Actif Môn Newyddlen Hamdden a Datblygu Chwaraeon - Rhifyn 11 Mehefin 2013 - Bwletin Misol
Ysgol Llangoed yn arwain y ffordd yn Ynys Môn a Chymru Ysgol Llangoed yw’r ysgol gyntaf yn Ynys Mon a Chymru i lenwi Arolwg Cenedlaethol 2013 ar Chwaraeon Ysgol. Bydd yr ysgolion a’r awdurdodau lleol sy’n cael digon o ddisgyblion i lenwi’r arolwg yn cael darlun manwl o farn eu pobl ifanc am chwaraeon. Y nod cyffredinol yw y bydd yr wybodaeth yn eu helpu i wneud penderfyniadau doeth a gwelliannau i’w strwythur chwaraeon, i gael mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon. Hefyd bydd y data’n cael eu defnyddio gan Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru fel sail i benderfyniadau polisi a buddsoddi. Mae’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol ar gyfer Cymru Gyfan yn cael ei gwblhau yn ystod tymor yr haf gan ysgolion a hwn oedd yr arolwg mwyaf erioed ar blant, pobl ifanc a chwaraeon pan gafodd ei gwblhau ddiwethaf yn 2011. Dywedodd Lisa Evans Cyd-lynydd Addysg Gorfforol Ysgol Llangoed “Mae cwblhau yr holiaduron yn bwysig i ni fel ysgol er mwyn darganfod beth mae plant yn ei fwynhau am addysg gorfforol. Mae'n fudd mawr i'r ysgol er mwyn cynllunio ac asesu y ddarpariaeth yr ydym yn ei gynnig o flwyddyn i flwyddyn. Yn 2011, ymhlith y prif ddarganfyddiadau roedd lefel y cyfranogiad mewn clybiau ymhlith disgyblion ysgolion cynradd y lefel uchaf i’w chofnodi (85%) ers 2000, a gwelwyd bod y bwlch rhwng y rhywiau, rhwng y bechgyn a’r merched sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon, yn cynyddu drwy gydol yr ysgol uwchradd. Gofynnir i’r holl ddisgyblion ym mlynyddoedd ysgol tri i 11 gwblhau’r arolwg erbyn diwedd y tymor. Mae ysgolion ledled Cymru wedi cael cyfarwyddiadau personol ar gyfer mynd i mewn i’w harolwg eu hunain. Mae’n ofynnol i nifer cynrychioliadol o ddisgyblion lenwi’r arolwg er mwyn i ysgol gymhwyso ar gyfer ei hadroddiad personol ei hun. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.schoolsportsurvey.org.uk
RYGBI TAG
Ffotograff o’r tîm buddugol, Gleision Llanfair gyda Swyddog Cyfranogi Undeb Rygbi Cymru Allan James a’r chwaraewr Alex Schwarz.
Cafwyd cystadleuaeth rygbi tag lwyddiannus iawn wedi ei chynnal mewn partneriaeth â Chwaraeon y Ddraig a Chlwb Rygbi Llangoed. Roedd Ysgolion Biwmares, Llangoed a Llanfairpwll ymysg yr ysgolion a gymerodd ran. Gyda rhai gemau agos iawn a safon eithriadol o uchel o rygbi tag, enillwyr cystadleuaeth y gwpan oedd Cleision Llanfair gyda Dreigiau Llanfair yn ail. Enillodd Scarlets Llanfair gystadleuaeth y plât gyda Scarlets Biwmares yn ail. Dywedodd Owain Jones Swyddog AYP : “tra’n gweithio mewn partneriaeth â Chlwb Rygbi Llangoed, cafodd dros 100 o blant y cyfle i chwarae rygbi tag”. Diolch i waith caled yr ysgolion a gymerodd ran a’u hathrawon ynghyd ag Allan James, Swyddog Cyfranogi Undeb Rygbi Cymru, mae safon y rygbi wedi tyfu’n eithriadol ers ein gŵyl ddiwethaf. Dyma’r pumed tro i’r ŵyl gael ei chynnal yn Llangoed, a phob blwyddyn mae safon y rygbi yn dal i wella”.
