Polisi Threfn a Diogelu

Page 1

Polisi a Threfn Diogelu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor

Caiff y polisi hwn ei adolygu bob tair blynedd: Polisi wedi'i gymeradwyo - Mehefin 2020

Undeb y Myfyrwyr Bangor - Polisi Diogelu Mehefin 2020

1


Cynnwys 1.

Datganiad Polisi Diogelu ……………………………………………………………….....

Tudalen 3

2.

Diffiniadau …………………………………………………………………………………………

Tudalennau 4-5

3.

Meysydd Gweithgaredd …………………………………………………………………….

Tudalen 5

4.

Diogelu mewn Amgylchedd Ar-lein ………………………………………………........

Tudalennau 5-6

5.

Trefnau Diogelu ………………………………………………………………………...........

Tudalennau 6-9

6.

Rôl y Person Dynodedig ………………………………………………………................

Tudalennau 9-10

7.

Goruchwyliaeth, Cefnogaeth a Hyfforddiant ……………………………………….

Tudalen 14

6.

Atodiad 1 - Hyfforddiant Diogelu …………………………………………………………

Tudalen 12

7.

Atodiad 2 - Diffiniadau o Gam-drin ………………………………………………………

Tudalennau 13, 14

8.

Atodiad 3 - Parhau i Weithio yn Dilyn Honiad neu Bryder........................

Tudalen 16

9.

Atodiad 4 - Rhestr wirio ar gyfer Adrodd am Amheuaeth o Gam-drin ……..

Tudalen 17

Undeb y Myfyrwyr Bangor - Polisi Diogelu Mehefin 2020

2


Polisi Diogelu Adran 1 - Datganiad Polisi Diogelu 1.1

Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn credu ei bod bob amser yn annerbyniol i unrhyw berson brofi camdriniaeth o unrhyw fath ac mae'n cydnabod ei gyfrifoldeb i ddiogelu lles pob plentyn ac oedolyn bregus trwy ymrwymiad i arferion sy'n eu hamddiffyn.

1.2

Rydym yn cydnabod:

Bod lles y plentyn neu'r oedolyn bregus yn hollbwysig

Bod gan bawb, waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhywedd, treftadaeth hiliol, cred grefyddol, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth yr hawl i amddiffyniad cyfartal rhag pob math o niwed neu gamdriniaeth

Bod gweithio mewn partneriaeth â phlant, oedolion bregus, eu rhieni, gofalwyr ac asiantaethau eraill yn hanfodol wrth hyrwyddo lles defnyddwyr ein gwasanaeth

1.3

Diben y Polisi Diogelu yw:

Darparu amddiffyniad i'r plant a'r oedolion bregus sy'n cymryd rhan yn holl weithgareddau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor, gan gynnwys staff, aelodau'r undeb a defnyddwyr gwasanaeth, a lle bo hynny'n briodol eu plant neu berthnasau

Rhoi arweiniad i staff ac aelodau'r undeb ar y trefnau y dylent eu mabwysiadu mewn achos pan eu bod yn amau y gallai plentyn neu oedolyn bregus fod yn profi, neu mewn perygl o, niwed

1.4

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i bob aelod staff ac aelod o Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor, gwirfoddolwyr ac unrhyw un arall sy'n gweithio gydag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor neu ar ei ran. Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithgareddau a chyfleusterau Undeb y Myfyrwyr sy'n cynnwys plant, pobl ifanc ac oedolion bregus. Bydd y polisi hwn yn berthnasol i bob digwyddiad a gynhelir ar dir yr undeb a'r brifysgol, a'r rhai a gynhelir oddi ar y campws ar safleoedd nad ydynt yn rhan o'r brifysgol. Mae hefyd yn cynnwys gweithgareddau a gynhelir trwy lwyfannau ar-lein.

1.5

Byddwn yn ymdrechu i ddiogelu plant ac oedolion bregus trwy: 

Eu gwerthfawrogi, gwrando arnynt a'u parchu

Mabwysiadu canllawiau diogelu trwy drefnau a chod ymddygiad ar gyfer staff ac aelodau’r undeb

Recriwtio staff ac aelodau o’r undeb (sy'n bwriadu gweithio gyda grwpiau bregus) yn ddiogel, gan sicrhau bod yr holl wiriadau angenrheidiol yn cael eu gwneud

Rhannu gwybodaeth am ddiogelu ac arferion da gyda staff ac aelodau'r undeb, rhieni a phlant ac oedolion a gofalwyr bregus.

Rhannu gwybodaeth am bryderon ag asiantaethau sydd angen gwybod, a chynnwys staff ac aelodau o'r undeb, rhieni a phlant ac oedolion bregus a’u gofalwyr.

Undeb y Myfyrwyr Bangor - Polisi Diogelu Mehefin 2020

3


1.6

Darparu rheolaeth effeithiol ar gyfer staff ac aelodau'r undeb trwy oruchwyliaeth, cefnogaeth a hyfforddiant Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn ymrwymo i adolygu'r polisi hwn bob 3 blynedd ond gall unrhyw newidiadau sylweddol i'r gyfraith neu i ganllawiau ysgogi adolygiadau cynharach. Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr, fel y Person Dynodedig, fydd yn gyfrifol am gadw'r polisi hwn yn gyfredol.

