PCYDDS INSPIRE magazine Ionawr 2016

Page 1

INSPIRE Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi ac Effeithiolrwydd Adnoddau

1af yng Nghymru yng Ngwobrau People and Planet Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi’i nodi’n 8fed allan o 151 o brifysgolion ar draws y DU.

Gwobrau Gŵn Gwyrdd Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dathlu ei llwyddiant yng Ngwobrau’r Gŵn Gwyrdd.

www.ydds.ac.uk

1


Rhagarweiniad Jane Davidson Rhagfyr 2015

Er 2012 mae chwyldro tawel wedi bod ar y gweill yn y Brifysgol - ac mae’r chwyldro hwnnw wedi’i gymeradwyo’n benodol gan yr Is-Ganghellor, Cyngor y Brifysgol a’r Uwch Dîm Rheoli. Mae’r chwyldro’n ymwneud â meddwl am y dyfodol; am integreiddio egwyddorion cynaliadwyedd ar draws diwylliant, cwricwlwm, campysau a chymunedau’r Brifysgol. Yr her yw cynnig yr addysg fwyaf perthnasol i’n holl fyfyrwyr er mwyn eu gwneud yn fwy gwydn, yn well datryswyr problemau ac yn feddylwyr beirniadol â set o werthoedd cadarn yng nghyswllt cyfrifoldeb cymdeithasol ac amgylcheddol. Nid yn unig y bydd y sgiliau hyn yn gwella’u dealltwriaeth o heriau’r dyfodol, ond hefyd dyma beth sydd eu heisiau ar gyflogwyr.

2

“Mae’r chwyldro’n ymwneud â meddwl am y dyfodol; am integreiddio egwyddorion cynaliadwyedd ar draws diwylliant, cwricwlwm, campysau a chymunedau’r Brifysgol.”

Gobeithio eich bod eisoes wedi dod ar draws gwaith INSPIRE - rhith-sefydliad y Brifysgol sy’n annog arfer cynaliadwy, arloesi ac effeithiolrwydd adnoddau. Os nad ydych, ar ôl i chi ddarllen am y gweithgareddau ysbrydolgar y mae staff a myfyrwyr yn eu cyflawni dan faner INSPIRE er mwyn meddwl am y dyfodol, mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennech syniadau yr hoffech fynd ymlaen â nhw. Drwy’r newyddlen hon, byddwch wedi ennill rhywfaint o ddealltwriaeth o ystod y prosiectau a’r mentrau’n ymwneud â chynaliadwyedd sydd i’w cael ar draws y Brifysgol. Drwy INSPIRE, ein nod yw ymgorffori cynaliadwyedd ym mhopeth a wnawn a sefydlu’r Brifysgol yn arweinydd. Ac ymddengys fod hyn yn gweithio: yn 2013, enillodd y Brifysgol wobr AU gyntaf y Guardian am gynaliadwyedd; yn 2014, Nod Arlwyo Aur Cymdeithas y Pridd am ymrwymiad y Brifysgol i gynhyrchwyr lleol yn ei gwaith arlwyo ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau; yn 2015 enillasom ddyfarniad Dosbarth Cyntaf yng Nghynghrair Prifysgolion People and Planet, gan ein gosod bellach yn 1af yng

Nghymru ac yn 8fed yn y DU yn sgil codi o safle 113 y flwyddyn cyn hynny. Enillodd y Brifysgol dair gwobr a chanmoliaeth yng Ngwobrau Gŵn Gwyrdd 2015, lle mae rhagoriaeth cynaliadwyedd ym maes addysg yn cael ei gydnabod. Fodd bynnag, ar siwrne yr ydym o hyd, yn hytrach na wedi cyrraedd pen y daith. Wrth reswm, mae staff a myfyrwyr hefyd am weld newidiadau ffisegol yn ein hadeiladau ac ar ein campysau yn ogystal ag yn eu cwricwlwm, er mwyn dangos bod newid gwirioneddol ar droed. Mae ein contract newydd ar gyfer gwastraff i adnoddau wedi’i gytuno a bydd ein staff a’n myfyrwyr, rhai cyfredol a rhai newydd, yn gweld newidiadau mawr o ran ailgylchu yng Nghaerfyrddin a Llambed yn y flwyddyn academaidd newydd. Hoffwn ddiolch i bawb a gyflwynodd ddeunydd i’r newyddlen hon ac i’r bobl eraill niferus sydd wedi gafael yn yr agenda hon yn awchus, gan ymgymryd â gweithgareddau cyffrous iawn ar draws y Brifysgol. Mae gennym Bwyllgor Cynaliadwyedd gweithgar a Phobl Gyswllt Cynaliadwyedd ymhob Ysgol ac adran; mae gennym Grŵp Ymchwil ADCDF newydd y mae Dr Carolyn Hayles, Arweinydd Academaidd ar gyfer INSPIRE, yn ei gynnull ac y gallwch ddarllen amdano yn y rhifyn hwn; mae gennym raglen ar waith o interniaethau INSPIRE â thâl a byddwn yn recriwtio i’r rhaglen cyn hir, yn ogystal â chymorth rhagorol a llawer o syniadau gan Anna Patterson yn yr Uned Gwasanaethau Corfforaethol. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar dudalennau INSPIRE ar wefan y Brifysgol neu mae croeso ichi gysylltu.

Jane Davidson jane.davidson@uwtsd.ac.uk

Cynnwys 4 Llwyddiant Gwobrau Gŵn Gwyrdd 7 Cystadleuaeth Darlith Gyhoeddus Llenyddiaeth a Chynaliadwyedd 8 Arddangosfa ‘WHOLE EARTH?’ 10 Gwobrau People and Planet 14 Effaith Werdd 16 Ysgol Haf Rhyngwladol 18 Proffil Ysbrydoledig: Luci Attala 20 Cynhadledd ESDGC 22 Gwobr Aur Bwyd am Oes 23 Trafnidiaeth Werdd


Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: INSPIRE

Enillodd y Brifysgol dair gwobr a chafodd glod uchel yng Ngwobrau Gŵn Gwydd eleni:

4

Llwyddiant Gwobrau Gŵn Gwyrdd Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dathlu ei llwyddiant yng Ngwobrau’r Gŵn Gwyrdd.

Cyflwynwyd y wobr Newydd-ddyfodiaid Gorau i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am y Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesedd ac Effeithiolrwydd Adnoddau (INSIPRE) sydd wedi gweithio ar draws y Brifysgol i gyflwyno cynaladwyedd drwy’r diwylliant, cwricwlwm, campysau a’r gymuned. Trwy INSPIRE, mae gweithrediadau’r Brifysgol gyfan bellach yn destun i Ddangosyddion Perfformiad Allweddol i brofi y dull hwn ar draws holl weithgareddau’r Brifysgol. Dywedodd y beirniad bod INSPIRE yn “cyflwyno safonau sefydliadol cadarn ar gyfer cynaladwyedd, a’i fod wedi treiddio drwy holl lefelau’r Brifysgol. Mae’n dangos bod nodau clir yn cael eu gosod o’r top a bod canlyniadau da.” Cyflwynwyd y Wobr Arweinyddiaeth i Dr Jane Davidson, Cyfarwyddwraig INSPIRE. Sefydlodd Dr Davidson INSPIRE yn 2012 cyn bod gan y Brifysgol hanes o ymwneud â chynaliadwyedd. Dywedodd y beirniaid fod “arweinyddiaeth rhagorol Jane yn dangos rôl bwerus y Brifysgol fel

