Prosbectws Israddedig 2019

Page 1

Y DRINDOD DEWI SANT PROSBECTWS ISRADDEDIG

CAERFYRDDIN

ABERTAWE

LLAMBED


Croeso i'r

Drindod Dewi Sant Trawsnewid Addysg, Trawsnewid Bywydau

A new

university


Cynnwys

Caerfyrddin

36

Caerdydd

100

Abertawe

110

Defnyddiwch y prosbectws hwn i ddarganfod beth sydd gennym i’w gynnig ar ein campysau yng Nghaerfyrddin, Caerdydd, Abertawe a Llambed. Caiff y wybodaeth am y lleoliadau ei dilyn gan gyflwyniad i bob cyfadran sy’n cyflwyno cyrsiau ar y campws penodol hwnnw. Ar ôl pob cyflwyniad, rhestrir y cyrsiau a gyflwynir gan y gyfadran yn y lleoliad hwnnw.

Llambed

210

#DyddieDa

Cyrsiau

288

Cynnwys

290

Cysylltiadau

293

1


Eich Prifysgol

Eich

Prifysgol Mae’r prosbectws hwn wedi ei anelu’n bennaf at ddarpar fyfyrwyr sy’n siaradwyr Cymraeg ac sy’n ystyried astudio eu rhaglen addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Y mae’r un mor berthnasol ar gyfer siaradwyr Cymraeg sy’n dymuno astudio drwy gyfrwng y Saesneg lle bydd cyfle iddynt gyflwyno eu gwaith yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Mae’r prosbectws yn cynnwys manylion y rhaglenni hynny sy’n cael eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog ar gampysau’r Brifysgol ac yn egluro’r gefnogaeth a gynigir yn benodol i fyfyrwyr sy’n cofrestru ar y rhaglenni hynny.

2

Rhestrir hefyd yr holl raglenni cyfatebol a ddarperir drwy gyfrwng y Saesneg. Yn ogystal â hyn, mae'r Brifysgol wedi cyhoeddi prosbectws Saesneg sy’n cyflwyno ei holl raglenni cyfrwng Saesneg a cheir copïau electronig o’r naill ddogfen a’r llall ar wefan y Brifysgol.


Mae tua

2,000

o siaradwyr Cymraeg yn astudio yn Y Drindod Dewi Sant

3


Eich Prifysgol

4


Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau’r Brifysgol sy’n cael eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog wedi eu lleoli ar Gampws Caerfyrddin lle ceir traddodiad hir ac anrhydeddus o hyfforddi myfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae dros fil o siaradwyr Cymraeg yn astudio ar Gampws Caerfyrddin yn flynyddol gyda chanran uchel o’r rhain yn astudio o leiaf ran o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn hyn. Wrth i’r Brifysgol esblygu, mae ei Strategaeth Addysg Gymraeg a Dwyieithog yn canolbwyntio ar ddatblygu mwy a mwy o raglenni dwyieithog lle bydd modd i fyfyrwyr astudio hyd at 40 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hyn yr un mor wir ar gyfer ei champysau yn Llambed ac Abertawe ag ydyw ar gyfer Campws Caerfyrddin.

Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r Brifysgol yn ymfalchïo’n fawr yn y ffaith y gall ddarparu rhai rhaglenni’n llwyr drwy gyfrwng y Gymraeg. Golyga hynny y bydd yr holl addysgu’n digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg ac eithrio sesiynau dysgu a arweinir gan ddarlithwyr gwadd nad ydynt yn siarad Cymraeg. Cyfeirir at y rhaglenni hyn ar dudalen 12.

Astudio’n ddwyieithog Mae’r Brifysgol yn annog ei holl fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg i astudio o leiaf ran o’u rhaglen drwy gyfrwng y Gymraeg. Trwy wneud hyn, bydd y myfyrwyr hynny mewn sefyllfa gryfach o lawer pan ddaw hi’n amser chwilio am waith. Mae’r gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn cael ei weld yn sgil fwy-fwy pwysig gan gyflogwyr yng Nghymru erbyn hyn. Efallai nad ydych yn teimlo’n ddigon hyderus i astudio’n llwyr drwy gyfrwng y Gymraeg. Os felly, pam na fentrwch astudio rhan o’ch cwrs yn unig drwy gyfrwng y Gymraeg? Mae rhai myfyrwyr yn astudio 40 o’u 120 credyd drwy gyfrwng y Gymraeg yn y flwyddyn gyntaf gan symud ymlaen i astudio 80 credyd drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn eu blwyddyn olaf. Mae eraill yn dewis astudio 20 credyd yn y flwyddyn gyntaf a 40 credyd yn yr ail a’r drydedd flwyddyn. Cewch gyfle i drafod yr opsiynau hyn i gyd gyda’r tiwtoriaid priodol yn ystod y Diwrnodau Agored, y Diwrnodau Cyfweld neu’n wir, wrth i chi gofrestru ar eich rhaglen.

Fy hoff beth i am astudio'r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yw fy mod yn bwriadu aros yng Nghymru i weithio wedi i mi raddio, ac felly bydd cael fy hyfforddi am dair blynedd yn fy iaith gyntaf yn fy mharatoi i'n dda ar gyfer y byd gwaith.

Siôn Llywelyn

Myfyriwr BA Addysg Gynradd gyda SAC

5


Y Gymraeg

Dyma ddechre ar y

dyddie da... Croeso i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sefydliad addysg uwch sydd wedi’i leoli ar dri phrif gampws bywiog yn Abertawe, Caerfyrddin a Llambed, gydag is-gampysau yng Nghaerdydd a Llundain. Wrth ddewis astudio yn ein hamgylchedd dysgu unigryw ni, byddwch yn ymuno â chymuned gyfeillgar lle mae’r myfyrwyr yn gwerthfawrogi bod yn enw ac nid yn rhif; lle mae eu darlithwyr yn meithrin eu datblygiad trwy eu hastudiaethau, a lle maent yn ffurfio cyfeillgarwch oes. Dechreuwch eich taith tuag at wireddu eich

6

uchelgeisiau mewn bywyd yn y Brifysgol eithriadol a hanesyddol hon. Er iddi gael ei sefydlu bron 200 mlynedd yn ôl, mae’n cael ei chydnabod gyda’r fwyaf deinamig yng Nghymru heddiw. Rydym yn sefydliad sy’n canolbwyntio ar y dyfodol ac sydd gam ar y blaen mewn oes sy’n newid mor gyflym.


Mae gan Y Drindod

350

Dewi Sant dros o gyrsiau israddedig, ar draws pum cyfadran academaidd gan gynnwys nifer o raddau meistr integredig

7


Y Gymraeg

10 rheswm gwych i siaradwyr Cymraeg ddewis

Y Drindod Dewi Sant Canolfan S4C Yr Egin Mae S4C yn adleoli ei phencadlys i Gampws Caerfyrddin yn 2018. Mae Canolfan S4C Yr Egin - sy'n gartref i’r pencadlys newydd – yn adeilad eiconig sydd hefyd yn gartref i oddeutu 15 o gwmnïau a sefydliadau cysylltiedig eraill. Bydd cyfleoedd rheolaidd i fyfyrwyr dreulio cyfnodau profiad gwaith yn Yr Egin.

Canolfan Gymraeg Mae’r Brifysgol wedi sefydlu Canolfan Gymraeg Yr Atom yng nghanol tref Caerfyrddin sydd yn cynnig pob math o weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae ynddi gaffi poblogaidd hefyd.

Llety ar y Campws ar Gyfer Siaradwyr Cymraeg Mae’r Brifysgol yn darparu fflatiau cyfan ar Gampws Caerfyrddin ar gyfer y myfyrwyr hynny sy’n dymuno rhannu llety gyda Chymry Cymraeg eraill. Er nad oes trefniadau tebyg yn Abertawe a Llambed ar hyn o bryd, gellir trafod y sefyllfa ymhellach â’r Swyddog Llety priodol.

Penwythnos y Glas ar Gyfer Siaradwyr Cymraeg Trefnir Penwythnos y Glas ar gyfer glasfyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a fydd yn cychwyn eu hastudiaethau yn y Brifysgol bob mis Medi. Mae hwn yn gyfle i siaradwyr Cymraeg ddod i adnabod ei gilydd cyn i’r flwyddyn academaidd ddechrau.

8


Astudio Drwy Gyfrwng y Gymraeg ac yn Ddwyieithog

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cyfrwng Cymraeg

Mae modd astudio nifer o raglenni drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyfan gwbl ar gampws Caerfyrddin, ynghyd â'r cwrs Perfformio yng Nghaerdydd, tra bod mwy a mwy o raglenni dwyieithog yn cael eu datblygu a’u darparu ar draws holl gampysau’r Brifysgol.

Bydd gan y rheiny a fydd yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg gyfleoedd i wneud cais am nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau cyfrwng Cymraeg o du’r Brifysgol a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cofrestriadau Cyfrwng Cymraeg Mae mwy o fyfyrwyr yn astudio rhan o’u rhaglen addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant nag mewn unrhyw brifysgol arall yn y byd i gyd!

Cangen o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol Mae gan y Brifysgol Gangen gref o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol gyda thros 400 o fyfyrwyr yn aelodau ohoni. Mae’r Gangen yn trefnu nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol ar gyfer ei haelodau bob tymor.

Cyrsiau Gloywi Iaith Bydd y Brifysgol yn darparu cyrsiau Gloywi Iaith ar gyfer ei holl fyfyrwyr sy’n astudio eu rhaglen addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Bydd y Brifysgol – mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol – yn cefnogi’r myfyrwyr hynny a fydd yn dymuno cofrestru ar Dystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

9


Eich Cwrs

Cyrsiau Cyfrwng

Cymraeg

Yn Y Drindod Dewi Sant mae modd astudio rhai cyrsiau yn gyfan gwbl trwy'r Gymraeg. Ceir hefyd opsiynau i astudio'n ddwyieithog, lle astudir rhan o'r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.

10


Gweler isod restr o’r rhaglenni y mae modd eu hastudio’n llwyr neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Abertawe 20

40

80

BA Gwasanaethau Cyhoeddus HND Gwasanaethau Cyhoeddus BA Y Gyfraith a Busnes BA Y Gyfraith a Gwasanaethau Cyhoeddus BA Astudiaethau Addysg: Dysgwyr a Dysgu Cyfoes BA Astudiaethau Addysg: Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant BA Astudiaethau Addysg: Safbwyntiau Rhyngwladol BA Cyfrifeg BA Rheolaeth Busnes (Cyllid) BA Rheolaeth Busnes BA Rheolaeth Busnes (Adnoddau Dynol) BA Y Gyfraith a Busnes BA Rheolaeth Busnes (Marchnata) BA Marchnata Digidol FdA Rheolaeth Busnes HND Rheolaeth Busnes (Cyllid) HND Rheolaeth Busnes BA Rheolaeth Twristiaeth HND Rheolaeth Twristiaeth FdA Rheolaeth Twristiaeth BA Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol BA Rheolaeth Digwyddiadau HND Rheolaeth Digwyddiadau FdA Rheolaeth Digwyddiadau BA Rheolaeth Hamdden BA Y Gyfraith a Busnes BA Rheolaeth Chwaraeon HND Rheolaeth Chwaraeon FdA Rheolaeth Chwaraeon BA Rheolaeth Chwaraeon Rhyngwladol BA Rheolaeth Cyfleusterau Stadiwm a Chwaraeon BA Rheolaeth Chwaraeon Dŵr BA Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol Gradd Sylfaen mewn Addysg Gynhwysol BA Celf Gain

Caerfyrddin 40

BA Busnes a Rheolaeth BA Eiriolaeth BA Rheolaeth Menter Wledig BA Rheolaeth Diwydiannau Diwylliannol BSc Therapi Chwaraeon BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff BA Addysg Antur Awyr Agored BA Addysg Gorfforol

80

Gradd Sylfaen Mewn Addysg Gynhwysol

120

BA Addysg Gynradd gyda SAC BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar) MEYEC Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar MEYEC Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar) BSc Amaethyddiaeth (Coleg Sir Gâr) BA Astudiaethau Addysg: Cynradd BA Gwaith Ieuenctid a Chymuned

180

BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (2 flynedd) BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar) (2 flynedd)

Llambed 80

BA Astudiaethau Crefyddol

120

BA Astudiaethau Celtaidd

Caerdydd 180

BA Perfformio (2 flynedd)

20

40

80

120

180

Mae'r ffigurau hyn yn nodi faint o gredydau y gellir eu hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar y rhaglen o dan sylw’n flynyddol.

Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Gan amlaf, mae modylau'n werth 10, 15, neu 20 credyd yr un. Ar gyfer gradd Baglor, mae myfyrwyr yn astudio 360 credyd dros dair blynedd, sef 120 credyd y flwyddyn, neu 180 y flwyddyn am gwrs 2 flynedd.

11


Cymraeg

Y Gymraeg yn Y Drindod Dewi Sant

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ei hymrwymo ei hun i ddatblygu a hyrwyddo ystod cynyddol o raglenni addysg uwch cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ac rydym yn cynnig ysgoloriaethau hyd at £1,800 i annog myfyrwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. 12


Prifysgol Naturiol Ddwyieithog

Mae’r Drindod Dewi Sant yn Brifysgol naturiol ddwyieithog, lle mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cyd-fyw mewn cytgord. Mae canran uchel o’n staff a’n myfyrwyr yn medru’r Gymraeg ar draws ein campysau ac mae campws Caerfyrddin, yn enwedig, yn adnabyddus am ei awyrgylch Cymraeg. Fe fydd lleoli pencadlys S4C ar y campws yn 2018 yn cyfrannu ymhellach at ei awyrgylch Cymraeg ac yn sicr bydd cyfle i fyfyrwyr elwa o bresenoldeb S4C a’r partneriaid eraill a fydd yn gweithio yng Nghanolfan S4C Yr Egin maes o law.

Darpariaeth Gymraeg a Dwyieithog

Cynigir cyrsiau cyfrwng Cymraeg ar gampysau’r Brifysgol yng Nghaerfyrddin a Chaerdydd ond hefyd gellir astudio rhai cyrsiau yn ddwyieithog yng Nghaerfyrddin ac Abertawe. Mae hyn yn golygu os ydych wedi’ch cofrestru ar gwrs cyfrwng Saesneg, mae’n bosib y gallwch astudio modwl, gyflwyno gwaith neu fynychu seminarau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae yma hefyd ddigon o gyfleoedd i chi wella’ch sgiliau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn dosbarthiadau i ddysgwyr a gwersi gloywi iaith a drefnir gan Ganolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol. Mae’r cyfleoedd hyn yn eich galluogi i ddatblygu’ch sgiliau yn y ddwy iaith - sy’n rhoi mantais sylweddol i chi wrth ymgeisio am swyddi ar ddiwedd eich cwrs. Mae Campws Caerfyrddin yn draddodiadol wedi darparu ystod o raglenni addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig ym meysydd hyfforddi athrawon a’r celfyddydau perfformio. Yn ogystal â pharhau i gynnig darpariaeth israddedig ac ôl-raddedig o’r radd flaenaf yn y meysydd hyn, mae’r Brifysgol hefyd wedi buddsoddi mewn darpariaeth o’r newydd yn ystod y blynyddoedd diweddar ar draws campysau Caerfyrddin, Llambed ac Abertawe mewn meysydd megis Plentyndod

Cynnar, Gwaith Ieuenctid a Chymuned, Addysg Gorfforol, Addysg Antur Awyr Agored, Busnes, Gwasanaethau Cyhoeddus, Celf a Dylunio ac mae’r ddarpariaeth yn ehangu. Mae canran uchel o’r staff yn gwbl ddwyieithog a gellir darparu cefnogaeth diwtorial a bugeiliol ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn eu mamiaith.

Datblygu’ch Sgiliau Cymraeg

Ein nod yw creu cyfleoedd i’n myfyrwyr ddatblygu sgiliau ar lefel uwch a fydd yn caniatáu iddynt weithio yng Nghymru’r unfed ganrif ar hugain. Efallai nad ydych wedi ystyried astudio rhan o’ch rhaglen radd drwy gyfrwng y Gymraeg hyd yn hyn. Efallai eich bod yn teimlo’n ddihyder ynghylch astudio eich rhaglen yn llwyr drwy gyfrwng y Gymraeg. Efallai nad yw astudio’n ddwyieithog wedi croesi eich meddwl! Meddyliwch o ddifrif am y drysau a fydd yn agored i chi fel graddedigion os byddwch wedi astudio o leiaf ran o’ch rhaglen radd drwy gyfrwng y Gymraeg! Datblygwch eich sgiliau Cymraeg ymhellach yn Y Drindod Dewi Sant! Cewch gefnogaeth gan y Brifysgol trwy gydol eich astudiaethau. Fyddwch chi ddim ar eich pen eich hunan! Cofiwch fod mwy a mwy o gyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru yn tystio bod cyflogi staff dwyieithog yn gwella eu busnes.

13


Cymraeg Cefnogaeth â’r Gymraeg

Darperir cyrsiau Gloywi Iaith ar y campws ac yn electronig i gefnogi’r myfyrwyr hynny sy’n dymuno astudio’u cwrs yn gyfan gwbl neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Drindod Dewi Sant hefyd yn darparu ystod o raglenni Gloywi Iaith ar gyfer y gweithle gan ganolbwyntio ar hybu sgiliau llafar ac ysgrifenedig y rheiny sy’n gweithio o fewn cyd-destunau dwyieithog. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i ddatblygu adnoddau cyfrwng Cymraeg o’r radd flaenaf er mwyn cefnogi myfyrwyr â’u hastudiaethau. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae buddsoddiad sylweddol wedi ei wneud er mwyn cynyddu adnoddau megis llyfrau, gwefannau ac adnoddau rhyngweithiol cyfrwng Cymraeg er mwyn diwallu’r galw gan fyfyrwyr am adnoddau cefnogol. Drwy fanteisio ar arbenigeddau amrywiol staff y Brifysgol, rydym wedi datblygu amrywiaeth o adnoddau cyfrwng Cymraeg gwerthfawr iawn i fyfyrwyr ym meysydd Addysg, Chwaraeon, Busnes, ac o fewn meysydd y Celfyddydau Creadigol a Pherfformio, sy’n cael eu defnyddio gan fyfyrwyr mewn prifysgolion ar draws Cymru. Mae manylion yr holl adnoddau hyn i’w canfod ar wefan y Brifysgol yn ogystal â gwefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Os ydych yn dymuno astudio’ch cwrs addysg uwch yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg neu hyd yn oed gofrestru ar fodwl neu ddau ar hyd y daith, dewch i brifysgol Gymreiciaf Cymru, prifysgol y mae iddi draddodiad o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a phrifysgol sydd wedi ei hymrwymo ei hun i hyfforddi myfyrwyr ar gyfer y Gymru ddwyieithog.

14


Cymdeithas Gymraeg Myfyrwyr y Brifysgol

Mae’r Gymdeithas Gymraeg yn cael ei rhedeg gan fyfyrwyr y Brifysgol, a threfnir gweithgareddau a digwyddiadau cymdeithasol amrywiol, gan roi digon o gyfleoedd i wneud ffrindiau a chael profiadau newydd; o deithiau rygbi rhyngwladol i gystadlaethau chwaraeon ac Eisteddfodau’r Rhyng-gol… mae llu o gyfleoedd a llu o weithgareddau at ddant pawb!

Undeb y Myfyrwyr

Mae cefnogaeth gref gan Undeb y Myfyrwyr i’r Gymraeg yn Y Drindod Dewi Sant. Mae gan yr Undeb Swyddog Materion Cymraeg sy’n fyfyriwr sydd wedi cael ei ethol gan fyfyrwyr i’w cynrychioli. Mae’n cydweithio â’r Brifysgol a’r Gymdeithas Gymraeg i sicrhau bod myfyrwyr yn mwynhau eu cyfnod yn y Brifysgol.

Yr Urdd ac Aelwyd Y Drindod Dewi Sant

Mae’r Brifysgol yn gweithio mewn partneriaeth â’r Urdd ar nifer o fentrau cyffrous. Yn benodol, mae myfyrwyr Addysg Antur Awyr Agored yn elwa o gyfleusterau’r Urdd yng Nglan-llyn, ac mae myfyrwyr Gwaith Ieuenctid a Chymuned yn manteisio ar rwydweithiau’r Urdd ar gyfer lleoliadau gwaith a chyfleoedd cyfoethogi cyrsiau. Mae Aelwyd Y Drindod Dewi Sant yn cynnal llu o weithgareddau ynghyd ag ymarfer ar gyfer cystadlaethau’r Urdd fel rhan o Gôr Y Drindod Dewi Sant. Mae’r côr wedi profi cryn lwyddiant yn y gorffennol ac mae'n cynnal cyngherddau mewn digwyddiadau bob blwyddyn.

Canolfan S4C Yr Egin

Mae'r Brifysgol yn ymfalchïo yn y ffaith bod Awdurdod S4C wedi penderfynu adleoli pencadlys y Sianel i Gaerfyrddin. Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn a fydd yn rhoi hwb sylweddol i’r iaith yn Sir Gâr yn dilyn siom canlyniadau’r Cyfrifiad yn 2011. Fe fydd presenoldeb Canolfan S4C Yr Egin ar y campws yng Nghaerfyrddin hefyd yn rhoi hwb sylweddol i’r economi leol yn sgil y swyddi newydd a gaiff eu creu. Hyderir y bydd nifer dda o gwmnïau dwyieithog – cwmnïau darlledu a pherfformio, cwmnïau digidol ac ôlgynhyrchu, mudiadau a mentrau iaith yn ogystal â chyhoeddwyr a sefydliadau addysgol - yn cyd-leoli mewn un adeilad newydd ar y campws. Bydd presenoldeb S4C a’r partneriaid yn cynnig ystod o gyfleoedd i fyfyrwyr gan gynnwys cyfnodau o brofiad gwaith lle ceir cyfle i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau a hynny mewn cyd-destunau gwaith go iawn.

Rwy’n mwynhau’r Drindod Dewi Sant oherwydd mae gennym ddarlithwyr gwych a phrofiadol. Mae'r myfyrwyr i gyd yn bobl hyfryd. Mae’r GymGym yn rhoi ystod o brofiadau i fyfyrwyr o’r Rhyng-gol i'r daith rygbi flynyddol. Dwi wrth fy modd yma.

Teleri Phillips

Myfyrwraig Y Drindod Dewi Sant

#DyddieDa 15


Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cangen Y Drindod Dewi Sant Cangen Y Drindod Dewi Sant

Fel un o brif ddarparwyr addysg uwch cyfrwng Cymraeg, mae'r Drindod Dewi Sant yn chwarae rôl flaenllaw o fewn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn cydweithio â’r Coleg i gynyddu cyfleoedd dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr ar sawl lefel. Er bod ei swyddfa wedi ei lleoli mewn man canolog ar gampws Caerfyrddin, mae Cangen Y Drindod Dewi Sant o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn weithredol ar draws holl gampysau’r Brifysgol gan gynnwys Abertawe, Llambed, Caerdydd a champysau Coleg Sir Gâr. Mae’r swyddfa yn gartref i Swyddog y Gangen a’r Tiwtor Iaith ac mae croeso i aelodau o’r Gangen, boed yn fyfyrwyr neu’n staff, alw draw am sgwrs a derbyn cyngor a gwybodaeth ar unrhyw adeg. Mae nifer o gyrsiau gradd y Brifysgol eisoes wedi eu cynnwys o fewn Cynllun Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a thrwy’r cynllun hwn, mae modd i fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant ymgeisio am ysgoloriaethau hyd at £3,000 am astudio’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhestr lawn o’r cyrsiau cymwys yn ogystal â gwybodaeth ynghylch y broses ymgeisio am ysgoloriaeth i’w canfod ar wefan y Brifysgol yn ogystal â gwefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Noder bod yr ysgoloriaethau hyn yn ychwanegol i’r fwrsariaeth hyd at £1,800 y mae’r Brifysgol yn ei chynnig i fyfyrwyr am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

16

Tystysgrif Sgiliau Iaith

Mae holl fyfyrwyr Cymraeg y Brifysgol yn cael eu hannog i ddilyn Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae hon yn Dystysgrif newydd sy'n rhoi cyfle euraid i fyfyrwyr ennill cymhwyster sy'n dangos eu sgiliau iaith Cymraeg, a’u galluogi i ddangos tystiolaeth i gyflogwyr o’u gallu i gyfathrebu’n hyderus ac yn broffesiynol yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae’r Brifysgol yn darparu cyfleoedd i bob myfyriwr dderbyn sesiynau a chefnogaeth gan diwtor iaith sydd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer y Dystysgrif. Ceir rhagor o wybodaeth i ddarpar fyfyrwyr ar wefan y Dystysgrif: www.sgiliauiaith.colegcymraeg.ac.uk

Penwythnos y Glas

Mae Cangen Y Drindod Dewi Sant o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi trefnu Penwythnos y Glas ers sawl blwyddyn bellach. Mae’r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i lasfyfyrwyr Cymraeg eu hiaith (p’un ai a ydynt yn bwriadu astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ai peidio) ymgartrefu ar Gampws Caerfyrddin cyn i weddill y flwyddyn gyntaf gyrraedd ddeuddydd yn ddiweddarach. Mae’r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i Gymry Cymraeg ddod i adnabod ei gilydd a’r campws cyn i’r tymor ddechrau. Anfonir gwybodaeth atoch ynghylch y trefniadau unwaith y byddwch wedi derbyn lle i astudio yn y Brifysgol.


Cangen Y Drindod Dewi Sant @CangenDDS b.davies@pcydds.ac.uk

17


Graddau Israddedig

Ysgoloriaethau’r

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

...Roedd ennill Ysgoloriaeth William Salesbury yn deimlad mor arbennig ac yn fraint fawr. Nid oeddwn i’n disgwyl ennill y wobr yma o gwbl felly daeth y cyfan fel sioc fawr i mi. Yn sicr, mi fydd yr arian yma’n gymorth mawr, yn enwedig wrth i mi astudio cwrs Addysg Gynradd. Gallaf weld yn barod cymaint o adnoddau ychwanegol arbennig sydd ar gael ac yn sicr mi fydd yr arian yma’n help mawr wrth brynu’r holl adnoddau er mwyn cyfoethogi fy addysg i.

Teleri Wilson

Enillydd Ysgoloriaeth William Salesbury, Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2015-16, BA Addysg Gynradd gyda SAC

18


Mae’r cyrsiau isod yn gymwys am Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Ysgoloriaeth William Salesbury;

120 credyd y flwyddyn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg BA Addysg Gynradd gyda SAC BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (2 flynedd) BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar) BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar) (2 flynedd) MEYEC Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar MEYEC Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar) BSc Amaethyddiaeth (Coleg Sir Gâr) BA Astudiaethau Addysg Cynradd BA Astudiaethau Celtaidd BA Gwaith Ieuenctid a Chymuned BA Perfformio

Mae’r cyrsiau isod yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol;

80 credyd y flwyddyn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg BA Astudiaethau Crefyddol BA Celf Gain

Mae’r cyrsiau isod yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol;

40 credyd y flwyddyn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg BA Addysg Antur Awyr Agored BA Addysg Gorfforol BA Busnes a Rheolaeth BA Cyfrifeg BA Gwaith Ieuenctid a Chymuned BSc Gwyddor Chwaraeon ac ymarfer corff BA Rheolaeth Busnes FdA Rheolaeth Busnes HND Rheolaeth Busnes BA Rheolaeth Busnes (Adnoddau Dynol) BA Rheolaeth Busnes (Cyllid) HND Rheolaeth Busnes (Cyllid) BA Rheolaeth Busnes (Marchnata) BA Rheolaeth Cyfleusterau Stadiwm a Chwaraeon BA Rheolaeth Chwaraeon HND Rheolaeth Chwaraeon FdA Rheolaeth Chwaraeon BA Rheolaeth Chwaraeon Dŵr

BA Rheolaeth Chwaraeon Rhyngwladol BA Rheolaeth Digwyddiadau HND Rheolaeth Digwyddiadau FdA Rheolaeth Digwyddiadau BA Rheolaeth Diwydiannau Diwylliannol BA Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol BA Rheolaeth Hamdden BA Rheolaeth Menter Wledig BA Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol BA Rheolaeth Twristiaeth HND Rheolaeth Twristiaeth FdA Rheolaeth Twristiaeth BSc Therapi Chwaraeon BA Y Gyfraith a Busnes

Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol; Prif Ysgoloriaeth, sef £1,000 y flwyddyn (neu £3,000 dros dair blynedd) i’r myfyrwyr hynny sy’n bwriadu astudio o leiaf 66% (neu 80 credyd y flwyddyn) o’u cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyddiad cau: 15 Ionawr 2019

Ysgoloriaeth Cymhelliant, sef £500 y flwyddyn (neu £1,500 dros dair blynedd) i’r myfyrwyr hynny sy’n bwriadu astudio o leiaf 33% (neu 40 credyd y flwyddyn) o bwnc yr ysgoloriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyddiad cau: 8 Mai 2019

Ysgoloriaeth William Salesbury, sef £5000 am y cyfnod yn astudio’r radd. Cynigir yr ysgoloriaeth hon gan Gronfa William Salesbury i un o fyfyrwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n astudio 100% o’r cwrs trwy’r Gymraeg. Dyddiad cau: 20 Mawrth 2019

Am fwy o wybodaeth gwelwch www.colegcymraeg.ac.uk

19


Canolfan Iaith

Canolfan

Gwasanaethau Cymraeg Mae Canolfan Gwasanaethau Cymraeg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ganolfan iaith newydd a sefydlwyd yn 2017, gyda’r nod o ddatblygu a darparu gwasanaethau hyfforddiant iaith yn y Gymraeg i fyfyrwyr, i staff ac i’r cyhoedd. 20


Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ddysgu Cymraeg ac i wella’u sgiliau iaith os ydynt yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n gyfrifol am ddysgu a gweinyddu Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar draws pob campws a hefyd yn darparu cyrsiau ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno gwella’u cyfle i gael swydd yng Nghymru trwy fodylau 5 credyd, ‘ Y Gymraeg a'r gweithle dwyieithog’ a ‘Welsh in the Workplace’. Mae modd dysgu Cymraeg ar-lein hefyd

trwy ddilyn tair tystysgrif ar wahanol lefelau, sef ‘Tystysgrifau mewn Cymraeg Ymarferol’. Mae gan y Ganolfan dîm o diwtoriaid iaith uchel iawn eu parch sy’n gyfrifol am arwain ar gyrsiau cenedlaethol a noddir gan Lywodraeth Cymru, sef y Cynllun Sabothol i Athrawon. Mae hefyd yn darparu sesiynau dysgu Cymraeg i nifer o weithleoedd amlwg gan gynnwys y Comisiynydd Plant, Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

21


Peniarth

Mae Canolfan Peniarth yn chwarae rôl allweddol yn y Brifysgol o ran cyhoeddi adnoddau a hyrwyddo’r Gymraeg ac mae’n gweithio’n agos ag Ysgolion a Chyfadrannau ar draws holl gampysau’r Brifysgol er mwyn sicrhau bod adnoddau dysgu pwrpasol ar gael yn y Gymraeg.

22


Yn wreiddiol, sefydlwyd Canolfan Peniarth fel canolfan gyhoeddi i’r Brifysgol, yn creu a chyhoeddi adnoddau addysgol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Erbyn heddiw, mae portffolio’r Ganolfan wedi ehangu a datblygu i gynnwys gwasanaethau arbenigol sy’n ychwanegol i gyhoeddi llyfrau ac adnoddau blaengar.

Llyfrau ac Adnoddau

Mae gan y Ganolfan gatalog o lyfrau ac adnoddau sydd wedi eu hawduro gan awduron profiadol ac arbenigol. Mae’r llyfrau a'r adnoddau hyn yn amrywio o lyfrau darllen a phecynnau addysgol athrawon yn y sector cynradd, i lyfrau ac adnoddau i’r sector uwchradd, addysg bellach ac addysg uwch. Mae llyfrau ac adnoddau’r Ganolfan yn ymateb yn uniongyrchol i fframweithiau cenedlaethol, ac wedi eu treialu gyda phlant a myfyrwyr drwy broses gynllunio fanwl. Gellir gweld holl lyfrau ac adnoddau'r Ganolfan yn y siop ar-lein, www.peniarth.cymru.

Adnoddau ar-lein ac apiau

Mae’r Ganolfan yn cynnig gwasanaethau dylunio gwe a rhyngweithiol o’r radd flaenaf. Yn ogystal â dylunio ac adeiladu gwefannau, mae’r Ganolfan yn datblygu adnoddau rhyngweithiol yn ogystal ag apiau. Canolfan Peniarth sydd wedi datblygu pecyn gweithgareddau iaith i gefnogi Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn fwy diweddar mae’r Ganolfan wedi cyhoeddi cyfres o apiau i ddatblygu sgiliau iaith myfyrwyr, sef Ap Sglein, Ap Cywirdeb Iaith, ac Ap Treiglo. Mae'r Ganolfan hefyd wedi cyhoeddi nifer o apiau ac adnoddau ar gyfer y sector addysg cynradd ac uwchradd. Cewch fwy o fanylion am Ganolfan Peniarth ar www.peniarth.cymru.

Mae’r Ganolfan wedi cyhoeddi cyfres o apiau i ddatblygu sgiliau iaith myfyrwyr, sef Ap Sglein, Ap Cywirdeb Iaith, ac Ap Treiglo.

23


S4C

Canolfan S4C

Yr Egin Yn ystod 2018, bydd Canolfan S4C Yr Egin yn agor ei drysau ar Gampws Caerfyrddin. Bydd hwn yn ddatblygiad cyffrous ac amserol a fydd yn cynnig profiadau gwaith uniongyrchol a chyfleoedd datblygu rhagorol i fyfyrwyr a fydd yn astudio nifer o feysydd gwahanol o fewn y Brifysgol.

Fe fydd yn ddatblygiad cwbl unigryw yng Nghymru. Yn ogystal â bod yn gartref i bencadlys newydd S4C, bydd Canolfan S4C Yr Egin yn gartref i glwstwr o gwmnïau a sefydliadau gwahanol, gyda nifer ohonynt yn gweithio o fewn y diwydiannau darlledu a digidol. Mae nifer o’r cwmnïau hyn yn awyddus iawn i weithio gyda’r Brifysgol i ddatblygu portffolio o raglenni gradd dwyieithog o’r newydd gan sicrhau bod y ddarpariaeth yn ateb gofynion y diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt. Bydd y Brifysgol yn gweithio’n agos â’r cwmnïau hyn yn ystod y ddwy flynedd nesaf er mwyn sicrhau bod ystod o raglenni gradd newydd yn eu lle erbyn 2019/20. Bydd y Brifysgol yn cyhoeddi llyfryn atodol yn amlinellu cynnwys y rhaglenni hyn yn ystod haf 2018 a bydd gwybodaeth bellach ar gael ar wefan y Brifysgol. Mae’r meysydd y bwriedir datblygu rhaglenni gradd o’r newydd ynddynt yn cynnwys: • Cynhyrchu Teledu a Chyfryngau Digidol • Effeithiau Gweledol ac Animeiddio • Graffeg • Gemau Digidol (yn cynnwys celf, animeiddio, sain, dylunio, rhaglennu ac ysgrifennu) • Cyfrifiadura Cymhwysol • Digwyddiadau • Entrepreneuriaeth a Busnes Creadigol

24


Bydd Y Drindod Dewi Sant yn adeiladu ar ei thraddodiad hir ac anrhydeddus o ddarparu graddedigion talentog ar gyfer y diwydiannau creadigol gan weithio’n uniongyrchol â nifer o gwmnïau blaenllaw i ddarparu hyfforddiant perthnasol o’r radd flaenaf ar gyfer ei myfyrwyr. Mae’r Brifysgol yn teimlo’n gyffrous iawn ynghylch datblygiad Canolfan S4C Yr Egin. Mae’r diwydiannau creadigol yn teimlo’n gyffrous iawn ynghylch y datblygiad gan y bydd cyfle iddynt gydweithio â'r Brifysgol i

hyfforddi’r math o weithwyr y bydd arnynt eisiau eu cyflogi ar gyfer y dyfodol. Mae’r datblygiad yn cynnig rhywbeth cwbl wahanol i israddedigion Cymru. Dewch am dro i Gaerfyrddin i weld Canolfan S4C Yr Egin yn datblygu.

Dewch i brofi’r cyffro!

Rhowch gyfle i’ch sgiliau creadigol chithau egino hefyd trwy ymgeisio am le ar rai o’r rhaglenni newydd arloesol a fydd yn cael eu cynnig am y tro cyntaf yn 2019.

Canolfan S4C Yr Egin Wrth wraidd dyfodol creadigol Cymru

25


Yr Atom

Canolfan Gymraeg

Yr Atom Dyma ganolfan ddiwylliannol, fywiog yng nghanol tref Caerfyrddin sy’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau ac adnoddau. 26


Canolfan Gymraeg Caerfyrddin yw Yr Atom. Ei nod yw chwarae rôl arweiniol yn y broses o Gymreigio tref Caerfyrddin gan godi ymwybyddiaeth y rheiny sy’n byw ac yn gweithio ynddi o’r Gymraeg a’i diwylliant. Y Brifysgol sy’n gyfrifol am reoli’r ganolfan a byddwn yn gweithio’n agos â sefydliadau a mentrau eraill i drefnu llu o ddigwyddiadau yn rheolaidd yno. Mae croeso mawr i fyfyrwyr y Brifysgol yn Yr Atom – bydd cyfle i wirfoddoli yno yn ogystal â threfnu digwyddiadau penodol.

Cymdeithasu

Mae myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant yn mwynhau cymdeithasu yn Yr Atom. Cafwyd cwis a chyri yno yn ystod Penwythnos y Glas ynghyd â Noson Lawen fywiog.

Caffi’r Atom

Mae Caffi’r Atom yn cynnig gwledd o fwydydd a chacennau cartref ar eich cyfer. Dewch i ymlacio yn y caffi lle mae cyfle i fwynhau cerddoriaeth Gymraeg gefndirol. Mae rhywbeth ar gael at ddant pawb yn y caffi! Mae’r Ganolfan Gymraeg wedi ei lleoli y tu draw i’r caffi. Ceir yma ystod o swyddfeydd ac ystafelloedd cynadledda, stiwdio recordio, cartref Cylch Meithrin Caerfyrddin a gofodau lle mae modd cynnal digwyddiadau cymdeithasol. Mae Yr Atom yn ganolfan fyrlymus sy’n denu 10,000 a rhagor o ymwelwyr bob blwyddyn.

Cynllun Aelodaeth

Mae Cynllun Aelodaeth Cyswllt Yr Atom wedi ei ddatblygu er mwyn cynnig i’r sawl nad ydynt yn denantiaid gael presenoldeb mewn awyrgylch busnes prysur a dynamig, heb orfod cael swyddfa yn yr adeilad. Am ragor o fanylion, cysylltwch â staff yn Yr Atom.

Am fwy o wybodaeth ffoniwch: 0300 323 1848 e-bost: ymholiadau@yratom.cymru www.yratom.cymru

27


Ffeithiau

Pam dewis

Y Drindod Dewi Sant? Gadewch i ni fod yn rhan o’ch dyfodol. Gadewch i ni roi cyfle i chi gyrraedd eich potensial.

1af

Cymuned ddysgu gyfeillgar Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 1af yng Nghymru am ei chymuned ddysgu.

yng Nghymru

Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2017

Profiad academaidd ardderchog

Mae’r Drindod Dewi Sant ymhlith yr 20 Prifysgol orau yn y DU am brofiad academaidd.

28

The Times Higher Education Student Experience Survey 2017


Prifysgol Entrepreneuraidd

Addysgu arbennig

Daeth Y Drindod Dewi Sant ar frig yr UK Partner’s Leaderboard am nifer y gweithgareddau entrepreneuraidd yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd 2014, 2015 a 2016.

Cymuned Gymraeg a Chymreig Mae’r Drindod Dewi Sant yn falch o’i gwreiddiau Cymreig a’i rhaglenni cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.

Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 16eg yn y DU am ansawdd ei haddysgu.

Gall myfyrwyr gyrchu cymorth gyda’u Cymraeg yn Y Drindod Dewi Sant ac mae ysgoloriaethau penodol ar gael The Times and The Sunday Times i’r rheiny sy’n dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Good University Guide 2018

Graddedigion Cyflogadwy Roedd 95% o fyfyrwyr israddedig y Brifysgol sy’n hanu o’r DU mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach

6

Effaith Ymchwil

60%

Cafodd 60% o waith ymchwil y Brifysgol ei farnu’n eithriadol (23.3%) neu’n sylweddol iawn (36.7%) o ran ei effaith a’i arwyddocâd.

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014

mis wedi iddynt raddio. Arolwg Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch 2015/16

Hanesyddol a Modern Gan Y Drindod Dewi Sant y mae’r Siarter Frenhinol hynaf yng Nghymru (1828), ond yn 2013, wedi i Brifysgol Fetropolitan Abertawe uno â hi,

prifysgol fwyaf newydd y DU. hi oedd

29


Llinell Amser

Prifysgol

newydd Rydym wrth ein bodd bod gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n cymuned ddysgu gyfeillgar. Dyma ein hanes.

1822

Sefydlu Coleg Dewi Sant, Llambed, gan yr Esgob Burgess

1848 1828 Coleg Dewi Sant, Llambed, yn cael ei Siarter Frenhinol gyntaf

Agor y Coleg Hyfforddi Athrawon cyntaf yng Nghaerfyrddin

1931

1853 Sefydlu’r Ysgol Gelf yn Abertawe

1872 Sefydlu Coleg Hyfforddi Abertawe

Coleg y Drindod yn cael ei fabwysiadu’n enw ar y coleg yng Nghaerfyrddin

1971 Coleg Dewi Sant, Llambed, yn newid ei enw i Goleg Prifysgol Dewi Sant

...a chanddi hanes hir 30

Ein gwerthoedd: Cydweithio ∙ Cynhwysiant ∙ Cyflogadwyedd ∙ Datblygiad Cynaliadwy ∙ Cymru a’i Chymeriad Arbennig ∙ Cysyniad Dinasyddiaeth Fyd-eang ∙ Ymchwil a’i effaith ar bolisi


Ers 2010. . . Unodd Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Choleg Sir Gâr â Grŵp Y Drindod Dewi Sant yn 2013, wedi’u dilyn gan Goleg Ceredigion yn 2014. Yn 2015, agorodd Canolfan Berfformio Cymru yng Nghaerdydd. Yn 2016, sefydlwyd yr Academi Sinoleg yn Llambed, dechreuodd y gwaith ar ein datblygiad £300m Glannau SA1 Abertawe ac yn 2017 dechreuodd y gwaith adeiladu ar Ganolfan S4C Yr Egin, canolfan greadigol a digidol newydd ar gampws Caerfyrddin. Caiff y naill adeilad a’r llall eu cwblhau yn ystod 2018.

1996 1976

Llun: Marie Edwards

Colegau Celf, Hyfforddi a Thechnegol Abertawe yn troi’n Athrofa Addysg Uwch Gorllewin Morgannwg

Coleg Prifysgol Dewi Sant yn newid ei enw i Brifysgol Cymru, Llambed

Grŵp Y Drindod Dewi Sant Siarter Frenhinol y Brifysgol yw'r hynaf yng Nghymru a Lloegr ar ôl prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt. Yn 2011 daeth Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn Noddwr Brenhinol arni. Mae gan Grŵp Y Drindod Dewi Sant yn agos i 27,000 o ddysgwyr a gyda'n gilydd rydym yn darparu manteision clir, diriaethol i fyfyrwyr, cyflogwyr, diwydiannau a chymunedau drwy gynnig ymagwedd alwedigaethol o lefel mynediad i ymchwil ôl-ddoethurol.

2009 2008 Athrofa Addysg Uwch Abertawe yn cyflawni statws Prifysgol ac yn newid ei henw i Brifysgol Fetropolitan Abertawe

Coleg y Drindod yn cyflawni statws Coleg Prifysgol

2010 Ffurfio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant drwy Siarter Frenhinol ategol 1828

...a dyfodol cyffrous Y Drindod Dewi Sant yn Trawsnewid, Llunio a Datblygu’r Dyfodol www.ydds.ac.uk/cy/cenhadaeth/

31


Lleoliad

Tri lleoliad sy'n ysbrydoli... Croeso i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sydd wedi’i lleoli ar dri phrif gampws yn Abertawe, Caerfyrddin a Llambed, gyda champysau ategol yn Llundain a Chaerdydd. Drwy ddewis Y Drindod Dewi Sant fel eich man astudio, cewch gyfle i fyw a bod mewn amgylchedd dysgu unigryw; cymuned gyfeillgar lle cewch eich adnabod yn ôl eich enw yn hytrach na rhif, lle mae eich darlithwyr yn eich adnabod, lle cewch eich ysbrydoli, lle cewch gyfle i wneud ffrindiau oes. Ewch ati i wireddu eich potensial yn y Brifysgol eithriadol a hanesyddol hon, a sefydlwyd yn agos i 200 mlynedd yn ôl ond sydd eto’n cael ei chydnabod fel un o’r rhai mwyaf deinamig yng Nghymru heddiw.

32

Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 1af o blith 45 sefydliad am ‘Gyfeillion Lleol’ (gwneud ffrindiau lleol ar ôl cyrraedd y campws). Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2016


Rwy'n falch dewisais i astudio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gan ei fod yn le croesawgar lle daw pawb i adnabod pawb erbyn y diwedd, ond hefyd braf yw clywed cymaint o staff Cymraeg. Mae bywyd y Brifysgol hon yn hwyliog ac yn fywiog gyda digonedd o lefydd ar gyfer tawelwch a heddwch yn ogystal.

Lowri Jones

Myfyrwraig Y Drindod Dewi Sant

...Un Profiad Prifysgol

i'w rannu

33


Lleoliad

Eich Campws Mae gennym dri champws gwych yn Ne Orllewin Cymru, ac is-gampysau mewn dwy brifddinas, sef Caerdydd a Llundain. Mae gan bob un ei gymeriad arbennig ei hun, ond eto’n cynnig yr un profiad cyfeillgar. 34


Campysau Abertawe

Mae gan gampysau Abertawe enw da am raglenni arloesol a arweinir gan ddiwydiant ac a yrrir gan yrfaoedd. Wedi’i sefydlu yn 1853, mae Campws Abertawe yn ymestyn dros nifer o ganolfannau pwrpasol – oll o fewn tafliad carreg i ganol y ddinas. Mae gan bob maes pwnc ei gyfleusterau ei hun gyda mynediad at offer, adnoddau dysgu, gweithdai ac ystafelloedd TG arbenigol. Yn 2018 bydd ein Hardal Arloesi newydd yng Nglannau Abertawe yn cynnig lleoliad cyffrous newydd ger lan y môr.

Campws Caerfyrddin

Mae campws Caerfyrddin yn amgylchedd bywiog, cyfeillgar sydd wedi tyfu o gwmpas adeilad gwreiddiol 1848. Mae gan y campws ystod o gyfleusterau sy’n cynnwys llyfrgell helaeth, theatr llawn offer a gweithdai, ystafelloedd cerddoriaeth, cyfryngau a TG a mannau addysgu modern. Bydd unig sianel deledu Gymraeg y byd, S4C, yn adleoli ei phencadlys i gampws Caerfyrddin Y Drindod Dewi Sant yn 2018. Caiff y pencadlys ei leoli yng Nghanolfan S4C Yr Egin, cartref i glwstwr o gwmniau creadigol a sefydliadau diwylliannol fel ei gilydd, ac adnodd a fydd yn cryfhau’n sylweddol brofiad y myfyriwr ar y Campws.

Campws Llambed

Hefyd, mae gennym ganolfannau yng Nghaerdydd sy’n canolbwyntio ar berfformio a champws yn Llundain sy’n arbenigo mewn cyrsiau busnes i fyfyrwyr rhyngwladol.

Campysau Caerdydd

Mae Academi Llais Ryngwladol Cymru (WIAV) yn darparu conservatoire llais o safon fyd-eang yn un o brif ganolfannau addysg uwch y DU a chyfle i arwain mewn maes y mae Cymru’n adnabyddus amdano. Yn 2015, cafodd Canolfan Berfformio Cymru (CBC) ei sefydlu i gynnig astudiaethau perfformio drwy gyfrwng y Gymraeg. Lleolir CBC yng Nghanolfan Gelfyddydol The Gate yn ardal y Rhath.

Campws Llundain

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Llundain yn cynnig cyfle i fyfyrwyr rhyngwladol astudio ystod o raglenni yn un o ardaloedd harddaf a mwyaf diogel Llundain. Cynigir y rhaglenni hyn gan Gyfadran Busnes a Rheolaeth y Brifysgol ac fel y cyfryw, maent o'r ansawdd a’r safon academaidd uchaf fel rhan o’n hymrwymiad i’n nifer cynyddol o fyfyrwyr rhyngwladol. Am ragor o wybodaeth am ein campysau, ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/lleoliad

Mae campws hanesyddol Llambed yn gartref i sefydliad Addysg Uwch cyntaf Cymru, a sefydlwyd yn 1822. Bellach, mae’n cyfuno traddodiad academaidd nodedig gyda’r holl gyfleusterau a thechnoleg modern sydd eu hangen i ddysgu yn yr 21ain ganrif. Wedi ei leoli mewn lleoliad gwledig delfrydol, mae Campws Llambed yn darparu profiad myfyriwr cefnogol o fewn cymuned glos a diogel.

Mae ein holl brif gampysau yn cynnig: • Cymunedau dysgu diogel a chyfeillgar.

• Yr holl adnoddau dysgu a gwasanaethau cymorth y bydd arnoch eu hangen i lwyddo ar eich cwrs.

• Undeb y Myfyrwyr i gynnig cyngor, cynrychiolaeth a gweithgareddau cymdeithasol.

35


Campws Caerfyrddin

Llwyddwch yng

Nghaerfyrddin 36


Os ewch i ymweld â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, fe welwch ei bod yn darparu ar gyfer eich holl anghenion. Golyga ei leoliad hardd, ei awyrgylch cyfeillgar a chymunedol ei naws a’r ffaith ei fod o fewn tafliad carreg i brysurdeb canol tref, fod Campws Caerfyrddin yn cynnig bywyd atyniadol iawn i fyfyrwyr. Mae’r cyfuniad o adeiladau Fictoraidd a modern yn gefnlen hyfryd i’r campws. Ceir ymdeimlad fod traddodiad yn cael ei barchu yma a bod arloesi yn cael ei annog a’i gofleidio’n gynnes.

Llun: Tref Caerfyrddin o lannau Afon Tywi

37


Caerfyrddin

Byddwch chi wrth eich bodd yng Nghaerfyrddin! Mae’r campws yn un bychan, diogel a bywiog. Mae pawb yn adnabod ei gilydd yma ac yn cyd-dynnu’n dda. Gydag agor Canolfan S4C Yr Egin yn 2018, bydd pennod newydd yn agor yn hanes Campws Caerfyrddin. Bydd gweledigaeth Yr Egin yn esgor ar ganolfan greadigol fyrlymus a fydd yn gartref i nifer o gwmnïau a busnesau sy’n ymwneud â’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt. Bydd hefyd yn gyfle i ddatblygu portffolio o raglenni newydd a fydd yn ymateb yn uniongyrchol i anghenion y diwydiannau hynny gan ddarparu cyfleon gwaith cyffrous i’w myfyrwyr. Bydd Canolfan SC Yr Egin yn gyrchfan y gall pawb ei fwynhau, gyda’i gaffi, awditoriwm a gofodau perfformio amrywiol.

38

Ceir hefyd dreftadaeth gyfoethog ar Gampws Caerfyrddin. Mae adeilad gwreiddiol y coleg, sy'n dyddio'n ôl i 1848, yng nghanol campws Caerfyrddin. Mae’r Hen Goleg ysblennydd yn gartref i’r Cwad, man dysgu modern sy'n cynnig mynediad agored i fyfyrwyr a staff. Mae’n darparu cyfrifiaduron at ddefnydd myfyrwyr, ystafelloedd astudio grŵp, mynediad rhyngrwyd diwifr, siop nwyddau ysgrifennu a gwasanaeth llungopïo. Os ydych chi’n chwilio am rywle i fwyta a chwrdd, mae yna gaffi cysurus yn Y Cwad. Gyferbyn â’r capel, mae yna lecyn hyfryd i astudio, ymlacio a chloncian.


Mae’r prif fwyty, lle caiff prydau myfyrwyr sy’n byw mewn llety arlwyo eu gweini, yn Adeilad yr Halliwell. Mae’n lle golau, braf. Mae’r wal flaen wedi’i gwneud o wydr ac yn wynebu teras, man barbeciw a lleoedd i eistedd yn yr awyr agored. Hefyd, mae Tap House 72, yn Undeb y Myfyrwyr, yn cynnig croeso cynnes ac ystod o ddewis drwy gydol y dydd. Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o raglenni astudio yng Nghaerfyrddin. Ceir hefyd amrywiaeth o adnoddau penigamp sy’n cyfoethogi profiadau dysgu’r myfyrwyr. Mae’r llyfrgell yn orlawn o lyfrau ac adnoddau dysgu; lleolir mannau dysgu ac addysgu pwrpasol ar draws y Campws; ceir theatr a gweithdai llawn offer yn ogystal ag ystafelloedd TG amrywiol. Ceir hefyd amrywiaeth o adnoddau chwaraeon a ffitrwydd gan gynwys ystafell ffitrwydd, pwll nofio a stiwdio ddawns amlbwrpas. I wneud bywyd yn haws i chi, mae gan yr Uned Gwasanaethau Myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr, ill dau’n ffynonellau help a chyngor, eu hadeiladau eu hunain fel eich bod yn gwybod yn union lle i fynd pan fydd arnoch eu hangen. Mae gan yr adeilad Dysgu ac Addysgu trawiadol, gyda’i olygfeydd bendigedig o’r dref a chefn gwlad, gyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer darlithoedd a gwaith grŵp yn ogystal â mannau cymdeithasol i ymlacio ynddynt gyda ffrindiau.

Mae llety'r myfyrwyr yn cynnwys neuaddau arlwyo a hunanarlwyo. Mae pedwar llety i fyfyrwyr ar y campws, sy’n cynnig ystafelloedd sengl ac a rennir, ar sail hunanarlwyo neu gydag arlwy. Mae’r golygfeydd ar loriau uchaf y Tŵr, y neuadd dalaf, yn anhygoel. Mae cost byw mewn neuadd, sy’n cynnwys yr holl filiau gwasanaethau, yn fforddiadwy iawn. Os byddwch yn dewis byw ar y campws, cewch eich ystafell eich hun drwy gydol y flwyddyn academaidd felly ni fydd raid ichi symud allan yn ystod cyfnodau’r gwyliau. Mae gan bob ystafell fynediad i’r rhyngrwyd felly gallwch ddod â’ch gliniadur neu gyfrifiadur personol eich hun gyda chi. Mae Caerfyrddin yn denu myfyrwyr o bob cwr o'r byd ac yn cynnig cyfleoedd i archwilio. Mae yma gynllun astudio dramor sefydledig gyda phartneriaid yn UDA, Canada, Tsieina ac Ewrop, a thîm pwrpasol i roi ichi’r cymorth a’r arweiniad y mae arnoch eu hangen pe baech yn dymuno cymryd rhan.

