Hawdd ei Ddeall
Newyddion GCAD
Rhif 5 Gwanwyn 2014
Deddf gwasanaethau cymdeithasol newydd i Gymru Y Frenhines
Deddf
Ar 1 Mai 2014 llofnododd y Frenhines i ddweud y gallai deddf newydd gael ei gosod ar gyfer Cymru. Mae’r ddeddf yn cael ei galw’n Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Bydd yn newid y ffordd y mae gwasanaethau cymdeithasol yn cefnogi pobl. Mae arni eisiau rhoi mwy o ddewis a rheolaeth i bobl yn eu bywydau a’u helpu i fod yn fwy annibynnol. Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd y ddeddf newydd yn gwneud pethau’n fwy syml ac eglur i:
bobl sy’n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol (Muy ar dudalen 2)
Cylchlythyr Hawdd ei Ddeall
Tudalen 2
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 1)
eu gofalwyr
pobl sy’n gweithio mewn gwasanaethau cymdeithasol a mudiadau eraill
y llysoedd
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Ddeddf y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru. “To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story
Beth mae’r GCAD wedi bod yn ei wneud? here.”
Cafodd y Grŵp Cynghori ym maes Anabledd Dysgu (GCAD) gyfarfod ar 29 Ebrill 2014. Siaradodd y grŵp am lawer o wahanol bethau. Gwybodaeth am bobl ag anabledd dysgu sy’n byw yng Nghymru Daeth Andrew Stephens o Uned Ddata Cymru i’r cyfarfod i siarad am Set Ddata Ofynnol Anableddau Dysgu. Yn 2009 gofynnodd Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol i Uned Ddata Cymru gasglu llawer o wybodaeth am bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru. (Muy ar dudalen 3)
Tudalen 3
Rhif 5 Gwanwyn 2014 (O dudalen 2)
Roedd hyn oherwydd bod yr hen grŵp cynghori wedi dweud wrthi bod angen yr wybodaeth hon i helpu gwasanaethau i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Cafodd yr wybodaeth hon ei galw’n Set Ddata Ofynnol Anableddau Dysgu. Daeth yr wybodaeth o awdurdodau lleol yng Nghymru. “To catch the reader's a en on, place an
Roedd ar wefan InfoBase Cymru.
interes ng sentence or quote from the story here.”
Roedd arian Llywodraeth Cymru ar gyfer casglu gwybodaeth at ei gilydd wedi dod i ben beth amser yn ôl. Penderfynodd Uned Ddata Cymru beidio â chasglu gwybodaeth ar gyfer 2012 i 2013 at ei gilydd a chafodd ei thynnu oddi ar y wefan. Cafodd Samantha Williams Swyddog Gwybodaeth GCAD gyfarfod â phobl sy’n gweithio yn Uned Ddata Cymru i siarad am yr wybodaeth. Dywedodd wrthyn nhw pa mor bwysig yr oedd a pham roedd hi’n meddwl y dylen nhw ei rhoi yn ôl ar y wefan.
(Muy ar dudalen 4)
Tudalen 4
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 3)
Hefyd cafodd Llywodraeth Cymru gyfarfod ag Andrew Stephens o Uned Ddata Cymru.
?
Soniodd Andrew wrth y GCAD am yr wybodaeth a dangosodd iddyn nhw sut olwg oedd arno. Dywedodd y dylai’r grŵp feddwl pa fath o wybodaeth sydd arnyn nhw eisiau a sut mae arnyn nhw eisiau ei weld.
“To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story here.”
Roger Banks yw is-gadeirydd y GCAD. Dywedodd y dylai grŵp bach o bobl o’r GCAD gyfarfod ag Andrew i siarad am yr wybodaeth. Gallwch gael golwg ar yr wybodaeth yma: http://www.infobasecymru.net/IAS/themes/ learningdisabilities(adults)minimumdataset?themeId=4311 Prosiect Trawsnewid Anabledd Dysgu Gweithiodd Prosiect Trawsnewid Anabledd Dysgu gyda rhai cynghorau lleol yng Nghymru i edrych ar ffyrdd o newid gwasanaethau ar gyfer pobl ag anabledd dysgu. Amcan y prosiect oedd gwneud gwasanaethau yn rhatach ac yn well.
(Muy ar dudalen 5)
Rhif 5 Gwanwyn 2014
Tudalen 5
(O dudalen 4)
?
