cwtsh
cylchlythyr hydref/gaeaf 2014
ein newyddion a’n straeon o dyˆŷ hafan
amser chwarae yn nhyˆŷ hafan y tu mewn 15 mlynedd o fod yno
iard chwarae newydd yn agor gyda thema ynys anghysbell t.3
arwyr yn ymgasglu ar gyfer wythnos hosbisau plant t.6
lansio apêl eiliadau gwerthfawr ledled cymru t.10
cwtsh
ein newyddion a’n straeon o dyˆŷhafan 029 2053 2199
www.tyhafan.org
croeso Croeso i rifyn Hydref/Gaeaf Cwtsh. Rydym wedi cael ychydig fisoedd anhygoel yn Nhyˆ Hafan. Daeth un o’r uchafbwyntiau niferus yn ystod Wythnos Hosbisau Plant, pan agorodd un o’n teuluoedd ein maes chwarae antur newydd yn swyddogol. Roedd yn gymaint o fwynhad i weld y cyffro a’r llawenydd ar wynebau’r plant wrth iddyn nhw archwilio’r cyfleuster newydd, ac allwn ni ddim diolch digon i’n gwirfoddolwyr am wneud hyn yn bosibl. Rydym yn credu bod gan bob plentyn hawl i chwarae. Yn y rhifyn hwn byddwch yn darganfod sut mae chwarae yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau plant sy’n byw bywydau byr, a’u teuluoedd, o bob rhan o Gymru. Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu mewn nifer o wahanol ffyrdd, yn yr hosbis ac yn y gymuned, ac mae’n fuddiol dros ben i helpu plant i fynegi eu hunain a chyfathrebu mewn ffyrdd nad ydynt o bosibl wedi cael profiad ohonynt o’r blaen. Darllenwch am ein dathliadau Diwrnod Chwarae Cenedlaethol a dysgwch am ein Hapêl Eiliadau Gwerthfawr, sy’n rhoi sylw i ferch fach arbennig iawn o’r enw Alice. Bydd ei hanes hi a’i theulu yn eich ysbrydoli. Mae’n fy ngwneud yn drist iawn y byddaf yn ymddeol o’m dyletswyddau fel Prif Weithredwr ym mis Medi 2014, ond rwy’n hyderus y bydd Tyˆ Hafan yn parhau i fynd o nerth i nerth gyda’r tîm talentog a brwd sydd bob amser yn gwneud mwy nag sydd raid i wneud yn siwˆr ein bod yn darparu cysur, gofal a chymorth hanfodol i’n teuluoedd. Fel gair olaf gennyf i, hoffwn ddiolch i’n cefnogwyr gwych, a helpodd i ddechrau Tyˆ Hafan 15 mlynedd yn ôl, ac sy’n dal i roi yn hael er mwyn inni fod yno i deuluoedd pan fydd ein hangen fwyaf. Rydych yn rhan hanfodol o dîm Tyˆ Hafan ac allem ni ddim gwneud heboch chi. Diolch o galon i chi. Ray Hurcombe Prif Weithredwr
cynnwys
2
iard chwarae newydd yn gwireddu breuddwyd .................. 03 tyˆ hafan yn dathlu diwrnod chwarae cenedlaethol............... 04 gofal dydd i deuluoedd............................................................ 05 arwyr yn ymgasglu ar gyfer wythnos hosbis plant................ 06 digwyddiadau pen-blwydd yn 15 oed.................................... 08 8 mlynedd wrth y llyw............................................................... 09 diwrnod hwyl ar thema alys yng ngwlad hud....................... 09 apêl eiliadau gwerthfawr..........................................................10 hanes rhys – byw gydag NCD..................................................12 tyˆ hafan yn lansio ras enfys gyntaf cymru................................14 colin charvis yn taclo tri chopa cymru......................................15 taith arwrol beicwyr i bum prifddinas......................................16 byddwch yn wirfoddolwr........................................................... 17 enillydd ffodus yn cael jacpot loteri dreigl o £12,000 ............18 raffl heulwen haf.........................................................................19 bwtîc tyˆ hafan yn agor yn y fenni............................................. 20 gwesteion arbennig yn agor ein 27ain siop yn hwlffordd.....21 hanes katie................................................................................. 22 helpwch ni i fod yno am 15 mlynedd arall.............................. 23
‘gwired Mae gan bob plentyn yr hawl i chwarae!
cylchlythyr hydref/gaeaf 2014
mae’r iard chwarae yn
eddu breuddwyd’ Roedd wythnos hosbisau plant (13-20 Mehefin) yn fwy arbennig fyth eleni wrth i’r iard chwarae newydd ar y thema ynys anghysbell gael ei hagor yn swyddogol. Mae’r lle cyfan yn addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn ac mae’n cynnwys trac rasio, trampolîn cadeiriau olwyn, si-so cadeiriau olwyn a goleudy pwrpasol. Mae nodweddion eraill yn cynnwys gorsaf gweithgareddau dwˆr, twnnel heulwen, llithrennau a siglenni ar gyfer cadeiriau olwyn. Roedd Lewis Smith a’i fam Nichola o Lanilltud Faerdre wrth eu boddau i gael torri’r rhuban ac agor yn swyddogol yr iard chwarae sy’n edrych dros Fôr Hafren. Mae Lewis, sy’n bump oed, yn dioddef o Sglerosis Twberus, cyflwr genetig prin sy’n achosi i dyfiannau ddatblygu mewn gwahanol rannau o’r corff, a chafodd ei atgyfeirio i Dyˆ Hafan yn 2010. “Mae’r iard chwarae yn gwireddu breuddwyd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn,” meddai Nichola.
Meddai Cyfarwyddwr Gofal Tyˆŷ Hafan, Jayne Saunders: “Mae’r cyfleuster newydd hwn yn caniatáu i blant o bob gallu fwynhau cyffro a manteision therapiwtig iard chwarae. Rydym yn ddiolchgar tu hwnt i’n cefnogwyr gwych am ariannu’r cyfleuster rhagorol hwn - bydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’r teuluoedd rydym ni’n eu cefnogi. Gwnaed cyfraniadau sylweddol tuag at y prosiect £250,000 gan Barclays Wealth, Co-operative Employee Benefits, Dow Corning, Elusen Fawr y Seiri Rhyddion, Cronfa Fenter J L Harrison, Making a Difference Locally Ltd, Cyngor Cymuned y Mwmbwls, Real Radio, Ortho-Clinical Diagnostics, Sefydliad Waterloo ac Ymddiriedolaeth Chloe Bigmore.
Mae’n wych i Lewis gan ei fod yn cael profiad o lawer o symudiadau sy’n help iddo ymlacio ac yn ei dawelu. Mae hefyd yn gyfleuster gwych i’w chwaer, Holly, gan ei fod yn rhywbeth t yˆ gallan nhw’i fwynhau gyda’i gilydd.”
Mae’n cynnwys trac rasio, trampolîn cadeiriau olwyn, si-so cadeiriau olwyn a goleudy
3
cwtsh
ein newyddion a’n straeon o dyˆŷhafan 029 2053 2199
tyˆ hafan yn dathlu
www.tyhafan.org
diwrnod chwarae cenedlaethol Cafodd y teuluoedd a gefnogir gan Dyˆ Hafan ddiwrnod llawn o wneud swigod, dal chwilod ac adeiladu cuddfannau i nodi Diwrnod Chwarae Cenedlaethol ar 6 Awst. Roedd digon o hwyl a chwerthin yn yr hosbis, wrth i’r plant sy’n byw bywydau byr a’u brodyr a’u chwiorydd gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau awyr agored gan gynnwys cerdded ar awyr – gweithgaredd sy’n defnyddio drychau i adlewyrchu delweddau o’r awyr. Darparwyd sesiynau celf cadair olwyn gan weithwyr chwarae arbenigol, a mwynhaodd y teuluoedd dreulio amser yn iard chwarae newydd TyˆŷHafan hefyd (gweler tudalen 3). Roedd Carol, merch dair oed Dong Luo, yn un o’r nifer o blant wnaeth fwynhau’r diwrnod. Mae Carol, sy’n dod o Gaerdydd, yn dioddef o Hypoanadlu Canolog Cynhenid a chafodd ei hatgyfeirio i Dyˆŷ Hafan yn wyth mis oed. Derbyniodd Carol a’i theulu ofal seibiant byr yn yr hosbis pan oedd hi’n fabi ac maen nhw wedi bod yn mwynhau sesiynau gofal dydd yn yr hosbis byth ers hynny. Meddai Mrs Luo: “Roedd Carol wrth ei bodd pan glywodd ein bod yn mynd i Dyˆŷ Hafan am y dydd! Mae chwarae’n bwysig iawn i Carol ac mae staff yn Nhyˆŷ Hafan yn rhagorol am nodi’r gweithgareddau sy’n gweddu i’w hanghenion unigol.” Meddai Hannah Williams, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Gofal Tyˆŷ Hafan: “Roedd yn wych gweld teuluoedd yn magu’r hyder i roi cynnig ar fathau newydd a gwahanol o chwarae nad oedden nhw efallai wedi cael profiad ohonynt o’r blaen.