39


Caerfyrddin

40


Tu hwnt i'r campws Mae campws Caerfyrddin Y Drindod Dewi Sant yn ddigon agos i'r dref i fod yn rhan ohoni ond eto mae ganddo ei gymuned fach ei hun hefyd. Mae siopau, adloniant a chysylltiadau cludiant da ychydig funudau i ffwrdd.

archfarchnadoedd a marchnad dan do sy'n gwerthu rhai o gynhyrchion lleol gorau Cymru. Mae siopau stryd fawr enwog wedi dod i ganol y dref sydd wedi’i ailddatblygu, sef Rhodfa’r Santes Catrin, ar hen safle’r farchnad wartheg.

Cydnabyddir yn gyffredinol mai Caerfyrddin yw tref hynaf Cymru, ac mae hi’n gyfoeth o hanes a dirgelwch, gan gynnwys chwedl Arthur. Yn ôl rhai, cafodd y dewin Myrddin ei eni mewn ogof y tu allan i’r dref. Hefyd, yn ôl chwedl arall, pan fyddai’r goeden a alwyd yn Dderwen Myrddin yn cwympo, felly hefyd y byddai’r dref, felly mae darnau ohoni wedi’u cadw yn amgueddfa’r dref. Bellach, mae coeden newydd yn tyfu yn ei lle ar gornel Lôn y Dderwen a Heol y Prior.

Mae digon o hanes i’w weld yng Nghaerfyrddin a’r cyffiniau. Mae hyd yn oed y ganolfan groeso wedi ei lleoli yn adfeilion y castell Normanaidd sy'n edrych dros Afon Tywi. Mae’n un o lawer o gestyll o gwmpas y sir, o Dalacharn, Llansteffan a Chydweli ar yr arfordir i Ddryslwyn a Dinefwr, gyda'u golygfeydd o afonydd, a chadernid trawiadol Carreg Cennen nid nepell o’r Mynydd Du.

Efallai fod hyn oll yn symbolaidd o’r ffordd y mae Caerfyrddin yn gwerthfawrogi a pharchu ei hanes ac eto’n edrych ymlaen at y dyfodol - yn union fel y gwnawn ninnau yma ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae’r dref wedi cadw llawer o'i hadeiladau a chofebion hanesyddol wrth i ddatblygiadau newydd ddod â bywyd ffres i'w strydoedd.

Mae Sir Gâr a'i siroedd cyfagos yn boblogaidd fel cyrchfannau gwyliau, am reswm da. Mae ein myfyrwyr chwaraeon yn gwneud y gorau o arfordir, afonydd a chefn gwlad yr ardal. Mae yna draethau hir, tywodlyd yng Nghefn Sidan a Phentywyn, llwybrau troed gwych ym Mharc Gwledig Pen-bre a phentrefi arfordirol hardd i ymweld â nhw. Yn syml iawn, mae’n ardal o harddwch naturiol heb ei hail ac yn lle delfrydol i astudio ynddo.

Mae gan Gaerfyrddin lawer i’w gynnig i fyfyrwyr. Mae yna fwytai, bariau a chlybiau nos yn ogystal â thafarndai hanesyddol, siopau bychain a siopau cadwyn mawr,

41


Caerfyrddin

Y 10 peth gorau i'w gwneud yng Nghaerfyrddin gan Lysgenhadon Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant 1. Ymlacio ar draeth lleol Ac yntau wedi ei leoli cwta wyth milltir o’r campws, mae traeth Llansteffan – gyda’r castell Normanaidd yn codi’n osgeiddig uwch ei ben – yn llecyn perffaith ar gyfer gêm o bêl-foli a barbeciw gyda ffrindiau.

2. Siopa yn Rhodfa Santes Catrin

Mae canolfan siopa tref Caerfyrddin yn gartref i Debenhams, Next, Vision Express, Carphone Warehouse, Cotswold, Pizza Express, Frankie and Benny's, Costa, Lush, H&M a sinema chwe sgrin 3D, sy'n gwbl ddigidol, yn ogystal â llawer mwy o siopau a bwytai.

3. Ymlacio yn Theatr y Lyric

Hen sinema oedd yr adeilad hwn tan yn gymharol ddiweddar. Fe’i trawsnewidiwyd yn theatr yn 2007 a chynhelir sioeau amrywiol yno’n rheolaidd.

4. Ymweld â Chastell Caerfyrddin

Mae adfeilion y castell wedi’u lleoli ar deras uchel sy’n edrych dros Afon Tywi yng nghanol y dref. Hefyd gallech fwynhau ymweld â Chastell Cydweli sy'n daith fer yn unig mewn car o Gaerfyrddin.

5. Mwynhau diod yng nghanol y dref Mae gan y dref lawer o fariau a bwytai lle gallwch fwynhau noson allan gyda ffrindiau. Yn ogystal, mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnal nosweithiau myfyrwyr ar y campws.

6. Gwylio rygbi

Mae Caerfyrddin yn gartref i glybiau rygbi Cwins Caerfyrddin ac Athletig Caerfyrddin, ac mae tîm rygbi proffesiynol y Scarlets yn chwarae eu gemau cartref yn Llanelli, sy'n daith fer mewn car neu ar drên.

7. Ewch i'r Sinema

Profwch wefr y sgrin fawr yn sinema chwe-sgrin 3D digidol Caerfyrddin.

42

8. Cwrdd â ffrindiau am goffi

Treuliwch brynhawn yn un o siopau coffi cysurus Caerfyrddin. Cofiwch am Gaffi’r Atom yng Nghanolfan Gymraeg y dref sy’n cael ei rheoli gan y Brifysgol.

9. Crwydro Marchnad Caerfyrddin

Mae’n rhaid ichi ymweld â Marchnad Caerfyrddin, a sefydlwyd tua 800 mlynedd yn ôl. Wedi’i lleoli mewn neuadd fodern braf bellach a chanddi amrywiaeth o stondinau sy’n gwerthu pob math o bethau, cewch yma rai o gynhyrchion lleol gorau Cymru.

10. Caru’r awyr agored anhygoel

Crwydrwch Sir Gâr ac fe ddewch ar draws cyfoeth o hanes a diwylliant. Mae tirlun amrywiol y sir yn ei gwneud yn lle perffaith i fwynhau llawer o weithgareddau awyr agored a hamdden sy’n amrywio o chwaraeon eithafol, canŵio a physgota i golff, beicio a marchogaeth.


© Hawlfraint y Goron 2018 (Croeso Cymru)

Darganfyddwch Gyrsiau Caerfyrddin > 43


Yr Athrofa

Yr Athrofa Caerfyrddin

Yr Athrofa: Pobl sydd wrth wraidd Yr Athrofa - sut rydym yn dysgu, sut rydym yn byw a sut rydym yn trefnu ein hunain mewn cymdeithas.

44


Yr Athrofa

Rydym yn gyfadran gyffrous ac ymholgar sydd â gwerthoedd wedi’u gwreiddio mewn cyfiawnder, ecwiti, democratiaeth, hawliau dynol a dinasyddiaeth. Gyda’n gilydd, rydym yn gofyn cwestiynau, yn cynnig atebion ac yn herio ni ein hunain ac eraill. Mae’r Athrofa'n galluogi myfyrwyr i ddatblygu’n raddedigion creadigol a chyflogadwy a fydd yn gallu cyfrannu at les cymdeithas gan fod yn ddinasyddion cyfrifol. Yn falch o’n treftadaeth ac o natur unigryw’r genedl rydym yn ei gwasanaethu, mae’r Athrofa yn eithriadol o uchelgeisiol, ac yn tynnu ar arfer da rhyngwladol i seilio ein gwaith arni, yma ym Mhrydain a thramor. Yn awyddus i rannu ein harbenigedd mewn dosbarthiadau lleol a byd-eang, mae’r Athrofa yn cael ei chymell gan rym newid addysgiadol a’r gwahaniaeth cadarnhaol y gallwn ei wneud er lles cenedlaethau’r dyfodol. Cynllunnir ein rhaglenni i ddatblygu cariad at ddysgu a, gyda’n gilydd, gallwn ddefnyddio’r manteision niferus a gyfyd yn sgil hyn i drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau. Yng Nghaerfyrddin, mae rhaglenni israddedig Yr Athrofa yn cynnig graddau ar lefel Sylfaen i lefel BA a BSc anrhydedd a Meistr Integredig.

Rydym hefyd yn cynnig rhaglenni gradd carlam dwy flynedd trwy lwybr dysgu hyblyg sy’n cynnwys cyflwyno sesiynau gyda'r nos ac ar ddyddiau Sadwrn. Mae’r rhain yn cynnwys rhaglenni mewn Astudiaethau Addysg Gynradd, Addysg Gynhwysol, Addysg Blynyddoedd Cynnar a Gofal, Gwaith Ieuenctid a Chymuned, Seicoleg Gymhwysol, Astudiaethau Cymdeithasol ac Eiriolaeth a rhaglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig. Ochr yn ochr â’n cyrsiau gradd mwy traddodiadol, mae gennym hefyd nifer o raglenni sy’n darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol i ystod eang o staff sy’n rhan o ddarparu addysg e.e. y Radd Sylfaen mewn Addysg Gynhwysol sy’n addas ar gyfer y rheiny sy’n cefnogi dysgwyr mewn unrhyw ysgol gynradd neu uwchradd. Mae’r rhaglenni hyn yn caniatáu’r dysgwr i gymryd rhan mewn dadleuon cymhleth a dadansoddiadau beirniadol o bolisi a damcaniaeth ar waith. Mae ein hystod eang o gymwysterau’n bodloni anghenion y sawl sy’n dymuno astudio’n llawn amser ac yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr y mae’n well ganddynt astudio mewn modd hyblyg y gellir ei gyfuno gyda’u hymrwymiadau gwaith neu wirfoddoli. Am ragor o wybodaeth am Yr Athrofa gweler tudalen 260.

@athrofa

Am ragor o wybodaeth, ewch i: athrofa.cymru/cy/cyrsiau

Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd

45


Yr Athrofa

Addysgu Mae’r Brifysgol yn cynnig dwy raglen israddedig sef Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon Cynradd (HAGA) sy’n arwain at ddyfarniad Statws Athrawon Cymwysedig (SAC); un drwy gyfrwng y Gymraeg ac un drwy gyfrwng y Saesneg. Mae llwybrau ôl-raddedig Cynradd ac Uwchradd gyda SAC ar gael hefyd os oes gennych radd israddedig (gweler UCASHyfforddi Athrawon). Mae dilyn rhaglen HAGA Cynradd sy’n arwain at SAC yn eich galluogi i gael mynediad i’r proffesiwn addysgu fel athro newydd gymhwyso. Mae’r rhaglen yn rhoi sgiliau a gwybodaeth gwerthfawr iawn i chi a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich gyrfa ym maes addysg, naill ai mewn ysgol neu mewn meysydd gwaith sy’n gysylltiedig ag addysg gyda dros 90% o raddedigion y cwrs cyfrwng Cymraeg yn gweithio yn y sector o fewn blwyddyn wedi iddynt adael y brifysgol.

46

Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin

Iaith: Cymraeg, Dwyieithog

Mae astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn brofiad gwerthfawr ac yn agor drysau newydd i mi.

Mared Evans

BA Addysg Gynradd gyda SAC

Opsiynau Astudio: Llawn amser


Addysg Gynradd gyda SAC

Addysg Gynradd gyda SAC

Darperir y cwrs BA Addysg Gynradd gyda SAC yng Nghaerfyrddin gan Yr Athrofa (Canolfan Addysg Athrawon De Orllewin Cymru). Mae’n canolbwyntio ar astudiaeth broffesiynol o holl amrediad addysg gynradd.

Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio yn y fath fodd i addysgu a hyfforddi athrawon ar gyfer ysgolion Cymru a thu hwnt ond gan roi sylw penodol i gyd-destun ieithyddol a blaenoriaethau addysg yng Nghymru. Prif egwyddor y rhaglen yw sicrhau eich bod yn meithrin dealltwriaeth drylwyr o’r cwricwla statudol ar gyfer ysgolion cynradd, a hynny mewn amgylchedd sy’n gofalu amdanoch, yn eich cefnogi ac yn eich ysbrydoli. Gyda’n hysgolion partner, rydym yn anelu at sicrhau eich bod yn cyrraedd eich potensial llawn wrth ddatblygu’n ymarferydd effeithiol a myfyrgar sy’n gallu addysgu mewn ysgolion cynradd heddiw yn ogystal â delio â heriau’r dyfodol. Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodylau sydd yn plethu gwaith y brifysgol gydag ystod o brofiadau yn yr ysgolion, gyda diwylliant Cymru yn rhan annatod o’r profiadau yma.

120

Nodwyd mai hwn oedd y cwrs gorau ar gyfer hyfforddi athrawon. ACM 2016 & 2017

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Mae'r cwrs yma yn gymwys am Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Ysgoloriaeth William Salesbury. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18.

Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd

47


Yr Athrofa

98% Cytunodd 98% o fyfyrwyr BA Addysg Gynradd gyda SAC Y Drindod Dewi Sant bod y staff yn dda am esbonio pethau. ACM 2017

Fy hoff beth am fy nghwrs yw dysgu am ffyrdd gwreiddiol a hwylus o ddysgu plant trwy'r Gymraeg. Dwi'n falch iawn fy mod i wedi dewis astudio yn Y Drindod Dewi Sant!

Cerys-Mair Griffiths Myfyrwraig BA Addysg Gynradd gyda SAC

48

Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin

Iaith: Cymraeg, Dwyieithog

Opsiynau Astudio: Llawn amser


Addysg Gynradd gyda SAC

Astudiaethau Prifysgol-seiliedig

Mae’r ddarpariaeth o fewn y Brifysgol yn cynnwys modylau i feithrin eich dealltwriaeth o’r heriau a’r mwynhad a geir o addysgu yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae’r prif elfennau yn cynnwys:

Egwyddorion Addysgeg

Mae’r modylau hyn yn cyflwyno i chi’r egwyddorion a'r arferion dysgu ac addysgu a gaiff eu cadarnhau a’u datblygu ar draws gweddill y cwrs. Ymhlith y materion a drafodir mae datblygiad proffesiynol athrawon, yr athro a’r gyfraith, gofal plant proffesiynol ac agweddau ar anghenion dysgu ychwanegol. Byddwch yn datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth am addysgu plant ifanc (3-7) yn y Cyfnod Sylfaen. Byddwch hefyd yn dysgu sut i wneud defnydd da o’r canllawiau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill, yn cynnwys yr arolygiaeth yng Nghymru, sef Estyn.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

Mae’r rhaglen yn cynnwys modylau ar iaith a mathemateg, sef sylfeini dysg. Byddwn yn datblygu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd personol yn ogystal â sut i addysgu plant. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys modylau ar ddysgu trwy’r celfyddydau mynegiannol, y dyniaethau a gwyddoniaeth gan ddatblygu dealltwriaeth o ystod eang o waith ar draws y pynciau. Rhoddir cryn bwyslais ar TGCh o fewn y rhaglen i gefnogi’r dysgu ar draws meysydd y cwricwlwm.

Themâu

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o themâu allweddol megis addysg bersonol a chymdeithasol, cynaliadwyedd, dinasyddiaeth fyd-eang a'r diwylliant Cymraeg a Chymreig. Rhoddir cryn bwyslais

ar ddysgu trwy ddatrys problemau gyda’r nod o ddatblygu sgiliau gweithio gydag eraill a sgiliau ymchwil a chyfathrebu sy’n angenrheidiol ar gyfer addysgu yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae’r Brifysgol wedi gwneud defnydd da o’i thraddodiad hir a chyfoethog o gynnig hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn canfod ffyrdd a dulliau o hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r dimensiwn Cymreig mewn addysg. Byddwch yn cael gwedd eang ar Gymru trwy ymweliadau addysgol a gwaith maes. Cewch hefyd gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg a dwyieithog er mwyn sicrhau hyder yn eich defnydd o’r iaith, gan ddatblygu eich sgiliau i allu addysgu mewn dosbarth amlieithog.

Profiadau Ysgol-seiliedig

Lluniwyd y Profiadau Ysgol-seiliedig i’ch galluogi i gymhwyso’r wybodaeth, y medrau a’r ddealltwriaeth a gafwyd yn eich Astudiaethau Prifysgol-seiliedig mewn cyddestunau addysgol mewn ysgolion. Fe’ch cyflwynir i faterion addysgu a dysgu ar lefel sylfaenol yn gynnar yn y cwrs, cyn ailymweld â nhw mewn mwy o ddyfnder wrth i’r cwrs fynd yn ei flaen, gan arwain yn y pen draw at ennill Statws Athro Cymwysedig erbyn diwedd y drydedd flwyddyn. Mae 24 wythnos o Brofiadau Ysgol-seiliedig ar draws y tair blynedd pan gewch eich lleoli mewn ysgolion ar hyd a lled de, gorllewin a / neu ganolbarth Cymru, yn ogystâl â phrofiad dewisol o bythefnos mewn sector wahanol yn y drydedd flwyddyn, megis uwchradd, meithrinfa neu ysgol arbennig. Fe gewch ystod o brofiadau addysgu a fydd yn eich galluogi i arddangos eich gallu yn y safonau addysgu cenedlaethol wrth i chi weithio tuag at fod yn annibynnol fel darpar athrawon.

BA Addysg Gynradd gyda SAC Cod UCAS - X123

49


Yr Athrofa

Astudiaethau Addysg: Cynradd Mae’r radd hon yn cynnig cyfle i chi ddatblygu’ch sgiliau, dealltwriaeth a gwybodaeth am addysg mewn cyddestun ysgol gynradd.

120

Mae’r radd yn canolbwyntio ar addysg yn eang gan gynnwys pwysigrwydd materion cynhwysiant, sut mae plant yn dysgu a gwerthoedd proffesiynol ym myd addysg gynradd.

Modylau enghreifftiol • Addysg ddoe, heddiw ac yfory • Llwybrau Ymholi • Datblygiad yr Unigolyn • Mapio'r Cwricwlwm • Traethawd Hir • Cynllunio Person Ganolog • Addysgu'n Effeithiol

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Mae'r cwrs yma yn gymwys am Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Ysgoloriaeth William Salesbury. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18, neu www.colegcymraeg.ac.uk

50

Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin

Iaith: Cymraeg, Dwyieithog, Saesneg

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser


Astudiaethau Addysg: Cynradd

Prif nodweddion • Cyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg neu’n Ddwyieithog • Cyfleoedd ar gyfer profiad yn y maes • Cyfleoedd i astudio dramor • Cyfle i arbenigo mewn agweddau ar addysg gynradd, er enghraifft Addysg Arbennig/Anghenion Addysgol Ychwanegol, Addysg Amgylcheddol ac Astudiaethau Creadigol, er mwyn cwblhau traethawd estynedig • Staff profiadol sy’n meddu ar brofiad arbennig ym maes addysg gynradd

94%

Cytunodd 94% o fyfyrwyr Astudiaethau Addysg Gynradd fod staff yn frwdfrydig am yr hyn y maent yn ei addysgu. ACM 2017

Cyfleoedd gyrfa Bwriad y radd yw darparu sgiliau trosglwyddadwy a fyddai’n gymwys ar gyfer nifer o feysydd gyrfaol, yn arbennig y rheiny sy’n ymwneud â phlant. Gellir hefyd ei hystyried fel sylfaen gref ar gyfer astudio ymhellach ar gyfer gyrfa addysgu.

Rydym hefyd yn cynnig graddau cysylltiedig yn y pwnc hwn ar Gampws Abertawe. Gweler tudalen 122.

Cod UCAS MEdStud: 25G4

Cod UCAS BA: 14F3

51


Yr Athrofa

Addysg a Gofal

Blynyddoedd Cynnar Mae datblygiad ac addysg plant ifanc yn faes hynod o ddiddorol i'w astudio.

Mae’r Ysgol Blynyddoedd Cynnar wedi datblygu cyfres o raglenni gradd newydd ac arloesol a gynlluniwyd i roi i’n graddedigion y sgiliau a’r medrau sy’n hanfodol i weithio yn y sector addysg a gofal blynyddoedd cynnar. Mae yna ddarpariaeth ar gyfer astudio yn ystod y dydd a darpariaeth dysgu hyblyg a gyflwynir gyda’r nos ac ar ddyddiau Sadwrn sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddal ati i weithio yn ogystal â chael gradd. Mae’r rhan fwyaf o’n rhaglenni wedi’u lleoli ar gampws Caerfyrddin ac fe’u haddysgir naill ai drwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog. Mae gennym hefyd raglenni sy'n cael eu darparu yn y gymuned neu mewn ardaloedd lle mae galw am y ddarpariaeth. Mae ein holl raglenni’n cymryd ymagwedd gyfannol at ddatblygiad a dysgu plant ifanc. Bydd myfyrwyr yn astudio’r materion pwysig sy’n effeithio ar blant a theuluoedd.

100%

52

Roedd 100% o fyfyrwyr BA Plentyndod Cynnar Y Drindod Dewi Sant yn fodlon gyda’r addysgu ar eu cwrs. ACM 2017

Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin, Abertawe

Mae lleoliad ymarferol yn rhan hanfodol o rhai o'r rhaglenni ac yn cynnig profiad gwaith pwsyig sy'n cynorthwyo sgiliau cyflogadwyedd myfyrwyr. Mae rhaglenni fel Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar) hefyd yn cael eu cydnabod gan Gofal Cymdeithasol Cymru (Social Care Wales) ar gyfer statws ymarferydd blynyddoedd cynnar.

Iaith: Cymraeg, Dwyieithog, Saesneg

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Hyblyg


Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar

Ymhlith prif themâu ein graddau mae: • datblygiad plant • cynhwysiant a chyfiawnder cymdeithasol • llythrennedd a rhifedd cynnar • datblygiad iaith • dysgu awyr agored • cynaliadwyedd • arweinyddiaeth • gwaith tîm

Caiff myfyrwyr hefyd gyfleoedd i gymryd rhan mewn nifer o ymweliadau addysgol yn ystod eu gradd sy'n gallu cynnwys ymweliadau dewisol â gwledydd fel Sweden a Chanada. Bydd ein graddedigion yn sicrhau'r wybodaeth, gwerthoedd a dealltwriaeth hanfodol sydd eu hangen ar gyfer cyfrannu'n sylweddol at ragoriaeth broffesiynol ym maes blynyddoedd cynnar yng Nghymru a thu hwnt.

Swyddi:

Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i amrywiaeth o swyddi a gyrfaoedd, gan gynnwys:

Rwy'n ddiolchgar am fod y cwrs wedi rhoi hyder i fi yn fy ngwaith er mwyn gwella fy hunan. Mae'r profiadau a gwybodaeth rwyf wedi cael dros y tair blynedd yn amhrisiadwy.

Becky Hawkes Graddiodd yn 2017

• Swyddog Datblygu Blynyddoedd Cynnar; • Cydlynwyr Cyfnod Sylfaen • Pennaeth Ysgol Montessori • Dirprwy Arweinydd Chwarae • Gweithiwr Chwarae • Cydlynydd Iaith a Chwarae • Swyddog Hyfforddi’r Sector Gwirfoddol • Ymarferydd Ymgysylltu ar gyfer Cymorth i Fenywod • Cynorthwywyr Cymorth Dysgu a Chynorthwywyr Addysgu • Hwylusydd Teuluoedd gyda’i Gilydd • Cwnselydd Gweithgareddau Ieuenctid • Darlithwyr Gweithwyr Ieuenctid

Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd

53


Yr Athrofa

Llwybrau Blynyddoedd Cynnar Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar) Codau UCAS: MEYEC 38H9 BA 8X56 120

Gofynion Mynediad: 88 o bwyntiau

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar Codau UCAS: MEYEC 39G2 BA M5Y2 120

Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar

(Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar) (2 Flynedd)*

180

54

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin

Mae hon yn rhaglen radd tair blynedd a ddatblygwyd i roi i fyfyrwyr ddealltwriaeth fanwl o addysg a gofal blynyddoedd cynnar. Bydd myfyrwyr yn archwilio agweddau pwysig ar blentyndod fel datblygiad cyfannol, lles, addysg a gofal. Mae’r rhaglen hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil mewn perthynas â gweithio gyda phlant a theuluoedd. Gofynion Mynediad: 88 o bwyntiau

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Cod UCAS: BA 6D23

Rhaglen tair blynedd yw hon sy’n cael ei datblygu gyda Chyngor Gofal Cymru. Mae’r rhaglen wedi ei chymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymrru (GCC) (Social Care Wales) ac mae’n ymddangos ar restr GCC o gymwysterau cymwys ar gyfer gweithio o fewn y sector blynyddoedd cynnar. Bydd myfyrwyr yn astudio amrywiaeth o faterion sy’n gysylltiedig â gweithio gyda phlant ifanc a theuluoedd yn ogystal ag archwilio i agweddau pwysig ar blentyndod fel datblygiad cyfannol, lles, addysg a gofal.

Gellir astudio'r radd hon mewn dwy flynedd ac fe'i cyflwynir gyda'r nos ac ar rai dyddiau Sadwrn. Byddwch yn astudio amrywiaeth o faterion sy’n gysylltiedig â gweithio gyda phlant ifanc a theuluoedd yn ogystal ag archwilio agweddau pwysig ar blentyndod fel datblygiad cyfannol a lles. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru (Social Care Wales) yn cydnabod fod y cymwyster yn rhoi statws ymarferydd blynyddoedd cynnar. Gofynion Mynediad: wedi'u seilio ar brofiad gwaith

Iaith: Cymraeg, Dwyieithog

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser


Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar

Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (2 Flynedd)* Cod UCAS: BA 8Q18 180

Credyd Cyfrwng Cymraeg

*Pwyntiau UCAS: Mae mynediad at ein graddau dwy flynedd wedi'i seilio ar brofiad gwaith.

Mae hon yn rhaglen llwybr carlam dwy flynedd a gynlluniwyd ar gyfer y rheiny sydd eisoes yn gweithio yn y sector gofal plant ac addysg. Gellir astudio'r radd hon mewn dwy flynedd ac fe'i cyflwynir gyda'r nos ac ar rai dyddiau Sadwrn. Mae’r rhaglen radd hon yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil mewn perthynas â gweithio gyda phlant a theuluoedd. Gofynion Mynediad: wedi'u seilio ar brofiad gwaith

Mae'r cyrsiau hyn yn gymwys am Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Ysgoloriaeth William Salesbury. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18, neu www.colegcymraeg.ac.uk

Rydym hefyd yn cynnig graddau cysylltiedig drwy gyfrwng y Saesneg, ewch i www.ydds.ac.uk am ragor o wybodaeth.

55


Yr Athrofa

Gwaith Ieuenctid a Chymuned

Mae’r rhaglen hon yn cynnig cymhwyster proffesiynol i weithio gyda phobl ifanc, sydd wedi’i danategu gan egwyddorion a gwerthoedd craidd gwaith ieuenctid. Hefyd, caiff ei hardystio gan ETS Cymru sy'n gymhwyster a gydnabyddir gan JNC, ac ar draws y byd.

120

Yn rhaglen gymhwysol, mae lleoliadau’n rhan annatod o’r cwrs, ac fe’u tanategir drwy asesu'n feirniadol faterion sy'n effeithio ar fywydau pobl ifanc. Rhaid i fyfyrwyr gwblhau 800 awr o leoliadau gwaith maes asesedig yn ystod y rhaglen. Mae cymryd rhan yn y lleoliadau asesedig hyn yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr roi'r ddamcaniaeth a ddysgir mewn darlithoedd ar waith.

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Mae'r cwrs yma yn gymwys am Brif Ysgoloriaeth, Ysgoloriaeth Cymhelliant ac Ysgoloriaeth William Salesbury y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18, neu www.colegcymraeg.ac.uk

56

Mae’r radd yn archwilio sut i hwyluso a chefnogi twf pobl ifanc, a'u datblygiad personol a chymdeithasol, mewn amrywiaeth o leoliadau anffurfiol a heb fod yn ffurfiol.

Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin

100%

Iaith: Cymraeg, Dwyieithog, Saesneg

Teimla 100% o fyfyrwyr sy’n astudio’r cwrs hwn bod y cwrs wedi helpu eu datblygiad personol. ACM 2016

Opsiynau Astudio: Hyblyg


Gwaith Ieuenctid a Chymuned

Pam dewis Y Drindod Dewi Sant?

Gyrfaoedd:

• Staff brwdfrydig, cefnogol a dwyieithog sy’n gymwys yn broffesiynol ym maes Gwaith Ieuenctid a Chymuned a chanddynt arbenigedd cydnabyddedig. • Y Drindod Dewi Sant yw’r unig le y gallwch astudio’r radd hon drwy gyfrwng y Gymraeg. • Mae ffocws ymarferol a galwedigaethol yn perthyn i'r cwrs, gyda llawer o gyfleoedd i ddysgu tu hwnt i'r ddarlithfa. Mae sesiynau ‘Gweithgareddau Dysgu drwy Brofiad’ wythnosol yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr uwchsgilio. Wedi’u lleoli mewn canolfan ieuenctid leol, mae'r sesiynau hyn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu i gymryd rhan mewn cyfleoedd i gael achrediad pellach lle bo’n bosibl. • Pwyslais ar ddatblygiad personol a chymdeithasol unigol. Mae myfyrwyr hefyd yn elwa o gael eu haddysgu mewn grwpiau bach ac amgylchedd dysgu cefnogol. • Cyfleoedd i astudio dramor.

Ymhlith y cyfleoedd gyrfa ac astudio a gaiff graddedigion y cwrs hwn, mae:

Bydd myfyrwyr yn cofrestru ar Lefel 4, ac ar ôl cwblhau 120 credyd yn llwyddiannus ar bob lefel o'u hastudiaethau (Lefel 4, 5 a 6), bydd myfyrwyr yn graddio gyda gradd BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymuned, a chymhwyster proffesiynol mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned wedi'i ardystio gan ETS.

Cod UCAS y BA: L591

Tyst AU Iechyd a Lles Pobl Ifanc

• Gwaith ieuenctid a chymuned. • Swyddogion Lles Addysg, neu waith mewn canolfannau preswyl i blant a phobl ifanc. • Addysg gymunedol, cyfiawnder ieuenctid, asiantaethau gwirfoddol a Byrddau Iechyd Lleol. • Astudiaethau/ymchwil ôl-raddedig.

Cyrsiau Cyfrwng Saesneg (Caerfyrddin) Gradd Anrhydedd BA Youth & Community Work

Cod UCAS L592

Tystysgrif Addysg Uwch Cert HE Playwork Cert HE Young People's Health & Wellbeing

57


Yr Athrofa

Gradd Sylfaen mewn

Addysg Gynhwysol Mae’r Radd Sylfaen yn rhaglen ran amser 3 blynedd lle cyflwynir sesiynau ar ddyddiau Sadwrn a liw nos lle defnyddir amrywiaeth o arddulliau dysgu.

Mae’r rhaglen yn cynnig ystod gynhwysfawr o fodylau generig sy’n addas ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn ysgolion blynyddoedd cynnar, cynradd ac uwchradd. Mae’n cwmpasu modylau yn y gwaith a Phrifysgol-seiliedig sy’n rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ystyried a dadansoddi materion addysgol cyfredol yng nghyd-destun eu profiadau a'u hamgylchedd ysgol penodol nhw. Mae ffocws y radd ar ddysgu seiliedig ar waith. Mae’n darparu cyfleoedd i gael y wybodaeth bwnc ddiweddaraf ac i archwilio ymchwil diweddar mewn meysydd pwnc. Ymhlith y modylau a gyflwynir mae’r meysydd pwnc a ganlyn: • • • • • • • • • •

58

Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin, Abertawe

Goresgyn Rhwystrau ac Anawsterau Dysgu Penodol Archwilio Ymddygiad ac Ymyriadau mewn Dysgu Anghenion Ychwanegol mewn Cyd-destun Egwyddorion Dysgu ac Addysgu Mae Rhifau’n Cyfrif Llythrennedd – Allwedd at Ddysgu Cynhwysiant Cymdeithasol ar Waith Dathlu Iaith - Diwylliant – Perthyn i Gymru Iechyd Meddwl a Lles Plant a Phobl Ifanc Cadw ein Plant yn Ddiogel

Iaith: Cymraeg, Saesneg, Dwyieithog

Opsiynau Astudio: Rhan amser


Addysg Gynhwysol

Mae’r Radd Sylfaen mewn Addysg Gynhwysol yn gwrs rhan amser tair blynedd. Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn gall rhaglen astudio hyblyg un flwyddyn arall arwain at BA (Addysg Gynhwysol). Cyflwynir sesiynau ar ddyddiau Sadwrn a liw nos lle defnyddir amrywiaeth o arddulliau dysgu. Bydd y radd yn cynnwys modylau a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog, a chaiff myfyrwyr y cyfle i gyflwyno eu gwaith yn Gymraeg neu Saesneg.

Gyrfaoedd:

Cwrs dysgu seiliedig ar waith yw hwn. Ar ôl cael eu BA bydd rhai myfyrwyr yn mynd ymlaen i astudio rhaglen TAR neu Feistr.

80

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Staff addysgu cefnogol iawn. Rwy'n falch o gael cefnogaeth yn y cwrs ac rwy'n teimlo'n gyffyrddus. Myfyriwr Lefel 6, Grŵp Caerfyrddin

Gofynion Mynediad: Dysgu yn seiliedig ar waith

59


Yr Athrofa

Seicoleg Gymhwysol Ystyriwyd ers peth amser bod Seicoleg o’n cwmpas ym mhobman ac y gellir ei chymhwyso i’n bywydau bob dydd.

Fodd bynnag, ar gyfer myfyrwyr seicoleg anrhydedd sengl mae’r dasg o gymhwyso seicoleg a throsglwyddo’r hyn rydych yn ei ddysgu yn ystod eich astudiaethau yn un anodd. Felly, nodau trosfwaol y rhaglen gymhwysol hon yw ymgorffori modylau sy’n hyrwyddo dealltwriaeth wyddonol o’r rhyngweithio cymhleth rhwng y meddwl, yr ymennydd, ymddygiad a phrofiad, gyda phwyslais arbennig ar gymhwyso ymarferol. Cafodd y modylau cymhwysol sy’n unigryw i’r cwrs hwn eu hysgrifennu'n dilyn trafodaeth gyda myfyrwyr presennol a blaenorol. Amlygodd y myfyrwyr y pynciau y bu iddynt eu mwynhau a’r rheiny roeddent yn credu y byddent yn eu helpu i gael gwaith ar ôl cwblhau’r cwrs. Er enghraifft, un maes sydd wedi cael mwy o sylw'n ddiweddar yw troseddeg a seicoleg fforensig. Gyda phortreadau niferus yn y cyfryngau, mewn llyfrau, ac ar y teledu, caiff myfyrwyr eu denu i'r gangen hon o seicoleg.

Mae gan gampws Caerfyrddin naws gymunedol fach gyda darlithwyr cyfeillgar.

Fiona Bond

BSc Seicoleg Gymhwysol

60

Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin

Iaith: Saesneg

Mewn perthynas â chyfoethogi cyfleoedd gwaith, gall cynnwys modylau fel iechyd meddwl a lles mewn plant helpu i baratoi'r myfyrwyr hynny a chanddynt ddiddordeb mewn dilyn gyrfa gyda phlant a gall seicoleg chwaraeon, ymarfer corff ac iechyd helpu’r rheiny a chanddynt ddiddordeb mewn hyfforddi chwaraeon a hybu iechyd, a gall seicoleg cyfryngau helpu myfyrwyr a chanddynt ddiddordeb allweddol mewn AD a thechnolegau cyfryngau.

Opsiynau Astudio: Llawn amser

Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau


Seicoleg

Nod y BSc Seicoleg Gymhwysol, sydd wedi ei achredu gan y BPS, yw cynnig i fyfyrwyr y cyfle i astudio materion a phryderon sy’n berthnasol i Seicoleg yn yr 21ain ganrif a chymhwyso tystiolaeth a damcaniaethau seicolegol i sefyllfaoedd yn y byd go iawn. Yn ystod eich tair blynedd, byddwch yn archwilio safbwyntiau niferus i faterion seicolegol, gan gydnabod bod seicoleg yn cynnwys ystod o ddulliau ymchwil, damcaniaethau, tystiolaeth a chymwysiadau. Byddwch yn archwilio patrymau mewn ymddygiad, rhai normal ac annormal, swyddogaeth seicolegol a phrofiad trwy ymchwilio i rôl swyddogaeth yr ymennydd yn holl ymddygiad a phrofiad bodau dynol. Bydd cyfleoedd i ymgymryd ag astudiaethau empirig sy’n cynnwys amrywiaeth o ddulliau casglu data.

Gyrfaoedd:

100%

Roedd 100% o fyfyrwyr Seicoleg Gymhwysol Y Drindod Dewi Sant yn fodlon ar eu profiad cyffredinol. ACM 2016

Mae llawer o’n myfyrwyr wedi mynd ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig mewn disgyblaeth gysylltiedig â seicoleg neu addysgu. Mae graddedigion yn mynd ymlaen i amrywiaeth o sectorau a rolau, gan gynnwys: • AD • Gofal iechyd/GIG • Y Cyfryngau • Gweithiwr proffesiynol yn y diwydiant gofal • Gweithio gydag oedolion a chanddynt anawsterau dysgu • Y Gwasanaeth prawf • Gwasanaeth yr Heddlu

Cod UCAS y BSc: L3C8

61


Yr Athrofa

Eiriolaeth Mae’r rhaglen unigryw hon yn ymgorffori pwysigrwydd cynyddol eiriolaeth a ‘rhoi llais’ i’r rheiny nad ydynt yn awdurdodedig o fewn cymdeithas.

40

62

Gyda chyflwyniad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ceir gofyniad statudol i wrando ar lais defnyddwyr gwasanaeth drwy ddefnyddio eiriolwyr; rhai hyfforddedig a rhai nad ydynt yn hyfforddedig. Cynlluniwyd y rhaglen hon yn baratoad cadarn ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno mynd i weithio i alwedigaethau mewn ystod eang o feysydd o fewn cymdeithas, er enghraifft: addysgu, iechyd neu ofal cymdeithasol, lleoliadau addysgol, gwasanaeth prawf, sefydliadau gwirfoddol, menter gymdeithasol, cymorth ieuenctid, addysg gymunedol, gwasanaethau’r heddlu. Diben eiriolaeth yw sicrhau bod pobl, yn arbennig y rheiny sy’n fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, yn gallu: • Bod yn berchen ar eu bywyd; • Lleisio’u barn ar faterion sy'n bwysig iddyn nhw. • Amddiffyn a diogelu eu hawliau. • Bod yn siŵr bod eu safbwyntiau a’u dymuniadau’n cael eu hystyried wrth i benderfyniadau gael eu gwneud am eu bywydau.

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin

Mae’r ddadl ynghylch polisi cymdeithasol a darpariaeth gwasanaethau wedi amlygu’r angen am weithwyr proffesiynol sy’n gallu gwerthfawrogi sut y mae polisïau cymdeithasol yn cael eu hail-lunio a’u newid yn barhaus a chyfraniad at y prosesau hyn gan y rheiny sy’n dod o wahanol safleoedd gwerth a gwahanol gefndiroedd cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd.

Iaith: Saesneg, Dwyieithog

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser

Gofynion Mynediad: 80 o bwyntiau


Eiriolaeth

Mae myfyrwyr y rhaglen Eiriolaeth yn elwa o:

Cynlluniwyd y Dyst AU Eiriolaeth i:

• Y cyfle i fynd ar leoliadau ym mlwyddyn 2 a 3. • Amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy a hynod ddeniadol ar gyfer gwaith ac astudiaethau pellach. • Y cyfle i astudio yn Ewrop a’r UD am semester ym mlwyddyn 2. • Ceir darpariaeth i astudio a chyflwyno gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg.

• Ddatblygu dealltwriaeth myfyrwyr o eiriolaeth a’u sgiliau gweithio gyda phobl sy’n agored i niwed mewn cyd-destun o anghydraddoldeb ac sydd ag angen mynegi eu hanghenion a chyrchu adnoddau. • Ei nod yw galluogi myfyrwyr i hyrwyddo a chydbwyso cynhwysiant cymdeithasol a chyfiawnder gyda chynaliadwyedd. • Ceir darpariaeth i astudio a chyflwyno gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cod UCAS y BA: 6X7S

Cod UCAS y Tyst AU: 339W

63


Yr Athrofa

Astudiaethau Cymdeithasol Mae'r BA Astudiaethau Cymdeithasol yn ymateb i'r angen hollbwysig am weithwyr proffesiynol i weithio gyda grwpiau ac unigolion mewn lleoliadau ysgol, addysgol a gweinyddol sy'n meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth eang o gynhwysiant cymdeithasol a’r materion y mae hyn yn eu cyflwyno i'r gymdeithas sydd ohoni.

64

Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin

Iaith: Saesneg, Dwyieithog

Mae’r ddadl am bolisi cymdeithasol a darpariaeth gwasanaethau wedi amlygu’r angen am weithwyr proffesiynol sy’n gallu gwerthfawrogi sut y caiff polisïau cymdeithasol eu hailadeiladu a’u newid a'r cyfraniad at y prosesau hyn a wna'r rheiny sy'n dod o wahanol safbwyntiau gwerth a gwahanol gefndiroedd cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd. Bydd myfyrwyr sy’n dilyn un o’r cyrsiau hyn yn elwa o: • Y cyfle i fynd ar leoliadau ym mlwyddyn 2a3 • Ystod o sgiliau trosglwyddadwy y mae galw mawr amdanynt sy'n ddefnyddiol ar gyfer gwaith ac astudiaethau pellach

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser


Astudiaethau Cymdeithasol

Llwybrau Astudiaethau Cymdeithasol Astudiaethau Cymdeithasol: Anghenion Ychwanegol

Datblyga’r rhaglen hon ddealltwriaeth am natur aml-ddimensiwn Anghenion ychwanegol, plant ac oedolion, drwy archwilio sut mae anabledd, gogwydd rhywiol, oedran, hil, cred, rhyw a thlodi yn cael dylanwad ar ddyheadau a chyraeddiadau.

Cod UCAS y BA: R116

Gofynion Mynediad: 80 o bwyntiau

Astudiaethau Cymdeithasol:

Cymunedau, Teuluoedd ac Unigolion

Mae gwleidyddion yn cyfeirio’n aml at ‘deuluoedd sy’n gweithio’n galed’, ond beth yw ystyr hyn? Mae’r llwybr hwn yn archwilio’r berthynas rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau, a’r rolau y mae’r rhain yn eu chwarae wrth siapio polisi cymdeithasol, ac i’r gwrthwyneb.

Cod UCAS y BA: PS39

Gofynion Mynediad: 80 o bwyntiau

Astudiaethau Cymdeithasol: Iechyd

a Gofal Cymdeithasol Cod UCAS y BA: L819

Mae’r llwybr Iechyd a Gofal Cymdeithasol i fyfyrwyr sy’n dymuno gweithio gyda phlant a phobl ifanc, neu oedolion agored i niwed, mewn ystod o leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Fe fydd yn gofyn i fyfyrwyr ymgysylltu gyda materion sydd o gonsyrn cynyddol i wneuthurwyr polisïau, fel darparu gofal o ansawdd i bobl hŷn mewn poblogaeth sy’n heneiddio. Gofynion Mynediad: 88 o bwyntiau

65


Cyfadran Busnes a Rheolaeth

Croeso i’r Gyfadran

Busnes a Rheolaeth yng Nghaerfyrddin

Mae campws Caerfyrddin Y Drindod Dewi Sant yn cynnig amgylchedd dysgu symbylus a chefnogol lle mae mannau dysgu o’r radd flaenaf ac adnoddau o ansawdd uchel yn cyfuno â lawntiau gwyrdd, pensaernïaeth hanesyddol a modern a mannau deniadol i fynd iddynt i gwrdd â ffrindiau a gwneud rhai newydd.

66


Busnes a Rheolaeth

Mae rhaglenni astudio Ysgol Fusnes Caerfyrddin yn cynnwys BA Busnes a Rheolaeth, BA Rheolaeth Menter Wledig a BA Rheolaeth Diwydiannau Diwylliannol. Caiff y cyrsiau hyn eu tanategu gan ymagwedd foesegol, gynaliadwy a phroffidiol at fusnes. Mae gan yr Ysgol ymagwedd flaengar a thrawsnewidiol at ddysgu a gynlluniwyd i feithrin annibyniaeth a natur benderfynol. Caiff myfyrwyr israddedig y cyfle i fynd am semester i astudio dramor, mewn prifysgolion yn America a Chanada. Mae campws Caerfyrddin yn cynnig cyfleusterau chwaraeon rhagorol ac mae'n agos i fynyddoedd, afonydd, yr arfordir a chefn gwlad - ac felly'n lle delfrydol i astudio chwaraeon, ffitrwydd, iechyd a'r awyr agored. Mae’n gartref i Ganolfan Iechyd a Heneiddio’r Brifysgol, hefyd. Mae gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant dros 160 o flynyddoedd o brofiad mewn cynnig rhaglenni astudio cysylltiedig â chwaraeon, yr awyr agored ac iechyd.

Mae’r cyrsiau a gynigir yng Nghaerfyrddin yn cynnwys: BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff; BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Maeth Chwaraeon); BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Hyfforddiant Personol); BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Ffitrwydd Awyr Agored); BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Ffisioleg Ymarfer Corff Clinigol); BSc Therapi Chwaraeon; BSc Iechyd y Cyhoedd; BSc Iechyd, Maeth a Ffordd o Fyw; BA Addysg Antur Awyr Agored; BA Addysg Gorfforol; a, DipAU Astudiaethau Nyrsio ac Iechyd. Mae perthnasedd galwedigaethol yn thema gref sy’n tanategu pob gradd ac anogir myfyrwyr yn gryf i gael profiad a chymwysterau ychwanegol i gefnogi eu huchelgeisiau gyrfaol. Mae lleoliadau gwaith a gwirfoddoli gyda gwahanol asiantaethau yn dechrau yn y tymor cyntaf un ac fe’u datblygir ymhellach trwy gydol y gwahanol raglenni, yn aml fel modwl dewisol neu orfodol. Bydd cyfle hefyd i ymgymryd â thaith gyfnewid ryngwladol am chwe mis yn yr UD (Gogledd Carolina neu Galiffornia) neu Norwy yn ystod yr ail flwyddyn.

Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd

67


Cyfadran Busnes a Rheolaeth

Ysgol Fusnes Caerfyrddin Ailfeddwl am fusnes ar gyfer byd sy’n newid

68


Busnes a Rheolaeth

Mae Ysgol Fusnes Caerfyrddin yn cynnig detholiad o gyrsiau israddedig ac ôlraddedig, mewn pynciau cysylltiedig â Busnes a Rheolaeth, sy’n cael eu tanategu gan ymagwedd foesegol, gynaliadwy a phroffidiol at fusnes.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae geiriau fel moeseg, cynaliadwyedd a chyfrifoldeb wedi trawsnewid o ddadlau damcaniaethol i ystyriaethau ymarferol iawn o fewn busnesau bach a mawr eu maint. Mae arfer busnes cynaliadwy wedi dod yn flaenoriaeth strategol allweddol ac mae sefydliadau wedi sylweddoli nid yn unig bod angen i arferion a modelau economaidd y dyfodol drawsnewid yn unol â deinameg newid cymdeithasol ac amgylcheddol, ond bod meddwl yn gynaliadwy, mewn gwirionedd, yn gwneud busnes yn fwy cystadleuol. Mae meddwl cynaliadwy wrth wraidd ein rhaglenni ac maent yn galluogi dysgwyr i herio patrymau presennol, cwestiynu patrymau newydd a dadlau ynghylch datrysiadau busnes a fydd yn eu paratoi at waith yn yr amgylchedd newidiol sydd ohoni yn yr 21ain ganrif.

100%

Cytunodd 100% o fyfyrwyr Ysgol Busnes Caerfyrddin Y Drindod Dewi Sant bod y cwrs wedi eu herio i gyflawni eu gwaith gorau posibl. ACM 2017

Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? Mae campws Caerfyrddin Y Drindod Dewi Sant yn darparu amgylchedd dysgu symbylus a chefnogol lle mae mannau dysgu o’r radd flaenaf ac adnoddau o ansawdd uchel yn cyfuno gyda lawntiau gwyrdd, mannau wedi’u tirlunio a lleoedd cymdeithasol hyblyg. Mae gan yr Ysgol ymagwedd flaengar a thrawsffurfiol at ddysgu sy'n annog annibyniaeth a phenderfyniad yn ein dysgwyr. Mae gan fyfyrwyr israddedig y cyfle i fynd am semester i astudio dramor, mewn prifysgolion yn UDA a Chanada. Yng Nghaerfyrddin, rydym yn cynnig ymagwedd heriol mewn amgylchedd dysgu cefnogol a gyflwynir gan staff academaidd cymwys sy’n ymchwilio'n weithredol.

Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd

69


Cyfadran Busnes a Rheolaeth

70


Busnes a Rheolaeth

PortffolioYsgol Fusnes Caerfyrddin Busnes a Rheolaeth Cod UCAS: BA 227W HND 231Y 40

Bydd myfyrwyr yn astudio meysydd busnes traddodiadol o safbwynt newydd gan gymryd i ystyriaeth heriau newid byd-eang yn ogystal ag archwilio cyd-destunau rhyngwladol ehangach.

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Rheolaeth Menter Wledig Cod UCAS: BA 238A

40

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Rheolaeth Diwydiannau Diwylliannol Cod UCAS: BA 235N

40

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Mae’r rhaglen BA Busnes a Rheolaeth yn darparu’r sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar raddedigion i helpu i siapio natur newidiol byd busnes.

Mae’r rhaglen BA Rheolaeth Menter Wledig yn darparu’r sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar raddedigion i helpu i siapio natur newidiol byd busnes o fewn cyd-destun gwledig. Bydd myfyrwyr yn astudio meysydd busnes traddodiadol o safbwynt newydd sy’n cymryd i ystyriaeth heriau menter wledig.

Mae’r rhaglen BA Rheolaeth Diwydiannau Diwylliannol yn darparu’r sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar raddedigion i gyfrannu at dwf y sector diwydiannau creadigol a diwylliannol, sy'n datblygu'n sylweddol. Bydd myfyrwyr yn astudio busnes o safbwynt cynaliadwy a moesegol ar y cyd â modylau sy'n ffocysu ar ofynion penodol y sector diwydiannau creadigol a diwylliannol.

Mae'r cyrsiau hyn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18, neu www.colegcymraeg.ac.uk

Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin

Iaith: Saesneg, Dwyieithog

Opsiynau Astudio: Llawn amser

Gofynion Mynediad: 88 o bwyntiau

71


Cyfadran Busnes a Rheolaeth

Chwaraeon,

Iechyd ac Addysg

Awyr Agored Mae’r Brifysgol yn cynnig portffolio cyffrous o gyrsiau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau chwaraeon, dulliau iach o fyw ac addysg antur awyr agored, gan ddarparu amrywiaeth eang o gyfleoedd a safbwyntiau.

...mae popeth rwy’n ei ddysgu yma yn fy helpu i yn bersonol a fy narpar yrfa, yn ogystal â'm helpu i ddeall faint sydd angen i hyfforddwr athletaidd ei wybod.

Ashley

Myfyriwr taith gyfnewid 2016 Y Drindod Dewi Sant ym Mhrifysgol Greensboro, Gogledd Carolina, UDA

72


Chwaraeon, Iechyd a’r Awyr Agored

Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 10fed yn y DU am foddhad myfyrwyr mewn Gwyddor Chwaraeon. Complete University Guide 2018

Mae ein rhaglenni, sy’n seiliedig ar ymarfer ac yn cynnwys llawer o weithgareddau, wedi eu cynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn astudio Addysg Antur Awyr Agored, Therapi Chwaraeon, Addysg Gorfforol, Iechyd, Maeth a Dull o Fyw, Iechyd y Cyhoedd, Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Mae cyfuniad gofalus o ymarfer corfforol a danategir gan astudiaethau academaidd yn nodwedd sylfaenol o bob rhaglen astudio. Mae datblygiad cyrsiau'r Ysgol yn cael ei arwain gan bolisïau'r DU a Llywodraeth Cymru sy'n gysylltiedig â iechyd, cydlyniad cymdeithasol a phryder am lefelau isel o weithgarwch corfforol yn y boblogaeth. Mae'n amlygu ffocws cynhwysol a galwedigaethol yr holl gyrsiau. Mae rhaglenni Caerfyrddin yn defnyddio adnoddau naturiol gwych gorllewin Cymru. Mae yna gyfleoedd rhyngwladol cyffrous hefyd i astudio dramor yn Norwy, Canada a'r Unol Daleithiau (California a Gogledd Carolina). Gall myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Saesneg gyflwyno eu gwaith yn y Gymraeg ac mae rhai cyfleoedd ar draws y graddau eraill yn yr Ysgol i ddewis darpariaeth cyfrwng Cymraeg megis ar fodwl datblygu sgiliau proffesiynol.

Pam Astudio Yma? 1. Mae perthnasedd galwedigaethol yn thema gref sy’n tanategu pob gradd ac anogir myfyrwyr yn gryf i gael profiad a chymwysterau ychwanegol i gefnogi eu huchelgeisiau gyrfaol. 2. Dechreua lleoliadau gwaith a gwirfoddoli gyda gwahanol asiantaethau yn y tymor cyntaf un ac fe’u datblygir ymhellach trwy gydol y gwahanol raglenni, yn aml fel modwl dewisol neu orfodol. 3. Ceir cyfle hefyd i ymgymryd â thaith gyfnewid ryngwladol am chwe mis yn UDA (Gogledd Carolina neu Galiffornia) neu Norwy yn ystod yr ail flwyddyn. 4. Mynediad am ddim i’r ystafell iechyd, neuadd chwaraeon a phwll nofio i gefnogi diddordebau gradd.

Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd

73


Cyfadran Busnes a Rheolaeth

BSc Gwyddor Chwaraeon ac

Ymarfer Corff Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at y rheiny sy'n ymddiddori mewn chwaraeon, iechyd a gweithgarwch corfforol, ac yn dymuno dyfnhau eu dealltwriaeth o sut mae'r corff dynol yn gweithio.

100%

74

Roedd 100% o fyfyrwyr Hyfforddi Chwaraeon a Pherfformio'r Drindod Dewi Sant yn fodlon ar eu profiad cyffredinol. ACM 2016

Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin

Iaith: Saesneg, Dwyieithog

Opsiynau Astudio: Llawn amser

Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau


Chwaraeon, Iechyd a’r Awyr Agored

Mae ein portffolio o raddau Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn caniatáu i fyfyrwyr arbenigo mewn meysydd penodol, neu i barhau ar lwybr generig, yn unol â’u dyheadau. Ar ôl blwyddyn gyntaf gyffredin, gall myfyrwyr ddewis parhau ar y llwybr generig, neu ddewis un o’r llwybrau a ganlyn: Maetheg ar gyfer Chwaraeon; Ffisioleg Ymarfer Corff Clinigol; Hyfforddi Personol; neu, Ffitrwydd Awyr Agored.

Mae llwybrau arbenigol yn bodoli o fewn y portffolio gradd sy’n caniatáu i fyfyrwyr arbenigo mewn meysydd penodol.

Mae astudiaethau'r flwyddyn gyntaf yn generig ar draws y portffolio llwybrau gradd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, sy'n rhoi i fyfyrwyr sylfaen gref ym mhrif egwyddorion y pwnc, yn ogystal â'r amser i benderfynu a ydynt yn dymuno arbenigo mewn un llwybr penodol. Tri phwnc craidd ffisioleg, seicoleg a biomecaneg yw'r sylfeini, a chyflwynir y rhain drwy gyfuniad o ddarlithoedd ar theori wedi'u dilyn gan gyfle i gymhwyso'r wybodaeth honno'n ymarferol yn ein labordai gwyddor chwaraeon llawn offer. Bydd myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau ymarferol sy’n ofynnol i ddefnyddio offer fel: dadansoddwyr nwy; giatiau golau; platfformau grym; meddalwedd dadansoddi symudiad; a, dadansoddwyr cyfansoddiad y corff.

BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Maetheg ar gyfer Chwaraeon) Cod UCAS 129L

Ochr yn ochr â’r pynciau craidd, rhydd y flwyddyn gyntaf i fyfyrwyr y cyfle i astudio egwyddorion hyfforddi ac ymarfer corff, ac i gael dyfarniadau galwedigaethol fel Hyfforddwyr Campfa a Hyfforddwyr Personol ochr yn ochr â'u hastudiaethau, pe baent yn dymuno hynny. Hefyd, caiff hanfodion maetheg ar gyfer chwaraeon eu datblygu, yn ogystal â dealltwriaeth o bwysigrwydd gweithgarwch corfforol i iechyd a lles.

40

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Mae'r cyrsiau hyn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18, neu www.colegcymraeg.ac.uk

BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Cod UCAS 125L

BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Hyfforddi Personol) Cod UCAS 128L BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Ffitrwydd Awyr Agored) Cod UCAS 127L BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Ffisioleg Ymarfer Corff Clinigol) Cod UCAS 126L Pam Dewis Y Drindod Dewi Sant? • Ymhlith y 10 cwrs Gwyddor Chwaraeon gorau yn y DU am foddhad myfyrwyr • Cyfle i fod ar y Gofrestr o Weithwyr Proffesiynol Ymarfer Corff (REPs) • Defnydd o gyfleusterau hyfforddi ffitrwydd pwrpasol a labordai gwyddor ymarfer corff • Cyfleoedd i weithio gyda chleientiaid a sefyllfaoedd bywyd go iawn • Ystod o opsiynau modylau ar draws amrywiaeth o feysydd pwnc

75


Cyfadran Busnes a Rheolaeth

Therapi Chwaraeon Hon yw’r unig radd Therapi Chwaraeon yng Nghymru a achredir gan y Gymdeithas Therapyddion Chwaraeon, ac fe’i cynlluniwyd gyda'r bwriad o addysgu ymarferwyr cymwys ym mhob agwedd ar Therapi Chwaraeon. 40

Gall y Therapydd Chwaraeon Graddedig ddewis gweithio mewn Clinigau Anafiadau Chwaraeon neu mewn chwaraeon proffesiynol / lled-broffesiynol o fewn y DU neu dramor. Bydd myfyrwyr ar y rhaglen astudio hon yn dysgu mewn lleoliad ymarferol gyda digonedd o addysgu ymarferol mewn Ystafell Therapi Chwaraeon a Chanolfan Adsefydlu bwrpasol. Mae'r staff yn Therapyddion Chwaraeon Graddedig profiadol, sydd wedi gweithio ym maes chwaraeon proffesiynol, lled-broffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol dros nifer o flynyddoedd.

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Mae'r cwrs yma yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18, neu www.colegcymraeg.ac.uk

76

Cwrs: Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin

Iaith: Saesneg, Dwyieithog

OpsiynauAstudio: Astudio: Gofynion Mynediad: Opsiynau Llawnamser, amserRhan amser 112 o bwyntiau Llawn


Chwaraeon, Iechyd a’r Awyr Agored

• • • • • • •

Gofynion Mynediad: 112 o bwyntiau

Cod UCAS y BSc: BC61

Pam dewis Y Drindod Dewi Sant?

Caiff Therapi Chwaraeon ei astudio ar gampws Caerfyrddin sy’n cynnig profiad dysgu cyfeillgar a phersonol. Mae’r holl gyfleusterau cymdeithasol, adloniadol ac addysgol ar y campws hwn, er y bydd rhai profiadau dysgu ymarferol wedi’u lleoli ar draws Sir Gâr a De Orllewin Cymru. Mae staff darlithio hefyd wedi’u lleoli ar gampws Caerfyrddin ac mae’n hawdd cysylltu â nhw i’ch cefnogi gyda phob agwedd ar eich astudiaethau. Mae Undeb y Myfyrwyr yn darparu bob math o glybiau chwaraeon a gweithgareddau hamdden yn ogystal â chefnogi eich anghenion cymdeithasol. Yn ogystal â’r prif sgiliau sydd eu hangen ar Therapydd Chwaraeon bydd myfyrwyr hefyd yn cael y sgiliau sydd eu hangen i gynnal asesiadau ffitrwydd ac iechyd ac yn cael y cyfle i ymgymhwyso fel hyfforddwyr campfa a hyfforddwyr personol. Mae cynnal a deall ymchwil hefyd yn sgil allweddol a ddatblygir trwy gydol y radd a chaiff myfyrwyr eu herio’n gyson i adolygu’n feirniadol yr ymchwil diweddaraf a chynnal eu hastudiaethau eu hunain. Yn y flwyddyn olaf, bydd myfyrwyr yn dylunio a chynnal eu prosiect ymchwil eu hunain mewn maes arbenigol o’u dewis. Ar ôl graddio, bydd gan fyfyrwyr y wybodaeth, sgiliau a hyder i weithio fel rhan o dîm neu’n annibynnol fel Therapydd Chwaraeon.

77


Cyfadran Busnes a Rheolaeth

Iechyd y Cyhoedd Mae’r galw am ymarferwyr mewn Iechyd y Cyhoedd yn tyfu er mwyn bodloni nodau atal afiechydon a hybu cenedl iachach.

Mae’r cwrs BSc Iechyd y Cyhoedd wedi’i greu i ddatblygu dealltwriaeth o brif faterion iechyd y DU ac yn fyd-eang ac i’ch paratoi i roi eich sgiliau ar waith.

Yn ystod y tair blynedd, byddwch yn astudio ystod o fodylau theori ac ymarferol sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd a gwella iechyd.

Addysgir y modylau gan arbenigwyr iechyd sydd wedi, ac sydd yn dal i weithio ym maes iechyd y cyhoedd, hybu iechyd a maeth. Mae’r holl staff yn gweithio ar y campws ac mae ganddynt brofiad helaeth o weithio mewn addysg uwch ac maent yn cymryd rhan weithredol mewn ymchwil. Byddai’r cwrs hwn o ddiddordeb i’r rheiny sy’n dymuno gweithio ym maes Iechyd y Cyhoedd.

Mae modylau’r rhaglen hon yn cynnwys (ymhlith eraill) astudio maetheg iechyd y cyhoedd, epidemioleg afiechyd, a hybu iechyd ar waith. Cewch hefyd gyfle i archwilio’r strategaethau iechyd, ac ystyried gwahanol systemau gofal iechyd ar draws y byd.

78

Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin

Iaith: Saesneg

Am wybodaeth fanylach: uwtsd.ac.uk/bsc-public-health

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser


Chwaraeon, Iechyd a’r Awyr Agored

Pam dewis Y Drindod Dewi Sant?

• Bydd BSc Iechyd y Cyhoedd yn apelio i’r rheiny sydd â diddordeb mewn atal clefydau a hybu iechyd. • Bydd gan fyfyrwyr y cyfle i ddatblygu eu sgiliau ymarferol pan fyddant ar leoliadau. Mae gan y Brifysgol gysylltiadau rhagorol gyda thimau iechyd y cyhoedd lleol a chenedlaethol a gall myfyrwyr roi damcaniaeth ar waith pan fyddant ar leoliad. • Addysgir myfyrwyr gan ddarlithwyr a chanddynt brofiad helaeth o iechyd y cyhoedd, ac sy'n gweithio fel ymarferwyr. • Mae maes iechyd y cyhoedd yn debygol o barhau i ehangu wrth i gymdeithas geisio mynd i'r afael â'r toreth o broblemau iechyd sydd yn y Deyrnas Unedig.

Cod UCAS y BSc: 39W8

Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau neu’n amodol ar gyfweliad

79


Cyfadran Busnes a Rheolaeth

Iechyd, Maeth a Ffordd o Fyw Mae maeth yn chwarae rhan bwysig wrth gynnal a gwella iechyd.

Mae’r cwrs BSc Iechyd, Maeth a Ffordd o Fyw wedi’i anelu at y rheiny sy’n dymuno gweithio mewn lleoliad cymunedol, i wella iechyd a ffordd o fyw gyda phwyslais allweddol ar faeth. Gan ystyried maeth o safbwynt maethol, mae’r cwrs hwn yn cynnwys astudio clefyd cronig, ymarfer corff a ffactorau ffordd o fyw eraill. Defnyddir meddalwedd arbenigol a’r labordy perfformiad dynol i ymgymryd â dadansoddi dietegol a chynllunio prydau ac i asesu lefelau iechyd a ffitrwydd unigolion. Maeth ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff yw un o’r meysydd sy’n cael eu hastudio.

Heb y radd mewn Iechyd, Maeth a Ffordd o Fyw, ni fyddai’r swyddi hyn (Ymarferydd Cynorthwyol Dieteteg a Phrif Swyddog Iechyd - Cymunedau yn Gyntaf) wedi bod yn gyraeddadwy. Magais hyder a’r gallu i gredu yn yr hyn roeddwn wedi’i ddysgu. Cefnogwyd hyn gan y cariad a’r brwdfrydedd oedd gan y darlithwyr at y pwnc.

Caiff y rhaglen ei threfnu dros dri diwrnod o’r wythnos.

Kate

Un o’n Graddedigion BSc (Anrh) Iechyd, Maeth a Ffordd o Fyw

80

Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin

Iaith: Saesneg, Cymraeg*

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser


Chwaraeon, Iechyd a’r Awyr Agored

Pam dewis Y Drindod Dewi Sant?

• Mae modylau ymarferol yn eich caniatáu i gael profiad o weithio gyda’r gymuned e.e. hybu iechyd ar waith • Mae myfyrwyr yn gymwys i wneud cais i gofrestru gyda’r Gymdeithas Maeth pan fyddant yn graddio. • Cyfleoedd i gael dyfarniadau galwedigaethol ychwanegol o fewn yr ysgol e.e. cymorth cyntaf / Hyfforddwr Campfa / Hyfforddwr Personol • Rhaglenni cyfnewid i’r UD ar gael yn yr ail flwyddyn • Modwl lleoliad gwaith yn yr ail flwyddyn

Gyrfaoedd

• Ymarferydd Cynorthwyol Dieteteg (GIG) • Cynorthwyydd Dieteteg (GIG) • Ymgynghorydd Ffordd o Fyw Iechyd (Meddygfa) • Athro Ysgol Uwchradd (Technoleg Gwybodaeth) yn dilyn TAR • Prif Swyddog Iechyd • Swyddog Lles Cymunedol • Swyddog Ymgysylltu 50+ • Swyddog Cerdded i Iechyd • Astudiaethau Ôl-raddedig – e.e. MSc Maeth ac Ymarfer Corff / Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff • TAR

*Gall rhai modylau fod ar gael i’w hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg

Cod UCAS y BSc: LB54

Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau neu’n amodol ar gyfweliad

81


Cyfadran Busnes a Rheolaeth

Addysg Antur Awyr Agored Mae’r rhaglen Addysg Antur Awyr Agored yn gyfuniad o fodylau theori ac ymarferol a gynlluniwyd yn benodol i fodloni'r twf cynyddol mewn cyfleoedd gwaith yn y sector awyr agored.

40

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Mae'r cwrs yma yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18, neu www.colegcymraeg.ac.uk

82

Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin

Y mae'r campws wedi ei leoli o fewn 20 milltir yn unig i'r gorllewin o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac mae’n agos i lwybrau beiciau mynydd gwych Brechfa. Mae rhagor o gyfleoedd i feicio i lawr y ffordd yn Afan Argoed, Glyncorrwg a Pharc Beicio Cymru. Ar gyfer y rheiny sy’n caru’r dŵr, mae gennym bartneriaeth gyda chanolfan chwaraeon padlo lleol gyda mynediad rhagorol at offer a hyfforddiant hamdden a chystadleuol. Mae penrhyn Gŵyr a Pharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro cyfagos yn cynnig cyfleoedd heb eu hail i wneud arforgampau, syrffio, ceufadu môr a dringo clogwyni. Ar y campws, mae myfyrwyr Addysg Antur Awyr Agored yn cael mynediad am ddim i'r pwll nofio, yr ystafell ffitrwydd a'r wal ddringo. Mae Undeb y Myfyrwyr yn darparu bob math o glybiau chwaraeon a gweithgareddau hamdden. Mae ein graddedigion Addysg Antur Awyr Agored yn dilyn amrywiaeth eang o yrfaoedd. Mae llawer yn mynd ymlaen i leoliadau i raddedigion gyda chanolfannau addysg awyr agored, yn dod yn hunangyflogedig neu’n cychwyn eu busnesau eu hunain, ac mae eraill yn ymuno â chynlluniau i raddedigion gyda sefydliadau neu wasanaethau fel y fyddin neu'r heddlu. Mae nifer o fyfyrwyr wedi cael swyddi yn dilyn lleoliadau gwaith llwyddiannus gyda’r gwasanaeth ieuenctid a chanolfannau awyr agored lleol. Mae eraill wedi cwblhau cyrsiau TAR a bellach yn gweithio mewn ysgolion cynradd neu uwchradd.

Iaith: Cymraeg, Saesneg, Dwyieithog

Cod UCAS y BA: 3L2N


Chwaraeon, Iechyd a’r Awyr Agored

Addysg Gorfforol Mae’r radd hon wedi’i chynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd wedi nodi addysgu Addysg Gorfforol (cynradd ac uwchradd), neu chwaraeon ieuenctid, fel gyrfa posibl yn y dyfodol. 40

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Mae'r cwrs yma yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18, neu www.colegcymraeg.ac.uk

Opsiynau Astudio: Llawn amser

Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau

Mae’r holl feysydd ymarferol o arbenigedd a nodwyd yn y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gorfforol wedi’u cynnwys fel modylau craidd neu ddewisol. Mae gan y radd Addysg Gorfforol ffocws sylfaenol ar faterion dysgu ac addysgu gyda llawer o’r modylau’n cynnwys profiadau addysgu uniongyrchol gyda phlant. Caiff materion cynhwysiant, hawl a gwahaniaethu eu mewnosod mewn llawer o’r modylau, ac mae nifer o asesiadau’n gofyn i fyfyrwyr gynllunio a gwerthuso eu haddysgu nhw eu hunain ac eraill. Mae'r ffocws presennol sydd gan addysg gorfforol ar weithgareddau iechyd ac antur awyr agored yn cael ei gynrychioli’n gryf yng nghynnwys cyffredinol y radd. Y radd hon yw’r unig un o’i math yn yr ardal ac mae’n wahanol i raddau gwyddor chwaraeon neu astudiaethau chwaraeon eraill gan mai ei phrif ffocws yw cyflwyno i fyfyrwyr strategaethau dysgu ac addysgu cynhwysol er mwyn gallu darparu profiadau positif mewn addysg gorfforol i bobl ifanc.

Cod UCAS y BA: CX69

83


Cyfadran Busnes a Rheolaeth

Astudiaethau Nyrsio ac Iechyd Mae’r llwybr Diploma Addysg Uwch Astudiaethau Nyrsio ac Iechyd wedi’i gynllunio i roi cyfle i fyfyrwyr ddeall a datblygu sgiliau sy’n gysylltiedig â nyrsio.

Cytunodd 93% o fyfyrwyr Nyrsio Y Drindod Dewi Sant bod eu cwrs wedi rhoi iddynt gyfleoedd i gymhwyso’r hyn y maent wedi’i ddysgu. ACM 2017

93%

100%

84

Cytunodd 100% o fyfyrwyr Astudiaethau Nyrsio ac Iechyd Y Drindod Dewi Sant bod staff yn dda am esbonio pethau. ACM 2017

Lleoliad y Cwrs: Abertawe, Caerfyrddin

Iaith: Saesneg

Ar gael ar gampysau Abertawe a Chaerfyrddin Bydd hyn yn rhoi sail werthfawr i’r rheiny sy’n dymuno ceisio gyrfa ym maes nyrsio neu faes cysylltiedig. Bydd y rhaglen yn cyfuno modylau iechyd gyda modylau sy’n unol â Safonau Galwedigaethol Nyrsio cyfredol er mwyn rhoi dealltwriaeth gadarn o themâu a fframweithiau nyrsio cyfredol. Mae’r rhaglen yn arbennig o berthnasol i’r myfyrwyr hynny sy’n dymuno dechrau gyrfa mewn nyrsio ond nad oes ganddynt y cymwysterau na’r profiad i gael mynediad i’w dewis yrfa. Nid cymhwyster Nyrsio yw hwn – ond, bydd y cyfuniad o gydrannau gofal iechyd a chymdeithasol a nyrsio yn y rhaglen yn caniatáu mwy o ddyfnder, gwybodaeth, sgiliau a phrofiad i’r rheiny sy’n dymuno gweithio mewn maes sy’n gysylltiedig â nyrsio.

Opsiynau Astudio: Llawn amser

Gofynion Mynediad: 80 o bwyntiau


Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae e wedi fy helpu i gyflawni’r graddau roedd arna’i eu hangen i ddechrau fy ngradd nyrsio. Bu i mi fwynhau cwnsela, anatomeg a'r cyfle i wneud arfer yn y gweithle yn fawr iawn. Os hoffech chi gyrraedd eich uchelgais personol, fe fydd y cwrs hwn yn ateb y gofyn ac yn eich gwthio ymhellach.

Sharde Dovaston

Un o raddedigion Astudiaethau Nyrsio ac Iechyd

Cod UCAS DIP HE: PS12

85


Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio

Caerfyrddin Greadigol Yn nhermau’r diwydiannau creadigol, mae’r Drindod Dewi Sant mewn sefyllfa gwbl unigryw yng Nghymru. Erbyn canol 2018, bydd ganddi ystod o adnoddau a fydd yn ei galluogi i ddarparu nifer o raglenni hyfforddiant cyffrous ac amserol mewn meysydd megis actio, dawns, cynllunio a chynhyrchu ar gyfer y theatr a theledu, cynhyrchu digidol, graffeg, animeiddio, sgriptio ac ysgrifennu creadigol.

86

Gydag adnoddau dysgu o’r radd flaenaf, megis y bocs du a ddefnyddir gan Theatr Genedlaethol Cymru yn Y Llwyfan, yr ystod o adnoddau yng Nghanolfan S4C Yr Egin, Canolfan yr Halliwell a Choleg Celf Caerfyrddin, bydd Campws Caerfyrddin mewn sefyllfa gref i ddarparu rhaglenni creadigol o ansawdd a fydd yn darparu profiadau gwaith ac interniaethau rheolaidd ar gyfer ei fyfyrwyr gan eu paratoi’n drylwyr ar gyfer y gweithle dwyieithog yn y pen draw. Fel rhan o weledigaeth ehangach Canolfan S4C Yr Egin, bwriedir sefydlu nifer o raglenni academaidd newydd ar gyfer 2019/20. Bydd y rhain yn canolbwyntio ar y math o sgiliau y bydd diwydiannau creadigol Cymru eu hangen yn ystod y degawd nesaf. Manylir ar y rhain ar wefan y Brifysgol ganol 2018.


Caerfyrddin Creadigol

Bydd y ddarpariaeth newydd hon wedi ei llunio gan y diwydiant ac yn cael ei haddysgu gan gynrychiolwyr o’r diwydiant gan sicrhau bod y graddedigion wedi eu hyfforddi’n drylwyr a’u bod yn gwbl barod ar gyfer byd gwaith yn y pen draw. Bydd y Brifysgol hefyd yn gweithio’n agos â thenantiaid Yr Egin i gynorthwyo’r myfyrwyr sy’n dymuno sefydlu eu busnesau creadigol eu hunain i wneud hynny gyda hyder ac arddeliad. Yn syml iawn, unwaith y bydd myfyrwyr wedi cychwyn ar eu rhaglenni gradd yng Nghaerfyrddin, bydd Y Drindod Dewi Sant a’u partneriaid yn cydweithio’n agos â hwy trwy gydol eu hastudiaethau cychwynnol gan eu cefnogi i ddatblygu ymhellach fel graddedigion trwy gynnig cefnogaeth fusnes iddynt, gofod ar gyfer sefydlu eu busnesau eu hunain a mentoriaid o fewn Yr Egin a fydd yno i’w hysbrydoli a’u cefnogi ar hyd y daith. Caiff y myfyrwyr sy’n astudio yng Nghaerfyrddin gyfleon i gydweithio ar brosiectau â myfyrwyr y rhaglen BA Perfformio’r Brifysgol a addysgir yng Nghaerdydd. Bydd cyfle iddynt hefyd elwa o gysylltiadau’r Brifysgol â rhwydwaith Sir Gâr Greadigol ac o’r cyfnodau dysgu a gynigir dramor, yn gweithio mewn cyd-destun creadigol yn un o brifysgolion partner Y Drindod Dewi Sant. Ystod o brofiadau cyffrous, amserol a gwerth chweil!

Wrth i’r rhaglenni newydd ganolbwyntio ar ddatblygu talentau ym maes y dechnoleg greadigol, bydd cyfleon rheolaidd i’r myfyrwyr arddangos eu gwaith yng Nghanolfan S4C Yr Egin, mewn mannau eraill ar y campws ac mewn mannau cyhoeddus yn nhref Caerfyrddin a thu hwnt. Mae Caerfyrddin yn dref greadigol sydd ar ei phrifiant, gyda nifer o gwmnïau drama ac opera lleol, orielau celf amrywiol a Theatr y Lyric yng nghanol y dref yn theatr boblogaidd sy’n cynnal rhaglen o ddigwyddiadau poblogaidd trwy gydol y flwyddyn. Beth bynnag fo’ch diddordeb pennaf – boed actio, animeiddio, dawns, cynhyrchu digidol neu graffeg, dyweder – bydd cyfleon rheolaidd i chi ddod i adnabod eich cydfyfyrwyr sy’n ymddiddori mewn meysydd creadigol eraill. Byddwch yn perthyn i’r un teulu creadigol a fu’n nodwedd o Gampws Caerfyrddin ers blynyddoedd, y teulu clós, cefnogol a chynhyrchiol hwnnw y mae parch iddo led-led Cymru a thu hwnt.

Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd

87


Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio

Ffilm a'r Cyfryngau Digidol Gradd unigryw a gyflwynir mewn cyfadran fodern, a ddyluniwyd yn bwrpasol ar gampws Caerfyrddin.

88


Ffilm

Mae ein lleoliad yng Ngorllewin Cymru yn unigryw. Mae ein myfyrwyr ffilm a chyfryngau wedi cael eu hysbrydoli gan harddwch y tirlun a’r arfordir, a’r cyfleoedd y mae’n eu rhoi i’r rheiny sy’n ymddiddori mewn ffilmio’r amgylchedd, bywyd gwyllt, chwaraeon a diwylliant. Mae ein dosbarthiadau wedi’u lleoli mewn ystafell bwrpasol yn Adeilad Addysgu a Dysgu newydd y Brifysgol, sy’n cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf a golygfeydd dros y cefn gwlad o’i gwmpas. Mae’r rhaglen Gwneud Ffilmiau Antur yn unigryw yn y DU, ac mae’n defnyddio tirlun Gorllewin Cymru a’r ystod eang o weithgareddau awyr agored sy’n digwydd yn yr ardal. Mae yna gyfleoedd gwych i ffilmio chwaraeon eithafol, bywyd môr a bywyd gwyllt, tir arfordirol a mynyddig, gyda mewnbwn drwy gydol y radd gan weithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y meysydd hyn.

gwych i’n myfyrwyr gyda’r cwmnïau a fydd yn defnyddio’r ganolfan. Mae’r mewnbwn a gafwyd gan weithwyr proffesiynol sy’n gysylltiedig â’r ganolfan wedi bod yn bwysig iawn i ni, wrth sicrhau bod ein graddau yn cynnig yn union beth sydd ei angen ar y diwydiant modern gan raddedigion. Mae alldeithiau a theithiau maes yn rhan ganolog o’n graddau. Maent yn caniatáu i fyfyrwyr gael profiad o ffilmio mewn amrywiaeth o leoliadau ac amodau. Gall yr alldeithiau hyn fod yn rhan o’ch gwaith gradd asesedig, ond rydym yn annog myfyrwyr i fynychu’r teithiau ychwanegol niferus a drefnwn yn ystod y flwyddyn, sydd yn aml yng nghwmni gwneuthurwyr ffilmiau arbenigol. Rydym hefyd yn mynd ar deithiau rheolaidd i stiwdios cwmnïau cynhyrchu mawr, i roi gwir gipolwg i fyfyrwyr o sut beth yw gweithio yn y diwydiant.

Mae’r radd gwneud ffilmiau yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen mewn diwydiant modern ac i ymgysylltu â chwmnïau cynhyrchu’r cyfryngau. Mae ymgysylltu â’r diwydiant yn rhan annatod o holl agweddau ar ein rhaglenni. Gall hyn fod ar ffurf lleoliadau gwaith, prosiectau ar gyfer cleientiaid allanol, gwaith ar brosiectau ffilm, neu ymgysylltu â’r gweithwyr proffesiynol niferus yn y diwydiant a fydd yn cynnig eu harbenigedd yn ystod y rhaglenni. Rydym yn ffodus iawn bod pencadlys newydd S4C, y cwmni darlledu, yn dod drws nesaf i’n hadeilad ni. Mae Yr Egin, sef y pencadlys newydd, yn cynnig ystod o gyfleusterau, a chyfleoedd rhwydweithio

Am wybodaeth fanylach: www.ydds.ac.uk/cy/israddedig/ffilm-a-chyfryngau-digidol-/

Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd

89


Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio

Gwneud Ffilmiau Antur Mae’r radd Gwneud Ffilmiau Antur yn unigryw yn y DU, gydag ystod eang o diroedd a phrofiadau gerllaw, yn cynnig amrywiaeth gwych o gyfleoedd ffilmio i fyfyrwyr. Cynlluniwyd y rhaglen hon i roi i fyfyrwyr y sgiliau arbenigol a galwedigaethol sydd eu hangen arnynt i weithio yn y maes deinamig a chymharol newydd hwn o’r diwydiannau ffilm a ffotograffiaeth. Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i’r sgiliau cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu craidd sydd eu hangen i gynhyrchu cynnwys ffilm a chyfryngau seiliedig ar antur. Bydd nifer o alldeithiau a phrosiectau, yn ogystal â dosbarthiadau ffurfiol,

90

Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin

Iaith: Saesneg

a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr gael profiad o weithio mewn amrywiaeth o amgylcheddau a meysydd. Gall y rhain ymestyn o chwaraeon eithafol a chwaraeon moduro, i ffilmio bywyd gwyllt, ffilmio tirlun ac arfordir, a ffilmio awyrol. Wrth i fyfyrwyr wneud cynnydd, gallent arbenigo mewn maes o’u dewis; erbyn y flwyddyn olaf, gall myfyrwyr weithio ar brosiect mawr unigol yn eu dewis faes, gyda mewnbwn arbenigol gan ymarferwyr o bwys. Mae sgiliau entrepreneuraidd a galwedigaethol yn elfen greiddiol o brofiad myfyrwyr, gan alluogi i raddedigion fynd i mewn i’r diwydiant yn hyderus fel gweithwyr llawrydd ac i hyrwyddo ac arddangos eu gwaith. Ni fydd yr addysgu’n cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd ffurfiol, ond drwy weithdai a seminarau, alldeithiau a phrosiectau, sy’n aml yn cynnwys gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant. Hefyd, mae cyfleodd ychwanegol yn cael eu cynnig drwy gydol y flwyddyn, i’r rheiny sy’n dymuno cael mwy o brofiad i feithrin eu portffolio a’u CV.

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser

Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau


Ffilm

*Yn amodol ar ddilysu

Mae Steven Clarey yn un o brif ffigyrau gwneud ffilmiau a ffotograffiaeth antur. Graddiodd Steven gyda ni yn 2013, ac ar hyn o bryd mae’n llysgennad Ewrop ar gyfer Panasonic. Bu’n arwain lansiad Panasonic o’r Lumix GH5 eleni – edrychwch ar yr hysbyseb (‘The One Making The Waves’) a wnaeth gyda’r cwmni ar-lein!

Am wybodaeth fanylach: www.ydds.ac.uk/cy/israddedig/ffilm-a-chyfryngau-digidol-/

Cod UCAS y BA: AF01

91


Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio

Gwneud Ffilmiau Mae’r radd Gwneud Ffilmiau* yn cynnig i fyfyrwyr y cyfle i arbenigo yn y maes cynhyrchu o’u dewis, ac i gael y sgiliau cyflogadwyedd sydd eu hangen ar y diwydiant. Mae’r radd Gwneud Ffilmiau yn cyfuno damcaniaeth ac arfer i ganiatáu i fyfyrwyr gynhyrchu cynnwys ffilm a chyfryngau creadigol a gwybodus. Hefyd, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ymgysylltu â chanolfan Yr Egin, sydd wedi’i leoli drws nesaf i’n hadeilad. Mae’r radd Gwneud Ffilmiau’n rhoi i fyfyrwyr y sgiliau arbenigol a’r wybodaeth sydd eu hangen i greu cynnwys ar gyfer y diwydiant ffilm a chyfryngau cyfoes. Bydd myfyrwyr

92

Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin

Iaith: Saesneg

yn cael eu tywys trwy brif agweddau technegol cyn-gynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu, cyn cymhwyso’r rhain i’w prosiectau eu hunain. Mae’r pwyslais ar sgiliau galwedigaethol a chyflogadwyedd yn galluogi myfyrwyr i lunio portffolio o waith yn eu maes arbenigol, gan eu galluogi i gystadlu am waith yn eu dewis faes. Hefyd, mae sgiliau entrepreneuriaeth wedi’u mewnosod i’r rhaglen, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer gweithio’n hyderus ar eu liwt eu hunain yn niwydiant yr oes sydd ohoni. Mae yna gyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith, ac i gynhyrchu gwaith ar gyfer cleientiaid allanol mawr, sy’n galluogi i fyfyrwyr ddechrau adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau yn y diwydiant. Ni fydd yr addysgu’n cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd ffurfiol, ond drwy weithdai a seminarau, alldeithiau a phrosiectau, sy’n aml yn cynnwys gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant. Hefyd, mae cyfleodd ychwanegol yn cael eu cynnig drwy gydol y flwyddyn, i’r rheiny sy’n dymuno cael mwy o brofiad i feithrin eu portffolio a’u CV.

Opsiynau Astudio: Llawn amser

Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau


Gwneud Ffilmiau

Cynigodd y modwl Lleoliad Gwaith gyfle i mi weithio mewn stiwdio fawr ar gynhyrchiad rhyngwladol mawr, ac i wneud llawer o gysylltiadau defnyddiol.

Lowri Bevan

Un o raddedigion Ffilm a Chyfryngau Caerfyrddin

*Yn amodol ar ddilysu

Am wybodaeth fanylach: www.ydds.ac.uk/cy/israddedig/ffilm-a-chyfryngau-digidol-/

Cod UCAS y BA: FM01

93


Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio

Y Celfyddydau

Perfformio Mae’r Brifysgol yn cynnig portffolio cyffrous o raglenni Celfyddydau Perfformio yn cynnwys Perfformio, Dawns, Dylunio a Chynhyrchu Theatr.

Mae pob rhaglen yn cynnig ymagwedd ddwys at astudio, sy’n seiliedig ar ymarfer, gyda chydbwysedd a strwythurwyd yn ofalus i gynnwys hyfforddiant ymarferol a danategir gan astudiaethau academaidd. Er mwyn sicrhau bod ein cyrsiau yn aros yn berthnasol mewn diwydiant bythol gyfnewidiol, mae’r holl raglenni’n rhoi pwyslais mawr ar ymglymiad myfyrwyr wrth weithwyr proffesiynol cyfredol sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol. Gydag adleoliad pencadlys S4C i Gaerfyrddin a’r ffaith y bydd nifer o gwmnïau adnabyddus y cyfryngau yn cydleoli o fewn Canolfan S4C Yr Egin erbyn Ionawr 2018, bydd y Brifysgol yn bwrw ati i gydweithio â’r diwydiannau i ddatblygu nifer o raglenni perthnasol yn y maes hwn yn ystod y ddwy flynedd nesaf. Bydd y ddarpariaeth hon yn rhoi cyfleoedd cyffrous a rheolaidd i’n myfyrwyr brofi cyfnodau o brofiad gwaith o fewn y diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt.

94

Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin

Iaith: Saesneg

Opsiynau Astudio: Llawn amser

Gofynion Mynediad: Clyweliad/Portffolio yn Ofynnol


Y Celfyddydau Perfformio

Cyrsiau Cyfrwng Saesneg (Caerfyrddin) Gradd Anrhydedd

95% Codau UCAS

BA Acting

W410

BA Dance

W502

BA Theatre Design and Production

W460

Cytunodd 95% o fyfyrwyr Celfyddydau Perfformio Caerfyrddin bod staff wedi gwneud y pwnc yn ddiddorol. ACM 2017

Rydym hefyd yn cynnig graddau cysylltiedig yn y pwnc hwn ar Gampws Abertawe (tudalen 108) a Chaerdydd (tudalen 134).

Aelodau o, a gyda chefnogaeth

Gweler tudalen 24 am ragor o wybodaeth am Ganolfan S4C Yr Egin a’r datblygiadau cyffrous a fydd yn cael eu hyrwyddo ym meysydd y celfyddydau a’r cyfryngau erbyn 2018.

95


Coleg Sir Gâr

Yn creu

cyfleoedd ar stepen eich drws

96


Cyrsiau Addysg Uwch

Cyrsiau Addysg Uwch yng

Ngholeg Sir Gâr Mae modd astudio cyrsiau Addysg Uwch yng Ngholeg Sir Gâr, sy’n rhan o grwp Y Drindod Dewi Sant, ar ei gampysau amrywiol.

Mae modd hefyd astudio cwrs BSc Amaethyddiaeth yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg ar gampws Gelli Aur yng Ngholeg Sir Gâr. Mae’r cwrs yn gymwys am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol drwy Gangen Y Drindod Dewi Sant. Mae myfyrwyr y cwrs BSc Amaethyddiaeth yn derbyn cefnogaeth gan Swyddog Cangen Y Drindod Dewi Sant ac yn gallu manteisio ar holl fuddion bod yn aelodau o’r Gangen ynghyd ag ymaelodi i fod yn aelodau o Gymdeithas Gymraeg y Brifysgol. Dilysir y radd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae rhestr gyflawn o'i gyrsiau cyfrwng Saesneg i’w gweld ar ei wefan: www.colegsirgar.ac.uk

Campws Gelli Aur, Coleg Sir Gâr

Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd

97


Coleg Sir Gâr

BSc (Anrh)

Amaethyddiaeth Dysgir y rhaglenni Amaeth yn llawn ac yn rhan amser ar gampws Gelli Aur, Coleg Sir Gâr. Mae’r rhaglenni hyn wedi cael eu dilysu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. 120

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Mae'r cwrs yma yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant, Prif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Ysgoloriaeth William Salesbury. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18, neu www.colegcymraeg.ac.uk

98

Lleoliad y Cwrs: Gelli Aur

Iaith: Cymraeg

Mae traddodiad hir o ddysgu cyfrwng Cymraeg ar gampws Gelli Aur ym maes Amaeth ers trigain mlynedd. Mae’r Brifysgol a’r Coleg yn gyffrous iawn am y datblygiad newydd hwn lle gall myfyrwyr astudio Amaeth ar lefel addysg uwch yn llawn neu’n rhan amser i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r rhaglenni hyn wedi eu cynllunio i fodloni gofynion myfyrwyr sydd eisiau gweithio yn ogystal ag ennill cymhwyster mewn Amaeth drwy ymrwymo’n llawn neu’n rhan amser i’r rhaglen. Mae dalgylch myfyrwyr Gelli Aur yn ymestyn o Sir Benfro i Gaerdydd hyd at yr Amwythig ac mae cymuned fyrlymus Gymraeg yno sydd hefyd yn elwa o weithgareddau cymdeithasol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae Coleg Sir Gâr wedi creu cysylltiadau byd-eang a ddefnyddir er budd y myfyrwyr. Mae’r rhaglenni yn rhoi hyfforddiant cynhwysfawr i'r rheiny sy’n camu i fyd ffermio ymarferol, rheoli fferm a diwydiannau gwasanaeth amaethyddol megis Maethegwyr, Ymgynghorwyr, Arolygwyr Llesiant Ffermydd a Masnachwyr Cyflenwadau Amaethyddol.

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser


Amaethyddiaeth

Modylau enghreifftiol • • • • • • • • • • • • • • • • • •

Dysgu Seiliedig ar Ddiwydiant 1 Sgiliau Astudio mewn Amaethyddiaeth Dysgu Seiliedig ar Ddiwydiant 2 Ymchwil a Gwerthuso ar Leoliadau Astudio Arbenigol Rheoli Busnes ar Dir Gwyddor Anifeiliaid Amaethyddol Cnydau Amaethyddol Gwyddor Planhigion a Phridd Cynhyrchu Llaeth Cynhyrchu Bîff Cynhyrchu Defaid Tir fel Adnodd Ecoleg Amaethyddol Ffermio a’r Amgylchedd Maetheg Anifeiliaid Fferm Iechyd Anifeiliaid Fferm Cynhyrchu Glaswellt a Phorthiant.

Caiff perfformiad y myfyrwyr ei fonitro trwy aseiniadau, asesu parhaus, arholiadau, gwaith ymarferol, asesu ar ddiwedd modwl a chwblhau prosiect mawr.

Prif nodweddion •

Caiff y rhaglenni eu cyflwyno’n llawn a rhan amser drwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n caniatáu i fyfyrwyr gyfuno gwaith gydag addysg uwch.

Mae’r cyrsiau yn rhai modylaidd a gall y myfyrwyr ennill ardystiad (credyd) ar gyfer unrhyw fodylau sydd wedi’u cwblhau’n llwyddiannus.

• Cyfleoedd cyfnewid mewn nifer o wledydd tramor.

• Bwrsariaethau ac ysgoloriaethau. • Awyrgylch dysgu cefnogol a chyfeillgar. • Awyrgylch Cymreig a bywyd unigryw.

Cyfleoedd gyrfa

Nod y Coleg yw darparu hyfforddiant theori ac ymarferol realistig i’r myfyrwyr. Yn ystod y rhaglenni bydd cyfle gan fyfyrwyr i greu cysylltiadau drwy rwydwaith o gyflogwyr eang Coleg Sir Gâr yn y diwydiant Amaeth er mwyn ennill profiadau gwerthfawr. Byddant yn ennill sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn agor drysau iddynt mewn nifer o feysydd gwahanol. Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon, gall y myfyrwyr fynd ymlaen i ddilyn gyrfa yn y meysydd canlynol: • • • • • • • • • • • • •

Ffermio Rheoli busnesau Rheoli ffermydd Gweithio yn y diwydiannau gwasanaethau amaethyddol Maeth anifeiliaid fferm Dysgu Bancio (ar yr ochr amaethyddol) Y Cyfryngau Cyhoeddi Ymchwil Ymgynghori Masnachwyr cyflenwadau amaethyddol Arolygwyr Llesiant Ffermydd

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: 01554 754179 derbyniadau@colegsirgar.ac.uk @ColegSirGar

• Cyfleoedd ar gyfer gwaith maes cyson a phrofiad gwaith mewn amgylchedd dwyieithog.

Coleg Sir Gar Cod UCAS: C22

(Gradd Sylfaen) Cod Cwrs: 3H2F

(Gradd) Cod Cwrs: G4HW

99


Campws Caerdydd

Llwyddwch yng

Nghaerdydd

100


Caerdydd yw prifddinas ieuengaf Ewrop a chanddi gyfoeth o hanes a diwylliant. Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae wedi gweld buddsoddiad sylweddol yn y celfyddydau, byd chwaraeon a chanolfannau siopa gan ei wneud yn lle hyfryd i fyw ac astudio ynddo.

101


Caerdydd

Ar ben hyn oll mae Caerdydd yn fwrlwm o ddigwyddiadau diwylliannol sy’n cynnig bywyd cymdeithasol bywiog ac amrywiol. Mae WIAV (Wales International Academy of Voice) yn rhedeg cyrsiau hyfforddiant lleisiol ar lefel is-radd ac ôl-radd gyda chwrs newydd cyfrwng Saesneg BA Vocal Studies yn cael ei gynnig am y tro cyntaf yn 2018. Am fwy o wybodaeth am y cwrs hwn ewch i uwtsd.ac.uk/ba-vocal-studies Mae ein cwrs cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd yn cael ei redeg o Ganolfan Berfformio Cymru. Cynhelir holl weithgarwch wythnosol y cyrsiau yn adeilad “The Gate” yn ardal Y Rhath. Yma mae nifer o ofodau amlbwrpas yn cynnwys theatr arbennig,

102

dwy stiwdio ddawns gyda lloriau pwrpasol, a stiwdio ymarfer. Yn ogystal â hyn mae caffi/bar yno er mwyn ymlacio a chymdeithasu. Oherwydd ein lleoliad mae’r myfyrwyr yn gallu manteisio ar y bartneriaeth sydd gennym gyda BBC Cymru. Mae’r berthynas gyda'r BBC yn galluogi’r myfyrwyr i gael profiad o weithio ar set broffesiynol Pobol y Cwm ym Mhorth Teigr a hefyd gyfnodau o brofiad gwaith i unigolion. Yn ogystal â’r profiadau hyn mae nifer o gwmnïau teledu wedi’u lleoli yn y brifddinas sydd yn gyson yn chwilio am gyfranwyr a bellach maent yn troi at Ganolfan Berfformio Cymru ar gyfer actorion a chantorion ifanc.


Mae’n wych gallu cynnig cyfleoedd a phrofiadau o fewn y byd darlledu i rai o fyfyrwyr Canolfan Berfformio Cymru. Mae’n gyfle i ni allu meithrin perfformwyr hyderus a rhoi cyfle i’r myfyrwyr greu cysylltiadau gyda’r diwydiant.

Nia Dafydd Boom Plant

103


Caerdydd

Y 10 peth gorau i'w gwneud yng Nghaerdydd gan Lysgenhadon Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant 1. Canol y Ddinas

Mae lleoliad canolog y ddinas yn ei gwneud yn lle gwych i fyw. Mae modd teithio i brysurdeb Llundain mewn dwy awr ac i’r Gorllewin i ymlacio o fewn yr un amser.

2. Canolfan Siopa Dewi Sant

Mae digonedd o siopau ar gael yng nghanol y brifddinas.

3. Theatrau di-ri

Ceir amrywiaeth eang o theatrau sy'n dangos cynyrchiadau Cymraeg a Saesneg, yn rhai bach a rhai mawr, gan gynnwys Canolfan Gelfyddydol Y Gate, Canolfan Mileniwm Cymru, Theatr y Sherman, Theatr Newydd a Chapter.

104

4. Cyfleoedd gwaith

Mae digonedd o gyfleoedd ar gyfer gwaith rhan amser wrth ichi astudio.

5. Bywyd Cymdeithasol Rhwng gwyliau celfyddydol a cherddorol, tafarndai a bwytai, sioeau a chlybiau, mae digon o leoliadau cyffrous i ymweld â nhw gyda'r nos.

6. Chwaraeon

Mae Caerdydd yn ganolbwynt i gemau rhyngwladol Cymru ac mae’n wych byw ar stepen drws Stadiwm y Mileniwm.

7. Cathays

Dyma brif ardal y myfyrwyr. Mae'n lle arbennig i gwrdd â myfyrwyr o Brifysgolion eraill ac mae digon o opsiynau llety ar gael.

8. Dinas Fawr

Mae Caerdydd yn ddinas sy'n ddigon mawr ond eto'n ddigon bach. Gallwch gerdded o gwmpas y ddinas ar droed yn hawdd neu fanteisio ar y cludiant cyhoeddus.

9. Yr awyr agored yn y Ddinas

Er gwaethaf y bywyd dinesig mae dal digon o ardaloedd gwyrdd a pharciau i'w mwynhau megis Parc Bute a'r Rhath.

10. Cymuned Gymraeg Manteisiwch ar wyliau Cymraeg ardderchog megis Tafwyl sy'n cael eu cynnal yn flynyddol yn y ddinas. Mae cymuned Gymraeg gyfeillgar yn y ddinas.


Lluniau: © Hawlfraint y Goron 2018 (Croeso Cymru)

Darganfyddwch Gyrsiau Caerdydd >

105


Canolfan

Berfformio Cymru Beth yw Canolfan Berfformio Cymru?

Canolfan arloesol sydd wedi’i sefydlu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant er mwyn hyfforddi a datblygu perfformwyr y dyfodol yw Canolfan Berfformio Cymru. Rydym yn cynnig graddau cyfrwng Cymraeg a fydd yn cyflwyno i’r myfyrwyr dechneg gadarn law yn llaw â dealltwriaeth eang o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt. Yn ystod eu cyfnod astudio rhoddir cyfleoedd i’r myfyrwyr ddatblygu ystod eang o sgiliau. Byddant yn meithrin y sgiliau yma er mwyn eu galluogi i weithio’n broffesiynol ac i fanteisio ar y galw cynyddol am berfformwyr medrus, hyblyg a dibynadwy.

106

Canolfan Gelfyddydol “The Gate” Cynhelir holl weithgarwch wythnosol y cyrsiau yn adeilad “The Gate” yn ardal Y Rhath. Yma mae nifer o ofodau amlbwrpas yn cynnwys theatr arbennig, dwy stiwdio ddawns gyda lloriau pwrpasol, a stiwdio ymarfer. Yn ogystal â hyn mae caffi/bar yno er mwyn ymlacio a chymdeithasu.

Profiadau Gwerthfawr

Mae Canolfan Berfformio Cymru yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn cynnig profiadau ychwanegol i’r myfyrwyr er mwyn cyfoethogi eu profiad addysgol. Mae’r Ganolfan wedi sefydlu Lleisiau CBC sydd yn ensemble arbennig i’r holl fyfyrwyr. Mae Lleisiau CBC yn cyfrannu at fywyd

diwylliannol y Brifysgol yn cynnwys cyngherddau, gwasanaethau a digwyddiadau arbennig. Mae Lleisiau CBC hefyd yn perfformio mewn nifer o ddigwyddiadau mawreddog, yn cynnwys Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a chyn gemau rygbi. Rydym yn cefnogi datblygiad personol pob myfyriwr ac yn barod i roi cyfle iddynt dderbyn profiadau gwaith proffesiynol pan nad yw’n gwrthdaro gyda’u gwaith academaidd. Er enghraifft mae ein myfyrwyr yn perfformio mewn cynyrchiadau theatr yng Nghaerdydd, yn cyfrannu at raglenni teledu megis Pobol y Cwm, Gwaith Cartref, Y Gwyll ac yn gyfranwyr cyson ar Radio Cymru.


Fy hoff beth i am y cwrs yw bod naws teuluol iddo ond mae’r teimlad o broffesiynoldeb sydd angen yn y diwydiant perfformio yna hefyd.

Joey Cornish

Myfyriwr BA Perfformio

107


Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio

Perfformio Mae hwn yn gwrs blaengar ac arloesol a addysgir yn ddwys am gyfnod o ddwy flynedd gan gyfuniad o staff Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac arbenigwyr sy’n gweithio’n broffesiynol ym meysydd teledu, dawns, adloniant, sioe gerdd a theatr.

180

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Lleoliad y Cwrs: Caerdydd

Ethos sylfaenol y radd yw darparu techneg gadarn law yn llaw â dealltwriaeth eang o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt. Canolbwyntir ar ddatblygu sgiliau actio, canu a dawnsio’r myfyrwyr, ochr yn ochr â modylau sy’n ymwneud â’r diwydiant a byd gwaith. Yn ystod eu cyfnod astudio rhoddir cyfleoedd i’r myfyrwyr ddatblygu ystod eang o sgiliau. Byddant yn meithrin y sgiliau yma er mwyn eu galluogi i weithio’n broffesiynol ac i fanteisio ar y galw cynyddol am berfformwyr medrus, hyblyg a dibynadwy. Cynhelir holl weithgarwch wythnosol y cwrs yn adeilad “The Gate” yn ardal y Rhath. Yma mae nifer o ofodau amlbwrpas yn cynnwys theatr arbennig, dwy stiwdio ddawns gyda lloriau pwrpasol, a stiwdio ymarfer. Yn ogystal â hyn mae caffi/bar yno er mwyn ymlacio a chymdeithasu.

Mae'r cwrs yma yn gymwys am Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Ysgoloriaeth William Salesbury. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18, neu www.colegcymraeg.ac.uk

108

Oherwydd dwyster y cwrs a’r hyfforddiant arbenigol sy’n gysylltiedig ag ef, dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar y cwrs bob blwyddyn.

Iaith: Cymraeg

Er mai cwrs cymharol newydd yw BA Perfformio mae’n gyflym ennill ei blwyf fel un o gyrsiau hyfforddi actorion a chantorion amlycaf Cymru. Mae’r cwrs ymarferol hwn yn cynnig hyfforddiant pwrpasol a fydd yn rhoi sylw neilltuol i gynnydd a datblygiad yr artist unigol.

Opsiynau Astudio: Llawn amser


Perfformio

Prif Amcanion

Cyfleoedd Gwaith

• Datblygu perfformwyr hyderus amlddisgyblaethol

Mae pwyslais mawr o fewn y radd arbennig hon ar gysylltiadau â’r diwydiant. Bydd ymarferwyr proffesiynol yn gweithio gyda’r myfyrwyr drwy gydol eu cyfnod astudio. Drwy wneud hyn bydd ein myfyrwyr yn elwa’n sylweddol ar brofiadau, cysylltiadau ac arbenigedd yr ymarferwyr hyn. Bydd y cysylltiadau hyn a’r cyfleoedd profiad gwaith amrywiol a gynigir yn sylfaen gref ar gyfer sicrhau cyflogaeth yn y dyfodol o fewn y diwydiannau creadigol. Mae’r cwrs yn gwahodd cwmnïau theatr a theledu i ymweld â’r myfyrwyr yn gyson ac yn sgil hyn mae ein myfyrwyr wedi llwyddo i gael gwaith ar nifer o raglenni S4C.

Datblygu perfformwyr a chanddynt wybodaeth a chysylltiadau cryf â’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt

• Darparu profiadau ymarferol cyson a fydd yn paratoi’r myfyrwyr at weithio’n broffesiynol • Datblygu dealltwriaeth y myfyrwyr o bwysigrwydd sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn ganolbwynt i’w gyrfa fel perfformwyr

Mae Caerdydd yn ddinas fywiog, lawn prysurdeb a chynnwrf sy’n sicrhau profiad byw cyffrous iawn. Mae gymaint o gyfleoedd ar gael ac nid oes rhaid camu ym mhell i ymweld â’r llyfrgell, i brynu adnoddau neu wylio sioeau mewn lleoedd megis Canolfan y Mileniwm neu’r Theatr Newydd.

Lloyd Macey BA Perfformio

Cod UCAS BA - C68M

109


Abertawe

Llwyddwch yn

Abertawe

110


Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng nghalon Abertawe ac mae’n cynnig ichi fywiogrwydd, cyfleoedd a chyffro bywyd dinas ynghyd â hyfrydwch bywyd glan y môr. Wedi’i lleoli’n gyfleus yng nghanol y ddinas, cewch rwydd hynt o'r Drindod Dewi Sant i siopau, adloniant, chwaraeon a diwylliant, yn ogystal â thraeth bendigedig ac arfordir hyfryd Gŵyr ychydig filltiroedd i fyny'r ffordd. Mae holl leoliadau dysgu’r Drindod Dewi Sant o fewn taith gerdded i lan y môr, o adeilad trawiadol Ysgol Fusnes Abertawe ac adeiladau hyfryd Coleg Celf Abertawe i gartref newydd ein Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg ac Yr Athrofa, yn Ardal Arloesi Glannau Abertawe. Gan agor yn 2018, bydd datblygiad £300m newydd y Brifysgol yn dod â myfyrwyr yn agosach fyth i’r traeth. Llun: Golygon ar draws y Bae i leoliad datblygiad SA1 Glannau Abertawe newydd y Brifysgol

111


Abertawe Mae oriel eiconig Glynn Vivian gyferbyn â Chyfnewidfa Ddylunio Alex fendigedig y Brifysgol. Yn ogystal â phaentiadau gan Claude Monet, Augustus John a Kyffin Williams, mae’r oriel, a gafodd ei hailwampio’n ddiweddar, yn cynnwys casgliad rhyngwladol o borslen a llestri Abertawe ac yn cynnal arddangosfeydd teithiol nodedig yn rheolaidd, gyda gwaith gan Leonardo Da Vinci wedi cael ei gynnwys yn rhan o’i digwyddiadau ailagor. Mae’r Stryd Fawr, ychydig funudau ar droed o adeiladau Coleg Celf Abertawe, yn mwynhau dadeni. Mae orielau a mannau stiwdio yn agor, fel The Elysium, sydd wedi’i lleoli yng nghyn glwb nos Barons a wnaed yn enwog gan y ffilm gomedi gwlt ‘Twin Town’. Bellach, mae o gwmpas 100 o artistiaid yn gweithio yn ac o gwmpas y Stryd Fawr, gan wneud Elysium yn ddarparwr stiwdios artistiaid mwyaf Cymru.

112

Llun: Tŵr y Meridian, Abertawe, adeilad talaf Cymru: Delwedd: Greg Beynon Photography

Mae’r Uplands, y gallwch gerdded iddi mewn chwinc o ganol y dref, wedi’i henwi’n un o leoedd mwyaf cŵl y DU. (TravelSupermarket’s UK Hip Hang-out Neighbourhood Index). Mae ganddi farchnad awyr agored fisol boblogaidd ac amrywiaeth o farrau a bwytai trendi, pen ucha’r farchnad. Dilynwch bromenâd Abertawe tuag at y goleudy ac fe gyrhaeddwch ardal hardd y Mwmbwls, sy’n boblogaidd am nifer o resymau gan gynnwys ei bwytai cain a’i phier o oes Fictoria sydd wedi bod yn gyrchfan glan môr traddodiadol ers amser maith. Y Mwmbwls yw’r porth i hyfrydwch penrhyn Gŵyr, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y genedl. Cafodd Three Cliffs Bay ei bleidleisio’n un o bedair golygfa orau Prydain (Britain’s Favourite Views, ITV) a Rhossili yn un o 25 traeth gorau’r byd (The Sunday Times).


Bae Rhosili, Abertawe

Dyfarnwyd Bae Rhosili, Abertawe, yn 8fed traeth gorau'r DU, a'r un gorau oll yng Nghymru. Ffynhonnell: Gwobrau 'Travellers' Choice' TripAdvisor 2017

113


Abertawe

114


Mae’r cyfleusterau pwrpasol ar gyfer dysgu, addysgu ac ymchwil yn cynnwys llyfrgell ddigidol newydd sy’n cynnig mynediad at dechnoleg a llawer iawn o wybodaeth ddigidol, arbenigedd ar adalw gwybodaeth, delweddu a dadansoddi, a darparu man i gefnogi gwaith prosiect myfyrwyr a dysgu cydweithredol. Mae’r Brifysgol wedi bod yn buddsoddi mewn cyfleusterau ac adeiladau newydd ar draws y ddinas ers rhai blynyddoedd bellach. Mae hyn wedi arwain at greu amgylcheddau dysgu newydd a chyffrous gan sicrhau bod rhaglenni astudio'n caniatáu i fyfyrwyr symud yn ddiffwdan i gyflogaeth, menter neu astudiaethau pellach pan fyddant yn graddio.

