yr hosbis deuluol i fywydau ifanc.
cwtsh
Cylchlythyr: Hydref/Gaeaf 2013 Y tu mewn... • Rhodd Suzanne • Pêl-droed swigen • Super sibs!
croeso... I rifyn hydref/gaeaf Cwtsh. Wrth i ni agosáu at ein 15fed penblwydd, mae gennym lawer i’w ddathlu yn Nhyˆ Hafan, hosbis gyntaf Cymru i blant.
Rydym yn hynod o ddiolchgar i chi, bobl Cymru, am gefnogi Tyˆ Hafan, nid yn unig yn ariannol, ond am yr amser a roddir yn hael gan ein gwirfoddolwyr a’n codwyr arian ymroddgar. Ni allem fod wedi cynorthwyo’r mwy na 550 o deuluoedd heb sylfaen wych o gefnogwyr ac am hynny, rydym wir yn ddiolchgar. Y tu mewn mae rhai straeon sy’n disgrifio’r gwahaniaeth rydym wedi gallu ei wneud i fywydau
2
darparu gofal, bod yno
teuluoedd oherwydd caredigrwydd ein cefnogwyr. Dim ond babi oedd Jacob Ferriday pan ddaeth i Dyˆ Hafan am y tro cyntaf. Yn wir, cafodd ei atgyfeirio ym 1998, cyn i’r hosbis gael ei hadeiladu! Mae Jacob, 17, yn un o saith o blant ac yn dioddef o gyflwr o’r enw enseffalopathi sef anhwylder yr ymennydd sy’n golygu bod ganddo anableddau dysgu dwys, oedi o ran datblygiad ac epilepsi.
Mae ei fam, Sally, yn disgrifio’r gwahaniaeth sylweddol y mae Tyˆ Hafan wedi’i wneud i’w theulu dros y blynyddoedd: “Pan ddaethom i’r hosbis am y tro cyntaf, ’doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Roedd yn anodd gadael Jacob oherwydd ei fod yn ifanc iawn a ’doeddwn i ddim wedi arfer bod ar wahân iddo. Cefais fy sicrhau gan y tîm gofal ac yn fuan iawn roeddwn yn gwbl gyfforddus. Teimlais y pwysau’n codi ar unwaith. ’Doeddwn i heb sylwi pa mor flinedig roeddwn i na faint o ofal roeddwn wedi bod yn ei roi tan i mi gael seibiant. “Rydym yn dibynnu’n fawr ar y gofal seibiant byr gan ei bod yn waith blinedig iawn gofalu am Jacob a chwe phlentyn arall ar adegau. Mae Jacob wrth ei fodd yn aros yn yr hosbis ac
wedi gwneud llawer o ffrindiau gwych yno. Mae wedi newid llawer iawn ers ymweld am y tro cyntaf pan oedd yn fabi – mae’n ddyn ifanc hyfryd bellach sy’n dod â llawer o hapusrwydd i’r teulu. “Mae Jacob wedi cael llawer o lawdriniaeth dros y blynyddoedd ac yn drist, ’does dim mwy y gellir ei wneud drosto. Rheoli ei boen a gwneud yn siwˆr ei fod yn gyfforddus yw’r peth pwysicaf nawr. “Os byddwn yn disgrifio’r hyn y mae Tyˆ Hafan yn ei roi mewn un gair, ‘cefnogaeth’ fyddai hwnnw. Maen nhw bob amser yno inni, yn yr hosbis, yn yr ysbyty neu gartref. “Wrth edrych yn ôl, dwi ddim yn credu y byddem ni wedi ymdopi heb Dyˆ Hafan. Maent wedi bod yn fendith ac rydym yn hynod o ddiolchgar am bopeth y maen nhw wedi’i wneud dros y 15 mlynedd diwethaf.” Sally Ferriday
www.tyhafan.org 029 2053 2199
3
rhodd suzanne Yn ystod ei hymddeoliad, penderfynodd sylfaenydd Tyˆ Hafan agor yr hosbis gyntaf i blant yng Nghymru a chynnig gofal i blant a phobl ifanc â chyflyrau sy’n cyfyngu ar eu bywydau. Roedd angen cymorth a chefnogaeth pobl Cymru ar Suzanne er mwyn codi digon o arian i wireddu ei breuddwyd. “Cafodd fy ymddeoliad ei ohirio pan ges i ddyhead cryf i ymgyrchu am hosbis i blant yng Nghymru i ddarparu arbenigedd a gofal cariadus i blant a oedd yn byw bywydau byr. Fy nod oedd rhoi cefnogaeth a gofal seibiant byr i deuluoedd dan bwysau, a oedd yn ymdopi â straeon anhygoel,” meddai Suzanne. “Nid oedd gen’ i unrhyw amheuaeth y byddai pobl Cymru, gan ddeall sefyllfa’r plant a’r rhieni hyn, yn agor eu
4
darparu gofal, bod yno
calonnau ac yn rhoi’n hael. Cafodd fy ffydd ei gyfiawnhau. “Ym 1999, ar ôl 11 mlynedd o waith caled, agorodd Tyˆ Hafan ei ddrysau a gwelsom y teuluoedd cyntaf yn croesi carreg y drws. Mae Tyˆ Hafan, ar lan y môr yn y Sili, ger Penarth, yn hafan go iawn.
“Ers agor, mae mwy na 550 o blant a’u teuluoedd wedi cael budd o’r cariad, gofal a chefnogaeth yn yr hosbis ac yn eu cartrefi; llwyddwyd i wella’r gwasanaeth oherwydd pobl dwymgalon Cymru, sy’n rhoi er mwyn sicrhau bod Tyˆ Hafan yn parhau i ddarparu gofal rhagorol.” Yn wreiddiol, dim ond adeilad lliwgar a phrydferth oedd Tyˆ Hafan, lle gallai plant a phobl ifanc â chyflyrau a oedd yn cyfyngu ar eu bywydau, a’u teuluoedd, fynd am gysur. Nawr, mae wedi datblygu’n athroniaeth gyfan o ofal sy’n ymestyn ledled Cymru
ac i gartrefi teuluoedd sy’n cael eu hatgyfeirio i’n gwasanaethau. Rhodd Suzanne fydd ei gweledigaeth i agor yr hosbis gyntaf i blant yng Nghymru.
Beth fydd eich rhodd chi? Byddwch mor garedig â pharhau i’n cynorthwyo i ddarparu cysur, gofal a chefnogaeth i’r cannoedd o blant yng Nghymru a’u teuluoedd sydd mewn angen, trwy ystyried cynnwys rhodd yn eich Ewyllys i Dyˆ Hafan.
