Hawdd ei Ddeall
Newyddion GCAD
Mawrth 2014
Bwndel Gofal Newydd Mae bwndel gofal newydd i bobl ag anabledd dysgu mewn ysbytai yng Nghymru.
Ysbyty
Mae’r bwndel gofal yn gasgliad o bethau i wneud gofal iechyd mewn ysbytai yn well i bobl ag anabledd dysgu. Soniodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd, wrth bobl am y bwndel gofal newydd yn y Senedd ar 13 Ionawr 2014.
Mark Drakeford
Mae’r bwndel gofal yn dweud wrth bobl sy’n gweithio mewn ysbytai beth sydd arnyn nhw angen ei wneud i wneud yn siŵr bod pobl ag anabledd dysgu yn cael gofal da tra byddan nhw yn yr ysbyty. Mae canllaw newydd hefyd sy’n mynd gyda’r bwndel gofal. Gallwch chi ei ddarllen yma (saesneg yn unig): http://bit.ly/1fprT8O. (Muy ar dudalen 2)
Cylchlythyr Hawdd ei Ddeall
Tudalen 2
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (Muy o dudalen 1)
Mae gan y canllaw wybodaeth am anghenion iechyd pobl ag anabledd dysgu. Mae ganddo hefyd wybodaeth am y math o gefnogaeth y gall fod arnyn nhw ei angen pan fyddan nhw’n mynd i’r ysbyty.
“To catch the reader's attention, place an interesting sentence or quote from the story here.”
Mae 4 cam allweddol yn y bwndel gofal ar gyfer pan fydd rhywun ag anabledd dysgu yn mynd i’r ysbyty:
Darganfod cyn gynted â phosibl a oes gan rywun anabledd dysgu.
Gwneud yn siŵr bod cyfathrebu da fel bo pawb yn gwybod beth sy’n digwydd. Mae hyn yn meddwl y claf, eu teulu, eu gofalwyr a staff yr ysbyty.
Cynllun gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Gwneud yn siŵr bod y cleifion yn cael eu harchwilio’n rheolaidd a bod cynlluniau’n cael eu gwneud ar gyfer yr adeg y bydd y claf yn gadael yr ysbyty.
(Muy ar dudalen 3)
Tudalen 3
Mawrth 2014 (Muy o dudalen 2)
Dechreuodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg waith ar y bwndel iechyd ar ôl marwolaeth un o’u cleifion o’r enw Paul Ridd. Paul Ridd
Adroddiad
Edrychodd Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus i mewn i farwolaeth Paul ac ysgrifennodd adroddiad amdano. Dywedodd yr adroddiad bod angen i’r bwrdd iechyd wneud newidiadau i wneud gofal ysbyty yn well i gleifion ag anabledd dysgu fel Paul. “To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story here.”
Gweithiodd y bwrdd iechyd gyda chwaer a brawd Paul i wneud y newidiadau hyn.
Chwaer a brawd Paul Ridd
Siaradodd chwaer a brawd Paul am y ffordd yr oedd Paul wedi marw a pha mor drist yr oedden nhw. Fe helpon nhw’r bwrdd iechyd i ysgrifennu’r bwndel gofal i wneud pethau’n well i gleifion eraill ag anabledd dysgu yng Nghymru.
(Muy ar dudalen 4)
Tudalen 4
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (Muy o dudalen 3)
Os bydd y bwndel gofal yn cael ei ddefnyddio’n iawn, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd hyn yn gwneud mynd i’r ysbyty yn llawer gwell i bobl ag anabledd dysgu.
“To catch the reader's attention, place an interesting sentence or quote from the story here.”
Hefyd, mae angen hyfforddiant ar staff sy’n gweithio mewn ysbytai i wneud yn siwr eu bod yn deall y bwndel gofal a sut i ofalu am bobl ag anabledd dysgu.
