyfais symudol neu ar Google Play
Gwener 3 Ebrill 7.30pm Theatr Bryn Terfel
Mark McNulty
Royal Liverpool Philharmonic Orchestra
Pumed Symffoni Sibelius £20 £16.50 dros 60 £10 myfyrwyr a dan 18 Beethoven Agorawd, Egmont Chopin Concerto Rhif 2 i’r Piano Caroline Shaw Entr’acte ar gyfer llinynnau Sibelius Symffoni Rhif 5 Joshua Weilerstein arweinydd Pavel Kolesnikov piano Un noson, yng nghoedwigoedd y Ffindir, gwelodd Sibelius haid o un ar bymtheg o elyrch. ‘O Dduw, am brydferthwch!’ ebychodd - a thrawsnewidiodd y rhyfeddod
naturiol hwnnw i’r alaw sy’n coroni ei Bumed Symffoni, alaw mor dda fel eich bod yn teimlo eich bod yn gyfarwydd â hi ar hyd eich oes. Mae’r cyngerdd heno yn uno arwriaeth Beethoven, barddoniaeth Chopin (a chwaraeir gan y seren o Rwsia, Pavel Kolesnikov) a’r Entr’acte hudolus a hyfryd o waith Caroline Shaw, enillydd Gwobr Pulitzer. Hwn fydd y tro cyntaf i’r gerddorfa berfformio’r darn hwn.
Yn ystod eu hymweliad, bydd Pontio yn cydweithio gyda RLPO i gynnal gweithgareddau ymgysylltu yn Ysgolion Maesincla a Glancegin.
51
Gwener 3 Ebrill 8pm Stiwdio Kiri Pritchard-McLean
Empathy Pains
Kayla Wren
£14 Ydi’n wir, mae’r ddigrifwraig Kiri Pritchard-McLean (Have I Got News For You, Live at the Apollo, 8 out of 10 Cats) yn ei hôl gyda’i phedwaredd sioe. Yn y gorffennol, aeth i’r afael â sawl pwnc megis hiliaeth a rhywiaeth. Felly, pa bwnc difrifol i bob golwg mae hi wedi’i ddewis i wneud i ni chwerthin eleni tybed?
52
Chernobyl? Y ffaith bod creme eggs yn mynd yn llai o hyd? Nage’n wir, empathi. Creda Kiri ein bod ni’n byw mewn cyfnod lle mae empathi’n cael ei ystyried yn wendid, ond pam hynny? Onid dyna sydd ei angen yn yr amseroedd cythryblus hyn? Felly, i ffwrdd
â hi i chwilio am grŵp o bobl y mae’n cael cryn drafferth i ddangos unrhyw empathi tuag atynt... sy’n golygu ei bod wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn siarad â phaedoffilyddion ar y rhyngrwyd. Felly, dewch i’w gweld yn gwneud yr amhosibl yn ddoniol. Canllaw oed: 16+
Sul 5 Ebrill 4pm Theatr Bryn Terfel Take 2 the Stage yn cyflwyno
The Greatest Show £14 £7.50 dan 18 Mae myfyrwyr ysgol ddrama enwog Ava Williams ym Mangor a Llangefni wedi bod yn gweithio’n galed drwy’r flwyddyn i lwyfannu eu perfformiad diwedd blwyddyn ysblennydd, eu trydedd sioe yn Pontio!
Ymunwch â hwy yn Theatr Bryn Terfel wrth iddynt berfformio The Greatest Show, sy’n rhoi’r holl sylw i blant lleol yn serennu ar y llwyfan. Peidiwch â cholli’r cyfle i’w gweld yn disgleirio.
53
Sul 5 Ebrill 7.30pm Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor Cerddorfa a Chorws Symffoni Prifysgol Bangor
Mozart: Requiem £15 £12 dros 60 £5 myfyrwyr a dan 18 Chris Collins arweinydd Mozart Requiem Mozart Symffoni Rhif 40 yn G leiaf, K.550 Mae Cerddorfa Symffoni a Chorws y Brifysgol yn cyflwyno rhaglen o weithiau Mozart yn unig, gan gynnwys dau waith hwyr adnabyddus sydd â llawer yn gyffredin rhyngddynt. Nodweddir y
54
ddau ohonynt gan dlysni melodaidd dwys ac ychydig iawn o gyfansoddwyr ers hynny a lwyddodd i gyrraedd y tir aruchel hwn. Mae’r ddau waith yn edrych ar liwiau tywyllach y palet cerddorfaol, gyda defnydd arbennig o effeithiol o cellos, basau dwbl, clarinetau a thrombonau (yn y Requiem). Ymhellach, nodwedd arall a berthyn i’r ddau waith yw na chlywodd
Mozart erioed mohonynt; y Requiem, yn wir, oedd ei waith olaf un, ac yn anorffenedig pan fu farw ar 5 Rhagfyr 1791. Wedi’u paru gyda’i gilydd fel hyn, mae’r Requiem a’r Symffoni yn G Leiaf yn brofiad cerddorol hynod deimladwy.
