TAI CEREDIGION CYNLLUN BUSNES 2020-2025
Crynodeb Gweithredol Rydym yn deall pwysigrwydd Gwasanaethau Cefnogi Pobl i’n tenantiaid a chymunedau ac fe fyddwn yn bwriadu gwneud cais pan gaiff gwasanaethau eu tendro.
Ers mis Ionawr 2018 rydym mewn trafodaethau gyda Chymdeithas Tai Canolbarth Cymru ynghylch uniad posib. Fe nododd yr Achos Busnes amlinellol fuddion uno, sef cymdeithas wytnach a chryfach wedi’i gwreiddio o fewn y cymunedau a wasanaetha, bod yn llais cryfach yn y rhanbarth, cael rhaglen ddatblygu uwchraddedig, amddiffyn swyddi a chynnal ansawdd gwasanaethau i’n cwsmeriaid.
Mae datgarboneiddio’n parhau’n flaenoriaeth uchel i Tai Ceredigion ac yn dilyn yr Adolygiad o Dai Fforddiadwy, rydym yn aros i glywed gan Lywodraeth Cymru am eu disgwyliadau pellach o Gymdeithasau Tai mewn perthynas â datgarboneiddio. Fe wyddom mor bwysig yw costau ynni isel i’n tenantiaid.
O fewn y 12 mis diwethaf, mae Steve Jones wedi cael ei benodi’n Ddarpar Brif Weithredwr ac yn gweithio gyda’r Bwrdd Cysgodol sydd wedi’i gyfansoddi o aelodau o’r ddwy gymdeithas, i ddechrau siapio’r ffurf y gallai corff newydd ei chymryd. Mae diwydrwydd dyladwy’n cael ei gyflawni cyn cyflwyno’r Achos Busnes Terfynol i Fyrddau’r ddwy gymdeithas.
I ategu ein hymrwymiad i gynnal ein cartrefi presennol rydym wedi ymrwymo i barhau i ddatblygu’r gwasanaeth a ddarperir gan Medra. Mae hyn yn helpu i leihau cost cynnal a chadw. Rydym yn parhau i gefnogi staff i ennill sgiliau crefft cydnabyddedig ac i feithrin pobl ifainc drwy brentisiaethau.
Mae Cyd-Banel Tenantiaid wedi cael ei sefydlu, a hwnnw’n cyfarfod yn fisol i sicrhau cyfraniad gan denantiaid y ddwy gymdeithas wrth siapio cynlluniau at y dyfodol. Rydym yn gwerthfawrogi’r gwaith y mae’r grŵp hwn yn ei wneud i sicrhau bod yr hyn sydd o bwys i’n cwsmeriaid yn dylanwadu ar yr hyn a wnawn.
Ym mis Ebrill 2018 prynodd y gymdeithas Ganolfan Dulais yn Llanbedr Pont Steffan gyda golwg ar ddatblygu Canolfan Fentr gyda lleoedd o ansawdd uchel i swyddfeydd ac unedau dechreuol i fusnesau BBaCh a chyfleuster ar gyfer cynadleddau/cyfarfodydd. Mae’r tenantiaid presennol wedi ymadael ac fe gânt gyfle i ddychwelyd ar ôl yr ailddatblygiad. Mae Tai Ceredigion wedi sicrhau £1.2 miliwn o Gyllid Datblygu Ewropeaidd ac £1.5 miliwn o Gyllid Buddsoddi Rhanbarthol wedi’i Dargedu. Mae gwaith adeiladu bellach wedi cychwyn ar y safle. Mae datblygu’r safle hwn yn rhan o’n cynllun ni i ddatblygu academi hyfforddiant ac yn y flwyddyn sy’n dod fe greir achos busnes manwl i fynd â hyn ymlaen.
Mae Cyd-Ffor wm Staff wedi cael ei sef ydlu hefyd i sicrhau gwybodaeth, cyfathrebu ac ymgynghori â staff. Yn erbyn y cefndir hwn rydym yn dal ati i weithio i sicrhau bod Tai Ceredigion yn landlord dwyieithog rhagorol sy’n cynnwys ei denantiaid a’i gwsmeriaid ar bob lefel â phwyslais ar gynnal tenantiaethau a gwelliant parhaus. Mae ein 4 blaenoriaeth strategol yn dal i fod wrth graidd ein cynlluniau ein hunain ar gyfer y flwyddyn sy’n dod.
Mae’r cynlluniau hyn i gyd yn ein helpu i chwarae rhan mewn cefnogi cymunedau cynaliadwy a chadw arian o fewn yr economi leol.
Yn ystod y flwyddyn sy’n dod, rydym yn cynllunio cynnal adolygiad llawn o’n Polisi Rhent, gan ganolbwyntio ar fforddiadwyedd a gwerth am arian. Fe fyddwn yn sefydlu Cyd-Weithgor ac yn cyflawni ymgynghoriad i sicrhau ein bod yn clywed gan ein Tenantiaid. TAICEREDIGION.CYMRU
Fel cymdeithas, mae rhaid i’r cwbl a wnawn fod wedi’i adeiladu ar sylfaen o lywodraethiant cryf, sefydlogrwydd ariannol a gwerth am arian. Fe fyddwn yn parhau i fynd ymlaen â fframwaith sicrwydd y Gymdeithas ac yn dal ati i ddatblygu ein prosesau caffael.
2
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Crynodeb Gweithredol
parhad
Mae angen Bwrdd â lefel uchel o sgiliau ar y Gymdeithas ac wrth i’r dirwedd allanol newid a mwy o Fyrddau erbyn hyn yn talu aelodau fe edrychwn ni eto ar yr achos dros roi tâl. Fel rhan o’n hymroddiad cryf i’r Gymraeg edrychwn ymlaen at gefnogi’r Eisteddfod Genedlaethol pan gynhelir hi yn Nhregaron eleni. Dyma’r tro cyntaf i’r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal yng Ngheredigion ers 1992.
Steve Jones
Prif Weithredwr y Grŵp Tai Ceredigion
TAICEREDIGION.CYMRU
Karen Oliver Cadeirydd Tai Ceredigion
Torri tywarchen yng Nghanolfan Dulais. O’r chwith i’r dde: Steve Jones (Prif Weithredwr Tai Ceredigion), Owain Jones (T R Jones), Y Cynghorydd Rhodri Evans, Steve Cripps (Is-Gadeirydd Tai Ceredigion), Gareth Rowlands (Cyngor Sir Ceredigion).
3
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Trosolwg TAI CEREDIGION
Cymdeithas dai nid-er-elw yw Tai Ceredigion a grëwyd i dderbyn stoc dai Cyngor Sir Ceredigion. Mae’n gorff ac iddo’r prif nod o ddarparu tai a gwasanaethau cymunedol fforddiadwy o ansawdd uchel i bobl sydd mewn angen o ran tai a sicrhau bod yr holl feddiannau’n cael eu gwella i gwrdd â Safon Ansawdd Tai Cymru. Fe drosglwyddwyd y stoc ar 30ain o Dachwedd 2009. Fel pob Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) yng Nghymru, y mae wedi’i gofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac yn cael ei reoli ganddi. Mae Tai Ceredigion wedi’i gofrestru hefyd o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 â rheolau elusennol. Y swyddfa gofrestredig yw Uned 4, Parc Busnes Pont Steffan, Llanbedr Pont Steffan. Y mae hefyd yn gweithredu o is-swyddfeydd yn Aberystwyth ac Aberteifi.
