Bwrlwm o Newyddion
Rhifyn 1
HeLo
Sefydlwyd y Swigen Greadigol yn 2013 gan Y Drindod Dewi Sant ac AGB Abertawe i weld pethau creadigol yn digwydd ynghanol dinas Abertawe. Mae wedi ei lleoli mewn siop wag yn 13 Stryd Cradock – caiff myfyrwyr ei llogi (yn rhad ac am ddim) er mwyn rhoi cynnig ar syniadau. Ers ei lansio, rydyn ni wedi cael siopau symudol, arddangosfeydd cyfryngau cymysg, perfformiadau, cynulliadau cymdeithasol, gweithdai, cyfarfodydd, arddangosiadau cyntaf ffilmiau a llawer iawn rhagor. Mae tîm cyfeillgar y Swigen wrth law i roi cyngor ond y myfyrwyr yn y bôn sydd wrth y llyw (maen nhw’n benthyca’r allwedd ac yn gyfrifol am y lle). Mae’r prosiect hwn wedi rhoi hyder i’r myfyrwyr ynghylch yr hyn y gallan nhw ei gyflawni, wedi cynyddu eu cyflogadwyedd (gan gynnwys gweithio ar eu liwt eu hunain) ac wedi annog rhwydweithio ar draws disgyblaethau. Mae nifer o fyfyrwyr sydd wedi mynd i rai o’r nosweithiau rhwydweithio wedi cael gwaith cyflogedig gyda busnesau yn Abertawe. Mae’r Swigen hefyd yn mynd i’r Gymuned – darganfyddwch sut y gallwch chithau fod yn rhan o hyn. Mae croeso i fyfyrwyr o bob disgyblaeth ddefnyddio’r siop – felly dechreuwch roi’r syniadau hynny ar waith! I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at: lucy.beddall@pcydds.ac.uk
SwanseaCreativeBubble @CBSwansea
Blwyddyn o Ddata r Swigen Greadigol
• 400 o fyfyrwyr â rhan uniongyrchol mewn rhedeg eu mentrau eu hunain yn y siop. • 55 o fentrau gwahanol. • 165 diwrnod o weithgarwch. • 4000 o bobl (myfyrwyr a’r cyhoedd) yn ymweld â’r siop. Casglwyd y data hyn ar hyd 2015 ac mae wedi’u seilio ar beth sy’n digwydd yn y siop yn unig - nid yw’n cynnwys yr holl weithgarwch cymunedol ac ar y stryd rydyn ni’n rhan ohono.....
Rheolir y Swigen Greadigol gan y Gwasanaethau Ymchwil, Arloesi a Mentergarwch yn y Drindod Dewi Sant. Lluniau gan Keeley Murphy, Shelly Hopkins a Glyn Rainer.
Y Siop
Derek Palmer a raddiodd yn y Celfyddydau Perfformio yn arddangos ei waith ysgrifennu gyda noson o berfformio.
Mae rhywbeth yn digwydd o hyd yn y siop. Dyma rai o’r prosiectau anhygoel sydd wedi cael eu cynnal yn ddiweddar.
Myfyrwyr Celf Sylfaen a’u harddangosfa a oedd yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod.
Myfyrwyr Dylunio Patrymau Arwyneb yn cynnal digwyddiad noson agored i ddathlu statws Baner Borffor Abertawe.
Mae nifer o fyfyrwyr yn gwerthu eu gwaith mewn siopau symudol i godi arian ar gyfer sioeau gradd ac elusennau.
Myfyrwraig Dylunio Patrymau Arwyneb Alaina Banfield yn arddangos ei gwaith celf mewn arddangosfa unigol.
Pizza with a Pro
Dewch i un o ein hanerchiadau neu weithdai gydag entrepreneur (a phitsa am ddim).
Y canwr enwog Mark Llewelyn Evans yn bwyta pitsa ac yn sôn am sgiliau cyflwyno wrth fyfyrwyr yng Nghaerfyrddin.
‘Rhwydweithio i’r Mewnblyg’ gyda pherchennog Xpedient Print Andy Rogers.
