Rhaglen Artistig Pontio Medi-Rhagfyr 2017

Page 1

Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Bangor

Rhaglen Artistig Medi – Rhagfyr 2017

1


Croeso i Pontio Oriau Agor Dydd Llun i ddydd Sadwrn 8.30am-11.00pm Dydd Sul 12.00pm-8.00pm Bydd Pontio yn cau 5pm 22 Rhagfyr ac yn ail-agor 3 Ionawr 2018

(Ar agor tan 11pm yn ystod perfformiadau nos) Dydd Sul 12.00pm-5.30pm Bydd bwyty Gorad yn ailagor yn y flwyddyn newydd. Yn y cyfamser bydd prydau cyn-theatr ar gael yn Teras ym Mhrif Adeilad y Brifysgol, gweler yr oriau agor isod, a Bar Ffynnon

Tocynnau Ar-lein www.pontio.co.uk 01248 38 28 28 Ymholiadau: info@pontio.co.uk

Teras Prif Adeilad y Brifysgol Dydd Llun i ddydd Mercher 8.30am-6pm, Iau a Gwener 8.30am – archeb bwyd olaf am 8pm

Caffi Cegin Dydd Llun i ddydd Sadwrn 8.30am-6.00pm Bar Ffynnon Dydd Llun i ddydd Sadwrn 8.30am-9.00pm

Bydd prydau cyn-theatr ar gael yn Teras cyn perfformiadau yn Theatr Bryn Terfel

Llinellau ffôn: 01248 38 28 28 Dydd Llun i ddydd Sadwrn 10.00am-8.30pm Sul 12.00pm-6.00pm Cofrestrwch i gael y newyddion diweddaraf ar www.pontio.co.uk @TrydarPontio PontioBangor pontio_bangor PontioBangor Os hoffech gopi o destun y rhaglen yma mewn print bras, neu fersiwn glywedol, cysylltwch â ni ar 01248 388 421

Mae’r wybodaeth yn gywir adeg argraffu Rhif elusen gofrestredig: 1141565

Cynllun Seddi Theatr Bryn Terfel

llwyfan

d— dd— e— f— ff— g— ng— h— l— ll— m— balconi lefel 1 1a— 1b— balconi lefel 2 2a— 2b—

2

2ch—

c— ch—

1dd— 1d—

r— ph—

n— p—

2c—

1c— 1ch—

a— b—


Cipolwg Pontio Medi – Rhagfyr 2017 Medi Llun 4 Mercher 6 Gwener 15 Sadwrn 23 Mawrth 26 Gwener 29 Sadwrn 30 Hydref Sul 1 Sul 1 Mawrth 3 Iau 5 Gwener 6 Sul 8 Mercher 11 Iau 12 Sadwrn 14 Mercher 18 Gwener 20 Sadwrn 21 Mawrth 24 Sadwrn 28 Sul 29 Mawrth 31 Tachwedd Mercher 1 Iau 2 Iau 2 Gwener 3 Gwener 3 Sadwrn 4 Sul 5 Mercher 8 Gwener 10 Sadwrn 11 Sul 12 Mawrth 14 Mawrth 14 Mercher 15 Iau 16 Gwener 17 Gwener 17 Sadwrn 18 Mercher 22 Iau 23 Gwener 24 Gwener 24 Sadwrn 25 Sadwrn 25 Iau 30 Iau 30 Rhagfyr Gwener 1 Gwener 1 Sadwrn 2 Sadwrn 2 Sul 3 Iau 7 Llun 11 Mawrth 12 Mercher 13 Iau 14 Gwener 15 Sadwrn 16 Sul 17 Llun 18 Sadwrn 16

Amser 5.45pm 7.30pm 7.30pm 8pm 8pm 8pm 11.30am a 2.30pm

Landmarks On Wings of Song Bywyd gyda'r Signora Elis James: Yn Llygaid y Byd Comedy Central Live Cabaret Pontio: Bob Delyn a'r Ebillion + Bwncath Poggle Barrowland Ballet

Tud 4 5 6 7 10 11 12

3.30pm 6pm 7.30pm 8pm 8pm 2pm 8pm 7.30pm 7.30pm 7.30pm 8pm 8pm 7.30pm 7.30pm 3pm Drwy'r Dydd

Gweithdy Blasu Sioeau Cerdd Cwta Sioeau Cerdd Cwta Dim Byd Ynni How to Win Against History How to Win Against History As a Tiger in the Jungle Phill Jupitus Juplicity Clare Hammond Piano Ali Cook: Principles of Deception The Golden Dragon Cabaret Pontio: Lankum Y Niwl + Cefnogaeth The Mountaintop P.A.R.A.D.E P.A.R.A.D.E Caban Calan Gaeaf

13 13 14 15 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 24 26

2pm 1pm 7.30pm 11.30pm a 2.30pm 8pm 11.30pm a 2.30pm 5pm 1.30pm 7.30pm 7.30pm 3pm 7.30pm 8pm 2pm a 7.30pm 7.30pm 7.30pm 7.30pm 8pm 7pm 7.30pm 6pm 7.30pm 7.30pm 7.30pm 2pm a 7.30pm 7.30pm

Ghostbusters (12A) Gweithdy: Light the Blue Touchpaper Sparks in the Dark: Noson o dân gwyllt sonig Peter and the Wolf Cabaret Pontio: Saz'iso Peter and the Wolf Magic of the Musicals Mwgsi Wythnos yng Nghymru Fydd Wythnos yng Nghymru Fydd Ensemble Cymru - Taith Penblwydd FLOWN Comedy Central Live FLOWN FLOWN Beethoven gyda Xian Zhang + Jamio yn y Bar Ruby Wax: Frazzled! BBC NOW/Richard James W T Yna? (yn y meddwl) Menna Cazel (Soprano) & Eugene Asti (Piano) Huw Edwards: Duw a'r Ginshop Little Wolf Little Wolf The Light Princess Cinderella Pedwarawd Llinynnol Allegri

27 27 28 28 30 28 31 32 33 33 36 38 37 38 38 40 41 42 43 44 45 46 46 47 48 49

1pm 8pm 2.30pm 7.30pm 7.30pm 8pm 12.45pm 10am a 12.45pm 10am a 12.45pm 10am a 12.45pm 10am a 12.45pm 11.30am a 2.30pm 1.30pm a 4.30pm 10am a 12.45pm o 7pm

Pedwarawd Llinynnol Allegri DakhaBrakha Dewch i Ganu…Carolau Côr y Penrhyn a Gwawr Edwards Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor Philip Pullman: The Magic of Storytelling Culhwch ac Olwen Culhwch ac Olwen Culhwch ac Olwen Caban Hud Caban Hud Caban Hud Caban Hud Caban Hud 1 Gig Gwrth-hiliaeth

49 50 51 52 53 54 55 55 55 56 56 56 56 56 58


2


Croeso i dymor newydd Pontio Ar drothwy rhaglen arall o ddigwyddiadau, mae’n anodd peidio â theimlo ein bod yn byw mewn byd rhyw fymryn yn llai sicr rhywsut. Dyma droi at gelfyddyd i’n helpu i ddeall ein gilydd ac i geisio deall y byd o’n cwmpas yn well… O ddrama sy’n dathlu bywyd un nad oedd yn cael ei dderbyn oherwydd ei arferion anghonfensiynol, sef 5ed Marcwis Môn, yn How To Win Against History, i The Mountaintop, sef drama yn cofio bywyd Martin Luther King, un a frwydrodd dros hawliau’r dyn du, hanner canrif ers ei lofruddio. Rydym yn croesawu pedwarawd DakhaBrakha i Pontio, o’r Wcráin, y bydd eu lleisiau cynhenid yn ddieithr i ni, a chyflwynwn Wythnos Yng Nghymru Fydd, opera Gymraeg newydd sbon gan Mererid Hopwood a Gareth Glyn, sy’n portreadu Cymru’r dyfodol mewn dwy ffordd gwbl wahanol.

Bydd y Cwmni Dawns Cenedlaethol, ar y cyd â BBC NOW, yn cynnig golwg newydd ar Parade, sef darn chwyldroadol a dorrodd dir newydd union ganrif yn ôl, ar adeg un o’r digwyddiadau mwyaf arwyddocaol yn hanes yr ugeinfed ganrif, sef Chwyldro Rwsia. Rydym yn llwyfannu sioe hudolus i blant, Caban Hud, sy’n dangos BOD modd gwireddu’n breuddwydion trwy weithio’n galed a dyfalbarhau, a byddwn yn cynnal ‘Gig Gwrth-hiliaeth’ amserol yn dathlu’r hyn sy’n ein gwneud yn wahanol.

3

Mae prydferthwch mewn lleisiau a lliwiau, mewn straeon a champau syrcas, ond hefyd yn yr hyn sy’n gwneud pob un ohonom yn unigryw. Fe geisiwn ninnau yn Pontio chwarae ein rhan wrth greu a chyflwyno celfyddyd mewn modd sy’n annog goddefgarwch ac yn dathlu amrywiaeth. Elen ap Robert Cyfarwyddwr Artistig Pontio


Cerddoriaeth Music

Dydd Llun, 4 Medi 5.45pm

drian

llun: A

ws

Burro

Ensemble Cymru

Landmarks Neuadd Powis £10 Bydd Ensemble Cymru yn perfformio peth o’r gerddoriaeth siambr orau gan gyfansoddwyr benywaidd yn y cyngerdd nodedig hwn. Rhoddir y sylw pennaf i Sextet gan Grace Williams, sef darn o waith nas perfformir yn aml ac sy'n cael ei hyrwyddo gan yr Ensemble. Mae'n cynnwys rhan flaenllaw i'r trwmped, sef hoff offeryn y gyfansoddwraig o Gymru. Mae triawd hiraethus Hilary Tann, The Walls of Castell Morlais, wedi ei ysbrydoli'n

uniongyrchol gan adfeilion y castell o'r 13eg ganrif ger Merthyr Tudful, ac mae naws y jig Wyddelig wrth wraidd y Phantasy Trio deinamig gan Rhian Samuel. Bydd yr Ensemble hefyd yn perfformio Block, triawd newydd gan y cyfansoddwr ifanc o Gymru, Claire Victoria Roberts (enillydd Gwobr Gyfansoddi William Mathias 2017), a bydd y bariton Jeremy Huw Williams yn ymuno â nhw ar gyfer y perfformiad cyntaf erioed o The Swan gan Nicola LeFanu. 4

Ensemble Cymru – Huw Clement-Evans (obo), Cai Isfryn (trwmped), Florence Cooke (ffidil), Sara Roberts (fiola), Heather Bills (cello) a Harvey Davies (piano). Mae'r cyngerdd yn rhan o'r Gynhadledd Ryngwladol Gyntaf ar Waith Merched mewn Cerddoriaeth, Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Bangor 2017. Gostyngiad o 10% i grwpiau o 10 neu fwy


Nos Fercher, 6 Medi 7.30pm

Ar Adenydd Cân Elin Manahan Thomas Jeremy Huw Williams Paula Fan

Theatr Bryn Terfel £15/£12 gostyngiadau £5 myfyrwyr a dan 18 oed Bydd y ddau ganwr o Gymru sydd wedi ennill bri rhyngwladol, Elin Manahan Thomas a Jeremy Huw Williams yn ymddangos am y tro cyntaf yn Theatr Bryn Terfel, gyda Paula Fan o America yn cyfeilio ar y piano. Mae'r cyngerdd arloesol hwn yn cynnwys cerddoriaeth gan gyfansoddwyr benywaidd ar hyd yr oesoedd - Caritas Abundat gan Hildegard o Bingen o'r 11eg ganrif, My Last Duchess gan Grace Williams a'r King Harald's Saga trydanol gan Judith Weir, Meistr Cerddoriaeth y Frenhines ar hyn o bryd.

Bydd Elin Manahan Thomas yn rhoi'r perfformiad cyntaf o fersiwn soprano o The Cloths of Heaven gan Dilys Elwyn-Edwards, a bydd Jeremy Huw Williams yn rhoi'r perfformiad cyntaf o gylch o ganeuon The Soul’s Expression gan Eleanor Alberga. Cyngerdd cyffrous na ddylech ei golli! Mae'r cyngerdd yn rhan o'r Gynhadledd Ryngwladol Gyntaf ar Waith Merched mewn Cerddoriaeth, Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Bangor 2017. Gostyngiad o 10% i grwpiau o 10 neu fwy 5

On Wings of Song: Sgwrs cyn y cyngerdd Stiwdio Pontio 6.15pm AM DDIM, ond bydd angen archebu lle Bydd Elen ap Robert a Geraint Lewis yn trafod gwaith y gyfansoddwraig Dilys Elwyn-Edwards a chyfansoddwragedd eraill o'r un cyfnod â hi. Bydd y drafodaeth yn Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd, ac yn cael ei ffrydio'n fyw ar y we.