Mae gan bob plentyn hawl i chwarae ac mae’n bwysig er mwyn helpu pob plentyn i’w fynegi ei hun ac i gyrraedd ei lawn botensial
“’Dydym ni ddim yn canolbwyntio ar yr hyn na all plentyn ei wneud wrth chwarae, yn hytrach rydym yn ei annog i ddarganfod beth mae’n gallu ei wneud. Mae gan bob plentyn hawl i chwarae ac mae’n bwysig er mwyn helpu pob plentyn i’w fynegi ei hun ac i gyrraedd ei lawn botensial.”
Diwrnod Chwarae yw’r diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae yn y DU, a gynhelir yn draddodiadol ar ddydd Mercher cyntaf bob mis Awst. Yn ogystal â dathlu hawl plant i chwarae, mae Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn tynnu sylw at bwysigrwydd chwarae ym mywydau plant.
4
cylchlythyr hydref/gaeaf 2014
gofal dydd i deuluoedd Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd i ddiwallu anghenion plant sy’n byw bywydau byr a’u teuluoedd. Bum mlynedd yn ôl, sefydlwyd gwasanaeth Gofal Dydd i Deuluoedd ar gyfer grwˆp o blant nad oeddent yn gallu mynd i’r ysgol am resymau gofal iechyd.
ei hwyluso gan ein Hymarferwyr Chwarae deinamig a llawn egni, gyda chymorth un nyrs o leiaf ac aelodau eraill o staff yn ôl yr angen.
Mae’r gwasanaeth poblogaidd hwn bellach wedi datblygu i ddarparu ar gyfer mwy a mwy o blant iau yn ein gofal.
“Mae ein Therapyddion Cyflenwol bob amser wrth law i gynnig triniaethau i’r rhieni ac mae Therapydd Cerddoriaeth yn galluogi’r plant i fynegi eu hunain drwy gerddoriaeth. Mae Ymarferydd Cymorth i Deuluoedd hefyd ar gael os bydd ar deuluoedd eisiau cymorth emosiynol neu ymarferol.”
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae oedran cyfartalog y plant gafodd eu hatgyfeirio atom wedi gostwng o 11 i bedair oed. Mae’r Gofal Dydd i Deuluoedd erbyn hyn yn adlewyrchu’r newid hwn gan fod nifer o’r plant sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn blant cyn ysgol, ac mae nifer ohonyn nhw dan ddwy oed. Mae’r sesiynau’n caniatáu i blant ryngweithio a chwarae gyda’i gilydd ac yn rhoi cyfle i rieni gwrdd â theuluoedd eraill sy’n wynebu’r un amgylchiadau. Meddai Tracy Jones, Ymarferydd Arweiniol Gwasanaethau Gofal Lliniarol Cymunedol TyˆŷHafan: “Mae’r gwasanaeth wedi datblygu dros y blynyddoedd ac mae’n rhaid i ni redeg dwy sesiwn bob mis erbyn hyn i ddarparu ar gyfer yr holl deuluoedd. “Mae’r tîm cyfan yn cydweithredu i ddarparu Gofal Dydd i Deuluoedd a chaiff
Ychwanegodd: “Mae’r diwrnod bob amser yn brysur ac yn llawn dop o weithgareddau hwyliog. Mae’r wên ar wynebau’r plant a’r teuluoedd ar ddiwedd y dydd yn dangos bod hwn yn wasanaeth sydd wir yn gweithio iddyn nhw.”
diolch Diolch yn fawr i Gymdeithas Lles Plant yn yr Ysbyty (AWCH) am y rhodd hael iawn hwn fydd yn ein galluogi i roi cymorth i fwy o deuluoedd.
Mae Gofal Dydd i Deuluoedd yn cynnig cyfleoedd i deuluoedd ddod at ei gilydd yn yr hosbis
Yn ddiweddar, mae Tyˆŷ Hafan wedi derbyn rhodd sylweddol a fydd yn ein galluogi i gynnal prosiect peilot i gefnogi teuluoedd sydd angen cludiant i fanteisio ar wasanaethau, fel Gofal Dydd i Deuluoedd. Diolch yn fawr i Gronfa AWCH am y rhodd hael hwn.
55
cwtsh
ein newyddion a’n straeon o dyˆŷhafan 029 2053 2199
www.tyhafan.org
u l g s a g m y n y r y w ar n a f a h ˆ y yn nh Gwisgodd teuluoedd sy’n cael eu cefnogi gan Dyˆ Hafan eu clogyn, eu mwgwd a’u gwisg archarwr ar gyfer parti arbennig Wythnos Hosbisau Plant. Hon oedd yr wythnos flynyddol i godi ymwybyddiaeth ac arian ledled y DU ar gyfer gwasanaethau hosbis plant. Gydag arwyr yn thema, roedd yr wythnos yn dathlu hosbisau plant lleol sydd, yn union fel archarwyr, yno ar gyfer pobl pan mae eu hangen fwyaf.
6
Bu’r teuluoedd yn mwynhau gwneud balwˆns, paentio wynebau
a chwarae gemau – ymhlith nifer o weithgareddau eraill – gyda the parti Alys yng Ngwlad Hud a disgo i ddilyn. Cymerodd y cyhoedd ran hefyd trwy drydar lluniau ohonyn nhw’u hunain yn gwneud ystum archarwr.
cylchlythyr hydref/gaeaf 2014
mae plant ysgol yn arwyr wythnos hosbisau plant! Un o’r nifer o ysgolion a gododd arian ar gyfer Tyˆ Hafan yn ystod Wythnos Hosbisau Plant oedd Ysgol Gynradd Willowbrook yng Nghaerdydd. Newidiodd plant ysgol eu dillad ysgol am glogynnau a dillad tylwyth teg a chodi £250 ar gyfer Tyˆ Hafan. Roedd gan ddisgyblion yn yr ysgol reswm arbennig dros godi arian gan fod y Cynorthwy-ydd Addysgu, Karen Davies, a’i theulu wedi cael budd mawr o wasanaethau’r elusen. Mae gan fab Karen, Nathan, sy’n 16 oed anawsterau dysgu difrifol a nodweddion awtistig cysylltiedig ag oedi datblygiadol cyffredinol. Yn 2010 cafodd lawdriniaeth frys i drin rhwystr difrifol yn y coluddyn ac roedd mewn gofal dwys am amser hir. Flwyddyn yn ddiweddarach roedd ei gyflwr wedi dirywio’n ddramatig a chafodd ei atgyfeirio i Dyˆ Hafan.
arch siop! Cafodd staff a gwirfoddolwyr yn ein siop elusen yn Nhonysguboriau flas ar y thema arwyr ar gyfer Wythnos Hosbisau Plant. Roedd Bananaman, Wonder Woman a Super Mario ymysg y cymeriadau oedd yn chwifio’r faner dros Dyˆ Hafan ar Ddydd Gwener Arwyr.
Meddai Karen: “Rhoddodd Tyˆ Hafan gymorth gwerthfawr i ni fel teulu yn ystod amser anodd iawn. Rhoddon nhw dosturi a dealltwriaeth unigryw o’r hyn roeddem ni’n mynd drwyddo. Roedden nhw’n gefnogol iawn hefyd tuag at Becky, chwaer Nathan. Treuliodd y teulu Nadolig 2011 yn Nhyˆ Hafan a chawsom ddathlu ei ben-blwydd yn 14 yno yng nghanol teulu a ffrindiau. “Mae Tyˆ Hafan yn parhau i roi gofal seibiant byr sy’n ein galluogi i gael seibiant o’i anghenion gofal a nyrsio.” Meddai Steve Davies, Pennaeth Ysgol Gynradd Willowbrook: “Mae Tyˆ Hafan yn hosbis i blant sy’n cael ei rhedeg gan arwyr ar gyfer arwyr, a’r gofal, y gefnogaeth a’r cariad a roddir gan bob aelod o staff sy’n ei wneud yn lle mor rhyfeddol o arbennig.”
7
cwtsh
ein newyddion a’n straeon o dyˆŷhafan 029 2053 2199
www.tyhafan.org
15 mlynedd o fod yno
mlynedd o fod yno
Rydym wedi bod yn myfyrio dros yr haf ar 15 mlynedd o fodolaeth Tyˆ Hafan ac yn cymryd y cyfle i ddiolch i’r cefnogwyr gan mai eu caredigrwydd sy’n ei gwneud yn bosibl i ni barhau i ofalu am blant a phobl ifanc sy’n byw bywydau byr, a’u teuluoedd. Yn ddiweddar, cynhaliwyd Te Parti ar thema Alys yng Ngwlad Hud ar gyfer ein cefnogwyr, i nodi pen-blwydd Tyˆ Hafan yn 15 oed. Roedd yr haul yn tywynnu, roedd y te a’r cacennau yn rhagorol a chafodd pawb brynhawn gwych.
