cwtsh
cylchlythyr gwanwyn/haf 2016
ein newyddion a straeon o t yˆ hafan
lle mae bywyd byr yn fywyd llawn y tu mewn
stori sophie t.6
nadolig t yˆ hafan t.9
thomas carroll yn talu am ddiwrnod t.16
cwtsh
croeso Croeso i rifyn Gwanwyn/Haf Cwtsh Yn Tyˆ Hafan, rydym yn falch o wneud pethau ychydig bach yn wahanol, pethau na fyddech yn eu disgwyl, a dyna pam mae bod yn rhan o deulu Tyˆ Hafan yn gallu bod yn gymaint o hwyl. Mae’n rhesymol fod pobl sy’n anghyfarwydd â Tyˆ Hafan a’r gwaith yr ydym yn ei wneud yma yn credu ei fod yn lle trist. Hosbis i blant yw Tyˆ Hafan wedi’r cyfan. Ond o’r eiliad y byddwch yn cerdded tuag at yr adeilad ac yn gweld y plant yn chwarae ar y siglenni, cyn cerdded trwy’r fynedfa i’r hosbis ei hun a chael eich croesawu gan wynebau hapus a lliwiau disglair a llachar, fe sylweddolwch ei bod yn llawer iawn mwy na hynny. Mae Tyˆ Hafan yn lle hwyliog a bob dydd ein nod yw sicrhau atgofion newydd a fydd yn cael eu trysori gan ein teuluoedd. Gobeithio y bydd y rhifyn hwn o Cwtsh yn rhoi argraff i chi o sut y bydd Tyˆ Hafan yn gallu newid bywyd teuluoedd mewn pob math o wahanol ffyrdd cadarnhaol. Heb ein cefnogwyr gwych, ni fyddem yn gallu darparu’r gofal lliniarol cyfannol gorau o’i fath i’r holl blant a’r teuluoedd yng Nghymru sydd ein hangen ni. Mae eich cymorth chi yn golygu popeth i’n teuluoedd ni. Am hynny, rydym yn ddiolchgar dros ben.
cynnwys ailwampiad o'r radd flaenaf i'r ystafell synhwyrau ................................02 cerflun coffa yn talu teyrnged i gefnogwyr................................................04 emporiwm yn agor yn arcêd brenhinol caerdydd ................................05 stori sophie.........................................................................................................06 nadolig tyˆ hafan..............................................................................................08 hofrennydd siôn corn......................................................................................09 peter pan - yn null tyˆ hafan...........................................................................09 môr-ladron pentywyn......................................................................................10 hanes osian........................................................................................................12 mam sy'n galaru yn modelu i ddiolch i elusen ........................................14 tyˆ hafan yn dathlu wythnos gofal hobis.....................................................15 thomas carroll yn talu am ddiwrnod...........................................................16 sammy ameobi yn tynnu tocyn enillydd raffl y nadolig .........................18 crackerjackpot....................................................................................................18 diolch o galon ....................................................................................................19 sportradar connect 2015................................................................................20 codi arian o 12,000 troedfedd ......................................................................20 cenhadaeth codi arian....................................................................................21 siampên yn y castell.........................................................................................21 her greulon ........................................................................................................22 helpwch ni i barhau i fod yma .....................................................................23
2
ein newyddion a straeon o tyˆ hafan
029 2053 2199
www.tyhafan.org
ailwampiad o
ystafell
cylchlythyr gwanwyn/haf 2016
o’r radd flaenaf i’r
synhwyrau
Mae gan y plant sy’n defnyddio gwasanaethau Tyˆ Hafan amrywiaeth o gyflyrau cymhleth. Mae hyn yn golygu na fydd llawer ohonynt yn gallu elwa ar fanteision chwarae arferol i’w datblygiad. Mae’r ystafell synhwyrau wedi bod yn ychwanegiad gwych i’r hosbis ac mae’n golygu y gall plant ag anghenion a galluoedd amrywiol ddatblygu trwy chwarae. Ar ôl cael ei defnyddio a’i gwerthfawrogi’n fawr dros y blynyddoedd, roedd angen ailwampio’r ystafell synhwyrau i gyd-fynd â’r galw. Diolch i haelioni ein cefnogwyr corfforaethol, mae’r ystafell synhwyrau a’r ystafell chwarae meddal wedi cael eu gweddnewid yn sylweddol. Cafwyd grant o £31,434 gan HSBC, a sicrhawyd drwy waith caled Gary Footman, sy’n dad a ddioddefodd brofedigaeth ac sy’n gweithio i HSBC, a rhodd anhygoel o £27,055 gan Dow Corning, Bellach mae system awyru ac offer newydd ar gyfer codi cleifion yn yr ystafelloedd sy’n
rhoi cyfle i bawb ddefnyddio’r cyfleusterau gwych. Y prif bethau sy’n tynnu sylw yw’r Drych Hud, system camera a weithredir gan y symudiad lleiaf, Carped Hud, lle caiff delweddau a gemau rhyngweithiol eu dangos ar y llawr a’u rheoli gan symudiadau dros y ddelwedd, a man chwarae meddal newydd a gwell. Diolch i’r holl gefnogwyr anhygoel a gyfrannodd at gronfa ariannu’r gwaith ailwampio: Elusen Fawreddog y Seiri Rhyddion, Ymddiriedolaeth Elusennol Ladbrokes, Dow Corning, Grwˆp HSBC, Corporate Sustainability, IMO AJ Evans, Kier Construction, Sefydliad Cymunedol Banc Lloyds a Phoenix Children's Foundation. Bydd eich cyfraniadau yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau’r plant sy’n defnyddio ein gwasanaethau.
3
cwtsh
ein newyddion a straeon o tyˆ hafan
029 2053 2199
www.tyhafan.org
cerflun coffa yn talu teyrnged i gefnogwyr Roedd yn fraint cael dadorchuddio ein Coeden Roddion, cerflun coffa sy’n talu teyrnged i’r cwmnïau, grwpiau ac unigolion sy’n ein cefnogi ac sydd wedi codi dros £10,000. Dadorchuddiwyd y Goeden Roddion yn swyddogol gan Carys Boggis, pump oed, o Aberdâr, a’i brawd Rhys, 13 oed, sydd wedi cael cymorth gan Tyˆ Hafan ers 2007. Bydd pob rhodd o £10,000 neu fwy bellach yn cael ei nodi gan ddeilen aur, arian neu efydd wedi ei chrefftio â llaw a fydd yn cael ei gosod ar y Goeden Roddion a gynlluniwyd gan artist ac sydd wedi ei gosod ar wal yn yr hosbis. Bydd pob deilen yn cynnwys arysgrif pwrpasol sy’n nodi enw’r rhoddwr. Mae’r 21 o ddail cyntaf i’w gosod ar y goeden yn cynrychioli cyfanswm anhygoel o £349,456, a godwyd gan deuluoedd sy’n gysylltiedig â Tyˆ Hafan. Mae hyn yn cynnwys rhoddion unigol, rhoddion o waith codi arian Grwˆp Tadau’r hosbis a chyfraniadau gan unigolion yn gysylltiedig â digwyddiadau Noson Allan y Cogyddion.
