Felly rydych chi'n meddwl bod eich plentyn yn hoyw

Page 1

. . . y Fell

?

wl d d e m n ’ hi rydych c tyn yn en l p h c i e bod

W Y HO

N O I B E AT rai o’ch i U A N Y I T S E CW posib.


Rwy’n teimlo falle bod fy mhlentyn yn hoyw, ond...

SUT ALLA I FOD YN SIŴR?

Tan i’ch mab neu’ch merch ddod atoch chi a dweud wrthoch chi eu bod nhw’n hoyw neu’n ddeurywiol (neu’n meddwl falle eu bod nhw), does dim ffordd i chi wybod. Yn ...os bydd eich mab union fel pobl heterorywiol, mae neu’ch merch yn pobl hoyw i’w cael o bob lliw a llun. hyderus y byddwch Felly peidiwch â chymryd dim yn chi’n iawn gyda nhw ganiataol. pan fyddan nhw’n Un peth pwysig: peidiwch â siarad gyda chi am y busnesa; rydych chi eisiau iddyn peth, byddan nhw’n nhw ddod atoch chi a dweud yn eu fwy tebygol o feddwl hamser eu hunain. Os rhowch chi ei bod hi’n iawn iddyn bwysau arnyn nhw, mae’n debygol nhw ddweud wrthoch o wneud iddyn nhw eich cau chi chi. allan – yn groes i’r hyn rydych chi eisiau. Un peth y gallwch chi ei wneud yw creu awyrgylch lle mae eich mab neu’ch merch yn teimlo eu bod nhw’n gallu dweud wrthoch chi eu bod nhw’n hoyw, gan wybod y byddwch chi’n eu cefnogi.

Cof iwch..

Er enghraifft, dywedwch bethau positif am bobl hoyw pan maen nhw ar y teledu a pheidiwch â gadael i bobl ddweud pethau negyddol am bobl hoyw yn eich tŷ chi. Os yw eich plentyn yn hoyw – neu’n meddwl ei fod – mae’n debygol y bydd yn effro iawn i agweddau tuag at bobl hoyw yn eich cartref.


Ydyn nhw’n siŵr bod hyn yn fwy na dim ond TEIMLADAU

DROS DRO?

Mae pob un ohonon ni’n gwybod bod tyfu i fyny yn gyfnod dryslyd, yn enwedig o safbwynt ein teimladau. Gall rhai pobl ifanc gymryd amser maith i ddod i delerau â bod yn hoyw; bydd eraill yn gwbl bendant am y peth yn gyflym iawn. Weithiau bydd rhywun yn mynd allan gyda rhywun o’r un rhyw ond o bosib heb fod yn siŵr a ydyn nhw’n hoyw. Gall rhai pobl ifanc fod yn ddeurywiol. Mae hyn yn golygu bod y ddau ryw yn atyniadol iddyn nhw. Nid cyfnod ar y ffordd i fod yn ‘gwbl hoyw’ yw hyn. Gadewch iddyn nhw ddiffinio nhw’u hunain.

ch yn Os bydd eich mab nebou’dchnhmw’ern hoyw, dweud wrthoch chi eurfod magu llawer o byddan nhw wedi go neud hynny. blwc i allu gw Bydd diystyru’r peth fel teimladau dros dro neu ‘phase’ yn ymddangos iddyn nhw fel nad ydych chi’n eu cymryd o ddifrif ac yn tanseilio eu hyder, a bydd hyn yn eu gwneud

yn llai tebygol o agor eu calonnau i chi yn y dyfodol. Os ydyn nhw’n dweud wrthoch chi eu bod nhw’n hoyw, rhaid i chi gymryd eu gair am hynny.


Wnes i rywbeth o’i le?

NADDO

YN BENDANT.

Does dim cysylltiad rhwng ffyrdd o fagu plant a phrofiadau pobl ifanc a’r tebygolrwydd y byddan nhw’n hoyw. bwrbia i ei fagu yn sw iams sydd wed un ill W yr , yor rr Pa ad ff br Mae Jose waer a la u riant, 1.4 ch dinas l da no da ga gy o f s ie da Llan â Joe Dav o fod yn hoyw dad. mor debygol ormesol a heb m fa ’i da gy e aw rt Abe

Mae pobl hoyw yn cael eu magu mewn pob math o deuluoedd ac maen nhw’n dod o bob math o gefndiroedd. Does dim allech chi fod wedi’i wneud i ddylanwadu ar eu cyfeiriadedd rhywiol. Gallwch ddylanwadu ar ba mor debygol yw eich mab neu’ch merch o ddweud wrthoch chi am y peth, a sut maen nhw’n teimlo am y peth, drwy greu’r math o awyrgylch lle maen nhw’n teimlo y gallan nhw siarad.