Mae ein cefnogwyr anhygoel wedi bod yn brysur hefyd yn cynnal eu te partis eu hunain fel rhan o’n hymgyrch te parti 15 oed. Os hoffech chi gynnal eich te parti eich hun ar gyfer Tyˆ Hafan, ewch i www.tyhafan.org/ teaparty neu ffoniwch ni ar 029 2053 2255.
Photo © Paul Fears
Meddai Lynne Carter, Rheolwr Cyffredinol Codi Arian Tyˆ Hafan: “Mae Tyˆ Hafan wedi datblygu cymaint yn y 15 mlynedd diwethaf diolch i ymroddiad a charedigrwydd ein cefnogwyr gwych. Roedd cynnal te parti yn ffordd fach o
ddangos ein diolchgarwch am bopeth maen nhw wedi’i wneud i gefnogi plant sy’n byw bywydau byr a’u teuluoedd sy’n dibynnu ar ein gwasanaethau.”
8
cylchlythyr hydref/gaeaf 2014
8 mlynedd wrth y llyw
Mae Ray Hurcombe, Prif Weithredwr Tyˆŷ Hafan, yn ymddeol ym mis Medi ar ôl wyth mlynedd cofiadwy a llwyddiannus wrth y llyw. Mae agwedd broffesiynol ac arweiniad Ray wedi cyfrannu pennod hanfodol at hanes TyˆŷHafan. Mae wedi arwain esblygiad Tyˆŷ Hafan ac wedi gosod y sylfaen ar gyfer datblygiad pellach yr elusen. Mae Ray wedi gwneud cyfraniadau dirifedi at y gofal lliniarol y mae Tyˆŷ Hafan yn ei ddarparu i blant o bob rhan o Gymru â chyflyrau sy’n cyfyngu ar eu bywydau, gan
gynyddu’r nifer mewn gofal o 141 yn 2006 i 260 erbyn heddiw, datblygu’r gwasanaethau gofal a ddarperir yn sylweddol, ehangu’r gofal o’r hosbis i gartref y teulu a darparu cymorth i’r teulu estynedig. Mae wedi hyrwyddo sianelau newydd o gyllid cynaliadwy i ddiwallu anghenion sy’n fwyfwy cymhleth, ac wedi sefydlu disgyblaethau ymchwil a’r partneriaethau
rhwng llywodraeth a’r sectorau academaidd a chyhoeddus a fydd yn galluogi’r elusen i ragweld ac ymateb i anghenion y dyfodol. Mae wedi denu ac ysbrydoli tîm o weithwyr proffesiynol o’r radd flaenaf a bydd colled fawr ar ei ôl. Diolch Ray.
diwrnod hwyl ar thema
alys yng ngwlad hud Daeth mwy na 2,500 o ymwelwyr i’r Diwrnod Hwyl i’r Teulu ar thema Alys yng Ngwlad Hud a chodwyd bron i £10,000 ar gyfer Tyˆŷ Hafan. Roedd y thema, a ddewiswyd i gynrychioli’r digwyddiad cyntaf a gynhaliwyd yn Nhyˆŷ Hafan ym 1999, yn cynnwys llu o atyniadau, o stondinau crefft a golff gwallgof i wyddbwyll mawr a reidiau ffair.
Roedd ymwelwyr hefyd yn mwynhau cael eu tywys o amgylch yr hosbis gan aelodau o’r tîm Gwasanaethau Gofal i gael gweld y cyfleusterau anhygoel i blant a phobl ifanc sy’n byw bywydau byr, a’u teuluoedd. Meddai Emily Fradd, o Dyˆ Hafan: “Rydym mor falch fod cymaint o ymwelwyr wedi
mwynhau ein Diwrnod Hwyl i’r Teulu. Roedd y thema Alys yng Ngwlad Hud yn boblogaidd iawn ac roedd yn ffordd wych i nodi ein pen-blwydd yn 15 oed. “Hoffwn ddiolch i Dow Corning am noddi’r digwyddiad, i’n gwirfoddolwyr am eu holl waith caled ac i bawb a wnaeth y digwyddiad yn bosibl.”
Photo © Paul Fears
Cefnogwyd y digwyddiad gan Dow Corning, ac roedd yn cynnwys perfformiadau gan y Côr Roc, arddangosfeydd anifeiliaid rhyfeddol ac
ymweliadau arbennig gan gymeriadau Alys yng Ngwlad Hud.
9
cwtsh
ein newyddion a’n straeon o dyˆŷhafan 029 2053 2199
www.tyhafan.org
tyˆ hafan yn lansio
apêl eiliadau gwerthfawr
Dim ond blwydd oed yw Alice Hicks fach, ond mae ei stori wedi gwneud argraff fawr yn barod.
10
cylchlythyr hydref/gaeaf 2014
“Roedd yr hyn a gawsom yn Nhyˆ Hafan yn wirioneddol arbennig”
Alice fach o Gaerdydd yw wyneb ein Hapêl Eiliadau Arbennig, sydd wedi’i lansio i helpu mwy o blant fel hi fydd yn byw bywydau byr. A mwy o deuluoedd angen ein cefnogaeth, mae ein costau hefyd yn codi ac mae angen i ni godi £3.7 miliwn bob blwyddyn i ddarparu ein gwasanaethau rhad ac am ddim o’i gymharu â dim ond £1 miliwn pan ddechreuom ni ym 1999. Mae Alice a’i rhieni, Ian a Hannah, yn un o 262 o deuluoedd sy’n cael cefnogaeth ar hyn o bryd gan yr elusen ac roeddent am rannu eu stori gyda phobl ledled Cymru. Fel y rhan fwyaf o rieni newydd, allai Hannah ac Ian ddim aros i fynd am eu sgan 20 wythnos. Ond trodd yr holl gyffro yn bryder pan aeth y fydwraig i nôl y meddyg. Clywsant y newyddion mwyaf ysgytwol y gallai unrhyw riant ei glywed - roedd gan ei merch gyflwr oedd yn golygu ei bod
yn debygol o farw cyn tyfu’n oedolyn. “Aethom o’r ysbyty’n teimlo bod ein byd wedi chwalu’n deilchion,” meddai Hannah. “Un funud roeddem yn gwylio’n plentyn yn symud o gwmpas ar y monitor. Y funud nesaf, roeddem yn cael clywed na fyddem ni’n cael cyfle i’w gwylio’n tyfu’n oedolyn.” Cafodd Alice ei geni â hydraenceffali – anhwylder y system nerfol ganolog sy’n golygu bod ganddi broblemau niwrolegol a bod ei phen yn fwy na’r arfer. Bu raid i’w theulu baratoi am y gwaethaf wrth iddi dreulio ei 15 diwrnod cyntaf yn ymladd am ei bywyd yn yr uned babanod newydd-anedig yn Ysbyty Athrofaol Cymru. “Wrth iddi ddod yn fwy a mwy clir na allai’r meddygon wneud dim mwy i’w helpu, awgrymon nhw y dylem fynd â hi am ofal diwedd oes yn Nhyˆŷ Hafan,” meddai Ian. “Roedd cael clywed gan
feddygon y byddai raid mynd i Dyˆ Hafan yn teimlo fel y diwedd, ond fe drodd yn ddechreuad newydd.” Ar ôl ofn a digalondid yr wythnosau blaenorol, dywedodd y cwpl eu bod wedi cael rhywfaint o obaith a hapusrwydd yn Nhyˆ Hafan. “Roedd yr hyn a gawsom yn Nhyˆŷ Hafan yn wirioneddol arbennig - lle sy’n llawn chwerthin a chariad. “Roeddem yn gwybod yn syth mai dyma lle roeddem ni eisiau bod,” meddai Hannah. Ar y diwrnod cyntaf yno, cafodd tad-cu Hannah y cyfle i afael ynddi am y tro cyntaf. “’Doedd e ddim wedi gallu gafael ynddi pan oedd hi yn yr ysbyty am ei bod yn rhy sâl. “Wrth iddo gofleidio ei wyres yn ei freichiau, dywedodd wrthym fod ei fywyd yn teimlo’n gyflawn. Roedd yn eiliad mor arbennig i’r teulu cyfan,” meddai Hannah. Goroesodd Alice yr wythnosau cyntaf a bellach mae hi’n
mwynhau treulio amser gartref gyda’i rhieni yng Nghaerdydd. “Mae Tyˆ Hafan yn parhau i fod yn gefn i’r teulu mewn cymaint o ffyrdd,” meddai Ian. “O’r ymweliadau a’r galwadau ffôn gan ein Hymarferydd Cymorth i Deuluoedd, Hayley, i’r seibiannau byr rydym ni’n eu cael yn yr hosbis. “Maen nhw’n helpu i wneud yn siwˆ r bod pob eiliad gawn ni gydag Alice yn cael eu treulio’n creu atgofion fydd yn byw am byth. “Pan ddaw’r amser, a bod Alice yn cyrraedd diwedd ei hoes, rydym ni’n gwybod y byddan nhw’n ein cefnogi trwy hynny hefyd.” Mae stori ingol Alice yn cael ei hadrodd ar fideo YouTube lle mae ei rhieni’n siarad am eu cariad ati a chymaint y mae Tyˆŷ Hafan yn helpu. I gefnogi’r Apêl Eiliadau Gwerthfawr ewch i www. tyhafan.org/precious neu ffoniwch 029 2053 2255
11
cwtsh
ein newyddion a’n straeon o dyˆŷhafan 029 2053 2199
hanes rhys – byw gydag ncd
O dreulio amser gyda’i ffrindiau i chwarae gemau fideo neu fynd i fowlio, nid oes dim sy’n well gan Rhys, sy’n gymdeithasol iawn, nag aros yn Nhyˆŷ Hafan. Mae Rhys, 13, yn dioddef o Nychdod Cyhyrol Duchenne (NCD), sy’n anhwylder niwrogyhyrol. Atgyfeiriwyd ef a’i deulu i Dyˆ Hafan yn 2005 pan oedd Rhys yn bedair oed. Mae NCD yn effeithio ar un o bob 3,500 o fechgyn, ac mae symptomau fel arfer yn ymddangos mewn plant cyn iddynt fod yn bump oed. Bydd y rhan fwyaf o’r bechgyn yn defnyddio cadair olwyn erbyn iddynt fod yn 10 oed, ac er y gall eu disgwyliad oes amrywio, nid oes llawer ohonynt yn byw i gyrraedd ugain oed. O’r plant a’r bobl ifanc sy’n defnyddio ein gwasanaeth ar hyn o bryd, mae 37 yn dioddef o NCD, a dyma’r grwˆp mwyaf o’r holl gyflyrau byrhau oes a atgyfeirir atom. “Tua pedair oed oeddwn i pan ddechreuais i ddod i Dyˆ Hafan,” meddai Rhys. “Mae NCD yn golygu fy mod i’n blino’n hawdd ac nad ydw i’n gallu defnyddio fy nghoesau a fy nghorff cystal. Rwy’n cael trafferth gwneud pethau, fel gwahanol weithgareddau. Rwy’n gorfod defnyddio fy nghadair olwyn drydan i fynd o gwmpas. Dwi’n gallu gwneud rhai pethau ar fy mhen fy hun trwy gael help, a dwi’n gallu mynd o gwmpas yn fy nghadair.
