Rhaglen Artistig Ionawr - Ebrill 2022

Page 1

Rhaglen Ionawr – Ebrill 2022 Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Bangor


Croeso i Pontio Oriau Agor Llun – Sadwrn 8.30am – 8pm Sul 12pm – 7pm Bwyd a Diod Cegin Llun – Gwener 8.30am – 6pm Ffynnon Llun – Gwener 12pm -7pm Sadwrn 10.30am – 7pm Sul 12pm – 5.30pm

Bydd Ffynnon ar agor yn hwyrach yn ystod digwyddiadau Tocynnau Ar-lein www.pontio.co.uk 01248 38 28 28 Ymholiadau: info@pontio.co.uk Llinellau ffôn 01248 38 28 28 Llun – Gwener 11.30am – 6pm Sadwrn 10.30am – 6pm Sul 12pm – 5pm

Arian Parod Ni fyddwn yn derbyn arian parod fel modd taliad bellach. Cerdyn yn unig. Mae’r wybodaeth yn gywir adeg argraffu. Rhif Elusen: 1141565

Os hoffech gopi o destun y rhaglen yma mewn print bras, neu fersiwn glywedol, cysylltwch ar 01248 38 28 28

Llun clawr: Kirsten McTernan

Sut i archebu Ar-lein pontio.co.uk

PontioTweets

Dros y ffôn 01248 38 28 28

PontioBangor

Pontio, Ffordd Deiniol, Bangor, LL57 2TQ pontio_bangor

PontioBangor


Hoffwn fanteisio ar y cyfle i rannu’r hyn sydd gyda ni ar y gweill yn y flwyddyn newydd, yma yn Pontio. Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i drefnu a churadu rhaglen amrywiol, gyda’r gobaith o adeiladu ar fomentwm y tymor diwethaf a chynnig rhywbeth sydd at ddant pawb. Mae’r rhaglen yn cynnwys amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, gan agor ym mis Ionawr gyda cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn mynd â ni ar eu taith flynyddol i Fienna. Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys Gŵyl Neithiwr sy’n cyflwyno amryw o fandiau a cherddorion Cymraeg lleol a chenedlaethol; noson GISDA

Giggles a gyflwynir gan Kiri Pritchard-McLean a llond lle o ddigrifwyr fydd yn codi arian at grwpiau ieuenctid LHDTC+ Gidsa. Byddwn hefyd yn croesawu rhai o griw Welsh of the West End ym mis Chwefror a fuodd mor boblogaidd gyda’u perfformiadau digidol dros y cyfnod clo. Wrth nesáu at ddiwedd y tymor byddwn yn croesawu dau ddarn o theatr gyfoes Gymreig ar ei orau; yn gyntaf darn newydd, blaengar Ynys Alys gan Frân Wen ac yna Petula, sydd yn addasiad dwyieithog o glasur Ffrangeg ac yn gydweithrediad rhwng

cwmnïau National Theatre Wales, Theatr Genedlaethol Cymru ac August 012. Cadwch lygad hefyd am arlwy cyson BLAS, Caffi Babis a Theulu Pontio yn ogystal â phrojectau cymunedol cyffrous Adra a Chynefin a Brama. Edrychaf ymlaen yn fawr at eich gweld yn fuan!

Osian Gwynn Cyfarwyddwr Celfyddydau Pontio

3


h t e a i r o d d Cer


Cerddoriaeth Glasurol Cerddorfa WNO Dychwelyd i Fienna Nos Wener 7 Ionawr, 7.30pm Theatr Bryn Terfel £7.50 - £20.50 Cyngerddfeistr – David Adams Soprano – Isabelle Peters Tenor – Adam Gilbert Mae Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn falch iawn o fod yn ôl ar y llwyfan, yn

cyflwyno cyngerdd blwyddyn newydd hynod lwyddiannus, sydd wedi teithio’n helaeth. Ymunwch â ni ar gyfer y noson fywiog hon o Strauss, Lehár a chymaint mwy – pa ffordd well i gychwyn y flwyddyn newydd?

Gweld mwy

Opera Canolbarth Cymru La bohème Puccini Nos Sadwrn 12 Mawrth, 7.30pm Theatr Bryn Terfel £18 - £20 O groglofft myfyriwr i strydoedd bywiog Montmartre, mae gorchestwaith Puccini’n dathlu grym cariad a chyfeillgarwch. Ensemble Cymru sy’n perfformio sgôr

odidog o atgofus Puccini, gyda rhai o ariâu mwyaf poblogaidd y byd opera yn creu naws caffi ym Mharis yn ogystal â realiti oeraidd ffordd o fyw o’r llaw i’r genau y bohemiaid.