Mae Cyfnewidfa Ddylunio ALEX – sy’n ddatblygiad gwerth £14m ac yn rhan o Ysgol Gelf Abertawe – yn gartref i Ysgol Dylunio a Chelfyddydau Cymhwysol y Brifysgol. Ers ei hagor yn 2014, mae hi wedi dod yn ganolfan addysgu, ymchwil ac ymgynghori rhyngwladol sy'n canolbwyntio ar ddylunio modurol, dylunio cynnyrch a gwydr pensaernïol. Defnyddir y cyfleuster ar gyfer arddangosfeydd cyhoeddus, darlithoedd a gweithgareddau cymunedol. Mae llyfrgelloedd pwnc-berthnasol pwrpasol yn Abertawe yn ogystal ag ystafelloedd TG mynediad agored. Gallwch gyrchu ein gwasanaeth llyfrgell a’ch deunydd astudio o bell drwy’r catalog llyfrgell ar-lein a’r rhith-amgylchedd dysgu. Mae cymorth TG ar gael drwy’r dydd, bob dydd gyda llinell gymorth i ymdrin â'ch ymholiadau y tu allan i oriau agor y swyddfa.

115


Abertawe

SA1 Glannau Abertawe Llun: Greg Beynon Photography

Yn agor yn 2018, mae datblygiad £300m newydd y Brifysgol, yn ardal forwrol y ddinas, ar Lwybr Arfordir Cymru, ger y marina gyda’i argae a’i bontydd hwyliau, cychod hwylio del a phensaernïaeth ddeniadol, hen a newydd. Mae’n wych ar gyfer seiclo hefyd.

Naturiol, Cyfrifiadura, Peirianneg, Addysg, Cwnsela a Seicoleg yn Abertawe wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Dinas a Sir Abertawe, busnes a diwydiant, i hybu cyflogaeth graddedigion a thrawsnewid yr amgylchedd dysgu ar gyfer ein myfyrwyr.

Mae’r Drindod Dewi Sant yn falch o’i nod i drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau. Bellach, mae’r Brifysgol yn trawsnewid un o ardaloedd y ddinas, gan ychwanegu cymysgedd arloesol o addysg a menter i leoliad sydd eisoes wedi denu busnes, caffis, bwytai a barrau cŵl. Mae warysau a dociau’n rhan o’i hanes ac maent yn dod yn rhan o’i dyfodol, gan weddnewid yn swyddfeydd a chaffis modern, a darparu lleoedd ar gyfer chwaraeon dŵr a chyfrannu at apêl yr ardal.

Bydd y datblygiad newydd, cyffrous hwn yn darparu cyfleusterau pwrpasol ar gyfer dysgu, addysgu ac ymchwil cymhwysol yn ogystal â mannau cymdeithasu, hamdden ac adloniant mewn lleoliad gwych ar y glannau. Mae ymchwil byd-eang wedi cyfrannu at greu’r ardaloedd technegol ac addysgu. Bydd mannau dysgu arbenigol, a chanddynt offer a pheiriannau cyfredol, yn darparu amgylchedd gwych i fyfyrwyr ddysgu a datblygu eu gwybodaeth ynddo.

Mae cartref newydd ein cyrsiau Pensaernïaeth, Amgylchedd Adeiledig a

116

Llun: Greg Beynon Photography

Bydd y mannau technoleg yn cynnwys clystyrau o fannau addysgu arbenigol ar gyfer Peirianneg, Cyfryngau Digidol,


Mae SA1 Glannau Abertawe yn ddatblygiad sylweddol gwerth £300m yng nghanol dinas Abertawe.

Cyfrifiadura Cymhwysol a Phensaernïaeth. Mae’r rhain yn cynnwys y gweithdai Peirianneg, stiwdios fideo a sain a’r stiwdios Pensaernïaeth. Bwriedir creu “pentref blychau”, ymagwedd newydd at ddylunio adeiladau gan ddefnyddio amlwythi llongau, yn rhan o’r datblygiad newydd. Mae’r prosiect cyffrous wedi’i seilio ar y syniad o greu mannau fforddiadwy i gwmnïau newydd a dod â myfyrwyr, academyddion a busnesau at ei gilydd i rannu arbenigedd ac archwilio syniadau newydd ar gyfer twf. Ymhlith y manteision i fyfyrwyr fydd cysylltiadau uniongyrchol â diwydiant, cyfoethogi cyflogadwyedd a darparu sgiliau entrepreneuraidd a busnes.

a chynhyrchion. Fe fydd yn darparu lle i fusnesau newydd gydweithio a gwasanaethau cymorth busnes ar gyfer cwmnïau deilliedig y Brifysgol a chwmnïau yn y gymuned yn ogystal â mannau deori mwy hir dymor. Caiff hefyd ei ddefnyddio i ddenu cyflogwyr i'r Brifysgol ar gyfer digwyddiadau, cyflwyniadau a ffeiriau gyrfaoedd gan gysylltu ein myfyrwyr gyda llwybrau gyrfaol a darpar gyflogwyr. Nod y datblygiad newydd hwn yw rhoi ichi leoliad heb ei ail i astudio ynddo, offer a chyfleusterau rhagorol a chyfleoedd eithriadol ar gyfer rhwydweithio, fel y byddwch yn barod i lwyddo wedi ichi raddio. Dewch i ddiwrnod agored i weld y cyfan â’ch llygaid eich hun.

Bydd yr Hwb Arloesi yn fan hyblyg i gefnogi gweithdai a digwyddiadau eraill. Yn ogystal, gallai'r myfyrwyr ddefnyddio'r fan yma i ddatblygu syniadau am fusnesau

117


Abertawe

Y 10 peth gorau i'w gwneud yn Abertawe gan Lysgenhadon Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant 1. Archwilio Penrhyn Gwyr

Taith fer mewn car neu fws o ganol dinas Abertawe, ac 'Ardal Harddwch Eithriadol Naturiol’ gyntaf y DU. Yn enwog am ei arfordir hardd a’i draethau bendigedig – mae’n hoff gyrchfan gan gerddwyr a syrffwyr fel ei gilydd.

2. Gwylio chwaraeon proffesiynol

4. Siopa yng nghanol y ddinas

Mae cymysgedd Abertawe o siopau stryd fawr enwog a siopau annibynnol yn cynnig amrywiaeth enfawr o gyfleoedd siopa. Mae canol y ddinas yn gartref i ganolfan fowlio, 'tag laser' a dwy sinema fawr.

5. Darganfod glan môr y Mwmbwls

Mae Abertawe yn gartref i bêl-droed yr Uwch Gynghrair a rygbi proffesiynol yn Stadiwm Liberty. Hefyd, mae Clwb Criced Morgannwg yn chwarae gemau ar gae Rygbi a Chriced San Helen.

Ardal boblogaidd iawn o Abertawe a chanddi oleudy a Phier Fictoraidd ynghyd â siopau bach gwahanol. Hefyd, mae yno nifer o fwytai sy’n cynnig bwyd ffres, blasus. Cofiwch am yr hufen iâ!

3. Mwynhau noson allan yn Stryd y Gwynt

6. Gwylio sioe yn Theatr y Grand

Mae Stryd y Gwynt yn gartref i amrywiaeth o fariau, clybiau a bwytai i fyfyrwyr eu mwynhau - mae noson y myfyrwyr ar nos Fercher yn werth ei gweld!

118

Mae theatr hanesyddol y Grand yn adeilad llawn cymeriad sy’n darparu amrywiaeth eang o ddigwyddiadau diwylliannol, artistig ac adloniant cyffredinol.

7. Mynd am dro o gwmpas y Marina

Mae’r Ardal Forol wedi ennill gwobrau ac mae’n cynnal digwyddiadau gan gynnwys Gwledd y Gaeaf, y Sioe Awyr a Gŵyl Haf Bae Abertawe. Ymwelwch â’r bwyty sydd ar ben adeilad talaf Cymru!

8. Archwilio'r parciau a’r gerddi di-rif

Mae gennym dros 50 o fannau gwyrdd ar draws y ddinas sy’n llefydd hyfryd i ymlacio ynddynt, i adolygu ac i dreulio amser gyda ffrindiau.

9. Ymlacio yn LC2

Abertawe yw cartref parc dŵr mwyaf Cymru. Mae i'r LC2 beiriant syrffio, ardal chwarae ryngweithiol dros bedwar llawr, a wal ddringo dan do 30 troedfedd o uchder.

10. Chwaraeon ar draeth Bae Abertawe

Ychydig funudau o ganol y ddinas mae Bae Abertawe lle ceir digonedd o gyfleoedd i roi cynnig ar weithgareddau ar y tir ac ar y dŵr, neu fwynhau barbeciw gyda ffrindiau.


Darganfyddwch Gyrsiau Abertawe > 119


Yr Athrofa

Yr Athrofa Abertawe

Yr Athrofa: Pobl sydd wrth wraidd Yr Athrofa - sut rydym yn dysgu, sut rydym yn byw a sut rydym yn trefnu ein hunain mewn cymdeithas. Rydym yn gyfadran gyffrous ac ymholgar sydd â gwerthoedd wedi’u gwreiddio mewn cyfiawnder, ecwiti, democratiaeth, hawliau dynol a dinasyddiaeth. Gyda’n gilydd, rydym yn gofyn cwestiynau, yn cynnig atebion ac yn herio ni ein hunain ac eraill. Mae’r Athrofa'n galluogi myfyrwyr i ddatblygu’n raddedigion creadigol a chyflogadwy a fydd yn gallu cyfrannu at les cymdeithas gan fod yn ddinasyddion cyfrifol. Yn falch o’n treftadaeth ac o natur unigryw’r genedl rydym yn gwasanaethu arni, mae’r Athrofa yn eithriadol o uchelgeisiol, ac yn tynnu ar arfer da rhyngwladol i seilio ein gwaith arni, yma ym Mhrydain a thramor.

@athrofa

120


Yr Athrofa

Yn awyddus i rannu ein harbenigedd mewn dosbarthiadau lleol a byd-eang, mae’r Athrofa yn cael ei chymell gan rym newid addysgiadol a’r gwahaniaeth positif y gallwn ei wneud er lles cenedlaethau’r dyfodol. Cynllunnir ein rhaglenni i ddatblygu cariad at ddysgu a, gyda’n gilydd, gallwn ddefnyddio’r manteision niferus a gyfyd yn sgil hyn i drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau. Mae campws Abertawe yn ddatblygiad newydd o’r radd flaenaf sy’n adeiladu ar sefydliadau gwreiddiol a’i hanes balch o drawsnewid bywydau drwy addysg. Bydd creu pentref dysgu ac arloesi newydd yn ardal SA1 Abertawe yn cefnogi nod y Brifysgol i ysbrydoli unigolion ac i ddatblygu graddedigion ac ymarferwyr adfyfyriol sy’n gallu gwneud gwir wahaniaeth i’r gymdeithas. Mae’r cyfleusterau hyn a adeiladwyd yn bwrpasol yn cynnig y dechnoleg addysgol ddiweddaraf ac mae eu lleoliad yng nghanol Glannau Abertawe yn sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb. Yn Abertawe, mae rhaglenni israddedig Yr Athrofa yn amrywio o Raddau Sylfaen i BA, BSc a Meistr Integredig mewn pynciau sy’n cynnwys Cymorth Dysgu, Blynyddoedd Cynnar, Seicoleg, Astudiaethau Cwnsela a Seicoleg, Iechyd Meddwl, Cwnsela Dyneiddiol ac Astudiaethau Addysg. Mae ein graddau anrhydedd mewn Seicoleg a achredir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) yn rhoi cyfuniad cyffrous i fyfyrwyr o ddamcaniaeth, cymhwyso a sgiliau a addysgir i safon uchel.

uniongyrchol gyda’r ymchwilwyr hyn yn un o brif gryfderau ein cwrs. Mae’r BSc Iechyd Meddwl yn addas i ystod eang o fyfyrwyr, gan gynnwys y rheiny sy’n gwneud cais drwy lwybrau Safon Uwch a Mynediad. Byddai’r cymhwyster hwn o ddiddordeb i’r rheiny sydd eisoes yn gweithio yn y maes ac sy’n dymuno cyfoethogi eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth flaenorol, yn ogystal â’r rheiny sy’n newydd i’r sector. Mae’r Ysgol Blynyddoedd Cynnar wedi datblygu cyfres o raglenni gradd newydd ac arloesol a gynlluniwyd i roi i’n graddedigion y sgiliau a’r medrau sy’n hanfodol i weithio yn y sector addysg a gofal blynyddoedd cynnar. Mae yna ddarpariaeth ar gyfer astudio yn ystod a dydd a darpariaeth dysgu hyblyg a gyflwynir gyda’r nos ac ar ddyddiau Sadwrn sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddal ati i weithio wrth iddynt astudio. Mae’r Radd Sylfaen mewn Addysg Gynhwysol – IEFD a’r BA Addysg Gynhwysol – IESH ar gael drwy gampws Abertawe. Mae’r Radd Sylfaen yn rhaglen tair blynedd, ran amser sy’n cynnwys sesiynau ar ddyddiau Sadwrn a min nos. Mae’n ffocysu ar ddysgu yn y gwaith, sy’n rhoi cyfleoedd i’r myfyrwyr gaffael gwybodaeth pwnc ddofn ac archwilio i’r ymchwil diweddaraf yn eu meysydd pwnc. Am ragor o wybodaeth am Yr Athrofa gweler tudalen 260.

Mae staff Abertawe yn cynnig arbenigedd mewn seicoleg arbrofol a chymhwysol, ac mae gallu ein myfyrwyr i weithio’n

Am ragor o wybodaeth, ewch i: athrofa.cymru/cy/cyrsiau

Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd

121


Yr Athrofa

Astudiaethau Addysg Mae ein cyrsiau Astudiaethau Addysg wedi’u hanelu at unrhyw un a chanddynt ddiddordeb mewn astudio addysg, gyda phoblogaeth myfyrwyr eang ac amrywiol, a chanddynt oll un peth yn gyffredin – yr awydd i ddeall a gweithio ym myd addysg.

122

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg

Gwneir cysylltiadau clir a chryf â pholisïau cyfredol sy'n effeithio ar fyd addysg. Os nad ydych yn hollol sicr ynghylch pa yrfa sydd o ddiddordeb i chi, yna, fe all yr hyblygrwydd i archwilio ac ystyried ystod o gyfleoedd a gynigir i chi gan un o’r llwybrau hyn, arwain at yr un iawn ichi. Rydym yn credu’n gryf nad dim ond yn yr ystafell ddosbarth yn unig bydd plant yn dysgu. Drwy gydol eich amser gyda ni, cewch ystod o sgiliau amhrisiadwy sydd nid yn unig yn academaidd, ond yn hanfodol i unrhyw unigolyn graddedig ym myd gwaith yr oes sydd ohoni ac rydym yn cynnig ystod o gyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol i’ch galluogi i gael y cyfryw sgiliau a phrofiad.

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser


Astudiaethau Addysg

Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? Ar gyfnod o newidiadau mawr i addysg yng Nghymru, mae ein cwrs yn rhoi ichi’r cyfle i drafod yn feirniadol fyd newidiol addysg ac yn eich paratoi at ystod o yrfaoedd sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau plant. Mae ein rhaglenni Meistr integredig yn ymestyn ein llwybrau BA (Anrh) i mewn i bedwaredd flwyddyn o astudiaethau ar lefel Meistr. Mae’n gyfle rhagorol i ymestyn eich astudiaethau academaidd o addysg yn ddiffwdan i lefel uwch.

Gyrfaoedd: • Addysgu • Cymorth addysgol • Gwasanaethau cyhoeddus • Swyddog cymorth cymunedol • Cydlynydd prosiect • Swyddog addysgol • Gweithiwr cymorth teulu • Gweithiwr cymorth elusen • Cynorthwyydd Seicoleg • Gwaith Cymdeithasol • Ymchwil Seicolegol

97% Cytunodd 97% o fyfyrwyr Addysg Y Drindod Dewi Sant bod staff yn dda am esbonio pethau. ACM 2017

Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd

123


Yr Athrofa

Llwybrau Astudiaethau Addysg Astudiaethau Addysg: Dysgwyr a Dysgu Cyfoes Codau UCAS: BA X302* MEd X304*

Astudiaethau Addysg: Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant Codau UCAS: BA X364* MEd X363*

124

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg

Bydd y modylau penodol sy’n berthnasol i'r llwybr Dysgwyr a Dysgu Cyfoes yn rhoi ichi well syniad o sut y gellir cefnogi a datblygu dysgwyr o fewn ystod eang o amgylcheddau addysgol. Bydd yn rhoi ichi ddealltwriaeth ddamcaniaethol a’r sgiliau ymarferol i’ch galluogi i gymhwyso’ch astudiaethau i ystod eang o yrfaoedd posibl fel addysgu a chymorth addysgol.

Wrth wraidd y rhaglen hon mae meysydd pwnc sylfaen Astudiaethau Addysg sy’n cynnwys seicoleg, cymdeithaseg, hanes ac athroniaeth. Drwy astudio’r pynciau hyn, cewch ddealltwriaeth fanwl o’r prif faterion addysgol sy’n berthnasol i ystod eang o yrfaoedd posibl ac opsiynau astudio ôl-raddedig. Bydd y modylau penodol sy’n berthnasol i’r llwybr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant yn rhoi ichi olwg fanwl ar y prif feysydd sy’n berthnasol i gefnogi a gweithio gyda myfyrwyr a chanddynt anghenion a gofynion ychwanegol.

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser


Addysg

Astudiaethau Addysg: Safbwyntiau Rhyngwladol Codau UCAS: BA X393* MEd X392*

Meistr Integredig mewn Astudiaethau Addysg Codau UCAS: MEd 24H2

Bydd y modylau penodol sy’n berthnasol i’r llwybr Safbwyntiau Rhyngwladol yn caniatáu ichi archwilio materion addysgol byd-eang allweddol fel cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb. Bydd hefyd yn ystyried rôl asiantaethau rhyngwladol a rhanbarthol wrth gefnogi a datblygu addysg yn fyd-eang. Hefyd, mae’r cyfle i astudio Saesneg fel iaith dramor yn nodwedd allweddol o’r rhaglen hon.

Mae’r Meistr Integredig mewn Astudiaethau Addysg ar gael i bob llwybr, gan gynnwys yr Astudiaethau Addysg: Cynradd. Mae’n cynnig cyfle i gwblhau blwyddyn ychwanegol o astudiaethau mewn ffordd ddi-dor i gael cymhwyster integredig ar lefel Meistr. Gan ffocysu ar y pynciau sydd o bwys i chi, mae’r rhaglen hon yn eich cefnogi wrth ichi ddatblygu’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer ymchwil manwl mewn maes o’ch dewis. Mae hyn yn eich caniatáu i ddatblygu gwybodaeth o’r maes sydd o ddiddordeb i chi. Ymhlith y meysydd ffocws allweddol eraill mae arweinyddiaeth mewn addysg mewn byd sy’n newid yn gyflym. Trwy archwilio’r materion allweddol mewn arweinyddiaeth a rheolaeth, mae’r cwrs hwn yn eich paratoi i ddeall addysg mewn ystod o leoliadau, datblygu sgiliau meddwl beirniadol sy’n hanfodol yn y sector addysg cyfoes.

*yn amodol ar ddilysu

Gofynion Mynediad: 88 o bwyntiau

125


Yr Athrofa

Gradd Sylfaen mewn

Addysg Gynhwysol Mae’r Radd Sylfaen yn rhaglen ran amser 3 blynedd lle cyflwynir sesiynau ar ddyddiau Sadwrn a liw nos lle defnyddir amrywiaeth o arddulliau dysgu.

Mae’r rhaglen yn cynnig ystod gynhwysfawr o fodylau generig sy’n addas ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn cyd-destunau blynyddoedd cynnar, ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd. Mae’n cwmpasu modylau yn y gwaith a phrifysgol-seiliedig sy’n rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ystyried a dadansoddi materion addysgol cyfredol yng nghyd-destun eu profiadau a'u hamgylchedd ysgol penodol nhw. Mae ffocws y radd ar ddysgu seiliedig ar waith. Mae’n darparu cyfleoedd i gael y wybodaeth pwnc ddiweddaraf ac i archwilio ymchwil diweddar mewn meysydd pwnc. Ymhlith y modylau a gyflwynir mae’r meysydd pwnc a ganlyn: • • • • • • • • • •

126

Lleoliad y Cwrs: Abertawe, Caerfyrddin

Goresgyn Rhwystrau at Anawsterau Dysgu Penodol Archwilio Ymddygiad ac Ymyriadau mewn Dysgu Anghenion Ychwanegol mewn Cyd-destun Egwyddorion Dysgu ac Addysgu Mae Rhifau’n Cyfrif Llythrennedd – Allwedd at Ddysgu Cynhwysiant Cymdeithasol ar Waith Dathlu Iaith - Diwylliant – Perthyn i Gymru Iechyd Meddwl a Lles Plant a Phobl Ifanc Cadw ein Plant yn Ddiogel

Iaith: Cymraeg, Saesneg, Dwyieithog

Opsiynau Astudio: Rhan amser


Addysg

Mae’r Radd Sylfaen mewn Addysg Gynhwysol yn gwrs rhan amser tair blynedd. Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn gall rhaglen astudio hyblyg un flwyddyn arall arwain at BA Addysg Gynhwysol. Cyflwynir sesiynau ar ddyddiau Sadwrn a liw nos lle defnyddir amrywiaeth o arddulliau dysgu. Bydd y radd yn cynnwys modylau a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog, a chaiff myfyrwyr y cyfle i gyflwyno eu gwaith yn Gymraeg neu Saesneg.

Gyrfaoedd:

Cwrs dysgu seiliedig ar waith yw hwn. Ar ôl cael eu BA bydd rhai myfyrwyr yn mynd ymlaen i astudio rhaglen TAR neu Feistr.

80

Gofynion Mynediad: Dysgu yn seiliedig ar waith

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a: c.hunt@uwtsd.ac.uk

127


Yr Athrofa

Addysg a Gofal

Blynyddoedd Cynnar Mae sut y mae plant yn datblygu a dysgu yn faes hynod o ddiddorol i’w astudio.

Mae’r Ysgol Blynyddoedd Cynnar wedi datblygu cyfres o raglenni gradd newydd ac arloesol a gynlluniwyd i roi i’n graddedigion y sgiliau a’r medrau sy’n hanfodol i weithio yn y sector addysg a gofal blynyddoedd cynnar. Mae yna ddarpariaeth ar gyfer astudio yn ystod y dydd a darpariaeth dysgu hyblyg a gyflwynir gyda’r nos ac ar ddyddiau Sadwrn sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddal ati i weithio yn ogystal ag astudio ar gyfer eu gradd. Mae’r rhaglenni wedi’u lleoli ar gampws Abertawe a Chaerfyrddin ac fe’u haddysgir naill ai drwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog. Mae gennym hefyd raglenni a redir yn y gymuned neu mewn ardaloedd lle mae galw am y ddarpariaeth.

120

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Mae'r cyrsiau hyn yn gymwys am Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18, neu www.colegcymraeg.ac.uk

128

Lleoliad y Cwrs: Abertawe, Caerfyrddin

Mae ein holl raglenni’n cymryd ymagwedd gyfannol at ddatblygiad a dysgu plant ifanc. Bydd myfyrwyr yn astudio’r materion pwysig sy’n effeithio ar blant a theuluoedd. Mae gan yr Ysgol raglenni ‘Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar’ sydd wedi’u cynnwys yn rhestr gymeradwy Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer gweithio mewn lleoliadau gofal plant.

Iaith: Cymraeg, Dwyieithog, Saesneg

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Hyblyg


Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar

Ymhlith prif themâu ein graddau mae: • • • • • • • •

datblygiad plant cynhwysiant a chyfiawnder cymdeithasol llythrennedd a rhifedd cynnar datblygiad iaith dysgu awyr agored cynaliadwyedd arweinyddiaeth gwaith tîm

Caiff myfyrwyr hefyd gyfleoedd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o ymweliadau addysgol yn ystod eu gradd sy'n gallu cynnwys ymweliadau dewisol i wledydd fel Sweden a Chanada. Bydd ein graddedigion yn sicrhau'r wybodaeth, gwerthoedd a dealltwriaeth sy’n hanfodol ar gyfer cyfrannu'n sylweddol at ragoriaeth broffesiynol ym maes blynyddoedd cynnar yng Nghymru a thu hwnt.

Swyddi:

Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i amrywiaeth o swyddi a gyrfaoedd, gan gynnwys:

Rwy'n ddiolchgar fod fy nghwrs wedi rhoi hyder i fi yn fy ngwaith er mwyn gwella fy hunan. Mae'r profiadau a gwybodaeth rwyf wedi cael dros y tair blynedd yn amhrisiadwy.

Becky Hawkes Graddiodd yn 2017

• • • • • • • • • • • •

Swyddog Datblygu Blynyddoedd Cynnar Cydlynwyr Cyfnod Sylfaen Pennaeth Ysgol Montessori Dirprwy Arweinydd Chwarae Gweithiwr Chwarae Cydlynydd Iaith a Chwarae Swyddog Hyfforddi’r Sector Gwirfoddol Ymarferydd Ymgysylltu ar gyfer Cymorth i Fenywod Cynorthwywyr Cymorth Dysgu a Chynorthwywyr Addysgu Hwylusydd Teuluoedd gyda’i Gilydd Cwnselydd Gweithgareddau Ieuenctid Darlithydd Gweithwyr Ieuenctid

*Mae arfer blynyddoedd cynnar yn rhan o rai rhaglenni.

Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd

129


Yr Athrofa

Llwybrau Blynyddoedd Cynnar Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Ymarferydd

Gellir astudio'r radd hon mewn dwy flynedd ac fe'i cyflwynir gyda'r nos ac ar rai dyddiau Sadwrn. Byddwch yn astudio amrywiaeth o faterion sy’n gysylltiedig â gweithio gyda phlant ifanc a theuluoedd yn ogystal ag archwilio i agweddau pwysig ar blentyndod fel datblygiad cyfannol a lles. Mae’r rhaglen wedi ei chymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymrru (GCC) (Social Care Wales) ac mae’n ymddangos ar restr GCC o gymwysterau cymwys ar gyfer gweithio o fewn y sector blynyddoedd cynnar.

Blynyddoedd Cynnar) (2 Flynedd)*

Cod UCAS: BA - 63H7

Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar

Mae hon yn rhaglen llwybr carlam dwy flynedd a gynlluniwyd ar gyfer y rheiny sydd eisoes yn gweithio yn y sector gofal plant ac addysg. Gellir astudio'r radd hon mewn dwy flynedd ac fe'i cyflwynir gyda'r nos ac ar rai dyddiau Sadwrn. Mae’r rhaglen radd hon yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil mewn perthynas â gweithio gyda phlant a theuluoedd. Mae’r rhaglen hon wedi’i chynnwys ar restr gymeradwy Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer gweithio mewn lleoliad gofal plant.

(2 Flynedd)* Cod UCAS: BA - 87B2

Pwyntiau UCAS: Mae mynediad at ein graddau dwy flynedd wedi'i seilio ar brofiad gwaith.

98%

130

Roedd 98% o fyfyrwyr BA Plentyndod Cynnar Y Drindod Dewi Sant yn fodlon gyda’u cwrs. ACM 2017

Lleoliad y Cwrs: Abertawe, Caerfyrddin

100%

Iaith: Cymraeg, Dwyieithog, Saesneg

Roedd 100% o fyfyrwyr BA Plentyndod Cynnar Y Drindod Dewi Sant yn fodlon gyda’r addysgu ar eu cwrs. ACM 2017

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Hyblyg


Cwnsela

Cwnsela Mae’r Brifysgol yn cynnig cwrs Cwnsela a chwrs cydanrhydedd mewn Cwnsela gyda Seicoleg. Gall y rhaglen hon arwain at amrywiaeth eang o yrfaoedd posibl yn y dyfodol mewn llawer o sectorau sy’n cynnwys ymarfer cwnsela, seicoleg, addysg, nyrsio, gofal cymdeithasol, adnoddau dynol a mwy. Mae'r rhaglen Astudiaethau Cwnsela a Seicoleg wedi ei hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS). Golyga hyn fod y rheiny sy’n graddio gydag o leiaf radd anrhydedd ail ddosbarth yn gymwys i dderbyn Aelodaeth Siartredig i Fyfyriwr Graddedig (GBC) gan Gymdeithas Seicolegol Prydain – yn aml mae hyn yn hanfodol i fyfyrwyr sy’n dymuno mynd yn eu blaen i astudiaethau neu hyfforddiant ôl-raddedig mewn seicoleg.

93%

Cytunodd 93% o fyfyrwyr BA (Anrh) Astudiaethau Cwnsela a Seicoleg Y Drindod Dewi Sant bod staff yn dda am esbonio pethau. ACM 2017

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg

Cyrsiau Cyfrwng Saesneg (Abertawe) Meistr Integredig

Cod UCAS

Integrated Masters in Humanistic Counselling Practice

146Y

Gradd Anrhydedd BA Humanistic Counselling Practice

147Y

BA Counselling Studies and Psychology

BC98

Rwyf wedi cael cyfoeth o sgiliau bywyd, wedi gwella rhinweddau a gwybodaeth bersonol sydd wedi rhoi imi well dealltwriaeth ohonof fi fy hun drwy ddatblygiad personol ac wedi rhoi imi hunanhyder. Roedd cofrestru ar radd yn brofiad anhygoel a phositif sydd wedi newid fy mywyd. Rwy’n teimlo bod dewis y sefydliad iawn yn hollbwysig.

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser

Carrie Griffiths

BA Astudiaethau Cwnsela a Seicoleg

Gofynion Mynediad: 80-88 o bwyntiau

131


Yr Athrofa

Seicoleg Mae seicoleg yn sail i’r rhan fwyaf o’n ffordd o feddwl a’n dealltwriaeth o’r byd rydym yn byw ynddo. Mae seicoleg yn sail i’r rhan fwyaf o’n ffordd o feddwl a’n dealltwriaeth o’r byd rydym yn byw ynddo. P’un a ydym yn ceisio deall natur terfysgaeth fodern, helpu’r rheiny sydd mewn trallod meddwl neu gorfforol, neu annog pobl i ymddwyn mewn ffyrdd mwy sensitif yn amgylcheddol, mae’r cyfleoedd i gymhwyso seicoleg wrth ddatrys materion yn y byd go iawn yn ddiddiwedd.

Trwy grŵp bach o seminarau addysgu a rhyngweithiol a addysgir gan ymchwilwyr gweithredol yn y maes, byddwch yn archwilio’r cyswllt rhwng damcaniaeth seicolegol, ymchwil ac arfer, gan ddatblygu dealltwriaeth gref o’r cysylltiadau rhwng y meddwl dynol, emosiynau, yr ymennydd, ac ymddygiad mewn amrywiaeth o gyd-destunau.

Mae ein graddau anrhydedd sengl a chyfun mewn Seicoleg a achredir gan BPS yn rhoi cymysgedd cyffrous o ddamcaniaeth, cymhwyso a sgiliau a addysgir i fyfyrwyr. Gan ddefnyddio safbwynt wyddonol i ddeall ac ymdrin â’r materion a wynebir gan bobl ein cymdeithas, mae ein triniaeth o brif feysydd seicoleg yn helpu myfyrwyr i gael dealltwriaeth o faint yn union o ddylanwad sydd gan seicoleg yn y byd modern.

Ar ôl gorffen ein graddau seicoleg mae’n bosibl i’n myfyrwyr fynd ymlaen i’n MSc mewn Seicoleg Gymdeithasol ac Iechyd Cymhwysol neu ddilyn llwybrau hyfforddi achrededig mewn Seicoleg.

132

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg

Gyrfaoedd:

Ymhlith y rolau graddedigion, mae: • Cynorthwyydd Seicoleg • Addysgu • Darlithio • Gwaith Iechyd Meddwl • Gwaith Cymdeithasol • Ymchwil Seicolegol • Adnoddau Dynol • Rheolaeth Data GIG

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser

Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau


Seicoleg

100% Roedd 100% o fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant sy’n astudio yn yr Ysgol Seicoleg yn fodlon ar eu ‘Tiwtoriaid Personol’. Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015

Mae staff yr adran seicoleg yn arbenigwyr yn eu maes ac yn hawdd iawn siarad gyda nhw. Maent am i fyfyrwyr lwyddo, ac maent bob tro'n barod i roi cymorth ychwanegol, ac yn eich annog i ymgysylltu â'r pwnc.

Paul Grey

BA Astudiaethau Cwnsela a Seicoleg

Cyrsiau Cyfrwng Saesneg (Abertawe) Gradd Anrhydedd

Cod UCAS

BSc Psychology

3UC3

BA Counselling Studies & Psychology

BC98

BSc Mental Health

7HL3

Rydym hefyd yn cynnig graddau cysylltiedig yn y pwnc hwn ar Gampws Caerfyrddin. Gweler tudalen 60.

133


Cyfadran Busnes a Rheolaeth

Croeso i’r Gyfadran

Busnes a Rheolaeth yn Abertawe

Fe fyddwch mewn lleoliad cyfleus yng nghanol y ddinas ac eto o fewn tafliad carreg i’r traeth bendigedig pan ddewch i astudio busnes ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Abertawe.

134


Busnes a Rheolaeth

Mae campws eiconig Ysgol Fusnes Abertawe yn agos i’r orsaf drenau ac ychydig funudau i ffwrdd o Ardal y Celfyddydau a bywyd nos Stryd y Gwynt. Mae Ysgol Fusnes Abertawe yn cynnig graddau israddedig a HND mewn: Cyfrifeg; Busnes a Chyllid; Rheolaeth Busnes; Rheolaeth Adnoddau Dynol; Busnes Rhyngwladol; Rheolaeth ac Arweinyddiaeth; Rheolaeth Marchnata; Y Gyfraith a Busnes; DCU mewn Rheolaeth busnes a chyllid. Cyflwynir y rhaglenni gan weithwyr proffesiynol ac academyddion a chanddynt oll brofiad o ddiwydiant ac mae pob myfyriwr israddedig yn gweithio gyda chyflogwr i gael profiad gwaith ymarferol. Cynllunnir yr holl raglenni i roi i raddedigion y nodweddion y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt - arloesedd, creadigrwydd, ffordd o feddwl greadigol a’r gallu i ymateb i ddigwyddiadau neu dasgau annisgwyl. Rydym yn cynnig cymorth helaeth i’r rheiny sydd ei angen yn ogystal â gweithgareddau 'ymestyn' i'r rheiny sydd eisiau her ychwanegol. Bydd gan fyfyrwyr diwtor personol a chynigir ‘cyfaill’ iddynt, sef myfyriwr sydd wedi’i hyfforddi i roi cymorth ichi drwy gydol eich astudiaethau. Darperir ystod eang o ddigwyddiadau diwylliannol, busnes a rheolaeth gan gyflogwyr, cyrff proffesiynol, yr Ysgol a'r Brifysgol ichi gymryd rhan ynddynt.

Mae’r portffolio Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnwys: BA Gwasanaethau Cyhoeddus | HND Gwasanaethau Cyhoeddus; BSc Plismona; BA Y Gyfraith a Throseddeg; BA Y Gyfraith a Busnes; a BA Y Gyfraith a Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae’r portffolio Iechyd yn cynnwys: BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol/HND Iechyd a Gofal Cymdeithasol; BSc Rheolaeth Iechyd/ HND Rheolaeth Iechyd; BSc Plant a Phobl Ifanc/ FdA Plant a Phobl Ifanc a DipAU Astudiaethau Nyrsio ac Iechyd. Mae’r portffolio Rheolaeth Chwaraeon yn cynnwys: BA Rheolaeth Chwaraeon Rhyngwladol; BA Rheolaeth Chwaraeon/ FDA Rheolaeth Chwaraeon/ HND Rheolaeth Chwaraeon; BA Rheolaeth Cyfleusterau Stadiwm a Chwaraeon; a BA Rheolaeth Chwaraeon Dŵr. Mae Ysgol Twristiaeth a Lletygarwch Abertawe yn cynnig graddau israddedig a HND mewn: Rheolaeth Digwyddiadau; Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol; Rheolaeth Hamdden; Rheolaeth Twristiaeth; a Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol. Cynllunnir yr holl raglenni drwy ymgynghoriaeth agos â rhai o brif sefydliadau twristiaeth, lletygarwch, digwyddiadau a chwaraeon y byd yn ogystal â chyflogwyr ac ymgynghorwyr lleol o'r sector. Mae hyn yn sicrhau bod ein cwricwlwm yn gyfredol er mwyn hybu eich cyflogadwyedd wedi ichi raddio.

Mae gan yr Ysgol Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored nifer o raglenni cyffrous, blaengar a galwedigaethol ar gampws Abertawe ym meysydd chwaraeon, gwasanaethau cyhoeddus, nyrsio, iechyd a gofal cymdeithasol.

Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd

135


Cyfadran Busnes a Rheolaeth

Ysgol Fusnes Abertawe Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau sy’n cynnwys sgiliau busnes a rheolaeth, naill ai fel pwnc craidd neu fel rhan o raglen astudio sy’n ymwneud â phwnc neu broffesiwn arall.

136


Busnes a Rheolaeth

Mae astudio pynciau sy’n gysylltiedig â busnes a rheolaeth yn rhoi sgiliau a gwybodaeth gwerthfawr iawn i chi a fydd yn eich helpu i ddatblygu gyrfa mewn sefydliadau o bob maint, neu i sefydlu eich menter eich hun. Gyda’u cysylltiadau cryf â busnes, mae gan ein cyrsiau, sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd, a hanes cyflogaeth graddedigion ardderchog. Rydym yn cynnig cyrsiau cyffredinol mewn rheolaeth busnes a rheolaeth ac arweinyddiaeth er mwyn rhoi’r amrywiaeth ehangaf bosibl o gyfleoedd gyrfa i chi pan fyddwch yn graddio. Mae gennym hefyd raglenni arbenigol mewn meysydd busnes allweddol fel cyfrifeg a chyllid, marchnata, adnoddau dynol a systemau gwybodaeth, ynghyd â graddau sy’n gysylltiedig â diwydiannau penodol fel hamdden a thwristiaeth, chwaraeon, gwasanaethau cyhoeddus a digwyddiadau. Rydym yn cynnig cymorth helaeth i’r rheiny sydd ei angen yn ogystal â gweithgareddau 'ymestyn' i'r rheiny sydd eisiau her ychwanegol.

98% Cytunodd 98% o fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant yn Ysgol Fusnes Abertawe bod staff yn dda am esbonio pethau. ACM 2017

Pam Astudio Yma? • Mae’r dysgu a’r addysgu’n canolbwyntio ar astudiaethau achos go iawn. Byddwch yn cael cyfleoedd i wneud interniaethau, i astudio dramor ac i fynd ar leoliadau gwaith. • Mae ein holl ddarlithwyr yn ymarferwyr ac yn wybodus ynghylch ymchwil. • Mae ein campws busnes yng nghanol y ddinas a dim ond taith fer ar droed o draethau godidog Bae Abertawe. • Cewch y cyfle i ennill cymhwyster proffesiynol yn ogystal â’ch gradd. Caiff yr Ysgol Fusnes ei Achredu gan CIM, CIPD, ILM, ACCA a CILEx • Rydym yn darparu amgylchedd cefnogol. Cynigir ‘mentor’ ichi, sef myfyriwr sydd wedi’i hyfforddi i roi cymorth ichi drwy gydol eich astudiaethau. Cewch hefyd diwtor personol. • Darperir ystod eang o ddigwyddiadau diwylliannol, busnes a rheolaeth gan gyflogwyr, cyrff proffesiynol yr Ysgol a'r Brifysgol ichi gymryd rhan ynddynt. • Mae yma gyfle i astudio rhai modylau Busnes a Rheolaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. • Nid ydym yn Ysgol Fusnes arferol. Rydym yn gwneud pethau mewn ffordd wahanol

Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd

137


Cyfadran Busnes a Rheolaeth

Portffolio Ysgol Fusnes Abertawe Cyfrifeg

Mae’r rhaglen hon yn gweddu i’r rheiny a chanddynt ddiddordeb mewn cael sgiliau cyfrifeg a chyllid arbenigol. Mae hyn yn cynnwys dysgu am gyfrifo craidd ac arfer ariannol mewn perthynas â, er enghraifft, rheoli cost, adrodd ariannol corfforaethol, trethu, cyfrifeg cwmwl, archwilio a rheolaeth ariannol. Bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag ystod o dasgau cysylltiedig ag amgylchedd cyfrifeg a chyllid ac yn mwynhau datblygu datrysiadau soffistigedig i broblemau a chyfleoedd cyfrifeg. Mae’r rhaglen wedi cael ei hachredu gan y Gymdeithas Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA), felly byddwch yn cael eithriadau o gymhwyster proffesiynol pan fyddwch yn graddio.

Cod UCAS: BA N400

40

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Rheolaeth Busnes (Cyllid) Codau UCAS: MBus W3P2 BA N295 HND 422N 40

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Mae’r rhaglen Busnes a Chyllid hon yn darparu cymysgedd o sgiliau busnes eang a sgiliau cyfrifeg a chyllid arbenigol. Mae hyn yn cynnwys dysgu sgiliau busnes craidd sy’n gysylltiedig ag, er enghraifft, marchnata, adnoddau dynol, systemau gwybodaeth/ cyfrifeg cwmwl, yn ogystal â sgiliau cyfrifeg rheoli cost, adrodd ariannol a rheolaeth ariannol. Gall myfyrwyr sy’n dymuno astudio’r rhaglen hon ddod o ystod eang o gefndiroedd pwnc, ac nid dim ond busnes.

Rheolaeth Busnes

Mae hon yn rhaglen rheolaeth busnes arloesol lle mae’r addysgu wedi’i seilio ar brosiectau busnes byw 3 blynedd gydag opsiwn carlam 2 flynedd ac astudiaethau achos. Mae interniaethau a phrofiad Codau UCAS: gwaith gyda chyfle i astudio dramor yn nodweddion BA BMG1 allweddol i’r rhaglen hon. Byddwch yn gweithio gyda FdA 0HW6 busnesau ac o fewn busnesau i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau mewn meysydd busnes craidd fel marchnata, rheolaeth adnoddau dynol, busnes digidol, cyfrifeg Credyd 40 Cyfrwng a chyllid. O ganlyniad, byddwch yn cael y sgiliau Cymraeg angenrheidiol sydd eu hangen i wneud cynnydd mewn ystod o gyfleoedd gyrfaol.

138

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg, Dwyieithog

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser

Gofynion Mynediad: 88 o bwyntiau


Cyllid, Busnes a Rheolaeth

Rheolaeth Busnes (Adnoddau Dynol) Codau UCAS: BA BMH1

40

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Y Gyfraith a Busnes Cod UCAS: BA K1V2 40

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Rheolaeth Busnes (Marchnata) Codau UCAS: BA BMM1

40

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Marchnata Digidol Cod UCAS: BA DM01

40

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio i ddatblygu gallu i reoli pobl yn seiliedig ar ddealltwriaeth o sut i gasglu timau o bobl at ei gilydd sydd â’r sgiliau, agweddau a rhinweddau angenrheidiol i fodloni amcanion y sefydliad. Mae’n ffocysu ar ymagweddau strategol, beirniadol a chymhwysol at RhAD sydd yn ei dro’n cefnogi hyfywdra a chynaliadwyedd cyfundrefnol. Bydd pob myfyriwr sy’n astudio’r rhaglen hon ac yn pasio’r modylau perthnasol yn cael cymhwyster CIPD Lefel 5 ochr yn ochr â’u gradd.

Mae eich BA yn Y Gyfraith a Busnes yn agor y drws i ystod o gyfleoedd gwaith a hyfforddiant pellach cyffrous yng ngalwedigaeth y gyfraith. Bydd astudio'r Gyfraith gyda Busnes hefyd yn eich paratoi’n dda at rolau arweinyddiaeth mewn unrhyw sefydliad yn y dyfodol ac yn agor y drws i gyfleoedd gwaith ym maes busnes a rheolaeth adnoddau dynol.

Mae’r rhaglen Rheolaeth Marchnata wedi’i chynllunio i baratoi darpar farchnatwyr ar gyfer realiti’r byd gwaith. Dylai graddedigion y rhaglen BA Marchnata allu dangos gwybodaeth o'r holl swyddogaethau busnes gyda gwybodaeth ddofn o'r swyddogaeth farchnata. Caiff gwybodaeth eang o strategaeth a dealltwriaeth o heriau amgylcheddol eu datblygu ynghyd â’r gallu i ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau cysylltiedig â marchnata. Mae’r rhaglen wedi cael ei mapio yn erbyn Diploma Proffesiynol mewn Marchnata y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) gan roi’r cyfle i fyfyrwyr gael y cymhwyster CIM ochr yn ochr â’u gradd.

Caiff y rhaglen Marchnata Ddigidol ei thanategu gan elfennau craidd Rheolaeth a Marchnata Busnes ond fe’i chynlluniwyd i baratoi graddedigion ar gyfer gweithio mewn amgylchedd Marchnata Digidol. Mae hyn yn cynnwys dysgu agweddau allweddol ar ddatblygu’r profiad digidol, strategaeth, sianelau a chyfathrebu. O ganlyniad i’w strwythur, mae’r rhaglen hon yn cynnig i fyfyrwyr ystod eang o gyfleoedd gyrfaol. Yn ogystal, mae’r rhaglen wedi cael ei mapio yn erbyn Diploma Proffesiynol mewn Marchnata y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) gan roi’r cyfle i fyfyrwyr gael cymhwyster CIM ochr yn ochr â’u gradd.

Mae'r cyrsiau hyn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18.

139


Cyfadran Busnes a Rheolaeth

Twristiaeth

Digwyddiadau a Lletygarwch

Y Byd yw Ein Darlithfa Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o raglenni cyffrous mewn Rheolaeth Twristiaeth a Hamdden a fydd yn rhoi’r sgiliau cyflogadwyedd a gwasanaeth gwesteion arloesol i chi sydd eu hangen yn y farchnad fyd-eang hon sy’n ehangu’n gyflym.

140

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg, Dwyieithog

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser

Gofynion Mynediad: 88 o bwyntiau


Digwyddiadau a Lletygarwch

Mae gan ein rhaglenni ffocws cryf ar ddiwydiant, a chysylltiadau rhagorol gyda sefydliadau allweddol yn lleol ac yn rhyngwladol. Ynghyd â chynnig amrywiaeth o sgiliau iaith a diwylliannol yn ein llwybrau Twristiaeth, mae ein llwybrau Hamdden yn darparu sgiliau hyfforddi a rheoli digwyddiadau i fyfyrwyr. Mae’r holl fyfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau lletygarwch a gwasanaeth gwesteion sy’n hanfodol yn holl sectorau’r diwydiant. Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig amrywiaeth o raglenni Rheolaeth Digwyddiadau cyffrous a fydd yn rhoi’r sgiliau rheoli a chyflogadwyedd sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y diwydiant hwn sy’n ehangu’n gyflym drwy’r holl fyd. Mae gan ein graddedigion swyddi brig mewn lleoliadau digwyddiadau byd-enwog, gwestai rhyngwladol blaenllaw sy’n cynnal

digwyddiadau, gwyliau a digwyddiadau lleol a rhanbarthol, lleoliadau chwaraeon, prif ddigwyddiadau chwaraeon, canolfannau confensiynau a thimau digwyddiadau awdurdod lleol ac mae rhai eraill ohonynt yn entrepreneuriaid llwyddiannus. Mae ein holl raglenni yn cynnwys cyfnodau preswyl integredig gyda rhai o’r lleoliadau digwyddiadau a’r sefydliadau digwyddiadau mwyaf blaenllaw, yn lleol ac yn rhyngwladol, ac maent yn creu rhwydweithiau gyrfaol rhagorol i’n myfyrwyr gyda threfnwyr digwyddiadau yn y sectorau confensiynau, chwaraeon a gwyliau. Ar nifer o’n cyrsiau, bydd myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i astudio rhan o’u rhaglen drwy gyfrwng y Gymraeg a gall pob myfyriwr gyflwyno eu hasesiadau yn y Gymraeg.

Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 1af yng Nghymru am foddhad myfyrwyr mewn Twristiaeth, Cludiant a Theithio. ACM 2017

Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd

141


Cyfadran Busnes a Rheolaeth

Graddau Twristiaeth, Digwyddiadau a Lletygarwch Rheolaeth Twristiaeth Codau UCAS: MTOUR L8G2 BA 46N9 HND 238N FdA 3RX8

40

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol Cod UCAS: MTour L8G2 BA N841

40

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Trwy gydol y cyrsiau hyn, bydd myfyrwyr yn ffocysu ar ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd a gwybodaeth ddiwydiannol wrth baratoi at yrfa mewn Rheolaeth Twristiaeth. Mae’r Radd Sylfaen, HND, Gradd a Meistr Integredig i gyd yn cynnwys ystod o fodylau Twristiaeth a modylau rheolaeth tanategol i ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y diwydiant twristiaeth. Hefyd, mae’r rhaglenni’n cynnig ystod o deithiau astudio maes cyffrous o fewn y DU a thramor wedi’u cynllunio i fywiogi’r dysgu a chaniatáu i fyfyrwyr rwydweithio gydag arweinwyr o fewn sefydliadau twristiaeth. Mae interniaethau a lleoliadau twristiaeth arbenigol yn helpu i greu graddedigion nodedig sydd â’r gwasanaethau cwsmeriaid a sgiliau proffesiynol y mae’r diwydiant twristiaeth yn gofyn amdanynt.

Bydd y rhaglen hon yn paratoi myfyrwyr at yrfa reoli yn y diwydiant Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol. Cynlluniwyd y rhaglen drwy gysylltiadau agos â sefydliadau pwysig yn y diwydiant teithio a thwristiaeth ryngwladol fel y gall myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd wrth baratoi at yrfa fel rheolwr yn y sector hwn. Caiff strategaethau dysgu arloesol a ffocws rhyngddiwylliannol eu defnyddio i greu graddedigion byd-eang a chanddynt nodweddion unigryw a sgiliau allweddol y mae’r diwydiant yn galw amdanynt. Mae’n cynnig cyfleoedd i fynd ar interniaethau rhyngwladol sy'n rhoi ichi brofiad ymarferol a galwedigaethol yn y diwydiant teithio a thwristiaeth.

142

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg, Dwyieithog

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser

Gofynion Mynediad: 88 o bwyntiau


Digwyddiadau a Lletygarwch

Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Codau UCAS: BA N820 HND 3T0N

40

Rhoddir i fyfyrwyr yr hyblygrwydd i ymgymryd â nifer o leoliadau gyda gwahanol drefnwyr digwyddiadau er mwyn cwblhau eu hinterniaethau. Mae hyn yn eich galluogi i gael ystod o brofiadau gwerthfawr mewn gwahanol fathau o ddigwyddiad ac mewn gwahanol rolau i wella eich sgiliau cyflogadwyedd ac i’ch helpu i wneud penderfyniadau anodd ynghylch eich gyrfa.

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Rheolaeth Hamdden Cod UCAS: BA N872

40

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Mae’r rhaglen gyffrous hon yn paratoi myfyrwyr at yrfa yn y diwydiant rheolaeth digwyddiadau, sy’n ehangu'n gyflym. Bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth fanwl o sectorau rheolaeth digwyddiadau arbenigol fel rheolaeth confensiynau a rheolaeth gwyliau a digwyddiadau chwaraeon.

Mae hwn yn gwrs delfrydol i’r rheiny ohonoch sy’n ymddiddori mewn amrywiaeth o sectorau hamdden ac yn dymuno datblygu amrywiaeth eang o sgiliau diwydiant-seiliedig yn hytrach nag arbenigo. Mae’r rhaglen yn cynnwys modylau hamdden-benodol fel Marchnata Hamdden a Rheolaeth Atyniadau Hamdden yn ogystal â darparu blas cryf ar y diwydiannau Twristiaeth, Teithio, Lletygarwch a Digwyddiadau. Nod y rhaglen hon yw darparu llwybr astudio hyblyg sy'n eich galluogi i ddatblygu gwybodaeth helaeth o faterion a chysyniadau rheolaeth hamdden gan ennill y sgiliau y mae galw amdanynt gan y diwydiant. Mae ffocws cryf ar Wasanaethau Cwsmeriaid drwy gydol y rhaglen a chaiff myfyrwyr eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd rheolaeth yn y dyfodol trwy fodylau Rheolaeth penodol yn ogystal â datblygu cyflogadwyedd proffesiynol a sgiliau diwydiannol trwy Leoliadau ac Interniaethau. Mae strategaethau dysgu ac addysgu arloesol yn galluogi myfyrwyr i archwilio i ddamcaniaethau allweddol a materion sy’n effeithio ar y sector hamdden ac mae teithiau astudio maes yn y DU a thramor yn bywiogi’r dysgu.

Mae'r cyrsiau hyn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18.

143


Cyfadran Busnes a Rheolaeth

Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol

Mae’r rhaglen newydd gyffrous hon wedi codi drwy bartneriaeth agos rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Gwestai Marriott, sy'n un o frandiau gwesty enwoca'r byd.

144

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg, Dwyieithog

Opsiynau Astudio: Llawn amser,

Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau


Digwyddiadau a Lletygarwch

Mae’r cynllun ar y cyd unigryw hwn yn cyfuno hyfforddiant galwedigaethol yng Ngwesty’r Marriott gydag astudiaethau academaidd ar gampws Y Drindod Dewi Sant. Mae’r rhaglen yn cynnwys dwy flynedd o astudiaethau llawn amser. Caiff pob blwyddyn ei rhannu’n dri bloc o bedwar mis, a threulir dau o'r rhain yn astudio ar Gampws Busnes Abertawe gyda'r bloc sy'n weddill ar leoliad yng Ngwesty'r Marriott. Felly, bydd myfyrwyr yn treulio cyfanswm o wyth mis (dau floc pedwar mis) yng Ngwesty’r Marriott, yn gweithio mewn amrywiaeth o adrannau. Bydd lleoliad blwyddyn gyntaf y radd yn canolbwyntio'n fwy ar yr ochr weithredol, a bydd yr ail flwyddyn yn cyfuno dyletswyddau gweithredol ar lefel uwch gyda rôl yng ngweinyddiaeth a rheolaeth y gwesty. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau gwasanaethau gwestai estynedig a dealltwriaeth feirniadol o’r gofynion gweithredol sy’n gysylltiedig â gwahanol adrannau yn y gwesty. Mae mwy o alw am raddedigion sy’n meddu ar brofiad ymarferol, gwell sgiliau seiliedig ar waith, a sgiliau rheoli effeithiol. Mae’r rhaglen gydweithredol hon wedi’i chynllunio i gynhyrchu graddedigion sydd nid yn unig yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o'r ddamcaniaeth academaidd sy'n sail i'r diwydiant, ond sydd hefyd wedi cael y cyfle i gymhwyso'r ddamcaniaeth hon i'w harfer yn ystod lleoliadau yng Ngwesty'r Marriott. Mae grŵp y Marriott yn rhoi pwyslais ar hyfforddiant o’r radd flaenaf a lles staff, ac mae'n darparu amgylchedd dysgu rhagorol ar gyfer ein myfyrwyr. O ganlyniad i strwythurau adrannol y gwesty, caiff myfyrwyr brofiad o wahanol feysydd, gan gynnwys bwyd a diod, gweinyddiaeth gwesty a gweithrediadau gwasanaethau gwesteion. Bydd enwau myfyrwyr sy’n cyflawni’n uchel yn cael eu cynnig ar gyfer rhaglen fawreddog Hyfforddi Rheolwyr Graddedig "Voyager" y Marriott.

