Is-ddeddf 7 - Etholiadau

Page 1

Pasiwyd yng nghyfarfod Cyngor Undeb Bangor (CUB) 25/01/18

Is-ddeddfau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor) Is-ddeddf 7 - Etholiadau Mae'r Is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Chyngor Undeb Bangor, yn unol â'u gweithdrefnau.

1 Etholiadau 1.1 Cynhelir etholiadau yn unol â'r Is-ddeddf hon yn flynyddol ar gyfer y swyddi canlynol: 1.1.1 Cynrychiolwyr i Gynhadledd UCM Cymru a Chynhadledd Grwpiau Rhyddid UCM Cymru, 1.1.2 Cynrychiolwyr i Gynhadledd UCM y Deyrnas Unedig a Chynhadledd Grwpiau Rhyddid UCM y Deyrnas Unedig, 1.1.3 Swyddogion Sabothol 1.1.4 Ymddiriedolwyr Myfyrwyr (os cytunir gan y Pwyllgor Penodiadau) 1.1.5 Cynghorwyr Undeb Bangor: 2 Isetholiadau 2.1 Yn amodol ar Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor), dylid llenwi unrhyw swyddi gwag sy'n codi yn ystod y flwyddyn trwy isetholiad a gynhelir yn unol â'r Isddeddf hon. 3 Hawliau Aelodau 3.1 Mae gan bob Aelod, fel y'i diffinnir yn Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor) yr hawl i sefyll fel ymgeisydd mewn unrhyw etholiad, gyda'r eithriadau canlynol: 3.1.1 Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer Swyddi Cynghorwyr Undeb Bangor fodloni'r amodau cymhwysedd perthnasol a ddiffinnir yn Is-ddeddf 6 yr Is-ddeddfau hyn. 3.1.2 Cyfyngir Swyddogion Sabothol ac Ymddiriedolwyr Myfyrwyr i ddau dymor yn y swydd. 3.1.3 Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer swydd Is-lywydd Myfyrwyr Cymraeg / Llywydd UMCB fodloni meini prawf cymhwysedd ymgeiswyr a phleidleisio fel y nodir yn Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor) 3.1.4 Mae gan Aelodau sy'n Fyfyrwyr sy'n cwblhau eu cwrs ym mis Ionawr, a myfyrwyr PhD yn eu blwyddyn ysgrifennu, yr hawl i sefyll fel ymgeiswyr yn etholiadau'r Swyddogion Sabothol ar gyfer y flwyddyn academaidd honno. 4 Penodi'r Swyddog Canlyniadau 4.1 Penodir y Swyddog Canlyniadau yn flynyddol gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr 4.2 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn annibynnol ac ni fydd yn Aelod. 5 Grymoedd a Dyletswyddau'r Swyddog Canlyniadau Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddf 7 - Etholiadau