Gweld mwy

5


Ŵ GERDD BANGOR GŴYL

11 - 12 / 02 / 2022

Thema: Y Synhwyrau Perfformiadau gan: UPROAR Ensemble | Darragh Morgan & Electroacowstig CYMRU SMOUND (Rhodri Davies, Pat Morgan & Angharad Davies) Camau Cerdd | Canolfan Gerdd William Mathias Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor | Ensemble Fusion Bangor

www.gwylgerddbangor.org.uk

CHAPMAN CHARITABLE TRUST


Dathlu can mlynedd o gerddoriaeth ym Mangor Cyngherddau i’w cyhoeddi’n fuan gan Brifysgol Bangor. Ceir rhagor o wybodaeth am ddathliadau Cerddoriaeth 100 Prifysgol Bangor ar eu gwefan Gweld mwy

Dosbarthiadau Meistr Theatr Gerdd i ddod yn fuan! Fel rhan o ddathliadau Cerdd Bangor 100, mae Adran Cerdd, Drama a Pherfformio Prifysgol Bangor yn chwilio am berfformwyr ifanc i fod yn rhan o ddosbarthiadau meistr Theatr Gerdd yn 2022. Oes gennych chi ddiddordeb mewn theatr gerdd? Ydych chi’n dymuno rhoi cynnig ar Opera neu gael cyfle i arbrofi fel canwr fel rhan o

broject theatr gerdd? Ydych chi’n dymuno archwilio’r cyswllt rhwng Drama a Cherddoriaeth? Os ydych rhwng 16 a 22 oed cysylltwch â ni. Bydd gwefan i gofrestu ar gael yn fuan.

7



Dydd Sadwrn 22 Ionawr 2pm – 11pm Theatr Bryn Terfel Pontio yn cyflwyno

Gŵyl Neithiwr £13.50 - £17

ADWAITH KIM HON 3 HWR DOETH BANDICOOT PYS MELYN MELLT MALI HÂF SYBS CRINC

Celf LLINOS OWEN DJs ROUGHION + TINDALL Mae Gŵyl Neithiwr yn dychwelyd yn 2022 wedi blwyddyn o hoe! Dewch draw a mwynhewch rai o fandiau gorau’r sîn yn Theatr Bryn Terfel mewn gŵyl un-dydd anhygoel! Oed: 16+

Gweld mwy

9


Nos Wener 18 Chwefror 7.30pm Theatr Bryn Terfel Welsh of the West End

Steffan Hughes Tom Hier Jade Davies Siwan Henderson £13 - £15 Steffan Hughes a’i grŵp o’r West End yn perfformio ffefrynnau theatr gerdd o sioeau megis Les Misérables, Rent a Phantom of the Opera. Gyda Jade Davies, Tom Hier a Siwan Henderson. Gyda mwy na

12 miliwn wedi gwylio ar y we, mae Welsh of the West End wedi dod yn sêr ar-lein, ac wedi cael sylw gan Official London Theatre, What’s on Stage, BBC, ITV ac S4C. Byddwch yn barod i gael eich cyfareddu gan leisiau theatr

gerdd gorau Cymru, yn syth o’r West End. Digwyddiad dwyieithog Addas i bawb!

Gweld mwy


Nosweithiau hamddenol , ffurf Cabaret yn Theatr Bryn Terfel

Alaw Nos Iau 3 Chwefror, 8pm Nia Lyn llais / harmoniwm Oli Wilson-Dickson ffidil / llais Dylan Fowler gitâr / llais Mae cylchgrawn Songlines yn disgrifio ALAW fel “Welsh supergroup”, ac mae’r grŵp

yn cynnwys tri o gerddorion blaenllaw sy’n dod â chyfoeth o brofiad i’r hyn y maent ill tri’n frwd drosto cerddoriaeth draddodiadol Cymru.

Gweld mwy

U TOCYNNA N E G BAR GYNNAR £12 | £11

Trials of Cato Nos Iau 10 Mawrth, 8pm Yn ôl J. Davis dyma “The Sex Pistols of folk” ac maent yn rhoi gwrogaeth amlwg i’r traddodiad hwnnw ond gan

ddod ag elfennau cynhyrfus a modern i’w cerddoriaeth gyda’u halawon tanbaid a’u storïau cyfareddol.

