Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Bangor
Croeso i Pontio Oriau Agor Oriau Agor Llun – Sadwrn 8.30am – 8pm Sul 12pm – 7pm Bwyd a Diod Cegin Llun – Gwener 8.30am – 6pm Ffynnon Llun – Gwener 12pm -7pm Sadwrn 10.30am – 7pm Sul 12pm – 5.30pm
Bydd Ffynnon ar agor yn hwyrach yn ystod digwyddiadau Tocynnau Ar-lein www.pontio.co.uk 01248 38 28 28 Ymholiadau: info@pontio.co.uk Llinellau ffôn 01248 38 28 28 Llun – Gwener 11.30am – 2.30pm Sadwrn 10.30am – 6pm Sul 12pm – 5pm
Arian Parod Ni fyddwn yn derbyn arian parod fel modd taliad bellach. Cerdyn yn unig. Mae’r wybodaeth yn gywir adeg argraffu. Rhif Elusen: 1141565
Os hoffech gopi o destun y rhaglen yma mewn print bras, neu fersiwn glywedol, cysylltwch ar 01248 38 28 28
Llun clawr: Kirsten McTernan
Sut i archebu Arlein pontio.co.uk
PontioTweets
Dros y ffôn 01248 38 28 28
PontioBangor
Pontio, Ffordd Deiniol, Bangor, LL57 2TQ pontio_bangor
PontioBangor
Wedi cyfnod o ddeunaw mis bellach heb gynnyrch byw yn ein theatr a’n stiwdio, dwi’n falch iawn o fedru rhannu ein bod yn agor ein drysau unwaith eto! Wrth i’n sinema fod ar agor ers rhai wythnosau bellach, llwyddiant Gwyl Goncrit dros yr Haf a’r cynnyrch ar-lein yr ydym wedi ei greu, rydym yn gyffrous iawn i adeiladu ar hyn gyda chynnyrch byw dros y misoedd nesaf. Wrth dderbyn bod y feirws yn dal i fod yn bresennol yn ein cymunedau, rydym wedi bod yn gweithio’n ddiwydd i sicrhau bod ein canolfan gelfyddydol mor saff â phosib i chi ddychwelyd! Dros y misoedd diwethaf, gobeithiwn bod ein harlwy amgen wedi’ch difyrru, gyda amrywiaeth eang o gynnyrch a chelfyddyd, mae nawr yn amser i ni agor ein drsysau a chyflwyno ar ein llwyfannau eto. Mae’r cyfnod diweddar wedi ein galluogi i feddwl y
tu allan i’r bocs a dwi o’r farn y bydd cynnyrch digidol a chynnyrch byw y tu allan yn parhau i eistedd law yn llaw gyda’n rhaglen greiddiol fyw, dan do. Dwi’n hynod falch bod cwmnioedd cenedlaethol fel Theatr Genedlaethol Cymru, National Theatre Wales a Ballet Cymru yn dychwelyd i Pontio ond hefyd perfformiadau cymunedol sy’n rhoi platfform i dalent lleol, megis ysgol berfformio Showzone. Mae’r flwyddyn academaidd hon hefyd yn dynodi canmlwyddiant ers darpariaeth cerddorol ym Mhrifysgol Bangor - felly byddwch yn barod am flwyddyn gerddorol, llawn bwrlwm o’ch blaenau!
Wrth i ddosbarthiadau cyfranogi BLAS ail-ddechrau, edrychwn ymlaen at groesawu’n ôl pobl o bob oedran a bydd arlwy cyffrous iawn i’w gyhoeddi’r Nadolig hwn. Dyma ddechrau newydd i’r celfyddydau yng Nghymru ac ar draws y byd, wedi cyfnod heriol iawn ac mae mynd i fod yn daith pwysig a diddorol dros y cyfnod nesaf a mawr obeithiaf y dewch ar y daith gyda ni!
Osian Gwynn Cyfarwyddwr Celfyddydau Pontio
3
Celf
Edrych yn ôl Coflaid Cofid Lleoliad: Digidol Dyddiad: Dros y cyfnod clo Roedd Coflaid Cofid yn ymateb creadigol gan Iola Ynyr i gefnogaeth a gafodd gan ferched eraill dros y cyfnod clo yn 2020. Profiad digidol oedd penllanw’r prosiect yn ystyried sut effaith gafodd y cyfnod ar ferched yn y cartref, y gwaith ac o fewn eu hunain, gan edrych o’r newydd ar
eu dyheadau, eu hofnau a’u rôl o fewn disgwyliadau cymdeithasol, gwleidyddol ac ysbrydol. Gyda: Iola Ynyr, Miriain Fflur, Nia Dryhurst, Denise Gough, Nurit Gordon, Lleucu Non, Marged Sion, Kristina Banholzer, Or Danon, Carys Gwilym a Lindsay Walker.