catalydd ar gyfer newid a’i bod yn sefydliad craidd sy’n effeithio ar y ddinas / rhanbarth a thu hwnt. Mae Jane wedi cefnogi ymgorffori cynaliadwyedd ar draws strategaeth y Brifysgol. Mae hyn yn arbennig o bwerus gan fod y Brifysgol yn sefydliad sector deuol, ac mae’r agenda hon yn cysylltu’r gymuned mewn cyfnod o newid. Mae Jane yn arweinydd ysbrydoledig, carismatig sy’n galluogi pobl eraill - mae hi yn ddilys ac mae ei brwdfrydedd wedi creu lle unigryw ar gyfer creadigrwydd a newid a arweinir gan bobl eraill.” Cyflwynwyd Gwobr Hyrwyddwr Cynaladwyedd i Staff i Luci Attala, Cyfarwyddwr Rhaglen Anthropoleg y Brifysgol. Mae Luci yn credu mai’r ffordd o ysgogi newid gwirioneddol yw i bobl brofi sut mae eu gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth. Gan gydnabod bod arweinyddiaeth yn y dyfodol yn gofyn am unigolion hyderus sy’n gwneud penderfyniadau clir, beiddgar, mae Luci yn gweithio’n galed i rymuso israddedigion mewn ffyrdd amrywiol. Roedd y beirniaid wedi eu plesio gyda’r ehangder, ansawdd a maint y gwaith a wneir gan Luci. Mae hi wedi gwreiddio cynaliadwyedd yn y cwricwlwm ym maes Anthropoleg, dylanwadu academyddion eraill i addasu eu technegau addysgu a dysgu ac mae’n darparu cryn dipyn o gefnogaeth

fyfyrwyr i’w helpu i godi arian ar gyfer gwledydd sy’n datblygu. Mae ei brwdfrydedd dros gynaliadwyedd fe’i disgrifiwyd gan y beirniaid yn ‘wirioneddol ysbrydoledig’. Cafodd Gwen Beynon glod uchel yn y categori Hyrwyddwr Cynaladwyedd i staff am ei gwaith yn maes Celf a Dylunio. Mae gwerthoedd ‘cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol’, yn ganolog i rôl Gwenllian mewn Addysg Uwch. Mae hi wedi galluogi myfyrwyr i astudio yn eu hiaith eu hunain, i edrych ar eu diwylliannau eu hunain a bydeang, ac i gofleidio cynaladwyedd mewn ymarfer creadigol. Roedd y beirniaid yn ‘edmygu’r ffordd y mae hi wedi gwreiddio cynaliadwyedd yn ei chwrs celf a dylunio, gan ddatblygu graddau yn yr iaith Gymraeg ynghyd â phrosiect rhyngwladol gydag Ysgol Sant Mihangel i rannu arbenigedd cynaliadwyedd a dysgu ar draws ffiniau. Roedd y beirniaid hefyd yn falch o weld y ffordd y mae Gwenllian wedi cynnwys y gymuned leol yn ei gwaith gan ddarparu, profiad cynaliadwyedd ymarferol i fyfyriwr o’r ysgol leol.’ Bellach yn ei unfed flwyddyn ar ddeg, mae’r Gwobrau Gŵn Gwyrdd yn darparu prifysgolion a cholegau gyda meincnodau er mwyn cyrraedd Yn parhau ar y dudalen nesaf...

5


Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: INSPIRE

rhagoriaeth ac maent yn cael eu parchu gan lywodraethau, cynghorau cyllido, uwch reolwyr, academyddion a myfyrwyr fel ei gilydd. Wrth i ddatblygiad cynaliadwy symud i fyny’r agenda fydeang, mae’r Gwobrau yn awr yn cael eu sefydlu fel y gydnabyddiaeth mwyaf mawreddog o ragoriaeth cynaladwyedd o fewn y sector addysg drydyddol, yn ogystal â’r sector amgylcheddol.

Gwobrau Gŵn Gwyrdd Oriel Doleni cyswllt i fideos YouTube

Roedd Grŵp Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sy’n cynnwys Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, ar y rhestr fer mewn chwe chategori a oedd yn cynrychioli mentrau traws-campws yn ogystal â chyfraniadau staff unigol i’r agenda gynaliadwyedd. Dywedodd Dr Jane Davidson “Mae hyn yn newyddion ardderchog sy’n dangos yn glir ymrwymiad y Brifysgol i gynaliadwyedd. Mae cydweithwyr a myfyrwyr ar draws y Grŵp Y Drindod Dewi Sant wedi gweithio’n ddiwyd i sicrhau bod yr agenda bwysig hon yn rhan annatod trwy gydol ein gweithrediadau a’n diwylliant craidd. “Mae’r Brifysgol wedi gosod datblygu cynaliadwy fel un o werthoedd craidd a’r nod yw sicrhau bod ein myfyrwyr a graddedigion yn datblygu’r sgiliau a’r rhinweddau sydd eu hangen gan gyflogwyr a’r gymdeithas ar draws y byd.” Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor,: “Mae’r rhain yn wobrau mawreddog ac maent yn cydnabod ein hymrwymiad i gynaliadwyedd yn un o’n gwerthoedd craidd. Yn bwysicaf oll maent yn dathlu gwaith rhagorol ac ysbrydoledig cydweithwyr a myfyrwyr ar draws Campysau’r Brifysgol.“

6

Dywedodd Iain Patton, Prif Weithredwr Cymdeithas Amgylcheddol Prifysgolion a Cholegau (EAUC),: “Bob blwyddyn mae’r Gwobrau Gŵn Gwyrdd yn ailddiffinio busnes-fel-arfer i Brifysgolion. Mae cynaliadwyedd yn gwneud synnwyr busnes ac mae’r mentrau ysbrydoledig eleni yn profi bod cynaliadwyedd, yn manteisio staff myfyrwyr, y gymuned ehangach ac wrth gwrs y llinell waelod. Llongyfarchiadau i bawb yn y rownd derfynol am eu gwaith caled.”

Bwyd a Diod YDDS

Newydd-ddyfodiaid gorau YDDS

Dysgu a Sgiliau YDDSLuci Attala

Gwobr Hyrwyddwr Cynaladwyedd YDDS Staff- Luci Attala

Gwobr Arweinyddiaeth YDDS - Dr Jane Davidson

Cyfleusterau a Gwasanaethau YDDS

7

Gwobr Hyrwyddwr Cynaladwyedd YDDS Staff- Gwenllian Beynon

Dysgu a Sgiliau YDDS Dr Carolyn Hayles

Rhestr o’r holl fideos


Cystadleuaeth Darlith Gyhoeddus Llenyddiaeth a Chynaliadwyedd Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’r Gymdeithas ar gyfer Astudio Llenyddiaeth a’r Amgylchedd, y DU ac Iwerddon (ASLE-UK) yn noddi cystadleuaeth flynyddol ar gyfer darlith gyhoeddus: Darlith INSPIRE 2016 ar Lenyddiaeth a Chynaliadwyedd: Gwybodaeth Werdd.

Mae cynaliadwyedd yn fater o lenyddiaeth gymaint ag o wleidyddiaeth neu wyddoniaeth amgylcheddol. Mae pob un o’r straeon a adroddwn, y cerddi a gyfansoddwn, y dramâu a berfformiwn yn cynnig gofod ar gyfer ysbrydoliaeth, dychymyg, a thrafodaeth ar y cwestiynau ynghylch ystyr byw’n gynaliadwy.

