Tai Ceredigin Cynllun Busnes 2018-2022

Page 1

TAI CEREDIGION

CYNLLUN BUSNES 2018-2023

taiceredigion.cymru #cartrefigwell #dyfodoldisglair


Crynodeb Gweithredol

Steve Jones

Prif Weithredwr Grŵp Tai Ceredigion

Karen Oliver Cadeirydd Tai Ceredigion

Yn negfed flwyddyn ariannol Tai Ceredigion o weithredu, rydym yn dal i sicrhau bod ein cynlluniau busnes wedi’u seilio ar ddealltwriaeth gadarn o’r amgylchedd gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol sy’n newid yn barhaus. Fel Bwrdd rydym yn dal i weithio gyda’r Grŵp Monitro Tenantiaid annibynnol. Rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad a gwaith craffu’r Grŵp, sy’n sicrhau mai’r materion sydd o bwys i’n cwsmeriaid sy’n llywio ein cynlluniau busnes a’r camau a gymerir i wella perfformiad gwasanaethau. Ein gweledigaeth yw bod yn landlord ac yn gyflogwr dwyieithog o’r radd flaenaf, sy’n rhoi ei denantiaid yn gyntaf, sy’n darparu cartrefi o safon ac sy’n sicrhau budd i gymunedau ac i’r economi leol. Mae’r ymrwymiad hwn yn golygu ein bod yn cydnabod anghenion amrywiol o ran tai a manteision creu cymunedau cydnerth a chryf, a’n bod yn cydnabod y bydd gweithio mewn partneriaeth ac yn gydweithredol yn helpu i wella ac ehangu canlyniadau. Fel sefydliad mae’r hyn yr ydym yn ei gynllunio ac yn ei gyflawni wedi’i seilio ar lywodraethu cadarn, sefydlogrwydd ariannol, effeithlonrwydd gwell a gwerth am arian.

taiceredigion.cymru

Ym mis Ebrill 2018 ymunodd y Gymdeithas Gofal, sef elusen leol sy’n gweithio ym maes digartrefedd, â Tai Ceredigion fel is-gwmni mewn strwythur grŵp newydd gan adeiladu ar y gynghrair strategol ffurfiol a oedd yn bodoli rhwng y ddau sefydliad ers 2011. Yn ddiweddar, mae Tai Ceredigion hefyd wedi cytuno i ddatblygu’r bartneriaeth sy’n bodoli eisoes â Tai Canolbarth Cymru ym maes tai a chynnal a chadw, drwy lansio prosiect ar gyfer gweithio’n gydweithredol. Bydd y prosiect yn ymchwilio i gyfleoedd i gydweithredu’n fwy helaeth yn rhanbarthol, a bydd yn cynnwys gwasanaethau a rennir, strwythur grŵp ac opsiynau uno. Bydd cysylltiad agos rhwng y prosiect mawr hwn a chydweithredu rhanbarthol ym maes tai o safbwynt digartrefedd, rhwng Cynghorau Ceredigion a Phowys a chynghorau a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eraill yn y gogledd a’r canolbarth. Rydym yn dal i fuddsoddi yn ein cartrefi presennol ac yn dal i gaffael safleoedd datblygu yng Ngheredigion ac mewn siroedd cyfagos. Pryd bynnag y bo modd byddwn yn defnyddio ein tîm mewnol ein hunain o grefftwyr, sef MEDRA sydd erbyn hyn yn adeiladu cartrefi newydd hefyd, ac rydym yn dal i ddefnyddio contractwyr lleol. Mae’n ffordd ychwanegol o ailfuddsoddi yn ein cymunedau lleol. Rydym bob amser yn ystyried ffyrdd o wella ein dulliau gweithio, ac mae ein hymrwymiad parhaus i ddatblygu ein staff a gweithlu iach yn ein helpu i wneud hynny. Rydym yn dal i edrych i’r dyfodol a byddwn yn manteisio ar gyfleoedd sy’n dod i’r amlwg, os ydynt yn gwneud synnwyr o ran busnes. Steve Jones – Prif Weithredwr Grŵp, Tai Ceredigion Karen Oliver – Cadeirydd, Tai Ceredigion