Wedi ei gefnogi gan Nawdd Sefydlogi Unigolion Cyngor Celfyddydau Cymru ac mewn partneriaeth gyda Pontio a Chyngor Gwynedd. Ewch draw i sianel AM Pontio i wylio’r gwaith terfynol: Gwyliwch Yma
Triongl Lleoliad: Digidol Dyddiad: Dros y cyfnod clo Cyfanwaith yw Triongl a gafodd ei greu a’i ddatblygu yn ystod y cyfnod clo, wedi’i guradu gan Griff Lynch. Y bwriad oedd cynnig cyfleoedd i weithwyr llawrydd yn ystod y cyfnod heriol hwn, tra roedd theatrau a lleoliadau celfyddydol ar gau am fisoedd a llawer o ymarferwyr creadigol yn colli gwaith dros nos. Roedd tri phrosiect digidol i gyd yn cynnwys
amrywiaeth o gyfryngau a 27 o artistiaid, cerddorion a beirdd yn cydweithio gyda’i gilydd.
Menai, Lowri Hedd, Junko Mori, Simmy Singh, Kristina Banholzer, Sïan Angharad
Gyda: Casi Wyn, Owain Roberts, Seindorf, Lena Jeanne, Iestyn Tyne, Ciara Ní É, Caryl Bryn, Annes Glyn, Zoë Skoulding, Rhys Trimble, Mari Elen, Glyn F. Edwards, Yasus Afari, Róisín Sheehy, Sian Miriam, Morwen Bosschot, Marged Elen Williams, Catrin
Mae ffrwyth gwaith Triongl i’w weld ar-lein: Gwyliwch Brosiect 1 Gwyliwch Brosiect 2 Gwyliwch Brosiect 3
5
Ar y gweill
Cymru yn Ewrop Lleoliad: Digidol Wedi ei ysbrydoli gan ‘Blwyddyn Cymru yn yr Almaen 2021’ Llywodraeth Cymru, dyma gyfres o ffilmiau byrion wedi eu creu gan artistiaid o Gymru sy’n byw a gweithio ledled Ewrop. Yn ogystal â chynnig platfform i artistiaid cyffrous, gan roi cipolwg ar eu bywyd a’u gwaith y tu hwnt i’r Deyrnas Unedig,
mae’r prosiect yn meithrin cysylltiadau diwylliannol ac yn dathlu’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig ar y llwyfan Ewropeaidd. Gyda: Gethin Wyn Jones (Stockholm), Steven Emmanuel (Nürnberg), Hannah M Morris + Owain Griffiths (Leipzig), Carys Huws (Berlin) a mwy.
Ewch draw i sianel AM Pontio i wylio: Gwyliwch Yma
Skate gyda Jess Balla
Lleoliad: Gofod arddangos llawr gwaelod Dyddiad: Medi – Hydref 2021 Dyma arddangosfa sy’n ganlyniad i breswyliad yr artist Jess Balla yn Pontio, a’i gwaith ar y cyd â’r gymuned sglefrfyrddio leol. Mae’r gymuned hon â gwreiddiau dwfn yn yr ardal, yn ogystal â diwylliant gweledol cyfoethog a chyffrous sy’n wastad wedi ysbrydoli’r artist. Mae’r arddangosfa yn cynnwys
gosodiad mawr ar y ffenestri hyd blaen yr adeilad, ffilm o weithdy ‘Skate’ â gynhaliwyd yn ystod Gŵyl Goncrit, a ffotograffau gan unigolion o’r gymuned sglefrfyrddio, gan gynnwys Jordan Phoenix, Stewart MacKellar ac Aled Oddy. Dewch am dro i’w weld!
7
I ddod Hybrid gan Osian Efnisien Lleoliad: Wal Wen Dyddiad: Hydref – Tachwedd 2021 Mae Pontio yn falch o gomisiynu’r artist Osian Efnisien o Borthmadog i greu gwaith newydd ar y Wal Wen ym mhrif atriwm yr adeilad. Bydd y gosodiad yn plethu’r digidol gyda deunyddiau corfforol, chwareus er mwyn archwilio ffyrdd newydd o
gyfuno profiadau rhithiol, sydd wedi difyrru’r rhan fwyaf ohonom yn ystod y cyfnod clo, a gofodau pensaernïol, concrid. Bydd yn fwrlwm creadigol a lliwgar yn ein gofodau i’ch croesawu chi’n ôl i’r adeilad.
Llygad y Lleuad gan Jo Lawrence Lleoliad: Wal Wen Dyddiad: Rhagfyr 2021 – Ionawr 2022 Mae Llygad y Lleuad yn osodiad gan yr artist Jo Lawrence mewn cydweithrediad â’r Ysgol Gerdd a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor. Yn seiliedig ar y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Pritchard, sy’n dathlu 60 mlwyddiant eleni, bydd y gosodiad wedi ei leoli ym mhrif atriwm Pontio ac
yn cynnwys tafluniadau a chyfansoddiad arbennig gan y myfyriwr ôl-radd Tomasz Edwards. Bydd perfformiad byw o’r darn yn cael ei gynnal yn y gofodau cyhoeddus ddechrau Rhagfyr i gydfynd â dathliadau canmlwyddiant yr Ysgol Gerdd. Wedi ei gefnogi gan Colwinston Trust.
