Newyddion Tai Lloches Mae’r Gwasanaeth Tai Lloches yn parhau i gefnogi tenantiaid mewn cyfadeiladau lloches. Oherwydd y cyfyngiadau presennol, mae’r ceidwaid bellach yn gwneud galwadau ffôn yn lle mynd ar eu hymweliadau dyddiol ac maent yn sicrhau bod gan y preswylwyr fynediad at wasanaethau cefnogi. Hefyd, mae glanhawyr y Tai Lloches yn helpu i gadw’r preswylwyr yn ddiogel drwy sicrhau bod yr ardaloedd cymunedol yn cael eu glanhau i safon uchel. Mae gan yr holl denantiaid lloches gortynnau llinell fywyd y gellir eu tynnu yn eu heiddo. Gwasanaeth 24 awr yw llinell fywyd, sy’n gweithredu 7 niwrnod yr wythnos ac y gellir ei ddefnyddio mewn argyfwng neu os oes angen cymorth. Mae’r sefyllfa bresennol yn golygu ei bod hi’n anodd i denantiaid gymdeithasu â’i gilydd, fodd bynnag mae preswylwyr Conway Court ym Mhen-lan yn cymryd rhan mewn gweithgaredd canu dyddiol yn ystod yr alwad ffôn gwirio lles. Maent wedi mwynhau hwn gymaint, maen nhw bellach yn annog cyfadeiladau eraill i gymryd rhan hefyd.
Ymddeoliad
Mae Diane Thomas yn ymddeol ar ôl gweithio i Adran Tai Cyngor Abertawe am bron 40 o flynyddoedd. Mae Diane wedi treulio’r 15 mlynedd diwethaf fel Rheolwr Tai Lloches a bydd ei chydweithwyr a’i thenantiaid yn gweld ei heisiau’n fawr. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y Gwasanaeth Lloches, e-bostiwch tai@abertawe.gov.uk neu ffoniwch eich Swyddfa Dai Ranbarthol leol
12 Tŷ Agored: Rhifyn 2 2020