Canllawiau Cam wrth Gam a Rheolau a Rheoliadau Etholiadau Swyddogion Sabothol 2021
Canllawiau Cam wrth Gam Etholiadau Swyddogion Sabothol Dyma'r prif gamau a'r prosesau i sefyll yn Etholiadau’r Swyddogion Sabothol: enwebiadau, eich maniffesto, eich cyhoeddusrwydd, ymgyrchu, pleidleisio a'r cyfrif. Enwebiadau Er mwyn sefyll mewn etholiad rhaid i enwebiad ffurfiol gael ei gyflwyno ar-lein trwy www.UndebBangor.com. Yn dilyn enwebiad llwyddiannus byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau bod yr enwebiad wedi'i dderbyn ac yn cadarnhau eich ymgeisyddiaeth yn yr etholiad. Ni dderbynnir enwebiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau a hysbysebwyd. Drwy gyflwyno enwebiad rydych yn cytuno i'r canlynol ac yn rhoi caniatâd i Undeb Bangor fel a ganlyn:
Cynnwys eich enw mewn cyhoeddusrwydd a datganiadau i'r wasg yn ymwneud ag Etholiadau Undeb Bangor Arddangos eich maniffesto/datganiad ysgrifenedig a'ch llun mewn cyhoeddusrwydd ar gyfer Etholiadau Undeb Bangor Arddangos eich enw a manylion cyswllt ar ein gwefan os cewch eich ethol yn llwyddiannus Anfon eich enw, cyfeiriad e-bost a Rhif Cerdyn Myfyriwr y Brifysgol at y Brifysgol er mwyn iddynt wirio bod y wybodaeth rydych wedi'i roi yn gywir a chadarnhau eich bod yn fyfyriwr cofrestredig presennol neu'n fyfyriwr PhD yn eu cyfnod ysgrifennu.
Maniffestos Anogir ymgeiswyr yn gryf i gyflwyno maniffesto ymgeisydd. Mae cyfyngiad geiriau caeth o 350 o eiriau i faniffestos. Gellir eu cyflwyno naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg a chânt eu cyfieithu gan Undeb Bangor. Rhaid cyflwyno maniffestos ar-lein trwy’r porth enwebiadau, cyn y dyddiad cau nodir yn Amserlen yr Etholiad. Caniateir i ymgeiswyr newid eu maniffestos cyn y dyddiad cau. Rhaid anfon unrhyw newidiadau trwy e-bost i etholiadau@undebbangor.com Beth yw maniffesto? Mae maniffesto yn ddatganiad yn dweud pam eich bod yn sefyll yn yr etholiad, yr hyn yr ydych yn gobeithio ei gyflawni os cewch eich ethol, manylion am eich prif bolisïau a pham y dylai myfyrwyr bleidleisio drosoch. Meddyliwch am y pwyntiau isod wrth lunio eich maniffesto: Beth ydych eisiau ei gyflawni yn y swydd hon a fydd o fudd i fyfyrwyr eraill? Beth sydd wedi'ch ysbrydoli i sefyll ar gyfer y swydd hon? 1
Beth ydych chi'n ei feddwl yw prif swyddogaeth Undeb Myfyrwyr Bangor a pham? Mae cyngor am lunio maniffesto i'w weld ar-lein yma https://www.undebbangor.com/voice/elections/sabbelections/yourmanifesto/ Testun Cyhoeddusrwydd pellach Gall ymgeiswyr gyflwyno hyd at 300 gair i'w cyfieithu cyn dechrau’r cyfnod ymgyrchu erbyn y dyddiad a amlinellir yn yr amserlen etholiadau. Cyhoeddusrwydd a Deunydd Marchnata PWYSIG - Mae'r etholiad hwn yn cael ei gynnal yn llwyr ar-lein. Ni chaniateir ymgyrchu ffisegol mewn unrhyw ffordd - Ni ellir arddangos unrhyw ddeunydd ymgyrchu ffisegol ac NI CHEWCH ymgyrchu'n bersonol. Eich deunydd cyhoeddusrwydd ac ymgyrchu yw un o'r pethau pwysicaf i wneud yn dda fel ymgeisydd. Caiff ei gylchredeg yn eang i'r myfyrwyr trwy'r cyfryngau cymdeithasol a'n gwefan. Felly, mae’n hollbwysig bod eich deunydd cyhoeddusrwydd ac ymgyrchu yn sefydlu'r dôn ar gyfer eich ymgyrch a'i fod yn cynnwys neges gyson i'r pleidleiswyr. Eich cyllideb Cyfyngir ar wariant yr ymgeiswyr i £15 ac ni chaniateir gwario dros y trothwy hwnnw na’i gynyddu. Rhaid dychwelyd derbynebau yn ymwneud â phob gwariant i'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau erbyn 10AM ar fore'r cyfrif. Bydd Undeb Bangor yn talu costau'r treuliau pan gyflwynir y derbynebau. Posteri a Thaflenni Ni chaniateir unrhyw bosteri a/neu daflenni ffisegol yn yr etholiad hwn. Dyluniad y Dudalen Maniffesto Dylai'r ymgeiswyr ddylunio dwy dudalen faniffesto A4 (un yn Gymraeg ac un yn Saesneg), a rhaid eu cyflwyno fel ffeil PDF, JPEG neu PNG erbyn y dyddiad cau a nodir yn yr amserlen etholiadau. Cânt eu defnyddio yn Llyfryn Maniffestos Etholiadau Undeb Bangor ar-lein i roi cyhoeddusrwydd i'r holl ymgeiswyr. Rhaid cyflwyno eich ddyluniadau i etholiadau@undebbangor.com