Rydym yn gwerthfawrogi pob rhodd, yn rhai mawr a bach, a bydd pob punt a dderbyniwn yn llonni ychydig ar fywydau’r rhai hynny y mae angen ein gwasanaeth arnynt. Os hoffech chi ystyried gadael rhodd yn eich Ewyllys a’ch bod yn dymuno cael mwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 029 2053 2270 neu e-bost legacy@tyhafan.org. Mae mwy o wybodaeth ar ein gwefan hefyd www.tyhafan.org
Mae rhoddion mewn ewyllysiau yn darparu gofal i 1 o bob 5 o’r plant yr ydym yn eu cefnogi. Hebddynt, ni fyddem yn gallu cefnogi cymaint o deuluoedd.
www.tyhafan.org
5
wythnos hosbisau plant Diolch i bawb a gefnogodd Tyˆ Hafan yn ystod Wythnos Hosbisau Plant 2013.
yn amser i gydnabod, dathlu a chefnogi gwaith arbennig yr hosbisau hyn, a’r rhai hynny sy’n darparu gofal lliniarol i’r plant a’r teuluoedd.
Eleni, gweddnewidiwyd yr hosbis ag addurniadau ar y thema uwch-arwyr a daeth sêr y byd chwaraeon i ymweld â ni gan gynnwys y Dreigiau Celtaidd, chwaraewyr Diawled Caerdydd a’r enillydd medal Olympaidd Jamie Baulch.
“Mae hosbisau plant yn achubiaeth i deuluoedd ar adeg pan fyddant mewn poen aruthrol. Mae’r cymorth a roddant yn hanfodol. Er mwyn gwneud y gwaith gwych hwn, mae angen ein cymorth arnynt.
Cynhaliwyd gweithgareddau codi arian ledled Cymru, i gynorthwyo i godi arian hanfodol ar gyfer Tyˆ Hafan. Cafwyd hefyd neges arbennig iawn gan Dduges Caergrawnt yn ystod yr wythnos: “Mae Wythnos Hosbisau Plant
6
darparu gofal, bod yno
“Gyda’n cymorth ni, bydd y bobl sy’n darparu gofal lliniarol i blant yn gallu parhau i gynnig y gwasanaethau anhygoel hyn. Mae’n amhosibl dychmygu beth fyddai’r teuluoedd hyn yn ei wneud hebddynt.” I weld fideo o’n dathliadau ewch i www.youtube.com/tyhafan
twrnament pêl-droed swigen 5 bob ochr tyˆ hafan Pêl-droed a zorbio unedig! Rydym yn falch o gyflwyno twrnament Pêl-droed Swigen 5 bob ochr cyntaf erioed Tyˆ Hafan!
Holl gyffro twrnament 5 bob ochr arferol gyda’r hwyl ychwanegol o fod mewn swigod corff zorbio! Hwn fydd y digwyddiad cyntaf o’i fath yng Nghymru ac rydym yn chwilio am 32 o dimau brwdfrydig i gymryd rhan. Bownsiwch yn erbyn aelodau eich tîm a’r cystadleuwyr er mwyn sgorio goliau a chael eich coroni yn bencampwyr twrnament Pêl-droed Swigen 5 bob ochr Tyˆ Hafan 2013! Dim ond £15 y pen yw’r pris i gymryd rhan, sy’n cynnwys llogi pum swigen,
ac yn union fel eich clwb pêl-droed lleol neu genedlaethol, rydym yn gofyn i chi gael noddwyr i’ch tîm. Yr her yw codi o leiaf £150 i Dyˆ Hafan trwy gytundebau gyda noddwyr. Byddwn yn rhoi pecyn cymorth codi arian i chi i annog eich cyflogwyr, cyflenwyr eich gweithle neu fusnesau lleol eraill i noddi eich tîm. Yn ogystal â’r twrnament, bydd hefyd stondinau, gemau a diodydd ar gyfer eich cefnogwyr. Dim ond £5 yw’r pris mynediad ar gyfer cefnogwyr felly gwahoddwch eich ffrindiau a’ch teulu i roi hwb i’ch tîm.
Peidiwch ag oedi! Cofrestrwch am ddiwrnod gwych i godi arian i deuluoedd yng Nghymru sy’n dibynnu ar eich cymorth. Cofrestrwch eich tîm nawr yn www.tyhafan.org/bubblefootball
www.tyhafan.org
7
stori tad “Rwy’n dad i Luca a atgyfeiriwyd i Dyˆ Hafan yn 2010. Luca, sy’n chwech oed, yw’r unig berson yng Nghymru sy’n dioddef o gyflwr anghyffredin o’r enw syndrom ROHHAD, sef “Rapidonset Obesity with Hypothalamic Dysfunction, Hypoventilation and Autonomic Dysregulation”. “Mae’n gyflwr anghyffredin iawn sy’n effeithio ar ryw 75 o achosion yn fydeang. Mae’r mecanwaith sy’n rheoli’r anadlu wedi’i niweidio mewn cleifion â’r cyflwr. Mae syndrom ROHHAD yn gallu achosi marwolaeth ac nid oes modd ei wella.
“Pan gafodd Luca ddiagnosis yn Ysbyty Great Ormond Street, roeddem fel teulu’n teimlo ein bod ar ein pennau ein hunain. Mae ganddo lawer o broblemau gan gynnwys ataliadau anadlol. Mae ysbytai fel ail gartref erbyn hyn; dros y blynyddoedd diwethaf mae Luca wedi bod ym mhob gwely pediatrig yn yr Uned Gofal Dwys yn yr Ysbyty Athrofaol.
“Mae gennym ferch hefyd, Sofia sy’n bedair oed, yn ffit ac yn iach ac mae’n dechrau bod yn fwy ymwybodol o gyflwr Luca. Diolch byth ein bod ni wedi derbyn llawer iawn o gymorth gan Dyˆ Hafan. Maen nhw wedi gwneud gwahaniaeth mawr i ni ac i lawer o deuluoedd eraill. “Mae Tyˆ Hafan yn caniatáu i ni aros yno fel teulu a chael gofal
8
darparu gofal, bod yno
seibiant byr. Mae’n rhoi cyfleoedd i mi a ’ngwraig y mae llawer o bobl yn eu cymryd yn ganiataol, fel mynd allan am bryd o fwyd neu fynd i’r sinema. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ni dreulio amser i’w drysori gyda’n merch.