Wal Wen Llwyfan wedi'i guradu yw'r Wal Wen sy'n golygu y gellir taflunio fideos, ffotograffau, ffilmiau animeiddio a delweddau symudol ar raddfa fawr ar y waliau gwyn enfawr sydd ym mannau cyhoeddus Pontio.
Ymunwch â’n tîm o wirfoddolwyr! Oes gennych chi ...? - Ddiddordeb mewn theatr, cerddoriaeth fyw a ffilmiau
- Awydd i ddysgu, datblygu a defnyddio sgiliau newydd
- Frwdfrydedd i roi gwasanaeth arbennig o dda i gwsmeriaid
- Ddymuniad i gyfarfod â phobl newydd ac adeiladu eich hyder
Credwn y dylai’r Celfyddydau fod yn gynhwysol ac felly rydym yn annog gwirfoddolwyr o bob cefndir i ymuno â ni yr unig ofynion yw eich bod dros 16 oed, yn frwdfrydig, yn gyfeillgar ac yn ddibynadwy.
Diddordeb? gwirfoddolwyr@pontio.co.uk 01248 382666
9
7 DIWRNOD YR WYTHNOS AGORED I BAWB
1 Sgrin 3D 15 ffilm newydd y mis 70 dangosiad y mis Un llwyfan ar gyfer goreuon byd opera a theatr fyw Mae rhaglen Sinema Pontio ar gael ar-lein a thrwy gyhoeddiad misol a ddosberthir yn lleol ac yn y ganolfan. I dderbyn bwletinau e-bost wythnosol, crëwch gyfrif ar-lein yn www.pontio.co.uk gan roi tic wrth ymyl ‘Sinema’ yn y categori diddordebau. Dilynwch y newyddion ffilm diweddaraf ar Trydar @sinemapontio
7 DIWRNOD YR WYTHNOS - AGORE 7 DAYS A WEEK D I BAWB - ALL WELCOME
SINEMA CINEMA
Hydref • October , 2019
PONTIO BA NGOR
Ad Astra, Farmaged don, Joker, Abertoir, ROH: Don Pasquale, Judy Fleabag, Billy Conn olly, The Irishman a llawer mwy! and much more!
@sinemapontio
Archebwch pontio.co.uk 01248 38 28 28
Gwener 22 Hydref, 6pm Sadwrn 23 Hydref, 10.30am / 1pm / 3.30pm Sinema Pontio
Deian a Loli Am ddim (Tocynnau ar werth 01.10.2021) Uchafswm o 4 tocyn i bob archeb Mae’r efeilliaid direidus a’u pwerau hudol yn nol. Mae’n noson Calan Gaeaf ond tydi Deian a Loli ddim isio mynd i’r parti efo mam a dad. Ond gydag ysbryd bach yn ymweld â’r ddau, does dim dewis ond mynd i barti mawreddog Dygwyl y Meirw!
Bydd is-deitlau Saesneg ar ddangosiad 23 Hydref, 1pm Bydd sesiwn holi ac ateb yn cyd-fynd â dangosiad 22 Hydref, 6pm
11
BLAS yw rhaglen ieuenctid Pontio sy’n rhoi’r cyfle i blant a phobl ifanc gael blas o’r celfyddydau. Dros y flwyddyn a hanner diwethaf, er gwaetha’r cyfyngiadau, mae gweithgareddau ymgyslltu prosiect BLAS wedi parhau. Aeth ein gwethdai wythnosol ar-lein, crëwyd prosiectau newydd ac addaswyd prosiectau ar gyfer y byd ar-lein! Darllenwch ragor am ein hanes a gwyliwch ein prosiectau gymuned.
Dros 6000 yn gwylio gweithdai #DaliGreu
I ddarllen mwy am brosiectau BLAS cliciwch yma: Gweld mwy
10,400 yn gwylio UN SEREN, Bangor
90 o blant yn ymuno mewn gweithdai Ysgolion Creadigol Arweiniol
80 yn mynychu Gweithdai Addysg Cartref
41 o aelodau BLAS yn ymuno ar Zoom bob wythnos
Un Seren Bu Pontio, ar y cyd â Chyngor Dinas Bangor, yn cydweithio ar ffilm Nadolig i ddathlu Bangor. Derbyniwyd cyfraniadau gan dros 40 o fusnesau, sefydliadau, cymunedau a chwmnïoedd ym Mangor gydag Elise Jones, merch leol o Faesgeirchen, sydd wedi ymgysylltu â BLAS ers iddo gychwyn yn 2013, yn canu’r gân, wedi i’r gantores Alys Williams ei mentora. Gwyliwch Yma
#DaliGreu Cyfres o weithdai amrywiol dyddiol am ddim ar dudalen Facebook BLAS. Bu’n rhedeg o ddiwedd mis Mawrth 2020 tan Ebrill 2021 gyda dros 6000 yn ymuno yn yr hwyl.
