Project1 cymraeg:Layout 1
23/7/09
13:57
Page 1
Project1 cymraeg:Layout 1
23/7/09
13:57
Page 2
Cynnwys
Llythyr oddi wrth Liz Morgan, Cyfarwyddydd Stonewall Cymru Rydym yn falch iawn o gyflwyno’r rhifyn cyntaf erioed o gylchgrawn blynyddol newydd Stonewall Cymru. Mae Seren ar gyfer cefnogwyr, cyfeillion a’r rhai sydd â diddordeb mewn cydraddoldeb lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) yng Nghymru. Mae’n dathlu 20 mlynedd o waith Stonewall i wella bywyd ar gyfer pobl LHD ym Mhrydain. Mae’n manylu am waith cyfredol yng Nghymru, yn clywed gan aelodau Cyngor Stonewall Cymru ac yn dangos i chi sut i gefnogi ein gwaith. Diolch i newidiadau deddfwriaethol diweddar yn y Senedd, gall cyplau cyfunrywiol bellach enwi’r ddau bartner ar y tystysgrif geni wrth gofrestru genedigaeth eu babi, ac mae amddiffyniad bellach rhag annog casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol. Ar hyn o bryd mae’r Senedd yn gweithio ar Fesur Cydraddoldeb i sicrhau cytgord mewn deddfwriaeth cydraddoldeb i bawb. Yng Nghymru, cyhoeddwyd Stigma Dwbl, ymchwil i anghenion a phrofiadau pobl LHD gydag anghenion Iechyd Meddwl, ac rydym yn dosbarthu Canllaw dioddefwyr troseddau casineb homoffobaidd ledled Cymru. Yn nigwyddiad blynyddol eleni, ‘Addysg: ein hawl’, lansiwyd yr Adroddiad Ysgol dwyieithog, arolwg Stonewall o brofiadau pobl ifanc LHD yn ysgolion uwchradd Prydain, yn edrych ar yr hyn sydd angen ei wneud ym myd addysg. Am fwy o wybodaeth gweler ein gwefan ar ei newydd wedd www.stonewallcymru.org.uk.
Pen-blwydd Hapus Stonewall – 20 mlynedd
3
Addysg i Bawb - digwyddiadau ac adnoddau
4
Cyngor Stonewall Cymru – aelodau newydd
5
Hyrwyddwyr Amrywiaeth Cymru
6
Taclo troseddau casineb homoffobaidd yng Nghymru
7
Beth y gallwch chi ei wneud cefnogi a chyfranogi gyda Stonewall Cymru
8
Gyda’ch cefnogaeth byddwn yn parhau i wthio am newidiadau i sicrhau cydraddoldeb yn eich bywydau. Swyddfa Caerdydd Transport House 1, Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9SB 02920 23774 www.stonewallcymru.org.uk ebost: cymru@stonewallcymru.org.uk Swyddfa Penmaenmawr Y Ganolfan Cydraddoldeb Heol Bangor Penmaenmawr Conwy LL34 6LF 01492 622202
Project1 cymraeg:Layout 1
23/7/09
13:57
Page 3
Pen-blwydd Hapus Stonewall - 20 mlynedd Yn 1989, sefydlwyd Stonewall gan yr actorion Ian McKellen, Michael Cashman, Lisa Power ac Olivette Cole-Wilson i fod yn fudiad lobïo proffesiynol a gwrthwynebu Adran 28. Yn 2003, diddymwyd Adran 28 o’r diwedd. Yn 2009, mae Stonewall yn parhau i weithio’n ddiflino ledled Prydain drwy berswâd gwleidyddol, dadl gyfreithiol ac annog newid cymdeithasol a sefydliadol i sicrhau cydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol. "Mynnwn yr un hawliau â bodau dynol cyffredin eraill. Gallant ein casglu, ein gwenwyno â nwy, neu saethu atom: ond cyn belled ag y bo dynion a menywod heterorywiol yn parhau i genhedlu byddwn yn bodoli am byth, ac ni fyddwn yn ildio." Michael Cashman