“Mae Tyˆ Hafan wedi helpu trwy fod yno bob amser ar ben arall y ffôn, ymweld â ni yn yr ysbyty a darparu gofal seibiant byr hanfodol. Mae Luca a Sofia wrth eu boddau yn dod i Dyˆ Hafan ac maent yn cael llawer o hwyl gyda’r staff ardderchog sy’n gweithio yno. Maent hefyd yn mwynhau cymryd rhan yn y diwrnodau gweithgareddau amrywiol a drefnir trwy gydol y
flwyddyn, er enghraifft yr ymweliad diweddar â’r sinema gyda thema ‘Uwcharwyr’ “Cymerais ran yn Her Tri Chopa Cymru i Dyˆ Hafan yn ddiweddar ac roedd yn gyfle gwych i gyfarfod â thadau eraill i rannu hanesion ein teuluoedd. Mae fy ngwraig wedi bod ar ‘Ddiwrnodau Maldod’ a thrip siopa i Gaerfaddon gyda rhai o’r mamau eraill. Eto, mae’n rhoi cyfle i ni gyfarfod pobl eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg iawn. “Wedi cael profiad uniongyrchol o’r cymorth y mae Tyˆ Hafan yn ei roi i ni ac eraill, rydym yn diolch iddynt o waelod ein calonnau am ddarparu gofal a bod yno! Diolch yn fawr Tyˆ Hafan!” Angelo Pucella
www.tyhafan.org
9
tadau yn dringo 3 chopa Cymru Roedd tîm o dadau y mae eu plant wedi cael budd o wasanaethau Tyˆ Hafan ymhlith y 200 o godwyr arian dewr a gymerodd ran yn her 3 Chopa Cymru GE Aviation, a drodd yn her 2 Gopa oherwydd tywydd anwadal Cymru!
wych ond roedd yn arbennig o fuddiol i’r tadau fod yn rhan o’r digwyddiad fel tîm. Maent yn rhannu cwlwm cryf oherwydd eu profiadau cyffredin ac mae o fudd mawr iddynt allu siarad am eu profiadau penodol o ofalu am eu plant sydd â chyflyrau sy’n cyfyngu ar eu bywydau."
Yn ystod y digwyddiad, sydd wedi codi mwy na £1.25 miliwn i Dyˆ Hafan ers ei lansio ym 1998, aeth y dringwyr i ben Cadair Idris yn gyntaf cyn symud i lawr i dde Cymru i ddringo Pen y Fan, cyfanswm o 12.35 o filltiroedd a 5,837 o droedfeddi. “Cafodd yr hogiau ddau ddiwrnod da iawn,” meddai Gweithiwr Chwarae Tyˆ Hafan, Paul Fisher, a arweiniodd y grwˆp o dadau am yr ail flwyddyn yn olynol. “Roedd pawb yn cyd-dynnu’n
Ffurfiwyd grwˆp y tadau yn 2006 ac mae’n ffynhonnell werthfawr o gryfder a chefnogaeth i dadau plant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar eu bywydau. Mae gweithgareddau cymdeithasol yn creu amgylchedd delfrydol i ymadweithio a datblygu rhwydwaith cefnogol i dadau/gwarcheidwaid sy’n rhannu diddordebau personol a chymdeithasol cyffredin.
10
darparu gofal, bod yno
mam yn chwilio am arwyr i godi arian Bydd mam i efail sy’n derbyn cymorth gan Dyˆ Hafan yn rhannu ei stori yn nigwyddiad Taith Gerdded Hanner Nos yr elusen yn Abertawe ddydd Gwener Medi 27. Cafodd Nikki Pedrick o Bontardawe wybod bod gan ei mab, Oliver, sy’n bum mlwydd oed barlys dystonig yr ymennydd ar ôl iddo ddioddef trawiad ychydig o wythnosau ar ôl ei enedigaeth. Yn ddiweddarach, cafodd wybod bod gan ei efail, Evan, yr un cyflwr. Nid yw’r cyflwr yn effeithio mor wael ar Evan, ond mae Oliver yn cael cymorth gan Dyˆ Hafan er mwyn i’w fam gael ychydig o seibiant. Meddai Nikki: "Roeddem yn nerfus iawn y tro cyntaf y daethom i Dyˆ Hafan ac yn ansicr beth i’w ddisgwyl. Roeddem yn meddwl y byddai’n lle trist ond mae’n gwbl wahanol.
Mae’n lle hapus iawn ag amgylchedd cadarnhaol. Mae Tyˆ Hafan yn rhoi seibiant llwyr i mi. Mae’n golygu bod gennym fwy o ryddid i wneud pethau gyda brodyr Oliver; fel mynd i’r sinema neu fynd i ffwrdd am ychydig o ddyddiau.
"Does dim syniad gen’ i beth fyddem ni wedi’i wneud heb gymorth Tyˆ Hafan." Mae’r daith gerdded â’r thema uwcharwyr, a noddir gan J & J Motors, ar gyfer menywod yn unig ond mae croeso i dadau, cariadon a brodyr ddod i weithio fel swyddogion ar noson y digwyddiad. Byddwch yn uwch-arwr i Dyˆ Hafan a gwisgwch eich clogyn drosom i ni fis Medi. I gofrestru i wneud y daith gerdded, ewch i www.midnightsleepwalk.co.uk neu ffoniwch 029 2053 2282
www.tyhafan.org
11
teulu’n dweud ffarwel Bu farw Archie Watson, a oedd yn ddwyflwydd oed, yn dawel gyda’i deulu o’i gwmpas yn yr hosbis ym mis Mawrth. Mae ei rieni, Brad a Lauren, wedi bod yn rhannu eu siwrnai gydag eraill trwy ysgrifennu blog. Mewn darn onest a thorcalonnus, mae Lauren yn disgrifio diwrnodau olaf eu mab ieuengaf.
8 Ebrill
ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, cyfarfod â’i gefnder newydd hyfryd Connor, gweld Jack a chael llawer iawn o gwtsio a swsio. Cawsom gyfle i dynnu llawer o luniau, cerdded o amgylch y gerddi, adrodd straeon a darllen llyfrau wrtho, treulio amser yn yr ystafell synhwyrau, gwneud gwaith celf a dim ond eistedd a bod yn ei gwmni.
Aeth Archie yn wael iawn ddiwedd mis Chwefror a phenderfynwyd mynd i Dyˆ Hafan a mwynhau’r ychydig amser a oedd gennym ar ôl gyda’n gilydd.
Ar Fawrth 25, wedi i ni godi, roeddem yn gwybod. Dywedom wrth ein teulu ein bod yn disgwyl i Archie ein gadael y diwrnod hwnnw.
Yn y mis olaf hwnnw gwnaeth lwyth o bethau. Gwylio Cymru yn chwarae
Trwy’r dydd, roeddem yn y gwely. Archie rhyngof i a Brad, yn cymryd ein tro i’w gwtsio ac adrodd straeon.
Roedd Archie’n fwy prydferth nag erioed, roedd ei groen yn berffaith a gadawodd gyda gwên ar ei wyneb. Eiliadau wedi i Archie farw chwythodd y llenni ar agor, roedd Archie ar ei ffordd i gyfarfod ei ffrindiau newydd.
12
darparu gofal, bod yno
Arhosodd Brad, Jack a minnau yn Nhyˆ Hafan am rai dyddiau wedi hynny; a chawsom ofal perffaith. Roedd dweud hwyl fawr wrth bawb yn anodd, ond ni fydd am byth, byddwn ni’n ôl, allan’ nhw ddim cael gwared arnom ni mor hawdd â hynny.