Mawrth 2014
Tudalen 5
Beth mae’r GCAD wedi bod yn ei wneud? Cafodd y Grŵp Cynghori ym maes Anabledd Dysgu (GCAD) gyfarfod ar 13 Ionawr 2014 ym Mae Caerdydd. Siaradodd y grŵp am lawer o wahanol bethau. Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) “To catch the reader's attention, place an interesting sentence or quote from the story
Siaradodd Penny Hall o Lywodraeth Cymru am yr hyn sy’n digwydd gyda’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant newydd. here.”
Mae Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn ddeddf newydd ynglŷn â’r ffordd y mae pobl yng Nghymru yn cael gwasanaethau cymdeithasol i’w helpu yn eu bywydau bob dydd.
2014
Mae Llywodraeth Cymru’n gobiethio y bydd y Bil wedi ei orffen erbyn Mawrth 2014.
Mawrth
Ond ni fydd yn dod yn ddeddf nes bydd yr holl reolau a pholisïau eraill sy’n gysylltiedig â’r Bil yn cael eu newid. (Muy ar dudalen 6)
Tudalen 6
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (Muy o dudalen 5)
2016 Ebrill
Mae hyn yn meddwl efallai na fydd yn dod yn ddeddf tan Ebrill 2016. Prosiect Trawsnewid Anabledd Dysgu Daeth Nygaire Bevan o Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol (SSIA) i’r cyfarfod i siarad am Brosiect Trawsnewid Anabledd Dysgu.
“To catch the reader's attention, place an interesting sentence or quote from the story here.”
Gweithiodd y prosiect hwn gyda rhai cynghorau lleol yng Nghymru i edrych ar ffyrdd o newid gwasanaethau i bobl ag anabledd dysgu. Bwriad y prosiect oedd gwneud gwasanaethau yn rhatach ac yn well. Mae ar y GCAD eisiau gwybod pa wahaniaeth y mae’r newidiadau i’r gwasanaethau yn ei wneud i bobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd. Fe benderfynon nhw ofyn i rai pobl o’r cynghorau sydd wedi gweithio ar y prosiect i siarad am y newidiadau yn eu hardal nhw.
(Muy ar dudalen 7)
Tudalen 7
Mawrth 2014 (Muy o dudalen 6)
Mae arnyn nhw eisiau gwybod am storïau go iawn gan y bobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd am y newidiadau i wasanaethau yn eu hardal nhw.
Arbedion
Dywedodd Edwin Jones o Gymuned Ymarfer Ymddygiad Heriol bod arnon ni angen gwneud yn siŵr bod unrhyw arian y mae’r cynghorau’n ei arbed yn cael ei roi yn ôl i mewn i wasanaethau ar gyfer pobl ag anabledd dysgu.
“To catch the reader's attention, place an interesting sentence or quote from the story here.”
Mae Roger Banks, cyd-gadeirydd y GCAD, yn poeni bod ardaloedd lleol yn ysgrifennu eu strategaethau anabledd dysgu eu hunain yn lle cael un strategaeth ar gyfer Cymru gyfan.
?
Mae’n poeni y gallai hyn feddwl bod pobl ag anabledd dysgu yn cael gwahanol wasanaethau dim ond oherwydd y lle y maen nhw’n byw. Mae Roger yn poeni hefyd bod oedolion ag anabledd dysgu yn gorfod byw gyda’u rhieni dim ond oherwydd nad oes digon o gartrefi gyda chymorth. Mae arno eisiau i’r GCAD wneud gwaith ar hyn. (Muy ar dudalen 8)
Tudalen 8
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (Muy o dudalen 7)
Is-grwpiau Yna clywodd y grŵp beth mae’r is-grwpiau wedi bod yn ei wneud. Mae’r is-grwpiau yn grwpiau bach sy’n gweithio ar wahanol bethau fel iechyd neu eiriolaeth.
“To catch the reader's attention, place an interesting sentence or quote from the story here.”