Cerddoriaeth

Nos Wener, 15 Medi 7.30pm

Bywyd gyda’r Signora Stiwdio £12 Bu Bruna Lupoli yn forwyn, yn wraig cadw tŷ ac yn gyfeilles i’r soprano fydenwog, Maria Callas, am yn agos i ugain mlynedd. Bu bywyd “soprano’r ganrif” mor angerddol a dramatig a’r cymeriadau operatig y bu’n eu portreadu. Yng nghyflwyniad un act “Bywyd gyda’r Signora”, mae Bruna yn hel atgofion am flynyddoedd olaf Maria Callas ac yn meddwl sut y dirywiodd ei gyrfa a’i bywyd personol gan arwain at ei marwolaeth gynnar ym mis Medi 1977. Mae atgofion Bruna yn cael eu darlunio drwy berfformio arias o rai o rannau mwyaf adnabyddus Maria Callas - arias sy’n adlewyrchu trasiedi a drama ei bywyd ei hun (Tosca, Madame Butterfly, La Traviata...)

Bydd Anne Williams-King, sydd yn gantores o fri rhyngwladol sydd wedi canu llawer o rannau opera Callas ledled y byd, yn portreadu Callas a bydd Marian Bryfdir, sy’n gyn-gantores yn Covent Garden ac yn hyfforddwraig llais, yn chwarae rhan Bruna Lupoli. Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Jamie-Glyn Bale. Gydag Ann Williams-King fel Maria Callas a Marian Bryfdir fel Bruna Lupoli. Gostyngiad 10% i grwpiau o ddeg neu fwy – cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau 01248 38 28 28

6


Comedy Comedi

Nos Sadwrn, 23 Medi 8pm Zeitgeist yn cyflwyno

Elis James: Yn Llygaid y Byd Theatr Bryn Terfel £12/£10 gostyngiadau Dyma sioe gomedi stand-yp Gymraeg gan un o gomediwyr mwyaf poblogaidd a llwyddiannus Prydain, Elis James.

Dyma gyfle unigryw i weld un o gomediwyr gorau Prydain yn datblygu sioe fyw trwy brofi ei ddeunydd o flaen cynulleidfa fyw.

Ar ôl cael ymateb eithriadol i'w sioe gyntaf yn 2015, bydd Elis yn perfformio’r math o ddeunydd sydd wedi ei wneud yn un o gomediwyr mwyaf blaenllaw’r Deyrnas Unedig ac sydd wedi rhoi comedi Cymraeg ar y map.

Enwebwyd Elis yn Best Club Comic yng Ngwobrau Chortle 2014. Fe’i gwelwyd yn y gomedi sefyllfa Crims (BBC3), ac mae wedi ymddangos ar 8 Out Of 10 Cats (Channel 4), Dave’s One Night Stand (Dave), 7

Live At The Comedy Store (Comedy Central), Russell Howard’s Good News (BBC3) ac yn The Elis James and John Robbins Show (XFM). Y llynedd, perfformiodd Elis gyda Josh Widdicombe a Jack Dee fel un o brif gymeriadau comedi sefyllfa’r BBC, Josh. Canllaw oed: 14+ Sioe yn yr iaith Gymraeg


sinema

Sinema i bawb yng nghanol Bangor

cinema

Ysgol Llan fairp Digidol Ope wll ac Ysgol Llanru g ra Cened laethol Cym yn cymryd rhan yn Dys ru. llun: Kr istina Banh gu olzer

1 Sgrin 7 diwrnod yr wythnos 3D 70 dangosiad y mis 15 ffilm newydd y mis 1 llwyfan ar gyfer goreuon byd opera a theatr fyw Cyhoeddir rhaglen Sinema Pontio ar-lein a thrwy raglen fisol a ddosberthir yn lleol ac yn y ganolfan.

11.00am 2.00pm TS U UNDERPAN U 5.30pm CAPTAIN TS Mer/Wed 16 UNDERPAN 8.15pm CAPTAIN 12A 11.00am DUNKIRK 11.00am 12A 2.00pm DUNKIRK TS U 2.00pm UNDERPAN U 5.30pm CAPTAIN TS 5.30pm CARS 3 PG Iau/Thu 17 UNDERPAN 8.15pm 12A subtitled 8.15pm CAPTAIN OF THE APES CARS 3 PG 12A 11.00am THE PLANET OF THE APES 12A DUNKIRK 11.00am WAR FOR 12A 2.00pm THE PLANET DUNKIRK TS U 2.00pm WAR FOR UNDERPAN U 5.30pm CAPTAIN TS 5.30pm CARS 3 PG Gwe/Fri 18 UNDERPAN 8.15pm 12A Mer/Wed 2 CAPTAIN 8.15pm 15 OF THE APES CARS 3 PG 11.00am THE PLANET OF THE APES 12A THE BEGUILED15 11.00am WAR FOR 2.00pm THE PLANET BABY DRIVER TS U Bonham 2.00pm WAR FOR UNDERPAN U e, Helena 5.30pm 12A 136m CAPTAIN APES TS PG 3 7.00pm THE 19 Redgrav 1992, OF CARS Sad/Sat UNDERPAN 8.15pm Vanessa DI TITO 12A THE PLANET Iau/Thu 3 CAPTAIN 11.00am James Ivory, 15 WAR FOR CLEMENZA Hopkins, 2.00pm URNE: LA BABY DRIVER 15 2.00pm GLYNDEBO Cast – AnthonyThompson 5.30pm 8.15pm THE BEGUILED 15 5.30pm CARS 3 PG 30 August, 11.00am BEGUILED Carter, Emma Gwe/Fri 4 THE PG Wednesday 3 8.15pm 20 15 CARS Sul/Sun 2.00pm 12A BABY DRIVER , on its 25th TS U 11.00am DUNKIRK UNDERPAN U 5.30pm Awst, 8.15pm 12A CAPTAIN TS Back in cinemas 2.00pm Mercher 30 DUNKIRK is this Oscar ion Llun/Mon 21 UNDERPAN 8.15pm CAPTAIN i ddathlu 5.30pm subtitled anniversary, CARS 3 PG rk adaptat 5 DRIVER 15 sinemâu ryddhau, 11.00am y PG Sad/Sat BABY yn landma 3D 3 8.15pm ôl 15 ei Yn CARS winning 2.00pm s classic novel. 12A canrif ers o nofel THE BEGUILED TS U 2.00pm DUNKIRK UNDERPAN U subtitled chwarter 5.30pm of EM Forster’sets and elegant d ffilm 12A CAPTAIN TS 5.30pm DUNKIRK Maw/Tue 22 UNDERPAN hanes 8.15pm dyma addasia 12A CAPTAIN Full of lavishthe film tells the 11.00am 15 subtitled Forster am DUNKIRK 6 11.00am BEGUILED es, 12A Sul/Sun THE glasurol EM a helbulon tri able 2.00pm costum two respect 15 DUNKIRK 2.00pm BABY DRIVER TS U 5.30pm ymblethedigOes Edwardaidd CARS 3 PG stories of UNDERPAN 5.30pm t and Helen yr Llun/Mon 7 CAPTAIN 8.15pm CARS 3 PG Mer/Wed 23 theulu yn Gyda setiau gwych with the 8.15pm sisters, Margare 12A KEDI U 11.00am 15 DUNKIRK ffilm l who collide 11.00am BEGUILED yn Lloegr. mae’r 12A THE Schlege wealthy 2.00pm cain, 15 DUNKIRK dd very 2.00pm subtitled BABY DRIVER TS U a gwisgoe hanes dwy chwaer from 5.30pm world of the CARS 3 PG UNDERPAN U 5.30pm benefiting Maw/Tue 8 CAPTAIN TS 8.15pm yn adrodd a Helen CARS 3 PG one sister tance with the Iau/Thu 24 UNDERPAN 8.15pm 12A Margaret CAPTAIN 11.00am ro â byd DUNKIRK acquain other all but barchus, DRIVER 15 11.00am the gwrthda 12A BABY 2.00pm sy’n 15 the DUNKIRK 2.00pm Schlegel, iawn - un chwaer NATURE U THE BEGUILED Wilcoxes, by it. 5.30pm CARS 3 PG og NUTTY BY 5.30pm ed gyda’r 12A subtitled Mer/Wed 9 NATURE U NUT JOB 2: y cyfoeth 8.15pm DUNKIRK o gysylltu cael ei destroy NUTTY BY Gwe/Fri 25 8.15pm 12A NUT JOB 2: yn 11.00am sydd yn elwa DUNKIRK U 11.00am a’r llall sydd iad. 12A KEDI s, 15 2.00pm DUNKIRK IS MINE Wilcoxe 2.00pm y cyffyrdd NATURE U ENGLAND 5.30pm CARS 3 PG NUTTY BY 5.30pm dinistrio gan Iau/Thu 10 NATURE U NUT JOB 2: 8.15pm CARS 3 PG NUTTY BY Sad/Sat 26 8.15pm 12A NUT JOB 2: 11.00am DUNKIRK U 2.00pm 12A KEDI 15 2.00pm DUNKIRK TS U IS MINE 5.30pm NATURE U UNDERPAN U ENGLAND 5.30pm CAPTAIN TS NUTTY BY Gwe/Fri 11 UNDERPAN NUT JOB 2: MINE 15 8.15pm CAPTAIN IS Sul/Sun 27 11.00am 12A ENGLAND 11.00am DUNKIRK U 2.00pm GAU / CLOSED 12A NATURE AR BY 28 2.00pm DUNKIRK TS U NUTTY Llun/Mon g 5.30pm NATURE U UNDERPAN U NUT JOB 2: 5.30pm CAPTAIN TS NUTTY BY Maw/Tue 29 8.15pm Satellite Screenin Sad/Sat 12 UNDERPAN NUT JOB 2: MINE 15 subtitled £12/£10 8.15pm CAPTAIN Byw/Live IS 11.00am 2017, 120m, Brendan Cowell 12A ENGLAND MINE 15 Darllediad 2.00pm DUNKIRK IS U subtitled 2.00pm Garcia Lorca, 12A NATURE Beattie, ENGLAND BY 5.30pm DUNKIRK Federico Piper, Maureen TS U NUTTY 5.30pm NATURE U UNDERPAN NUT JOB 2: 11.00am CAPTAIN August, 7pm NUTTY BY Mer/Wed 30 Cast – Billie 8.15pm Sul/Sun 13 12A NUT JOB 2: MINE 15 Thursday 31 2.00pm DUNKIRK TS U subtitled IS 11.00am UNDERPAN ENGLAND 5.30pm le Billie Piper END PG 14 CAPTAIN UNDERPANTS U U 7pm 2.00pm incredib Britain) Llun/Mon NATURE Awst, HOWARDS The BY 31 8.15pm Great l, Iau CAPTAIN NUTTY 7.00pm 12A NUT JOB 2: MINE 15 inning 11.00am (Penny Dreadfu l Billie Piper DUNKIRK IS Iau/Thu 31 her award-wis driven 12A ENGLAND 2.00pm 15 Mae’r anhygoe l, Great DUNKIRK TS U returns in woman UNDERPAN U NT LIVE: YERMA 5.30pm i’r rhan CAPTAIN TS (Penny Dreadfu role. A young ble by her Maw/Tue 15 UNDERPAN dychwelyd 8.15pm yn CAPTAIN Actores Britain) 12A subtitled have a to the unthinka iddi wobr DUNKIRK desire to radical d. Yng 12A a roddodd desperate DUNKIRK Stone’s Evening Standar 18) £5 /

st

Awst Augu

Maw/Tue 1

Ffilmiau Awst 2017

Films 2017 August

End Howards

Nut

re y By Natu Job 2: Nutt

Heigl , 2017, 95m Katherine Callan BrunkerChan, Will Arnett, September – Sunday 3 Cast – Jackie Friday 25 August Arnett) squirrel (Will spring – Sul 3 Medi Surly the Gwener 25 Awst friends y wiwer evil Mayor and his animal (Will Arnett) when the Oakton Mae Surly yn dechrau ar into action n) of a’i ffrindiauddaw hi yn amlwg (Bobby Moyniha the park that (Bobby antur pan plans to bulldoze drwg Oakton fod Maer yn bwriadu dinistirio they live in. SAIN N Moynihan) yn byw ynddo. DISGRIFIAD maent AUDIO DESCRIPTIO y parc

I dderbyn bwletinau e-bost wythnosol, crëwch gyfrif ar-lein yn www.pontio.co.uk gan roi tic wrth ymyl ‘Sinema’ yn y categori diddordebau. Dilynwch y newyddion ffilm diweddaraf ar Trydar @sinemapontio a

NTLive: Yerm

Is Mine England 94m

Findlay, 2017, Mark Gill, Lowden, Jessica Brown Cast – Jack

Jodie Comer

31 August

of Steven Friday 25 us the story frontman Mine gives Morrissey, the late England is better known as dus Smiths.) In Iau 31 Awst (soon to be indie band The man struggling bo hir yn adnabyd young (a fydd cyn Smiths, grwp roc au of iconic ‘80s He dreams he is a restless The Hanes Steven y saithdeg seventies his working class roots.and flying y, prif ganwr i music ic fel Morrisse yr ‘80au). Ar ddiwedd l. to escapein a band, writingfascinating cinemat sy’n brwydro mwyaf eiconigifanc aflonydd dosbarth gweithio most A of being daily grind. years of this. mae o’n ddynwrth ei wreiddiau clear of thethe early formative mewn band, d musical legends ddianc oddi ydio am fodhedfan o ddiflasto version of of modern a Mae’n breuddw controversial cerddoriaeth ysgrifennu i ddydd. bywyd dydd – Thursday

Gwener 25 –

48 tio.co.uk 012 www.pon

38 28 28

Orau yr achingly child in Simon radical Simon ion of Lorca’s nghynhyrchiad ith pwerus a ifanc product l masterpiece. Stone o gampwa powerfu caiff dynes h ble theatre dolurus Lorca, The unmissa sold out at the i wneud rhywbet amgyffred ei gwthio call it phenomenon hwnt i bob and critics sydd y tu i gael plentyn. Young Vic inary theatrical ar yn ei hysfa ‘an extraord Times) and yd pob tocyn dd ble’ Gwerthw n theatrai triumph’ (The searing, unmissa gyfer y ffenome Vic ac ‘stunning, . Young hon yn yr (Mail on Sunday) yr yn ei galwal mae’r adolygw theatric dinary yn yn ‘extraor Times) ac ble’ triumph’ (The searing, unmissa ‘stunning, . (Mail on Sunday)

giadau

a gostyn £5 / (o dan 18) £7.50 / Plentyn Oedolyn / Myfyrwyr £5.50 o’r pris tocyn) cael yn Dros 60 £6 3D yn rhan

Tocynnau

lyd ddychwe adau arbennig (Mae sbectol dau byw a digwyddi Bydd darlledia unigol. eu prisio yn

ssions

conce prices and Cinema ticket (under / Child

Adult £7.50 / Student £5.50 3D glasses) lly Over 60 £6 returnable individua the use of Cinema are (Price includes gs and Event Live screenin priced.