Cyfryngau Cymdeithasol Caniateir i ymgeiswyr ddefnyddio cyfryngau ar-lein megis Facebook, Twitter a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill at ddibenion ymgyrchu. Rhaid i bob neges ar gyfryngau cymdeithasol fod yn ddwyieithog yn unol â'r rheolau a'r rheoliadau a nodir yn ddiweddarach yn y ddogfen hon. Fideos Etholiadau 2
Anogir ymgeiswyr i gynhyrchu fideos at ddibenion ymgyrchu, a all fod yn yr iaith a ddewisant. Rhaid i'r holl destun ysgrifenedig mewn fideos fod yn ddwyieithog. Gellir cyflwyno dau fideo gan bob ymgeisydd i'w huwchlwytho gan Undeb Bangor.
Un fideo o 30 eiliad a gaiff ei ddefnyddio ar draws y cyfryngau cymdeithasol. Un fideo na ddylai fod yn hwy na dau funud o hyd a gaiff ei ddefnyddio ar wefan Undeb Bangor.
Dylid e-bostio fideos at elections@undebbangor.com. Os yw eich fideo yn ffeil fawr rydym yn awgrymu defnyddio One Drive neu WeTransfer. Nid yw'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno fideos os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny. Serch hynny, cofiwch hyd yn oed os na fydd pob ymgeisydd yn cyflwyno fideos, bydd Undeb Bangor yn rhannu pob fideo a gyflwynir. Ymgyrchu Y cyfnod ymgyrchu yw'r cyfnod pan fyddwch yn ymgyrchu i ennill pleidleisiau. O fewn ffiniau'r rheolau a'r rheoliadau, gellwch fod mor greadigol ag y dymunwch. Gellwch hefyd gael ffrindiau i ymgyrchu ar eich rhan. Rhaid i chi anfon enwau eich tîm ymgyrchu atom cyn dechrau'r cyfnod ymgyrchu a'u diweddaru os byddant yn newid. Sylwch mai chi'n sy'n gyfrifol am ymddygiad unrhyw un sy'n ymgyrchu ar eich rhan - mae hyn yn cynnwys os byddant yn ymgyrchu'n ffisegol, ac NI CHANIATEIR gwneud hynny. Pleidleisio Cynhelir y bleidlais yn gyfan gwbl ar-lein drwy www.undebbangor.com ar y dyddiadau a ddangosir ar amserlen yr etholiad. Pleidleisir trwy ddefnyddio'r system bleidlais drosglwyddadwy amgen, sy'n golygu: Rydych yn pleidleisio â rhifau yn lle tic neu groes, gan roi'r rhif 1 i'r ymgeisydd rydych chi'n ei hoffi fwyaf. Yna rydych yn rhoi rhifau i'r ymgeiswyr eraill yn ôl blaenoriaeth, rhif 2 i'ch ail ddewis, 3 i'ch trydydd ac yn y blaen. Unwaith bydd y pleidleisio wedi gorffen, caiff y dewisiadau cyntaf eu cyfrif ac os nad oes unrhyw un wedi cyrraedd 50% plws un o'r bleidlais, caiff yr ymgeisydd isaf ei ddiddymu a chaiff eu pleidleisiau eu trosglwyddo i'r dewis nesaf ar eu ffurflenni pleidleisio. Mae'r broses yn parhau nes bod ymgeisydd yn pasio'r trothwy o 50% plws un, neu nes bod dim ond un ymgeisydd yn weddill. Mae'r drefn hon yn golygu bod eich pleidlais yn parhau i ddylanwadu ar ganlyniad yr etholiad hyd yn oed os nad yw eich dewis cyntaf yn ennill. Caiff Ailagor Enwebiadau ei gynnwys fel ymgeisydd ym mhob etholiad. Y Cyfrif
Bydd y cyfrif yn cael ei gynnal unwaith y mae'r bleidlais wedi cau ac yn dechrau dim ond pan fo'r Swyddog Canlyniadau yn fodlon bod yr holl gwynion yn ymwneud â chynnal a gweinyddu'r etholiad wedi cael eu datrys. Dim ond cwynion yn ymwneud â'r cyfrif a fydd yn cael eu hystyried ar ôl i'r cyfrif ddechrau.
