Seren 2010

Page 1

Seren newsletter 2010 WELSH:Layout 1

9/7/10

19:57

Page 1


Seren newsletter 2010 WELSH:Layout 1

9/7/10

19:57

Page 2

Llythyr gan Liz Morgan, Cyfarwyddydd Stonewall Cymru Croeso i Seren 2010, cylchlythyr dwyieithog Stonewall Cymru ar gyfer ein cefnogwyr, cyfeillion, partneriaid a phawb â diddordeb mewn cydraddoldeb yng Nghymru. Yn y rhifyn hwn rydym yn dathlu rhai o’r partneriaethau y mae Stonewall Cymru wedi’u datblygu ledled Cymru gyda chyflogwyr, darparwyr gwasanaethau, ysgolion a phrifysgolion, asiantaethau cyfiawnder troseddol ac asiantaethau cydraddoldeb, ac yn gwahodd mwy i ymuno gyda ni i hyrwyddo cydraddoldeb a thriniaeth deg ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD). Rydym hefyd yn cynnig nifer o gyfleoedd i unigolion LHD gydweithio gyda ni ac ennill sgiliau fel gwirfoddolwyr, cefnogwyr ac aelodau cyngor. Darllenwch hanes y chwaraewr rygbi Gareth Thomas ers iddo ddod allan ym mis Rhagfyr 2009, dysgwch am bartneriaeth Dydy Trosedd Ddim yn Ddigri sy’n annog mwy o ddioddefwyr troseddau casineb homoffobaidd a thrawsffobaidd i ddefnyddio gwasanaeth cefnogi newydd, gwell Cymorth i Ddioddefwyr. Cewch newyddion cyffrous am ein cynhadledd Gweithle cyntaf erioed, y diweddaraf gan ein Swyddog Addysg ac Ieuenctid, yn ogystal â datblygiadau o fewn ein rhaglen Gwirfoddoli ac awgrymiadau ar sut i gefnogi ein gwaith.

Llythyr gan Lee Phillips, Cadeirydd Cyngor Stonewall Cymru Yn y rhifyn diwethaf o Seren fe glywsoch gan rai o aelodau Cyngor Stonewall Cymru. Yn y rhifyn hwn rwyf am ddweud mwy am waith y Cyngor a chyfleoedd i chi ymuno gyda ni. Rydym wedi bod yn ailstrwythuro’r Cyngor, ac mae bellach yn cynnwys wyth o aelodau sy’n cael eu dewis drwy gyfweliad agored. Mae gan aelodau sgiliau penodol i greu gweledigaeth a strategaeth Stonewall Cymru a chynorthwyo’r aelodau staff unigol i gyflawni’r nodau hynny. Gall y cymorth hwn olygu mynd gydag aelod staff i gyfarfodydd mewnol ac allanol, darparu cysylltiadau, cynghori ar bolisïau neu roi cymorth ymarferol. Mae aelodau’r Cyngor yn gweithredu fel ymgynghorwyr a chefnogwyr i waith Stonewall Cymru ar gyfer pobl LHD yng Nghymru, ond nid ydynt yn cynrychioli pobl LHD yng Nghymru. Mae aelodaeth y Cyngor yn agored i bawb, beth bynnag eu cyfeiriadedd rhywiol, a gall aelod fyw unrhyw le yn y DU, cyn belled ag y bo modd cyflawni ei swyddogaethau fel aelod Cyngor a mynychu cyfarfodydd Cyngor yng Nghymru. Ar hyn o bryd rydym yn edrych am aelodau Cyngor newydd a all ddod â sgiliau codi arian a lobïo, ac arbenigedd yn y system cyfiawnder troseddol. I wybod mwy ewch at www.stonewallcymru.org.uk

Gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen Seren ac eto, diolch am eich cefnogaeth. Heboch chi ni fyddai wedi bod yn bosibl cyflawni’r hyn a wnaed. Enw a chyfeiriad cofrestredig: Stonewall Equality Ltd, Tower Building, York Rd, Llundain SE1 7NX. Cofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Rhif cofrestru 02412299, Rhif TAW 862906405, Rhif Elusen Gofrestredig 1101255. Cyhoeddir Seren gan Stonewall Cymru. Ni chaniateir ei atgynhyrchu yn rhannol neu’n llawn heb ganiatâd. Er y credir fod y cynnwys yn gywir, nid yw Stonewall Cymru yn gyfrifol am gamgymeriadau. Nid yw’r farn sy’n cael ei mynegi o reidrwydd yn farn y cyhoeddwr. Nid yw Stonewall Cymru yn derbyn cyfrifoldeb dros golled na niwed i unrhyw ddeunydd sy’n cael ei gyflwyno. Rheolwyd gan: Jenny Porter, Swyddog Cysywllt Cymunedol. Dyluniwyd gan: Cyngor Cefn Gwlad Cymru fel rhan o’u hymrwymiad at Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall.