2,352
112
o gartrefi rhent
o lesddeiliaid
146
o staff gan gynnwys Medra (gweithlu llafur uniongyrchol)
Mae Tai Ceredigion yn rhiant-gwmni i strwythur grŵp, ac elusen ddigartrefedd a chymorth leol, Y Gymdeithas Gofal, yn is-gwmni.
690
o garejys
TAICEREDIGION.CYMRU
4
9
cynllun gwarchod
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Trosolwg parhad CYFEIRIAD STRATEGOL
Ar ôl inni lwyddo i ennill £1.2m o gyllid grant Ewropeaidd i Gymru a Chyllid Buddsoddi Adfywio wedi’i Dargedu o £1.5m, mae gwaith wedi dechrau ar adeiladu canolfan fenter newydd yn Llanbedr Pont Steffan. Bydd hyn yn cynnwys lleoedd swyddfa i elusennau lleol a busnesau bach a chanolig, ystafell gynadledda/hyfforddiant o safon uchel, ac fe fydd yn helpu i roi hwb i economi’r canolbarth. Byddwn hefyd yn llunio achos busnes ac yn ymchwilio i gyllid ar gyfer academi hyfforddiant posib a fydd yn canolbwyntio ar yrfaoedd mewn cymorth a gofal. Rydym wedi penodi’r contractwyr lleol TR Jones ac yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw yn ystod y flwyddyn nesaf.
Mae Tai Ceredigion yn dathlu bod yn 10 mlwydd oed. Yn ystod ein hanes rydym wedi mynd drwy nifer o gyfnodau, gan gynnwys cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru a datblygu cartrefi newydd ar raddfa fechan yn gynnar ar ôl trosglwyddo’r stoc. Wrth fynd ymlaen, rydym yn sicrhau mai busnes fel arfer fydd hi â’n rhaglen gyfalaf uchelgeisiol. Rydym wedi ymrwymo i wario arian ar y stoc bresennol i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel sydd hefyd yn effeithlon o ran ynni, a byddwn yn canolbwyntio ar leihau ein hôl troed carbon yn ein busnes, gweithwyr ac fel landlord. Hefyd, mae nifer o brosiectau cyfalaf ychwanegol yn yr arfaeth:
Mae Tai Ceredigion yn awyddus i ddatblygu dull a fydd wedi’i seilio fwy ar ganlyniadau i fynd i’r afael â chynllunio strategol, a bydd yn ceisio cyflawni hyn drwy ddeall mai gwerth cymdeithasol a ddylai fod yn amcan terfynol inni. Gellir dehongli gwerth cymdeithasol fel gyrru canlyniadau cadarnhaol i’r gymuned leol o ran cyflogaeth, lles a buddion amgylcheddol a chymdeithasol.
* Gwella parcio ar ystadau. * Rhoi liftiau newydd yn lle hen rai mewn cynlluniau gwarchod. * Gosod systemau ffotofoltäig ac ynysiad waliau allanol ar gartrefi.
Bydd yr uniad posib â Chymdeithas Tai Canolbarth Cymru yn chwarae rhan fawr i’r ddwy Gymdeithas yn 2020/21 a thu hwnt hefyd. Pan â’r uniad yn ei flaen, fe weithia’r holl staff yn galed i sicrhau cyflawni’r weledigaeth o gymdeithas wedi’i gwreiddio mewn gwerthoedd, gwella gwasanaethau a chreu cyfleoedd i denantiaid a chymunedau.
* Gwell mannau cymunedol mewn cynlluniau gwarchod. Byddwn hefyd yn parhau â’n rhaglen ddatblygu raddfa fechan, ac mae gennym gynlluniau i ychwanegu 100 o gartrefi yn ystod y 4 blynedd nesaf.
TAICEREDIGION.CYMRU
5
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Y Prosiect i Uno â Thai Canolbarth Cymru TACH 2018
Y Byrddau’n cytuno i fynd ymlaen at achos busnes llawn.
HYD 2019
MAI 2019
EBR 2019
yr hanes hyd yn hyn...
Ailgynnull y Bwrdd Cysgodol.
Penodi Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Bwrdd Cysgodol.
MEDI 2019
Penodi Steve Jones yn Ddarpar Brif Weithredwr.
Cymeradwyo’r elfennau ariannol a’r achos busnes amlinellol gan y Byrddau.
RHAG 2019
Penodi ymgynghorwyr allanol.
ION 2020
HYD 2020
Ffurfir y gymdeithas newydd yn gyfreithiol.
MEDI 2020
Cael cydsyniad perthnasol gan fenthycwyr, ac ati. TAICEREDIGION.CYMRU
EBR 2020
AWST 2020
Lansio’r gymdeithas newydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
MAI 2020
Diwydrwydd dyladwy ffurfiol yn cychwyn.
Penderfyniad terfynol wedi’i seilio ar yr achos busnes llawn.
Gwaith yn dechrau ar y cynllun busnes unedig.
6
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Blaenoriaeth Strategol 1 GWEITHREDIADAU adolygiad llawn o’r polisi rhent gan ganolbwyntio ar fforddiadwyedd a gwerth am arian
ADNODDAU
cyd-weithgor, Cartrefi Cymunedol Cymru, ymgynghori â thenantiaid, tîm Cynnal
CANLYNIADAU
tenantiaethau cynaliadwy, llai o bobl yn cael eu troi allan, lefel uwch o fodlonrwydd tenantiaid, cydymffurfiaeth reoleiddiol
RISGIAU
credyd cynhwysol, colli incwm
“Bod yn landlord dwyieithog rhagorol sy’n cynnwys ei denantiaid a’i gwsmeriaid ar bob lefel â phwyslais ar gynnal tenantiaethau a gwelliant parhaus.”
GWEITHREDIADAU
GWEITHREDIADAU tendr am wasanaethau Cefnogi Pobl
ADNODDAU
gweithredu’r argymhellion o’r Adolygiad o Dai Fforddiadwy
ADNODDAU
ADNODDAU
staff a wardeiniaid, profiad mewn darparu gwasanaethau, gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ceredigion
staff, amser, cyllidebau, ymgynghorwyr, cynllun prosiect, diwydrwydd dyladwy, Bwrdd Cysgodol
CANLYNIADAU
CANLYNIADAU
ansawdd darparu gwasanaethau, gwasanaethau dwyieithog i denantiaid, lefel uchel o fodlonrwydd tenantiaid, cadw’r staff presennol
7
staff, cyllidebau, ymgynghoriad â rhanddeiliaid, gweithio mewn partneriaeth
CANLYNIADAU
cymdeithas fwy, ariannol wytnach, gwell gwasanaethau i denantiaid, mwy o ddatblygiad ar draws y canolbarth
cyflenwad mwy o gartrefi cynaliadwy, rhenti fforddiadwy, cartrefi carbon isel
RISGIAU
cynnydd mewn costau, Brexit, ansicrwydd ynghylch y grant tai cymdeithasol
RISGIAU
colli staff allweddol/morâl isel, lleihad mewn darparu gwasanaethau yn ystod yr uniad, ymgynghori annigonol â thenantiaid, un o’r partïoedd yn tynnu allan
RISGIAU
cystadleuaeth gan ddarparwyr eraill, cwtogi ar gyllid, dirywiad mewn darparu gwasanaethau
TAICEREDIGION.CYMRU
GWEITHREDIADAU
parhau i weithio ar y prosiect i uno â Chymdeithas Tai Canolbarth Cymru
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Blaenoriaeth Strategol 2
“Cynnal y cartrefi o ansawdd uchel sydd eisoes yn bodoli o fewn cymunedau cynaliadwy a chynyddu’r nifer ohonynt.”
