Hawdd ei Ddeall
Newyddion Grŵp Cynghori Haf/Hydref 2013
Beth mae'r Grŵp Cynghori ym maes Anabledd Dysgu wedi bod yn ei wneud? Cafodd Grŵp Cynghori ym maes Anabledd Dysgu gyfarfod ar 10 Medi 2013 yng Nghaerdydd.
Fframwaith Trosedd Casineb Siaradodd y grŵp am Fframwaith Trosedd Casineb. Mae 2 o bobl yn y Grŵp Cynghori yn rhan o Brosiect Ymchwil i Drosedd Casineb Cymru Gyfan. Fe fyddan nhw'n gweithio gyda Roger Banks a Sophie Hinksman, cyd-gadeiryddion y Grŵp Cynghori, i ddweud wrth Lywodraeth Cymru beth maen nhw'n feddwl am Fframwaith Trosedd Casineb. Cewch wybod mwy am y Fframwaith ar wefan Llywodraeth Cymru: http://wales.gov.uk/consultations/ equality/130711-hate-crime-framework-consul/?lang=cy.
Panel Cynghori ar Ddiogelu Mae Llywodraeth Cymru yn meddwl am newid y ffordd y mae gwasanaethau yn ymchwilio i mewn i achosion o oedolion yn cael eu cam-drin. (Muy ar dudalen 2)
Cylchlythyr Hawdd ei Ddeall
Dudalen 2
Newyddion Grŵp Cynghori (O dudalen 1)
Byddai hyn yn meddwl y byddai Adolygiadau Ymarfer Oedolion yn lle Adolygiadau Achosion Difrifol. Bydd Mick Collins o Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion yn gweithio ar hyn gyda Llywodraeth Cymru.
“To catch the reader's attention, place an interesting sentence or quote from the story here.”
Bydd y Grŵp Cynghori yn edrych i mewn i hyn fel rhan o'r is-grŵp ar wneud gofal yn well i bobl ag anabledd dysgu a phobl ag ymddygiad heriol yng Nghymru.
Mesur Iechyd Meddwl
Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010
Mae Llywodraeth Cymru yn cychwyn grwpiau i edrych sut mae Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 yn gweithio. Mae hwn yn ddeddf ynghylch gwasanaethau i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru. Bydd y grwpiau yn edrych ar wahanol rannau o'r ddeddf:
pwy sy'n medru gwneud asesiadau sut dylai'r Cynlluniau Gofal a Thriniaeth edrych pwy sy'n medru dod yn gyd-drefnydd gofal pwy sy'n medru gofyn am gael gwneud asesiad arall beth y mae Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol yn ei wneud a sut y gall pobl gael help ganddyn nhw.
(Muy ar dudalen 3)
Dudalen 3
Haf/Hydref 2013 (O dudalen 2)
Dywedodd rhai aelodau o'r Grŵp Cynghori ym maes Anabledd Dysgu yr hoffen nhw ymuno â'r grwpiau i edrych ar rannau o'r ddeddf a allai effeithio ar bobl ag anabledd dysgu.
Ffrydiau gwaith ac is-grwpiau Am ran o'r cyfarfod cafodd aelodau'r Grŵp Cynghori eu rhannu'n 3 grŵp. Edrychodd pob grŵp ar un o'r pynciau y bydd isgrwpiau newydd y Grŵp Cynghori yn gweithio arnyn nhw: “To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story here.”
Gwneud gofal yn well i bobl ag anableddau dysgu a phobl ag ymddygiad heriol yng Nghymru. Mae hyn oherwydd y cam-drin a ddigwyddodd yn Winterbourne View yn Lloegr. Pam y mae iechyd pobl ag anabledd dysgu yn aml yn waeth na phobl eraill a pham y mae'r gofal iechyd a roddir iddyn nhw'n waeth. Eiriolaeth – siarad drosoch chi eich hun neu ar ran rhywun arall.
