Clymwch y Cwlwm!

Page 1

Stonewall 12 pg Booklet WELSH

23/9/05

9:45 am

Page 1

Cefnogir gan


Stonewall 12 pg Booklet WELSH

23/9/05

9:45 am

Page 2

Rydych yn hoyw, rydych mewn cariad, Rydych eisiau bod gyda’ch gilydd am byth... CLYMWCH Y CWLWM ! Canllaw i Bartneriaeth Sifil


Stonewall 12 pg Booklet WELSH

23/9/05

9:45 am

Page 3


Stonewall 12 pg Booklet WELSH

23/9/05

9:45 am

Page 4

‘ Cewch bob hawl – a phob cyfrifoldeb – y mae cyplau strêt yn eu cael pan yn priodi’ i

Felly, partneriaeth sifil, ai priodas yw hyn neu beidio? Ie, i bob pwrpas. Mewn partneriaeth sifil ceir bob hawl a phob braint – a phob cyfrifoldeb – y mae cyplau strêt yn eu cael pan yn priodi. Mae’r un fath. Gallwch hyd yn oed ofyn i’ch perthnasau am beiriannau tostio.

ii

Pa fath o hawliau? Ar wahân i’r hawl i gael tostiwr newydd a pharti gwych? ˆ â phlant Cewch hawliau perthynas agosaf, hawliau ynglyn eich partner, cewch hawliau treth, gan gynnwys yr un hawliau etifeddiaeth â chyplau priod strêt. Ac fe gewch hawliau pensiwn, felly mae’n bosibl y gallwch hawlio pensiwn eich partner sifil os fyddant yn marw...

iii

Ai dyna beth fyddwn ni, partneriaid sifil? Ie, ond all neb eich rhwystro rhag galw beth bynnag a ˆ gwraig, yr hanner arall – ddymunwch ar eich gilydd – gwr, ond nid ar ddogfennau swyddogol. Os ydych am gymryd enw eich partner ar eich trwydded yrru, dyweder, neu’ch trwydded deithio, bydd prawf ID a’ch tystysgrif partneriaeth sifil yn ddigon i’w drefnu.


Stonewall 12 pg Booklet WELSH

23/9/05

9:45 am

Page 5


Stonewall 12 pg Booklet WELSH

23/9/05

9:45 am

Page 6

‘ Mae’n gwlwm cyfreithiol felly nid yw’n rywbeth i’w wneud am hwyl neu weithred rhamantus sydyn’

iv

Felly does dim treth etifeddiaeth rhwng partneriaid bellach? Na, gan eich bod yn bartneriaid sifil ac yn cael eich cydnabod fel cwpwl priod strêt. Mae gennych yr hawl i gofrestri marwolaeth, yr hawl i dderbyn budd-daliadau marwolaeth, yr hawl i ofyn am iawndal yn sgîl damwain angeuol, yr hawl i barhau i fyw yn y cartref yr oeddech yn ei rhentu ar y cyd...

v

Ond nid oes rhaid i ni fyw gyda’n gilydd er mwyn bod yn bartneriaid sifil? Na. Mae’r un fath ar gyfer cyplau priod strêt. Nid yw trefniadau’r cartref a phwy sy’n byw ble yn fusnes i neb arall. Ac mae’n rhaid i’ch cyflogwr eich trin chi a’ch partner sifil yn yr un ffordd ag y mae’n trin cwpwl priod strêt yn nhermau manteision a budd-daliadau.

vi

Ac mae ‘na gyfrifoldebau hefyd ... Wel, mae’n gwlwm cyfreithiol felly nid yw’n rhywbeth i’w wneud am hwyl neu weithred rhamantus sydyn. Bydd yn rhaid i chi fyw gyda’r canlyniadau, gan gynnwys, o bosib, darparu cynhaliaeth i’ch partner sifil ac unrhyw blant. Ac os ydych yn derbyn budd-daliadau, byddwch yn cael eich trin fel unrhyw gwpwl priod arall. Ond mae hynny’n wir am bob cwpwl – strêt neu hoyw – sydd yn byw gyda’i gilydd heb y darn o bapur.