GWEITHREDIADAU GWEITHREDIADAU parhau i ddatgarboneiddio cartrefi
ADNODDAU
staff, cyllidebau, grantiau, contractwyr allanol, Medra
CANLYNIADAU
cartrefi effeithlon o ran ynni, costau ynni is i denantiaid, llai o garbon yn cael ei ollwng
RISGIAU
diffyg ariannu, diffyg sgiliau a phrofiad, y dechnoleg heb fod yn ei lle eto
TAICEREDIGION.CYMRU
cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy
GWEITHREDIADAU gweithredu cynllun busnes newydd Medra
GWEITHREDIADAU lleihau methiannau derbyniol Safon Ansawdd Tai Cymru
ADNODDAU
grant tai cymdeithasol, staff, cyllid preifat, contractwyr, tir, prynu anheddau sydd eisoes yn bod, polisi gosod lleol
ADNODDAU
staff, cyllidebau, prentisiaid, hyfforddiant
CANLYNIADAU
CANLYNIADAU
mwy o waith yn cael ei wneud yn fewnol, arbedion TAW, posibilrwydd o werthu gwasanaethau, swyddi lleol
cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi fforddiadwy
RISKS
lleihad yn y grant, gwrthwynebiad lleol, cynnydd mewn cystadleuaeth, cynnydd yn y costau o gael gradd A ar Dystysgrif Perfformiad Ynni, safonau GAD newydd
RISGIAU
gormod o draul ar adnoddau/ cyllidebau
8
ADNODDAU
staff, cyllidebau, data manwl gywir am y stoc
CANLYNIADAU
cartrefi o ansawdd uchel i denantiaid, costau isel o ran cynnal a chadw ymatebol, cymunedau braf i fyw ynddynt
RISGIAU
diffyg ymrwymiad gan denantiaid
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Blaenoriaeth Strategol 3
“Bod yn fusnes ariannol iach a hyfyw, sy’n mynd ynglŷn â’i waith ag onestrwydd, uniondeb a llywodraethiant cryf.”
GWEITHREDIADAU mynd ymlaen â fframwaith sicrwydd y Gymdeithas
GWEITHREDIADAU GWEITHREDIADAU datblygu achos busnes dros dalu aelodau’r Bwrdd
ADNODDAU
aelodau’r Bwrdd, staff, cod llywodraethiant, archwiliad mewnol, pedair rheng o amddiffyniad
CANLYNIADAU
ADNODDAU
staff, cyllidebau, cyngor gan ymgynghorwyr
CANLYNIADAU
llywodraethiant a chydymffurfiaeth reoleiddiol dda
mwy o ddiddordeb mewn lleoedd gwag i aelodau Bwrdd
RISGIAU
RISGIAU
diffyg perchenogaeth gan aelodau’r Bwrdd
TAICEREDIGION.CYMRU
sut i ddarparu tystiolaeth o welliant mewn llywodraethiant, ceisiadau oherwydd tâl yn unig, cwestiynau treth/ budd-daliadau
9
parhau i wella caffael ar draws y gymdeithas
ADNODDAU
staff, polisïau a gweithdrefnau, hyfforddiant, GwerthwchiGymru, cadwyn gyflenwi
CANLYNIADAU
gwerth am arian, buddion cymunedol, pecynnau cymorth Gwerth Cymru
RISKS
diffyg cydymffurfio â deddfwriaeth, diffyg contractwyr/ cyflenwyr yn y canolbarth
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Blaenoriaeth Strategol 4
“Bod yn ddewis gyflogwr sy’n darparu cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a lleoliadau gwaith yn yr ardal.”
GWEITHREDIADAU GWEITHREDIADAU presenoldeb a nawdd yn Eisteddfod Ceredigion
ADNODDAU staff, cyllidebau
CANLYNIADAU
ymwybyddiaeth o Tai Ceredigion, hybu’r Gymraeg
RISGIAU
hygyrchedd i denantiaid
GWEITHREDIADAU ymchwilio i’r opsiynau o ran lle i swyddfeydd yng Nglynpadarn
ADNODDAU staff, cyllidebau
CANLYNIADAU
llai o deithio gan staff, denu ymgeiswyr newydd, canolfan gryfach yn Aberystwyth
RISGIAU
swyddfa yn Llanbedr Pont Steffan yn cael ei thanddefnyddio
TAICEREDIGION.CYMRU
10
creu achos busnes ac ymchwilio i gyllid i’r academi hyfforddiant yng Nghanolfan Dulais
ADNODDAU
staff, cyllidebau, arian loteri
CANLYNIADAU
hyfforddiant i weithwyr cymorth yn y dyfodol, swyddi yn Y Gymdeithas Gofal
RISGIAU
diffyg ymrwymiad gan gwmnïoedd hyfforddiant, dim cyllid ar gael
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Risg a Sicrwydd Risg heb ei lliniaru
Mae gan Tai Ceredigion strategaeth rheoli risgiau sy’n sicrhau ein bod yn cyflawni ein blaenoriaethau strategol ar yr un pryd ag adolygu’r heriadau a’r risgiau a all gael eu hwynebu. Gan ddefnyddio map risgiau, bydd Tai Ceredigion yn nodi’r newidiadau mewn ffactorau mewnol ac allanol a all ddylanwadu ar y tebygolrwydd y bydd risg sylweddol yn effeithio ar y gymdeithas. Mae’r broses mapio risgiau wedi’i gwreiddio’n llawn mewn cynllunio busnes a threfniadau gweithredol, ac fe’i hategir gan gofrestr risgiau, wedi’i rhannu’n gategorïau o risgiau ariannol, llywodraethiant a gwasanaethau.
Parodrwydd i gymryd risg
Risg wedi’i lliniaru
75 100 125
Mawr
4 16
32
48
64
80
Arwyddocaol
3
9
18
27
36
45
Bach
2
4
8
12
16
20
Dibwys
1
1
2
3
4
5
1
2
3
4
5
Tebygol
Tebygol iawn
* Amgylchedd economaidd/ariannol.
50
Posibl
* Polisi llywodraeth/deddfwriaeth.
5 25
Annhebygol
Fel sefydliad tai cymhleth, mae Tai Ceredigion yn cydnabod ei fod yn wynebu risgiau o ystod eang o ffynonellau gan gynnwys:
Trychinebus
Cyfrifo sgôr risg:
* Newid demograffig.
Effaith2 x Tebygolrwydd
* Grymoedd y farchnad. * Rhaglenni gwaith/datblygiadau mawrion. * Peryglon naturiol.
Annhebygol iawn
Effaith
Matrics Risg
Tebygolrwydd
* Twyll a gwallau. * Technoleg Gwybodaeth. Cytunir archwaeth Tai Ceredigion am risgiau, drwy ddogfennu sgôr “Risg Darged” ar gyfer pob risg uchaf unigol gan y Bwrdd Rheoli, ac fe’i adolygir drwy ein cofrestr risgiau uchaf ym mhob cyfarfod. Lle caiff un o’r risgiau uchaf ei hadolygu a lle ceir nad yw o fewn ein harchwaeth am risg, fe weithredir i osod rhagor o fesurau rheoli yn eu lle, neu i geisio rhagor o sicrwydd bod y mesurau rheoli sydd wedi’u nodi yn gweithredu’n effeithiol. TAICEREDIGION.CYMRU
11
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Risg a Sicrwydd
parhad
Mae Tai Cere digion yn de fnyddio’r mo del “Pe dair Rheng o Amddiffyniad” fel cysyniad. Rhoddir hyn sicrwydd i’r Bwrdd bod cynnydd yn cael ei wneud tuag at liniaru risgiau a chyflawni blaenoriaethau strategol drwy fod â data cywir, prosesau a mesurau rheoli da ac arfau adrodd i gynorthwyo â gwneud penderfyniadau.