Roedd gan bob grŵp restr o gwestiynau i feddwl amdanyn nhw a cheisio eu hateb. Fe feddylion nhw am syniadau i'r is-grwpiau newydd weithio arnyn nhw. Fe wnaethon nhw hefyd ysgrifennu rhestrau o bobl a mudiadau a ddylai gael eu gwahodd i ymuno â'r isgrwpiau. (Muy ar dudalen 4)
Dudalen 4
Newyddion Grŵp Cynghori (O dudalen 3)
Cynllun Gweithredu Winterbourne View
Cynllun Gweithredu “To catch the reader's attention, place an interesting sentence or quote from the story
Ysgrifennodd Roger a Sophie, cyd-gadeiryddion y Grŵp Cynghori, at Ddirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Gorffennaf 2013 ynghylch gwneud gofal yn well i bobl ag anabledd dysgu a phobl ag ymddygiad heriol yng Nghymru. Fe anfonon nhw gopi o'r Cynllun Gweithredu a gafodd ei ysgrifennu gan y Gymuned Ymarfer ar gyfer Ymddygiad Heriol.
here.”
Roedd llawer o syniadau yn y Cynllun Gweithredu ynghylch beth sydd angen cael ei wneud yng Nghymru i wneud yn siwr nad yw pobl yn cael eu cam-drin fel y bobl oedd yn byw yn Winterbourne View. Atebodd Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol, lythyr Roger a Sophie ar 18 Awst. Fe ofynnodd hi i'r Grŵp Cynghori ddweud wrthi pa 5 syniad yn y Cynllun Gweithredu maen nhw'n meddwl sydd fwyaf pwysig. Penderfynodd y Grŵp Cynghori ofyn i'r Gymuned Ymarfer ar gyfer Ymddygiad Heriol beth roedden nhw'n ei feddwl. (Muy ar dudalen 5)
Haf/Hydref 2013
Dudalen 5
(O dudalen 4)
Bydd y Gymuned Ymarfer ar gyfer Ymddygiad Heriol yn edrych ar y Cynllun Gweithredu eto yn eu cyfarfod ar 18 Medi ac yn penderfynu pa 5 syniad maen nhw'n meddwl sydd fwyaf pwysig. Byddan nhw hefyd yn dewis aelodau o'r Gymuned Ymarfer ar gyfer Ymddygiad Heriol i ymuno ag isgrŵp y Grŵp Cynghori i gael gwell gofal i bobl ag anableddau dysgu a phobl ag ymddygiad heriol yng Nghymru. “To catch the reader's attention, place an
Digwyddiad 30 Mlynedd a Dal i Gyfrif
interesting sentence or quote from the story here.”
Mae'r Grŵp Cynghori yn cynnal digwyddiad i ddathlu 30 mlynedd o Strategaeth Cymru Gyfan. Roedd Strategaeth Cymru Gyfan ynghylch pobl ag anabledd dysgu yn symud i'r gymuned yn lle byw mewn ysbytai mawr fel Trelai a Hensol. Mae Mencap Cymru, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Anabledd Dysgu Cymru a Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan wedi bod yn cynllunio'r digwyddiad. Maen nhw wedi gwahodd pobl ag anabledd dysgu, teuluoedd, gofalwyr a phobl broffesiynol i ddod i'r digwyddiad. Bydd Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol yn siarad yn y digwyddiad. (Muy ar dudalen 6)
Dudalen 6
Newyddion Grŵp Cynghori (O dudalen 5)
Bydd cyfle hefyd i siarad am rai o'r pethau sy'n bwysig ym mywydau pobl fel:
swyddi
iechyd
throsedd casineb.
Bydd Roger a Sophie yn cadeirio'r digwyddiad gyda'i gilydd.
“To catch the reader's attention, place an interesting sentence or quote from the story
Bydd stondinau ble gall pobl ddod o hyd i wybodaeth am wasanaethau cymunedol.
here.”
Gyda'r nos fe fydd pryd o fwyd a disgo.