Adran 2 - Diffiniadau 2.1

Oedolyn Bregus

Yn y polisi hwn, mae 'Oedolyn' yn cyfeirio at unrhyw un sy'n 18 oed neu'n hŷn. Mae diffiniad eang o 'Oedolyn Bregus' yn ymddangos yn yr ymgynghoriad 1997 ‘Who Decides?’ a gyhoeddwyd gan adran yr Arglwydd Ganghellor. Mae'n cyfeirio at berson: "Sydd angen neu a allai fod angen gwasanaethau gofal yn y gymuned oherwydd anabledd meddyliol neu anabledd arall, oed neu afiechyd ac sydd yn analluog neu a allai fod yn analluog i edrych ar ôl ei hun neu’n analluog i amddiffyn ei hun yn erbyn niwed sylweddol neu gam-fanteisio" Serch hynny, mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn ystyried bod y term 'Oedolyn Bregus' yn cyfeirio at unrhyw berson dros 18 mlwydd oed a allai fod yn agored i gael ei gam-drin neu ei esgeuluso am unrhyw reswm a dangosir ystyriaeth, yn unol â gwerthoedd yr undeb, i unrhyw unigolyn sy'n cymryd rhan yng ngweithgareddau'r undeb a allai elwa o ryw fath o gefnogaeth neu amddiffyniad i gymryd rhan lawn yng ngweithgareddau'r sefydliad. 2.2

Plentyn neu Blant

Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cydnabod bod unrhyw un o dan 18 mlwydd oed yn cael eu diffinio fel plentyn. Gall Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor, pan fo hynny'n briodol, gyfeirio at grwpiau sy'n dod o fewn y grŵp oedran hwn fel plant a/neu bobl ifanc. 2.3

Grwpiau Bregus

Mae'r term 'Grwpiau Bregus' yn cyfeirio ar y cyd at unrhyw un sy'n cymryd rhan mewn gweithgaredd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor a ellid eu diffinio fel plant neu oedolion bregus. 2.4

Staff ac Aelodau'r Undeb

Mae 'staff' yn cyfeirio at unrhyw un a gyflogir i weithio yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor neu gydag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor, p'un ai ar gontract neu drefniant parhaol neu dymor byr. Mae 'Aelodau'r Undeb' yn cyfeirio at unrhyw fyfyriwr neu aelod cyswllt o Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor. Yng nghyd-destun y polisi hwn, bydd 'Aelodau'r Undeb' yn cyfeirio'n bennaf at unrhyw fyfyriwr neu aelod cyswllt sy'n gweithio gyda grwpiau bregus neu a fydd yn dod i gysylltiad â hwynt. 2.5

Gweithio gyda Grwpiau Bregus

Undeb y Myfyrwyr Bangor - Polisi Diogelu Mehefin 2020

4


Mae'r term 'gweithio gyda grwpiau bregus' yn cyfeirio at unrhyw achlysur(on) pan fydd aelod o staff neu aelod o'r undeb yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a drefnir gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor lle mae unigolion yr ystyrir eu bod yn fregus neu'n blant yn cymryd rhan. I'r graddau â bod hyn yn cyfeirio at wasanaethau a ddarperir ar ffurf projectau Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor, bydd unrhyw weithgaredd lle mae staff ac aelodau'r undeb yn dod i gysylltiad ag unigolion yr ystyrir eu bod yn fregus yn cael eu llywodraethu gan y polisi hwn. Gallai gweithio gyda grwpiau bregus gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, achlysuron lle bydd busnes clwb, cymdeithas neu broject gwirfoddoli yn dod â hwynt i gysylltiad â grwpiau bregus megis aelod yn dod â'u plentyn i weithgaredd neu ddigwyddiad arbennig neu gyfres o ddigwyddiadau a drefnwyd gan grŵp undeb sydd â'r nod o ddarparu gwasanaeth i grŵp bregus. Gall gweithio gyda grwpiau bregus hefyd gynnwys agweddau ar fusnes yr Uned Cynrychiolaeth Academaidd mewn materion sy’n ymwneud â lles a chefnogaeth. Adran 3 - Meysydd Gweithgaredd sy'n Ymwneud â Phlant, Pobl Ifanc neu Oedolion Bregus

Nodir y canlynol fel meysydd lle y gallai fod gan yr Undeb gysylltiad â phlant, pobl ifanc ac oedolion bregus wyneb yn wyneb ac mewn amgylchedd ar-lein (nid yw'n rhestr gynhwysfawr):

3.1

      

Projectau gwirfoddoli sy'n cynnwys projectau gyda phlant, yr henoed a rhai defnyddwyr gwasanaeth yn achos projectau gyda phartneriaid allanol; Gweithgareddau clybiau a chymdeithasau chwaraeon a rhwydweithiau megis cystadlaethau, gwibdeithiau, darlithoedd cyhoeddus a digwyddiadau cymdeithasol eraill; Myfyrwyr ac unigolion sy'n mynychu ein digwyddiadau; Cefnogaeth i fyfyrwyr: Staff yr undeb a gyflogir gan y Brifysgol; Unigolion sy'n ymgymryd â phrofiad gwaith yn yr Undeb; Unigolion sydd yn adeiladau'r Undeb oherwydd digwyddiadau nad ydynt wedi'u trefnu gan y Brifysgol, ar gyfer diwrnodau agored, neu ddigwyddiadau eraill a drefnir gan Undeb;

Adran 4 - Diogelu mewn Amgylchedd Ar-lein 4.1

Cefnogaeth ac Ymgysylltu â Myfyrwyr

Mae darparu gwasanaethau ar-lein yn caniatáu cyrhaeddiad ehangach i'r Undeb, a chyfleoedd i gefnogi, ymgysylltu a chynnal gweithgareddau a chynnal grwpiau ffocws ar-lein gydag aelodau sy'n fyfyrwyr a defnyddwyr gwasanaeth a allai hefyd fod yn blant, pobl ifanc neu oedolion bregus. Gallai'r gweithgareddau hyn gynnwys:  Clybiau, Cymdeithasau a gweithgareddau gwirfoddoli;  Gweminarau a chyfarfodydd Cynrychiolwyr Cwrs a Chyngor Undeb Bangor  Gweithgareddau ymchwil a grwpiau ffocws;  Fforymau;  Cyfarfodydd mentora a chyfeillio 1-i-1 ar-lein;  Gwasanaeth cyngor academaidd ar-lein;  Sgwrsio a rhannu negeseuon;

Undeb y Myfyrwyr Bangor - Polisi Diogelu Mehefin 2020

5


Ffrydio byw

4.1.1

Rhaid i staff a myfyrwyr sy'n ymgymryd â gweithgareddau ar-lein ar ran yr Undeb sicrhau bob amser eu bod yn defnyddio iaith sy'n briodol i oedran wrth gyfathrebu a rhaid iddynt hefyd sicrhau bod pob cyfathrebiad yn berthnasol i'r gwaith y maent yn ei wneud.