YNNOL A NNIB LL A A R T H R R E W Y CH NO R H E OL H : R F I U O 3: F ME MF Y W D H EO L A E T R 1 : E I T H R E DO H
Polisïau a Gweithdrefnau
Fframwaith Rheoleiddio Llywodraeth Cymru
Pwyllgor Archwiliad a Pherfformiad
SICRWYDD Y BWRDD
Craffu gan Denantiaid
Bwrdd Prosiectau Arbennig
Rheolaeth Weithredol
Cynllunio Strategol
Cynllun Ariannol 30 Mlynedd a Phrofion Straen
Cyfrifon Rheolaeth Chwarterol
W
L
L
2:
NO
CY
L
4
Y rheng gyntaf yw’r ffordd y rheolir risgiau o ddydd i ddydd, ac fe ddaw’n uniongyrchol gan y rhai sy’n gyfrifol am gyflawni amcanion. Yr ail yw’r ffordd y bydd y gymdeithas yn goruchwylio’r fframwaith mesurau rheolaeth fel y bydd yn gweithio’n effeithiol. Y trydydd yw sicrwydd gwrthrychol ac annibynnol e.e. archwiliad mewnol ac yn bedwerydd sicrwydd gan gorff allanol achrededig.
Gwybodaeth Ariannol
PEDAIR LLINELL AMDDIFFYN usi no
th
n do ol l,
SICRWYDD CYLLIDWYR
Ardystio Cydymffurfiaeth â Chyfamodau
r
ew
bo
TAICEREDIGION.CYMRU
er
a
Ad
og
D r Pe A
dd
a ff n g o s y d d i o d or dr m ia All we n d an w et o d d i a d a u Ari ha n uA na th u r M H b , e n igol Rh yr an w il dde ilia i d , A rc hw Achr ediad Allanol
Cyfarfod Adolygu Blynyddol
l
Sw y
ad
(ac enghreifftiau dangosol)
12
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Llywodraethiant Rheoleiddiol CARTREFI CYMUNEDOL CYMRU COD LLYWODRAETHIANT
Mae’r fframwaith rheoleiddio ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru yn cyflwyno’r safonau perfformiad sydd wedi’u gosod gan Weinidogion Cymru. Mae pob cymdeithas yn gyfrifol am ddangos i’r Rheoleiddiwr ei bod yn cwrdd â’r safonau perfformiad drwy hunanwerthusiad a datganiad cydymffurfiaeth ac iddynt dystiolaeth eglur, a’r rheini’n cael eu cadarnhau drwy sicrwydd a goruchwyliaeth reoleiddiol barhaus. Mae dau offeryn y gellir eu defnyddio’n fframwaith i ddeall sut olwg sydd ar lywodraethiant da.
Mae’r cod wedi’i gynllunio fel offeryn i gefnogi gwelliant parhaus. Fe gyflwyna egwyddorion ac arferion a argymhellir. Mae i bob egwyddor ddisgrifiad byr, sail resymegol, canlyniadau allweddol ac arferion a argymhellir. Mae Tai Ceredigion yn dilyn yr ymagweddiad cymhwyso ac egluro i’r Cod ac yn cyhoeddi datganiad yn adroddiad blynyddol y gymdeithas sy’n esbonio defnydd o’r Cod.
1. Pwrpas y Sefydliad Mae gan y Bwrdd syniad eglur o nodau’r
sefydliad, ac y mae’n sicrhau bod y rhain yn cael eu cyflawni’n effeithiol ac yn gynaliadwy.
2. Arweinyddiaeth Mae pob sefydliad yn cael ei arwain gan
Fwrdd effeithiol sy’n rhoi arweinyddiaeth strategol yn unol â nodau a gwerthoedd y sefydliad.
3. Uniondeb Mae’r Bwrdd yn gweithredu ag uniondeb, gan fabwysiadu gwerthoedd a chan greu diwylliant sy’n helpu i gyflawni pwrpasau’r sefydliad. Mae’r Bwrdd yn ymwybodol o bwysigrwydd hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd, ac mae aelodau’r Bwrdd yn ymgymryd â’u dyletswyddau’n unol â hynny.
4. Gwneud Penderfyniadau, Risg a Rheolaeth Mae’r Bwrdd
yn sicrhau bod ei brosesau penderfynu wedi’u seilio ar wybodaeth, yn drwyadl ac yn amserol a bod systemau effeithiol o ddirprwyo, asesu mesurau rheolaeth a risgiau a llywio yn cael eu sefydlu a’u monitro.
5. Effeithiolrwydd y Bwrdd Mae’r Bwrdd yn gweithio fel tîm
effeithiol, gan ddefnyddio’r cydbwysedd priodol o sgiliau, profiad, cefndiroedd a gwybodaeth i wneud penderfyniadau gwybodus.
6. Amrywiaeth Mae ymagweddiad y Bwrdd at amrywiaeth yn ategu ei effeithiolrwydd, ei arweinyddiaeth a’r modd y gwna benderfyniadau.
7. Bod yn Agored ac yn Atebol Mae’r Bwrdd yn arwain y sefydliad
wrth fod yn dryloyw ac yn atebol. Mae’r sefydliad yn agored yn ei waith, heblaw bod rheswm da iddo beidio â bod felly.
Cynllunio ar gyfer ein Cynllun Busness Tim Gweithredol / Tim Rheoli
TAICEREDIGION.CYMRU
13
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Llywodraethiant Rheoleiddiol Y PETHAU IAWN
parhad
GWELEDIGAETH O LYWODRAETHIANT DA
Gwybodus Cysylltiedig Ymatebol Ystwyth Cyflymder
Yb
ob
l ia
Arweinyddiaeth/ annibyniaeth Gwaith tîm/rapport Amrywiaeth Cydnawsedd diwyllianol Rôl tenantiaid a rhanddeiliaid eraill Sgiliau hanfodol/profiad/meddylfryd Recriwtio, arfarnu a chynllunio olyniaeth
Y Pethau Iawn
Gw
ne
n iaw
ud
y pe
Gweledigaeth a strategaeth a berchenogir gan y Bwrdd Gwerthoedd Hyfywedd ariannol Moeseg Rheoli risg ac awydd i fentro Cydymffurfiaeth Diwylliant Perfformiad Cyfrifoldeb Sicrwydd cyfunol/colegol Barn cwsmeriaid Ymddygiadau adeiladol Gwerth am arian Strwythur sefydliadol Systemau, prosesau a data Dull cydreoleiddiol Tystiolaeth (i gefnogi a dogfennu penderfyniadau)
thau iawn
Ar
n
n
au Am y rhesym
Ar y 14eg o Awst, ymwelodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, â’n datblygiad newydd cyffrous ym Maes Arthur (Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth).
ra
de
aw gi
w
y
Fframwaith lefel uchel yw’r Pethau Iawn, ac fe fwriedir iddo roi arweiniad yn hytrach na gosod rheolau, a gellir ei ddefnyddio i ysgogi hunanfyfyrdod a gwerthusiad, o fewn Cymdeithasau a hefyd rhwng y Rheoleiddiwr a Chymdeithasau. Bydd Tai Ceredigion yn rhoi ystyriaeth i’r fframwaith ynghyd â’r Cod Llywodraethiant ac yn ymdrechu i barhau i gyflawni ei flaenoriaethau strategol â llywodraethiant effeithiol.