Ymchwil i farwolaethau cynnar pobl ag anableddau dysgu Aeth Samantha Williams, Swyddog Gwybodaeth Grŵp Cynghori ym maes Anabledd Dysgu, i gyfarfod i gael gwybodaeth am ymchwil gafodd ei wneud i farwolaethau cynnar pobl ag anabledd dysgu.
Ymchwil
Roedd Anna Marriott yn un o'r bobl wnaeth yr ymchwil. Rhoddodd Anna gyflwyniad ar y ffordd y gwnaethon nhw'r ymchwil a'r pethau y daethon nhw i wybod ar ôl ei wneud. Edrychodd yr ymchwil ar farwolaethau pobl ag anabledd dysgu rhwng Mehefin 2010 a Mai 2012 mewn 5 ardal yn Lloegr. (Muy ar dudalen 7)
Haf/Hydref 2013
Dudalen 7
(O dudalen 6)
Roedd mwy o farwolaethau nag yr oeddyn nhw wedi ei ddisgwyl. Dangosodd yr ymchwil bod pobl ag anabledd dysgu yn marw'n fengach na phobl heb anabledd dysgu. Roedd dynion ag anabledd dysgu yn marw 13 mlynedd yn gynt na dynion heb anabledd dysgu. Roedd merched ag anabledd dysgu yn marw 20 mlynedd yn gynt na merched heb anabledd dysgu. “To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story here.�
Roedd pobl ag anableddau dysgu difrifol iawn ac anableddau eraill neu broblemau meddygol yn fwy tebygol o farw'n gynnar. Roedd y tystysgrifau marwolaeth yn dangos bod llawer o farwolaethau pobl ag anabledd dysgu yn digwydd oherwydd problemau gyda'r ysgyfaint neu'r galon. Roedd y bobl a wnaeth yr ymchwil yn poeni nad oedd y crwner yn cael ei hysbysu am ddigon o farwolaethau pobl ag anabledd dysgu. Mae crwner yn edrych pam y mae rhywun wedi marw. Dangosodd yr ymchwil y buasai'n bosibl bod bron i hanner y bobl ag anabledd dysgu ddim wedi marw pan gwnaethon nhw. (Muy ar dudalen 8)
Dudalen 8
Newyddion Grŵp Cynghori (O dudalen 7)
Dangosodd yr ymchwil y buasai'n bosibl na fuasai llawer o bobl ag anabledd dysgu ddim wedi marw petaen nhw wedi cael gwell gofal iechyd. Dangosodd yr ymchwil hefyd nad oedd problemau ynghylch gwybod bod pobl yn sâl. Ond roedd problemau ynghylch dod i wybod beth oedd yn eu gwneud nhw'n sâl.
“To catch the reader's attention, place an interesting sentence or quote from the story
Roedd pobl oedd â ffrind agos neu bartner yn llai tebygol o farw'n gynnar.
here.”
Mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw hi i gael eiriolwr neu rywun sy'n nabod y person yn dda iawn i siarad ar ei ran pan fydd e'n sâl. Roedd 3 phrif reswm pam nad oedd pobl ag anabledd dysgu yn cael gofal iechyd da:
Doedd y gwasanaethau iechyd ddim yn gwneud digon o addasiadau derbyniol. Mae hyn yn meddwl gwneud newidiadau fel bo pobl ag anabledd dysgu yn medru cael gafael ar wasanaethau a deall beth sy'n digwydd neu beth sydd arnyn nhw angen ei wneud. Nid oedd gwahanol wasanaethau yn gweithio gyda'i gilydd yn dda iawn i wneud yn siwr bod pobl yn cael y gofal iawn. Doedd pobl ddim yn cael gafael ar eiriolaeth dda. (Muy ar dudalen 9)
Dudalen 9
Haf/Hydref 2013 (O dudalen 8)
Dyma rai o'r problemau eraill wnaeth rwystro pobl rhag cael gofal iechyd da:
Ddeddf Galluedd Meddyliol
Doedd gwybodaeth am iechyd pobl ddim yn cael ei gadw'n iawn na'i rannu gyda'r bobl iawn. Doedd staff ddim yn deall y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn iawn. Mae hon yn ddeddf ynghylch ei gwneud hi'n bosibl i bobl wneud eu penderfyniadau eu hunain neu weithiau gael rhywun arall i wneud eu penderfyniadau drostyn nhw. Doedd cynlluniau iechyd a gofal ddim yn dda iawn. Roedd hi'n cymryd gormod o amser i ddod o hyd i'r rheswm pam roedd pobl yn sâl a dechrau ceisio eu gwneud yn well. “To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story here.”