3
Cynhelir y cyfrif yn unol â'r canllawiau a osodir gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol lle bo modd, neu fel y cytunir gan y Pwyllgor Etholiadau lle nad oes canllawiau. Gall yr ymgeisydd neu ei gynrychiolwyr penodedig neu unrhyw Aelod arall, os dymunant, fod yn bresennol yng nghyfrif y pleidleisiau, fel arsylwyr yn unig. Rhaid i unrhyw aelod sy'n dymuno arsylwi wneud cais i'r Swyddog Canlyniadau cyn cau'r cyfnod pleidleisio.
Rheolau a Rheoliadau'r Etholiadau Llywodraethir Etholiadau Cynghorwyr Undeb Bangor gan Is-ddeddf 7 Cyfansoddiad Undeb Bangor Etholiadau, (a gellir ei weld yma -) a chan y rheolau a'r rheoliadau a nodir isod, fel y cymeradwywyd gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Phwyllgor Etholiadau Undeb Bangor. Gall dorri unrhyw un o’r rheolau hyn arwain at osod sancsiynau ar ymgeisydd, ymgyrchydd neu ymgyrch. Enwebiadau 1. Caiff ymgeisydd ei gynnwys yn yr etholiad yn unig pan fyddant wedi cyflawni'r meini prawf canlynol yn llwyddiannus: 1.1. Wedi enwebu ei hun gan ddefnyddio'r broses enwebu ar-lein erbyn y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau. 1.2. Yn gymwys i sefyll yn yr etholiadau fel y diffinnir yn yr Erthyglau Cymdeithasu ac Is-ddeddfau. 1.3. Wedi bod i Gyfarfod Briffio’r Ymgeiswyr, neu wedi derbyn y cyfarwyddyd hwnnw ar lafar gan y Dirprwy Swyddog Canlyniadau os nad oeddynt yn gallu bod yn bresennol a'u bod wedi anfon ymddiheuriadau ymlaen llaw. 1.4. Yn cytuno i ymrwymo i'r rheolau hyn ac i Is-ddeddf 7 - Etholiadau Undeb Bangor.