Nod y gystadleuaeth yw arddangos ymchwil sy’n archwilio’r berthynas rhwng llenyddiaeth a’r drafodaeth ynghylch cynaliadwyedd. Caiff enillydd y gystadleuaeth wahoddiad i draddodi’r ddarlith yn Narlith INSPIRE 2016 ar Lenyddiaeth a Chynaliadwyedd yng Ngŵyl y Gelli 2016. Cynhelir yn y Gelli Gandryll, rhwng 26 Mai a 5 Mehefin 2016.

Bydd y panel beirniadu’n cynnwys cynrychiolwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac ASLE UKI. Wrth Dywedodd yr Athro Brycchan Carey, sôn am gystadleuaeth llynedd, meddai Cadeirydd ASLE - UKI: “Rydym cyfarwyddwr INSPIRE, Dr Jane Davidson: yn gyffrous i barhau i gefnogi’r gystadleuaeth bwysig hon. Mae beirdd, “Yn ystod y tair blynedd ers i’r dramodwyr, a nofelwyr am ganrifoedd gystadleuaeth gael ei lansio, mae lawer wedi ysbrydoli pobl i ddisgrifio ein henillwyr wedi trafod sut mae ac i ymhyfrydu yn y byd naturiol. I lawer ail-ddarllen Shakespeare drwy lens o bobl sy’n byw mewn cymdeithas cynaliadwyedd yn gallu dangos sut drefol heddiw, mae llenyddiaeth yn oedden arfer yn byw a chyflwyno gyswllt uniongyrchol a phendant at syniadau newydd i’r dyfodol. Maent natur, sy’n eu hannog i greu a meithrin wedi archwilio sut mae Ysgrifennu byd mwy cynaliadwy. Mae ysgolheigion Natur wedi addasu i gynnwys ein llenyddol, sy’n ysgrifennu traethodau’r pryderon amgylcheddol newydd gystadleuaeth, yn chwarae rhan a safbwyntiau ecolegol yn ein allweddol o ran deall a hyrwyddo’r heconomi fyd-eang ôl-drefedigaethol llenyddiaeth yma am gynaliadwyedd.” ac wedi edrych ar y pwysigrwydd fod ecosystemau rhyng-gysylltiedig Gwahoddwyd enillydd llynedd yn aros mewn cydbwysedd. Mae’r Hayden Gabriel i draddodi’r ddarlith a gystadleuaeth wedi dangos y gall gyflwynodd yn “Narlith INSPIRE 2015 storïau am newid chwarae rôl hanfodol ar Lenyddiaeth a Chynaliadwyedd” bwysig wrth ail-ddehongli ein byd yng Ngŵyl y Gelli 2015. er budd cenedlaethau’r dyfodol. Fel cyfarwyddwr sefydliad sy’n ymestyn

Yn dilyn y ddarlith bydd trafodaeth gyhoeddus rhwng enillydd y gystadleuaeth a Jane Davidson, Cyfarwyddwr INSPIRE a Chyn-Weinidog Llywodraeth Cymru dros Gynaliadwyedd a’r Athro Brycchan Carey, Cadeirydd ASLE – UKI. Unwaith eto, bydd y gystadleuaeth flynyddol hon yn gwahodd cyflwyniadau sy’n archwilio sut y mae llenyddiaeth, yn unrhyw un o’i ffurfiau, yn ymateb i’n cysylltiad â chreaduriaid eraill a sut y mae’r cysylltiad hwnnw’n dylanwadu arno yng nghyd-destun trafodaethau ynghylch cynaliadwyedd.

8

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: INSPIRE

ar draws brifysgol gyfan sydd â’r bwriad o gyflwyno profiadau i’n myfyrwyr trwy lens cynaliadwyedd, rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gynigion y gystadleuaeth eleni ar sut mae llenyddiaeth, mewn unrhyw un o’i ffurfiau, yn ymateb i, ac yn cael ei ffurfio gan, ein gallu i adnabod y byd naturiol yng nghyd-destun dadleuon ynghylch cynaliadwyedd.”

9


Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: INSPIRE

Dangosiad cyntaf o arddangosfa gynaliadwyedd yn cael ei lansio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw’r sefydliad cyntaf yng Nghymru i gynnal yr arddangosfa sylweddol fyd-eang o ffotograffiaeth awyr agored ‘WHOLE EARTH?’ sy’n anelu at gynnwys cenedlaethau iau yn y ddadl cynaliadwyedd.

Mae dewis y Bont Hwyl yn symbolaidd oherwydd ei fod yn cyfeirio at ddyfodol y Brifysgol yn Ardal Arloesi Glannau Abertawe yn SA1.

10

Cafodd ‘WHOLE EARTH?’ ei greu gan y newyddiadurwr Lloyd Timberlake a’r ffotograffydd Mark Edwards, fel dilyniant i’r arddangosfa o fri ryngwladol, ‘Hard Rain’ a gafodd ei lansio ym Mhrosiect Eden yn 2006. Yn Hard Rain gwelir geiriau Bob Dylan yn cael eu cyflwyno gyda lluniau sy’n dod â heriau’r 21ain Ganrif yn fyw. Cafodd nifer o wylwyr yr arddangosfa eu hysgogi gymaint gan ddelweddau o anghytgord iddynt fynnu atebion i greu daear gyfan - cyfan yn yr ystyr o fod

yn unedig ac wedi’i iacháu. Anfonwyd llythyron at wleidyddion ac at y prosiect Hard Rain. Y canlyniad yw arddangosfa WHOLE EARTH?, sy’n bartneriaeth gydag Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr y DU. Mae’n cynnig atebion ym meysydd yr hinsawdd, ynni, dŵr ffres, cefnforoedd ac amaethyddiaeth, ac hefyd mewn meysydd megis hawliau dynol a gwneud rheolau economaidd. Hefyd, y mae’n ymateb i ymgyrch Datblygiad Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig sydd â’r bwriad o ddylanwadu ar bolisïau llywodraethau a rhaglenni’r Cenhedloedd Unedig hyd at 2030 ac a fydd yn pennu’r dyfodol ar gyfer cannoedd neu filoedd o flynyddoedd. Mae ‘WHOLE EARTH?’ yn denu’r to ifanc i mewn i’r drafodaeth yn fwy cadarnhaol, gan eu cynorthwyo i ddeall sut i ddatrys a sut i fanteisio ar yr heriau a ddaw yn ei sgil. Mae’r arddangosfa wedi teithio hyd yn hyn i sefydliadau addysgol yn y DU, Ewrop, Gogledd America, India, Affrica ac Awstralia. Hwn oedd y cyfle cyntaf, ac o bosib yr unig, gyfle i’w gweld yng Nghymru.

Dywedodd Dr Jane Davidson, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Sefydliad Arfer Cynaliadwy Arloesi ac Effeithiolrwydd Adnoddau (INSPIRE): “Rwy’n hynod o falch bod y Brifysgol yn cefnogi’r arddangosfa bwysig hon a’i bod ar gael i gymuned y Brifysgol a’i phartneriaid ar draws de orllewin Cymru rhwng nawr a’r Nadolig”. “Mae’r arddangosfa yn cynnig cyfle i ystyried rhai o’r prif heriau ar gyfer yr 21ain Ganrif er mwyn canfod ffyrdd addas o’u datrys. Mae’n annog pobl ifanc i holi cwestiynau ac mae’n herio gwylwyr i ymrwymo i weithredu’n bersonol er mwyn gwneud ein cymdeithas yn fwy cynaliadwy. Edrychaf ymlaen at gael y drafodaeth yn enwedig o flaen y gynadledd fawr nesaf i drafod Newid Hinsawdd ym Mharis ym mis Rhagfyr.”