Ddydd Gwener 29 Mawrth, ymunodd Matilda Rose, chwaer Archie â’n teulu. Profiad chwerwfelys iawn. Mae hi’n berffaith ac mae’n dal i’n helpu bob dydd.
Cafwyd dathliad o fywyd Archie ddydd Iau 4 Ebrill. Cawsom ein synnu gan y dorf a’r holl liw a balwˆns. Roedd yn ddiwrnod perffaith. Byddwn yn ddiolchgar am byth i bawb a ddaeth i’n helpu i ddweud ffarwel perffaith wrth ein anhygoel Archie. Fy machgen bach i yw e’ a dyna fydd e' am byth. Rwy’n dy garu di Archie. Mami xxxx
Mae’n edrych cymaint fel Archie ac mae’n fyw trwyddi hi. Byddai mor falch ohoni. Darllenwch flog y teulu yn www.caringbridge.org/visit/ archiematthewatsonjournal
www.tyhafan.org
13
cornel cwtsh fy enwebu i a fy merch am an af H ^ y T r w fa Diolch yn iwrnod o faldod yng dd am nd fy i as m ho T Chelsea t 2 ddoe xxxxxx. MaeTy^yr an S i ew D pa io S n lfa Nghano i’n teulu ers mis Rhagf nt ai m cy ud ne gw i ed w Hafan , pob un ohonynt. Yr unig h yc w ’n w nh n ae m f, ha diwet gan bob un galon o aur. d bo yw o fi ri sg di i’w eiriau Michelle Thomas
wrnod Newydd ddod yn ôl ar ôl pedwar di gwych gyda’n hwyr yn Nhy Hafan.edi Mae’n anodd credu faint y mae w yn datblygu diolch i bawb yno. Diolch fawr iawn. Andy Humphries
14
darparu gofal, bod yno
yn fawr iawn i’r Hoffwn i a Lorraine ddiolch a’u cefnogaeth staff i gyd am eu cymorth drist, col odd ein hw^yr aruthrol i’r teulu cyfan. Yn i fyw ddoe. Ni 24 diwrnod oed ei frwydr o am ofal gwell yn fyddem wedi gal u gobeithiu olaf. ystod ei ychydig ddyddia Bernie Kemble Roeddwn
am roi aria n oherwyd d yr ychyd arferol a g ig ddiwrno afodd fy ff dau o fyw rindiau yn yd teuluol eich lle anh farw. Mae ygoel, gyd ganddynt a’u merch, atgofion n ad oeddyn cyn iddi bosibl. Roe t yn medd dd yn frain wl y bydde t wirionedd nt yn ol i ddod i chael cipolw ymweld â g ar y gwa n h w it h rydych c yn Nhŷ Ha Tracy, Ma fan a hi’n ei wne tt a’r holl ud. Diolch y deulu n fawr iaw n.
Dio lch enfaw r i Je ar da ss am it h o fynd amgyl â ni c anhyg h eich oel, m c yfleus a e ter gwait gwneu h paw d arg b we d raff f i e dr yc awr a h yml c r yd aen a ym y n t go d arian i mwy yn yr o h er ‘Do nesaf. yo u D Mae’r a r e ’ Kindl wrth i e Fire mi ys yn gw grifen ef ru nu! lo l. Fiona Tilbur y o d Benf r îm Up o xxx per 5 yn Sir
www.tyhafan.org
15
1
Gallwch ddibynnu ar fy nghefnogaeth i.
(Defnyddiwch BRIFLYTHRENNAU)
Teitl ........... Enw cyntaf .................................................... Cyfenw ..............................................................
Cyfeiriad Llawn ....................................................................................................................................................... .............................................................................................. Cod Post .................................................................... Rhif ffôn ................................................................................ Rhif ffôn Symudol ....................................................
Helpwch Dyˆ Hafan i arbed arian ar gostau postio - ymunwch â’n rhestr e-bost! E-bost....................................................................................................................................................................................
Drwy ddweud wrthym beth yw eich dyddiad geni gallwn wneud yn si wr ˆ ein bod yn cysylltu â chi am y gweithgareddau mwyaf perthnasol Dyddiad Geni ..............................
2
Dyma fy rhodd reolaidd o:
n £5 y mis n £10 y mis n Arall Nodwch faint £ € y mis
Cyfarwyddyd i’ch Banc neu Gymdeithas Adeiladu i dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol Enw(au) Deiliad/Deiliaid' y Cyfrif Cyfarwyddyd i’ch Banc neu Gymdeithas Adeiladu
Rhif Cyfrif Banc/Cymdeithas Adeiladu
A fyddech cystal â thalu Tyˆ Hafan o’r cyfrif a nodir ar y cyfarwyddyd hwn yn amodol ar y mesurau a sicrheir gan y diogelwch Gwarant Debyd Uniongyrchol. Deallaf y gall y cyfarwyddyd hwn aros gyda Thyˆ Hafan ac, os felly, anfonir manylion yn electronig i’m Banc/Cymdeithas Adeiladu.
Cod Didoli Llofnod
Rhif Defnyddiwr Gwasanaeth
2
4
9
5
0
0
Rhif Cyfeirnod CWTA13 (defnydd swyddfa’n unig)
Dyddiad
Efallai na fydd Banciau/Cymdeithasau Adeiladu yn derbyn cyfarwyddiadau i dalu Debydau Uniongyrchol o rai mathau o gyfrifon Rhif Cyfeirnod CWTA13 (defnydd swyddfa’n unig)
3
Cynyddwch eich cyfraniad gyda’r Cynllun Cymorth Rhodd
n Rwyf yn drethdalwr yn y DU a hoffwn i Dyˆ Hafan adennill y dreth ar fy rhodd trwy’r Cynllun Cymorth Rhodd (25c ychwanegol am bob £1 a roddir gennyf). Mae’r datganiad hwn hefyd yn berthnasol i bob rhodd a wnaed gennyf i Dyˆ Hafan yn ystod y pedair blynedd diwethaf a’r holl roddion y byddaf yn eu gwneud o hyn ymlaen nes y byddaf yn eich hysbysu’n wahanol. Er mwyn i roddion fod yn gymwys ar gyfer Cymorth Rhodd rhaid eich bod yn talu treth incwm neu dreth enillion cyfalaf sy’n gyfartal i’r swm sy’n cael ei hawlio yn y flwyddyn dreth.
4
Ni allaf ymrwymo i wneud cyfraniad rheolaidd, ond hoffwn wneud rhodd:
Derbyniwch fy siec / taleb CAF os gwelwch yn dda am £ …………………… taladwy i Dyˆ Hafan Derbyniwch fy rhodd cerdyn credyd /debyd - Debydwch fy Mastercard / Visa / Cerdyn Debyd Enw ar y cerdyn .....................…….................…….......…................................... am y swm £....................... Cyfeiriad (os yw’n wahanol) …………………….......................…………….........……………….....……………… ……...…………………………............…………..........................…….. Cod Post….............……..........……....…… Rhif ffôn cyswllt........................................................................... Rhif cerdyn .................................................................. Rhif cyhoeddi ........................ Dyddiad cyhoeddi ........... /........... (os yn berthnasol)
Rhif diogelwch........................ Dyddiad dod i ben ........... /...........
