Ymdrechu Rhifyn 1 Diwrnod Eiddo Deallusol y Byd

Page 1

YMDRECHU. RHIFYN UN | DIWRNOD EIDDO DEALLUSOL Y BYD


Diwrnod Codwch. Eiddo Deallusol Y Byd Safwch. Ebrill 26 Dros Gerddoriaeth.

www.wipo.int

ŠiStock.com/evrenselbaris/wipo

#worldipday

Diwrnod Eiddo Deallusol Y Byd!

1


Beth yw ED?

Deall ED! Chi sy’n berchen ar ED os: • Chi greodd y gwaith • Prynoch chi’r hawliau gan y crëwr neu’r perchennog blaenorol • Oes gennych frand a allai fod yn nod masnach Gall ED: • Fod efo mwy nag un perchennog • Perthyn i bobl neu fusnesau • Cael ei werthu neu ei drosglwyddo

Mae Eiddo Deallusol neu ED yn derm cyfreithiol sy’n cyfeirio at bethau a grëir yn y meddwl. Er enghraifft: cerddoriaeth, llenyddiaeth a darnau eraill o waith artistig.

Pam fod ED yn bwysig? Mae amddiffyn ED yn hanfodol er mwyn hyrwyddo arloesi. Heb amddiffyn syniadau, ni fyddai busnesau nac unigolion yn cael budd llawn o’u dyfeisiau. Yn debyg, ni fyddai artistiaid yn cael eu talu’n llawn am eu creadigaethau. Mae’n atal eraill rhag cymryd eich gwaith a’i ddefnyddio fel eu gwaith eu hunain.

2

3

Fel arfer, mae’r symbol hawlfraint yn cael ei ddilyn gan enw deiliad yr hawlfraint a blwyddyn gyntaf ei gyhoeddi. Y nod yw hysbysu trydydd partïon a rhwystro darpar droseddwyr. Dim ond os ydy’r ED wedi’i gofrestru gyda’r swyddfa hawlfraint y ceir defnyddio’r symbol hawlfraint.


Mathau o Enghreifftiau o ED Amddiffyniad Hawlfraint (hawl awtomatig)

Amddiffynnwch eich ED! Mae amddiffyn eich eiddo deallusol yn ei wneud yn haws i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn unrhyw un sy’n ei ddwyn neu’n ei gopïo.

Celf, ffilmiau, ffotograffiaeth, teledu, cynnwys y we, recordiadau sain, cerddoriaeth

Nod masnach

Cynnyrch, enw, logos, canigau

Patentau

Dyfeisiau a chynhyrchion. e.e. rhannau peiriant neu foddion

Hawliau dylunio (hawl awtomatig)

Siapiau gwrthrychau

Dyluniadau cofrestredig

Ymddangosiad cynnyrch gan gynnwys siâp, pecynnu a 4 phatrymau

Dylech gadw’ch eiddo deallusol yn gyfrinach nes ichi ei gofrestru, os nad yw wedi’i amddiffyn gan hawl awtomatig.

Gallwch gofrestru eich ED yn www.gov.uk/intellectual-property 5


Dywedodd dwy ran o bump o ymatebwyr a oedd wedi dysgu am ED nad oedd hyn wedi cael ei asesu fel rhan o’u cwrs.

33%

Dywed o fyfyrwyr nad ydynt yn credu bod eu hymwybyddiaeth na’u dealltwriaeth o ED yn ddigonol.

Dim ond 50% o fyfyrwyr sy’n teimlo bod eu tiwtoriaid yn wybodus am ED.

40%

o fyfyrwyr sy’n Dim ond credu bod ED yn fater pwysig.

50%

Mae’r rhan fwyaf o fuddsoddiad HED yn mynd ar asedau a amddiffynnir gan hawlfraint (46%), hawliau dylunio heb eu cofrestru (21%) a nodau masnach (21%).

77%

Roedd dros o fyfyrwyr yn credu bod ymwybyddiaeth o ED yn berthnasol iddynt yn eu gyrfa yn y dyfodol.

48%

Yn 2011, roedd (£65.6bn) o fuddsoddiad gwybodaeth yn sector marchnad y DU wedi’i amddiffyn gan HED.

Ffeithiau a Ffigyrau 6

7

yn ôl ymchwil seiliedig ar y DU gan UCM


Beth a olyga ED i Jo...

