Crynodeb Gweithredol Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, rydym yn dal i sicrhau bod ein cynlluniau busnes wedi’u seilio ar ddealltwriaeth gadarn o’r amgylchedd gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol sy’n newid yn barhaus. Rydym ar hyn o bryd yn disgwyl i Adolygiad Llywodraeth Cymru o Dai Fforddiadwy gael ei gyhoeddi, sydd i fod i ddigwydd ym mis Mai eleni, a byddwn yn ystyried ei effaith o safbwynt Tai Ceredigion wrth i ni symud yn ein blaen. Ein gweledigaeth o hyd, wrth i ni nesáu at ein pen-blwydd yn 10 oed, yw bod yn landlord ac yn gyflogwr dwyieithog o’r radd flaenaf, sy’n rhoi ei denantiaid yn gyntaf, sy’n darparu cartrefi o safon a gaiff eu rheoli’n dda, ac sy’n sicrhau budd i gymunedau a’r economi leol. Mae’r ymrwymiad hwn yn golygu ein bod yn cydnabod anghenion amrywiol o ran tai a manteision creu cymunedau cydnerth a chryf, a’n bod yn cydnabod y bydd gweithio mewn partneriaeth ac yn gydweithredol yn helpu i wella ac ehangu canlyniadau. Fel sefydliad mae’r hyn yr ydym yn ei gynllunio ac yn ei gyflawni wedi’i seilio ar lywodraethu cadarn, sefydlogrwydd ariannol, effeithlonrwydd gwell a gwerth am arian. Rydym yn dal i wella ein prosesau caffael ac rydym yn bwriadu buddsoddi mewn systemau TG newydd er mwyn sicrhau bod ein TG yn diwallu anghenion y busnes wrth iddo dyfu. Byddwn yn ystyried y systemau y mae sefydliadau eraill yn eu defnyddio, a byddwn yn dysgu o’u profiadau nhw. Ers mis Ionawr 2018, mae Tai Ceredigion wedi bod yn gweithio gyda Tai Canolbarth Cymru er mwyn ymchwilio i amryw opsiynau a fyddai’n ei gwneud yn bosibl cydweithredu’n fwy helaeth yn rhanbarthol. Erbyn hyn mae’r ddau Fwrdd wedi ystyried achos busnes amlinellol, ac wedi cytuno i gomisiynu gwaith ar achos busnes llawn ym mis Hydref 2019 gyda’r bwriad o uno’r ddau sefydliad. Rydym wedi bod yn rhoi’r manylion diweddaraf i’n holl randdeiliaid wrth i’r cydweithredu hwn ddatblygu. Mae’r ddau Brif Weithredwr wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd â thenantiaid y ddau sefydliad mewn cyfarfodydd a ta iceredigio n .c ymru
gynhaliwyd ar y cyd, er mwyn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â nhw ac ateb cwestiynau. Mae llythyrau newyddion rheolaidd i staff yn sicrhau bod ein gweithwyr yn cael y manylion diweddaraf a’u bod yn rhan o’r broses. Rydym wedi ymrwymo i wrando ar ein tenantiaid, ac fel Bwrdd rydym yn dal i weithio gyda Grŵp Monitro Tenantiaid Tai Ceredigion, sy’n grŵp annibynnol. Rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad a gwaith craffu’r Grŵp, sy’n sicrhau mai’r materion sydd o bwys i’n cwsmeriaid sy’n llywio ein cynlluniau busnes a’r camau a gymerir i wella perfformiad gwasanaethau. Rydym yn dal i fuddsoddi yn ein cartrefi presennol ac yn dal i gaffael safleoedd datblygu yng Ngheredigion ac mewn siroedd cyfagos. Rydym yn dal i gynnal Safon Ansawdd Tai Cymru. Rydym yn bwriadu cyflawni gwaith i wella ein hystadau, lle bo angen, a gwella ein hôl troed carbon. Pryd bynnag y bo modd rydym yn defnyddio ein tîm mewnol ein hunain o grefftwyr, sef MEDRA, ac rydym yn dal i ddefnyddio contractwyr lleol. Rydym yn bwriadu cynyddu nifer y prentisiaethau a gynigir gennym, ac rydym yn bwriadu adeiladu cyfleusterau yn Llanbedr Pont Steffan a fydd yn cynnwys swyddfeydd i elusennau bach a chyfleusterau hyfforddi. Mae’r cynlluniau hyn yn ein helpu i chwarae rhan yn y gwaith o hybu cymunedau cynaliadwy a darparu cyfleoedd o ran cyflogaeth. Cafodd ein pedwerydd Arolwg o Fodlonrwydd Tenantiaid ei gynnal yn ystod chwarter olaf 2018-19. Mae’n bleser gennym nodi bod 52% o’n tenantiaid wedi ymateb i’r arolwg. Bydd y canlyniadau’n cael eu dadansoddi yn ystod 2019-20 a byddant yn cael eu defnyddio i wella’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu. Mae datblygiad staff yn bwysig i ni, a bydd buddsoddi mewn systemau newydd ar gyfer Adnoddau Dynol a’r gyflogres yn ystod 2019/20 yn helpu o ran hynny.
# c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
2
Crynodeb Gweithredol
parhad
Mae’r Gymdeithas Gofal, a ymunodd â Tai Ceredigion fel is-gwmni ym mis Ebrill 2018, yn darparu gwasanaeth hanfodol o safbwynt helpu i fynd i’r afael â digartrefedd a chynorthwyo grwpiau o gleientiaid agored i niwed ledled y sir. Wrth i bwysau gynyddu ar eu cyllidebau mae awdurdodau lleol yn gosod gwasanaethau ar dendr, e.e. y contract ar gyfer y gwasanaeth Cefnogi Pobl. Fel grŵp rydym am gynorthwyo pobl agored i niwed, a byddwn yn ystyried yn ofalus ac yn llawn y goblygiadau o ran ansawdd a chost sy’n gysylltiedig â darparu cymorth, os byddwn yn cyflwyno tendr am unrhyw gontract. Rydym yn dal i edrych i’r dyfodol a byddwn yn manteisio ar gyfleoedd sy’n dod i’r amlwg, os ydynt yn gwneud synnwyr o ran busnes. Byddwn yn sicrhau bob amser bod y sefydliad yn cael ei lywodraethu’n dda a’i fod mewn sefyllfa ariannol gadarn, fel bod modd i ni gyflawni ein blaenoriaethau strategol. Yn ystod y flwyddyn nesaf, byddwn yn dathlu pen-blwydd Tai Ceredigion yn 10 oed â chyfres o ddigwyddiadau. Penllanw’r digwyddiadau hynny fydd arddangosfa o waith y gymdeithas dai yn ystod y deng mlynedd diwethaf, a fydd i’w gweld yn yr Eisteddfod Genedlaethol pan gaiff ei chynnal yn Nhregaron yn ystod haf 2020.
