Sa1booklet welsh(small)

Page 1

Ardal Arloesi SA1 Glannau Abertawe Y Brifysgol Aml-gyswllt

Y Brifysgol Aml-gyswllt...

www.uwtsd.ac.uk


Y Brifysgol Aml-gyswllt... Mae gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) rôl strategol fel Prifysgol fetropolitan dinas Abertawe. Fe’i ffurfiwyd trwy uno Prifysgol Fetropolitan Abertawe a PCYDDS.

Mae ganddi Siartr Frenhinol sy’n dyddio’n ôl i 1822 ac o’r herwydd hon yw’r drydedd Brifysgol hynaf â Siartr Frenhinol yng Nghymru a Lloegr, ar ôl Rhydychen a Chaergrawnt. Mae’r datblygiad hwn yn cadarnhau safle Abertawe yn ddinas dysg. www.uwtsd.ac.uk


... Y Brifysgol Aml-gyswllt Mae gan PCYDDS hefyd Academi Llais Ryngwladol Cymru yng Nghaerdydd sy’n uchel ei bri ac Ysgol Busnes yn Llundain. Mae’r Brifysgol wedi creu grŵp ‘sector deuol’ sy’n cynnwys sefydliadau addysg bellach Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. Mae ganddi hefyd draddodiad hir o weithio gyda’i chydweithwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, Grŵp CCNPT a Choleg Sir Benfro.

27,000 o fyfyrwyr (tua 6,000 yn Abertawe)

Mae’r Brifysgol yn adeiladu ar ragoriaeth a threftadaeth ei sefydliadau sylfaenol er mwyn creu system addysg newydd sbon i Gymru.

17 o gampysau (5 yn Abertawe ar hyn o bryd)

Hon yw’r weledigaeth:

Noddwr Brenhinol - Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru

Ynglŷn â PCYDDS:

darparu profiad prifysgol a fydd yn denu myfyrwyr yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol

hyrwyddo rhagoriaeth ym maes ymchwil, ysgolheictod, dysgu ac addysgu cynorthwyo busnesau a diwydiant a chyfrannu i dwf economaidd, cymdeithasol a diwylliannol y ddinas a Dinas-Ranbarth Bae Abertawe

www.uwtsd.ac.uk


“Bydd de-orllewin Cymru yn DdinasRanbarth hyderus, uchelgeisiol a chysylltiedig, gyda chydnabyddiaeth ryngwladol am yr economi gwybodaeth ac arloesi sy’n datblygu yno”

Copyright Rachel Mitchell

Strategaeth Adfywio Economaidd Dinas-Ranbarth Bae Abertawe 2013 - 2030

Cysylltiadau â Dinas-Ranbarth Bae Abertawe Mae’r Brifysgol yn benderfynol o gyfrannu’n llawn i’r ymdrechion i alluogi Dinas-Ranbarth Bae Abertawe wireddu’i gweledigaeth o ddatblygu “un o fannau mwyaf nodedig a deniadol y DU ar gyfer byw, astudio, gweithio a hamddena”.

Mae lleoliad ei champysau yn y De-orllewin a’r Canolbarth yn golygu bod Grŵp PCYDDS mewn sefyllfa unigryw ar gyfer darparu newid trawsffurfiol ar lawr gwlad, yn ogystal â chyfrannu i adfywio’r rhanbarth yn economaidd trwy fod yn greadigol, arloesol a mentrus.

Bydd Grŵp PCYDDS yn datblygu’i phartneriaethau â gweithwyr yn y sector preifat a chyhoeddus i greu asiad cyffrous rhwng academia a diwydiant. Bydd yn hwyluso trosglwyddo gwybodaeth trwy sianelu doniau creadigol yr ardal er mwyn cynnig atebion busnes a chyfleoedd cyflogaeth go iawn

yn ogystal â darparu rhaglenni ar gyfer datblygiad proffesiynol a datblygiad gweithlu parhaus, o lefel derbyn i astudiaethau ôl-ddoethurol.

www.uwtsd.ac.uk


Cysylltiadau â Dinas Dysg Bydd datblygu Ardal Arloesi Glannau Abertawe yn werth miliynau o bunnoedd ac yn ategu buddsoddiad presennol y Brifysgol gwerth £30 miliwn i greu Ardal Ddiwylliannol ar Ffordd Alexandra, rhwng Canolfan Dinefwr ar gyfer y Celfyddydau, Dylunio a’r Cyfryngau a’r campws ALEX newydd (sef yr hen Lyfrgell Ganolog). Bydd datblygiad SA1, ger calon canol y ddinas, yn cysylltu’r ddwy ardal hyn i ddarparu cyfleusterau

Y nod yw darparu ffordd graff, gynaliadwy, gynhwysol o fyw a dysgu yn y ddinas a bydd yn cynnwys: addysg fodern pwrpasol i fyfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach. Bydd adleoli PCYDDS i SA1 yn ymestyn y gweithgareddau ar gyfer ymwneud â’r gymuned a ddatblygwyd dros flynyddoedd lawer yn Wardiau Cymunedau’n Gyntaf Townhill /Mayhill, Y Castell a St Thomas.