Edrychodd y bobl a wnaeth yr ymchwil ar y canlyniadau i gyd a gwneud adroddiad. Fe ysgrifennon nhw restr o 18 o syniadau am wneud gofal iechyd i bobl ag anabledd dysgu yn well a'u rhwystro nhw rhag marw'n gynnar. Ym mis Gorffennaf 2013 ysgrifennodd yr Adran Iechyd adroddiad am yr ymchwil a dweud beth roedden nhw am ei wneud am yr 18 syniad. Gallwch ddarllen fersiwn Hawdd ei Ddeall (yn Saesneg yn unig) o adroddiad yr ymchwil ac adroddiad yr Adran Iechyd yma: http:// www.bris.ac.uk/cipold/.
Dudalen 10
Newyddion Grŵp Cynghori
Beth mae'r Gymuned Ymarfer ar gyfer Ymddygiad Heriol wedi bod yn ei wneud? Cafodd y Gymuned Ymarfer ar gyfer Ymddygiad Heriol gyfarfod ar 18 Medi 2013.
Cynllun Gweithredu Fe dreulion nhw amser yn edrych ar y Cynllun Gweithredu ynghylch ffyrdd o wneud gofal yn well i bobl anableddau dysgu a phobl ag ymddygiad heriol yng Nghymru. “To catch the reader's attention, place an interesting sentence or quote from the story here.”
Fe geision nhw ddewis 5 o'r syniadau mwyaf pwysig o'r Cynllun Gweithredu i ddweud wrth Ddirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae arnyn nhw hefyd eisiau dweud wrthi am ffyrdd da o weithio gyda phobl ag anableddau dysgu a phobl ag ymddygiad heriol sy'n digwydd yng Nghymru'n barod. Fe ddewison nhw bobl hefyd i ymuno ag is-grŵp y Grŵp Cynghori ynghylch cael gwell gofal i bobl ag anableddau dysgu a phobl ag ymddygiad heriol yng Nghymru.
Unedau Triniaeth ac Asesu Roedd 2 gyflwyniad ynghylch Unedau Triniaeth ac Asesu.
(Muy ar dudalen 11)
Dudalen 11
Haf/Hydref 2013 (O dudalen 10)
Mae Uned Triniaeth ac Asesu yn rhywle ble mae pobl yn mynd weithiau os oes ganddyn nhw broblemau iechyd meddwl ac mae angen help arbennig arnyn nhw. Roedd y cyflwyniadau ynghylch:
y ffordd mae'r gwasanaethau'n cael eu rhedeg
sut maen nhw'n penderfynu pa help sydd ei angen ar bobl
yrmath o help maen nhw'n ei roi i bobl fel therapi drama. “To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story here.”