4.1.2

Rhaid i staff a myfyrwyr ddefnyddio cyfrifon Prifysgol ac Undeb Bangor i gyfathrebu â phlant, pobl ifanc ac / neu oedolion bregus. Mae hyn yn cynnwys trwy e-bost, neu ar gyfryngau cymdeithasol. Yn ogystal, lle bo hynny'n bosibl, rhaid i unigolion ddefnyddio dyfais Prifysgol neu Undeb Bangor i gyfathrebu.

4.1.3

Yn ogystal, rhaid i staff a myfyrwyr sicrhau eu bod yn deall sut mae'r gwahanol lwyfannau a dulliau cyfathrebu yn gweithio, a beth yw eu cyfyngiadau oedran (lle mae hyn yn berthnasol). Er enghraifft, mae gan Facebook derfyn oedran o 13 mlwydd oed. Bydd gwirio gyda NetAware yn caniatáu i staff ganfod beth yw'r cyfyngiadau oedran ar amrywiol lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

4.1.4

Mae'n hanfodol bod staff a myfyrwyr bob amser yn gofyn am gydsyniad gwybodus priodol gan rieni/gwarcheidwaid/gofalwyr/cynrychiolwyr cyfreithiol os ydynt yn dymuno tynnu lluniau a/neu rannu lluniau o blentyn, person ifanc neu oedolyn bregus at unrhyw ddiben.

4.2

Ffrydio Byw

4.2.1

Mae ffrydio byw yn ffordd werthfawr i'r Undeb gysylltu â'i gymuned ehangach, ond rhaid i staff a myfyrwyr sydd yn ystyried ffrydio digwyddiad yn fyw fod yn ymwybodol o ddiogelwch a lles unrhyw blant, pobl ifanc ac oedolion bregus sy'n rhan o'r digwyddiad.

4.2.2

Yn benodol, rhaid i staff a myfyrwyr sicrhau bod yr holl gyfranogwyr, ond yn enwedig plant, pobl ifanc ac oedolion bregus, yn gwbl ymwybodol o natur y digwyddiad, y ffaith y bydd yn cael ei ffrydio'n fyw, ac y bydd unrhyw sylwadau a wnânt yn cael eu gweld gan eraill.

4.2.3

Mae'n hanfodol sicrhau bod yr holl gyfranogwyr, ond yn enwedig plant, pobl ifanc ac oedolion bregus, yn cael eu hatgoffa i beidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol yn ystod digwyddiad sy'n cael ei ffrydio'n fyw, ac i beidio ag ymateb i unrhyw gyfathrebu / cyswllt gan unigolion nad ydynt yn eu hadnabod. Lle bo modd, dylid rheoli mynediad at ffrydio byw yn ofalus ac argymhellir defnyddio enw defnyddiwr a chyfrinair er mwyn gallu cyfyngu'r gynulleidfa.

4.2.4

Dylid hysbysu'r cyfranogwyr ynglŷn â phwy i gysylltu â hwynt os ydynt yn gweld neu'n clywed unrhyw beth sy'n peri gofid neu sy'n amhriodol, a rhaid i staff a myfyrwyr sicrhau eu bod yn deall y gosodiadau preifatrwydd ar ba bynnag lwyfan maent yn ei ddefnyddio, ac yn gwybod sut i adrodd am unrhyw gynnwys sy'n dramgwyddus neu’n gamdriniol.

4.2.5

Os gofynnir i aelodau staff a myfyrwyr gyfrannu at ddigwyddiad ffrydio byw gan barti allanol, dylent sicrhau eu bod yn gwybod pa gynnwys fydd yn cael ei ddefnyddio yn ystod y digwyddiad, p'un a yw'n briodol ar gyfer oedran y cyfranogwyr, a phwy fydd aelodau'r gynulleidfa.

4.2.6

Rhaid cytuno ar ddefnyddio'r llif byw at ddiben pellach ar ôl ei ddarlledu a rhaid rhoi gwybod am hynny i'r holl gyfranogwyr cyn y digwyddiad.

Undeb y Myfyrwyr Bangor - Polisi Diogelu Mehefin 2020

6


Adran 5 - Trefnau Diogelu 5.1

Diben y Trefnau

Diben y trefnau hyn yw sicrhau ymateb cyflym ac effeithiol i ymdrin â phryderon ynghylch cam-drin plant neu oedolion bregus yn gorfforol, yn rhywiol neu'n emosiynol, neu eu hesgeuluso. 5.2

Adrodd am yr honiad neu'r amheuaeth i'r Person / Awdurdod Dynodedig

Y Person Dynodedig yw Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr, ac mae wedi enwebu'r Rheolwr Cyfleoedd Myfyrwyr a'r Rheolwr Llais Myfyrwyr i weithredu ar ei ran, ac iddynt hwy y dylid rhoi gwybod am unrhyw bryderon neu honiadau o gamdriniaeth neu amheuaeth o gam-drin. Mewn argyfwng, cysylltwch â'r heddlu ar 999 neu ffoniwch dîm 24 Awr Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd. Tîm Plant Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd Ffôn E-bost Y tu allan i oriau 5.3

01766 772577 cyfeiriadauplant@gwynedd.gov.uk 01766 771000

Ymateb i honiadau o gam-drin yn erbyn Aelod o Staff neu Aelod o'r Undeb

Os gwneir honiad o gam-drin yn erbyn aelod o staff neu wirfoddolwr dylai'r un drefn fod yn gymwys ag yn adran 5.2. Os yw'r honiad yn ymwneud â'r Person Dynodedig, dylid hysbysu Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr. Os yw'r honiad yn ymwneud â Chyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr, rhowch wybod i Swyddog Diogelu'r Brifysgol. Yna dylai Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr ysgwyddo cyfrifoldebau’r Person Dynodedig a dilyn y trefnau a nodir yn y ddogfen hon. 5.4

