ADRODDIAD BLYNYDDOL
2022 ADRODDIAD BLYNYDDOL UMCB LLYWYDD UMCB 2021/22 : MABON DAFYDD CYHOEDDYWD: MEHEFIN 2022
02
DIWEDDARIAD Y LLYWYDD MABON DAFYDD
Shwmae bawb! Wrth i'r flwyddyn academaidd ddod i ben, mae'n deg dweud ei fod hi wedi bod yn flwyddyn gyffrous iawn i UMCB, ond un sydd wedi cynnig heriau gwahanol. Roedd hi'n flwyddyn a welodd nifer o ddigwyddiadau yn dychwelyd i galendr y flwyddyn. Mae UMCB wedi parhau i fod yn lais cryf ar ran myfyrwyr cyfrwng Cymraeg y Brifysgol wrth ei cynrychioli nhw yn academaidd ac yn gymdeithasol. Teimlaf ein bod wedi estyn allan i’r Gymuned ehangach eleni gan greu partneriaethau newydd a’r gymuned a cynyddu diddordeb am y Gymraeg ymysg myfyrwyr y Brifysgol. Gobeithio gwneith yr adroddiad yma gyfleu’r mwynhad a’r holl brofiadau yr ydym ni fel Undeb Myfrwyr Cymraeg Bangor wedi’w gael eleni. Mae gymaint o uchafbwyntiau wedi bod drwy gydol y flwyddyn o fewn UMCB o’r Eisteddfod Rynggolegol, i lansiad myf.cymru, i lwyddiannau ein cymdeithasau i Gŵ yl UMCB. Mae wedi bod yn flwyddyn anhygoel.
03
UMCB AC UNDEB BANGOR Eleni mae’r berthynas rhwng UMCB a’r Undeb wedi cryfhau yn bellach ers i UMCB uno’n llawn gyda’r Undeb nôl yn 2017. Rydym wedi gweld newidiadau i strwythur staffio’r Undeb lle rydym wedi gweld gwaith UMCB yn dod yn rhan amlycach o swydd ddisgrifiadau, a’r elfen gwirfoddoli drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei gryfhau. Roedd yr Eisteddfod Rhyngol hefyd yn ddigwyddiad gwych lle gafodd yr holl staff gyfle i gefnogi trefniadau’r Eisteddfod a gweld y talent a’r diwylliant Cymraeg ar ei orau.
04
LLYWODRAETHIANT UMCB PWYLLGOR GWAITH UMCB
Pwyllgor Gwaith UMCB 2021/22 Llywydd UMCB - Mabon Dafydd Llywydd JMJ - Catrin Lois Jones Cynrychiolydd yr 2il Flwyddyn - Lowri Davies Cynrychiolydd y 3edd Flwyddyn - Cadi Fflur Evans Cynrychiolydd Ôl-raddedig - Huw Geraint Jones Cynrychiolydd Galwedigaethol - Beca Dafydd Cynrychiolydd LHDTC+ - Celt John Y Cymric - Cadi Elen Roberts, Catrin Fflur Jones, Huw Evans, Siriol Howells Cynrychiolydd y Flwyddyn 1af- Owain Hughes Cynrychiolydd Myfyrwyr Cartref - Cain Hughes Swyddog RAG - Lowri Powell Rhaid rhoi gair o ddiolch i’r Pwyllgor eleni am yr agwedd cadarnhaol maent wedi cael ar y sefyllfa. Heb eu cefnogaeth a chymorth byddai sicrhau fod UMCB ar y llwybr cywir wedi bod yn anodd iawn.
05
Am yr ail flwyddyn yn olynol mi roedd Celt John yn Gynrychiolydd UMCB ar Cyngor y Myfyrwyr, gyda Oliver Wright yn Gynrychiolydd Cyfrwng Cymraeg. Cynhaliwyd Etholiadau UMCB ddiwedd mis Ebrill eleni, roedd hi'n braf iawn gweld gymaint o ymgeiswyr yn mynd am y rolau i fod ar y Pwyllgor. Dyma'r criw fydd yn llywio UMCB'r flwyddyn nesaf. Llywydd UMCB - Celt John Llywydd JMJ - Beca Rhys Evans Cynrychiolydd yr 2il Flwyddyn - Siriol Hughes Cynrychiolydd y 3edd Flwyddyn - Ela Pari Cynrychiolydd Galwedigaethol - Catrin Gerallt Jones Cynrychiolydd LHDTC+ - Tesni Peers Swyddog RAG- Lowri Powell Y Cymric - Callum Evans, Catrin Lois Jones, Gronw Ifan, Samantha Goad Cafodd y cynrychiolwyr Chwaraeon, sydd yn rhan o'r Is-Bwyllgor Cymdeithasau eu dewis hefyd gyda Elain Elis a Rhydian Williams yn cael eu hethol. Bydd rolau Cynrychiolydd y Flwyddyn 1af, Cynrychiolydd Myfyrwyr Cartref a Cynrychiolydd Ôl-raddedig yn cael eu hethol mewn isetholiad yn y flwyddyn academaidd newydd. Pob lwc i'r Pwyllgor newydd! Fydd hi'n flwyddyn gyffrous iawn i UMCB a dwi'n siwr fydd y Pwyllgor yn sicrhau fod yna ddigonedd o fwrlwm i gael ymysg y bywyd myfyriwr cyfrwng Cymraeg yma ym Mangor.
06
UMCB A'R GYMUNED Parhawyd â'r traddodiad diweddar o waith elusennol a chodi arian parhaus gan UMCB eleni eto. Cynhaliwyd Ocsiwn yn nhigwyddiad Swper Olaf, trefnwyd gêm bêl-droed rhwng tîm dynion y Cymric a'r Hen Sêr. Trefnwyd De Prynhawn yn Neuadd Gyffredin JMJ gan Llywydd JMJ Catrin Lois Jones. Fel yr arfer erbyn hyn fe gynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau a oedd yn gysylltiedig gyda mis Tashwedd gyda'r bechgyn yn tyfu 'mwstash' a fe gafodd ras hwyl ei chynnal. Hefyd wrth gwrs fe lwyddodd Aelwyd JMJ i godi arian at elusen y DPJ yn ei Cyngerdd Nadolig blynyddol nhw. Mae UMCB hefyd wedi ymrwymo i fwy o gyfleoedd gwirfoddoli nag erioed o'r blaen eleni. Fe wnaethom drefnu Te Parti Gwyl Ddewi ar y cyd gyda Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor a mae Aelwyd JMJ wedi canu mewn amryw o ddigwyddiadau gwirfoddol megis digwyddiad a oedd yn rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia. Rydym ni hefyd yn y broses o drefnu Prosiect Gwirfoddoli newydd ar y cyd gyda Menter Iaith Bangor mewn Ysgolion Cynradd.