Mae un o’r is-grwpiau yn edrych pam y mae gan bobl ag anabledd dysgu waeth iechyd na phobl eraill yng Nghymru. Mae arnyn nhw eisiau dod o hyd i ffyrdd o wneud gwasanaethau iechyd yn well i bobl ag anabledd dysgu. Mae arnyn nhw eisiau gofyn i bobl sy’n gweithio yn y gwasanaethau cymdeithasol a’r byd iechyd i ymuno â’r is-grŵp.
Cynllun
Fe fyddan nhw’n ysgrifennu cynllun gwaith i ddangos beth maen nhw’n bwriadu ei wneud ac erbyn pryd y byddan nhw’n gwneud hynny.
(Muy ar dudalen 9)
Tudalen 9
Mawrth 2014 (Muy o dudalen 8)
Mae hefyd is-grŵp ar eiriolaeth. Bydd yr is-grŵp hwn yn cyfarfod am y tro cyntaf ar yr 20 Ionawr i siarad am beth maen nhw’n cynllunio ei wneud. Mae’r is-grŵp arall yn ymwneud â gwneud gwasanaethau’n well ar gyfer pobl ag anbledd dysgu a phobl ag ymddygiad heriol. “To catch the reader's attention, place an
Mae’r is-grŵp hwn yn gweithio gyda Chymuned Ymarfer Ymddygiad Heriol.
interesting sentence or quote from the story here.”
Maen nhw wedi ysgrifennu cynllun gweithredu i wneud yn siŵr bod y camdriniaeth o bobl ag anabledd dysgu a ddigwyddodd yn Winterbourne View byth yn digwydd yng Nghymru. Gofynnodd Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol, i’r is-grŵp ddewis y 5 peth mwyaf pwysig o’r cynllun gweithredu.
Gwenda Thomas
Daeth Gwenda i’r cyfarfod i glywed am y 5 peth mwyaf pwysig o’r cynllun gweithredu. (Muy ar dudalen 10)
Tudalen 10
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (Muy o dudalen 9)
1. ________ 2. ________ 3. ________ 4. ________ 5. ________
Gofynnodd i’r is-grŵp roi’r 5 peth mwyaf pwysig mewn trefn er mwyn iddi wybod pa rai sydd angen eu gwneud gyntaf. Mae hi’n barod wedi ysgrifennu at y gwasanaethau cymdeithasol a’r byrddau iechyd i ofyn ynglŷn â phobl sydd wedi cael eu hanfon i fyw i ffwrdd o’u hardal leol.
“To catch the reader's attention, place an interesting sentence or quote from the story here.”
Gwefan newydd Dywedodd Samantha Williams, Swyddog Gwybodaeth GCAD, ei bod hi’n gweithio ar wefan newydd y www.gcad.info. Gofynnodd i‘r grŵp am syniadau ynghylch sut y dylai’r wefan edrych a pha wybodaeth ddylai fod arno fo. Mae hi’n gobeithio y bydd y wefan newydd yn barod erbyn diwedd Mawrth 2014.
Tudalen 11
Mawrth 2014
Prosiect ‘Enable’ Dim ond ychydig o bobl ag anabledd dysgu sydd â gwaith gyda thâl er bod llawer ohonyn nhw yn gallu gweithio ac yn dymuno gweithio. Gweithle
Mae Prosiect ‘Enable’ yn bwriadu ei gwneud hi’n haws i bobl ag anabledd dysgu weithio yn GIG Cymru. “To catch the reader's attention, place an interesting sentence or quote from the story
Mae Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol GIG, ‘Elite Supported Employment Agency’ a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn gweithio gyda’i gilydd ar y prosiect hwn. here.”
Mae’r prosiect yn helpu i roi’r medrau a’r profiad i bobl ag anabledd dysgu i gael gwaith gyda thâl. Gweithiodd y grŵp cyntaf o bobl ifainc a gymerodd ran yn y prosiect yn yr adran arlwyo ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Mae’r adran arlwyo yn gwneud y bwyd ac yn ei weini i’r holl gleifion, y staff a’r ymwelwyr yn yr ysbyty. (Muy ar dudalen 12)
Tudalen 12
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (Muy o dudalen 11)
Cafodd y bobl ifainc eu cefnogi gan hyfforddwr gwaith o Elite. Diolch i’r prosiect, mae tri o bobl ifainc ar fin dechrau gwaith newydd gyda thâl, yn gweithio yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
“To catch the reader's attention, place an interesting sentence or quote from the story here.”