12
“Dwi’n deall pethau ynglyˆ n ag NCD; mae fy nghyhyrau i wedi dechrau mynd yn wan ac mae rhannau eraill o ’nghorff i’n wan hefyd. Rwy’n cael trafferth symud. Dydw i ddim yn gallu cerdded erbyn hyn ond rwy’n defnyddio fy nghadair i symud o gwmpas. Mae angen help arna i yn yr ysgol a phan fydda i gartre’, a phan fydda i’n mynd i Dyˆŷ Hafan, mae fy ngofalwyr yn fy helpu i. Mae rhai pethau na alla i eu gwneud. Ond mae pethau eraill y galla i eu gwneud gyda help.” Cynorthwyodd Rhys gydag Apêl yr Haf Tyˆ Hafan, a lansiwyd i helpu i godi arian hanfodol ar gyfer y £3.7 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i ddarparu gwasanaethau Tyˆ Hafan. “Rwyf wrth fy modd yn mynd i Dyˆ Hafan,” meddai Rhys, sy’n dod o Frynhyfryd, Abertawe. “Mae’n lle gwych i ymweld ag e ac i aros yno. Mae’r gofalwyr a’r bobl mor gyfeillgar a chymwynasgar, ac maen nhw’n llawn hwyl hefyd. “Dwi’n mwynhau aros am benwythnos hir. Dwi’n hoffi mynd mas gyda fy ngofalwyr ac rwy’n mwynhau’r prydau bwyd yn Nhyˆ Hafan – maen nhw’n wych. Dwi’n hoffi chwarae gemau yn y ffau gyda fy ffrindiau yn Nhyˆŷ Hafan. Mae’n wych.”
Dywed Sophie Williams, nyrs gofal lliniarol yn Nhyˆŷ Hafan, ei bod wedi cefnogi llawer o blant ag NCD a’i bod yn teimlo ei bod hi’n fraint iddi gael gwneud hynny. Meddai: “Mae’n gyflwr a fyddai’n torri calon y rhan fwyaf o bobl. “Ond mae gan y bechgyn rydw i wedi eu cefnogi yn Nhyˆŷ Hafan afiaith heintus at fywyd, er eu bod nhw’n gwybod mai bywydau byr iawn fydd ganddyn nhw. “Rhan bwysig iawn o fy swydd yw creu amgylchedd diogel ar gyfer y bechgyn – amgylchedd sy’n canolbwyntio ar yr hyn y gallan nhw’i wneud, nid yr hyn na allan nhw’i wneud.” Yn ogystal â’r gofal corfforol i’r bechgyn, mae Tyˆ Hafan hefyd yn darparu cefnogaeth emosiynol a chymdeithasol i’r bechgyn hyˆ n sy’n dechrau derbyn bod eu gallu i symud, yn ogystal â’u sgiliau, yn dirywio, a hynny ar adeg o’u bywyd pan fo’u ffrindiau i gyd yn dechrau gwneud y mwyaf o flynyddoedd eu harddegau. Ac ni all Rhys aros i ymweld eto. “Rwy’ wrth fy modd â phopeth amdano” meddai Rhys. “Mae’n lle gwych.”
www.tyhafan.org
cylchlythyr hydref/gaeaf 2014
“Rwy’ wrth fy modd â phopeth amdano – mae’n lle gwych”
digwyddiad cymynroddion
t yˆ hafan
Diolch i bawb a ddaeth i’n digwyddiad 15fed pen-blwydd cymynroddion ym mis Mehefin. Ers ein sefydlu ym mis Ionawr 1999, mae mwy na 600 o blant a’u teuluoedd wedi elwa ar ein gwasanaethau ac mae rhoddion mewn Ewyllysiau wedi darparu gofal ar gyfer un o bob pump o’r plant a gefnogwyd gennym. Bu farw mab Brad Watson, ein cennad teuluoedd, yn yr hosbis y llynedd a siaradodd yn y digwyddiad am y gwahaniaeth y mae Tyˆ Hafan wedi’i wneud.
diolch Diolch i bawb a gyfrannodd arian at apeliadau’r haf – mae’r ymateb wedi bod yn syfrdanol. Diolch i’ch haelioni chi, codwyd bron i £15,000, gan ein helpu i gefnogi mwy o blant sy’n byw bywydau byr a’u teuluoedd ledled Cymru.
Meddai: “ Roedd Tyˆ Hafan yn fodd i roi cariad, cefnogaeth a gofal i’n teulu ni yn ystod amser byr Archie yma. Wyddom ni ddim ble y byddem ni wedi bod hebddynt, nid yn unig yn ystod salwch Archie ond hyd yn oed ar ôl hynny hefyd.” Meddai Laura Barlow, Codwr Arian Cymynroddion ac Er Cof Tyˆ Hafan: “Rydym yn gwerthfawrogi pob rhodd, boed fawr neu fach, a bydd pob punt a dderbynnir yn gwneud bywydau’r rhai sydd angen ein gwasanaeth ychydig yn brafiach.” Rydym yn gwybod bod cynnwys rhodd i Dyˆ Hafan yn eich Ewyllys yn benderfyniad mawr, ac efallai fod gennych rai cwestiynau. Byddwn yn cynnal digwyddiad cymynroddion arall yn gynnar yn y flwyddyn nesaf er mwyn rhoi mwy o wybodaeth am ein gwasanaethau a rhoddion mewn Ewyllysiau. I fynegi eich diddordeb yn y digwyddiad neu i ddysgu mwy am roddion mewn Ewyllysiau, ffoniwch 029 2053 2265 neu anfonwch e-bost i legacy@tyhafan.org
13
cwtsh
ein newyddion a’n straeon o dyˆŷhafan 029 2053 2199
www.tyhafan.org
t yˆ hafan yn lansio ras enfys
gyntaf cymru Llenwyd Traeth Coney ym Mhorthcawl â môr o liw ar gyfer Ras Enfys 5km gyntaf Tyˆ Hafan ym mis Ebrill. Gorchuddiwyd mwy na 1,000 o bobl a gymerodd ran â phaent powdr pinc, melyn, oren a glas ar gyfer y Ras Enfys liwgar – y digwyddiad cyntaf o’i fath yng Nghymru. Mae’r Ras Enfys, a noddir gan Admiral a Convey Law, wedi ei seilio ar wˆyl liw Holi o’r India, a disgwylir codi mwy na £50,000 i Dyˆ Hafan. Meddai Angelo Pucella, o Beny-bont ar Ogwr, a gymerodd ran gyda’i fab, Luca, a’i wraig, Beth: “Mae wedi bod yn ddiwrnod mor wych. Roedd Luca wrth ei fodd ac yn llawn cyffro. Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan i godi arian i Dyˆ Hafan.”