8

s3 Mine, Car England is rds End Dunkirk, ma, Howa NT Live: Yer , The Beguiled, Baby Driver pants der re! Captain Un y! and much mo a llawer mw

Archebwch ar pontio.co.uk 01248 38 28 28


sinema

Darllediadau byw i ddod yn Sinema Pontio… ROH Live: The Magic Flute

cinema

Mercher 20 Medi, 7pm Darllediad byw trwy loeren £15/£12.50 gostyngiadau

KING LEAR: Yn fyw o’r Shakespeare Globe

Julia Jones sy’n cyfarwyddo’r cynhyrchiad hudolus hwn o The Magic Flute gan Mozart gyda chast gwych sy’n cynnwys Roderick Williams fel Papageno.

Iau 21 Medi, 7.30pm

£15/£12.50 gostyngiadau

Dyma’r darllediad byw cyntaf o’r Shakespeare Globe eiconig, a bydd y cynhyrchiad newydd hwn o un o ddramâu gorau'r Bard yn siŵr o’ch hudo.

Gweler ein rhaglen sinema fisol i gael gwybodaeth am ddarllediadau byw eraill nad ydynt wedi eu cyhoeddi eto neu cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01248 38 28 28

Mawrth 3 Hydref, 7pm Darllediad byw trwy loeren £15/£12.50 gostyngiadau

Darllediad byw trwy loeren

Mae King Lear (Kevin McNally) yn penderfynu rhannu ei deyrnas rhwng ei dair merch, gan fethu â rhagweld beth fyddai canlyniad hynny.

ROH Live: La Bohème

ROH Live: Alice’s Adventures in Wonderland Llun 23 Hydref, 7pm

Caiff opera angerddol Puccini ei chyfarwyddo gan Antonio Pappano ac mae’n cynnwys cast ifanc gwych sef Nicole Car, Michael Fabiano a Mariusz Kwiecien mewn cynhyrchiad newydd gan Richard Jones.

ROH Live: The Nutcracker

Darllediad byw trwy loeren

Mawrth 5 Rhagfyr, 7pm

£15/£12.50 gostyngiadau

Darllediad byw trwy loeren

Dilynwch Alice lawr y twll cwningen yn y cynhyrchiad bale hwyliog hwn sydd wedi ei ysbrydoli gan lyfr poblogaidd Lewis Carroll.

9

£15/£12.50 gostyngiadau

Mae anrheg hudolus merch ifanc yn mynd â hi ar antur Nadolig hyfryd yn y bale clasurol hwn gaiff ei ddawnsio i gyfeiliant sgôr odidog Tchaikovsky.


Nos Fawrth, 26 Medi 8pm Comedy Central Live a Chlwb Comedi Pontio yn cyflwyno

Andrew Stanley (MC) Eshaan Akbar Rob Rouse Stiwdio £10/£8 gostyngiadau Oedran 16+ Ymunwch â ni yn ein Clwb Comedi Misol yng nghwmni comedïwyr ar daith o amgylch Prydain.

Caniateir diodydd yn y Stiwdio yn nigwyddiadau Comedy Central Live.

10

Gall y comedïwyr a enwir uchod newid – edrychwch ar y wefan am ddiweddariadau.


Cerddoriaeth

vans san E

: Bet

Llun

Nos Wener, 29 Medi 8pm Cabaret Pontio yn cyflwyno

Bob Delyn a’r Ebillion + Bwncath

Theatr Bryn Terfel £14/£13 gostyngiadau Dechrau fel bysgars yn clera ar y stryd wnaeth Bob Delyn a’r Ebillion, ac yna mynd yn fand bach gwerin. Maen nhw wrthi ar ryw lun neu ei gilydd ers Eisteddfod Casnewydd, 1988! Yn ystod y blynyddoedd, bu dylanwadau o bob math ar eu sŵn: Llydewig, jazz,

reggae. Ond o chwarel y traddoddiad Cymraeg mae eu deunydd nhw i gyd. Weithiau ar eu halbym newydd, ‘Dal i ’Redig Dipyn Bach’ (Sain), maen nhw’n edrych yn ôl dros eu hysgwydd tua lle bu dechre’r daith...

11


Dawns

teulu family

Dydd Sadwrn, 30 Medi 11.30am, 2.30pm

Bydd gweithdy creadigol AM DDIM yn dilyn pob sioe!

Barrowland Ballet

Ystafell Cemlyn Jones Pontio, Lefel 2

Poggle

Gweithdy creadigol wedi’i ysbrydoli gan ‘Poggle’ gyda’r artist Tim Pugh. Addas i deuluoedd a ffrindiau.

Stiwdio £6/£20 tocyn teulu a ffrindiau (4 o bobl, o leiaf un dan 18 oed) 6 mis – 4 oed Crëwyd gan Natasha Gilmore gyda’r dawnswyr Jade Adamson a Vince Virr a cherddoriaeth a sain gan Daniel Padden Barrowland Ballet, o ddwyrain Glasgow, yw un o gwmnïau dawns gyfoes mwyaf cyffrous Yr Alban.

Mischief maker Maker of fun Tumble tumble Tickle my tum Beasties beasties Buzzing bees Poggle’s not scared of climbing trees Splash splash Squelch in mud Creeping crawling Chasing bugs

12

Poggle yw stori am Vince sydd am grwydro’r goedwig ond yn rhy ofnus, nes, ryw ddiwrnod, iddo gwrdd â Poggle, creadur clên, a chyda’i gilydd maen nhw’n mynd ar antur drwy’r goedwig. Gyda cherddoriaeth fyw, rhythmau clapio a chomedi drwyddi draw mewn byd dychmygol a newidiol sy’n agored i’r plant ei archwilio.


Digwyddiad Family

Gweithdy Blasu 3.30pm-5pm Stiwdio

Nos Sul, 1 Hydref 6.00pm

Sioeau Cerdd Cwta Sioeau cerdd 10 munud Stiwdio £6 Mewn cydweithrediad â The Other Room ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru Ydych chi'n hoffi sioeau cerdd? Ydych chi'n hoffi gwaith newydd? Mae Sioeau Cerdd Cwta yn gyfle i weld 5 sioe gerdd

newydd sydd wrthi'n cael eu datblygu. Ymunwch â Leeway Productions am noson o hwyl wrth iddynt gyflwyno syniadau newydd sbon am sioeau cerdd theatr wedi eu hysgrifennu a'u cyfansoddi gan 10 o ddarpar gyfansoddwyr sioeau cerdd theatr. Dwyieithog

Bydd Leeway Productions yn cyflwyno gweithdy blasu i bob artist, beth bynnag fo’u profiad, am eu project llwyddiannus 'Sioeau Cerdd Cwta'. Hoffech chi fod yn awdur, cerddor neu gyfansoddwr? Ydych chi eisiau cwrdd â chrëwyr newydd a rhoi cynnig ar ysgrifennu ar gyfer Sioeau Cerdd Theatr? Mae'r gweithdy hwyl hwn yn gyflwyniad i'n project Sioeau Cerdd 10 Munud poblogaidd iawn. Ar gyfer rhai 13+ oed a hyd at 20 o bobl, archebwch yn gynnar rhag i chi gael eich siomi. Dwyieithog

13


Drama

Nos Fawrth, 3 Hydref 7.30pm Theatr Bara Caws yn cyflwyno

Dim Byd Ynni

neu Dirgelwch Plas Dolbythwyrdd Theatr Bryn Terfel £12/£10 gostyngiadau gan Emlyn Gomer Cyfarwyddo: Betsan Llwyd Beth yw cyfrinach Syr Felix ap Llywarch? Faint o ledi yw Angela? Beth ddaeth â Dylan Tudur nôl i’r Plas? Faint o actores yw Candi Mêl? Beth yn union mae Geriach y bwtler yn ei wybod? Faint o ddihiryn yw Malcom Leech? Bywyd pwy sydd mewn

perygl, a pham? A, all yr Arolygydd Carnben ddatrys pob dirgelwch cyn ei bod yn rhy hwyr? Ffars i’r teulu cyfan. Cast: Rhian Blythe, Iwan John, Rhodri Evan, John Glyn Owen, Christine Pritchard, Rhys Parry Jones.

14


Drama

Nos Iau 5 Hydref 8pm Nos Wener 6 Hydref 8pm Áine Flanagan Productions, Seiriol Davies, Young Vic co-production

How To Win Against History Bydd sgwrs AM DDIM i ddilyn y perfformiad ar Gwener 6 Hydref

Stiwdio £12/£10 gostyngiadau Roedd Henry Cyril Paget, 5ed Marcwis Môn, yn un o ddynion cyfoethoca'r byd, nes iddo golli'r cyfan trwy ei oferedd anhygoel. Daw’r cymeriad rhyfedd a rhyfeddol yma’n fyw yn sioe gerdd ffyrnig, ddoniol, drasig-ysblennydd, gyhyrog, newydd Seiriol Davies. Roedd

ei pherfformio’n un o binaclau gŵyl y Fringe yng Nghaeredin yn 2016 lle cafodd ganmoliaeth di-ben-draw. Taith Cymru wedi ei chefnogi gan Gronfa Loteri Genedlaethol Cyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad â Pontio. 15

"A work of genius" The Daily Telegraph

"Gleeful, ludicrous - a larky collision of Gilbert & Sullivan and Monty Python" Time Out


Syrcas

Dydd Sul, 8 Hydref 2pm

llun: Linh Ho ang

As a Tiger in the Jungle Theatr Bryn Terfel £10/£8 gostyngiadau gan Cirkus Xanti (Norwy) a Chynyrchiadau Ali Williams (Cymru) Bydd y tri pherfformiwr o Asia yn gofyn cwestiynau am fywyd, cariad, tlodi a thrachwant. Gan ddefnyddio geiriau, symudiadau, syrcas a seremoni, byddant yn adrodd yr hanes am sut y gwnaethant oroesi eu plentyndod er gwaetha amgylchiadau anodd a llwyddo i greu eu tynged eu hunain. Mae hwn yn berfformiad ysbrydoledig, diffuant, amrwd a thwymgalon am fywyd a'r syrcas, adloniant a myfyrio.

Cynhyrchwyd drwy bartneriaeth ryngwladol rhwng cyfarwyddwyr artistig o ddau gwmni syrcas enwog yn Ewrop. Bydd As a Tiger in the Jungle yn brofiad syrcas theatrig unigryw! Cast: Renu Ghalan (Nepal), Aman Tamang (Nepal), Loan TP Hoang (Fietnam/Norwy) Crëwyr: Cyfarwyddwr/Awdur: Sverre Waage (Norwy), Cynhyrchydd Creadigol: Ali Williams (Cymru), Cynorthwyydd coreograffi: Hannah Mjaavatn (Ynysoedd y Philipinau/Norwy) 16

Cyfansoddwr/Cerddoriaeth: Per Zanussi (Norwy/Yr Eidal), Dylunio: Rhi Matthews (Cymru) a Tarn Aitken (Lloegr). Cerddorion (dim cerddoriaeth fyw): Per Zanussi, Harpreet Bansal (India/Norwy), Sanskriti Shrestha (Nepal/Norwy) Ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Norwy, Ffuk, Spenn, DTS/FD/Stikk, Cefnogwyd gan nofitstate, Pontio, Baerum Kulturhus, PIT, Black-E, Chora Chori Nepal Canllaw oed: 12+


Comedi

Nos Fercher, 11 Hydref 8pm Off the Kerb yn cyflwyno

Phill Jupitus Juplicity

"A talented focused wordsmith" Fest

"… a true comic talent”

Theatr Bryn Terfel

Manchester Evening News

£15 Ymunwch â Phill Jupitus, comedïwr, bardd, byrfyfyriwr a seren deledu, am fwy nag awr o straeon a chwerthin. Gwyliwch mewn rhyfeddod a/neu syndod wrth i’r dyn doniol profiadol hwn wneud hwyl am ben anrhefn ei fywyd. Themâu a sefyllfaoedd ar gyfer oedolion, ond wedi eu cyflwyno mewn modd plentynnaidd.