Gweithdai Addysg Cartref Sefydlwyd gweithdai Addysg Cartref i gefnogi plant oedd yn parhau i hunan-ynysu, pan ail-agorodd ysgolion ym Medi 2021. Gweithdai hwyliog ac anffurfiol, gan edrych ar sawl elfen o’r cwricwlwm drwy weithgareddau celfyddydol.
Dawnsio ar gyfer Parkinson’s Daethom yn hwb cysylltiedig â’r rhaglen Dawnsio ar gyfer Parkinson’s gan English National Ballet a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Lansiwyd dosbarth newydd Dawnsio ar gyfer Parkinson’s dros Zoom ym mis Mawrth 2021! Bydd y gweithdai yma yn 13 rhan o raglen parhaol Pontio.
Ymchwil a Datblygu Heb Ffiniau Prosiect ymchwil a datblygu oedd yn archwilio’r cysylltiad rhwng Iaith, Hunaniaeth a Thirwedd, a sut mae’r rhain yn siapio ein hymdeimlad o berthyn. Daeth artistiaid a pherfformwyr proffesiynol ynghyd, yn ogystal ag unigolion sydd â diddordeb a phrofiad eang mewn
gwaith symud, perfformio a’r celfyddydau i ddatgloi deialog greadigol. Arweinir a chydlynwyd y prosiect gan yr artist dawns a theatr gorfforol Sarah Mumford. Gellir gwylio’r prosiectau ar AM yma:
Gwyliwch Brosiect 1 Gwyliwch Brosiect 2 Gwyliwch Brosiect 3
Heb Ffiniau Datblygodd y sesiynau datblygu ac ymchwil yn gyfres o weithdai symudol sy’n eich annog i ymlacio, ystwytho a symud. Ewch i dudalen 39 am ragor o wybodaeth
Caffi Babis
Clwb Darllen Fel modd o annog pobl i ddarllen mwy yn ystod y clo, ac i gefnogi siopau llyfrau lleol, buom yn gweithio gyda Palas Print i gynnal nosweithiau Clwb Darllen. Ar ddechrau’r mis byddai awdur yn holi awdur arall am eu gwaith ac yn cyffwrdd â’r llyfr fyddai’n cael ei drafod ar ddiwedd y mis gan y clwb darllen. Gyda’r cyfan dros Zoom roedd yn bosib cael awduron o bob cwr o Gymru fel gwesteion.
Ysgol Pendalar Dyma brosiect hwyliog gyda’r Bîtbocsiwr Mr Phormula a’r rapiwr o Faesgeirchen, A Gent Orange yn gweithio gydag Ysgol Pendalar ar greu rap Nadolig . Crëwyd y gerddoriaeth a’r fideo dros Zoom a’i rannu gyda’r rhieni i ddathlu diwedd y tymor.
Cyflwyniad Gyrfa Cymru a Fideo
Sesiwn newydd a grëwyd ar gyfer rhieni newydd a’u babis yng nghwmni Siwan Llynor ac Anghard Harrop.
Cymerodd Pontio ran mewn sesiwn holi ac ateb fel rhan o ddigwyddiad digidol Wythnos Darganfod Gyrfa. Nod y sesiwn oedd rhoi’r cyfle i bobol ifanc, ar hyd a lled Cymru i holi gwahanol aelodau o staff am eu swyddi, y sgiliau meddal sydd eu hangen a’r llwybr gyrfa. Pwrpas y weithgaredd oedd cefnogi maes dysgu a phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol yn y Cwricwlwm Newydd ac i ymateb i ofynion traws gwricwlaidd sy’n ymwneud â gyrfaoedd yn benodol.
Ysgolion Creadigol Arweiniol – Ysgol Nefyn
Bydd Caffi Babis yn rhan o raglen parhaol Pontio.
Mae Pontio yn falch o gael bod yn rhan o’r cynllun arbennig hwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Bu Mared yn asiant i Ysgol Gynradd Nefyn a fu’n brysur gyda Mr Phormula a Marci G yn creu rhaglen radio eu hunain a gafodd ei darlledu ar CymruFM.
15
Panel Trafod Un Nos Ola Leuad Roedd ein panel drafod blynyddol i fyfyrwyr Lefel A ychydig yn wahanol eleni. Recordiwyd y sgwrs yn trafod y nofel ‘Un Nos Ola Leuad’ gan Caradog Prichard rhwng y panelwyr dros Zoom gyda’r actor Gwion Aled yn darllen detholiadau. Rhannwyd y recordiad gydag ysgolion. Ein panelwyr oedd: Cadeirydd: Dr Manon Wyn Williams Menna Baines Dr J. Elwyn Hughes Betsan Llwyd
BLAS ar Zoom Yn dilyn llwyddiant creu’r ffilm arswyd dros Zoom bu BLAS yn cynnal gweithdai wythnosol i aelodau cyfredol BLAS. Roedd yn braf parhau i allu bod yn greadigol a gweithio gyda’n criw o bobl ifanc hoffus o wythnos i wythnos. A chrëwyd ffilm nadolig hyfryd sy’n dal i’w gweld ar ein tudalen Vimeo. Gwyliwch Yma Cadwch olwg am ragor o brosiectau gan BLAS dros y misoedd nesaf!