Luca yw’r unig berson yng Nghymru sy’n dioddef o syndrom ROHHAD (Rapid-onset Obesity with Hypothalamic dysfunction, Hypoventilation and Autonomic Dysregulation), ac fe’i hatgyfeiriwyd at Dyˆ Hafan yn 2010. Meddai Mair Jeffreys, Swyddog Marchnata a Digwyddiadau yn Nhyˆ Hafan: “Dathliad yw’r Ras Enfys – cael hwyl gyda ffrindiau a chodi gwên dros Dyˆ Hafan. Roedd yn wych gweld cymaint o deuluoedd, staff a chefnogwyr Tyˆ Hafan yn cymryd rhan heddiw. “Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a gymerodd ran, heb anghofio am ein gwirfoddolwyr rhyfeddol a wnaeth y diwrnod yn bosibl.”
Diolch i noddwyr Paint Station: Admiral, Bridge FM, Coney Beach Amusements, DVS, J&J Motors, Jelf Insurance Brokers a South Wales Wood Recycling.
14
mae ein ras enfys yn dod i orllewin cymru! Mae’r lleoedd yn llenwi’n gyflym ar gyfer Ras Enfys Gorllewin Cymru ar Draeth Pentywyn, Sir Gaerfyrddin ar 27 Medi. I gofrestru neu i gael gwybodaeth am wirfoddoli ar gyfer y digwyddiad, ewch i www.rainbowrunwales.co.uk
Mae Lloyd Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Newport Property Lawyers, Convey Law, wedi ei benodi fel ein Cennad Corfforaethol cyntaf i gydnabod y gefnogaeth y mae ei gwmni wedi ei rhoi i Dyˆ Hafan yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Fel Cennad Corfforaethol Tyˆ Hafan, bydd gan Mr Davies y gorchwyl o annog busnesau a chymdeithasau eraill i gyflawni eu cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol a gweithio gyda nhw i gefnogi a hybu’r gwaith y mae Tyˆ Hafan yn ei wneud.
cylchlythyr hydref/gaeaf 2014
“Nid yw’n gofyn llawer gan y gweddill ohonom i wynebu her weithiau”
colin charvis yn taclo tri chopa cymru ar
gyfer y “gwir arwyr” yn nhyˆŷ hafan Roedd Colin Charvis, y seren rygbi, yn rhan o Dîm Arwyr Cymru a dderbyniodd Her Tri Chopa Cymru GE Aviation Wales i helpu Tyˆŷ Hafan.
ge aviation wales Ymunodd Colin â Rhys Williams a Mark Jones, cyn-chwaraewyr rhyngwladol Cymru, ynghyd â Duane Goodfield, cyn-chwaraewr Gleision Caerdydd a Dreigiau Gwent, ar gyfer y digwyddiad, a noddwyd gan GE Aviation Wales. Ond, yn ôl Colin, y gwir arwyr yw’r plant a’r teuluoedd a gefnogir gan Dyˆ Hafan. Yn ystod ymweliad â Thyˆ Hafan, tywyswyd Colin a’r tîm o amgylch yr hosbis a rhannodd cyn-chwaraewr Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon berthynas arbennig â Willow, sy’n ddwy oed, o Ystrad Rhondda. “Mae Willow a’i theulu yn wynebu cymaint o heriau bob dydd,” meddai Colin. Nid yw’n gofyn llawer gan y gweddill ohonom i wynebu her weithiau i gefnogi’r bobl arbennig iawn hyn. Roedd treulio amser yn Nhyˆ Hafan yn gwneud
i chi deimlo’n wylaidd iawn. Mae’n achos mor wych sy’n gwneud pethau rhyfeddol dros deuluoedd ar draws Cymru.” Meddai Mair Jeffreys, Swyddog Marchnata a Digwyddiadau yn Nhyˆ Hafan: “Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a gymerodd ran, y gwirfoddolwyr a GE Aviation Wales.” Hoffai Tyˆ Hafan ddiolch i Braces Bakery, Brecon Carreg, Euro Commercials, Just Perfect Catering, L’Oréal, 9Bar a Paul Fears Photography hefyd am gefnogi’r digwyddiad. Cynhaliwyd yr her yn ystod Wythnos Hosbisau Plant (13-20 Mehefin), a chymerodd 64 o dimau o bob rhan o Gymru ran i godi arian hanfodol i Dyˆ Hafan. Disgwylir casglu mwy na £70,000 i Dyˆ Hafan, sydd angen codi £3.7 miliwn bob blwyddyn i redeg ei wasanaethau.
Mae GE Aviation Wales wedi cefnogi digwyddiad 3 Chopa Cymru am yr 16 mlynedd diwethaf, ac yn y cyfnod hwnnw, mae wedi helpu Tyˆŷ Hafan i godi bron i £1.4 miliwn. Meddai Mike Patton, Rheolwr Gyfarwyddwr GE Aviation Wales: “Mae’r her yn denu pobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Mae’r awyrgylch ar y dydd yn anhygoel, ac mae’n wych gweld cymaint o bobl yn dod at ei gilydd i godi arian ar gyfer achos mor bwysig a gwerth chweil.”
15
cwtsh
ein newyddion a’n straeon o dyˆŷhafan 029 2053 2199
www.tyhafan.org
taith arwrol beicwyr i bum prifddinas Roedd pawb yn emosiynol iawn pan dderbyniodd tîm o godwyr arian groeso tywysogaidd ym Mae Caerdydd ar ôl cwblhau her feicio 911 milltir dros Dyˆŷ Hafan. Beiciodd y tîm, a oedd yn cynnwys swyddog heddlu, ymgynghorydd TG a radiograffydd, i bum prifddinas y DU ac Iwerddon mewn dim ond pum niwrnod, gan ddringo 38,000 troedfedd mewn tywydd anodd.
ar wasanaethau Tyˆŷ Hafan, gwelwyd dagrau o lawenydd a blinder llwyr.
A phan gyfarchwyd y tîm o 11 beiciwr a 10 staff cymorth ymroddedig wrth y llinell derfyn gan deulu a gefnogir gan Dyˆ Hafan, roedd rhai ohonynt yn llawn emosiwn.
Mae’r Tîm Prifddinasoedd wedi ymrwymo i godi’r swm aruthrol o £50,000 i Dyˆ Hafan.
ymgodymu â bron i 1,000 o filltiroedd mewn pum niwrnod yn gamp anhygoel. Allwn ni ddim diolch digon iddyn nhw am yr hyn maen nhw wedi’i wneud dros Dyˆ Hafan ac rydym ni’n gobeithio eu bod i gyd wedi gwella’n llwyr ar ôl eu her uchelgeisiol, gan mod i’n gwybod bod rhai o aelodau’r tîm wedi mynd yn ôl i’r gwaith bron yn syth!”
Meddai Alison Stallard, Pennaeth Busnes a Chodi Arian yn y Gymuned yn Nhyˆ Hafan: “Byddai’r her hon wedi bod yn anodd i feicwyr proffesiynol; mae’r ffaith fod grwˆp o feicwyr amatur wedi
I gefnogi’r Her Dinasoedd 5x5 neu i gael mwy o wybodaeth, ewch i: justgiving.com/ capitalchallenge5x5 neu edrychwch ar eu tudalen Facebook, Capital Challenge 5x5.
Meddai Helen Morris, aelod o dîm cymorth y beicwyr: “Pan wnaethon nhw gyfarfod â Scott ac Emily, sy’n elwa
“Roedd llawer yn amau y byddem ni’n llwyddo – ond fe wnaethom, ac rydym ni i gyd wrth ein boddau â’r hyn a gyflawnwyd.”
tyˆ hafan yw’r dewis cyntaf i weithwyr y bathdy brenhinol Cynhyrfwyd staff twymgalon o’r Bathdy Brenhinol, Llantrisant, cymaint pan glywsant am waith Tyˆ Hafan, fel eu bod wedi ei gefnogi fel “Elusen y Flwyddyn” eu staff. Mae cynlluniau staff y Bathdy Brenhinol i gefnogi gwaith Tyˆ Hafan eisoes ar y gweill, a’r gweithwyr yn paratoi ar gyfer “Rhoi Diwrnod” trwy gefnogi’r elusen fel gwirfoddolwyr neu gymryd rhan mewn digwyddiadau codi arian trwy gynllun diwrnod cymunedol corfforaethol y Bathdy Brenhinol, yn ogystal ag ymdrechion noddi unigol,
16
gan gynnwys triathlon i ddechreuwyr a her ras rwystrau Tough Mudder. Bydd gweithwyr hefyd yn cymryd rhan yn nigwyddiadau rheolaidd Tyˆ Hafan, gan gynnwys ras 10km Caerdydd, 10km Bae Abertawe Admiral, Men’s Health Survival of the Fittest, Hanner Marathon Caerdydd 2014 a Marathon Eryri yn ddiweddarach eleni.