2

Swyddfa De Cymru Transport House 1, Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9SB 02920 237744 www.stonewallcymru.org.uk ebost: cymru@stonewallcymru.org.uk Swyddfa Gogledd Cymru Y Ganolfan Cydraddoldeb, Ffordd Bangor,Penmaenmawr Conwy LL34 6LF 01492 622202


Seren newsletter 2010 WELSH:Layout 1

9/7/10

19:57

Page 3

Sgwrs rhwng Seren a Gareth Thomas

seren rygbi Cymru a ddaeth allan fel person hoyw llynedd. Mae’n siarad am ei brofiadau a’i deimladau am fyw yng Nghymru

Dywedwch am eich profiad yng Nghinio Cydraddoldeb Stonewall 2010 Roedd yn noson anhygoel – y peth arbennig oedd cael fy rhieni yno i’m cefnogi, ac rwy’n teimlo’n ffodus iawn i gael y lefel honno o gefnogaeth. Mae pawb yn Stonewall wedi bod yn anhygoel, ac roedd y digwyddiad yn arbennig. Roedd y ffordd y cefais fy nerbyn, a’m gwahodd i wneud araith yn atgof arbennig ac yn fraint anhygoel i mi.

Beth ydych chi’n ei wneud pan nad ydych yn chwarae rygbi? Rwy’n hoffi mynd â’r cŵn am dro, ac ymlacio yn y cartref. Rwyf hyd yn oed yn dueddol o hyfforddi weithiau yn fy amser sbâr. Rwy’n credu mai gweld teulu a ffrindiau sydd bwysicaf i mi, rwy’n teimlo’n hiraethus yn aml yng ngogledd Cymru, a gweld fy rhieni neu gyfeillion yw’r mwynhad mwyaf. Beth sy’n rhoi mwyaf o falchder i chi yn eich gyrfa, teulu ayyb? Wrth edrych ar fy ngyrfa, rwy’n meddwl nid am y ceisiadau a sgoriais na’r timau y chwaraeais drostynt, ond am y ffrindiau a gefais. Mae rygbi’n rhoi cyfle i chi gyfarfod cymaint o bobl wych. Ar y cae chwarae, roedd cael bod yn gapten ar Gymru, bob tro, yn brofiad arbennig.

Beth yw’r peth gorau am fod yn hoyw a byw yng Nghymru? Hoyw neu strêt, rwy’n caru Cymru. Dyma lle mae fy ngwreiddiau, a dyma fydd fy nghartref am byth. Os na fydd hynny’n bosibl, byddaf am fod yn agos ac ymweld yn aml. Mae yn fy ngwaed, dyna pwy ydw i. Gareth gyda’i rieni yng Ngwobrau Cydraddoldeb Stonewall

Dywedwch am eich penderfyniad i ddod allan ac ymateb eich cyd-chwaraewyr Roeddwn yn teimlo fod yr amser yn iawn i mi ddod allan, roeddwn mewn lle da yn fy mywyd, ac yn gysurus gyda’m ffrindiau, teulu a chyd-chwaraewyr, yn gwybod eu bod yn fy nghefnogi. Gyda’u cefnogaeth, doedd dim arall yn bwysig. Roedd fy nghyd-chwaraewyr yn wych. Roedd llawer yn gwybod eisoes, ac roedd eraill nad oeddwn wedi dweud wrthynt yn gefnogol. A bod yn onest, wnaeth dim byd newid. Rwy’n codi bob dydd a chwarae rygbi – dyna’r rwy’n ei fwynhau. Martina Navratilova, Gareth Thomas a Ben Summerskill

3


Seren newsletter 2010 WELSH:Layout 1

9/7/10

19:57

Page 5

Troseddau casineb homoffobaidd Dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae’r pedwar llu Heddlu yng Nghymru wedi cofnodi 1,700 adroddiad am droseddau casineb homoffobaidd, ac erlynwyd 253 ohonynt gyda 190 achos llwyddiannus. Dengys ystadegau o’r 4 llu Heddlu yng Nghymru fod y troseddau casineb homoffobaidd rhwng 2006 a 2009 ar gyfartaledd yn 425 y flwyddyn. Dengys ystadegau Gwasanaeth Erlyn y Goron mai 15% yn unig o’r adroddiadau a aseswyd fel achosion llys posibl, ac roedd 11% yn erlyniadau llwyddiannus.