4
Dywedodd Anthony, tad Carys a Rhys, sydd wedi cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau codi arian gyda Grwˆp y Tadau, gan gynnwys her 3 chopa Cymru: “Rydym yn dod yma fel teulu i aros. Seibiant i ni yw bod i ffwrdd o gartref ac i ffwrdd o ysbytai a’r holl bethau y mae’n rhaid i ni ymdopi â nhw. “Mae’n anhygoel cael deilen ar y Goeden Roddion a bod Carys yn ei lansio. Rwy’n arbennig o falch o hynny.” Mae’n costio £4 miliwn bob blwyddyn i ddarparu’r gofal, y cysur a’r cymorth i’n teuluoedd yn yr hosbis a’n gwasanaethau cymorth yn y gymuned. I gyfrannu ewch i www.tyhafan.org/donate.
cylchlythyr gwanwyn/haf 2016
“Mae’n siop elusen wahanol iawn, wedi ei chynllunio mewn dull hen ffasiwn – sy’n ei gwneud yn annhebyg i unrhyw siop arall sydd wedi bod yng Nghaerdydd erioed.” Matt Williams
“Mae’n siop mor brydferth a chymaint o eitemau ar werth ynddi. Mae’n hyfryd gweld cymaint o bobl yn cefnogi’r siop a byddaf i, yn sicr, yn dod yn ôl yma.” Dawn Higgins o Dressmeperfect.com
emporiwm yn agor yn arcêd brenhinol caerdydd Mae arcedau oes Fictoria Caerdydd, sydd ag awyrgylch hyfryd iddynt, yn nodwedd gwbl unigryw i brifddinas Cymru ac mae pobl leol a thwristiaid fel ei gilydd yn treulio oriau yn archwilio pob twll a chornel ohonynt. Roedd hyn yn gwneud yr Arcêd Brenhinol yn fan delfrydol i agor trydedd siop bwtîc Emporiwm Tyˆ Hafan yn yr hydref. Mae Emporiwm wedi denu sylw’r blogwyr a’r rhai sy’n pleidleisio ar gyfer gwobrau, a hynny am ei fersiwn unigryw o’r fformiwla siop elusen. Mae’r pwyslais ar eitemau o feysydd arbenigol, fel hen beiriannau gwnïo a theipiaduron a dillad ac esgidiau gan gynllunwyr. Roedd dull arloesol yr Emporiwm yn rheswm allweddol am ein llwyddiant wrth inni ennill gwobr Busnes Manwerthu y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes De Cymru ym mis Medi. Victoria Godwin o’r Eglwys Newydd, sy’n 17 mlwydd oed, oedd ein gwestai arbennig. Hi dorrodd y rhuban yn agoriad swyddogol y siop, a hi oedd y cwsmer cyntaf i fachu bargen – cwpl o recordiau finyl clasurol. Ganwyd Victoria, sydd wedi bod yn dod i Tyˆ Hafan ers chwe blynedd, â Syndrom Down ac mae’n dioddef o Gardiomyopathi Lledagored
- cyflwr difrifol ar y galon sy’n golygu ei bod yn blino’n hawdd iawn a bod angen cadair olwyn arni weithiau i allu symud o gwmpas.
Dywedodd Victoria: “Rwyf wrth fy modd yn Tyˆ Hafan oherwydd fy mod i'n cael cysgu dros nos gyda fy ffrindiau ac rydym yn cael llawer iawn o hwyl.”
Dywedodd Nina, mam Victoria: “Dechreuodd Tyˆ Hafan ein helpu ni ar adeg pan oeddem ar ein hisaf. Roedd Victoria, a oedd yn 11 oed ar y pryd, yn rhy sâl i fynd i’r ysgol felly gwnaeth Tyˆ Hafan ein cefnogi â therapi cerddoriaeth a chwarae yn ein cartref ac maent wedi bod yn gefn i’n teulu ni ers hynny.
Yn drist, nid oes modd gwella cyflwr calon Victoria ac nid yw’r meddygon yn gallu rhagweld beth fydd yn digwydd yn y dyfodol.
“Mae Victoria wrth ei bodd yn aros yn Tyˆ Hafan ac mae hi wedi gwneud ffrindiau da, gan gynnwys ei ffrind gorau, Kate, sydd hefyd yn defnyddio’r gwasanaeth. Mae’n rhoi cyfle iddi gael ychydig o annibyniaeth ac mae hi’n gallu mwynhau amser i ffwrdd yn gwneud pethau sy’n arferol i blant yn eu harddegau.”
Mae rhoi eich hen eitemau a siopa yn ein siopau yn ein helpu i ddarparu gofal a chefnogaeth i blant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar eu bywydau a’u teuluoedd.
“Rydym yn byw un dydd ar y tro ac yn ceisio gwneud bywyd mor gyfforddus a hapus â phosibl i Victoria,” meddai Nina.
angen gwirfoddolwyr Mae’n bosibl nad oes grwˆp mwy pwysig o bobl i Tyˆ Hafan na’n gwirfoddolwyr anhygoel. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r tîm, cysylltwch â ni ar 029 2053 2199 neu ewch i www.tyhafan.org/volunteer. 5
cwtsh
ein newyddion a straeon o tyˆ hafan
029 2053 2199
www.tyhafan.org
stori sophie Mae Jane a David Lewis yn cofio’r diwrnod ym 1999, pan anwyd eu merch fach Sophie, fel un o’r diwrnodau hapusaf yn eu bywydau. Ar ôl beichiogrwydd arferol, ond wedyn tri diwrnod erchyll o esgor ar y babi, a ddaeth i ben gyda thoriad cesaraidd, aeth y cwpl â Sophie adre i’w cartref yn Lecwydd yng Nghaerdydd. “Daethom adre gyda’n babi bach hyfryd a mwynhau 15 wythnos hapus iawn”, meddai Jane. “Roedd Sophie, yn ystod yr wythnosau cynnar hynny, yn fabi ardderchog. Roedd hi’n bwydo ac yn cysgu’n dda, roedd popeth yn hyfryd. Gallaf ddweud yn onest nad oedd gen i unrhyw bryderon o gwbl.” Ond pan oedd Sophie yn 15 wythnos oed, heb unrhyw rybudd, cafodd ei ffit gyntaf. “Gwnaeth y diwrnod y cafodd ei ffit gyntaf fy newid i’n llwyr. Gallaf ddweud yn onest fy mod i’n berson gwahanol nawr,” meddai Jane. “Mae’r ofn yn gafael ynddoch chi. Dyna’r tro cyntaf i mi weld rhywun yn cael ffit ac roeddwn yn gwylio fy merch yn dioddef. Roeddem ni yn y car ac roedd hi yn ei sedd car yn cysgu ar y pryd. Roeddwn i’n sgrechian ar fy ngwˆr ac aethom i’r ysbyty ar unwaith. “Ar ôl cyrraedd, pan alwyd ni i weld y meddyg, dechreuodd gael ffitiau eto yn fy mreichiau. Yn amlwg cafodd ei derbyn i’r ysbyty ar unwaith a buom yn byw yn yr ysbyty hwnnw am y pedwar mis nesaf.”
6
Dros y dyddiau nesaf, roedd Sophie yn parhau i gael ffitiau ac un diwrnod cafodd fwy na 50 o ffitiau. “Daeth pob prawf yn ôl yn ‘normal’. Felly oherwydd hynny, a chan fy mod i’n ifanc ac yn ddiniwed, roeddwn i’n cymryd y byddent yn rhoi trefn ar ei meddyginiaeth ac y byddem yn gallu mynd adref a mwynhau pethau eto,” meddai Jane. “Ychydig a wyddwn y byddai’r ffitiau’n dal i reoli ein bywydau 16 mlynedd yn ddiweddarach.” Ers hynny, mae Sophie wedi cael gwybod ei bod yn un o ddim ond 50 o bobl yn y DU sydd â chyflwr genetig prin o’r enw CDKL5 sy’n achosi ffitiau a phroblemau datblygu difrifol. Atgyfeiriwyd y teulu i Tyˆ Hafan yn 2004, pan oedd gofalu am anghenion cymhleth Sophie yn llawer mwy anodd, yn enwedig gan fod gan Sophie frawd bach erbyn hynny, Thomas, a oedd yn ddwyflwydd oed. Dywedodd David: “Mae Tyˆ Hafan wedi bod yn anhygoel. Mae hi wedi bod yn anodd iawn ar adegau, ond mae’r cymorth yn ei gwneud yn llawer haws. Maent yn gofalu am holl anghenion gofal Sophie pan fyddwn yn mynd yno felly gallwn gael seibiant a gwneud pethau arferol fel mynd am bryd o fwyd neu fynd ar wyliau.