40

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Ar Gampws Busnes Abertawe: Blwyddyn 1 • Lletygarwch a Gwasanaethau Gwesteion • Hanfodion Marchnata • Sgiliau Busnes ar gyfer y Diwydiant Gwestai Rhyngwladol • Adnoddau Personél a Datblygu • Rheolaeth Ariannol • Ymwybyddiaeth o Ieithoedd Tramor ac Ymwybyddiaeth Ryng-ddiwylliannol Blwyddyn 2 • Rheolaeth ac Ymddygiad Cyfundrefnol • Lletygarwch Cynaliadwy a Rheolaeth Twristiaeth • Entrepreneuriaeth • Ymgynghoriaeth Gyfundrefnol • Themâu cyfoes yn y Sector Gwestai a Lletygarwch • Rheolaeth Twristiaeth a Chyrchfannau Byd-eang Yng Ngwesty’r Marriott: Blwyddyn 1 • Lleoliad: Gweithrediadau Bwyd a Diod • Lleoliad: Gweinyddiaeth Gwestai a Gweithrediadau Swyddfa Flaen • Lleoliad: Gweithrediadau Cyfleusterau Gwestai Blwyddyn 2 • Lleoliad: Gweithrediadau Bwyd a Diod • Lleoliad: Gweithrediadau Gwasanaethau Gwesteion • Lleoliad: Gweinyddiaeth Gwestai

Am fwy o wybodaeth am Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg gweler tudalen 18.

Cod UCAS y BA: R3H2

145


Cyfadran Busnes a Rheolaeth

Portffolio Nyrsio, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

146


Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae’r portffolio o raglenni iechyd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gweithio ym meysydd Nyrsio ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac yn cymhwyso myfyrwyr i weithio gyda phlant ac oedolion ifanc. Mae lleoliadau gwaith yn nodweddion annatod o’r holl raddau ac yn arwain myfyrwyr ymlaen at swyddi. Mae’r rhaglen hon o gyrsiau yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr astudio meysydd pwnc sy'n berthnasol i'w dewis yrfaoedd. Mae’r gwahanol raglenni astudio yn rhoi i fyfyrwyr y wybodaeth a’r sgiliau priodol i fynd i weithio yn y sector iechyd a’r gweithlu perthynol. Mae’r rhaglenni’n cynnwys cysylltiadau cryf gyda’r sector iechyd a gofal cymdeithasol ac yn cynnwys ystod o leoliadau ac interniaethau yn y diwydiant iechyd gan roi profiad uniongyrchol i fyfyrwyr. Mae ystod o raglenni cysylltiedig yn archwilio gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae’r rhaglenni hyn yn rhoi’r cyfle ichi ddatblygu eich gwybodaeth broffesiynol, dealltwriaeth, gallu a sgiliau allweddol yn y sector gofal plant a’r sector perthynol. Ymhlith nodweddion eithriadol ein rhaglenni mae’r cyfathrebu rhagorol sy'n bodoli rhwng y myfyrwyr a'r darlithwyr a'r gallu i bontio cysylltiadau rhwng cysyniadau haniaethol ac arfer drwy brofiadau proffesiynol. Mae

gennym enw da am ein hymagwedd myfyriwr-ganolog ac rydym yn sicrhau ein bod ar gael i gefnogi ein myfyrwyr. Mae ein hymrwymiad i hyrwyddo sgiliau galwadigaethol yn sicrhau y cewch eich paratoi’n dda at waith yn y gweithlu gofal plant, GIG, gwasanaethau cymdeithasol a'r sector gwirfoddol a phreifat a'r trydydd sector. Hefyd caiff myfyrwyr y cyfle i astudio rhan o’u rhaglen drwy gyfrwng y Gymraeg a gall pob myfyriwr gyflwyno eu hasesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg.

93%

Cytunodd 93% o fyfyrwyr Ysgol Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored Abertawe eu bod wedi cael y cyfleoedd iawn i weithio gyda myfyrwyr eraill yn rhan o’u cwrs. ACM 2017

Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd

147


Cyfadran Busnes a Rheolaeth

Portffolio Nyrsio, Iechyd a Gofal Cymdeithasol Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae’r rhaglen hon yn rhoi i fyfyrwyr y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddilyn cyrsiau proffesiynol ychwanegol neu gael gwaith mewn lleoliadau gofal iechyd, llywodraeth, dielw, gwerthiannau neu ymchwil. Yn erbyn y cefndir hwn, un o’r prif nodau yw bodloni anghenion cyflogwyr drwy ddarparu graddedigion sy’n barod i weithio ar lefel ganolradd ac, mewn rhai achosion, rolau rheoli uwch yn y sector cyhoeddus. Nod y cwrs yw sicrhau bod graddedigion yn cael y lefel o ddatblygiad academaidd, personol a phroffesiynol sydd eu hangen arnynt i fod yn weithwyr yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.

Codau UCAS: BSc L510 HND 015L

Mae ein rhaglenni’n herio’r rheiny sy’n newydd i’r maes astudio hwn, gan beri i fyfyrwyr adfyfyrio ar eu rhinweddau personol ac ar beth sydd ganddyn nhw i’w gynnig i arferion iechyd a gofal iechyd. Mae gan ein cyrsiau bwyslais galwedigaethol cryf a modwl Diwydiant Iechyd sy’n cynnig profiad gwaith.

Rheolaeth Iechyd Codau UCAS: BSc 07B3 HND 3LN4

Cynlluniwyd y rhaglen i weddu i’r unigolion hynny a chanddynt brofiad blaenorol o reoli ac sy’n dymuno cwblhau gradd baglor tair blynedd mewn maes rheolaeth iechyd. Hefyd mae’r rhaglen hon ar gyfer unigolion sydd ar hyn o bryd yn gweithio o fewn amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol sy'n dymuno symud ymlaen yn eu gyrfa i rôl rheoli. Mae rheolaeth iechyd yn cynnig profiad galwedigaethol sy’n heriol yn academaidd ac yn ymgorffori dulliau addysgu ac asesu arloesol. Mae profiad gwaith yn y sector cyhoeddus neu wirfoddol yn rhoi boddhad deallusol ichi a hefyd yn darparu sail gadarn i ddatblygu eich gyrfa yn y dyfodol.

148

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser

Gofynion Mynediad: 80 o bwyntiau


Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Iechyd a Gofal Plant a Phobl Ifanc Codau UCAS: BSc 3H6X FdA 4T0H

Mae’r radd hon yn gymhwyster galwedigaethol a hyblyg tu hwnt. Fe’i chynlluniwyd i gynnig cyfuniad o ddysgu academaidd a seiliedig ar waith i fyfyrwyr. Mae’n rhaid i fyfyrwyr feddu ar naill ai swydd bresennol a/neu brofiad gwaith neu fod yn barod i ddod o hyd i leoliadau gwaith perthnasol (naill ai'n gyflogedig neu'n wirfoddol). Gall cwblhau’r radd arwain at: rolau rheoli o fewn gofal plant neu waith ieuenctid; statws ymarferydd dosbarth meithrin a blynyddoedd cynnar; rolau swyddog cyswllt cartref/ysgol; a llwybrau i gymwysterau eraill. Rhaid i fyfyrwyr ymgymryd â 300 awr o brofiad gwaith y flwyddyn.

149


Cyfadran Busnes a Rheolaeth

Gwasanaethau Cyhoeddus

150

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg, Dwyieithog

Opsiynau Astudio: Llawn amser

Gofynion Mynediad: 90 o bwyntiau


Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae astudio BA Gwasanaethau Cyhoeddus neu HND Gwasanaethau Cyhoeddus yn rhoi sgiliau a gwybodaeth gwerthfawr iawn i chi a fydd yn eich helpu i ddatblygu gyrfa yn y sector cyhoeddus neu mewn sefydliadau preifat neu drydydd sector.

Gyda’u cysylltiadau cryf â gwasanaethau cyhoeddus lleol, mae gan ein cyrsiau, sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd, hanes cyflogaeth graddedigion rhagorol. Mae’r rhaglen gwasanaethau cyhoeddus yn rhoi’r sgiliau arbenigol i chi sydd eu hangen ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd gyrfaol pan fyddwch yn graddio. Cafodd y cwrs ei gynllunio, ac mae’n cael ei ddiweddaru, i adlewyrchu’r sector cyhoeddus cyfredol a’i rôl mewn cymdeithas. Mae modd bellach astudio’r Gyfraith gyda Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae modd hefyd dewis astudio modwl drwy gyfrwng y Gymraeg o fewn y Gyfadran. Yn ddiweddar, mae sawl myfyriwr wedi dewis astudio modwl Datblygiad Personol a Phroffesiynol Cymhwysol drwy’r Gymraeg.

20

Cod UCAS y BA: L492

Credyd Cyfrwng Cymraeg

*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.

Cod UCAS yr HND: 064L

151


Cyfadran Busnes a Rheolaeth

Plismona Mae’r radd Plismona yn rhoi gwybodaeth alwedigaethol i fyfyrwyr sy’n eu paratoi ar gyfer gyrfa yn y Gwasanaeth Heddlu modern mewn rolau plismona a rhai cynorthwyol.

152

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg

Opsiynau Astudio: Llawn amser

Gofynion Mynediad: 90 o bwyntiau


Gwasanaethau Cyhoeddus

Gwneud y CKP a’r METPOL oedd y rheswm y cefais fy nerbyn yn heddwas gan Heddlu De Cymru. Ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig fu’r profiad i mi.

Tom Key

Un o raddedigion 2015, Heddwas, Heddlu De Cymru

Trwy astudio ar gyfer y radd hon gall myfyrwyr gael lefel o wybodaeth a dealltwriaeth blismona y mae ei disgwyl gan ddarpar heddweision, gweithwyr cynorthwyol a gweinyddol y gwasanaeth heddlu sydd ohoni. Mae pob pwnc a astudir ar y rhaglen yn berthnasol i fyd gwaith y gwasanaeth heddlu cyfoes. Mae’r sgiliau a ddatblygir i gyflawni llwyddiant academaidd yn adlewyrchu'r rheiny y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt ac y mae eu hangen i fynd ymlaen i astudio ar lefelau uwch. Gweithia’r Brifysgol yn agos gyda Heddlu De Cymru ac mae nifer o gynlluniau myfyrwyr wedi’u datblygu sy’n rhoi golwg werthfawr i fyfyrwyr ar sut beth yw gweithio mewn amrywiaeth o rolau yn yr heddlu. Mae cyflogwyr gwasanaethau cyhoeddus, heddweision arbenigol ac uwch heddweision ynghyd ag asiantaethau gwasanaethau cyhoeddus eraill yn cymryd rhan wrth gyflwyno'r rhaglen, ac mae hyn yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ryngweithio gyda rhwydweithiau allanol a gweld perthnasedd eu hastudiaethau.

hwn, ynghyd â modwl Plismona Gweithredol newydd a’r cyfleoedd gwirfoddoli y soniwyd amdanynt ynghynt wedi arwain at weld nifer sylweddol o fyfyrwyr yn cwblhau proses dethol yr heddlu yn llwyddiannus. Rhagwelir y bydd y cymhwyster newydd hwn yn gwella ymhellach ar y tueddiad trawiadol hwn. Mae graddedigion yn ein gadael â gwybodaeth bynciol sylweddol a'r sgiliau diweddaraf ar gyfer plismona, a rolau cynorthwyol, yn yr oes sydd ohoni. Yn ogystal â hyn, mae’r cwrs yn darparu sylfaen i’r rheiny sy’n dymuno arbenigo mewn gwahanol agweddau ar blismona, fel ymchwilio, gwyddor fforensig, dadansoddi trosedd ac ymatebion i derfysgaeth. O ganlyniad i ryngweithio’r rhaglen gyda Heddlu De Cymru, a’r cyfleoedd i integreiddio, caiff cyflogadwyedd graddedigion ei bwysleisio ymhellach o fewn gwasanaeth yr heddlu, ffaith sy'n tanlinellu gwerth y rhaglen a’i chynnwys.

Mae rhaglen Plismona’r Brifysgol wedi ymgorffori’r Dystysgrif mewn Gwybodaeth am Blismona (CKP) ac mae’r cymhwyster

Cod UCAS y BSc: 1K46

153


Cyfadran Busnes a Rheolaeth

Llwybrau’r Gyfraith, Plismona a Throseddeg Mae’r tîm sy’n addysgu llwybrau’r Gyfraith, Plismona a Throseddeg wedi sefydlu cysylltiadau agos iawn gyda nifer o sefydliadau proffesiynol ym meysydd y sector cyhoeddus a gwasanaethau cyfreithiol. Mae’r cwrs yn gweithio’n agos gyda sefydliadau sector Cyhoeddus eraill, y mae ganddynt oll adrannau cyfreithiol, a byddai’r cyfuniad o ddealltwriaeth a gwybodaeth gyfreithiol a sector cyhoeddus yn cael ei ystyried yn fantais i’r cyfryw swyddi. Mae’r tîm wedi datblygu perthnasoedd agos gyda chwmnïau cyfreithiol lleol ac mae’n datblygu cyfleoedd profiad gwaith a fydd yn fanteisiol i’r myfyrwyr sy’n dewis mynd ymlaen i astudiaethau cyfreithiol pellach.

Bydd myfyrwyr ar y llwybrau hyn yn elwa o’r ffaith bod cynnwys y cwrs wedi’i ddatblygu mewn ymgynghoriad â gweithwyr proffesiynol ac argaeledd cyfleoedd profiad gwaith unigryw. Gan weithio’n agos gyda Heddlu De Cymru, mae’r tîm wedi datblygu rhaglen o waith gwirfoddol er mwyn i'r myfyrwyr gael profiad a mewnwelediad gwerthfawr i'r alwedigaeth. Mae’r opsiwn Plismona Gweithredol yn ymgorffori’r Dystysgrif Gwybodaeth am Blismona (CKP). Mae nifer o Heddluoedd wedi gwneud y CKP yn ofyniad hanfodol nes bydd y newidiadau i ofynion mynediad gradd yn dod i rym, felly mae cael y dystysgrif hon yn rhoi ein myfyrwyr mewn sefyllfa fwy manteisiol o ran cael gwaith yn y maes hwn. Mae’r cwrs yn rhoi cyfle da i fyfyrwyr a chanddynt ddiddordeb yn y llwybr carlam i’r Heddlu.

154

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg

Mae’r portffolio Troseddeg yn darparu addysg broffesiynol i baratoi graddedigion ar gyfer gyrfa yn yr alwedigaeth cyfiawnder troseddol. Mae’r rhaglen yn bodloni anghenion pobl ifanc sy’n ceisio cael swydd yn y system cyfiawnder troseddol fel heddweision, i ddod yn ymarferwyr cyfreithiol, ymuno â’r gwasanaeth prawf neu dderbyn rolau gweinyddol a rolau sector cyhoeddus eraill.

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser

Gofynion Mynediad: 80 o bwyntiau


Y Gyfraith a Throseddeg

Y Gyfraith a Phlismona Cod UCAS: BA 972H

Cynlluniwyd y rhaglen hon i roi i fyfyrwyr sydd efallai eisiau gyrfa yng ngwasanaeth yr heddlu, y sgiliau sydd eu hangen i wneud hynny. Fe’i cynlluniwyd gan ddisgwyl y ‘Radd Plismona’ arfaethedig sy’n cael ei hystyried gan y Coleg Plismona ar hyn o bryd, ac a fydd, os caiff ei chyflwyno, yn llunio maen prawf hanfodol i’r rheiny sy’n dymuno gwneud cais am swydd Heddwas. Hefyd, bydd y cymhwyster yn rhoi i fyfyrwyr y Dystysgrif mewn Gwybodaeth am Blismona (CKP). Ochr yn ochr â hyn, bydd y cwrs yn cwmpasu sylfaeni’r Gyfraith sy’n cynnwys: Cyfraith Droseddol, Contractau, Camwedd, Tir a’r UE. Bydd myfyrwyr sy’n dymuno mynd yn bellach gyda’u hastudiaethau proffesiynol cyfreithiol yn cael y cyfle naill ai i astudio ymhellach gyda’r Sefydliad Siartredig Swyddogion Gweithredol Cyfreithiol CILEX i fod yn Gyfreithwyr CILEX neu i gael eithriadau ar gyfer y Diploma i Raddedigion yn y Gyfraith (GDL).

Y Gyfraith a Throseddeg Cod UCAS: BA 861G

Mae’r cwrs yn cyfuno astudiaethau Troseddeg, lle bydd y myfyriwr yn edrych ar drosedd, pam bod pobl yn troseddu, beth sy’n atal pobl rhag troseddu, plismona trosedd a’r system gosbi gyfreithiol, gyda sylfaen mewn egwyddorion cyfreithiol fel Cyfraith Contractau, Camweddu Cyhoeddus, Eiddo a Throseddol. Mae’r cwrs yn cynnig i fyfyrwyr y cyfle i fynd i amrywiaeth o alwedigaethau gwahanol yn y system cyfiawnder cyfreithiol. Er enghraifft, mae’r opsiwn plismona gweithredol yn ymgorffori’r Dystysgrif Gwybodaeth am Blismona (CKP). Fe fydd yn caniatáu i fyfyrwyr sy’n dymuno mynd yn bellach gyda’u hastudiaethau proffesiynol cyfreithiol gael y cyfle i naill ai astudio ymhellach gyda’r Sefydliad Siartredig Swyddogion Gweithredol Cyfreithiol CILEX i fod yn Gyfreithwyr CILEX neu i gael eithriadau ar gyfer y Diploma i Raddedigion yn y Gyfraith (GDL).

Plismona a Throseddeg Cod UCAS: BSc 53C7

Bydd y rhaglen hon yn darparu gwybodaeth fanwl o ystod eang o agweddau ar Blismona ynghyd ag astudio Troseddeg lle bydd y myfyriwr yn edrych ar drosedd, pam bod pobl yn troseddu, beth sy’n atal pobl rhag troseddu, plismona trosedd a’r system gosbi gyfreithiol. Cynlluniwyd y rhaglen astudio hon i roi i fyfyrwyr sy’n dymuno mynd i mewn i’r heddlu, y sgiliau angenrheidiol ac fe’i cynlluniwyd gan ddisgwyl y ‘Radd Plismona’ arfaethedig sy’n cael ei hystyried ar hyn o bryd gan y Coleg Plismona a fydd, os caiff ei chyflwyno, yn llunio maen prawf hanfodol ar gyfer y rheiny sy’n dymuno gwneud cais am swydd Heddwas. Hefyd, bydd y cymhwyster yn rhoi i fyfyrwyr y Dystysgrif mewn Gwybodaeth am Blismona (CKP).

155


Cyfadran Busnes a Rheolaeth

Portffolio'r

Gyfraith a CILEx Rydym wedi bod yn gweithio gyda chwmnïau cyfreithiol lleol, darparwyr gwasanaethau cyfreithiol a busnesau i ddatblygu graddau a chyrsiau proffesiynol newydd i fodloni galw gwasanaeth cyfreithiol sy'n newid. Mae Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 wedi newid y ffordd y gall pobl gael eu derbyn i fyd y gyfraith ac rydym yn cynnig cwrs sy'n cyd-fynd â'r newid hwn a'r galw am lwybrau amgen. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda busnesau a chwmnïau cyfrifeg lleol sydd wedi lleisio diddordeb mewn myfyrwyr a chanddynt ddealltwriaeth eang o fusnes, cyllid a’r gyfraith. Eto, rydym wedi cynllunio'r cyrsiau i fodloni anghenion yr arfer proffesiynol.

156

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg

Opsiynau Astudio: Llawn amser

Gofynion Mynediad: 80 o bwyntiau


Y Gyfraith

Y Gyfraith a Busnes Cod UCAS: BA K1V2

20

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Y Gyfraith a Gwasanaethau Cyhoeddus Cod UCAS: BA L2J5

20

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Y Gyfraith ac Arfer CILEx Saesneg yn unig

Mae eich BA yn y Gyfraith a Busnes yn agor y drws i ystod o gyfleoedd gwaith a hyfforddiant pellach cyffrous yng ngalwedigaeth y gyfraith. Bydd astudio'r Gyfraith gyda Busnes hefyd yn eich paratoi’n dda at rolau arweinyddiaeth yn y dyfodol mewn unrhyw sefydliad ac yn agor y drws i gyfleoedd gwaith ym maes busnes a rheolaeth adnoddau dynol.

Mae rhaglen BA y Gyfraith a Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnig i fyfyrwyr y cyfle unigryw i ystyried y strwythurau a’r goblygiadau cyfreithiol a wynebir gan sefydliadau cyfoes ac i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth a rheolaeth strategol yng nghyd-destun gwasanaethau cyhoeddus. Mae cyfuno'r Gyfraith a Gwasanaethau Cyhoeddus yn gyfle unigryw i astudio sylfeini'r Gyfraith a datblygu rhagor o wybodaeth am ddulliau gweithio a rheoli'r Sector Cyhoeddus. Mae gradd y Gyfraith a Gwasanaethau Cyhoeddus yn cwmpasu meysydd sy'n bwysig i'r Heddlu, yn arbennig rheoli adnoddau, sy'n hynod o bwysig yn yr hinsawdd economaidd bresennol. Mae’r Drindod Dewi Sant yn falch iawn ei bod wedi ei hachredu’n ddarparwr dysgu CILEx ac yn gallu cynnig nifer o gyrsiau arfer cyfreithiol; Lefel 3 a 6 yn y Gyfraith ac Arfer a’r Diploma yn y Gyfraith ac Arfer Cynllun Carlam i Raddedigion. Rydym yn cynnig y rhain yn rhan amser gyda’r nosau. Rydym wedi gallu sicrhau eithriadau ar gyfer ein myfyrwyr ar gyfer cyrsiau lefel 3 a lefel 6. Mae cyfreithwyr sy'n Weithredwyr Cyfreithiol Siartredig yn gynyddol cael eu trin yn yr un ffordd â chyfreithwyr, a gallant nawr ddod yn farnwyr, crwneriaid, eiriolwyr a phartneriaid mewn cwmnïau cyfreithiol.

157


Cyfadran Busnes a Rheolaeth

Portffolio

Rheolaeth Chwaraeon Cyfres o gyrsiau sy’n canolbwyntio ar reolaeth chwaraeon, hamdden a chyfleusterau stadiwm, chwaraeon dwr a digwyddiadau yw ein portffolio rheolaeth chwaraeon.

158

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg, Dwyieithog

Opsiynau Astudio: Llawn amser

Gofynion Mynediad: 80-96 o bwyntiau


Busnes a Rheolaeth Chwaraeon

Mae chwaraeon yn prysur ddod yn un o brif sectorau diwydiannol y byd a chanddo ddarpariaeth amrywiol mewn lleoliadau cymunedol drwy chwaraeon elît a phroffesiynol. Nod y rhaglenni rheolaeth chwaraeon yw paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd rheoli chwaraeon a hamdden y dyfodol yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol traddodiadol ynghyd â'r sectorau chwaraeon, iechyd a ffitrwydd preifat masnachol eu naws sy'n datblygu'n gyflym.

Mae’r twf hwn yn caniatáu i raddedigion newydd ddatblygu gyrfa o fewn y sefydliadau rhanddeiliaid cefnogol sy’n cefnogi’r twf parhaus hwn. Mae’r cyfleoedd cyflogaeth yn amrywio o weithio fel arweinwyr tîm, rheolwyr, cyfarwyddwyr, marchnatwyr chwaraeon, hyfforddwyr a rheolwyr academi yn ogystal â rolau profiad cwsmeriaid. Hefyd, bydd rhai graddedigion yn mynd ymlaen i astudio ar lefel ôl-raddedig neu i addysgu, mentora neu hyfforddi ar lwyfan rhyngwladol.

Bydd myfyrwyr yn elwa o astudio mewn ardal sy’n llawn treftadaeth chwaraeon hynod lwyddiannus, gyda nifer o glybiau chwaraeon proffesiynol a masnachfraint yn chwarae ym mhrif gystadlaethau’r byd. O ganlyniad i fuddsoddi sylweddol mewn chwaraeon cymunedol a phreifat, mae isadeiledd chwaraeon modern yn ymestyn ac yn datblygu'n gyflym, hefyd.

Mae’r myfyrwyr yn gwneud defnydd llawn o’r ganolfan LC2 gyflawn o offer sydd yn Abertawe ac maent yn ymweld yn rheolaidd â Stadiwm Liberty, gan ddatblygu eu sgiliau ymarferol mewn hyfforddi chwaraeon ochr yn ochr â modylau busnes a rheolaeth allweddol i alluogi dilyniant gyrfaol.

Bellach, mae’r byd chwaraeon ac adloniant yn un o’r prif ddiwydiannau twf gyda masnachfreintiau, cwmnïau sector preifat a thimau chwaraeon proffesiynol yn gyrru’r twf drwy gynnydd mewn nawdd, refeniw’r cyfryngau a sail cefnogwyr byd-eang.

Mae gan yr holl staff brofiad cyfredol neu ddiweddar o reolaeth chwaraeon, datblygu chwaraeon a hyfforddi. Rheolaeth Chwaraeon Dŵr yw’r rhaglen fwyaf newydd ac mae'n unigryw yng Nghymru a de orllewin Lloegr.

Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd

159


Cyfadran Busnes a Rheolaeth

Portffolio Rheolaeth Chwaraeon Rheolaeth Chwaraeon Codau UCAS: BA N871 HND 178N FdA 5J1A

40

Ffocws cyffredinol y llwybr hwn yw darparu rhaglen hyblyg o astudiaeth sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu gwybodaeth helaeth o faterion a chysyniadau rheolaeth chwaraeon o fewn cyd-destun yr amgylchedd diwydiant chwaraeon ehangach. Y nod yw cynhyrchu graddedigion a chanddynt y sgiliau a’r galluoedd perthnasol i’w galluogi i gyfrannu’n effeithiol at sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol y diwydiant chwaraeon, iechyd a ffitrwydd.

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Rheolaeth Chwaraeon Rhyngwladol Cod UCAS: BA 139C

40

Rheolaeth Cyfleusterau Stadiwm a Chwaraeon 40

160

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Bydd y BA Rheolaeth Chwaraeon Rhyngwladol yn rhoi i raddedigion y cyfle i ddilyn gyrfa broffesiynol yn y diwydiant chwaraeon byd-eang. Bydd myfyrwyr yn cael dealltwriaeth o ddylanwadau byd-eang ar chwaraeon a fydd hefyd yn cynnwys heriau o ran diwylliant ac iaith i ddynion a merched chwaraeon a sefydliadau byd-eang. Hefyd, bydd Lleoliad Diwydiannol Rhyngwladol yn caniatáu i fyfyrwyr brofi manteision gweithio dramor neu i sefydliad byd-eang yn y diwydiant chwaraeon ac adloniant.

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Cod UCAS: BA 229A

Mae’r rhaglen hon yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiannau chwaraeon a hamdden. Mae darpariaeth chwaraeon a hamdden yn prysur dod yn un o’r sectorau diwydiant byd-eang allweddol ac mae’n amlwg yn y rhan fwyaf o wledydd o lefelau cymunedol i chwaraeon elît a phroffesiynol.

Bydd y BA Rheolaeth Cyfleusterau Stadiwm a Chwaraeon yn rhoi i raddedigion y cyfle i ddilyn gyrfa broffesiynol yn y diwydiant cyfleusterau chwaraeon ac adloniant bydeang. Mae’r diwydiant yn tyfu ar raddfa enfawr ac mae stadia a chyfleusterau chwaraeon newydd yn cael eu hadeiladu ar draws y byd i gefnogi disgwyliadau uwch defnyddwyr a safon darparu’r sector preifat.

Iaith: Saesneg, Dwyieithog

Opsiynau Astudio: Llawn amser

Gofynion Mynediad: 80-96 o bwyntiau


Busnes a Rheolaeth Chwaraeon

*Mae'r cyrsiau hyn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18.

Rheolaeth Chwaraeon Dwr Cod UCAS: BA 347L

Ffocws y rhaglen yw darparu i fyfyrwyr y profiad ymarferol a’r cymwysterau sydd eu hangen i weithio o fewn y diwydiant chwaraeon dŵr. Mae Abertawe yn lleoliad perffaith ar gyfer datblygu sgiliau mewn ystod o chwaraeon dŵr, gyda thraeth bendigedig pum milltir Bae Abertawe yn cynnig amgylchedd saff ac amrywiol ar gyfer chwaraeon gwynt fel barcudfyrddio a bwrddhwylio. Mae gan Benrhyn Gŵyr godidog draethau’n wynebu pob cyfeiriad sy’n golygu y gallwch fynd ar y dŵr beth bynnag fo cyfeiriad y gwynt a maint ymchwydd y môr. Os ydych chi’n uchelgeisiol, yn llawn cymhelliant, yn mwynhau’r awyr agored, yn mwynhau addysgu a gweithio gydag eraill ac nid oes arnoch eisiau swydd ‘9 tan 5’ arferol pan fyddwch yn graddio, dyma’r cwrs i chi. 40

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg, Dwyieithog

Opsiynau Astudio: Llawn amser

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Gofynion Mynediad: 80-96 o bwyntiau

161


Coleg Celf Abertawe

Celf a Dylunio Abertawe

Mae Abertawe yn lle gwych i fyw ac astudio: mae'n ddigon mawr i fod â rhywbeth i bawb; ond yn ddigon bach i fod yn gartrefol. Mae Coleg Celf Abertawe wedi ei leoli yn ardal gelfyddydol fywiog y ddinas.

ColegCelfAbertawe SwanseaCollegeofArtUWTSD Celf a Dylunio PCYDDS

162

Mae Coleg Celf Abertawe, coleg celf hynaf ac uchaf ei barch Cymru, yn rhan o'r traddodiad gwych hwn. Ers iddo agor ei ddrysau am y tro cyntaf y 1853 bu’r Coleg ar reng flaen datblygiadau mewn addysg gelf, dylunio a chyfryngau yn y DU. Am yn agos i 165 o flynyddoedd, mae Coleg Celf Abertawe wedi cymryd ysbrydoliaeth o ddau fyd, dinas fodern ar yr un ochr a harddwch garw Penrhyn Gŵyr ar y llall. Y cymysgedd hylif a deinamig hwn o’r ddau sydd wedi bywiogi Coleg Celf Abertawe i fod yn un o brif golegau celf y DU. Trwy gydol ein hanes rydym wedi cyfuno cysylltiadau â diwydiant gyda byd yr oriel. Mae ein cyrsiau yn mwynhau perthnasoedd gwaith cryf gyda brandiau mwyaf y DU a’r byd a chaiff prosiectau byw eu cefnogi'n rheolaidd gan gwmnïau rhyngwladol a lleol. Mae ein cysylltiadau gyda’r diwydiant ffilm yn Ne Cymru yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael profiad gwaith gwerthfawr a lleoliadau ar gynyrchiadau teledu a ffilm mawr. Fel y byddech yn disgwyl, mae’r Coleg hefyd yn gweithio’n agos iawn gyda nifer o orielau sefydledig a newydd. Mae hyn yn darparu cyfleoedd i’n myfyrwyr ymgymryd â lleoliadau mewn orielau yn ogystal â churadu arddangosfeydd o’u gwaith eu hunain.


Celf a Dylunio

90%

Yr ochr arall i hyn yw bod y Coleg hefyd yn croesawu arddangosiadau teithiol mawr fel Gwobrau Darlunio’r Byd y Gymdeithas Darlunwyr. Un o brif nodweddion profiad myfyrwyr yn Abertawe yw’r cyfle a roddir iddynt gael profiad rhyngwladol drwy dreulio semester dramor yn un o'n prifysgolion partner yng Ngogledd America, neu astudio dramor gyda rhaglen gyfeillio Erasmus sydd ar hyn o bryd â phrifysgolion yn Norwy, Barcelona a'r Ffindir yn cymryd rhan. I’r rheiny nad ydynt yn dymuno treulio amser estynedig dramor, mae yna gyfleoedd i fynd ar ymweliadau byrrach naill ai ar daith gyfnewid neu un o'r teithiau rhyngwladol rheolaidd a redir gan dimau cwrs. Er ein bod yn rhoi pwys mawr ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd rydym hefyd yn cydnabod bod addysg gelf a dylunio yn daith o hunanddarganfyddiad. Rydym yn credu’n gryf mewn rhoi i’n myfyrwyr amser a lle i archwilio a dod o hyd i’w cyfeiriad eu hunain ac mae’n wirioneddol anhygoel beth sy’n esblygu.

Cytunodd 90% o fyfyrwyr Celf a Dylunio’r Drindod Dewi Sant bod staff yn dda am esbonio pethau. ACM 2017

Mae parhau i fod yn gyfredol ym myd celf, dylunio a chyfryngau yn hanfodol. Mae gan y Coleg ddiwylliant ymchwil ffyniannus ac mae wedi denu nawdd sylweddol i gefnogi prosiectau ymchwil. Mae’r rhan fwyaf o’n darlithwyr yn cynnal eu harfer eu hunain ac yn arddangos gwaith mewn lleoliadau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae hyn yn sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn elwa o weithio gydag artistiaid a dylunwyr o’r radd flaenaf sydd naill ai’n gweithio yn y Coleg neu’n ymweld ag ef fel rhan o dîm prosiect byw neu breswyliad. Mae ein myfyrwyr yn aml yn ennill gwobrau ac yn cael y cyfle i arddangos eu gwaith drwy gydol eu cyrsiau. Mae sioeau arddangos y graddedigion yn cael eu cynnal yn Abertawe ac yn Llundain, gyda myfyrwyr yn arddangos eu gwaith mewn digwyddiadau mawr megis New Designers a D&AD New Blood. Mae ein holl gyrsiau yn elwa o staff profiadol sy'n ymchwilwyr ac yn arddangos eu gwaith yn genedlaethol a thramor ac yn aml yn gweithio ar brosiectau gyda'r diwydiant.

Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd

163


Coleg Celf Abertawe

Celf a Dylunio

Sylfaen

164

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg, Dwyieithog*

Opsiynau Astudio: Llawn amser

Gofynion Mynediad: 32 o bwyntiau


Celf a Dylunio Sylfaen

Mae Celf a Dylunio Sylfaen yn Abertawe yn gyflwyniad i astudio o fewn Celf a Dylunio ar lefel AU ac mae’n rhoi sylfaen i fyfyrwyr sy’n mynd i goleg celf ac yn profi addysgu a dysgu mewn stiwdio am y tro cyntaf. Addysgir y cwrs ar gampws Celf a Dylunio’r Brifysgol, sydd yng nghanol y ddinas, gan roi i fyfyrwyr fynediad at amrywiaeth eang o weithdai a chyfleusterau dysgu traddodiadol a thramodern yn adeiladau Dinefwr ac ALEX. Cynigir i fyfyrwyr lwybr dilyniant uniongyrchol i’r cyrsiau gradd neu feistr integredig yng Ngholeg Celf Abertawe ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus. Hefyd, mae’n cefnogi ceisiadau i gyrsiau mewn mannau eraill neu geisiadau am swyddi.

*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.

Y Flwyddyn Sylfaen oedd blwyddyn orau fy mywyd academaidd gan fy mod wedi datblygu'n bersonol ac wedi aeddfedu. Ni fyddwn i wedi gallu ymdopi â’r brifysgol heb gymorth ac ymroddiad bob un tiwtor ar y cwrs hwn.

Rachel Edwards

Un o Raddedigion y Cwrs Sylfaen

Cewch eich cyflwyno i feysydd astudio arbenigol, gan gynnwys: • • • • • • • • • • • • • • • • • • •

Celf Gain Dylunio Graffig Darlunio Hysbysebu a Dylunio Brand Ffasiwn Tecstilau Dylunio 3D Pensaernïaeth Cyfryngau Digidol a seiliedig ar Lens Ffotograffiaeth Animeiddio Gemwaith Celf Gymhwysol Dylunio Celfi Gwydr Dylunio Gemau Hanes Celf Pensaernïaeth/Dylunio Mewnol Dylunio Cynnyrch

Cod UCAS Tyst AU: F4W8

165


Coleg Celf Abertawe

Celf Gain

Stiwdio, Safle a Chyd-destun Trwy weithdai, darlithoedd, seminarau ac ymweliadau, bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth gadarn o arfer celf gyfoes.

Llun: Scott Mackenzie

166

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg, Dwyieithog*

Opsiynau Astudio: Llawn amser

Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau


Celf Gain

Rhoddir pwyslais ar arloesi gyda defnyddiau a thechnegau, gyda chefnogaeth ac anogaeth tiwtoriaid profiadol iawn, sydd oll yn ymarferwyr proffil uchel ym myd celf. Mae cymorth staff, ac amrywiaeth eang o weithdai, yn galluogi myfyrwyr i adfyfyrio ar eu safle o fewn diwylliant cyfoes ehangach. Llun: Caitlin Littlejohns

Rhoddir pwyslais ar arfogi myfyrwyr ag amrywiaeth eang o dechnegau a phrosesau a hyrwyddo dealltwriaeth o ystod eang o gyfryngau. Yng nghyd-destun Celf Gain, ystyrir bod pob cyfrwng yn gyfartal. Anogir myfyrwyr i arbrofi gydag unrhyw gyfrwng sy’n berthnasol i’w syniadau neu i’r gwrthwyneb, i ddatblygu syniadau ymhellach os bydd y cyfrwng yn eu harwain at hynny. Mae’r berthynas rhwng cysyniad a defnydd yn cael ei drafod bob tro o fewn y prosesau stiwdio hyn.

80

Mae’r cwrs yn rhoi ichi gyfle euraid i feddwl a gweithio fel artist. Nid oes terfynau i’ch dychymyg. Mae hon yn daith dair blynedd heriol ond wirioneddol gyffrous.

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Mae'r cwrs yma yn gymwys am Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18.

Sheree Naqvi

Un o Raddedigion Celf Gain

Cod UCAS y BA: 2T12

Cod UCAS yr MArt: M5A7

167


Coleg Celf Abertawe

Astudiaethau Orielau Celf ac Amgueddfeydd Mae cwrs Astudiaethau Orielau Celf ac Amgueddfeydd yn cynnig i fyfyrwyr gyfle unigryw i astudio’r pwnc hwn ar lefel israddedig yng Nghymru. Wedi’i datblygu mewn partneriaeth â’r sector orielau, mae’r rhaglen hon yn meithrin profiad proffesiynol o’r cychwyn cyntaf.

168

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg*

Mae'r cwrs Astudiaethau Orielau Celf ac Amgueddfeydd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gwaith yn y sector celf wedi iddynt raddio. Un brif nodweddion y cwrs yw ei fod wedi’i ddatblygu ar y cyd â rhai o brif asiantaethau creadigol rhanbarthol Cymru. Addysgir y cwrs mewn cydweithrediad ag academyddion, artistiaid wrth eu gwaith ac arbenigwyr orielau. Mae’r cwrs yn cynnwys nifer o ddarlithoedd gwadd gan sefydliadau celf rhyngwladol a rhanbarthol sy’n cynnwys Artes Mundi, ac orielau lleol a arweinir gan artistiaid i roi i fyfyrwyr brofiad eang o sector y celfyddydau. Mae’r modylau’n darparu sgiliau ymarferol ac academaidd i roi i fyfyrwyr ddealltwriaeth eang o sefydliadau’r celfyddydau fel sefydliadau diwylliant yn ogystal â datblygu sgiliau beirniadol annibynnol.

Opsiynau Astudio: Llawn amser

Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau


Celf Gain

Byddant yn datblygu arbenigedd yn y sgiliau llafar ac ysgrifenedig sydd eu hangen i gyfathrebu i’r ystod eang o gynulleidfaoedd. Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o ddaliadau a chysyniadau allweddol arfer ac ysgrifennu curadurol er mwyn dod yn gynhyrchydd profiadau a digwyddiadau diwylliannol. Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliadau 2 wythnos ac 1 mis mewn sefydliad diwylliannol perthnasol o ddewis y myfyriwr.

Bydd cael profiad o fentora a lleoliadau yn y diwydiant yn rhoi i’r myfyrwyr sgiliau cyflogadwyedd allweddol ac yn sefydlu rhwydweithiau proffesiynol. Mae’r cwrs wedi’i dargedu at ddarpar fyfyrwyr sydd â chariad at y pwnc ac sydd am gael eu herio i ddatblygu eu gwaith mewn nifer o wahanol gyfeiriadau. Bydd ysgrifennu beirniadol yn gydran wahanol ac unigryw o’r cwrs hwn. Bydd ysgrifennu’n benodol ar gyfer y celfyddydau yn galluogi i’r myfyrwyr fod yn feddylwyr beirniadol a chanddynt y gallu i gyfleu syniadau’n annibynnol ac i feddu ar y sgiliau deallusol, proffesiynol a thechnegol sydd eu hangen i weithio yn y sector celf a diwylliannol. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau mewn arsylwadau gweledol, dadansoddi a dehongli i gyfnerthu ystod o ymagweddau beirniadol mewn ysgrifennu a chelf.

*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.

Bydd y profiad proffesiynol hwn yn rhoi cyfleoedd i’r myfyrwyr rhoi cynnig ar eu syniadau damcaniaethol mewn cyd-destun ymarferol a fydd yn eu galluogi i gael gwell dealltwriaeth o’u meysydd diddordeb arbennig wrth ddatblygu’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen mewn amgylchedd gwaith. Trwy gydol y rhaglen, bydd myfyrwyr yn paratoi portffolio o waith a fydd yn cynrychioli eu gwybodaeth, sgiliau, dealltwriaeth a gallu wrth baratoi at waith. Mae cyflogadwyedd wrth wraidd y rhaglen hon.

*yn amodol ar ddilysu

Cod UCAS y BA: 537C

Cod UCAS yr MArt: 537D

169


Coleg Celf Abertawe

Cerddoriaeth Mae ein graddau seiliedig ar arfer yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr ddatblygu'r sgiliau allweddol sydd eu hangen er mwyn gallu gweithio yn y diwydiannau cyfryngau clywedol.

Mae gennym gysylltiadau cryf gyda phartneriaid ac ymarferwyr yn y diwydiant, yn defnyddio’r feddalwedd safon diwydiant diweddaraf ac mae gennym gyfleusterau helaeth ar gyfer creu sain gofodol 3D, recordio mewn stiwdio, sain byw, fideo, a chynnwys rhyngweithiol ar gyfer y we a dyfeisiau symudol. Yn bennaf, mae’r cwrs Technoleg Cerddoriaeth wedi’i leoli yn yr Adeilad BBC hanesyddol ac mae’n cynnwys tair stiwdio recordio o’r radd flaenaf a neuadd ddarlledu cyngherddau fawr. Mae’r stiwdios wedi croesawu artistiaid amrywiol, fel Dylan Thomas, Peter Sellers a Catatonia. Ar hyn o bryd, mae Cerddorfa Gliniadur Abertawe mewn preswyliaeth yno. Mae gan y myfyrwyr fynediad llawn i’n lab Mac, sy’n llawn o’r feddalwedd ddiweddaraf, fel Pro Tools a Logic X. Cynigir hyfforddiant dwys mewn ystod eang o sgiliau a gweithgareddau cysylltiedig â thechnoleg cerddoriaeth. Mae’r casgliad o stiwdios yn y brifysgol yn llawn offer sy’n cynnig ystod eang o feddalwedd a chaledwedd o safon ddiwydiannol a lleoedd recordio a pherfformio pwrpasol.

170

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg*

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser

Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau


Cerddoriaeth

Llwybrau Technoleg Cerddoriaeth Technoleg Cerddoriaeth Codau UCAS: BA J931 MMus 5P2Y

Cerddoriaeth

(Perfformio a Chynhyrchu) Codau UCAS: BA 165F

Mae’r cwrs, ynghyd â chefnogaeth gan y tîm darlithio wedi ehangu fy meddwl yn gerddorol, yn artistig ac mewn ffyrdd technolegol. Agwedd arbennig o gyffrous o'r y cwrs oedd cael y rhyddid, yr hyder a’r gred yn fy ngallu i ddilyn diddordebau mewn sain ffilm a theledu. I helpu hyn, ymgymerais â lleoliadau gwaith yn y diwydiant, na fyddai wedi bod ar gael i mi heb y cwrs. Buaswn yn argymell y cwrs hwn i unrhyw un sy’n dymuno cael swydd mewn diwydiannau sy’n gweithio gyda sain.

Jake Bourton

Un o raddedigion Technoleg Cerddoriaeth, Artist Sain ar ei Liwt ei Hun

*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.

171


Coleg Celf Abertawe

Animeiddio Cyfrifiadurol 3D

100%

172

Cytunodd 100% o fyfyrwyr BA (Anrh) Animeiddio Cyfrifiadurol 3D bod staff wedi gwneud y pwnc yn ddiddorol. ACM 2017

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg*

Y cwrs hwn yw un o rhai mwyaf sefydledig y DU. Ers 2003 mae ein graddedigion wedi cael profiad allweddol o’r diwydiant gyda chwmnïau cynhyrchu byd-eang, stiwdios VFX, stiwdios gemau, hysbysebion, teledu a llawer o feysydd adloniant eraill. Mae gan staff brofiad academaidd cadarn o addysgu’r pynciau hyn, gyda rhestr faith o gyfresi animeiddio, ffilm a gemau y maent wedi gweithio arnynt. Yn eu tro, mae ein myfyrwyr Animeiddio Cyfrifiadurol 3D yn cael cipolwg diwydiannol gwerthfawr a chymorth gydag animeiddio sy’n eu galluog i ddilyn y llwybr iawn i’r diwydiannau creadigol a’r datblygiadau cyffrous diweddaraf mewn animeiddio digidol modern.

Animeiddio Cyfrifiadurol 3D Codau UCAS: BA WGP4 MArts D7X4

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser

Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau

Llun: Cedric Valdeviezo

Ar y radd Animeiddio Cyfrifiadurol 3D rydym yn darparu’r rhyddid a’r cyfleoedd i fyfyrwyr ddysgu rhagor am gelf a chrefft animeiddio. Rydym yn helpu myfyrwyr i lunio gwaith sy’n apelio ac yn helpu i roi bywyd i gymeriadau, modelau ac effeithiau, delweddaeth a naratifau gweledol.


Dylunio Cyfrifiadurol Creadigol

Dylunio Gemau Cyfrifiadurol Creadigol Mae’r cwrs Dylunio Gemau Cyfrifiadurol Creadigol yn rhoi i fyfyrwyr y sgiliau hanfodol a’r arferion a ddefnyddir yn y Diwydiant Gemau ynghyd â’r gallu i ddadansoddi’n academaidd a gwerthuso eich syniadau a’ch dyluniadau eich hunain ar gyfer gemau.

Mae’r Rhaglen yn aelod o Raglen Academaidd PlayStation® Sony, ac mae’r bartneriaeth gyffrous hon yn darparu mynediad i offer datblygu PlayStation® a’r un caledwedd proffesiynol a ddefnyddir gan stiwdios gemau o gwmpas y byd i greu gemau sy’n torri tir newydd ar PlayStation®. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio gyda chwmnïau blaenllaw a llwyddiannus fel Rockstar North, Electronic Arts, Criterion, Creative Assembly a Traveller’s Tales yn rhan o ddatblygiad Burnout Dominator, cyfres Harry Potter, Grand Theft Auto V, Halo Wars 2, Little Big Planet, Alien Isolation a chyfres Lego Star Wars.

Dylunio Gemau Cyfrifiadurol Creadigol Codau UCAS: BA W283 MArts 8B2K

*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.

173


Coleg Celf Abertawe

Dylunio

a Chyfathrebu Gweledol Mae Cyfathrebu Gweledol yn rhan fywiog o’r diwydiannau creadigol sy’n ehangu’n barhaus.

P’un a fyddwch yn arbenigo mewn dylunio graffig, darlunio, hysbysebu neu ddiwylliant gweledol, mae gennym enw ardderchog am ddarparu’r holl sgiliau, gwybodaeth a hyder sydd eu hangen ar fyfyrwyr er mwyn llwyddo.

Llun: Phill Rees

Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu creadigrwydd unigol, gyda chymorth amrywiaeth eang o weithdai arbenigol yn seiliedig ar sgiliau i helpu myfyrwyr i gyflwyno negeseuon trawiadol a threiddgar ynghylch y byd rydym yn byw ynddo. Mae gan y rhaglenni Cyfathrebu Gweledol gysylltiadau ardderchog gyda sefydliadau Diwydiannau Creadigol, gan helpu myfyrwyr i ddatblygu gyrfa tra llwyddiannus a chynhyrchiol yn eu maes dewisol.

174

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg*

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser

Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau


Dylunio a Chyfathrebu Gweledol

Llwybrau Dylunio a Chyfathrebu Gweledol Darlunio Codau UCAS: BA W220 MDes H21Y

Dylunio Graffig Codau UCAS: BA W210 MDes 52J6

Hysbysebu a Dylunio Brandiau

Aelod o D&AD

Llun: Amber Howie

Llun: Phill Rees

Codau UCAS: BA W221 MDes S2J5

*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.

175


Coleg Celf Abertawe

Dylunio Diwydiannol Mae ein rhaglenni dylunio diwydiannol yng Nghyfnewidfa Ddylunio ALEX, sy’n adeilad rhestredig Gradd II a adnewyddwyd ac a estynnwyd yn ddiweddar, yn Ardal Gelfyddydau Abertawe.

Mae prosiectau diwydiannol byw yn rhan greiddiol o’ch profiad dysgu – rydym yn gweithio’n agos gyda diwydiant lleol ar brosiectau yn ogystal â chyda rhai o’r brandiau mwyaf yn y byd fel Hasbro, Recaro, Jaguar Land Rover a Maclaren. Yn bwysicaf oll o’ch safbwynt chi, mae ein staff yn gyfeillgar, yn hawdd siarad â nhw ac yn gefnogol sydd, ar y cyd â’n dosbarthiadau bach, yn sicrhau y cewch chi hyfforddiant a chefnogaeth o safon uchel i roi dechrau cadarn i’ch gyrfa ddylunio. Felly, os ydych chi’n uchelgeisiol ac yn dymuno cael gwir effaith ar y byd o’ch cwmpas, edrychwch ar y cyrsiau rydym yn eu cynnig. Mae gennym weithdai prototeipio llawn offer a staff technegol medrus iawn sy’n rhoi ichi’r gallu i gael profiad o weithio gyda phren, metel, plastigau, gwydr ffibr, resinau, gwydr, plaster, cerameg a chlai steilio modurol. Mae ein gweithdai’n cynnwys cyfleusterau ‘layup’ gwydrffibr a chwistrellu, byrddau clai proffesiynol ac offer sgleinio, ac offer sgwrio â thywod, ysgythru ag asid, prosesu gwydr oer, ffurfio gwydr cynnes, enamlo ac electroplatio, weldio, torri, cafnu, melino, troi a thermoffurfio.

176

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg*

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser

Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau


Dylunio Diwydiannol

Llwybrau Dylunio Diwydiannol Dylunio Cynnyrch Codau UCAS: BA W242 MDes 0P2M

Dylunio Cynnyrch a Thechnoleg Codau UCAS: BA W284 MDes W200

Dylunio Modurol Codau UCAS: BA W240 MDes 7F3J

Dylunio Trafnidiaeth Codau UCAS: BA 9R37 MDes 04G6

*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.

177


Coleg Celf Abertawe

Ffotograffiaeth

Llun: Hannah Scoular

Mae’r rhaglenni ffotograffiaeth yn darparu platfform cyffrous er mwyn gallu archwilio safle unigryw a beirniadol delweddau ffotograffig o fewn diwylliant cyfoes yn y cyfnod cyffrous hwn.

O arfer celf ffotograffig arbrofol i bosibiliadau naratif ffotograffiaeth ddogfennol, anogir myfyrwyr i ystyried traddodiadau sefydledig eu cyfrwng ac yna i herio’r confensiynau hyn trwy ddatblygu eu llais unigryw eu hunain. Mae’r rhaglenni’n cefnogi sgiliau technegol traddodiadol a digidol trwy gyfres o weithdai, ac yn ennyn ymchwiliadau damcaniaethol trwy ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau a phrosiectau ymchwil annibynnol. O fewn y broses addysgol hon, rhoddir rhyddid i fyfyrwyr archwilio a chreu eu harfer gweledol hunan-gyfeiriedig eu hunain, sydd yna’n cael ei gymhwyso drwy ddefnyddio ein cysylltiadau proffesiynol helaeth, i bosibiliadau niferus y diwydiannau celf, masnachol a chyfryngau cyfoes.

Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau Codau UCAS: BA W643 MDes 123L

Llun: Georgia Mingham

Ffotonewyddiaduraeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol Codau UCAS: BA J316 MDes 295G

178

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg*

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser

Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau


Ffotograffiaeth

Daeth y Brifysgol yn 1af yng Nghymru am Gynhyrchu Ffilm a Ffotograffiaeth

Llun: Adrian Fear

- Tabl Cynghrair y Guardian 2016

*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.

179


Coleg Celf Abertawe

Ffilm

a Theledu Digidol Mae’r cwrs yn herio myfyrwyr i gofleidio gofynion diwydiannau ffilm a theledu yr oes sydd ohoni, yn eu helpu i ddatblygu'n ymarferwyr creadigol unigryw, ac eto’n llawn technegau gwneud ffilmiau traddodiadol.

Ar y cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu bod yn adroddwyr straeon. O ffilmiau i raglenni dogfen, o ffilmiau byr i fideos cerddoriaeth, mae stori’n hollbwysig ac wrth wraidd cynhyrchu ffilm a theledu cyfoes. Mae pob modwl ar y cwrs yn tanategu dylanwad stori ar yr holl agweddau ar y broses gwneud ffilmiau, o’r cysyniad cychwynnol i’r sgript, o ddetholiad prop i amseru toriad wrth olygu. P’un a ydych yn gweithio fel ffilmiwr, golygydd, cyfarwyddwr neu unrhyw un o’r rolau eraill ar y criw, mae adrodd stori’n sail i’r penderfyniadau a wneir wrth ddatblygu set, lleoliad ac yn yr ystafell olygu. Mae’r cwrs yn greadigol yn seiliedig ar arfer, gan roi i fyfyrwyr y sgiliau a’r wybodaeth dechnegol a fydd yn eu galluogi i wireddu eu gweledigaethau, yn seiliedig ar egwyddorion allweddol a fydd yn aros gyda nhw ymhell wedi iddynt raddio. Caiff myfyrwyr y cyfle i gymryd rhan yn Ffilm Abertawe, gŵyl ffilm a drefnir gan fyfyrwyr sy’n denu diddordeb o bob cwr o’r byd, gan roi mewnolwg i’r farchnad ffilm ehangach a dealltwriaeth o’r hyn y mae’n ei gymryd i wneud ffilm sy’n ennill gwobrau.

180

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg*

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser

Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau


Ffilm a Theledu Digidol

Hefyd, cewch gyfle i ymgymryd â lleoliadau ar gynyrchiadau proffesiynol. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi gweithio ar sioeau drama mawr fel Da Vinci’s Demons, Will and The Collection, yn ogystal â ffilmiau fel The Passion, gyda Michael Sheen yn y brif ran, a Set Fire To The Stars, gydag Elijah Wood yn y brif ran. Mae gennym gysylltiadau cryf gyda’r diwydiant, gan gynnwys Bay Studios, stiwdio gynhyrchu annibynnol fwyaf Ewrop, Dragon Studios Pen-ybont ar Ogwr a Pinewood Cymru. • Bellach, mae graddedigion yn gweithio ar draws llawer o feysydd yn y sector ffilm a theledu o gwmpas y byd, ar ffilmiau mawr fel Fury a Guardians of The Galaxy, ac ar sioeau teledu fel Casualty a The Grand Tour.