(y tri rhif olaf ar gefn y cerdyn)
Llofnod .................................................................................................................... Dyddiad .............................................
5
Anfonwch fwy o wybodaeth i mi ar:
Digwyddiadau Tyˆ Hafan Gadael rhodd yn fy ewyllys Codi arian
Crackerjackpot, loteri Tyˆ Hafan Sut gall fy nghwmni gefnogi Tyˆ Hafan Gwirfoddoli
Arall – nodwch os gwelwch yn dda..................................................................................................................
6
Dychwelwch y ffurflen hon i: Tyˆ Hafan, Prif Swyddfa, Hayes Road, Sili, CF64 5XX
Mae Tyˆ Hafan yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth, ac yn addo parchu eich preifatrwydd. Mae’r data yr ydym yn ei gasglu a’i gadw yn cael ei reoli yn unol â Deddf Diogelu Data (1998). Ni fyddwn yn datgelu nac yn rhannu gwybodaeth bersonol a gafwyd gennych gydag unrhyw sefydliad arall heb eich caniatâd. Trwy ddarparu’r manylion hyn, rydych yn rhoi caniatâd i Dyˆ Hafan gysylltu â chi trwy e-bost, llythyr neu ar y ffôn i’ch hysbysu am weithgareddau ac ymgyrchoedd codi arian yn y dyfodol, oni bai eich bod wedi dangos gwrthwynebiad i dderbyn negeseuon o’r fath trwy roi tic yn un o’r blychau isod. Nid wyf yn dymuno i chi gysylltu â mi trwy: e-bost At ddefnydd y swyddfa’n unig.................(CWTA13)
ffôn
y post
super sibs! Pan fydd plentyn yn cael gwybod bod ganddo salwch difrifol, mae bywyd y teulu cyfan yn gyflym yn gallu troi’n ymweliadau â’r ysbyty, meddyginiaethau, oriau hir mewn ystafelloedd aros, a gofal 24 awr y dydd. Mae hwn yn amgylchedd anarferol i frodyr a chwiorydd y plentyn sy’n sâl, ac mae’r effaith emosiynol yn gallu bod yn sylweddol
2014
we care, so can because you
Rhan o’n gwasanaeth unigryw yw darparu cymorth i’r teulu cyfan. Mae ein grwˆp cefnogaeth i frodyr a chwiorydd, ‘Super Sibs’, yn cynnwys pobl ifanc rhwng 4 a 16 mlwydd oed. Mae’r gofal a’r gweithgareddau a ddarperir gan Dyˆ Hafan yn rhoi cyfle i frodyr a chwiorydd drafod eu teimladau ac amser iddynt gael hwyl gyda’i gilydd. Mae rhai o’r grwpiau arbennig a’r gweithgareddau sydd ar gael yn cynnwys diwrnodau gweithgareddau, sesiynau maldod a thripiau.
Dyma’r goeden awgrymiadau newydd y mae ein 'Super'Sibs' wedi’i chreu. Mae’n rhoi cyfle i frodyr a chwiorydd osod ar y goeden unrhyw awgrymiadau neu syniadau am Dyˆ Hafan.
18
darparu gofal, bod yno
Bywyd trwy lens Mae prosiect ffotograffiaeth wedi sbarduno dychymyg ein brodyr a’n chwiorydd ac rydym wrthi’n creu calendr ar gyfer 2014 sy’n cynnwys eu gwaith gwych.
Mae pob brawd neu chwaer wedi tynnu llun sy’n golygu rhywbeth personol iddyn’ nhw ac maent i gyd wedi rhannu eu meddyliau a’u teimladau am y lluniau, a fydd hefyd yn y calendr.
Meddai’r ffotograffydd proffesiynol Natasha Jenkins a gynorthwyodd â’r prosiect: “Mae wedi bod yn bleser ac yn fraint cael gweithio gyda grwˆ p o bobl ifanc mor dalentog. Diolch yn fawr Tyˆ Hafan am gyflwyno fy nghwmni, photography jnr, i’r hosbis.”
Byddant ar gael i’w prynu ar ein gwefan ac yn ein siopau ledled de Cymru.
www.tyhafan.org 19
creu bywyd o atgofion Mae gan bob un ohonom drysorfa o atgofion gwych; adegau pan fuom yn chwerthin yng nghwmni'r bobl rydym yn eu caru. Efallai y byddech yn meddwl nad oes llawer o le i chwerthin os oes gennych blentyn â chyflwr sy’n cyfyngu ar ei fywyd, ond ym mis Gorffennaf lansiwyd ein Hapêl Gwneud Atgof i wneud yn siwˆr nad yw hynny’n wir. Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’r rhai sydd eisoes wedi rhoi arian. Bydd llawer ohonoch wedi darllen bod Harry Baxter yn dioddef o Syndrom Mowat Wilson, cyflwr sy’n cyfyngu ar fywyd ac sy’n gallu achosi trawiadau poenus ar unrhyw adeg. Dim ond tair oed oedd Harry pan gafodd y diagnosis, ac ers hynny, nid yw bywyd bob amser wedi bod yn rhwydd i Harry, ei fam, Suzanne a’i frawd, Archie. Meddai Suzanne “Mae gofalu am Harry yn gallu bod yn anodd iawn ac yn aml mae’n teimlo bod fy nheulu’n agos at argyfwng. Mae angen llawer iawn o sylw ar Harry, a phan fyddwn gartre’, ni allaf ei adael am eiliad.”
20
darparu gofal, bod yno
Ers i Harry gael ei atgyfeirio i D yˆ Hafan yn 2007, mae Suzanne, Harry ac Archie wedi gallu adeiladu bywyd o atgofion gyda’i gilydd, diolch i’ch cefnogaeth chi.