cylchlythyr gwanwyn/haf 2016
“Mae Sophie yn cael amser gwych yn Tyˆ Hafan. Mae hi wrth ei bodd yn yr ystafell synhwyrau a’r pwll therapi dwˆr ac mae ein dau fab arall wrth eu boddau yno hefyd.” “Mae Sophie yn cael amser gwych yn Tyˆ Hafan. Mae hi wrth ei bodd yn yr ystafell synhwyrau a’r pwll therapi dwˆr ac mae ein dau fab arall wrth eu boddau yno hefyd.” Mae Sophie yn 16 oed bellach, ond mae ei chyflwr yn golygu bod angen gofal 24 awr y dydd arni ac nid yw’n gallu cerdded na siarad. Er gwaethaf yr anawsterau hyn, mae Sophie yn rhoi llawer o hapusrwydd i’w theulu ac mae’r staff yn Tyˆ Hafan wrth eu boddau yn ei maldodi pan ddaw i ymweld. Mae Jane a David yn gefnogwyr gwych i Tyˆ Hafan ac maent wedi cymryd rhan mewn llawer o gyfleoedd codi arian dros y blynyddoedd. Mae Jane wedi gwneud peth gwaith gwirfoddol i helpu’r tîm codi arian dros y Nadolig. Bu David, sy’n gweithio i Tesco, yn lapio pentwr enfawr o anrhegion Nadolig a roddwyd gan ei gyflogwr i’r hosbis yn ystod cyfnod y Nadolig. Bu David hefyd yn cymryd rhan yn Her Beicio Hanner Llwybr Taf Tyˆ Hafan, her beicio a oedd yn dechrau ym Merthyr Tydfil ac yn dod i ben yng Nghaerdydd, gyda’i dîm, y Tesco Trailers. Dywedodd: “Gwnes i fwynhau yr Her Beicio Llwybr Taf yn fawr ac roeddwn yn falch fy mod yn gallu rhoi rhywbeth yn ôl i helpu teuluoedd eraill. Rydym eisoes yn cynllunio i gwblhau’r llwybr cyfan y flwyddyn nesaf ac rydym hefyd hyd yn oed yn ystyried gwneud her 3 chopa Cymru Tyˆ Hafan ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf.”
7
cwtsh
ein newyddion a straeon o tyˆ hafan
029 2053 2199
www.tyhafan.org
nadolig t yˆ hafan Rydym wedi dweud hyn o’r blaen, ond mae Tyˆ Hafan yn gwybod sut i ddathlu’r Nadolig! A’r llynedd, mae’n bosibl ein bod wedi gwneud hynny yn well nag erioed o’r blaen! Roedd y gyngerdd carolau agoriadol yn y castell yn ddechrau perffaith i’r Nadolig. Roedd cyfle gwych i gydganu, ymweliad gan Siôn Corn ei hun, ychydig o eira ac arddangosfa ddramatig o dân gwyllt. Roedd y twˆr Normanaidd ysblennydd o’r 11eg ganrif yn gefndir anhygoel i’r digwyddiad a daeth tri chôr amatur gwych, Affinity Choir, City Voices Cardiff a Sing and Inspire Superchoir, ymlaen i’r llwyfan i’n cadw ni i gyd mewn tiwn. Perfformiodd pob côr rai o’u trefniadau eu hunain o ganeuon clasurol y Nadolig, gan gynnwys White Christmas, The Twelve Days of Christmas, Santa Claus is Coming to Town a Must Be Santa. Perfformiodd Russell Jones o Only Boys Aloud gyfres o ganeuon Nadoligaidd penigamp o flaen cynulleidfa o 2,000, bob un ohonynt yn mynd i ysbryd yr wˆyl. Roedd yn ddigwyddiad hynod o arbennig i Ian Reiffer, sydd â mab, Lewis, 16 oed, sy’n dod i Tyˆ Hafan yn rheolaidd. Cafodd Lewis ddiagnosis ei fod yn dioddef o fath difrifol o epilepsi pan oedd ond ychydig fisoedd oed. Mae Ian yn gweithio fel Rheolwr Sicrwydd Gweithrediadau gyda Threnau Arriva Cymru ac roedd wrth ei fodd pan ddewisodd ei gyflogwr noddi’r digwyddiad. Dywedodd Ian: “Mae’n wych. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi cyrraedd y cam hwn. Dechreuodd gyda theithiau beic ac rydym wedi bod yn datblygu’r berthynas â Tyˆ Hafan ers hynny. Mae’n rhan bwysig o’r gymuned ac mae gwaith cymunedol yn bwysig iawn i ni yn Arriva.
8
“Mae Syndrom Lennox Gastaut ar Lewis. Roedd yn datblygu’n dda fel babi, yna pan oedd yn bedwar mis oed, dechreuodd gael ffitiau bach. Ar ôl llawer o brofion, dywedodd y meddyg ymgynghorol wrthym fod y gwingiadau yn ddifrifol iawn a bod gan Lewis fath difrifol o epilepsi, a oedd wedi achosi niwed i’w ymennydd. “Bellach mae Lewis yn 16 ond yn feddyliol mae’n siwˆr o fod yn un neu’n ddwy oed. Nid yw’n gallu cyfathrebu ond mae’n blentyn hyfryd, ac yn ddiddig iawn. “Rydyn ni’n dueddol o ddod i aros am benwythnos hir yn Tyˆ Hafan. Mae’n wych - mae’n rhoi modd i fyw i Lewis bob tro y mae’n mynd yno. Mae wrth ei fodd yn yr ystafell chwarae synhwyrau a’r pwll. Roedd ei chwaer Lauryn yn arfer mynd i’r grwˆp ar gyfer brodyr a chwiorydd bob mis ond mae ganddi amserlen brysur y dyddiau hyn!” Roedd Carolau yn y Castell yn gymaint o lwyddiant ysgubol rydym eisoes yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Gastell Caerdydd yn 2016 a sicrhau bod ein digwyddiad agoriadol ‘swyddogol’ i gyfnod y Nadolig yn dod yn draddodiad yng Nghaerdydd.
cylchlythyr gwanwyn/haf 2016
hofrennydd siôn corn Cafodd ein plant a’u teuluoedd anrheg Nadolig arbennig iawn ar y diwrnod cyn Noswyl y Nadolig. Cymerodd Siôn Corn rai munudau o hoe o’i baratoadau ar gyfer ei anturiaethau ar Noswyl y Nadolig i ymweld â’r hosbis a chyfarfod â'r teuluoedd. Ond yn hytrach na defnyddio’i ddull arferol o gludiant, rhoddodd ychydig o oriau o seibiant i’w geirw a chyrraedd yn hofrennydd Ambiwlans Awyr Cymru! Roedd pawb wrth eu boddau â’i ffordd ddramatig o gyrraedd ac roedd yn ddiwrnod mor gyffrous i bawb a oedd yno. Felly diolch o galon i Ambiwlans Awyr Cymru am roi benthyg yr hofrennydd i Siôn Corn.
peter pan – yn null tyˆ hafan Mae’r panto bellach yn draddodiad yn Tyˆ Hafan. Y llynedd cafwyd stori Peter Pan yn ein dull unigryw ein hunain - Peter drygionus, tic-toc-croc peryglus, sêr enwog o’r byd cerdd yn actio rhannau cowbois, cyn chwaraewyr rygbi rhyngwladol yn actio rhannau merched coll ac un o’r portreadau mwyaf diddorol o Tinkerbell yr ydych yn debygol o’i weld erioed - oni bai eich bod yn ei dychmygu fel bod yn 6’3” gyda llawer o datwˆs deniadol. Roedd gwylio Ian ‘Wendy’ Gough, sydd wedi chwarae dros Gymru, yn cael ei herwgipio gan y dihiryn Captain Hook, a Peter a’r... cymeriadau coll, gan gynnwys y ‘Cowboi’ Connie Fisher, yn cynllunio sut i’w hachub, heb os nac oni bai, yn uchafbwynt i’r digwyddiad. Roedd Siôn Corn, wrth gwrs, wrth law i roi anrhegion bendigedig i’r plant a oedd yn bresennol. Rhoddwyd y rhain gan ein cefnogwyr anhygoel, ac roedd yn wych i weld cymaint o’n cefnogwyr corfforaethol yn ymroi yn llwyr i’w rhannau.