Gweld mwy

11


Gigs eistedd The Fureys Nos Fercher 23 Chwefror, 7.30pm Theatr Bryn Terfel £20 Roedd pob sedd yn llawn ar ymweliad diwethaf cewri canu gwerin Iwerddon, The FUREYS, a hwythau’n enwog am eu caneuon poblogaidd ‘I will love you’, ‘When you were sweet 16’, ‘The Green fields

of France’, ‘The old man’, ‘Red rose café’, ‘From Clare to here’, ‘Her father didn’t like me anyway’, ‘Leaving Nancy’, ‘Steal away’ ac ati a byddant yn dychwelyd yn 2022.

Gweld mwy

Calan Nos Iau 21 Ebrill, 7.30pm Theatr Bryn Terfel £15.50 - £17.50 Ar eu taith fawr gyntaf ers y cyfnod clo bydd un o fandiau mwyaf arloesol a gwefreiddiol Prydain yn rhoi blas o’u halbwm newydd clodwiw Kistaven. Wedi’i

Gweld mwy

recordio ychydig cyn y pandemig, methwyd â chynnal perfformiadau byw o’r albwm… tan nawr.


Drama

13


'A powerful exploration of gender, war, and identity, as relevant and timely today as ever. Expect humour, a lot of heart and a refreshing focus on the darker aspects of a familiar tale’ Cylchgrawn Tulpa

Dydd Sul 6 Chwefror 2pm Stiwdio

The Ballad of Mulan £3 - £5 Merch a rhyfelwraig chwedlonol. Ers deng mlynedd mae Mulan wedi gwisgo fel dyn ac wedi ymladd dros Ymerodraeth China, ond nawr mae’n amser mynd adref. Mae Grist to the Mill a Red Dragonfly yn cyflwyno’r arwres Tsieineaidd go iawn a ysbrydolodd Mulan,y ffilm Disney wedi’i hanimeiddio. Rhan o ddathliadau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd, Sefydliad Confucius, Prifysgol Bangor 10+

Gweld mwy Gweithdy Ysgrifennu Creadigol

Cadwch lygad am ddangosiadau ffilm fel rhan o ddathliadau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd

Dydd Sul 6 Chwefror, 11.30am PL2 Nifer cyfyngedig Am ddim ond bydd angen tocyn 18+


Nos Iau 17 Mawrth, 7.30pm Dydd Gwener 18 Mawrth, 1pm Nos Wener 18 Mawrth, 7.30pm Nos Sadwrn 19 Mawrth, 7.30pm Stiwdio Frân Wen

Ynys Alys £12 - £15 Theatr, cerddoriaeth bop a rap yn gwrthdaro yn y cynhyrchiad Cymraeg hwn sy’n dilyn merch ifanc wrth iddi fynd ati i chwilio am ei hannibyniaeth.

Mae’n bryd i Alys ddechrau byw ei bywyd gorau. Ond caiff ei chaethiwo mewn hen hunlle cyfarwydd, anghyfarwydd.

Mae Ynys Alys yn archwilio pwy ydyn ni mewn adegau o newid a’r hyn rydyn ni wir yn gobeithio dal gafael arno mewn byd newydd.

All hi goncro ei hofnau? All hi fod yr Alys y mae hi eisiau bod?

13+

Gweld mwy 15


Nos Wener 25 Mawrth, 7.30pm (Iaith Arwyddion Prydain) Nos Sadwrn 26 Mawrth, 7.30pm Theatr Bryn Terfel National Theatre Wales, Theatr Genedlaethol Cymru gydag August012

PETULA £16

£40 Tocyn Teulu (4 unigolyn, o leiaf ddau blentyn dan 18) £10 dan 25 £8 Ysgolion a Grwpiau o 10+ Mae National Theatre Wales, Theatr Genedlaethol Cymru ac August012 yn uno i lwyfanu cynhyrchiad newydd sbon o ddrama anhygoel Fabrice Melquiot.

Wedi ei chyfarwyddo gan Mathilde Lopez, mae’r sgript amlieithog gan Daf James yn gyfuniad difyr o’r Gymraeg, Saesneg a rhywfaint o Ffrangeg.

