Croeso...
Prifysgol aml-gyswllt Ffurfiwyd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ar 18 Tachwedd 2010 trwy uno Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan a Choleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin dan Siarter Frenhinol Llanbedr Pont Steffan sy’n dyddio o 1828. Ar 1 Awst 2013 daeth Prifysgol Fetropolitan Abertawe yn rhan o PCYDDS. Siarter Frenhinol y Brifysgol yw’r hynaf yng Nghymru a Lloegr ar ôl prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt. Yn 2011 daeth Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn Noddwr Brenhinol y Brifysgol. Mae Grŵp Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnwys Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion fel rhan o strwythur grŵp sector deuol sy’n cynnwys colegau addysg bellach a’r brifysgol. Gyda’n gilydd rydym yn darparu buddion clir a phendant i ddysgwyr, cyflogwyr, diwydiant a chymunedau drwy gynnig dull galwedigaethol o lefel fynediad i ymchwil ôl-ddoethurol. Cryfheir y Grŵp ymhellach maes o law pan fydd Prifysgol Cymru yn ymgyfuno â PCYDDS. Lleolir prif gampysau’r Brifysgol mewn lleoliadau amrywiol o gwmpas canol dinas Abertawe ac yn nhrefi gwledig Llambed a Chaerfyrddin yn Ne-orllewin Cymru. Lleolir Academi Llais Ryngwladol Cymru, dan Gyfarwyddiaeth Dennis O’Neill a’r Fonesig Kiri Te Kanawa yn noddwr arni, yng Nghaerdydd. Hefyd mae campws Busnes gan y Brifysgol yn Llundain. Mae gan PCYDDS gynllun strategol eglur a chyffrous sy’n gosod pwyslais ar ddysgu cymhwysol, disgyblaethau academaidd cadarn ac ymrwymiad eglur ag arloesi, mentergarwch a throsglwyddo gwybodaeth. Mae’r Brifysgol aml-gyswllt hon yn gyrru newid strwythurol a strategol yn ei flaen sydd â chysylltiadau agos â diwydiant, busnes a mentergarwch. Mae gan y Brifysgol broffil cenedlaethol eglur – gan gyflawni dros Gymru a chan ddathlu’i chymeriad arbennig ar lwyfan Brydeinig a rhyngwladol.
Amcan...
Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gatalydd ar gyfer twf economaidd drwy greu cyfleoedd newydd ar gyfer addysg, masnach a datblygiad economaidd.
Trawsnewid Addysg… . . Trawsnewid Bywydau Bydd datblygu Ardal Arloesi SA1 Glannau Abertawe yn cefnogi nod PCYDDS o ysbrydoli unigolion a datblygu graddedigion ac ymarferwyr adfyfyriol sydd â’r gallu i wneud gwahaniaeth yn y gymdeithas. Bydd yn cyfoethogi nod y Brifysgol o fod â rôl yr un mor bwysig ym maes hyrwyddo addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang. Lleolir Ardal Arloesi Glannau Abertawe mewn llecyn bywiog, modern ar y glannau â mynediad rhwydd i ganol y ddinas. Y bwriad yw sefydlu cyfleusterau pwrpasol ar gyfer dysgu, addysgu ac ymchwil yn ogystal â mannau cymdeithasol a hamdden. A hithau’n brifysgol sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, bydd cynllun ac adeiladwaith yr adeiladau’n plesio’n weledol ac yn gynaliadwy gyda mannau gwyrdd yn darparu digon o gyfleoedd i fwynhau’r amgylchedd ysgogol hwn yn yr awyr agored. Mae PCYDDS yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Dinas a Sir Abertawe i gyflwyno’r weledigaeth gyffrous hon.
Ymgynghori â’r Cyhoedd Mae’r uwchgynllun ar gyfer ardal y glannau yn SA1, ac yn benodol i’r de ac i’r gorllewin o Ddoc Tywysog Cymru, yn cefnogi datblygiad defnydd cymysg yn cynnwys y Brifysgol, swyddfeydd masnachol, bwytai, manwerthu ar raddfa fach, cyfleusterau gwesty a hamdden, mannau preswyl a chyfleoedd chwaraeon a hamdden. Darperir ardaloedd mynediad cyhoeddus newydd. Mae’n gynllun defnydd cymysg gyda’r ddinas yn ganolbwynt ac a gynlluniwyd i greu ymdeimlad o le bywiog a deniadol mewn lleoliad dethol ar y glannau. Rydym yn croesawu’ch barn wrth helpu i lunio’r cynigion a’r ystod o gyfleusterau sydd i’w cynnig yn seiliedig ar yr arddangosfa yn yr ymgynghoriad hwn. Gweler y bwrdd ‘Camau Nesaf’ am fanylion ynghylch sut i rannu’ch barn ar gynigion PCYDDS.
Adeiladau Presenol PCYDDS Safleoedd PCYDDS Tir a gedwyr gan Llywodraeth Cymru Adeiladau cyfagos
Uwchgynllun 2015 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Ymgynghoriad Cyhoeddus
Hanes Abertawe yn fras... SA1: Ymdeimlad o Le, Ymdeimlad o Amser.. Wynford Vaughan Thomas, brodor o Abertawe, a ddywedodd fod cynifer o haenau i’w ddinas enedigol â nionyn ac y gallai unrhyw un ohonynt ddwyn dagrau i’r llygaid. Yn wir, dinas â phersonoliaeth a hanes amlochrog yw Abertawe. Bwrdeistref hynafol, cyrchfan glan môr, canolfan marchnadoedd, arloeswr ym maes cynhyrchu glo, copr, plwm, haearn, dur, crochenwaith, tunplat ac olew, porthladd hanesyddol pwysig ar lannau’r cefnfor a dinas a welodd donnau niferus o fewnfudo dros gyfnodau helaeth. Y Llychlynwyr, masnachwyr o forladron ym mlynyddoedd cynnar yr unfed ganrif ar ddeg, oedd y cyntaf i sylweddoli posibiliadau’r harbwr naturiol yn aber Afon Tawe. Ymgartrefodd un o’r rhain o’r enw Sweinn neu Sweyn ar ‘ey’, neu ynys, yn yr afon a ‘Sweyn’s Ey’ a ddatblygodd nes ymlaen i roi’r enw Saesneg ‘Swansea’. Ymddengys fod yr anheddiad dwys cyntaf yn dyddio o ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg a dyfodiad y Normaniaid. Gwelsant hwythau botensial cyfle strategol a masnachol pwysig gan adeiladu castell yn fuan ac ymgartrefu o’i gwmpas. Yn y ddeuddegfed ganrif, dyfarnwyd y siarter gyntaf i’r bwrdeiswyr a thros y canrifoedd nesaf daeth cyfnod hir o sefydlogrwydd cymharol i’r ardal ac Abertawe yn borthladd masnachu ynddi ac yn ganolfan i’w marchnadoedd. Fodd bynnag, erbyn y ddeunawfed ganrif, daeth Abertawe i’r amlwg yn sydyn fel tref â dyfodol iddi a chynyddodd y boblogaeth yn gyflym. Yn baradocsaidd, ar yr un adeg â’r ehangu diwydiannol, roedd Abertawe hefyd yn boblogaidd fel tref ffynhonnau gan fod cleifion yn dod i yfed o’r ffynhonnau yn ardal St Helens. Adeiladwyd y rheilffordd fasnachol gyntaf yn y byd i deithwyr ar hyd glan y môr rhwng Abertawe a’r Mwmbwls. I’r ardaloedd ar ochr ddwyreiniol afon Tawe, ni ddaeth buddion bob tro yn sgil y datblygu diwydiannol. Glandŵr oedd un o’r ardaloedd mwyaf llygredig, ac yn 1880 fe’i disgrifiwyd fel a ganlyn ‘a spot rich in the renown of its metal and chemical works, but to the casual visitor, ugly with all the ugliness of grime and dust, and mud and smoke and indescribable tastes and odours.’ Daeth cyfoeth a ffyniant newydd i’r ardal hon o Abertawe yn sgil y Chwyldro Diwydiannol, ond talwyd y pris drwy amodau iechyd ac amgylcheddol gwael. Ar un adeg bu Abertawe yn gwasanaethu’r byd gyda’i chopr, tunplat a glo, a’r byd, yn ei dro, yn dod i Abertawe. Yn ein tirlun presennol mae bron popeth a welwn yn ganlyniad i ganrifoedd o weithgarwch dynol ar ffurf amaethu, cloddio, gweithgynhyrchu, teithio a masnachu, mae’n ganlyniad i angen economaidd ac ysbrydol. Mae’r mannau lle rydym yn byw ac yn gweithio, yn mynd i’r ysgol ac yn addoli, yn llythrennol wedi’u gwreiddio yn y gorffennol: maent oll â’u hanesion i’w hadrodd, os gwyddwn sut i’w darllen. Mae hyn yn arbennig o wir am SA1. A hithau’n dod i’r amlwg fel tref ddiwydiannol a glan môr, roedd Abertawe hefyd yn ganolbwynt diwylliannol a deallusol i Gymru. Roedd ganddi ei Sefydliad Brenhinol De Cymru o fri, theatr ac ystafelloedd cynnull nodedig, ac yma y cyhoeddwyd y papur newydd wythnosol a dyddiol cyntaf i ymddangos yng Nghymru. Cyn iddi dderbyn statws dinas, rhannodd ei dinasyddion y dref yn barthau ar gyfer diwydiant, preswylio a masnachu, a dyma’r rheswm pam nad oes datblygiad diwydiannol mawr i’w ganfod ar ochr orllewinol y Stryd Fawr yn Abertawe. Wrth gwrs caiff y llinell derfyn hon ei phylu gyda’r datblygiad newydd yn SA1. Mae’r tirlun wedi newid dros amser ac felly hefyd ein canfyddiad a’n gwerthfawrogiad ohono. Am ganrifoedd lawer, ystyrid ardaloedd o fewn Abertawe yn dir gwastraff o’u cymharu ag ardaloedd cynhyrchiol Penrhyn Gŵyr a Bro Morgannwg. Fodd bynnag, wrth i gyfathrebu wella a’r farn newid, daeth yr ardal hon yn ddeniadol i arlunwyr, beirdd, diwydianwyr a thwristiaid. Yn yr un modd, gweddnewidiwyd tirlun diwydiannol Abertawe unwaith eto, yn enwedig erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif, drwy symud tomennydd gwastraff a chau dociau a diwydiant trwm. Astudiaeth o newid a pharhad yw hanes ac un o’r dogfennau pwysicaf sydd gennym yn y gwaith hwn yw ein tirlun presennol: yn wir ar gyfer llawer o’n hanes, dyma’r unig ddogfen sydd gennym. Mae’r tirlun heddiw yn cynnig ffenestri i’w hagor ar y gorffennol, sy’n caniatáu inni gael cipolwg ar ffordd pobl o fyw ac o ddefnyddio’r tir ar hyd yr oesoedd. Cyfuniad ydyw o le a gwagle - y lleoedd y digwyddai pethau ynddynt a’r gwagleoedd rhyngddynt y symudai pobl drwyddynt. Difrodwyd hynodrwydd hen ganol y ddinas, â’i naws canoloesol bron, gan gyrchoedd awyr yn ystod dyddiau cynnar yr Ail Ryfel Byd. A hithau’n borthladd gorllewinol allweddol, dioddefodd Abertawe lawer o gyrchoedd awyr enbyd, ond ers hynny mae trychinebau’r rhyfel wedi arwain at adfywio pensaernïol ac economaidd yn yr ardaloedd a ddifrodwyd, y mae’r datblygiad newydd a gynllunnir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn rhan bwysig ohono. Sefydlwyd y Coleg Addysg, sydd bellach yn rhan o PCYDDS, yn 1872 a dywedwyd ar yr adeg honno fod Abertawe wedi’i dewis am ei bod yn lle addas i addysgu athrawon y dyfodol oherwydd ei bod yn ganolog i Dde Cymru, yn hawdd ei chyrraedd gyda’r rheilffordd a’r llong ager o Ogledd Cymru a Gorllewin Lloegr, ac yn meddu ar awyrgylch moesol a gwleidyddol y byddai sefydliad o’r fath yn debygol o ffynnu oddi mewn iddo. Efallai fod y llongau ager wedi hen fynd, ond mae cysylltiadau ffyrdd newydd yn peri i’r farn ynghylch sefydlu canolfan dysg newydd fod yr un mor wir nawr ag yr oedd yr adeg honno.
Uwchgynllun 2015 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Ymgynghoriad Cyhoeddus
Y ffactorau allweddol sy’n gyrru’r prosiect... Gyrru newid trawsnewidiol o fewn cyd-destun dinesig. 1
Y Weledigaeth: Trawsnewid Bywydau Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant dysgu sy’n canolbwyntio ar y dysgwr unigol, sy’n parhau wedi’i wreiddio mewn cymunedau lleol, sy’n gynhwysol ac sy’n darparu amgylchedd sydd â’r gallu i drawsnewid bywydau. Mae’r Brifysgol hefyd yn hyrwyddo adfywio economaidd rhanbarthol trwy ddarparu addysg berthnasol, hyfforddiant galwedigaethol, a’r gallu i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus.
2
Y Briff: Wrth drawsnewid addysg, rydym yn trawsnewid bywydau.
Mannau Academaidd Craidd 33, 000 m2
Coridor Arloesi y Glannau 100, 000 m2
Dyma ffordd ysbrydoledig o ddarparu cyfleoedd newydd ar gyfer addysgu a dysgu sy’n adlewyrchu ein ymrwymiad i Ddinas-Ranbarth Bae Abertawe ac sy’n cynnig cyfleoedd i’r Brifysgol a phartneriaid eraill i ddatblygu mannau wedi’u rhannu er mwyn bod o fudd cymdeithasol ac economaidd. Defnydd masnachol ac academaidd cyflenwol
3
...A’r Dociau eu Hunain Yn rhyfedd ddigon, prin iawn yw’r adeiladau a adawyd ar ôl o’r cyfnod neilltuol hwn yn hanes diwydiant Cymru. Y cyfan a geir yw ehangder arwrol y dociau o waith dyn, y mae angen eu dynoli, eu cysgodi a’u dofi.