Llun gan Mark Edwards

Agorwyd ‘WHOLE EARTH?’ yn swyddogol Ddydd Iau, Hydref 1af ym Mwyty River House yn ardal y glannau yn Abertawe, yn agos at leoliad cyntaf yr arddangosfa ar Bont Hwylio’r ddinas. Fe wnaeth Dirprwy Is-Ganghellor Cysylltiol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a chyn Weinidog Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd, Dr Jane Davidson a Peter Davies, Comisiynydd Cymru ar gyfer Dyfodol Cynaliadwy siarad yn ystod y digwyddiad.

Mae’r arddangosfa wedi bod yn teithio o amgylch campysau’r Brifysgol ers mis Medi ac mae’n parhau i wneud hyn tan Ragfyr 20fed. Mae’r dyddiadau ar gyfer y lleoliadau sy’n weddill fel a ganlyn:

30 Tachwedd - 6 Rhagfyr - Wythnos 10 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Coleg Celf Abertawe (Dinefwr) 7-13 Rhagfyr- Wythnos 11 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Ysgol Fusnes Abertawe 14-20 Rhagfyr - Wythnos 12 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Ardal Arloesi Glannau Abertawe – y Bont Hwyl

11


Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: INSPIRE

Mae llwyddiant y Brifysgol eleni yn welliant o ran safle, gyda’r Brifysgol yn gweld cynnydd dramatig o’i safle yn 113eg yng Nghynghrair 2013 i 8fed yn 2015. Mae’r Brifysgol hefyd wedi’i rhestru fel y Brifysgol ‘werdd’ uchaf yng Nghymru, gan symud radd trydydd dosbarth i gradd dosbarth cyntaf. Mae Cynghrair Prifysgolion People and Planet yn gynghrair blynyddol sy’n cael ei rhedeg gan y grŵp ymgyrchu cenedlaethol i fyfyrwyr, sy’n asesu perfformiad amgylcheddol a moesegol pob prifysgol, gan ddyfarnu ‘graddau’ Dosbarth Cyntaf i’r mwyaf gwyrdd a methiant i’r rhai sy’n gwneud y lleiaf i fynd i’r afael â materion amgylcheddol a chymdeithasol. Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn un o 30 o brifysgolion i gael ei dyfarnu â gradd ‘Dosbarth Cyntaf’ yng nghynghrair 2015. Ond sut mae’r Brifysgol wedi llwyddo i gyflawni’r cynnydd sylweddol hwn i gael ei henwi fel yr 8fed Brifysgol fwyaf effeithiol yn y DU yn amgylcheddol ac yn foesegol?

Cynghrair Prifysgolion

People and Planet 12

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ennill Gwobr Dosbarth Cyntaf ac wedi’i nodi’n 8fed allan o 151 o brifysgolion ar draws y Deyrnas Unedig ac yn gyntaf yng Nghymru yng Nghynghrair Prifysgolion People and Planet 2015 - yr unig gynghrair werdd gynhwysfawr ac annibynnol ar gyfer prifysgolion ar draws y Deyrnas Unedig.

“Mae’r ateb yn syml,” meddai Dr Jane Davidson, Is-Ganghellor Cysylltiol ar gyfer Cynaliadwyedd a Pherthnasau Allanol. “Rydym yn pryderu am gynaliadwyedd; er bod cyflawni hynny wedi golygu cynnal adolygiad sylfaenol o’r hyn a wnawn, a’n dulliau o wneud hynny, ar draws y Brifysgol – ei diwylliant, campysau, cwricwla a’i chymunedau. Credwn y dylai prifysgolion fynd ati’n weithredol i sicrhau bod eu graddedigion yn dod yn ddinasyddion cyfrifol ac yn ddatryswyr problemau creadigol, rhywbeth sy’n angenrheidiol yn y byd ansicr yr ydym yn byw ynddo, felly adlewyrchwyd hyn yn ein cynllun strategol. “Roeddem yn awyddus i ddysgu wrth eraill, felly ymunon ni ag Academi Werdd yr AAU am ysbrydoliaeth, a chreu ein sefydliad rhithwir ein hunain, INSPIRE – Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi ac Effeithiolrwydd Adnoddau yn 2012 i arwain ein hymagwedd systemig. Amlygwyd galluoedd a diddordebau staff trwy gynnal archwiliad o sgiliau staff ac

ailddiffiniwyd ein harlwy academaidd, gyda phob modwl yn cael ei ystyried o safbwynt INSPIRE. Cynhaliwyd archwiliad o’r cwricwlwm yn ystod yr haf eleni a gwelwyd bod pob un o’n cyfadrannau a’n hysgolion yn darparu cynaliadwyedd ar draws eu cwricwlwm a bod ganddynt yr awydd i wneud mwy,” atega Dr Davidson. Mae Rosie Scannell, intern INSPIRE sy’n astudio ar gampws Llambed, yr un mor falch o gyflawniad y Brifysgol. “Mae’r naid ryfeddol hon yn y tabl cynghrair yn dyst i waith caled a phenderfyniad y Brifysgol i wella’i lefelau cynaliadwyedd,” meddai. “Ar ôl gwneud gwaith amgylcheddol o fewn y brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr dros y tair blynedd diwethaf, rwyf wrth fy modd ac yn falch iawn fod gwaith caled a dyfalbarhad y staff a’r myfyrwyr wedi dechrau dwyn ffrwyth,” atega Rosie. “Dechrau yn unig yw’r gwaith amgylcheddol a gwblhawyd eleni o’i gymharu â’r hyn sydd i ddod gan y Brifysgol. Mae’r gwaith a wnaethpwyd gennym yn hanfodol i ddatblygiad y brifysgol, o ran y myfyrwyr cyfredol a myfyrwyr y dyfodol. Ymhellach, mae’n bwysig i fyfyrwyr ar draws y brifysgol gan mai dyma yw’r cam cyntaf i sicrhau bod staff a myfyrwyr yn mynd â’r hyn maent wedi’i ddysgu trwy waith cynaliadwyedd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’i ddefnyddio, gobeithio, yn eu gyrfaoedd a’u bywydau i’r dyfodol.” Meddai Hannah Smith, a luniodd Cynghrair Prifysgolion People & Planet: “Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn profi i fod yn un o brif brifysgolion y DU ar gyfer safonau amgylcheddol a moesegol, ac mae People & Planet yn dathlu ei hymrwymiad i faterion gwyrdd a’i hymrwymiad i gyrraedd disgwyliadau ei myfyrwyr â sgiliau a dealltwriaeth ar gyfer datblygu cynaliadwy. Ry’n ni hefyd yn canmol y Brifysgol o ran ei gwaith gyda myfyrwyr, staff a’r gymuned leol i sicrhau newid o ran arfer a diwylliant cymdeithasol

ac amgylcheddol; ac o ran sicrhau bod cynaliadwyedd yn cael ei gweithredu ar draws y sefydliad - o’r cwricwlwm i’r arlwyo - ac am ei harweiniad ar gyfer datblygu cynaliadwy.” “Mae safle Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghynghrair Prifysgolion People and Planet wedi gwella’n aruthrol – ac mae’r Brifysgol wedi creu cryn argraff arnom ni!” atega Hannah Smith. Yn parhau ar y dudalen nesaf...

Gwobr Dosbarth Cyntaf

Beth mae hyn yn ei olygu i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant? 1.

2.

3.