Heddlu Dyfed Powys yn gwisgo rhubanau Diwrnod Gwrth Homoffobia Rhyngwladol

Mae Stonewall Cymru yn annog pobl i adrodd am unrhyw brofiadau o droseddau casineb homoffobaidd wrth eu Heddlu lleol, neu arlein wrth Cymru Ddiogelach ar www.saferwales.com. Drwy wneud adroddiad, hyd yn oed os nad oes gobaith am euogfarn, rydych yn annog yr Heddlu i ymchwilio, a gall hynny ei atal rhag digwydd eto i chi neu rywun arall.

Derbyn cefnogaeth Yng Nghymru, datblygwyd prosiect gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru gyda Stonewall Cymru i ddarparu gwell gwasanaeth cefnogi i ddioddefwyr a thystion troseddau casineb homoffobaidd a thrawsffobaidd. Mae Prosiect Dydy Trosedd Ddim yn Ddigri ar gael i bawb sy’n cysylltu gyda Cymorth i Ddioddefwyr, hoyw neu beidio, boed wedi cwyno am y profiad wrth yr Heddlu neu beidio. Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn gyfrinachol. Gallwch siarad gyda rhywun am effaith y drosedd arnoch, gweithio gyda hwy i edrych ar eich diogelwch personol a chael cymorth i’w wella gyda larymau, cloeon ayyb. Byddwch hefyd yn cael cefnogaeth wrth ddelio gyda’r heddlu a chyfreithwyr cyn, yn ystod ac ar ôl ymchwiliad neu achos llys. Mae amrywiaeth yn bwysig i Cymorth i Ddioddefwyr ac maent yn recriwtio mwy o wirfoddolwyr ledled Cymru i’w cynorthwyo i gyrraedd at bawb sydd angen cefnogaeth, ‘beth bynnag eu hil, cred, ffordd o fyw neu gefndir’. Mae gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant ar drefniadau’r llys, cynnig cymorth ymarferol ac emosiynol, ac yn derbyn goruchwyliaeth reolaidd. I ddysgu mwy am y cymorth y gall Cymorth i Ddioddefwyr ei roi, neu sut i wirfoddoli, ffoniwch 0845 6 121 900 neu cysylltwch â Swyddog Cyswllt Cymunedol Stonewall Cymru, Jenny Porter yn swyddfa Gogledd Cymru neu anfonwch ebost at jenny.porter@stonewallcymru.org.uk. 5


Seren newsletter 2010 WELSH:Layout 1

9/7/10

19:57

Page 4

Gwirfoddoli gyda Stonewall Cymru Eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru? Eisiau ennill sgiliau a phrofiadau defnyddiol a chael hwyl ar yr un pryd?

• Bod yn Eiriolydd Gwrth Fwlio Homoffobaidd • Dweud eich stori wrth y cyfryngau • A llawer, llawer mwy...

Os felly, beth am roi ychydig o’ch amser i’r gwaith y mae Stonewall Cymru yn ei wneud i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb cyfreithiol i bobl LHD ledled Cymru.

Os ydych rhwng 16-24 oed gallwn gynnig cydnabyddiaeth Gwirfoddolwyr y Mileniwm ar gyfer eich gwaith gwirfoddol. Rydym yn cynnig tystysgrifau wrth gyrraedd cerrig milltir 50 a 100 awr, a Gwobr Ardderchowgrwydd wrth gyrraedd 200 awr gyda ni.