Testun y Maniffesto 1. Er mwyn sefyll gyda maniffesto yn yr etholiad rhaid i ymgeiswyr gyflwyno eu maniffesto, yn Gymraeg neu yn Saesneg, erbyn y dyddiad cau yn amserlen yr etholiadau. 2. Cyfyngiadau maniffesto: 2.1. Etholiadau Cynghorydd Undeb Bangor: dim mwy na 300 o eiriau ym mha bynnag iaith y caiff ei gyflwyno. 2.2. Etholiadau Swyddogion Sabothol: dim mwy na 350 o eiriau ym mha bynnag iaith y caiff ei gyflwyno. Ymddygiad 1. Ni chaiff ymgeiswyr ac ymgyrchwyr yn sgil eu cysylltiad ag Undeb Bangor, neu yn rhinwedd y ffaith eu bod mewn swydd neu wedi dal swydd o gyfrifoldeb yn Undeb Bangor, ddefnyddio adnoddau sydd ar gael iddynt ond ddim ar gael i fyfyrwyr eraill. Mae hyn yn cynnwys offer a dillad a brynwyd gan Undeb Bangor, unrhyw restrau gohebu canolog Undeb Bangor a grwpiau cyfryngau cymdeithasol swyddogol Undeb Bangor. Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr ond nid yw'n cynnwys unrhyw gyfrifon cyfryngau cymdeithasol sydd gan glybiau neu gymdeithasau unigol. 2. Gall ymgyrchwyr ddefnyddio rhestrau gohebu dim ond pan ei bod yn gyfreithlon gwneud hynny. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen cydsyniad penodol yr aelodau ar y rhestr i ddefnyddio eu manylion. 4
3. Mae ymgeiswyr yn gyfrifol dros bob gweithgaredd ymgyrchu a wneir yn eu henw; mae hyn yn cynnwys gweithredoedd trydydd partïon ar eu rhan. 4. Cyn dechrau ymgyrchu, caniateir i dimau ymgyrchu ddefnyddio Facebook, WhatsApp neu grwpiau cyfryngau cymdeithasol eraill i gynllunio a threfnu'n fewnol, ond dylai'r grwpiau hyn fod yn gaeedig, yn breifat ac yn gyfyngedig i'r tîm ymgyrchu craidd. 5. Ni chaiff ymgeiswyr nac ymgyrchwyr wneud y canlynol: 5.1. Ymgyrchu’n ffisegol - Ni ellir arddangos unrhyw ddeunydd ymgyrchu ffisegol ac NI CHEWCH ymgyrchu'n bersonol. Rhaid i'r HOLL ymgyrchu ddigwydd ar-lein. 5.2. Gorfodi, bygwth na rhoi pwysau o unrhyw fath ar fyfyrwyr i bleidleisio, yn enwedig pan fyddant yn agos at bleidleisio neu wrthi'n pleidleisio. 5.3. Pleidleisio ar ran myfyriwr arall 5.4. Codi ofn ar unrhyw un sy’n cymryd rhan yn yr etholiad 5.5. Tanseilio unrhyw ymgyrch yn fwriadol ac eithrio eu hymgyrch eu hunain. 5.6. Difwyno deunyddiau, cyhoeddusrwydd, cyfryngau ar-lein, gwefan rhwydweithio cymdeithasol etc. ymgeisydd arall 5.7. Gwneud unrhyw ymgais i dwyllo yn yr etholiad 5.8. Gwneud unrhyw ymdrech i ddylanwadu ar ddidueddrwydd y Swyddog Canlyniadau, y Dirprwy Swyddog Canlyniadau, y Pwyllgor Etholiadau neu staff Undeb Bangor 5.9. Trafod nodweddion personol ymgeisydd arall 5.10. Camliwio safbwyntiau ymgeisydd arall neu wneud honiadau sy'n anwir am eu hunain neu am unrhyw ymgeisydd arall 5.11. Sefydlu eu 'gorsaf bleidleisio' eu hunain, rhoi dyfais electronig i bleidleiswyr at ddibenion pleidleisio, goruchwylio neu wylio pleidleisiwr wrth iddynt bleidleisio, neu fynnu bod pleidleiswyr yn defnyddio eu dyfais electronig eu hunain i bleidleisio ar unwaith 5.12. Derbyn nawdd gan gwmni neu gorff allanol 5.13. Cael eu cymeradwyo gan adran Prifysgol, Ysgol, Gwasanaeth neu aelod staff 5.14. Cael mantais drwy i staff y Brifysgol anfon e-byst at fyfyrwyr ar eu rhan 5.15. Defnyddio grwpiau, tudalennau neu gyfrifon cyfryngau cymdeithasol canolog a swyddogol y brifysgol i gynorthwyo ag ymgyrchu, os nad ydynt ar gael i bob ymgeisydd arall hefyd. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r mathau canlynol o gyfrifon: Coleg, Ysgol, Neuaddau, Gwasanaethau Prifysgol ac ati. 5.16. Dwyn anfri ar broses yr etholiad 6. Rhaid i ymgeiswyr ac ymgyrchwyr: 6.1. Ymlynu wrth ystyr ac ysbryd rheolau'r etholiad a pholisi Cyfle Cyfartal, polisi Goddef Dim Aflonyddu a pholisi Dwyieithrwydd Undeb Bangor ar bob adeg. 6.2. Ymlynu wrth ddeddf gwlad a rheoliadau’r brifysgol ar bob adeg. Gwariant Etholiadau 1. Cyfyngir ar wariant yr ymgeiswyr ac ni chaniateir gwario dros y trothwy hwnnw na’i gynyddu. 2. Mae'r cyfyngiadau gwario fel a ganlyn 2.1. Etholiadau Cynghorwyr Undeb Bangor - £10 2.2. Etholiadau Ymddiriedolwyr sy'n Fyfyrwyr - £10 2.3. Etholiadau Swyddogion Sabothol - £15 3. Bydd y Swyddog Canlyniadau, neu ei ddirprwy enwebedig, yn rhoi gwerth mewn arian parod ar bopeth a ddefnyddir yn yr etholiad (ac eithrio eitemau a restrir yn Adran 5.1 isod). Er eglurdeb, mae hyn yn cynnwys ‘rhoddion ymgyrchu’ na wnaeth gostio dim i chi o bosib, ond sy’n meddu ar werth ariannol ‘byd real’.