Steve Jones
Prif Weithredwr Grŵp Tai Ceredigion
Karen Oliver
Cadeirydd Tai Ceredigion
ta iceredigio n .c ymru
# c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
3
Trosolwg TAI CEREDIGION Cymdeithas dai ddielw yw Tai Ceredigion, a grëwyd i dderbyn stoc dai Cyngor Sir Ceredigion. Prif ddiben y corff yw darparu tai fforddiadwy o safon a gwasanaethau cymunedol i bobl sydd mewn angen o ran tai, a sicrhau bod pob eiddo’n cael ei wella er mwyn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru. Cafodd y stoc ei throsglwyddo ar 30 Tachwedd 2009. Fel yn achos pob landlord cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru, mae’r gymdeithas dai wedi’i chofrestru gyda Llywodraeth Cymru a chaiff ei rheoleiddio ganddi. Mae Tai Ceredigion wedi’i gofrestru hefyd dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 ac mae ganddo reolau elusennol. Ei swyddfa gofrestredig yw Uned 4, Parc Busnes Pont Steffan, Llanbedr Pont Steffan ac mae hefyd yn gweithredu o’i swyddfeydd eraill yn Aberystwyth ac Aberteifi. Mae Tai Ceredigion yn rhiant mewn strwythur grŵp lle mae’r Gymdeithas Gofal, sef elusen leol sy’n gweithio ym maes cymorth a digartrefedd, yn is-gwmni iddo.
2,282
o gartrefi rhent
682
o garejis
147
116
o staff gan gynnwys MEDRA (y llafurlu uniongyrchol)
o lesddeiliaid
9
o gynlluniau tai gwarchod ta iceredigio n .c ymru
# c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
4
Trosolwg
parhad
Byddwn hefyd yn parhau â’n rhaglen ddatblygu ar raddfa fach, ac rydym yn bwriadu ychwanegu 76 o gartrefi at ein stoc yn ystod 2019/20. Rydym wedi llwyddo i gael cyllid grant Ewropeaidd a chyllid buddsoddi wedi’i dargedu ar gyfer gwaith adfywio, er mwyn adeiladu canolfan fenter yn Llanbedr Pont Steffan. Bydd y ganolfan yn cynnwys swyddfeydd i elusennau lleol a chwmnïau bach a chanolig eu maint yn ogystal ag ystafell gynadledda/hyfforddi o’r radd flaenaf, a bydd yn helpu i roi hwb i economi’r canolbarth. Yn ystod 2019/20 byddwn hefyd yn gweithredu canlyniadau’r Adolygiad o Dai Fforddiadwy ac yn paratoi ar gyfer y Ddeddf Rhentu Cartrefi, a byddwn yn sicrhau bod modd i denantiaid gynnal eu tenantiaethau ar ôl i Gredyd Cynhwysol gael ei weithredu’n llawn.
EDRYCH I’R DYFODOL Rydym yn sicrhau ein bod yn cyflawni busnes yn ôl yr arfer gyda’n rhaglen gyfalaf uchelgeisiol. Rydym wedi ymrwymo i wario arian ar y stoc bresennol er mwyn darparu cartrefi o safon, sydd hefyd yn effeithlon o ran ynni. Yn ogystal, mae nifer o brosiectau cyfalaf ychwanegol yn yr arfaeth:
Gwella cyfleusterau parcio ar ystadau
Gosod lifftiau newydd mewn cynlluniau tai gwarchod
Gwella ardaloedd cyffredin mewn cynlluniau tai gwarchod
Gosod systemau ffotofoltäig ar 150 o gartrefi
Gwella ein meysydd chwarae
ta iceredigio n .c ymru
# c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
5
Blaenoriaeth Strategol 1 GWEITHREDOEDD Gweithredu argymhellion yr Adolygiad o Dai Fforddiadwy
ADNODDAU
Staff, cyllidebau, ymgynghori â rhanddeiliaid
CANLYNIADAU
GWEITHREDOEDD Parhau i fod yn barod ar gyfer proses uno
“Bod yn landlord dwyieithog ardderchog sy’n cynnwys ei denantiaid a’ i gwsmeriaid ar bob lefel, gyda phwyslais ar gynnal tenantiaethau a gwella’n barhaus.”
ADNODDAU
Staff, ymgynghorwyr, cyllidebau, ymgynghori â rhanddeiliaid
CANLYNIADAU
Mwy o dai fforddiadwy ar gael, polisi rhent cynaliadwy, cartrefi carbon isel
Yn fusnes sy’n gryfach yn ariannol, sy’n fwy cydnerth ac sydd â gweledigaeth glir ar gyfer rhanbarth Tyfu Canolbarth Cymru
RISGIAU
Costau uwch, Brexit, grant tai cymdeithasol yn cael ei golli neu’i leihau
GWEITHREDOEDD
Cyflwyno tendrau am gontractau Cefnogi Pobl
RISGIAU
Gorymestyn Tai Ceredigion, niwed i’w enw da, gwrthwynebiad gan y tenantiaid
GWEITHREDOEDD
Bwrw ymlaen â phrosiect y ganolfan fenter - Canolfan Dulais
ADNODDAU
Cyllid, grantiau, staff, rhanddeiliaid
CANLYNIADAU
Canolfan fenter yn y canolbarth, a fydd yn darparu swyddfeydd i elusennau lleol a chwmnïau bach a chanolig eu maint ac a fydd yn rhoi hwb i’r economi leol; mwy o weithio mewn partneriaeth
RISGIAU
Y prosiect yn methu oherwydd diffyg hyfywedd ariannol, neu oherwydd colled am fod yr eiddo’n wag
ADNODDAU
Staff, Grŵp Monitro Tai Ceredigion, ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth
CANLYNIADAU
Gwasanaeth da parhaus i’r tenantiaid, staff presennol yn cael eu cadw
RISGIAU
Gwasanaeth yn cael ei symud i ddarparwr arall ac yn golygu bod y gwasanaeth o safon is ta iceredigio n .c ymru
GWEITHREDOEDD
Caffael a gweithredu system newydd ar gyfer rheoli tai
ADNODDAU
Staff, ymgynghorwyr, cyllideb, rheoli newid
CANLYNIADAU
Dulliau gweithio sy’n fwy effeithlon
RISGIAU
Data’n cael ei golli, pwysau ar y staff, amharodrwydd i newid
# c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
6
Blaenoriaeth Strategol 2 GWEITHREDOEDD Cynnal Safon Ansawdd Tai Cymru
ADNODDAU
Staff, grantiau, data cywir o safon, cyllidebau
“Cynnal nifer y cartrefi presennol o safon, a chynyddu eu nifer, mewn cymunedau cynaliadwy.”