PASG
yn Pontio
Iau 9 Ebrill 10.30am, 12.30pm & 2.30pm PL2, Lefel 2 Pontio
Antur Bwni Basg Pontio Ymunwch â ni am sesiwn awr o hyd yn llawn hwyl ac yn addas i’r teulu cyfan. Fe wnawn ddechrau drwy greu clustiau a chynffonnau bach del i’r bwnis ac yna fe awn i gyd ar antur drwy Pontio i fwydo’r cwningod bach llwglyd ‘ma ac efallai ennill gwobr!
Mercher 15 Ebrill 11.30am – 2pm Stiwdio
£5
Gweithgaredd i deuluoedd yw hwn ac ni all plant ddod eu hunain, ond ni fydd angen i oedolyn dalu am docyn. Nifer cyfyngedig all ddod, felly archebwch le rhag cael eich siomi.
£1
Disgo Trac Sain Dros wyliau’r Pasg byddwn yn cynnal ein Disgo Trac Sain FFILM + yn y Stiwdio ar lefel 2 yn Pontio. Dewch i fwynhau’r weithgaredd hwyliog yma dros wyliau’r Pasg cyn neu ar ôl
ffilm. Mae croeso i chi wisgo fel eich hoff gymeriad ffilm! Gweler ein rhaglen sinema fisol am fanylion ffilmiau a ddangosir ar y dyddiadau hyn.
55
Mawrth 21 Ebrill Mercher 22 Ebrill 7.30pm Theatr Bryn Terfel Theatr Clwyd, Áine Flanagan Productions a Seiriol Davies
Milky Peaks £14 £12 gostyngiadau Ysgrifennwyd a chyfansoddwyd gan Seiriol Davies
Comedi gerddorol wych, ffraeth.
Cyfarwyddwyd gan Alex Swift
Mae Milky Peaks, yn Eryri, yn cael ei henwebu fel “Tref Orau Prydain”, sy’n hyfryd. Ond, mae agenda asgell dde dywyll a dichellgar i’r Wobr.
Dyfeisiwyd gan Seiriol Davies, Matthew Blake, Dylan Townley
56
Fedr tri o eneidiau coll a brenhines drag flêr achub calon y gymuned yma? 14+
57
Pryd Clwb Comedi
Byrgyr a Chwrw* Ar gael i bob digwyddiad Clwb Comedi
£10
*Neu wydriad 175ml o win tŷ neu ddiod ysgafn Byrgyr llysieuol ar gael Bwyd a Diod Food & Drink
burger.indd 4
14/03/2019 16:03:29
Archebwch eich diodydd ymlaen llaw yn y bar i’w mwynhau yn ystod yr egwyl 58
Gwener 24 Ebrill 8pm Theatr Bryn Terfel Cabaret Pontio yn cyflwyno
Meinir Gwilym a Gwenan Gibbard Gyda gwesteion arbennig Onestyle MDV £14 £13 gostyngiadau BARGEN GYNNAR (tan 10 Ebrill) £12 / £11 gostyngiadau Plethiad cain o’r gwerin a’r modern, gyda’r gyfansoddwraig/gantores Meinir Gwilym, a’r delynores Gwenan Gibbard.
Gyda dehongliadau newydd o ganeuon adnabyddus, a pherfformiadau pwerus, bydd y noson hon yn siŵr o synnu a diddanu.
59
Sadwrn 25 Ebrill 7.30pm Stiwdio
Pryd Mae’r Haf? £12 £10 gostyngiadau (Christmas is Miles Away) gan Chloë Moss Trosiad gan Gwawr Loader Cynhyrchiad Criw Brwd a Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â The Other Room a Theatr Soar. “Bydd e’n gwd. Ti a fi. New start.” Mae Luke a Christie yn ffrindiau gorau sy’n joio gwersylla, yfed cans a siarad am Julie Bridges.