5
4. Dylai'r holl adnoddau a dulliau a ddefnyddiwch yn eich ymgyrch etholiadol y gellid rhoi gwerth ariannol arnynt fod ar gael i'r holl ymgeiswyr eraill. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw gwirio hynny gyda'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau cyn eu defnyddio. 5. Ni chaiff unrhyw ymgeisydd dderbyn nawdd gan gwmni neu gorff allanol. 6. Mae'r eitemau canlynol, er enghraifft, ar gael yn rhwydd i'r holl ymgeiswyr a'u cefnogwyr ac felly nid oes gwerth arian parod ar eu defnyddio'n deg: 6.1. Hen grysau-T; paent; hen gynfasau gwely; pennau marcio; Blu-tack; cardbord wedi'i ddefnyddio'n barod; hen bren; pensiliau; llinyn; tâp gludiog; pinnau, eitemau gwisg ffansi ail law. Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr a dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau at y Dirprwy Swyddog Canlyniadau. 6.2. Mae'r rheol hon wedi cael ei chynnwys er mwyn cynorthwyo ymgeiswyr i wneud y cyfnod etholiadau'n gyfnod cyffrous, bywiog ac uchel ei broffil. Mae'r Swyddog Canlyniadau a'i ddirprwy yn ymwybodol fod y rheol hon yn agored i'w chamddefnyddio a byddant yn monitro adnoddau'r ymgyrch yn agos oherwydd hynny. Cofiwch mai nhw yw'r bobl sy'n pennu 'defnydd teg'. Deunydd Cyhoeddusrwydd Printiedg 1. Etholiadau Cynghorwyr Undeb Bangor 1.1. Ni chaniateir deunydd cyhoeddusrwydd printiedig yn Etholiadau Cynghorwyr Undeb Bangor 2. Etholiadau’r Swyddogion Sabothol 2.1. Ni chaniateir unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd printiedig. Deunydd Cyhoeddusrwydd nad yw'n Brintiedig 1. Rhwydweithio Cymdeithasol 1.1. Facebook: 1.1.1.Rhaid i enw eich tudalen fod yn ddwyieithog 1.1.2.Dylech arddangos eich cyflwyniad, eich maniffesto ac amserlen yr etholiad a chyfarwyddiadau pleidleisio yn ddwyieithog. 1.1.3.Gellir arddangos y diweddaraf am statws, nodiadau, negeseuon wal a phynciau trafod yn yr iaith a ddewiswch. 1.2. Twitter 1.2.1.Gellwch ymgyrchu yn yr iaith a ddewiswch 1.3. Cyfryngau cymdeithasol eraill 1.3.1.Lle bo'n berthnasol, dylech arddangos eich cyflwyniad, eich maniffesto ac amserlen yr etholiad a chyfarwyddiadau pleidleisio yn ddwyieithog. 1.4. Fideos Etholiadau 1.4.1.Rydym yn eich annog i gynhyrchu fideos etholiadol a rhoi cyhoeddusrwydd iddynt ar gyfryngau cymdeithasol. 1.4.2.Caiff fideos fod yn yr iaith a ddewiswch. 1.4.3.Rhaid i'r holl destun ysgrifenedig mewn fideos fod yn ddwyieithog.