Mentora – Tiwtor Dan Hyfforddiant Mewn cyfres o weithdai un i un bu Ed Holen (Mr Phormula) yn mentora Owen Lee Maclean (A Gent Orange) y rapiwr ifanc o Faesgeirchen i gael yr hyder i gynnal gweithdai rap drwy’r Gymraeg. Yn dilyn y gweithdai bu A Gent Orange yn cysgodi Mr Phormula ar brosiect Ysgol Pendalar ac yna’n arwain gweithdy Cymraeg ei hun gyda chriw o’i gyfoedion.
Pwy? Ffilm BLAS Mawr 2020 oedd blwyddyn olaf rhai o aelodau BLAS ers inni agor yn Pontio yn 2016. Roeddem yn teimlo’n angerddol bod rhaid gwneud rhywbeth gyda’n gilydd cyn iddynt fynd i ffwrdd i’r coleg, felly, yn ystod y clo cyntaf fe ddaeth criw BLAS Blwyddyn 10 – 13 at ei gilydd dros Zoom i ddyfeisio ffilm arswyd yn seiliedig ar y genre ‘found footage’. Gwyliwch Yma
Mae gweithdai BLAS yn ôl Ymuwch â ni yn Stiwdio Pontio ar gyfer ein gweithdai drama wythnosol, sy’n dychwelyd i Pontio am y tro cyntaf ers Mawrth 2020! BOB NOS LUN Blwyddyn 3 a 4: 5pm – 6pm Blwyddyn 5 a 6: 6.15pm – 7.15pm BOB NOS FERCHER Blwyddyn 7, 8 a 9: 6.30pm – 7.30pm
I archebu lle yn y gweithdai, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01248 38 28 28, neu ewch i pontio.co.uk. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Mared Elliw Huws ar m.huws@bangor.ac.uk
Blwyddyn 10 – 13: 7.45pm – 8.45pm
17
h t e a i r o d d r e C
Llun 4 Hydref 7.30pm Stiwdio
Huw V Williams Triawd £10 / £8 Mae’r chwareuwr bas Huw V Williams, hogyn lleol o Fangor, ond bellach yn byw yn Lludain, yn un o gerddorion newydd mwyaf cyffrous y sîn jazz a cherddoriaeth arbrofol yn y pum mlynedd ddiwethaf. Ers symud i Lundain yn 2013, mae Williams wedi datblygu presenoldeb cyffrous yn
niwylliant jazz y ddinas. Daeth â’i bresenoldeb unigryw ar y bas dwbwl i broseictau megis Michael De Souza Trio, Alam Nathoo’s Cerberus Distracted ac Ivo Neame’s Quintet.
Gweld mwy
19
Iau 14 Hydref 7.30pm Theatr Bryn Terfel Opera Canolbarth Cymru
Il Tabaro £15 / £14 Cyflwyna Opera Canolbarth Cymru orchestwaith hwyr Puccini, Il tabarro neu ‘The Cloak’. Stori fer yw’r opera un act hon, wedi’i gosodd ar lannau’r Seine, yn llawn is-blotiau ac is-gymeriadau, a chyfeiriadau at olygfeydd a synau Paris yn y 1900au. Gyda melodïau cyfareddol a thyndra cyffrous, mae Il tabarro yn dangos gwaith y cyfansoddwr gwych pan oedd ei allu ar ei anterth.
Mae cynhyrchiad newydd OCC yn cynnwys 6 canwr a 4 cerddor, gyda chyfieithiad newydd i’r Saesneg gan Richard Studer a threfniant siambr newydd gan Jonathan Lyness. Yn yr ail hanner, ar ôl yr opera, byddwn yn parhau â thema Paris gyda chymysgedd o eitemau cerddorol difyr gan ein holl gantorion a’n cerddorion dawnus.
Gweld mwy
Mae Electroacwsteg Cymru yn cyflwyno gŵyl ddeuddydd fechan yn Theatr Bryn Terfel i ddathlu hanes Bangor o gelf sonig arbrofol arloesol, sy’n arwain y ffordd.
Resonant Pasts, Sonic Futures: Jo Thomas Mercher 20 Hydref, 7.30pm £10 / £8 myfyrwyr / £5 plant Bydd y cyfansoddwr rhyngwladol enwog a raddiod ym Mangor, Jo Thomas yn cyflwyno rhaglen o’i chelf sonig arobryn. Bydd y rhaglen yn cynnwys cerddoriaeth a gyfansoddwyd ym Mhrifysgol
Bangor dros y ddeng mlynedd ar hugain ddiwethaf, oll wedi’i daflunio drwy gerddorfa Electroacwsteg Cymru yn Theatr Bryn Terfel.
Resonant Pasts, Sonic Futures: Adam Stanović
Mercher 20 Hydref, 1.15 – 2.15 AM DDIM The Next Chapter Wrth inni barhau i ddathlu canrif o gerddoriaeth ym Mangor, mae’r cyngerdd yn cyflwyno gwaith sonig newydd gan fyfyrwyr cyfansoddi Prifysgol Bangor.