CYFATHREBU Llwyddon ni i ddatblygu ein defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol eleni trwy rannu gwybodaeth ar Facebook, Instagram a Twitter gyda'n myfyrwyr. Fe wnaethom ddefnydd helaeth o'r grŵ p Facebook 'Cyfleoedd Gwaith UMCB' i rannu unrhyw gyfleoedd cyflogadwyedd neu gwirfoddol. Roedd y Ffair Swyddi Cymraeg a gafodd ei gynnal ar-lein yn lwyddiant mawr eto eleni, gan lwyddo i ymgysylltu gyda'n myfyrwyr a hybu eu sgiliau cyflogadwyedd a fydd mor werthfawr iddynt ar ôl graddio. Roeddem hefyd yn rhannu gwybodaeth am Diwrnod Hawliau'r Gymraeg, Yr Arolwg Dysgu ac Addysgu a llawer mwy gyda'n myfyrwyr trwy ein Blwch E-bost Myfyrwyr Cymraeg.
07
NEUADD JMJ Roedd hi'n braf iawn gweld nosweithiau cymdeithasol yn dychwelyd i Neuadd Gyffredin JMJ eleni, yn dilyn blwyddyn anodd llynedd o gyfyngu i grŵ piau cymdeithasol o fewn fflatiau. Roedd y myfyrwyr yn hynod werthfawrogol ac fe fanteiswyd ar y cyfleoedd. Roedd yna bwyslais mawr ar annog fyfyrwyr i fynd i'r Ystafell Gyffredin. Fe gynhaliwyd De Prynhawn gan Catrin, Llywydd JMJ ym mis Mai i godi arian tuag at meddwl.org. Yn ogystal a nosweithiau ffilms a nifer o ddigwyddiadau amrywiol eraill. Yn dilyn trafodaethau rydym yn falch iawn o glywed y bydd Neuadd JMJ yn cael ei adnewyddu o fewn y blynyddoedd nesaf. Cynhaliwyd grŵ piau ffocws gyda nifer o fyfyrwyr y neuadd breswyl yn mynychu i ddatgan eu barn ar yr agweddau sydd angen gwella.
08
YMGYRCHU Ar y 7fed o Ragfyr 2021 fe ddathlodd UMCB, Diwrnod Hawliau'r Gymraeg fel rhan o ymgyrch comisiynydd y Gymraeg i sicrhau fod myfyrwyr yn ymwybodol o'i hawliau iaith Gymraeg o fewn y Brifysgol. Roeddem yn teimlo fod adnewyddu'r holl wybodaeth yn hanfodol gan sicrhau fod y neges yn glir wrth i fyfyrwyr ddychwelyd i ddarlithoedd a seminarau yn y cnawd. Unwaith eto eleni bu dathlu yn ystod Wythnos Shwmae Su'mae. Cafodd Gŵ yl UMCB ei gynnal am y tro cyntaf erioed gyda artistiaid a bandiau yn chwarae ar draws y ddinas. Yn ogystal, darparodd y Brifysgol 10% i ffwrdd ar ei diodydd twym i unrhyw un oedd yn gofyn amdano yn y Gymraeg. Mi wnaeth UMCB gyfrannu i ymgyrchoedd gwahanol yr Undeb megis 'Give it a Go', Ymgyrch Tlodi misglwyf a'r ymgyrchoedd a godwyd o ganlyniad i achosion o 'speicio' ac aflonyddu rhywiol yn lleol ac yn genedlaethol. Roedd UMCB hefyd yn rhan o drefnu'r Te Parti Gŵ yl Ddewi ar y cyd gyda Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor. Roedd hi'n ddigwyddiad hynod o llwyddiannus gan ddarparu cawl a 'pice ar y mân' neu 'gacen gri' i'r henoed. Fe lwyddodd ein timau Chwaraeon godi dros £400 yn ystod mis 'Tashwedd i hybu elusennau iechyd meddwl dynion. Trwy dyfu 'mwstash' a cymryd rhan mewn ras hwyl. Cynhaliwyd sesiwn Taclo'r Tabw i gyd-fynd gyda'r mis a oedd yn gyfle i'n dynion ni siarad yn agored am eu teimladau iechyd meddwl. Yn ogystal fe ddathlwyd Mis Hanes LHDTC+ drwy rannu gwybodaeth am hanes y gymuned, a fe newidiodd UMCB ei 'lun proffil' ar yr holl blatfformau i ddatgan cefnogaeth i'r ymgyrch.
09
MYF.CYMRU Mae datblygu darpariaeth iechyd meddwl cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr wedi bod yn weledigaeth hir dymor o fewn Undebau Myfyrwyr y wlad. Felly roedden ni mor falch fod Prosiect myf.cymru wedi lansio eleni yn dilyn blynyddoedd o baratoi. Corff cyhoeddus hefcw sydd yn ariannu’r prosiect ac mae’n adnodd sydd yn torri tir newydd yn y sector addysg uwch yma yng Nghymru. Cafodd lansiad swyddogol ei gynnal yn y senedd fis Mai i nodi’r achlysur a lansio’r ddarpariaeth a’r adnoddau sy’n cynnwys - gwefan cyfrwng Cymraeg gyda adnoddau iechyd meddwl, app dwyieithog, podlediad gyda myfyrwyr yn rhan o dylunio, creu a siarad ynddo. Roedd UMCB yn ddigon lwcus i gael lansio’r digwyddiad ar ôl bod yn rhan llawn o’r prosiect o’r cychwyn cynt. Mae ein myfyrwyr wedi ymgysylltu’n wych gyda’r prosiect yn yr amser byr y maent wedi bod yn weithgar. Buodd nifer o’n myfyrwyr ni yn rhan o bodlediad ‘sgwrs’, sydd yn bodlediad sydd yn drafodaethau agored a gonest am iechyd meddwl. Mae penodau o’r podlediad sy’n cael ei gyflwyno gan Trystan Ellis-Morris yn cael eu rhyddhau’n gyson. Mae wir yn wych gweld bod Staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor ar flaen y gâd o darpariaeth cyfrwng Cymraeg a chyfranogiad ac ymrwymiad i’r prosiect. Mae gan myf.cymru potensial a dyfodol hynod lewyrchus o’i flaen, dwi’n sicr o hynny. Gobeithiwn y gallwn barhau â’r gwaith caled a wnaethpwyd i’w sefydlu trwy annog myfyrwyr i sgwrsio’n fwy agored am iechyd meddwl trwy gyfrwng eu mamiaith.