Yn y ff ordd iawn
TAICEREDIGION.CYMRU
14
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Adnoddau Mae’r gyllideb bum mlynedd wedi’i nodweddu gan wariant cyfalaf ar gynnal Safon Ansawdd Tai Cymru ar y stoc bresennol, ynghyd â’n rhaglen ddatblygiad fwyaf uchelgeisiol hyd yn hyn o f w y na 100 o fe ddiannau. Cyllidir y gwariant cyfalaf hwn drwy ein cyfleuster presennol o £35m a ddarperir gan Fanc Barclays, ochr yn ochr â grant tai cymdeithasol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.
RHAGDYBIAETHAU CYLLIDEBOL * Mae incwm rhent wedi cynyddu yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru i fod o fewn y rhent darged. * Rhagdybir lleoedd gwag ar 2% a drwgddyledion rhwng 1.5% a 2% o’r incwm rhent yn ystod y pum mlynedd yn unol â’r disgwyliadau parthed canlyniadau Diwygio Budd-daliadau Lles ac yn enwedig Credyd Cynhwysol. * Mae costau gweithredol wedi cael eu hadolygu’n llawn a’r costau wedi’u cymryd i ystyriaeth. * Mae cyfraddau llog ar gyfleusterau LIBOR presennol wedi cael eu rhagdybio ar 1.5% ar gyfer 2020/21, a hynny’n codi i 4% ar gyfer blwyddyn pump. * Mae Tai Ceredigion wedi rhagdybio na werthir dim eiddo. * Cynhwysir y gyllideb bum mlynedd yng nghynllun busnes ariannol 30 mlynedd y Gymdeithas ac fe’i rhoddir drwy brofion straen o ran newidiadau mewn rhagdybiaethau neu effeithiau ac ardrawiadau risgiau.
Disgrifiad DPA
Targed 2020/21
Ôl-ddyledion Tenantiaid Presennol
1.5%
Stoc Wag
1%
Nifer Gyfartalog y Dyddiau i Ailosod Eiddo Anghenion Cyffredinol
14
Canolfannau Cyswllt - Galwadau wedi’u Hateb
98%
Atgyweiriadau - Bodlonrwydd Cwsmeriaid at ei Gilydd
99%
Atgyweiriadau Ymatebol - Tasgau wedi’u Cwblhau o fewn y Targed - Argyfwng (24 Awr) Effeithlonrwydd Ynni Cyfartalog Stoc Tai Cymdeithasol (Sgôr SAP) Absenoldeb Salwch
69 2.6%
Gwasanaethau ar Gael yn Ddwyieithog TAICEREDIGION.CYMRU
97.5%
100% 15
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Datganiad Incwm Cynhwysfawr 2020/21 2021/22 2022/23 2023/24 2024/25 Cyllideb Rhagolwg Rhagolwg Rhagolwg Rhagolwg £’000 £’000 £’000 £’000 £’000 Trosiant Rhent a thaliadau gwasanaeth net
12,908
13,135
13,555
13,909
14,351
Costau gweithredu
(4,095)
(4,144)
(4,234)
(4,327)
(4,421)
Atgyweiriadau a chynnal a chadw
(3,264)
(3,492)
(3,593)
(3,697)
(3,805)
Gwariant arall
(3,410)
(3,694)
(3,997)
(4,269)
(4,544)
2,139
1,805
1,731
1,616
1,581
2,531
2,504
2,518
2,538
2,560
(1,565)
(1,667)
(1,795)
(1,868)
(1,907)
3,104
2,642
2,454
2,286
2,234
Gweithgareddau Gweithredu
Gwarged Weithredol Llog derbyniadwy ac incwm arall Llog sy ’n daladwy a thaliadau cyffelyb
Gwarged ar gyfer y Flwyddyn
TAICEREDIGION.CYMRU
16
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Datganiad Sefyllfa Ariannol 2020/21 2021/22 2022/23 2023/24 2024/25 Cyllideb Rhagolwg Rhagolwg Rhagolwg Rhagolwg £’000 £’000 £’000 £’000 £’000 Asedau Sefydlog Meddiannau tai llai dibrisiant
75,641
80,386
84,468
89,361
87,836
1,143
1,078
1,048
1,035
1,033
Dyledwyr
16,921
13,919
11,366
9,115
10,611
Credydwyr: yn ddyledus o fewn un flwyddyn
(5,176)
(4,463)
(4,728)
(3,021)
(2,640)
Asedau cyfredol net
11,745
9,455
6,638
6,094
7,971
Asedau sefydlog eraill
Asedau Cyfredol
Credydwyr: yn ddyledus ar ôl un flwyddyn Cyfanswm
Cronfeydd wrth Gefn
TAICEREDIGION.CYMRU
(71,675)
(71,512)
(70,294)
(72,345)
(70,461)
16,767
19,407
21,859
24,145
26,379
16,767
19,407
21,859
24,145
26,379
17
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Rhagolwg Llif Arian 2020/21 2021/22 2022/23 2023/24 2024/25 Cyllideb Rhagolwg Rhagolwg Rhagolwg Rhagolwg £’000 £’000 £’000 £’000 £’000 Llif Arian Gweithredu Arian a Ddygwyd Ymlaen
180
Gwarged
3,105
2,641
2,452
2,286
2,234
Ychwanegu dibrisiant yn ôl
3,201
3,485
3,763
4,050
4,325
Ychwanegu amorteiddiad yn ôl Cyfanswm
(471)
(492)
(502)
(520)
(538)
6,015
5,634
5,713
5,816
6,021
Rhaglen gwaith cyfalaf
(5,065)
(5,446)
(5,057)
(4,921)
(4,684)
Costau datblygu
(6,558)
(2,553)
(2,591)
(3,841)
(1,783)
(375)
(175)
(177)
(179)
(181)
(11,998)
(8,174)
(7,825)
(8,941)
(6,648)
Gwariant Cyfalaf
Costau cyfalaf eraill Cyfanswm
Incwm a Gwariant Arall Grant tai cymdeithasol
1,179
1,230
1,424
2,147
951
Grant Canolfan Dulais
1,700
0
0
0
0
3,104
1,310
688
978
324
Gofyniad am Gyllido Balans Cychwynnol y Cyfrif Benthyciad
(24,500)
(27,604)
(28,914)
(29,602)
(30,580)
Balans Terfynol y Cyfrif Benthyciad
(27,604)
(28,914)
(29,602)
(30,580)
(30,256)
TAICEREDIGION.CYMRU
18