GWEITHREDOEDD
Cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy
CANLYNIADAU
Cartrefi diogel o safon, tenantiaethau’n cael eu cynnal, amgylchedd byw sy’n well
GWEITHREDOEDD Gwella’r modd y caiff ystadau eu rheoli
Grant tai cymdeithasol, staff, tir, contractwyr, cyllideb, prynu anheddau presennol
CANLYNIADAU
Cyrraedd targed Llywodraeth Cymru, sef 20,000 o gartrefi
RISGIAU
Costau cyfalaf uwch, Brexit, absenoldeb contractwyr
ADNODDAU
RISGIAU
Llai o grant, gwrthwynebiad lleol, costau uwch yn arwain at ddiffyg hyfywedd ariannol
ADNODDAU
Staff, cyllidebau, gwybodaeth am iechyd a diogelwch
CANLYNIADAU
GWEITHREDOEDD Ad-drefnu’r stoc
ADNODDAU
Staff, cyllidebau, gwybodaeth am yr ardal leol
CANLYNIADAU
Cymunedau y mae pobl am fyw ynddynt, ystadau diogel, enw da, cydymffurfio â gofynion o ran iechyd a diogelwch
Stoc ychwanegol, llai o eiddo gwag y mae’n anodd ei osod
RISGIAU
Llai o stoc, gwaith ychwanegol i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru
RISGIAU
Pobl yn llithro, yn baglu neu’n cwympo, eiddo mewn cyflwr gwael/hawliadau yswiriant ta iceredigio n .c ymru
# c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
7
Blaenoriaeth Strategol 3 GWEITHREDOEDD Adolygu dulliau’r sefydliad o lywodraethu a chael sicrwydd
ADNODDAU
Staff, aelodau’r bwrdd, archwilwyr mewnol, Llywodraeth Cymru, rheolwr rheoleiddio
“Bod yn fusnes cadarn a hyfyw o safbwynt ariannol, sy’n cyflawni ei fusnes gyda gonestrwydd ac integriti gan lywodraethu’n gadarn.”
GWEITHREDOEDD
Parhau i wella gwaith caffael ar draws y sefydliad
ADNODDAU
Staff, polisïau a gweithdrefnau, hyfforddiant
CANLYNIADAU
Mwy o werth am arian, manteision cymunedol
CANLYNIADAU
Llywodraethu da, cydymffurfio â gofynion rheoleiddio
RISGIAU
Methu â chydymffurfio â deddfwriaeth
RISGIAU
Aros yn yr unfan os na cheisir gwella’n barhaus
GWEITHREDOEDD Lleihau ôl troed carbon Tai Ceredigion
ADNODDAU
Staff, cyllidebau, hyfforddiant, pwyllgor lleihau carbon
CANLYNIADAU
Sefydliad cynaliadwy, cartrefi digarbon
RISGIAU
Diffyg cefnogaeth, tynnu sylw oddi ar fusnes arferol
ta iceredigio n .c ymru
# c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
8
Blaenoriaeth Strategol 4 GWEITHREDOEDD Gwella proses y sefydliad ar gyfer arfarnu
ADNODDAU
Staff, hyfforddiant, cyllidebau
“Bod yn gyflogwr delfrydol sy’n darparu cyfleoedd lleol o ran cyflogaeth, hyfforddiant a lleoliadau gwaith.”
GWEITHREDOEDD Cyflogi mwy o brentisiaid
CANLYNIADAU
ADNODDAU Cyllidebau, gwasanaeth mentora, hyfforddiant
CANLYNIADAU
Adborth staff, cydberthnasau gwaith sy’n well
Cyfleoedd lleol o ran cyflogaeth, manteision economaidd
RISGIAU
RISGIAU
Amharodrwydd i newid
Dwys o ran llafur
GWEITHREDOEDD
Caffael a gweithredu system newydd ar gyfer Adnoddau Dynol a’r gyflogres
ADNODDAU
Cyllideb, staff, caffael
CANLYNIADAU
Arferion gweithio effeithlon, prosesu diwastraff
RISGIAU
Data’n cael ei golli, diffyg adnoddau
ta iceredigio n .c ymru
# c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
9
Risg a Sicrwydd
Trychinebus
5
25
50
75
100
125
Mawr
4
16
32
48
64
80
Arwyddocaol
3
9
18
27
36
45
Bach
2
4
8
12
16
20
Dibwys
1
1
2
3
4
5
1
2
3
4
5
Annhebygol
Posibl
Tebygol
Tebygol iawn
• Newid demograffig
Effaith2 x Tebygolrwydd
• Grymoedd y farchnad • Datblygiadau/Rhaglenni gwaith mawr
Risg wedi’i lliniaru
Matrics Risg
Cyfrifo sgôr risg:
• Yr amgylchedd economaidd/ariannol
Parodrwydd i gymryd risg
Annhebygol iawn
• Deddfwriaeth/Polisi Llywodraeth
Risg heb ei lliniaru
Effaith
Mae gan Tai Ceredigion strategaeth rheoli risg sy’n sicrhau ein bod yn cyflawni ein blaenoriaethau strategol ond ein bod hefyd yn adolygu’r heriau a’r risgiau y gallem eu hwynebu. Mae Tai Ceredigion yn defnyddio map risg i nodi’r newidiadau mewn ffactorau mewnol ac allanol a allai newid y tebygolrwydd bod risg sylweddol yn effeithio ar y sefydliad. Mae’r broses mapio risg yn rhan annatod o drefniadau cynllunio busnes a threfniadau gweithredol, a chaiff ei hategu gan gofrestr risg sy’n cynnwys amryw gategorïau, sef risg ariannol, risg o ran llywodraethu a risg o ran gwasanaethau. Oherwydd ei fod yn sefydliad cymhleth ym maes tai, mae Tai Ceredigion yn cydnabod ei fod yn wynebu risgiau o amrywiaeth eang o ffynonellau sy’n cynnwys y canlynol:
Tebygolrwydd
• Peryglon naturiol • Twyll a chamgymeriadau • Technoleg gwybodaeth Cytunir ar lefelau parodrwydd Tai Ceredigion i gymryd risg, trwy gofnodi sgôr “darged” a roddir gan y Bwrdd Rheoli ar gyfer pob prif risg unigol, a chaiff y sefyllfa ei hadolygu ym mhob cyfarfod drwy ein cofrestr prif risgiau. Os canfyddir, wrth adolygu un o’r prif risgiau, nad yw o fewn terfynau ein parodrwydd i gymryd risg, caiff camau eu cymryd i roi mesurau rheoli pellach ar waith neu geisio sicrwydd pellach bod y mesurau rheoli a nodwyd yn gweithredu’n effeithiol. ta iceredigio n .c ymru
# c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
10
Risg a sicrwydd
parhad
YNNOL A NNIB LL A AN R T H R R E W Y C R HO O : H : HE L R 3 F F U F I O ME M DY HEO LAET W R 1 : E I T H R E DO H W
L
L
2:
NO
CY
L
4
Mae Tai Ceredigion yn defnyddio’r model “Pedair Llinell Amddiffyn” fel cysyniad. Mae hynny’n rhoi sicrwydd i’r Bwrdd bod cynnydd yn cael ei wneud o safbwynt lliniaru risgiau a chyflawni blaenoriaethau strategol, trwy fod â data cywir, prosesau a mesurau rheoli da a dulliau o gyflwyno adroddiadau er mwyn cynorthwyo’r gwaith o wneud penderfyniadau. Y llinell gyntaf yw’r modd y caiff risgiau eu rheoli o ddydd i ddydd, ac mae’n deillio yn uniongyrchol o blith y sawl sy’n gyfrifol am gyflawni amcanion. Yr ail linell yw’r modd y mae’r sefydliad yn goruchwylio’r fframwaith mesurau rheoli er mwyn sicrhau ei fod yn gweithredu’n effeithiol. Y drydedd linell yw sicrwydd gwrthrychol ac annibynnol, e.e. gan archwilwyr mewnol, a’r bedwaredd linell yw sicrwydd gan gorff allanol sydd wedi’i achredu.
