Hawdd ei Ddeall
Newyddion GCAD
Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Ad-drefnu cabinet Ar 11 Medi 2014 dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones wrth bawb ar Trydar ei fod yn gwneud rhai newidiadau i’r Cabinet. Mae’r gair Cabinet yn meddwl y bobl yn Llywodraeth Cymru sy’n gofalu am bolisïau – mae’r bobl sy’n gofalu am bolisïau’n cael eu galw’n Weinidogion a Dirprwy Weinidogion. Mae ad-drefnu Cabinet yn digwydd pan fydd gwaith y Gweinidogion a’r Dirprwy Weinidogion yn newid er mwyn i wahanol bobl ofalu am wahanol bethau. Penderfynodd Carwyn Jones ddod â Leighton Andrews yn ôl i’r Cabinet. Mae Leighton Andrews yn Weinidog newydd sy’n gofalu am Wasanaethau Cyhoeddus. Bydd yn gyfrifol am ailffurfio’r sector cyhoeddus. Mae hyn yn meddwl newidiadau i wasanaethau cyhoeddus fel cynghorau lleol. Cyngor
Cylchlythyr Hawdd ei Ddeall
(Muy ar dudalen 2)
Tudalen 2
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 1)
Bydd hefyd yn gofalu am y ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu rhedeg. Er 2007 mae Gwenda Thomas wedi bod yn Ddirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol ond yn awr mae hi wedi gadael y Cabinet. Does dim Dirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Cabinet newydd. “To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story here.”
Mae Mark Drakeford yn dal i fod yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd y Grŵp Cynghori ym maes Anabledd Dysgu yn awr yn rhoi cyngor i Mark Drakeford yn lle Gwenda Thomas. Mae gan Vaughan Gething waith newydd fel Dirprwy Weinidog dros Iechyd. Mae hyn yn meddwl y bydd yn gyfrifol am y gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Mae Jeff Cuthbert a John Griffiths wedi gadael y Cabinet. Mae Julie James wedi ymuno â’r Cabinet am y tro cyntaf fel Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg.
(Muy ar dudalen 3)
Tudalen 3
Rhif 6 Haf-Hydref 2014 (O dudalen 2)
Mae Lesley Griffiths yn awr yn Weinidog dros Gymunedau a Threchu Tlodi. Mae ganddi restr hir o gyfrifoldebau sy’n cynnwys llawer o feysydd pwysig: Diwygio Lles – newidiadau i fudd-daliadau Hawliau plant a phobl ifainc Adfywio – gwneud rhai rhannau o Gymru’n well lleoedd i fwy a gweithio ynddyn nhw
“To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story here.”
Cartrefu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl a Grantiau Addasiadau Ffisegol – arian i wneud eich cartref yn hawdd i symud o gwmpas Cynhwysiant digidol – gwneud yn siŵr bod pawb yng Nghymru yn medru defnyddio’r rhyngrwyd Cydraddoldeb – hawliau pobl i gael eu trin yn deg Y sector wirfoddol a gwirfoddoli. Mae Jane Hutt yn dal i fod yn Weinidog Cyllid ond yn awr mae hi hefyd yn gyfrifol am Fusnes y Llywodraeth. (Muy ar dudalen 4)
Tudalen 4
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 3)
Dywedodd Carwyn Jones y bydd y Cabinet newydd hwn yn medru helpu Cymru wneud newidiadau pwysig yn y dyfodol. Dyma restr llawn o’r Cabinet newydd: Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth “To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story here.”
Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Huw Lewis, Gweinidog Addysg a Sgiliau Jane Hutt, Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Leighton Andrews, Gweinidog y Gwasanaethau Cyhoeddus Lesley Griffiths, Gweinidog dros Gymunedau a Threchu Tlodi Carl Sargeant, Gweinidog Cyfoeth Naturiol Vaughan Gething, Dirprwy Weinidog Iechyd Ken Skates, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth (Muy ar dudalen 5)
Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Tudalen 5
(O dudalen 4)
Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd Julie James, Dirprwy Weinidgol dros Sgiliau a Thechnoleg. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y Cabinet a’r hyn maen nhw’n wneud ar wefan Llywodraeth Cymru: http://wales.gov.uk/about/ cabinet/?lang=cy. “To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story
Beth y mae’r GCAD wedi bod yn ei wneud? here.”