Jo Ashburner Mae Jo Ashburner yn entrepreneur sy’n raddedig o PCYDDS a ddechreuodd ei busnes ei hun. Mae hi’n fodel rôl entrepreneuraidd gyda Llywodraeth Cymru, enillodd wobr Dynes Busnes y Flwyddyn yn 2002, yn ogystal â gwobr am y cynnyrch mwyaf arloesol. Cwmni yw NooNoo sy’n arbenigo mewn gwrthrychau chwarae a dillad a wneir â llaw i blant ifanc. Mae’r cynhyrchion wedi’u hatgynhyrchu o waith celf dychmygus bachgen bach. www.noonoodesign.com

8

9

Mae ED yn golygu eich bod yn berchen ar eich syniadau, brandiau a’ch busnesau ac ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw datgan eich hawl os ydych chi o ddifrif am eich syniadau a’ch busnes. Rwy’n berchen ar frandiau ‘Noonoo’ a ‘Red Dragon Flagmakers’ ymhlith eraill - ac mae’r ddau frand wedi cael eu targedu a’u copïo. Dim ond oherwydd imi fuddsoddi mewn ED rwyf wedi llwyddo i stopio’r rheini nad oes ganddynt ddigon o ddychymyg eu hunain, drwy gyflwyno fy mherchnogaeth sicr mewn nod masnach a dylunio cynnyrch trwy sianelau ED. Pe nad oeddwn wedi diogelu’r ED ar gyfer fy musnesau, ni fyddai’r brand na hirhoedledd y busnesau wedi para’n hir. Er y bu’n rhaid imi grafu’r ceiniogau at ei gilydd ar y cychwyn cyntaf i brynu’r hanfodion, mae’r buddsoddiad wedi talu ar ei ganfed. Rwyf wedi gweld lladrad ED yn digwydd cymaint o weithiau felly peidiwch â diystyru apêl na chynulleidfa eich cynnyrch a’ch brand - unwaith y byddwch yn gyhoeddus, byddwch yn colli’r hawl i’r ddau os nad ydych wedi paratoi. Cofiwch - mae cais am batent yn cael ei ystyried am gyfnod er mwyn rhoi chi’r cyfle i chi roi cynnig ar, profi a mireinio’ch syniadau. Os, ar ddiwedd y cyfnod hwn, rydych wedi newid mwy nag 20% ar eich dyluniad, ystyriwch wneud cais newydd am batent neu ddiwygio’r un gwreiddiol a dechrau’r broses o’r dechrau. Hefyd, mae’n werth talu’r gost gymharol fach ar gyfer enw parth, Twitter (a chyfryngau cymdeithasol eraill), nod masnach a chofrestriad cwmni ymlaen llaw i roi cyfle i’ch busnes fod yn berchen ar o leiaf yr enw a’r hunaniaeth.


Mae Swigen Greadigol yn annog myfyrwyr o wahanol gyrsiau i rwydweithio a gweithio’n gydweithredol, gan ddefnyddio’r siop wag yn ganolfan. Yma, mae gan fyfyrwyr amgylchedd saff i wireddu eu breuddwydion a’u huchelgeisiau ynddo trwy siopau codi, arddangosfeydd, perfformiadau, gweithdai a dangos ffilmiau am y tro cyntaf

Mae Swigen Greadigol yn fenter rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac AGB Abertawe. Fe’i sefydlwyd ym mis Mehefin 2013 i archwilio ffyrdd y gallai’r ddau sefydliad weithio gyda’i gilydd i gael effaith bositif ar Ganol Dinas Abertawe (yn gymdeithasol, yn economaidd ac yn ddiwylliannol).

Mae’r Swigen yn gwneud 3 pheth:

1

Cefnogi AGB Abertawe gyda’i weithgareddau/hyrwyddiadau canol dinas (Mae AGB Abertawe yn cyflogi myfyrwyr/ graddedigion fel Llysgenhadon Abertawe)

2

Caniatáu digwyddiadau dros dro a reolir gan fyfyrwyr yn y siop ac ar draws Abertawe.

3

Ymgymryd â gwaith ymgysylltu â’r gymuned sy’n cymryd Swigen Greadigol i wahanol rannau o Abertawe i gynnal gweithdai a phrosiectau.