PEDAIR LLINELL AMDDIFFYN
r
usi ew
bo
no
th
n do ol l,
er
a
Ad
og
D r Pe A
dd
a ff n g o s y d d i o d or dr m ia All we n d an w et o d d i a d a u Ari ha an uA n th u rb e n igol, H Rh rM y an ilw dde ilia i d , A rc hw Achr ediad Allanol
l
Sw y
ad
(ac enghreifftiau dangosol)
ta iceredigio n .c ymru
# c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
11
Llywodraethu Rheoleiddiol M a e’ r f f ra m w a i t h r h e o l e i d d i o l a r g y fe r cymdeithasau tai yng Nghymru yn nodi’r safonau perfformiad a bennwyd gan Weinidogion Cymru. Mae pob cymdeithas yn gyfrifol am ddangos i’r rheoleiddiwr ei bod yn cyrraedd y safonau perfformiad, drwy hunanwerthusiad sy’n cynnwys tystiolaeth glir a thrwy ddatganiad cydymffurfio, a gaiff eu gwirio drwy oruchwyliaeth a sicrwydd rheoleiddiol parhaus. Gellir defnyddio dau adnodd fel fframwaith i ddeall beth yw nodweddion llywodraethu da.
1. Pwrpas y sefydliad Mae’r bwrdd yn deall nodau’r sefydliad ac mae’n sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni’n effeithiol ac mewn modd cynaliadwy.
2. Arwain
Caiff pob sefydliad ei arwain gan fwrdd effeithiol sy’n darparu arweinyddiaeth strategol yn unol â nodau a gwerthoedd y sefydliad.
3. Uniondeb
Mae’r bwrdd yn gweithredu gydag uniondeb, gan fabwysiadu gwerthoedd a chreu diwylliant sy’n helpu i gyflawni dibenion y sefydliad. Mae’r bwrdd yn ymwybodol o bwysigrwydd hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd, ac mae aelodau’r bwrdd yn ymgymryd â’u dyletswyddau’n unol â hynny.
COD LLYWODRAETHU CARTREFI CYMUNEDOL CYMRU
4. Gwneud penderfyniadau, risg a rheolaeth
Bwriedir i’r cod fod yn adnodd i hybu gwelliant parhaus. Mae’n egluro egwyddorion ac arferion a argymhellir. Mae gan bob egwyddor ddisgrifiad byr, sail resymegol, canlyniadau allweddol ac arferion a argymhellir. Mae Tai Ceredigion yn dilyn y dull ‘defnyddio ac esbonio’ wrth ymwneud â’r Cod ac mae’n cyhoeddi datganiad yn adroddiad blynyddol y gymdeithas, sy’n esbonio sut y caiff y Cod ei ddefnyddio.
5. Effeithiolrwydd y bwrdd
Mae’r bwrdd yn sicrhau bod ei brosesau gwneud penderfyniadau wedi’u seilio ar wybodaeth a’u bod yn drwyadl ac yn amserol, ac mae’n sicrhau bod systemau effeithiol ar gyfer dirprwyo, cynnal rheolaeth, ac asesu a rheoli risg yn cael eu sefydlu a’u monitro. Mae’r bwrdd yn gweithio fel tîm effeithiol gan ddefnyddio’r cydbwysedd priodol o sgiliau, profiad, cefndiroedd a gwybodaeth i wneud penderfyniadau deallus.
6. Amrywiaeth
Mae dull y bwrdd o ymdrin ag amrywiaeth yn hybu ei effeithiolrwydd, ei arweinyddiaeth a’i brosesau gwneud penderfyniadau.
7. Bod yn agored ac yn atebol
Mae’r bwrdd yn arwain y sefydliad o safbwynt bod yn dryloyw ac yn atebol. Mae’r sefydliad yn gweithio’n agored oni bai bod rheswm da iddo beidio â bod yn agored.
ta iceredigio n .c ymru
# c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
12
Llywodraethu Rheoleiddiol
parhad
Y PETHAU IAWN Fframwaith lefel uchel yw Y Pethau Iawn, y bwriedir iddo fod yn fframwaith dangosol yn hytrach na chyfarwyddol. Gellir ei ddefnyddio i ysgogi hunanfyfyrio a hunanwerthuso oddi mewn i gymdeithasau, a rhwng y rheoleiddiwr a chymdeithasau. Bydd Tai Ceredigion yn myfyrio ynghylch y fframwaith yn ogystal â’r Cod Llywodraethu a bydd yn ceisio parhau i gyflawni ei flaenoriaethau strategol gan lywodraethu’n effeithiol.
n
ob
l ia
Arweinyddiaeth/ annibyniaeth Gwaith tîm/rapport Amrywiaeth Cydnawsedd diwyllianol Rôl tenantiaid a rhanddeiliaid eraill Sgiliau hanfodol/profiad/meddylfryd Recriwtio, arfarnu a chynllunio olyniaeth
y pe
Gweledigaeth a strategaeth a berchenogir gan y Bwrdd Gwerthoedd Hyfywedd ariannol Moeseg Rheoli risg ac awydd i fentro Cydymffurfiaeth Diwylliant Perfformiad Cyfrifoldeb Sicrwydd cyfunol/colegol Barn cwsmeriaid Ymddygiadau adeiladol Gwerth am arian Strwythur sefydliadol Systemau, prosesau a data Dull cydreoleiddiol Tystiolaeth (i gefnogi a dogfennu penderfyniadau)
Gw
ne
n iaw
ud
au Am y rhesym
Y Pethau Iawn
thau iawn
Gwybodus Cysylltiedig Ymatebol Ystwyth Cyflymder
Yb
n
Ar
ra
de
aw gi
w
y
Gweledigaeth ar gyfer Llywodraethu Da
Yn y ff ordd iawn ta iceredigio n .c ymru
# c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
13
Adnoddau RHAGDYBIAETHAU O RAN Y GYLLIDEB Prif nodweddion y gyllideb 5 mlynedd yw gwariant cyfalaf ar gynnal Safon Ansawdd Tai Cymru yng nghyswllt ein stoc bresennol o dai, a’n rhaglen ddatblygu fwyaf uchelgeisiol hyd y m a s y ’n y m w n e u d â t h ro s 1 0 0 eiddo. Caiff y gwariant cyfalaf hwn ei ariannu gan ein cyfleuster p re s e n n o l g w e r t h £ 3 5 m i l i w n a ddarperir gan Fanc Barclays, a’r grant tai cymdeithasol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.