■ rhwydweithiau cymorth busnes a Chanolfannau Rhagoriaeth sy’n anelu at sicrhau cyfleoedd am fuddsoddi mewnol ■ partneriaethau â’r sector preifat gan gynnwys trosglwyddo gwybodaeth a datblygu mentrau masnachol newydd ar y cyd

■ cynnydd yng nghyfradd datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd yng Nghymru ■ cynnydd o ran arloesi ac entrepreneuriaeth a fydd yn deillio o staff a myfyrwyr YDDS, a sectorau busnes/diwydiant Cymru a’r sectorau gwasanaethau ■ cynnydd cyfatebol ym mherfformiad economi Cymru, ac yn y swyddi a ddiogelir ac a grëir

www.uwtsd.ac.uk


Ardal Arloesi Glannau Abertawe Bydd Ardal Arloesi Glannau Abertawe mewn lleoliad modern, byrlymus ar lannau’r dŵr lle bydd yn hawdd cyrraedd canol y ddinas. Mae PCYDDS eisoes wedi prynu’r ddau Dechnium yn SA1, sy’n gartref i gwmnïau arloesol yn yr economi sy’n seiliedig ar wybodaeth. Mae’r Brifysgol hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â’r grŵp Ethos gerllaw. Bydd prif ased diwylliannol y ddinas, Canolfan Dylan Thomas, nepell ar draws Afon Tawe, hefyd yn dod yn rhan o’r sefydliad pan fydd PCYDDS yn uno â Phrifysgol Cymru yn ystod y blynyddoedd nesaf. Bydd Ardal Arloesi Glannau Abertawe yn cynnwys cyfleusterau pwrpasol ar gyfer dysgu, addysgu ac ymchwil yn ogystal â lleoedd cymdeithasol, hamdden a gwyliau. Am fod hon yn Brifysgol sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, dylunnir a chodir yr adeiladau mewn modd cynaliadwy a deniadol i’r llygad, gyda lleoedd gwyrdd wedi’u datblygu i greu amgylchedd cymdeithasol ysbrydoledig.


Cysylltiadau ar Draws SA1

Bwriada PCYDDS greu’r cyd-destun economaidd a chymdeithasol cywir i ddod â gwerth economaidd a diwylliannol ychwanegol i’r ddinas. Bydd y Brifysgol yn cyfuno seilwaith academaidd â’r lleoedd cymdeithasol sydd ar gael i’r cyhoedd. Bydd hyn yn cynnwys cyfleusterau chwaraeon a hamdden, caffis a bwytai, a lleoedd gwyrdd awyr agored – gan greu amgylchedd hamddenol, cyffrous mewn lleoliad bywiog ar lannau’r dŵr.

Mae PCYDDS wedi prynu chwe llain sylweddol yn SA1 y bwriada eu datblygu mewn dau gam. Mae’r cynllunio ar gyfer Cam 1 a Cham 2 ar fin dechrau a bydd yn cynnwys ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol, megis Dinas a Sir Abertawe, busnesau a diwydiannau lleol, y gymuned leol a myfyrwyr a chyflogeion y Brifysgol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno y caiff y Brifysgol yr opsiwn o ddatblygu naw llain ychwanegol yn y dyfodol.

www.uwtsd.ac.uk


Cam 1 - Plotiau A11b; A15; A16; C4; E9; ac F Cam 2 - Plotiau E6 to E8; popeth i’r de o C4


Cysylltiadau â Busnes a Diwydiant Bydd cysyniad Ardal Arloesi Glannau Abertawe ar gyfer prifysgol dinas yn gwneud Abertawe yn wahanol i bob dinas arall yng Nghymru. Bydd Abertawe yn arwain y ffordd o ran sefydlu model economaidd a diwylliannol sy’n hwyluso integreiddiad ac yn gyrru twf menter. Yn ogystal â bod yn ganolfan economaidd, bydd Ardal Arloesi Glannau Abertawe hefyd yn gatalydd ar gyfer rhagor o fuddsoddi allanol yn y rhanbarth.

Bydd Ardal Arloesi Glannau Abertawe yn: ■ sefydlu Canolfannau Rhagoriaeth ar draws gwahanol sectorau a fydd yn sicrhau manteision economaidd a masnachol clir ■ adeiladu ecosystem arloesi a menter integredig sy’n darparu ar gyfer cydweithredu o ran trosglwyddo gwybodaeth rhwng diwydiant ac academia

■ gyrru datblygiad cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd trwy ddarparu cwmnïau sy’n gallu cael cyngor a chymorth ar y cyd â gallu a medrusrwydd technolegol ■ darparu deorfeydd o ansawdd uchel i gwmnïau, entrepreneuriaid a graddedigion ■ creu màs critigol o arbenigedd a thechnoleg a fydd yn denu cwmnïau, partneriaethau a buddsoddiad newydd