Mae’r Brifysgol yn profi i fod yn un o sefydliadau blaenllaw’r DU ar gyfer safonau amgylcheddol a moesegol. Mae hyn yn ddechreuad ar ein taith, gyda’r systemau sydd wedi eu datblygu ar draws holl weithgareddau’r Brifysgol rydym yn gwybod camau dyfodol ein taith cynaliadwyedd. Gyda’r Brifysgol yn codi o safle 113eg i 8fed yn u DU yn ystod 2013-2015, mae hyn yn dangos potensial enfawr ar gyfer cyflawniadau’r dyfodol

13


Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: INSPIRE

“Rydym wedi bod yn dyst i weledigaeth ar gyfer datblygu cynaliadwy sydd wedi llwyddo i ddwyn ffrwyth mewn mater o flynyddoedd; mae Jane, staff a myfyrwyr y brifysgol wedi profi yr hyn y gellir ei gyflawni wrth i brifysgol ystyried ei heffaith ar ein cymunedau a’r byd ehangach. Drwy ddarparu adnoddau ar gyfer ei staff, gwrando ar ei myfyrwyr a deall materion amgylcheddol ar draws y brifysgol, mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn camu i fyny at gyfle unigryw i gwrdd â galw gan fyfyrwyr i ddarparu’r sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd angen arnynt i fynd i’r afael â rhai o heriau mwyaf ein hoes - ry’n ni’n gyffrous iawn i weld y canlyniadau yn y blynyddoedd sydd i ddod! “Y Prifysgolion blaengar hynny sy’n hawlio’r 30 safle uchaf yn y gynghrair sydd yn gosod esiampl o’r hyn y gellir ei gyflawni mewn addysg uwch, gan ymateb gyda chyflymder i heriau cyfredol fel newid yn yr hinsawdd ac anghydraddoldeb byd-eang,” ychwanega Ms Smith. “Mae’r rhain yn y prifysgolion sy’n darparu eu graddedigion gyda’r sgiliau angenrheidiol a fydd yn eu galluogi i fynd i’r afael â’r bygythiadau hyn.”

14

15


Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: INSPIRE

Cynllun achredu a gwobrwyo amgylcheddol yw Effaith Werdd sy’n cael ei redeg gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr. Maent yn cefnogi timau ac adrannau i wneud newidiadau syml a phwerus o ran ymddygiad a pholisi er mwyn gweithio tuag at sefydliad mwy cynaliadwy. Roedd sawl aelod o dimau staff y Drindod Dewi Sant yn bresennol yn y seremonïau gwobrwyo i ddathlu eu cyflawniadau amgylcheddol yn ystod y flwyddyn.

Effaith Werdd 16

Enillodd staff Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant nifer o wobrau yn seremoni wobrwyo Effaith Werdd eleni.

Eleni dyfarnwyd 2 wobr achredu Aur, 1 wobr Arian a 15 gwobr Efydd. Yn ogystal, nodwyd bod dau dîm yn gweithio tuag at ddyfarniad Efydd. Mae staff Celf a Dylunio wedi cael effaith eithriadol eleni, gan gwblhau’r holl feini prawf ar bob lefel yn ogystal â chyflwyno am 4 Gwobr Arbennig a oedd yn cydnabod eu cyflawniadau yn sgil eu hymrwymiad i gynaliadwyedd mewn nifer o brosiectau. Fe wnaethon nhw, ynghyd â’r Swyddfa Amgylcheddol, ennill Gwobrau Aur. Enillodd yr Ysgol Iechyd ac Addysg Awyr Agored y Wobr Arian, ac roedd Gwasanaethau Corfforaethol, Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus, Adnoddau Dynol, Gweithrediadau a Phrofiadau Myfyrwyr ymhlith y nifer o dimau a enillodd Wobr Efydd. Llwyddodd prosiect Effaith Werdd i ymgysylltu â dros 200 o aelodau staff ar draws y tri champws eleni. Trwy ymroddiad y staff dan sylw gwnaed arbedion posibl o bron 23,000kg o CO2 a bron £6,000 trwy leihau gwastraff, arbed ynni, a lleihau teithio. Dros y flwyddyn ddiwethaf yn y Drindod Dewi Sant llwyddodd timau a oedd yn ymgyrchu ar i staff ddiffodd goleuadau ac offer pan nad oeddent yn eu defnyddio gyfleu eu neges i ryw 147 o bobl, gan wneud arbedion posibl o 16,659kg o CO2 a £2,603 ar draws y sefydliad. Llwyddodd timau a oedd yn codi ymwybyddiaeth o argraffu a llungopïo ar ddwy ochr y dudalen gyfleu eu neges i ryw 92 o bobl, gan wneud arbedion posibl o 4,968kg o CO2 a

£1,840 ar gostau adnoddau. Llwyddodd timau a oedd yn annog staff i ddefnyddio cyfleusterau telegynadledda yn hytrach na theithio i bob cyfarfod gyfleu eu neges i ryw 28 o bobl, gan wneud arbedion posibl o 1589kg o CO2 a £1,386 ar draws y sefydliad. Meddai Alana Smith, Swyddog Ymgysylltu â Chynaliadwyedd: “Mae’n bwysig hyrwyddo ymddygiad amgylcheddol da yn y Drindod Dewi Sant ac mae Effaith Werdd yn cynnig dulliau i atgoffa pobl yn y gweithle. Mae hefyd yn ffordd wych o annog aelodau staff i weithio gyda’i gilydd er lles pawb. Roeddwn yn eithriadol o falch ag ymdrechion yr holl dimau eleni. Roedd y prosiect yn llwyddiannus iawn ac yn ffurfio sylfaen gadarn ar gyfer gweld cynnydd pellach o ran cynaliadwyedd ledled y Brifysgol yn y dyfodol. Bydd y prosiect yn cychwyn eto ym mis Medi ac rydym yn gobeithio gweld llwyddiant pellach. Ein bwriad yw ymgysylltu â mwy fyth o staff ac annog y 15 a enillodd Wobr Efydd i weithio tuag at achrediad Arian neu Aur.”

Beth mae hyn yn ei olygu i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant? 1.

Mae dros 200 aelod o staff yn ymgysylltu â’r ymdrech Effaith Werdd.

2.

Mae gwobrau 2015 wedi ffurfio sylfaen gadarn ar gyfer rhagor o wobrau yn 2016.

3.

Mae newidiadau syml ond pwerus wedi cyfrannu at y Brifysgol yn datblygu i fod yn sefydliad mwy cynaliadwy.

17


Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: INSPIRE

Ysgol Haf Rhyngwladol Cynhaliodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Ysgol Haf Rhyngwladol llwyddiannus ar Gynaliadwyedd gyda myfyrwyr o Goleg Sant Michael, Vermont. Ymwelodd deuddeg myfyriwr a dau aelod o’r staff o Goleg Sant Michael, Vermont â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ystod mis Mai ar gyfer cwrs astudio tramor pythefnos a ganolbwyntiai ar y modd y mae Cymru wedi ymgorffori cynaliadwyedd ecolegol ar draws ei diwylliant, ei sefydliadau, ei chelfyddyd a’i pholisïau. Daeth Coleg Sant Michael at Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am ei fod yn ymwybodol o’r Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi ac Effeithiolrwydd Adnoddau (INSPIRE) a’i ymrwymiad i gynaliadwyedd. Roedd y cwrs yn cynnwys astudiaethau maes diwylliannol ac amgylcheddol, darlithoedd gwadd ar y safle a chydweithredu a chyfnewid ymchwil a phrosiectau artistig. Nod yr Ysgol Haf Rhyngwladol ar Gynaliadwyedd yw rhoi gwybod i fyfyrwyr gwadd am y gwahanol safbwyntiau ar gynaliadwyedd yng Nghymru trwy lygaid diwylliannol, ecolegol, gwleidyddol, daearyddol, ac artistig.

