Actif Mon - Bwletin Gorffennaf 2013

Page 1

Actif Môn Newyddlen Hamdden a Datblygu Chwaraeon - Rhifyn 12 Gorffennaf 2013 - Bwletin Misol

Sêr y Beiciau Bu disgyblion o ysgolion uwchradd Ynys Môn yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth beicio mynydd ym mhorth Amlwch yn gynharach yn y mis. Cymrodd 43 o bobl ifanc ran ar y dydd gan gystadlu yn erbyn ei gilydd. Bu pedwar categori oedran- dau i fechgyn a dau i ferched. Bydd yr enillydd o bob grŵp yn mynd ymlaen i’r gystadleuaeth derfynol ar Fehefin y 13eg yn Nant Bwlch yr Haearn, Conwy. Hoffai’r Bartneriaeth Awyr Agored ddiolch i Beicio Cymru, swyddogion 5 x 60 a Chyngor Cymunedol Amlwch am eu gwaith caled i sicrhau llwyddiant i’r diwrnod.

GWEFAN WIRFODDOLI NEWYDD Mae safle – www.volunteerangleseysport.com – yn caniatáu i bobl leol o bob oed sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn gwaith gwirfoddoli ym maes chwaraeon ddatgan eu diddordeb a manteision ar y cyfleon, o ddigwyddiadau unwaith yn unig i waith hyfforddi rheolaidd. Os ydych yn rhedeg clwb chwaraeon neu ddigwyddiad chwaraeon, gallwch hefyd gofrestru fel darparwr a hysbysebu eich llefydd gwag. Dywedodd Rachel Argyle, Cydlynydd Gwirfoddolwyr Datblygu Chwaraeon : “Mae’r wefan yn un hawdd iawn i’w defnyddio a thrwy gofrestru gallwch dderbyn y newyddion diweddaraf a newyddion am wirfoddoli, pe baech chi yn dymuno cymryd rhan yn awr neu rhywbryd yn y dyfodol.” Am fwy o wybodaeth rhowch alwad i Rachel ar (01248) 752026 neu e-bost RachelArgyle@ynysmon.gov.uk

* Go Dad Run * Rhaglen ffitrwydd allgymorth newydd * Gwefan Wirfoddoli Newydd *


Ein Llysgenhadon Ifanc Efydd

Gwobrwyo Gwirfoddolwyr Ifanc

Dewch i gyfarfod â dau Lysgennad Efydd o Ysgol Henblas, Llangristiolus - Siwan Iorwerth a Morgan Powell Jones.

Wedi eu hysbrydoli gan Gemau Olympaidd 2012 mae digwyddiadau chwaraeon, sesiynau a gwyliau chwaraeon Ynys Môn wedi gweld cynnydd yn y gwirfoddolwyr ifanc sy’n rhoi o’u hamser i ddatblygu sêr chwaraeon y dyfodol a chreu Ynys Môn fwy iach.

Mae Siwan wedi bod yn Lysgennad Ifanc ers Hydref 2012 a’i hoff foment fel Llysgennad Ifanc hyd yn hyn fu helpu i hyrwyddo’r Gemau Olympaidd drwy gyflwyno Powerpoint mewn cystadleuaeth ac ennill! Ei harwr ym myd chwaraeon yw Jessica Ennis. Mae Morgan yn mwynhau 1500m ar y trac a bod yn aelod o dîm pel-droed yr ysgol (Chwaraeon y Ddraig). Ei arwr ym myd chwaraeon yw Mo Farrah ac mae’n gobeithio parhau i fod yn Lysgennad Ifanc yn Ysgol Uwchradd Llangefni.

Yn ystod lansio Môn Actif, cynllun gwirfoddoli newydd i bobl ifanc Ynys Môn, cafodd 18 o wirfoddolwyr chwaraeon eu cydnabod am eu cyfraniad i chwaraeon mewn ysgolion a chymunedau. Cyflwynwyd disgyblion o Ysgol David Hughes, Ysgol Uwchradd Bodedern a Choleg Menai gyda thystysgrif glodwiw yn dathlu wythnos Gwirfoddolwyr Cenedlaethol. Mae’r gwirfoddolwyr ifanc yn rhoi o’u hamser i hyrwyddo ffitrwydd a hwyl mewn chwaraeon mewn digwyddiadau yn yr ysgolion.

Yn dod â Ffitrwydd Ymarferol I CHI! Mae rhaglen ffitrwydd allgymorth newydd wedi dod i Ynys Môn.

gall cleientiaid addasu’n gyflym iddo.

sesiwn ar ôl ymarfer yn galed am awr.