Iau 21 Hydref, 7.30pm Theatr Bryn Terfel £10 / £8 myfyrwyr / £5 plant Ymunwch â ni am noson o antur sonig newydd – yn gyfarwydd, yn ddirgel ac yn gyffrous! Bydd y cyfansoddwr gwadd, Adam Stanović, yn cyflwyno’r
detholiad o weithiau sonig, gan ein gyrru i ofodau dychmygol a chyfarwydd, gan gynnwys taith drwy beiriant rhyfedd, gyda gweithiau o Gymru a thu hwnt.
Gweld mwy
21
Mawrth 30 Tachwedd 7.30pm Theatr Bryn Terfel
Cwmwl Tystion II / Riot! £14 / £12 Mae Tomos Williams yn dychwelyd i Pontio gyda’i ail daith Cwmwl Tystion. Mae’r cerddorion adnabyddus Soweto Kinch ac Orphy Robinson yn ymuno â’r gantores Gymreig ifanc Eady Crawford ac adran rythm wych sef Aidan Thorne a Mark O’Connor, ochr yn ochr ag effeithiau gweledol byw gan Simon Proffitt, i greu perfformiad byw rhyngweithiol yn dwyn y teitl Cwmwl Tystion II / Riot!
Soweto Kinch sacsoffôn, rap Eady Crawford - llais Tomos Williams - trwmped Orphy Robinson - feibraffon, effeithiau electroneg Aidan Thorne - bas Mark O’Connor - drymiau Simon Proffitt – celfyddyd weledol fyw
Gweld mwy
Mercher 15 Rhagfyr 8pm Theatr Bryn Terfel Cabaret Pontio yn cyflwyno
The Furrow Collective £14 / £13 gostyngiadau CYNNIG ARBENNIG £12 / £11 gostyngiadau tan 01.12.2021 Wrth i’r gaeaf gau amdanom, mae The Furrow Collective wedi dewis rhaglen Nadoligaidd i ddathlu misoedd tywyll y flwyddyn. Dewch, ffrinidau, i fochel rhag y gwynt a’r glaw, byddwch yn barod i gael eich swyno a’ch syfrdanu gan ganeuon gwerin llawn straeon, carolau tymhorol sy’n gloddesta yn nhraddodiadau amrywiol
ac anhygoel yr ynysoedd hyn. Gyda harmonïau adnbayddus The Furrow Collective, a’r ddawn wych o ddweud stori, daw’r pedwarawd â chynhesrwydd i fisoedd oer y gaeaf. Bydd hon yn noson i’w chofio.
Gweld mwy
Dewch i fwynhau cerddoriaeth o’r safon uchaf mewn nosweithiau hamddenol, steil cabaret. Bydd y gyfres hon yn ail-ddechrau gyda The Furrow Collective, felly cadwch olwg am ragor o ddigwyddiadau yn y flwyddyn newydd.
23
Nos Wener 7 Ionawr, 2022 7.30pm Theatr Bryn Terfel Cerddorfa WNO
Dychwelyd i Fienna £20.50 | £19.50 | £7.50 Cyngerddfeistr – David Adams Soprano – Isabelle Peters Tenor – Adam Gilbert Mae Cerddorfa WNO yn falch iawn o fod yn ôl ar y llwyfan, gan gyflwyno ei chyngerdd blwyddyn newydd hynod o lwyddiannus, sydd wedi teithio’n helaeth. O dan arweiniad y Blaenwr a’r Cyngerddfeistr David
Adams, bydd y Gerddorfa, ynghyd ag Artistiaid Cyswllt WNO, yn croesawu 2022 yng Nghanolfan Celfyddydau Pontio gyda rhaglen gyffrous o walsiau, polcas ac efallai hyd yn oed ambell syrpreis. Ymunwch â ni am noson fywiog hon o Strauss, Lehár a chymaint mwy – pa ffordd well i gychwyn y flwyddyn newydd?
Gweld mwy
Drama
25
Gwener 8 Hydref Sadwrn 9 Hydref 7.30pm Theatr Bryn Terfel Theatr Genedlaethol Cymru
ANFAMOL
gan Rhiannon Boyle £10 - £15 Croeso i fyd Ani. Ffeminist, cyfreithwraig, chwaer, modryb, merch. A mam? A hithau’n sengl, ac er gwaethaf cyngor ei theulu, mae Ani’n penderfynu defnyddio sperm bank i gael babi. Efallai mai dyma’r union beth sydd ei angen i ddod â’i theulu cymhleth yn ôl at ei gilydd! Drama newydd, ddoniol a thyner gan Rhiannon Boyle am hunaniaeth, colled, cariad a pherthyn, ac am fod yn fam ac yn rhiant sengl yn y byd sydd ohoni.
Canllaw Oed: 14+ Yn cynnwys iaith gref a themâu sy’n addas i oedolion – gan gynnwys iselder ôlenedigol a materion dwys yn ymwneud â COVID-19 a allai beri gofid. Ni allwn warantu y bydd unrhyw artist yn ymddangos ym mhob perfformiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth.
