Is-ddeddf 8 - Dewis peidio â bod yn aelod

Page 1

Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddfau Is-ddeddf 8 - Dewis peidio â bod yn aelod Eiddo Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yw'r is-ddeddf hon a gall y Bwrdd hwnnw a Chyngor Undeb Bangor ei diwygio, yn unol â'u trefnau.

O dan Adran 22(2)c Deddf Addysg 1994, mae gan unrhyw Fyfyriwr yr hawl i beidio â bod yn Aelod o'r Undeb. 7.1.1 Er mwyn rhoi’r hawl honno ar waith, rhaid i Fyfyriwr hysbysu'r Llywydd am eu bwriad i’w 'eithrio' eu hunain yn ysgrifenedig. 7.1.2 Bydd y Llywydd yn rhoi gwybod i'r Brifysgol am benderfyniad y Myfyriwr. Os yw Myfyriwr yn dewis peidio â bod yn aelod o'r Undeb, ni fyddant yn gallu: 7.1.3 Cael swydd o fewn Grŵp Cyfleoedd Myfyrwyr, na sefyll mewn etholiad ar gyfer unrhyw swyddi'r Undeb; 7.1.4 Cymryd rhan mewn democratiaeth yr Undeb; 7.1.5 Cael ei gynrychioli gan yr Undeb dan unrhyw amgylchiadau (e.e. apêl ar ddosbarth gradd / canlyniadau arholiad). • •

Ni fydd Myfyriwr sy'n dewis peidio â bod yn aelod yn derbyn unrhyw gyllid y byddai'r Brifysgol fel arall wedi ei roi i'r Undeb eu cynrychioli. Gall Myfyriwr ddewis bod yn aelod eto, a byddai hynny'n digwydd ar unwaith, ar unrhyw adeg trwy ysgrifennu at y Llywydd a bydd ganddo wedyn hawl i bob mantais aelodaeth. Bydd y Llywydd yn rhoi gwybod i'r Brifysgol am benderfyniad y Myfyriwr.

Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddfau

Tudalen 1 o 1


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.