Mae llawer o bobl yng Nghymru yn gweithio yn y sector cyhoeddus, er enghraifft, mewn ysbytai, ysgolion neu gynghorau lleol. Ond nid oes gan lawer o bobl ag anabledd dysgu waith gyda thâl yn y sector cyhoeddus. Mae hyn oherwydd bod y ffordd y mae’r sector cyhoeddus yn dod o hyd i staff newydd yn ei gwneud hi’n anodd i bobl ag anabledd dysgu gael y swydd. Mae Prosiect ‘Enable’ ynghylch newid y ffordd y gall pobl gael gwaith yn y sector cyhoeddus fel ei bod yn decach i bobl ag anabledd dysgu. Mae cael gwaith gyda thâl yn gallu rhoi hyder i bobl a’u helpu i wneud ffrindiau. (Muy ar dudalen 13)
Tudalen 13
Mawrth 2014 (Muy o dudalen 12)
Mae’n gallu helpu pobl i fod yn fwy annibynnol a byw yn eu cartrefi eu hunain. Mae’n dda ar gyfer ein hiechyd a’n lles. Mae hefyd yn gallu newid y ffordd y mae pobl yn meddwl am bobl ag anabledd dysgu. Wrth i bobl weithio gyda rhywun ag anabledd dysgu, maen nhw’n gallu eu gweld nhw’n datblygu a dod yn aelod pwysig o’r tîm. “To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story here.”
Mae’r prosiect wedi gweithio mor dda fel bo’r partneriaid yn barod yn gwneud cynlluniau i grŵp arall o bobl ifainc ddechrau hyfforddi yn y bwrdd iechyd yn fuan iawn. Mae partneriaid y prosiect hefyd yn siarad â Bwrdd Iechyd Powys a Chyngor Sir Powys ynglŷn â chychwyn Prosiect ‘Enable’ arall ym Mhowys.
Croeso
I wylio’r ffilm a dod o hyd i fwy o wybodaeth am Brosiect ‘Enable’, gallwch fynd i’r wefan www.wales.nhs.uk/equality neu ffonio 01443 233450.
Tudalen 14
Mawrth 2014
Cyfleoedd Gwirioneddol Menter Trawsnewid i Gyflogaeth AAA Rhanbarthol
Cynhadledd Flynyddol 2014 Dydd Iau 5ed Mehefin Gwesty a Sba Dewi Sant, Bae Caerdydd Mae prosiect trawsnewid Cyfleoedd Gwirioneddol i bobl ifainc ag anghenion ychwanegol yn cynnal eu trydedd gynhadledd flynyddol. Nodwch y dyddiad hwn yn eich dyddiadur – mwy o fanylion i ddilyn yn fuan! I gael mwy o wybodaeth am y prosiect a’n cynadleddau blaenorol, ewch i www.realopportunities.org.uk. Gallwch hefyd ddod o hyd i ni ar Facebook a Twitter @Real_Opps.
Bydd cyfarfod nesaf Cymuned Ymarfer Ymddygiad Heriol (CB CoP) ddydd Mercher 30 Ebrill 2014 yng Nghefn Lea, Dolfor, Y Drenewydd. Dim ond ychydig o leoedd sydd ar gael, felly os nad ydych wedi neilltuo lle eto, e-bostiwch Karen Barnett: Karen.Barnett2@wales.nhs.uk.
Am ragor o wybodaeth neu i adael i ni wybod beth rydych chi'n feddwl, ffoniwch Samantha Williams ar 029 20681177 neu ebostiwch: samantha.williams@ldw.org.uk. Ewch i’r wefan www.gcad.info neu dilynwch ni ar Facebook a Twitter @LDAdvisoryGroup