6
Deunydd Cyhoeddusrwydd Pellach 1. Caniateir i ymgeiswyr gynhyrchu a/neu brynu deunydd cyhoeddusrwydd ac ymgyrchu pellach yn unol â'r rheolau a nodir o dan wariant etholiadau. Polisi Dwyieithog a Chyfieithu 1. Rhaid i chi gyflwyno eich maniffesto a HOLL gynnwys eich deunydd cyhoeddusrwydd ac ymgyrchu (posteri/pamffledi/taflenni/baneri/crysau-t etc.) gyda’ch enwebiad erbyn dyddiad cau cyhoeddusrwydd. 2. Caiff eich testun ei gyfieithu, ei brawfddarllen a'i ddychwelyd atoch. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn rhoi amlygrwydd cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg yn eich deunydd cyhoeddusrwydd ac ymgyrchu. Er cysondeb rydym yn argymell bod y Gymraeg i'r chwith o'r Saesneg neu uwch ei ben. Mae enghreifftiau o gyhoeddusrwydd etholiadau blaenorol i'w gweld ar wefan Undeb Bangor fel arweiniad i'ch helpu. 3. Y cyfyngiad cyfieithu ar gyfer cyhoeddusrwydd a baratoir cyn dechrau’r cyfnod ymgyrchu yw: 3.1. Etholiad Cynghorwyr Undeb Bangor - Cyfanswm o 350 o eiriau. Mae hyn yn cynnwys y canlynol: 3.1.1.Eich maniffesto – 300 o eiriau 3.1.2.Eich slogan – 10 gair 3.2. Etholiadau Swyddogion Sabothol 3.2.1.Eich Maniffesto – 350 o eiriau 3.2.2.Eich Slogan – 10 gair 3.2.3.Testun cyhoeddusrwydd pellach - 300 gair 4. Yn dilyn cyfieithu’r holl gyhoeddusrwydd a dderbyniwyd erbyn y dyddiad cau, gall ymgeiswyr gyflwyno dyluniadau neu destun pellach i’w cyfieithu os dymunant ond dylent ganiatáu amser rhesymol i’r uned gyfieithu gyflawni’r gwaith. Ni ellir gwarantu y caiff cyfieithiad ei ddychwelyd, ond gwneir pob ymdrech i sicrhau hynny. Ymgeiswyr sy'n Ddeiliaid Swyddi 1. Rhaid i ymgeiswyr presennol beidio ag ymgyrchu yn ystod eu horiau gwaith a rhaid iddynt gymryd gwyliau blynyddol i ymgymryd ag unrhyw fath o ymgyrchu gweithredol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw ymgyrchu ar lwyfannau ar-lein a chyfryngau cymdeithasol. 2. Rhaid cyflwyno amserlen i'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau yn rhoi manylion am oriau gwaith ac oriau ymgyrchu. Rhaid i hynny gynnwys oriau gyda'r hwyr. Rhaid cyflwyno'r amserlen hon cyn dechrau gweithgarwch ymgyrchu yn hytrach nag yn ôl-weithredol. Darperir templed i ymgeiswyr ei lenwi. 3. Ni ellir gwisgo dillad â brand Undeb wrth ymgyrchu. 4. Ni ellir defnyddio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Undeb, er enghraifft cyfrifon neu dudalennau Facebook Swyddogion Sabothol, i ymgyrchu nag i hyrwyddo etholiadau. 5. Ni ellir defnyddio rhestrau gohebu Undeb at ddibenion ymgyrchu. 6. Wrth ymweld â grwpiau i ymgyrchu, rhaid ei gwneud yn eglur nad yw'r ymgeiswyr sy'n ddeiliaid swyddi yn bresennol ar fusnes Undeb y Myfyrwyr yn eu swyddogaeth fel Swyddogion Sabothol. Rhaid cynnwys manylion yn yr oriau ymgyrchu ar yr amserlen. 7. Ni cheir defnyddio adnoddau Undeb y Myfyrwyr i gynorthwyo ag ymgyrchu. Cwynion 1. Rhaid i bob cwyn ynglŷn ag ymgeiswyr, ymgyrchwyr, swyddogion etholiadol neu’r broses bleidleisio gael eu cyflwyno i'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau gan ddefnyddio'r Ffurflen Cwynion Etholiadau ffurfiol drwy e-bost. Dim ond cwynion a gyflwynir wrth ddefnyddio'r Ffurflen Cwynion Etholiadau swyddogol a fydd yn cael eu hystyried. Rhaid i'r gŵyn fod yn ffeithiol a rhaid iddi gynnwys tystiolaeth glir o dorri'r rheolau ac amlygu'r rheol etholiadol a dorrwyd.