60
Ond gyda’u dyddiau ysgol yn dod i ben a haf hir o’u blaenau, a fydd Luke, Christie a Julie yn dewis llwybrau gwahanol? A yw tyfu’n hŷn yn golygu tyfu ar wahân? Mewn trosiad newydd i’r Gymraeg wedi’i osod yng nghymoedd y de ym 1989, dyma ddrama dyner am gyfeillgarwch, gobeithion ac ofnau pobl ifanc ym mhob oes. Canllaw oed: 14+ Yn cynwys iaith gref a themâu aeddfed
Ap Sibrwd Bydd Sibrwd, yr ap mynediad iaith, ar gael ym mhob perfformiad. Manylion: theatr.cymru Os hoffech ddefnyddio Sibrwd, gadewch i’r Swyddfa Docynnau wybod ymlaen llaw drwy ffonio 01248 382828
Mawrth 28 Ebrill 7.30pm Theatr Bryn Terfel Electroacwstig Cymru yn cyflwyno
Adam Stanović Anturiaethau drwy Sain £10 £8 dros 60 £5 myfyrwyr a dan 18 Mae antur bob amser yn rhan o gyfansoddi electroacwstig. Ceir digon o deithio, archwilio, darganfod a rhyfeddu wrth i’r cyfansoddwr ddewis a chasglu ei synau yn gyntaf, ac yna cychwyn ar daith i’r anwybod. Ymunwch â ni wrth i Electroacwstig CYMRU gyflwyno noson o antur sonig newydd - weithiau’n gyfarwydd, yn aml yn ddirgelaidd, a bob amser yn ddifyr. Bydd y
cyfansoddwr gwadd, Adam Stanović, yn cyflwyno detholiad o weithiau cerddorol newydd, gan ein cludo i fannau real a dychmygus, gan gynnwys taith trwy beiriant pur syfrdanol. Ynghyd â detholiad o weithiau diweddar o Gymru a thu hwnt, bydd yr antur yn dod yn fyw trwy hudoliaeth gyffrous cerddorfa Electroacwstig Cymru gyda’i 24 uchelseinydd.
Dosbarth Meistr 1.15pm Theatr Bryn Terfel Adam Stanović Anturiaethau drwy Sain: Dewch â’ch pethau eich hunain i greu sain Mae Adam Stanović yn eich gwahodd i ymuno â’i antur trwy ddod â’ch pethau creu sain eich hun gyda chi. Yn ystod y gweithdy byddwch yn helpu i recordio detholiad o’r gwrthrychau hyn, ac yn meddwl am amrywiol ffyrdd y gallai’r recordiadau hyn gael eu defnyddio i greu cerddoriaeth. Yna, bydd Stanović yn cyfansoddi darn newydd sbon yn gyflym o seiniau a ddarparwyd gan y gynulleidfa. Fel unrhyw antur, yn llawn perygl posib, bydd y darn sy’n deillio o hyn yn cael ei chwarae am y tro cyntaf yn ystod y cyngerdd gyda’r nos, i bawb ei glywed! Bydd angen tocyn
61
Gwybodaeth Gyffredinol Archebion Grŵp Rydym yn darparu ar gyfer grwpiau ac ysgolion, ac yn achlysurol, gallwn gynnig gostyngiadau sylweddol. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau am fwy o wybodaeth ar 01248 38 28 28. Mae’r holl archebion yn amodol ar ein telerau a’n hamodau safonol. Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan https://www.pontio.co.uk/ Online/term Tâl Postio Codir £1 o dâl postio os gofynnwch am docynnau trwy’r post.Ni allwch ofyn am docynnau trwy’r post yn hwyrach na 10 niwrnod cyn y digwyddiad, er mwyn sicrhau eu bod yn eich cyrraedd
Adnodd ar gyfer dysgu, ymchwil, addysgu’r cyhoedd a mwynhad. Mae gan Ardd Fotaneg Treborth gwlâu planhigion, glaswelltir sy’n doreithiog mewn rhywogaethau, pyllau, gardd goed, gardd Tsieineaidd, choedir hynafol a chynefin creigiog ar lannau’r Fenai. Mae chwech tŷ gwydr yn cynnig awyrgylch arbenigol ar gyfer casgliadau planhigion trofannol a thymherus, tegeirianau a phlanhigion cigysol. Rydym yn trefnu sgyrsiau, sêl planhigion, gweithdai arbenigol, crefftau (a mwy!) yn rheolaidd.
62
mewn da bryd. Wedi hynny, fe allwch gasglu’r holl docynnau sydd wedi’u prynu ymlaen llaw o’r swyddfa docynnau, neu eu hargraffu gartref. Teuluoedd Lle nodir pris tocyn teulu, mae’r cynnig ar gael i grŵp o bedwar. Rhaid i o leiaf un aelod o’r grŵp fod o dan 18 oed. Gostyngiadau Lle bynnag y bo ‘gostyngiadau’ wedi’i nodi ar gyfer digwyddiadau Pontio, mae’r categorïau isod wedi’u cynnwys yn y diffiniad hwnnw: myfyrwyr a rhai dros 60. Mae plant a phobl ifanc yn cynnwys unrhyw un o dan 18 oed. Caiff plant dan 2 oed fynd i mewn am ddim.
Sesiynau gwirfoddoli rheolaidd phob dydd Mercher a dydd Gwener DIDDORDEB MEWN GWIRFODDOLI? CYSYLLTWCH Â NI Gardd Fotaneg Treborth Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ www.treborth.bangor.ac.uk treborth@bangor.ac.uk 01248 353398
Cerdyn Aelodaeth yw Hynt Mae Hynt yn adnodd Mae gan rai â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad ac am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalydd yn Pontio a phob theatr a chanolfan gelf sy’n rhan o’r cynllun. Ewch i www.hynt.co.uk neu www.hynt.cymru am wybodaeth ac arweiniad am y cynllun.