#cartrefigwell

#dyfodoldisglair

2


Crynodeb Gweithredol Mae gweithio gyda Tai Ceredigion, sy’n sefydliad sydd â’r un gwerthoedd diwylliannol, cymdeithasol a chymunedol â ni, yn gyfle i ehangu ein gwasanaethau presennol ym maes cymorth cymunedol a digartrefedd. Ar y cyd â Tai Ceredigion, ein nod yw gweithio’n gydweithredol a datblygu cysylltiadau strategol cryf â sefydliadau ym mhob rhan o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.

Guy Evans

Cyfarwyddwr Gweithredol Cymdeithas Gofal

Rob Gray

Cadeirydd Cymdeithas Gofal

Guy Evans – Cyfarwyddwr Gweithredol, Cymdeithas Gofal Rob Gray – Cadeirydd, Cymdeithas Gofal

Mae’r Gymdeithas Gofal yn elusen leol adnabyddus sydd wedi hen ennill ei phlwyf, ac mae ganddi swyddfeydd a staff sy’n darparu cymorth a gwasanaethau digartrefedd ar draws Ceredigion ac ardaloedd gwledig y canolbarth. Rydym wedi gweithio’n galed i ddatblygu a gwella gwasanaethau hyblyg sy’n helpu i gyflawni ein hamcanion elusennol a sicrhau budd i’r cyhoedd. Fel elusen ranbarthol sy’n frwdfrydig ynghylch hybu cynhwysiant cymdeithasol ac sydd wedi ymroi i wneud hynny, mae ein gwasanaethau’n helpu pobl o bob oed a chefndir sy’n agored i niwed. Rydym bob amser yn ymdrechu i fod yn sefydliad blaengar sydd â’r sgiliau, y mentergarwch a’r awydd sy’n ofynnol i symud y sefydliad yn ei flaen a datblygu gwasanaethau i ddiwallu anghenion pobl agored i niwed yn y gymuned, sy’n newid yn barhaus. Bydd ymuno â Tai Ceredigion fel is-gwmni mewn strwythur grŵp newydd yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer gwella seilwaith llywodraethu a gweithredu’r Gymdeithas Gofal. Bydd hefyd yn ein galluogi i sicrhau arbedion effeithlonrwydd a gwella cynaliadwyedd ariannol.

taiceredigion.cymru

#cartrefigwell

#dyfodoldisglair

3


Trosolwg - y Sefydliadau Cymdeithas dai ddielw yw Tai Ceredigion, a grëwyd i dderbyn stoc dai Cyngor Sir Ceredigion. Cafodd y stoc ei throsglwyddo ar 30 Tachwedd 2009. Fel yn achos pob landlord cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru, mae’r gymdeithas dai wedi’i chofrestru gyda Llywodraeth Cymru a chaiff ei rheoleiddio ganddi. Cafodd Tai Ceredigion ei ffurfio er budd cymunedau mewn ardaloedd lle mae’r gymdeithas dai naill ai’n berchen ar stoc dai neu’n rheoli stoc dai. Mae Tai Ceredigion wedi’i gofrestru hefyd dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 ac mae ganddo reolau elusennol. Ei swyddfa gofrestredig yw Uned 4, Parc Busnes Pont Steffan, Llanbedr Pont Steffan. Fodd bynnag, mae hefyd yn gweithredu o’i swyddfeydd eraill yn Aberystwyth ac Aberteifi. Ym mis Ebrill 2018 bydd Tai Ceredigion yn dod yn rhiant mewn strwythur grŵp, gyda’r Gymdeithas Gofal – sef elusen leol sy’n gweithio ym maes cymorth a digartrefedd – yn dod yn is-gwmni iddo. Bydd hynny’n ein galluogi i barhau â’r gwaith y mae’r ddau sefydliad wedi’i gyflawni mewn partneriaeth ers 2011, ac ehangu’r gwaith hwnnw.