Meddai Wendy Collie, Codwr Arian Busnes ac yn y Gymuned dros Dyˆ Hafan: “Rydym ni’n falch fod gweithwyr y Bathdy Brenhinol wedi mabwysiadu achos Tyˆ Hafan gyda’r bartneriaeth hon. Mae’n gyfle gwych iddyn nhw ddeall y gefnogaeth, y cysur a’r gofal a gynigir gennym i deuluoedd yn Nhyˆ Hafan.”
ffeithiau
beicio 911 milltir concro 5 prifddinas dringo 38,000 troedfedd bwyta 700 tortila menyn pysgnau wedi’u lapio torri 1 fraich torri 1 ewin troed targed codi arian o £50,000
cylchlythyr hydref/gaeaf 2014
byddwch yn
wirfoddolwr Ond y peth gorau un yw bod gwirfoddoli i Dyˆ Hafan o ddifrif yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau plant a phobl ifanc â chyflyrau sy’n cyfyngu ar eu bywydau, ac i’w teuluoedd. Mae gennym ni ddigon o ddewisiadau ar eich cyfer: cewch wirfoddoli yn ein siopau, ein digwyddiadau, ein warws, yn rhan o’n timau corfforaethol neu godi arian, neu ddosbarthu a chasglu blychau casglu.
Mae Neil Harvey wedi bod yn wirfoddolwr Blychau Casglu ers dros ddwy flynedd, gan weithio yng Nghaerdydd, Penarth, Llandwˆ, Caerffili a’r Fenni. Beth wnaeth i chi benderfynu bod yn wirfoddolwr Blychau Casglu? Dwi wedi bod yn gwirfoddoli i Dyˆ Hafan ers blynyddoedd, ers i mi gael sgwrs gyda ffrind am gynnal gêm griced ar gyfer elusen leol. Soniodd Rheolwr Ardal Caerdydd ar y pryd am waith gwirfoddol Blychau Casglu. Cefais gyfarfod â Ken ac aeth pethau ymlaen o’r fan honno! Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf ynglyˆn â’r gwaith?
I gael gwybod am gyfleoedd gwirfoddoli cyffredinol ffoniwch 029 2053 2199 neu ewch i tyhafan.org/ volunteer
Mae pob diwrnod yn wahanol achos eich bod chi’n mynd o gwmpas; wyddoch chi ddim pwy fyddwch chi’n cyfarfod â nhw na ble y gallai pen y daith fod.
Photo © Paul Fears
A oes gennych chi rywfaint o amser sbâr i fod yn wirfoddolwr i Dyˆ Hafan? Mae gwirfoddoli yn ffordd ardderchog o ddysgu sgiliau newydd, defnyddio hen rai, cyfarfod â llawer o bobl arbennig a chael profiad gwaith gwerthfawr. weithiau ond rwy’n meddwl am y plant draw yn yr hosbis a sut rydw i’n eu helpu, ac mae hynny’n fy sbarduno i. Mae’n rhan o fy mywyd i bellach. Rydw i wrth fy modd.
A hoffech chi ymuno â Neil fel gwirfoddolwr Blychau Casglu? Efallai fod gennych aelodau o’ch teulu I gael mwy o wybodaeth, neu ffrindiau a allai cysylltwch â Ken Davies helpu. Ychydig drwy ffonio o oriau bob 07917 847540, tri neu chwe anfonwch e-bost at ken. mis yw’r davies@tyhafan.org cwbl sydd ei neu ewch i tyhafan.org/ angen i wneud volunteer gwahaniaeth.
A fyddech chi’n ei argymell? Yn bendant! Mae fy nhraed i’n brifo
diolch, glenys!
angen codwyr arian yn RCT
Mae Glenys Old wedi bod yn cefnogi Tyˆ Hafan ers 2000. Mae’n cynnal boreau coffi yn aml pryd mae hi’n gwahodd pobl i alw i mewn am goffi a chacen. Mae hi wedi codi dros £26,000 hyd yma, a gwnaethom ei gwahodd i’r hosbis lle y cyflwynwyd tystysgrif a blodau iddi i ddangos ein gwerthfawrogiad.
Mae mam a gefnogir gan Dyˆ Hafan yn apelio am wirfoddolwyr i gyfarfod o leiaf unwaith bob mis i rannu syniadau am godi arian gyda’r nod o godi arian tuag at wˆyl haf yn 2015. Mae Kelly Matthews yr atgyfeiriwyd ei merch, Willow, at Dyˆ Hafan yn 2012, yn chwilio am unigolion brwdfrydig yn RCT sy’n fodlon rhoi awr neu ddwy i godi arian at Dyˆ Hafan. I gael mwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at wendy.collie@tyhafan.org
17
cwtsh
ein newyddion a’n straeon o dyˆŷhafan 029 2053 2199
“Allwn i ddim credu’r peth ar y dechrau. Dwi erioed wedi ennill dim o’r blaen ac mae’n dal heb suddo i mewn yn iawn”
enillydd ffodus yn cael jacpot loteri dreigl o £12,000
Roedd Joan Merrett o Drefdraeth, Sir Benfro, wedi ei syfrdanu’n llwyr pan gafodd hi alwad ffôn gan Gyfarwyddwr Codi Arian a Marchnata Tyˆ Hafan i ddweud wrthi ei bod wedi ennill y swm uchaf posibl o £12,000 yn loteri dreigl Crackerjackpot Tyˆ Hafan. Mae Joan yn gefnogwr brwd i Dyˆ Hafan ac mae wedi bod yn chwarae loteri Crackerjackpot ers iddi ddechrau 15 mlynedd yn ôl. Pan ofynnwyd iddi sut roedd hi’n teimlo pan dderbyniodd y newydd da, dywedodd: “Allwn i ddim credu’r peth ar y dechrau. Dwi erioed wedi ennill dim o’r blaen ac mae’n dal heb suddo i mewn yn iawn. Dwi bob amser wedi chwarae’r loteri i gefnogi 18 Tyˆ Hafan ond wnes i erioed
ddisgwyl hyn!” Ychwanegodd John Mladenovic, Rheolwr Cyffredinol y Loteri: “Dim ond llond llaw o weithiau y mae’r treigl wedi cyrraedd ei swm uchaf posibl ac mae’n wych gweld cefnogwr mor ffyddlon a hirsefydlog yn ennill y wobr o £12,000. Teithiodd Mrs Merrett i Sili i dderbyn ei siec fuddugol a mwynhaodd gael ei thywys o amgylch yr hosbis. Meddai:
www.tyhafan.org
in support of
“Mae Tyˆ Hafan yn lle mor ardderchog. Mae wedi bod yn hyfryd dod i weld drosof fy hun yr elusen rydw i wedi bod yn ei chefnogi am yr holl flynyddoedd.” Yn garedig, rhoddodd Mrs Merrett ran o’i henillion i Dyˆ Hafan, ac i ddiolch iddi, derbyniodd waith celf a grëwyd ar ei chyfer yn yr hosbis gan Tyler Lane a gefnogir gan Dyˆ Hafan.
Mae gan Crackerjackpot 81 o wobrau wythnosol pendant, gan gynnwys jacpot wythnosol o £2,000, yn ogystal â’r treigl sy’n cynyddu £500 bob wythnos hyd at uchafswm o £12,000. Gallwch ymuno â Crackerjackpot heddiw trwy fynd i’r wefan yn lottery.tyhafan. org neu drwy ffonio 029 2053 2300.
cylchlythyr hydref/gaeaf 2014
raffl
dros
heulwen haf
£50,000 wedi’i godi!