Cafodd y Grŵp Cynghori ym maes Anabledd Dysgu neu GCAD gyfarfod ar 10 Medi yng Nghaerdydd. Siaradon nhw am lawer o wahanol bethau.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) Rhoddodd Anthony Jordan o Lywodraeth Cymru gyflwyniad ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
(Muy ar dudalen 6)
Tudalen 6
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 5)
Deddf
2016 Ebrill
Ar 1 Mai 2014 llofnododd y Frenhines i ddweud y gallai Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ddod yn rhan o’r gyfraith yng Nghymru. Ni fydd yn dod yn rhan o’r gyfraith yn llwyr tan Ebrill 2016 pan fydd pob rheol a chanllaw fydd yn mynd gyda’r Ddeddf wedi cael eu hysgrifennu.
“To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story
Bwriad y Ddeddf fydd:
here.”
rhoi mwy o ddewis i bobl a mwy o reolaeth dros eu bywydau
helpu pobl i aros yn iach ac yn dda helpu pobl i fod yn annibynnol yn hirach helpu a chefnogi pobl mor fuan ag sy’n bosibl cyn i’w hanghenion fynd yn waeth cael gwasanaethau i weithio gyda’i gilydd i gefnogi pobl yn eu cymunedau lleol. Mae’r Ddeddf hefyd ynghylch gwneud gwasanaethau cymdeithasol yn gynaliadwy. (Muy ar dudalen 7)
Tudalen 7
Rhif 6 Haf-Hydref 2014 (O dudalen 6)
Mae hyn yn meddwl y gall gwasanaethau cymdeithasol ddal i helpu pobl yn y dyfodol hyd yn oed os oes mwy o bobl sydd angen help a llai o arian i wario ar wasanaethau.
Canllawiau
Bydd llawer o reolau newydd a chanllawiau i fynd gyda’r Ddeddf. Bydd y rheolau a’r canllawiau hyn yn cael eu galw’n reoliadau a chodau ymarfer. “To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story here.”
Deddf
Byddan nhw’n egluro sut y mae’n rhaid i bobl a mudiadau weithio er mwyn iddyn nhw ddilyn y ddeddf newydd. Mae’n rhaid i cynghorau lleol ddilyn y rheolau a’r canllawiau newydd. Mae Llywodraeth Cymru yn helpu gwasanaethau i baratoi ar gyfer y newidiadau. Maen nhw’n rhoi arian i awdurdodau lleol sy’n cael ei alw’n ‘Grant Cyflwyno Trawsnewid’. Byddan nhw hefyd yn helpu i hyfforddi staff ynghylch y newidiadau. (Muy ar dudalen 8)
Tudalen 8
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 7)
Pryd bydd y newidiadau’n digwydd?
Tachwedd Haf
Bydd ymgynghoriadau ym mis Tachwedd 2014 a haf 2015.
Canllawiau
?
Bydd yr ymgynghoriadau yn rhoi cyfle i bobl ddweud wrth Lywodraeth Cymru beth maen nhw’n feddwl o’r holl reolau newydd a’r canllawiau.
“To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story here.”
Ar ôl yr ymgynghoriadau, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn edrych ar y rheolau a’r canllawiau i benderfynu a ydyn nhw’n hapus â nhw. Unwaith y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn hapus â nhw, byddan nhw’n gallu mynd yn rhan o’r gyfraith. Bydd hyfforddiant i staff ar y newidiadau yn 2015 a 2016. Yna bydd y Ddeddf a’r holl reolau a’r canllawiau yn mynd yn rhan o’r gyfraith yn Ebrill 2016. (Muy ar dudalen 9)
Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Tudalen 9
(O dudalen 8)
Gallwch gael mwy o wybodaeth am y ddeddf ar wefan Llywodraeth Cymru a gwefan y Cynulliad Cenedlaethol: Llywodraeth Cymru http://wales.gov.uk/topics/ health/socialcare/act/?lang=cy Cynulliad Cenedlaethol Cymru http:// www.senedd.assemblywales.org/ mgIssueHistoryHome.aspx?IId=5664
“To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story here.”