2000 gan ymddangos ar Live at the Apollo (BBC1). Mae Phill yn westai rheolaidd ar I’m Sorry I Haven’t a Clue a The Unbelievable Truth ar BBC Radio 4 ac roedd yn guradur preswyl ar The Museum of Curiosity. Canllaw oed: 14+

Daeth Phill yn wyneb cyfarwydd pan ddechreuodd fel capten ar un o’r timau yn y cwis pop Never Mind The Buzzcocks ar BBC2 yn 1996, rhaglen a aeth ymlaen i gael ei darlledu am 19 mlynedd. Yn ogystal â Never Mind the Buzzcocks a sioeau stand-yp byw ar draws Prydain, mae hefyd yn ymddangos yn rheolaidd fel gwestai ar QI (BBC2) ac ar Alan Davies As yet Untitled (Dave), ac yn 2012 dychwelodd i fyd stand-yp teledu am y tro cyntaf ers 17


Cerddoriaeth

Nos Iau, 12 Hydref 7.30pm

Clare Hammond Piano Theatr Bryn Terfel £14/£12 gostyngiadau /£5 myfyrwyr a rhai dan 18 HAYDN Fantasia yn C fwyaf, Hob XVII: 4 (5') CHIN Études Nos. 4-6 (9') SCHUBERT 4 Impromptus, D. 899 (30’) EGWYL BEETHOVEN Sonata Rhif 30 yn E fwyaf, Op. 109 (18’) SCRIABIN Sonate-Fantasie Rhif 2, Op. 19 (11’) STRAVINSKY Petroushka Suite (15’) Acclaimed as a pianist of “amazing power and panache” (The Telegraph),

Caiff Clare Hammond ei chydnabod am ragoriaeth ac awdurdod ei pherfformiadau ac mae hefyd wedi datblygu “reputation for brilliantly imaginative concert programmes” (BBC Music Magazine, ‘Rising Star’). Enillodd 'Gwobr Artist Ifanc' y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol fel cydnabyddiaeth o’i llwyddiannau arbennig yn 2016. Roedd ei huchafbwyntiau'r llynedd yn cynnwys perfformio yn y Royal Festival Hall gyda'r Philharmonia a chyfres o gyngherddau yn y Belfast International Arts Festival, a ddarlledwyd ar gyfer 18

cyfres cyngherddau amser cinio BBC Radio 3. Mae projectau'r dyfodol yn cynnwys y perfformiad cyntaf o'r Concerto ar gyfer piano a chwythbrennau gan Edwin Roxburgh gyda Cherddorfa Symffoni'r BBC a recordiadau cyntaf drwy'r byd o ddau goncerto gan Myslivecek gyda Cherddorfa Siambr Sweden a'r arweinydd Nicholas McGegan ar gyfer BIS. Astudiodd Clare ym Mhrifysgol Caergrawnt a chwblhaodd ddoethuriaeth gyda Ronan O’Hora yn y GSMD a'r Athro Rhian Samuel ym Mhrifysgol Dinas Llundain.


Comedi

Nos Sadwrn, 14 Hydref 7.30pm Off the Kerb yn cyflwyno

Ali Cook: Principles of Deception Stiwdio

Daw enw’r sioe o gyfres hud arloesol Arthur Buckley, Principles and Deceptions, sef y llyfr cyntaf i gategoreiddio pob tric hud, ac mae’r sioe yn dangos camp Ali Cook fel hanesydd hud a lledrith. Dyma ddosbarth meistr o ddisgyblaethau hud, gan gynnwys hud agos, darllen meddyliau, ystrywiau, triciau llaw a champau dianc. Bydd hon yn noson o ddyfeisio ac ail-ddyfeisio hud.

Broadway Baby

"Immensely Funny" Daily Telegraph

"His tricks are dazzling" The Daily Mail

£13/£11 gostyngiadau Daw seren rhyfeddodau hud a lledrith y West End a’r sgrin fawr Ali Cook a'i sioe hynod boblogaidd Principles of Deception i Pontio. Mae ganddo ei frand unigryw ei hun o hud syfrdanol a chomedi.

"The Show is Perfection"

"Supremely talented" Serennodd Ali yn Impossible, sioe wefreiddiol a lledrithiol yn y West End, yn ogystal ag mewn rhaglenni hud arbennig ar y teledu gan gynnwys Penn & Teller: Fool Us (ITV), Dirty Tricks (Channel 4), Secret World of Magic (Sky One) a Now You See It (BBC One). Mae hefyd yn cyd-serennu yn y sioe gomedi wleidyddol How To Sell A War gyda Sharon Horgan. Canllaw oed: 8+

19

Time Out


Cerddoriaeth

Nos Fercher, 18 Hydref 7.30pm Music Theatre Wales

The Golden Dragon Theatr Bryn Terfel £15 oedolyn / £12 dros 60 / £5 myfyrwyr a dan 18 Gan Peter Eötvös Yn seiliedig ar y ddrama gan Roland Schimmelpfennig Mae The Golden Dragon wedi ei lleoli mewn bwyty Tsieineaidd, fel a geir yn unrhyw ddinas yn unrhyw le, ac mae’n chwedl rymus am fywyd modern. Darganfod dant wedi pydru mewn bowlen o gawl sydd wrth wraidd y stori. Dant bachgen sy’n gweithio yn y gegin ydyw, bachgen sy’n bell o gartref a heb unrhyw bapurau. Mae'n chwilio am ei chwaer, ond

mae hi wedi cael ei gorfodi i fath gwahanol iawn o wasanaeth drws nesaf... Mae’r opera newydd, wych hon yn ddoniol ac ysgytiol i’r un graddau ac yn cyfleu erchylltra cynifer o eneidiau coll. CYFARWYDDWR Michael McCarthy ARWEINYDD Geoffrey Paterson DYLUNYDD Simon Banham GOLEUO Ace McCarron

Stiwdio 6.30pm

“Music Theatre Wales’s performance is exemplary in its clarity and simplicity. The pacing is masterly, as is the passage from two-dimensional cartoon-like farce to resonant human tragedy: I began being baffled and amused, but I ended up haunted and moved.” The Telegraph

Sgwrs cyn y sioe

Bydd y Cyfarwyddwr Michael McCarthy yn trafod y cynhyrchiad. AM DDIM ond bydd angen tocyn. 20


Cerddoriaeth

Nos Wener, 20 Hydref 8pm Cabaret Pontio yn cyflwyno

Lankum

”The most convincing band to come out of Ireland for years”

Theatr Bryn Terfel

The Guardian

£14/£13 gostyngiadau Enwebwyd am wobr 'Grŵp Gorau' a gwobr 'Albwm Gorau' (Cold Old Fire) Gwobrau Gwerin BBC Radio 2 2016

baledi clasurol o draddodiad Teithwyr, alawon dawns traddodiadol Gwyddelig ac Americanaidd, a'u deunydd gwreiddiol eu hunain.

Mae Lankum (Lynched) yn grŵp gwerin traddodiadol gyda phedwar aelod o Ddulyn yn Iwerddon, sy'n cyfuno harmonïau lleisiol pedwar darn gyda threfniadau o bibau uilleann, concertina, acordion Rwsiaidd, ffidil a gitâr. Mae eu rhaglen yn cwmpasu pytiau o ganeuon doniol o gyngherddau neuaddau a chaneuon stryd Dulyn,

Mae'r grŵp wedi cwblhau taith chwe wythnos ar draws yr Unol Daleithiau o un arfordir i'r llall, yn ogystal â pherfformio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ochr yn ochr ag artistiaid amlwg yn cynnwys Blackbird Raum, Harry Bradley, Daoiri Farrell, Fred Fortune, Mike Gangloff, Paddy a Séamus Glackin, Barry Gleeson, Landless, Lau, Leyla McCalla, Jem 21

Mitchell, Liam O’Connor a Seán McKeon, Morgan O’Kane, Lisa O’Neill, Tim Scanlon a Skipper’s Alley. Chwaraeodd y band set ysgubol yn yr ŵyl Cysylltiadau Celtaidd, lle cawsant eu bachu ar gyfer Gŵyl Werin Caergrawnt ac Wythnos Werin Sidmouth 2015. Wedi hynny gwnaethant berfformio'n fyw ar y rhaglen deledu Later With Jools Holland ac yna aethant ar daith lwyddiannus drwy’r DU pan werthwyd pob tocyn.


Gig

Nos Sadwrn, 21 Hydref 8pm

Clawr

Albwm

Newy

Lansiad Albwm Newydd

dd ga

n Llŷr

Pierce

Y Niwl Omaloma Pasta Hull Ffracas Theatr Bryn Terfel £10 ymlaen llaw/£12 ar y noson Mae Y Niwl yn ôl gyda’u hail albwm hir-ddisgwyliedig o’r un enw. Y llynedd, teithiodd y band i Stiwdio Mwnci ym mhellafoedd Sir Benfro i recordio deg trac o’u syrff offerynnol unigryw, ac o’r

diwedd, mae’r canlyniad yn barod i’w glywed. Byddwch yn barod am noson sy’n siŵr o’ch denu i ddawnsio wrth i’r pedwarawd ddod â thonnau de Califfornia i lannau gogledd Cymru.

22

Bydd Omaloma, Pasta Hull a Ffracas yn cefnogi Y Niwl ar y noson.


Drama

Nos Fawrth, 24 Hydref 7.30pm Fio

The Mountaintop Stiwdio £12/£10 gostyngiadau Mae The Mountaintop yn bortread ffuglennol o noson olaf Martin Luther King ar y ddaear. Mae King yn cael ymweliad yn ei ystafell yn y motel ym Memphis gan Camae, morwyn sydd ar berwyl llawer pwysicach na dod â choffi iddo. Enillodd The Mountaintop gan Katori

Hall wobr Olivier am y ddrama newydd orau ac mae'n ddrama afaelgar, berthnasol gyda llawer o hiwmor. Canllaw oed: 12+ Peth iaith gref Cyflwynir gan Fio, cwmni sy'n awyddus i amrywiaethu theatr yng Nghymru 23

'Shayek’s production is a strong one that drills home Dr King’s repeated line: “We’ve still got so much work to do.”' The Stage

'The Mountaintop' is a truly inspiring, moving and compelling performance. Do not miss this – it’ll stay with you for a very long time.' The Reviews Hub


Dawns

Nos Sadwrn, 28 Hydref 7.30pm Dydd Sul, 29 Hydref 3pm

. E . D . A . R P.A. Ardal berfformio tu allan i Pontio a Theatr Bryn Terfel £14.50/£12.50 gostyngiadau Cyflwynir gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Marc Rees Mewn cydweithrediad â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Dawns i Bawb. Yn cynnwys dawns, cerddoriaeth a robot awyr afreolus, mae P.A.R.A.D.E yn wledd i’r llygaid wedi ei greu gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a’r artist Marc Rees. Ymunwch â ni tu allan wrth i’r protestiadau fagu stêm, y gorymdeithiau’n cyrraedd a’r areithwyr yn dringo i’r llwyfan – ond a yw popeth fel yr ymddengys? Wrth i chi gael eich tywys trwy’r gosodiad-celfyddydol er

mwyn mynd i’ch seddau yn y theatr, fe fyddwch yn clywed sain gogoneddus Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a’ch trochi mewn dau ddarn o ddawns: comisiwn newydd gan Marcos Morau a'r darn nas gwelir yn aml, Parade, a ail-grëwyd gan gyfarwyddwr artistig CDCCymru Caroline Finn. Mae’r digwyddiadau hyn yn ail-greu perfformiad cyntaf Parade ganrif yn ôl ym 1917. Yn chwyldroadol ac yn achos tramgwydd, roedd yn gywaith artistig rhwng y coreograffydd Leonide Massine, yr awdur Jean Cocteau, y cyfansoddwr Erik Satie, a’r cynllunydd Pablo Picasso ar gyfer y cwmni dawns Ballets Russes,

24

a osododd y seiliau ar gyfer y mudiad swrrealaidd. Mae P.A.R.A.D.E yn rhan o dymor Rwsia ’17 sy’n nodi canrif ers y chwyldro Rwsiaidd ac yn cynnwys ystod o ddigwyddiadau sy’n cyfleu ffrwydrad cymdeithasol a diwylliannol y cyfnod a chysylltiadau hanesyddol Cymru â Rwsia ar y pryd. www.R17.wales Mae’r digwyddiad awyr agored yn rhad ac am ddim a gallwch ddod draw ar y diwrnod. Mae angen tocyn ar gyfer y perfformiad yn y theatr a ellir ei brynu o flaen llaw neu ar y dwirnod. Oedran: 8+ (neb dan 2)

Teipograffeg Wreiddiol: Shaun Doyle Ffotograffiaeth: Kirsten Mcternan Dylunio: Height


O R D L Y W MAE CH T N Y W G Y YN 'R ’A Â H C W N YMU E . D . A . R . P.A

Satie: cerddoriaeth a bywyd anarferol Gwener, 27 Hydref, 1-2pm Stiwdio, AM DDIM ond angen tocyn

REVOLUTION IS IN THE AIR JOIN THE P.A.R.A.D.E

‘It’s not a question of Satie’s relevance. He’s indispensable’ meddai John Cage. Wrth i ni edrych ymlaen at P.A.R.A.D.E. gan y Cwmni Dawns Cenedlaethol, rydym am edrych ar fywyd a cherddoriaeth Erik Satie ac yn arbennig ei gydweithrediad â Cocteau, Picasso a Diaghilev, yn Parade yng nghwmni’r Athro Chris 25 Collins, Pennaeth Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.