Recriwtio a Dewis Aelodau Staff ac Aelodau’r Undeb

Er mwyn bod yn effeithiol yn recriwtio, dewis a rheoli staff ac aelodau'r undeb a fydd, oherwydd eu swyddogaethau yn Undeb y Myfyrwyr, yn dod i gysylltiad â grwpiau bregus, byddir yn dilyn y drefn ganlynol wrth recriwtio. 5.4.1

Bydd ffurflen gais yn:

  5.4.2

Ei gwneud yn glir y gofynnir am ddatgeliadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Gofyn i ddarpar aelodau staff ac aelodau'r undeb i ddarparu enwau dau ganolwr

Yn y cyfweliad, gofynnir i'r aelod staff neu'r aelod o’r undeb wneud fel a ganlyn:

Datgan unrhyw euogfarnau blaenorol

Gall cwestiynau sampl mewn Cyfweliad gynnwys y canlynol:

Undeb y Myfyrwyr Bangor - Polisi Diogelu Mehefin 2020

7


 

Dwedwch wrthym am unrhyw brofiadau sydd wedi bod yn anodd i chi wrth weithio gyda phlant neu oedolion bregus a sut gwnaethoch chi ymdrin â'r sefyllfaoedd hynny? Dwedwch wrthym sut y bu i chi ymateb i blant neu oedolion bregus sy'n arbennig o heriol?

5.4.2 Mae'n bolisi gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor na chaiff unrhyw un weithio na gwirfoddoli i weithio gyda phlant nac oedolion bregus os ydynt:

 

 5.5

wedi eu cael yn euog o, neu wedi derbyn rhybudd ffurfiol gan yr heddlu ynghylch trosedd yn erbyn plant fel y’u rhestrir yn Atodlen Gyntaf Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933; neu wedi eu cael yn euog o, neu wedi derbyn rhybudd ffurfiol gan yr heddlu ynghylch trosedd yn erbyn oedolyn bregus, neu wedi eu cael yn euog o, neu wedi derbyn rhybudd ffurfiol gan yr heddlu ynghylch troseddau rhywiol yn erbyn plentyn neu oedolyn bregus.

Cod Ymddygiad ac Arferion Da

Dylid rhoi pob cyfle i blant ac oedolion bregus ddysgu nad oes gan unrhyw un yr hawl i wneud unrhyw beth iddynt sy'n gwneud iddynt deimlo'n anghyfforddus. Dylai holl aelodau staff ac aelodau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor ddilyn y canllawiau canlynol. 5.5.1

Dylai'r pennaeth adran perthnasol nodi pob gweithgaredd sy'n dod â staff a/neu aelodau'r undeb i gysylltiad â grwpiau bregus er mwyn gallu monitro cydymffurfiad â'r polisi hwn.

5.5.2

Ni ddylai staff nac aelodau'r undeb dreulio gormod o amser ar eu pennau eu hunain gyda phlant neu oedolion bregus, heb fod yng nghwmni eraill. Dylai cyswllt â phlant unigol neu oedolion bregus gymryd lle mewn amgylchiadau mor agored â phosibl.

5.5.3

Ni ddylai staff ac aelodau'r undeb gael cyswllt corfforol diangen â phlant neu oedolion bregus. Efallai y bydd adegau, serch hynny, pan fydd cyswllt corfforol yn anochel neu'n angenrheidiol, megis rhoi cysur i blentyn gofidus neu gefnogaeth gorfforol i unigolyn. Fel rheol, dylai unrhyw gyswllt fod gyda chydsyniad y plentyn yn unig a dylid egluro'r diben. Rhaid i unrhyw gyswllt gael ei gadw i rannau o'r corff nad ydynt yn sensitif, i ffwrdd o rannau 'gwisg nofio'.

5.5.4

Mewn achos pan fydd aelod o staff neu aelod o'r undeb yn defnyddio ataliad corfforol anorfod (sylwch y dylai hyn ddigwydd yn unig mewn amgylchiadau lle mae gweithredoedd plentyn neu oedolyn bregus yn peri risg o niwed difrifol i’w hunain neu i eraill), rhaid llenwi ffurflen adroddiad digwyddiad.

5.5.5

Dylai fod o leiaf dau aelod o staff/aelodau o'r undeb gyda phlentyn neu grŵp o blant ar bob adeg. Ar gyfer plant o dan 8 oed, rhaid glynu wrth gymhareb isaf o 1:5 (oedolion i blant) ac ar gyfer plant dros 8 oed, cymhareb o 1:8.

5.5.6

Ni ddylai staff ac Aelodau'r Undeb byth wneud y canlynol:  Caniatáu i blant ddefnyddio iaith amhriodol heb eu herio  Gwneud sylwadau amhriodol neu anweddus ym mhresenoldeb plant neu oedolion bregus

Undeb y Myfyrwyr Bangor - Polisi Diogelu Mehefin 2020

8


 

Caniatáu i honiadau gan blentyn neu oedolyn bregus fynd heibio heb eu cofnodi ac adrodd amdanynt Atal plant neu oedolion bregus rhag gwneud honiadau Gwneud unrhyw beth o natur bersonol dros blentyn neu oedolyn bregus y gallent ei wneud eu hunain

5.5.7

Os bydd damwain neu ddigwyddiad, rhaid llenwi ffurflen adrodd am ddamwain neu ddigwyddiad a'i chyflwyno i Wasanaethau Iechyd a Diogelwch Prifysgol Bangor ac i bennaeth yr adran berthnasol. Dylid hefyd roi gwybod i riant neu ofalwr y person dan sylw cyn gynted â phosibl.

5.5.8

Dylid herio unrhyw berson anhysbys sy'n mynd i mewn i leoliad lle mae gwaith gyda phlant neu oedolion bregus yn cael ei gynnal neu'n loetran o gwmpas y plant, hyd yn oed yn achos aelodau eraill o staff y Brifysgol.

5.5.9

Ni ddylid byth gadael plant heb oruchwyliaeth.