Uwchgynllun 2015 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Ymgynghoriad Cyhoeddus
Newid Abertawe... Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gatalydd ar gyfer twf economaidd drwy greu cyfleoedd newydd ar gyfer addysg, masnach a datblygiad economaidd. Symud i’r Dociau...
• Mae cyfalaf diwydiannol dinas Abertawe yn newid. • Mae economi newydd yn amlygu’i hun yng nghanol yr hen ddociau diwydiannol. • Mae dysg, gwybodaeth a sgiliau yn ganolog i economi dinas sydd wedi’i hadnewyddu.
Sgwâr Technium
Y Porth
Glan Ogleddol
Glan Ogleddol Ddwyreiniol
Porth y Dwyrain
Pen gorllewinol
Pen dwyreiniol Penrhyn
Uwchgynllun cymeradwy 2003
Uwchgynllun cymeradwy 2010
Figure A2.1 Masterplan
SA1
SA1
SWANSEA WATERFRONT
Illustrative Masterplan Fabian Way
Langdon Road
Potential Footbridge
Prince of Wales Dock Sail Bridge
gs
n Ki a Ro d
Aerial view of SA1 Swansea Waterfront
Š Crown Copyright. All rights reserved. Licence number AR 161462.
River Tawe
Tidal Basin Kings Dock
Lock Control Building
D1A
A15
A6 A1
A3
A7
A9
A8A
A2
A16A
A10 A8B B2B
A11B A11A
D1B
Land Uses
D2
A13 A14A
A11C
A14B
3 A16B
A17
D3
D4
D5A
D5B
E1
D7
D9
E3A
E2
D10
E4
6
E3B
E3C
E6
4
3
4
2 4
1
3
3
5
6
4
4
9 5
6
5
B11
B12
C2
S:\JBR1235.SA1 Waterfront.RPS Cardiff\3 Drawings & Images\2 Drawings in Progress\A2 Masterplan sheet A2 masterplan sheet 01.05.10.indd
Š Crown Copyright. All rights reserved. Licence number AR 161462.
C5
B9
B8
1 storey
2
2 storeys
3
3 storeys
4
4 storeys
5
5 storeys
6
6 storeys
7
7 storeys
8
8 storeys
9
9 storeys
10
10 storeys
11
11 storeys
4 5
All Residential 2 - 3 5
5
6
5
4
5
5
6
1
5
4 11
C4
B10
4
3
2
F
B5
B7
5
Storey Heights
2 5
4
2 3
E8
1
6
9
6
4 3
3
3 4
The J-Shed (Plot B2A)
3
Canolfan Dewi Sant/Y Cwadrant – Bydd hyn yn ffurfio rhan o ‘graidd adwerthol a hamdden Canol y Ddinas’ a fydd yn ddatblygiad defnydd cymysg gan greu man adwerthu a hamdden blaenllaw yn y rhanbarth gyda’r gallu i gynnal economi fywiog ddydd a nos. Disgwylir i’r Cyngor ddatgelu cynlluniau pellach ar gyfer ailddatblygu’r ddinas yn fuan. E9
B4
C3
3
1 2
C1
4
3
23
E7
2
5 4
3 4
B2A
B3
4
4
3 4
E5
A4 B1
3
3
Technium 1 (Plot A4)
4
3
A12
Bellway residential buildings (Plot B4)
7
8
3
6
3
9
5/6
6
4 4
4 4
5
4/5
4
10
2
5 6
5/6
4 4
11
8
4
4 5
4
3
5
All Residential 2 - 3
Parcio a Theithio – Y bwriad yw symud hwn ymhellach allan o’r ddinas er mwyn ei ehangu ac ailddatblygu’r safle ar gyfer tai. Mae’r symudiad yn gysylltiedig ag ehangu Stadiwm Liberty, ond nid oes amserlen glir ar hyn o bryd. Š Crown Copyright. All rights reserved. Licence number AR 161462.
Trafalgar Bridge
Sail Bridge
Do not scale from these drawings as they are for indicative purposes only. All information contained in these drawings should be veriďŹ ed through a proper survey.
Y Ganolfan Ddinesig – Mae’r Cyngor wedi nodi’r bwriad i werthu’r safle hwn mewn erthyglau newyddion diweddar
Morlyn Llanw – Disgwylir penderfyniad erbyn Mehefin 2015. Bwriedir i gyfnod adeiladu’r Prosiect ddechrau yn 2015 gan barhau tan ddechrau 2019, ac i’r ynni cyntaf i’w greu gael ei allforio ar ddechrau 2019.
SA1 Swansea Waterfront - Addendum Environmental Statement
1
Coridor Ffordd Fabian – mae Canllawiau Cynllunio Atodol yn cael eu llunio ar y cyd gan Gyngor Dinas a Sir Abertawe a Chastell Nedd Port Talbot. Disgwylir i’r rhain fod yn barod i ymgynghori arnynt yn ddiweddarach eleni.
Allwedd... Safle presennol PCYDDS
Ardal breswyl
Coridor Ffordd Fabian
Mannau Gwyrdd Agored
Gwelliannau Trafnidiaeth
Defnydd Cymysg
Uwchgynllun Rhodfa Abertawe
Cyflogaeth
Ailddatblygu’r Cwadrant
Cymdeithas Porthladdoedd Prydain
Cyswllt Arfaethedig i Gerddwyr
Manwerthu
Heol Langdon
Man Cyhoeddus
Campws y Bae Prifysgol Abertawe
Traeth Bae Abertawe
Mynedfa Gerbydau Arfaethedig i’r Morglawdd
Pont Baldwin Cau Heol y Brenin o bosibl
Uwchgynllun 2015 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Ymgynghoriad Cyhoeddus
Dadansoddiad o’r Safle... Mae SA1 yn cynnig cyfleoedd arwyddocaol i greu presenoldeb bywiog yn y ddinas. Mae ei leoliad yn cysylltu Ardal y Glannau, St Thomas a chanol y ddinas. Defnydd Presenol...
Golygfannau
Tra bod tipyn o ardal ehangach SA1 yn hygyrch i’r cyhoedd, mae sawl ardal wedi’i chau â ffens i rwystro mynediad heb awdurdod. Mae’r ardaloedd hyn yn cynnwys nifer o’r plotiau unigol mae’r brifysgol wedi’u caffael. Yn yr un modd, ni cheir mynediad i holl ardal waith Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, sy’n cyfyngu ar yr asesiad o olygfeydd i blotiau PCYDDS o’r de a’r de-ddwyrain.
1 4
Portreadir hanes a chymeriad arforol SA1 trwy balet o adeiladau diwydiannol sydd wedi’u hadnewyddu o fewn ac o amgylch Sgwâr Technium, ac ategir y rhain gan ddilyniant o bensaernïaeth gyfoes. Saif ffasadau bric coch trawiadol datblygiadau’r Tŷ Iâ a J-Shed mewn cyferbyniad i’r adeiladau prifysgol mwy newydd yn Technium 1 a 2, ynghyd â swyddfeydd Admiral. Mae’r cyfuniad hwn o ddeunyddiau traddodiadol arddull ardal y dociau a strwythurau gwydr a choncrid modern yn creu bwrdd stori diddorol o ddelwedd arfaethedig SA1 i’r sawl sy’n mynd yno.