Adolygiadau Ymarfer ar gyfer Oedolion Rhoddodd Richard Chivers o Lywodraeth Cymru gyflwyniad ar yr Adolygiadau Ymarfer newydd ar gyfer Oedolion. Roedd Adolygiadau Ymarfer ar gyfer Oedolion yn arfer cael eu galw’n Adolygiadau Achos Difrifol. Maen nhw’n edrych ar achosion ble mae rhywbeth wedi mynd o chwith yn gyfan gwbl er mwyn ceisio gwneud yn siŵr ei fod o ddim yn digwydd eto.
(Muy ar dudalen 10)
Tudalen 10
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 9)
Canllawiau
Ysgrifennodd Lywodraeth Cymru ganllawiau newydd i ddweud pryd y dylai Adolygiadau Ymarfer ar gyfer Oedolion ddigwydd a sut y dylen nhw ddigwydd. Fe ofynnon nhw i bobl beth roedden nhw’n ei feddwl o’r canllawiau newydd.
“To catch the reader's a en on, place an Ionawr Gorffenaf interes ng sentence or quote from the story here.”
Fe ddechreuon nhw roi yr adolygiadau newydd ar brawf rhwng Ionawr a Gorffennaf 2014. Bydd y fersiwn terfynol o’r canllawiau newydd yn cael eu hanfon allan cyn bo hir. Bydd hyfforddiant ar gyfer staff hefyd ynghylch sut i roi’r adolygiadau newydd ar waith.
Mae’r Adolygiadau Ymarfer i Oedolion ynglŷn â dysgu o’r hyn sydd wedi digwydd er mwyn gwneud gwasanaethau yn well a chadw pobl yn ddiogel.
Diogelu
Mae Byrddau Diogelu Oedolion yn gyfrifol am Adolygiadau Ymarfer i Oedolion. (Muy ar dudalen 11)
Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Tudalen 11
(O dudalen 10)
Mae grŵp o bobl sy’n cael eu galw’n banel yn cael eu dewis i roi pob Adolygiad Ymarfer ar gyfer Oedolion ar waith. Maen nhw’n ysgrifennu adroddiad am beth wnaethon nhw ddysgu o’r adolygiad a beth maen nhw’n feddwl ddylai pobl ei wneud yn y dyfodol. Mae’r adroddiad hwn yn helpu pobl i ddysgu o’u camgymeriadau a newid y ffordd maen nhw’n gwneud pethau. “To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story here.”
Mae achosion yn cael eu hadolygu pan fydd pobl wedi bod yn pryderu llawer ynghylch rhywbeth sydd wedi digwydd i rywun. olau e h R
Mae rheolau yn y canllawiau ynghylch pryd y mae adolygiad i fod i gael ei roi ar waith. Mae’r rheolau hyn ar gyfer oedolion mewn perygl. Mae oedolyn mewn perygl yn berson sydd: yn cael ei gam-drin neu efallai y bydd yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso ac (Muy ar dudalen 12)
Tudalen 12
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 11)
mae ganddo anghenion ar gyfer gofal a chefnogaeth ac oherwydd yr anghenion hynny, dydy o ddim yn gallu ei amddiffyn ei hun rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso.
“To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story
Mae’n rhaid i Adolygiad Ymarfer ar gyfer Oedolion gael ei roi ar waith os bydd oedolyn sydd mewn perygl:
here.”
yn marw neu yn brifo ei hun yn ddrwg iawn neu yn cael ei gam-drin yn rhywiol ac mae pobl yn meddwl neu’n gwybod bod y person wedi cael ei gam-drin neu ei esgeuluso. Beth sy’n digwydd nesaf? Bydd y canllaw hwnnw yn cael ei anfon allan yn fuan. (Muy ar dudalen 13)
Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Tudalen 13
(O dudalen 12)
Pan fydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn dod i rym yn Ebrill 2016 yna bydd y canllawiau hefyd yn dod i rym. Bydd Llywodraeth Cymru yn hyfforddi pobl ynghylch y canllawiau newydd.
“To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story here.”
Beth mae’r is-grwpiau wedi bod yn ei wneud? Gwneud gwasanaethau yn well i bobl ag anabledd dysgu a phobl ag ymddygiad heriol Ysgrifennodd yr is-grŵp hwn adroddiad ar gyfer Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol.
1. ________ 2. ________ 3. ________ 4. ________ 5. ________
Roedd yr adroddiad ynghylch y pum prif beth sydd angen eu gwneud i wneud gwasanaethau’n well i bobl ag anabledd dysgu a phobl ag ymddygiad heriol yng Nghymru. (Muy ar dudalen 14)
Tudalen 14
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 13)
Adroddiad
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei fod yn cytuno â’r adroddiad. Gofynnodd y Dirprwy Weinidog i’r is-grŵp ddal ati i weithio ar y pum syniad yn yr adroddiad.