“Rwy’n gwybod na fydd bywyd Harry mor hir ag y byddwn yn dymuno ac na chaf ei weld yn priodi, cael ei swydd gyntaf neu gael ei blant ei hun. Ond diolch i Dyˆ Hafan, rydym wedi gallu llenwi bywyd Harry hyd yma, sef tair blynedd ar ddeg, â hwyl a chwerthin ac wedi creu atgofion rwy’n siwˆr y byddwn yn eu trysori am byth.” Os ydych am wneud atgofion i blant fel Harry sydd â chyflyrau sy’n cyfyngu ar eu bywydau, gallwch roi arian heddiw yn www.tyhafan.org/make-a-memory neu ein ffonio ar 029 2053 2254. Suzanne
yn h t r o m y c h mae eic wahaniaeth... gwneud g
£23
an dîm gymorth g lpu o r w a m a e Gallai dalu luoedd Tyˆ Hafan, i h eriau u h e ’r d o i fi h o rt h o g n cym arry i a H n u hofio’r l fe a , d ynebu c w teuluoed h u e n y t aen dyddiol y m . a d u ra amse
£50
therapi am awr o Gallai dalu i blant fel Harry th cerddoriae n roi cyfle iddynt a g , ie h rc ac A ilydd y er gyda’i g yth. s m a lio u b dre ei gofio am byddant yn
£90
rae, i erapi chwa da’u th o r w a ir am da yswllt gy Gallai dalu u fel Suzanne greu c a s. helpu mam u atgofion gydol oe re g n a plant, g
eich cy m a h lc dio
morth.
www.tyhafan.org
21
yn y gymuned Mae ein gwaith allgymorth yn caniatáu i deuluoedd gadw eu plant yn gyfforddus gartref a chael triniaethau arbenigol fel therapi chwarae a cherddoriaeth.
“Ymatebodd Marley o’r cychwyn cyntaf. Mae hyn wedi’i rymuso ac wedi gwella ei allu i ganolbwyntio,” meddai Diane.
Mae ein therapydd cerddoriaeth profiadol Diane Wilkinson wedi darparu therapi yng nghartref Marley, sy’n ddwy oed, yng Nghwmbrân sawl gwaith ers iddo gael ei eni.
Un o’r canlyniadau mwyaf amlwg yw bod y therapi wedi ei helpu i wenu a siarad, rhywbeth y dywedodd y meddygon na fyddai’n digwydd.
Mae gan Marley ddau dwll yn ei galon, niwed i’w ysgyfaint ac mae’n dioddef o drawiadau. Mae’n fyddar ac nid yw’n gallu gweld yn dda, ond mae ei allu i ddilyn swˆn offerynnau ac ymateb i gael ei gyffwrdd wedi gwella’n fawr.
22
darparu gofal, bod yno
Dros gyfnod bywyd Marley, mae’r teulu’n dweud bod Tyˆ Hafan wedi bod yn achubiaeth iddynt pan nad oedd cyfleusterau meddygol eraill yn gallu eu helpu.
“Mae pobl yn credu bod hosbis yn lle trist lle bydd plant yn mynd i farw ond nid fel yna y mae o gwbl,” meddai Leah, ei fam.
“Mae’r staff mor barod i helpu. Roeddem yno dros y Nadolig, a byddem wedi treulio’r Nadolig yn yr ysbyty unwaith eto, oni bai am Dyˆ Hafan. Mae Tyˆ Hafan yn achubiaeth ac rydych yn gwybod y gallwch ddibynnu arnynt.” Mae therapi cerddoriaeth yn defnyddio dychymyg pob person ifanc er mwyn eu cynorthwyo i gael bywyd o ansawdd gwell a
mynegi emosiynau cynhyrfus wrth i’w cyflyrau ddatblygu. Mae’n canolbwyntio ar eu galluoedd yn hytrach na’u hanableddau ac mae’n ddeniadol iddynt ar lefel syml iawn. Mae modd cyfathrebu teimlad, ateb cwestiwn ac ennyn ymateb trwy wincio llygad. Gall deialog ddigwydd cystal trwy swˆn â thrwy lefaru, ac mae’n caniatáu ar gyfer mynegi mwynhad, poen, ofn, cynnwrf, dicter, tristwch neu bleser. Mae cerddoriaeth yn deffro emosiynau amrywiol gan eu cwmpasu mewn ffiniau diogel. Mae’n grymuso pobl ifanc i fod wrth y llyw, yn annog hyder ac ymdeimlad cryf o hunaniaeth. Nid yw plant sy’n dioddef o salwch sy’n cyfyngu ar eu bywydau yn gallu rheoli eu hamgylchedd yn aml, ond mae creu cerddoriaeth greadigol yn gallu eu caniatáu i fod 'wrth y llyw'.
www.tyhafan.org
23
UAC yn rhoi ei gefnogaeth i dyˆ hafan Roedd Rhydian fach a’i deulu o’r canolbarth yn cynrychioli Tyˆ Hafan pan gyhoeddodd Undeb Amaethwyr Cymru ei ddewis o elusen yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru. Datgelodd Llywydd yr Undeb, Emyr Jones, mai Tyˆ Hafan a Thyˆ Gobaith yw eu hachos elusennol diweddaraf ac roedd yn gobeithio y byddai aelodau’r Undeb, mewn dwy flynedd, yn codi £50,000 o leiaf. Mae’r rhodd gyntaf eisoes wedi ei chyflwyno i’r achosion elusennol newydd. Cynhaliodd merched sy’n aelodau UAC yn ardaloedd Penllyn ac Edeyrnion weithgareddau codi arian yn ddiweddar a chyfrannwyd £1,000. Mae Rhydian yn chwech oed ac mae’n byw ger
Aberaeron gyda’i fam, ei dad, ei frawd mawr a’i ddwy chwaer gariadus. Pan oedd yn chwe mis oed canfuwyd bod ganddo diwmor anfalaen ond mawr iawn, a chafodd lawdriniaeth i’w dynnu. Yn anffodus, mae’r tiwmor wedi tyfu’n ôl gan effeithio’n fawr ar ei ddatblygiad.
Mae arno angen ffrâm sefyll er mwyn gallu dal ei bwysau, ychydig iawn y mae’n gallu symud ei ochr dde ac mae wedi’i gofrestru’n ddall er bod ganddo rywfaint o olwg yn ei lygad chwith. Meddai ei fam Carys: “Roeddem wrth ein boddau yn helpu â’r cyhoeddiad swyddogol a chawsom ddiwrnod gwych yn y Sioe Frenhinol. Mae Rhydian a’r teulu cyfan yn derbyn cymorth arbennig gan Dyˆ Hafan ac roedd yn anrhydedd i gynrychioli’r elusen yn y digwyddiad.” Yn y llun mae Rhydian a’i deulu gyda Kyle o Dyˆ Gobaith ac Emyr Jones, Llywydd UAC, a chynrychiolwyr o’r ddwy elusen.
24
darparu gofal, bod yno
“thanks a million” Mae Tyˆ Hafan yn dathlu ar ôl derbyn swm anhygoel o £50,000 gan raglen “Thanks a Million” Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.
'Syniad perchennog y Clwb Tan Sri Vincent Tan yw 'Thanks a Million' ac mae’r clwb wedi rhoi miliwn o bunnau i elusennau lleol.