5 2
3
1 A15 ac A16...
Mae plotiau A15 ac A16 yn ddau safle datblygu allweddol wrth y brif fynedfa gerbydau i ardal adfywio SA1. Mae’r plotiau yn wynebu Ffordd Fabian ar hyd yr ymyl gogleddol, gan roi cyfle i hyrwyddo presenoldeb cryf i draffig sy’n mynd heibio ar y brif ffordd allan o ganol y ddinas tuag at Gastell-nedd, Port Talbot a Chaerdydd.
2 E ac F... Does fawr o ddatblygiad ar yr ochr hon o’r dociau, ond mae’r datblygiad diweddar o dai trefol 2 a 3 llawr yn sefyll allan. Fodd bynnag, ymhlith y tirnodau lleol eraill sy’n sefyll allan mae’r bont dros Ffordd Fabian. Mae hyn yn darparu mynedfa i feiciau dros yr heol brysur ynghyd â chyswllt bysiau penodol ar gyfer cyfleusterau parcio a theithio Tennant. Bydd y ffordd gyswllt sydd wedi’i chau i’r chwith yn creu dolen o amgylch Plot E6 a hefyd yn darparu mynediad i Blotiau E7 a Phlot F.
Pont Ffordd Fabian
Plot E6
3 Penrhyn... Defnyddiwyd yr ardal hon yn wreiddiol ar gyfer gweithgareddau yn gysylltiedig â’r dociau ac roedd wedi’i gorchuddio’n bennaf gan draciau rheilffordd yn cysylltu cargo rhwng y llongau a gweddill y wlad. Yn ogystal â’r isadeiledd rheilffordd, roedd nifer o siediau nwyddau wedi’u lleoli yma (siediau K ac l). Saif adeiladau Cymdeithas Porthladdoedd Prydain yn y cefndir ar olion gwreiddiol siediau A a B.
Bont hwyl
Morlyn Llanw
4 Sgwâr Technium.. Saif Sgwâr Technium mewn man pwysig i ddatblygiad SA1. Y Sgwâr ei hun yw’r unig fan cyhoeddus lle ceir tirlunio meddal yn yr ardal ac mae’n cynnwys cofeb i bysgotwyr coll Abertawe. Roedd yr adeiladau oddi amgylch ar hyd yr ymylon gogleddol yn ffurfio rhan gyntaf y datblygiad a bwriadwyd iddynt ddarparu mannau addas ar gyfer cwmnïau newydd. Mae PCYDDS yn berchen ac yn defnyddio 2 o’r rhain (A3 ac A4), tra bod gweithrediadau Admiral yn Abertawe wedi’u lleoli ym Mhlot A8B. I’r gorllewin o’r Sgwâr mae simnai nodedig adeilad rhestredig y Tŷ Iâ, gyda’r Hwylbont sy’n dirnod yn y ddinas y tu ôl iddi.
Plot B5
Plot C4
Bont hwyl
Tŷ Ia
Sgwâr Technium
5 Canolfan Dylan Thomas... Mae Canolfan Dylan Thomas yn un o gyfleusterau blaenllaw y ddinas ac fe’i lleolir mewn adeilad rhestredig Gradd II* trawiadol. Ym mhen pellaf Somerset Place, lle mae’n cwrdd â’r Hwylbont, mae’r llwybr yn mynd trwy ardal sydd heb ymdeimlad ystyrlon o le.
Canolfan Dylan Thomas
Uwchgynllun 2015 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Ymgynghoriad Cyhoeddus
Wind Street
Mynydd Cilfai
Dadansoddiad o’r Safle... Mae’r uwchgynllun wedi ystyried cyfleoedd a chyfyngiadau safleoedd a ddynodwyd ar ddechrau’r broses. Mae’r tîm uwchgynllunio wedi ymchwilio i nifer o agweddau, yn cynnwys mynediad a symudiad, parthau cymeriad, draeniad, defnyddiau ac ecoleg yr ardal oddi amgylch. Isod cyflwynir detholiad o ddiagramau dadansoddi. Diagramau allweddol yn dadansoddi’r safle..
Uchder yr adeiladau
Rhwydwaith symud
Yn gyffredinol, mae uchder adeiladau SA1 yn adlewyrchu natur a defnydd pob adeilad ar y glannau, fel y manteisir i’r eithaf ar y golygfeydd o’r dŵr ar gyfer datblygiadau preswyl. Mae’r rhan fwyaf o’r adeiladau o amgylch Sgwâr Technium yn is, gan adlewyrchu defnydd yr adeilad.
Mae datblygiad SA1 Glannau Abertawe eisoes wedi sefydlu cysylltiadau teithio da ac mae’r strategaeth gyfredol yn cydnabod yr angen am ddarpariaeth o ran trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a seiclo.
Allwedd...
Allwedd..
1 Llawr 2 Llawr 3 Llawr 4 Llawr
6 Llawr 7 Llawr 9 Llawr 11-14 Llawr
5 Llawr
Llwybr cynradd Llwybr eilaidd Trydyddol Mân
Dosbarthiad cyfleusterau cymunedol Llwybr cerddwyr Llwybr beicio Goleuadau traffig Llwybr terfynu
Lôn bws
Mae’r safle SA1 presennol wedi’i ganoli’n bennaf o amgylch y man agored cyhoeddus yn Sgwâr Technium, gyda nifer o adeiladau a swyddfeydd y brifysgol yn edrych drosto. Mae caffis awyr agored a llefydd bwyta o amgylch adeilad hanesyddol y J-shed a’r hen Dŷ Iâ yn darparu gweithgarwch cymdeithasol ar gyfer y plotiau. Ar hyn o bryd prin iawn yw’r cyfleusterau cymunedol ar ochr ddeheuol SA1 ac ardal y Glannau, ac mae angen mynd i’r afael â hynny ar gyfer y preswylwyr lleol.
Allwedd... Manwerthu Defnydd Morol Diwylliannol Amgueddfa Crefyddol
Gwesty Addysg Chwaraeon Sinema Iechyd
Defnyddiau adeiladau o amgylch Mae cyfleusterau manwerthu a hamdden helaeth wedi’u lleoli yng nghanol y ddinas, gyda dwy rodfa siopa fawr, Canolfan Siopa’r Cwadrant a Pharc Tawe. Mae’r ddau o fewn pellter cerdded i SA1 dros yr Hwylbont . O ran siopau manwerthu lleol, llai, mae gan ardal St Thomas amrywiaeth o fusnesau preifat ar Heol Port Tennant.
Allwedd... Addysg Cyfleuster cymunedol Ardal Breswyl Cymdeithas Porthladdoedd Prydain Swyddfa Maes Parcio Gwesty Iechyd Safle Crefyddol
Uwchgynllun 2015 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Ymgynghoriad Cyhoeddus
Gofynion y Brifysgol... Briff a Rhestr Adeiladau Datblygiad yn SA1...