Stonewall 12 pg Booklet WELSH

23/9/05

9:45 am

Page 7


Stonewall 12 pg Booklet WELSH

23/9/05

9:45 am

Page 8

‘ Mae’n cael ei alw’n ddiddymiad, ond byddai angen “ysgariad” petai bob dim yn mynd o’i le’

vii

ˆ y byddai angen ysgariad petai pob dim yn mynd o’i le? Felly, mae’n siwr Mae’n cael ei alw ‘ddiddymiad’, ond mi fyddai ei angen.

viii

A fedrwn ni glymu’r cwlwm mewn eglwys? Gallwch gael bendith mewn eglwys gyda’ch hoff ficer cefnogol i hoywon (neu arweinydd crefyddol cyfatebol cefnogol i hoywon), fel cyplau strêt sydd yn priodi mewn swyddfa gofrestri, ond nid oes modd cael gwasanaeth crefyddol yn ystod y cofrestri ei hun, yn union fel cyplau strêt mewn priodas sifil. Ond nid yw hynny’n golygu na allwch ddewis lleoliad hyfryd. Gallwch ddewis unrhyw le sydd â thrwydded ar gyfer gwasanaethau sifil – plastai, gwestai, ambell draeth a chopa mynydd.

ix

Beth sy’n digwydd pan fyddwn yn cofrestri? Eich diwrnod chi yw hi. Gallwch gael beth bynnag a ddymunwch, felly peidiwch â gadael i unrhyw swyddog eich gorfodi i wneud unrhyw beth yn erbyn eich dymuniad – na hepgor rhywbeth yr ydych yn ei ddymuno! Gallwch eirio eich addunedau, cyfnewid modrwyon, dewis unrhyw ddarlleniadau, cusanu er mwyn selio’r cytundeb, beth bynnag – trafodwch gyda’ch cofrestrydd. Yr unig beth y mae’n rhaid i chi ei wneud yw darparu eich llofnodion a dau dyst.


Stonewall 12 pg Booklet WELSH

23/9/05

9:45 am

Page 9


Stonewall 12 pg Booklet WELSH

23/9/05

9:45 am

Page 10

‘ Gallwch gyflawni’r weithred yn unrhyw le sydd â thrwydded ar gyfer gwasanaethau sifil’

x

A yw hyn yn berthnasol o ran y Swyddfa Mewnfudo? Ydi, byddwch bellach yn yr un cwch yn union â chyplau strêt sydd yn priodi. Mae’n bosibl bod cyfyngiadau ar gael mynediad i’r wlad er mwyn cofrestri, ond dim mwy nag a fyddai ar gyfer partner strêt.

xi

Felly sut mae dechrau? Mae angen i chi fynd at y gwasanaeth cofrestri – yn bersonol - er mwyn rhoi rhybudd ffurfiol o’ch bwriad i gofrestri eich partneriaeth, fel y byddai cwpwl strêt yn ei wneud. A chofiwch, nid oes rhaid i chi glymu’r cwlwm yn lleol – gallwch fynd unrhyw le y dymunwch yn y DG, os oes trwydded yno. Pan fyddwch wedi rhoi rhybudd, rhaid i chi aros am 15 diwrnod, trefnu, dewis gwisgoedd, gwahodd ˆ o’ch hunan ar noson hydd neu iâr! ffrindiau a gwneud ffwl

xii

Yna gallwch GLYMU’R CWLWM !


Stonewall 12 pg Booklet WELSH

23/9/05

9:45 am

Page 11


Stonewall 12 pg Booklet WELSH

Angen gwybod mwy am rywbeth yma? Am bopeth sydd angen i chi ei wybod am bartneriaethau sifil ewch at www.stonewall.org.uk www.stonewallcymru.org.uk Cyfarwyddiaeth Mewnfudo a Chenedligrwydd y Swyddfa Gartref Cymorth ar faterion yn ymwneud â phartneriaeth sifil gyda phartner o dramor. 0870 606 7766 www.ind.homeoffice.gov.uk UK Lesbian and Gay Immigration Group Yn cynnig cefnogaeth ar unrhyw fater yn ymwneud â mewnfudo. 020 7620 6010 www.uklgig.org.uk Gwasanaeth Pensiwn Os am gyngor am yr hawliau pensiwn newydd ewch at www.thepensionservice.gov.uk Mabwysiadu Am fwy o fanylion am fabwysiadu plant eich partner ewch at www.dfes.gov.uk/adoption

23/9/05

9:45 am

Page 12

Jobcentre Plus Gwybodaeth am fudd-daliadau. Ewch at www.jobcentreplus.gov.uk Cyllid y Wlad ˆ Am unrhyw ymholiad ynglyn â deddfau treth ewch at www.inlandrevenue.gov.uk Swyddfa Gofrestri Gyffredinol Am restr o leoliadau trwyddedig ˆ â ac unrhyw gwestiynau ynglyn chostau, partneriaethau sifil ar gyfer rhywun na all ymddangos mewn lleoliad yn bersonol am ba bynnag reswm, a nifer o faterion eraill. Ewch at www.gro.gov.uk Swyddfa Gofrestri Gyffredinol yr Alban www.gro-scotland.gov.uk Stonewall 020 7881 9440 Minicom 020 7881 9996 Stonewall Scotland 0131 557 3679 Stonewall Cymru 02920 237 744 Cynhyrchwyd ar gyfer Stonewall gan Warwick Worldwide Mae Stonewall yn ddiolchgar iawn i Barclays am eu cefnogaeth


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.