Gweithgareddau hanner-tymor

Dydd Mawrth, 31 Hydref 10.30am-11.30am (dweud stori yn Gymraeg) 12.00pm-1pm (dweud stori yn Saesneg) 1.30pm-2.30pm (dweud stori yn Gymraeg) 3pm-4pm (dweud stori yn Saesneg)

Caban Calan Gaeaf

Adrodd storïau a chrefftau arswydus Caban, tirwedd Pontio Lefel 2 a’r Stiwdio £4.50 Ymunwch â ni yn ystod gwyliau'r ysgol i gael storïau arswydus yn y Caban, sef ein celf gyhoeddus yn yr awyr agored. Yn addas i blant 4-7 oed, ond yn agored i bawb. Gwisgwch eich hoff ddillad gwisgo i fyny Calan Gaeaf a dewch â chôt gyda chi

i gadw'n gynnes. Bydd gweithdy creadigol tu allan i'r Stiwdio ar lefel 2 ar ôl y sesiwn dweud stori. Mae'n rhaid i'r plant fod yng nghwmni oedolyn. Bydd lle i hyd at 15 o bobl.

26

teulu family


Dydd Mercher, 1 Tachwedd 2pm

Ghostbusters (12A)

teulu

Sinema Pontio

family

£2.50 i bawb Ivan Reitman, 1984, 105 munud Y fersiwn glasurol a wnaed yn 1984 yn cynnwys Bill Murray, Dan Aykroyd, Sigourney Weaver, Harold Ramis, Annie Potts a Rick Moranis. Mae tri o baraseicolegwyr mewn prifysgol yn colli eu grantiau ymchwil a'u

hygrededd pan benderfyna'r Deon nad oes unrhyw le i'w damcaniaethau, dulliau a chasgliadau yn ei sefydliad mawreddog. Gan eu bod yn ddi-waith, maent yn penderfynu sefydlu eu busnes eu hunain fel gwaredwyr goruwchnaturiol proffesiynol. Gan ddechrau gyda dim

ond gorsaf dân wedi'i throsi a hen ambiwlans, mae'r Ghostbusters yn datblygu'n sydyn i fod yn arwyr lleol pan welir cynnydd dramatig mewn gweithgarwch paranormal yn y ddinas ac mae malws melys enfawr yn bygwth ei bodolaeth.

Light the blue touchpaper! Dydd Iau, 2 Tachwedd, 1–2pm Theatr Bryn Terfel AM DDIM Dewch i gynnau'r cynnwrf a mwynhau'r sain! Cewch danio tân gwyllt sonig anweledig gan ddefnyddio system sain aml-seinydd Electroacwsteg Cymru. Dyma arddangosfa ymarferol sy'n addas i bob oedran.

Nifer cyfyngedig o leoedd, felly cofrestrwch yn fuan rhag cael eich siomi. Bydd angen oedolyn gyda phlant dan 8. 27


Cerddoriaeth

Music

Nos Iau, 2 Tachwedd 7.30pm Electroacwsteg CYMRU

Sparks in the Dark: Noson o dân gwyllt sonig Theatr Bryn Terfel £10/£8 gostyngiadau /£5 myfyrwyr a rhai dan 18 Cyngerdd gyda thema tân a thân gwyllt, gyda'r cyfansoddwr gwadd Adrian Moore. Mae Adrian Moore yn ffigwr blaenllaw mewn cerddoriaeth acwsmatig yn y DU, a nodweddir ei waith gan yr ymdeimlad

o egni ffrwydrol a'i drawsffurfiadau sonig rhyfeddol. Bydd y noson yn cynnwys amrywiaeth ysgubol o 'dân gwyllt' sonig anweledig, ynghyd â'r gorau o gerddoriaeth acwsmatig ddiweddar yng Nghymru.

28

Perfformir y rhaglen gan 'Acousmonium' Electroacwsteg CYMRU, sef cerddorfa o uchelseinyddion yn llenwi pob rhan o Theatr Bryn Terfel, gan greu profiad gwirioneddol wefreiddiol o sain mewn gofod.


Drama

Dydd Gwener, 3 Tachwedd Dydd Sadwrn, 4 Tachwedd 11.30am, 2.30pm Goblin Theatre

Peter and the Wolf Stiwdio £6/£20 Tocyn Teulu a Ffrindiau (4 o bobl, o leiaf un dan 18) Mae Peter a'i daid wedi mynd i wersylla am y penwythnos. Mae taid yn dweud wrth Peter am aros yn y gwersyll ond mae gan Peter syniadau eraill.... Ymunwch â Peter ar antur ddoniol drwy'r caeau a'r coedwigoedd wrth iddo ddarganfod seiniau a synau newydd. Mae'n cynnwys giamocs anifeilaidd gydag

Bydd gweithdy creadigol AM DDIM yn dilyn pob sioe.

adar yn canu, hwyaid yn honcian, cathod snichlyd, a blaidd yn rocio. Ysbrydolwyd y gerddoriaeth newydd hon gan glasur Prokofiev, felly dyma Pedr a'r Blaidd ar ei newydd wedd.

offerynnau a gwrthrychau, yn cynnwys llysiau cerddorol go iawn. Mae'r sioe yn cynnwys pypedau llawn dychymyg, comedi corfforol a hwyl rhyngweithiol, felly bydd plant 4+ oed wrth eu boddau.

Mae Peter and the Wolf gan Goblin yn sioe newydd sbon gyda cherddoriaeth anhygoel a berfformir yn fyw gydag amrywiaeth o

Cefnogir gyda chyllid cyhoeddus trwy Gyngor Celfyddydau Lloegr.

29

www.goblintheatre.co.uk @goblintheatre


Cerddoriaeth

Nos Wener, 3 Tachwedd 8pm Cabaret Pontio yn cyflwyno

Saz'iso

The Joys and Sorrows of Southern Albanian Song Theatr Bryn Terfel £14/£13 gostyngiadau Mae Saze yn deillio o dirwedd llwm De Albania, sef cerddoriaeth bolyffonig gyda'r gallu i hudo unrhyw wrandäwr, hyd yn oed os nad ydynt yn gyfarwydd â diwylliant y wlad ynysig hon. Ysbrydolwyd yr offerynnau trefol fel y clarinét a'r fiola gan ganu iso-polyffonig y pentrefi lle mae'r unawdwyr yn dilyn y patrymau hynafol

o leisiau yn 'arwain' a 'thorri' i greu chwyrliadau byrfyfyr o amgylch yr alaw, gyda'r naws yn amrywio o'r blws hiraethus yn y 'kaba' i ddawnsiau llawen. Mae aelodau'r ensemble, a ddewiswyd yn arbennig , yn cynnwys rhai o berfformwyr cyfoes gorau’r arddull hwn sy'n tarddu o Saze o amgylch trefi hardd Korça a Përmet, 30

ac maent yn rhoi cipolwg i ni ar draddodiadau cerddorol diddorol Albania. "music... that beautifully navigates the different and the familiar" Glitterbeat


Dydd Sul, 5 Tachwedd 5pm Take 2 the Stage yn cyflwyno

Magic of the Musicals Stiwdio £10.50 Mae myfyrwyr Ava Smyth yn yr ysgol ddrama enwog ym Mangor wedi bod yn gweithio'n galed drwy'r flwyddyn i lwyfannu'r perfformiad diwedd blwyddyn ysblennydd hwn.

Mae Magic of the Musicals yn gymysgedd perffaith o ganeuon, dawnsio a drama. Ymunwch â ni ar daith drwy Broadway a thu hwnt, gyda chaneuon poblogaidd o Annie, Hairspray, The Sound of Music ynghyd â rhai o’r

31

hoff ganeuon poblogaidd heddiw. Mae Magic of the Musicals yn rhoi cyfle i blant lleol ymddangos ar y llwyfan .. felly peidiwch â cholli eu cyfle mawr i serennu!


Dance

Dydd Mercher, 8 Tachwedd 1.30pm Frân Wen

Mwgsi Stiwdio £10 (gostyngiad o 10% i grwpiau o 10 neu fwy) Yn seiliedig ar stori wir, dyma ddrama greulon o onest, llawn hiwmor tywyll gan Manon Steffan Ros am yr enwogrwydd a’r unigrwydd o fod yn berson ifanc sy’n byw gyda chancr. "O’dd o’n mynd i fod yn epic. O’n i’n ferch 18 oed gyffredin. Stres Lefel A tu cefn i mi. O’n i’n barod am haf llawn rosé cyn cychwyn gradd nyrsio. "Yna bang! Dim ‘duty free, pis-yp a lliw haul i fi. Blwyddyn mwya sh*t eto."

Yn hytrach na haf llawn gwin, gwyliau a giamocs mae Mwgsi'n wynebu chemo, salwch a’r unigrwydd rhyfedd o fod yn ffigwr trasig.

sy’n mynnu ein bod ni fel cynulleidfa, o bob oed, yn dod wyneb yn wyneb â'n dyfodol ansicr ni’n hunain.

Mae'r cynhyrchiad wedi ei seilio ar flog didwyll Megan Davies (www.mwgsi.com), oedd yn cofnodi ei phrofiad o ddygymod â thriniaeth cancr yn ddeunaw oed.

Cast: Mirain Fflur, Catrin Mara a Ceri Elen

Mae’r tensiwn rhwng Mwgsi, ei ffrindiau, ei theulu a hi ei hun yn cynnig darn o theatr llawn hiwmor tywyll

Oedran: 14+

32

Cyfarwyddwr: Iola Ynyr Awdur: Manon Steffan Ros Bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn


33


Nos Wener, 10 Tachwedd 7.30pm – PREMIÈRE Y BYD Nos Sadwrn, 11 Tachwedd 7.30pm OPRA Cymru mewn partneriaeth â Pontio a Phrifysgol Bangor

Wythnos yng Nghymru Fydd Theatr Bryn Terfel £15/£7.50 myfyrwyr a dan 18 Opera gan Gareth Glyn a Mererid Hopwood

Bydd y Cast a’r Gweithwyr Creadigol yn cynnwys:

Yn seiliedig ar nofel Islwyn Ffowc Elis

Gwawr Edwards, Sian Meinir, Euros Campbell, Sion Goronwy, Robyn Lyn Evans, Eleri Gwilym, Ilar Rees Davies, Gethin Lewis, Seimon Menai; Corws Ysgol Glanaethwy

A hithau wedi bod yn flwyddyn gynhyrchiol i opera yn yr iaith Gymraeg, caiff gweledigaeth Islwyn Ffowc Elis am ddyfodol ei famwlad – sy’n rhannol iwtopaidd, ac yn rhannol ddystopaidd – ei gwireddu ar y llwyfan operatig mewn fersiwn gyffrous gan ddau o artistiaid mwyaf creadigol Cymru, sef y cyfansoddwr Gareth Glyn a’r Prifardd Mererid Hopwood. 60 mlynedd ers cyhoeddi’r nofel, daw unig gwmni opera Cymraeg y byd â chast disglair o gantorion ynghyd i roi bywyd cerddorol newydd i’r stori rybuddiol hon am gariad, colled, cymuned a pherthyn.

Arweinydd Iwan Teifion Davies Cyfarwyddwr Patrick Young Dylunydd Lois Prys Dylunydd Goleuo Gwion E. Llwyd Ysgrifennwyd yr opera yn bennaf yn Gymraeg, ond diolch i Sibrwd, yr ap ffôn symudol, bydd modd i’r di-Gymraeg ddilyn y perfformiadau hefyd. Cyflwynir yr opera gyda chaniatâd caredig Ystâd Islwyn Ffowc Elis a Gwasg Gomer. 34

Sgwrs cyn y sioe Nos Wener 10 Tachwedd 6.15pm, Stiwdio Sgwrs wedi ei chadeirio gan Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio, gyda libretydd y cynhyrchiad Mererid Hopwood a’r cyfansoddwr Gareth Glyn. AM DDIM ond bydd angen archebu tocyn.


