Pasiwyd yn CUB 16/11/17
Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddfau Is-ddeddf 9 - Trefn Gwynion Eiddo Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yw'r is-ddeddf hon a gall y Bwrdd hwnnw a Chyngor Undeb Bangor ei diwygio, yn unol â'u gweithdrefnau. Gall unrhyw fyfyriwr sy’n anhapus ag unrhyw beth yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor) gyflwyno cwyn. Gallant gwyno am unrhyw beth, a gall hynny gynnwys timau, adrannau, gwasanaethau, grwpiau myfyrwyr neu unigolyn. Proses Gwyno Anffurfiol: Gellir datrys y rhan fwyaf o gwynion yn anffurfiol. • • •
Y cam cyntaf yw cysylltu â'r sawl sy'n gyfrifol am y maes mae’ch cwyn yn ymwneud ag ef e.e. Ymddiriedolwr sy’n Swyddog Sabothol, Arweinydd y Grŵp Cyfleoedd Myfyrwyr neu Aelod Staff. Dylech gynnwys eich manylion cyswllt yn y neges a byddwn yn cysylltu yn ôl â chi o fewn 5 diwrnod gwaith. Os yw’r mater yn cael ei ddatrys, ni chaiff unrhyw gofnodion eu cadw gan ei fod yn cael ei ystyried yn gwyn anffurfiol.
Proses Gwyno Ffurfiol: Os ydych yn anhapus ac yn dymuno mynd â’ch cwyn ymhellach neu'n credu bod eich cwyn yn rhy ddifrifol i'r Drefn Gwyno Anffurfiol mae gennym Drefn Gwyno Ffurfiol y gallwch ei dilyn. Mae’r Drefn Gwyno Ffurfiol yno i’w dilyn os: • • •
Ydych yn anfodlon â'r ymateb a gawsoch ar ôl eich cwyn anffurfiol. Eich bod yn teimlo bod eich cwyn yn ddifrifol iawn. Eich bod wedi dewis ymwrthod o’ch aelodaeth ag Undeb y Myfyrwyr ac yn teimlo eich bod dan anfantais o’r herwydd.
Cam Un: Mae angen ichi ddechrau trwy lenwi a chyflwyno ffurflen gwyno. Gellir cael copi yn www.undebbangor.com neu drwy ymweld â Chanolfan Myfyrwyr Undeb Bangor. Mae'n bwysig iawn bod eich cwyn yn bodloni'r meini prawf canlynol. Os caiff unrhyw gamau eu hepgor, ni fyddwn yn gallu ymchwilio i'ch cwyn. Rhaid ichi wneud y canlynol: • • • • •
Cyfeirio eich cwyn at y Llywydd a fydd wedyn yn y rhan fwyaf o achosion yn gofyn i Gyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr drefnu i un o Reolwyr Undeb Bangor ymchwilio i’r mater. Os yw'r gwyn yn ymwneud â'r Llywydd cyfeiriwch hi at Gyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr a fydd yn trefnu iddi gael ei throsglwyddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Cyflwynwch eich cwyn o fewn 28 diwrnod gwaith i'r digwyddiad yr ydych yn cwyno amdano, oni bai bod amgylchiadau eithriadol. Rhowch eich enw, cyfeiriad cyswllt, cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn. Rhowch fanylion am y digwyddiad yr ydych yn cwyno yn ei gylch.
Cam Dau: Byddwn yn rhoi gwybod ichi ein bod wedi derbyn eich cwyn o fewn 3 diwrnod ar ôl ei derbyn. Os yw eich cwyn yn bodloni'r meini prawf a fanylir yn y Drefn Gwyno hon, yna caiff ei hymchwilio ac efallai y gofynnir i’r sawl sy'n gysylltiedig gynnig tystiolaeth, er na fydd unrhyw wrandawiadau ffurfiol yn cael eu cynnal. Fel rhan o'r ymchwiliad hwn, bydd y Llywydd neu Reolwr Undeb Bangor hefyd yn ystyried a ddylid cyfeirio'r gwyn at gorff perthnasol arall (ee Cadeirydd Cyngor Undeb Bangor, Uwch Aelod Staff Prifysgol neu'r Heddlu). University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws
Page 1 of 2
Pasiwyd yn CUB 16/11/17 Cam Tri: Byddwch yn derbyn ymateb ysgrifenedig o fewn 15 diwrnod gwaith. Bydd yr ymateb hwn yn cynnwys holl ganfyddiadau'r ymchwiliad ac, os yw'n berthnasol, bydd yn amlinellu unrhyw gamau pellach y dylid eu cymryd. Gallai hyn gynnwys argymhellion, newidiadau i'r ffordd mae Undeb Bangor yn gweithio neu atgyfeiriad at ymchwiliad disgyblu mewn perthynas ag ymddygiad myfyriwr neu aelod staff unigol neu grŵp o fyfyrwyr. Dylech fod yn ymwybodol ei bod yn bosibl na fyddwn yn gallu rhannu canlyniad unrhyw ymchwiliad disgyblu sy'n dilyn eich cwyn am resymau’n ymwneud â chyfrinachedd. Os bydd cymhlethdod yr achos yn golygu ein bod yn disgwyl iddo gymryd mwy na 15 diwrnod byddwn yn rhoi gwybod ichi cyn gynted ag y bo modd. Y Broses Apelio: Os ydych yn teimlo bod gwall trefniadol sylweddol wedi digwydd wrth ymchwilio i'ch cwyn, neu os oes gennych dystiolaeth newydd na ellid fod wedi ei chyflwyno yn ystod yr ymchwiliad cychwynnol, mae gennych yr hawl i apelio i Gyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr o fewn 15 diwrnod gwaith . Bydd Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr yn penderfynu ar y dull mwyaf priodol o gynnal yr adolygiad, ac fel arfer bydd yn cadarnhau ei b/phenderfyniad o fewn 15 diwrnod gwaith o dderbyn eich apêl. Os bydd eich apêl yn cael ei chadarnhau, bydd y penderfyniad gwreiddiol yn cael ei adolygu ac addasiadau priodol yn cael eu gwneud. Os nad yw eich apêl yn cael ei chadarnhau, byddwn yn ysgrifennu atoch i egluro bod gennych yr hawl i godi'r gwyn gyda Phrifysgol Bangor. Mae Undeb Bangor yn trin pob cwyn yn ddifrifol iawn. Rydym yn cofnodi ac yn adrodd themâu ein cwynion i'n haelodaeth myfyrwyr ac i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr yn rheolaidd. Bydd trafodion a chofnodion sy'n ymwneud â Threfn Gwyno Undeb Bangor, cyn belled ag y bo hynny'n ymarferol, yn cael eu cadw'n gyfrinachol. Wedi cwblhau'r drefn hon, os bydd myfyriwr yn dymuno, gellir cyfeirio’r gwyn at y Dirprwy Is-ganghellor dros Fyfyrwyr (neu enwebai), yn ôl eu penodiad gan gorff llywodraethol y Brifysgol i ymchwilio i’r gwyn ac adrodd arni.
University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws
Page 2 of 2