“To catch the reader's a en on, place an
Gofynnodd i’r is-grŵp hefyd ysgrifennu cynlluniau gweithredu ar gyfer sut y bydd popeth yn yr adroddiad yn cael ei wneud ac erbyn pryd y bydd yn cael ei wneud.
interes ng sentence or quote from the story here.”
Mae’r is-grŵp yn gweithio’n agos gyda Chymuned Ymarfer Ymddygiad Heriol.
4
Mae’r is-grŵp yn gweithio mewn 4 grŵp bach i ysgrifennu’r cynlluniau gweithredu yngylch beth sydd angen ei wneud ac erbyn pryd mae angen gwneud hynny: Mae Grŵp 1 ynglŷn â gwasanaethau yn gweithio gyda’i gilydd i gynllunio a thalu am wasanaethau. Mae Grŵp 2 ynglŷn â chael gwybodaeth am faint o bobl sydd ag anabledd dysgu ac ymddygiad heriol sydd efallai angen gwasanaethau. (Muy ar dudalen 15)
Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Tudalen 15
(O dudalen 14)
Mae Grŵp 3 ynglŷn â gwneud yn siŵr bod gan staff y medrau iawn a’u bod wedi cael yr hyfforddiant iawn i gefnogi pobl ag anabledd dysgu ac ymddygiad heriol. Mae Grŵp 4 ynglŷn ag archwilio gwasanaethau i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel ac o safon dda. Mae rhif 5 ar y rhestr ynglŷn â symud pobl sy’n byw ymhell o’u cartref yn ôl i’w hardal leol. “To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story here.”
Ond ddylen ni ddim symud pobl os nad oes gwasanaethau o safon i roi cefnogaeth iddyn nhw yn eu hardal leol. Dyna pam mae’r is-grŵp yn gweithio ar y 4 syniad arall yn gyntaf er mwyn iddyn nhw fedru gwneud yn siŵr bod gwasanaethau lleol o safon yno cyn symud pobl yn ôl adref. Mae’r is-grwpiau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod eu cynlluniau gweithredu yn gweithio’n dda gyda’r deddfau a’r polisïau newydd sy’n digwydd yng Nghymru.
(Muy ar dudalen 16)
Tudalen 16
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 15)
Fe fyddan nhw’n gadael i Lywodraeth Cymru wybod bob chwe mis beth maen nhw’n wneud. Bydd yr is-grŵp hefyd yn dweud wrth Lywodraeth Cymru beth maen nhw’n feddwl am y rheolau a’r canllawiau newydd y maen nhw’n eu hysgrifennu i fynd gyda Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). “To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story here.”
Iechyd Mae’r is-grŵp hwn wedi ysgrifennu rhestr o 6 o bethau y mae arno eisiau gweithio arnyn nhw:
?
Pam mae gan bobl ag anabledd dysgu waeth iechyd na phobl eraill sy’n byw yng Ngymru? Pa wahaniaeth mae archwiliadau iechyd blynyddol yn ei wneud i iechyd pobl ag anabledd dysgu? Sut gall newidiadau i bolisi cymdeithasol wneud gwahaniaeth i anghenion iechyd a chefnogaeth pobl ag anabledd dysgu.
(Muy ar dudalen 17)
Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Tudalen 17
(O dudalen 16)
Edrych ar bob math o wasanaethau y GIG a meddwl sut y gallan nhw eu gwneud yn well ar gyfer pobl ag anabledd dysgu Pa ymchwil sydd ar gael yng Nghymru ynglŷn â iechyd pobl ag anabledd dysgu? Dod o hyd i ffyrdd da o drin pobl ag anabledd dysgu a rhannu’r syniadau hyn ar draws Cymru. “To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story here.”
Bydd yr is-grŵp yn ysgrifennu adroddiad ar gyfer y GCAD am bopeth y daethon nhw i wybod erbyn dechrau 2015.