2,272

o gartrefi rhent

690 o garejis

150

123

o staff gan gynnwys MEDRA (y llafurlu uniongyrchol)

o lesddeiliaid

9

Mae’r Gymdeithas Gofal wedi hen ennill ei phlwyf ac mae’n darparu gwasanaethau tai, digartrefedd a chymorth yn y canolbarth. Mae ein gwirfoddolwyr a’n staff yn gweithio mewn prosiectau sy’n cynnwys: • Yr unig ddarpariaeth o ran lloches nos yng nghanolbarth Cymru • Llety brys gydag uned â chymorth ar gyfer y sawl sy’n gadael gofal/pobl ifanc agored i niwed • Asiantaeth gosod tai cymdeithasol a chynllun bondiau ar gyfer y sector rhentu preifat • Y tîm cymorth mwyaf yng Ngheredigion sy’n gweithio gyda phobl sengl, teuluoedd a chleientiaid anabl a digartref • Gwasanaeth cymorth ledled y sir sy’n ymwneud â chyfeillio ac anableddau dysgu • Siop elusennol a chynllun symudedd Mae pob un o’n gwasanaethau yn pwysleisio ein cenhadaeth a’n hamcanion, sef: • Cynorthwyo pobl i wireddu eu potensial • Creu cymunedau cryfach drwy hybu cynhwysiant cymdeithasol er budd y cyhoedd a thrwy atal pobl rhag cael eu heithrio’n gymdeithasol oherwydd digartrefedd • Darparu opsiynau o ran tai a llety Er bod ein gwasanaethau’n seiliedig ar angen, rydym yn ymwybodol y dylai pob un ohonynt fod yn gynaliadwy’n ariannol. Mae gweithio gyda Tai Ceredigion yn gyfle i wella ein seilwaith, ein gwasanaethau a’n cynaliadwyedd ariannol a hybu ein nodau elusennol.

o gynlluniau tai gwarchod

taiceredigion.cymru

#cartrefigwell

#dyfodoldisglair

4


Blaenoriaeth Strategol

1

“Bod yn landlord dwyieithog ardderchog sy’n cynnwys ei denantiaid a’i gwsmeriaid ar bob lefel, gyda phwyslais ar gynnal tenantiaethau a gwella’n barhaus.”

Adnoddau

Camau Gweithredu

Staff Gwirfoddolwyr Hyfforddiant Gwersi Cymraeg

Dod yn bartner dibynadwy i’r Adran Gwaith a Phensiynau

Paratoi ar gyfer Credyd Cynhwysol

Paratoi ar gyfer y Ddeddf Rhentu Cartrefi

Cynnwys defnyddwyr gwasanaeth yn fwy helaeth

Ehangu Cynnal, sef ein tîm cynnal tenantiaethau

Cydweithio â mudiadau eraill yn y trydydd sector

Adolygu eiddo gwag a drwg-ddyledion

taiceredigion.cymru

#cartrefigwell

Datblygu gwasanaethau a chymorth yn ymwneud â gofal Cynyddu gwasanaethau dwyieithog

#dyfodoldisglair

Canlyniadau Cyfathrebu gwell Tenantiaethau a lefelau bodlonrwydd yn cael eu cynnal 5


Blaenoriaeth Strategol

2

“Cynnal a chadw’r cartrefi presennol o safon, a chynyddu eu nifer, mewn cymunedau cynaliadwy.”