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Crynodeb Gweithredol Drwy gydol 2020/2021, bydd y Gymdeithas Gofal yn parhau i adolygu a gwella ei seilwaith gweithredol, ei hyfforddiant i staff, ei gweithdrefnau llywodraethiant, ei mesurau effeithlonrwydd a’i sefyllfa ariannol. Bydd hyn yn rhoi platfform i sicrhau ansawdd parhaus wrth ddarparu gwasanaethau, i gyflawni twf ac yn y pen draw i gynyddu effaith gymdeithasol yr elusen. Yn fwy penodol, mae’r meysydd twf sydd wedi’u nodi o fewn y ddarpariaeth gwasanaethau bresennol yn cynnwys: * Gweithio gyda Tai Ceredigion i asesu angen digartrefedd a chynyddu nifer yr unedau Lloches Nos a Llety Brys, gan ddefnyddio, lle bo’n briodol, unedau llety Tai Ceredigion. * Cynyddu nifer y meddiannau a reolir o fewn yr Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol. * Cynyddu nifer y Pecynnau Gofal at Anghenion Unigol a ddarperir gan Y Gymdeithas Gofal o gontractau unigol a gyrchir drwy Bartneriaeth Arloesedd yr Awdurdod Lleol. * Cyrchu cyllid sbarduno gyda golwg ar ddarparu gwasanaethau preifat mewn perthynas â Phecynnau Gofal at Anghenion Unigol. * Cyrchu cyllid parhau at brosiect Tai Yn Gyntaf i Ieuenctid y Gymdeithas Gofal. * Archwilio cyfleoedd i ddarparu gwasanaethau warden a chefnogaeth ym Mhowys os digwydd bod Byrddau Tai Ceredigion a Chymdeithas Tai Canolbarth Cymru yn cytuno i uno. * Nodi a gweithio gydag Asiantaethau Partner mewn siroedd cyfagos i ddarparu gwasanaethau cymorth a gomisiynir yn rhanbarthol. Bydd Y Gymdeithas Gofal yn adeiladu ar gysylltiadau strategol cryf â chyrff ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r drydedd sector ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, i gyflawni’r blaenoriaethau strategol y manylir arnynt drwy’r cynllun busnes hwn. TAICEREDIGION.CYMRU
Guy Evans
Anthony Hearn
Cyfarwyddwr Gweithredol Y Gymdeithas Gofal
19
Cadeirydd Y Gymdeithas Gofal
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Trosolwg Y GYMDEITHAS GOFAL
Mae ein gwasanaethau i gyd yn tanlinellu ein cenhadaeth a’n hamcanion i:
Mae’r Gymdeithas Gofal yn sefydledig fel darparwr gwasanaethau tai, digartrefedd a chefnogaeth yn y canolbarth.
* Gefnogi pobl i wireddu eu llawn botensial. * Adeiladu cymunedau cryfach drwy hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol er budd y cyhoedd a thrwy gadw pobl rhag cael eu hallgáu’n gymdeithasol oherwydd digartrefedd.
Mae’r cwbl o’n gwirfoddolwyr ymroddedig a’n 33 o staff yn gweithio mewn prosiectau sy’n cynnwys: * Yr unig ddarpariaeth lloches nos yn y canolbarth.
* Darparu opsiynau tai a llety.
* Gwasanaeth llety brys â warden sy’n cynnwys uned â chefnogaeth i bobl ifainc sy’n gadael gofal a phobl ifainc mewn sefyllfaoedd bregus.
EDRYCH YMLAEN
* Asiantaeth gosod tai cymdeithasol ar y stryd fawr a chynllun bond i hwyluso opsiynau llety i ddefnyddwyr ein gwasanaeth yn y sector rhentu preifat.
Bydd Y Gymdeithas Gofal yn gweithio i gyrraedd ei hamcanion elusennol a darparu’r gwasanaethau presennol a rhai newydd sy’n helpu mwy o bobl. Cyflawnir hyn drwy:
* Y tîm cefnogaeth mwyaf yng Ngheredigion; yn cefnogi pobl sengl, teuluoedd a phobl anabl yn eu cartrefi, a chleientiaid digartref.
* Wrando ar ddefnyddwyr gwasanaethau gyda golwg ar wella effeithiolrwydd gwasanaethau.
* Gwasanaeth cefnogaeth heb ei reoleiddio ledled y sir sy’n darparu pecynnau gofal at anghenion unigol i bobl sy’n cael eu hatgyfeirio gan Dîm Cymunedol Anawsterau Dysgu a Thîm Iechyd Meddwl Cymunedol y Gwasanaethau Cymdeithasol.
* Buddsoddi yn hyfforddiant a datblygiad proffesiynol staff. * Rhoi arfer wybodus am drawma ar waith ar draws prosiectau. * Dod o hyd i arian grant ychwanegol i ddarparu gwasanaethau newydd a gwell.
* Siop elusennol yr ydym yn rhedeg cynllun Shopmobility drwyddi.
* Drwy weithio gyda’r Awdurdod Lleol a Phartneriaeth Arloesedd Ceredigion, cynyddu nifer y contractau cymorth cymunedol. * Gweithio gydag asiantaethau partner ledled Ceredigion i ddiwallu’r anghenion sydd wedi’u nodi o ran tai a chymorth. Byd d Y G y m d e i t h a s G o fa l y n p a r h a u i w n e u d y n s i ŵ r b o d gwasanaethau a phroses wedi’u sicrhau o ran ansawdd a bod Y Gymdeithas Gofal yn parhau’n elusen ariannol hyfyw a chynaliadwy.
TAICEREDIGION.CYMRU
20
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Blaenoriaeth Strategol 1
“Bod yn landlord dwyieithog rhagorol sy’n cynnwys ei denantiaid a’i gwsmeriaid ar bob lefel â phwyslais ar gynnal tenantiaethau a gwelliant parhaus.”
GWEITHREDIADAU GWEITHREDIADAU lleihau digartrefedd
ADNODDAU
grantiau, rhoddion, gweithio mewn partneriaeth, staff, cynyddu’r cyflenwad o lety
CANLYNIADAU
cymunedau cryfach, llai o gysgu allan/ar soffas pobl eraill
RISGIAU
colli cyllid grant, llety o ansawdd gwael, ôl-ddyledion rhent, diwygiad budd-daliadau lles
TAICEREDIGION.CYMRU
darparu gwasanaethau sy’n cwrdd ag anghenion defnyddwyr gwasanaethau
ADNODDAU
hyfforddiant staff, ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau
CANLYNIADAU
gwasanaethau dwyieithog, staff wedi’u hyfforddi’n well, gwell ymgysylltiad â defnyddwyr gwasanaethau
RISGIAU
cyndynrwydd i ymgysylltu a rhoi atborth
21
GWEITHREDIADAU codi ymwybyddiaeth o wasanaethau’r Gymdeithas Gofal
ADNODDAU
costau marchnata, amser staff, hyfforddiant i staff
CANLYNIADAU
mwy o bobl yn troi at y gwasanaethau, gwell ymwybyddiaeth o’r Gymdeithas Gofal, gwell ymgysylltiad â rhanddeiliaid, cynnydd mewn rhoddion
RISGIAU
cyhoeddusrwydd drwg, niwed i’n henw, diffyg cyllideb, mwy o bwysau ar wasanaethau
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Blaenoriaeth Strategol 2
“Cynnal y cartrefi o ansawdd uchel sydd eisoes yn bodoli o fewn cymunedau cynaliadwy a chynyddu’r nifer ohonynt.”