Bydd pob perfformiad gyda chapsiynau Cymraeg a Saesneg. Oed: 12+

Gweld mwy


Comedi

17


Nos Sadwrn 15 Ionawr, 8pm Theatr Bryn Terfel Kiri Pritchard-McLean yn cyflwyno

GISDA Giggles £13 - £17.50 Yn dilyn llwyddiant Gisda Giggles yn 2020, rydym yn dychwelyd am yr eildro! Noson o chwerthin i godi ymwybyddiaeth ac arian i grwp LHDT+ GISDA Caernarfon. Mae’r ferch leol Kiri Pritchard-McLean (Have I Got News For You, 8 Out of Ten Cats), yn dod a lein-yp o

gomedïwyr gorau LHDT+ at ei gilydd gan gynnwys Suzi Ruffell (The Last Leg, Live at the Apollo), Josh Jones (8 out of 10 cats), Ben Hodge, Sikisa Bostwick Barnes (Jonathan Ross’s Comedy Club) a Leila Navabi (Live from Aberystwyth Pier). Croeso i bawb (a fel ‘na ddylia’i fod).

Iaith gref - 16+ Gall enwau newid

Gweld mwy


19


Nos Fercher 13 Ebrill 7.30pm Theatr Bryn Terfel Little Wander ar y cyd â PBJ Management yn cyflwyno

Nish Kumar Your Power, Your Control £20

Your Power, Your Control yw sioe newydd cyflwynydd Mash Report ac un o 50 comedïwr gorau’r 21 ganrif yn ôl y Guardian. Fel y gwelwyd ar Live at the Apollo, Taskmaster a mwy. 18+

Gweld mwy


Nos Fercher 27 Ebrill 8pm Theatr Bryn Terfel Little Wander ar y cyd â PBJ Management yn cyflwyno

Kiri Pritchard-McLean Home Truths £13 - £15 Mae Kiri Pritchard-McLean (Have I Got News For You?, Live at the Apollo, Would I Lie to You?) yn ôl gyda thaith newydd sbon gyda jôcs am skinny jeans, dysgu Cymraeg, goruchafiaeth pobl wyn – rhywbeth i bawb! 16+

Gweld mwy

21


Dawns


Nos Iau 7 Ebrill 7.30pm Theatr Bryn Terfel Jack Philp Dance yn cyflwyno

Sgwrs ar ôl y sioe Bydd sesiwn holi ac ateb yn rhad ac am ddim yn dilyn y sioe yn Theatr Bryn Terfel

OPTO NANO £10 - £12 Mae dawns, gwyddoniaeth a’r digidol yn dod at ei gilydd yn y cynhyrchiad newydd byw ac egnïol hwn gan Jack Philp Dance. Gan dynnu ysbrydoliaeth o dechnegau delweddu gwyddonol ac

arloesol, mae OPTO NANO yn gynhyrchiad deinamig a bywiog sy’n dod â bioffiseg i’r llwyfan, mewn ffrwydriad deinamig o symudiadau, golau a lliw.

Gweld mwy

23


u l u e T


Nos Fawrth 8 Chwefror 7.30pm Theatr Bryn Terfel Ad/Lib (Cymru) a Theatrau RhCT yn cyflwyno

Noson Yng Nghwmni Shane Williams gyda Phyl Harries ac Ieuan Rhys £20 Bydd chwaraewr rygbi chwedlonol Cymru, Shane Williams yn datgelu cyfrinachau rhyfeddol ei yrfa ddisglair yn yr achlysur arbennig yma. Roedd Shane Williams yn chwarae rygbi’r undeb dros Gymru, gan ennill ei blwyf fel un o’r chwaraewyr

mwyaf llwyddiannus ar yr asgell i’r Gweilch a thîm cenedlaethol Cymru. Dyma gyfle gwych i gefnogwyr rygbi Cymru ddod i adnabod Shane mewn awyrgylch bersonol, wrth iddo rannu ei straeon am ei fywyd ar y cae ac oddi ar y cae. Mae hefyd yn cynnwys

sesiwn holi ac ateb, felly os oes gyda chi gwestiwn i Shane, dyma’ch cyfle chi i’w holi’n dwll! Noson i’r holl deulu!