*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.

Mae myfyrwyr wedi cael profiad gwaith ar gynyrchiadau drama a rhaglenni dogfen i’r BBC, ITV, Sky, BBC Worldwide/FX, S4C, yn ogystal â llu o ffilmiau annibynnol a wnaed yn y DU.

Cyfleusterau ac offer o safon diwydiant, gan gynnwys camerâu 4K, offer goleuo a sain, offer recordio sain, sgrin werdd, ystafelloedd golygu ac ôl-gynhyrchu.

Cod UCAS y BA: W610

Cod UCAS yr MArts: 4S8X

181


Coleg Celf Abertawe

Dylunio Set Meddyliwch am funud am eich hoff ffilmiau a rhaglenni teledu. Meddyliwch am ba mor anhygoel yw’r setiau. Meddyliwch am y ffordd y mae’r setiau’n rhoi cartref i gymeriadau a syniadau.

182

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg*

Dychmygwch fod yn rhan o ddiwydiant sy’n arbennig o greadigol a gwneud hyn fel bywoliaeth. Gall y radd Dylunio Set wireddu’r freuddwyd hon. Gall ddatblygu a ffrwyno eich meddwl creadigol a dychmygol, hybu eich brwdfrydedd am ddelweddu, creu ac adeiladu amgylcheddau a setiau syfrdanol. Mae’r rhaglen hon ar gyfer pobl sydd am ddefnyddio eu cariad a’u creadigrwydd at ddylunio i wneud yr amgylcheddau hynny. Mae’r cwrs hwn yn trawsnewid cyffredinolwyr yn arbenigwyr. Ychydig iawn o gyrsiau tebyg sydd ar gael yn genedlaethol neu’n rhyngwladol ac nid oes gan yr un ohonynt yr un uchelgais dros eu myfyrwyr na’r cyfryw ystod o ymagweddau.

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser

Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau


Dylunio Set

Wedi ein lleoli yn Abertawe, mae gennym gysylltiadau uniongyrchol ag ystod o gyfleusterau a stiwdios cynhyrchu. Ni yw’r unig gwrs i gyflogi Swyddog Lleoli Addysg Ffilm pwrpasol i hwyluso profiad gwaith ar setiau yn y diwydiant Ffilm a Theledu. Rydym yn unigryw am fod gennym ein gorsaf deledu ddarlledu ein hunain – Bay TV – ac yn ei defnyddio i arddangos gwaith myfyrwyr a rhoi amser go iawn ar y teledu i rith-ddyluniadau set. Rydym yn dod ag arbenigedd gweithwyr proffesiynol o’r radd flaenaf o Bad Wolf Studios, Three Cliffs Production, Pinewood Cymru, Dragon Studios, Bay Studios yn Abertawe a’n datblygiad newydd sy’n werth miliynau o bunnoedd, sef pencadlys corfforaethol S4C. Yn bwysicaf oll, mae’r stiwdios hyn yn galw allan am ein myfyrwyr ac yn gyson yn cynnig swyddi i raddedigion. Rydym yn cefnogi hyn i gyd gyda lle stiwdio, cyfleusterau ac offer rhagorol gan Canon, Red, Sony, Dedo, Kino Flo, Manfrotto, Rode, Sennheiser a Litepanels. Os hoffech ymchwilio i gyfnodau hanesyddol, datblygu delweddau, adeiladu golygfeydd bendigedig, ail-greu tirweddau presennol neu drawsnewid naratif a syniadau am sgriptiau ffilmiau yn setiau ffilm, yna mae ar y cwrs Dylunio Setiau eich angen. Rydym yn gobeithio llunio cwrs llawn unigolion angerddol sydd â diddordeb mewn hanes, dylunio, y celfyddydau, graffeg a diwylliant cyfoes; pobl sydd eisiau dod yn ddylunwyr set talentog a gweithio mewn diwydiant ffyniannus a bywiog. Rydym yn disgwyl i bobl ddod o ystod eang o gefndiroedd technoleg, dylunio, y dyniaethau, prentisiaeth a seiliedig ar y cyfryngau.

*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.

Cod UCAS y BA: 64D8

Cod UCAS yr MArts: 64D9

183


Coleg Celf Abertawe

Gwydr Mae’r cwrs sefydledig hwn yn Abertawe sy’n enwog ledled y byd yn dod â thraddodiadau gorau gweithio â llaw ym maes gwydr at ei gilydd gyda’r technolegau creadigol diweddaraf.

Mae myfyrwyr yn astudio arferion gwydr traddodiadol a chyfoes a danategir gan sgiliau cadarn, cynaliadwy sy’n cynnwys darlunio a dylunio. Mae myfyrwyr yn adeiladu ar eu gwybodaeth a’u sgiliau o weithio gyda gwydr trwy weithio mewn stiwdio a gweithdai. Mae prosiectau allanol yn nodwedd gyson o’r cwrs. Mae myfyrwyr yn ymgymryd â phrosiectau masnachol yn aml trwy stiwdio wydr fasnachol yr Ysgol, sef y Ganolfan Wydr Bensaernïol, gan sicrhau bod graddedigion yn gadael gyda’r holl sgiliau sydd eu hangen arnynt i weithio yn y diwydiant. Ymhlith meysydd arbenigol y cwrs mae gwydr a ffurfir mewn odyn, paentio gwydr traddodiadol, cymwysiadau addurniadol fel sgwrio â thywod, printio sgrin, ysgythru ag asid ac euro yn ogystal â thechnolegau cyfoes fel torri â chwistrell ddŵr.

184

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg*

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser


Gwydr

Llwybrau Gwydr Gwydr: Celfyddydau Pensaernïol Codau UCAS: BA W770 MDes 5H3M

*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.

185


Coleg Celf Abertawe

Crefftau Dylunio O wydr i emwaith, mae ein cwrs Crefftau Dylunio yn rhoi ichi’r rhyddid i ddarganfod eich llais creadigol ac fe fydd yn eich helpu i gynllunio llwybr gyrfaol drwy’r posibiliadau sydd ar gael.

Bydd y radd Crefftau Dylunio yn rhoi ichi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio ar draws defnyddiau gan gynnwys gwydr, cerameg, gemwaith a chyfryngau cymysg gan ddewis meysydd penodol i ganolbwyntio arnynt Byddwch yn datblygu sgiliau gwneud â llaw traddodiadol yn ogystal â gwybodaeth a phrofiad o brosesau cyfoes fel torri ac ysgythru â laser, torri â chwistrell ddŵr ac argraffu 3D. Cewch eich cefnogi wrth ddatblygu eich syniadau a dyluniadau creadigol drwy gydol y cwrs. Bydd ein tîm o ymarferwyr crefft sefydledig a thechnegwyr profiadol yn cefnogi datblygiad eich syniadau a dyluniadau creadigol trwy gydol y cwrs ac yn eich cyflwyno i arloeseddau cyfredol mewn defnyddiau a phrosesau i sicrhau bod gennych y sgiliau a’r wybodaeth ddiweddaraf.

186

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg*

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser


Crefftau Dylunio

Byddwch yn astudio ystod eang o brosesau gan gynnwys: adeiladu cerameg; prosesau gwydr gan gynnwys castio, ffiwsio a ‘slympio’; technegau oer a pate de verre; technegau gemwaith traddodiadol a chyfoes; castio aml-gyfrwng yn ogystal ag amrywiaeth o brosesau adeiladu a ffurfio ar gyfer pren, metelau, plastigau, gwydr ffibr, resinau ac electro-ffurfio. Cewch eich cyflwyno i ddylunio â chymorth cyfrifiadur (2D a 3D) fel y gallwch weithio gyda phrosesau sy’n cynnwys argraffu 3D, ysgythru a thorri â laser, torri â chwistrell ddŵr a melino CNC. Bydd cael profiad o ystod eang o ddefnyddiau a phrosesau yn eich caniatáu i ddatblygu ymagwedd bersonol iawn at greu arteffactau pwrpasol neu a gynhyrchir mewn sypiau o werth uchel a nwyddau moethus ar gyfer amrywiaeth o gymwysiadau gan gynnwys: pensaernïaeth, dylunio mewnol, gwrthrychau celf (i’w gwerthu trwy orielau neu drwy gomisiwn) a gemwaith. Caiff y cwrs ei gyflwyno drwy gyfres o sesiynau a addysgir sy’n seiliedig ar weithdai, tiwtorialau, lleoliadau gwaith, prosiectau byw, briffiau a chystadlaethau dylunio, oll wedi’u tanategu gan astudiaethau gweledol ac arferion hanesyddol a chyd-destunol.

Crefftau Dylunio Codau UCAS: BA D100 MDes D110

*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.

*Yn amodol ar dilysu

187


Coleg Celf Abertawe

Patrwm Arwyneb a Thecstilau

I’r rheiny sy’n frwd am greu arwynebau a strwythurau cyffrous ac arloesol, mae Patrwm Arwyneb a Thecstilau yn cynnig cyfleoedd cyffrous i ystyried lliw, gwedd, delwedd a chysyniad yng nghyd-destun Tecstilau cyfoes, ar gyfer addurno mewnol, 3D, a ffasiwn.

188

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg*

Mae’r ffocws ar ysbrydoliaeth greadigol, sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu eu llais a’u harddull unigol i’r eithaf. Yr athroniaeth ganolog yw meithrin creadigrwydd myfyrwyr a fydd yn mwynhau arbrofi gydag amrywiaeth o ddeunyddiau ac a allai eu hystyried eu hun yn ‘wneuthurwyr’.

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser

Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau


Patrwm Arwyneb a Thecstilau

Llwybrau Patrwm Arwyneb a Thecstilau Dylunio Patrymau Arwyneb (Gwneuthurwr) Codau UCAS: BA W790 MDes T5F3

Dylunio Patrymau Arwyneb (Gwrthrych Ffasiwn) Codau UCAS: BA W230 MDes Y28U

Dylunio Patrymau Arwyneb (Tecstilau ar gyfer Addurno Mewnol) Codau UCAS: BA W235 MDes 5RC2

Dylunio Patrymau Arwyneb (Tecstilau ar gyfer Ffasiwn) Codau UCAS: BA W234 MDes 8V7C

*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.

189


Coleg Celf Abertawe

Y Celfyddydau

Perfformio Rydym yn chwilio am fyfyrwyr a chanddynt gariad at y celfyddydau perfformio, ac mewn arbrofi gyda ffiniau perfformio drwy waith cydweithredol gyda gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr creadigol. Rydym yn cynnig profiad dwys, seiliedig ar arfer, gyda chydbwysedd gofalus o hyfforddiant ymarferol a gefnogir gan astudiaethau academaidd. Er mwyn sicrhau bod ein cyrsiau’n parhau i fod yn berthnasol o fewn diwydiant sy’n newid o hyd, mae'r holl raglenni'n rhoi pwyslais mawr ar annog y myfyrwyr i weithio gyda phobl broffesiynol yn y maes sydd o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol. Rydym yn dathlu gwaith ein myfyrwyr gydag ymarferwyr o'r diwydiant a'r cyhoedd ar bob cyfle. Drwy hyn cynhyrchir perfformiadau arloesol o safon eithriadol o uchel a gall y profiadau hyn arwain at gyfleodd hollbwysig i gael gwaith yn y dyfodol. Yn ogystal â’r myfyrwyr hynny sydd wedi llunio gyrfaoedd fel ymarferwyr cymhwysol, dylunwyr, rheolwyr cynhyrchiad, cyfarwyddwyr a thechnegwyr, mae ystod eang iawn o gynfyfyrwyr yn gweithio ym meysydd addysgu,

190

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg

rheoli, cysylltiadau cyhoeddus, gwaith ieuenctid a chymdeithasol, marchnata a hysbysebu. Gyda hyn mewn cof, mae holl ddarpariaeth celfyddydau perfformio’r Brifysgol yn rhoi pwyslais mawr ar yr ystod eang o gyfleoedd gwaith sy’n bodoli ar gyfer ein graddedigion. Mae cymaint o'r rhinweddau graddedig y mae cyflogwyr o bob math yn chwilio amdanynt yn rhan annatod o hyfforddiant myfyrwyr sy'n astudio'r Celfyddydau Perfformio. Mae ein graddedigion yn hyderus, yn hyddysg ac yn rhagweithiol. Maent yn wych am weithio mewn timau, am ddatrys problemau ac am fodloni terfynau amser. Yn anad dim, maent yn dysgu drwy 'wneud’, drwy gydweithio ac ymgysylltu â'i gilydd, y gynulleidfa a'r gymuned yn eu gwaith creadigol.

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser


Y Celfyddydau Perfformio

Bob blwyddyn, mae elfen greadigol y cyrsiau'n cynnwys gweithio mewn amrywiaeth o fformatau cyffrous ac arloesol, gan herio ffiniau perfformio a darparu cyfleoedd niferus i arddangos gwaith ein myfyrwyr.

Cyrsiau Cyfrwng Saesneg

Pam astudio yma?

BA Applied Drama

Gradd Anrhydedd

BA (Hons) Contemporary Performance

• Lleoliadau pwrpasol ar gyfer ymarferion a chynyrchiadau llwyfan • Staff ymroddedig sydd yno i gefnogi, annog ac ysbrydoli pob myfyriwr

Codau UCAS W401 W47W

Rydym hefyd yn cynnig graddau cysylltiedig yn y pwnc hwn ar Gampws Caerfyrddin (tudalen 94) a Chaerdydd (tudalen 108).

• Rhyngweithio ac ymgysylltu ag ymarferwyr creadigol allanol drwy weithdai a chynyrchiadau • Manteisio ar y cyfle i dreulio semester dramor mewn prifysgolion yn America • Bod yn rhan o gymuned gref, datblygu syniadau creadigol, gwella technegau, a chreu darnau gwych o waith cydweithredol

• Gweithio mewn ystod o leoliadau cymunedol gydag unigolion o wahanol gefndiroedd a ffyrdd o fyw

Byddwch yn gweithio gyda’r ymarferwyr a’r cwmnïau a ganlyn: Mess up the Mess Theatre ArtWorks: Valleys Kids Organised Kaos Valley and Vale Community Arts Cardboard Citizens Geese Theatre Re-Live Theatre Taking Flight Theatre Company Mr and Mrs Clark Volcano Theatre Frantic Assembly Orphaned Limbs Collective Daniel Irrizary Philip Zarilli Jo Fon

191


Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg

Y Gyfadran

Pensaernïaeth,

Cyfrifiadura a Pheirianneg Mae’n amser cyffrous i ymuno â'r Gyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg. Mae’r gyfadran, gyda’i hanes o addysgu cymhwysol ac arloesi, yn symud ymlaen mewn safle pwrpasol yn Ardal Arloesi Glannau Abertawe.

192

Ar ein safle newydd mae lleoedd technegol, gweithdai a labordai, mannau addysgu hyblyg a chyfleusterau llyfrgell modern i gyd wedi’u datblygu i roi i fyfyrwyr y profiad dysgu gorau posibl a chyfleoedd i gydweithio gyda diwydiant ac ar draws disgyblaethau. Mae’r gyfadran yn cynnwys disgyblaethau pwnc Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg a addysgir o fewn yr Ysgolion a ganlyn: Cyfrifiadura Cymhwysol; Pensaernïaeth, Amgylcheddau Adeiledig a Naturiol; a Pheirianneg.


Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg

Ar hyn o bryd, mae’r Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yn cynnig ystod eang o gyrsiau mewn technoleg gwybodaeth busnes, cyfrifiadura cymhwysol, cyfrifiadura a systemau gwybodaeth a pheirianneg drydanol ac electronig. Maent hefyd yn cynnig rhaglenni arbenigol mewn meysydd fel peirianneg meddalwedd, datblygu gemau cyfrifiadurol, systemau cyfrifiadurol ac electroneg ynghyd â graddau sy’n gysylltiedig â diwydiannau penodol fel datblygu’r we a rhwydweithiau cyfrifiadurol. Mae ein holl graddau BSc cyfrifiadura yn cael eu hachredu gan Gymdeithas Gyfrifiadurol Prydain (BCS) - golyga'r statws "achrededig” hwn eich bod yn astudio gradd sy’n cyfrannu at y gofynion academaidd sydd eu hangen i gofrestru ar gyfer statws “Siartredig”. Hefyd, gan yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol mae’r unig Academi CISCO yng Nghymru ac mae’n cynnig i fyfyrwyr Rhwydweithio Cyfrifiadurol y cyfle i astudio ar gyfer cymwysterau seiliedig ar ddiwydiant CISCO fel rhan o’u hastudiaethau israddedig. Mae'r Ysgol Pensaernïaeth ac Amgylcheddau Adeiledig a Naturiol yn cwmpasu dwy wahanol ddisgyblaeth, sef yr amgylchedd adeiledig a’r amgylchedd naturiol. Ymhlith y cyrsiau mae pensaernïaeth, technoleg bensaernïol, tirfesur adeiladau, peirianneg sifil a rheolaeth amgylcheddol, cadwraeth amgylcheddol, mesur meintiau a rheoli prosiectau ac adeiladu.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.uwtsd.ac.uk/face

Mae Pensaernïaeth a’r Amgylchedd Adeiledig yn cynnwys disgyblaethau o safbwyntiau dylunio, adeiladu, cynaliadwyedd ac effaith amgylcheddol. Mae'r addysgu’n arbenigo mewn dylunio adeiladau a datblygu manylebau, gyda ffocws cryf ar gynaliadwyedd. Mae’r radd newydd BSc mewn Pensaernïaeth wedi galluogi myfyrwyr i astudio mewn lleoliad newydd yng Nghymru. Mae'r Ysgol Peirianneg wedi’i rhannu’n dair prif ddisgyblaeth. Y rhain yw Peirianneg Fodurol a Chwaraeon Moduro, Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu a Logisteg a Chludiant. Caiff arbenigedd y gyfadran mewn peirianneg chwaraeon moduro ei gydnabod yn rhyngwladol a bu iddynt lansio rhaglen radd Chwaraeon Moduro gyntaf yn y byd gyda BEng mewn Peirianneg Chwaraeon Modurol yn 1998. Mae'r cyrsiau logisteg yn cynnwys cyrsiau sy'n canolbwyntio ar reoli'r gadwyn gyflenwi, cludiant a rheolaeth chwaraeon moduro. Mae cyrsiau peirianneg yn cynnwys Peirianneg Cyfansoddion, Ynni a Pheirianneg Amgylcheddol, Peirianneg Chwaraeon Eithafol a Pheirianneg Fecanyddol. Er bod yna amrywiaeth eang o gyrsiau i ddewis ohonynt, mae cyflogadwyedd wrth wraidd pob un.

Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd

193


Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg

Modurol Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth eang o raglenni modurol, yn cynnwys peirianneg a chyrsiau sy’n canolbwyntio ar ddylunio.

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Mae nifer o labordai a gweithdai ar gael i gefnogi myfyrwyr yn eu gwaith, ynghyd â hybu prosiectau myfyrwyr. Credwn fod meddu ar y cyfleusterau hyn yn ein galluogi i gynnig profiad unigryw i’r rheiny sy’n astudio yma. Mae ein hamrediad o gyrsiau peirianneg fodurol yn cynnwys meysydd arbenigol fel ceir rasio cystadleuol, beiciau modur a pheirianneg fodurol, a phob un o’r rhain yn rhoi’r cyfle i’n myfyrwyr ddatblygu sgiliau peirianneg dadansoddol a chanolbwyntio ar yr un pryd ar gymhwyso’r rhain at broblemau’r byd go iawn.

Anogir y myfyrwyr sy’n astudio’r rhaglenni hyn i weithio tuag at gofrestriad proffesiynol gydag IMechE.

194

Mae ein holl raglenni peirianneg fodurol yn seiliedig ar yr athroniaeth sylfaenol o gefnogi gwaith dadansoddol soffistigedig gyda gweithgaredd peirianneg ymarferol.

Iaith: Saesneg

Opsiynau Astudio: Llawn amser


Peirianneg

Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Meistr Integredig

Codau UCAS

Gradd Anrhydedd

Codau UCAS

MEng Automotive Engineering

0PD5

BEng Motorsport Engineering

H336

MEng Motorsport Engineering

6W1M

H341

MEng Motorcycle Engineering

6D4B

BEng Motorsport Engineering (4 blynedd) BSc Motorsport Management

101R

Gradd Anrhydedd

Codau UCAS

BSc Automotive Engineering

H332

BEng Automotive Engineering

H330

BEng Automotive Engineering (4 blynedd)

HH33

BEng Motorcycle Engineering

H331

BEng Motorcycle Engineering (4 blynedd)

H390

BSc Motorsport Engineering

H334

Diploma

Codau UCAS

HND Automotive Engineering

043H

HND Motorsport Engineering

034H

HND Motorsport Management

2N3H

Tystysgrif Addysg Uwch Cert HE Science, Technology, Engineering & Mathematics

Codau UCAS HR3U

195


Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg

Peirianneg Mae’r brifysgol yn cynnig amrywiaeth eang o raglenni peirianneg, a phob un yn seiliedig ar yr athroniaeth sylfaenol o gefnogi gwaith dadansoddol soffistigedig gyda gweithgaredd peirianneg ymarferol.

Mae gennym nifer o labordai a gweithdai i gefnogi myfyrwyr wrth eu gwaith, ynghyd â hybu prosiectau peirianneg myfyrwyr ac, yn ein barn ni, rydym yn cynnig profiad unigryw i’r myfyrwyr hynny sy’n astudio yma. Mae llawer o’r sectorau diwydiannol yn croesawu graddedigion peirianneg, oherwydd y bydd cymhwyster mewn peirianneg yn datblygu mathemateg, technoleg, dylunio, deunyddiau, gweithgynhyrchu, sgiliau dadansoddi a rheoli, sy’n golygu bod galw mawr am raddedigion a’u bod yn gyflogadwy iawn yn y diwydiant. Mae’r sectorau diwydiannol ar gyfer graddedigion y dyfodol yn amrywiol, a dyna pam rydym yn cynnig rhaglenni peirianneg penodedig cyffrous gan gynnwys: Peirianneg Fecanyddol; Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu; Peirianneg Chwaraeon Eithafol.

100%

196

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg

Opsiynau Astudio: Llawn amser

Cytunodd 100% o fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant sy’n astudio’r BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu bod staff yn dda am esbonio pethau. ACM 2016


Peirianneg

Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Meistr Integredig

Codau UCAS

MEng Mechanical Engineering

H302

MEng Mechanical and Manufacturing Engineering

3D78

MEng Energy and Environmental Engeneering

0HRS

MEng Extreme Sports Engineering

H338

Gradd Anrhydedd

Codau UCAS

BEng Electrical and Electronic Engineering

3TY8

Gradd Anrhydedd BEng Extreme Sports Engineering (4 blynedd)

CH61

BEng Mechanical Engineering (4 blynedd)

H300

BEng Mechanical and Manufacturing Engineering

HH37

BEng Mechanical and Manufacturing Engineering (4 blynedd)

HH3R

BSc Software Engineering

G600

Diploma

BEng Electrical and Electronic Engineering (4 blynedd) BEng Energy and Environmental Engineering

42U0

BEng Energy and Environmental Engineering (4 blynedd)

48C3

BEng Extreme Sports Engineering

H340

Codau UCAS

Codau UCAS

HND Electronic Engineering

116H

HND Software Engineering

006G

Tystysgrif Addysg Uwch Cert HE Science, Technology, Engineering & Mathematics

Cod UCAS HR3U

197


Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg

Logisteg Mae Logisteg yn chwarae rhan hanfodol yn yr economi ac ym mywyd y gymdeithas. Mae dod o hyd i gynnyrch gan gyflenwyr gorau’r byd a gallu cyrraedd marchnadoedd newydd yn creu heriau logistaidd enfawr i gwmnïau.

Cyrsiau Cyfrwng Saesneg

Golyga hyn bod rhaid i fusnesau ailwerthuso’r ffordd y maent yn rheoli eu cadwyni cyflenwi – sef cyfres gymhleth o ddigwyddiadau a phenderfyniadau o gyrchu deunydd crai i weithgynhyrchu ac i’r defnyddiwr yn y pendraw.

Cert HE Science, Technology, Engineering & Mathematics

Gradd Anrhydedd BSc Logistics & Transport

53R4

BSc Logistics & Supply Chain Management

N900

Diploma

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg

Codau UCAS

HND Logistics & Transport

53R3

HND Logistics & Supply Chain Management

N901

Tystysgrif Addysg Uwch

Cynllunir y cyrsiau hyn i ddatblygu graddedigion a chanddynt y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gychwyn gyrfa yn y sector logisteg a chludiant.

198

Codau UCAS

Opsiynau Astudio: Llawn amser

Cod UCAS HR3U


Logisteg

92%

Roedd 92% o fyfyrwyr Ysgol Logisteg a Pheirianneg Gweithgynhyrchu Y Drindod Dewi Sant yn fodlon ar eu profiad cyffredinol. ACM 2016

199


Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg

Yr Amgylchedd Ers blynyddoedd lawer mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cynnig rhaglenni a gynlluniwyd i ddatblygu a pharatoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa yn y sector amgylcheddol.

Arweiniodd y Brifysgol y ffordd gan mai hon oedd y brifysgol gyntaf i gynnig gradd mewn Cadwraeth Amgylcheddol ym 1998 ac mae gan y cwrs enw da yn y diwydiant ac ymhlith prifysgolion eraill.

Roedd dysgu am wyddor bywyd a’r amgylchedd yn wirioneddol ddiddorol. Dysgais bopeth o ochr gemeg a bioleg pethau i’r elfennau arfordirol a dŵr.

Abi Lewis

BSc ac MSc Cadwraeth Amgylcheddol

200

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg

Opsiynau Astudio: Llawn amser


Peirianneg

Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Gradd Meistr Integredig MEng Energy & Environmental Engineering Gradd Anrhydedd

Cod UCAS 0HRS Cod UCAS

BSc Civil Engineering & Environmental Management

HF29

BEng Energy & Environmental Engineering

42U0

BEng Energy & Environmental Engineering (4 blynedd)

48C3

Gradd Anrhydedd

Cod UCAS

BSc Environmental Conservation Diploma

Cod UCAS

HND Environmental Conservation Tystysgrif Addysg Uwch

F901

3S54

Cod UCAS

Cert HE Science, Technology, Engineering & Mathematics

HR3U

Golyga’r dosbarthiadau bach y cewch chi fwy o ymadwaith un i un. Mae gan yr athrawon gymaint o angerdd at yr hyn y maent yn ei wneud. Mae’n heintus, ac rwy’n meddwl mai dyna oedd y peth gorau am y cwrs.

Natalie Jordan

BSc Gwyddor Amgylcheddol

201


Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg

Pensaernïaeth a’r

Amgylchedd Adeiledig Mae gan y Brifysgol arbenigedd eang a hirsefydlog ym maes yr amgylchedd adeiledig.

95%

202

Roedd 95% o fyfyrwyr Pensaernïaeth, Adeiladu a Chynllunio’r Drindod Dewi Sant mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio. DLHE 15/16

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg

Ceir amrywiaeth eang o raglenni sy’n eich galluogi i arbenigo mewn meysydd allweddol fel adeiladu cynaliadwy ac arolygu adeiladau. Mae datblygiad cynaliadwy yn yrrwr allweddol yn y sector ar draws yr holl broffesiynau amgylchedd adeiledig. Mae datblygiad cynaliadwy felly yn gysyniad craidd sydd wedi’i gynnwys yn yr holl fodylau ac a gwmpasir yn eglur mewn modwl penodedig ar yr holl raglenni pensaernïaeth a’r amgylchedd adeiledig. Wrth ystyried yr amgylchedd adeiledig trwy lens cynaliadwyedd, mae’r angen am greu cymunedau cynaliadwy, ac felly lleoedd cynaliadwy i fyw ynddynt, yn ystyriaeth allweddol.

Opsiynau Astudio: Llawn amser


PensaernĂŻaeth ac Amgylcheddau Adeiledig a Naturiol

Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Gradd Anrhydedd BSc Architecture BSc Architectural Technology

Codau UCAS K100 38VW

BSc Building Surveying

8K32

BSc Project and Construction Management

K220

BSc Quantity Surveying

K241

Tystysgrif Addysg Uwch Cert HE Science, Technology, Engineering & Mathematics

Cod UCAS HR3U

203


Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol

Cyfrifiadura Mae astudio pynciau cyfrifiadura yn rhoi sgiliau a gwybodaeth werthfawr iawn i chi a fydd yn eich helpu i ddatblygu gyrfa mewn sefydliadau o bob maint, neu i sefydlu eich menter eich hun.

Rydym yn cynnig cyrsiau cyffredinol mewn technoleg gwybodaeth busnes, datblygu gemau cyfrifiadurol a chyfrifiadura a systemau gwybodaeth sy’n rhoi’r amrywiaeth ehangaf posibl o gyfleoedd gyrfaol i chi pan fyddwch yn graddio. Mae gennym hefyd raglenni arbenigol mewn meysydd allweddol fel peirianneg meddalwedd a pheirianneg electronig ynghyd â graddau sy’n gysylltiedig â diwydiannau penodol yn cynnwys datblygu’r we, a rhwydweithio cyfrifiadurol. Ni yw’r unig Academi CISCO yng Nghymru ac rydym yn cynnig cyfle i fyfyrwyr rhwydweithiau cyfrifiadurol astudio ar gyfer cymwysterau CISCO seiliedig ar ddiwydiant fel rhan o’u hastudiaethau israddedig. Mae llawer o’n rhaglenni BSc a HND yn cael eu hachredu gan gyrff proffesiynol fel Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain. Mae gan lawer o raddau statws Proffesiynolwr TG Siartredig.

Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 9fed yn y DU a 1af yng Nghymru am Ansawdd Addysgu mewn Cyfrifiadureg. The Times and The Sunday Times Good University Guide 2018

204

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg

Opsiynau Astudio: Llawn amser


Cyfrifiadura

Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Llwybrau Cyrsiau

MComp

Computing

BSc

HND

FdA*

3AL6

208C

3ALF

Business Information Systems

7T83

G510

265G

G51F

Computer Games Development

58WX

H674

7Y32

H67F

Data & Information Systems

F8C5

I200

54GG

I20F

Computing Networks & Cyber Security

C13K

H611

016H

H61F

Software Engineering

C58N

G600

006G

G60F

Web Development

592N

G422

024G

G43F

Cert HE Science, Technology, Engineering & Mathematics

Tystysgrif Addysg Uwch HR3U

*Cynigir cyrsiau sylfaen fel gradd gyfun 4 blynedd.

205


Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol

Electroneg Mae astudio pynciau sy’n gysylltiedig ag electroneg yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy a gwybodaeth bwnc werthfawr i chi a fydd yn eich helpu i ddatblygu gyrfa mewn sefydliadau o bob maint neu i sefydlu eich menter eich hun.

Rydym yn cynnig cyrsiau cyffredinol mewn peirianneg electronig a thrydanol a fydd yn rhoi’r amrywiaeth ehangaf posibl o gyfleoedd gyrfaol i chi pan fyddwch yn graddio, ac mae gennym hefyd raglenni arbenigol mewn meysydd allweddol fel systemau cyfrifiadurol ac electroneg. Trwy nifer o gysylltiadau diwydiannol, mae’r clwstwr hwn wedi sefydlu galw diwydiannol cryf am y rhaglen hon. Mae parch mawr gan gyflogwyr tuag at yr arbenigedd a’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu drwy greu a rheoli datrysiadau meddalwedd a chaledwedd fel rhan o dîm. Ar gyfer myfyrwyr sydd heb gymwysterau traddodiadol mae gennym gynlluniau gradd pedair blynedd: gyda mynediad ar lefel sylfaen.

Byddaf yn gweld ishe’r bois, y darlithwyr a’r hwyl yn fwy na dim. Y peth gorau am y cwrs oedd cymorth y darlithwyr a’m helpodd drwy bopeth. Mae gen i swydd yn Perkin Elmer yn barod.

Andrew Stanford

Un o Raddedigion Peirianneg Drydanol ac Electronig

206

Lleoliad y Cwrs: Abertawe

Iaith: Saesneg

Opsiynau Astudio: Llawn amser


Electroneg

Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Llwybrau Cyrsiau

BEng

Computer Systems and Electronics

H610

H608

Electrical and Electronic Engineering

3TY8

53R2

Engineering

Cert HE Science, Technology, Engineering & Mathematics

HND

FdA*

116H Tystysgrif Addysg Uwch HR3U

*Cynigir cyrsiau sylfaen fel gradd gyfun 4 blynedd.

MEng Peirianneg Amgylcheddol Gymhwysol gyda

207


Campws Llambed

Llwyddwch yn

Llambed 208


Dewch i ddarganfod campws eithriadol sy’n cynnig rhywbeth gwirioneddol wahanol i fyfyrwyr. 209


Llambed Pan welwch chi adeiladau gwreiddiol y campws, fe allech feddwl eich bod wedi taro ar un o golegau Rhydychen neu Gaergrawnt yng nghanol De Orllewin Cymru. Nid yw’n syndod gan fod y campws hwn, a sefydlwyd yn 1822 ac a ddyluniwyd gan C R Cockerell, wedi’i seilio ar betryal Rhydychen a Siarter Frenhinol Llambed, ac sy’n dyddio'n ôl i 1828, yw’r hynaf yng Nghymru. Mae’n gampws ysblennydd a gellir defnyddio’r un ansoddair i ddisgrifio’r wlad o’i gwmpas. Lleolwyd ef mewn ardal fendigedig sy’n llawn coetiroedd cain, mynyddoedd mawreddog a thraethau teg. Mae’n lle perffaith i astudio ynddo. Mae Llambed yn cyfuno treftadaeth gyfoethog a hanes gyda chyfleusterau a thechnoleg sydd eu hangen i ddysgu yn yr 21ain ganrif. Caiff myfyrwyr eu hannog i gymryd rhan weithredol yn eu dysg. Cewch ryddid yma i fod yn unigryw a bod yn rhagweithiol y tu allan i’r dosbarth hefyd. Cewch ryddid i fod yn chi eich hunan. Er enghraifft, gallwch ddylanwadu ar fywyd cymdeithasol campws bywiog Llambed. Mae yno lawer o gymdeithasau a chlybiau sy’n darparu ar gyfer amrywiaeth o ddiddordebau o saethyddiaeth i Gymdeithas Llychlynwyr. Os oes yna rywbeth yr hoffech chi ei wneud nad yw ar y rhestr yn barod, bydd Undeb y Myfyrwyr yn fwy na pharod i’ch helpu i sefydlu un eich hun. Bydd y rheiny sy'n ymddiddori mewn iechyd a ffitrwydd wrth eu bodd gyda'r ganolfan chwaraeon sy'n llawn offer campfa cyfredol, a chanddi amrywiaeth o ddosbarthiadau, gan gynnwys yoga a chylchedau, a chyfleusterau

210

ar gyfer pêl-fasged, badminton, pêl-rwyd a ffensio. Tîm rygbi'r brifysgol oedd y cyntaf yng Nghymru, wedi'i ffurfio gan hen IsGanghellor Llambed, Rowland Williams, wedi iddo ddod â’r gêm o Gaergrawnt. Mae yna glybiau hoci a phêl-droed hefyd. Mae bywyd yma’n cynnig ichi’r rhyddid i roi cynnig ar syniadau newydd, boed hynny trwy ddechrau cymdeithas o’r newydd neu ddatblygu rhai sy’n bodoli eisoes. Os ydych yn chwilio am fwyd ac adloniant ar y campws, mae yna ffreutur ar gyfer prydau poeth ac 1822, caffi poblogaidd, cysurus gyda theras braf lle gall myfyrwyr fwynhau coffi neu ginio ar ddiwrnodau braf. Mae gan Undeb y Myfyrwyr soffas i ymlacio arnynt a sgwrsio yn ogystal â theledu ac Xbox ac mae pêl-droed bwrdd a gemau ar gael yn The Hive. Gan fod Llambed yn gymharol fach, mae myfyrwyr yn elwa o awyrgylch cymuned glos. Gall y rhan fwyaf o fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf fyw ar y campws ac mae ystafelloedd hefyd ar gael i fyfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn a myfyrwyr ôlraddedig. Mae llety’r Brifysgol yn cynnwys tua wyth gwahanol lety sy’n amrywio mewn maint o neuaddau 4/8 ystafell. Mae’r holl ystafelloedd yn rhai hunanarlwyo ac mae gan nifer ohonynt gyfleusterau en-suite a mynediad i bobl anabl. Pan fydd arnoch awydd ymlacio tu allan a mwynhau’r llecyn gwledig godidog hwn, mae’r man perffaith ar gael. Mae afon yn rhedeg drwy’r campws, gan gynnig lleoliad hyfryd i astudio a sgwrsio gyda ffrindiau.


211


Llambed

212


Dydy bywyd prysur y ddinas ddim yn bodoli yma. Yr hyn y byddwch yn ei ddarganfod yw tref fechan fywiog sy’n cynnig llawer mwy nag y byddech yn ei ddisgwyl. Cymerwch gam y tu allan i’r giatiau ac rydych yn y dref. Mae yna amrywiaeth eang o siopau a gwasanaethau o fewn cyrraedd rhwydd i’r campws, o fanciau i bobyddion, archfarchnadoedd i siopau bwtîc, siopau elusen a siopau cadwyn ac o fferyllfeydd i siopau blodau. Mae yna dafarndai, caffis, bwytai a siopau prydau parod gan gynnwys siop bwyd cyflawn a chanddi gaffi, a Conti's gyda'i hufen iâ traddodiadol sydd wedi ennill gwobrau di-ri. Os ydych yn chwilio am fywyd nos gallwch fwynhau'r hyn sydd gan y dref i’w gynnig a chyfrannu ato. Mae myfyrwyr yn rhan bwysig o gymuned Llambed ac mae croeso iddynt yn y dref, i fwynhau’r tafarndai lleol niferus, ac elwa o fywyd cymunedol yn ogystal â chyfrannu ato. Gallwch floeddio canu mewn noson karaoke, gwrando ar gerddoriaeth fyw mewn digwyddiad yn Neuadd Fictoria a mynd i barti ar nos Wener. Anogir myfyrwyr i fod yn gyfranogion bywiog ym mywyd y dref, i gymryd rhan mewn prosiect gwirfoddol, i weithio'n rhan amser ac i fod yn rhan o

ddigwyddiadau blynyddol gan gynnwys Gŵyl Fwyd Llambed, y Ffair Nadolig a gweithgareddau yn Neuadd Fictoria. Mae Llambed yng nghanol rhwydwaith o deithiau cerdded gwledig godidog. Os hoffech fynd ymhellach na’r campws, gallwch fynd i grwydro Coetir Cymunedol Long Wood neu ymweld â’r llyn yng Ngwesty’r Falcondale. Mae llawer o leoedd diddorol i ymweld â nhw o fewn taith car o Lambed, o Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro i Fannau Brycheiniog. Gallwch fwynhau harddwch yr arfordir law yn llaw â hanes diddorol yr ardal gan gynnwys claddgelloedd cynhanesyddol, gwaith aur Rhufeinig ac Abaty Ystrad Fflur, sy’n dyddio'n ôl i’r Canol Oesoedd. Mae llawer o drefi glan môr hardd i’w harchwilio, fel Aberaeron a’i chlytwaith o dai lliwgar. Mae’r tirlun yn gweddu i amrywiaeth o weithgareddau awyr agored; o syrffio yng Nghei Newydd i feicio mynydd a marchogaeth. Gall cerddwyr archwilio llwybr yr arfordir a Mynyddoedd Cambria. Pan fyddwch yn teimlo fel archwilio'r ardal leol, mae digonedd o siopau, bwytai, mannau o ddiddordeb ac adloniant yng Nghaerfyrddin a chewch rwydd hynt i Abertawe, Caerdydd a Llundain ar y trên.

213


Llambed

Y 10 peth gorau i'w gwneud yn Llambed gan Lysgenhadon Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant 1. Cadw’n heini

Nid yn unig mae gan y campws ei neuadd chwaraeon ei hun, ond mae Canolfan Hamdden Llambed yn cynnig ystod o gyfleusterau, gan gynnwys pwll nofio, neuadd chwaraeon, campfa a chae ‘astroturf’.

2. Mynd am dro yn Long Wood

Mae gan Goetir Cymunedol Long Wood 4km o lwybrau troed a 10km o lwybrau meirch sydd ar agor i’r cyhoedd o hyd.

3. Ymwelwch â’r siopau

Mae canolfan brysur y dref yn cynnig nifer o siopau annibynnol sy’n arbenigo mewn addurniadau i’r cartref, llyfrau, recordiau, celfyddyd, crefftau, dillad, bwyd a diod.

4. Mwynhewch damaid blasus

Mae siop sglodion Lloyds yn un adnabyddus yn yr ardal. Mae cael pryd yn Lloyds a mynd am dro i’r llyn cyfagos yn ffordd dda o dreulio noson braf o haf.

214

5. Byddwch yn rhan o hanes

8. Darganfod Bae Ceredigion

6. Rhowch gynnig ar y llwybr

9. Darganfyddwch lwybr i’r môr

Mae Amgueddfa Llambed, yn hen Borthdy'r Brifysgol, ar agor bob dydd Sadwrn, dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 10yb a 4yp. Mae’r amgueddfa’n dathlu hanes tref Llambed.

Caiff hanes Llambed ei esbonio ar lwybr treftadaeth y dref. Mae’n eich cymryd i Glwb Rygbi Llambed, un o aelodau cyntaf Undeb Rygbi Cymru, a’r gofgolofn, a ddyluniwyd gan W. Goscombe John a’r Brifysgol.

7.Ewch amdani

Ymwelwch â Mwynglawdd Aur Dolaucothi ym Mhumsaint, a ddefnyddiwyd o oes y Rhufeiniad hyd yr 20fed ganrif. Cewch fynd ar daith dywysedig drwy'r twneli ac ar hyd llwybrau gwych yn harddwch Dyffryn Cothi, prin 15 munud yn y car o Lambed.

Dim ond ychydig filltiroedd o Lambed mae arfordir godidog Bae Ceredigion gyda’i draethau glân a diarffordd. Yn ddiweddar, agorwyd llwybr troed newydd ar hyd yr arfordir.

Mae Llambed yng nghanol rhwydwaith o deithiau cerdded gwledig sy’n arwain at lynnoedd, glannau afonydd hardd, hen fryngaerau a meini hir. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ffynhonnell dda o wybodaeth am lwybr troed Llambed - Aberaeron.

10. Ewch am antur ar feic

Mae Llambed yn lle gwych i feicio, am fod ganddi filltiroedd o ffyrdd tawel. Dim ond taith fer yw hi o lwybrau beicio mynydd Coedwig Brechfa a Llwybr Beicio Ystwyth.


Darganfyddwch Gyrsiau Llambed > 215


Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio

Y Dyniaethau Mae astudio yn Llambed yn rhoi’r rhyddid ichi fynegi eich hun, gallu meddwl yn annibynnol a datblygu'r set sgiliau sydd eu hangen i gamu i mewn i yrfa a gwneud gwahaniaeth i'r byd o'ch cwmpas.

Mae ein holl gynlluniau gradd yn y dyniaethau wedi eu cynllunio i sicrhau bod myfyrwyr yn cael y profiad dysgu mwyaf cynhwysfawr, arloesol ac atyniadol posibl. Yn rhy aml, mae pobl yn dal i feddwl am ddarlithfa fwll pan fyddant yn meddwl am addysgu mewn prifysgolion. Nid dyna’r achos i'n myfyrwyr ni. Diolch i ddulliau addysgu deinamig sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, mae myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant yn datblygu a gwella ystod o sgiliau a gwybodaeth yn barod at fyd gwaith. Yn gampws o tua 1,000 o fyfyrwyr llawn amser, gall Llambed gynnig profiad dysgu sy’n wahanol iawn i sefydliadau mawr eraill sy’n fwy amhersonol. Yn unigryw, bron, i Lambed, cewch eich addysgu gan ddarlithwyr mewn seminarau addysgu bach, mewn grwpiau o rhwng 15 a 25 o fyfyrwyr. Mae’r amgylchedd hwn yn rhoi cyfle ichi leisio’ch syniadau, cymryd rhan mewn dadleuon a chydweithio gyda staff a myfyrwyr. Bydd gweithio mewn grwpiau bach sy’n cynnwys academyddion a myfyrwyr yn ymestyn eich gwybodaeth ac yn eich helpu i fagu hyder. Yma gallwch gyfrannu at, a chydnabod, dadleuon a thrafodaethau ar faterion hollbwysig. Mae gan Lyfrgell ac Archif Roderic Bowen yn Llambed un o’r casgliadau gorau o lawysgrifau goliwiedig canoloesol ac argraffiadau cyntaf printiedig modern cynnar yn y wlad. Ymhlith y casgliadau arbennig mae dros 30,000 o olygiadau, a argraffwyd rhwng 1470 ac 1850, y mae ein myfyrwyr yn helpu i guradu.

216


Y Dyniaethau

Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • Mae ein hymagwedd at addysgu yn bersonol, ymatebol ac yn talu sylw i’ch diddordebau. • Diolch i’n darlithwyr arbenigol, ymrwymedig byddwn yn eich cefnogi a'ch annog i ddatblygu yn bersonol ac yn academaidd • Cewch y rhyddid i archwilio adnoddau archif gwych Llambed yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen •

Gallwch lunio a siapio eich dysgu i ddilyn eich diddordebau a’ch uchelgeisiau eich hun, gan arbenigo mewn pwnc arbennig, neu ehangu eich gwybodaeth ac opsiynau drwy ystod o fodylau

• Byddwch yn rhan o gymuned glos sy’n eich annog i gymryd ymagwedd ragweithiol at eich dysgu ac i ddatblygu sgiliau a fydd yn eich galluogi i ffynnu’n broffesiynol ac yn bersonol wedi ichi raddio.

Gofynion Mynediad yn y Dyniaethau Mae graddau’n bwysig, ond nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn unigolion sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyriwr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau.

Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd

217


Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio

Astudiaethau Crefyddol Mae ein cwrs BA Astudiaethau Crefyddol ar gampws Llambed wedi’i gynllunio i gynorthwyo myfyrwyr i ddeall crefyddau yn eu cyd-destunau diwylliannol, cymdeithasol a hanesyddol. Mae’r cwrs yn rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio arferion a chredoau crefyddau’r byd yn ogystal â thraddodiadau crefyddol eraill. Cyflwynir gwahanol ddulliau o astudio crefydd, gan gynnwys cymdeithaseg, anthropoleg a seicoleg, a rhoddir sylw penodol i le crefydd yn y byd cyfoes. Cewch y cyfle i ymweld ag addoldai lleol a chenedlaethol, i ymgymryd â theithiau tramor i ganolfannau o bwys crefyddol, ac i feithrin adnabyddiaeth ymarferol, bersonol o ddiwylliannau a chrefyddau eraill.

80

Prif nodweddion

• Cwrs amrywiol sy’n ymdrin â chrefydd o safbwynt diwylliannol, cymdeithasol, moesegol a hanesyddol. • Bydd myfyrwyr yn cydweithio gyda, ac yn dysgu gan, arbenigwyr yn eu meysydd penodol a byddant ar reng flaen ymchwil a dadlau o’r radd flaenaf. Ymhlith diddordebau ymchwil y staff cyfredol mae’r berthynas rhwng Iddewiaeth a Christnogaeth, materion rhyng-grefyddol, a’r berthynas rhwng crefydd a diwylliant gyfoes. • Cyfleoedd cyfnewid mewn nifer o wledydd tramor. • Cyfleoedd ar gyfer ymweliadau addysgol lleol ac i wledydd megis Twrci, yr Eidal, yr Almaen a Groeg. • Staff wedi’u hymroi i ragoriaeth mewn addysgu. • Cyfle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. • Awyrgylch dysgu cefnogol a chyfeillgar. • Bwrsariaethau ac ysgoloriaethau.

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Mae'r cwrs yma yn gymwys am Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18, neu www.colegcymraeg.ac.uk

218

Lleoliad y Cwrs: Llambed

Iaith: Cymraeg, Dwyieithog, Saesneg

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser


Astudiaethau Crefyddol

Cyfloedd gyrfa

Bwriad y radd yw darparu gwybodaeth am Astudiaethau Crefyddol yn ogystal â sgiliau trosglwyddadwy a fyddai’n gymwys ar gyfer nifer o feysydd gyrfaol. Gellir hefyd ystyried y cwrs fel sylfaen gref ar gyfer cyrsiau ôlraddedig mewn Astudiaethau Crefyddol a hefyd pynciau megis Astudiaethau Islamaidd, Astudiaethau Beiblaidd, a Phrofiad Crefyddol. Mae amryw o’n myfyrwyr yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfa yn un o’r meysydd canlynol: • Gwasanaethau cymdeithasol • Addysgu • Sefydliadau cymorth ac elusennol rhyngwladol • Twristiaeth • Y Cyfryngau • Gwleidyddiaeth a’r Gwasanaeth Sifil • Cyhoeddi • Newyddiaduraeth • • • • • • • • • • • •

Modylau Enghreifftiol

Astudio Crefydd Iddewiaeth a Christnogaeth Crefyddau’r Dwyrain Mudiadau Crefyddol Newydd Cyflwyniad i Islam Iddewon a Christnogion mewn Dadl a Deialog Crefydd, Drygioni, a’r Diafol Prosiect Annibynnol Islam yn y Byd Cyfoes Crefydd, y Cyfryngau a Diwylliant Boblogaidd Crefydd a’r Amgylchedd Taith Astudio

Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau cyfrwng Saesneg mewn crefydd a diwinyddiaeth ar gampws Llambed, gweler ein prosbectws cyfrwng Saesneg am fwy o wybodaeth.

Cod UCAS y BA: L351

219


Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio

Anthropoleg Anthropoleg yw astudiaeth cymdeithasau a diwylliannau dynol yn eu holl gyfoeth a’u hamrywiaeth.

Mae gan anthropolegwyr ddiddordeb mewn unrhyw beth a phopeth a wneir gan fodau dynol, pa bryd bynnag a ble bynnag y’i gwnânt – o arferion adnewid corff ymysg grwpiau llwythol pell Affrica i’r defnydd o safleoedd rhwydweithio cymdeithasol ar-lein fel Facebook mewn cymdeithasau Gorllewinol cyfoes.

Y Brifysgol 1af a’r unig Brifysgol yng Nghymru i gynnig Anthropoleg.

Mae gennym hefyd ymagwedd unigryw at addysgu Anthropoleg – rydym yn cydnabod mai ymgysylltu ymarferol, uniongyrchol gyda diwylliannau ‘eraill’ yw’r ffordd orau o ddeall anthropoleg, ac os dewiswch astudio gyda ni fe gewch ddigon o gyfle i gael profiad o’r hyn yw bod yn anthropolegydd.

Mae gan y staff Anthropoleg ddiddordebau ymchwil eang eu cwmpas, ac o ganlyniad rydym yn cynnig amrediad helaeth o feysydd thematig a daearyddol yn ein rhaglen addysgu. Drwy hyn, caiff y myfyrwyr fewnwelediad da i’r cyflwr dynol.

Complete University Guide 2018

92% Cytunodd 92% o fyfyrwyr Anthropoleg Y Drindod Dewi Sant bod staff yn dda am esbonio pethau. ACM 2017

220

Lleoliad y Cwrs: Llambed

Iaith: Saesneg

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser


Anthropoleg

Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Gradd Anrhydedd

Cod UCAS

BA Anthropology

L600

Graddau Cydanrhydedd

Cod UCAS

BA Anthropology and Archaeology

LVQ4

BA Anthropology and History

LVP1

BA Anthropology and Medieval Studies

VL16

BA Anthropology and Philosophy

VL56

BA Anthropology and Heritage Studies

8V3Q

Graddau Prif bwnc/Is-bwnc BA Anthropology with Education Studies

Cod UCAS LX63

221


Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio

Archaeoleg Archaeoleg yw astudiaeth gorffennol dyn trwy archwilio gweddillion corfforol fel offer cerrig, crochenwaith ac esgyrn, hyd at adeiladau, strwythurau, henebion a thirweddau. Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 1af yng Nghymru am foddhad myfyrwyr mewn Gwyddor Fforensig ac Archeolegol. ACM 2017

222

Lleoliad y Cwrs: Llambed

Iaith: Saesneg

Mae’n ceisio dangos sut mae cymdeithasau cyfoes, hen gymdeithasau eraill a’n cymdeithas ninnau yn cael eu trefnu a sut rydym yn rhyngweithio gyda’n hamgylcheddau a’n tirweddau. Mae gan Y Drindod Dewi Sant enw da rhyngwladol mewn arbenigedd archaeolegol, gydag ymchwilwyr a darlithwyr arbenigol mewn archaeoleg forwrol ac amgylcheddol. Fe gewch brofiad o dechnegau labordy, gan roi’r hyn y byddwch yn ei ffeindio mewn cloddiadau drwy lens dadansoddol arfer ac ymchwil. Yn ein labordai gwych, gallwch ddadansoddi esgyrn a phaill, ddysgu am dechnegau dendrocronoleg, a gweithio gyda samplau ac arteffactau. Yn ystod tymhorau diweddar mae hyn wedi cael ei gynnal yn y mynachdy Sistersaidd godidog a’i gefnwlad yn Ystrad Fflur ym mynyddoedd Cambria, ychydig filltiroedd i’r gogledd o’r campws.

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser


Archaeoleg

Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Gradd Anrhydedd

Cod UCAS

BA Archaeology

V400

BA Archaeology Professional Practice

F420

BA Archaeology of Egypt and the Near East

59B2

Graddau Cydanrhydedd

Cod UCAS

BA Archaeology and Anthropology

LVQ4

BA Archaeology with Ancient Egyptian Culture

09C3

BA Archaeology with Education Studies

V401

BA Archaeology and Classical Civilisation

QV84

BA Archaeology and History

T1L6

223


Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio

Astudiaethau

Tsieineaidd Os mai canrif yr Unol Daleithiau oedd yr 20fed ganrif, bydd yr 21ain ganrif yn adnabyddus fel canrif Tsieina.

Tsieina yw’r gymdeithas fwyaf dynamig, amrywiol a dylanwadol yn y byd heddiw. Mae ei heconomi, ei heffaith ddiwylliannol a’i chryfder milwrol yn cyrraedd pob rhan o’r byd. Tsieina yw un o wareiddiadau pwysicaf y byd hefyd, gyda threftadaeth ddiwylliannol a llenyddol gyfoethog. O ganlyniad, mae Tsieina yn bwnc astudio cyfareddol a thra boddhaus ar y lefel israddedig. Gallwch astudio’r BA Astudiaethau Tsieineaidd fel rhaglen radd 3 blynedd neu 4 blynedd. Yn rhan o’r rhaglen radd 4 blynedd, fe gewch y cyfle i dreulio’ch ail flwyddyn mewn prifysgol yn Tsieina, gan ddatblygu eich sgiliau ieithyddol ymhellach yn ogystal ag ehangu eich ymwybyddiaeth ddiwylliannol a’ch dealltwriaeth o ddiwylliant a chymdeithas Tsieina.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl a chanddynt, ac nac oes ganddynt, wybodaeth flaenorol o'r iaith Fandarin.

224

Lleoliad y Cwrs: Llambed

Iaith: Saesneg

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser


Astudiaethau Tsieineaidd

Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Gradd Anrhydedd

Cod UCAS

BA Chinese Studies (3 blynedd)

T100

BA Chinese Studies (4 blynedd)

5DN2

Graddau Cydanrhydedd

Cod UCAS

BA Chinese Studies and Medieval Studies

TV11

BA Chinese Civilisation and Religious Studies

TV16

BA Chinese Studies and History

46N3

BA Chinese Studies and Medieval Studies

TV11

BA Chinese Studies snd Religious Studies

TV16

225


Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio

Astudiaethau

Clasurol I fyfyrwyr sy’n frwd am hen lenyddiaeth a mytholeg, Astudiaethau Clasurol yw’r radd berffaith i astudio mytholeg Groeg a Rhufain.