5.5.10 Rhaid i rieni/gwarcheidwaid pob plentyn sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau a drefnir gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor lenwi Ffurflen Cofrestru Plant cyn eu gweithgaredd cyntaf. Yn achos pob gweithgaredd sy'n cael ei gynnal y tu allan i leoliad arferol y project, megis gwibdeithiau, dylai rhiant lenwi a llofnodi Ffurflen Cydsyniad Allan o'r Ganolfan ymlaen llaw. 5.5.11 Os na fydd rhiant/gwarcheidwad yn dod i gasglu eu plentyn o weithgaredd, neu os nad yw’r person hwnnw gartref pan fo'r plentyn yn cael ei gludo adref, rhaid galw'r rhifau ffôn cyswllt brys a gwneud pob ymdrech i ddod o hyd i'r rhiant. Ni ddylai plant byth gael eu gadael gydag oedolyn arall, nad yw wedi'i nodi ar ffurflen gofrestru'r plentyn. Os na ellir dod o hyd i'r rhiant ar ôl cyfnod o hanner awr, rhaid galw adran 'Tu Allan i Oriau Gwaith' Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod lleol neu'r heddlu. 5.5.12 Pan fydd sefydliad partner yn ymwneud â gweithgaredd rheoledig gyda grŵp bregus, bydd cytundeb partneriaeth yn cael ei lunio, a fydd yn egluro cyfrifoldebau’r ddau barti o ran materion Diogelu. 5.6

Cyfrinachedd

Mae'r egwyddor gyfreithiol bod lles plentyn neu oedolyn bregus yn hollbwysig yn golygu na ddylid caniatáu i ystyriaethau cyfrinachedd a allai fod yn gymwys mewn sefyllfaoedd eraill yn y sefydliad oroesi hawliau unrhyw berson i gael ei amddiffyn rhag niwed. Serch hynny, dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod cyfrinachedd yn cael ei gynnal i bawb dan sylw pan fydd honiad wedi'i wneud ac yn destun ymchwiliad a dim ond gyda'r Person Dynodedig a'r awdurdodau priodol, yr heddlu, a/neu'r Gwasanaethau Cymdeithasol y dylid rhannu'r wybodaeth sy'n ymwneud â'r cam-drin honedig. 5.7

Cadw Cofnodion

Dylid cadw a storio cofnodion sy'n ymwneud â phryderon am ddiogelu neu bryderon am risg bosibl a berir gan aelodau staff neu aelodau o'r undeb fel a ganlyn. Os oes gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor bryderon ynghylch lles neu ddiogelwch unigolyn neu bryderon ynghylch ymddygiad gweithiwr neu aelod o'r undeb, dylai'r holl fanylion perthnasol, ni waeth a yw'r

Undeb y Myfyrwyr Bangor - Polisi Diogelu Mehefin 2020

9


pryderon yn cael eu rhannu gyda'r heddlu neu'r gwasanaethau cymdeithasol ai peidio, gael eu cofnodi i gynnwys:  

   

  

Dyddiad ac amser y digwyddiad/datgeliad Y partïon a gymerodd ran, gan gynnwys unrhyw dystion i ddigwyddiad Beth a ddwedwyd neu a wnaed a chan bwy Unrhyw gamau a gymerwyd gan y sefydliad i ymchwilio i'r mater Unrhyw gamau gweithredu pellach a gymerwyd Lle bo hynny'n berthnasol, y rhesymau pam y gwnaed penderfyniad i beidio â chyfeirio'r pryderon hynny at asiantaeth statudol Yn achos unrhyw ddehongliad/casgliad a dynnwyd o'r hyn a arsylwyd, neu a ddwedwyd neu a honnwyd dylid cofnodi'n glir eu bod yn ddehongliadau/casgliadau. Enw'r person a adroddodd am y pryder, enw a dynodiad y person yr adroddwyd iddynt am y pryder, y dyddiad a'r amser a'u manylion cyswllt. Dylid llofnodi'r cofnod.

Dylid storio a dinistrio cofnodion yn unol â Pholisi Diogelu Data Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor. Adran 6 - Rôl y Person Dynodedig Mae'r Person Dynodedig neu unrhyw enwebai yn gyfrifol am ymdrin â'r honiadau neu'r pryderon am ddiogelu yn Undeb Myfyrwyr Bangor. Swyddogaethau’r Person Dynodedig yw:

     

Derbyn a chofnodi gwybodaeth gan staff, aelodau o'r undeb, plant neu oedolion bregus, rhieni a gofalwyr sydd â phryderon am ddiogelu Asesu'r wybodaeth yn brydlon ac yn ofalus, gan egluro neu gael mwy o wybodaeth am y mater fel sy'n briodol Ymgynghori yn y lle cyntaf gydag asiantaeth statudol amddiffyn (Diogelu) plant ac oedolion bregus fel yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol leol neu linell gymorth yr NSPCC i roi prawf ar unrhyw amheuaeth neu ansicrwydd ynghylch y pryderon cyn gynted â phosibl. Gwneud atgyfeiriad ffurfiol i'r asiantaeth statudol neu'r heddlu heb oedi (o fewn un diwrnod gwaith) Darparu gwybodaeth a chyngor am Ddiogelu o fewn y sefydliad Sicrhau bod y Polisi a'r Trefnau Diogelu yn cael eu gweithredu Cysylltu ag awdurdodau gwasanaethau plant ac asiantaethau eraill fel sy'n briodol

Nid swyddogaeth yr Unigolyn Dynodedig na'r sefydliad yw penderfynu a yw plentyn neu oedolyn bregus wedi cael ei gam-drin ai peidio. Adran 7 - Goruchwyliaeth, Cefnogaeth a Hyfforddiant Bydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn sicrhau bod hyfforddiant ac adnoddau ar gael i annog staff ac aelodau'r undeb i ddatblygu gwybodaeth am Ddiogelu. 7.1

Sesiynau Cynefino i Staff ac Aelodau'r Undeb (I'r rhai hynny y gwyddys y byddant yn gweithio gyda grwpiau bregus)

Undeb y Myfyrwyr Bangor - Polisi Diogelu Mehefin 2020

10


Bydd Sesiwn Cynefino yn cael ei gynnal gan berson perthnasol. Yn ystod y sesiwn cynefino, darperir copi o'r Polisi Diogelu, a chaiff yr aelod staff neu'r aelod o'r undeb ei dywys trwyddo. Yna bydd y swyddog cynefino yn sicrhau bod y polisi'n cael ei ddarllen a'i ddeall. 7.2

Goruchwyliaeth a Chefnogaeth Bydd goruchwyliaeth yn cymryd lle yn rheolaidd ar gyfer pob aelod staff ac aelodau'r undeb a fydd neu sydd ar hyn o bryd yn gweithio gyda grwpiau bregus. Caiff diogelu ei drafod bryd hynny a rhoddir y cyfle i staff ac aelodau'r undeb rannu unrhyw bryderon am y gwaith. Bydd anghenion hyfforddiant hefyd yn cael eu nodi yn ystod goruchwyliaeth.