Gweld mwy

25


Dydd Gwener 7 Ionawr Dydd Gwener 4 Chwefror Dydd Gwener 4 Mawrth Dydd Gwener 1 Ebrill 10am Stiwdio

Caffi Babis £3 Awr greadigol yng nghwmni Siwan Llynor ac Angharad Harrop sy’n rhoi’r cyfle i rieni newydd gyfarfod â rhieni eraill, yn ogystal ag ymlacio

Gweld mwy

gyda’ch babi am gyfnod. Awr fach i ddod â sy’n dod â rhieni ynghyd, mewn awyrgylch diogel. Canllaw oed: hyd at 24 mis


Dydd Sadwrn 23 Ebrill 11.30am + 2.30pm Stiwdio Teulu Pontio yn cyflwyno

gan Wriggle Dance Theatre Pod o 3: £19.50 Pod o 4: £24 Pod o 5: £30 Perfformiad dawns rhyngweithiol hwyliog gyda cherddoriaeth fyw a thaflunio digidol yw “Squidge”. Mae’n bwrw golwg ysgafn

Gweld mwy

ar ein synnwyr cyffwrdd a’r dylanwad hynny ar ein bywydau beunyddiol. Canllaw oed: 3 – 8

27


Ar lefel

2!

BAGELS BRECHDANAU PITSA CACENNAU Am fwy o wybodaeth ewch i’r tudalennau bwyd a diod pontio.co.uk

01248 383826 bwydabar@pontio.co.uk @eatdrinkbangor


Ymunwch â’n tîm o wirfoddolwyr! Oes gennych chi ...? - Ddiddordeb mewn theatr, cerddoriaeth fyw a ffilmiau

- Awydd i ddysgu, datblygu a defnyddio sgiliau newydd

- Frwdfrydedd i roi gwasanaeth arbennig o dda i gwsmeriaid

- Ddymuniad i gyfarfod â phobl newydd ac adeiladu eich hyder

Credwn y dylai’r Celfyddydau fod yn gynhwysol ac felly rydym yn annog gwirfoddolwyr o bob cefndir i ymuno â ni yr unig ofynion yw eich bod dros 16 oed, yn frwdfrydig, yn gyfeillgar ac yn ddibynadwy.

Diddordeb? gwirfoddolwyr@pontio.co.uk 01248 382666

29


Celf


Tan 16 Ionawr 2021 Wal Wen

Llygad y Lleuad gan Jo Lawrence

Gosodiad yw Llygad y Lleuad gan yr artist Jo Lawrence mewn cydweithrediad â’r Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor. Yn seiliedig ar y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard, sy’n dathlu 60 mlwyddiant eleni, bydd y

gosodiad wedi ei leoli ym mhrif atriwm Pontio ac yn cynnwys tafluniadau a chyfansoddiad arbennig gan y myfyriwr ôl-radd Tomasz Edwards. Wedi ei gefnogi gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.

31


21 Ionawr – 2 Ebrill 2021 Gofodau cyhoeddus

Sylfaen Celf Bangor 40+1 Dyma arddangosfa ar y cyd â Storiel a Coleg Menai, i ddathlu 40 mlynedd o gwrs Sylfaen Celf Bangor. Yn Pontio, byddwn yn dangos cerflun mawr gan Angharad Pearce Jones a comisiwn arbennig gan Niki Cotton, yn

ogystal â ffilmiau gan Bethan Huws a Bedwyr Williams (21 – 23 Ionawr) a Russell Owen (1 Chwefror). Cymerwch gip ar ein gwefan ar gyfer rhestr lawn o ddigwyddiadau cysylltiedig.

Wedi ei gefnogi gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.


Chwefror – Mawrth 2021

Hybrid gan Osian Efnisien Mae Pontio yn falch o gomisiynu’r artist Osian Efnisien o Borthmadog i greu gwaith digidol newydd yn seiliedig ar sgan 3D o Theatr Bryn Terfel. Mae’r gwaith yn plethu’r digidol gyda deunyddiau corfforol er mwyn archwilio ffyrdd newydd, chwareus o gyfuno profiadau rhithiol a gofodau pensaernïol, concrid.

33


7 DIWRNOD YR WYTHNOS AGORED I BAWB

1 Sgrin 3D 15 ffilm newydd y mis 70 dangosiad y mis Darllediadau opera a theatr fyw Mae rhaglen Sinema Pontio ar gael ar-lein a thrwy gyhoeddiad misol a ddosberthir yn lleol ac yn y ganolfan. I dderbyn bwletinau e-bost wythnosol, crëwch gyfrif ar-lein yn www.pontio.co.uk gan roi tic wrth ymyl ‘Sinema’ yn y categori diddordebau. Dilynwch y newyddion ffilm diweddaraf ar Trydar @sinemapontio

Archebwch pontio.co.uk 01248 38 28 28


DANGOSIADAU BYW NT LIVE: LEOPOLDSTADT 12A

Nos Iau 27 Ionawr, 7pm Dydd Sul 30 Ionawr, 2pm (Encore)