Bydd Astudiaethau Clasurol yn astudio llenyddiaeth a diwylliant yr hen fyd, o arwyr epig mawrion Homer i fywyd bob dydd pobl gyffredin. Gyda chyfres eang o fodylau o blith y ffefrynnau ym myd llenyddiaeth dros dri mileniwm; o Homer, Vergil, Aristophanes ac Euripides, i drysorau llai adnabyddus fel Statius, Ovid, Martial ac Apollonius, mae ein graddau Astudiaethau Clasurol yn rhoi cyfle i chi ddarganfod rhyfeddodau hen lenyddiaeth a dysgu sut mae wedi llywio ein dealltwriaeth o’r hen fyd. Gan ddechrau yn y flwyddyn gyntaf gyda hen fytholeg a’i dylanwad yn yr hen fyd a’r byd modern, mae gradd Astudiaethau Clasurol yn cwmpasu pynciau sy’n amrywio o grefydd a hud i fenywod a’r teulu yn y byd Groegaidd-Rufeinig.

226

Lleoliad y Cwrs: Llambed

Iaith: Saesneg

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser


Astudiaethau Clasurol

Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Gradd Anrhydedd

Cod UCAS

BA Classics

QVL0

BA Classical Studies

Q810

Graddau Cydanrhydedd

Cod UCAS

BA Classical Civilisation with Ancient Egyptian Culture

Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 9fed yn y DU am foddhad myfyrwyr yn Y Clasuron. ACM 2017

QQ84

Graddau Cydanrhydedd

Cod UCAS

BA Classical Studies and Creative Writing

5GTS

BA Classical Civilisation with Greek

K3B2

BA Classical Civilisation with Latin

2SS8

Roedd fy amser yn Llambed yn fythgofiadwy ac o gael y cyfle, buaswn yn gwneud yr union un peth eto.

Karen Simms

BA Astudiaethau Clasurol

227


Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio

Athroniaeth Mae athroniaeth yn astudio’r cwestiynau mawr – Pwy ydym ni? Beth yw ein lle yn y byd? Sut dylem ni fyw? Beth yw realiti?

Mae athroniaeth yn mynd i’r afael â’r cyfryw gwestiynau trwy ddadlau, ond hefyd trwy weledigaeth a dychymyg. Mae athroniaeth yn ymwneud â phob agwedd ar ein bywydau, yn ymarferol ac yn ddamcaniaethol. Gan ei bod wedi ei seilio ar berthnasoedd cymdeithasol a gweithgareddau dynion go iawn, mae’n ceisio deall a mynd i’r afael â’r sbectrwm cyfan o faterion cymdeithasol a moesegol cyfoes. Trwy Athroniaeth, gallwn nid yn unig ddod i ddeall bywyd, ond hefyd ei siapio. Os yw eich diddordebau yn cwmpasu bywyd, y bydysawd a phopeth, os ydych yn dymuno datblygu set gyfoethog o sgiliau bywyd a’r pŵer i ddylanwadu ar newid cadarnhaol, yna Athroniaeth yw’r pwnc i chi. Gallwch astudio Athroniaeth fel anrhydedd sengl, neu gallwch ddewis cyfuno eich cariad at Athroniaeth gydag astudiaeth o bwnc arall, ar ffurf rhaglen gydanrhydedd neu drwy gyfuniad prif bwnc/pwnc atodol.

100%

228

Lleoliad y Cwrs: Llambed

Iaith: Saesneg

Cytunodd 100% o fyfyrwyr Athroniaeth Y Drindod Dewi Sant bod staff wedi gwneud y pwnc yn ddiddorol a'u bod yn dda am esbonio pethau. ACM 2017

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser


Athroniaeth

Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Gradd Anrhydedd BA Philosophy Graddau Cydanrhydedd

Cod UCAS V502 Cod UCAS

BA Philosophy and Creative Writing

WV85

BA Philosophy and English

VQ53

BA Philosophy and History

VV56

BA Ethical & Political Studies

D429

BA Philosophy and Anthropology

VL56

BA Philosophy and Heritage Studies

73D7

BA Philosophy and Religious Studies

VV6M

BA Philosophy and Medieval Studies

VV5D

BA Philosophy, Religion and Ethics

D2N4

BA Philosophy, Theology and Ethics

C32B

BA Philosophy and Theology

VVP5

BA Philosophy and Chinese Studies

TV1M

BA Philosophy and Classical Civilisation

VQ58

Mae’r Drindod Dewi Sant yn yr 20 orau yn y DU am foddhad myfyrwyr mewn Athroniaeth. Complete University Guide 2017

229


Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio

Celfyddydau Breiniol Mae ein BA Celfyddydau Breiniol arloesol yn rhoi’r dewis a'r annibyniaeth ichi astudio pynciau’r Dyniaethau sy’n gweddu orau i'ch diddordebau a’ch uchelgeisiau.

92% Cytunodd 92% o fyfyrwyr Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol Y Drindod Dewi Sant bod staff yn dda am esbonio pethau. ACM 2017

230

Lleoliad y Cwrs: Llambed

Iaith: Saesneg

Rydym yn ymfalchïo yn hyblygrwydd rhaglen radd BA Celfyddydau Breiniol, lle mae gan bob myfyriwr y rhyddid i siapio eu rhaglen radd o gwmpas eu diddordebau unigol. Efallai fod gennych ddiddordeb mewn dau bwnc, cyfuniad o bynciau, neu efallai fod yn well gennych ymagwedd fwy thematig at eich astudiaethau. BA Celfyddydau Breiniol yw’r radd berffaith i archwilio i ystod o bynciau'r Dyniaethau a fydd yn ymestyn eich gorwelion wrth hefyd ffocysu eich astudiaethau ar faes sydd wir o ddiddordeb i chi. Mae’r cyfle i astudio ystod o bynciau’r Dyniaethau o dan un rhaglen radd yn brin yn y DU, ond eto mae’n gyfle eithriadol i fyfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o gymdeithasau a chymunedau, yn y gorffennol a’r presennol. Yn ei dro, bydd y mewnwelediad hwn yn datblygu eich sgiliau dadansoddi a gwerthuso, lle byddwch yn ystyried ac yn ymdrin â ffyrdd y gallwn gael effaith bositif ar ein dyfodol, boed hynny drwy lens athronyddol, gwleidyddol, anthropolegol, archaeolegol neu hanesyddol.

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser


Celfyddydau Breiniol

Ar wahân i ehangu eich astudiaethau, gallwch hefyd arbenigo mewn un maes penodol, sy’n gallu bod yn werthfawr iawn os ydych yn ystyried gyrfa mewn sector penodol. Er enghraifft, os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda phlant yn y sector addysg, gallwch ddewis gwneud modylau mewn Astudiaethau Addysg, ochr yn ochr â modylau mewn nifer o wahanol bynciau eraill y Dyniaethau. Neu, efallai bod gennych ddiddordeb ym materion y byd ac yn ystyried gyrfa yn y sector elusennol, ond mae gennych hefyd gariad at y clasuron; drwy astudio BA Y Dyniaethau gallwch astudio nifer o fodylau yn y Clasuron, gan hefyd ennill gwybodaeth a sgiliau perthnasol am y sector elusengar drwy fodylau Datblygiad Rhyngwladol, Moeseg a Dyngarwch a’r Gyfraith. Yn y pen draw, eich gradd chi yw BA Celfyddydau Breiniol y gallwch ei mowldio fel ei bod yn gweddu i chi.

Cod UCAS y BA: 0G6H

Tystysgrif Addysg Uwch Cert HE Gateway to Humanities

231


Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio

Hanes Holl ddiben y rhaglen radd Hanes yw rhannu cariad at hanes a’i berthnasedd i gymdeithasau a diwylliannau’r oes fodern.

Bydd myfyrwyr yn cydweithio gyda’u darlithwyr, sy’n arbenigwyr yn eu meysydd astudio sy’n cynnwys pynciau fel hanes mynachaidd y canol oesoedd, hanes Ymerodraeth Prydain, a hanes trefol modern. Mae’n ymdrin â’r gorffennol mewn amryw ffyrdd, boed trwy lens economeg, gwleidyddiaeth, ffurfiannau cymdeithasol, lluniadau diwylliannol, treftadaeth lenyddol, ideolegau, credoau crefyddol neu ddiwylliannau materol. Mae ein modylau'n edrych ar amrediad eang o bynciau sydd mor amryfal â Rhyfeloedd y Rhosynnau a’r Bom Niwclear, neu’r Rhyfel Mawr a straeon comig Chaucer, neu hyd yn oed Terfysgaeth Fodern a Mynachaeth Ganoloesol.

Rwyf wedi cael pob math o gefnogaeth gan fy narlithwyr. Ni chefais erioed y fath gefnogaeth gyda’m haddysg nes i mi ddod i Lambed. Rwyf wedi dysgu sut i fwrw ymlaen â gwaith pan fyddaf dan bwysau.

P’un ai a oes gennych ddiddordeb mewn astudio ar draws yr amrywiaeth eang hon o gyfnodau neu y byddai'n well gennych ganolbwyntio ar ddiddordeb penodol yn yr hen fyd, y byd canoloesol neu'r byd modern, byddwch yn cael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n ymchwilio ac yn cyhoeddi yn eu meysydd dewisol.

Sean Strong

Un o Raddedigion y Cwrs

232

Lleoliad y Cwrs: Llambed

Iaith: Saesneg

Opsiynau Astudio: Llawn amser, rhan amser


Hanes

Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Gradd Anrhydedd

Cod UCAS V100

BA History Graddau Cydanrhydedd

Cod UCAS

BA Medieval Studies

V130

BA Medieval Studies and Archaeology

VV41

BA History and Ancient History

V112

BA Medieval Studies and Classical Civilisation

VQ18

BA History and Anthropology

LVP1

BA Medieval Studies and English

VQ13

BA History and Archaeology

VV14

BA Medieval Studies and Philosophy VV5D

BA History and English

QV31

BA Modern History Studies

V192

BA History and Heritage Studies

529B

Graddau Prif bwnc/Is-bwnc

Cod UCAS

BA History and Philosophy

VV5C

BA History with Education Studies

VL14

BA History and Theology

VV16

BA Medieval Studies with Latin

4KA9

BA Medieval History and Heritage Studies

43N1

233


Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio

Hanes yr Henfyd I’r myfyrwyr hynny sy’n frwd am yr hen fyd, mae Hanes yr Henfyd yn rhoi cyfle iddynt astudio hanes gwleidyddol, milwrol a chymdeithasol y byd Groegaidd-Rufeinig, ynghyd â phrif ddiwylliannau hen Fôr y Canoldir.

P’un ai a ydych yn frwdfrydig dros ryfela, crefydd, materion cymdeithasol neu arweinwyr a meddylwyr mawr yr hen fyd, mae ein graddau Hanes yr Henfyd yn rhoi cyfle ichi gloddio i’r diwylliannau sydd wedi llunio’r byd gorllewinol dros ddau fileniwm. Achubwch ar y cyfle i astudio sut y tyfodd Rhufain yn ymerodraeth, sut y cafodd Sparta yr enw chwedlonol sydd ganddi heddiw, sut lywiodd crefydd fywyd bob dydd ddwy fil o flynyddoedd yn ôl a sut goncrodd Alecsander y byd hysbys a’r dychymyg dynol. Gallwch hyd yn oed ddilyn eich diddordebau eich hun yn yr hen fyd drwy ein modylau astudio annibynnol.

7fed

234

Lleoliad y Cwrs: Llambed

Iaith: Saesneg

yn y DU am foddhad myfyrwyr yn Y Clasuron a Hanes yr Henfyd. Complete University Guide 2017

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser


Hanes yr Henfyd

Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Gradd Anrhydedd

Cod UCAS

BA Ancient Civilisations

V901

BA Ancient History

V110

BA Classical Civilisation

Q820

BA Conflict and War

9C3R

Graddau Cydanrhydedd

Cod UCAS

BA Ancient History and Archaeology VVD4 BA Ancient History and Anthropology LV61 Graddau Prif bwnc/Is-bwnc

Cod UCAS

BA Ancient History with Ancient Egyptian Culture

2M6D

BA Ancient History with Education Studies

VX13

BA Ancient and Medieval History

V115

BA Ancient History with Greek

T54N

BA Ancient History with Latin

38C3

100%

Cytunodd 100% o fyfyrwyr BA Hanes yr Henfyd Y Drindod Dewi Sant bod y staff yn dda am esbonio pethau. ACM 2017

235


Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio

Saesneg

ac Ysgrifennu Creadigol Mae Saesneg yn bwnc dynamig ac amryfal, yn amrywio o ddramâu dial gwaedlyd o’r Adfywiad i ffilmiau ysgubol cyfoes.

Mae’r radd Saesneg yn cyfuno ymrwymiad i’r darlun hanesyddol mawr mewn Astudiaethau Saesneg, gan gynnwys opsiynau mewn llenyddiaeth ganoloesol, gydag ymagwedd ymatebol at gyfeiriadau a phryderon newydd yn y pwnc. Mae Ysgrifennu Creadigol yn radd gyffrous a heriol a fydd yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau fel ysgrifennwr. Bydd y cwrs yn meithrin eich doniau creadigol ar draws amrywiaeth o wahanol ffurfiau a genres, yn cynnwys storïau byrion, sgriptiau ffilm, barddoniaeth, drama a nofelau. Mae hefyd yn bosibl astudio Saesneg neu Ysgrifennu Creadigol ar y cyd â Chyhoeddi, gan ganolbwyntio ar y broses ymarferol o gynhyrchu deunydd ysgrifenedig.

9fed

236

Lleoliad y Cwrs: Llambed

Iaith: Saesneg

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser

yn y DU am foddhad myfyrwyr mewn Ysgrifennu Creadigol. Complete University Guide 2018


Saesneg

Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Cod UCAS

BA English and Creative Writing

QW38

BA Creative Writing

W801

BA English and Heritage Studies

9C3W

BA English

Q300

BA English and History

QV31

BA English and Medieval Studies

VQ13

QW38

BA English and Philosophy

VQ53

96C3

BA English and Publishing

329B

Gradd Anrhydedd

Graddau Cydanrhydedd

Cod UCAS

BA Creative Writing and English BA Creative Writing and Heritage Studies

Graddau Prif bwnc/Is-bwnc

BA Creative Writing and Philosophy WV85

Cod UCAS

BA Creative Writing with Education Studies

385V

BA Creative Writing and Publishing 5RW2 BA English and Chinese Civilisation TQ13

BA English with Education Studies

QL34

BA English and Classical Studies

QQ38

237


Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio

Treftadaeth Gyda’ch rhagolygon cyflogadwyedd mewn golwg, mae’r rhaglen BA Astudiaethau Treftadaeth wedi’i chynllunio ar gyfer y rheiny a chanddynt ddiddordeb yn y sector treftadaeth ac sy’n ystyried gyrfa mewn cadwraeth a threftadaeth.

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth eang a gwerthfawrogiad o dreftadaeth sy'n cynnwys lleoliad gwaith yn ail a thrydedd blynyddoedd eich astudiaethau. Yn ogystal â’r ddealltwriaeth eang hon, cewch hefyd gyfle i ffocysu ar agwedd benodol ar dreftadaeth: Archifau ac Amgueddfeydd, neu Archaeoleg Forwrol a chadwraeth arteffactau a ddarganfyddir mewn amgylcheddau morol. Byddwch yn rhan o gymuned gref ar gampws Llambed, lle mae myfyrwyr yn elwa o leoliad delfrydol Llambed ac yn gallu cyrchu safleoedd treftadaeth gan gynnwys cestyll Cymru, safleoedd mynachaidd, ac Abatai Sistersaidd.

Mae myfyrwyr yn cael profiad ymarferol gyda deunydd archif a deunydd printiedig. Os byddwch yn dewis modylau penodol, byddwch yn dysgu am gadwraeth ataliol a digido deunydd.

Sarah Roberts Archifydd yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen ar gampws Llambed

238

Lleoliad y Cwrs: Llambed

Iaith: Saesneg

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser


Treftadaeth

Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Gradd Anrhydedd

Cod UCAS 3B5D

BA Heritage Studies Graddau Cydanrhydedd

Cod UCAS

BA Heritage Studies and Medieval History BA Heritage Studies and English

43N1 9C3W

BA Heritage Studies and Creative Writing

96C3

4B29

BA Heritage Studies and Chinese Studies

5B29

8V3Q

BA Heritage Studies and Theology

3X29

BA Heritage Studies and History

529B

BA Heritage Studies and Archaeology BA Heritage Studies and Anthropology

BA Heritage Studies and Philosophy 73D7

BA Heritage Studies and Religious Studies

9C2M

239


Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio

Astudiaethau Celtaidd Mae’r rhaglen dysgu o bell unigryw hon yn caniatáu i chi astudio amrywiaeth eang o fodylau ar agweddau ar hanes, llenyddiaeth a threftadaeth ddiwylliannol gyfareddol y rhanbarthau Celtaidd, heb i chi symud cam o’ch cartref.

Mae nifer o’r ysgolheigion mwyaf blaenllaw ym maes Astudiaethau Celtaidd wedi dod at ei gilydd i lunio rhaglen newydd arloesol sy’n hyfforddi myfyrwyr mewn pynciau megis y Celtiaid cynnar, y derwyddon a chrefyddau’r Celtiaid, hanes cymdeithasol yr ieithoedd Celtaidd, bucheddau’r seintiau Celtaidd, llenyddiaeth a chwedlau gwerin Celtaidd, rhyddiaith a barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, portreadau o Lydaw a Chernyw, enwau lleoedd Cymraeg a Cheltaidd, a dylanwad mytholeg Geltaidd ar ysgrifennu cyfoes. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol am yr holl ieithoedd Celtaidd ar gyfer y rhaglen hon, gan fod y myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn astudio’r testunau naill ai yn y Gymraeg neu mewn cyfieithiad. Rhoddir cyfle i fyfyrwyr fireinio’u Cymraeg yn rhan o’r rhaglen ac mae hefyd yn bosibl i fyfyrwyr sy’n dysgu’r Gymraeg barhau i ddysgu’r iaith neu ddewis astudio’u modylau yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Saesneg (gweler ‘BA Celtic Studies’ yn y prosbectws cyfrwng Saesneg).

240

Lleoliad y Cwrs: Llambed

Iaith: Cymraeg, Saesneg

Opsiynau Astudio: Llawn amser, rhan amser - Dysgu o bell yn unig


Astudiaethau Celtaidd

Pam Dewis Y Drindod Dewi Sant?

120

Credyd Cyfrwng Cymraeg

Mae'r cwrs yma yn gymwys am Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Ysgoloriaeth William Salesbury. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18, neu www.colegcymraeg.ac.uk

Gan fod y radd hon yn cael ei haddysgu trwy ein cynllun dysgu o bell unigryw, gallwch barhau i weithio a chyflawni’ch ymrwymiadau teuluol wrth i chi astudio

Addysgir y modylau gan ysgolheigion o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sydd wedi cyhoeddi’n helaeth yn eu meysydd arbenigol

Byddwn yn eich tywys trwy rai o’r testunau pwysicaf a ysgrifennwyd erioed yn y Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd (mewn cyfieithiad) ac yn eich helpu i’w darllen yn feirniadol

Byddwch yn dysgu ble mae dod o hyd i’r ffynonellau pwysicaf ar y Celtiaid a sut i gwestiynu’r gwahanol fersiynau o'r gorffennol a gyflwynwyd gan haneswyr, ieithyddion, llên-gwerinwyr ac archaeolegwyr

Cewch gyfle i fod yn greadigol a meithrin dealltwriaeth o'r mesurau caeth Cymraeg hynafol, yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol, gydag un o brif awduron Cymru

Gallwch fanteisio ar y cyfle i loywi’ch Cymraeg ysgrifenedig o bell a mynychu ein cwrs iaith preswyl, dewisol yng nghanol y Fro Gymraeg yng Ngheredigion.

Cod UCAS y BA: Q500

241


s Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio

Datblygiad Rhyngwladol

Dyngarwch a’r Gyfraith Rydym yn chwilio am fyfyrwyr rhagweithiol a chanddynt ddiddordeb brwd ym materion y byd ac sydd eisiau gwneud gwahaniaeth positif i'r byd ar raddfa leol, genedlaethol a rhyngwladol.

242

Lleoliad y Cwrs: Llambed

Iaith: Saesneg

Mae’r rhaglen radd hon yn unigryw yn yr hyn y mae’n ei gynnig, gan ei bod yn cwmpasu tri phwnc Datblygiad Rhyngwladol, Dyngarwch a'r Gyfraith, gan roi i bob myfyriwr ddealltwriaeth, gwybodaeth ac, yn hanfodol, sgiliau cynhwysfawr sydd eu hangen i wynebu heriau byd-eang yr 21ain ganrif. Drwy ddysgu a chydweithio gydag arbenigwyr ar ddatblygiad rhyngwladol, dyngarwch a'r gyfraith, nod y rhaglen hon yw darparu gwybodaeth a sgiliau cynhwysfawr sy'n berthnasol i heriau mor amrywiol â thlodi, dyled y Trydydd Byd, globaleiddio, gwrthdaro, trychineb naturiol ac ansefydlogrwydd gwleidyddol. Gan ddefnyddio gwybodaeth, profiad a sgiliau o weithrediadau maes yn y sector, bydd y rhaglen hon yn rhoi i’r rheiny sy’n dymuno gweithio mewn cyrff anllywodraethol, amgylcheddau diplomataidd, llywodraethol ac amlgyfrwng, yn ogystal â’r sector datblygiad rhyngwladol ehangach, y sgiliau y bydd arnynt eu hangen. Caiff cyflogadwyedd a sgiliau myfyrwyr eu cyfoethogi ymhellach gan y cyfle i ymgymryd â phrofiad gwaith ‘yn y maes’ gydag asiantaethau perthnasol dramor ac yn y DU.

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser


Datblygiad Rhyngwladol

Byddwch yn dysgu a chydweithio gyda gweithwyr proffesiynol sydd i gyd wedi gweithio yn y sector datblygiad rhyngwladol ac yn gallu darparu toreth o wybodaeth.

Diolch i’r foeseg gymunedol gre sydd ar gampws Llambed, cewch hefyd gyfle i gyfrannu at, a chreu, digwyddiadau

a gweithgareddau yng nghymuned Llambed, gan gyfoethogi’r gymuned myfyrwyr lleol a’ch dysgu eich hun.

Cyfle unigryw i ymgymryd â lleoliad gwaith o fewn asiantaethau perthnasol. Er enghraifft, gall myfyrwyr ddewis gweithio gyda’r elusen ‘Streets Ahead’ sy’n rhedeg canolfannau ar gyfer plant y stryd yn Rwanda.

Cod UCAS y BA: 156Y

243


Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio

Gwleidyddiaeth ac Economeg Ar adeg pan fo’r byd yn wynebu ansicrwydd gwleidyddol a chymdeithasol, bydd ein llwybrau gradd yn rhoi i fyfyrwyr y wybodaeth, dealltwriaeth, mewnwelediadau a sgiliau priodol sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r heriau hyn ym mha bynnag lwybrau gyrfa y bydd graddedigion yn dymuno eu dilyn.

244

Lleoliad y Cwrs: Llambed

Iaith: Saesneg

Mae maint y dosbarthiadau yn sicrhau bod pob myfyriwr yn elwa o lawer iawn o sylw personol, ac fe’u hanogir i gymryd rhan weithredol yn eu dysgu. Golyga’r cydweithio hwn bod yna awyrgylch cyfeillgar, agored ac ymlaciol, lle gellir rhannu syniadau’n agored, a lefel uchel o ryngweithio rhwng y myfyriwr a’r darlithydd. Gallwn gynnig ichi’r gefnogaeth, yr amser a’r sylw y mae arnoch eu hangen i ddatblygu a mireinio eich sgiliau academaidd, p’un ai a yw hynny’n golygu trafod strwythur traethodau, datblygu dadleuon neu dechnegau ysgrifennu.

Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser


Gwleidyddiaeth ac Economeg

Cynlluniau Gradd Political Ecology Cod UCAS: BA 114D

Y rhaglen radd hon yw'r sylfaen i unrhyw un sy'n ymddiddori mewn deall yr amgylchedd(au) o’u cwmpas a’r ffyrdd y gall y byd a chymunedau gynnal eu hunain ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Caiff hyn ei archwilio'n bennaf drwy ystyriaethau ecolegol, gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd. Erbyn eich seremoni raddio, bydd gennych ddealltwriaeth gynhwysfawr o faterion amgylcheddol mewn perthynas â gwleidyddiaeth, cymdeithas, diwylliant ac economeg, yn ogystal â'r hyder a'r set sgiliau sydd eu hangen i symud i fyd gwaith.

Ethical and Political Studies Cod UCAS: BA D429

Philosophy, Politics and Economics Cod UCAS: BA 124S

Mae’r rhaglen radd hon yn tynnu ar fethodolegau anthropolegol, athroniaethol, hanesyddol a gwleidyddol i archwilio ystod eang o ystyriaethau moesegol a gwleidyddol. Mae’r rhain yn cynnwys newid yn yr hinsawdd, moeseg rhyfel, natur a moeseg protest wleidyddol, tlodi, hawliau anifeiliaid, moeseg feddygol, natur perthnasoedd cymdeithasol a natur a maint ein goblygiadau i eraill.

Bydd y radd hon yn rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth sylfaenol o’r ffordd y mae cymdeithasau a’r byd yn gweithio, trwy dair disgyblaeth athroniaeth, gwleidyddiaeth ac economeg. Bydd strwythurau gwleidyddol y DU ac Ewrop yn cael eu harchwilio, ochr yn ochr â fframweithiau cymdeithasol ac athronyddol cysylltiedig.

245


Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio

Sinoleg Mae sylwebwyr wedi hen wybod bod Tsieina yn parhau’n un o wareiddiadau hynaf y byd, a chaiff diwylliant hynafol Tsieina ei siapio a’i lywodraethu gan bwyslais ar werthoedd traddodiadol, duwioldeb mabol a choffâd cyndadol.

246

Lleoliad y Cwrs: Llambed

Iaith: Saesneg, Tseineaidd

Opsiynau Astudio: Llawn amser


Sinoleg

Mae’r BA newydd mewn Sinoleg yn cynnig rhaglen o astudiaethau sy’n archwilio i dreftadaeth, diwylliant, iaith a chrefyddau Tsieina hynafol, ac yn ceisio rhoi i fyfyrwyr wybodaeth gadarn a helaeth o werthoedd, syniadau a mewnwelediadau Tsieineaidd. Cyflwynir y rhaglen BA unigryw hon gan staff arbenigol yn yr Academi Sinoleg newydd. Wedi’i leoli’n bennaf ar gampws hyfryd Llambed, mae hwn yn sefydliad ar y cyd a lansiwyd drwy bartneriaeth rhwng Sefydliad Addysg Amlddiwylliannol Chin Kung a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Gan weithio drwy destunau, delweddau, gwaith dwfn a lluniau hynafol, bydd yr Academi yn tywys myfyrwyr tuag at ddealltwriaeth fwy dwfn o rai o glasuron Tsieina hynafol (Egwyddorion Llywodraethol Tsieina Hynafol, Pedwar Cainc Llenyddiaeth a’r ‘Sutras’) ac ymwybyddiaeth o rai o’r syniadau a dysgeidiaethau dwfn a ddarperir gan etifeddiaethau a adawyd ar ôl y Bwda, Confucius a Laozi.

Gyrfaoedd • Athrawon ac addysgwyr • Gwaith cyfieithu • Mentrau busnes a masnachol moesegol • Gwaith a phrosiectau cymunedol • Ymchwilwyr academaidd • Gwaith teithio a threftadaeth

Cyrsiau Tystysgrif Sylfaen mewn Sinoleg Tystysgrif Cyn-Feistr mewn Sinoleg Cyflwynir y ddau ddyfarniad yma drwy ddulliau ar-lein a chyfunol.

Cod UCAS y BA: SI01

247


Astudiaethau'r Gweithle a

Dysgu Seiliedig ar Waith Cyrsiau llawn-amser sydd yn cael eu cynnal yn y gymuned gyda'r nos ac ar y penwythnosau Mae Tystysgrif Sgiliau ar gyfer y Gweithle a BA Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer y Gweithle yn gyrsiau sydd wedi eu cynllunio i gynorthwyo pobl i ddatblygu yn y gweithle, i ganfod gwaith neu ddychwelyd i fyd gwaith gyda sgiliau newydd. Mae'r cyrsiau yn cael eu cynnig yn Abertawe, Caerdydd, Pontypridd, Llanelli, Casnewydd, Caerfyrddin, Penybont a Tidworth. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: sfwp@uwtsd.ac.uk

Mae'r cwrs wedi fy nghynorthwyo i ddatblygu fy hyder a chael dyrchafiad yn y gwaith. Rwyf bellach yn rheolwr banc.

Hannah Maund

248

Cod UCAS: Gwnewch gais yn uniongyrchol i'r Brifysgol


Dysgu Seiliedig ar Waith

Athrofa Cymru ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith

Mae Athrofa Cymru ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr, sydd hefyd yn gweithio, i ennill cymhwyster mewn Arfer Proffesiynol. Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth eang o ddyfarniadau ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig o fewn Fframwaith Arfer Proffesiynol arloesol ac arobryn. Mae’r ddarpariaeth yn gwbl seiliedig ar y gweithle ac ym mhob achos, mae’r rhaglenni wedi eu datblygu ar y cyd â diwydiant, busnes a’r cyrff cyhoeddus perthnasol i sicrhau ein bod, fel Prifysgol, yn diwallu anghenion dysgwyr a chyflogwyr.

Lleoliad

Mae wedi’i leoli yn y gweithle ac yn ymwneud yn uniongyrchol â’ch cyd-destun chi. Am ragor o wybodaeth ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/acdsw/

249


Gwasanaethau Myfyrwyr

Cymorth i bob

Myfyriwr Nod Y Drindod Dewi Sant yw eich cefnogi i gyrraedd eich llwyr botensial trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ymarferol ac emosiynol i chi. Llety

Pobl sy’n Gadael Gofal

Bydd ein Swyddfa Llety yn hapus iawn i’ch helpu neu gynnig cyngor i chi.

Yn ogystal â darparu bwrsariaeth ar gyfer pobl sy’n gadael gofal, mae’r brifysgol hefyd yn darparu prif berson cyswllt ar eu cyfer ar bob campws. Fel rhan o’r cymorth ymarferol a roddir, ceir mynediad i lety drwy gydol y flwyddyn.

Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog Yn llofnodwyr i Gyfamodau Cymunedol Lluoedd Arfog Sir Gâr ac Abertawe, mae gan Y Drindod Dewi Sant berson cyswllt i ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar ddewis y cwrs iawn, hawliau ariannol a’r broses gwneud cais a gall hefyd gyfeirio pobl at asianataethau partner y cyfamod ynglŷn â chael help mewn meysydd eraill yn ogystal.

250

Gyrfaoedd Mae ymgynghorwyr gyrfaoedd proffesiynol ar law i helpu. Mae adnoddau ar-lein, canllawiau hunan-helpu ac e-ganllawiau a swyddi gwag yn cael eu hysbysebu ar Twitter a Facebook.


Mae Y Drindod Dewi Sant yn cynnig dros ÂŁ1m mewn ystod o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i gefnogi myfyrwyr talentog o bob cefndir.

251


Gwasanaethau Myfyrwyr

Gofalwyr – myfyrwyr gyda chyfrifoldebau gofal Gall ein heiriolwr gofalwyr penodol roi cyngor ar yr help ariannol ac ymarferol sydd ar gael yn y brifysgol, elfennau ymarferol astudio a sut i reoli amser a llwyth gwaith.

Caplaniaeth, Capeli ac Ystafelloedd Gweddi Mae’r Drindod Dewi Sant yn croesawu’r rheiny a chanddynt grefydd a’r rheiny sy’n ddigrefydd. Mae caplaniaid y brifysgol yn darparu cymorth i fyfyrwyr allu archwilio eu crefydd ynghyd â gofal bugeiliol i bob aelod o’r brifysgol. Ar gampws Caerfyrddin mae gennym gapel, yn Llambed mae yna gapel, mosg a chylch paganaidd ac yn Abertawe mae gennym ystafelloedd gweddïo.

Gofal plant Yn ogystal â darparu cyngor a chymorth cyffredinol, mae cymorth ariannol ar gael i fyfyrwyr israddedig llawn-amser a rhan-amser nad ydynt yn derbyn Grant Gofal Plant neu Gredydau Treth Gofal Plant.

Cymorth i Fyfyrwyr Rhyngwladol Mae gennym hefyd Swyddog Cymorth Myfyrwyr Rhyngwladol sy’n darparu cymorth bugeiliol i fyfyrwyr rhyngwladol.

Cwnsela ac Iechyd Meddwl Mae gennym gwnselwyr proffesiynol ar bob prif gampws – gan gynnwys cwnselydd Cymraeg ei hiaith ar Gampysau Caerfyrddin a Llambed, cysylltiadau gydag asiantaethau arbenigol a gwybodaeth ar gyrchu cymorth yn ogystal ag ymgynghorwyr iechyd meddwl proffesiynol a mentoriaid arbenigol.

Cymorth a chyngor ariannol Mae swyddog cyllid myfyrwyr pwrpasol ar bob prif gampws. Mae yna ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chronfa caledi prifysgol yn ogystal â chyngor ymarferol ar reoli eich arian.

Cymorth dysgu Rydym yn cynnig cymorth i unrhyw fyfyriwr anabl. Mae sgrinio ac asesu ar gael ar gyfer gwahaniaethau dysgu penodol, help i hawlio Lwfansau Myfyrwyr Anabl, tîm o staff arbenigol gan gynnwys Cydlynydd Cymorth Dysgu ac Ymgynghorydd Anabledd ar bob prif gampws.

Meddygol Rydym yn eich annog i gofrestru gyda meddygfa leol pan fyddwch yn cyrraedd y Brifysgol. Mae’r Brifysgol yn gweithio ar y cyd â Meddygfa San Pedr yng Nghaerfyrddin, Canolfan Meddygol Llambed a Meddygfa Kingsway yn Abertawe wrth ddarparu darpariaeth gofal iechyd ar gyfer ein myfyrwyr.

Dychwelyd i astudio ac astudiaethau rhan amser Mae help a chyngor ar ddewis y cwrs iawn, a’r broses gwneud cais, ar gael gan staff profiadol. Am ragor o wybodaeth ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/gwasanaethau-myfyrwyr

252


Adeiladu eich

dyfodol

Astudiwch yn Y Drindod Dewi Sant ac fe allech raddio gyda mwy na gradd. Caiff eich angerdd at eich pwnc ei feithrin trwy eich astudiaethau academaidd a byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i dyfu, meithrin eich sgiliau a pharatoi at y dyfodol. Codwch ar eich traed ac ewch amdani

Dywedwch wrthym beth ‘ych chi eisiau

Rhowch hwb i’ch sgiliau entrepreneuraidd trwy ddigwyddiadau fel ‘Pizza with a Pro’ a’r Ras i'r Farchnad.

Fel myfyriwr yn Y Drindod Dewi Sant, byddwch wrth wraidd popeth a wnawn felly mae ein tîm profiad myfyrwyr yn sicrhau bod cyfleoedd rheolaidd i chi fynegi eich barn. Cymerwch ran a gwnewch wahaniaeth i chi a’ch cyd-fyfyrwyr.

Paratowch am ddyfodol cynaliadwy Datblygwch eich gwybodaeth am gynaliadwyedd drwy ystod o ddigwyddiadau, gwnewch gais am interniaeth Inspire a chymerwch ran yn ein rhaglen dystysgrif.

Cyfathrebwch mewn mwy nag un iaith Mae gennym gyrsiau, ysgoloriaethau a bwrsariaethau cyfrwng Cymraeg a chyfleoedd i ddysgu’r iaith yn ogystal â chymdeithasau a digwyddiadau cymdeithasol Cymraeg.

Dyluniwch eich Bywyd Dyluniwch a chrëwch yrfa a ffordd o fyw sy’n gweithio i chi trwy ein rhaglen Dylunio Bywyd.

Astudiwch Dramor Mae llawer o’n cyrsiau yn cynnig cyfle i fyfyrwyr y DU astudio dramor a chael y gorau o’r ddau fyd, gartref a thramor.

#OAstudiaethiGyflogaeth Caiff sgiliau cyflogadwyedd eu mewnosod yn ein cyrsiau i helpu myfyrwyr i baratoi at fywyd ar ôl y brifysgol. Mae cyflogwyr ac arbenigwyr menter yn ymweld â’r brifysgol a chynigir cyfleoedd interniaeth a phrofiad gwaith a chymorth i fyfyrwyr. Am ragor o wybodaeth ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/bywyd-myfyrwyr/

253


Rhyngwladol

Profiad Myfyrwyr

Gwirioneddol Fyd-Eang Er bod Y Drindod Dewi Sant wedi ei gwreiddio’n ddwfn ym mhridd a daear Cymru, y mae’n sefydliad sydd hefyd wedi ei gysylltu’n agos â nifer o bartneriaid rhyngwladol. 254


Cyfoethogir yr addysg a ddarperir ar ei champysau gan bresenoldeb nifer cynyddol o fyfyrwyr o dramor. Gwna’r rhain gyfraniad allweddol i’r broses o ddatblygu ei myfyrwyr cartref yn ddinasyddion byd-eang. Mae gan y Brifysgol gysylltiadau agos â nifer o bartneriaid dylanwadol yng Ngogledd America, Asia ac Affrica a gwelir staff a myfyrwyr y Brifysgol yn ymweld â’r rhain yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn academaidd. Mae’r Brifysgol yn gartref i Sefydliad Confucius cyntaf Cymru ac i Academi Cymru- America, i ddathlu dylanwad Cymru yn yr Unol Daleithiau. Mae nifer o wledydd yn y Dwyrain Canol yn elwa’n sylweddol ar arbenigedd y Brifysgol trwy waith ymchwil rhai o’i staff a chwricwlwm arbenigol nifer o’i Hysgolion. Mae’r rhagolwg rhyngwladol hwn a’r cysylltiadau byd-eang hyn yn ffurfio sylfeini newydd ar gyfer dyfodol ein cymuned addysgu a dysgu unigryw.

Cyfleoedd i Astudio Dramor ac i fynd ar Leoliadau Gwaith Dramor

Mae’r Brifysgol yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i fyfyrwyr dreulio amser dramor yn ystod eu hastudiaethau, boed hynny ar leoliad gwaith rhyngwladol neu yn rhan o’n rhaglen astudio dramor. Mae nifer o’n rhaglenni gradd yn cynnig lleoliadau gwaith ac mae myfyrwyr yn cael lleoliadau mewn mannau fel Califfornia, Dubai a Groeg.

Mae'r Brifysgol yn ffantastig gyda darlithwyr gwych a staff sydd wedi fy helpu drwy gydol fy mlwyddyn olaf.

Mae treulio amser dramor fel rhan o’ch cwrs yn eich galluogi i ehangu eich gorwelion, i brofi gwahanol ddiwylliannau ac i ddatblygu’ch sgiliau, gwybodaeth a hyder. Mae myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn ein lleoliadau gwaith dramor neu gynlluniau astudio dramor yn canmol y profiad i’r eithaf.

Shaun Liew

BA Chwaraeon a Iechyd, Canada

UWTSDGLOBAL

255


Rhyngwladol

Astudio Dramor

gyda'r Drindod Dewi Sant

256


Mae teithio’n ehangu’r meddwl. Mae manteision astudio dramor gyda’r Drindod Dewi Sant hefyd yn cynnwys rhoi hwb i’ch hyder a’ch gwneud yn fwy deniadol i gyflogwyr. Yn Y Drindod Dewi Sant, mae llawer o’n cyrsiau’n cynnig cyfle i fyfyrwyr y DU astudio dramor mewn rhaglenni sefydledig. Mae hyn yn rhoi cyfle gwych i chi ymestyn eich sgiliau a datblygu eich rhinweddau, fel datrys problemau, pendantrwydd, dawn ymgyfaddasu a gwybodaeth o ieithoedd.

Mae lleoedd ar gyfer astudio dramor yn gyfyngedig, felly fe’ch cynghorwn i ddatgan eich diddordeb cyn gynted â phosibl. Hefyd, gallai fod cefnogaeth ariannol ar gael i’ch cynorthwyo. Mae'r broses o gymeradwyo cyfnodau o astudio dramor yn amodol ar weithdrefnau derbyn Ysgolion. Gall astudio dramor newid eich bywyd, felly mae’n werth dysgu rhagor amdano.

Gall ein harbenigwyr yn Swyddfa Ryngwladol y Brifysgol eich arwain a'ch cefnogi, fel y cewch y gorau o'r ddau fyd, gartref a thramor, pan fyddwch yn manteisio ar y cyfleoedd Astudio Dramor sydd ar gael ichi. Gallwch ddewis astudio yn Ewrop drwy gynllun Erasmus neu ymhellach i ffwrdd drwy'r cynllun Astudio Dramor, sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio naill ai gradd BA neu BSc mewn llawer o’r rhaglenni gradd yn Y Drindod Dewi Sant. Mae gennym gysylltiadau yn UDA, Canada, Tsieina, Malaysia ac ar draws Ewrop.

Rwyf wrth fy modd yn teithio, felly pan welais fy mod yn gallu astudio dramor fel rhan o’m gradd roeddwn wedi cyffroi’n lân. Gwelais fy nghwrs o safbwynt newydd a chefais gymaint o brofiadau sydd wedi newid fy mywyd. Ni fyddwn wedi gallu ei wneud heb gymorth anhygoel y Swyddfa Ryngwladol! Byddwn yn argymell i bawb fynd amdani; mae'r broses mor rhwydd.

Gwyneth Sweatman BSc Seicoleg, Y Coleg Presbyteraidd, De Carolina, UDA

257


INSPIRE

Paratowch at

ddyfodol cynaliadwy Mae gwneud gwahaniaeth yn y byd yn golygu mwy nag ennill gradd dda a bod yn barod ar gyfer eich gyrfa.

ymrwymiad i Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF).

Yn Y Drindod Dewi Sant, rydym yn cydnabod y bydd angen cael addysg gynhwysfawr arnoch sy’n eich galluogi i wneud penderfyniadau hirdymor gwell drwy ystyried effaith gweithredoedd heddiw ar genhedlaeth y dyfodol ac i ddysgu byw o fewn y terfynau amgylcheddol. Mae datblygu eich ymwybyddiaeth o’r ystyriaethau hyn yn mynd i sicrhau eich bod mewn safle cryf o fewn y farchnad swyddi ryngwladol.

Rydym yn sicrhau bod Datblygiad Cynaliadwy wedi’i fewnosod yn holl ddysgu, addysgu, cyrsiau, campysau, cymuned a diwylliant Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i sicrhau bod graddedigion y dyfodol yn ymwybodol o’r byd y maent yn byw ynddo ac yn ddinasyddion cyfrifol yn yr 21ain ganrif. Nid dim ond cynnwys y modylau y byddwch yn eu cymryd a fydd yn ymgorffori’r ethos hwn, ond hefyd y ffordd yr ydym yn addysgu.

Mae dyfodiad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, y gyntaf o’i bath yn y byd, yn golygu bod lles cenedlaethau’r dyfodol yn mynd i fod yn greiddiol i holl benderfyniadau’r llywodraeth. Mae’n bwysicach nag erioed felly bod ein graddedigion yn deall gwerth gwneud penderfyniadau cynaliadwy. Mae’r Brifysgol, drwy waith arobryn ein Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi ac Effeithiolrwydd Adnoddau (INSPIRE), wedi gwneud

Ers ei ddechrau yn 2012, mae INSPIRE wedi ennill gwobr y Guardian am Gynaliadwyedd mewn Addysg Uwch yn 2013, Nod Arlwyo Aur gan Gymdeithas y Pridd yn 2014 am ein cefnogaeth i gynnyrch lleol - ac yn 2015, cododd Y Drindod Dewi Sant o’r 113eg safle yn y DU a gradd trydydd ddosbarth, i Radd Ddosbarth 1af ac 8fed yn y DU a 1af yng Nghymru yn y People and Planet University League.

258


Gwobrau’r Green Gown

Yn 2015, cafodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant dair Gwobr Green Gown, ac un clod uchel, am ei gwaith ar gynaliadwyedd ym maes Addysg Uwch, gan gynnwys gwobr Newydd-ddyfodiaid Gorau a gwobr arweinyddiaeth.

People and Planet

Byd sy’n Newid:

Y Drindod Dewi Sant oedd y sefydliad cyntaf yng Nghymru i gynnal yr arddangosfa ffotograffiaeth awyr agored arwyddocaol a ddathlwyd yn fyd-eang, ‘WHOLE EARTH?’ sy'n ceisio cynnwys y cenedlaethau iau yn y ddadl am gynaliadwyedd.

Rydym yn rheoli ein hadeiladau a'n campysau i safon Lefel 5 Y Ddraig Werdd - y safon uchaf yng Nhymru. Yn 2015, enillodd y Brifysgol 3 gwobr Green Gown, ac un clod uchel, am ei gwaith ar gynaliadwyedd yn y sector Addysg Uwch, gan gynnwys gwobr y Newydd-ddyfodiaid Gorau a hefyd gwobr arweinyddiaeth i gyfarwyddwraig INSPIRE, Dr Jane Davidson. O fwyd i gyfarfodydd, addysgu i arweinyddiaeth, mae’r Brifysgol yn chwilio am ffyrdd i archwilio a gosod arfer cynaliadwy ym mhopeth a wnawn. Y mae’r Brifysgol yn cydnabod bod y Gymraeg a chynnal cymunedau Cymraeg i’r dyfodol yn rhan greiddiol o ddatblygu cynaliadwy yng Nghymru. Y mae hyn yn un o’r prif resymau ei bod yn ceisio darparu addysg Gymreig a Chymraeg bob amser lle bo hynny’n ymarferol bosibl.

Daeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn 1af yn y People and Planet University League am safonau amgylcheddol a moesegol.

Gwobr y Guardian

Enillodd prosiect INSPIRE wobr y Guardian am y prosiect cynaliadwyedd gorau yng Ngwobrau Prifysgolion y Guardian 2013.

Gallwch gymryd rhan yng ngwaith INSPIRE drwy’r interniaethau cyflogedig sydd ar gael i israddedigion yn flynyddol ar draws ein campysau. Mae Green Impact yn gynllun achredu a gwobrwyo, sydd wedi cael ei ddatblygu gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, ac mae’n tynnu at ei gilydd dimau o staff ar draws y Brifysgol sy’n chwarae rôl allweddol i leihau effeithiau amgylcheddol negyddol y gweithle a hybu rhai cadarnhaol. Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan drwy weithio fel archwilwyr a thrwy ryngweithio gyda’r timau i adnabod eu cyflawniadau gydol y flwyddyn.

259


Yr Athrofa

Ysgogi newid cadarnhaol mewn

addysg 260


“Trawsnewid Addysg, Trawsnewid Bywydau” yw cenhadaeth uchelgeisiol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac mae'n cadarnhau ein hymrwymiad i wella ansawdd addysg i bawb yng Nghymru. Yn yr ysbryd yma, yn 2015, lansiodd y Brifysgol ei 'Hadduned Addysgol: Cyfle Newydd i Arwain’, a amlinellodd sut y byddwn yn gweithio gyda phartneriaid proffesiynol i greu cymunedau dysgu hyderus ac adfyfyriol. Er mwyn helpu i ailstrwythuro ein darpariaeth bresennol yn barod am yr heriau i ddod, sefydlodd y Brifysgol Yr Athrofa – i annog a chefnogi newid addysgol yng Nghymru.

Mae datblygiad Yr Athrofa yn datgan ymagwedd newydd ac arloesol at addysg athrawon, gyda’r Brifysgol a’i hysgolion partneriaeth yn gyd-gyfrifol am adeiladu a chyflwyno’r holl raglenni hyfforddi. Rydym yn cydnabod mai ysgolion a’u staff yw’r cyfryngau gorau a all sicrhau newid ac rydym wedi ein hymrwymo’n hunain yn llwyr i helpu i annog newid cadarnhaol o fewn y system addysg yng Nghymru.

Bu Dr Dylan Jones, arweinydd ysgol profiadol a benodwyd yn Gyfarwyddwr Yr Athrofa ym mis Ionawr 2016, yn gweithio mewn ysgolion am bron i 30 o flynyddoedd sy’n cynnwys yn agos i 20 mlynedd fel pennaeth mewn tri gwahanol leoliad. Mae gan Yr Athrofa dair gydran – ein Partneriaeth Dysgu Proffesiynol, Canolfannau Ymchwil ac Arloesi a Chomisiwn Addysg Cymru – sy’n adeiladu ar hanes balch addysg athrawon yn Ne Orllewin Cymru.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.athrofa.cymru

261


Undeb Myfyrwyr

Yma i chi P’un ai a oes angen cyngor, cefnogaeth neu noson allan dda arnoch, mae Undeb y Myfyrwyr yma i’ch helpu. Elusen yw Undeb y Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant sy’n cael ei rhedeg gan gynrychiolwyr etholedig sy’n gweithio’n galed i sicrhau eich chi’n cael y profiad prifysgol gorau posibl yma yn Y Drindod Dewi Sant. Rydych yn aelod yn awtomatig unwaith i chi gofrestru. Golyga ein system gynrychiolaeth, dan arweiniad ein swyddogion sabothol ar draws ein holl gampysau, bod gennych, gyda'n cymorth ni, lais cryf iawn i fynegi’ch barn wrth y Brifysgol ar ba bynnag faterion sy’n mynd â’ch bryd.

Gallwn eich helpu... wrth ichi astudio

Gyda’n gilydd, rydym yn eich helpu i newid pethau sy’n effeithio arnoch – rydym yn mynd i’r afael â rheolau a pholisïau lle nad ydynt yn gweithio. Rydym yn gwneud yn siwr bod cyllid yn cael ei fuddsoddi lle mae

262

arnoch chi ei eisiau a’i angen. Hefyd, mae Undeb y Myfyrwyr yn cefnogi myfyrwyr i fod yn gynrychiolwyr cwrs, ac i geisio gwella pethau ar eu cyfer nhw eu hunain a’u cyd-fyfyrwyr.

... tu hwnt i’r llyfrau

Mae'r Drindod Dewi Sant yn rhoi’r lle ichi wneud ffrindiau. Ein gweithgareddau myfyrwyr, ar draws y tri champws, yw canolbwynt bywyd myfyrwyr - adloniant, chwaraeon, clybiau, cymdeithasau, prosiectau gwirfoddoli. Mae’n debyg y gwnewch chi ddysgu gwell sgiliau bywyd yn y brifysgol y tu allan i’r ystafell seminar neu lyfrgell, felly gwnewch y siwr eich bod yn manteisio ar y cyfleoedd tra eich bod yn fyfyriwr.


... pan fydd pethau’n mynd o’i le

Yn gymdeithasol, corfforol, meddyliol neu'n academaidd, mae angen ychydig o gymorth neu gyngor annibynnol ar bawb o bryd i’w gilydd. Mae Undeb Y Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant yn gwneud yn siwr bod cymorth ar gael ac yn hygyrch i’n holl fyfyrwyr.

... yn yr hir dymor

Unwaith y flwyddyn, caiff myfyrwyr eu hethol i weithio’n llawn amser i Undeb y Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant. Mae’r swyddogion a etholir yn arwain cyfeiriad hir dymor Undeb y Myfyrwyr, gan wneud yn siŵr ein bod yn mynd i’r afael â'r materion pwysicaf i'n myfyrwyr - ariannu, costau byw, ansawdd yr addysgu ac ati - ar draws nifer o flynyddoedd.

Gallwch leisio’ch barn am y gwaith y mae Undeb y Myfyrwyr yn ei wneud drwy ethol eich cynrychiolwyr a chyfrannu at gyngor myfyrwyr Undeb y Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant. union@tsd.ac.uk www.tsdsu.co.uk/cymraeg www.facebook.com/tsdsu www.twitter.com/tsdsu

Ar hyn o bryd, mae gennym 55 o glybiau a chymdeithasau chwaraeon Team TSD ac mae mwy'n cael eu hychwanegu bob mis. Pam na wnewch chi ddechrau un eich hun?

263


Ymchwil

Mae ein hymchwil

yn arwain at ganlyniadau Mae ymchwil yn tanategu gweledigaeth y Brifysgol i drawsnewid, datblygu a rhoi siâp ar ddyfodol pobl. Yn fyfyriwr yn Y Drindod Dewi Sant, byddwch yn elwa ar fewnolwg ymchwil y byd go iawn sy’n bwydo ein haddysgu, ac o fod yn rhan o gymuned ddysgu fydeang sy’n ymroi i gael effaith bositif ar y byd ehangach. Nid yn unig y mae’n ymestyn y gronfa wybodaeth, ond mae’r Brifysgol yn gwrando ar ac yn gweithio gyda diwydiant a chyflogwyr hefyd. Mae’r Brifysgol yn ymrwymo i ymchwil sy’n cyfrannu at fywiogrwydd ac adfywio economaidd yr ardal ac mae’n datblygu enw da am weithio ar y cyd â busnes, diwydiant, y llywodraeth a phartneriaid eraill. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, sef yr asesiad mwyaf yn y byd o ymchwil a adolygir gan gymheiriaid, dyfarnwyd bod 47% o’n hymchwil ar flaen y gad yn fyd-

264

eang neu’n rhyngwladol, gyda 39% arall yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei arwyddocâd a’i drylwyredd. Yn rhan o’i waith, mae Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi ac Effeithiolrwydd Adnoddau (INSPIRE) y Brifysgol yn ceisio datblygu gallu ymchwil ac arloesi sy’n canolbwyntio ar ei chryfderau craidd.

Elusen yw Cerebra sy’n gweithio i helpu plant a chanddynt gyflyrau niwrolegol. Menter ar y cyd yw Canolfan Arloesi Cerebra (CIC) rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Cerebra.


Wrth ddatblygu prosiectau ymchwil, anogir ein cymuned academaidd i ddangos manteision eu gwaith i’r economi, cymdeithas, polisi cyhoeddus, diwylliant ac ansawdd bywyd. Mae rhagoriaeth ymchwil ym meysydd Archaeoleg, Hanes, Anthropoleg, Celf, Dylunio Cymhwysol, Clasuron, Astudiaethau Celtaidd, Astudiaethau Crefyddol, Gwyddorau Amgylcheddol, Addysg, Seicoleg, Peirianneg a Chyfrifiadura Cymhwysol yn sail i’n gweithgarwch ymchwil ac arloesi amlddisgyblaeth mewnol. Yn yr asesiad cyntaf o effaith ymchwil ar draws y DU, dyfarnwyd bod 60% o waith ymchwil Y Drindod Dewi Sant naill ai’n eithriadol (23%) neu’n sylweddol iawn (37%) o ran ei gyrhaeddiad a’i arwyddocâd. Dengys hyn gryfder gwaith ymchwil y Brifysgol a’i gyfraniad at chwilio am ddatrysiadau i heriau’r byd go iawn.