Y newidiadau ar gyfer pobl LHD dros yr 20 mlynedd ddiwethaf 1989 - Sefydlu Stonewall 1990 - Sefydlu Outrage! 1991 - Sefydlu’r Mudiad Heddlu Lesbiaidd a Hoyw (LAGPA), y Gay Police Association (GPA) yn ddiweddarach 1992 - Mudiad Iechyd y Byd yn diddymu cyfunrywioldeb fel afiechyd meddwl 1993 - Stonewall yn herio’r oedran cydsynio (21) yn y Llys Cyfraith Ewropeaidd 1994 - Sefydlu Lesbian Avengers 1995 - Gwerthu’r Gay Times yn siopau’r stryd fawr 1996 - Cyllid y Wlad yn cydnabod partneriaid cyfunrywiol mewn cynlluniau pensiwn 1997 - Chris Smith yn Weinidog Cabinet agored hoyw cyntaf Prydain 1998 - Yr Arglwydd Waheed Alli yn arglwydd agored hoyw cyntaf Tŷ’r Arglwyddi 1999 - Angela Mason yn derbyn OBE am wasanaethau i’r gymuned hoyw 2000 - Codi’r gwaharddiad ar bobl LHD rhag gwasanaethu yn y lluoedd arfog 2001 - Cydraddoldeb oed cydsynio o’r diwedd yn 16 , a sefydlu Stonewall yr Alban 2002 - Mabwysiadu – hawliau cyfartal i gyplau o’r un rhyw 2003 - Diddymu Adran 28 2003 - Sefydlu Stonewall Cymru 2004 - Anghyfreithlon camwahaniaethu yn erbyn gweithwyr LHD 2005 - Cofrestru Partneriaethau Sifil ar gyfer cyplau o’r un rhyw 2007 - Anghyfreithlon camwahaniaethu wrth ddarparu Nwyddau, Adnoddau a Gwasanaethau 2008 - Anghyfreithlon annog casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol
Roedd Adran 28 o’r Ddeddf Llywodraeth Leol 1988 yn welliant dadleuol i Ddeddf Llywodraeth Leol y Deyrnas Gyfunol 1986. Roedd yn gwahardd awdurdodau lleol rhag ‘hybu cyfunrywioldeb yn fwriadol’ac yn gwahardd ’dysgu cyfunrywioldeb fel perthynas deuluol’. Ni chafodd ei brofi erioed fel cyfraith ond roedd yn rheoli ymddygiad drwy greu ofn, ni fyddai awdurdodau lleol yn defnyddio’r geiriau‘lesbiaidd’a‘hoyw’, ac roedd pobl lesbiaidd a hoyw yn ofni bod yn agored yn gyhoeddus. 'Er bod cymaint wedi ei gyflawni, mae llawer i’w wneud o hyd,’ meddai Ben Summerskill, Prif Weithredwr Stonewall.‘Dros y blynyddoedd a’r misoedd i ddod bydd Stonewall yn gweithio’n galed i daclo bob math o homoffobia ym Mhrydain. Byddwn yn parhau i lobïo’r llywodraeth am ddeddfwriaeth i symud cydraddoldeb yn ei flaen – er enghraifft y Mesur Cydraddoldeb – ac ni fyddwn yn stopio nes i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol fwynhau cydraddoldeb llwyr ym mhob agwedd o’u bywydau – yn y cartref, yn yr ysgol ac yn y gwaith.’
Project1 cymraeg:Layout 1
23/7/09
13:57
Page 4
Addysg: ein hawl Yn gynharach eleni yn Llandudno, cynhaliodd Stonewall Cymru gynhadledd ar Addysg. Unodd y diwrnod bywiog a diddorol hwn ystod eang o weithwyr, pobl LHD, mudiadau a grwpiau cymunedol. Clywodd y cynadleddwyr neges o gefnogaeth gan Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Siaradodd John Sam Jones, Ymgynghorydd Ysgol ABCh Cyngor Sir Ddinbych, ac Alwena Tomos, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Glan Clwyd, am eu profiadau wrth ddelio gyda’r her leol sy’n wynebu ysgolion wrth daclo bwlio homoffobaidd. Yn olaf, bu Derek Munn, Cyfarwyddwr Materion Cyhoeddus Stonewall, yn tynnu sylw at lwyddiannau Stonewall dros y flwyddyn ddiwethaf a’r nodau ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Yr Adroddiad Ysgol Adroddiad dwyieithog o arolwg o dros 1,000 o bobl ifanc LHD ym Mhrydain a’u profiadau yn yr ysgol, gyda 10 o argymhellion ar sut i daclo bwlio homoffobaidd.