Llwyfan Haf y Swigen Greadigol
Cynhelir Llwyfan Haf y Swigen Greadigol gydol yr haf ynghanol y ddinas. Myfyrwyr a graddedigion Y Drindod Dewi Sant sy’n ei rheoli. Gwahoddir pob myfyriwr i rannu ei ddoniau a difyrru siopwyr.
AGB Abertawe yn hyrwyddo Canol Dinas Abertawe
Graddedigion yn gweithio ar fenter Nadolig Calon Fawr Abertawe – Swyddfa Bost Santa.
Seremoni Wobrwyo Starship
Cynhaliodd y Swigen Greadigol Seremoni Wobrwyo gyntaf Starship (wedi ei noddi gan Glwb Busnes Bae Abertawe). Dyfarnwyd gwobrau i entrepreneuriaid o fyfyrwyr am eu syniadau busnes anhygoel. Cawson nhw hefyd wahoddiad i ginio mawreddog yng Nghlwb Busnes Bae Abertawe yn hwyrach yn y flwyddyn.
Allan yn y gymuned: Poets On The Hill
Grŵp barddoniaeth yw Poets On The Hill a ddaeth i fod yn wreiddiol ar gyfer rhaglen ddogfen gan BBC Wales am Townhill gyda’r bardd dub Benjamin Zephaniah. Bu Y Drindod Dewi Sant a Chymunedau’n Gyntaf yn gweithio gyda’r grŵp i’w gadw i fynd. Maen nhw’n cwrdd bob wythnos ac yn perfformio’n rheolaidd ar y cylch barddoniaeth.
Poets On The Hill adeg lansio eu llyfr cyntaf.
Poets On The Hill yn ymweld â Champws Llambed ar gyfer taith, ymweliad â’r Archifau Arbennig, a gweithdy gyda Phennaeth Ysgrifennu Creadigol - Paul Wright.
Allan yn
y Gymuned:
Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas
Cynhaliodd graddedigion y Celfyddydau Perfformio a Ffilm brosiect ffilm llwyddiannus yn Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas (yn agos at safle adeiladu campws newydd SA1). I gloi cafwyd dangosiad cyntaf ffilm ac ymweliadau â champysau Abertawe a Chaerfyrddin. Mae’r tîm yn Ysgol Gynradd Dan-ygraig ar hyn o bryd.
Allan yn
y Gymuned
#LikeABoss gyda Chymunedau’n Gyntaf ym Môn-y-maen (SA1) Yn gweithio ar y cyd â myfyrwyr i gynnal sesiynau crefftau, hyder a menter gyda menywod a merched yn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf. Y nod yw ysbrydoli a helpu pobl sydd yn aml yn wynebu bywydau heriol dros ben. Mae’r sesiynau hefyd yn chwalu’r rhwystrau rhag Addysg Uwch a sicrhau y bydd modd i bawb fanteisio ar gampws newydd SA1.
Allan yn
y Gymuned:
Diwrnod Hwyl Phoenix
Ddydd Sul 22 Mai bydd Y Drindod Dewi Sant yn cefnogi Diwrnod Hwyl Phoenix yn Townhill.
Bydd gennym ddwy babell, y naill i’r bandiau, y cantorion a’r perfformwyr a’r llall lle cynhelir gweithdai i’r gymuned. Bydd y Tîm Marchnata a Llysgenhadon Myfyrwyr ar y safle i gynghori pobl am gyrsiau a hyrwyddo gweithgareddau ymgysylltu cymunedol y Brifysgol. Pe hoffech chi berfformio neu arwain gweithdy (neu ein helpu ni i chwythu balŵns!), cysylltwch â ni.
Cefnogwyd gan:
Mynediad Rhad ac am Ddim
CYSYLLTU Â NI Ar gyfer pethau yn y siop cysylltwch â: lucy.beddall@pcydds.ac.uk amanda.hughes@pcydds.ac.uk Ar gyfer ein gwaith cymunedol, cysylltwch â: zoe.murphy@pcydds.ac.uk SwanseaCreativeBubble @CBSwansea