Datblygiad PCYDDS (33,000m2) Datblygiad trydydd parti
Y Gwahanol Fathau o Fannau Prifysgol...
0
Mannau Hyblyg
Mannau Technegol
Mannau Hyblyg
2,000m2 4,000m2
Mannau gweinyddol y Brifysgol, Canolfannau Cyfadrannau, Ysgolion ac Adrannau, mannau addysgu cyffredinol a rennir a chanolfan arbenigol y Celfyddydau Digidol.
6,000m2 8,000m2 10,000m2
Canolbwynt i Fyfyrwyr a Man Digwyddiadau
Llyfrgell ac Ystafelloedd Dysgu
Addysgu cyffredinol
Addysgu technegol Cyfleusterau
Canolfan Cyfadrannau
12,000m2 14,000m2
Canolbwynt Chyfadrannau ac Ysgolion
Canolfan Addysg Athrawon De-Orllewin Cymru
Man Cymorth Dysgu
Mannau Craidd
Coleg AB a academi sgiliau
Mannau Technegol Gweithdu Peirianneg a Phensaeriaeth a man stiwdio i staff a chyfleusterau myfyrwyr
Mannau Addysgu Cyffredinol Pensaeriaeth Mannau wedi’u rhannu
Gwasanaethau cyfleusterau
Canolfan Addysg Athrawon Cymorth Addysgu
Dadansoddiad datblygiad PCYDDS... MANNAU CRAIDD ACADEMAIDD Canolbwynt myfyrwyr a man digwyddiadau Llyfrgell a Dysgu
MAN-HYBLYG Man Dysgu Cyffredinol wedi’i rannu Canolbwynt y Cyfadrannau ac Ysgolion Canolfan Addysg Athrawon DOC Gwasanaethau Cymorth Canolfan Dysgu ac Addysgu
5,589m2 4,525m2
7,413m2 3,954m2 2,475m2 230m2
Peirianneg Mannau wedi’u rhannu
Celf a ddylunio Mannau dysgu cyffredinol
Canolfan Myfyrwyr
Llyfrgell
Chwaraeon, Iechyd ac addysg awyr agored Canolfan Arloesedd Man digwyddiadau
Llyfyrgell Genedlaethol Cymru
Mannau craidd academaidd Canolfan y Brifysgol sy’n cynnwys Llyfyrgell y Brifysgol, Canolbwynt myfyrwyr a chanolfan arloesi
Diwydiant
Uwchgynllun 2015 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Ymgynghoriad Cyhoeddus
MANNAU TECHNEGOL Canolbwynt Peirianneg Canolbwynt Pensaeriaeth, Adeiladu ac Amgylchedd Naturiol Canolbwynt Cyfryngau digidol a chyfrifiaduron cymhwysol Chwaraeon, Iechyd ac addysg awyr agored Gwasanaethau a Chyfleusterau
3,043m2 1,696m2 2,124m2 1,665m2 366m2
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn SA1... 3 ystyriaeth allweddol o ran yr opsiynau... • Catalydd i gyflymu adfywiad SA1 • Prifysgol wedi’i gwreiddio ym mywyd economaidd, diwylliannol a chymdeithasol y ddinas • Opsiwn sy’n cael ei ffafrio: pum ardal gysylltiedig yn canolbwyntio ar ddysgu
Opsiwn Lefel Uchel Opsiwn b2
Opsiwn c1
Opsiwn b1
Opsiwn e1
Opsiwn a1
Yr Opsiwn sy’n cael ei Ffafrio Pum ardal gysylltiedig yn canolbwyntio ar ddysgu • Dylan Thomas- llyfrgell ac arddangosfa Dylan Thomas yn ganolog i gymuned newydd • Sgwâr Technium – canolfannau arloesi a phroffesiynol yn rhan o gymdogaeth sefydledig • Pafiliwn Chwaraeon – man cychwyn adfywio cei de ddwyreiniol Doc Tywysog Cymru • Ardal y Penrhyn – Craidd academaidd ardal defnydd cymysg newydd • Ardal Gyllid / Fusnes Nod Golygfeudd tuag allan Symudiad cerddwyr Porth cerbyd Dŵr Trafnidiaeth dros ddŵr Canolfan Dylan Thomas
Uwchgynllun 2015 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Ymgynghoriad Cyhoeddus
Canolfan Chwaraeon Dŵr yn y dyfodol fel rhan o Forglawdd
Cysyniadau’r Cynllun...... Strwythur Grid
Yr Egwyddorion • Ymagwedd creu lle dan arweiniad gweledigaeth academaidd a chymdeithasol y Brifysgol • Cynllun sy’n ymateb i dreftadaeth beirianegol y dociau • Grid trefol syml, traddodiadol yn darparu strwythur a hyblygrwydd i gyflwyno newid dros amser • Gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar lan y dŵr • Ymagwedd treflun gyda lleoedd yn dod i’r amlwg mewn dilyniant wrth ddilyn llwybr cerdded • Cynllun o flociau trefol, hyd at chwe llawr, yn ffurfio mannau i ddarparu cysgod rhag hinsawdd garw’r aber • Adeilad astudio a llyfrgell arbennig yn ganolog i’r cynllun – gyda’r bensaernïaeth yn cyfeirio at ddathliad o’r ddaear a chrefftau cynddiwydiannol Cymru – gwrthgyferbyniad â’r dreftadaeth beirianegol a geir o amgylch • Adeiladau nodwedd, gweithiau celf o bwys mewn mannau gweledol yn y cynllun • Cylchrediad ar y llawr gwaelod gyda blaenoriaeth i gerddwyr • Darperir gwasanaethau o fannau eilaidd • Tawelir cylchrediad ceir gyda’r rhan fwyaf o geir wedi’u parcio ar derfyn allanol y gymdogaeth • Cyflwynir y cynllun yn raddol • Datblygiad cynaliadwy o ran ei ymagwedd at gynllunio a dylunio
Yng nghyd-destun ehangach SA1...