18

Meddai Gwen Beynon, Cyfarwyddwr Rhaglen Celf a Dylunio a chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o drefnu’r Ysgol Haf: “Roedd yr Ysgol Haf yn llwyddiant ysgubol i bawb fu’n rhan o’r peth. Roedd yn ffordd arbennig o gyfathrebu â sefydliad rhyngwladol a

rhoddodd gyfle i fyfyrwyr ddysgu am ddull Cymru a’r Brifysgol o ymdrin â chynaliadwyedd a gwerthfawrogi’r dull hwnnw. Braf iawn oedd clywed argraffiadau cadarnhaol y myfyrwyr am ein hagwedd at gynaliadwyedd; roedden nhw’n canmol yn barhaus y modd yr ydyn ni’n cofleidio cynaliadwyedd ar amrywiaeth o lefelau. Roedd yn hyfryd cydweithio a chydweithredu â staff Sant Michael, Jeffrey Ayres, Deon y Coleg ac Athro yn yr Adran Gwyddor Wleidyddol a Jonathan Silverman, Cadeirydd yr Adran Addysg a Chydlynydd y Rhaglen Celfyddydau mewn Addysg. “Roedd y myfyrwyr yn edmygu’r ffaith ein bod ni’n mynd i’r afael â chynaliadwyedd o ran diwylliant, diwydiant ac iaith – nid ailgylchu yn unig amdani. Gwnaeth eu hymateb cadarnhaol nhw i mi sylweddoli pa mor dda rydyn ni’n ei wneud ar raddfa fyd-eang. “Fel rhan o’u gwaith academaidd, roedd disgwyl i’r myfyrwyr roi dau gyflwyniad yr un. Cafodd eu cyflwyniadau terfynol eu rhoi ar ddiwedd y daith, roedden nhw’n wych. Roedd yn glir bod y myfyrwyr wedi dysgu llawer a’u bod nhw ar dân dros ein hagwedd ragweithiol ni at gynaliadwyedd. Roedd hefyd yn hyfryd gweld yr argraff ddofn a wnaeth arfordir a thirwedd Cymru arnyn nhw.”

Meddai Kath Griffiths o Swyddfa Ryngwladol y Brifysgol, a weithiodd yn agos gyda Gwen Beynon i ddatblygu’r rhaglen: “Roedd rhaglen yr Ysgol Haf yn orlawn ac yn amrywio’n fawr iawn gan sicrhau bod y myfyrwyr yn cael cwmpas gwybodaeth eang. Cynhaliwyd nifer o sesiynau panel, gan fynd i’r afael â materion megis Cynaliadwyedd Lle a gynhwysai brif anerchiad agoriadol ar ddull Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Chymru ynghylch cynaliadwyedd gan Gyfarwyddwr INSPIRE, Jane Davidson. Mewn ail sesiwn panel cafwyd 5 cyflwyniad gan bobl sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda chynaliadwyedd gan gynnwys Joanna Lane o Forlyn Llanw Bae Abertawe a Haf Leyshon o Gyfoeth Naturiol Cymru. “Aeth teithiau maes i Big Pit a’r Senedd, bu taith gerdded ar draws Bannau Brycheiniog gyda Gruff Owen, Swyddog Cymorth Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol, a phenwythnos yn Sir Benfro a oedd yn cynnwys aros dros nos ar Ynys Skomer. Bu ymateb y myfyrwyr yn gadarnhaol ac yn ysbrydoledig dros ben. Hon fydd y gyntaf o nifer o Ysgolion Haf o Goleg Sant Michael a dechrau cydweithrediad buddiol iawn yr ydyn ni ym Mhrifysgol Cymru

Y Drindod Dewi Sant yn edrych ymlaen ato’n fawr iawn.” Maeddai myfyriwr a ddaeth i’r Ysgol Haf: “Roedd rhywbeth newydd i ddysgu bob dydd yn ystod ein hamser ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Ar ôl dod adref, rwy wedi sôn wrth bawb am fy nhaith, am gynaliadwyedd yng Nghymru. Roedd Jane Davidson yn ysbrydoliaeth anhygoel; mae ei gwaith hi wedi bod yn hwb i mi ac wedi rhoi syniadau i mi er mwyn helpu datblygu busnes fy rhieni i greu cwmni mwy cynaliadwy. Bob dydd o’r daith roeddwn i’n rhyfeddu at angerdd y darlithwyr a harddwch tirwedd Cymru.”

Enillodd yr Ysgol Haf Rhyngwladol ar Gynaliadwyedd Wobr Arbennig Effaith Werdd, sy’n cydnabod ymrwymiad i gynaliadwyedd trwy brosiectau allgyrsiol.

19


Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: INSPIRE

Proffil Ysbrydoledig Luci Attala Darlithydd Anthropoleg

Mae’r Darlithydd Anthropoleg a’r Cyfarwyddwr Rhaglen ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Llambed, Luci Attala, yn gweithio’n ddyfal ar nifer o brosiectau sy’n hyrwyddo cynaliadwyedd ac sy’n creu dinasyddion sy’n effro i ystyriaethau byd-eang. Nid darlithydd yn unig mo Luci, mae’n addysgu, gwrando, grymuso, ysgogi, herio a hyrwyddo newid bob dydd. Ymhlith llwyddiannau niferus Luci mae ennill gwobr gan NIACE am fod yn diwtor ysbrydoledig ar sail ei haddysgu, chwarae rôl allweddol gyda’r Cyswllt Carbon Cymunedol (CCL) sefydliad dielw sy’n ceisio cysylltu â chymunedau trwy amsugno carbon, ac mae wedi’i enwebu ar gyfer dwy Wobr Gŵn Gwyrdd. Hyfforddodd Luci’n wreiddiol yn nyrs a defnyddia ei harbenigedd ym maes anthropoleg ac iechyd/ gofal cymdeithasol i ddysgu yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’r Brifysgol Agored. Mae gan Luci awch i addysgu ac mae’n benderfynol o rymuso ei myfyrwyr trwy wneud iddynt deimlo y gallant wneud gwahaniaeth i’r byd ar lefel unigol.

20

“Yr hyn sy’n rhoi boddhad i mi wrth ddysgu, yw gwylio pobl yn newid a datblygu. Mae’n hyfryd eu gwylio nhw’n datblygu meddyliau a syniadau a bod yno wrth iddyn nhw gael syniadau a mynd gyda’r llif. Mae hyn yn arbennig o gyffrous pan yw myfyrwyr yn dechrau cwestiynu pethau heb dderbyn yn syth beth sy’n cael ei ddweud wrthyn nhw. Rwy’n gweld myfyrwyr yn tyfu’n unigolion ac yn datblygu’n bobl wahanol i bwy oedden nhw wrth gyrraedd. Mae’n arbennig o wefreiddiol gweld hyn mewn myfyrwyr iau sydd wedi dod yn syth o’r ysgol ac yn syth o adael cartref. Maen nhw’n cyrraedd ac yn cael eu cyflwyno i amrywiaeth o wahanol faterion a gwahanol ffyrdd