Gan siarad am y fenter, meddai Tan Sri Vincent Tan: “Rwy’n credu’n gryf bod dyrchafiad Dinas Caerdydd i’r Uwch Gynghrair ar ôl 51 mlynedd hir o aros yn fendith – a chyda gras Duw, rydym am ddefnyddio’r fendith hon yn gadarnhaol i gefnogi elusennau ac aelodau dan anfantais o gymuned de Cymru, yn enwedig yng Nghaerdydd a’r cymoedd, lle mae’r rhan fwyaf o’n cefnogwyr yn byw.”
Mae Tan Sri Vincent Tan wedi gwneud Roedd Tyˆ Hafan yn un o bedair addewid y bydd Clwb Pêl-droed elusen i dderbyn y swm mwy o Dinas Caerdydd yn ailadrodd y rhodd £50,000. Meddai Ray Hurcombe, Prif hon o filiwn o bunnau yn flynyddol i Weithredwr Tyˆ Hafan: “Rydym wrth ein sefydliadau yn y gymuned cyhyd â’i bodd yn cael ein dewis i dderbyn y fod yn parhau yn brif gyfranddaliwr/ rhodd anhygoel hon. Mae Clwb Dinas cyfranddaliwr rheoli’r clwb a bod y Caerdydd wedi bod yn gefnogwyr clwb yn aros yn yr Uwch Gynghrair. brwd i D yˆ Hafan ers blynyddoedd a bydd eu cefnogaeth barhaus yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r cannoedd o blant â chyflyrau Nid yw Tyˆ Hafan yn rhan o’r gwasanaeth sy’n cyfyngu ar eu bywydau a’u iechyd ac yn 2011-12 dim ond 10% o’r £3 miliwn teuluoedd sy’n dibynnu ar ein o bunnau a mwy sydd ei angen i ddarparu cymorth.” gofal a chymorth i deuluoedd â phlentyn y mae cyflwr yn cyfyngu ar ei fywyd a ddaeth o gyllid statudol. I barhau i gynnig ei wasanaeth unigryw i deuluoedd, mae’n dibynnu ar haelioni’r cyhoedd, ei noddwyr corfforaethol a’i wirfoddolwyr. I gael gwybod sut y gallwch helpu, ewch www.tyhafan.org
www.tyhafan.org
25
goleuo tyˆ hafan er cof am ieuan Pan sylweddolodd Cath a Tracey fod Ieuan yn cyrraedd diwedd ei fywyd byr, roeddynt yn gwybod y byddai Tyˆ Hafan yno, i’w helpu i ofalu amdano a gwneud y gorau o bob eiliad werthfawr. Bu farw Ieuan yn yr hosbis ar Ionawr 23, bum diwrnod wedi ei ben-blwydd yn bump oed. Er ei fod yn ddiwrnod erchyll i’r teulu, roedd yn gysur iddynt wybod eu bod yn gallu ffarwelio â’u mab yn amgylchedd prydferth yr hosbis gyda ‘Tîm Ieu’ wrth eu hochr. Fel babi, dioddefodd Ieuan anaf difrifol i’w ymennydd a achosodd epilepsi difrifol, parlys yr ymennydd, dysautonomia ac roedd yn ddall mewn un llygad. O ganlyniad, roedd gan Ieuan anghenion meddygol cymhleth iawn a phan oedd yn wyth mis oed, daeth Cath a Tracey, sy’n nyrsys plant cofrestredig, yn ofalwyr maeth iddo, ac mewn amser yn Warcheidwaid.
O’r funud honno, cafodd lawer iawn o gariad ac anwyldeb a cheisiwyd rhoi bywyd iddo a oedd yn llawn chwerthin, atgofion hapus a digon o gwtshys. Atgyfeiriwyd nhw at Dyˆ Hafan ar unwaith bron ac maent yn dweud bod gofal yr elusen yn “anhygoel.”
Meddai Tracey: “Mae’r gefnogaeth wedi bod yn aruthrol. Nid oes geiriau i ddisgrifio dyfnder beth rydym wedi’i dderbyn. Mae ‘Tîm Ieu’ yn rhyfeddol – pob un ohonynt. Mae’r gefnogaeth yn hollol anhygoel.” Ddyddiau cyn i Ieuan farw, cafodd lamp jiráff brydferth yn anrheg pen-blwydd. Roedd y lamp yn creu awyrgylch gysurus o wahanol liwiau.
26
darparu gofal, bod yno
Er nad oedd yn gallu siarad na symud llawer, roedd Ieuan yn ymateb trwy wenu a lleisio at ei lamp jiráff. “Roedd wrth ei fodd â’r lamp. Roedd yn hoff o’r goleuadau, y synau a’r gerddoriaeth. Roedd yn anrheg berffaith i Ieuan,” meddai Tracey. Arhosodd y cwpl yn yr hosbis am ryw bythefnos ar ôl marwolaeth Ieuan, nes iddynt deimlo’n ddigon cryf i fynd yn ôl i’w cartref yng Nghastell-nedd.
“Cawsom ddathliad o fywyd Ieuan yn yr hosbis, a daeth tua 80 o’n ffrindiau a’n teulu, i rannu ein cariad, ein hatgofion ohono a’i lwyddiannau - roedd yn arbennig iawn.” “Mae’r gefnogaeth profedigaeth yr ydym wedi ei dderbyn wedi bod yn hollol wych; mae ‘Tîm Ieu’ wedi parhau i roi cymorth gwerthfawr,” meddai Tracey.
“Trwy gefnogaeth ‘Tîm Ieu’, rydym bellach yn gallu meddwl am y dyfodol heb ein bachgen bach. Rydym am faethu plentyn arall sydd ag anghenion iechyd cymhleth. Ieuan oedd popeth inni a thrwy ei ysbrydoliaeth a’i wersi bywyd, mae wedi ein galluogi i gynnig ein gwybodaeth a’n profiad newydd i eraill.” Derbyniodd Cath a Tracy £1,000 i Dyˆ Hafan mewn rhoddion yn Nathliad Bywyd ac angladd Ieuan. Maent wedi defnyddio peth o’r arian i brynu lampau ar gyfer pob un o ystafelloedd gwely’r plant a’r fflat yn yr hosbis. “Gobeithio y bydd y plant a’r bobl ifanc yn mwynhau’r goleuadau cymaint ag y gwnaeth Ieuan. Arwydd bach yw hwn, er cof am ein Ieuan, o’n diolch i Dyˆ Hafan. Mae’n elusen gwbl wych,” meddai Cath. “Gyda diolch i siop Daisy and Jack yn y Bont-faen am ein helpu i brynu’r lampau am bris is, ac am eu cymorth parhaus i Dyˆ Hafan. ” v
www.tyhafan.org
27
dathlu
yn cefnogi
mlynedd Mae Crackerjackpot yn 15 oed! Sefydlwyd y loteri Crackerjackpot ym 1998, cyn i Dyˆ Hafan gael ei adeiladu! Loteri Tyˆ Hafan oedd ei enw bryd hynny, a’r brif wobr oedd £1,000. 15 years yn ddiweddarach, mae’r loteri wedi esblygu i fod yn Crackerjackpot ac erbyn hyn mae ganddo dros 40,000 o aelodau – y loteri hosbis fwyaf yn y DU. Mae’r wobr uchaf wythnosol wedi cynyddu i £2,000 ac mae’r jacpot treigl yn gallu bod cymaint â £12,000 – ond dim ond £1 yr wythnos y mae’n ei gostio i fod yn aelod o hyd.