Crëwyd patrwm grid syml sy’n ymestyn ar hyd y patrwm cyfredol (llinellau coch)
Strwythur Bloc Mae’r grid yn creu’r cyfle i ffurfio blociau datblygiad mwy o faint o amgylch y Penrhyn
Strwythur Plot Gall y plotiau yma gael eu rhannu i blotiau adeiladau unigol
Defnydd yr adeiladau
Symudiad Manwerthu Breswyl CPP Cymuned
Gwesty Addysg Swyddfa Safle
Crefyddol
Maes Parcio
Mae’r strwythur grid, blociau a phlotiau yn creu trefniant clir o gysylltiadau ar gyfer cerddwyr, seiclwyr a gwasanaethau
Uchder yr adeiladau
Plotiau sy’n eiddo i PCYDDS
1 Llawr 2 Llawr 3 Llawr 4 Llawr
6 Llawr 7 Llawr 9 Llawr 11-14 Llawr
Bydd y Brifysgol yn meddiannu cyfran o’r holl ddatblygiad yn y Penrhyn (yn goch) gyda’r gweddill yn cael ei ddatblygu gan bartneriaid masnachol (yn las)
5 Llawr
Ffryntiad gweithredol
Graddoli posibl Mae’r cynllun yn sicrhau bod y Brifysgol yn datblygu
Ffryntiad gweithredol
Uwchgynllun 2015 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Ymgynghoriad Cyhoeddus
Cysyniad y Penrhyn... Y Penrhyn yn SA1 yw’r ardal lle gwelir y newid mwyaf o gymharu ag uwchgynlluniau blaenorol SA1. Dyma’r cysyniadau. • Adeiladau yn wynebu’r strydoedd a mannau oddi amgylch • Ardaloedd cymdeithasol a chymunedol ar lefel y ddaear yn wynebu mannau cyhoeddus • Rhodfa dan do cysgodol yn cysylltu’r adeiladau canolog • Cysylltiadau clir rhwng y prif fannau • Ardal arddangos i’r Brifysgol ar gyfer darganfyddiadau newydd a busnesau deillio yn wynebu Heol y Brenin
Cysylltedd â’r cymdogaethau oddi amgylch... Mae’r prif gyswllt rhwng canol y ddinas ac SA1 yn canolbwyntio ar Wind Street a Chanolfan Dylan Thomas ar Somerset Place
Mae Llyfrgell St Thomas yn ffurfio rhan o rwydwaith dysg cysylltiedig rhwng SA1 a St Thomas
Adeilad uwchgynllun PCYDDS
Prif gyswllt i gerddwyr
Adeilad cyfredol
Ailagoriad arfaethedig hen lwybr y gamlas
Maes parcio arfaethedig
Mynedfa gerbydau i’r morlyn llanw
Morlyn llanw
Coridor Ffordd Fabian
Safle datblygu i’r dyfodol
Cyswllt arfaethedig i gerddwyr
Canolbwynt trafnidiaeth gyhoeddus
Bwriedir ailagor yr hen gamlas fel rhan o rwydwaith cerdded a seiclo ar draws y ddinas
Dyhead tymor hir arfaethedig i agor cyswllt newydd i gerddwyr i Forlyn Llanw Abertawe o ganol y ddinas ar hyd ffryntiad Afon Tawe Bwriedir i gynllun ailddatblygu’r Cwadrant ddod yn rhan o ‘Graidd Adwerthol a Hamdden’ Abertawe, gydag economi fywiog ddydd a nos
Uwchgynllun 2015 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Ymgynghoriad Cyhoeddus
Os ceir caniatâd cynllunio (a ddisgwylir ym Mehefin 2015), bydd cyfnod adeiladu Prosiect y Morlyn yn cychwyn yn 2015, i’w gwblhau erbyn 2019
Cymeriad tir y cyhoedd... Cei Dwyreiniol y Tywysog
Cymeriad: • Porth i’r gogledd o’r bont arfaethedig i gerddwyr • Ffocws cymunedol a chyfleusterau chwarae i’w defnyddio gan yr ardal breswyl gerllaw • defnydd posibl fel man arddangos i’r brifysgol ym maes y celfyddydau a pheirianneg • yn cynnwys cyfleusterau chwarae • defnydd cymysg – adwerthu, preswyl, swyddfeydd a phrifysgol
Cei Gorllewinol y Tywysog Cymeriad: • Man cyrraedd, croesawu a lleoli – Porth i’r Penrhyn • Cysylltiadau gweledol a ffisegol cadarn â’r afon, y dociau, Sgwâr Technium a’r Brifysgol • Ffocws cymunedol a chyfleusterau chwarae i’w defnyddio gan yr ardal breswyl gerllaw • Man blaenoriaeth i gerddwyr gyda phwyslais ar fin y dŵr fel amwynder gweledol • defnydd cymysg – adwerthu, preswyl, swyddfeydd a phrifysgol
Gerddi’r Drindod
Cymeriad: • Hamddenol a myfyriol – man gwyrdd a lle i orffwys yn y ddinas • Defnydd cymysg – prifysgol, preswyl a masnachol • Bydd y ffryntiad gweithredol yn sicrhau bod y lle’n fywiog ar adegau prysur o’r dydd • Man ymgynnull anffurfiol ac i ymlacio • Blaenoriaeth i gerddwyr a mynediad cyfyngedig i gerbydau
Glannau’r Gogledd Cymeriad: • Llwybr cylchol o amgylch Doc y Tywysog • Man bywiog sy’n gysylltiedig â defnyddiau gerllaw • Lle i hamddena – cyfle i gael arena digwyddiadau a gweithgareddau dŵr • Wedi’i gysylltu’n weledol – golygfeydd ar draws y dŵr i ardaloedd eraill yn SA1
Glannau’r De Ddwyrain Cymeriad: • Llwybr cysylltu i’r traeth a’r dirwedd ehangach • Cymeriad a threftadaeth ddiwydiannol • Ardal weithiol • Cyfle i gynyddu bioamrywiaeth gyda phlanhigion cynhenid ac olynol
Glannau’r De Orllewin Cymeriad: • Rhodfa ar lan yr afon rhwng y pontydd • Ffryntiad hamddena a gweithredol • Golygfeydd ar draws y Tawe i’r Marina • Cyswllt gweledol a ffisegol â’r ddinas
Sgwâr y Drindod Cymeriad: • Calon gymdeithasol a man craidd • Defnydd hyblyg – digwyddiadau, gwyliau, gosodiadau dros dro a thymhorol • Cyrchfan gyda’r nos - estyniad o’r ddinas • Myfyrwyr a’r gymuned yn cymysgu
Gerddi’r De Cymeriad: • Ffryntiadau preswyl a masnachol • Man i’r gymdogaeth • Lle chwarae anffurfiol a chysgod • Defnydd hamddenol ac anffurfiol
Uwchgynllun 2015 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Ymgynghoriad Cyhoeddus
Trwyn SA1 Cymeriad: • Cyrchfan • Lle mae’r afon yn cwrdd â’r môr • Golygfa o’r glannau a man gwylio • Agored i’r elfennau – cysgod yn rhan o’r cynllun
Treflun... 1
Cyrraedd o Bont Trafalgar 4
Cynllun a ddatgelir trwy ddilyniant o fannau wedi’u fframio gan adeiladau, gyda golygfeydd rhwng y mannau, a sylw at fanylion ar bwyntiau penodol yn y cynllun
Ffordd gyswllt â blaenoriaeth i gerddwyr
Map o olygfeydd allweddol
2 6 5
4
3
1
6
2
Golygfa o’r Man Technegol o’r Doc Llanw
Mynedfa i’r Penrhyn
5
3
Man Cyhoeddus Canolog
Uwchgynllun 2015 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Ymgynghoriad Cyhoeddus
Ffryntiadau gweithredol yn ychwanegu bwrlwm i’r strydlun
Gweledigaeth o ran Cymeriad a Defnyddiau... Man gwybodaeth, hamdden a dysg sy’n agored i bawb alw heibio a’i fwynhau • Man croesawgar o strydoedd a sgwariau cysylltiedig • Man ag iddo ganolbwyntiau a golygfeydd nodedig • Amgylcheddau adeiledig a naturiol gwarchodedig o raddfa dyn • Treftadaeth ddiwydiannol wedi’i moderneiddio’n ofalus • Gweithgarwch dynol byrlymus • Cymeriad arbennig a hynod
Yr ysbrydoliaeth o ran Tir y Cyhoedd
Defnyddiau
Iaith Bensaernïol • Pensaernïaeth syml yn seiliedig ar draddodiad gweithdai a diwydiant • Bric yw’r defnydd amlycaf • Arddull bensaernïol ac amgylcheddol newydd a ganfuwyd trwy ailddelweddu traddodiad a chrefft • Yn amlygu stori’r gwaith diwydiannol a arferai ddigwydd yma • Adeilad canolog y mae ei bensaernïaeth yn dwyn i gof grefft cynddiwydiannol Cymru
Uwchgynllun 2015 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Ymgynghoriad Cyhoeddus
Symudiad... Mae datblygiad SA1 Glannau Abertawe eisoes wedi sefydlu cysylltiadau teithio da. Mae strategaeth yr uwchgynllun yn cydnabod pwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau cerdded a seiclo newydd, gwell. Roedd hyrwyddo dewisiadau cynaliadwy o ran trafnidiaeth yn ystyriaeth allweddol yn y broses uwchgynllunio.