Tudalen 1 o 5


Pasiwyd yng nghyfarfod Cyngor Undeb Bangor (CUB) 25/01/18 5.1 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn gyfrifol am ymddygiad da a gweinyddiad yr etholiadau a bydd ganddo/ganddi'r unig hawl dros ddehongli Is-ddeddf a Rheoliadau'r Etholiadau. 5.2 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn penodi Dirprwy Swyddog Canlyniadau a swyddogion etholiadol eraill i sicrhau bod yr etholiad yn cael ei weinyddu a'i hyrwyddo'n dda. Caiff y Dirprwy Swyddog Canlyniadau a'r swyddogion etholiadol eu cyfarwyddo gan y Swyddog Canlyniadau ynghylch eu dyletswyddau a byddant yn cyflawni'r rhain mewn modd diduedd. 5.3 Gall y Swyddog Canlyniadau ddiddymu swyddogion nad ydynt yn dilyn cyfarwyddiadau'r Swyddog Canlyniadau neu nad ydynt yn gweithredu mewn modd diduedd. 5.4 Gall y Swyddog Canlyniadau geisio cyngor cyfreithiol os yw'n credu y gallai datganiadau a wnaed neu gynnwys cyhoeddusrwydd adael Undeb Bangor yn agored i gamau cyfreithiol. 5.5 Gall y Swyddog Canlyniadau ddiystyru unrhyw ddatganiad neu gynnwys unrhyw gyhoeddusrwydd sydd, yn eu barn hwy, yn torri Erthyglau Cymdeithasiad, Is-ddeddfau neu Reoliadau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor). 5.6 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn dewis dull pleidleisio priodol ar gyfer pob etholiad ac yn sicrhau ei fod yn cael cyhoeddusrwydd ac yn cael ei egluro i'r aelodau. 5.7 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn cyhoeddi rheolau a rheoliadau etholiadau o flaen unrhyw etholiad. Bydd y rheolau a'r rheoliadau yn canolbwyntio ar sefydlu proses etholiadol deg, tryloyw a chyfartal ac yn cynnig eglurder ynghylch ymddygiad wrth ymgyrchu, cyhoeddusrwydd a gwariant. Rhaid cyflwyno'r rheolau a rheoliadau hyn i'r Pwyllgor Etholiadau i'w mabwysiadu cyn dechrau'r broses etholiadol. 5.8 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn cyhoeddi Trefn Cwynion Etholiadau a Refferenda o flaen unrhyw etholiad. Bydd y drefn cwynion yn sefydlu llwybr clir i aelodau gwyno am ymddygiad ymgeiswyr a swyddogion etholiadol ac yn amlinellu'r pwerau a ellir eu defnyddio gan y Swyddog Canlyniadau a'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau. Rhaid i'r drefn cwynion hefyd dynnu sylw at lwybr apêl i ymgeiswyr nad ydynt yn cytuno â phenderfyniadau'r Swyddog Canlyniadau. Rhaid cyflwyno'r drefn gwynion i'r Pwyllgor Etholiadau er mwyn ei mabwysiadu cyn dechrau'r broses etholiadol. 5.9 Gall y Swyddog Canlyniadau ddirprwyo unrhyw dasg i'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau neu'r Pwyllgor ond ef/hi fydd yn cadw cyfrifoldeb dros yr etholiad ar bob adeg. 6 Y Pwyllgor Etholiadau 6.1 Swyddogaeth graidd y Pwyllgor Etholiadau fydd cynorthwyo a chefnogi'r Swyddog Canlyniadau i gynnal y broses etholiadol yn esmwyth a sicrhau bod yr Is-ddeddf hon yn cael ei dilyn ar bob adeg. 6.2 Bydd aelodaeth y Pwyllgor Etholiadau fel a ganlyn: 6.2.1 Swyddog Canlyniadau'r Etholiadau, a benodir gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr yn unol â'r is-ddeddf hon. 6.2.2 Dirprwy Swyddog Canlyniadau'r Etholiadau, a benodir gan y Swyddog Canlyniadau yn unol â'r is-ddeddf hon. 6.2.3 Dau aelod llawn o Gyngor Undeb Bangor, a etholir yng Nghyngor Undeb Bangor 6.2.4 Dau le agored y gellir eu llenwi gan unrhyw aelod llawn o Undeb Bangor, a etholir yng Nghyfarfod Aelodau Myfyrwyr cyntaf y flwyddyn. 6.2.5 Swyddog Sabothol a benodir gan y Pwyllgor Gwaith. Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddf 7 - Etholiadau

Tudalen 2 o 5


Pasiwyd yng nghyfarfod Cyngor Undeb Bangor (CUB) 25/01/18 6.2.6 Ymddiriedolwr Myfyrwyr, a benodir gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. 6.2.7 Unrhyw unigolyn pellach a ddewisir gan y Swyddog Canlyniadau ar gyfer eu harbenigedd a'u cyngor, er mai dim ond yr aelodau hynny y manylir arnynt yng nghymalau 6.2.3 - 6.2.6 a fydd yn aelodau llawn â phleidlais. 6.3 Mae'n hanfodol fod aelodau'r Pwyllgor Etholiadau yn annibynnol o'r holl ymgeiswyr a darpar ymgeiswyr mewn etholiad. Ni chaiff unrhyw aelod o'r Pwyllgor Etholiadau gefnogi nac ymgyrchu ar ran unrhyw ymgeisydd, a rhaid iddynt addunedu amhleidioldeb cyn dechrau ar unrhyw broses etholiadol. 7 Amserlen Etholiadau 7.1 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn llunio Amserlen Etholiadau, a fydd yn cynnwys y dyddiadau a'r amseroedd ar gyfer hysbysu a chwblhau'r canlynol: 7.1.1 Enwebiadau 7.1.2 Hyfforddi'r Ymgeiswyr 7.1.3 Maniffestos 7.1.4 Sesiwn Holi'r Ymgeiswyr 7.1.5 Pleidleisio 7.1.6 Y cyfrif 7.2 Cyhoeddir yr Amserlen Etholiadau a'i chylchredeg yn ddigonol yngyd â deunyddiau sy'n hyrwyddo'r etholiad. 7.3 Bydd yr Amserlen Etholiadau yn caniatáu digon o amser i sicrhau'r lefel uchaf o gyfranogiad yn yr etholiad. 8 Enwebiadau 8.1 Bydd ffurflenni enwebu ar gael ar wefan Undeb Bangor, ac mewn mannau eraill fel y pennir gan y Swyddog Canlyniadau. 8.2 Bydd y cyfnod enwebu yn lleiafswm o bum (5) diwrnod clir cyn dechrau canfasio 8.3 Pan fydd y Swyddog Canlyniadau yn fodlon, caiff pob enwebiad dilys ei gadarnhau gyda'r ymgeiswyr. 9 Hyfforddi'r Ymgeiswyr 9.1 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn trefnu bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu a disgwylir i bob ymgeisydd fod yn bresennol. 9.2 Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys sesiynau briffio ar sgiliau ymgyrchu, Rheoliadau'r Etholiadau, Sesiwn Holi'r Ymgeiswyr, cyhoeddusrwydd, a swyddogaethau'r Ymddiriedolwyr. 10 Maniffestos 10.1 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn cyhoeddi canllawiau ar faniffestos yn rheolau a rheoliadau'r etholiadau. 10.2 Rhaid i bob ymgeisydd sy'n dymuno cyflwyno Maniffestos sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno erbyn y dyddiad a nodir yn yr Amserlen Etholiadau. Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddf 7 - Etholiadau