35


Cerddoriaeth Drama

Dydd Sul, 12 Tachwedd 3pm

Cyngerdd Preliwd: Her Cerddoriaeth Siambr Tudur Owen

Ensemble Cymru

Ensemble Cymru – Taith Pen-blwydd Stiwdio Safonol: £12 (cynnig archeb buan £9.60) Gostyngiad: £10 (cynnig archeb buan £8) Myfyriwr neu blentyn: £5 (cynnig archeb buan £4)

2:15pm Mynediad am ddim gyda thocyn i’r cyngerdd Fel rhan o raglen arbennig i Radio Cymru, bydd y cyflwynydd a chomedïwr, Tudur Owen, yn rhoi ei berfformiad cerddoriaeth siambr am y tro cyntaf erioed ochr yn ochr â'r offerynnwr taro, Dewi Ellis Jones.

Cynnig archeb buan ar gael tan Hydref 13

Cerddoriaeth i'r delyn, piano, ffliwt, clarinét, fiola, feiolín a sielo Cerddoriaeth Siambr Rhif 1 – Bohuslav Martinu Pedwarawd Piano yn A leiaf – Gustav Mahler Concert a Cinq – Joseph Jongen Not the Stillness – John Metcalf Block – Claire Roberts

Bydd prif ensemble cerddoriaeth siambr Cymru, Ensemble Cymru, yn dathlu ei ben-blwydd yn 15 oed eleni, gyda chyngerdd estynedig ac arbennig iawn yn Pontio yn yr hydref. Bydd yn dwyn ynghyd gerddorion byd-enwog sy'n teimlo'n angerddol am rannu cerddoriaeth siambr brin o Gymru a'r byd. Bydd Ensemble Cymru yn canolbwyntio ar 36

gyfansoddwyr o Gymru gyda pherfformiad o Not the Stillness gan John Metcalf a gwaith cyfansoddwr newydd ifanc o Gymru, Claire Roberts. Bydd hefyd yn gyfle prin i glywed perfformiad byw o Cerddoriaeth Siambr Rhif 1 gan Martinu, sydd â'r cyfuniad anghyffredin o'r delyn a'r piano. Hyd: 90 munud (yn cynnwys egwyl 15 munud)


Nos Fawrth, 14 Tachwedd 8pm Comedy Central Live a Chlwb Comedi Pontio

Danny Ward (MC) Henry Paker Dan Nightingale Stiwdio £10/£8 gostyngiadau Oedran 16+ Ymunwch â ni yn ein Clwb Comedi Misol yng nghwmni comedïwyr ar daith o amgylch Prydain.

Caniateir diodydd yn y Stiwdio yn nigwyddiadau Comedy Central Live.

37

Gall y comedïwyr a enwir uchod newid – edrychwch ar y wefan am ddiweddariadau.


Circus

Dydd Mawrth, 14 Tachwedd 7.30pm Dydd Mercher, 15 Tachwedd 2pm, 7.30pm Dydd Iau, 16 Tachwedd 7.30pm Pirates of the Carabina yn cyflwyno

FLOWN Theatr Bryn Terfel £16/£14 dros 60/£10 dan 18 oed a myfyrwyr Maent yn dychwelyd oherwydd y galw mawr ar ôl eu perfformiad yn y babell fawr ar Ffordd y Traeth yn 2015! Mae FLOWN yn eich gwahodd i fyd hudolus y syrcas cefn llwyfan, lle mae bywyd yn troedio'r weiren uchel a swingio o'r trawstiau yn hollol ynfyd a hyfryd. Ond mae anghytuno, blinder

a phob math o droeon trwstan yn bygwth difetha'r sioe ac mae trychineb dim ond un cam i ffwrdd! Gan gymysgu comedi ac anhrefn gyda champau corfforol a cherddoriaeth fyw, mae FLOWN yn fawr, yn brydferth ac yn fentrus o wallgo ac yn y diwedd wrth gwrs, mae popeth yn hedfan - hyd yn oed y band!

38

Gan droi o chwith bopeth rydych yn meddwl rydych yn ei wybod am y syrcas, bydd FLOWN yn cyfareddu'r holl deulu ac yn eich taro'n fud. Os collo chi’r sioe hon y tro cyntaf, gwnewch yn siwr nad ydych yn gwneud yr un camgymeriad eto!


"A mesmerising family show� Wales Online

"Skin-tinglingly good� Time Out

39


Cerddoriaeth Music

Nos Wener, 17 Tachwedd 7.30pm Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Beethoven gyda Xian Zhang Neuadd Prichard-Jones £15/£13.50/£5 Tocynnau Teulu: £15/20 Beethoven Symffoni Rhif 2 Tchaikovsky Amrywiadau ar Thema Rococo Beethoven Symffoni Rhif 4 Xian Zhang Arweinydd Alexey Stadler Cello Mae prif arweinydd gwadd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Xian Zhang, wedi dewis dwy o symffonïau Beethoven a berfformir yn

llai aml ar gyfer perfformiad arbennig ym Mangor, fel rhan o gyfres Beethoven ehangach o amgylch Cymru. Bydd yn cyfuno natur annisgwyl a hiwmor chwareus yr ail symffoni, gyda hwyl heintus a diweddglo ffrwydrol y bedwaredd. Rhwng y ddwy symffoni, bydd y sielydd o Rwsia, Alexey Stadler, yn chwarae'r darn urddasol a swynol, Amrywiadau ar Thema Rococo gan Tchaikovsky. 40

Ymunwch â ni ym Mar Ffynnon ar ôl y cyngerdd am rywbeth bach ychwanegol pan fydd Band Pres Llareggub yn jamio yn y bar gydag aelodau o BBC NOW a chyfle i aelodau o’r cyhoedd ymuno. Digwyddiad ar y cyd rhwng Pontio a BBC NOW TOCYNNAU - AM DDIM. Ymunwch â ni ar ôl y cyngerdd


Digwyddiad

Nos Wener, 17 Tachwedd 7.30pm Lakin McCarthy yn cyflwyno

RUBY WAX FRAZZLED! Theatr Bryn Terfel £20/£18 gostyngiadau

gostyngiad o 10% i grwpiau o 10 neu fwy

Mae Ruby Wax, a aned yn UDA, yn ddigrifwraig, actores ac awdur poblogaidd yn ogystal â bod yn ymgyrchydd iechyd meddwl. Mae ganddi radd Meistr mewn Therapi Gwybyddol ar sail Ymwybyddiaeth Ofalgar o Brifysgol Rhydychen.

Dilyniant yw’r digwyddiad hwn i’w sioe a’i llyfr hynod boblogaidd ‘Sane New World’, sy’n ein helpu i ddeall pam ein bod yn tanseilio ein pwyll gyda'n meddyliau ni ein hunain.

41

Sail y drafodaeth yw ei llyfr poblogaidd newydd ‘A Mindfulness Guide for the Frazzled’. Yn ddoniol a threiddgar, mae’r digwyddiad hwn yn basbort i fywyd callach. Efallai nad yw hi’n hanner- call, ond mae hi’n dynwared y cyflwr yn eithaf da.


Cerddoriaeth Music

Nos Sadwrn, 18 Tachwedd 8pm Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Pontio yn cyflwyno

BBC NOW/Richard James Theatr Bryn Terfel £16/£14 dros 60/£5 myfyrwyr a dan 18 Tocynnau Teulu: £20/£15 Bydd cyd-sylfaenydd Gorky’s Zygotic Mynci, Richard James, yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC mewn cydweithrediad deinamig newydd gyda pherfformiadau o gerddoriaeth newydd sbon gan Richard a’r Gerddorfa ochr yn ochr â gweithiau offerynnol blaenorol wedi'u haddasu.

Bydd Richard James, sy’n cyfansoddi i gerddorfa am y tro cyntaf, yn cydweithio gyda’r trefnydd Seb Goldfinch i greu deunydd newydd sy’n seiliedig ar y berthynas rhwng tirlun allanol a mewnol, gan gyfleu sut mae ein hamgylchedd yn siapio a ffurfio ein syniadau ac emosiynau. 42

Yn cefnogi – bydd Iwan Hughes o Cowbois Rhos Botwnog yn perfformio set unigol gyda deunydd o’i albwm unigol cyntaf. Gwaith ar y cyd rhwng Pontio, BBC Radio Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.


Nos Fercher, 22 Tachwedd 7pm BLAS Pontio yn cyflwyno

W T Yna? (Yn y meddwl) Theatr Bryn Terfel £6/£3 dan 18 oed Sioe ddyfeisiol ac arbrofol gan BLAS, rhaglen gyfranogol Pontio i ieuenctid, sy’n edrych ar goridorau’r meddwl a’n ffyrdd newydd o gyfathrebu yn ein byd modern. Fe fydd criw Blwyddyn 7, 8 a 9 a chriw Blwyddyn 10+ yn dyfeisio a chreu'r sioe

W T Yna? yn ystod tymor yr hydref. Eu tasg gyntaf oedd dewis teitl, a phenderfynwyd yn dilyn gwaith byrfyfyrio i uno dau awgrym, gan eu bod yn plethu’n dda i greu'r teitl amwys hwn.

Bydd criw Blwyddyn 3 a 4 a Blwyddyn 5 a 6 yn creu a pherfformio eu sioe yn ystod tymor y gwanwyn a’r haf.

BLAS yw cynllun cyfranogol Pontio, sy’n cynnig cyfle i blant a phobl ifanc fwynhau’r celfyddydau. Rydym yn cynnal gweithdai drama yn Stiwdio Pontio: Bob dydd Llun:

Bob dydd Mercher:

Blwyddyn 3 a 4 5-6pm

Blwyddyn 10 - 13 7.30-8.30pm

Blwyddyn 5 a 6 6.15-7.15pm

Mae BLAS hefyd yn gweithio yn y gymuned a chydag ysgolion.

Blwyddyn 7, 8 a 9 7.30-8.30pm

43

I archebu lle yn y gweithdai wythnosol, cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau ar 01248 382828, neu cysylltwch â Mared Huws, m.huws@bangor.ac.uk, am ragor o wybodaeth.


Nos Iau, 23 Tachwedd 7.30pm Pontio yn cyflwyno

Menna Cazel (Soprano) ac Eugene Asti (Piano) Theatr Bryn Terfel £14/£12 dros 60/£5 myfyrwyr a dan 18 oed Franz Schubert Lachen und Weinen (Rückert), D. 777 Erster Verlust (Goethe), D. 226 Die Liebe hat gelogen (Platen), D.751 Die Forelle (Schubart), D. 550 Robert Schumann Frauenliebe und –leben (Chamisso), op. 42 EGWYL Sergei Prokofieff 5 Poems of Anna Akhmatova, op.27 Leonard Bernstein I Hate Music! Dilys Elwyn-Edwards Caneuon Natur

Mae gan Menna Cazel Davies lais soprano hyfryd, cynnes a thelynegol, presenoldeb cryf ar lwyfan a gallu perfformio naturiol. Perfformiodd gân operatig yn broffesiynol am y tro cyntaf yn 2014 gydag Erste Blumenmädchen yn Parsifal ar gyfer Oper Leipzig. Mae eisoes wedi mwynhau llwyddiant mawr yng Nghymru, gan ennill bob un o'r prif wobrau i gantorion dan 25 oed, ysgoloriaeth W. Towyn Roberts a Gwobr Goffa Osborne Roberts yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Hi hefyd oedd enillydd gwobr 'Llais y Dyfodol' yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn 2013.

44

Mae Eugene Asti, a anwyd yn Efrog Newydd, yn un o gyfeilyddion mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth, ac mae wedi perfformio gyda llawer o artistiaid o fri yn cynnwys y Fonesig Felicity Lott, Syr Thomas Allen, Angelika Kirchschlager, Syr Bryn Terfel a’r ddiweddar Fonesig Margaret Price. Mae Eugene yn artist Steinway swyddogol ers 2009, ac mae'n dychwelyd i Fangor ar ôl cyngerdd gyda Syr Williard White yn 2014 pan werthwyd pob tocyn. Y tro hwn bydd yn perfformio detholiad o ganeuon o'r Almaen, Rwsia, Cymru ac America.


Nos Wener, 24 Tachwedd 6pm Darlith Flynyddol Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor

Huw Edwards Duw a'r Ginshop: hanes cynnar capeli Cymraeg Llundain Darlithfa 5 Pontio AM DDIM ond bydd angen tocyn Prif sylfaenydd y capel Cymraeg cyntaf yn Llundain oedd Edward Jones, cyn-filwr a thafarnwr. Yn y ddarlith hon bydd Huw Edwards yn olrhain hanes cynnar y capeli Cymraeg yn Llundain, ac yn esbonio eu pwysigrwydd o ran hanes a diwylliant Cymry Llundain.