■ cynnig cyfleoedd i gyflogeion dyfu trwy Ganolfan ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus ■ dod â’r arfer gorau i Gymru a dangos creadigrwydd ac arloesi Cymru ar eu gorau ■ adeiladu ar y cysylltiadau diwydiannol helaeth sy’n bodoli trwy Ganolfan Diwydiannau Creadigol, Ymchwil ac Arloesedd y Brifysgol (CIRIC) a bydd yn cysylltu â’r Ardal Ddiwylliannol ar Ffordd Alexandra ynghanol y ddinas ■ ysgogi adfywiad y ddinas a’r rhanbarth www.uwtsd.ac.uk


Cysylltiadau â’r Gymuned Leol

“Mae’n anodd credu’r newid yn hyder ein pobl ifanc yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bu cyfraniad y Brifysgol yn bwysig iawn i’w cefnogi a’u grymuso.” Rhodri Thomas, Canolfan Spark, Blaen-y-maes

Crëwyd sefydliadau blaenorol PCYDDS gan y bobl, i’r bobl. Mae cymryd rhan yn y gymuned yn parhau’n ganolog i’n hethos. Crea gyfle i greu perthynas ddwyffordd sydd o fudd i’r gymuned a myfyrwyr y Brifysgol. Trwy weithio gyda grwpiau cymunedol a sefydliadau trydydd sector, mae PCYDDS wedi sicrhau arian i ddatblygu nifer o brosiectau a mentrau ar draws y ddinas, yn enwedig yn yr ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf sy’n cwmpasu Wardiau Townhill a’r Castell. Byddai datblygiad yn SA1 yn galluogi PCYDDS i ymestyn gweithgareddau cymunedol, yn enwedig yn Ward St Thomas.

www.uwtsd.ac.uk


Cysylltiadau â Myfyrwyr a Chyflogeion PCYDDS Mae Abertawe yn ddinas dysg. Bydd campws newydd mewn lleoliad glannau pwysig ynghanol y ddinas yn trawsffurfio’r profiad addysgiadol i fyfyrwyr a gweithwyr PCYDDS gan greu campws pwrpasol i’r 21ain ganrif. Bydd yn cynyddu enw da’r Brifysgol am addysg arloesi a menter, wrth i’w chysylltiadau â busnes a diwydiant gynnig addysg ar gyfer y byd go iawn i fyfyrwyr PCYDDS. Bydd myfyrwyr a chyflogeion ar eu hennill o ganlyniad i astudio, gweithio a byw mewn amgylchedd a fydd yn cynnwys adeiladau modern, cynaliadwy gyda lleoedd gwyrdd awyr agored braf. Yn ogystal â’r cyfleusterau hamdden a gynlluniwyd yn y datblygiad, bydd y campws yn gysylltiedig â chanol y ddinas gan gynnig rhagor o gyfleoedd hamdden, a sicrhau bod modd cyrraedd y campws trwy seilwaith trafnidiaeth Abertawe. Ychydig y tu hwn i’r ddinas saif coron gogoniant Abertawe, Penrhyn Gŵyr, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf Prydain sy’n cynnig golygfeydd ysgytwol a thros hanner cant o draethau sydd wedi ennill gwobrau.

“Cyfeiria’r term ‘profiad myfyrwyr’ at rywbeth mwy o lawer nag astudiaeth academaidd yn unig. Mae’n golygu cynnig amgylchedd lle gallant integreiddio â’r bobl a’r lle, ynghyd â’r gwerth ychwanegol o ran datblygu cyflogadwyedd a sgiliau menter. Gobeithia’r Corff Myfyrwyr y bydd y campws newydd yn dod â’r holl elfennau hyn at ei gilydd i greu’r profiad perffaith i fyfyrwyr.” Bethan Thomas, Llywydd, Undeb Myfyrwyr Abertawe PCYDDS

Bydd Ardal Arloesi Glannau Abertawe yn gwneud PCYDDS, a dinas Abertawe, yn gynnig deniadol i genedlaethau o fyfyrwyr a chyflogeion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. www.uwtsd.ac.uk


Cysylltiadau â’r Morlyn Llanw Nid campws newydd arfaethedig PCYDDS yw’r unig ddatblygiad o bwys yn y ddinas. Mae cynlluniau wedi’u cyflwyno ar gyfer Morlyn Llanw ym Mae Abertawe. Hwn fyddai’r Morlyn cyntaf yn y byd i’w wneud gan ddyn a byddai modd iddo gynhyrchu trydan am ryw pedair awr ar ddeg pob dydd, i 121,000 o gartrefi.

Pe bai’n cael ei gymeradwyo, byddai’r Morlyn yn darparu ‘parciau morol’ gydag adeiladau a lleoedd cyhoeddus, gan greu tirwedd â chyfleusterau addysg, chwaraeon a chelfyddyd y byddai’n hawdd i fyfyrwyr a chyflogeion PCYDDS fanteisio arnynt. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.tidallagoonswanseabay.com

Ardal Arloesi’r Glannau Arfaethedig Proposed Waterfront Innovation Quater


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.