“Mae’n hyfryd rhoi rhywbeth yn ôl ar ôl popeth maen nhw wedi’i wneud drosom ni”
Tynnwyd tocynnau Raffl Heulwen Haf ar 17 Gorffennaf gyda chymorth teulu a gefnogir gan Dyˆ Hafan. Tynnodd Hannah Brooks o Gasnewydd rifau 12 o enillwyr ffodus a enillodd wobrau gwych a oedd yn cynnwys £3,000, £2,000 a thalebau siopa £50. Atgyfeiriwyd Dylan, mab 5 oed Hannah, at Dyˆ Hafan yn 2010. Cafodd ei eni cyn pryd ar 30 wythnos a dioddefodd ysgyfaint datchwyddedig pan oedd yn 7 niwrnod oed. Dangosodd sgan ar yr ymennydd fod gan Dylan systiau ar yr ymennydd, ac yn ddiweddarach, cafodd ddiagnosis o barlys yr ymennydd. Meddai Hannah: “Roedd e tua 11 mis oed pan gafodd ei atgyfeirio at Dyˆ Hafan ac mae wedi bod yn dod yma fyth ers
hynny. Mae holl gefnogaeth Tyˆ Hafan, yn enwedig y gefnogaeth emosiynol a gofal seibiant byr, wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i’n bywydau. “Mae Tyˆ Hafan yn helpu’r teulu cyfan, ac mae ei frodyr a’i chwiorydd wrth eu boddau yn ymweld hefyd, yn enwedig gan fod y man chwarae newydd wedi agor erbyn hyn. Mae’n syfrdanol clywed faint mae’r raffl wedi ei godi i Dyˆ Hafan, ac roeddem ni’n wrth ein boddau ein bod ni wedi helpu i
dynnu’r raffl. Mae’n hyfryd rhoi rhywbeth yn ôl ar ôl popeth maen nhw wedi’i wneud drosom ni.” Mrs Price o Bont-y-pwˆl oedd enillydd y brif wobr, ac aeth yr ail wobr i Mrs Bevan o Borth Tywyn. Roedd y ddau enillydd ffodus wedi gwirioni wrth ganfod beth roedden nhw wedi’i ennill! Mae rafflau Tyˆ Hafan, a gynhelir ddwywaith y flwyddyn, yn codi mwy na £100,000 bob blwyddyn.
Dosberthir raffl y Nadolig yn hwyr ym mis Medi, felly cadwch olwg am eich pecyn raffl a chofiwch y bydd enw pawb sy’n dychwelyd eu tocynnau’n gynnar yn cael ei gynnwys mewn loteri frys i ennill un o bump o fasgedi Nadolig moethus. Os nad ydych chi’n derbyn tocynnau raffl ac yr hoffech gymryd rhan, ffoniwch 029 2053 2300. Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn raffl yr Haf ac a helpodd i godi dros £50,000!
19
cwtsh
ein newyddion a’n straeon o dyˆŷhafan 029 2053 2199
www.tyhafan.org
t yˆ hafan yn agor siop emporiwm bwtîc yn y fenni Bydd siopwyr sy’n chwilio am brofiad bwtîc unigryw heb orfod talu prisiau’r dylunwyr wrth eu boddau yn ein siop Emporiwm newydd yn y Fenni. Yn dilyn llwyddiant ein siop bwtîc gyntaf yn y Bont-faen, agorwyd ein hail siop Emporiwm yn swyddogol yn nhref farchnad bert y Fenni ar 23 Mai. Mae thema hen bethau yn rhedeg trwy’r siop yn 55 Stryd Frogmore, sy’n gwerthu hen ddodrefn ffasiynol, hen bethau ac ystod unigryw o ddillad brand. Daeth gwesteion arbennig iawn i agoriad swyddogol y siop, gan gynnwys Liorah, a’i mam, Tegan. Atgyfeiriwyd Liorah McCarthy, 7 mlwydd oed, i Dyˆ Hafan pan oedd hi’n dair oed. Dioddefodd drawiad dair awr ar ôl cael ei geni a dwy strôc fawr yn fuan wedyn. Er nad yw’n gallu cerdded na siarad, mae hi’n swyno pawb y mae’n cyfarfod â nhw drwy ei chymeriad cynnes a’i gwên brydferth. Mae’r teulu wedi elwa’n fawr ar y gwasanaethau eang a ddarperir gan Dyˆ Hafan, gan gynnwys gofal seibiant byr yn yr hosbis, a therapi cerdd a chwarae yng nghartref eu teulu ym Mlaenafon. Mae llun o Liorah, a dynnwyd yn yr hosbis, wedi ei gynnwys yn nyluniad y siop, er
20
mwyn atgoffa cwsmeriaid o’r gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud i blant sy’n byw bywydau byr a’u teuluoedd yng Nghymru. Meddai Matt Williams, Rheolwr Cyffredinol Manwerthu yn Nhyˆ Hafan: “ Rydym ni wedi gweithio’n galed iawn i ddatblygu brand Emporiwm ac rydym ni’n falch
“Rydym ni wedi gweithio’n galed iawn i ddatblygu brand Emporiwm”
iawn o’i lwyddiant. Rydym ni’n ffodus iawn o gael staff a gwirfoddolwyr mor wych yn dechrau yn y siop newydd, gan gynnwys dirprwy reolwr sydd wedi cwblhau interniaethau ar gyfer ASOS a Victoria Beckham yn ystod wythnos ffasiwn Llundain ac Efrog Newydd.
cylchlythyr hydref/gaeaf 2014
anna ryder richardson yn agor 27ain siop tyˆ hafan yn hwlffordd
“Mae’n gysur gwybod bod rhywun bob amser ar gael i helpu, pe byddai angen”
Ymunodd Anna Ryder Richardson, y cyflwynydd teledu, â theulu a gefnogir gan Dyˆ Hafan i agor ein siop ddiweddaraf yn swyddogol yn Stryd y Bont, Hwlffordd. Ers 1999, mae 26 o deuluoedd o ranbarth Sir Benfro wedi derbyn gofal a chefnogaeth gan Dyˆ Hafan, gan gynnwys y brodyr Michael a Samuel Gooding, a oedd yn falch o dorri’r rhuban ochr yn ochr ag Anna Ryder Richardson. Mae Michael a Samuel, o Gilgeti, yn dioddef o ddiffyg hormon twf arbennig sydd wedi atal eu datblygiad, ac yn 15 a 18 oed, maent ill dau yn eithaf bach am eu hoedran. Mae ganddynt hefyd gyflwr o’r enw camdyfiant ectodermig hypohidrotig sy’n golygu nad ydyn nhw’n gallu chwysu. Mae angen gofal cyson ar y ddau fachgen bywiog hyn, a gall gofalu amdanynt roi pwysau enfawr ar eu rhieni sy’n croesawu’r gefnogaeth gan Dyˆ
Hafan yn fawr. Mae Michael a Samuel wrth eu boddau’n mynd i Dyˆ Hafan lle maen nhw’n cael gofal a sylw unigol arbenigol tra bod mam a dad yn cael seibiant y maent wir yn ei haeddu. Meddai David, eu tad: “Mae Tyˆ Hafan yn rhan amhrisiadwy o’n bywydau. Mae yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i Samuel a Michael, ond mae hefyd yn darparu seibiant hanfodol i’r teulu ac yn ein helpu i ganolbwyntio ar eu brodyr a’u chwiorydd iau. Mae’r staff yn anhygoel o gyfeillgar a chefnogol ac mae’n gysur gwybod bod rhywun bob amser ar gael i helpu, pe byddai angen. Meddai Anna, sydd wedi cefnogi Tyˆ Hafan am
flynyddoedd lawer: “Mae Tyˆ Hafan yn achos sy’n agos iawn at fy nghalon ac roeddwn i’n teimlo ei bod yn fraint imi fod yn cefnogi’r agoriad swyddogol. Dwi wedi rhoi rhai o fy nillad, a byddwn yn annog pobl eraill i wneud hynny hefyd gan ei bod yn ffordd wych o dacluso eich cartref, yn ogystal â gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau plant sy’n byw bywydau byr a’u teuluoedd ledled Cymru.” Bu Anna mor garedig â rhoi tocyn diwrnod am ddim i’r teulu Gooding i fynd i’w sw yn Ninbych-y-pysgod ac mae wedi ymestyn y mynediad am ddim i holl deuluoedd Tyˆ Hafan. Diolch, Anna!
angen nwyddau Y llynedd, gwnaeth y nwyddau a roddwyd i’n siopau gan gefnogwyr Tyˆ Hafan gyfraniad gwerthfawr tuag at y £3.7 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i redeg yr elusen. Rydym wir yn hoffi’r rhan fwyaf o’r pethau a roddir inni, ond yn arbennig: • dillad dynion, menywod a phlant • ategolion fel esgidiau, gwregysau, bagiau a gemwaith • nwyddau cartref – unrhyw beth o lestri i luniau, o botiau i blatiau • dodrefn bychain – mae angen label diogelwch tân ar gyfer eitemau wedi eu clustogi Ewch i www.tyhafan.org/findyour-local-shop i ddod o hyd i’ch siop Tyˆ Hafan agosaf neu ffoniwch 029 2053 2261 i gael mwy o wybodaeth.