Mae gan Stonewall Cymru nifer o gyfleoedd gwirfoddoli sy’n addas ar gyfer unrhyw un sy’n fodlon rhoi ychydig o’u hamser i’r mudiad. Bydd yr holl wirfoddolwyr yn derbyn cefnogaeth a hyfforddiant, ac ad-daliad costau rhesymol. Ymysg y gweithgareddau : • Monitro cyfryngau Cymru am straeon LHD • Helpu mewn digwyddiadau ledled Cymru • Diweddaru’r wefan • Tasgau gweinyddol • Hyfforddiant a Siarad Cyhoeddus

Am fwy o wybodaeth am wirfoddoli gyda Stonewall Cymru cysylltwch â’n Cydlynydd Gwirfoddoli yn swyddfa De Cymru neu anfonwch ebost at cymru@stonewallcymru.org.uk.

ru wedi Stonewall Cym a d y g li o d d : Mae gwirfo lltiadau Dywed Selena i gyfarfod cysy m i d d e o e fl d, rhoi cy llefydd newyd â ld e w m y l, tblygu defnyddio t cyfredol a da n ia d rd o ff y h derbyn y’n mwynhau n fy ngyrfa. Rw gwirfoddol. U h it a w g d d y hyblygrw fel n gwirfoddoli y n w d d e ro h wait dinwr yn ffair n. gyrrwr a ston oleg Gorseino C l o n n ia ll y iw a amldd dweithio gyd y rw i ch y w g mru, Roedd yn le fle eraill yn ne Cy u a d ia d u anc. Roedd cy m if a l b o p th e grwpiau ia d chymryd odi ymwybyd lasu’r bwyd a b , u a in d yn ogystal â ch n o st d yn o amgylch y Zumba, a oed r a ro d is a d d hefyd i edrych Rho ithgareddau. rhan yn y gwe ig iawn! ond yn flined l, y w h o r e w la 4


Seren newsletter 2010 WELSH:Layout 1

9/7/10

19:57

Page 6

Hyrwyddwyr Amrywiaeth yng Nghymru Hyrwyddwyr Amrywiaeth yng Nghymru Rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall yw fforwm cyflogwyr Prydain ar gyfer cydraddoldeb cyfeiriadedd rhywiol yn y gweithle. Bellach mae dros 550 o Hyrwyddwyr Amrywiaeth ledled Prydain, gyda 24 o aelodau yn dod o Gymru. Ymysg ein haelodau diweddaraf mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Cymdeithas Tai Taf a Chymorth i Ddioddefwyr Cymru. 100 Cyflogwr Gorau’r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle 2009 Atebodd dros 350 o gyflogwyr ledled Prydain 25 o gwestiynau a oedd yn mesur cydraddoldeb, a’r 100 mudiad gorau oedd y rhai a sgoriodd uchaf drwy roi tystiolaeth i ddangos eu harfer da. Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru oedd cyflogwr uchaf Cymru yn y rhestr 100 Cyflogwr Gorau, gyda thri chyflogwr arall o Gymru yn dilyn: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Caerdydd, a gyrhaeddodd y 100 uchaf am y tro cyntaf ac a enillodd wobr am y Cyflogwr Wedi Gwella Fwyaf. Yn nigwyddiad Gwobrau Hyrwyddwyr Amrywiaeth Cymru Stonewall Cymru yn y Senedd, Bae Caerdydd, casglodd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wobr Cyflogwr Gorau Cymru ac am y Grŵp Rhwydwaith Gweithwyr Gorau yng Nghymru. Meddai Keela Shackell, Pennaeth Rhwydwaith LHDT Asiantaeth yr Amgylchedd

6

Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn derbyn gwobr Cyflogwr Gorau Cymru yn y 100 Uchaf

Cymru a Lloegr "Rwy’n falch iawn o’r llwyddiant hwn am yr ail flwyddyn yn olynol, ac yn falch iawn o weithio gyda mudiad sy’n parchu ei gweithwyr. Credaf fod ‘pobl yn perfformio’n well pan maent yn medru bod yn agored', ac mae hyn yn amlwg yn ein Rhwydwaith LHDT, sy’n prifio. I wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r amgylchedd, mae angen i ni adlewyrchu’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, ac mae canlyniad y Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle yn dangos ein bod yn gwneud camau mawr mewn cydraddoldeb LHDT." Cynhadledd Gweithle Stonewall Cymru Ym mis Medi mae Stonewall Cymru yn cynnal Cynhadledd Gweithle yng Nghymru am y tro cyntaf, sy’n argoeli i fod yn brif ddigwyddiad Cymru ar gyfer cydraddoldeb cyfeiriadedd rhywiol. Bydd y gynhadledd yn rhoi’r arfau angenrheidiol i gyflogwyr greu amodau gwaith cynhwysol ar gyfer eu staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Ar adegau anodd yn ariannol, mae’r cyflogwyr gorau yn deall y gall hyrwyddo amrywiaeth eu cynorthwyo i ddenu a chadw’r dalent orau, cryfhau eu sylfaen o gwsmeriaid, a darparu gwasanaethau o safon byd-eang. Am fwy o wybodaeth am Gynhadledd Gweithle Stonewall Cymru cysylltwch gyda’n Swyddog Gweithle, Dean Lloyd yn swyddfa De Cymru, neu anfonwch bost at dean.lloyd@stonewallcymru.org.uk.