o ddeall y byd, gwahanol ffyrdd o ymwneud â phobl. Dyma nhw’n dechrau blodeuo, yn dechrau cwestiynu ac yn dechrau dod yn rhywun. Mae hyn yn gwneud y gwaith yn falm i’r enaid wrth i chi syllu ar ambell ennyd gogoneddus ganddyn nhw.” Cydweithia Luci’n agos â’r CCL, sef menter ailgoedwigo a enillodd Seren Aur UE am Effaith Amgylcheddol. Bu’n helpu i gysylltu Llambed â Giriama yn Bore ger Malindi, Kenya trwy drafodaethau â henuriaid llwythi er mwyn creu menter plannu coed. Mae’r coed a noddir yn helpu i gynnal ffermwyr Giriama ac ar yr un pryd yn amsugno’r carbon o’r amgylchedd a rannwn. Bellach defnyddir y prosiect yn gynllun peilot ar gyfer Maint Cymru – cynllun, a hyrwyddwyd ac a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru, sy’n anelu i amddiffyn a phlannu fforest law o ‘faint Cymru’. Ar hyn o bryd mae Luci’n gweithio i gofnodi’r Cyswllt Cymunedol Cymru/Affrica a’r ymwneud cymunedol sy’n deillio ohono. Mae ei gwaith yn rhoi sylw arbennig i’r rôl y mae dŵr yn ei chwarae o ran cefnogi amrywiol amcanion y cymunedau. Cynigia’r wybodaeth sy’n dod o’r Cyswllt Cymunedol hwn fodel perthynas amgen i gynlluniau datblygiad cynaliadwy. “Mae hwn yn gynllun buddiol ar gynifer o lefelau. Aeth myfyrwyr i Kenya sy’n wych am ei bod yn dangos y gallan nhw wneud gwahaniaeth ar lefel unigol. Rwy’n credu’n gryf bod myfyrwyr yn dysgu wrth fynd ati i wneud gwahaniaeth yn hytrach na dysgu’n unig am farn pobl eraill a beth sy’n cael ei ddweud wrthyn nhw. Y cymhelliad mawr yn y bôn i mi yw’r awydd i rymuso pobl i deimlo y gallan nhw wneud gwahaniaeth. Dull o wneud hynny yw Anthropoleg. Dyna fraint yw cael gweld bod pobl sy’n teimlo eu bod nhw wedi cael eu grymuso ac

wrth iddyn nhw raddio rwy’n meddwl ‘y rhain yw’r bobl fydd yn gwneud gwahaniaeth.’ Rwy innau am weld y byd yn newid; rwy’n credu ein bod ni wedi cymryd sawl cam gwag yn hemisffer y Gogledd – sef y rhan ddiwydiannol sy’n rheoli’r byd. Mae angen i ni newid pethau ac rwy’n gobeithio bod yn rhan o hynny, mewn modd sy’n sbardun i mi. Dyna sy’n fy ngyrru i.” Mae Luci wedi ei henwebu ar gyfer dwy Wobr Gŵn Gwyrdd, seremoni wobrwyo o fri sy’n darparu meincnodau rhagoriaeth i brifysgolion a cholegau ac sy’n uchel eu parch gan lywodraethau, cynghorau ariannu, uwch reolwyr, academyddion a myfyrwyr fel ei gilydd. Mae’r gwobrau’n cydnabod y mentrau cynaliadwyedd eithriadol a gynhelir gan brifysgolion a cholegau ledled y DU. Yn sgil yr ymwybyddiaeth gynyddol o gynaliadwyedd, mae’r gwobrau wedi ennill eu plwyf fel y gydnabyddiaeth bwysicaf o arfer da yn y sector addysg uwch a phellach. Enwebwyd Luci ar gyfer y categorïau Dulliau Addysgu Newydd a Hyrwyddwr Cynaliadwyedd, mae ei gweithgarwch a’i dull unigryw yn ei gwneud yn ymgeisydd teilwng iawn. “Roeddwn i wrth fy modd o gael gwybod i mi fod yn llwyddiannus yn yr enwebiadau. Gwelodd beirniaid y Gŵn Gwyrdd fod fy ffordd i o ddysgu yn caniatáu i fyfyrwyr fynd i’r afael â phynciau a syniadau sy’n gysylltiedig â ‘gwyrddni’ mewn modd newydd. Yn hytrach na dysgu yn unig am beth mae pobl yn ei wneud a phroblemau ar y blaned, maen nhw’n ceisio dod o hyd i atebion trwy fynd i’r afael â’r cwestiynau hyn.”

Enghraifft o ddull unigryw Luci o ddysgu yw pan ofynnodd i’w myfyrwyr gasglu eu sbwriel gydol y tymor a dod ag ef i’r Labordy Anthropoleg yn Llambed. Gosodwyd wedyn y sbwriel mewn ‘safle tirlenwi’ yr oedden nhw wedi’i greu yn y labordy. “Erbyn diwedd y tymor roedd cryn dipyn o sbwriel yn y labordy, gofynnais i i’r myfyrwyr ymwneud â’u sbwriel unwaith eto. Roedd yn hynod ddiddorol. I ddechrau, nid oedd y

myfyrwyr am gyffwrdd ag ef. Roedd fel pe bai e wedi peidio â bod eu sbwriel nhw. Pan fynnais i eu bod nhw’n ymwneud ag e, roedd rhaid iddyn nhw edrych ar y gwastraff unwaith eto a sylweddoli ei fod yn perthyn iddyn nhw o hyd. Penderfynon nhw ddefnyddio’r sbwriel i wneud cerflun manwl ar ffurf ddynol. Cystal â dweud mai gwneuthuriad dynol oedd y sbwriel. “Wrth wneud hyn sylweddolodd y myfyrwyr faint o gwpanau coffi nad oedd

yn ailgylchadwy yr oedden nhw wedi’u defnyddio dros y tymor. O ganlyniad, cymeron nhw gamau gyda’r tîm arlwyo i sicrhau cwpanau ailgylchadwy ar y campws. Roedd y camau’n llwyddiannus a bellach mae cwpanau coffi ailgylchadwy ar bob campws. Dyna un o’r canlyniadau uniongyrchol a ddaeth o’r dosbarth hwnnw o fyfyrwyr. Nid oeddwn i wedi gofyn iddyn nhw wneud hyn, daeth yn sgil wynebu lefel eu sbwriel eu hunain.”

21


Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: INSPIRE

Dr Jane Davidson, Dr Carolyn Hayles, Yr Athro Simon Haslett

Cynhadledd ESDGC 22

Cynhaliodd INSPIRE ei chynhadledd gyntaf ar ‘Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang’ (ADCDF) yn Ysgol Busnes Abertawe ar ddechrau mis Mehefin.

Roedd y gynhadledd undydd yn gyfle i staff Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ddod at ei gilydd a rhannu arfer da ac astudiaethau achos ym maes cyflwyno dysgu ac addysgu ADCDF ar draws y Brifysgol gyfan. Roedd y gynhadledd hefyd yn gyfle i staff y Brifysgol lunio papur cynhadledd llawn i’w adolygu’n ffurfiol. Bydd y papurau a dderbyniwyd yn cael eu cyhoeddi mewn cylchgrawn mewnol a adolygir gan gymheiriaid. Dyfernir gwobr am y Papur Gorau i’r academydd sy’n llunio’r darn gorau o waith, bydd yr enillydd yn cael ei benderfynu yn y man ac yn derbyn cymorth ariannol i fynychu cynhadledd a chyflwyno’i waith. Dywedodd Carolyn Hayles, Arweinydd Academaidd ar gyfer INSPIRE, a sefydlodd y digwyddiad: “Roedd y gynhadledd yn llwyddiannus iawn wrth ymuno academyddion o bob rhan o’r Brifysgol i rannu eu harfer ADCDF ac i gyflwyno rhai enghreifftiau gwych o arferion gorau mewn addysgu a dysgu. Wrth symud ymlaen, rydym yn gobeithio y bydd y gynhadledd yn annog academyddion i ledaenu eu profiadau o ADCDF yn ehangach, trwy gyfryniadau i gynadleddau rhyngwladol a chyhoeddiadau cyfnodolion. Yn y cyfamser, rydym yn bwriadu datblygu y gynhadledd fewnol yma i fod yn ddigwyddiad blynyddol.” Fe wnaeth nifer o siaradwyr gyflwyno sgyrsiau byr ar faterion allweddol yn ystod y gynhadledd. Yn eu plith roedd Sarah Hoss, VocalEyes a Choleg