9
cwtsh
ein newyddion a straeon o tyˆ hafan
029 2053 2199
www.tyhafan.org
môr ladron pentywyn Rydym wedi rhannu rhai straeon anhygoel am ffrindiau, aelodau teuluoedd a chyflogwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i godi arian i Tyˆ Hafan. Bydd pobl yn cymryd rhan mewn heriau anghyffredin, boed hynny yn wynebu ofn personol trwy nenblymio neu drwy ddod â’r gymuned gyfan at ei gilydd i gynnal te parti mawr. Serch hynny, mae ein hoff straeon yn cynnwys y plant sy’n defnyddio ein gwasanaethau yn cymryd rhan eu hunain. Atgyfeiriwyd Poppy Jones, sydd â pharlys yr ymennydd cwadriplegig a chlefyd cronig yr ysgyfaint, i Tyˆ Hafan yn 2011. Mae hi’n ferch 10 oed fywiog sydd wrth ei bodd yn cael hwyl a sbri. Gyda chymorth grwˆp amrywiol o’i ffrindiau a’i theulu o’r enw ‘Poppy’s Pirates’, cwblhodd Poppy ein ras enfys 5km ar Draeth Pentywyn mewn bath! “Mae hi’n dipyn o gymeriad ac mae ganddi synnwyr digrifwch
10
gwych,” meddai ei thad, Rob. “Gan fod Poppy yn defnyddio cadair olwyn, roeddem ni’n meddwl y byddai defnyddio bath ar olwynion yn llawer mwy o hwyl i gwblhau’r ras. Roedd yn wych ac roedd Poppy yn gwenu ac yn chwerthin trwy gydol y ras.” Mae Poppy, o Grughywel, wedi dioddef llawer o broblemau iechyd dros y blynyddoedd a bu adegau pan nad oedd y meddygon yn credu y byddai hi’n byw. “Mae hi wedi cael hanes cyfnewidiol, o ran ei hiechyd,” meddai Rob. “Cafwyd adegau pan fu hi’n ofnadwy o wael ac
rydym yn ffodus iawn ei bod wedi bod gyda ni dros y deng mlynedd ddiwethaf.” Ymunodd Poppy â dros 1,000 o Redwyr Enfys eraill ar gyfer ail ras Tyˆ Hafan ar Draeth Pentywyn. Dechreuodd y rhedwyr wedi’u gwisgo mewn gwyn gan groesi’r llinell wedi eu gorchuddio â phaent o bob lliw i godi arian i Tyˆ Hafan. “Fel llawer o’r plant sy’n cael budd o Tyˆ Hafan, rydym yn gorfod gwneud y mwyaf o’r amser sydd gennym gyda’n gilydd,” meddai Rob. “Mae Tyˆ Hafan yn caniatáu i Poppy fod yn ferch ddeg
mlwydd oed normal. Mae hi wrth ei bodd yn cellwair ac mae hi’n cael teimlo fel un o’r merched. Nid yw’n cael ei thrin fel rhywun anabl. Mae’n cael ei thrin fel merch normal sydd â synnwyr digrifwch gwych. Dyma’r unig le hefyd y gallwn fynd iddo fel teulu i gael seibiant go iawn.” I gael gwybodaeth ynglyˆn â’r Ras Enfys yn y dyfodol, ewch i www.rainbowrunwales.co.uk.
cylchlythyr gwanwyn/haf 2016
“Fel llawer o’r plant sy’n cael budd o Tyˆ Hafan, rydym yn gorfod gwneud y mwyaf o’r amser sydd gennym gyda’n gilydd.”
11
cwtsh
ein newyddion a straeon o tyˆ hafan
029 2053 2199
hanes osian Ddwy awr ar ôl genedigaeth Osian Liddell, lledaenodd brech yn gyflym ar draws ei wyneb a’i gorff. Roedd ei rieni a’r meddygon yn ofni y gallai fod yn llid yr ymennydd. Fodd bynnag, trwy gael profion, canfuwyd bod ganddo gyflwr anghyffredin o’r enw Syndrom Aicardi-Goutieres 1. Dim ond 400 o bobl yn y byd sydd wedi cael diagnosis o SAG1 erioed. Nid yw tua 40% ohonynt yn byw i fod yn fwy na phum mlwydd oed. Canfu ei rieni, Anna, 27, a Huw, 28, sy’n gariadon ers eu plentyndod, eu bod ill dau yn gludwyr y genyn sy’n achosi cyflwr Osian. “Rydym ni wedi adnabod ein gilydd erioed – aethon ni i’r ysgol gynradd gyda’n gilydd,” meddai Anna. “Allwch chi ddychmygu pa mor isel yw’r tebygolrwydd o gael dau blentyn yn yr un dosbarth mewn ysgol gynradd sy’n cludo’r genyn anghyffredin hwn, a’r ddau’n tyfu i fyny ac yn cael plentyn gyda’i gilydd?” Ac yntau bellach yn wyth mis oed, mae ar Osian angen gofal 24 awr y dydd i wrthsefyll ei gatalog cynyddol o symptomau, sy’n gallu newid o ddydd i ddydd. “Anhwylder hunanimíwn dirywiol genetig sy’n achosi niwed i’r ymennydd, trawiadau, problemau anadlu, a phroblemau’r galon a’r afu yw SAG1,” meddai Anna. “Pan ddaeth y canlyniadau yn eu holau, gosododd y meddygon gylchgrawn o’n blaen, dangos erthygl inni a dweud eu bod nhw’n meddwl mai dyna oedd yn bod. Doedd neb wedi clywed amdano. “Ar ôl inni fynd ag Oshi adre, roedd yn union fel pe byddai e wedi darllen yr erthygl ac yn gwneud ei ffordd trwy’r rhestr symptomau, ac yn dweud wrthym ni fod SAG arno. Doedd dim angen mwy o brofion arnom ni - roedd e wedi ei wneud yn eglur iawn. “Rydym ni’n gallu defnyddio meddyginiaeth a’i reoli a’i wneud e’n sefydlog. Ond mae gan bob meddyginiaeth ei sgîl-effaith, ac felly, byddem ni’n rhoi cynnig ar un peth a byddai rhywbeth arall yn codi. Os oedden ni’n rhoi tawelyddion, roedd e’n cael problemau wrth anadlu. Gyda meddyginiaethau eraill, roedd goblygiadau o ran ei afu. Roedden ni’n teimlo yn y niwl.” A hwythau wedi blino’n llwyr ac yn teimlo’n bryderus, atgyfeiriwyd Anna a Huw i Tyˆ Hafan, lle maent yn elwa ar ymweliadau allgymorth â’u cartref yng Nghaerdydd a gofal seibiant byr a ddarperir gan yr hosbis.