Adnoddau

Camau Gweithredu

Defnyddio banciau tir Grant tai cymdeithasol Staff profiadol

Gweithredu rhentu i brynu/ rhanberchnogaeth Gwella’r modd y caiff ystadau eu rheoli Cynnal Safon Ansawdd Tai Cymru

Ehangu’r asiantaeth gosod tai cymdeithasol

Ymchwilio i dai arloesol Hybu’r gronfa budd cymunedol newydd

taiceredigion.cymru

Canlyniadau Adolygu prydlesi presennol

Llai o ddigartrefedd Cymunedau y mae pobl am fyw ynddynt Helpu i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru, sef 20,000 o gartrefi

#cartrefigwell

#dyfodoldisglair

6


Blaenoriaeth Strategol

3

“Bod yn fusnes cadarn a hyfyw o safbwynt ariannol, sy’n cyflawni ei fusnes gyda gonestrwydd ac integriti gan lywodraethu’n gadarn.”

Adnoddau

Camau Gweithredu

Staff cymwys, profiadol Proses hunanwerthuso

Cydymffurfio â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol newydd

Polisïau a gweithdrefnau Cydymffurfio â’r cod llywodraethu newydd

Cyllideb 5 mlynedd a chynllun busnes ariannol 30 mlynedd llawn Dulliau caffael gwell Strwythur grŵp a lywodraethir yn dda

Cydymffurfio â’r rhestr wirio ar gyfer mesurau rheoli ariannol mewnol

Byrddau addas i’w diben

Canlyniadau Cydymffurfio â gofynion rheoleiddiol Tystiolaeth o gwmni gweithredol i randdeiliaid Gwerth am arian

taiceredigion.cymru

#cartrefigwell

#dyfodoldisglair

7


Blaenoriaeth Strategol

4

“Bod yn gyflogwr delfrydol sy’n darparu cyfleoedd lleol o ran cyflogaeth, hyfforddiant a lleoliadau gwaith.”

Adnoddau

Camau Gweithredu

Amser mentoriaid/ staff Hyfforddiant grŵp Cyllidebau penodol

Cyflogi mwy o brentisiaid Gweithio gyda Hyfforddiant Ceredigion Ehangu’r ddau sefydliad Gwella iechyd a lles y staff Mentrau newydd yn ymwneud â’r Gymraeg Darparu cyfleoedd i gael profiad gwaith/ gwirfoddoli

Canlyniadau Cyfleoedd lleol o ran cyflogaeth Amgylchedd gweithio diogel a dymunol Gweithlu dwyieithog

taiceredigion.cymru

#cartrefigwell

#dyfodoldisglair

8


Rheoli Risg

Trychinebus

5 25

50

75 100 125

Mawr

4 16

32

48

64

80

Arwyddocaol

3

9

18

27

36

45

Bach

2

4

8

12

16

20

Dibwys

1

1 1

2 2

3 3

4 4

5 5

Tebygol

Tebygol iawn

Cyfrifo sgôr risg:

Cytunir ar lefelau parodrwydd i gymryd risg, trwy gofnodi sgôr “darged” a roddir gan y Bwrdd Rheoli ar gyfer pob prif risg unigol, a chaiff y sefyllfa ei hadolygu ym mhob cyfarfod drwy ein cofrestr prif risgiau. Os canfyddir, wrth adolygu un o’r prif risgiau, nad yw o fewn terfynau ein parodrwydd i gymryd risg, caiff camau eu cymryd i roi mesurau rheoli pellach ar waith neu geisio sicrwydd pellach bod y mesurau rheoli a nodwyd yn gweithredu’n effeithiol.

taiceredigion.cymru

Matrics Risg

Posibl

Deddfwriaeth/Polisi Llywodraeth Yr amgylchedd economaidd/ariannol Newid demograffig Grymoedd y farchnad Datblygiadau/Rhaglenni gwaith mawr Peryglon naturiol Twyll a chamgymeriadau Technoleg gwybodaeth

