Actif Mon Hydref 2013

Page 1

Actif Môn Newyddlen Hamdden a Datblygu Chwaraeon Hydref 2013 - Bwletin Misol

Tyrfaoedd yn heidio i’r Ŵyl Awyr Agored Flynyddol Mae’r clwb pêl-fasged cyntaf erioed i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn yn cael ei sefydlu ar Ynys Môn. Mae’r ‘Anglesey Hawks’ yn bwriadu ymarfer yng Ngwersyll Llu Awyr Brenhinol Y Fali ac maent wrthi’n trefnu sesiynau cynefino i greu diddordeb ac i roi syniad i bobl am sut fath o gamp ydyw. Pêl-fasged i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn yw’r gamp Baralympaidd fwyaf. Mae’n darparu ar gyfer amrediad eang o anableddau ac mae’n seiliedig ar system ddosbarthiad (a fedr gynnwys chwaraewyr corfforol abl hefyd). Ynghyd â’r manteision o ran iechyd corfforol, mae’n gyfle gwych i aelodau gymdeithasu. Bydd yr ‘Anglesey Hawks’ yn ymarfer i ymuno gyda Chynghrair Gogledd Cymru lle byddant yn cystadlu yn erbyn Caernarfon, Conwy, Rhyl a Wrecsam. Mae cadeiriau olwyn ar gyfer y clwb yn ddrud ac maent wrthi’n paratoi cais am gyllid tuag at y costau hyn. Hefyd, maent yn chwilio am unrhyw gymorth gyda chodi arian neu’n gwadd busnesau lleol i noddi cadair olwyn (bydd enw’r busnes yn cael ei argraffu ar ochr y gadair olwyn). Am ychwaneg o wybodaeth neu i gynorthwyo’r clwb, anfonwch e-bost os gwelwch yn dda at angleseyhawkswcbb@gmail.com neu cysylltwch â Karen Williams yn kawlh@anglesey.gov.uk (01248) 752046. Noson anffurfiol i: Cael gwybod am y cymorth grant sydd ar gael i’ch clwb Dysgu mwy am recriwtio a dal gafael mewn gwirfoddolwyr Cofrestru ar wefan www.volunteerangleseysport.com Cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau Cyfle i sgwrsio gyda chlybiau eraill dros baned o de


Ieuenctid yr Ynys yn Anelu Uchel

Tour de Môn—Taith Feicio i’r Teulu / Tour de Teulu Cynhaliodd Always Aim High Events ei Ddigwyddiad Beicio Tour de Môn cyntaf un y mis diwethaf, gan ddechrau yn Nhraeth y Newry yng Nghaergybi. Wrth eu hochrau roedd Tîm Datblygu Chwaraeon Ynys Môn oedd wedi trefnu Digwyddiad Beicio i’r teulu oedd yn 6.5 milltir o hyd. Roedd y daith o’r traeth o amgylch Parc Gwledig y Morglawdd drwy Laingoch ac o amgylch Ffordd Ynys Lawd, yn llwyddiant aruthrol. Aeth 100 o blant ac oedolion o bob oed allan ar eu beiciau gan gael eu cyfeirio o amgylch y daith gan farsialiaid gwirfoddol. Triathlon Llanc y Tywod i Blant Am y drydedd flwyddyn yn olynol fe drefnodd yr Uned Datblygu Chwaraeon rasys triathlon i blant mewn partneriaeth gyda’r brif ras Triathlon Llanc y Tywod a gynhaliwyd gan Always Aim High Events yn Niwbwrch. A hwythau’n cael eu cyfarwyddo gan farsialiaid oedd wedi gwirfoddoli, aeth gwahanol grwpiau oed i’r môr i nofio, beicio o amgylch y goedwig a gorffen gyda ras redeg ar hyd trac, gyda’r pellteroedd yn dibynnu ar eu hoed. Cawsant fwynhad o orffen dros linell orffen y prif ddigwyddiad Triathlon ac o fwynhau’r amgylchedd. Ras Llwybr yr Ynys – Ras y Ddraig Cymerodd 150 o blant ran yn rasys Llwybr Ras y Ddraig yr Uned Datblygu Chwaraeon ac Athletau Cymru yng Nghoedwig Niwbwrch cyn prif ras 10k Always Aim High Events i oedolion a’r rasys hanner marathon. Gydag oedran o 6-15, bu cystadlu brwd yn y rasys oedd yn rhai rhwng hanner milltir a milltir a hanner. Derbyniodd y rhedwyr fedal a thystysgrif am eu hymdrechion.