Yn ystod cyfarfod diwethaf y GCAD, roedd ar y grŵp eisiau gwybod pa wahaniaeth mae’r newidiadau i’r gwasanaethau’n ei wneud i bobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd. Daeth Steve Garland o Gastell Nedd Port Talbot a Mark Wilkinson o Ben-y-bont ar Ogwr draw i siarad am y ffordd yr oedd y prosiect wedi gweithio yn eu hardal hwy. Dywedodd Steve Garland bod gwasanaethau cymdeithasol Castell Nedd Portalbot wedi newid y ffordd maen nhw’n asesu pobl. Mae hyn yn meddwl gweld pa gymorth a chefnogaeth sydd ei angen ar bobl.
“To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story here.”
Mae gwasanaethau cymdeithasol yn defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau maen nhw’n talu amdanyn nhw werth yr arian. Mae hyn yn meddwl bod mwy o bobl yn cael yr union faint o gefnogaeth ac nad ydyn nhw’n cael gormod o gefnogaeth nad oes ei angen arnyn nhw.
(Muy ar dudalen 6)
Tudalen 6
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 5)
Siaradodd Steve hefyd am rai pobl ag anabledd dysgu sydd wedi cael rhai newidiadau bach i’w bywydau oherwydd y prosiect. Mae 24 o bobl wedi symud o gartrefi gofal at fyw gyda chymorth yn y 6 mis diwethaf.
“To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story
Mae cyfanswm y gost o gadw pobl mewn cartrefi gofal wedi gostwng gan fwy na miliwn o bunnoedd.
here.”
Dywedodd Steve ei bod hi’n bwysig gweithio gyda phobl, eu teueluoedd a’u gofalwyr. Dywedodd hefyd, os ydych chi’n gwneud yn siŵr bod pobl yn cael y gefnogaeth gywir, yna byddwch yn arbed arian yn y pen draw. Siaradodd Mark Wilkinson am y newidiadau y mae gwasanaethau cymdeithasol Pen-ybont ar Ogwr wedi bod yn eu gwneud ers iddyn nhw ddechrau cymryd rhan yn y prosiect.
?
Gofynnodd Roger Banks sut byddwn ni’n gwybod a yw’r newidiadau yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ag anabledd dysgu. (Muy ar dudalen 7)
Rhif 5 Gwanwyn 2014
Tudalen 7
(O dudalen 6)
Does dim mwy o arian ar gyfer y prosiect felly bydd yn rhaid i awdurdodau lleol ddod o hyd i’w ffyrdd eu hunain o weld pa wahaniaeth mae’r newidiadau yn eu gwneud. Gallwch ddod o hyd i fwy am y prosiect ar wefan Asiantaeth Gwella Gwasanaethau y Gwasanaethau Cymdeithasol: http:// www.ssiacymru.org.uk/home.php? page_id=8485&langSwitch=cym.
“To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story
Is-grwpiau
here.”
Yna clywodd y grŵp beth yr oedd yr isgrwpiau wedi bod yn ei wneud. Mae’r is-grwpiau yn grwpiau bach sy’n gweithio ar wahanol bethau fel iechyd ac eiriolaeth. Mae un o’r is-grwpiau ynghylch gwneud gwasanaethau yn well ar gyfer pobl ag anableddau dysgu ac ymddygiad heriol. Fe gawson nhw gyfarfod i orffen eu hadroddiad ar gyfer Dirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol.
(Muy ar dudalen 8)
Tudalen 8
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 7)
1. ________ 2. ________ 3. ________ 4. ________ 5. ________
Mae’r adroddiad ynghylch y pum prif beth maen nhw’n meddwl y dylen nhw wneud er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl ag ymddygiad heriol yng Nghymru yn cael cefnogaeth dda. Mae is-grŵp arall sy’n edrych sut a pham y mae gan bobl ag anabledd dysgu waeth iechyd na phobl eraill yng Nghymru.
“To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story here.”
1. ________ 2. ________ 3. ________ 4. ________ 5. ________
Maen nhw’n ysgrifennu cynllun gwaith i ddangos beth maen nhw’n fwriadu ei wneud ac erbyn pryd maen nhw’n bwriadu gwneud hynny. Fe fyddan nhw’n gwneud rhestr o ffyrdd o wneud gwasanaethau iechyd yn well i bobl ag anabledd dysgu. Fe fyddan nhw’n rhoi’r rhestr hwn mewn adroddiad a’i anfon at y Gweinidog Iechyd a Dirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae is-grŵp ar eiriolaeth ar gael hefyd.