#cartrefigwell

Risg wedi’i lliniaru

Annhebygol

• • • • • • • •

Parodrwydd i gymryd risg

Effaith2 x Tebygolrwydd

#dyfodoldisglair

Annhebygol iawn

Oherwydd ei fod yn sefydliad cymhleth, mae’r grŵp yn cydnabod ei fod yn wynebu risgiau o amrywiaeth eang o ffynonellau sy’n cynnwys y canlynol:

Risg heb ei lliniaru

Effaith

Mae gan y grŵp strategaeth rheoli risg sy’n sicrhau ein bod yn cyflawni ein blaenoriaethau strategol gan adolygu’r heriau a’r risgiau y gallem eu hwynebu. Mae’r grŵp yn defnyddio map risg i nodi’r newidiadau mewn ffactorau mewnol ac allanol a allai newid y tebygolrwydd bod risg sylweddol yn effeithio ar y sefydliad. Mae’r broses mapio risg yn rhan annatod o drefniadau cynllunio busnes a threfniadau gweithredol, a chaiff ei hategu gan gofrestr risg sy’n cynnwys amryw gategorïau, sef risg ariannol, risg o ran llywodraethu a risg o ran gwasanaethau.

Tebygolrwydd

9


Adnoddau Prif nodweddion cyllideb 5 mlynedd Tai Ceredigion yw gwariant cyfalaf ar gynnal Safon Ansawdd Tai Cymru yng nghyswllt ein stoc bresennol o dai, a’n rhaglen ddatblygu fwyaf uchelgeisiol hyd yma sy’n ymwneud ag ychydig dros 100 eiddo. Caiff y gwariant cyfalaf hwn ei ariannu gan ein cyfleuster presennol gwerth £35 miliwn a ddarperir gan Fanc Barclays, a’r grant tai cymdeithasol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.

Rhagdybiaethau o Ran y Gyllideb yy Mae incwm o renti wedi cynyddu’n unol â pholisi Llywodraeth Cymru er mwyn cyd-fynd â’r rhent targed. yy Tybir bod eiddo gwag yn gyfwerth â 2% a bod drwg-ddyledion yn gyfwerth â rhwng 1.5% a 3% o incwm o renti dros y cyfnod o bum mlynedd, yn unol â disgwyliadau canlyniadau Diwygio Lles, a Chredyd Cynhwysol yn enwedig. yy Mae costau gweithredol wedi cael eu hadolygu’n llawn, a darparwyd ar eu cyfer. yy Tybiwyd bod cyfraddau llog ar gyfleusterau LIBOR presennol yn 1.5% ar gyfer 2018/19 ac y byddant yn codi i 5% ar gyfer blwyddyn 5. yy Mae Tai Ceredigion wedi tybio na fydd eiddo’n cael ei werthu. yy Mae’r gyllideb 5 mlynedd wedi’i hymgorffori yng nghynllun busnes ariannol 30 mlynedd y Gymdeithas, ac mae wedi bod yn destun profion straen er mwyn sicrhau ei bod yn gallu ymdopi â newidiadau mewn rhagdybiaethau neu effeithiau risgiau. taiceredigion.cymru

#cartrefigwell

#dyfodoldisglair

10


Datganiad Ynghylch Incwm Hollgynhwysol 2018/19

2019/20

2020/21

2021/22

2022/23

Cyllideb

Rhagolwg

Rhagolwg

Rhagolwg

Rhagolwg

£000

£000

£000

£000

£000

11,873

12,153

12,479

12,769

13,166

Costau gweithredol

(3,849)

(3,943)

(4,060)

(4,181)

(4,305)

Atgyweirio a chynnal a chadw

(3,178)

(3,277)

(3,379)

(3,485)

(3,594)

Gwariant arall

(2,948)

(2,969)

(3,233)

(3,499)

(3,711)

Gwarged/(Diffyg) gweithredu

1,898

1,964

1,807

1,604

1,555

Llog a dderbynnir ac incwm arall

632

640

687

710

733

(1,452)

(1,625)

(1,810)

(2,006)

(2,073)