Seren newsletter 2010 WELSH:Layout 1

9/7/10

19:57

Page 7


Seren newsletter 2010 WELSH:Layout 1

9/7/10

19:57

Page 8

Addysg Lansiodd Stonewall yr ymgyrch Addysg i Bawb yn 2005. Ers hynny mae Stonewall wedi rhyddhau dau adroddiad dadlennol, yr Adroddiad Ysgol a’r Adroddiad Athrawon. Hefyd cynhyrchwyd Allan Ag E, DVD i athrawon. Datblygwyd yr ymadrodd grymus Mae Rhai Pobl yn Hoyw, Deliwch â’r Peth! mewn cydweithrediad gyda disgyblion ac athrawon ysgolion uwchradd, ac mae bellach yn cael ei hyrwyddo ledled Prydain ar hysbysfyrddau, trenau a chrysau T. Yn fwy diweddar, lansiodd Stonewall FIT, addasiad ffilm o’r ddrama lwyddiannus ar gyfer ysgolion. Dyma rai o sylwadau’r athrawon sydd wedi’i weld: “Diolch Stonewall, mae eich adnodd yn arbennig. Fel athro hoyw rwy’n aml yn gweld dysgu am gyfunrywioldeb a homoffobia yn heriol, ond mae’r adnodd hwn wedi gwneud i mi roi ochenaid o ryddhad. Mae’r actio, y safon a’r stori i gyd yn wych!” “Roeddwn yn nerfus am ddefnyddio’r fideo i fod yn onest, ond roeddwn yn dwli ar y ffilm. Cafwyd trafodaeth wych gyda’r dosbarthiadau a’i gwelodd, ac fe’m rhyfeddwyd gan yr aeddfedrwydd a ddaeth i’r golwg. Roedd rhai o’m bechgyn yn dangos empathi arbennig!”

8

“Adnodd gwych i drafod rhywioldeb, perthynas o fewn teulu/ffrindiau, myfyrwyr – athro. Mae’n ddoniol, ysgogol, onest, cyfoes, addysgiadol, calonogol, diddorol, cadarnhaol, realistig a difyr. Rwyf wedi’i weld deirgwaith!” Ar hyn o bryd mae Stonewall Cymru yn chwilio am bartneriaid a noddwyr i’n cynorthwyo i gynhyrchu fersiwn Gymraeg o FIT fel y gallwn gynnig yr adnodd ffilm gwerthfawr hwn yn ddwyieithog. Os hoffech wybod mwy neu’n cynorthwyo i wneud hyn yn bosibl, cysylltwch gyda’n Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Robert Goddard yn swyddfa de Cymru, neu anfonwch ebost at robert.goddard@stonewallcymru.org.uk. Mae Stonewall Cymru yn cynnal digwyddiad ieuenctid yng Nghymru am y tro cyntaf ym mis Medi, yn parhau gyda rhaglen Eiriolwyr Gwrth Fwlio Homoffobaidd (YAHBA) ac yn datblygu ein gwaith addysg ffurfiol i gwmpasu’r cam cynradd. Uchel a Balch. Cyrhaeddodd y grŵp ieuenctid LHDT o Gaerdydd rowndiau terfynol Gwobrau Ardderchowgrwydd Gwaith yng Nghymru am eu cyfranogaeth yn y rhaglen YAHBA. Llongyfarchiadau!