ROH LIVE: ROMEO AND JULIET 12A

Nos Lun 14 Chwefror, 7.15pm

NT LIVE: THE BOOK OF DUST (LA BELLE SAUVAGE) 12A

Nos Iau 17 Chwefror, 7pm

ROH LIVE: RIGOLETTO

Dydd Sul 20 Chwefror 2pm (Encore)

12A

Dydd Sul 20 Chwefror, 5.30pm (Encore) Nos Iau 10 Mawrth, 7.15pm Dydd Sul 13 Mawrth, 2pm (Encore)

NT LIVE: HEX 12A

Nos Iau 17 Mawrth, 7pm Dydd Sul 20 Mawrth, 2pm (Encore)

ROH LIVE: LA TRAVIATA 12A

Nos Fercher 13 Ebrill, 6.45pm

NT LIVE: HENRY V

Nos Iau 21 Ebrill, 7pm

12A

Dydd Sul 24 Ebrill, 2pm

ROH LIVE: SWAN LAKE

12A

Nos Iau 19 Mai, 7.15pm Dydd Sul 22 Mai, 2pm (Encore)

35


BLAS yw rhaglen ieuenctid Pontio sy’n rhoi’r cyfle i blant a phobl ifanc gael blas o’r celfyddydau. Dros y flwyddyn a hanner diwethaf, er gwaetha’r cyfyngiadau, mae gweithgareddau ymgyslltu prosiect BLAS wedi parhau. Aeth ein gwethdai wythnosol ar-lein, crëwyd prosiectau newydd ac addaswyd prosiectau ar gyfer y byd ar-lein! Darllenwch ragor am ein hanes a gwyliwch ein prosiectau gymunedol.

Dros 6000 yn gwylio gweithdai #DaliGreu

I ddarllen mwy am brosiectau BLAS cliciwch yma: Gweld mwy

10,400 yn gwylio UN SEREN, Bangor

90 o blant yn ymuno mewn gweithdai Ysgolion Creadigol Arweiniol

80 yn mynychu Gweithdai Addysg Cartref

41 o aelodau BLAS yn ymuno ar Zoom bob wythnos


Eryri 70 Pleser oedd Dathlu penblwydd Parc Cenedlaethol Eryri yn 70 drwy osod her i holl ysgolion sydd yn y parc i ateb y cwestiwn ‘Pwy Ydi Eryri i Chi?’ mewn modd celfyddydol. I helpu’r ysgolion i ateb y cwestiwn cynhaliwyd cyfres o weithdai amrywiol ar lein ac yn yr ysgolion gydag artistiaid megis, Lisa Eurgain, Ifor ap Glyn, Angharad Harrop a Helen Wyn Pari gyda chyflwyniad gan Lowri Williams o’r Parc. Cyflwynwyd gwaith arbennig gan bawb a gellir ei weld ar wefan eryri70.cymru

Duets O’r diwedd fe aeth gwaith celf Ysgol Llanllyfni i fyny yn Pontio. Dyma waith roedd y plant wedi ei greu nôl ym Mawrth 2021 fel rhan o gynllun Duets gan Ballet Cymru, yng nghwmni’r artist Carl Chapple i gyd-fynd â pherfformiad Ballet Cymru o Giselle. Hefyd, braf oedd gweld y plant yn perfformio ar lwyfan Theatr Bryn Terfel cyn y perfformiad o Giselle. Llongyfarchiadau mawr i chi gyd, ddawnswyr y dyfodol!

Gyrfa Cymru Eto eleni mae BLAS wedi bod yn cefnogi gwaith Gyrfa Cymru yn hyrwyddo’r celfyddydau fel maes amrywiol, hygyrch a hwyliog i weithio ynddo. Buom yn cynnal gweithdai a chyflwyniadau yn yr ysgolion neu dros y we.

Ffilmiau Nadolig BLAS Mae criw gweithdai wythnosol BLAS wedi bod yn brysur iawn y tymor yma yn dysgu am dechnegau ffilmio gwahanol, gyda chriw BLAS Bach yn edrych ar Stop Motion a’r criw hŷn yn defnyddio eu ffonau symudol i weld sut mae fframio a ffilmio golygfeydd amrywiol. Fe fydd y gwaith gorffenedig yma yn cael ei rannu ar dudalen Facebook BLAS yn fuan.