Gweld mwy Gwyliwch y Rhagflas
Mae Sibrwd, yr ap mynediad iaith, yn ehangu mynediad i bawb i theatr Gymraeg. Ar gael ym mhob perfformiad.
27
Sadwrn 20 Tachwedd 7.30pm Stiwdio
Gyda cherddoriaeth fyw
National Theatre Wales yn cyflwyno
Possible Gan Shôn Dale-Jones £14 Sioe chwareus, onest a didwyll Shôn Dale-Jones am gariad, creadigrwydd a theulu. Stori gyfareddol gydag animeiddio, ffilm a cherddoriaeth wreiddiol. Ysgrifennwyd a pherfformiwyd gan Shôn Dale-Jones
Wedi’i chyd-gyfarwyddo a’i dylunio gan Stefanie Mueller Cyfansoddwr a Chydweithredwr John Biddle Gwneuthurwr Ffilm Bear Thompson
“
Perfectly judged, unabashedly authentic and vulnerably autobiographical The Guardian
”
Dylunydd Golau Katy Morison Dylunydd Sain Sam Jones Oed: 14+
Gweld mwy
Archebwch eich diodydd ymlaen llaw yn y bar i’w mwynhau yn ystod yr egwyl Am fwy o wybodaeth ewch i’r tudalennau bwyd a diod pontio.co.uk
01248 383842 bwydabar@pontio.co.uk @eatdrinkbangor
29
Comedi
31
2! Ar lefel
BAGELS BRECHDANAU PITSA CACENNAU Am fwy o wybodaeth ewch i’r tudalennau bwyd a diod pontio.co.uk
01248 383826 bwydabar@pontio.co.uk @eatdrinkbangor
Dawns
33
Sadwrn 27 Tachwedd 7.30pm Theatr Bryn Terfel Ballet Cymru
GISELLE £13 / £11 gostyngiadau Coreograffi a dehongliad Amy Doughty a Darius James OBE a dawnswyr y cwmni. Cerddoriaeth Wreiddiol Catrin Finch Dylunio a Chreu Gwisgoedd Deryn Tudor Dylunio Goleuo Chris Illingworth Dyluniad Set a Thafluniad Fideo Darius James OBE Dyma un o gwmnïau arobryn Gwobrau’r Critics’ Circle, Ballet Cymru, yn cyflwyno ballet newydd rhyfeddol yn
seiliedig ar stori dragwyddol Giselle, y ferch ifanc sy’n cwympo mewn cariad â’r person anghywir ac yn talu pris ofnadwy. Mae Ballet Cymru wedi rhoi ei stamp unigryw ei hun ar y stori hon am gariad a cholled, gan ddod â pherthnasedd, dwyster a phlwc i’r ballet hynod ramantus hwn. Yn cynnwys sgôr newydd gan y cyfansoddwr a’r delynores glodwiw Catrin Finch y mae ei cherddoriaeth gyfareddol yn cydblethu â symudiad syfrdanol gan Gyfarwyddwr Artistig Ballet Cymru, Darius
James OBE a’r Cyfarwyddwr Artistig Cynorthwyol, Amy Doughty. Peidiwch â cholli’r cyfle unigryw hwn i fwynhau dawnsio sydd ymhlith y gorau yng Nghymru, ac wedi’i wneud yng Nghymru.
Crëwyd yng Nghymru mewn partneriaeth â Theatr Glan yr Afon Casnewydd a Catrin Finch Mwyaf addas i 7+
Gweld mwy
Llun: Siân Trenberth Photograp
hy
35
Cymunedol
Gwener 29 Hydref Sadwrn 30 Hydref 7pm Theatr Bryn Terfel ShowZone Maes-G
Sioe Fawr £12 / £10 gostyngiadau Mae’n amser i ddawnsio! Wedi blwyddyn cwbwl afreal, ac er gwaethaf Covid-19 mae plant a phobl ifanc MaesG Showzone wedi dod at ei gilydd i greu sioe amrywiol ar eich cyfer! O’r gymuned i’r gymuned, mae gan Sioe Fawr MaesG ShowZone rhywbeth i bawb! Gyda caneuon o’r
sioeau cerdd, yr 1960au a chaneuon cyfoes, bydd digon o chwerthin a chân neu ddau fydd yn gwneud ichi forio canu. Noson allan arbennig i bawb a sioe nad ydych chi’n awyddus i’w fethu!
Gweld mwy
37
i a d h t i Gwe
23 Medi 21 Hydref 18 Tachwedd 11am Stiwdio
Heb Ffiniau £3 y sesiwn Gweithdai symudol, sy’n eich annog i ymlacio, ystwytho a symud. Mae’r gweithdai yn addas i bawb dros deunaw oed, ac yn eich arwain i symud gan ddefnyddio byrfyfyr a dawns – ond hynny o fewn eich gallu chi ar ddiwrnod y gweithdy.