Symudiad Cerddwyr
Gwasanaethu
Symudiad Cerbydau
Llwybrau Seiclo
Cysylltiadau ar draws y Ddinas
P
P
Dyhead tymor hir arfaethedig i agor cyswllt i gerddwyr i’r Morlyn Llanw
Allwedd... Llwybr ceir presennol Llwybr ceir arfaethedig Llwybr cerddwyr cyfredol Llwybr cerddwyr arfaethedig Adeilad PCYDDS
Mynedfa i gerbydau Mynedfa i gerddwyr
Uwchgynllun 2015 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Ymgynghoriad Cyhoeddus
Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd... Rhaid i’r uwchgynllun gyrraedd y safonau uchaf o arfer gorau amgylcheddol, gyda strategaeth integredig ar gyfer defnyddio ynni, ymateb hinsoddol, ecoleg a bioamrywiaeth, a thrafnidiaeth a mynediad. Yr Amgylchedd
Ecoleg a Bioamrywiaeth
Llifogydd a Draenio
Mae cyfran helaeth safle presennol SA1 Glannau Abertawe wedi’i ailddatblygu a’r plotiau a ddynodwyd ar gyfer campws y Brifysgol wedi’u clirio at lefel y ddaear gan adael seiliau caled yn bennaf. Mae safle SA1 ar safle tir llwyd hen borthladd a chyfyngedig yw ei werth ecolegol. Byddai’r datblygiad yn ceisio gwella’r ardal yn ecolegol trwy’r cynllun Tirweddu. Dylid cymryd camau lliniaru priodol o fewn cynllun rheoli’r cyfnod adeiladu ac o fewn isadeiledd y datblygiad i sicrhau nad yw’n amharu ar yr amgylchedd lleol.
Mae gofynion Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer datblygu’r darnau o dir yn SA1 yn gofyn am lefel llawr isaf o 6.58m AOD sydd yn cyfateb i ddigwyddiad storm 1:200 mlynedd. Byddai’r adeiladau arfaethedig yn cael eu gosod ar y lefel hon neu’n uwch. Mae lefel isaf Heol y Brenin hefyd yn uwch na’r lefel llifogydd isaf. Byddai dŵr wyneb sy’n llifo o’r safle hwn yn cael ei waredu heb effeithio ar y tir presennol nac achosi llifogydd i lawr yr afon gan ddefnyddio dulliau System Draenio Cynaliadwy (SuDS) i sicrhau ansawdd da’r dŵr. Mae digon o gapasiti yn yr isadeiledd draenio presennol yn SA1 ar gyfer y datblygiad newydd a defnyddir hwnnw ar gyfer cysylltiadau pibau newydd ar gyfer dŵr gwastraff.
Isadeiledd a Chyfleustodau
Strategaeth Ecoleg ac Isadeiledd Gwyrdd Mae cyfran helaeth safle presennol SA1 Glannau Abertawe wedi’i ailddatblygu a’r plotiau a ddynodwyd ar gyfer uwchgynllun y Brifysgol wedi’u clirio at lefel y ddaear gan adael seiliau caled yn bennaf. Mae safle SA1 ar safle tir llwyd hen borthladd a chyfyngedig yw ei werth ecolegol. Byddai’r datblygiad yn ceisio gwella’r ardal yn ecolegol trwy’r cynllun Tirweddu. Dylid cymryd camau lliniaru priodol o fewn cynllun rheoli’r cyfnod adeiladu ac o fewn isadeiledd y datblygiad i sicrhau nad yw’n amharu ar yr amgylchedd lleol.
Mae’r isadeiledd presennol ar safle SA1, yn cynnwys rhan ddeheuol Heol y Brenin sy’n arwain at ardal y Penrhyn, yn darparu plotiau datblygu â gwasanaeth llawn gyda chysylltiadau â phriffyrdd y gellir eu mabwysiadu. Mae’r prif gysylltiadau ffyrdd yn cynnwys carthffosydd budr a dulliau draenio dŵr arwyneb o’r plotiau. Mae cyfleustodau eraill wedi’u cynnwys o fewn y troetffyrdd a bwriedir cyflwyno gwelliannau eraill i’r isadeiledd ar y safle er mwyn darparu ar gyfer y cynllun newydd.
Datblygu Cynaliadwy
Strategaeth Gwres a Phŵer / Ynni Gyfunedig Mae cyd-leoli datblygiad defnydd cymysg eithaf dwysedd uchel yn cyflwyno cyfleoedd sylweddol i ddefnyddio technolegau adnewyddadwy a charbon isel, yn cynnwys systemau cyflenwi ynni. Awgryma dadansoddiad cychwynnol y dylid defnyddio system dosbarthu ynni ar draws y safle sy’n darparu dull gwresogi ac oeri ac ynni i’r amrywiol adeiladau o ganolfan ynni. Ystyrir cynhyrchu gwres a phŵer cyfunedig (CHP)/cynhyrchu’r tair elfen yn offeryn arddangos hanfodol ar gyfer yr adeiladau addysgol, gan ganiatáu ymgysylltu tra gweledol â’r gymuned, uwchsgilio myfyrwyr a staff a chreu canolfan ragoriaeth yn y rhanbarth. Yn ogystal gallai systemau CHP gynnig cadernid a sefydlogrwydd yn erbyn y marchnadoedd cyflenwi ynni cyfnewidiol ar y cyd â mesuryddion clyfar.
Isadeiledd a chyfleustodau
Adeiladau Cynaliadwy
Mae gan SA1 rwydwaith o wasanaethau cyfleustodau tan ddaear a all ddarparu’r pŵer, nwy, dŵr a thelathrebu sy’n ofynnol i wasanaethu’r datblygiad yn effeithiol. Mae dichonoldeb cysylltu’r system CHP â’r system wresogi ranbarthol ehangach ar draws y Ddinas yn cael ei ymchwilio ynghyd â chysylltiadau pŵer â’r Morlyn Llanw. Hyrwyddir yr egwyddor o ‘Ddinasoedd Clyfar’ – yn ei hanfod ardal drefol yw hon sy’n deall sut mae ynni’n cael ei ddefnyddio ar unrhyw adeg mewn amser. Er enghraifft, gallai peiriannau golchi llestri ddod ymlaen yn awtomatig pan fo trydan dros ben yn y rhwydwaith.