37


Caffi Babis Ar ôl misoedd ar Zoom, roeddem yn falch iawn o gwrdd â’r holl fabis wyneb yn wyneb. Mae Caffi Babis yn sesiwn gelfyddydol hwyliog i fabis a’u rhiant, wedi’i arwain gan y ddawnswraig Angharad Harrop a’r actores Siwan Llynor, gyda chyfle am baned a sgwrs ar y diwedd. Diolch i Gastell Penrhyn am eu cefnogaeth ar y prosiect yma.

Ysgolion Creadigol Arweiniol Rydym yn falch iawn ein bod yn parhau i weithio fel Asiant Creadigol gydag Ysgol Gynradd Nefyn. Y tymor hwn, bu’r plant yn penderfynu ar y math o broject yr hoffant ei greu a dewis eu hymarferydd. Rydym yn falch iawn y bydd yr Artist Catrin Williams yn dod at y plant ym mis Ionawr i edrych ar hanes y Gymraeg a sut gellir hyrwyddo’r hanes drwy gelf.

Ymweliad Ysgol Parc y Bont Braf oedd croesawu plant cyfnod Sylfaen Parc y Bont a chael eu tywys ar daith o amgylch y byd yn Stiwdio Pontio cyn mwynhau picnic dan do wedi ei baratoi gan Caffi Cegin Pontio. Os hoffech drefnu gweithdy drama i ddosbarth o unrhyw oedran ac ar unrhyw thema cysylltwch â m.huws@bangor.ac.uk

Caban Calan Pwy â wŷr fod coedwig hudolus yng nghanol Pontio? Ond, dim ond y rhai sydd yn creu llusern arbennig dan arweiniad Manon Awst, ac sy’n dilyn cerddoriaeth hudolus Jen Morris all ddod o hyd iddi. Yn y goedwig hyd yma, roedd dynes y coed, Siwan Llynor yno i’w croesawu gyda holl hanesion y goedwig. Am fwy o wybodaeth am brojectau BLAS dilynwch ein tudalen Facebook


Gweithdai

39


Bob yn ail ddydd Llun 12pm Stiwdio Pontio a Vertical Dance Kate Lawrence yn cyflwyno

Hedfan am Hanner Dydd £6 am 1 sesiwn £40 am 8 sesiwn Sesiwn hwyliog a chyfle i roi tro ar ddawnsio awyrol. Dechreuwn gydag ychydig o gynhesu hawdd, yna fe fyddwch yn ceisio sefyll a neidio oddi ar lawr fertigol gan ddefnyddio harnais o gwmpas eich canol. Byddwch yn cael eich tywys drwy symudiadau syml, ac yna fe gewch chi hedfan!

Rhowch dro ar 1 sesiwn neu talwch am 8 am bris gostyngedig! Gwisgwch ddillad cyfforddus sy’n dynn o gwmpas eich canol a thop eich coesau. Oed: 16+ Dim one lle i 12 sydd ar gael. Does dim angen profiad

Gweld mwy


25 Ionawr 1 / 8 / 22 Chwefror 1 / 8 / 15 / 22 / 29 Mawrth Stiwdio

Dawnsio ar Gyfer Parkinson’s £3.50 Ar ddydd Mawrth, 10-11.15am Mae dosbarthiadau Dawnsio ar gyfer Parkinson’s yn hwyliog ac anffurfiol. Profwyd bod dawns yn datblygu hyder a chryfder, wrth leddfu rhai o symptomau bob dydd cyfranogwyr.

Mae’r dosbarthiadau’n greadigol ac yn hyrwyddo teimlad o ryddid rhag cyfyngiadau corfforol a chymdeithasol Parkinson’s.

Gweld mwy Gwyliwch y Rhagflas

41


6 Ionawr 3 Chwefror 3 Mawrth 7 Ebrill 11am Stiwdio

Heb Ffiniau £3 y sesiwn Gweithdai symudol, sy’n eich annog i ymlacio, ystwytho a symud. Mae’r gweithdai’n addas i bawb dros ddeunaw oed, ac yn eich arwain i symud gan ddefnyddio byrfyfyrio a dawns – a hynny o fewn eich gallu chi.