DVD Allan Ag E! Adnodd dwyieithog ar gyfer athrawon uwchradd i’w cynorthwyo i ddeall a thaclo bwlio homoffobaidd mewn ysgolion.
Roedd yr ail sesiwn llawn yn cynnwys panel profiadau, lle bu pobl LHD â gwahanol bersbectif o’r system addysg, yn llywodraethwyr, disgyblion, myfyrwyr a darlithwyr, yn rhannu eu profiadau ac yn ateb cwestiynau o’r llawr. Roedd gweithdai’r digwyddiad yn canolbwyntio ar waith ieuenctid LHD, cefnogi rhieni sy’n cefnogi meibion a merched LHD, cynghori yn yr ysgol a materion LHD wrth ddysgu ieithoedd. Hefyd yn y sesiwn brynhawn cafwyd lansiad Yr Adroddiad Ysgol, ymchwil Stonewall i brofiadau pobl ifanc LHD yn ysgolion Prydain. Mae’r darn syfrdanol hwn o ymchwil – sy’n dangos bod 65% o ddisgyblion LHD wedi dioddef bwlio homoffobaidd yn yr ysgol – wedi ei ddosbarthu i bob ysgol.
Mae Rhai Pobl yn Hoyw. Deliwch â’r Peth. Datblygwyd yr ymadrodd hwn gan bobl ifanc LHD. Mae’r crysau t hyn ar gael yn Gymraeg neu Saesneg am £10 yr un.
Project1 cymraeg:Layout 1
23/7/09
13:57
Page 5
Clywed gan aelodau newydd Cyngor Stonewall Cymru Cyngor Stonewall Cymru Y Cyngor yw grŵp llywio Stonewall Cymru. Ei swyddogaeth yw clustnodi anghenion a chyfleoedd ar gyfer pobl LHD yng Nghymru, a gweithio gyda’r Cyfarwyddydd i benderfynu ar strategaeth a gosod blaenoriaethau i’w hwynebu. Mae’r Cyngor yn cyfarfod yn chwarterol mewn lleoliadau ledled pedwar rhanbarth Cymru, ac yn annog enwebiadau yn arbennig gan fenywod, pobl du a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau, er mwyn ateb y tan-gynrychiolaeth sy’n bodoli. Mae aelodau’r Cyngor yn gwasanaethu am dymor o dair blynedd, gan fod yn gymwys i gael eu hail ethol am un tymor tair blynedd arall. Gofynnwyd i’r aelodau Cyngor newydd, Gareth Davies, Dyfrig Hywel, John Sam Jones a Mike Smith am eu hanes a’u barn ar fod yn lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol yng Nghymru. Gareth, ers pryd ydych chi wedi cefnogi gwaith Stonewall yng Nghymru? Fel person ifanc gyda Viva - y grŵp ieuenctid LHD yn y Rhyl – y cefais fy nghysylltiad cyntaf gyda Stonewall Cymru. Cefais gyfle i fynychu cynhadledd yn Abertawe, ac ers hynny rwyf wedi cefnogi gwaith y mudiad. Viva, yr wyf bellach yn gweithio drostynt, yw’r grŵp ieuenctid LHD hynaf yng Nghymru. Mae wedi cefnogi gwaith Stonewall Cymru ers y cychwyn, gan gyfranogi a gweithio mewn partneriaeth gyda phrosiect Tu Mewn Tu Allan a’r digwyddiad Codi Llais Gogledd Cymru dilynol. Dyfrig, beth ydych chi am ei gyflawni yn eich cyfnod fel aelod cyngor? Dyletswydd pob cenhedlaeth LHD yw parhau gyda gwaith ardderchog eu rhagflaenwyr wrth frwydro i sicrhau cydraddoldeb i bob person LHD. Ein cyfrifoldeb ni bellach yw sicrhau bod deddfwriaeth newydd, sy’n darparu amddiffyniad ychwanegol rhag rhagfarn, yn cael ei weithredu a’i ddefnyddio i’w llawn botensial ledled Cymru. John, ydych chi’n credu bod dod allan wedi effeithio ar eich gyrfa? Do - wrth gwrs. Os ydych chi’n dod allan yn 1974, yn 18 oed, mae’n siŵr o gael effaith. Hyfforddais fel