Eiriolaeth Roedd Joe Powell, Cyfarwyddwr Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, yn arwain yr is-grŵp ar eiriolaeth. Ond mae Joe wedi penderfynu peidio ag arwain yr is-grŵp bellach. Mae’n meddwl y dylai gael ei arwain gan rywun sydd ddim yn gweithio ym maes eiriolaeth neu hunaneiriolaeth. (Muy ar dudalen 18)
Tudalen 18
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 17)
Ysgrifennodd Joe at gydgadeiryddion y GCAD i ddweud wrthyn nhw nad oedd yn mynd i arwain y grŵp bellach. Dywedodd wrthyn nhw ei fod yn meddwl y byddai’n beth da gofyn i rywun sy’n gweithio ym maes ymcwhil i arwain y grŵp yn ei le.
“To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story here.”
Cyn iddo ysgrifennu at y cydgadeiryddion, cafodd Joe gyfarfod gyda Mike Shooter ynglŷn ag eiriolaeth. Roedd Mike yn arwain grŵp oedd yn edrych ar wasanaethau eiriolaeth ar gyfer plant yng Nghymru. Ysgrifennodd y grŵp adroddiad ar gyfer Dirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch yr wybodaeth a gawsant. Roedd Joe a Mike yn meddwl nad oes digon o arian ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth. Efallai y bydd rhaid i lawer o wasanaethau eiriolaeth gau oherwydd nad oes ganddyn nhw ddigon o arian i gefnogi pobl o hyd. (Muy ar dudalen 19)
Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Tudalen 19
(O dudalen 18)
Dywedodd aelodau y GCAD y buasai’n dda gwybod pa wasanaethau eiriolaeth sydd ar gael yng Nghymru ar gyfer pobl ag anabledd dysgu a’u gofalwyr. Dywedodd Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan y gallen nhw ddweud wrth y GCAD am grwpiau hunaneiriolaeth Pobl yn Gyntaf yng Nghymru. Dywedodd Wayne Crocker y gallai Mencap Cymru geisio dod o hyd i wasanaethau eiriolaeth eraill ar draws Cymru.
“To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story here.”
Mae Sefydliad Prydeinig Anableddau Dysgu (BILD) wedi ysgrifennu adroddiad. Mae’r adroddiad yn sôn am beth roedden nhw’n feddwl allai ddigwydd i wasanaethau eiriolaeth pan fyddai’r arian gan Grant Eiriolaeth Cymru yn dod i ben ym Mawrth 2014. Bydd yr adroddiad allan cyn bo hir. Mae ar y GCAD eisiau gweithio gyda grŵp Mike Shooter ar eiriolaeth.
(Muy ar dudalen 20)
Tudalen 20
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 19)
Maen arnyn nhw hefyd eisiau gweithio gyda grŵp Llywodraeth Cymru i edrych ar bolisi eiriolaeth yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
Beth mae'r Gymuned Ymarfer Ymddygiad Heriol wedi bod yn ei wneud? “To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story here.”
Cafodd Cymuned Ymarfer Ymddygiad Heriol gyfarfod ar y 4 Gorffennaf a’r 24 Medi 2014. Yng nghyfarfod mis Gorffennaf, siaradodd y grŵp am adroddiad y GCAD a anfonwyd at Ddirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Adroddiad
Roedd yr adroddaid ynghylch gwneud gwasanaethau’n well ar gyfer pobl ag anabledd dysgu a phobl ag ymddygiad heriol. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn cytuno â’r adroddiad. Un o’r syniadau yn yr adroddiad oedd cael cofrestr anabledd dysgu ar gyfer Cymru. (Muy ar dudalen 21)
Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Tudalen 21
(O dudalen 20)
Bydd gan gofrestr anabledd dysgu lawer o wybodaeth am bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru. Bydd yn helpu gwasanaethau gynllunio ar gyfer y dyfodol fel eu bod yn gwybod faint o bobl fydd angen gwahanol fathau o gefnogaeth. Cynigiodd y Gymuned Ymarfer restr o wahanol fathau o wybodaeth a ddylai fod ar y gofrestr. “To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story here.”
Dyma rai o’r cyflwyniadau eraill o’r 2 gyfarfod.