10
UNDEBAU CYMRAEG CYMRU Roedd hi’n fraint cael eistedd ar Fwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni ynghyd ag arweinwyr Undebau Myfyrwyr arall Cymru. Cefais hefyd gyfle i fynychu Llys blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ystod y flwyddyn. Roedd y mewnbwn a rannwyd gan y Coleg yn ddefnyddiol iawn i mi, a roedd hi’n braf gweld darpariaeth y Coleg yma ym Mhrifysgol Bangor yn parhau i ffynnu wrth iddi gyrraedd carreg filltir nodedig o ddeng mlynedd eleni. Cefais hefyd y fraint ym mis Rhagfyr o gael fy ngwahodd i Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol, Senedd Cymru. Rhoddwyd y cyfle i mi drafod y materion a oedd yn effeithio myfyrwyr Cymru fwyaf yn sgil Covid-19, yn bennaf mi roedd dychwelyd i Ddysgu ac Addysgu wyneb yn wyneb a iechyd meddwl ar frig yr agenda. Hoffwn hefyd longyfarch Swyddog rhan amser y Gymraeg a’r criw ym Mhrifysgol Caerdydd a sicrhaodd eleni y bydd Swyddog llawn amser cyfrwng Cymraeg yn rhan o’i Tîm Sabothol nhw erbyn y flwyddyn 2023/24. Hir yw pob ymaros ond mae hon yn fuddugoliaeth nodedig arall i’r Gymraeg o fewn y sector addysg uwch, a dwi’n disgwyl ymlaen i weld y datblygiadau o fewn yr Undeb yng Nghaerdydd dros y blynyddoedd nesaf.
11
DIGWYDDIADAU Roedd hi’n wych gweld nifer o ddigwyddiadau traddodiadol UMCB yn dychwelyd i’r calendr eleni. Mae hi wedi bod yn flynyddoedd heriol i fyfyrwyr dros y ddwy flynedd a mwy ddiwethaf, felly roedd gweld myfyrwyr UMCB yn mwynhau yn y digwyddiadau yma yn bleser. Dyma grynodeb o rhai o brif ddigwyddiadau’r flwyddyn.
WYTHNOS Y GLAS
GŴYL UMCB
Roedd cyffro mawr wrth adeiladu tuag at
Eleni am y tro cyntaf fe benderfynais gynnal
Wythnos y Glas eleni wrth i bawb sylweddoli
Gŵ yl UMCB. Roedd hi’n gynllun uchelgeisiol,
ein bod ni am brofi Wythnos y Glas ‘normal’
ond dwi’n credu llwyddon ni i drefnu chwip
eleni. Ni chafodd unrhyw un ei siomi,
o Ŵ yl. Chwaraeodd 13 o fandiau ac artistiaid
cynhaliwyd yr Ŵ yl Groeso gan yr Undeb ar
a oedd yn cynnwys Yr Eira, Alffa, Y Cledrau
draws Safle Ffriddoedd gyda cymdeithasau a
ac Elis Derby ar draws 4 lleoliad- Y Glôb,
chlybiau o UMCB yn rhan o honno. Yn
Paddys, Academi a Pontio.
ogystal fe gynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau croeso yn JMJ a thu hwnt gyda digwyddiadau fel y Meic agored, y crolau ac Hasbins yn dychwelyd. Wythnos lwyddiannus a helpodd pawb i setlo yma ym Mangor.
GLODDEST
TWENTI-TWENTI-TŴDALŴ
Roedd teimlad mawr ymysg y Cymric a’n myfyrwyr ni eleni fod angen digwyddiadau mawr ar ddiwedd y flwyddyn eleni, ac fe gafwyd hynny. Trefnwyd amryw o
Roedd Gloddest yn ôl eleni gyda dros 170 o’n
ddigwyddiadau megis Swper Olaf, Crôlaf,
myfyrwyr yn mynychu’r digwyddiad
Mabolgampau a llawer mwy. Cafodd tair
poblogaidd sydd yn gyfle i’n myfyrwyr ni
cenhedlaeth o’n myfyrwyr ni ei Dawns yr Haf
wisgo’n smart i ddathlu diwedd y flwyddyn
cyntaf hefyd i ychwanegu i’r bwrlwm. Roedd
a’r tymor Nadoligaidd. Gwesty’r Celt,
hi’n bythefnos olaf emosiynol wrth i nifer
Caernarfon oedd ein lleoliad ar gyfer y
ffarwelio â’r Brifysgol, ond un bythgofiadwy i
wledd. Digwyddiad llwyddiannus diolch
bawb mae hynny’n sicr.
iddynt am y croeso.