Aelodau’r Cyngor (o’r chwith i’r dde): Lee Phillips, Tim Heywood, Penni Bestic, Mike Smith, Federico Podeschi, Gareth Davies, Dyfrig Hywel a John Sam Jones
Aelodau newydd o’r Cyngor: (o’r chwith i’r dde) Mike Smith, Dyfrig Hywel, John Sam Jones a Gareth Davies
athro ond gan nad oeddwn yn cuddio fy rhywioldeb, ni chefais swydd drwy gydol y 1980au. Hefyd hyfforddais fel offeiriad - ond cefais fy niarddel wedi i mi gyhoeddi nad oeddwn bellach yn teimlo galwad i fod yn ddiwair. Wedi dweud hyn, fodd bynnag - rwyf wedi cael gyrfa ardderchog - ac un na fyddwn o bosib wedi’i ystyried o gwbl pe na bawn yn hoyw. Mike, fedrwch chi ddweud yn fyr beth sy’n dda am fod yn berson lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol yng Nghymru? Rwy’n mwynhau cael bywyd llawn, bywiog a hwyliog gyda ffrindiau a chydweithwyr, beth bynnag eu rhywioldeb hwy neu fy rhywioldeb i. Ychydig iawn o broblem a gefais wrth ennill parch a chyfeillgarwch gan bobl o bob cwr o Gymru.
Project1 cymraeg:Layout 1
23/7/09
13:57
Page 6
Hyrwyddwyr Amrywiaeth Cymru Mae Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall yn fforwm i gyflogwyr i greu gweithle diogel a chefnogol ar gyfer eu staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Dengys ymchwil Stonewall, er bod agweddau Prydeinig at bobl LHD yn gwella, bod 1 o bob 5 person LHD wedi wynebu camwahaniaethu yn y gweithle dros y 3 blynedd diwethaf. Mae rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth yn cynorthwyo i daclo camwahaniaethu drwy ddatblygu polisïau ac arferion ar gyfer y gweithle, megis cynnwys partneriaid o’r un rhyw mewn cynlluniau yswiriant iechyd cwmni a chefnogi rhwydweithiau LHD. Bellach mae dros 500 o gyflogwyr sy’n Hyrwyddwr Amrywiaeth ym Mhrydain, gan gynnwys pleidiau gwleidyddol ac adrannau llywodraeth, ymddiriedolaethau GIC, cynghorau lleol, banciau, prifysgolion, asiantaethau cyfiawnder troseddol, busnesau masnachol a hyd yn oed Google! Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall – asesiad blynyddol sy’n rhestru’r 100 Cyflogwr Gorau am eu polisïau cydraddoldeb a’u gwaith gyda’u staff, cwsmeriaid a defnyddwyr LHD. Mae pum Cyflogwr Cymreig yn ymddangos yn y 100 Gorau. Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, yna Heddlu Gogledd Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Heddlu Gwent.