OND

yda bod yn g o n tu cy n y im d d Dydw i

hoyw.

(Neu mae rhai o’r teulu yn anghytuno)

Y gwir yw, os oes problem gyda chi gyda’r syniad bod eich plentyn yn hoyw, bydd yn rhaid i chi fyw gyda’r sefyllfa a’i derbyn. Y peth gorau gallwch chi ei wneud yw rhoi eich teimladau am ‘fod yn hoyw’ o’r neilltu a chofio, beth bynnag yw rhywioldeb eich mab neu’ch merch, eich bod chi’n eu caru ac eisiau iddyn nhw fod yn hapus. Dydy’r ffaith eu bod nhw’n hoyw neu’n lesbiad ddim yn newid hynny. Does dim ffordd o’u ‘troi yn syth’. Os byddwch chi’n gwrthod y sefyllfa, yr unig beth wnewch chi fydd niweidio eich perthynas gyda’ch plentyn, gan eich brifo chi a’u brifo nhw. Drwy wrthod y sefyllfa byddwch chi hefyd yn colli’r cyfle i fod yn rhan o elfen bwysig iawn o’u bywyd. O safbwynt eich teulu, mae’n bosib y bydd angen ychydig o help i ddygymod â’r sefyllfa ar rai aelodau o’r teulu, yn enwedig perthnasau hŷn (er bod pobl hŷn yn aml yn llawer mwy parod i dderbyn pethau nag rydyn ni’n ei feddwl). Os nad ydyn nhw’n ymateb yn dda ar y dechrau, gosodwch reolau a gwneud yn glir beth sy’n dderbyniol a beth sy’n annerbyniol i’w ddweud o flaen eich plant. Dydy hi ddim bob amser yn hawdd, ond yn aml, mae hi’n hawdd.


Dydw i ddim yn hoffi eu partner! Mae’n berffaith naturiol i riant beidio hoffi cariad cyntaf eu mab neu eu merch. Ond does gan hynny ddim byd i’w wneud â’u rhywioldeb.

Os nad ydych chi’n hoffi partner eich mab neu’ch merch, y peth cyntaf i’w ystyried yw a fyddai’n werth i chi gymryd cam yn ôl; os ceisiwch chi eu stopio nhw rhag gweld ei gilydd, gallai hynny eu hannog nhw yn y pen draw. Mae’n debyg na fydd yn para’n hir beth bynnag. Os penderfynwch chi gamu i mewn, gwnewch yn glir nad ydych chi’n ymateb fel hyn oherwydd eu bod nhw’n hoyw nac oherwydd rhyw eu partner, ond oherwydd eich bod chi’n anhapus â’u partner fel unigolyn.

Mae trafod y peth yn syniad da. Un peth gallwch chi ei wneud yw rhoi gwybodaeth iddyn nhw sy’n angenrheidiol i ddelio â pherthnasoedd a rhyw yn gyfrifol. Does gan bobl ifanc hoyw a lesbiaidd yn aml ddim mynediad i wybodaeth am ryw a bod yn ddiogel, felly hyd yn oed os ydych chi’n teimlo na allwch chi siarad am y peth yn bersonol, dylech chi o leiaf eu cyfeirio nhw at y wybodaeth angenrheidiol. Er yr holl embaras mae’r sgyrsiau hyn yn ei achosi, mae’r dystiolaeth yn dangos bod pobl ifanc sy’n gallu siarad gyda’u rhieni yn tueddu i oedi cyn cael rhyw ac i gael rhyw diogel.


l e a g i d n y m Ydyn nhw’n yr ysgol? eu bwlio yn Mae ysgolion wedi newid yn llwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac erbyn hyn maen nhw’n llefydd gwell nag erioed i fod yn hoyw. Ond, wrth gwrs, dydy pethau’n dal ddim yn berffaith.

atal bwlio yn gwybod bodgwaith o greu da on aw hr at ae u M rhan bwysig o’ pawb gyflawni ll homoffobaidd yn gol diogel, lle ga amgylchedd ys ei botensial. Wedi dweud hynny, ga ll tyfu i fyny’n wahanol fod yn anodd i’n holl bobl ifan c, oherwydd eu bod nh w’n hoyw neu’n lesbiaidd neu oh erwydd unrhyw beth ara ll sy’n eu gwneud nhw’n wahano l. Dyna pam ei bod hi mor bwysig eu bod nhw’n teimlo y gallan nhw droi atoch chi i siarad am y pethau yma. Mae bwlio yn gwneud yr ysgol yn lle digalon, felly os ydyn

nhw’n cael eu bwlio byddwch chi eisiau gwybod am y peth. Os nad yw’r ysgol wedi cymryd y camau iawn i stopio hynny eto, dyna pryd gallwch chi gamu i mewn.