Huw Edwards yw un o ddarlledwyr a chyfathrebwyr mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth, yn gyfarwydd i'r genedl am ei waith ar BBC News at Ten a’i ddarllediadau o ddigwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol o bwys. Mae hwn yn gyfle arbennig i’w glywed yn

45

siarad am ei waith ymchwil diweddar, gan gynnwys rhan ohono a gafodd ei wneud yn archifau Prifysgol Bangor. Traddodir y ddarlith hon yn y Gymraeg.


Drama

Event

Nos Wener, 24 Tachwedd 7.30pm Nos Sadwrn, 25 Tachwedd 7.30pm Lucid Theatre yn cyflwyno

Little Wolf Stiwdio £12/£10 gostyngiadau Mae bachgen ifanc yn diflannu mewn modd anesboniadwy, ac mae Freddie a Rita yn cael eu gorfodi i wynebu'r gwir am eu priodas. A yw eu cariad yn rhy fregus i wynebu'r gwir? Wrth i'w bydoedd chwalu a gwrthdaro, a oes rhywbeth sy'n werth dal gafael arno? Mae Little Wolf

yn archwiliad dwys, swreal a gonest o gwpl sy'n gorfod wynebu eu hofn mwyaf. Ysbrydolwyd y ddrama hon gan Little Eyolf gan Henrik Ibsen, ac mae'n fersiwn gyfredol o ddrama fodern sy'n glasur. Ysgrifennwyd Little Wolf gan yr awdur a'r cyfarwyddwr 46

Simon Harris, sydd wedi ennill gwobrau. Mae'n ddrama fywiog, amrwd a doniol iawn ar adegau sy'n cyrraedd at wraidd ein hansicrwydd presennol. Peth iaith gref a themâu aeddfed Canllaw oed: 14+


Cinema

Dawns

llun: Sleepy

Nos Sadwrn, 25 Tachwedd 7.30pm

Robot

Ballet Cymru yn cyflwyno

The Light Princess Theatr Bryn Terfel £13/£11 gostyngiadau Bydd Ballet Cymru yn dychwelyd i Pontio gyda chynhyrchiad bale newydd, sy'n cynnwys sgôr newydd gan y delynores, y gyfansoddwraig a’r artist recordio, Catrin Finch ar y cyd â The Riverfront Theatre yng Nghasnewydd. The Light Princess yw digwyddiad dawns mwyaf godidog y flwyddyn. Gan ddefnyddio elfennau syrcas a choreograffi clasurol eithriadol, mae’r stori, sydd wedi ei hysbrydoli gan Sleeping Beauty, yn adrodd hanes tywysoges

sy’n llawer rhy ysgafn ac sy’n methu cadw ei thraed ar y llawr, hyd nes iddi ddod o hyd i gariad sy'n dod â’i thraed ar y ddaear. Mae’r sioe yn cynnwys taflunio fideo arloesol a gwisgoedd bywiog a syfrdanol. Bydd The Light Princess yn mynd â chi i fyd o chwerthin, prydferthwch a rhyfeddod. Mae stori ryfedd a bythol George MacDonald yn cael bywyd newydd, wrth iddi gael ei dehongli drwy ddawns gan rai o ddawnswyr gorau'r 47

byd i gyfeiliant cerddoriaeth swynol a thelynegol Catrin Finch. Grŵp ifanc o ddawnswyr yw Ballet Cymru sy'n gwthio ffiniau bale clasurol. Yn ystod yr ymweliad yma bydd Ballet Cymru a phroject BLAS Pontio yn cydweithio ar raglen o weithgarwch estyn allan a chyfranogi gydag ysgolion lleol a grwpiau dawns cymunedol. gostyngiad 10% i grwpiau o 10 neu fwy


Dydd Iau, 30 Tachwedd 2pm a 7.30pm

Cinderella Theatr Bryn Terfel £10/£7 myfyrwyr a rhai dan 18

gostyngiad 10% i grwpiau o 10 neu fwy

Mae Cinderella yn gynhyrchiad gan yr un gymdeithas myfyrwyr a gynhyrchodd 'FAME', ac a enillodd sawl gwobr. Yn y stori glasurol hon o garpiau i gyfoeth, mae Cinderella yn chwilio am ei gwir gariad gyda chymorth ei

mam fedydd hud a'i ffrind ffyddlon, Buttons. A wireddir breuddwydion Cinderella? Neu a fydd y farwnes ddrwg yn ennill y dydd? Mae'r sioe hon yn llawn hwyl, chwerthin a chaneuon poblogaidd cyfarwydd ac yn addas i'r teulu i gyd!

48


Nos Iau, 30 Tachwedd 7.30pm Dydd Gwener, 1 Rhagfyr 1pm

Pedwarawd Llinynnol Allegri Mewn cysylltiad â The Radcliffe Trust Stiwdio 30 Tachwedd: £14/£12 gostyngiadau/£5 myfyrwyr a dan 18 1 Rhagfyr: £12/£8 gostyngiadau/£5 myfyrwyr a dan 18

Rhaglen 30 Tachwedd Mozart A Fwyaf K464 Szymanovsky 2 Schubert G Rhaglen 1 Rhagfyr Beethoven op 132 Mae grŵp siambr hynaf Prydain, y Pedwarawd Allegri, yn 62 oed. Sefydlwyd y grŵp yn 1953 gan Eli Goren ac William Pleeth ac mae wedi chwarae rhan

allweddol ym myd cerddorol Prydain yn gweithio gyda chyfansoddwyr fel Benjamin Britten, Michael Tippett, Elizebeth Maconchy, John Woolrich, Peter Fribbins, Anthony Payne, James MacMillan, Matthew Taylor ac Alec Roth yn fwyaf diweddar, gan arwain at gomisiynau a recordiadau newydd. Mae gwahoddiadau rheolaidd i gymdeithasau cyngherddau a neuaddau cyngherddau enwog yn sefyll 49

ochr yn ochr â chysylltiadau newydd fel y Southbank Sinfonia a'u gŵyl yn Anghiari, yr Eidal, a theithiau ACE wedi eu lleoli yng Nghaergrawnt. Maent yn athrawon ar ymweliad preswyl ym Mhrifysgolion Bangor a Middlesex ac yn mwynhau gwahoddiadau rheolaidd i addysgu/hyfforddi mewn colegau cerddoriaeth a chyrsiau cerddoriaeth siambr amatur ar hyd a lled y DU.


Cerddoriaeth

Nos Wener, 1 Rhagfyr 8pm "Damn it was amazing, sublime, beautiful. Audience went crazy. They are just spectacular. My 5th show with them. It was a true pleasure. Magnificent.”

DakhaBrakha Theatr Bryn Terfel

Isabel Soffer, Globalfest, Live Sounds, New York City

£15/£13 Mae DakhaBrakha yn bedwarawd cerddoriaeth byd o Kiev, yr Wcrain. Gan adlewyrchu elfennau sylfaenol o sain ac enaid, mae'r band DakhaBrakha "ethno-anhrefn" o'r Wcrain yn creu byd o gerddoriaeth newydd annisgwyl.

Mae'r enw DakhaBrakha yn golygu “rhoi/cymryd” yn hen iaith yr Wcrain. Gyda chyfeiliant offerynnau traddodiadol Indiaidd, Arabaidd, Affricanaidd, Rwsiaidd ac Awstraliaidd, mae amrediad lleisiol rhyfeddol o bwerus a

50

digyfaddawd y pedwarawd yn creu sain trawsgenedlaethol sydd wedi'i wreiddio yn niwylliant yr Wcrain. Cynhelir sesiwn holi ac ateb gyda DakhaBrakha ar ôl y perfformiad, dan arweiniad Lisa Jên o'r grŵp gwerin 9bach.


Tocyn Anrheg Pontio Anrheg berffaith ar gyfer unrhyw achlysur Gydag amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ar gael yn Pontio, o ddrama i syrcas, cerddoriaeth byd a gigs i bale, panto, ffilm a mwy, prynwch docyn anrheg am £10, £20 neu £50.

Gallwch archebu oddi ar ein gwefan, www.pontio.co.uk, dros y ffôn ar 01248 38 28 28 neu ewch draw i’n Swyddfa Docynnau – bydd rhywbeth at ddant bawb.

Pontio a thîm WNO yn cyflwyno

Dewch i Ganu… Carolau Dydd Sadwrn, 2 Rhagfyr 2.30-3.30pm, Lefel 2, AM DDIM Rhan o ddathliadau Nadolig Cracyr Bangor mewn awyrgylch hwyliog ac anffurfiol. Gyda Jenny Pearson, cantores opera a hwyluswr

Huw Llywelyn Canwr opera a hwyluswr Annette Bryn Parri Repetiteur / Piano Bydd mins peis a diodydd tymhorol ar gael i’w prynu. 51

#WNOcomesing


Nos Sadwrn, 2 Rhagfyr 7.30pm

Côr y Penrhyn a Gwawr Edwards Theatr Bryn Terfel £12 Cyfarwyddwr Cerdd: Owain Arwel Davies Cyfeilydd: Francis Davies Arweinydd Cynorthwyol: Caleb Rhys Jones Mae gwreiddiau Côr y Penrhyn ym mhentref chwarelyddol Bethesda yn Nyffryn Ogwen. Gall y côr olrhain ei wreiddiau yn ôl i'r 1880au pan ffurfiwyd côr unedig gan nifer o grwpiau llai oedd yn bod ar y gwahanol bonciau yn Chwarel y Penrhyn.

Côr y Penrhyn yw un o’r corau prysuraf yng Nghymru gyda thua 30 o gyngherddau bob blwyddyn, ac mae wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau gyda cherddorion, dawnswyr ac artistiaid eraill. Astudiodd Gwawr Edwards yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a'r Guildhall yn Llundain, lle graddiodd â gradd dosbarth cyntaf. Rhyddhaodd ei hail albwm ‘Alleluia’ yn ddiweddar, sy’n cynnwys Only Men Aloud, 52

band jazz Rhys Taylor, y fezzosoprano Caryl Hughes a Chôr Ieuenctid Môn. Yn ddiweddar mae wedi chwarae rhan Mair yng nghynhyrchiad OPRA Cymru o Wythnos yng Nghymru Fydd ac wedi teithio ledled Prydain gyda Syr Bryn Terfel, gan berfformio yn neuadd Symffoni Birmingham, Festival Hall Llundain, neuadd Bridgewater Manceinion a neuadd Dewi Sant Caerdydd i gyfeiliant Cerddorfa Ffilharmonig Lerpwl.


Nos Sul, 3 Rhagfyr 7.30pm

Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor Neuadd Prichard-Jones £12/£10 dros 60 /£5 myfyrwyr a dan 18 oed Corws Prifysgol Bangor Iwan Llewelyn-Jones (piano) Chris Collins (arweinydd) Poulenc Gloria Ravel Concerto Piano i’r Llaw Chwith Mussorgsky/Ravel Pictures at an Exhibition Noson o gerddoriaeth ysblennydd gyda cherddorfa symffoni hynaf gogleddorllewin Cymru, ynghyd â Chorws Prifysgol Bangor

a'r pianydd Iwan LlewelynJones, sy’n wreiddiol o’r ardal a bellach wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol. Ysgrifennodd Ravel ei Goncerto Piano i'r Llaw Chwith yn 1932 ar gyfer y pianydd o Awstria, Paul Wittgenstein, a gollodd ei fraich dde yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf: mae ei daith o dywyllwch i oleuni yn dwyn i gof ysbryd yr oes a thaith bersonol Wittgenstein ei 53

hun. Mae'r cyngerdd yn agor gyda gwaith cyffrous a swynol Poulenc ar gyfer côr a cherddorfa, Gloria, ac yn cloi gydag un o'r gweithiau mwyaf adnabyddus yn y repertoire: Pictures at an Exhibition, darn dyfeisgar Mussorgsky sy’n seiliedig ar baentiadau a dyluniadau'r artist Rwsiaidd, Viktor Hartmann, ac sydd hyd yn oed yn fwy lliwgar ac ysblennydd gyda chyfraniad offeryniaeth Ravel.


Nos Iau, 7 Rhagfyr 8pm Pontio yn cyflwyno

The Magic of Storytelling Sgwrs gyda Philip Pullman Theatr Bryn Terfel £17.50/£12 myfyrwyr a rhai o dan 18 Cysylltwch â'r swyddfa docynnau i drafod gostyngiad grwpiau: 01248 38 28 28

The meaning of a story emerges in the meeting between the words on the page and the thoughts in the reader's mind. So when people ask me what I meant by this story, or what was the message I was trying to convey in that one, I have to explain that I'm not going to explain.

Mae Philip Pullman, Cymrawd o Brifysgol Bangor, yn awdur enwog y drioleg His Dark Materials: The Golden Compass, The Subtle Knife, a The Amber Spyglass. Ymhlith ei lyfrau eraill i blant ac oedolion ifanc mae Count Karlstein a thrioleg o nofelau cyffrous Fictoraidd gyda'r cymeriad canolog Sally Lockhart. Enillodd Northern Lights, y cyntaf o drioleg His Dark Materials gan Pullman, y Carnegie Medal a'r Guardian Fiction Prize.