Gŵyl Pêl-droed Anabl Mwynhaodd Cymuned Amlwch ddiwrnod o hwyl pêl-droed fis diwethaf. Bu tîm Anabl Llewod Amlwch, Merched Amlwch a thîm o’r Adelphi Vaults yn chwarae yn y twrnamaint ddydd Sul, Mai 19, ac fe godwyd dros £100 i glwb y Llewod. Dywedodd Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru, Karen Williams: “ Mae bob amser yn wych i weld pobl Amlwch yn dod at ei gilydd i godi arian a chwarae pêl-droed. Mae’r Llewod yn mwynhau’r profiad yn fawr o gael chwarae yn erbyn timau eraill ac fe gawson nhw ddiwrnod arbennig. Diolch yn fawr iawn i bawb a helpodd i wneud y digwyddiad yn bosibl, y rhai a ddaeth yno i wylio ac i gefnogi’r raffl ac i’r Adelphi Vaults am eu croeso ar ôl y gêm.”
Dyddiad Cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau Mehefin 7fed Awst 23ain Tachwedd 15eg, Ionawr 10fed 2014
Am fwy o wybodaeth: Karen Williams 01248 752046 neu kawlh@anglesey. gov.uk
Proffil Gwirfoddolwr Fy siwrnai i fod yn Hyfforddwr Gan Claire Branston, Clwb Canwio Amlwch
Cychwynnodd fy siwrnai yn 2010 pryd gwelais hysbyseb am wersi caiacio yr oedd Cyngor Sir Ynys Môn a’r Bartneriaeth Awyr Agored yn eu cynnal yn rhad ac am ddim. Roeddwn wedi bod eisiau gwneud hyn ers i mi gael blas ar gaiacio pan oeddwn yn yr ysgol. Ar ôl tair sesiwn (am ddim!), cefais wybod gan y Bartneriaeth Awyr Agored fod clwb newydd wedi cael ei sefydlu yn Amlwch, felly i ffwrdd â mi i Ganolfan Hamdden Amlwch i weld beth oedd yn digwydd. Cefais fy mhrofiad cyntaf ym Mhwll Nofio Amlwch lle bu staff y Bartneriaeth Awyr Agored, Simon Jones ac Eila Wilkinson yn dysgu r hywf aint o’r symudiadau sylfaenol i ni.
Yn 2011, cychwynnodd pump ohonom ar y siwrnai i fod yn hyfforddwyr. Cawsom ein trochi yn y dyfroedd rhewllyd yn Harbwr Caergybi i wneud ein Hyfforddiant Achub a Diogelwch Sylf aenol (gyda chymorth ariannol o Gronfa Addysg Hyfforddwyr y Bartneriaeth Awyr Agored), a’r Asesiad Hyfforddwr Lefel 1. Er gwaethaf hynny, parhaodd y sesiynau yn y pwll hyd y gwanwyn 2011 pryd symudodd Clwb Amlwch i’r dyfroedd agored. Roedd yr agwedd hyfforddi’n un o d d ys g u p a r h a us , h. y. agweddau technegol y symudiadau, yr enwau, cael cym wysterau eraill megis Cymorth Cyntaf, 3 Seren, Diogelu Plant a mwy.
Erbyn 2012, roedd yr haf yn cynnwys sesiynau padlo i wella fy sgiliau fy hun ynghyd ag hyfforddi aelodau eraill y clwb. Erbyn hyn, roeddwn yn hyfforddi eraill ar y dŵr agored, yn y pwll a chyd goruchwyliaeth agos, ar ddŵr symudol ynghyd ag arwain rhai elfennau ar dripiau ar y môr ac afonydd. Erbyn y gwanwyn 2013, roedd hi’n achos o drio am y cymhwyster, p’un a oeddwn yn barod ai peidio ac roedd yr asesiad Lefel 2 yn ffrwyth yr holl hyfforddi, cyrsiau, dagrau a chwerthin. Gyda lwc, mi lwyddais i ennill y cymhwyster! Mae’r siwrnai’n parhau i mi. Mae’n amser i mi gymryd cam yn ôl, cael fy ngwynt ataf ac yna gario ymlaen i hyfforddi a helpu’r clwb a ‘Paddlesport’ yn y dyfodol.