?
Maen nhw wedi gwneud rhestr o’r pethau mae arnyn nhw eisiau eu gwneud fel:
Gweld pa wasanaethau eiriolaeth sydd ar gael yng Nghymru ar gyfer pobl ag anabledd dysgu (Muy ar dudalen 9)
Rhif 5 Gwanwyn 2014
Tudalen 9
(O dudalen 8)
Dod o hyd i wahanol ffyrdd o gael arian i dalu am wasanaethau eiriolaeth
Cael storïau go iawn ynghylch y ffordd y mae eiriolaeth wedi helpu pobl.
Siaradodd y GCAD am ddechrau is-grŵpiau newydd i edrych ble mae pobl ag anabledd dysgu yn byw. Yn aml y mae’n rhaid i bobl aros gyda’u teuluoedd hyd yn oed os oes arnyn nhw eisiau symud allan gan nad oes digon o dai gyda chymorth da. “To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story here.”
Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol dros Iechyd Meddwl Y peth diwethaf y siaradodd y GCAD amdano oedd y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol dros Iechyd Meddwl. Mae hwn yn grŵp o bobl sydd yn edrych a yw gwasanaethau iechyd meddwl yn dilyn cynllun ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’. Ysgrifennwyd y cynllun hwn i wneud gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn well.
(Muy ar dudalen 10)
Tudalen 10
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 9)
Gallwch chi ddarllen y cynllun yma: http:// wales.gov.uk/topics/health/nhswales/healthservice/ mental-health-services/strategy/?lang=cy. Mae Ray Jacques yn poeni nad yw’r grŵp yn edrych sut y mae pobl ag anabledd dysgu yn cael help gan wasanaethau iechyd meddwl.
“To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story
Mae pobl ag anabledd dysgu yn fwy tebygol o fod angen gwasanaethau iechyd meddwl na rhai pobl eraill.
here.”
Bydd Penny Hall o Lywodraeth Cymru yn ceisio gweld sut y gall y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol wneud yn siŵr eu bod yn meddwl am bobl ag anabledd dysgu.
Cael help oddi wrth wasanaethau iechyd meddwl Mae’r ‘Foundation for People with a Learning Disability’ yn Lloegr wedi ysgrifennu adroddiad ynghylch gwneud iechyd meddwl yn well ar gyfer pobl ag anabledd dysgu. Mae pobl ag anabledd dysgu dair gwaith yn fwy tebygol o gael problemau iechyd meddwl, fel teimlo’n isel neu’n drist, na phobl eraill. (Muy ar dudalen 11)
Rhif 5 Gwanwyn 2014
Tudalen 11
(O dudalen 10)
Mae pobl ag anabledd dysgu yn aml yn ei chael hi’n anodd cael help a chefnogaeth gan wasanaethau iechyd meddwl. Dyma rai o’r problemau y mae pobl ag anabledd dysgu’n ei gael wrth geisio cael help:
Dim ond eu hanabledd dysgu y mae pobl yn ei weld – dydyn nhw ddim yn eu gweld fel person
“To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story here.”
Nid yw gwybodaeth yn hawdd ei deall
Nid yw pobl yn eu credu, yn gwrando arnyn nhw na’u cefnogi pan fyddan nhw’n teimlo’n isel neu’n drist.
Mae’r adroddiad yn rhestru ffyrdd o helpu pobl ag anabledd dysgu gael gwell iechyd meddwl. Gallwch ddarllen yr adroddiad a’r canllaw hawdd ei ddeall (yn saesneg un unig) ar wefan y ‘Foundation’: http:// www.learningdisabilities.org.uk/our-news/14-05-12feeling-down/.
Tudalen 12
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Beth mae'r Gymuned Ymarfer ar gyfer Ymddygiad Heriol wedi bod yn ei wneud? Cafodd y Gymuned Ymarfer ar gyfer Ymddygiad Heriol gyfarfod ar 30 Ebrill 2014. Fe siaradon nhw am ffyrdd da o gefnogi pobl ag anabledd dysgu ac ymddygiad heriol.
i s i l o P
?