12
YR EISTEDDFOD RYNG-GOLEGOL Eleni cafodd yr Eisteddfod Ryng-golegol ei chynnal yma ym Mangor yn dilyn blwyddyn o seibiant. Cafwyd chwip o benwythnos gyda myfyrwyr o ar draws Cymru a thu hwnt yn heidio i Fangor ar gyfer digwyddiad mwyaf y calendr rhyng-golegol. Y Chwaraeon ar y Dydd Gwener gychwynnodd y Penwythnos gyda gemau rygbi, pêl-droed a pêl-rwyd yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Brailsford a Caeau Treborth. Roedd hi’n gystadleuaeth lwyddiannus gyda Bangor yn cipio’r cwpan Chwaraeon wedi i’r merched gwblhau ‘clean sweep’ yn ei holl gemau ar draws pob camp. Wedi noson o gymdeithasu ym Mangor Uchaf a thu hwnt, roedd hi’n amser ar gyfer cystadlu’r Eisteddfod Fore a Prynhawn Sadwrn. Roedd y safon yn uchel gyda’r beirniaid Hywel Pitts a Ffion Emyr yn gorfod gwneud penderfyniadau mawr. Ym mhrif gystadlaethau’r diwrnod roedd yr enillwyr fel a ganlyn: Y Gadair: Tomos Lynch (Prifysgol Aberystwyth). Y Goron: Twm Ebbsworth (Prifysgol Aberystwyth). Y Fedal Ddrama: Joseff Owen (Prifysgol Bangor). Tlws y Cerddor: Celt John (Prifysgol Bangor). Y Fedal Gelf: Emily Ellis (Prifysgol Aberystwyth). Medal y Dysgwyr: James Horne (Prifysgol Bangor). Y Fedal Wyddoniaeth: Trystan Gwyn (Prifysgol Aberystwyth). Prifysgol Bangor oedd yn fuddugol yn yr Eisteddfod Ryng-golegol am y seithfed tro yn olynol. Gan sicrhau fod y darian yn aros yn y Gogleedd. Camp aruthrol sydd yn destament i ymroddiad ein myfyrwyr i weithgareddau UMCB. Symudodd y noson ymlaen i Pontio a’r Gig Nos, gyda bron i 500 o fyfyrwyr yn mynychu’r digwyddiad gyda Candelas, Gwilym, Papur Wal a Ciwb yn ‘rocio’ llwyfan Theatr Bryn Terfel. Roedd y misoedd o waith trefnu yn sicr wedi dwyn ffrwyth, er fod straen mawr arnom ar adegau. Hoffwn ddiolch i’r Brifysgol am y cymorth i ni wrth gynnal y digwyddiad. Yn enwedig i’r adrannau llety, arlwyo, Bar Uno, Chwaraeon, Iechyd a Diogelwch ac wrth gwrs i’r Undeb am yr holl gymorth a gwaith caled wrth drefnu’r digwyddiad.
13
CYMDEITHASAU, CHWARAEON A PROSIECTAU Mae arweinydd pob cymdeithas a'r cynrychiolydd chwaraeon wedi ysgrifennu adroddiad eu hun, sydd wedi'w atodi ar ddiwedd yr adroddiad. Ond dyma yn fras ychydig o fy safbwyntiau i ar ein cyfleoedd ni mewn blwyddyn lwyddiannus iddynt. Roedd gweld Aelwyd JMJ yn cystadlu yn yr Eisteddfod yr Urdd am y tro cyntaf ers tair blynedd eleni, yn gret ac yn ryddhad mawr i'r Aelwyd. Mae'r ffaith ei fod nhw wedi sicrhau gymaint o lwyddiant yn gamp aruthrol trwy ennill yn y gystadleuaeth Parti Cerdd Dant, dod yn ail yn yr Ensemble Lleisiol a dod yn drydydd yn y Côr Mawr. Roedd ei Cyngerdd Nadolig hefyd yn lwyddiant ysgubol, ac mae'n werth canmol ei parodrwydd i gymryd rhan neu ganu mewn amryw o wahanol digwyddiadau gwirfoddol. Mae ein timau Chwaraeon wedi mynd o nerth i nerth eto eleni i sicrhau fod ein timau chwaraeon cyfrwng Cymraeg yn ffynnu ac yn parhau i ddenu diddordeb ein myfyrwyr. Cafodd Tîm Darts y Cymric ei sefydlu eleni i ychwanegu i’n campau amrywiol. Buodd ein tîm pêl-rwyd yn cymryd rhan mewn cynghrair wythnosol draw ym Mhenygroes drwy’r flwyddyn a brofodd yn llwyddiannus ymysg ein myfyrwyr. Sefydlwyd y Gynghrair Rygbi Ryng-golegol rhwng timau rygbi cyfrwng Cymraeg Prifysgolion Bangor, Aberystwyth, Caerdydd ac Abertawe. Llwyddodd ein timau pêl-droed a hoci hefyd i drefnu gemau cyfeillgar yn erbyn timau lleol a brofodd yn gemau cystadleuol iawn.
14
Heb anghofio am lwyddiannau’r timau rygbi yn nhwrnamaint 7 bob ochr Aberystwyth fis Ebrill. Llwyddodd y tîm Dynion i gyrraedd rownd y chwarteri yng nghystadleuaeth y cwpan. Tra lwyddodd y merched i gyrraedd rownd gyn-derfynol y cwpan. Camp anhygoel wrth i’r Cymric wynebu rhai o dimau 7 bob ochr lled-broffesiynol orau’r wlad. Cafodd Stomp Cymdeithas John Gwilym Jones ei chynnal eleni am y tro cyntaf ers tair blynedd. Clena oedd lleoliad y Stomp ac oedd hi’n ddigwyddiad hynod o lwyddiannus gyda chwech o’n myfyrwyr neu’n beirdd ni yn cystadlu yn erbyn eu gilydd i ennyn cefnogaeth y gynulleidfa a oedd yn penderfynu ar eu hoff gerddi. Yn anffodus ni chynhaliwyd drama Cymdeithas John Gwil eleni, ond y gobaith ydy y bydd hi yn ôl flwyddyn nesaf fel yr oedd hi cyn amseroedd covid. Roedd hi’n wych gweld platfform digidol y Llef yn ôl yn weithgar eleni gyda darnau yn cael eu hysgrifennu am ein digwyddiadau fel Yr Eisteddfod Ryng-golegol a Gŵ yl UMCB. Rydym hefyd yn falch ein bod wedi sefydlu partneriaeth gyda Bro360 ‘BangorFelin’ fel bod ein myfyrwyr yn gallu uwch lwytho unrhyw ddeunydd newyddiadurol i’w gwefan nhw. Mae’r Prosiect Ffrind Cymraeg wedi bod yn llwyddiannus iawn eleni hefyd. Cynhaliwyd 6 sesiwn ar draws y flwyddyn gyda’r cyfranogiad gan ddysgwyr a siaradwyr rhugl yn gryf iawn. Roedd y cwis diwedd flwyddyn yn ddigwyddiad gwych, ac mae’r sesiynau wedi cynnig cyfle anffurfiol buddiol iawn i ddysgwyr ymarfer eu sgiliau iaith. Yn anffodus nid oedd Radio UMCB yn weithredol eleni yn dilyn problemau technegol gyda’r system wrth fynd nol i’r stiwdio yn dilyn amser hir i ffwrdd. Y gobaith ydy y bydd modd iddynt ail-gydio ynddi flwyddyn nesaf.