YDY HYN YN GOLYGU DIM WYRION A WYRESAU? Mae newidiadau diweddar yn y gyfraith wedi’i gwneud yn llawer haws i bobl hoyw gael plant. Erbyn hyn mae gan gyplau hoyw yr un hawl â phobl heterorywiol i fabwysiadu a chael gwasanaethau ffrwythlondeb. Mae bron i 10,000 o deuluoedd â rhieni o’r un rhyw yn magu plant yn barod. Bydd yn rhaid i gyplau o’r un rhyw wneud ychydig yn fwy o waith cynllunio ac ymchwilio i gael plant na’r rhan fwyaf o gyplau heterorywiol, ond mae sefydliadau fel Stonewall wedi cyhoeddi arweiniad ar yr opsiynau sydd ar gael i gyplau hoyw o ran cael plant.

yn hoyw ddim yn ae Yn y bôn, dydy bopldan t, os mai dyna m rhwystr rhag cael erch ei eisiau. eich mab neu’ch m


A fydd croeso i ni yn y

? L E P CA

Mae ffyddloniaid hoyw gan bob crefydd, ac mae gan bob crefydd grwpiau i ffyddloniaid hoyw. Gydag ychydig o ymchwil dylech chi allu canfod addoldy fydd yn croesawu eich teulu. Tan eich bod chi’n gwybod yn bendant, amddiffynnwch eich plant rhag sylwadau gwrth-hoyw a cheisio cydbwyso unrhyw safbwyntiau y gallen nhw eu clywed yn eich addoldy.

Mae pob crefydd ac addoldy yn wahanol, ac yn adlewyrchu barn y gymuned benodol maen nhw’n ei gwasanaethu. Mewn rhai achosion mae’n bosib y bydd gan eglwys, teml, synagog neu fosg benodol safbwyntiau gwrth-hoyw. Ond dydy hynny ddim yn golygu bod y grefydd gyfan yn wrth-hoyw.


n hoyw Oni fydd bod y yd yn yn gwneud byw n nhw? y d id H C A D D O AN Yr hyn sy’n gwneud bywyd yn anodd i bobl hoyw yw pobl yn eu gwrthod. Ac mae hynny’n galetach fyth os mai eu rhieni yw’r bobl hynny. Ond mae agweddau at bobl hoyw wedi gweddnewid yn ddiweddar. Mae deddfau newydd wedi gwneud ein gwlad yn decach ac yn fwy cyfartal. Mae mwy o fodelau rôl hoyw yn y byd celfyddydol, mewn gwleidyddiaeth a chwaraeon ac mae’r bobl hynny sydd â phroblem gyda phobl hoyw yn lleiafrif sy’n lleihau o hyd.

Fel gyda phobl ifanc d eraill, mae’n bwysig bo rch me h eich mab neu’c w yn gwybod am arfer rhy yn d bo a l ge dio mwy id gyfrifol, a bydd yn rha a iau ith we i chi eu cysuro n w’ nh yn yd d sicrhau na

Yn y byd gwaith, mae cwmnïau nid yn unig yn dilyn deddfau cydraddoldeb caeth i ddiogelu hawliau pobl hoyw a lesbiaidd, ond maen nhw hefyd yn gwybod bod pobl yn gweithio ar eu gorau pan fyddan nhw’n gallu bod yn nhw eu hunain, ac maen nhw am gael gweithlu sy’n adlewyrch eu sylfaen cleientiaid. Mae gwahaniaethu yn dal i fodoli, wrth gwrs, a dyna pam mae sefydliadau fel Stonewall Cymru yn dal i weithio gyda’r Llywodraeth a chyflogwyr i’w atal.

cymryd risgiau ar-lein. Ond yng ngwledydd Prydain y dyddiau yma, fu gall pobl ifanc hoyw dy u da i fyny, byw bywy hapus a syrthio mewn cariad gyda phobl yn union fel pawb arall.


Felly, beth ddylwn i ei ddweud? “Dw i’n dy garu di.”

I gael rhagor o gyngor a chefnogaeth, cysylltwch â 08000 502020 neu Cymru@stonewallcymru.org.uk


“Sut alla i fod yn siŵr?” “Wnes i rywbeth o’i le?”

“Ydy hyn yn golygu dim wyrion a wyresau? “A fydd croeso i ni yn y capel?”

“Beth ddylwn i ei ddweud?”


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.