Mae Llysgenhadon Aur ac Arian newydd ar Ynys Môn wedi cael gwahoddiad i ymuno gyda Thîm Llysgenhadon Ifanc Ynys Môn. Y Llysgenhadon Aur newydd a fydd yn ymuno â’r tîm yw Gwenan Williams a Ffion Jones o Ysgol Gyfun Llangefni, Tom O’Brien o Ysgol David Hughes, Katie Roberts o Gaergybi a Mathew Magee o Fodedern. Mae’r Llysgenhadon Ifanc wedi cael eu dewis gan swyddog 5x60 yr ysgol a’r Adran Addysg Gorfforol yn seiliedig ar eu cyfraniad rhagorol i ddatblygu chwaraeon yn yr ysgol a’r gymuned leol ac mae gan y ddau swyddog lawer o syniadau cyffrous ac arloesol ar gyfer datblygu’r prosiect ymhellach. Bydd y Llysgenhadon Aur newydd yn mynychu Cynhadledd Genedlaethol yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 23 Hydref.

O’r soffa i redeg 5k. Yn cychwyn ar Ddydd Iau, Hydref 17. Cyfarfod tu allan i Ganolfan Hamdden Amlwch am 6pm. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch gyda Karen Williams ar (01248) 752046 neu anfonwch e-bost i karenwilliams@ynysmon.gov.uk Cynhelir seremoni wobrwyo ar Ddydd Iau, Hydref 10 ddathlu llwyddiannau’r rhieni a enillodd fedalau yng Ngemau’r Ynysoedd 2013. Cynhelir sesiynau 5 x 60 ar gyfer disgyblion Ysgol Gyfun Llangefni yn yr Ystafell Ffitrwydd, Canolfan Hamdden Plas Arthur bob dydd Mawrth a dydd Iau, 3.30-4.30pm ar gyfer Blynyddoedd 9, 10 ac 11. £ 1.50. Sesiynau Caiacio am ddim ar gyfer Ysgol Gyfun Llangefni ac Ysgol David Hughes. Gweler y swyddog 5 x 60 Barry Edwards am fanylion.


CP Llewod yn Recriwtio Mae clwb pêl-droed ar gyfer chwaraewyr â phob mathau o anabledd yn chwilio am aelodau newydd. Mae’r Llewod yn cyfarfod bob dydd Llun rhwng 5 a 6pm yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni. Diolch i gefnogaeth gan y Cymunedau Oed-gyfeillgar, mae’r clwb yn cynnig i aelodau newydd ddwy sesiwn gychwynnol yn rhad ac am ddim (£2 y sesiwn yw’r pris arferol). Mae’r clwb wedi bod yn rhedeg ers deng mlynedd ac mae croeso i bawb waeth beth yw lefel eu gallu/anabledd. Mae’r sesiynau’n agored i wrywod a benywod sy’n 16 oed neu’n hŷn. Am ychwaneg o wybodaeth, cysylltwch gyda Karen Williams ar (01248) 752026 neu dewch heibio i un o’r sesiynau. Bydd y Llewod yn chwarae ar 20 Hydref ar gae Ysgol Gynradd Amlwch rhwng 10.30 a 12.30 fel rhan o ddigwyddiad i godi arian ar gyfer RDA (Marchogaeth i’r Anabl) ar Ynys Môn.

Cyllid yn helpu clwb newydd i ddod i rym Mae clwb badminton newydd wedi ei sefydlu yng Nghanolfan Hamdden David Hughes Porthaethwy gyda chymorth cyllid y Gist Gymunedol. Bydd y rhan fwyaf o’r grant yn cael ei wario ar gymhwyso hyfforddwyr i safon lefel 1 a chyfran fechan ar offer. Bydd y grant o £1,500 a ddyfarnwyd yn helpu’r Clwb yn sylweddol i gyflawni ei brif amcanion: 

Sefydlu clwb newydd (sydd yn golygu y bydd gan bob un o’r pum canolfan hamdden ar yr Ynys glwb badminton).

Darparu cyswllt o’r clwb iau ar ôl ysgol 5x60 cyfredol, yn Ysgol David Hughes, i’r clwb oedolion.