Tudalen 3 o 5


Pasiwyd yng nghyfarfod Cyngor Undeb Bangor (CUB) 25/01/18 10.3 Bydd y Maniffestos yn cael eu harddangos ar wefan Undeb Bangor, ac mewn mannau eraill fel y pennir gan y Swyddog Canlyniadau. 11 Ymgeiswyr sy'n Ddeiliaid Swyddi 11.1 Rhaid i Swyddogion Sabothol presennol ddatgan gwyliau â thâl i'r Swyddog Canlyniadau os ydynt am ymgymryd â gweithgaredd ymgyrchu yn ystod oriau swyddfa arferol dros gyfnod yr etholiadau. 11.2 Ni chaiff Swyddogion Sabothol presennol ddefnyddio unrhyw adnoddau o'u swydd bresennol i gynorthwyo ag unrhyw ymgyrch etholiadol. 11.3 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn llunio canllawiau i gynorthwyo Swyddogion Sabothol presennol i gydymffurfio â Chymal 11 yr Is-ddeddf hon. 12 Sesiwn Holi'r Ymgeiswyr 12.1 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn trefnu o leiaf un Sesiwn Holi'r Ymgeiswyr. 12.2 Bydd y Swyddog Canlyniadau neu eu penodai enwebedig yn cadeirio Sesiwn Holi'r Ymgeiswyr. Cynhelir Sesiwn Holi'r Ymgeiswyr yn unol â phroses a gytunir arni yn hyfforddiant yr ymgeiswyr. 12.3 Dylid cyfeirio cwestiynau at yr holl ymgeiswyr sy'n sefyll am y swydd. Gall y Cadeirydd ddiystyru unrhyw gwestiynau nad ydynt wedi'u cyfeirio at bob ymgeisydd. 12.4 Gall ymgeiswyr sydd ar leoliad, neu sy'n astudio dramor, enwebu dirprwy i siarad ar eu rhan. 13 Pleidleisio 13.1 Cyhoeddir manylion yr etholiadau a'r broses bleidleisio trwy wefan Undeb Bangor, ac mewn mannau eraill fel y pennir gan y Swyddog Canlyniadau. 13.2 Bydd y bleidlais yn cynnwys enw pob ymgeisydd ac enw'r swydd yr ymgeisir amdani. 13.3 Cynhwysir yr opsiwn i bleidleisio dros 'Ailagor Enwebiadau' 1.4 Cwynion 14.1 Rhaid cyflwyno unrhyw gwynion ynghylch cynnal yr etholiad yn ysgrifenedig i'r Swyddog Canlyniadau cyn dechrau'r cyfrif. Bydd y Swyddog Canlyniadau yn penderfynu ar unrhyw gwynion, a bydd llwybr apêl fel y nodir yn y Drefn Cwynion Etholiadau a Refferenda sy'n ofynnol gan Gymal 5.8 yr Is-ddeddf hon. 15 Y Cyfrif 15.1 Gall yr ymgeisydd neu ei gynrychiolwyr penodedig neu unrhyw Aelod arall, os dymunant, fod yn bresennol yng nghyfrif y pleidleisiau, fel arsylwyr yn unig. 15.2 Rhaid i unrhyw aelod sy'n dymuno arsylwi wneud cais i'r Swyddog Canlyniadau cyn cau'r cyfnod pleidleisio. 15.3 Y Swyddog Canlyniadau, neu ei ddirprwy enwebedig, yw'r unig unigolyn a all ddechrau'r cyfrif. 15.4 Dim ond pan fo'r Swyddog Canlyniadau yn fodlon bod yr holl gwynion yn ymwneud â chynnal a gweinyddu'r etholiad wedi eu datrys y bydd y cyfrif yn dechrau. Ar ôl i'r cyfrif ddechrau dim ond cwynion yn ymwneud â chynnal y cyfrif a gânt eu hystyried.

Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddf 7 - Etholiadau

Tudalen 4 o 5


Pasiwyd yng nghyfarfod Cyngor Undeb Bangor (CUB) 25/01/18 15.5 Pan fo hynny'n bosibl, cynhelir y cyfrif yn unol â'r canllawiau a osodir gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, neu fel y cytunir gan y Pwyllgor Etholiadau lle nad oes canllawiau. 16 Datganiad 16.1 Caiff canlyniadau'r etholiadau eu cyhoeddi gan y Swyddog Canlyniadau pan fydd y cyfrif wedi'i gwblhau yn llwyddiannus ar gyfer pob swydd. 16.2 Caiff canlyniadau'r etholiadau eu postio ar wefan Undeb Bangor o fewn un (1) diwrnod gwaith o'r cyfrif.

Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddf 7 - Etholiadau

Tudalen 5 o 5


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.