• Mae incwm o renti wedi cynyddu’n unol â pholisi Llywodraeth Cymru er mwyn cyd-fynd â’r rhent targed. • Tybir bod eiddo gwag yn gyfwerth â 2% a bod drwg-ddyledion yn gyfwerth â rhwng 1.5% a 2% o incwm o renti dros y cyfnod o bum mlynedd, yn unol â disgwyliadau canlyniadau Diwygio Lles, a Chredyd Cynhwysol yn enwedig. • Mae costau gweithredol wedi cael eu hadolygu’n llawn, a darparwyd ar eu cyfer. • Tybiwyd bod cyfraddau llog ar gyfleusterau LIBOR presennol yn 1.5% ar gyfer 2019/20 ac y byddant yn codi i 4% ar gyfer blwyddyn 5. • Mae Tai Ceredigion wedi tybio na fydd eiddo’n cael ei werthu. • Mae’r gyllideb 5 mlynedd wedi’i hymgorffori yng nghynllun busnes ariannol 30 mlynedd y gymdeithas, ac mae wedi bod yn destun profion straen er mwyn sicrhau ei bod yn gallu ymdopi â newidiadau mewn rhagdybiaethau neu effeithiau risgiau.
Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad Allweddol
Targed 2019/20
Ôl-ddyledion presennol tenantiaid
1.20%
Stoc sy’n wag
0.83%
Cyfartaledd nifer y diwrnodau a gymerir i ailosod eiddo anghenion cyffredinol Canolfannau galw - y galwadau a atebwyd
14 98.00%
Atgyweirio - Bodlonrwydd cyffredinol cwsmeriaid
99%
Atgyweirio adweithiol - Tasgau a gwblhawyd o fewn y targed - Brys (24 awr) Cyfartaledd effeithlonrwydd ynni’r stoc o dai cymdeithasol (Sgôr y Weithdrefn Asesu Safonol)
97.50% 69
Absenoldeb oherwydd salwch
3.90%
Gwasanaethau sydd ar gael yn ddwyieithog
100%
ta iceredigio n .c ymru
# c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
14
Datganiad ynghylch Incwm Hollgynhwysol 2019/20
2020/21
2021/22
2022/23
2023/24
Cyllideb
Rhagolwg
Rhagolwg
Rhagolwg
Rhagolwg
£’000
£’000
£’000
£’000
£’000
12,497
12,755
13,070
13,548
13,952
Costau gweithredol
(3,898)
(3,982)
(4,089)
(4,199)
(4,312)
Atgyweirio a chynnal a chadw
(3,154)
(3,325)
(3,416)
(3,509)
(3,606)
Gwariant arall
(3,249)
(3,448)
(3,673)
(3,922)
(4,188)
2,196
2,001
1,892
1,918
1,846
642
652
661
670
674
Trosiant Rhent net a thaliadau gwasanaeth Gweithgareddau gweithredu
Gwarged gweithredu Llog a dderbynnir ac incwm arall Llog a delir a thaliadau tebyg Gwarged ar gyfer y flwyddyn
ta iceredigio n .c ymru
(1,473)
(1,564)
1,365
1,088
# c a r tref igwell
(1,692) 861
# dyfo doldis glair
(1,872) 715
(1,985) 534
15
Datganiad ynghylch Sefyllfa Ariannol 2019/20
2020/21
2021/22
2022/23
2023/24
Cyllideb
Rhagolwg
Rhagolwg
Rhagolwg
Rhagolwg
£’000
£’000
£’000
£’000
£’000
62,971
68,623
74,529
78,463
80,522
1,352
1,328
1,312
1,304
1,302
Dyledwyr
18,163
14,521
10,902
7,156
4,470
Credydwyr: Yn ddyledus cyn pen blwyddyn
(2,746)
(2,746)
(3,010)
(3,391)
(3,391)
Asedau cyfredol net
15,417
11,775
7,892
3,765
1,079
(66,557)
(67,455)
(68,601)
(67,685)
(66,522)
13,183
14,271
15,132
15,847
16,381
13,183
14,271
15,132
15,847
16,381
Asedau sefydlog Tai namyn dibrisiant Asedau sefydlog eraill Asedau cyfredol
Credydwyr: Yn ddyledus ar ôl blwyddyn Cyfanswm Cronfeydd wrth gefn
ta iceredigio n .c ymru
# c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
16
Rhagolwg Llif Arian 2019/20
2020/21
2021/22
2022/23
2023/24
Cyllideb
Rhagolwg
Rhagolwg
Rhagolwg
Rhagolwg
£’000
£’000
£’000
£’000
£’000
Llif arian gweithredu Arian parod a ddygwyd ymlaen
500
Gwarged
1,366
1,088
861
715
534
Adychwanegu dibrisiant
3,017
3,245
3,470
3,718
3,984
Adychwanegu amorteiddiad
(300)
Cyfanswm
(305)
(309)
(313)
(314)
4,583
4,028
4,021
4,120
4,204
Rhaglen gwaith cyfalaf
(5,462)
(4,793)
(4,944)
(5,100)
(5,261)
Costau datblygu
(2,774)
(3,521)
(3,730)
(1,734)
(1,538)
(703)
(110)
(114)
(117)
(120)
(8,939)
(8,424)
(8,788)
(6,951)
(6,920)
1,600
1,600
1,600
1,600
1,600
722
370
0
0
0
2,034
2,426
3,166
1,231
1,115
Gwariant cyfalaf
Costau eraill o ran cyfalaf Cyfanswm Incwm a gwariant arall Gwaddol Llywodraeth Cymru Grantiau eraill Gofyniad cyllido Cyfrif benthyciad – balans ar ddechrau’r flwyddyn
(22,000)
(24,034)
(26,460)
(29,626)
(30,858)
Cyfrif benthyciad – balans ar ddiwedd y flwyddyn
(24,034)
(26,460)
(29,626)
(30,858)
(31,973)
ta iceredigio n .c ymru
# c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
17
Crynodeb Gweithredol Cyn bo hir bydd y Gymdeithas Gofal - elusen leol adnabyddus sydd wedi hen ennill ei phlwyf - yn bodoli ers hanner can mlynedd, ac mae’n parhau i ddarparu gwasanaethau hyblyg sy’n helpu i gyflawni ein blaenoriaethau elusennol a sicrhau manteision cymunedol. Erbyn hyn mae’r Gymdeithas Gofal wedi dechrau ar ei hail flwyddyn fel is-gwmni elusennol i Tai Ceredigion, yn dilyn proses uno lwyddiannus i greu strwythur grŵp. Mae’r uno wedi gwella’r seilwaith gweithredol, gweithdrefnau llywodraethu, arbedion effeithlonrwydd a sefyllfa ariannol y Gymdeithas Gofal. Wrth symud ymlaen, bydd hynny’n darparu llwyfan i: • Ddatblygu a gwella gwasanaethau cymorth, tai a digartrefedd presennol, gyda’r bwriad o gynyddu’r graddau y mae llety ar gael a lleihau digartrefedd. • D a t b l yg u g w a s a n a e t h a u d w y i e i t h o g n e w yd d i ddiwallu anghenion cyfnewidiol pobl agored i niwed, o bob oed a phob cefndir, sy’n byw ym mhob rhan o gefn gwlad y canolbarth.