7.3

Hyfforddiant Diogelu Bydd angen gwahanol lefelau o Hyfforddiant Diogelu yn dibynnu ar swyddogaethau a chyfrifoldebau staff ac aelodau'r undeb. Er enghraifft, bydd anghenion y rhai hynny sydd mewn swyddi arwain yn wahanol i anghenion staff eraill ac aelodau'r undeb a bydd angen i'r Person Dynodedig dderbyn hyfforddiant i gynnal lefel uchel o wybodaeth am ddeddfwriaeth Amddiffyn Plant ac Amddiffyn Oedolion Bregus. Mae mwy o fanylion am y gwahanol lefelau o hyfforddiant i'w gweld yn atodiad 1.

Atodiad 1

Undeb y Myfyrwyr Bangor - Polisi Diogelu Mehefin 2020

11


Hyfforddiant Diogelu 1.1.

Hyfforddiant Diogelu Sylfaenol ar gyfer Staff ac Aelodau'r Undeb Bydd Hyfforddiant Diogelu Sylfaenol yn cynnwys y meysydd canlynol:   

 

    

 

 1.1.2

Diffiniadau o Blant, Oedolion Bregus a Grwpiau Bregus Diffiniadau o gam-drin Cyd-destun cyfreithiol a gweithdrefnol Arwyddion a dangosyddion o gamdriniaeth Bregusrwydd plant anabl Mythau a stereoteipiau am dramgwyddwyr a dioddefwyr Effaith camdriniaeth Ymateb i rywun sy'n datgelu camdriniaeth Beth i'w wneud - trefnau sefydliadol Goresgyn rhwystrau rhag gweithredu Cam-drin plant yn rhywiol - tramgwyddwyr a dioddefwyr Camdriniaeth hanesyddol a datgelu Proses amddiffyn plant a gweithio rhwng asiantaethau Hyfforddiant Diogelu i Reolwyr Adran

Bydd hyfforddiant diogelu i'r rhai sy'n gyfrifol am feysydd gwaith lle mae aelodau staff eraill ac aelodau o'r undeb yn dod i gysylltiad â grwpiau bregus yn cwmpasu'r holl feysydd a grybwyllir yn 6.3.1 yn ogystal â:

 Cofnodi gweithgareddau lle mae staff ac aelodau'r undeb yn dod i gysylltiad â grwpiau bregus.  Cyfrifoldebau o dan y polisi hwn.  Rôl y Person Dynodedig.  Atgyfeirio at asiantaeth Ddiogelu.  Cyflwyno hyfforddiant diogelu.  Parhau i weithio yn dilyn honiad neu bryder am ddiogelu. 1.2

Cyfrifoldeb dros Hyfforddiant Bydd rheolwyr adran yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl staff ac aelodau o'r undeb yn eu hadran yn derbyn hyfforddiant Diogelu perthnasol. Dylai adrannau gadw rhestrau o'r rhai hynny sy'n gweithio gyda grwpiau bregus fel y gellir pennu'n hawdd pwy sydd wedi derbyn yr hyfforddiant gofynnol a phwy sydd heb ei dderbyn. Dylid cynnal hyfforddiant cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl ar ôl iddynt ddechrau yn y gwaith.

Atodiad 2

Undeb y Myfyrwyr Bangor - Polisi Diogelu Mehefin 2020

12


Diffiniadau o Gamdriniaeth 1.1

Beth yw camdriniaeth?

Mae'r diffiniadau canlynol yn seiliedig ar Weithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008. 1.1.1

Cam-drin Corfforol

Gall cam-drin corfforol olygu curo, ysgwyd, taflu, gwenwyno, llosgi neu losgi â dŵr, boddi, mygu, camddefnyddio meddyginiaeth, atal neu fel arall achosi niwed corfforol i blentyn neu oedolyn bregus. Gall niwed corfforol hefyd gael ei achosi pan fydd rhiant neu ofalwr yn ffugio symptomau salwch, neu'n peri salwch yn fwriadol mewn plentyn neu oedolyn bregus. 1.1.2

Cam-drin Emosiynol

Cam-drin emosiynol yw cam-drin person yn emosiynol yn barhaus, fel ei fod yn niweidio eu datblygiad emosiynol yn ddifrifol ac yn barhaus. Gall olygu cyfleu i'r person eu bod yn ddiwerth neu nad oes neb yn eu caru, eu bod yn annigonol neu ddim ond yn cael eu gwerthfawrogi i’r graddau y bônt yn diwallu anghenion person arall. Gall olygu peri i berson deimlo’n ofnus neu mewn perygl yn aml, er enghraifft drwy fod yn dyst i gamdriniaeth ddomestig yn y cartref neu trwy gael eu bwlio, neu trwy ecsbloetio neu lygru plant ac oedolion bregus. Mae rhyw lefel o gamdriniaeth emosiynol yn rhan o bob math o gamdriniaeth, ond gall ddigwydd ar ei ben ei hun. 1.1.3

Cam-drin Rhywiol

Mae cam-drin rhywiol yn golygu gorfodi neu hudo person i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol, p'un a'u bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd ai peidio. Gall y gweithgareddau gynnwys cyswllt corfforol, gan gynnwys gweithredoedd treiddiol neu weithredoedd nad ydynt yn dreiddiol neu weithredoedd nad yw'r unigolyn wedi cydsynio iddynt neu y gwthiwyd hwy i gydsynio iddynt. Gallant gynnwys gweithgareddau nad ydynt yn cynnwys cyffwrdd, megis cynnwys person wrth edrych ar ddeunydd pornograffig (neu ei gynhyrchu), neu wrth wylio gweithgareddau rhywiol, neu annog person i ymddwyn mewn ffyrdd sy’n amhriodol yn rhywiol. 1.1.4