12
“Awgrymwyd Tyˆ Hafan yn gynnar iawn,” meddai Anna. “Roeddwn i’n arfer gweithio gyda phlant ag anghenion arbennig, ac felly mae hynny’n gwneud pethau rywfaint yn haws. Roeddwn i eisoes yn deall rhywfaint. Roeddwn i’n gwybod nad oedden ni’n mynd ag Osian i Tyˆ Hafan i farw. Felly, dywedais i ‘ie’ am bopeth yr oedden nhw’n ei gynnig – beth bynnag a fyddai’n helpu Osian. Dydym ni ddim eisiau iddo golli unrhyw gyfle. “Mae Osian yn sensitif iawn i deimladau Huw a fi. Cyn gynted â'n bod ni’n cyrraedd yr hosbis, mae golwg well arno. Mae hynny oherwydd yr amgylchedd y mae pawb yn ei greu a'r ffaith fod Huw a minnau wedi ymlacio gymaint. Mae Oshi’n ymlacio yma. “Os oes rhywbeth bach iawn yn digwydd gartre, rydym ni’n dueddol o feddwl y gwaethaf. Mae’n helpu i ni gael pobl o’n cwmpas nad ydynt yn cynhyrfu. Rydym ni’n ymddiried yn llwyr ynddyn nhw. “Roeddwn i’n arfer gorfod cysgu yn dal Osian oherwydd, os yw e’n deffro ac yn dychryn, gall gael trawiad. Ar ôl ein harhosiad cyntaf yn Tyˆ Hafan, roeddwn i’n teimlo’n ddigon ffyddiog i adael iddo gysgu yn ei ystafell ei hun. “Mae aros yma’n golygu’n syml y caiff Huw a minnau fod gyda’n gilydd. Gartre, mae un ohonon ni bob amser yn gofalu am Osian tra bod y llall yn cysgu – rydym ni’n cymryd ein tro. Mae hynny’n gwneud inni deimlo’n ofnadwy oherwydd ein mab ni yw e ac nid swydd! “Yma cawn aros yn ein pyjamas a gwylio’r teledu gyda’n gilydd tra bod rhywun arall yn gofalu am Oshi. Wedyn, rydym ni’n dechrau cyffroi pan fyddwn yn mynd i’w weld e. “Rydym ni wrth ein boddau bod ein mamau’n cael dod yma hefyd i fwynhau treulio amser gydag e heb orfod poeni am ei symptomau a’i feddyginiaeth – maen nhw’n gallu cael cwtsh gydag e. “Rydym ni wedi gallu rhannu hyn gyda’n teulu cyfan – mae’n bwysig i bawb sy’n rhan o fywyd Osian ddeall beth mae’r lle hwn yn ei wneud.” Mae Tyˆ Hafan wedi bod yno ar gyfer teuluoedd fel y Liddells ers 1999. Bydd yn parhau i ddarparu’r gofal gorau posibl cyhyd ag y bo angen. I gael gwybodaeth am atgyfeirio plentyn i Tyˆ Hafan, ewch i www.tyhafan.org/refer-a-child.
www.tyhafan.org
cylchlythyr gwanwyn/haf 2016
“Allwch chi ddychmygu pa mor annhebygol yw’r tebygolrwydd o gael dau blentyn yn yr un dosbarth mewn ysgol gynradd sy’n cludo’r genyn anghyffredin hwn, a’r ddau’n tyfu i fyny ac yn cael plentyn gyda’i gilydd?”
13
cwtsh
ein newyddion a straeon o dyˆ hafan 029 2053 2199
www.tyhafan.org
mam sy’n galaru yn modelu i ddiolch i elusen Pan aeth y rhieni, Lee a Lucy, ag Ezra a oedd yn wyth wythnos oed at y meddyg gyda haint ar y frest, wnaethant erioed feddwl y byddent yn ffarwelio â’u mab annwyl bythefnos yn ddiweddarach. Ganwyd Ezra ar 12 Ionawr 2015 heb unrhyw gymhlethdodau ac roedd yn ymddangos yn fachgen bach iach. Roedd Lee Morgan a Lucy Froley o Ben-ybont ar Ogwr wrth eu boddau yn cwblhau eu teulu ac yn rhoi brawd bach annwyl i Bailey, eu merch ddwyflwydd oed. Fodd bynnag, tua deufis yn ddiweddarach, aeth Ezra yn sâl, ac felly, aeth Lucy ag ef i weld eu meddyg teulu. Dywedodd Lucy: “Aeth Ezra yn sâl gyda haint ar ei frest a doeddem ni ddim yn meddwl bod llawer i boeni amdano nes imi fynd ag e at y meddyg. Ar ôl dwy funud, rhoddodd y meddyg ocsigen iddo a galwyd am ambiwlans.” Aethpwyd ag Ezra i Ysbyty Athrofaol Cymru a’i roi ar beiriant cynnal bywyd. Ar ôl cael
diagnosis o Atroffi Cyhyrol yr Asgwrn Cefn, Math 1 (SMA) – clefyd cyhyrol genetig anghyffredin – fe’i hatgyfeiriwyd i Tyˆ Hafan, yr hosbis i blant yng Nghymru. “Gofalodd Tyˆ Hafan amdanon ni gan nad oedd unrhyw driniaeth ar gael i wella cyflwr Ezra,” meddai Lucy. “Cyn mynd, doeddwn i’n gwybod dim am Tyˆ Hafan a beth yr oedden nhw’n ei wneud. Mae’n elusen ragorol sy’n helpu plant a’u teuluoedd drwy gyfnodau mwyaf anodd eu bywydau. Roedden nhw’n rhoi cymorth inni gydag unrhyw beth, o wneud te inni, hyd at siarad â ni a chreu atgofion. “Bu Ezra fyw am 24 awr ar ôl cael ei dynnu oddi ar y peiriant anadlu yn Tyˆ Hafan. Yn ystod y 24 awr hynny, gwireddodd
Tyˆ Hafan gymaint o atgofion inni - olion llaw a throed Ezra, a rhai ei chwaer fawr ddwyflwydd oed, ac olion bysedd ar bili-palod bychain. “Cyn i Ezra ein gadael ni ar 6 Mawrth, cawsom ni’r diwrnod mwyaf bendigedig a hudol i’r teulu y gallai unrhyw un yn ein hamgylchiadau ni freuddwydio amdano. Pob diolch i Tyˆ Hafan. Doedd dim o gwbl yn waith caled iddyn nhw a gwnaethon nhw goginio’r holl fwyd ar gyfer ein teulu ni. Gallem ni fod wedi cael ein teulu i gyd i aros hefyd.”
“Dwi mor hapus i gymryd rhan yn sioe ffasiwn Tyˆ Hafan er mwyn codi mwy o arian ac i bobl gael gwybod pa mor anodd y gall pethau fod, a pha mor wych yw Tyˆ Hafan,” meddai Lucy. “Dwi eisiau gwneud yn siwˆr bod pawb yn gwybod beth mae Tyˆ Hafan yn ei wneud, yn hytrach na dod i wybod am hynny fel y gwnes i a fy nheulu.”
Er mwyn dweud diolch, cymerodd Lucy ran mewn sioe ffasiwn er budd Tyˆ Hafan gyda mamau eraill a oedd yn cael eu cefnogi gan yr elusen.
“Roedd bod yn rhan o noson sioe ffasiwn Tyˆ Hafan yn fraint ac yn anrhydedd. Roedd modelu gyda’r mamau eraill yn brofiad emosiynol iawn gan fod gan bob un ohonynt eu hanesion a’u rhesymau eu hunain, ond daethon nhw i gyd at ei gilydd i gefnogi ei gilydd a’r noson ei hun.” Matt Nolan, model gwadd ar gyfer y noson
14
cylchlythyr gwanwyn/haf 2016
tyˆ hafan yn dathlu wythnos gofal hosbis Dathlodd plant a theuluoedd a gefnogir gan Tyˆ Hafan Wythnos Gofal Hosbis gyda llwyth o weithgareddau. Yn eu plith roedd gwneud balwnau, te parti a hwyl Nos Galan Gaeaf!
Wythnos flynyddol o weithgareddau i godi proffil gofal hosbisau ar draws y DU yw Wythnos Gofal Hosbis, 5 – 11 Hydref. Gofal Cysylltiedig oedd y thema ar gyfer Wythnos Gofal Hosbis 2015. Roedd yn canolbwyntio ar swyddogaeth arbennig yr hosbisau wrth gysylltu ag unigolion a theuluoedd, cysylltu â chymunedau lleol a chysylltu pobl â’i gilydd.