Hyrwyddwyr Amrywiaeth Cymru Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol GIC Carchar Ei Mawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc Cyngor Cefn Gwlad Cymru Cyngor Sir Caerdydd Cyngor Sir Fflint Cymdeithas Dai Cymru a’r Gorllewin Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Cynulliad Cenedlaethol Cymru DVLA (Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau) Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru Gwasanaeth Prawf De Cymru Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru Heddlu De Cymru Heddlu Dyfed-Powys Heddlu Gogledd Cymru Heddlu Gwent Llywodraeth Cynulliad Cymru Partneriaeth Addysg Uwch De Orllewin Cymru Prifysgol Caerdydd Rolls Royce Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol
Canllaw Starting Out 2008-2009 Mae graddedigion a cheiswyr swyddi LHD yn edrych ar y canllaw hwn i’r 325 cyflogwr posib sy’n Hyrwyddwyr Amrywiaeth. Mae’n cael ei ddosbarthu ledled y DU i Undebau Myfyrwyr, Gwasanaethau Gyrfaoedd Prifysgolion ac Asiantaethau Cyflogaeth.
Project1 cymraeg:Layout 1
23/7/09
13:57
Page 7
Taclo troseddau casineb homoffobaidd yng Nghymru
Troseddau casineb Canfu Arolwg Stonewall i Droseddau Casineb Homoffobaidd ym Mhrydain yn 2008 bod 1 mewn 5 o’r 2,000 o bobl lesbiaidd a hoyw a holwyd wedi dioddef trosedd casineb homoffobaidd yn y 3 blynedd diwethaf, 3 mewn 4 ohonynt heb wneud cwyn wrth yr Heddlu a 7 o bob 10 heb wneud cwyn wrth unrhyw un. Yng Nghymru, roedd cwymp o 4% mewn adroddiadau am droseddau casineb homoffobaidd wrth yr Heddlu rhwng 2006 a 2009, ond mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi gweld cynnydd o 100% yn y nifer o achosion llwyddiannus yn dilyn yr adroddiadau. Mae Stonewall Cymru yn gweithio’n agos gyda Heddlu Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron i gynyddu’r ffigurau hyn, ond mae angen i chi wneud cwyn am unrhyw gamdriniaeth homoffobaidd yr ydych yn ei ddioddef. Drwy wneud cwyn, gallwch atal y troseddau hyn rhag digwydd eto i chi neu rywun arall.
Ydych chi wedi dioddef trosedd casineb homoffobaidd? Dosbarthwyd 15,000 copi o’r Canllaw hwn ledled Cymru, yn egluro'r hyn y gall asiantaethau cyfiawnder troseddol ei wneud i helpu.
Adrodd am Drosedd Casineb. Os ydych yn teimlo na fedrwch wneud cwyn yn uniongyrchol wrth yr Heddlu, rhowch wybod i Cymru Ddiogelach drwy ffurflen neu arlein ar www.saferwales.com i helpu i osgoi ailadrodd y digwyddiad, i chi neu rywun arall yn y dyfodol. ‘Mae sarhad ac ymosodiadau bychain yn rhan o’n bywyd bob dydd, ac mor aml nid ydym yn sylweddoli y dylem wneud cwyn amdanynt neu ofyn am gymorth. O oedran cynnar, rydym yn cael ein bwlio yn y maes chwarae, yn dioddef ymosodiad am ein hunaniaeth neu’n cael ein curo yn sgil ein perthynas.’ - Lucy
Os nad ydych yn teimlo bod modd i chi siarad yn uniongyrchol gyda’r Heddlu, gallwch gwyno drwy drydydd person neu gysylltu gydag asiantaeth gefnogaeth megis Cymorth i Ddioddefwyr, a fydd yn eich cynorthwyo hyd yn oed os nad ydych yn gwneud cwyn wrth yr Heddlu. Mae Ffurflenni Adrodd Cymru Ddiogelach ar gyfer bob math o droseddau casineb ar gael ledled Cymru ac arlein. Os ydych yn cyflwyno cwyn dienw, bydd yr Heddlu yn defnyddio’r wybodaeth i nodi patrymau yn yr ardal, ond os fyddwch yn rhoi eich manylion bydd yr Heddlu yn cysylltu gyda chi i ymchwilio i’r digwyddiad, a gall hyn arwain at erlyn y troseddwr.