“To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story here.”
Fe siaradon nhw hefyd am bolisïau newydd yng Nghymru a Lloegr a all fod o bwys i bobl ag ymddygiad heriol. Siaradodd Louise Denne o Brifysgol Bangor am y gwaith mae hi’n wneud gyda grŵp o ymchwilwyr. Mae ymchwilwyr yn ceisio cael gwybodaeth mewn llawer o wahanol ffyrdd, fel gofyn i bobl beth maen nhw’n feddwl, wneud profion neu ddod o hyd i wybodaeth. Maen nhw’n edrych i mewn i’r mathau o bethau y dylai staff sy’n gweithio gyda phobl ag ymddygiad heriol wybod amdanyn nhw a medru eu gwneud. Maen nhw eisiau gwneud yn siŵr bod staff yn medru cefnogi pobl ag ymddygiad heriol yn y ffyrdd gorau bosibl. Edrychodd y grŵp ar rai o’r syniadau yr oedd Louise ac ymchwilwyr wedi eu hysgrifennu i lawr. Wedyn, fe ysgrifennodd y grŵp beth roedden nhw’n ei feddwl am y syniadau gan ychwanegu rhai syniadau eu hunain.
Tudalen 13
Rhif 5 Gwanwyn 2014
‘Parti Gwirioneddol’ Cyfleoedd Gwirioneddol Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol Mae Cyfleoedd Gwirioneddol yn brosiect sy’n helpu pobl ifainc i drawsnewid. Mae trawsnewid yn digwydd pan fyddwch chi’n newid o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion. Mae arian ar gyfer prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol yn dod o Gronfa Gymdeithasol Ewrop. “To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story here.”
Mae’r arian hwn yn dod i ben yn ddiweddarach y flwyddyn hon, felly fe fydd y prosiect yn gorffen os na fedran nhw ddod o hyd i fwy o arian i’w gynnal. Mae’r prosiect yn gweithio gyda phobl ifainc rhwng 14 ac 19 mlwydd oed sydd ag anabledd dysgu, llawer o anghenion cefnogi neu awtistiaeth. Mae’n eu helpu i fod mor annibynnol â phosibl. Mae’r prosiect yn defnyddio llawer o wahanol ffyrdd i helpu’r bobl ifainc drwy’r trawsnewid.
(Muy ar dudalen 14)
Tudalen 14
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 13)
Cynllun
Mae staff prosiect yn gweithio gyda’r pobl ifainc, eu teuluoedd a phobl eraill i ysgrifennu cynlluniau trawsnewid sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Maen nhw’n eu helpu i gyrraedd eu nodau mewn llawer o ffyrdd fel hyfforddiant, cymryd rhan mewn gweithgareddau a rhoi cefnogaeth.
“To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story here.”
Mae’r prosiect yn gweithio mewn naw ardal leol:
Caerffilli
Pen-y-bont ar Ogwr
Sir Gaerfyrddin
Rhondda Cynon Taf
Castell Nedd Port Talbot
Abertawe
Merthyr
Sir Benfro
Torfaen
Mae’r prosiect yn cefnogi pobl ifainc mewn llawer o wahanol ffyrdd: Cynllun
Cynllunio ar gyfer trawsnewid (Muy ar dudalen 15)
Rhif 5 Gwanwyn 2014
Tudalen 15
(O dudalen 14)
Cynllunio o amgylch yr unigolyn
Paratoi ar gyfer gwaith a chefnogaeth yn y gwaith
Medrau ar gyfer byw’n annibynnol fel dal bws, siopa, golchi dillad neu agor cyfrif banc
Cael ffrindiau a dod yn fentor cyfoedion. Mae mentor cyfoedion yn rhywun o gwmpas yr un oed â chi sy’n gallu eich helpu i wneud ffrindiau neu fod yn rhywun i siarad â nhw. “To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story here.”
Eu cefnogi â theimladau a sut i ymdopi pan fyddan nhw’n teimlo’n drist neu’n ddig.