15
GWOBRAU UMCB Roedd hi mor braf gallu cyflwyno Gwobrau UMCB ar ei newydd wedd eleni. Cynhaliwyd noson yn Hwb Gweithgareddau newydd yr Undeb i ddathlu ein holl lwyddiannau drwy gydol y flwyddyn. Cafwyd ambell'i berfformiad ar y noson a dangoswyd fideo i ddathlu ein llwyddiannau yn yr Eisteddfod Rynggolegol. Y panel gwobrwyo eleni oedd Yr Athro Andrew Edwards, Ms Elinor Churchill o'r adran gyflogadwyedd, Dr Llion Jones Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr a Mair Rowlands Cyfarwyddwr Undeb Bangor. Dwi mor falch bod cymaint o'n myfyrwyr ni wedi cael eu gwobrwyo, mae'n destament i'r gwaith caled a wnaethpwyd drwy'r flwyddyn. Llongyfarchiadau mawr i chi gyd! Dyfernir y gwobrau fel a ganlyn:
CYDNABYDDIAETH ARBENNIG Cadi Elen Roberts Catrin Fflur Jones Catrin Hedges Catrin Lois Jones Celt John Grug Evans Heledd Davies Mared Fflur Jones Mared Wyn Jones Siriol Howells
DYSGWR Y FLWYDDYN James Horne
DIGWYDDIAD Y FLWYDDYN Cyngerdd Nadolig Aelwyd JMJ
CLWB, CYMDEITHAS NEU GRŴP UMCB Y FLWYDDYN (TLWS AFALLON) Aelodau Pwyllgor yr Eisteddfod Ryng-golegol
YMRODDIAD ARBENNIG Beca Evans Cadi Fflur Evans Callum Evans Elain Elis Grown Ifan Huw Evans Huw Geraint Jones Joseff Owen Lleu Pryce Lowri Davies Mared Griffiths Mari Jones Owain Hughes Sara Roberts Twm Herd
16
UMCB A'R BRIFYSGOL Mae’n deg dweud fod UMCB wedi cynnal perthynas dda iawn gyda’r Brifysgol eleni, yn enwedig ar ôl blwyddyn anodd llynedd, lle roedd gwarchod y Gymraeg o fewn Colegau, Ysgolion ac Adrannau yn allweddol yn dilyn mwy o doriadau ac uno sefydliadau. Dwi wedi mwynhau bod yn rhan o amryw o Bwyllgorau ac yn gwerthfawrogi pan fu’r Brifysgol yn gofyn am farn y Swyddogion Sabothol a myfyrwyr ar unrhyw agwedd a fydd yn ein heffeithio ni. Credaf ein bod ni fel tîm sabothol wedi cyd-weithio’n effeithiol gyda Uwch dîm y Brifysgol. Cafwyd ambell broblem i’w datrys o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyrsiau megis y cwrs Astudiaethau Ieuenctid a Phlentyndod gyda rhai modiwlau ar y cwrs yn ddwyieithog yn hytrach na Chymraeg fel y’i hysbysebwyd. Gyda chymorth y cynrychiolwyr cwrs Cymraeg ar y cwrs yn allweddol i’r datrysiad. Buodd UMCB hefyd yn cyd-weithio gyda’r adran gyflogadwyedd a’r Coleg Cymraeg i gynnal Ffair Swyddi Cymraeg y Brifysgol ar-lein eleni. Roedd y diwrnod yn hynod o lwyddiannus gyda nifer o’n myfyrwyr ni yn manteision ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt. Erbyn y byddwch yn darllen y darn yma, dwi’n siŵ r y bydd Is-ganghellor newydd Prifysgol Bangor wedi cael ei benodi neu ei phenodi. Rhaid sicrhau fod y darpar Is-ganghellor yn gwarchod ac yn blaenoriaethu’r iaith Gymraeg ar draws holl sectorau’r Brifysgol. Ac yn dilyn bod yn rhan o sesiynau cychwynnol apwyntio gyda’r ymgeiswyr dwi’n ffyddiog y bydd y Gymraeg yn parhau i fod o bwysigrwydd i’r Brifysgol.
17
UMCB A'R BRIFYSGOL Marchnata Mae UMCB a marchnata wedi gweithio’n agos iawn gyda’i gilydd eleni. Trwy arddangos ein darpariaeth Gymraeg hynod ddeniadol mae’r cyd-weithio yn hynod effeithiol. Dwi wedi cael y cyfle i deithio’r wlad trwy farchnata’r Brifysgol mewn ffeiri UCAS yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Bae Colwyn a gweithio ar stondin y Brifysgol yn Eisteddfod yr Urdd. Cefais hefyd y cyfle i weithio mewn Diwrnodau Agored ac ymgeisio, gyda diwrnodau ar y campws yn dychwelyd eleni. Cafwyd ychydig o drafferthion ddechrau’r flwyddyn ar sut y gallwn arddangos y profiad myfyrwyr cyfrwng Cymraeg ar ei orau gan fod y Cinio’r Cymry bellach ddim yn rhan o amserlen y diwrnod ar Ddiwrnodau Agored. Dwi’n ffyddiog fod y sesiwn Croeso’r Cymry yn y bore yn addasiad perffaith, gan roi’r cyfle i ni gyfarch y darpar myfyrwyr yn anffurfiol dros baned a ‘pastri’, cyn symud ymlaen i’r sesiwn ychydig yn fwy ffurfiol ‘Byw yn y Gymraeg’ yn y prynhawn, lle mae UMCB yn gwneud cyflwyniad manwl ar ein holl arlwy cymdeithasol ac academaidd. Hoffwn ddiolch i’r Athro Andrew Edwards am ei gymorth wrth geisio sicrhau fod darpar myfyrwyr yn gweld y Gymraeg ar ei orau yma ym Mangor ac am ei gefnogaeth selog i UMCB. Hoffwn hefyd ddiolch yn fawr i’r holl dîm marchnata yr ydw i wedi gweithio gyda ar hyd fy mhedair blynedd yma ym Mangor. Dwi wedi mwynhau pob eiliad.