18+
Gweld mwy
39
9 + 16 + 23 + 30 Tachwedd Bocs Gwyn
Dawnsio ar Gyfer Parkinson’s £3.50 Ar ddydd Mawrth, 10-11.15am Profwyd bod dawns yn datblygu hyder a chryfder, wrth leddfu rhai symptomau bob dydd cyfranogwyr. Mae dosbarthiadau yn greadigol ac yn hyrwyddo teimladau o ryddid rhag cyfyngiadau corfforol a chymdeithasol Parkinson’s.
Gweld mwy Gwyliwch y Rhagflas
Gwener 1 Hydref Gwener 5 Tachwedd Gwener 3 Rhagfyr 10am
Caffi Babis £3 Dyma awren greadigol yng nghwmni Siwan Llynor ac Angharad Harrop sy’n rhoi’r cyfle i rieni newydd gyfarfod rhieni eraill, yn ogystal ag ymlacio gyda’ch babi am gyfnod. Awren sy’n dod â rhieni ynghyd, mewn awyrgylch diogel. Bydd pob sesiwn yn para oddeutu hanner awr ond bydd cyfle
i gael panad a sgwrs ar ddiwedd pob sesiwn hefyd. Mae’r sesiwn yn fwyaf addas i blant hyd at 24 mis oed, ond yn amlwg, mae croeso i blant hŷn ymuno gyda chi hefyd.
Gweld mwy
41
Mercher 27 Hydref 10.30am (Cymraeg) 12pm (Saesneg) 1.30pm (Cymraeg) 3pm (Saesneg) Bocs Gwyn
Caban Calan Gaeaf £5 Ymunwch â ni am straeon a chrefftau arswydus i ddathlu Calan Gaeaf! Gwisgwch wisg ffansi Calan Gaeaf a dewch â chot i gadw’n gynnes. Digwyddiad i’r holl deulu – bydd angen i oedolion aros gyda’u plant a chael tocyn 4-7 oed
I ddod yn 2022.... The Fureys Mercher 23 Chwefror, 2022 7.30pm Theatr Bryn Terfel £20
Trials of Cato Iau, 10 Mawrth 2022 8pm Theatr Bryn Terfel £11 - £14
Nish Kumar: Control Mercher 13 Ebrill, 2022 7.30pm Theatr Bryn Terfel £20 43
Gwybodaeth Gyffredinol Archebion Grŵp Rydym yn darparu ar gyfer grwpiau ac ysgolion, ac yn achlysurol, gallwn gynnig gostyngiadau sylweddol. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau am fwy o wybodaeth ar 01248 38 28 28. Mae’r holl archebion yn amodol ar ein telerau a’n hamodau safonol. Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan https://www.pontio.co.uk/ Online/term Tâl Postio Codir £1 o dâl postio os gofynnwch am docynnau trwy’r post.Ni allwch ofyn am docynnau trwy’r post yn hwyrach na 10 niwrnod cyn y
Adnodd ar gyfer dysgu, ymchwil, addysgu’r cyhoedd a mwynhad. Mae gan Ardd Fotaneg Treborth gwlâu planhigion, glaswelltir sy’n doreithiog mewn rhywogaethau, pyllau, gardd goed, gardd Tsieineaidd, choedir hynafol a chynefin creigiog ar lannau’r Fenai. Mae chwech tŷ gwydr yn cynnig awyrgylch arbenigol ar gyfer casgliadau planhigion trofannol a thymherus, tegeirianau a phlanhigion cigysol. Rydym yn trefnu sgyrsiau, sêl planhigion, gweithdai arbenigol, crefftau (a mwy!) yn rheolaidd.
digwyddiad, er mwyn sicrhau eu bod yn eich cyrraedd mewn da bryd. Wedi hynny, fe allwch gasglu’r holl docynnau sydd wedi’u prynu ymlaen llaw o’r swyddfa docynnau, neu eu hargraffu gartref. Teuluoedd Lle nodir pris tocyn teulu, mae’r cynnig ar gael i grŵp o bedwar. Rhaid i o leiaf un aelod o’r grŵp fod o dan 18 oed. Gostyngiadau Lle bynnag y bo ‘gostyngiadau’ wedi’i nodi ar gyfer digwyddiadau Pontio, mae’r categorïau isod wedi’u cynnwys yn y diffiniad hwnnw: myfyrwyr a rhai dros
Sesiynau gwirfoddoli rheolaidd phob dydd Mercher a dydd Gwener DIDDORDEB MEWN GWIRFODDOLI? CYSYLLTWCH Â NI Gardd Fotaneg Treborth Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ www.treborth.bangor.ac.uk treborth@bangor.ac.uk 01248 353398
60. Mae plant a phobl ifanc yn cynnwys unrhyw un o dan 18 oed. Caiff plant dan 2 oed fynd i mewn am ddim. Cerdyn Aelodaeth yw Hynt Mae Hynt yn adnodd Mae gan rai â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad ac am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalydd yn Pontio a phob theatr a chanolfan gelf sy’n rhan o’r cynllun. Ewch i www.hynt.co.uk neu www.hynt.cymru am wybodaeth ac arweiniad am y cynllun.