Defnyddio Wordpress.com – canllaw cyflym Dyma'ch Dangosfwrdd – mae modd rheoli popeth o'r man hwn, trwy'r dewislenni ar yr ochr chwith. Byddwn yn defnyddio'r prif ddewislenni canlynol: • Posts • Pages • Appearance • Settings Gelwir hwn y 'cefn' – elfennau mewnol y wefan y byddwch yn troi atynt gan ddefnyddio'ch enw a'ch cyfrinair. Y 'tu blaen' yw'r ffordd y mae'r wefan yn ymddangos i ymwelydd.
Posts a Pages ‘Posts’ yw'r elfennau sy'n newid yn rheolaidd, felly maent yn ymddangos ar y dudalen gyntaf, mewn trefn yn ôl y dyddiad, ac mae'r rhai diweddaraf yn ymddangos ar y brig. Mae'r rhain yn fwyaf addas ar gyfer y newyddion diweddaraf, digwyddiadau a gynhelir cyn bo hir, adroddiadau cyflym – pethau y bydd angen eu diweddaru'n rheolaidd, ac y maent yn newid yn gymharol aml. Mae ‘Pages’ yn sefydlog – ni fydd y wybodaeth hon yn newid yn aml, ond bydd modd ei diweddaru yn ôl yr angen. Mae 'Hafan' 'Amdanom Ni' 'Cysylltu' yn enghreifftiau o Dudalennau – maent yn cyfateb gyda botymau ar y wefan ac maent yn ymddangos ar y brig neu ar yr ochr chwith, gan ddibynnu ar y templed dylunio neu'r ‘Thema’ a ddewiswyd.
Page 1 of 6