‘Touch Trust’ a dementia Mae ‘Touch Trust’ yn gweithio gyda phlant ac oedolion anabl gan ddefnyddio celfyddyd, cerddoriaeth a symud. Siaradodd Karen Woodley am waith newydd ‘Touch Trust’ gyda phobl sydd â dementia. Mae dementia yn salwch sy’n ei gwneud hi’n anodd cofio pethau. (Muy ar dudalen 22)
Tudalen 22
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 21)
Gall pobl sydd â dementia fynd yn ddryslyd iawn a’i chael hi’n anodd edrych ar ôl eu hunain. Gallwch gael mwy o wybodaeth am ‘Touch Trust’ ar eu gwefan: www.cymraeg.touchtrust.co.uk.
‘Driving Up Quality’ “To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story here.”
Cafodd cod ‘Driving Up Quality’ ei ysgrifennu gan grŵp o fudiadau yn Lloegr. Cafodd ei ysgrifennu ar ôl beth ddigwyddodd yn ‘Winterbourne View’, cartref gofal yn Lloegr ble cafodd pobl ag anabledd dysgu eu camdrin. Mae dros 100 o fudiadau wedi ymuno â’r cod. Mae’r cod wedi’i seilio ar 5 safon: 1. Mae cefnogaeth yn cael ei ganolbwyntio ar yr unigolyn. 2. Mae’r unigolyn yn cael ei gefnogi i gael bywyd cyffredin ac ystyrlon. (Muy ar dudalen 23)
Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Tudalen 23
(O dudalen 22)
3. Mae gofal a chefnogaeth yn canolbwyntio ar gael pobl yn hapus a chael ansawdd dda i’w bywyd. 4. Mae diwylliant da yn bwysig i’r mudiad. 5. Mae rheolwyr ac aelodau o’r bwrdd yn rhedeg ac arwain y mudiad yn dda. Gall mudiadau ymuno â’r cod a dod o hyd i’r wybodaeth i gyd ar y wefan: www.drivingupquality.org.uk “To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story here.”
Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS) Daeth Richard Griffith o Brifysgol Abertawe i’r cyfarfod ym mis Medi i siarad am Drefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS). Mae Colli Rhyddid yn meddwl cymryd rhyddid rhywun oddi arno fel nad ydy o’n gallu mynd i ble mae arno eisiau. Mae’r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn rhan o ddarn cymhleth iawn o ddeddf yng Nghymru a Lloegr. (Muy ar dudalen 24)
Tudalen 24
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 23)
Deddf
Dywedodd Richard wrth y grŵp am hanes y ddeddf hon. Cafodd y Cod Ymarfer a Threfniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid eu hysgrifennu ar ôl achos cyfreithiol pwysig iawn ym 1998 yn y Llys Iawnderau Dynol Ewropeaidd.
“To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story here.”
Dywedodd y llys ei bod yn erbyn hawliau dynol unigolyn i feddyg gadw rhywun yn yr ysbyty pan nad yw ei deulu a’i ofalwr am iddo wneud. Mae hawliau dynol yr un fath i bawb. Mae’r hawl i ryddid yr un fath i bobl anabl ag y mae i bobl sydd ddim yn anabl. Daeth Cod Ymarfer a Threfniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid i rym yng Nhgymru a Lloegr yn Ebrill 2009. Mae’r Trefniadau Diogelu yn helpu i amddiffyn hawliau dynol pobl sydd ddim yn gallu gwneud penderfyniadau pwysig drostyn nhw eu hunain. (Muy ar dudalen 25)
Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Tudalen 25
(O dudalen 24)
Gallai hyn feddwl: pobl ag anabledd dysgu pobl â phroblemau iechyd meddwl pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal. Mae’r Trefniadau Diogelu yn meddwl bod yn rhaid i wasanaethau brofi mai tynnu rhyddid rhywun oddi arno yw’r peth gorau ar gyfer y person hwnnw.
“To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story here.”
Yna siaradodd Richard Griffith am rai achosion eraill a aeth i’r Goruchaf Lys i benderfynu a oedd rhyddid pobl wedi’i dynnu oddi arnyn nhw. Penderfynodd y Goruchaf Lys bod rhyddid wedi’i dynnu oddi ar bob un ohonyn nhw gan nad oedden nhw’n gallu dewis gadael y lle yr oedden nhw’n byw. Dywedodd y llys nad oedd o’n ddim i’w wneud â pha mor dda oedd y gefnogaeth na pa mor braf oedd y lle yr oedden nhw’n byw. (Muy ar dudalen 26)
Tudalen 26
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 25)
Ambell dro, tynnu rhyddid rhywun oddi arno pan na all wneud ei benderfyniadau pwysig ei hun yw’r peth gorau ar gyfer y person hwnnw. Yn yr achosion hyn mae’n rhaid i’r person gael ei amddiffyn gan y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid.