Cymhwyso hyfforddwyr i fynychu sesiynau’r clwb er mwyn gwella perfformiad ac ysgogi diddordeb mewn badminton cystadleuol.

Sicrhau bod clwb ym Môn yn chwarae ar safon gystadleuol (mae dau dîm o glwb newydd Porthaethwy wedi eu derbyn i Gymdeithas a Chynghrair Badminton Sir Conwy).

Nod tymor hir o gael chwaraewyr i gynrychioli Ynys Môn yn y Gemau’r Ynysoedd.

Bydd Cwrs Hyfforddi Undeb Badminton Cymru yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden David Hughes ar Hydref 19eg a 20fed a bydd Porthaethwy ‘B’ yn chwarae gêm gyntaf y clwb yng Nghyngrair Badminton Sir ac Ardal Conwy ar Hydref 1af yn erbyn Rydal, Penrhos. Bydd Porthaethwy ‘A’ yn chwarae eu gêm agoriadol ar Hydref 14eg v Vardre ‘B’.

Grant i glybiau chwaraeon a sefydliadau YR AMSER CAU NESAF Tachwedd 15eg 2013 Karen Williams (01248) 752046 / kawlh@anglesey.gov.uk


Hebogiaid Môn yn cael cychwyn da Mae rhai o’r bobl fwyaf anturus ac egnïol yng Ngogledd Cymru yn dod at ei gilydd ar gyfer Gŵyl Gweithgareddau Awyr Agored y Bartneriaeth Awyr Agored ym Mhlas y Brenin, Capel Curig. Yn y digwyddiad blynyddol hwn, daw clybiau gweithgareddau awyr agored o bob cwr o Ogledd Cymru at ei gilydd i arddangos eu sgiliau ac i roi cynnig ar weithgareddau newydd.

Ras feicio trwy Brydain

Caiacio

Ar ôl blwyddyn eithriadol o feicio dewiswyd beicwyr o Ysgol Gyfun Llangefni, Ysgol Syr Thomas Jones ac Ysgol David Hughes i gystadlu yn y ras feicio trwy Brydain i gystadleuwyr iau a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Gwynedd ym mynyddoedd Llanberis. Daeth Ynys Môn yn 3ydd o’r holl awdurodau lleol yng Ngogledd Cymru a oedd yn ganlyniad cymeradwy iawn.

Trefnwyd y Pencampwriaethau cyntaf erioed i Ysgolion Ynys Môn gan gynllun 5x60 Ynys Môn a Canoe Wales a’r Bartneriaeth Awyr Agored.

Cafodd ddisgyblion ifanc o bob rhan o Fôn y fraint o rasio mewn digwyddiad proffil uchel a thynnwyd lluniau sawl disgybl gydag aelodau team Sky (Bradley Wiggins a Mark Cavendish). Seren y diwrnod oedd disgybl Ysgol Gyfun Llangefni, Gweno Hughes a ddaeth yn ail yng Ngogledd Cymru yn ei chategori unigol, gan orffen llai nag eiliad ar ôl yr enillydd. Dywedodd Gweno Hughes,” roedd hwn yn gyfle gwych a bydd cystadlu ar yr un daith a beicwyr tîm Sky ac Enillydd Taith Prydain, Bradley Wiggins yn un o fy atgofion gorau erioed.”

Gyda thywydd gwych a lleoliad arbennig Harbwr Caergybi, roedd y disgyblion wrth eu boddau. Ar ôl nifer o rasys i unigolion ac i dimau, bydd yr enillwyr a welir isod yn cymryd rhan yn Rownd Derfynol Pencampwriaethau Caiacio Gogledd Cymru ar Ddydd Gwener 4 Hydref. Dywedodd Barry Edwards, y Swyddog Pobl Ifanc Egniol, “mae hwn yn brofiad gwych i’r disgyblion a bydd y sgiliau y mae’r bobl ifanc hyn yn eu dysgu yn rhai y gallant eu trosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Diolch i’r bartneriaeth ardderchog gyda Canoe Wales a Simon Jones o’r Bartneriaeth Awyr Agored, mae’r pencampwriaethau Caiacio newydd yn Ynys Môn wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac mae’n siŵr o fod yn ddigwyddiad blynyddol”.

www.volunteerangleseysport.com


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.