18
UMCB A'R BRIFYSGOL Canolfan Bedwyr Mae’r berthynas gyda Canolfan Bedwyr yn parhau i fod yn rinwedd allweddol i waith UMCB o ddydd i ddydd o fewn y Brifysgol. Roedd y wybodaeth a ddarparwyd ganddynt i ddathlu Diwrnod Hawliau’r Gymraeg a’r Ffair Swyddi Cymraeg. Hoffwn ddiolch yn fawr i Dr Llion Jones, Dr Lowri Angharad Hughes, Lois Roberts ac i Emily Boyman am yr holl gymorth a gafodd UMCB ganddynt drwy gydol y flwyddyn. Wrth helpu i ni gydymffurfio â pholisi iaith a safonau’r Gymraeg o fewn y Brifysgol boed rheini’n ddarlithoedd, ysgoloriaethau neu unrhyw anhawster cyffredinol. Mae’n rhaid hefyd rhoi clod a diolch i’r Uned gyfieithu am eu gwaith caled mewn amryw o Bwyllgorau a chyfarfodydd. Mae’r gallu i gynnig fy marn trwy gyfrwng y Gymraeg yn fuddiol iawn. Mae'r Ganolfan yn sicr yn sefydliad amhrisiadwy i'r Brifysgol. Pontio Roedd cyd-weithio gyda Pontio i drefnu Gŵ yl UMCB a Gig yr Eisteddfod Ryng-golegol yn brofiad hwylus iawn eleni. Mae diolch mawr yn mynd i Osian a Gwion a’r tîm i gyd am eu gwaith proffesiynol i sicrhau gigs o’r safon uchaf. Yn anffodus ni chafodd Cynhyrchiad Cymdeithas John Gwilym Jones ei chynnal eleni, ond mae Pontio yn eiddgar iawn i gynnal y digwyddiad eto flwyddyn nesaf.
19
CLOI Mae bod yn Lywydd ar Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor eleni wir wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd. Dwi wedi mwynhau pob eiliad, a dwi wedi elwa’n fawr o’r profiadau helaeth y gefais drwy gydol y flwyddyn. Yn ogystal a’r diolchiadau dwi wedi ei neud yn yr adroddiad. Hoffwn hefyd ddiolch yn fawr i Staff yr Undeb yn bennaf i Mair a Kat am y cymorth a’r cynorthwyo cyson ar wahanol bethau drwy’r flwyddyn, ac i Bwyllgor UMCB ac i holl fyfyrwyr UMCB am y cymorth a’r llawenydd parhaol a gefais yn fy amser yma fel Llywydd a fel myfyriwr. Nai fyth anghofio’r teimlad o gael fy nghodi ar lwyfan yr Eisteddfod Rynggolegol ar ôl ennill y darian. O ni’n gorfoleddu ac yn teimlo rhyddhad wedi misoedd o baratoi’r digwyddiad. Am flwyddyn! Pob lwc i Celt flwyddyn nesaf yn ei flwyddyn fel Llywydd, dwi’n siŵ r y bydd ganddo amryw o syniadau gwahanol ac y bydd yn lwyddiannus iawn yn y swydd. Mae dyfodol cyffrous iawn o flaen UMCB. Mae wedi bod yn fraint, diolch yn fawr,
Mabon Dafydd Llywydd UMCB 2021/22
20
ADRODDIAD AELWYD JMJ GAN GRUG EVANS Braf oedd bod gallu cynnal digwyddiadau Aelwyd wyneb yn wyneb ar ôl Covid-19. Croesawyd glasfyfyrwyr newydd I’r cor a dechreuwyd ar yr ymarferion ar gyfer ein digwyddiad cyntaf yn y flwyddyn sef y Cyngerdd Nadolig. Etholwyd Grug Evans yn Gadeirydd, Erin Byrne yn Is-Gadeirydd, Tegwen Bruce-Deans yn Ysgrifenyddes a Lleu Pryce yn Drysorydd. Roedd Cor SATB o dan ddwylo Celt John, Cor Bechgyn cael ei arwain gan Catrin Hedges a’r Cor Merched gan Twm Herd a Gronw Ifan. Cynhalwyd Cyngerdd Nadolig Aelwyd JMJ yn Gadeirlan Bangor a penderfynwyd godi arian ar gyfer sefydliad DPJ Foundation sy’n sefydliad sy’n cynnig cymorth iechyd meddwl i ffermwyr ar draws y Deyrnas Unedig. Llwyddwyd i godi £360 i’r elusen. Yn y flwyddyn newydd roedd ymarferion mewn bwrlwn gyda’r Aelwyd yn edrych ymlaen i gystadlu yng nghystadleuaeth Cor Cymru ond oherwydd nifer o aelodau’r Cor yn dal Covid penderfynwyd tynnu allan o’r gystadleuaeth a chanolbwyntio ar Eisteddfod Rhyng-golegol a oedd yn cael ei chynal ym Mangor eleni. Roedd ymarferion y corau yn eu hanterth gyda phawb yn paratoi a chanolbwyntio ar ennill yr Eisteddfod Ryng-olegol. Roedd nifer o aelodau’r pwyllgor wedi bod yn helpu mewn gwahanol faesydd i drefnu’r digwyddiad. Enillodd Bangor yr Eisteddfod am y 7fed flwyddyn yn olynnol ac roedd hyny gyda ymroddiad aelodau UMCB i ennill a chael digwyddiad llwyddiannus- edrych ymlaen at flwyddyn nesaf yn barod!!
21
Mae’r Aelwyd wedi helpu’r Undeb mewn sawl digwyddiad ar draws y flwyddyn- Canu yn Caffi Hafan i ddathlu Dydd Gwyl Dewi, Canu yn Neuadd PJ mewn Te Prynhawn i’r Henoed, Canu yn Pontio yn rhan o Wythnos Codi Ymwybyddiaeth Dementia, Canu Carolau tu allan Pontio a chanu yn rhan o Wasanaeth gyda’r Clwb Cristongol. Aeth criw bychan o’r Aelwyd ar drip i Chester I ‘Flip Out’ I gael bach o hwyl ar ôl yr holl waith caled cyn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd. Enillodd Aelwyd JMJ ’Digwyddiad y Flwyddyn’ yng Nghwobrau UMCB gyda’r Cyngerdd Nadolig drwy gefnogi elusen pwysig iawn- Diolch I bawb m eu holl waith caled. Gorffenwyd y flwyddyn gyda Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych. Braf bod nol yn cystadlu yn erbyn gwahanol Aelwydydd ar draws Cymru gyda’r Aelwyd yn derbyn: 1af- Cor Cerdd Dant-19-25mlwydd oed 2il- Ensemble Lleisiol-19-25mlwydd oed 3ydd- Cor Dros 40 mewn aelodau- 19-25mlwydd oed Derbyniodd Mali Elwy (sy’n aelod o’r Cor) yr anrhydedd o gael ei dewis fel un o gystadleuwyr Ysgoloriaeth Bryn Terfel ar ôl ei llwyddiant yng nghystadleuaeth y Cyflwyniad Theatrig yn yr Eisteddfod. Hoffwn ddiolch yn fawr i’r Pwyllgor am eu holl waith dros y flwyddyn ac I holl aelodau’r cor am eu hymroddiad I bob digwyddiad ac ymarferion.