Mae’r Gymdeithas Gofal wedi ymrwymo o hyd i fod yn sefydliad blaengar ac yn gyflogwr delfrydol. Yn ystod 2019/20, bydd hynny’n golygu darparu cyfleoedd o ran hyfforddiant a buddsoddi yn setiau sgiliau ein gweithwyr a’n gwirfoddolwyr, y mae pob un ohonynt yr un mor angerddol â ni ynghylch hybu cynhwysiant cymdeithasol a darparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n buddiolwyr.
• Gwella safonau, sicrhau cydymffurfiaeth a darparu gwasanaethau o safon sydd wedi’u hachredu. • Adeiladu ar gysylltiadau strategol cryf â sefydliadau a mudiadau ym mhob rhan o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. • Cyflawni amcanion strategol blaengar y Gymdeithas Gofal a grŵp Tai Ceredigion fel y nodir ym mhob rhan o’r cynllun busnes hwn.
ta iceredigio n .c ymru
Guy Evans
Cyfarwyddwr Gweithredol Cymdeithas Gofal # c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
Rob Gray
Cadeirydd Cymdeithas Gofal 18
Trosolwg CYMDEITHAS GOFAL
EDRYCH I’R DYFODOL
Mae’r Gymdeithas Gofal wedi hen ennill ei phlwyf ac yn darparu gwasanaethau tai, digartrefedd a chymorth yn y canolbarth. Mae pob un o’n gwirfoddolwyr a’n 33 aelod o staff ymroddgar yn gweithio mewn prosiectau sy’n cynnwys:
Bydd y Gymdeithas Gofal yn parhau i weithio gyda Tai Ceredigion, gyda’r bwriad o wella seilwaith gweithredol a pherfformiad a sicrhau cynaliadwyedd ariannol. Nod y Gymdeithas Gofal yw:
• Yr unig ddarpariaeth o ran lloches nos yn y canolbarth.
• Dod yn ddarparwr gwasanaeth sy’n deall effaith trawma ar bobl, yn unol â mentrau polisi Llywodraeth Cymru.
• Gwasanaeth llety brys â warden, sy’n cynnwys uned â chymorth ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal/pobl ifanc agored i niwed. • Asiantaeth gosod tai cymdeithasol, yn y stryd fawr, a chynllun bondiau i hwyluso opsiynau o ran llety ar gyfer ein defnyddwyr gwasanaeth yn y sector rhentu preifat. • Y tîm cymorth mwyaf yng Ngheredigion, sy’n cynorthwyo pobl sengl, teuluoedd a phobl anabl yn eu cartrefi ac sy’n cynorthwyo cleientiaid digartref.
• G w e i t h i o g y d a’ r a w d u r d o d l l e o l d r w y ’ r F f r a m w a i t h Partneriaethau Arloesi i ddatblygu a darparu pecynnau gofal sydd wedi’u teilwra. • Cyflwyno tendrau er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau Cefnogi Pobl ledled Ceredigion. • Cynnal prosesau sicrhau ansawdd, gan gynnwys adnewyddu’r achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
• Gwasanaeth cymorth ledled y sir, nad yw’n cael ei reoleiddio, sy’n darparu pecynnau gofal wedi’u teilwra i bobl a gaiff eu hatgyfeirio gan Dîm Cymunedol Anawsterau Dysgu a Thîm Cymunedol Iechyd Meddwl yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol. • Siop elusennol lle’r ydym yn gweithredu cynllun Shopmobility. Mae pob un o’n gwasanaethau yn pwysleisio ein cenhadaeth a’n hamcanion, sef: • Cynorthwyo pobl i wireddu eu holl botensial. • Creu cymunedau cryfach drwy hybu cynhwysiant cymdeithasol er budd y cyhoedd a thrwy atal pobl rhag cael eu hallgáu’n gymdeithasol oherwydd digartrefedd. • Darparu opsiynau o ran tai a llety. ta iceredigio n .c ymru
# c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
19
Blaenoriaeth Strategol 1 GWEITHREDOEDD
Lleihau digartrefedd yng Ngheredigion
ADNODDAU
Grantiau, rhoddion, gweithio mewn partneriaeth, staff, yr awdurdod lleol, Llywodraeth Cymru, eiddo
“Bod yn landlord dwyieithog ardderchog sy’n cynnwys ei denantiaid a’ i gwsmeriaid ar bob lefel, gyda phwyslais ar gynnal tenantiaethau a gwella’n barhaus.”
GWEITHREDOEDD
Cyflwyno tendrau am gontractau Cefnogi Pobl
ADNODDAU
Staff, ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth, yr awdurdod lleol
CANLYNIADAU
Gwasanaeth da parhaus i’r tenantiaid a defnyddwyr gwasanaeth, staff presennol yn cael eu cadw
CANLYNIADAU
Mwy o gartrefi diogel a fforddiadwy ar gael, cymunedau cryfach
RISGIAU
RISGIAU
Gwasanaeth yn cael ei symud i ddarparwr arall ac yn arwain at reolaeth wael, colli gwasanaethau
Llety annigonol, cyllid grant yn cael ei golli neu’i leihau
GWEITHREDOEDD
Ymchwilio i’r posibilrwydd o ddatblygu gwasanaeth gofal cartref cofrestredig
ADNODDAU
Amser staff, dealltwriaeth o ofal cartref, dealltwriaeth ynghylch dechrau busnes newydd, prosiect Canolfan Dulais
CANLYNIADAU
Gwasanaeth a ddarperir yn lleol ar gyfer Ceredigion, staff sydd wedi’u hyfforddi’n dda
RISGIAU
Diffyg dealltwriaeth neu brofiad ym maes gofal cartref, arallgyfeirio’n ormodol sy’n golygu bod gwasanaethau eraill yn crebachu ta iceredigio n .c ymru
# c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
20
Blaenoriaeth Strategol 2 GWEITHREDOEDD
Cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a llety dros dro
ADNODDAU
Grant, staff, tir, contractwyr, cyllideb, prynu’r stoc bresennol yn ôl
“Cynnal nifer y cartrefi presennol o safon, a chynyddu eu nifer, mewn cymunedau cynaliadwy.”
GWEITHREDOEDD Cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth ynghylch iechyd a diogelwch
CANLYNIADAU
ADNODDAU
Staff, cyllidebau, contractwyr, meddalwedd monitro perfformiad
CANLYNIADAU
Galluogi’r sefydliad a’r asiantaeth gosod tai cymdeithasol i dyfu, lleihau digartrefedd yng Ngheredigion
Cartrefi diogel i denantiaid
RISGIAU
Niwed i enw da, dirwyon, risg i iechyd neu fywyd
RISGIAU
Grantiau’n cael eu colli neu’u lleihau
GWEITHREDOEDD
Adolygu pob eiddo a osodir ar brydles
ADNODDAU
Staff, gwybodaeth am yr ardal leol, angen o ran tai
CANLYNIADAU
Cynnydd yn nifer y cartrefi a reolir sy’n fwy hyfyw o safbwynt ariannol
RISGIAU
Gorfod adleoli tenantiaid, colli stoc lle mae angen yn bodoli
ta iceredigio n .c ymru
# c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
21
Blaenoriaeth Strategol 3 GWEITHREDOEDD Adolygu polisïau ar draws y sefydliad cyfan
ADNODDAU
Staff, tanysgrifio i systemau cydymffurfio â safonau ansawdd, polisïau grŵp
“Bod yn fusnes cadarn a hyfyw o safbwynt ariannol, sy’n cyflawni ei fusnes gyda gonestrwydd ac integriti gan lywodraethu’n gadarn.”