Penfro, a roddodd gyflwyniad ar Anturiaethau Digidol: Cychwyn ar y llwybr i Ddinasyddiaeth Weithredol a Chynaliadwyedd, Stacey Coleman, Darlithydd mewn Seicoleg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Abertawe a roddodd gyflwyniad ar Adnabod Cynaliadwyedd mewn Seicoleg: Peryglon ac Addewid a Dr Glenda Tinney, Uwch Ddarlithydd, Ysgol Plentyndod Cynnar, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin a roddodd gyflwyniad ar Addysg Blynyddoedd Cynnar ac ADCDF – dwy ochr i’r un geiniog? Cyflwynwyd y brif araith gloi gan yr Athro Simon Haslett, Dirprwy Is-ganghellor Cysylltiol Prifysgol Cymru, ar Hyrwyddo ymchwil ac ysgolheictod mewn addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang:o daith bersonol i ymagwedd sefydliadol. Mae’r Athro Simon Haslett wedi cael gyrfa sy’n rhychwantu dros 20 mlynedd mewn addysg uwch, mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau, dros 100 o erthyglau gwyddonol, ac mae hefyd yn ddarlledwr sy’n ymddangos yn rheolaidd ar deledu a radio ac sy’n ysgrifennu erthyglau yn y wasg boblogaidd. Mae’n Gydolygydd y cylchgrawn Atlantic Geology ac yn Olygydd Cyswllt y Journal of Coastal Research. Nod Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw gwneud cynaliadwyedd yn ganolog i’w darpariaeth a bu’n gweithio ochr yn ochr â phrifysgolion eraill ar draws y DU trwy raglen Academi Werdd yr Academi Addysg Uwch i ymgorffori

cynaliadwyedd o fewn ei gweithrediadau a’i diwylliant craidd. Lansiwyd y sefydliad INSPIRE, a Dr Jane Davidson yn Gyfarwyddwr, ym mis Ionawr 2012, ac mae wedi datblygu gweithgarwch traws-sefydliadol yn ystod 2013 a 2014. Mae Cynllun Strategol y Brifysgol wedi ymrwymo i ymgorffori cynaliadwyedd yn egwyddor graidd ar draws pob agwedd ar y Brifysgol. Meddai Dr Jane Davidson, Cyfarwyddwr INSPIRE: “Mae datblygu cynaliadwy’n golygu gwneud gwell penderfyniadau gan ddefnyddio gwerthoedd hirdymor. Mae’n golygu meddwl am effeithiau gweithredoedd heddiw ar genedlaethau’r dyfodol a dysgu byw o fewn ein terfynau amgylcheddol – mae’n golygu cydbwyso anghenion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd mewn modd nad yw’n peryglu cenedlaethau’r dyfodol. Trwy INSPIRE ein nod yw datblygu darpariaeth sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau a fydd yn eu paratoi i gyfrannu yn y dyfodol i’r economi, i’r gymuned ac i’r amgylchedd. Hefyd bwriadwn ddatblygu ein campysau i’r safonau uchaf o ran perfformiad amgylcheddol, cyfrannu i’n cymunedau trwy roi sylw arbennig i faterion cymunedau gwledig cynaliadwy a datblygu de orllewin Cymru yn rhanbarth carbon isel, a datblygu capasiti ymchwil ac arloesi sy’n canolbwyntio ar gryfderau craidd y Brifysgol.”

23


Gwobr Aur Bwyd am Oes

Trafnidiaeth Werdd Yn unol â’r nodweddion cynaliadwyedd ehangach sydd ar waith ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae Hywel Griffiths, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, a’r tîm, wrthi’n gweithio ar y Cynllun Trafnidiaeth Werdd gyda’r bwriad o leihau effaith gweithgareddau teithio a thrafnidiaeth ar yr amgylchedd. Meddai Graham Allen, Rheolwr Amgylcheddol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: “Defnyddir canlyniadau’r arolwg teithio a gynhaliwyd ar draws y Brifysgol diwedd y llynedd i arwain ein cynllunio a’n rheolaeth o garbon ac ar yr un pryd i ddangos yn glir ein hymrwymiad i wella perfformiad amgylcheddol yn barhaus. Rydym yn rhedeg cynllun bws corfforedig i staff, ac mae amrywiol brisiau gostyngol ar gael i fyfyrwyr.” Mae datblygiad Ardal Arloesi Glannau Abertawe yn rhoi cyfleoedd ychwanegol i’r Brifysgol i ddatblygu atebion o ran trafnidiaeth er mwyn i fyfyrwyr a staff deithio i’r campysau sydd ar wasgar yn ddaearyddol a rhwng y campysau hynny.

24

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw’r brifysgol gyntaf yn y DU i ennill Nod Arlwyo Aur ‘Bwyd am Oes’ gan Gymdeithas y Pridd am ei gwasanaethau gwledda a digwyddiadau ar draws ei holl gampysau.

bod yn cyrraedd safonau uchel o ran tarddiad bwyd a’r gallu i’w olrhain, gan roi sicrwydd i gwsmeriaid bod prydau yn cael eu paratoi’n ffres gan ddefnyddio cynhwysion tymhorol a chynaliadwy yn amgylcheddol.

Mae Nod Ansawdd Cymdeithas y Pridd yn darparu cadarnhad annibynnol bod darparwyr bwyd yn cymryd camau i wella’r bwyd maent yn ei weini, yn defnyddio cynhwysion ffres sydd yn rhydd o draws-frasterau, ychwanegion niweidiol a chynhyrchion a addaswyd yn enetig (GM), ac sy’n well o ran lles anifeiliaid. Mae Gwasanaethau Arlwyo yn cael eu harchwilio gan y Gymdeithas yn flynyddol i sicrhau eu

Dyfarnwyd Nod Arlwyo Aur i’r Brifysgol am ei harlwyaeth mewn gwleddoedd a digwyddiadau, a dyma’r Brifysgol gyntaf yn y DU i ennill yr anrhydedd hwn am wasanaeth a ddarperir ar draws ei champysau. Y Brifysgol yw’r cyntaf yng Nghymru hefyd i ennill Gwobr Arian am ei gwasanaethau cinio sy’n cynnwys y carferi dydd Sul poblogaidd a weinir yn ei bwytai yng Nghaerfyrddin ac yn Llambed. Mae rhestr cyflenwyr y Brifysgol yn

cynnwys cwmnïau sy’n gweithredu yng nghymdogaeth leol ei champysau yn Llambed, Caerfyrddin ac Abertawe fel rhan o ymrwymiad y Brifysgol i ddatblygu cynaliadwy ar draws ei champysau, ei chwricwlwm, ei diwylliant a’i chymuned.

25


“Rydym yn benderfynol y bydd ein myfyrwyr yn ennill priodoleddau a sgiliau fydd yn eu gwneud yn ddatryswyr problemau da ac felly yn ddeniadol i gyflogwyr y dyfodol ym mhob sector. Wrth gyflawni’r nodau hyn mae’r Brifysgol yn anelu at ddarparu addysg ysbrydoledig i bob un o’i myfyrwyr.” Yr Athro Medwin Hughes, DL Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Dosbarthir y cyhoeddiad hwn ar lein ac fe’i argraffwyd ar bapur sydd wedi’i ailgylchu


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.