28
darparu gofal, bod yno
Mae Crackerjackpot yn ffynhonnell hanfodol o incwm dibynadwy i Dyˆ Hafan, gan godi tua £1.1 miliwn bob blwyddyn - tua un rhan o dair o’r cyfanswm sydd ei angen i sicrhau y gallwn barhau i gynnig gwasanaethau hanfodol i blant a phobl ifanc â chyflyrau sy’n cyfyngu ar eu bywydau a’u teuluoedd ledled Cymru. Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r holl aelodau ffyddlon sydd wedi cefnogi Crackerjackpot dros y 15 mlynedd ddiwethaf. Dim ond eich cefnogaeth barhaus sydd wedi galluogi Crackerjackpot i barhau i lwyddo flwyddyn ar ôl blwyddyn. Os nad ydych yn aelod o Crackerjackpot ac os hoffech gael cyfle i ennill a chyfle i roi cymorth, ymunwch heddiw. Ewch i’n gwefan www.lottery.tyhafan.org a chofrestrwch ar-lein neu ffoniwch 029 2053 2300.
Raffl Haf Enillydd lwcus Raffl Haf eleni oedd Emrys Walters o Gastell-nedd a enillodd ein prif wobr o £3,000! Roedd wedi cynhyrfu'n lân ac yn falch iawn o dderbyn yr alwad i ddweud y newyddion cyffrous wrtho. Mae’r raffl haf wedi codi £60,000, sy’n swm enfawr, a hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran am ein help ni i gyrraedd y cyfanswm anhygoel hwn. Y raffl Nadolig fydd nesaf, a bydd eich tocynnau ar gael ym mis Hydref. www.tyhafan.org
29
her siop elusen Undeb Rygbi Cymru’n codi miloedd Cododd Undeb Rygbi Cymru fwy na £7,500 i Dyˆ Hafan ar ôl cymryd rhan mewn her siop elusen debyg i’r rhaglen deledu ‘The Apprentice’.
Y dasg i ddau dîm oedd rhedeg dwy o siopau Tyˆ Hafan yn y Barri a Phen-y-bont ar Ogwr a chodi cymaint o arian â phosibl. Achosodd chwaraewyr Cymru a bachwr y Scarlets, Ken Owens, dipyn o gynnwrf pan gyrhaeddodd siop Pen-ybont gyda Chwpan 6 Gwlad yr RBS - a saethodd y gwerthiant i fyny yn y ddwy siop diolch i roddion o nwyddau gan Undeb Rygbi Cymru.
Tîm Pen-y-bont a enillodd a chodwyd cyfanswm anhygoel o £7,645 trwy ymdrechion y ddau dîm ar y cyd. Mae’r incwm o bob un o’r 23 o siopau sydd gan Dyˆ Hafan yn gwneud cyfraniad gwerthfawr tuag at ddarparu cysur, gofal a chymorth arbenigol i gannoedd o blant a phobl ifanc â chyflyrau sy’n cyfyngu ar eu bywydau a’u teuluoedd ledled Cymru. Os yw eich cwmni’n chwilio am ddiwrnod meithrin tîm eithaf gwahanol, beth am gymryd rhan yn ein her siop elusen nesaf? I gael mwy o wybodaeth ffoniwch 029 2053 2260 neu anfonwch neges e-bost at info@tyhafan.org
I’n helpu i leihau’r costau, cewch ymuno â rhestr e-bost Cwtsh trwy anfon eich enw, cyfeiriad a chyfeiriad e-bost i info@tyhafan.org
30
darparu gofal, bod yno
Ein siopau Aberdâr, Cardiff Street, 01685 871800
Llanelli, Stryd Stepney, 01554 755336
Y Barri, Stryd Fawr, 01446 747872
Maesteg, Commercial Street, 01656 810444
Y Barri, Holton Road, 01446 733095
Merthyr Tudful, Stryd Fawr, 01685 377566
Pen-y-bont ar Ogwr, Canolfan Siopa’r Rhiw,
Castell-nedd, Queen Street, 01639 639770
01656 668441
Casnewydd, Chepstow Road, 01633 253470
Caerffili, Market Street, 02920 881034
Casnewydd, Stryd Fawr, 07917 436020
Caerdydd, Albany Road, 02920 491367
Penarth, Stanwell Road, 02920 703665
Aberteifi, Pendre, 01239 621825
Pontypridd, Taff Street, 01443 406959
Caerfyrddin, Rhodfa Myrddin, 01267 238944
Port Talbot, Canolfan Siopa Aberafan,
Cwmbrân, Sgwâr y Cadfridog Rees,
01639 892800
01633 862122
Abertawe, The Kingsway, 01792 646463
Donation Station, Ystâd Ddiwydiannol Tyˆ Verlon, Tonysguboriau, Ely Valley Road, 01443 231481 Cardiff Road, y Barri, 01446 721544
Treorci, Bute Street, 01443 774850
Llanbedr Pont Steffan, Stryd Fawr, 01570 421976 Yr Eglwys Newydd, Merthyr Road, 02920 624526
Peidiwch oedi, gwagiwch eich cwpwrdd dillad! Ni fyddai siopau elusen Tyˆ Hafan yn bodoli heb roddion gan y cyhoedd. Os ydych yn cael gwared ar ddillad, byddwch gystal ag ystyried Tyˆ Hafan. Cewch fynd â’ch eitemau i’ch siop agosaf neu drefnu casgliad.
Gwirfoddolwyr Rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr parod i weithio yn ein siopau. I gael mwy o wybodaeth, ewch i ‘n gwefan neu ffoniwch eich siop leol.
Tyˆ Hafan Yr hosbis deuluol i fywydau ifanc Hayes Road, Y Sili, CF64 5XX 029 2053 2199 www.tyhafan.org
m
i gofrestru tîm neu i gael mwy o wybodaeth cysylltwch: rhif ffôn: 029 2053 2283 e-bost: events@tyhafan.org neu ewch i’n gwefan www.tyhafan.org/events www.tyhafan.org rhif elusen gofrestredig: 1047912 Tyˆ Hafan – yr hosbis deuluol i fywydau ifanc
ant
d am d
efn o g
im
pl
wy
d
r
ed
ro
swige
n
e n t p êl-
d yne ia
d
dydd sul 10 tachwedd 2013 10.00am - 6.00pm Please supply back cover contentdinas caerdydd tŷ chwaraeon
ig
t wr
am
yntaf C
ru ym
nc