Mae’r Wythnos Gwirfoddolwyr yn ddathliad blynyddol o gyfraniad ardderchog y mae miliynau o wirfoddolwyr yn ei wneud ar dras y DG - ac mae’n digwydd o 1 - 7 Mehefin 2013. Y flwyddyn hon mae’r Wythnos Gwirfoddolwyr yn canolbwyntio ar ddweud ‘Diolch yn fawr’ i’r miliynau o wirfoddolwyr sydd yn cyfrannu’n rheolaidd i gymdeithas, ac i gydnabod y ffordd y mae sefydliadau’n dathlu gwaith gwirfoddolwyr ar draws y DG. Os ydych yn rhedeg clwb chwaraeon ar Ynys Môn ac eisiau cymorth o ran recriwtio a chadw gwirfoddolwyr, cysylltwch â Rachel Argyle, Cydlynydd Gwirfoddoli ar RachelArgyle@anglesey.gov.uk neu (01407) 752026
Mae Uned Datblygu Chwaraeon Ynys Môn eisiau gweithio’n agos gyda chlybiau chwaraeon ar yr Ynys i’w helpu gyda materion gwirfoddoli, yn cynnwys hyrwyddo cyfleon gwirfoddoli, hyfforddi a chadw’r cynorthwywyr presennol. Bydd Data-bas Gwirfoddolwyr newydd sbon yn cael ei lansio yn fuan i gyfatebu gwirfoddolwyr tebygol gyda lleoliadau chwaraeon. Er mwyn gwybod mwy am Wythnos Gwirfoddolwyr 2012, ewch i www.volunteersweek.org
Digwyddiadai Always Aim High Digwyddiad Tour de Môn Newydd—1/9/13 Triathlon Llanc y Tywod Ynys Môn—22/9/13 Hanner Trên Ynys Môn & 10k—29/9/2013 Pel-droed i Ferched Bu’r sesiynau ‘dewch yma a chwarae’ pêldroed i enethod dan 11 oed yn llwyddiant ym Mhlas Arthur, Llangefni. Cychwynnodd y sesiynau ar 15 Mai a byddant yn parhau am 12 wythnos. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Mike Parry ar 07792642053 neu ebost Michael.parry@welshfootballtrust.org Y Cyfryngau Cymdeithasol Gellir cael newyddion am yr Uned Datblygu Chwaraeon ar gyfrif Facebook a Trydar Ynys Môn. Hefyd, er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â newyddion am chwaraeon a digwyddiadau ar yr Ynys, ymwelwch â www.facebook.com/AngleseySport a Twitter @AngleseySport Gêmau’r Ynysoedd Mae athletwyr o Ynys Môn ar hyn o bryd yn paratoi at Gêmau’r Ynysoedd 2013 yn Bermuda. Cynhelir y gêmau o 13 - 19 Gorffennaf. I ddilyn y gweithgareddau, ewch i www.islandgames.net Canolfan Hamdden I gael wybod mwy am y gweithgareddau sy’n cael eu cynnal yng Nghanolfannau Hamdden Caergybi, Amlwch a Phlas Arthur, Llangefni, cysylltwch â’r canolfannau’n uniogyrchol. Beth am ymuno gyda’r cynllun debyd uniongyrchol a gym a nofio mewn unrhyw ganolfan am £20 y mis yn unig?
Gala Rownd Derfynol Ysgolion Cynradd Ynys Môn Canolfan Hamdden Caergybi Dydd Llun 20 Mai 2013 Cymerodd oddeutu 180 o ddisgyblion o 29 o Ysgolion Cynradd ar draws Ynys Môn ran yng Ngala Nofio Rownd Derfynol Ysgolion Cynradd Ynys Môn a gynhaliwyd yng Nghanolfan Hamdden Caergybi ar ddydd Llun 20 Mai 2013. I gymryd rhan yn y gala hon, bu’n rhaid i’r plant gystadlu mewn tair gala a gynhaliwyd yn gynharach eleni yng nghanolfannau Caergybi, Amlwch a Phlas Arthur yn Llangefni a bod ymysg y deg cyntaf ar ôl cymryd rhan yn y tair gala. Trefnwyd y digwyddiad gan Mike Dilworth, Swyddog Datblygu Chwaraeon Dŵr Ynys Môn gyda chymorth a chydweithrediad cydweithwyr yn Uned Datblygu Chwaraeon Ynys Môn a rheolwr a staff Canolfan Hamdden Caergybi. Yn ogystal â medalau unigol i’r sawl ddaeth yn gyntaf, ail a thrydydd ym mhob cystadleuaeth, cafodd pob plentyn a wahoddwyd dystysgrif am gymryd rhan yn y digwyddiad. Hefyd, cafodd yr ysgolion a ddaeth yn gyntaf, ail a thrydydd droffi, gyda Rhoscolyn yn drydydd, Ysgol Llanfairpwll yn ail ac Ysgol Morswyn o Gaergybi yn ennill y wobr gyntaf. Mike Dilworth, Swyddog Datblygu Chwaraeon Dŵr Ynys Môn