Project1 cymraeg:Layout 1
23/7/09
13:57
Page 8
Beth y gallwch chi ei wneud Bydd eich cefnogaeth yn ein galluogi i sicrhau cydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol ledled Cymru a Phrydain. Am fwy o wybodaeth am unrhyw un o’r canlynol ewch at ein gwefan www.stonewallcymru.org.uk neu cysylltwch gyda’n swyddfeydd. Bod yn gefnogwr Stonewall Cymru a derbyn gwybodaeth am ein gwaith yn rheolaidd drwy ebost a phost. Byddwch yn derbyn gwybodaeth am Etholiadau Cyngor ac ymgyrchoedd cyfredol. Bod yn Gyfaill Stonewall Cymru a chyfrannu £5, £10 neu £20 y mis i gefnogi ein gwaith hanfodol. Byddwch yn derbyn: • Bob rhifyn o’n cylchgrawn Cyfeillion a chylgrawn Seren i Gymru • Taflenni hawliau yn rhad ac am ddim • Bathodyn deniadol seren Stonewall Bydd pobl sy’n cyfrannu £20 neu fwy'r mis yn gymwys i fod yn Gyfeillion Agos. Gweiddi ALLAN! Sut beth yw bod yn lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol yng Nghymru heddiw? A yw agweddau yn newid er gwell? Boed wedi derbyn gwasanaeth o’r radd flaenaf neu wedi’ch trin yn annheg, hoffem glywed oddi wrthych. Codwch eich llais am eich barn a’ch profiadau ar unrhyw beth o droseddau casineb i ofal iechyd, Enw a chyfeiriad cofrestredig: Stonewall Equality Ltd, Tower Building, York Road, London SE1 7NX Cofrestredig yng Nghymru a Lloegr Rhif cofrestru 02412299, Rhif TAW 862 9064 05, Elusen gofrestredig rhif 1101255. Cyhoeddir Seren gan Stonewall Cymru. Gwaherddir ei atgynhyrchu yn gyfan neu'n rhannol heb ganiatâd. Credir bod y cynnwys yn gywir ond nid yw Stonewall Cymru yn gyfrifol am gamgymeriadau neu wallau. Nid barn y cyhoeddwr sy'n cael ei mynegi o reidrwydd. Nid yw Stonewall Cymru yn derbynatebolrwydd dros golled neu niwed i'r deunydd a gyflwynir. Rheolwyd gan: Jenny Porter, Swyddog Cyswllt Cymunedol
Dylunwyd gan: Cyngor Cefn Gwlad Cymru
neu gyflogaeth i addysg, a helpwch ni i wella bywydau pobl LHD yng Nghymru. Rydym hefyd yn croesawu eich barn am y ffordd y mae pobl LHD yn cael eu trin gan y cyfryngau yng Nghymru. Dywedwch eich stori wrth y cyfryngau Os ydych wedi dioddef camwahaniaethu neu wedi cael profiad cadarnhaol, ac yr hoffech adrodd eich stori wrth y cyfryngau i dynnu sylw at faterion sy’n wynebu cymunedau o bobl LHD, dywedwch wrthym. Mae Stonewall Cymru yn derbyn nifer o ymholiadau gan y cyfryngau yn gofyn am straeon gwir gan bobl LHD. Derbyn e-fwletin Stonewall Cymru Derbyniwch y newyddion diweddaraf am ein hymgyrchoedd, newyddion a digwyddiadau ledled Cymru. Byddwch yn clywed sut i gyfranogi yn ein gwaith ac yn clywed yn uniongyrchol am ein gweithgareddau codi arian, cyfleoedd gwirfoddoli a digwyddiadau grwpiau LHD eraill ledled Cymru. Bydd yr eFwletin yn cael ei ddosbarthu bob yn ail fis. Gwirfoddoli gyda Stonewall Cymru Helpwch ni i symud ymlaen gyda’n hagenda hawliau dynol, amrywiaeth a chydraddoldeb drwy wirfoddoli. Mae cyfleoedd i wirfoddoli ym mhob rhan o’r sefydliad, ac rydym yn hyrwyddo diwylliant o staff cyflogedig a digyflog cwbl integredig. Heb fewnbwn gwirfoddolwyr, byddai’n anodd iawn cyflawni'r hyn yr ydym yn llwyddo i’w wneud.