Cynllunio diwedd bywyd Roedd y cyflwyniad nesaf gan Richard Tiplady, rheolwr cartref gofal yn Lloegr. Roedd yn siarad am gynllunio ar gyfer yr adeg pan fydd person ag anabledd dysgu yn mynd i farw. Mae ei fudiad ef wedi gweithio gyda mudiadau eraill i helpu'r bobl maen nhw'n eu cefnogi i gynllunio ar gyfer diwedd eu bywyd. Cafodd staff hyfforddiant mewn hosbis lleol. Mae hwn yn lle y mae pobl sy'n sâl iawn weithiau'n mynd i aros a chael gofal nes y byddan nhw'n marw. Gweithiodd y staff hefyd gyda thîm anabledd dysgu y gymuned leol. (Muy ar dudalen 12)
Dudalen 12
Newyddion Grŵp Cynghori (O dudalen 11)
Fe helpon nhw bobl ysgrifennu cynlluniau am beth roedd arnyn nhw eisiau ar ddiwedd eu bywyd. Cynllun
Astudiaeth achos Roedd y cyflwyniad olaf gan David Jones a Glenn Greenacre o Gonsortiwm Bywydau Cymunedol. Roedd ynghylch dysgu dyn 18 oed oedd ag awtistiaeth, anabledd dysgu ac ymddygiad heriol sut i fastyrbio yn y ffordd iawn. “To catch the reader's attention, place an interesting sentence or quote from the story here.”
Mae mastyrbio yn meddwl cyffwrdd â chi eich hun er mwyn rhoi pleser rhywiol i chi eich hun. Dywedodd David a Glenn eu bod wedi synnu nad oedd bron dim gwybodaeth dda ynghylch mastyrbio ar gyfer pobl ag anabledd dysgu. Roedd yr unig wybodaeth roedden nhw'n gallu dod o hyd iddo ynghylch ceisio rhwystro pobl rhag gwneud hynny'n gyhoeddus neu leoedd eraill ble na ddylech chi wneud hynny. Doedden nhw ddim wedi medru dod o hyd i wybodaeth ynghylch sut i helpu rhywun wneud hynny'n iawn. Mae llawer o resymau pam y mae pobl ag anabledd dysgu yn cael problemau wrth fastyrbio:
dim digon o wybodaeth neu hyfforddiant (Muy ar dudalen 13)
Dudalen13
Haf/Hydref 2013 (O dudalen 12)
dydy staff ddim yn hoffi siarad amdano neu dydyn nhw ddim yn gwybod digon i siarad amdano gyda'r bobl maen nhw'n eu cefnogi
weithiau dydy pobl ddim yn deall ble na phryd y mae'n iawn i fastyrbio
pryderu neu fod dan straen
mae rhai moddion y mae'n rhaid i bobl eu cymryd yn gallu ei gwneud hi'n anodd i fastyrbio'n iawn
problemau corfforol fel cael problem i symud eich dwylo “To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story here.”
pan na fydd gan bobl bethau diddorol i'w gwneud yn eu bywydau, gallan nhw weithiau feddwl gormod am ryw a mastyrbio.
Soniodd David a Glenn wrth y grŵp am ddyn ifanc roedden nhw'n ei gefnogi oedd ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac ymddygiad heriol. Roedd staff yn meddwl mai achos peth o'i ymddygiad heriol oedd am nad oedd o'n gallu mastyrbio'n iawn. Roedd hyn yn ei wneud yn flin ac yn rhwystredig iawn. Penderfynodd y staff ei helpu i ddysgu sut i'w wneud yn iawn. Fe wylion nhw ei ymddygiad cyn ac ar ôl yr hyfforddiant i weld a oedd yn gwneud gwahaniaeth. (Muy ar dudalen 14)
Dudalen 14
Newyddion Grŵp Cynghori (O dudalen 13)
Fe welson nhw bod ei ymddygiad yn llawer gwell ac yn llai heriol ar ôl yr hyfforddiant. Roedd hyn yn meddwl nad oedd yn rhaid iddo fynd i Uned Triniaeth ac Asesu. Roedd yn gallu dal i fyw ble yr oedd yn rhannu tŷ gyda chefnogaeth. Mae ar David a Glenn eisiau ysgrifennu am yr hyfforddiant fel bo aelodau eraill o staff yn gallu ei ddefnyddio i helpu'r bobl maen nhw'n eu cefnogi.
Am ragor o wybodaeth neu i adael i ni wybod beth rydych chi'n feddwl, ffoniwch Sam Williams ar 029 20681160 neu e-bostiwch: samantha.williams@learningdisabilitywales.org.uk Dilynwch ni ar Facebook a Twitter @LDAdvisoryGroup