“To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story here.”
Dywedodd y llys fod yn rhaid i berson gael ei amddiffyn dan y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddi os: ydyn nhw’n cael gofal a’u rheoli drwy’r amser. Gallai hyn feddwl bod ar rywun angen gwybod ble mae’r person yn mynd a beth maen nhw’n wneud drwy’r amser. a dydyn nhw ddim yn gallu gadael. Gallai hyn feddwl bod y staff ddim am i’r person adael gan eu bod yn meddwl y gallai fod yn beryglus.
(Muy ar dudalen 27)
Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Tudalen 27
(O dudalen 26)
Does dim gwahaniaeth os yw’r person yn hapus i dderbyn gofal a chael ei reoli drwy’r amser. Does dim gwahaniaeth os nad ydyn nhw’n dweud bod arnyn nhw eisiau gadael.
?
Mae rhyddid y person wedi cael ei dynnu oddi arnyn nhw ac mae’n rhaid iddyn nhw gael eu hamddiffyn i wneud yn siŵr mai dyma yw’r peth gorau iddo ef. “To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story here.”
Mae’n rhaid i gartrefi gofal ac ysbytai ofyn i awdurdod lleol neu fwrdd iechyd a allan nhw dynnu rhyddid rhywun i ffwrdd oddi arno. Ar gyfer pobl sy’n byw gyda chymorth, yn eu cartrefi eu hunain neu mewn ysgolion preswyl, mae’n rhaid i’r Llys Gwarchod benderfynu a ellir tynnu rhyddid rhywun oddi arno.
16+
Mae’r Trefnidadau Diogelu rhag Colli Rhyddid ar gyfer pobl sy’n 16 neu’n hŷn yn unig. Mae plant sydd dan 16 yn cael eu hamddiffyn gan Ddeddf Plant. (Muy ar dudalen 28)
Tudalen 28
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 27)
Mae’n rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ddal ati i gadw golwg ar bobl sydd wedi cael eu rhyddid wedi ei dynnu oddi arnyn nhw. Mae’n rhaid iddyn nhw brofi mai hyn sy’n dal i fod orau ar gyfer y bobl hynny.
“To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story here.”
Ni all gwasanaethau ddefnyddio’r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid i rwystro rhywun rhag gweld ei deulu neu ei ffrindiau. Ni allan nhw ei ddefnyddio chwaith i rwystro person rhag symud i gartref newydd neu wasanaeth arall. Dim ond trwy fynd i’r llys a defnyddio Deddf Galluedd Meddyliol a Deddf Iechyd Meddwl y gallan nhw wneud y pethau hyn.
Defnyddio storïau fideo Mae Sarah Day yn gweithio i gwmni cyngor a hyfforddiant o’r enw ‘Practice Solutions’. Siaradodd am ffyrdd y gall mudiadau ddefnyddio storïau fideo. (Muy ar dudalen 29)
Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Tudalen 29
(O dudalen 28)
Gall storïau fideo fod yn bwerus iawn. Gallan nhw roi cyfle i bobl ddangos beth maen nhw wedi’i wneud neu sut maen nhw’n teimlo. Gallan nhw helpu pobl i gael dweud eu dweud a chael mwy o reolaeth dros eu bywydau. “To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story
Mae storïau fideo yn gallu cael eu defnyddio hefyd i ddangos sut mae bywydau pobl wedi cael eu newid. here.”
Gall hyn helpu i ddangos i bobl sy’n talu am wasanaethau y gwahaniaeth y gall cefnogaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ei wneud i fywydau pobl.
Gofal Iechyd Parhaus ar gyfer pobl ag anabledd dysgu Rhoddodd Jenny Jagus o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg gyflwyniad ynglŷn â Gofal Iechyd Parhaus. (Muy ar dudalen 30)
Tudalen 30
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 29)
Mae Gofal Iechyd Parhaus yn meddwl bod y GIG yn talu am eich holl ofal a’ch cefnogaeth. Mae canllawiau newydd ynghylch Gofal Iechyd Parhaus ac offer newydd i helpu staff benderfynu pwy ddylai ei gael.
?
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story here.”