Anyway, I'm not in the message business; I'm in the "Once upon a time" business.”

Gan gymryd llyfr diweddaraf yr awdur, sef La Belle Sauvage y gyntaf o

Cadeirir gan Jon Gower “As a passionate believer in the democracy of reading, I don't think it's the task of the author of a book to tell the reader what it means.

54

dair cyfrol yn y gwaith The Book of Dust, a gyhoeddwyd yr hydref diwethaf, fel man cychwyn, ymunwch â ni wrth i ni edrych ar hud dweud stori gyda Philip Pullman. Bydd Jon Gower, yr awdur a chyn ohebydd y celfyddydau BBC Cymru, yn arwain y drafodaeth. Canllaw oed: 11+ Gall myfyrwyr Ysgrifennu Creadigol a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor ddewis modiwlau newydd Llenyddiaeth Plant (ar gael o 2017) a Ffuglen Oedolion Ifanc (ar gael o 2018) fel rhan o'u gradd.


Dydd Llun, 11 Rhagfyr 12.45pm Dydd Mawrth, 12 Rhagfyr 10am, 12.45pm Dydd Mercher, 13 Rhagfyr 10am, 12.45pm Cwmni Mega yn cyflwyno’r pantomeim

Culhwch ac Olwen Theatr Bryn Terfel £10 oedolion/£8 plant cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau i drafod archebion grŵp ac ysgolion 01248 38 28 28 Gan Huw Garmon Mae hanes “Y Twrch Trwyth” yn enwog trwy Gymru. Dyma’r baedd mwyaf yn y byd, a ddaeth i Gymru amser maith yn ôl a chreu anrhefn. Ond yn ôl y chwedlau tywysog wedi ei rithio neu ei droi yn anifail oedd y Twrch Trwyth, felly peidiwch â synnu os bydd twrch trwyth ein sioe ni yn llawn swyn a hud a lledrith!

Cewch glywed hanes Culhwch, heliwr gorau Cymru, ac Olwen, y ferch a oedd mor hardd nes bod blodau llygad y dydd yn tyfu lle bynnag roedd hi’n cerdded. Ond fel pob stori dda, mae yma gymeriadau i godi ofn arnoch – Ysbyddaden Bencawr, y cawr ffyrnig a Chas, y wrach ddrwg. Tybed a fydd Culhwch yn llwyddo i ddal y Twrch Trwyth? Tybed a fydd 55

Culhwch ac Olwen yn syrthio mewn cariad? Neu a fydd Cas yn llwyddo i ddifetha hwyl pawb? A beth am Ysbaddaden Bencawr? Efallai bod rhyw ffordd o’i drechu wedi’r cwbl! Gan ddilyn traddodiad Cwmni Mega mae’r sioe yn defnyddio cerddoriaeth fyw, dawnswyr proffesiynol a chriw o actorion eiddgar iddiddanu’r gynulleidfa a chyflwyno talp o ddiwylliant Cymraeg yr un pryd!


Dydd Iau, 14 Rhagfyr 10am, 12.45pm Dydd Gwener, 15 Rhagfyr 10am, 12.45pm Dydd Sadwrn, 16 Rhagfyr 11.30am, 2.30pm Dydd Sul, 17 Rhagfyr 1.30pm, 4.30pm Dydd Llun, 18 Rhagfyr 10am, 12.45pm Murmur a Pontio yn cyflwyno

Caban Hud Stiwdio £6/£20 Tocyn Teulu a Ffrindiau (4 person, o leiaf un o dan 18 oed) Holwch y Swyddfa Docynnau am archebion grŵp ac ysgolion Crëuwyd gan Rhodri Siôn Cerddoriaeth gan Osian Gwynedd Mae hi bron yn Nadolig ac yn amser i ysgrifennu llythyr, ond am beth fyddech chi yn ei ddymuno? Mae Caban Hud yn adrodd hanes plentyn sy’n llawn breuddwydion a llafur cariad cyfaill bach prysur i geisio eu gwireddu. Dewch ar daith gyda ni o’r gobennydd i’r gweithdy i waelod y goeden Nadolig.

Datblygiad o waith a gyflwynwyd am y tro cyntaf y llynedd gan Gwmni Murmur. Prosiect yw hwn sydd wedi ei anelu at blant oedran cynradd, yn fwy penodol plant o 3 i 8 oed. Ond mae'r sioe wedi ei chreu i ddod a'r teulu cyfan ynghyd i fwynhau'r hanes hudolus tymhorol hwn. Sadwrn 16 Rhagfyr Ymunwch â ni ar ôl pob sioe i fwynhau gweithdy creadigol gyda’r artist Mari Gwent, wedi ei ysbrydoli gan stori Caban Hud

56


Sioe hudolus, wych. Wedi mwynhau yn arw, y teulu i gyd 5 oed-71 oed. Diolch yn fawr.

Caban Hud was absolutely beautiful. So lovely. Audience Member

Aelodau o’r Gynulleidfa

57


Nos Sadwrn, 16 Rhagfyr O 7pm Rhys Mwyn a Pontio yn cyflwyno

Gig Gwrth-hiliaeth Theatr Bryn Terfel £14 Set DJ: Dennis Bovell gyda Welsh Rebel Dub Dafydd Iwan Banda Bacana DJ Fflyffilyfbybl Ymunwch â ni ar gyfer gig arbennig i ddathlu cerddoriaeth o bob math. Y meistr reggae Dennis Bovell fydd y brif act. Mae’n adnabyddus fel cerddor dawnus sy’n chwarae’r gitâr, bas a’r allweddellau, yn beiriannydd sain, cyfansoddwr, cynhyrchydd ac arweinydd band sy’n parhau i arwain y sîn gyda’i gerddoriaeth arloesol a mentrus.

Twins a Bananarama yn ogystal ag ail-gymysgu albymau Marvin Gaye, Wet Wet Wet a The Boomtown Rats. Mae Bovell hefyd wedi gweithio gyda Fela Anikulapo Kuti, Alpha Blondy, Ryuichi Sakamoto, Dexy’s Midnight Runners, Edwyn Collins a Pablo Moses. Dafydd Iwan fydd y cyflwynydd a Welsh Rebel Dub fydd yn agor y noson. Hefyd yn ymuno â ni ar y noson bydd y band gwych Banda Bacan sy’n siŵr o ddenu pawb i ddawnsio gyda’i rhythmau ffync, lladin, reggae ac affro-lladin.

Mae wedi cydweithio gyda gormod o artistiaid i’w henwi, ond yn eu mysg mae I Roy, Steel Pulse ac Errol Dunkley, Johnny Clarke, The Slits, Chalice, The Thompson 58 llun: Tim Schnetgöke


Bwyd blasus mewn awyrgylch glasurol Wedi’i leoli ar lawr gwaelod isaf Prif Adeilad y Brifysgol, mae Lolfa’r Teras o fewn tafliad carreg o theatr a sinema Pontio.

Mae prydau cyn theatr ar gael cyn perfformiadau yn Theatr Bryn Terfel Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn archebu bwrdd ar gyfer pryd cyn theatr

Archebu: teras@bangor.ac.uk | 01248 388686

I weld ein horiau agor a’n bwydlenni ewch i teras.bangor.ac.uk

Diodydd, bwyd poeth a byrbrydau sinema Pontio lefel 0

Prydau ysgafn, wafflau ffres a chacennau Pontio lefel 3

I weld ein horiau agor a’n bwydlenni59ewch i www.pontio.co.uk


Nos Sadwrn, 6 Ionawr 7.30pm Cerddorfa WNO

Blwyddyn Newydd yn Fienna Neuadd Prichard-Jones £18.50/£17.50 gostyngiadau/£7.50 myfyrwyr* yn cynnwys gwydraid o Prosecco £16.00/£15.00 gostyngiadau/£5.00 myfyrwyr heb wydraid o Prosecco *bydd angen cerdyn adnabod

Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru Cyflwynir a chyfarwyddir gan David Adams ar y Ffidil Unawdydd Corn: Angus West Yn dilyn llwyddiant y cyngerdd hwn yn 2017 mae Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn dychwelyd i Fangor gan barhau gyda’r berthynas bwysig â chanolfan Pontio. Neuadd Prichard-Jones yw’r lleoliad ar gyfer y Cyngerdd Calan Traddodiadol eleni. Unwaith eto, byddwn yn

gadael yr arweinydd ar ôl a bydd y cerddorion a’r gynulleidfa yn dod ynghyd dan arweiniad David Adams, meistr cyngerdd y Gerddorfa. Mae’r cyngerdd yn cynnwys un o weithiau enwocaf Mozart, Concerto Rhif 4 i’r Corn. Ynghyd â’r gerddoriaeth arbennig hon bydd Neuadd ‘PJ’ yn cael ei llenwi gan sain rhai o’r waltsiau a’r polcas enwocaf o neuaddau dawns Fienna. Bydd y gwaith agoriadol, sef yr agorawd hyfryd i Der Freischutz gan Weber, yn 60

ddechreuad gwych i’r noson. Yn ystod yr ail-hanner cawn ein swyno gan ein hoff waltsiau fel Wine, Women and Song, The Blue Danube a Gold and Silver ynghyd â’r polcas Tritsch-Tratsch, Thunder and Lightning a Champagne a Radetsky March, a rhai gweithiau llai cyfarwydd. Fel arfer mae’r cyfan yn sicr o godi calon ar ddiwedd tymor y Nadolig…a gallwch ddisgwyl ambell sypreis yn ystod yr egwyl!


Nos Iau, 8 Chwefror, 2018 7.30pm Canolfan Gerdd William Mathias, Pontio a Phrifysgol Bangor yn cyflwyno Cyngerdd Lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru IV

Syr Bryn Terfel a Hannah Stone Theatr Bryn Terfel £40 Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Syr Bryn Terfel yn canu am y tro cyntaf yn Theatr Bryn Terfel, Pontio i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru IV ar yr union ddiwrnod y bydd Llywydd yr Ŵyl, Dr Osian Ellis CBE, yn dathlu ei benblwydd yn 90 oed.

Bydd Syr Bryn Terfel a’r delynores Hannah Stone yn cyflwyno’r perfformiad cyntaf o Gylch o Ganeuon Gwerin gan Osian Ellis. Yn perfformio hefyd bydd nifer o gyn-fyfyrwyr Canolfan Gerdd William Mathias a enillodd Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel.

61

www.gwyltelyncymru.co.uk Bydd y tocynnau ar werth o 10am ar 10/10/2017 o swyddfa docynnau Pontio neu ar-lein o pontio.co.uk.


Gwybodaeth Gyffredinol Archebion Grŵp Rydym yn darparu ar gyfer grwpiau ac ysgolion, ac yn achlysurol, gallwn gynnig gostyngiadau sylweddol. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau am fwy o wybodaeth ar 01248 38 28 28. Mae’r holl archebion yn amodol ar ein telerau a’n hamodau safonol. Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan https://www.pontio.co.uk/ Online/term Tâl Postio Ni chodir ffi pan fyddwch yn prynu tocynnau, ond codir £1 o dâl postio os gofynnwch am docynnau trwy’r post. Ni allwch ofyn am docynnau trwy’r post yn hwyrach na 10 niwrnod cyn y digwyddiad, er mwyn sicrhau eu bod yn eich cyrraedd mewn da bryd. Wedi hynny, fe allwch gasglu’r holl docynnau sydd wedi’u prynu ymlaen llaw o’r swyddfa docynnau, neu eu hargraffu gartref.

Teuluoedd Lle nodir pris tocyn teulu, mae’r cynnig ar gael i grŵp o bedwar. Rhaid i o leiaf un aelod o’r grŵp fod o dan 18 oed. Gostyngiadau Lle bynnag y bo ‘gostyngiadau’ wedi’i nodi ar gyfer digwyddiadau Pontio, mae’r categorïau isod wedi’u cynnwys yn y diffiniad hwnnw: myfyrwyr a rhai dros 60. Mae plant a phobl ifanc yn cynnwys unrhyw un o dan 18 oed. Caiff plant dan 2 oed fynd i mewn am ddim. Cynllun Mynediad Hynt Mae celf a diwylliant i bawb. Ond os oes gennych nam neu ofynion mynediad penodol, yn aml, gall mwynhau ymweliad â theatr neu ganolfan gelf fod yn fwy cymhleth na dim ond archebu tocynnau a dewis beth i’w wisgo.

62

Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celf ar draws Cymru i wneud pethau’n glir ac yn gyson. Mae Pontio yn rhan o’r cynllun Hynt am ein bod yn credu ei fod yn cynnig yr arfer gorau i’n cwsmeriaid o ran polisi tocynnau a mynediad teg. Cerdyn Aelodaeth yw Hynt Mae Hynt yn adnodd Mae gan rai â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad ac am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalydd yn Pontio a phob theatr a chanolfan gelf sy’n rhan o’r cynllun. Ewch i www.hynt.co.uk neu www.hynt.cymru am wybodaeth ac arweiniad am y cynllun.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.