Esgeulustod

Esgeulustod yw methu’n barhaus â diwallu anghenion sylfaenol corfforol a/neu seicolegol person, sy’n debygol o arwain at amharu’n ddifrifol ar iechyd neu ddatblygiad y person. Gall olygu rhiant neu ofalwr yn methu â rhoi bwyd, lloches a dillad digonol, methu ag amddiffyn y person rhag niwed corfforol neu berygl, neu fethu â sicrhau mynediad at ofal neu driniaeth feddygol briodol. Gall hefyd gynnwys esgeuluso anghenion emosiynol sylfaenol person neu beidio ag ymateb iddynt. 1.1.5

Cam-drin Ariannol neu Faterol

Gallai hyn gynnwys dwyn, twyll, cam-fanteisio, pwysau mewn cysylltiad ag ewyllys, eiddo neu etifeddiaeth neu drafodion ariannol, neu gam-feddiannu eiddo neu fudd-daliadau. 1.1.6

Cam-drin Gwahaniaethol

Gall cam-drin gwahaniaethol gynnwys unrhyw fath o aflonyddu, sarhau neu driniaeth debyg ar sail oedran, anabledd, rhywedd, treftadaeth hiliol, credoau crefyddol, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth unigolyn

Undeb y Myfyrwyr Bangor - Polisi Diogelu Mehefin 2020

13


2.1

Adnabod Camdriniaeth

Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn deall nad yw'n hawdd adnabod camdriniaeth. Mae'r rhestr ganlynol yn cynnwys rhai o'r dangosyddion a all fod yn amlwg os yw camdriniaeth yn cymryd lle. Mae'r rhestrau'n nodi arwyddion o gamdriniaeth yn achos plant ac/neu oedolion. Mae'n bwysig cofio nad yw'r holl ddangosyddion hyn o anghenraid yn arwyddion o gamdriniaeth, ond i staff ac aelodau o'r undeb sy'n gweithio gyda grwpiau bregus fod yn ymwybodol o'r posibilrwydd fod camdriniaeth wedi peri rhai neu nifer ohonynt. Cam-drin Corfforol yn achos Plant ac/neu Oedolion  

 

     

  

Cleisiau sydd i'w gweld i ffwrdd o amlygiadau esgyrnog Cleisiau lluosog mewn clystyrau neu siâp unffurf Unrhyw arwydd o boen neu salwch anesboniadwy Llosgiadau sigaréts Marciau brathiad oedolyn Esgyrn wedi torri Sgaldiadau Ofn ynglŷn â gwneud cais am eglurhad gan rieni neu ofalwyr Ymddygiad ymosodol neu ffrwydradau difrifol o dymer Gwingo pan eir yn agos atynt neu eu cyffwrdd Iselder a/neu bryder Ymddygiad encilgar neu dynnu'n ôl o weithgareddau rheolaidd a chyswllt cymdeithasol Ofn

Cam-drin Emosiynol yn achos Plant ac/neu Oedolion     

Methiant i ffynnu neu dyfu Anhwylderau lleferydd sydyn Datblygiad hwyr Ymddygiad niwrotig Ofn gwneud camgymeriadau Hunan-niweidio

Cam-drin Rhywiol yn achos Plant ac/neu Oedolion

   

 

  

 

Poen neu gosi o gwmpas yr organau cenhedlu / rhefrol Poenau stumog Anghysur wrth gerdded neu eistedd i lawr Beichiogrwydd Ofn cael eu gadael gyda pherson neu grŵp penodol Yn cael hunllefau Rhedeg i ffwrdd o gartref Gwybodaeth rywiol y tu hwnt i oedran neu lefel datblygiadol y plentyn Tynnu lluniau neu ddefnyddio iaith rywiol Gwlychu'r gwely Problemau bwyta fel gorfwyta neu anorecsia

Undeb y Myfyrwyr Bangor - Polisi Diogelu Mehefin 2020

14


   

 

Hunan-niweidio neu anffurfio, gan arwain weithiau at ymdrechion o hunanladdiad Dweud bod ganddynt gyfrinachau na allant ddweud wrth unrhyw un amdanynt Camddefnyddio sylweddau Yn sydyn yn meddu ar arian heb eglurhad Ddim yn cael eu caniatáu i gael ffrindiau (yn enwedig yn ystod llencyndod neu fel oedolion) Yn ymddwyn mewn ffordd rywiol amlwg

Esgeulustod yn achos Plant ac/neu Oedolion

 

    2.3

Yn aml yn newynog ac weithiau yn dwyn bwyd gan eraill Yn aml yn fudr neu'n ddrewllyd Yn colli pwysau neu'n gyson o dan bwysau arferol Yn gwisgo'n amhriodol i’r amgylchiadau Yn cwyno eu bod wedi blino trwy'r amser Yn sôn am gael eu gadael ar eu pennau eu hunain neu heb oruchwyliaeth

Ymateb i Arwyddion neu Amheuon o Gam-drin 2.3.1

Ymateb i berson sy'n gwneud honiad o gam-drin neu i sefyllfa sy'n peri pryder sy'n fyr o ddatgeliad clir o gamdriniaeth