21
cwtsh
ein newyddion a’n straeon o dyˆŷhafan 029 2053 2199
hanes katie Pe byddech chi’n mynd heibio imi yn y stryd, byddech chi’n meddwl mod i’n ferch iach yn ei harddegau, ond y tu ôl i hyn i gyd mae yna hanes nad ydw i byth yn ei ddatgelu’n llwyr ond bai eich bod chi’n fy adnabod i. Sylwodd meddygon fod rhywbeth yn bod ar fy nghalon cyn imi gael fy ngeni ond ar ôl i mi gael fy ngeni cefais ddiagnosis o nam ar y galon o’r enw Cardiomyopathi Hypertroffig. Mae Syndrom ‘Noonan-Like’ arnaf fi hefyd, sy’n golygu tyfiant eithriadol o araf neu dyfiant cyfyngedig. Er nad ydy fy Nghardiomyopathi Hypertroffig yn ddrwg iawn ar hyn o bryd, roedd e pan oeddwn i’n faban ac rydw i wedi gorfod aros yn yr ysbyty gannoedd o weithiau yn ystod y 17 mlynedd diwethaf. Mae’n anhygoel o anodd byw â nam ar y galon, yn enwedig pan rydych chi’n dod i’ch arddegau a ddim yn gallu gwneud pethau y byddai plentyn cyffredin yn ei arddegau’n eu gwneud. Ond trwy hynny i gyd, rydw i’n iawn, ac rydw i wedi cyfarfod â phobl ryfeddol wrth gerdded ar fy nhaith. Mae Tyˆŷ Hafan yn lle ardderchog a chariadus ac mae pob aelod o’r staff wir mor groesawgar a chysurlon. Y funud rydw i’n cerdded trwy’r drysau, mae’r teimlad hwn o heddwch yn dod drosta i. Ers imi fod yn mynd i Dyˆŷ Hafan, rydw i wedi creu’r perthynas hyfryd â Casey Hard a’i deulu. Maen nhw wedi fy ngwir ysbrydoli o ran sut maen nhw’n gallu dal i fod mor gryf a chymaint yn mynd o chwith. Mae pob un ohonyn nhw’n wirioneddol ryfeddol, gan gynnwys Tracy, mam-gu Casey. Mae pob
neges ganddi hi i mi wedi bod yn gefn anhygoel imi. Os oes un person y mae arna i angen diolch iddi yn y byd hwn, Mam yw honno. Mae hi wedi bod yn arwr imi a fyddwn i ddim yma heddiw oni bai amdani hi. Ar ôl y trafferthion, yr heriau rydych chi’n eu hwynebu mewn bywyd, gallech gwestiynu bodolaeth Duw. Cymerodd flynyddoedd imi gredu yn derfynol ond dwi’n credu o ddifrif ei fod e yno. Wrth edrych i’r dyfodol, dwi’n gobeithio bod yn actores opera sebon (dyna fy mreuddwyd ers imi fod yn blentyn), a hefyd bod yn esiampl i bobl sy’n cael y profiad o’r hyn rydw i wedi bod trwyddo pan oeddwn i’n blentyn, a dweud wrthyn nhw ‘mae’n iawn’ ac i fod yn gryf. Fe fydd bob amser heriau mawr y bydd yn rhaid imi eu hwynebu, ond bydda i’n eu hwynebu gyda nerth, gobaith a ffydd. Dwi’n gobeithio dod â chysur i bob teulu a gefnogir gan Dyˆŷ Hafan trwy’r dyfyniad hwn: “Nid yw bywyd yn cael ei fesur trwy nifer yr anadliadau rydym ni’n eu cymryd, ond trwy’r eiliadau sy’n dwyn ein hanadl ymaith.” Mae hwn yn un o fy hoff ddyfyniadau i, ac mae bob amser yn rhoi nerth i mi.
“Nid yw bywyd yn cael ei fesur trwy nifer yr anadliadau rydym ni’n eu cymryd, ond trwy’r eiliadau sy’n dwyn ein hanadl ymaith.” 22
www.tyhafan.org
✂
helpwch ni fod yno am 15 mlynedd arall... H offwn roi un rhodd o:
1. Eich rhodd i deuluoedd yng Nghymru
neu
£25
£15
£50 Arall
2. Eich Taliad
£5
y 5ed o bob mis
wyf wedi cynnwys arian parod / siec / taleb R CAF (dilëwch fel sy’n briodol) yn daladwy i Dyˆŷ Hafan. offwn dalu gyda cherdyn credyd / debyd – H Tynnwch arian o’m cerdyn Mastercard / Visa / Debyd
£10
£15
Arall £
Hoffwn roi fy rhodd ar:
£
Defnydd swyddfa yn unig: CWTS14
Hoffwn roi cyfraniad rheolaidd o:
y 23ain o bob mis
Cyfarwyddyd i’ch banc neu eich cymdeithas adeiladu dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol Enw a chyfeiriad post llawn eich banc neu eich cymdeithas adeiladu Rhif Defnyddiwr Gwasanaeth
Enw ar y cerdyn
2
Cyfeiriad deiliad y cerdyn (os yw’n wahanol i’r isod)
I’r Rheolwr
4
9
5
0
0
Banc/cymdeithas adeiladu
Cyfeiriad
Rhif y Cerdyn Cod Post
Dyddiad terfyn Rhif Diogelwch (3 rhif olaf ar gefn y cerdyn).
/
Enw(au) deiliad y cyfrif Rhif cyfrif Banc/Cymdeithas Adeiladu
Cod Didoli’r Gangen
Dyddiad cyflwyno Cardiau debyd yn unig – Rhif cyflwyno
/
Cyfarwyddyd i’ch banc neu gymdeithas adeiladu
Llofnod(ion)
A fyddech cystal â thalu i Dyˆŷŷ Hafan o’r cyfrif a nodir ar y cyfarwyddyd hwn yn amodol ar y mesurau a sicrheir gan y Gwarant Debyd Uniongyrchol. Deallaf y gall y cyfarwyddyd hwn aros gyda Th yŷ ˆ Hafan ac, os felly, anfonir manylion yn electronig i’m Banc/Cymdeithas Adeiladu.
Dyddiad
Llofnod(ion)
Dyddiad
Efallai na fydd Banciau/Cymdeithasau Adeiladu yn derbyn cyfarwyddiadau i dalu Debydau Uniongyrchol o rai mathau o gyfrifon.
3. Eich manylion
Eich manylion Teitl
Enw cyntaf
Cyfenw
Cyfeiriad Rhif ffôn
4. C ynyddwch eich cyfraniad
Cyfeiriad e-bost
Cod Post Dyddiad geni
Rwyf yn cadarnhau fy mod wedi talu neu y byddaf yn talu swm o Dreth Incwm a/neu Dreth ar Enillion Cyfalaf ar gyfer pob blwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill) sydd o leiaf yn gyfartal i’r swm sy’n cael ei hawlio’n ôl gan yr holl elusennau neu Glybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol yr wyf yn cyfrannu iddynt yn y flwyddyn dreth honno. Rwyf yn deall nad yw trethi eraill fel TAW a Threth Gyngor yn gymwys. Rwyf yn deall y bydd Tyˆŷ Hafan yn hawlio 25c ar bob £1 yr wyf yn ei rhoi. Mae’r datganiad hwn yn berthnasol hefyd i bob rhodd a wnaed gennyf i Dyˆ Hafan yn ystod y pedair blynedd diwethaf a’r holl roddion y byddaf yn eu gwneud o hyn ymlaen nes y byddaf yn eich hysbysu’n wahanol.
Dychwelwch y ffurflen hon i D yˆ Hafan, Hayes Road, Sili, CF64 5XX Gallwch hefyd roi rhodd yn www.tyhafan.org neu drwy ffonio 029 2053 2255 Gwarant Debyd Uniongyrchol Cynigir y warant gan bob banc a chymdeithas adeiladu sy’n derbyn cyfarwyddyd i dalu Debydau Uniongyrchol. Os oes unrhyw newidiadau i swm neu ddyddiad eich Debyd Uniongyrchol, neu i ba mor aml y caiff ei dalu, bydd Tyˆ Hafan yn rhoi gwybod i chi (fel arfer 10 diwrnod gwaith) cyn i’r arian adael eich cyfrif neu fel a gytunwyd. Os ydych yn gofyn i Dyˆ Hafan gasglu taliad, byddwch yn cael cadarnhad o’r swm a’r dyddiad ar yr adeg y cais. Os gwneir camgymeriad yn eich taliad drwy Ddebyd Uniongyrchol, gan Dyˆ Hafan neu’r banc neu gymdeithas adeiladu, mae gennych hawl i gael ad-daliad llawn ar unwaith o’r swm a dalwyd o’ch banc neu gymdeithas adeiladu. Os ydych yn cael ad-daliad nad oes gennych hawl iddo, rhaid i chi ei ad-dalu pan fydd Tyˆ Hafan yn gofyn i chi wneud hynny. Gallwch ganslo Debyd Uniongyrchol ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’ch banc neu gymdeithas adeiladu. Efallai y bydd angen cadarnhad ysgrifenedig. Rhowch wybod i ni hefyd os gwelwch yn dda.
dathlwch ein
15 pen-blwydd fed
drwy gael te parti O drefnu te a chacen gyda ffrindiau i gynnal te parti â thema gyda’ch cydweithwyr, pa well ffordd sydd i godi arian i dyˆŷ hafan na mwynhau paned?
Helpwch i godi arian... er mwyn cefnogi plant a phobl ifanc sy’n byw bywydau byr a’u teuluoedd ledled Cymru
www.tyhafan.org/teaparty 15 mlynedd o fod yno