Mae Dr Steve Beyer o Ganolfan Anableddau Dysgu Cymru Prifysgol Caerdydd wedi bod yn edrych i weld pa mor dda y mae’r prosiect wedi helpu pobl ifainc a’u teuluoedd. Parti Gwirioneddol Ar 25 Ebrill 2014 cafodd Cyfleoedd Gwirioneddol ddigwyddiad o’r enw ‘Parti Gwirioneddol’. (Muy ar dudalen 16)
Tudalen 16
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 15)
Roedd ‘Parti Gwirioneddol’ ynghylch dathlu yr holl bethau y mae’r bobl ifainc sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect wedi ei wneud. Roedd o hefyd ynghylch cael diwrnod llawn hwyl gyda’u teuluoedd a’r staff sydd wedi eu cefnogi. Siaradodd pobl ifainc am y ffordd yr oedd y prosiect wedi eu helpu. “To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story here.”
Roedd pawb wedi mwynhau’r dydd yn fawr. Roedd llawer o weithgareddau fel dawnsio, crefftau, drama a hyd yn oed anifeiliaid! Roedd cacan a disgo ar gael hefyd. Y rhan bwysicaf o’r dydd oedd dweud ‘diolch’ a ‘da iawn’ i’r holl bobl ifainc sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect. Rhoddodd Claire Williams dystysgrifau a bagiau’n llawn pethau da i’r bobl ifainc. Enillodd Claire fedal efydd yng Ngemau Paralympaidd 2012 yn Llundain. Gallwch ddod o hyd i ragor am brosiect Cyfleoedd Gwirioneddol ar eu gwefan www.cyfleoeddgwirioneddol.org.uk.
Rhif 5 Gwanwyn 2014
Tudalen 17
Prosiect Anabledd Dysgu Macmillan Mae Cymorth Canser Macmillan yn helpu pobl pan fyddan nhw’n cael gwybod bod canser arnyn nhw neu bod canser ar rywun maen nhw’n ei garu. Maen nhw’n rhedeg prosiect yng Nghymru i wneud pethau’n well i bobl ag anabledd dysgu sy’n cael eu heffeithio gan ganser. Mae Tracey Lloyd yn nyrs sydd wedi gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu.
“To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story here.”
Tracey sydd yn arwain y prosiect hwn. Mae ar y prosiect eisiau helpu gwasanaethau canser wella’r ffordd maen nhw’n cefnogi pobl ag anabledd dysgu. Mae grŵp o bobl sy’n cael ei alw’n grŵp llywio sy’n helpu Tracey i redeg y prosiect. Mae’r bobl yn y grŵp llywio yn gweithio mewn mudiadau iechyd, gofal cymdeithasol a mudiadau eraill sy’n gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu. Mae Ruth Northway o Brifysgol De Cymru yn aelod o’r GCAD ac mae hi’n rhan o’r grŵp llywio. (Muy ar dudalen 18)
Tudalen 18
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 17)
Mae nhw hefyd wedi gofyn i Samantha Williams, Swyddog Gwybodaeth GCAD, i ymuno â’r grŵp llywio i helpu i wneud gwybodaeth yn hawdd i’w darllen a’i deall. Mae’r prosiect yn bwriadu:
Gweld beth sydd ei angen ar staff sy’n gweithio mewn gwasanaethau gofal canser i’w helpu i gefnogi pobl ag anabledd dysgu
Rhoi hyfforddiant i staff sy’n gweithio mewn gwasanaethau gofal canser
Gweld pa newidiadau y gellir eu gwneud er mwyn ei gwneud hi’n haws i bobl ag anabledd dysgu gael gwybodaeth a chefnogaeth gan wasanaethau gofal canser
Gweld pa wybodaeth a chefnogaeth sydd ar gael yn barod ar gyfer pobl ag anabledd dysgu
Gweld pa wybodaeth neu gefnogaeth sydd ar goll a beth y mae’n bosibl ei wneud i sicrhau bod y rhain ar gael
“To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story here.”
?
(Muy ar dudalen 19)
Rhif 5 Gwanwyn 2014
Tudalen 19
(O dudalen 18)
Trwy wneud y pethau hyn i gyd rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl ag anabledd dysgu sy’n cael eu heffeithio gan ganser yn: 1. Cael diagnosis cynnar. Mae hyn yn meddwl dod i wybod cyn gynted â phosibl bod canser arnyn nhw er mwyn iddyn nhw ddechrau cael help yn syth. 2. Deall beth sy’n digwydd iddyn nhw er mwyn iddyn nhw fedru gwneud penderfyniadau da.
“To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story here.”