Loud and Proud yng Ngwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yng Nghymru


Seren newsletter 2010 WELSH:Layout 1

9/7/10

19:57

Page 9

Eisiau ennill sgiliau newydd wrth daclo bwlio yn eich ardal? Mae Stonewall Cymru yn edrych am bobl ifanc 16 i 25 oed i gyfranogi gyda’n Eiriolwyr Gwrth Fwlio Homoffobaidd, prosiect unigryw dan arweiniad cymheiriaid. Cynlluniwyd y rhaglen i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl sydd wedi’u heffeithio gan fwlio homoffobaidd. Nid oes yn rhaid bod yn lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol – yr unig beth sydd ei angen yw ymrwymiad at gydraddoldeb a gwneud gwahaniaeth.

Mae crysau T a mygiau teithio Cymraeg a Saesneg ar gael, am £10 yr un

Os ydych yn credu efallai bod y cyfle’n addas i chi, ac eisiau gwybod mwy, cysylltwch â’n Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Robert Goddard yn swyddfa De Cymru, neu anfonwch ebost at robert.goddard@stonewallcymru.org.uk. Hefyd mae gennym gyfleoedd i oedolion gyfranogi yn y rhaglen a gweithredu fel mentoriaid i’r bobl ifanc. Cysylltwch gyda ni am fwy o wybodaeth.

9


Seren newsletter 2010 WELSH:Layout 1

9/7/10

19:57

Page 10

Cefnogi Stonewall Cefnogwyr Stonewall Cymru Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am ein hymgyrchoedd, newyddion a digwyddiadau ledled Cymru. Byddwch yn dysgu sut i gyfranogi yn ein gwaith, ac yn clywed yn uniongyrchol am ein gweithgareddau codi arian, digwyddiadau, cyfleoedd gwirfoddoli a digwyddiadau grwpiau LHD eraill yng Nghymru. Byddwch yn derbyn gwybodaeth am ein gwaith yn gyson drwy ebost a/neu’r post. Tanysgrifiwch drwy www.stonewallcymru.org.uk neu drwy gysylltu gyda swyddfa de Cymru, neu anfon ebost at eleanor.hicks@stonewallcymru.org.uk.

• Taflenni gwybodaeth am gydraddoldeb LHD am ddim • Bathodyn seren Stonewall Drwy gyfrannu £20 neu fwy y mis byddwch yn Gyfaill Agos i Stonewall ac yn derbyn buddiannau ychwanegol.

Stonewall Cymru yn eich cymuned Mae Stonewall Cymru yn awyddus i gael presenoldeb mewn digwyddiadau cymunedol ledled Cymru a chynnal stondinau, lle nad oes tâl. Os hoffech i ni fynychu digwyddiad yn eich ardal chi, rhowch wybod i ni .

Gwirfoddoli gyda Stonewall Cyrmru Croesawir gwirfoddolwyr o bob cwr o Gymru, ac mae cyfleoedd ym mhopeth o ddiweddaru’r wefan; gweinyddiaeth; digwyddiadau ac allgymorth a hyfforddiant i bolisi; rhyngweithio gyda’r cyfryngau ac Eiriolwyr Gwrth Fwlio Homoffobaidd. Cadwch lygaid ar agor am y digwyddiad nesaf i groesawu a hyfforddi gwirfoddolwyr yn eich ardal.

Codi arian dros Stonewall Cymru

Dilynwch ni ar Twitter neu ymunwch gyda ni ar Facebook.

Dod yn bartner bar a chlwb Stonewall

Cyfeillion Stonewall Cymru Cyfrannwch £5, £10 neu £20 y mis i gefnogi ein gwaith hanfodol. Byddwch yn derbyn: • Pob rhifyn o’n cylchgrawn Cyfeillion yn ogystal â Seren, ein Cylchlythyr blynyddol

10

Staff Stonewall Cymru

Trefnwch noson i godi arian i Stonewall. Gallwch gael hwyl yn trefnu eich digwyddiad eich hun yn unrhyw le – eich cartref, ysgol, gwaith – neu’ch bar lleol. Gallwch godi arian mewn sawl ffordd, gwerthu cacennau, noson cwis neu unrhyw syniad arall.

Mae Stonewall Cymru yn awyddus i ddatblygu partneriaethau hyrwyddo gyda rheolwyr bariau a chlybiau yng Nghymru. Gallwn hyrwyddo eich digwyddiadau a’ch gweithgareddau i’n cefnogwyr, ac fe allwch chi hyrwyddo gwaith Stonewall drwy gynnal nosweithiau codi arian neu arddangos ein tuniau casglu.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.