1,078

979

684

308

216

Trosiant Rhent net a thaliadau gwasanaeth

Gweithgareddau gweithredu

Llog a delir a thaliadau tebyg

Gwarged/(Diffyg) ar gyfer y flwyddyn

taiceredigion.cymru

#cartrefigwell

#dyfodoldisglair

11


Datganiad Ynghylch Sefyllfa Ariannol 2018/19

2019/20

2020/21

2021/22

2022/23

Cyllideb

Rhagolwg

Rhagolwg

Rhagolwg

Rhagolwg

£000

£000

£000

£000

£000

56,003

60,701

64,245

66,081

65,923

802

803

812

831

856

Dyledwyr

17,195

13,332

9,440

5,421

2,223

Credydwyr: Yn ddyledus cyn pen blwyddyn

(4,443)

(4,444)

(4,444)

(3,230)

(2,429)

Asedau cyfredol net

12,752

8,888

4,996

2,191

(206)

(59,248)

(59,104)

(58,080)

(56,822)

(54,076)

10,309

11,288

11,973

12,281

12,497

10,309

11,288

11,973

12,281

12,497

Asedau sefydlog Tai namyn dibrisiant Asedau sefydlog eraill

Asedau cyfredol

Credydwyr: Yn ddyledus ar ôl blwyddyn Cyfanswm

Cronfeydd wrth gefn

taiceredigion.cymru

#cartrefigwell

#dyfodoldisglair

12


Rhagolwg Llif Arian 2018/19

2019/20

2020/21

2021/22

2022/23

Cyllideb

Rhagolwg

Rhagolwg

Rhagolwg

Rhagolwg

£000

£000

£000

£000

£000

Gwarged

1,078

979

684

308

216

Adychwanegu dibrisiant

2,662

2,714

2,980

3,248

3,461

Adychwanegu amorteiddiad

(238)

(239)

(278)

(294)

(310)

Cyfanswm

4,768

3,454

3,386

3,262

3,367

Rhaglen gwaith cyfalaf

(5,257)

(4,911)

(4,972)

(5,132)

(4,343)

Costau datblygu

(5,464)

(3,732)

(2,750)

(2,354)

(859)

(162)

(130)

(134)

(138)

(142)

(10,883)

(8,773)

(7,856)

(7,624)

(5,344)

1,600

1,600

1,600

1,600

1,600

591

0

0

0

0

3,924

3,720

2,870

2,762

377

Balans agoriadol - cyfrif benthyciad

(20,000)

(23,924)

(27,644)

(30,514)

(33,276)

Balans cau - cyfrif benthyciad

(23,924)

(27,644)

(30,514)

(33,276)

(33,653)

Llif arian gweithredu

Gwariant cyfalaf

Costau eraill o ran cyfalaf Cyfanswm

Incwm a gwariant arall Gwaddol Llywodraeth Cymru Grantiau eraill

Gofyniad cyllido

taiceredigion.cymru

#cartrefigwell

#dyfodoldisglair

13


Datganiad Ynghylch Incwm Hollgynhwysol 2018/19

2019/20

2020/21

2021/22

2022/23

Cyllideb

Rhagolwg

Rhagolwg

Rhagolwg

Rhagolwg

£000

£000

£000

£000

£000

Rhent

339

348

355

361

367

Grant

641

641

641

640

639

Arall

162

169

175

182

189

Costau staff

(587)

(589)

(591)

(593)

(594)

Costau safleoedd

(393)

(397)

(402)

(407)

(412)

(35)

(34)

(23)

(21)

(21)

(112)

(112)

(113)

(113)

(112)

Gwarged/(Diffyg) gweithredu

15

26

42

49

56

Llog a delir a thaliadau tebyg

(12)

(12)

(11)

(10)

(10)