15
cwtsh
ein newyddion a straeon o tyˆ hafan
029 2053 2199
www.tyhafan.org
thomas carroll yn talu am ddiwrnod
Mae pob diwrnod yn ddiwrnod arbennig yn Tyˆ Hafan – yn ddiwrnod yr ydym yn ceisio ei lenwi’n llawn o atgofion gwerthfawr ar gyfer ein teuluoedd. Ond mae’r gofal a’r cymorth a ddarperir gan Tyˆ Hafan, naill ai yn yr hosbis neu allan yn y gymuned, yn costio £10,958 bob dydd. Thomas Carroll, un o’r asiantaethau yswiriant busnes mwyaf yn y DU, yw’r cyntaf o’n cefnogwyr i gymryd rhan yn ‘Talu am Ddiwrnod’. Mae’r cynllun ‘Talu am Ddiwrnod’ yn caniatáu i gefnogwyr, naill ai partner corfforaethol, grwˆp neu unigolyn, dalu am ddiwrnod cyfan o ofal a gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a theuluoedd sydd dan ein gofal. Mae aelodau staff Thomas Carroll wedi bod yn wych yn meddwl am syniadau ar gyfer codi arian i’w cynorthwyo i gyrraedd eu nod. Y digwyddiad uchaf ei broffil oedd grwˆp o feicwyr yn cymryd rhan yn yr her o fynd ar daith 295 o filltiroedd rhwng Llundain a Pharis, gan feicio 74 milltir y dydd. Daeth yr her flinderus i ben i’r tîm wrth y Twˆr Eiffel eiconig. Dywedodd Paul Evans, Rheolwr Cyfrifon a chapten y tîm ar gyfer y daith feicio: “Ein nod oedd codi mwy na £10,000 – y gost o ddarparu holl
16
wasanaethau gofal lliniarol Tyˆ Hafan am 24 awr, ddim yn unig yn yr hosbis ei hun, ond y gwaith o gefnogi plant a’u teuluoedd mewn cymunedau ar draws Cymru. “Rydym ni’n gefnogwyr brwd o gynllun ‘Talu am Ddiwrnod’ Tyˆ Hafan ac rydym ni wedi dewis 1 Hydref, sef pen-blwydd sefydlu Grwˆp Thomas Carroll ym 1972, fel ein diwrnod arbennig o ofal yn yr hosbis. “Roedd beicio 74 milltir y dydd gyda thîm cymysg o ran eu profiad beicio yn dipyn o her, ond daethom drwyddi oherwydd ysbryd anghredadwy’r tîm, a’r achos hanfodol hwn.” Ymunodd aelodau staff Thomas Carroll â phlant a’u teuluoedd i gael parti yn yr hosbis i ddathlu talu am ddiwrnod o ofal yn Tyˆ Hafan.
cylchlythyr gwanwyn/haf 2016
"Pryd bynnag y byddaf i’n ymweld â Tyˆ Hafan, mae’n brofiad emosiynol iawn – alla i ddim esgus nad yw e. Wrth weld y plant bach yn rhedeg o gwmpas, mae’n eich denu chi. Felly, mae gallu talu am y gwasanaethau am un diwrnod yn gyflawniad anhygoel." Brynmor Williams, Cyfarwyddwr Bwrdd Grwˆp Thomas Carroll 17
cwtsh
ein newyddion a straeon o tyˆ hafan 029 2053 2199
www.tyhafan.org
sammy ameobi yn tynnu tocyn enillydd raffl y nadolig Diolch yn fawr i bawb a gefnogodd ein raffl Nadolig a’n helpu i godi’r swm rhyfeddol o £75,000. Tynnwyd tocynnau’r enillwyr yn yr hosbis ar 18 Rhagfyr 2015 gan chwaraewr o Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Sammy Ameobi. Mrs Harvey o ardal Pen-y-bont ar Ogwr enillodd y brif wobr o £3,000, ac ymwelodd â Tyˆ Hafan ym mis Ionawr.
Bydd ein raffl nesaf yn dechrau ddiwedd mis Ebrill. Os hoffech gael tocynnau, anfonwch e-bost i lottery@tyhafan.org neu ffoniwch 029 2053 2300.
Un o’r pethau gorau am swydd ein Rheolwr Marchnata Loteri yw ffonio pobl i roi gwybod iddynt eu bod wedi ennill y brif wobr wythnosol o £2,000. Mae rhai o’r enillwyr ffodus yn cynnwys Mrs Davy a enillodd y brif wobr yn ein raffl Noswyl Nadolig ar ôl prynu ei thocyn llwyddiannus yn siop Tyˆ Hafan yng Nghasnewydd. Enillydd diweddar arall oedd Debra Carr o’r Barri sydd â dau reswm personol iawn dros gefnogi Tyˆ Hafan: bu farw ei brawd pan oeddent ill dau yn eu harddegau, ac ar yr adeg honno, nid oedd unrhyw beth tebyg i Tyˆ Hafan yn bodoli. Yn drist iawn, y llynedd daeth wˆyr Debra yn rhoddwr organau ieuengaf Prydain erioed ac mae ganddo ei garreg arbennig ei hun yng ngardd goffa Tyˆ Hafan.
18
cylchlythyr gwanwyn/haf 2016
diolch o galon
Mae eich rhoddion caredig yn cefnogi plant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd ar draws Cymru
Rydym eisiau dweud diolch o galon wrth bawb a gyflwynodd rodd i’n Hapêl Nadolig Eiliadau Gwerthfawr. Cawsom ymateb mor anhygoel, a diolch i chi, codwyd swm anhygoel o £43,011! Hoffem ddiolch hefyd am y dymuniadau Nadolig a’r negeseuon twymgalon a anfonwyd gennych ar addurniadau bendigedig coeden Nadolig Macsen a’i frawd, Ioan. Roeddem wedi'n syfrdanu gan yr holl negeseuon o gefnogaeth. Fe’u gosodwyd ar goed Nadolig yr hosbis er mwyn i deuluoedd, aelodau staff ac ymwelwyr eu darllen, a gwnaethant i lawer o bobl wenu. Mae eich rhoddion caredig yn golygu y gallwn barhau i gefnogi plant sy’n byw bywydau byr a theuluoedd fel teulu Macsen, ar draws Cymru.
Yn garedig iawn, rhannodd Matthew a Lisa, rhieni Macsen a Ioan, eu hanes, gan egluro eu bod wedi cael cyfle o’r diwedd i fod yn deulu eto oherwydd cefnogaeth ragorol Tyˆ Hafan. Mae parlys yr ymennydd difrifol ar Macsen ac mae’n cael trawiadau bob dydd. Ar ddiwrnod gwael, gall gael hyd at 40 o drawiadau. Mae angen gofalu amdano 24 awr y dydd. Cyn i’r teulu ddod o hyd i Tyˆ Hafan, roeddent wedi blino’n llwyr ac roedd gwneud pethau syml fel mynd allan i’r siopau neu fynd i’r parc yn amhosibl. Ar ôl ymdrechu ar eu pennau eu hunain, yn fuan roedd digon
o bobl o’u cwmpas y gallent ymddiried ynddynt i fod gyda Macsen. Pan fyddant yn cael seibiannau byr yn Tyˆ Hafan, gallant fynd allan am brydau bwyd a mynd â Ioan am drip i Gaerdydd am y diwrnod. Dywedodd Lisa: “Bob tro yr ydym ni’n gadael Tyˆ Hafan, rydym ni bob amser yn dweud pa mor hyfryd oedd cael bod yn normal unwaith eto. “Mae’r bechgyn wrth eu boddau yn aros yn Tyˆ Hafan ac mae Macsen yn hoffi’r sylw a gaiff. Mae’n adnabod y staff ac mae’n gwenu’n braf pan ei fod yn eu cwmni. Mae Ioan yn rhan o grwˆp Super Siblings, lle mae’n
cael hwyl ac yn cael chwarae fel unrhyw blentyn saith mlwydd oed arall. Dyma’i gyfle ef i deimlo’n sbesial. Dywedodd Lisa a Matthew ei bod yn anodd iddynt ddychmygu sut byddai eu bywydau heb gefnogaeth Tyˆ Hafan. Diolch i’ch haelioni chi, gallwn barhau i gefnogi teuluoedd yng Nghymru, fel teulu Macsen, a’u helpu nhw i fwynhau amser gyda’i gilydd fel teulu a mwynhau pethau syml bywyd.