3. Cael y driniaeth a’r gofal gorau ar gyfer eu canser ac ar gyfer eu bywyd. 4. Gwybod beth y gallan nhw wneud i helpu eu hunain a phwy arall sy’n medru eu helpu. 5. Cael eu trin ag urddas a pharch. 6. Teimlo bod y bobl sydd o’u cwmpas yn cael cefnogaeth dda hefyd. 7. Medru mwynhau bywyd. 8. Teimlo fel rhan o gymuned. 9. Medru marw mewn ffordd dda.
Tudalen 20
Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Pobl ifainc sy’n torri’r gyfraith ac sy’n cael trafferth i gyfathrebu Cafodd Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd ddigwyddiad ar y 14 Mai yng Nghaerdydd. Roedd y digwyddiad ynghylch pa mor anodd y gall hi fod i bobl ifainc sydd â phroblemau cyfathrebu pan fyddan nhw’n mynd i helynt gyda’r heddlu. “To catch the reader's a en on, place an interes ng sentence or quote from the story here.”
Croesawodd Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Cymru, bawb i’r digwyddiad. Roedd hi’n dweud pa mor bwysig yr oedd i bobl ifainc gael help gyda chyfathrebu pan fyddan nhw’n torri’r gyfraith er mwyn iddyn nhw ddeall beth maen nhw wedi ei wneud a beth fydd yn digwydd iddyn nhw. Roedd sgyrsiau gan bobl sy’n gweithio gyda phobl sy’n torri’r gyfraith a phobl sydd â phroblemau cyfathrebu. Mae Christine Griffiths yn aelod o’r Grŵp Cynghori ac yn Bennaeth Therapi Iaith a Lleferydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. (Muy ar dudalen 21)
Rhif 5 Gwanwyn 2014
Tudalen 21
(O dudalen 20)
Mae therapi iaith a lleferydd yn helpu pobl sydd â phroblemau cyfathrebu fel methu siarad, darllen neu ddeall beth y mae pobl yn ei ddweud. Roedd Christine yn dweud mor anodd yr oedd hi i bobl ifainc ag anabledd dysgu os ydyn nhw’n torri’r gyfraith neu’n gorfod mynd at yr heddlu neu i’r llys. “To catch the reader's a en on, place an
Yn aml mae pobl ifainc ag anabledd dysgu angen help arbennig a chefnogaeth â chyfathrebu.
interes ng sentence or quote from the story here.”
Roedd sgwrs hefyd ynghylch rhaglen hyfforddi ar gyfer staff sy’n gweithio gyda phobl sy’n torri’r gyfraith. Mae’r hyfforddiant yn cael ei alw’n ‘The Box’. Mae’n helpu staff i wybod pa bobl sydd angen help i gyfathrebu a sut i’w cefnogi. Cafodd pawb yn y digwyddiad gyfle i roi cynnig ar rannau o raglen hyfforddi ‘The Box’ar y cyfrifiadur.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ‘The Box’ ar wefan Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd http:// www.rcslt.org/news/events/2014/wales_box_launch.
Rhif 5 Gwanwyn 2014
Tudalen 22
Gwefan newydd y GCAD Mae gan y GCAD wefan newydd: www.ldag.info. Ar y wefan gallwch weld beth mae’r grŵp yn ei wneud a phwy yw ei aelodau.
i Polis
?
Gallwch hefyd ddod o hyd i bolisïau sy’n bwysig ar gyfer pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru. Gallwch ddarllen cylchlythyrau’r GCAD mewn ffordd Hawdd ei Deall. Mae mwy o waith i’w wneud eto ar rai rhannau o’r wefan. Yn y dyfodol fe fydd gwefan Gymraeg, www.gcad.info, gyda thudalennau Hawdd eu Deall. Gallwch edrych ar y wefan a gadael i ni wybod beth rydych chi’n ei feddwl trwy anfon e-bost at Sam Williams: samantha.williams@ldw.org.uk. Gallwch hefyd ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y GCAD ar Facebook a Twitter. Am ragor o wybodaeth neu i adael i ni wybod beth rydych chi'n feddwl, ffoniwch Sam Williams ar 029 20681177 neu ebostiwch: samantha.williams@ldw.org.uk. Ewch i’r wefan www.gcad.info neu dilynwch ni ar Facebook a Twitter @LDAdvisoryGroup