Golyga ein cenhadaeth drefol a gwledig cyfun ein bod yn ymroi i ddatblygu gwybodaeth leol newydd i’w defnyddio’n sail i ddadleuon ehangach, yn arbennig ar gydraddoldeb, cynhwysiant a chyfiawnder cymdeithasol. Mae staff academaidd y Brifysgol yn cymryd rhan mewn prosiectau sy’n gwneud gwir wahaniaeth i gymdeithas, o’r Grŵp Ymchwil Arfordirol a Morol yn yr Ysgol Pensaernïaeth, Amgylchedd Naturiol ac Adeiledig y mae eu gwaith yn ymdrin ag effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ein hamgylcheddau arfordirol, i brosiect Llongau Casnewydd, sy’n perthyn i rwydwaith Ewropeaidd gwerth €4m o ymchwilwyr sy’n datblygu dulliau newydd ym maes archaeoleg morol a thechnegau cadwraeth treftadaeth ddigidol. Am ragor o wybodaeth am ymchwil yn Y Drindod Dewi Sant ac am gyfleoedd i chi, ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/ymchwil

Mae ein canolfannau rhagoriaeth cynaliadwy wedi’u hadeiladu i gael effaith ar, ac i wella cyfalaf cymdeithasol, diwylliannol a ffisegol Cymru a thu hwnt. O ganlyniad i themâu trawsbynciol fel addysg, dylunio, yr amgylchedd, busnes, cynaliadwyedd, treftadaeth, iechyd a lles, mae ein hymchwil yn gydweithredol ac yn gweithio ar draws cyfadrannau a meysydd astudio.

Bwrdd Syrffio Tandem a Cherbyd Mynediad Syrffio (SAV) a ddatblygwyd gan Ganolfan Arloesi Cerebra, yn cael ei brofi gan y tîm gyda help Kai Lewis, sy’n frwd am syrffio, a chanddo barlys yr ymennydd.

265


Ar Ôl Graddio

Eich llwybr i Gyflogaeth Meithrin eich angerdd at eich pwnc sy'n bwysig i’n staff brwdfrydig a chefnogol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Maent hefyd yn gwybod y bydd angen y sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt wedi ichi raddio arnoch er mwyn cael gyrfa lwyddiannus. Mae’r un peth yn wir am ddechrau eich busnes eich hun neu weithio’n llawrydd. Dyma pam fod Y Drindod Dewi Sant yn mewnosod cyflogadwyedd i’r cyrsiau a gynigir, yn dod â chyflogwyr i mewn ac yn anfon myfyrwyr ar interniaethau. Rydym yn mwynhau clywed am fywydau ein graddedigion. Mae’n ffaith fod arolwg DLHE, sy’n casglu gwybodaeth am fyfyrwyr addysg uwch, yn dangos bod 92% o raddedigion Y Drindod Dewi Sant mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis wedi iddynt raddio. Mae'r Brifysgol eisiau ichi fod yn barod am bopeth, nid dim ond beth sy’n digwydd nawr. Mae Y Drindod Dewi Sant yn meithrin ymagwedd ddeinamig ac arloesol ynoch

266

wrth eich paratoi at y dyfodol. Er enghraifft, mae Dylunio Bywyd yn rhaglen sydd ar gael i holl fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant y gellir ei chyrchu drwy weithdai, digwyddiadau, ac adnoddau ar-lein ac all-lein. Fe’i cynlluniwyd i’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch amser yn y brifysgol a bod yn barod at fywyd mewn byd sy'n newid yn gyflym. Caiff Y Drindod Dewi Sant ei chydnabod yn eang fel un o sefydliadau mwyaf blaenllaw'r byd mewn addysg entrepreneuriaeth seiliedig ar greadigrwydd. O ganlyniad i’w gwaith yn y maes hwn, mae'r Drindod Dewi Sant nawr yn un o'r sefydliadau addysg uwch gorau yn y wlad am gynhyrchu busnesau newydd llwyddiannus a sefydlir gan raddedigion. Mae Y Drindod Dewi Sant yn cynnig ystod o gyfleoedd cyfoethogi entrepreneuriaeth a chyflogadwyedd i fyfyrwyr drwy weithio gyda chyflogwyr a sefydliadau cymunedol i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer hunangyflogaeth neu i weithio mewn busnes.


BETH MAE EIN MYFYRWYR YN GWNEUD NAWR?

95% Mae 95% o israddedigion Y Drindod Dewi Sant mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach chwe mis ar Ôl graddio. Ffynhonnell: DLHE 2015/16

Yn ogystal â hyn, mae llawer o’n cyrsiau academaidd yn cynnwys elfennau o ddysgu seiliedig ar waith neu brosiectau byw lle mae gofyn i fyfyrwyr weithio gyda sefydliadau allanol fel rhan o'u hastudiaethau ac mae llawer o raglenni'n cynnig cyfleoedd ar gyfer 'Blwyddyn mewn Diwydiant'. Rydym yn rhannu straeon ein graddedigion o dan #OAstudiaethiGyflogaeth yn Y Drindod Dewi Sant. Os penderfynwch ddod i astudio gyda ni, byddwn yn awyddus i glywed eich straeon chithau maes o law.

MAE CYFLOGWYR YN CYNNWYS: • Jaguar Land Rover • Fujitsu • Hewlett Packard • Clwb Pêl-Droed Dinas Abertawe • Sky News • Amgueddfa Genedlaethol Cymru

• Morganstone • QinetiQ • Virgin Media • Dŵr Cymru • Admiral Insurance • Clwb Pêl-Droed Dinas Caerdydd

“Y peth mwyaf gwerthfawr a gefais ar y cwrs oedd yr hyfforddiant un i un... rhoddodd gyfle i mi achub y blaen pan raddiais. Yn wir, ni fuaswn i ble rydw i heddiw heb yr arbenigedd, amser ac ymdrech a roddodd staff y cwrs i mi.” Patrick Carton, un o’n graddedigion BA Dylunio Modurol, a gafodd ei enwi yn rhestr Forbes 30 under 30 2017

Derbyniodd Patrick Carton wobr y 'Pilkington Vehicle Design Award' am gar hunan-gynaliadwy sy'n gallu cynhyrchu trydan o law, gwynt a golau'r haul. Bellach yn McLaren, mae e'n helpu i greu cynnyrch modurol arloesol. “Mae gweithio gyda chwmni rhyngwladol wedi bod yn brofiad anhygoel. Ni freuddwydiais fyth y buaswn i’n cael cyfle mor wych wrth astudio fy ngradd.” Sarah Chappell-Smith, BEng Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu, a weithiodd i Perkin Elmer yn ei blwyddyn olaf.

267


Sut i wneud Cais

Eich llwybr i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant drwy UCAS Mae gwneud cais am le mewn prifysgol yn benderfyniad mawr a gall dewis ymhle i dreulio’r tair blynedd nesaf fod yn hynod anodd. Rydym yn darparu proses gwneud cais clir a hyblyg sy’n amlinellu’r dyddiadau a therfynau amser allweddol, cynnig cyfleoedd i ymweld â’n campysau, cwrdd â thiwtoriaid a chael profiad o sut beth yw astudio yma. Fe’ch cefnogwn ni chi bob cam o’r ffordd.

Dros yr haf Treuliwch amser yn ystyried eich opsiynau, lle a beth yr hoffech chi ei astudio.

Y Flwyddyn Newydd Dyddiad cau UCAS ar gyfer ceisiadau yw Ionawr 15fed. Peidiwch â phoeni, gallwch wneud cais o hyd ar ôl y dyddiad hwn ond byddech yn cael eich ystyried yn ‘ymgeisydd hwyr’. Gallwch wneud cais am gyllid myfyrwyr o fis Chwefror.

Pethau i’w hystyried: • • • •

Pellter o’ch cartref Maint dosbarthiadau Costau byw Campws – beth sydd ar gael yno • Arolygon profiad myfyrwyr Os ydych chi’n barod, gallwch ddechrau eich cais ar wefan UCAS.

268

Hydref Cwtogwch eich dewisiadau ac ymchwiliwch eich rhestr fer, ewch i Ddiwrnodau Agored, Diwrnodau Blasu a gofynnwch y cwestiynau sy’n bwysig i chi. Gweithiwch ar eich cais er mwyn ei gyflwyno cyn mis Ionawr.


Awst Ar ddiwrnod y canlyniadau lefel A, bydd rhai ymgeiswyr yn cael canlyniadau annisgwyl. Rydym yn hapus i glywed gennych yn ystod Clirio.

Croeso! Mae ein myfyrwyr newydd yn cyrraedd tua diwedd mis Medi ac fe gânt groeso gwresog. Rydym yn ymfalchïo yn yr ystod o gymorth sydd ar gael yma ac yn yr amgylchedd cyfeillgar, sy’n cynnig profiad addysgu a dysgu clos.

Mehefin Dylech fod wedi cyflwyno eich cais cyn 30ain Mehefin, neu byddwch yn mynd drwy’r broses Glirio’n awtomatig ym mis Awst.

Rydym yn croesawu myfyrwyr o bob oed ac sy’n dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Os nad ydych wedi astudio ers peth amser, peidiwch â gadael i hynny eich rhwystro. Rydym yn ymfalchïo yn yr amgylchedd addysgu a dysgu cefnogol unigryw a ddarparwn. Os hoffech drafod gwneud cais neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses, ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/cysylltu-a-ni

Gwneir pob cais i astudio rhaglen radd israddedig llawn amser neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch yn Y Drindod Dewi Sant drwy UCAS (oni nodir fel arall) gan ddefnyddio ‘Apply’ – system gwneud cais ar-lein sydd ar gael yn www.ucas.com/apply

269


Eich Cam Nesaf Gofynion Mynediad Sylfaenol

Isod, ceir rhai gofynion sylfaenol nodweddiadol i ymgeiswyr. Fodd bynnag, am ofynion mynediad penodol pob cwrs, ewch i’n gwefan www.ydds.ac.uk neu i wefan UCAS.

Rhaglenni Gradd Anrhydedd

Fel arfer, gofynnir am o leiaf ddau gymhwyster Lefel A a chymwysterau lefel 3 ategol, neu gyfwerth. Efallai y bydd rhaid ystyried rhai gofynion cwrs penodol.

Diplomâu Cenedlaethol Uwch

Fel arfer, gofynnir am o leiaf un cymhwyster Lefel A a chymwysterau lefel 3 ategol, neu gyfwerth.

Sgiliau Allweddol

Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau oddi wrth fyfyrwyr sy’n astudio cymwysterau Sgiliau Allweddol, ond fel arfer, ni fydd cynigion yn cynnwys mwy na 6 pwynt tariff UCAS ar gyfer Sgiliau Allweddol Lefel 3. Ceir rhagor o wybodaeth yn: www.ydds.ac.uk

Beth yw Tariff UCAS?

System bwyntiau ydyw sy’n dangos cyrhaeddiad ar gyfer mynediad i addysg uwch. Mae’n rhoi gwerthoedd rhifiadol i gymwysterau. Mae’n gosod cywerthedd cytûn rhwng gwahanol fathau o gymwysterau. Mae’n caniatáu cymhariaeth rhwng ymgeiswyr a chanddynt wahanol fathau o gyrhaeddiad.

Sut mae’r system bwyntiau’n gweithio?

Gellir cydgasglu pwyntiau o wahanol gymwysterau e.e. Lefel A/ Uwch Gyfrannol (UG). Nid oes uchafswm o bwyntiau y gellir eu hennill, felly rhoddir cydnabyddiaeth lawn i hyd a lled eich llwyddiannau. Nid oes cyfrif dwbl - ni all myfyrwyr gyfrif yr un cymwysterau neu rai tebyg ddwywaith. Bydd pwyntiau Uwch Gyfrannol yn cael eu cynnwys yn y pwyntiau lefel A yn yr un pwnc.

270

Bydd pwyntiau Gradd Uwch yr Alban yn cael eu cynnwys yn y pwyntiau Gradd Uwch Estynedig yn yr un pwnc.

Y Tariff UCAS newydd

Mae UCAS yn defnyddio system bwyntiau tariff newydd ers mis Medi 2017. Am ragor o wybodaeth, ac i’ch helpu i droi eich cymwysterau a’ch graddau i’r system tariff newydd, defnyddiwch gyfrifiannell Tariff UCAS sydd ar gael yn www.ucas.com

Cyrsiau Mynediad

Mae nifer cynyddol o fyfyrwyr yn gwneud cais ar ôl cwblhau cyrsiau Mynediad, ac rydym yn croesawu’r cyfryw geisiadau’n gynnes. Cynhelir cyrsiau Mynediad mewn partneriaeth â cholegau Addysg Bellach lleol. Cynlluniwyd y cyfryw gyrsiau’n benodol ar gyfer myfyrwyr a chanddynt ond ychydig gymwysterau neu ddim cymhwyster ffurfiol o gwbl, a fyddai’n elwa o brofiad astudio cyn mynd ymlaen i wneud cais am le mewn sefydliad Addysg Uwch.

Dychwelyd at Astudio? Cymwysterau Eraill?

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ddysgwyr sy’n oedolion nad ydynt efallai’n meddu ar gymwysterau ffurfiol ond y mae ganddynt y cymhelliant a’r ymrwymiad i astudio at gymhwyster Addysg Uwch. Rydym yn awyddus i annog myfyrwyr sy’n dychwelyd at astudio i wneud cais am le ar ein rhaglenni a gallwn ystyried ceisiadau’n seiliedig ar deilyngdod unigol. Os gallwch chi ddangos bod gennych brofiad, gwybodaeth neu dystiolaeth o astudiaethau diweddar priodol, efallai y gallwn ystyried y rhain yn lle cymwysterau academaidd ffurfiol. Byddwn yn eich gwahodd am gyfweliad i drafod cwrs priodol ac i’ch paratoi at astudio tuag at gymhwyster. Mae cymorth a chyngor ar ddewis y cwrs iawn, a'r broses ymgeisio, ar gael gan staff profiadol. Am ragor o wybodaeth ewch i www.ydds.ac.uk/cy/ gwasanaethau-myfyrwyr/


Cydnabod Dysgu Blaenorol

Mae’r Brifysgol yn hapus i ystyried ceisiadau gan unigolion a chanddynt gymwysterau ardystiedig perthnasol, neu dystiolaeth o ddysgu drwy brofiad, a allai eu galluogi i ymuno â rhaglen ar lefel uwch. Bydd gofyn i ymgeiswyr gwblhau Ffurflen Cydnabod Dysgu Ardystiedig Blaenorol wrth wneud cais.

Telerau ac Amodau cynnig lle

Pan fydd ymgeisydd yn derbyn cynnig ar gyfer lle ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, caiff gontract sy’n rhwymo. Mae lle ar raglen astudio yn amodol ar p’un ai a fydd yr ymgeisydd yn cwblhau’r broses derbyn a chofrestru’n llwyddiannus. Bydd cynnig lle’n amodol ar y telerau a’r amodau a restrir yn y llythyr cynnig, y wybodaeth ar wefan y Brifysgol, yn ei phrosbectws ac yn y ‘Siarter Myfyrwyr’. Hefyd, mae’n amodol ar reoliadau, polisïau a gweithdrefnau’r Brifysgol, gan gynnwys y rheiny sydd yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd, y ddogfen ‘Rheoliadau’r Brifysgol – Canllaw Myfyrwyr’, y Llawlyfr Rhaglen Astudio priodol a Pholisi Derbyn y Brifysgol (sydd ar gael yn www.ydds.ac.uk).

271


Eich Cam Nesaf

Ffioedd a

Chyllid

Myfyrwyr Israddedig llawn amser Cymru neu’r UE (ac eithrio gweddill y DU) Ffioedd Dysgu

Myfyrwyr o Gymru

Gall myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (GDLlC) ar sail prawf modd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru: cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

Benthyciadau cynhaliaeth

Gallwch wneud cais am fenthyciad cynhaliaeth myfyriwr tuag at eich costau byw.

272

Benthyciadau ffioedd dysgu

Gallwch wneud cais am fenthyciad ffioedd dysgu i dalu eich ffioedd dysgu. Caiff ei dalu yn uniongyrchol i’r Brifysgol.

Grant cymorth arbennig

Mae’r Grant Cymorth Arbennig yn cymryd lle Grant Dysgu Llywodraeth Cymru mewn rhai amgylchiadau. Gall helpu gyda chostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r cwrs megis llyfrau, offer, teithio neu ofal plant.

Am wybodaeth ynghylch ffioedd, ewch i’n gwefan: www.ydds.ac.uk/cy/cyllid/ffioedd-dysgu/


Ffioedd Dysgu Myfyrwyr Israddedig llawn amser o Loegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon

Benthyciadau Cynhaliaeth Gallwch wneud cais am fenthyciad cynhaliaeth myfyriwr tuag at eich costau byw.

Benthyciadau Ffioedd Dysgu

Gallwch wneud cais am fenthyciad ffioedd dysgu i dalu am eich ffioedd dysgu. Caiff ei dalu yn uniongyrchol i’r Brifysgol.

Benthyciad Ychwanegol

Mae’r Benthyciad Ychwanegol yn cymryd lle’r Benthyciad Cynhaliaeth mewn rhai amgylchiadau penodol. Gall helpu gyda chostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r cwrs megis llyfrau, offer, teithio neu ofal plant.

273


Eich Cam Nesaf

Ffioedd Dysgu Myfyrwyr Israddedig Rhan Amser

Mae strwythur ffioedd israddedigion rhan amser yn wahanol iawn i ffioedd israddedigion llawn amser. Bydd gofyn i chi dalu fesul modwl rydych yn ei astudio. Ewch i’n gwefan neu cysylltwch â’r Brifysgol i gael gwybodaeth am ffioedd a’r cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr rhan amser.

Help ychwanegol Lwfansau Atodol

Mae cyllid ychwanegol ar gael i fyfyrwyr mewn amgylchiadau arbennig, gan gynnwys os ydych yn anabl neu os oes dibynyddion gennych e.e. Grant Gofal Plant, Lwfans Dysgu i Rieni. Mae’r Brifysgol yn rhoi help gyda cheisiadau ar gyfer y Lwfans Myfyrwyr Anabl, Lwfans Cynorthwywyr Anfeddygol a’r Lwfans Cyfarpar lle bo’n briodol.

Gwasanaeth Cyngor ar Arian

Mae’r Brifysgol yn rhedeg gwasanaeth cyngor ar arian i’ch helpu i reoli’ch arian gan gynnwys cyngor ar osod a chadw at gyllideb er mwyn osgoi anawsterau ariannol.

Cysylltwch â'r Gwasanaethau Myfyrwyr am ragor o fanylion: Caerfyrddin: +44 (0)1267 676830 Llambed: +44 (0)1570 424722 Abertawe: +44 (0)1792 481123

Sut i Wneud Cais am Gymorth Ariannol (Ymgeiswyr y DU/UE)

Mae’n wirioneddol bwysig eich bod chi’n gwneud cais am gymorth ariannol ar gyfer eich astudiaethau cyn gynted â phosibl, gan y bydd hyn yn helpu i sicrhau eich bod chi’n cael unrhyw gymorth sy’n ddyledus i chi mewn da bryd. I ddysgu rhagor am sut a phryd i wneud cais, cysylltwch â’r asiantaeth ar gyfer yr ardal rydych yn byw ynddi nawr am fanylion llawn.

Dyma’r rhestr o gysylltiadau ar gyfer pob rhan o’r DU a’r Undeb Ewropeaidd: Cymru

Cyllid Myfyrwyr Cymru Ffôn: 0300 200 4050 www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

Lloegr

Student Finance Direct Ffôn: 0300 100 0607 www.gov.uk/student-finance

Yr Alban

Student Awards Agency for Scotland (SAAS) www.saas.gov.uk SAAS Ffôn: 0300 555 0505

Gogledd Iwerddon

Student Finance NI Ffôn: 0300 100 0077 www.studentfinanceni.co.uk

UE

Student Finance England www.gov.uk/apply-for-studentfinance Tel: 0141 243 3570

274

*Mae’r wybodaeth a roddwyd yma’n gywir adeg ei hysgrifennu ond fe ddylech wirio’r gwefannau perthnasol uchod neu siarad gydag ymgynghorydd cyllid myfyrwyr. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhoi ar ein gwefan pan fydd hi ar gael. Mae ffioedd yn daladwy ar ddechrau’r cwrs, neu gallwch drefnu i dalu mewn dau randal. Cysylltwch â Swyddfa Gyllid y Brifysgol ar 01267 676704 i drefnu’r opsiwn hwn.


275


Eich Cam Nesaf

Gwlad arall yn yr UE

Mae’n bosibl y cewch gymorth ar gyfer ffioedd dysgu ar sail debyg i fyfyrwyr y DU ond ni fyddwch yn gymwys i wneud cais am Fenthyciad Myfyriwr na Grantiau Atodol. Am ffurflen gais i gael help gyda ffioedd dysgu, cysylltwch â: Student Finance Services non-UK Team Student Loans Company PO Box 89 Darlington County Durham England DL1 9AZ Ffôn: +44 (0)141 243 3570 Cysylltwch â'r Gwasanaethau Myfyrwyr: Caerfyrddin: +44 (0)1267 676830 Llambed: +44 (0)1570 424722 Abertawe: +44 (0)1792 481123

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Mae nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael gan y Brifysgol i roi cymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr. Dosberthir pob ysgoloriaeth a bwrsariaeth i geisiadau llwyddiannus trwy’r Gwasanaethau Myfyrwyr ar bob campws. Ymhlith yr enghreifftiau o ysgoloriaethau a bwrsariaethau sydd ar gael mae:

Ysgoloriaethau Cyfadrannol

Mae pob Cyfadran yn cynnig ystod o ysgoloriaethau i gefnogi myfyrwyr mewn meysydd o flaenoriaeth. Mae manylion llawn ar ein gwefan.

Ysgoloriaethau Adrannol

Mae nifer o ysgoloriaethau ar gael i fyfyrwyr israddedig ym mhob maes academaidd.

276

Bwrsariaeth Y Drindod Dewi Sant

Mae’r Brifysgol yn cynnig nifer o fwrsariaethau sydd wedi’u hanelu at fyfyrwyr llawn amser o gartrefi incwm isel.

Ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg/Dwyieithog

Mae gan y Brifysgol ysgoloriaethau sylweddol am gredydau a gwblhawyd yn llwyddiannus drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae'n rhaid i’r modylau fod o leiaf 50% dwyieithog. Yn ogystal, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig ysgoloriaethau ychwanegol i bobl sy’n astudio eu gradd drwy gyfrwng y Gymraeg. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk

Interniaethau

Ar ôl ichi ddechrau eich cwrs israddedig, mae'n bosibl y gallwch wneud cais am fwrsariaeth i’ch cynorthwyo i gael profiad gwaith gwirfoddol, sy'n berthnasol i'ch cwrs, yn ystod gwyliau'r haf.

Bwrsariaethau Gofal Plant

Mae’n bosibl bod cymorth ariannol ar gael i’r myfyrwyr hynny sydd ddim yn gymwys ar gyfer Grant Gofal Plant.

Bwrsariaethau Preswyl

Mae nifer o fwrsariaethau preswyl sy’n dibynnu ar brawf modd ar gael i fyfyrwyr israddedig sy’n talu ffioedd llawn. Ewch i'n gwefan am ragor o wybodaeth am ein ysgoloriaethau a bwrsariaethau gan fod yr wybodaeth uchod yn gallu newid: www.ydds.ac.uk/cy/bwrsariaethau/


Cyswllt Ysgolion a Cholegau

Mae’r Brifysgol yn aelod o HELOA – Cymdeithas Swyddogion Cyswllt Addysg Uwch – ac felly rydym mewn cyswllt rheolaidd â’n cydweithwyr mewn prifysgolion a cholegau eraill yn y DU. Ein nod yw darparu gwasanaeth cyngor proffesiynol sy’n ystyried eich anghenion a’ch dyheadau gyrfaol. Mae ein tîm recriwtio’n mynychu ffug gyfweliadau a digwyddiadau gyrfaoedd a drefnir gan ysgolion a cholegau’n rheolaidd, yn ogystal â llawer o ddigwyddiadau UCAS. Rydym yn darparu gwasanaeth cymorth cynhwysfawr i ysgolion a cholegau sy’n cynnwys trefnu Diwrnodau Astudio cwrs-benodol i fyfyrwyr Blynyddoedd 12 ac 13, darlithoedd pwncbenodol gan staff academaidd, yn ogystal â sgyrsiau cyffredinol ar faterion eraill sy’n effeithio ar y dewis o gyrsiau AU, er enghraifft: • Cynllunio’ch Gyrfa • Dewis y Cwrs/Prifysgol neu Goleg iawn • Sut i Lenwi Ffurflen UCAS • Sgiliau Astudio – Y Disgwyliadau yn y Brifysgol • Ariannu Addysg Uwch Rydym yn cynnig ein holl weithdai, cyflwyniadau ac ymweliadau trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ddwyieithog neu yn Saesneg. Er mwyn annog myfyrwyr i ddewis ac i barhau i astudio yn y Gymraeg, mae gennym gyflwyniad ‘Astudio yn y Gymraeg’ sy’n amlygu manteision astudio ar lefel addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cyflwyniad yn cynnwys gwybodaeth am y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, cymorth ariannol a chyfleoedd gwaith; ynghyd â gwybodaeth am ein holl gyrsiau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, y Gymdeithas Gymraeg helaeth a bywiog sydd gennym yn Y Drindod Dewi Sant, a phrofiadau ein myfyrwyr. I drafod eich gofynion, cysylltwch â:

ysgolionacholegau@pcydds.ac.uk

277


Eich Cam Nesaf

Edrychwn ymlaen i

Gwrdd â Chi Cadwch le ar un o’n diwrnodau agored neu ddiwrnodau ymweld. Manteisiwch ar un o’n Diwrnodau Agored neu Ddiwrnodau Ymweld fel y cewch gip go iawn ar fywyd yn Y Drindod Dewi Sant. Cewch ragor o wybodaeth a diweddariadau am yr hyn sydd ar gael drwy ein gwefan ac ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Diwrnodau Agored a Diwrnodau Ymweld Mae ein diwrnodau Agored a Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr yn rhoi cyfle i chi i gwrdd â staff a myfyrwyr er mwyn i chi gael cyfle i ddysgu mwy am y Brifysgol. Byddwch yn gallu: • Cwrdd â’r staff academaidd i drafod gwahanol gyrsiau a gofynion mynediad ac i ddysgu beth fydd cynnwys eich cwrs. •

Siarad gyda’n swyddogion cyllid a dysgu am gostau Addysg Uwch a’r cymorth ariannol sydd ar gael. Hefyd, cewch drafod eich sefyllfa unigol.

• Cwrdd â’n tîm Cymorth Dysgu i drafod unrhyw gymorth dysgu arbennig allai fod ei angen arnoch. • Edrych o gwmpas ein campysau, ein cyfleusterau gwych ac ymweld â llety.

278

• Cwrdd â myfyrwyr presennol a siarad gyda nhw am eu profiad o fywyd yn y Brifysgol. Os ydych chi’n byw y tu allan i’r ardal, cewch hefyd gyfle i ddod i adnabod y dref a’r ardal y mae eich campws wedi’i leoli ynddynt. Er ein bod yn annog darpar fyfyrwyr i ymweld â ni yn ystod Diwrnodau Agored, bydd ein swyddogion derbyn hefyd yn gwneud eu gorau i drefnu ymweliadau â champysau ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn.

Diwrnodau Ymweld â Champws Llambed Cynhelir Diwrnodau Ymweld ar ddydd Mercher, yn achlysurol, yn ystod y tymor ar gampws Llambed ac maent yn rhoi gwir syniad i chi o fywyd ar y campws cyn i chi gyflwyno cais.


Diwrnodau Agored Abertawe

Caerfyrddin

Llambed

Caerdydd

23 Mehefin 2018 18 Awst 2018 22 Medi 2018 3 Tachwedd 2018 1 Rhagfyr 2018 9 Chwefror 2019 22 Mehefin 2019

30 Mehefin 2018 18 Awst 2018 15 Medi 2018 10 Tachwedd 2018 2 Chwefror 2019 29 Mehefin 2019

30 Mehefin 2018 18 Awst 2018 8 Medi 2018 10 Tachwedd 2018 26 Ionawr 2019 29 Mehefin 2019

(BA Perfformio) 3 Tachwedd 2018 (BA Vocal Studies) 10 Tachwedd 2018

279


Eich Cam Nesaf

Ein Hymrwymiad

i Chi

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ceisio rhoi cyfle i fyfyrwyr brofi ystod eang o ddylanwadau academaidd, cymdeithasol a diwylliannol a fydd yn hyrwyddo eu datblygiad personol ac yn ysbrydoli eu hastudiaethau.

280

Yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor Y Brifysgol


Gwnawn bob ymdrech i roi anghenion ein myfyrwyr yn gyntaf wrth gynllunio a pharatoi ein cyrsiau. Anelwn at ddarparu addysgu awdurdodol, adnoddau dysgu addas a chymorth astudio effeithiol. Ceisiwn gyflwyno rhaglen o welliant parhaus ym mhob agwedd ar amgylchedd y Brifysgol, y gall pawb ei mwynhau. Byddwn yn ceisio’n ddiwahân i ddelio â’n myfyrwyr yn gwrtais a chan roi dyledus barch i breifatrwydd a chyfrinachedd. Yn bennaf oll, hoffem wneud y Brifysgol hon yn lle sy’n trin pob unigolyn mewn ffordd gyfeillgar a gofalgar ac yn gwneud iddynt deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu parchu. Mae’r Brifysgol yn cefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob agwedd ar ei gwaith.

Cymdeithas y Cyn Fyfyrwyr Drwy astudio gyda'r Drindod Dewi Sant byddwn yno i chi pan fyddwch yn graddio. Ymunwch â Chymdeithas y Cyn Fyfyrwyr a bydd y Brifysgol yn cadw mewn cysylltiad â chi gan gynnig cefnogaeth ym maes mentergarwch, cyngor gyrfa, a chyfleoedd datblygiad proffesiynol. Cysylltwch â: alumni@ydds.ac.uk

Cyfleoedd Cyfartal Mae’r Brifysgol yn ymrwymo i sicrhau cyfle cyfartal i bob myfyriwr ac aelod o staff ac mae wedi adnabod cynwysoldeb yn un o’r saith o werthoedd craidd sy’n ganolog i’w Chynllun Strategol. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, waeth beth fo’u rhyw, statws priodasol, cenedligrwydd, hil, anabledd neu oed. Gwneir penderfyniadau i dderbyn myfyrwyr yn seiliedig ar deilyngdod academaidd a/neu botensial unigolion. Mae gan y Brifysgol Bolisi Cyfle Cyfartal cynhwysfawr yn ogystal â gweithgorau i staff a myfyrwyr a chanddynt y nod o wneud y polisïau hyn yn gwbl effeithiol.

Yr Iaith Gymraeg

Mae gan y Gymraeg a’r Saesneg statws cyfartal fel ieithoedd swyddogol y Brifysgol ac mae’r sefydliad yn ymrwymo i fodloni ei goblygiadau o dan unrhyw ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg trwy ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel drwy gyfrwng y Gymraeg. Ewch i’n gwefan Gymraeg yn www.ydds.ac.uk/cy am ragor o wybodaeth.

Sicrhau Ansawdd

Mae gan y Brifysgol system Sicrhau Ansawdd ar waith sy’n ceisio sicrhau proses drylwyr o baratoi ac addysgu cyrsiau. Mae gan y Brifysgol gyfrifoldeb llawn am gymeradwyo, dilysu a monitro pob cwrs a gynigir ganddi. Caiff pob cwrs ei fonitro, ei adolygu a’i werthuso’n feirniadol yn rheolaidd. Mae’r Brifysgol wedi ei hymrwymo i’r egwyddor y dylid rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr gyfrannu at brosesau sicrhau ansawdd trwy: � cael eu cynrychioli ar bwyllgorau sy’n delio ag adolygu cyrsiau’n flynyddol � cael eu cynrychioli ar amrywiaeth o brosesau monitro ac adolygu eraill � cael eu hannog i drafod materion yn uniongyrchol gyda phob aelod o staff, yn enwedig gyda’u tiwtoriaid personol. Cynrychiolir myfyrwyr ar y rhan fwyaf o bwyllgorau’r Brifysgol, gan gynnwys y Corff Llywodraethu.

Statws Elusengar

Rhif Elusen Gofrestredig: 1149535

281


Eich Cam Nesaf

Polisi Hawliau Eiddo Deallusol

Mae gan y Brifysgol bolisi blaengar a chefnogol ar hawliau eiddo deallusol. Rydym yn gweithio gyda’n myfyrwyr i wireddu gwerth masnachol llawn syniadau, dyfeisiau newydd a darganfyddiadau. Mae hyn yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y wobr ariannol uchaf o dan y cynllun rhannu refeniw. Am ragor o fanylion ewch i'n gwefan.

Yn Amodol ar Ddilysu

(Deddf) Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015

Gyda chyflwyniad diweddar Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, y gyntaf o’i math yn y byd, lle caiff llesiant cenedlaethau’r dyfodol ei ystyried wrth wraidd proses gwneud penderfyniadau’r llywodraeth, mae’n bwysicach nag erioed bod ein graddedigion yn deall gwerth gwneud penderfyniadau cynaliadwy.

Mae’n rhaid i bob cwrs ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fynd trwy broses o ‘ddilysu’ cyn cymeradwyo iddynt gael eu cyflwyno. Mae dilysu’n broses lle mae’r corff dyfarnu (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant neu gorff dyfarnu arall, yn amodol ar y cymhwyster) yn barnu ansawdd y rhaglen arfaethedig i warantu ei bod yn bodloni’r safonau gofynnol.

Rydym ni’n credu bod yr ymagwedd hon at fewnosod Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF) yn rhoi i raddedigion y dyfodol yr offer angenrheidiol i gael effaith bositif ar eu dewis o yrfa. Os byddwch yn ymuno â ni yn Y Drindod Dewi Sant, rydym yn gobeithio y byddwch yn cofleidio’r cyfle hwn i ddatblygu sgiliau, galluoedd a thalentau mewn ADCDF.

Efallai fod rhai o‘r rhaglenni a restrwyd yn y prosbectws hwn yn y broses o gael eu dilysu adeg argraffu’r ddogfen ym mis Chwefror 2018. Golyga hyn fod y Brifysgol yn aros am gymeradwyaeth y corff dyfarnu cyn cyflwyno rhai cyrsiau gan fod hyn yn amodol ar ganlyniad y broses hon. Edrychwch ar ein gwefan am y wybodaeth ddiweddaraf.

Am ragor o wybodaeth ewch i www.ydds. ac.uk/cy/amdano/sefydliad-arfer-cynaliadwyarloesi-ac-effeithiolrwydd-adnoddau/

Y Siarter Myfyrwyr

Mae ein Siarter Myfyrwyr yn amlinellu'r cyfrifoldebau y gwnaiff y Brifysgol eu cyflawni i’w myfyrwyr. Mae hefyd yn esbonio’r cyfrifoldebau y bydd yn rhaid i’n myfyrwyr eu cyflawni wrth astudio yn y Brifysgol. Yn ogystal â hyn, mae’n amlinellu cyfrifoldebau Undeb y Myfyrwyr i’r Brifysgol a’i myfyrwyr. Trwy gael Siarter Myfyrwyr yn ei lle mae’r Brifysgol yn dangos ei hymroddiad llawn i wella ansawdd ei gwasanaeth i’w myfyrwyr yn barhaus ac mae’n cydnabod bod myfyrwyr yn ganolog i’r sefydliad. Y mae copi o’r Siarter Myfyrwyr ar gael ar ein gwefan.

282


Newidiadau i’ch Rhaglen Astudiaethau

Er bod Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gwneud pob ymdrech i sicrhau fod cynnwys a datganiadau a wneir yn y prosbectws hwn yn deg a chywir, efallai y bydd rhaid newid gwybodaeth rhaglenni (gan gynnwys disgrifiad rhaglen, cynnwys, dull a/neu leoliad cyflwyno a/neu amserlen). Mae'r rhesymau dros wneud newidiadau yn cynnwys, ond ddim wedi'u cyfyngu i’r canlynol: 1. Bodloni gofynion corff achredu, proffesiynol, statudol a/neu reolaethol; 2. Ymateb i brosesau arfer da neu wella ansawdd y sector; 3. Cadw rhaglenni’n gyfredol drwy ddiweddaru arferion neu feysydd astudio; 4. O ganlyniad i amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth rhesymol y brifysgol, fel Aelod allweddol o staff yn gadael y Brifysgol neu ddim yn gallu addysgu (lle bo’r rhaglen neu fodwl yn dibynnu ar arbenigedd yr unigolyn hwnnw); 5. Cyfoethogi Ystâd a Chyfleusterau’r Brifysgol ac adleoliad arfaethedig Ysgolion neu Adrannau; 6. Amgylchiadau eraill y tu hwnt i reolaeth resymol y brifysgol, gan gynnwys gweithredu diwydiannol, tywydd difrifol, tân, anrhefn sifil, aflonyddwch gwleidyddol, cyfyngiadau llywodraethol neu bryder difrifol am drosglwyddiad salwch difrifol sy’n golygu nad yw rhaglen yn ddiogel i’w chyflwyno.

Hefyd, efallai y bydd angen gwneud newidiadau i raglenni neu fodylau lle nad yw isafswm nifer y myfyrwyr sydd ei angen i sicrhau profiad addysgol neu brofiad myfyriwr da wedi’i fodloni. Sylwch, o dan rai amgylchiadau eithriadol, gellir tynnu rhaglenni yn ôl (cyn iddynt gychwyn) am y rheswm hwn. Os bydd newidiadau’n cael eu gwneud i’ch rhaglen ar ôl ichi dderbyn eich cynnig, bydd y Brifysgol yn cymryd camau rhesymol i roi gwybod ichi am y newidiadau hyn, ac i roi cyfle ichi roi adborth iddi mewn perthynas ag unrhyw newidiadau a gynigir / a wnaed. Hefyd, bydd y Brifysgol yn ceisio tarfu arnoch cyn lleied â phosibl. Os caiff eich rhaglen ei thynnu’n ôl neu os gwneir newidiadau hanfodol i’ch rhaglen ar ôl ichi dderbyn eich cynnig, bydd y Brifysgol yn cymryd camau rhesymol i roi rhybudd ichi’n fuan bod y rhaglen wedi’i thynnu’n ôl / o’r newidiadau hynny ac yn lleihau eu heffaith drwy gynnig rhaglen amgen addas (os oes un ar gael ac ar yr amod eich bod yn bodloni gofynion mynediad y rhaglen) neu eich helpu i ddod o hyd i raglen neu brifysgol amgen. Mae’r datganiadau a wneir, a’r wybodaeth a ddarperir yn y prosbectws, yn ganllaw cyffredinol ac mae’n bosibl y bydd newidiadau'n digwydd ar ôl ei gyhoeddi sy’n effeithio ar y cynnwys. Ceidw’r brifysgol yr hawl i dynnu Rhaglenni neu fodylau yn ôl neu eu haddasu heb rybudd os bydd rhaid, a gall trefniadau asesu a goruchwylio ymchwil newid. Hefyd, sylwch mai canllaw yn unig yw’r wybodaeth a ddarperir ar ofynion mynediad ar gyfer rhaglenni gradd arbennig, lle rhoddir y wybodaeth honno. Gall yr amodau sydd ynghlwm wrth gynigion newid o flwyddyn i flwyddyn ac o ymgeisydd i ymgeisydd. Nid yw contractau’r Brifysgol gyda’i myfyrwyr yn rhoddi unrhyw fuddiannau i drydydd partïon at ddibenion Deddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999.

283


Eich Cam Nesaf

Lefelau

Cymwysterau Tystysgrif Addysg Uwch

Gradd Sylfaen

(Tyst AU) - Lefel 4 Mae Tystysgrif Addysg Uwch yn gymhwyster Lefel 4 ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf rhaglen radd anrhydedd llawn amser. I gyflawni’r cymhwyster, mae’n rhaid i fyfyrwyr gael o leiaf 120 credyd.

(FdA/FdSc) - Lefelau 4 a 5 Mae Gradd Sylfaen yn gymhwyster cysylltiedig â chyflogaeth ar lefel addysg uwch. Fe’i cynlluniwyd i roi i unigolion y sgiliau a’r wybodaeth lefel uwch sy’n bodloni anghenion y cyflogwr yn ogystal â rhoi’r cyfle i’r unigolyn ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol.

Diploma Addysg Uwch (Dip AU) - Lefelau 4 a 5 Mae Diploma Addysg Uwch yn gymhwyster Lefel 5 ac mae’n gyfwerth â dwy flynedd gyntaf rhaglen radd anrhydedd llawn amser. I gyflawni’r cymhwyster, mae’n rhaid i fyfyrwyr gael o leiaf 240 credyd.

284

Mae’n rhannol seiliedig ar waith ac mae prosiectau ac aseiniadau’n berthnasol i rôl yr unigolyn yn y gweithle. I gyflawni’r cymhwyster, mae’n rhaid i fyfyrwyr gael o leiaf 240 credyd. Gall cwblhau Gradd Sylfaen yn llwyddiannus arwain i mewn i drydedd flwyddyn rhaglen radd anrhydedd briodol.


Tystysgrif a Diploma Cenedlaethol Uwch (HNC/HND) Lefelau 4 a 5 Cynllunnir Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch a Diplomâu Cenedlaethol Uwch i fod yn seiliedig ar waith ac yn alwedigaethol eu natur. Yr hyn sy’n gwneud yr HNC a'r HND yn wahanol i radd baglor yw mai sylfaen y ddau gymhwyster yma yw sicrhau bod myfyrwyr yn cael sgiliau a gwybodaeth ar gyfer gyrfa mewn diwydiant cysylltiedig. Gellir cwblhau’r cymwysterau hyn o fewn dwy flynedd yn llawn amser. Mae yna opsiwn i fyfyrwyr ag ymrwymiadau personol neu broffesiynol gwblhau’r ddau gymhwyster yn rhan amser.

Gradd Meistr Integredig (MArts/MBus/MComp/MDes/MEaCh/ MEdStud/MEng/MEYEC/MMusTech/MSci/ MSocStud/MTour) – Lefelau 4, 5, 6, 7 Mae Gradd Meistr Integredig yn gymhwyster Lefel 7 ac fel arfer mae'n galw am bedair blynedd o astudiaethau llawn amser, a bydd o leiaf un o’r rhain ar lefel ôl-raddedig (Lefel 7). I gyflawni’r cymhwyster hwn, rhaid i fyfyrwyr gael o leiaf 480 credyd. Mae’r Brifysgol yn datblygu ei llwybrau dilyniant. Gweler ein gwefan am ragor o fanylion a'r newyddion diweddaraf: www.ydds.ac.uk/cy/cyrsiau

Gradd Baglor (BA/BSc/BEng) - Lefelau 4, 5, 6 Mae gradd anrhydedd Baglor yn gymhwyster Lefel 6 ac fel arfer mae’n galw am dair blynedd o astudiaethau llawn amser. Mae’r rhan fwyaf o raglenni’n fodylaidd, ac felly maent ar gael yn rhan amser, naill ai’n ystod y dydd, neu gyda’r nos ac weithiau ar ddydd Sadwrn. I gyflawni’r cymhwyster, mae’n rhaid i fyfyrwyr gael o leiaf 360 credyd.

285


Graddau Meistr

Integredig

Mae cymhwyster Gradd Meistr Integredig yn rhoi cyfle ichi symud o lefel israddedig i lefel Meistr o fewn yr un strwythur o fewn un rhaglen integredig. Un o fanteision mawr ymgymryd â Gradd Meistr Integredig yw bod modd cael eich cyllido am y cwrs cyfan. Dyma rai o'n cyrsiau Meistr Integredig. Am ragor o wybodaeth, chwiliwch am raddau Meistr Integredig ar ein gwefan.

Celf, Gwydr a Thecstilau

Dylunio Diwydiannol

MArts Fine Art: Studio, Site and Context

MDes Automotive Design

MDes Design Crafts *Yn amodol ar ddilysu

MDes Graphic Design

MDes Glass (Architectural Arts)

MDes Product Design

MDes Surface Pattern (Maker)

MDes Product Design and Technology

MDes Surface Pattern Design (Fashion Object)

MDes Transport Design

MDes Surface Pattern Design (Textile for Fashion)

Hysbysebu, Dylunio a Darlunio

MDes Surface Pattern Design (Textile for Interiors)

MDes Graphic Design

Cerddoriaeth, Ffilm a Ffotograffiaeth MArts Art Gallery & Museum Studies *Yn amodol ar ddilysu MArts Film & TV MMus Tech Music Technology MArts Photography in the Arts MArts Photojournalism & Documentary Photography MDes Set Design

286

MDes Advertising and Brand Design MDes Illustration MArts Creative Computer Design MArts 3D Computer Animation


Datblygu Gemau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura, a Systemau Gwybodaeth

Addysg ac Astudiaethau Cymdeithasol

MArts 3D Computer Animation

MSocStud: Additional Needs

MComp Business Information Systems

MSocStud: Health and Social Care

MArts Creative Computer Games Design

MSocStud: Communities, Families and Individuals

MComp Computer Games Development MComp Computer Networks and Security

MEdStud: Education Studies

MComp Data and Information Systems

Blynyddoedd Cynnar

MComp Software Engineering

MEYEC Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar

MComp Web Development MEng Computer Systems and Electronics

MEYEC Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar)

Integrated Master’s Early Years Education & Care

Peirianneg Fodurol, Fecanyddol a Gweithgynhyrchu

Integrated Master’s Early Years Education & Care (Early Years Practitioner)

MEng Automotive Engineering

Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol

MEng Mechanical Engineering MEng Mechanical and Manufacturing Engineering MEng Motorcycle Engineering MEng Motorsport Engineering

Integrated Master’s in Social Studies: Advocacy *Yn amodol ar ddilysu Integrated Master’s in Humanistic Counselling *Yn amodol ar ddilysu

Peirianneg Chwaraeon Eithafol MEng Energy and Environmental Engineering MEng Extreme Sports Engineering

Busnes, Cyllid, Marchnata, Adnoddau Dynol a Thwristiaeth MBus Business & Management MBus Finance MBus Marketing Management MBus Human Resource Management M(Tour) Tourism Management

287


Ein Cyrsiau Addysg 46

Busnes a Chyllid

138

Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar

Celf a Dylunio

162

Celf a Dylunio Sylfaen

164

Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar

52, 128 54, 130

Celf Gain

166 230

Addysg Gynradd gyda SAC

47

Celfyddydau Breiniol

Addysg Antur Awyr Agored

82

Celfyddydau Perfformio

Addysg Gorfforol

83

Cerddoriaeth (Perfformio a Chynhyrchu)

Addysg Gynhwysol

58, 126

94,108, 190 171

Chwaraeon ac Ymarfer Corff

72

Amaethyddiaeth 98

Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored

72

Amgylchedd Adeiledig

202

Coleg Sir Gâr 96

Animeiddio Cyfrifiadurol 3D

172

Crefydd a Diwinyddiaeth

218

Anthropoleg 220

Crefftau Dylunio

186

Archaeoleg 222

Cwnsela 131

Astudiaethau Addysg

50, 122

Cyfrifiadura 204

50

Cyfrifeg 138

Astudiaethau Addysg: Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant

124

Darlunio 175

Astudiaethau Addysg: Dysgwyr a Dysgu Cyfoes

124

Astudiaethau Addysg: Safbwyntiau Rhyngwladol

Astudiaethau Addysg: Cynradd

Datblygiad Rhyngwladol, Dyngarwch a’r Gyfraith

242

Dylunio a Chyfathrebu Gweledol

174

125

Dylunio Cynnyrch

177

240

Dylunio Cynnyrch a Thechnoleg

177

Astudiaethau Clasurol

226

Dylunio Diwydiannol

176

Astudiaethau Crefyddol

218

Dylunio Graffig

175

Dylunio Gemau Cyfrifiadurol Creadigol

173

Dylunio Modurol

177

Dylunio Patrymau Arwyneb

188

Astudiaethau Celtaidd

Astudiaethau Cymdeithasol Astudiaethau Cymdeithasol: Anghenion Ychwanegol

64 65

Dylunio Patrymau Arwyneb (Gwneuthurwyr) 189

Astudiaethau Cymdeithasol: Cymunedau, Teuluoedd ac Unigolion

65

Astudiaethau Cymdeithasol: Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dylunio Patrymau Arwyneb (Gwrthrych Ffasiwn)

189

65

Dylunio Patrymau Arwyneb (Tecstilau ar gyfer Addurno Mewnol)

189

Dylunio Patrymau Arwyneb (Tecstilau ar gyfer Ffasiwn)

189

Astudiaethau Orielau Celf ac Amgueddfeydd 168

Dylunio Set

182

Astudiaethau Tsieineaidd

Dylunio Trafnidiaeth

177

Astudiaethau'r Gweithle a Dysgu Seiliedig ar Waith Astudiaethau Nyrsio ac Iechyd

248 84 224

Athroniaeth 228

Eiriolaeth 62

Busnes a Rheolaeth

Electroneg 206

288

66, 136


Ffilm

88, 180

Plant a Phobl Ifanc

149

Ffotograffiaeth 178

Plismona 153

Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau

Plismona a Throseddeg

Ffotonewyddiaduraeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol Gwaith Ieuenctid a Chymuned Gwasanaethau Cyhoeddus

178

Rheolaeth a Busnes 178 56 150

155 71, 138

Rheolaeth ac Arweinyddiaeth

248

Rheolaeth Adnoddau Dynol

139

Rheolaeth Chwaraeon

160

Gwleidyddiaeth 244

Rheolaeth Chwaraeon Rhyngwladol

160

Gwleidyddiaeth ac Economeg

Rheolaeth Chwareaon Dŵr 161

244

Gwneud Ffilmiau Antur

90

Gwneud Ffilmiau

92

Rheolaeth Cyfleusterau Stadiwm a Chwaraeon

160

Rheolaeth Digwyddiadau

143

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Maetheg ar gyfer Chwaraeon)

75

Rheolaeth Diwydiannau Diwylliannol

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

74

Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol

144

Rheolaeth Hamdden

143

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Ffisioleg Ymarfer Corff Clinigol) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Ffitrwydd Awyr Agored)

75 75

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Hyfforddi Personol)

75

Gwydr 184

71

Rheolaeth Iechyd

148

Rheolaeth Marchnata

139

Rheolaeth Menter Wledig Rheolaeth Twristiaeth

71 142

Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol 142 Saesneg 236

Gwydr: Celfyddydau Pensaernïol 185

Seicoleg

Hanes 232

Sinoleg 246

Hanes Yr Henfyd

234

Technoleg Cerddoriaeth

170

Hysbysebu a Dylunio Brandiau

175

Teledu Digidol

180

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

148

Therapi Chwaraeon

Iechyd a Lles Pobl Ifanc

149

Treftadaeth 238

Iechyd y Cyhoedd

78

Twristiaeth 140

Iechyd, Maeth a Ffordd o Fyw

80

Y Dyniaethau

60, 133

76

216

Logisteg 198

Y Gyfraith a Busnes

Marchnata Digidol

Y Gyfraith a Phlismona

155

Modurol 194

Y Gyfraith a Throseddeg

155

Nyrsio 146

Y Gyfraith ac Arfer CILEx

156

Patrwm Arwyneb a Thecstilau

Y Gyfraith a Gwasanaethau Cyhoeddus

139

188

139, 157

157

Pensaernïaeth 192

Yr Athrofa

44, 120

Perfformio 108

Yr Amgylchedd

200

Peirianneg 196

Ysgrifennu Creadigol

236

289


Ein Prifysgol Cynnwys

1

Canolfan Berfformio Cymru

106

Eich Prifysgol

2

Llwyddwch yn Abertawe

110

Dyma Ddechre ar y Dyddie Da

6

SA1 Glannau Abertawe

116

Llwyddwch yn Llambed

208

10 Rheswm gwych i siaradwyr Cymraeg ddewis Y Drindod Dewi Sant

8

Gwasanaethau Myfyrwyr

250

Cyrsiau Cyfrwng Cymraeg

10

Profiad Myfyrwyr Byd–Eang

254

Y Gymraeg

12

Astudio Dramor

256

Cangen Y Drindod Dewi Sant

16

INSPIRE 258

Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol 18

Yr Athrofa

260

Canolfan Gwasanethau Cymraeg

20

Undeb y Myfyrwyr

262

Canolfan Peniarth

22

Ymchwil 264

Canolfan S4C Yr Egin

24

Eich Llwybr i Gyflogaeth

266

Yr Atom

26

Sut i Wneud Cais

268

Pam dewis Y Drindod Dewi Sant

28

Ffioedd a Chyllid

272

Prifysgol Newydd

30

Diwrnodau Agored a Diwrnodau Ymweld

278

Tri Lleoliad

32

Ein Hymrwymiad i Chi

280

Eich Campws

34

Lefelau Cymwysterau

284

Llwyddwch yng Nghaerfyrddin

36

Graddau Meistr Integredig

286

Cyrsiau Addysg Uwch yng Ngholeg Sir Gâr 96

Ein Cyrsiau

288

Llwyddwch yng Nghaerdydd

Cysylltwch â Ni

292

290

100


291


292


Cysylltwch â ni Campws Caerfyrddin

Caerdydd

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Campws Caerfyrddin Sir Gâr SA31 3EP +44 (0)1267 676767

Canolfan Berfformio Cymru Canolfan Celfyddydau 'The Gate' Stryd Keppoch Y Rhath Caerdydd CF24 3JW 0300 323 1250

Campws Llambed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Campws Llambed Ceredigion SA48 7ED +44 (0)1570 422351

Wales International Academy of Voice (WIAV) 42 The Parade Y Rhath Caerdydd CF24 3AD +44 (0)29 2049 3139

Mapiau lleoliad a chyfarwyddiadau Am gyfarwyddiadau manwl a gwybodaeth ar deithio i’n campysau, ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/lleoliad

Llambed Caerfyrddin Abertawe Caerdydd

Campysau Abertawe Cyfeiriad ar gyfer gohebiaeth: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Tecniwm 1 Heol Y Brenin Abertawe SA1 8PH Adeilad Dinefwr: SA1 3EU Ysgol Fusnes Abertawe: SA1 1NE Glannau Abertawe SA1: SA1 8AL +44 (0)1792 481000 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

@AstudioYDDS

Pan fyddwch yn cadw lle ar ddiwrnod agored, byddwn yn anfon gwybodaeth atoch i’ch helpu i gynllunio’ch ymweliad a bydd hyn yn cynnwys manylion teithio.

Rhif ffôn derbyniadau/cofrestrfa Abertawe, Caerfyrddin a Llambed:

0300 500 5054 Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch:

gwybodaeth@pcydds.ac.uk

y_drindod_dewi_sant

SNAPUWTSD

293


Dyddiadau Diwrnodau Agored Caerfyrddin

Abertawe

Llambed

30 Mehefin 2018 18 Awst 2018 15 Medi 2018 10 Tachwedd 2018 2 Chwefror 2019 29 Mehefin 2019

23 Mehefin 2018 18 Awst 2018 22 Medi 2018 3 Tachwedd 2018 1 Rhagfyr 2018 9 Chwefror 2019 22 Mehefin 2019

30 Mehefin 2018 18 Awst 2018 8 Medi 2018 10 Tachwedd 2018 26 Ionawr 2019 29 Mehefin 2019

Caerdydd 3 Tachwedd 2018 (Canolfan Berfformio Cymru) 10 Tachwedd 2018 (Academi Llais Ryngwladol Cymru)

Ystyried gwneud cais i'r Drindod Dewi Sant? Ffoniwch ni 0300 500 5054 www.ydds.ac.uk

y_drindod_dewi_sant

@AstudioYDDS

SNAPUWTSD

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.