3

14

31

39

46

Trosiant

Costau gweithredu

Costau swyddfeydd Gorbenion prosiectau/costau eraill

Gwarged/(Diffyg) ar gyfer y flwyddyn

taiceredigion.cymru

#cartrefigwell

#dyfodoldisglair

14


Datganiad Ynghylch Sefyllfa Ariannol 2018/19

2019/20

2020/21

2021/22

2022/23

Cyllideb

Rhagolwg

Rhagolwg

Rhagolwg

Rhagolwg

£000

£000

£000

£000

£000

366

352

338

324

310

46

38

30

23

19

Dyledwyr

159

194

245

303

340

Credydwyr: Yn ddyledus cyn pen blwyddyn

(60)

(50)

(50)

(50)

(50)

99

144

195

253

290

(295)

(283)

(272)

(261)

(250)

216

251

291

339

369

216

251

291

339

369

Asedau sefydlog Tai namyn dibrisiant Asedau sefydlog eraill

Asedau cyfredol

Asedau cyfredol net Credydwyr: Yn ddyledus ar ôl blwyddyn Cyfanswm

Cronfeydd wrth gefn

taiceredigion.cymru

#cartrefigwell

#dyfodoldisglair

15


Rhagolwg Llif Arian 2018/19

2019/20

2020/21

2021/22

2022/23

Cyllideb

Rhagolwg

Rhagolwg

Rhagolwg

Rhagolwg

£000

£000

£000

£000

£000

1,143

1,157

1,170

1,182

1,195

(1,127)

(1,132)

(1,128)

(1,133)

(1,139)

16

25

42

49

56

23

23

21

21

18

(12)

(12)

(11)

(10)

(10)

11

11

10

11

8

(13)

0

0

0

0

(13)

0

0

0

0

50

86

138

198

262

Arian ar ddechrau’r flwyddyn 31/03/18: £36,000 Incwm gweithredu Gwariant gweithredu

Gwarged/(Diffyg) gweithredu Adychwanegu dibrisiant Taliadau llog

Cyfanswm Gweithgareddau buddsoddi Gwariant cyfalaf

Cyfanswm Cyfrif banc – balans ar ddiwedd y flwyddyn

taiceredigion.cymru

#cartrefigwell

#dyfodoldisglair

16


Dangosyddion Perfformiad Allweddol I gyd-fynd â’n blaenoriaethau strategol, mae gan y grŵp gyfres o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol i fonitro perfformiad. Caiff rhai o’r prif ddangosyddion a’r prif dargedau ar gyfer 2018/19 eu rhestru isod: Tai Cymdeithas Ceredigion Gofal Dangosydd Perfformiad Allweddol

Targed

Targed

Ôl-ddyledion presennol tenantiaid

1.2%

5%

Canran trosiant stoc (bob blwyddyn)

10%

10%

Canolfannau galw - y galwadau a atebwyd

98%

Amherthnasol

97.5%

Amherthnasol

69

Amherthnasol

Absenoldeb oherwydd salwch

3.9%

4%

Gwasanaethau sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg

100%

100%

14

14

Atgyweirio – Tasgau a gwblhawyd o fewn y targed – Brys (24 awr) Cyfartaledd effeithlonrwydd ynni’r stoc o dai cymdeithasol (Sgôr y Weithdrefn Asesu Safonol)

Cyfartaledd nifer y diwrnodau a gymerir i ailosod eiddo anghenion cyffredinol

Caiff y Dangosyddion Perfformiad Allweddol hyn eu monitro gan y ddau Fwrdd a’r ddau Dîm Gweithredol a chânt eu hategu gan ddangosyddion perfformiad gweithredol a reolir gan ein Tîm Rheoli Gweithredol. taiceredigion.cymru