7
2. Yn y lle cyntaf bydd y Dirprwy Swyddog Canlyniadau yn ystyried y gŵyn ac yn gwneud dyfarniad o fewn 24 awr. Os bernir ei fod yn fater difrifol, gall y Dirprwy Swyddog Canlyniadau ei gyfeirio ar unwaith at y Swyddog Canlyniadau i'w ystyried. 3. Dylid gwneud cwynion ynglŷn ag ymddygiad y Dirprwy Swyddog Canlyniadau yn ysgrifenedig yn uniongyrchol i'r Swyddog Canlyniadau. 4. Rhaid cyflwyno cwynion cyn dechrau’r cyfrif etholiadau. Dim ond cwynion ynglŷn â phroses y cyfrif ei hun a gânt eu hystyried ar ôl i'r cyfrif ddechrau, a rhaid cyflwyno'r cwynion hynny o fewn 24 awr o gyhoeddi'r canlyniadau. 5. Dyma'r sancsiynau sydd ar gael i'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau: 5.1. Rhybuddio ymgeisydd ynghylch ei h/ymddygiad yn y dyfodol. 5.2. Cymryd camau i sicrhau amodau cyfartal i bawb i unioni achos o dorri rheoliad etholiad. 5.3. Dirwyo ymgeisydd trwy naill ai leihau faint o arian y gallant ei wario, neu drwy gael gwared â deunydd cyhoeddusrwydd printiedig. 5.4. Gwahardd ymgeisydd a’i ymgyrchwyr rhag ymgyrchu am gyfnod o amser (hyd at 24 awr). 5.5. Gwahardd ymgyrchydd o weddill yr ymgyrch (lle nad yw'r ymgyrchydd yn ymgeisydd). 6. Yn ogystal â'r holl sancsiynau uchod, mae'r canlynol ar gael i'r Swyddog Canlyniadau: 6.1. Diarddel ymgeisydd o’r etholiad nes bod ymchwiliad yn cael ei gynnal 6.2. Atal yr etholiad nes bod ymchwiliad yn cael ei gynnal 6.3. Argymell i’r pwyllgor etholiadau, a’r brifysgol, bod ymgeisydd yn cael ei ddiarddel 6.4. Argymell i'r pwyllgor etholiadau, ac i'r brifysgol, y dylid ail-gynnal yr etholiad neu ddirymu pleidlais. 7. Gall ymgeiswyr apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir gan y Swyddog Canlyniadau a'i Ddirprwy trwy gyflwyno eu hapêl yn ysgrifenedig, trwy e-bost, i etholiadau@undebbangor.com cyn pen 24 awr ar ôl gwneud y penderfyniad, gan ddilyn y drefn apelio a nodir isod: 7.1. Clywir cam cyntaf yr apêl gan y Swyddog Canlyniadau; os yw’r ymgeisydd yn parhau i fod yn anfodlon, yna 7.2. Gellir cymryd ail gam apêl i’r Pwyllgor Etholiadau a fydd yn clywed yr achos a gyflwynir gan yr ymgeisydd a’r achos dros osod sancsiynau a gyflwynir gan y Swyddog Canlyniadau, neu ei Ddirprwy enwebedig. 7.3. Mae'r cam apêl terfynol i Ddirprwy Is-ganghellor, neu ei ddirprwy enwebedig. 7.4. Dylai cais am apêl fod am y rhesymau a ganlyn, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: 7.4.1.Adolygiad o'r trefniadau a ddilynwyd yn ystod y cam cwyno 7.4.2.Ystyriaeth ynglŷn ag a oedd y canlyniad yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau 7.4.3.Unrhyw dystiolaeth berthnasol newydd nad oedd y myfyriwr, am resymau dilys, yn gallu ei darparu yn gynharach yn y broses. 8. Bydd unrhyw ohebiaeth e-bost i’r Swyddog Canlyniadau neu'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau yn cael ei chydnabod trwy e-bost o fewn 24 awr; os nad ydych yn derbyn e-bost o gydnabyddiaeth peidiwch â rhagdybio ein bod wedi derbyn eich neges - ffoniwch 01248 388000 i wirio hynny.
8