GWEITHREDOEDD
Lleihau nifer yr eiddo gwag a lleihau colledion oherwydd drwg-ddyledion yn yr asiantaeth gosod tai cymdeithasol
CANLYNIADAU
ADNODDAU
Staff, hyfforddiant, polisïau, adolygiadau o brosesau
CANLYNIADAU
Sefydliad a gaiff ei lywodraethu’n dda
Lleihau’r incwm a gaiff ei golli, tenantiaethau’n cael eu cynnal
RISGIAU
Polisïau ar waith ond ddim yn cael eu dilyn, diffyg strwythur
RISGIAU
Incwm yn cael ei golli
GWEITHREDOEDD Ymchwilio i ffrydiau incwm ychwanegol sydd ar gael
ADNODDAU
Amser staff, sgiliau gwneud ceisiadau am grant
CANLYNIADAU
Mwy o drosiant, galluogi’r sefydliad i dyfu, mwy o ddarpariaeth o ran gwasanaethau
RISGIAU
Sefydliad sy’n aros yn yr unfan
ta iceredigio n .c ymru
# c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
22
Blaenoriaeth Strategol 4 GWEITHREDOEDD Ennill y marc ansawdd “Buddsoddwyr mewn Pobl”
ADNODDAU
“Bod yn gyflogwr delfrydol sy’n darparu cyfleoedd lleol o ran cyflogaeth, hyfforddiant a lleoliadau gwaith.”
GWEITHREDOEDD
Cyllideb, staff, polisïau a gweithdrefnau
Tyfu fel sefydliad
CANLYNIADAU
ADNODDAU
Cyllideb, staff ychwanegol, grantiau, gweithio mewn partneriaeth, gwirfoddolwyr
CANLYNIADAU
Dod yn gyflogwr delfrydol, mantais wrth gyflwyno tendrau, lles staff yn gwella, cadw staff
Gwasanaethau’n cael eu darparu’n well, cyfleoedd lleol o ran cyflogaeth
RISGIAU
RISGIAU
Gwaith ychwanegol i’r staff, gwrthwynebiad i newid
Tyfu’n rhy gyflym
GWEITHREDOEDD Cynyddu hyfforddiant i staff
ADNODDAU
Prosiect Canolfan Dulais, grantiau, staff, cyllideb
OUTCOMES
Academi hyfforddi fewnol, cadw staff
RISGIAU
Gwrthwynebiad i newid
ta iceredigio n .c ymru
# c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
23
Llywodraethu Elusen Mae llywodraethu da mewn elusennau’n hanfodol i’w llwyddiant. Ni all elusen gyflawni ei blaenoriaethau strategol oni bai bod ganddi drefniadau llywodraethu effeithiol ynghyd â’r arweinyddiaeth gywir, sy’n cynnwys ymddiriedolwyr. Mae’r cod llywodraethu i elusennau, ar gyfer elusennau bach, yn helpu mudiadau bach a’u hymddiriedolwyr i ddatblygu safonau llywodraethu uchel. Nid yw’r cod yn ofyniad cyfreithiol na rheoleiddiol; yn hytrach mae’n gyfres o egwyddorion ac arferion a argymhellir, sy’n fodd i sicrhau gwelliant parhaus.
Cod Llywodraethu i Elusennau – ar gyfer Elusennau Llai o Faint
RISGIAU Mae’r Gymdeithas Gofal yn adolygu’r risgiau y mae’n eu hwynebu wrth gyflawni ei blaenoriaethau strategol, drwy ddefnyddio proses map risg. Mae’r Gymdeithas Gofal yn nodi’r newidiadau mewn ffactorau mewnol ac allanol a allai effeithio ar y tebygolrwydd bod risg sylweddol yn effeithio ar yr elusen. Mae’r broses mapio risg yn rhan annatod o drefniadau cynllunio busnes a threfniadau gweithredol, a chaiff ei hategu gan gofrestr risg. Risg heb ei lliniaru
Parodrwydd i gymryd risg
Matrics Risg
SYLFAEN: RÔL YR YMDDIRIEDOLWYR A CHYD-DESTUN YR ELUSEN
Mae’r Gymdeithas Gofal yn adolygu ei threfniadau llywodraethu’n rheolaidd ar sail y cod, ac mae’n adrodd wrth y bwrdd ynghylch y meysydd lle mae’r elusen yn cydymffurfio a’r meysydd lle gellir gwneud gwelliannau. ta iceredigio n .c ymru
# c a r tref igwell
Trychinebus
5
25
50
75
100
125
Mawr
4
16
32
48
64
80
Arwyddocaol
3
9
18
27
36
45
Bach
2
4
8
12
16
20
Dibwys
1
1
2
3
4
5
1
2
3
4
5 Tebygol iawn
7: Bod yn agored ac yn atebol
Tebygol
6: Amrywiaeth
Posibl
5: Effeithiolrwydd y bwrdd
Annhebygol
4: Gwneud penderfyniadau, risg a rheolaeth
Effaith
3: Uniondeb
Annhebygol iawn
1: Pwrpus y mudiad 2: Arwain
Risg wedi’i lliniaru
Cyfrifo sgôr risg: Effaith2 x Tebygolrwydd # dyfo doldis glair
Tebygolrwydd 24
Adnoddau Prif nodweddion y gyllideb 5 mlynedd yw cyllid grant allanol gan Lywodraeth Cymru a’r awdurdod lleol er mwyn darparu cymorth i bobl sy’n dechrau cael eu hallgáu’n gymdeithasol oherwydd amgylchiadau ansefydlog, digartrefedd, y perygl y gallent golli eu cartref neu’r ffaith eu bod yn byw mewn llety annigonol. Mae’r Gymdeithas Gofal hefyd yn derbyn incwm o renti o’i hasiantaeth gosod tai cymdeithasol.
RHAGDYBIAETHAU O RAN Y GYLLIDEB • Mae incwm o renti wedi cynyddu 1% rhwng blynyddoedd 2 a 5. • Mae incwm arall yn cynnwys incwm o eiddo a reolir, y siop elusennol a’r cynllun Shopmobility, ac mae’n cynyddu rhwng 2% a 5%. • Tybir bod eiddo gwag a drwg-ddyledion yn gyfwerth ag 8% o incwm o renti dros y cyfnod o bum mlynedd, yn unol â disgwyliadau canlyniadau Diwygio Lles, a Chredyd Cynhwysol yn enwedig. • Mae costau gweithredol wedi cael eu hadolygu’n llawn, a darparwyd ar eu cyfer.
Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad Allweddol
Targed 2019/20
Ôl-ddyledion presennol tenantiaid – eiddo a osodir ar brydles
4%
Ôl-ddyledion presennol tenantiaid – eiddo a reolir
2%
Canran y gwasanaethau sydd ar gael yn ddwyieithog Cyfartaledd nifer y diwrnodau a gymerir i ailosod eiddo Trosiant staff
100% 14 10%
Absenoldeb oherwydd salwch
4% ta iceredigio n .c ymru
# c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
25
Datganiad ynghylch Incwm Hollgynhwysol 2019/20
2020/21
2021/22
2022/23
2023/24
Cyllideb
Rhagolwg
Rhagolwg
Rhagolwg
Rhagolwg
£’000
£’000
£’000
£’000
£’000
Rhent
323
330
335
340
346
Grant Arall
617 234
617 238
617 243
617 249
617 254
(614)
(619)
(625)
(631)
(637)
Costau safleoedd/swyddfeydd
(399)
(391)
(396)
(401)
(406)
Gorbenion prosiectau/costau eraill
(122)
(124)
(123)
(124)
(126)
40
51
52
50
48
(12)
(11)
(11)
(11)
(10)
28
39
41
39
37
Trosiant
Costau gweithredu Costau staff
Gwarged gweithredu Llog a delir a thaliadau tebyg Gwarged ar gyfer y flwyddyn
ta iceredigio n .c ymru
# c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
26
Datganiad ynghylch Sefyllfa Ariannol 2019/20
2020/21
2021/22
2022/23
2023/24
Cyllideb
Rhagolwg
Rhagolwg
Rhagolwg
Rhagolwg
£’000
£’000
£’000
£’000
£’000
427
411
395
379
363
7
4
1
1
1
Dyledwyr
281
328
377
420
463
Credydwyr: Yn ddyledus cyn pen blwyddyn
(97)
(97)
(97)
(95)
(95)
Asedau cyfredol net
184
231
280
325
368
(288)
(277)
(266)
(256)
(246)
330
369
410
449
486
330
369
420
449
486
Asedau sefydlog Tai namyn dibrisiant Asedau sefydlog eraill Asedau cyfredol
Credydwyr: Yn ddyledus ar ôl blwyddyn Cyfanswm Cronfeydd wrth gefn
ta iceredigio n .c ymru
# c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
27
Rhagolwg Llif Arian 2019/20
2020/21
2021/22
2022/23
2023/24
Cyllideb
Rhagolwg
Rhagolwg
Rhagolwg
Rhagolwg
£’000
£’000
£’000
£’000
£’000
1,173
1,185
1,196
1,206
1,217
(1,134)
(1,134)
(1,144)
(1,156)
(1,169)
Llif arian gweithredu Arian parod a ddygwyd ymlaen Incwm gweithredu Gwariant gweithredu Gwarged gweithredu Adychwanegu dibrisiant Taliadau llog Cyfanswm
16
40
51
52
50
48
19
20
17
17
17
(11)
(11)
(11)
(11)
(11)
7
8
6
6
6
0
0
0
0
0
63
122
180
236
290
Gweithgareddau buddsoddi Gwariant cyfalaf Cyfrif banc - balans ar ddiwedd y flwyddyn
ta iceredigio n .c ymru
# c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
28
Rhiant-fwrdd Tai Ceredigion
Karen Oliver
John Jenkins
Cadeirydd
Stephen Cripps
Is-gadeirydd Cyfetholedig
Peter Saunders
Annibynnol
Peter Deakin Tenant
Cadwgan Thomas
Annibynnol
Catherine Shaw Tenant
ta iceredigio n .c ymru
Annibynnol
John Rees
Cyfetholedig
# c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
Mererid Boswell
Gwyn James
Cyfetholedig
Enwebwyd gan y Cyngor
Lynford Thomas
Enwebwyd gan y Cyngor
29
Is-fwrdd y Gymdeithas Gofal
Catherine Shaw
Peter Saunders
Stephen Cripps
John Rees
Anthony Hearn
Robert Gray
Charles Symons
Tony Kitchen
Is-gadeirydd
Cadeirydd
ta iceredigio n .c ymru
# c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
30
Y Tîm Gweithredol
Steve Jones
Prif Weithredwr Grŵp Tai Ceredigion
* Graddiodd o Brifysgol Sheffield Hallam gyda gradd BA (Anrh.) mewn Astudiaethau Tai * Mae’n gweithio ym maes tai awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ers 36 mlynedd * Cafodd ei benodi’n Brif Weithredwr cyntaf Tai Ceredigion yn 2009 * Arweiniodd Tai Ceredigion drwy’r broses o drosglwyddo stoc o Gyngor Sir Ceredigion * Bu’n Gyfarwyddwr Grŵp Gwasanaethau Cymunedol i Grŵp Tai Pennaf * Mae’n aelod gwirfoddol o’r elusen Digartref ar Ynys Môn
Eleri Jenkins
Cyfarwyddwr Tai a Chymorth Tai Ceredigion
* Mae ganddi 36 mlynedd o brofiad o weithio ym mhob agwedd ar reoli tai * Bu’n gweithio’n flaenorol ym maes llywodraeth leol a chyda Cymdeithas Tai Cantref * Mae yn ei swydd bresennol ers trosglwyddo’r stoc yn 2009 * Mae’n weithiwr proffesiynol uchel ei pharch ym maes tai yn y gorllewin ac mae’n un o Gymrodyr y Sefydliad Tai Siartredig * Mae’n arwain gwaith ym maes cynnwys tenantiaid a chyfranogiad tenantiaid * Mae’n siarad Cymraeg yn rhugl
Llŷr Edwards
Kate Curran
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo Tai Ceredigion
Cyfarwyddwr Grŵp Gwasanaethau Corfforaethol Tai Ceredigion
* Enillodd radd mewn Technoleg Adeiladu a Rheoli * Mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad o weithio ym maes tai * Mae yn ei swydd bresennol ers trosglwyddo’r stoc yn 2009 * Bu’n cynllunio, yn rheoli ac yn goruchwylio’n llwyddiannus y broses o gwblhau’r gwaith a oedd yn ymwneud â Safon Ansawdd Tai Cymru * Mae ar hyn o bryd yn arwain cynlluniau datblygu Tai Ceredigion * Mae’n siarad Cymraeg yn rhugl
* Mae’n Gyfrifydd Siartredig * Mae ganddi 15 mlynedd o brofiad o weithio ym maes cyllid yn y sector cyhoeddus * Symudodd o Gyngor Sir Ceredigion i Tai Ceredigion * Cafodd ei phenodi’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol ym mis Mawrth 2016 * Mae’n un o Ymddiriedolwyr Age Cymru Ceredigion
Guy Evans
Executive Director The Care Society
* Enillodd radd MSc mewn Rheolaeth (Menter Gymdeithasol, Arloesi a Chreadigrwydd) * Mae ganddo 19+ mlynedd o brofiad o weithio ym maes tai a chymorth * Mae’n un o Ymddiriedolwyr Tir Coed * Mae’n siarad Cymraeg yn rhugl
* Mae’n aelod o Gyd-bwyllgor Archwilio Comisiynydd Heddlu a Throseddu DyfedPowys * Mae wrthi’n dysgu Cymraeg
* Mae’n siarad Cymraeg yn rhugl ta iceredigio n .c ymru
# c a r tref igwell
# dyfo doldis glair
31