Diolch.
19
cwtsh
ein newyddion a straeon o tyˆ hafan
029 2053 2199
www.tyhafan.org
sportradar connect 2015 Cynhaliodd Sportradar, arbenigwyr ar ddata chwaraeon, eu Digwyddiad Cyfarfod Arweinwyr a Golff Elusennol blynyddol yn y Celtic Manor Resort, gan godi mwy na £28,000 ar gyfer Tyˆ Hafan. Roedd mwy na 100 o westeion yn bresennol yn ystod y digwyddiad deuddydd, a gynhaliwyd yn y Celtic Manor Resort, gan gynnwys rhai o bobl a sefydliadau blaenllaw ym maes chwaraeon o bob cwr o’r byd. Mae’r cwmni rhyngwladol, sydd â swyddfa ym Mrynbuga, yn cynnal y digwyddiad mewn gwahanol wlad bob blwyddyn, gan godi arian ar gyfer dwy elusen - un ryngwladol ac un leol.
Aeth y chwaraewyr ar y cwrs Twenty Ten i godi arian i Tyˆ Hafan ac Yr Hawl i Chwarae. Dywedodd Louise Copping, rheolwr swyddfa Brynbuga: “Roedden ni wrth ein boddau o glywed bod y digwyddiad blynyddol yn dod i Gymru, gan wybod y byddem ni’n gallu cefnogi elusen leol. Mae Tyˆ Hafan yn elusen mor rhyfeddol, sy’n cynnig gwasanaeth unigryw a lle arbennig i deuluoedd ar adegau anhygoel o anodd. Roeddem ni’n falch o allu eu cefnogi.”
Dysgwch fwy am sut y gall eich busnes adeiladu partneriaeth â Tyˆ Hafan yn www.tyhafan.org/become-a-partner
codi arian o 12,000 troedfedd Mae Clwb Golff Greenmeadow wedi ein cefnogi ers 2014 ac wedi codi mwy na £7,500 trwy gynnal digwyddiadau golff, rafflau a chwisiau elusennol. Aeth Alan Miskelly, aelod o Greenmeadow, gam ymhellach pan aeth i fyny i’r awyr i helpu i godi mwy na £2,000 trwy nenblymio ar gyfer Tyˆ Hafan. Ac yntau’n 72 mlwydd oed, neidiodd Alan o uchder o 12,000 troedfedd yn ei nenblymiad tandem cyntaf erioed, gan ddisgyn ar gyflymder o fwy na 110 milltir yr awr am bron i funud. Soniodd llywydd Clwb Golff Greenmeadow, Lyn Thomas, ei fod yn falch o allu helpu’r elusen trwy ymdrechion codi arian y clwb. Dywedodd: “Rwy’n falch iawn o’r ffordd y mae aelodau Clwb Golff Greenmeadow wedi cofleidio Tyˆ Hafan a chyfrannu'n hael i gefnogi’r elusen ryfeddol hon.”
20
cylchlythyr gwanwyn/haf 2016
cenhadaeth codi arian Mae Eglwys y Santes Fair yn Ninbych-y-pysgod wedi codi arian aruthrol yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Roedd cyngerdd yr Adfent a gynhaliwyd ganddynt, sef perfformiad arbennig ‘dewch i ganu’ o Feseia Handel, yn llwyddiant ysgubol, gan godi £1,195. Llwyddodd eu Canwyr Clychau Llaw hefyd i godi £1,000 trwy gynnal cyfres o gyngherddau ‘Twrci a Thinsel’, a chodwyd y swm anhygoel o £6,400 trwy roddion gan
aelodau’r cyhoedd wrth iddynt gael y cyfle i oleuo canhwyllau yn yr eglwys. Mae’r Rheithor, Andrew Grace, a’r eglwys wedi bod yn gefnogwyr anhygoel i Tyˆ Hafan am flynyddoedd lawer, ac rydym yn diolch yn ddiffuant iddynt ac yn edrych ymlaen at eu cefnogaeth barhaus.
llun: gareth davies photography (fb ac @gdptenby)
siampên yn y castell Cynhaliodd y cyfanwerthwyr ffasiwn Cymreig, Goose Island, ddigwyddiad siampên yn ystod yr haf yng Nghastell Ystumllwynarth er budd Tˆy Hafan. Mwynhaodd 280 o westeion adloniant prynhawn a min nos, gan gynnwys cerddoriaeth jazz, bwyd ‘gourmet’ a dawnsio, a rafflau ac arwerthiannau i helpu i godi arian. Ar ôl ymweld â Tyˆ Hafan yn ystod yr haf, roedd Rheolwr Gyfarwyddwr Goose Island, Karen Hutchings, yn teimlo rheidrwydd i’n cefnogi pan sylweddolodd ei bod yn costio £10,958 y dydd i gynnal ein gwasanaethau. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant enfawr, a chyflwynodd Karen, ynghyd â’i gwˆr Peter, siec o dros £20,000 i ni. Diolch yn fawr i bawb a helpodd i wneud y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant ysgubol.
21
cwtsh
ein newyddion a straeon o tyˆ hafan 029 2053 2199
www.tyhafan.org
her greulon
Nid oes unrhyw her yn rhy fach pan mae’n dod i godi arian i Tyˆ Hafan. Mae pob unigolyn sy’n rhoi gwisg ffansi amdano, yn cynnal te parti neu’n neidio o gryn uchder yn enw Tyˆ Hafan yn arwr i ni. Weithiau, fodd bynnag, rydym yn clywed am bobl sy’n penderfynu gwthio eu hunain i eithafion eithriadol, sy’n ein harwain at y ‘Dyn Haearn’ Willie. Mae Mark ‘Willie’ Wilson wedi ymddiddori erioed mewn aml-chwaraeon ac wedi cystadlu mewn amryw o driathlonau ac ambell ras Dyn Haearn dros y blynyddoedd. Tua 18 mis yn ôl, penderfynodd Willie y byddai ras pellter hir yn syniad da cyn y gallai llawdriniaeth a oedd wedi’i chynllunio o bosib ohirio ei yrfa driathlon. Y ras dan sylw oedd ras Dyn Haearn pellter dwbl y ‘Brutal Events’ a gynhelir yn Eryri. Mae’r enw’n awgrymu beth sydd i ddod. Ond dim ond wrth wybod beth yw’r her y gallwch ei gwerthfawrogi mewn gwirionedd. Nofio am 4.8 milltir, taith feic 232 milltir a rhedeg am 52 milltir – y cyfan o fewn 42 awr neu lai! Ar y dechrau, roedd Willie am godi £1,000 ar gyfer Tyˆ Hafan, ond mae wedi llwyddo i fwy na dyblu ei nod, gan godi mwy na £2,700.