Cychwynnodd y fenter ym mis Mehefin ac mae’n cael ei chydlynu gan Glwb Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi. Mae’r nifer sy’n cymryd rhan wedi cynyddu ym mhob lleoliad gan gyrraedd ffigyrau dwbl ym Modedern a Wylfa.

Dywedodd Ray Williams: “Rydym yn chwalu’r myth sydd gan ferched bod hyfforddiant ymwrthedd yn datblygu cyhyrau mawr a’u dysgu ei fod o gymorth i siapio’r corff a cholli pwysau.

Bydd ein Sesiynau Ymarfer ar y Traeth yn cychwyn yn Nhrearddur a Benllech yn ystod wythnos gyntaf mis Gorffennaf.

Mae’r math hwn o ffitrwydd yn seiliedig ar ffitrwydd ymarferol y

“Rwy’n amrywio’r rhan fwyaf o sesiynau ac yn cynnwys holl elfennau ffitrwydd ynddynt. Mae’r bobl sy’n mynychu yn gadael y

Am ychwaneg o wybodaeth am y s e s i y n a u e w c h i www.f acebook .com/ Hawf cFunctionalf itnessOutreachProgramme


Ras redeg 5k

Ras filltiro hwyl i’r teulu

Sêr Chwaraeon a gweithdai

… Ras gyntaf erioed Go Dad Run! Amcangyfrifir bod tair mil o bobl yn bresennol i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau pan gynhaliwyd digwyddiad cyntaf erioed Go Dad Run yn nhref Llangefni, Ynys Môn ar Sul y Tadau. Y cyn athletwr Colin Jackson a ddyfeisiodd Go Dad Run, oedd yn Sul ei noddi gan Lilly UK, a hynny oherwydd ei fod am greu digwyddiad teuluol ar gyfer Diwrnod y Tadau a fyddai’n canolbwyntio sylw dynion ar eu materion iechyd ac yn helpu i godi arian i’r elusen y mae wedi ei dewis, Prostate Cancer UK. Cymerodd 400 o bobl leol ran yn y brif ras 5K ac yn y ras hwyl Bee Y’s ac roedd yna hefyd nifer o gyfleon eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon gyda Dosbarthiadau Meistr dan ofal cyn athletwyr rhynglwadol fel Mark Foster (nofio), Rupert Moon (rygbi), Mickey Thomas (pêl-droed), Jamie Baulch (athletau) a Michaela Breeze (codi pwysau). Roedd y gyflwynwraig tywydd Sian Lloyd ac actores a chwaer Colin Jackson, Suzanne Packer yn y ras Go Dad Run i roi cefnogaeth i aelodau eu teulu ac fe welwyd Iolo Griffiths, 16 oed, yn croesi’r llinell yn fuddugol ar ddiwedd y brif ras 5K. Colin oedd cychwynnwr swyddogol y ddwy ras cyn iddo gymryd rhan yn y ras hwyl gyda’i Dad a’i nai ac roedd yn hynod falch o’r ffordd yr oedd y ras Go Dad Run gyntaf wedi mynd. “Roedd yn llwyddiant gwirioneddol, fe wnaeth pawb yn y tîm wneud ei waith ac fe gawsom gefnogaeth wych o bob rhan o Langefni, diolch i waith y trefnwyr, Menter Môn a gwirfoddolwyr. Hoffwn ddiolch i bawb a ddaeth i redeg, i gerdded, gwylio, noddi, bod yn rhan o’r dosbarthiadau meistr neu ond i fod yn rhan o ŵyl Go Dad Run a’r ffordd y daeth pawb i ysbryd y digwyddiad a’n helpu ni i godi ymwybyddiaeth ac arian at achos da.” Ffotograffiaeth Pete Hogan, Ynys Môn

Gydag ond ychydig wythnosau i fynd hyd nes y bydd athletwyr Ynys Môn yn teithio i Bermuda i gystadlu yn y trydydd digwyddiad aml-gamp mwyaf yn y byd (Gemau’r Ynysoedd y Nat West), cymerodd athletwyr a rheolwyr tîm ran yn y digwyddiad Go Dad Run a gynhaliwyd yn Llangefni. Lansiwyd yn llwyddiannus y digwyddiad Go Dad Run cyntaf o’i fath yn Llangefni lle bu Tîm Athletau Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn yn gweithio ochr yn ochr â Colin Jackson a Jamie Baulch i drefnu sesiynau i blant a dosbarth meistr ar gyfer Tîm Gemau’r Ynysoedd.