Os yw rhywun yn gwneud honiad o gam-drin mae'n bwysig eich bod yn peidio â chynhyrfu ac yn gwrando'n ofalus ar yr hyn sy'n cael ei ddweud wrthych. Ar y cyfle cyntaf, gwnewch yn glir i'r person mwy na thebyg y bydd angen i chi rannu'r wybodaeth y maent yn ei rhoi i chi gyda rhywun arall; ni ddylech o dan unrhyw amgylchiadau addo cadw cyfrinach. Caniatewch i'r person siarad ar ei gyflymder ei hun, a gofynnwch gwestiynau er eglurhad yn unig gan osgoi unrhyw gwestiynau a allai symbylu ateb penodol. Cysurwch y plentyn ei fod wedi gwneud y peth iawn yn dweud wrthych. Dywedwch wrthynt beth fyddwch chi’n ei wneud nesaf a gyda phwy o bosib y bydd yn rhaid i chi rannu'r wybodaeth. Nodwch yn ysgrifenedig yr hyn a ddwedwyd, gan ddefnyddio geiriau'r person ei hun, cyn gynted ag y gallwch. Cynhwyswch ddyddiadau, amseroedd, unrhyw enwau a grybwyllwyd ac i bwy y trosglwyddwyd y wybodaeth. Sicrhewch eich bod yn llofnodi ac yn dyddio'r cofnod ac yna cysylltwch â'r Person Dynodedig. Fel y person sydd yn gyntaf yn dod ar draws achos o gam-drin honedig neu achos o amheuaeth o gam-drin, nid ydych yn gyfrifol am benderfynu a oes cam-drin wedi cymryd lle ai peidio. Mae hon yn dasg i'r asiantaethau diogelu proffesiynol ar ôl i'r mater gael ei atgyfeirio atynt. Dylid ystyried yr uchod hefyd yn achos sefyllfaoedd o bryder sy'n brin o ddatgeliad clir o gam-drin. Os yw aelod o staff neu aelod o'r undeb yn amau bod rhywun yn cael ei gam-drin, rhaid adrodd am hynny ar unwaith i'r person dynodedig. Os oes gan unrhyw un wybodaeth, pryderon neu amheuon bod rhywun yn dioddef, wedi dioddef neu'n debygol o fod mewn perygl o niwed, eu cyfrifoldeb nhw yw sicrhau bod y pryderon yn cael eu cyfeirio at y Gwasanaethau Cymdeithasol neu at yr Heddlu, sydd â dyletswyddau a phwerau statudol i wneud ymholiadau ac i ymyrryd pan fydd angen. Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008 Atodiad 3 Parhau i Weithio yn Dilyn Honiad neu Bryder am Ddiogelu

Undeb y Myfyrwyr Bangor - Polisi Diogelu Mehefin 2020

15


Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cydnabod, yn dilyn honiad o gam-drin neu pan fydd pryderon bod person wedi dioddef camdriniaeth, y bydd teimladau cryf mwy na thebyg yn codi ymysg staff, aelodau undeb, rhieni a defnyddwyr gwasanaeth ac o bosibl yn y gymuned ehangach. 1.1

Bydd y Person Dynodedig yn dad-friffio'r holl staff ac aelodau'r undeb oedd yn gysylltiedig â'r achos. Gellir atgyfeirio pobl at Wasanaeth Cwnsela'r Brifysgol ac anogir y rheiny oedd ynghlwm i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon sy'n parhau i fod ganddynt.

1.2

Os yw'r wasg yn cymryd diddordeb yn y mater, polisi Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yw dilyn y polisi cyfryngau. Bydd y Person Dynodedig yn cysylltu â Chyfarwyddwr yr Undeb a Llywydd Undeb y Myfyrwyr cyn rhyddhau unrhyw sylw i'r cyfryngau. Dylai Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor drafod y mater gydag unrhyw gyrff ymchwilio fel yr heddlu neu'r awdurdod lleol er mwyn peidio â rhagfarnu unrhyw ymchwiliad sy'n parhau neu achos llys. Cymerir pob gofal i amddiffyn hunaniaeth dioddefwyr neu ddioddefwyr honedig camdriniaeth a fydd yn cynnwys y sawl a ddioddefodd gan y tramgwyddwr honedig hyd yn oed os nad ydynt wedi gwneud honiadau eu hunain. Bydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cymryd pob gofal i beidio â datgelu unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud ag adnabod unigolyn os yw'n ymwneud mewn unrhyw ffordd â mater o ddiogelu.

Undeb y Myfyrwyr Bangor - Polisi Diogelu Mehefin 2020

16


Atodiad 4 Rhestr wirio ar gyfer Adrodd am Gamdriniaeth a Amheuir, i'w chwblhau ar y cyd gan yr unigolyn sydd yn gyntaf yn dod ar draws achos o gam-drin honedig neu amheuaeth o gam-drin a'r Person Dynodedig. Enw’r Plentyn/Oedolyn Bregus Oed a Dyddiad Geni: _____________________

Iaith Gyntaf: _________________________________

A oes gan yr unigolyn unrhyw anabledd? (Os oes, rhowch fanylion os gwelwch yn dda)________________________ Enwau’r Rhieni / Gofalwyr: ________________________________________________________________________ Cyfeiriad Cartref:_________________________________________________________________________________ Rhif Ffôn:_______________________________________________________________________________________ Ydych chi'n adrodd am eich pryderon eich hun neu am bryderon rhywun arall?________________________________ Disgrifiad byr o'r hyn sydd wedi ysgogi'r pryderon gan gynnwys dyddiadau, amseroedd etc. unrhyw ddigwyddiadau penodol:_________________________________________________________________________________________ ________________________________________________________________________________________________ ________________________________________________________________________________________________ Unrhyw arwyddion corfforol? Arwyddion ymddygiadol? Arwyddion anuniongyrchol? __________________________ _______________________________________________________________________________________________ Ydych chi wedi siarad â'r person? Os felly, beth a ddwedwyd? ____________________________________________ _______________________________________________________________________________________________ Ydych chi wedi siarad â'r rhieni neu'r gofalwyr? Os felly, beth a ddwedwyd? _______________________________________________________________________________________________ _______________________________________________________________________________________________ A enwyd rhywun fel y sawl a oedd yn honedig yn cam-drin? _______________________________________________________________________________________________ _______________________________________________________________________________________________

A ydych wedi ymgynghori ag unrhyw un arall? _________________________________________________________ Eich Enw a'ch Swydd / Rôl _________________________________________________________________________ _______________________________________________________________________________________________ Llofnod________________________________________

Undeb y Myfyrwyr Bangor - Polisi Diogelu Mehefin 2020

Dyddiad__________________________________

17


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.