GWEITHREDIADAU GWEITHREDIADAU
sicrhau cydymffurfiaeth eiddo
cael hyd i lety ychwanegol
GWEITHREDIADAU rhagor o lety â chymorth
ADNODDAU
ADNODDAU
staff, incwm grant, marchnata
CANLYNIADAU
llai o ddigartrefedd, twf yn yr asiantaeth gosod tai cymdeithasol
RISGIAU
colli incwm grant, lleihad yn y cyflenwad llety, cystadleuaeth
TAICEREDIGION.CYMRU
staff, hyfforddiant, contractwyr allanol, archwiliad stoc, polisïau a gweithdrefnau
CANLYNIADAU
gwell portffolio eiddo a lles tenantiaid, sicrwydd ansawdd, llai o leoedd gwag
RISGIAU
diffyg ymrwymiad gan landlordiaid, cynnydd mewn costau, ymrwymiad gwael gan denantiaid
22
ADNODDAU
staff, meddiannau addas, grantiau, hyfforddiant
CANLYNIADAU
llai o ddigartrefedd, llety i denantiaid mewn sefyllfaoedd bregus
RISGIAU
colli grantiau, lles staff a thenantiaid
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Blaenoriaeth Strategol 3
“Bod yn fusnes ariannol iach a hyfyw, sy’n mynd ynglŷn â’i waith ag onestrwydd, uniondeb a llywodraethiant cryf.”
GWEITHREDIADAU GWEITHREDIADAU cynyddu ffrydiau incwm
ADNODDAU
amser staff, grantiau, incwm drwy gontractau a wedi’i gynhyrchu gennym ni ein hunain, rhoddion
CANLYNIADAU
twf y gwasanaethau presennol, cynnydd yn nhrosiant y sefydliad, mwy o gronfeydd wrth gefn, mwy o effaith gymdeithasol
RISGIAU
cystadleuaeth, lleihad mewn cyllid grant
TAICEREDIGION.CYMRU
archwilio darpariaeth a pherfformiad gwasanaethau
ADNODDAU
amser staff, cyllideb, archwilwyr, meddalwedd, atborth gan ddefnyddwyr gwasanaethau
CANLYNIADAU
sicrwydd ansawdd, cydymffurfiaeth gyfreithiol, sefydliad yn cael ei lywodraethu’n dda, elusen yr ymddiriedir ynddi ac iddi enw da
RISGIAU
defnyddwyr gwasanaethau’n gyndyn o ymgysylltu, diffyg cyllideb/adnoddau mewnol
23
GWEITHREDIADAU lleihau drwgddyledion a lleoedd gwag yn yr Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol
ADNODDAU
hyfforddiant i staff, polisïau a gweithdrefnau, meddalwedd
CANLYNIADAU
mwy o incwm, cynaliadwyedd yr Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol, cynaliadwyedd tenantiaethau
RISGIAU
diwygiad budd-daliadau lles, diffyg adnoddau mewnol, tenantiaid mewn sefyllfaoedd bregus
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Blaenoriaeth Strategol 4
GWEITHREDIADAU buddsoddi mewn hyfforddiant i staff
ADNODDAU
staff, darparwyr hyfforddiant, cyllideb
CANLYNIADAU
gwell perfformiad gan staff, cysonder ac ansawdd yn y modd y darperir gwasanaethau, mantais wrth dendro, dewis gyflogwr
“Bod yn ddewis gyflogwr sy’n darparu cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a lleoliadau gwaith yn yr ardal.”
GWEITHREDIADAU gwella’r broses recriwtio
ADNODDAU
staff, polisïau a gweithdrefnau, cyllideb, meddalwedd, marchnata
CANLYNIADAU
gwella ansawdd ceisiadau, cadw mwy o staff, gwell perfformiad
RISGIAU
RISGIAU
gwrthwynebiad i newid, trosiant staff uchel
TAICEREDIGION.CYMRU
diffyg cyllideb/adnoddau mewnol, ardal wledig
24
GWEITHREDIADAU adolygu cyflogau a thelerau ac amodau
ADNODDAU
cyllideb, staff, polisïau, gweithdrefn
CANLYNIADAU
morâl uwch, cadw staff yn well, gwell perfformiad
RISGIAU
cyllideb annigonol, morâl isel os cadw pethau fel ag y maent yw’r canlyniad
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Llywodraethiant Elusen RISGIAU Bydd Y Gymdeithas Gofal yn adolygu’r risgiau a wyneba wrth gyflawni ei blaenoriaethau strategol drwy broses mapio risgiau. Bydd Y Gymdeithas Gofal yn nodi’r newidiadau mewn ffactorau mewnol ac allanol a all ddylanwadu ar y tebygolrwydd y bydd risg sylweddol yn effeithio ar yr elusen. Mae’r broses mapio risgiau wedi’i gwreiddio’n llawn mewn cynllunio busnes a threfniadau gweithredol, ac fe’i hategir gan gofrestr risgiau. Risg heb ei lliniaru
Parodrwydd i gymryd risg
1: Pwrpus y mudiad
Matrics Risg
7: Bod yn agored ac yn atebol
SYLFAEN: RÔL YR YMDDIRIEDOLWYR A CHYD-DESTUN YR ELUSEN
Trychinebus
5 25
50
75 100 125
Mawr
4 16
32
48
64
80
Arwyddocaol
3
9
18
27
36
45
Bach
2
4
8
12
16
20
Dibwys
1
1
2
3
4
5
1
2
3
4
5 Tebygol iawn
6: Amrywiaeth
Tebygol
5: Effeithiolrwydd y bwrdd
Posibl
4: Gwneud penderfyniadau, risg a rheolaeth
Cyfrifo sgôr risg: Mae’r Gymdeithas Gofal yn adolygu ei threfniadau llywodraethu’n rheolaidd ar sail y cod, ac mae’n adrodd wrth y bwrdd ynghylch y meysydd lle mae’r elusen yn cydymffurfio a’r meysydd lle gellir gwneud gwelliannau. TAICEREDIGION.CYMRU
25
Risg wedi’i lliniaru
Annhebygol
3: Uniondeb
Effaith
2: Arwain
Effaith2 x Tebygolrwydd
Annhebygol iawn
Mae llywodraethiant da mewn elusennau yn hanfodol i’w llwyddiant. Dim ond os oes ganddi lywodraethiant effeithiol a’r arweinyddiaeth iawn, gan gynnwys ymddiriedolwyr, y gall elusen gyflawni ei blaenoriaethau strategol. Mae’r cod llywodraethiant elusennau i elusennau bach yn helpu sefydliadau bach a’u hymddiriedolwyr i ddatblygu safonau uchel o lywodraethiant. Nid gofyniad cyfreithiol na rheoleiddiol mohono ond set o egwyddorion ac arfer a argymhellir sy’n arf er mwyn gwelliant parhaus.
Tebygolrwydd
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Adnoddau Mae’r gyllideb bum mlynedd wedi’i nodweddu gan gyllid grant allanol gan Lywodraeth Cymru a’r Awdurdod Lleol ill dau i roi cymorth i bobl sy’n cael eu hallgáu’n gymdeithasol oherwydd amgylchiadau ansefydlog, digartrefedd, sydd mewn perygl o golli eu cartref neu’n byw mewn llety annigonol. Bydd Y Gymdeithas Gofal hefyd yn derbyn incwm rhent o’u hasiantaeth gosod tai cymdeithasol.
RHAGDYBIAETHAU CYLLIDEBOL * Rhagdybiwyd cynnydd o 1% mewn incwm rhent rhwng blynyddoedd 2 a 5. * Mae incwm arall yn cynnwys incwm o eiddo a reolir, y siop elusennol a Shopmobility, ac mae’n cynyddu rhwng 2% a 5%. * Mae lleoedd gwag a drwgddyledion wedi’u rhagdybio fel 8% o’r incwm rhent yn ystod y pum mlynedd yn unol â’r disgwyliadau parthed canlyniadau Diwygio Budd-daliadau Lles ac yn enwedig Credyd Cynhwysol. * Mae costau gweithredol wedi cael eu hadolygu’n llawn a’r costau wedi’u cymryd i ystyriaeth.