22
ADRODDIAD FFRIND CYMRAEG GAN MABON DAFYDD Mae rhedeg y Prosiect Ffrind Cymraeg eleni wedi bod yn brofiad hwyliog iawn. Dwi wir wedi mwynhau ymgysylltu gyda myfyrwyr a dysgwyr er mwyn hybu'r Gymraeg o fewn y Brifysgol. Rhai o uchafbwyntiau'r flwyddyn oedd y Cwis diwedd flwyddyn gyda cyfranogiad dda o griw gwahanol o fyfyrwyr yn ymuno gyda ni ac hefyd y gallu i ddychwelyd i sesiynau mewn person. Hefyd fe gafon ni'r cyfle i gyd-weithio gyda 'Campws Byw' ar ddigwyddiad Gŵ yl Ddewi i gyflwyno'r Gymraeg a'i diwylliant i'r gymuned neuaddau yma ym Mangor. Mae'r prosiect yn parhau i ffynnu a gobeithio o dan ofal Celt ac arweinwyr prosiect y flwyddyn nesaf y bydd y prosiect yn parhau i lwyddo.
22
ADRODDIAD CYMDEITHAS JOHN GWILYM JONES GAN CADI ELEN ROBERTS Wrth edrych yn ôl ar flwyddyn o fod yn gadeirydd Cymdeithas John Gwilym Jones mae’n braf edrych yn gyntaf ar lwyddiant ysgubol digwyddiad y Stomp nol ym mis Mawrth. Cynhaliwyd y Stomp yng Nghaffi Clena gyda chwe chystadleuydd hynod dalentog yn darparu dwy gerdd o’u dewis hwy, un o dan y testun ‘unrhyw bwnc gwleidyddol’, a’r llall o dan y testun ‘cwrw’. Bu’n wych gweld cymaint o gynulleidfa yn ymuno i bleidleisio a chefnogi yn llenwi Caffi Clena! Yn anffodus methiant bu ein hymgais i gynnal perfformiad o ddrama yng Nghanolfan Pontio fel y cynlluniwyd a pharatowyd i ddigwydd ar ôl cyfarfodydd a thrafodaethau a threfnu cast. Y broblem achoswyd i ni beidio â pharhau a’r cynlluniau o ddarparu perfformiad oedd trafferthion cael gafael ar ddrama i ddarparu i’r cast penodol a ddewiswyd. Y prif rwystr oedd bod y ddrama benodol a ddewiswyd sef ‘Mrs. Reynolds a’r Cenna Bach’ yn gofyn am ganiatâd yr awdur, ac roedd yn rhaid cael hynny gan asiant ac amryw gamau i gael ein cais wedi ei dderbyn. O ganlyniad i hyn, ni ddaeth ein caniatâd nes yr oedd yn rhy hwyr i gychwyn ymarferion a pharatoadau gan fod dyddiad penodol wedi ei drefnu. Fe geisiom ail drefnu dyddiad unwaith yn rhagor, ond yn anffodus o ganlyniad i amserlen arholiadau’r Brifysgol ac ymarferion yr Eisteddfod Ryngolegol, nid oedd modd cynnal ymarferion mewn digon o bryd ar gyfer yr ail ddyddiad a benodwyd. Rydym fel cymdeithas yn falch ein bod wedi bod a’r bwriad o lwyfannu drama, ond ar yr un pryd yn siomedig na chawsom y cyfle wedi’r cyfan. Gobeithio’n wir y bydd mwy o lwyddiant y flwyddyn nesaf. Rydym fel cymdeithas yn falch iawn o gael y cyfle eleni i gynnal digwyddiad fel y Stomp a chyfarfod a thrafod dramâu unwaith yn rhagor. Gobeithiaf y bydd aelodau newydd o’r Brifysgol yn parhau â’r gymdeithas y flwyddyn nesaf ac yn llwyddo i drefnu hyd yn oed mwy o ddigwyddiadau llenyddol a pherfformiadau.
23
ADRODDIAD CHWARAEON Y CYMRIC GAN HELEDD DAVIES Gyda bywyd o ddydd i ddydd yn dychwelyd i normalrwydd ar droad y flwyddyn academaidd, braint a thipyn o her oedd hi i geisio sicrhau bod Chwaraeon y Cymric yn dychwel i’w llwyddiannau yn yr un modd. Yn sicr y flwyddyn hon, sicrhawyd na fyddai’r pandemig yn afrwyddo nag yn effeithio ar barodrwydd myfyrwyr UMCB i ymrwymo i gampau Y Cymric, a hynny ar draws y saith tîm yn bwrpasol. Heb os felly, braf yw cydnabod yr ailymddangosiad o draddodiadau a llwyddiannau Chwaraeon y Cymric yn ystod y flwyddyn gyffrous hon. Yn wyneb dyfodiad ‘Cynghrair Rygbi Rhyng-golegol’ a sefydlwyd ym Mis Hydref, bu tîm y dynion wrthi mewn sawl achos yn cystadlu yn erbyn timau gyfrwng Gymraeg prifysgolion ledled Cymru. Yn anffodus, gan mai’r flwyddyn hon oedd y flwyddyn gyntaf i ni dreialu'r gynghrair, methwyd i gwblhau'r holl gemau oedd i’w chwarae. Y gobaith yw i barhau ac i gwblhau'r gynghrair yn y flwyddyn academaidd nesaf. Mae’n deg honni mai uchafbwynt y flwyddyn i dimau’r Rygbi’r Cymric oedd yn nhwrnament Rygbi saith bob ochr Aber 7s. Yn eithaf annisgwyliedig efallai, llwyddodd y ddau dîm i gyrraedd safon elitaidd y gystadleuaeth, gyda'r bechgyn yn cyrraedd chwarteri’r Cwpan, a’r merched yn cyrraedd rownd gynderfynol y Gwpan: camp aruthrol i feddwl ein bod yn chwarae yn erbyn rhai o dimau 7s gorau’r wlad! Roedd tarddiad y sesiynau rygbi cyffwrdd unrhywiol yn nhymor yr Haf hefyd wedi profi’n llwyddiant ysgubol wrth ddarparu cyfle i’r ddau dîm gymdeithasu gyda’i gilydd mewn amgylchedd cyfeillgar ac anghystadleuol. Ymlaen i’r byd bêl-droed, chwaraewyd ond pedair gêm swyddogol y flwyddyn hon. Fodd bynnag, yn y gemau hynny brwydrodd y dynion ar gaeau Treborth yn erbyn timau lleol yr ardal drwy fagu profiad wrth wrthwynebu gwrthwynebwyr o lefelau safon uchel. Yn anffodus, nid oedd gan y merched pel-droed unrhyw amser ymarfer y flwyddyn hon, ac felly yn naturiol, cyfyngedig iawn oedd gweithrediad y pêl-droedwyr. Ond er gwaethaf hynny, llwyddwyd i chwarae gêm gystadleuol yn erbyn tîm pêl droed merched y Brifysgol yn ogystal ag ennill y ddwy gêm a chwaraewyd yng nghystadleuaeth chwaraeon Eisteddfod Rhyng-golegol eleni.