“Oherwydd fy mod wedi cymryd rhan yn Swigen Greadigol, rwyf wedi sefydlu fy musnes fy hun AC mae gen i swydd gyda chwmni y bu imi gwrdd â nhw drwy’r prosiect”

10

11 - Graddedig Ffilm a Theledu


Mae’n ceisio cynyddu cyflogadwyedd a gweithredu fel ffenestr siop (yn llythrennol) ar gyfer eu talentau ac mae’n rhannu mentrau creadigol gyda’r cyhoedd - gan eu gwahodd yn aml i ‘roi cynnig arni’. Hefyd, mae’n annog mentergarwch a meddwl entrepreneuraidd. Mae prosiectau fel ‘Pizza with a Pro’ yn gwahodd entrepreneuriaid llwyddiannus draw i’r siop i rannu eu profiad gyda myfyrwyr. Mae cyfleoedd am swyddi go iawn wedi codi o’r digwyddiadau hyn. Rydym yn meithrin syniadau ac yn dangos i fyfyrwyr bod yna werth masnachol i’w sgiliau. Mae tîm o Interniaid Menter yn rhan o’r tîm Swigen Greadigol ac maent yn cael profiad amhrisiadwy yn cynhyrchu syniadau newydd ac yn gofalu am y fenter.

@CBSwansea /swanseacreativebubble www.uwtsd.ac.uk/creative-bubble

“Mae Swigen Greadigol wedi helpu i mi weld ffyrdd newydd y gallaf werthu fy ngwaith - gall bod yn artist hefyd fod yn yrfa ddichonadwy” -Myfyriwr Celf a Dylunio

12

Ymholiadau: Lucy Beddall, Swigen Greadigol, 13 lucy.beddall@uwtsd.ac.uk


Ardystiad ED

Dyddiadau i’w cofio

Gallwch gael tystysgrif DPP achrededig o’r swyddfa eiddo deallusol, ei chynnwys ar eich CV a dangos eich gwybodaeth o ED. www.ipo.gov.uk/blogs/iptutor

Cyngor ED

Her Robert Owen – Cystadleuaeth Fenter. Ysgol Fusnes Abertawe.

18 - 22 Mai

Leesha Williams, myfyriwr ffotograffiaeth y drydedd flwyddyn yn cyflwyno arddangosfa am Genedl.

3 TEDxAbertawe Mehefin yn dod â meddyliau disglair at ei gilydd i roi sgyrsiau sy’n ffocysu ar syniadau. Theatr Grand Abertawe www.tedxswansea.com

Os oes gennych syniad busnes ac mae angen cymorth arnoch, cysylltwch â Kathryn Penaluna am ragor o gyngor ar Eiddo Deallusol. kathryn.penaluna@uwtsd.ac.uk “Dylai cenhedloedd y dyfodol ddeall popeth am eiddo deallusol. Mae hyn yn berthnasol i bopeth o amddiffyn ein brandiau mwyaf neu newyddaf i hawlfraint cerddoriaeth bop a phatentau cyffuriau sy’n achub bywydau.” - Baroness Neville-Rolfe

7 Mai

Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o’r dyddiadau hyn, cysylltwch ag: amanda.hughes@uwtsd.ac.uk 13

14


Ryan Wong Myfyriwr Dylunio Graffig yn ei 3edd flwyddyn yn PCYDDS yw Ryan ac ef a ddyluniodd clawr blaen y rhifyn ED hwn o Ymdrechu. “Trwy gydol fy amser yn y Brifysgol, rwyf wedi dysgu llawer o sgiliau newydd mewn Dylunio Graffig ac mae hyn wedi agor llawer o gyfleoedd hoffwn eu cyflawni wedi imi adael Abertawe. Hoffwn weithio gyda chwmni sy’n arbenigo mewn dylunio print, gan mai hwn yw fy hoff faes o ddylunio graffig.”

Ross Weaver Golygydd

Myfyriwr Hysbysebu a Dylunio Brand, 20 oed, yn yr ail flwyddyn. Mae gwybodaeth am ED yn hollbwysig i lwyddo mewn byd cystadleuol llawn syniadau a dylunio da. Gallwch elwa’n llawn o’ch creadigaethau drwy eu hamddiffyn yn llawn. Cysylltwch â fi yn: ross.weaver@msn.com

ryanwongdesign.wix.com/website

15



Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.