#cartrefigwell

#dyfodoldisglair

17


Rhiant-Fwrdd Tai Ceredigion

Karen Oliver

John Jenkins

Cadeirydd

Stephen Cripps

Is-gadeirydd Cyfetholedig

Peter Saunders

Annibynnol

Peter Deakin Tenant

Cadwgan Thomas

Annibynnol

Catherine Shaw Tenant

taiceredigion.cymru

Annibynnol

John Rees

Cyfetholedig

#cartrefigwell

Cyngh. Catrin Miles

Enwebwyd gan y Cyngor

Cyngh. Dafydd Edwards Cyngh. Lynford Thomas

#dyfodoldisglair

Enwebwyd gan y Cyngor

Enwebwyd gan y Cyngor

18


Is-Fwrdd y Gymdeithas Gofal

Catherine Shaw

Peter Saunders

Stephen Cripps

John Rees

Anthony Hearn

Robert Gray

Charles Symons

Tony Kitchen

Is-gadeirydd

Cadeirydd

Selio’r Dogfennau

taiceredigion.cymru

#cartrefigwell

#dyfodoldisglair

19


Y Tîm Gweithredol

Steve Jones

Prif Weithredwr Grŵp Tai Ceredigion

Eleri Jenkins

Cyfarwyddwr Tai a Chymorth

• Graddiodd o Brifysgol Sheffield Hallam gyda gradd BA (Anrh.) mewn Astudiaethau Tai • Mae’n gweithio ym maes tai ers 35 mlynedd • Cafodd ei benodi’n Brif Weithredwr cyntaf Tai Ceredigion yn 2009 • Arweiniodd Tai Ceredigion drwy’r broses o drosglwyddo stoc o Gyngor Sir Ceredigion • Bu’n Gyfarwyddwr Grŵp Gwasanaethau Cymunedol i Grŵp Tai Pennaf • Mae’n aelod gwirfoddol o’r elusen Digartref ar Ynys Môn ers 2009 • Mae’n siarad Cymraeg yn rhugl • Mae ganddi 35 mlynedd o brofiad o weithio ym mhob agwedd ar reoli tai • Bu’n gweithio’n flaenorol ym maes llywodraeth leol a chyda Cymdeithas Tai Cantref • Mae yn ei swydd bresennol ers trosglwyddo’r stoc yn 2009 • Mae’n weithiwr proffesiynol uchel ei pharch ym maes tai yn y gorllewin ac mae’n un o Gymrodyr y Sefydliad Tai Siartredig • Mae’n arwain gwaith ym maes cynnwys tenantiaid a chyfranogiad tenantiaid • Mae’n siarad Cymraeg yn rhugl

Llŷr Edwards

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo

• Mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad o weithio ym maes tai • Enillodd radd mewn Technoleg Adeiladu a Rheoli • Mae yn ei swydd bresennol ers trosglwyddo’r stoc yn 2009 • Bu’n cynllunio, yn rheoli ac yn goruchwylio’n llwyddiannus y broses o gwblhau’r gwaith a oedd yn ymwneud â Safon Ansawdd Tai Cymru • Mae ar hyn o bryd yn arwain cynlluniau datblygu Tai Ceredigion • Mae’n siarad Cymraeg yn rhugl • Mae ganddi 10 mlynedd o brofiad o weithio ym maes cyllid yn y sector cyhoeddus • Mae’n Gyfrifydd Siartredig • Symudodd o Gyngor Sir Ceredigion i Tai Ceredigion • Cafodd ei phenodi’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol ym mis Mawrth 2016

Kate Curran

• Mae’n un o Ymddiriedolwyr Age Cymru Ceredigion

Cyfarwyddwr Gwasanaethau • Mae wrthi’n dysgu Cymraeg Corfforaethol

• Mae ganddo 18+ mlynedd o brofiad o weithio ym maes tai a chymorth • Enillodd radd MSc mewn Rheolaeth (Menter Gymdeithasol, Arloesi a Chreadigrwydd)

Guy Evans

Cyfarwyddwr Gweithredol Cymdeithas Gofal taiceredigion.cymru

• Mae’n un o Ymddiriedolwyr Tir Coed • Mae’n siarad Cymraeg yn rhugl #cartrefigwell

#dyfodoldisglair

20


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.