22
Dywedodd Willie: “Gwnes i’n siwˆr nad oedd yr hyfforddiant yn cymryd drosodd fy mywyd, gan imi wneud ymdrech ymwybodol i beidio â threulio unrhyw amser i ffwrdd oddi wrth fy nheulu ar benwythnosau na fin nos yn ystod diwrnodau gwaith – roeddwn bob amser yn ceisio bod gartre i roi bath i fy merch fach ddwyflwydd oed, Ruby, a’i rhoi yn y gwely. Wnes i erioed hyfforddi am fwy nag 20 awr yr wythnos, dim ond 13-15 awr yr wythnos ar gyfartaledd. “Bum wythnos cyn y ras, gyrrais i i fyny i Lanberis a chyrraedd yno am 10 y nos a chysgu ychydig oriau yng nghefn y fan cyn codi’n gynnar am 4am i gwblhau dwy lap o’r cwrs beicio - hoffwn i fod wedi mynd â chamera gyda fi achos roedd gweld yr haul yn codi yn drawiadol. Penderfynais roi cynnig sydyn ar redeg i fyny’r Wyddfa, ond ar y ffordd i lawr cefais niwed i’m hunanfalchder ac i fy nghlun, fy ysgwydd a fy mhen-glin, pan syrthiais wrth geisio pasio rhyw dwristiaid a oedd yn cerdded yn araf. Achosodd hynny bum wythnos o ofid imi gan fod y boen i’r glun yn gwaethygu bob tro yr
awn i redeg, beicio neu nofio ac roeddwn i eisoes wedi codi mwy na £1,500 i Tyˆ Hafan!” Yn ffodus, gwellodd Willie mewn da bryd, a chyda help ei dîm cymorth gwych, Caroline a Mark Livesey, Ian Mugglestone, Tony Ireland a Tony Aspeden, ac wrth gwrs, ei wraig Cathy a’i ferch Ruby, llwyddodd i gwblhau’r her arwrol hon. “Roedd yn ras yn erbyn y cloc, a llwyddais i orffen mewn ychydig dros 36 awr, yn y pumed safle – sy’n sioc gan nad oeddwn i’n siwˆr a fyddwn i’n llwyddo o fewn y 42 awr! Gwnes i hyn i gyd er mwyn tynnu sylw at y gwaith gwych y mae Tyˆ Hafan yn ei wneud ac i godi arian sydd ei angen yn fawr iawn. “Roedd gofal, cariad a hwyl yr holl staff yn Tyˆ Hafan wedi creu cymaint o argraff arna i, addewais i mi fy hun y byddwn i’n trio cwblhau’r digwyddiad gyda gwên ar fy wyneb yr holl ffordd, er mwyn adlewyrchu positifrwydd yr holl staff, y teuluoedd a’r plant yn Tyˆ Hafan. Roeddwn i’n gwybod nad oedd yr ychydig
boen ac anghysur a ddioddefais i yn ddim o’i gymharu â’r hyn sy’n cael ei ddioddef gan y rhai sydd dan ofal cariadus Tyˆ Hafan. Felly roedd e’n hawdd ei wneud!” Hoffai Tyˆ Hafan ddiolch i Willie, sydd bellach yn Llysgennad Elusen Tyˆ Hafan, yn ogystal â phob un o’n cefnogwyr gwych sy’n mynd gam ymhellach i’n helpu ni i gefnogi’r plant a’u teuluoedd sydd dan ein gofal. Bydd Willie yn rhedeg ym Marathon Llundain, Dyn Titan (triathlon pellter hir bryniog Aberhonddu), Marathon ‘Midnight Mountain’ (dros Fannau Brycheiniog), Her Roth (ras bellter Dyn Haearn) a Thriathlon pellter hir Alpe D’Heuz ar gyfer Tyˆ Hafan. Rydym yn dymuno lwc dda iawn iddo yn ei holl anturiaethau codi arian yn y dyfodol.
✂
helpwch ni i wneud bywyd byr yn fywyd llawn... 1. Eich rhodd i deuluoedd yng Nghymru
Hoffwn roi un rhodd o: £15
£25
Hoffwn roi cyfraniad rheolaidd o: £5
£50 Arall
£10
£15
Arall £
Hoffwn roi fy rhodd ar:
£
Defnydd swyddfa yn unig: CWTS16
2. Eich Taliad
neu
y 5ed o bob mis
Rwyf wedi cynnwys arian parod / siec / taleb CAF (dilëwch fel sy’n briodol) yn daladwy i Tˆy Hafan.) Hoffwn dalu gyda cherdyn credyd / debyd – Tynnwch arian o’m cerdyn Mastercard / Visa / Debyd
y 23ain o bob mis
Gorchymyn i'ch banc neu gymdethas adeiladu i dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol. Rhowch enw a chyfeiriad post llawn eich banc neu gymdethas adeiladu. Llenwch y ffurflen hon a'i hanfon i: Tˆy Hafan, Hayes Road, Sili, CF64 5XX
Enw ar y cerdyn
Rhif Defnyddiwr Gwasanaeth
2
Cyfeiriad deiliad y cerdyn (os yw’n wahanol i’r isod) I’r Rheolwr
4
9
5
0
0
Banc/cymdeithas adeiladu
Cyfeiriad
Rhif y Cerdyn Cod Post
Dyddiad terfyn
Rhif Diogelwch (3 rhif olaf ar gefn y cerdyn)
/
Enw(au) deiliad y cyfrif Rhif cyfrif Banc/Cymdeithas Adeiladu
Dyddiad cyflwyno
Cod Didoli’r Gangen
Cardiau debyd yn unig – Rhif cyflwyno
/
Reference
Llofnod(ion)
Dyddiad Cyfarwyddyd i’ch banc neu gymdeithas adeiladu A fyddech cystal â thalu i Tyˆ Hafan o’r cyfrif a nodir ar y cyfarwyddyd hwn yn amodol ar y mesurau a sicrheir gan y Gwarant Debyd Uniongyrchol. Deallaf y gall y cyfarwyddyd hwn aros gyda Tyˆ Hafan ac, os felly, anfonir manylion yn electronig i’m Banc/Cymdeithas Adeiladu. Dyddiad
Llofnod(ion)
Efallai na fydd Banciau/Cymdeithasau Adeiladu yn derbyn cyfarwyddiadau i dalu Debydau Uniongyrchol o rai mathau o gyfrifon.
3. Eich manylion
Eich manylion Teitl
Enw cyntaf
Cyfenw
Cyfeiriad Cod post Rhif ffôn
4. Cynyddwch eich cyfraniad
Cyfeiriad e-bost
Dyddiad geni
Rwy'n dalwr trethi yn y DU ac yn deall os ydwyf yn talu llai o Dreth Incwm a/neu Dreth ar Enillion Cyfalaf na swm y cymorth rhodd a gaiff ei hawlio ar bob un o'm rhoddion, fy nghyfrifoldeb i yw hi i dalu'r gwahaniaeth. Mae’r datganiad hwn yn berthnasol hefyd i bob rhodd a wnaed gennyf i Tˆy Hafan yn ystod y pedair blynedd diwethaf a’r holl roddion y byddaf yn eu gwneud o hyn ymlaen nes y byddaf yn eich hysbysu’n wahanol.
Dychwelwch y ffurflen hon i Tyˆ Hafan, Hayes Road, Sili, CF64 5XX Gallwch hefyd roi rhodd yn www.tyhafan.org neu drwy ffonio 029 2053 2255
✂
tyˆ hafan digwyddiadau 2016 23 ebrill ras enfys
traeth bae abertawe
07 mai
ras enfys
traeth ynys y barri
18 meh
her tri chopa cymru yr wyddfa > cadair idris > pen y fan
09 gorff ras enfys
parc bryn bach, tredegar
06 awst diwrnod o hwyl i’r teulu tyˆ hafan, hayes road, sili
04 medi her beicio llwybr taf
aberhonddu/merthyr i gaerdydd
03-04 medi
her beicio hir llwybr taf
caerdydd i aberhonddu ac yn ôl
17 medi ras enfys
traeth pentywyn, sir gaerfyrddin
tach
dawns tyˆ hafan
abertawe
01 rhag
carolau yn y castell caerdydd
www.tyhafan.org Elusen gofrestredig Rhif 1047912.
i gofrestru eich diddordeb neu wirfoddoli www.tyhafan.org/events unrhyw gwestiynau? e-bostiwch: events@tyhafan.org