Cyfrif i lawr i Gemau’r Ynysoedd

Bydd tîm o 14 o athletwyr talentog o Ynys Môn yn cystadlu yn erbyn ynysoedd o bob cwr o’r byd yn Bermuda rhwng Gorffennaf 14 - Gorffennaf 19. Er bod Gemau’r Ynysoedd ar fin digwydd, cymerodd nifer o athletwyr a rheolwyr tîm a rhieni ran yn y Ras 5K Go Dad Run a gwneud ymdrech i gefnogi’r achos haeddiannol hwn. Enillydd y ras oedd Iolo Hughes sy’n 16 oed ac mae’n bosibl y bydd yn ennill medal i dîm Ynys Môn yng Ngemau’r Ynysoedd ac mae’r athletwr ifanc hwn yn gwella fesul ras ac fe ddylai’r Ynys ddilyn hynt yr athletwr talentog hwn.


PENCAMPWYR CRICED Cynhaliwyd gornest griced ysgolion uwchradd Ynys Môn 2013 yn gynharach yr wythnos hon gyda thywydd ardderchog a chyfleusterau gwych yng Nghlwb Criced Porthaethwy. Gyda Bodedern yn curo Amlwch o 36 rhediad fe aethant ymlaen i’w gêm derfynol yn erbyn David Hughes, gêm allai fod yn un a fydd yn penderfynu ar deitl pencampwyr criced ysgolion Môn. Mewn gêm agos a welodd frwydrau bowlio gwych a dal peli yn gampus daeth y gêm i ben gyda David Hughes 136 rhediad, Bodedern 114 rhediad. Dywedodd Barry Edwards Swyddog Pobl Ifanc Fywiog Chwaraeon Cymru “diolch i weithio mewn partneriaeth trwy’r Uned Datblygu Chwaraeon, ysgolion Môn a Criced Cymru, mae safon y criced yn parhau i wella gyda chysylltiadau cryf rhwng yr ysgol a’r clwb lleol yn cael eu datblygu ym Modedern a David Hughes”.

NEWYDDION NOFIO Mae sesiynau nofio newydd ac am ddim i bobl gydag anableddau a’u teuluoedd yn mynd i ddechrau’n bur fuan. Diolch i gyllid o Grant Bychan Cynhwysiad Teuluoedd yn Gyntaf, bydd y sesiynau’n cael eu cynnal o 3pm - 4pm bob prynhawn dydd Sadwrn o Orffennaf 6 i ddiwedd Mawrth 2014 yng Nghanolfan Plas Arthur, Llangefni.

Mae 12 o blant o Ganolfan Hamdden Caergybi ac 14 o Plas Arthur, Llangefni wedi elwa o sesiynau Nofio yn cael eu hariannu gan Free Swim gyda hynny’n caniatáu i’r ysgolion ddod â disgyblion y Dosbarth Derbyn neu Flwyddyn 1 a 2 i brofi hwyl yn y dŵr. Y syniad oedd gwella hyder yn y dŵr cyn iddynt ddechrau cael gwersi nofio ffurfiol mewn blynyddoedd diweddarach.

LLWYBR YMARFER NEWYDD Mae cynllun cyffrous yn un o leoliadau mwyaf prydferth a phoblogaidd Môn yn helpu i gadw pobl o bob oedran yn iach. Mae Llwybr Ymarfer Niwbwrch yn cyfuno gorsafoedd ymarfer corff arbennig gyda cherdded neu redeg - er mwyn cynnig ymarferiad cytbwys i’r corff cyfan. Mae’r prosiect Cymunedau Oed-Gyfeillgar Môn wedi creu’r llwybr mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru, Taith i Waith, Clwb Niwbwrch i Bobl dros 50 oed gyda chyllid o Gronfa Allweddol Môn Gallwn. Mae gan y llwybr 11 o orsafoedd ymarfer - mae dwy ohonynt yn hwylus ar gyfer cadeiriau olwyn - gyda’r offer wedi ei leoli ar hyn y llwybr cerdded neu redeg. Grant i glybiau chwaraeon a sefydliadau

Yr amser cau nesaf Awst 23 2013 Karen (01248) 752046 / kawlh@anglesey.gov.uk

Mae Canolfan Hamdden Amlwch bellach yn berchennog balch ar Feiciau Dwr, sydd eisoes wedi mynd â bryd ieuenctid lleol. Rhai o fanteision Beiciau Dŵr yw cynnig ffitrwydd, colli pwysau, sicrhau adferiad a lles. Mae ymarfer yn y dŵr yn ysgafn ar eich cymalau ac yn eich bywiogi.

Fel rhan o’r digwyddiad Go Dad Run ym mis Mehefin, cynhaliodd y seren nofio Prydeinig Mark Foster ddau weithdy yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur yn Llangefni, gyda phawb yn eu mwynhau yn fawr.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.