Targed 2020/21
Disgrifiad DPA Ôl-ddyledion Tenantiaid Presennol - Meddiannau ar Les
1%
Ôl-ddyledion Tenantiaid Presennol - Meddiannau a Reolir
2%
Canran y Gwasanaethau ar Gael yn Ddwyieithog
100%
Nifer Gyfartalog y Dyddiau i Ailosod Meddiant
14
Trosiant Staff
10%
Absenoldeb Salwch TAICEREDIGION.CYMRU
2% 26
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Datganiad Incwm Cynhwysfawr 2020/21 2021/22 2022/23 2023/24 2024/25 Cyllideb Rhagolwg Rhagolwg Rhagolwg Rhagolwg £’000 £’000 £’000 £’000 £’000 Trosiant Rhent
115
116
117
118
120
Grant
672
666
666
666
666
Arall
348
362
377
392
407
Costau staff
(720)
(729)
(742)
(756)
(771)
Costau safleoedd/swyddfeydd
(221)
(209)
(212)
(215)
(218)
Gorbenion prosiect/arall
(131)
(131)
(133)
(133)
(135)
Gweithgareddau Gweithredu
Gwarged Weithredol Llog sy ’n daladwy a thaliadau cyffelyb
63
75
73
72
(11)
(10)
(10)
(10)
52
65
63
62
Gwarged ar gyfer y Flwyddyn
TAICEREDIGION.CYMRU
27
69 (9)
60
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Datganiad Sefyllfa Ariannol 2020/21 2021/22 2022/23 2023/24 2024/25 Cyllideb Rhagolwg Rhagolwg Rhagolwg Rhagolwg £’000 £’000 £’000 £’000 £’000 Asedau Sefydlog Meddiannau tai llai dibrisiant
411
396
381
366
350
3
2
1
1
1
Dyledwyr
333
403
471
538
601
Credydwyr: yn ddyledus o fewn un flwyddyn
(94)
(94)
(93)
(93)
(92)
Asedau cyfredol net
239
309
378
445
509
(277)
(266)
(256)
(246)
(234)
376
441
504
566
626
376
441
504
566
626
Asedau sefydlog eraill
Asedau Cyfredol
Credydwyr: yn ddyledus ar ôl un flwyddyn Cyfanswm
Cronfeydd wrth Gefn
TAICEREDIGION.CYMRU
28
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Rhagolwg Llif Arian 2020/21 2021/22 2022/23 2023/24 2024/25 Cyllideb Rhagolwg Rhagolwg Rhagolwg Rhagolwg £’000 £’000 £’000 £’000 £’000 Llif Arian Gweithredu Arian a Ddygwyd Ymlaen Incwm gweithredu Gwariant gweithredu
81 1,135
1,145
1,160
1,176
1,193
(1,072)
(1,069)
(1,087)
(1,104)
(1,124)
Gwarged Weithredol
63
76
73
72
69
20
19
18
17
17
(11)
(11)
(10)
(10)
Ychwanegu dibrisiant yn ôl Taliadau llog
Cyfanswm
(9)
9
8
8
7
8
0
0
0
0
0
153
237
318
397
474
Gweithgareddau Buddsoddi Gwariant cyfalaf
Balans Terfynol ar y Cyfrif Banc
TAICEREDIGION.CYMRU
29
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Bwrdd Rhiant-Gwmni Tai Ceredigion
Karen Oliver
John Jenkins
Cadeirydd
Stephen Cripps Is-Gadeirydd Cyfetholedig
TAICEREDIGION.CYMRU
Annibynnol
Peter Deakin Tenant
Peter Saunders Annibynnol
Catherine Shaw
Cadwgan Thomas
John Rees
Tenant
Cyfetholedig
30
Annibynnol
Mererid Boswell Cyfetholedig
Gwyn James Wedi’i enwebu gan y Cyngor
Lynford Thomas Wedi’i enwebu gan y Cyngor
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Bwrdd Is-Gwmni’r Gymdeithas Gofal
Catherine Shaw
Anthony Hearn Cadeirydd
TAICEREDIGION.CYMRU
Peter Saunders
John Rees
Stephen Cripps
Tony Kitchen
Is-Gadeirydd
31
Margaret Gallagher
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR
Y Tîm Gweithredol
Stephen Jones
Prif Weithredwr Grŵp Tai Ceredigion * Graddiodd ym Mhrifysgol Sheffield Hallam â gradd BA (Anrhydedd) mewn Astudiaethau Tai.
Eleri Edwards
Cyfarwyddwr Tai a Chefnogaeth Tai Ceredigion * 37 mlynedd o brofiad ym mhob agwedd ar reoli tai.
* Gyrfa o 37 mlynedd ym maes tai awdurdodau lleol a LCCiaid.
* Profiad blaenorol mewn awdurdod lleol ac yng Nghymdeithas Tai Cantref.
* Penodwyd yn Brif Weithredwr cyntaf Tai Ceredigion yn 2009.
* Yn ei swydd ers trosglwyddo’r stoc yn 2009.
* Arweiniodd TC drwy’r trosglwyddiad stoc o Gyngor Sir Ceredigion.
* Gweithiwr tai proffesiynol uchel ei pharch yng ngorllewin Cymru ac yn Gymrodor o’r CIH.
* Cyn-Gyfarwyddwr Grŵp Gwasanaethau Cymunedol yng Ngrŵp Tai Pennaf. * Aelod gwirfoddol o Elusen Digartref ar Ynys Môn.
Llŷr Edwards
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo Tai Ceredigion
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Grŵp Tai Ceredigion
* Gradd mewn Technoleg a Rheolaeth Adeiladu.
* Yn Gyfrifydd Siartredig.
* Dros 20 mlynedd o brofiad ym maes tai.
* 16 mlynedd o brofiad o Gyllid Sector Cyhoeddus.
* Yn ei swydd ers trosglwyddo’r stoc yn 2009. * Cynlluniodd, rheolodd a goruchwyliodd yn llwyddiannus gwblhau’r gwaith ar SATC. * Ar hyn o bryd yn arwain cynlluniau datblygu TC. * Yn rhugl yn y Gymraeg.
* Yn arwain ar ymglymiad a chyfranogiad tenantiaid.
* Trosglwyddodd o Gyngor Sir Ceredigion i Tai Ceredigion. * Penodwyd yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol ym Mawrth 2016.
Guy Evans
Cyfarwyddwr Gweithredol Y Gymdeithas Gofal * MSc Rheolaeth (Arloesedd a Chreadigedd mewn Mentrau Cymdeithasol). * Dros 20 mlynedd o brofiad mewn Tai a Chefnogaeth. * Ymddiriedolwr i Tir Coed. * Yn rhugl yn y Gymraeg.
* Yn Ymddiriedolwr i Age Cymru Ceredigion. * Yn Aelod o Gydbwyllgor Archwilio Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys.
* Yn rhugl yn y Gymraeg.
* Yn ddysgwr Cymraeg brwdfrydig.
* Yn rhugl yn y Gymraeg. TAICEREDIGION.CYMRU
Kate Curran
32
#CARTREFIGWELL #DYFODOLDISGLAIR