Nod y cynllun at ei gilydd fydd sicrhau sero effaith o ran carbon o fewn 25 mlynedd i’w weithredu, gan ad-dalu’r ‘Morgais Carbon’ a grëwyd yn sgil allyriadau’r broses adeiladu. Caiff yr adeiladau eu cynllunio i fod ‘bron yn ddi-garbon’ yn unol â Chyfarwyddeb Perfformiad Ynni Adeiladau yr UE gan ddilyn ymagwedd o roi blaenoriaeth i’r ffabrig. Golyga hyn y rhoddir pwyslais ar fanylion ac arferion adeiladwaith da gan sicrhau lefelau uchel o aerglosrwydd a risg isel o bontio thermol ynghyd â defnydd isel o ynni o fewn yr adeiladau. Bwriedir mabwysiadu systemau sythweledol yn fewnol a phaneli ffotofoltäig ar bob adeilad i wrthbwyso’r defnydd o drydan o fewn yr adeiladau ac i ddileu golau haul uniongyrchol a lleihau’r angen i oeri adeiladau yn artiffisial. Bydd y cyfarwyddyd hwn o fewn y cynigion yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru a Dinas a Sir Abertawe i gyflawni’u hamcanion i helpu lleihau newid hinsoddol trwy ddatblygiadau cynaliadwy carbon isel.
Uwchgynllun 2015 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Ymgynghoriad Cyhoeddus
Y Camau Nesaf... Bydd yr Uwchgynllun yn caniatáu darparu’r prosiectau mewn modd hyblyg a graddol i gyflawni dyheadau’r brifysgol. Arwain hyn at ardal newydd yn y ddinas sy’n cynnig cyfleoedd masnachol, preswyl a hamdden. Deillia’r cyfleoedd hyn o’r catalydd a geir yn sgil presenoldeb prifysgol gyfunol yn y Amserlen yr Uwchgynllun...
Graddoli posibl...
Mae’r Brifysgol yn gweithio tuag at gyflwyno cais cynllunio wedi i’r asesiadau technegol gael eu cwblhau. Disgwylir hyn yn ystod Ebrill / Mai 2015.
Phase 1 Phase 2
Ar ôl cwblhau’r asesiadau technegol ac unrhyw ddiwygiadau a allai fod eu hangen yn dilyn ymgynghori â’r cyhoedd, cyflwynir cynigion diwygiedig yr uwchgynllun i Ddinas a Sir Abertawe, fel yr Awdurdod Cynllunio Lleol, i’w cymeradwyo.
Y Broses Gynllunio
Bydd yr uwchgynllun yn ceisio newid rhan o’r caniatâd cynllunio a gymeradwywyd yn flaenorol ar gyfer yr ardal, a roddwyd yn 2010. Cyflwynir y cais hwn fel amrywiad o ganiatâd 2010. Bydd y cais cynllunio yn ceisio newid caniatâd cynllunio amlinellol – hynny yw caniatâd a sefydlodd yr egwyddor i ddatblygu, ond heb nodi cynlluniau manwl yr adeiladau a’r mannau. Paratoir cynlluniau manwl ar gyfer adeiladau unigol wedi i egwyddor yr uwchgynllun diwygiedig gael ei derbyn gan y Cyngor. Bydd cyfleoedd i adolygu a rhoi sylwadau ar yr holl gyflwyniadau manwl yn y dyfodol cyn i’r datblygiad gychwyn.
Cais cynllunio
Ymgynghori â’r cyhoedd
Bydd y cais cynllunio yn cynnwys canlyniadau’r ymchwiliadau hyn ar ffurf Datganiad Amgylcheddol Atodol (Atodiad). Yn ogystal cyflwynir Datganiad Dylunio a Mynediad a fydd yn crynhoi egwyddorion allweddol yr uwchgynllun ynghyd â’r cyfiawnhad am y datblygiad.
Bydd y Brifysgol yn ystyried y sylwadau a dderbynnir yn ystod y cyfnod ymgynghori â’r cyhoedd. Bydd y rhain yn llywio natur y cais terfynol i’r Cyngor. Bydd yr arddangosfa yn teithio o amgylch campysau’r Brifysgol dros yr ychydig wythnosau nesaf.
Ymgynghori â’r cyhoedd Chwefror 2015
Cyflawni’r Cynllun
Asesiadau technegol Chwefror-Ebrill 2015
Cais cynllunio Ebrill 2015
Bydd Dinas a Sir Abertawe yn ceisio penderfynu ar y cais cynllunio cyn pen 16 wythnos (tua 4 mis) wedi ei gyflwyno. Cynhelir trafodaethau parhaus gyda’r Cyngor yn ystod y cyfnod hwn.
Mae cysyniadau’r uwchgynllun wedi’u datblygu yng nghyd-destun cyfres o arolygon ardal a safle cyfredol a gynhaliwyd yn ystod Hydref 2014. Mae angen cwblhau rhagor o asesiadau technegol i lywio’r cais cynllunio. Gofynnwyd am yr arolygon hyn gan Ddinas a Sir Abertawe ac maent yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, asesiadau trafnidiaeth, draenio, ecoleg a thirwedd.
Mae eich safbwyntiau’n bwysig a byddwn yn eu croesawu.
www.uwtsd.ac.uk
Penderfyniad l’w gadarnhau
Penderfyniad
Asesiadau technegol
Bydd y Brifysgol yn gweithio gyda phartneriaid datblygu, masnachol a phreswyl i gwblhau’r datblygiad yn raddol dros nifer o flynyddoedd.
Os yw’n dderbyniol i’r Cyngor, cyhoeddir hysbysiad o benderfyniad cynllunio newydd ar gyfer datblygiad SA1, yn cyfeirio at y newidiadau i’r uwchgynllun. Ni chaniateir i’r datblygiad fynd yn ei flaen tan i ddyluniadau manwl gael eu paratoi, eu cyflwyno a’u penderfynu gan y Cyngor. Mae’r Brifysgol yn gobeithio am ganlyniad llwyddiannus i’r cais cynllunio a bydd yn dymuno symud ymlaen â chynlluniau manwl ar gyfer yr adeiladau a’r mannau cyntaf tua diwedd 2015. Gobeithir y bydd y Brifysgol yn gallu dechrau symud ei gweithrediadau i’r adeiladau cyfredol yn SA1 yn 2016 a dechrau symud i’r adeiladau newydd yn ystod 2017.
Cwblhewch yr arolwg ar-lein sydd ar gael yn: www.uwtsd.ac.uk Gellir lawrlwytho’r arolwg a’i gwblhau â llaw. Anfonwch eich ffurflenni wedi’u cwblhau at: Ymgynghoriad Cyhoeddus, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Uned 9, Technium 2, Ffordd y Brenin, Abertawe, SA1 8PH Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw 8 Ebrill 2015
Uwchgynllun 2015 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Ymgynghoriad Cyhoeddus
Cyflawni’r cynllun I’w gadarnhau