18+

Gweld mwy


Archebwch eich diodydd ymlaen llaw yn y bar i’w mwynhau yn ystod yr egwyl Am fwy o wybodaeth ewch i’r tudalennau bwyd a diod pontio.co.uk

01248 383842 bwydabar@pontio.co.uk @eatdrinkbangor

43


DEWCH I BROFI’R HUD A’R LLEDRITH Bydd ein cyrsiau yn eich rhoi ar y llwybr cywir tuag at yrfa lwyddiannus. Wedi’i ddysgu gan arbenigwyr mewn lleoliad anhygoel, bydd gradd o Brifysgol Bangor yn rhoi rhyddid i chi feddwl, creu a chyflawni. DARGANFOD MWY


u a s a h t i e d m y r C y w r y f y M

45


Dydd Mercher 2 Mawrth 2pm + 7.30pm Theatr Bryn Terfel SODA yn cyflwyno

Legally Blonde: The Musical £7 - £10 Daw SODA â sioe gerdd arall i Theatr Bryn Terfel wedi’i selio ar y nofel a’r ffilm. Mae Legally Blonde: The Musical yn dilyn

Gweld mwy

hanes Elle Woods, myfyrwraig sydd wedi’i difetha’n llwyr ac sy’n hoff o bopeth pinc. 12+


Nos Fercher 16 Mawrth, 8pm Nos Iau 17 Mawrth, 8pm Theatr Bryn Terfel ROSTRA Theatre Society yn cyflwyno

Sweeny Todd £6 - £7 Ymunwch â Chymdeithas Theatr ROSTRA yn Theatr Bryn Terfel y gwanwyn hwn ar gyfer eu perfformiad o Sweeny Todd! Mae Sweeny Todd, barbwr dieflig Fleet

Gweld mwy

Street, yn cymryd yn erbyn y barnwr a’i alltudiodd ar gyhuddiad ffug, nid stori tylwyth teg mo hon, felly a fydd diweddglo llawen?

47


Gwybodaeth Gyffredinol Archebion Grŵp Rydym yn darparu ar gyfer grwpiau ac ysgolion, ac yn achlysurol, gallwn gynnig gostyngiadau sylweddol. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau am fwy o wybodaeth ar 01248 38 28 28.

hwyrach na 10 niwrnod cyn y digwyddiad, er mwyn sicrhau eu bod yn eich cyrraedd mewn da bryd. Wedi hynny, fe allwch gasglu’r holl docynnau sydd wedi’u prynu ymlaen llaw o’r swyddfa docynnau, neu eu hargraffu gartref.

Mae’r holl archebion yn amodol ar ein telerau a’n hamodau safonol. Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan https://www. pontio.co.uk/online/article/ termsandconditions

Teuluoedd Lle nodir pris tocyn teulu, mae’r cynnig ar gael i grŵp o bedwar. Rhaid i o leiaf un aelod o’r grŵp fod o dan 18 oed, oni nodir yn wahanol.

Tâl Postio Codir £1 o dâl postio os gofynnwch am docynnau trwy’r post. Ni allwch ofyn am docynnau trwy’r post yn

Gostyngiadau Lle bynnag y bo ‘gostyngiadau’ wedi’i nodi ar gyfer digwyddiadau Pontio, mae’r categorïau isod wedi’u

Adnodd ar gyfer dysgu, ymchwil, addysgu’r cyhoedd a mwynhad. Mae gan Ardd Fotaneg Treborth gwlâu planhigion, glaswelltir sy’n doreithiog mewn rhywogaethau, pyllau, gardd goed, gardd Tsieineaidd, choedir hynafol a chynefin creigiog ar lannau’r Fenai. Mae chwech tŷ gwydr yn cynnig awyrgylch arbenigol ar gyfer casgliadau planhigion trofannol a thymherus, tegeirianau a phlanhigion cigysol. Rydym yn trefnu sgyrsiau, sêl planhigion, gweithdai arbenigol, crefftau (a mwy!) yn rheolaidd.

Sesiynau gwirfoddoli rheolaidd phob dydd Mercher a dydd Gwener DIDDORDEB MEWN GWIRFODDOLI? CYSYLLTWCH Â NI Gardd Fotaneg Treborth Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ www.treborth.bangor.ac.uk treborth@bangor.ac.uk 01248 353398

cynnwys yn y diffiniad hwnnw: myfyrwyr a rhai dros 60. Mae plant a phobl ifanc yn cynnwys unrhyw un o dan 18 oed. Caiff plant dan 2 oed fynd i mewn am ddim. Cerdyn Hynt Mae gan rai â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad ac am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalydd yn Pontio a phob theatr a chanolfan gelf sy’n rhan o’r cynllun. Ewch i www.hynt.co.uk neu www.hynt.cymru am wybodaeth ac arweiniad am y cynllun.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.