Dywedodd Jenny bod llawer o bobl wedi gofyn i Lywodraeth Cymru edrych ar eu cais am Ofal Iechyd Parhaus i weld a ddylai’r GIG fod wedi talu am eu gofal a’u hiechyd. Mae llawer o bobl wedi cwyno i’r Ombwdsman hefyd ynghylch Gofal Iechyd Parhaus. Mae’r Ombwdsman yn edrych ar gwynion difrifol pan na fydd pobl yn hapus ynghylch y ffordd maen nhw wedi cael eu trin.
?
Mae’n amlwg bod problemau wedi bod gyda’r ffordd y mae staff yn penderfynu pwy ddylai gael Gofal Iechyd Parhaus.
(Muy ar dudalen 31)
Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Tudalen 31
(O dudalen 30)
Mae’r cwynion at yr Ombwdsman wedi dangos bod rhai problemau allweddol:
?
Dydy staff ddim yn deall y broses asesu yn iawn nac yn deall sut i benderfynu a ddylai rhywun gael Gofal Iechyd Parhaus. Dydyn nhw ddim yn gwneud yr asesiadau’n iawn nac yn edrych ar yr holl ffeithiau pwysig. “To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story here.”
Dydyn nhw ddim yn cynnwys teuluoedd na gofalwyr yn y broses asesu.
Rheolau
Dydyn nhw ddim yn dilyn y rheolau ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus yn iawn. Dydyn nhw ddim yn egluro pam maen nhw wedi gwneud eu penderfyniad. Mae rhai pobl yn meddwl bod Gofal Iechyd Parhaus yn meddwl unrhyw fath o nawdd iechyd. Ond yr unig beth mae Gofal Iechyd Parhaus yn ei feddwl yw gofal a chefnogaeth sy’n cael ei dalu amdano’n llawn gan y GIG. (Muy ar dudalen 32)
Tudalen 32
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 31)
Dywedodd Jenny ei bod hi’n bwysig egluro i bobl beth allai ddigwydd i’w budd-daliadau eraill neu eu Taliadau Uniongyrchol os ydyn nhw’n dechrau cael Gofal Iechyd Parhaus.
Na! “To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story here.”
Mae ar bobl angen gwybod hefyd bod ganddyn nhw’r hawl i ddweud ‘na’ i asesiad Gofal Iechyd Parhaus neu ddod â’r broses asesu i ben pryd bynnag mae arnyn nhw eisiau. Dywedodd Jenny bod staff yn aml yn gwneud camgymeriadau wrth ddefnyddio’r offer i benderfynu pwy ddylai gael Gofal Iechyd Parhaus. Symud ymlaen Mae’r canllawiau newydd wedi cael eu hysgrifennu i wneud yn siŵr bod pawb yn deall sut i benderfynu a ddylai rhywun gael Gofal Iechyd Parhaus. Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu hyfforddiant ar gyfer pobl ar y ffordd o ddefnyddio’r canllawiau newydd a’r offer. Bydd yr hyfforddiant yn digwydd ar draws Cymru. (Muy ar dudalen 33)
Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Tudalen 33
(O dudalen 32)
Yn y dyfodol bydd hyfforddiant hefyd ar y ffordd o ddefnyddio’r offer ar gyfer pobl ag anabledd dysgu neu bobl â phroblemau iechyd meddwl. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth Hawdd ei Ddeall ynglŷn â Gofal Iechyd Parhaus ar wefan Llywodraeth Cymru: http://wales.gov.uk/ topics/health/nhswales/healthservice/chcframework/?skip=1&lang=cy. “To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story here.”
Os oes gennych chi unrhyw enghreifftiau o ffyrdd da i helpu pobl ag anabledd dysgu gael asesiad Gofal Iechyd Parhaus, anfonwch nhw at jenny.jagus3@wales.nhs.uk. Gallwch ddod o hyd i bob cyflwyniad o gyfarfodydd Cod Ymarfer Ymddygiad Heriol ar wefan y Grŵp Cynghori: http:// www.ldag.info/cb-cop/meetings/ presentations-and-papers.aspx. Am ragor o wybodaeth neu i adael i ni wybod beth rydych chi'n feddwl, ffoniwch Sam Williams ar 029 20681177 neu ebostiwch: samantha.williams@ldw.org.uk. Ewch i’r wefan www.gcad.info neu dilynwch ni ar Facebook a Twitter @LDAdvisoryGroup