24 Llwyddwyd yn ogystal i gynnal gêm gyffrous iawn yn erbyn tîm ‘Hen Sêr Y Cymric’, gyda’r dynion presennol yn ei chipio hi funud olaf ȃ sgôr o 4-5. Rhoddwyd holl elw'r gêm tuag at yr elusen iechyd meddwl, ‘Meddwl.org.’ Gyda’r merched pêl-rwyd yn ymuno ȃ chynghrair leol am y tro cyntaf yn hanes Y Cymric, gwelwyd eu llwyddiant yn neidio o nerth i nerth. Yn wythnosol, teithiodd criw o ferched i ganolfan Plas Silyn ym Mhenygroes i chwarae yn erbyn timau gorau'r ardal, wrth frwydro yn ddiddiwedd ym mhob achlysur. Y gobaith ydi barhau ar y traddodiad yma yn y blynyddoedd i ddod. Ond eto, profwyd y gystadleuaeth fwyaf i’r merched yn eu gemau yn erbyn bechgyn Y Cymric. O flaen torf o gyd-fyfyrwyr UMCB, brwydrodd y bechgyn yn ffyrnig yn erbyn y merched, drwy gipio un buddugoliaeth allan o ddau. Wrth droi at y cae hoci, braf oedd gweld y merched yn ail afael ar eu ffyn ac yn ymrwymo yn y ddwy gêm a chwaraewyd yn erbyn ail dîm merched Bangor. Ar ôl ennill un gêm a dod yn gyfartal yn y llall, yn ddiau roedd hoel talent a brwdfrydedd mawr yn y garfan. Yn rhwystredig i lawer, roedd yr unig amser ymarfer ar gael wedi’i amseru rhwng 9 a 10 o’r gloch y nos, ac felly yn naturiol, effeithiwyd hynny ar ansawdd a phresenoldeb yr ymarferion. Wedi dweud hynny, gan feddwl mai hon oedd yr ail flwyddyn yn unig ers dyfodiad y tîm hoci, mae yna sicr amseroedd cyffrous i’w ddod. Yn ogystal, yn fater gwbl newydd y flwyddyn hon, oedd ymddangosiad tîm dartiau Y Cymric. O dan arweiniad y capten Dylan Jones (Percy), llwyddwyd i chwarae dwy gêm gystadleuol yn erbyn tîm dartiau'r Brifysgol. Profwyd buddugoliaeth yn un o’r gemau hynny yn ogystal. Mae ail fwrdd dartiau bellach wedi cael ei ychwanegu yn Nhafarn y Glôb, yn barod ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Does dim amheuaeth yn fy meddwl i mai uchafbwynt taith Chwaraeon y Cymric y flwyddyn hon oedd eu llwyddiant yng nghystadlaethau chwaraeon Eisteddfod Rhyng-golegol Bangor eleni. Gyda’r merched yn profi’n ddisathr ar draws yr holl gampau, rhoddwyd cyfle iddynt brofi eu cryfder a’u talent i weddill myfyrwyr prifysgolion Cymru. Er gwaethaf nifer iawn o anafiadau ac absenoldebau yng ngharfan timau’r dynion, llwyddwyd hwythau i ddod yn ail yn eu campau yn ogystal. Ymhellach, arweiniodd holl berfformiadau’r diwrnod at Fangor yn cael eu coroni gyda thlws Chwaraeon Eisteddfod Rhyng-golegol Bangor 2022, cam oedd yn hynod allweddol wrth sicrhau'r fuddugoliaeth cwblol yn y pen draw. Gyda’r rôl bresennol bellach yn cael ei rannu’n ddwy, gan gyflwyno ‘Cynrychiolydd Chwaraeon Merched’ a ‘Chynrychiolydd Chwaraeon Bechgyn’, hoffwn estyn bob hwyl iddynt am y flwyddyn sydd i ddod. Rwy’n gobeithio fy mod wedi datblygu sylfaen ar eu cyfer i adeiladu rhwydwaith o gyfleoedd a phrofiadau chwaraeon ar gyfer holl fyfyrwyr UMCB. Buaswn hefyd yn hoffi estyn gair o gyngor i bob un myfyriwr UMCB i fynd i afael ar yr holl gyfleodd chwaraeon sydd yn cael eu cynnig iddyn nhw'r flwyddyn nesaf. Mae hi wir yn ffordd wych o ddod i adnabod eich cyd-fyfyrwyr y tu allan i furiau’r dafarn, felly plîs ewch amdani.
25
ADRODDIAD Y CYMRIC Ar ôl y flwyddyn go od i ni llynedd, roedd yn hen bryd i ni i gael mwy o normalrwydd yn ôl i’n bywyd yn y brifysgol ac yn wir, wnaethom eleni yn flwyddyn i’w gofio! Rydym ni fel y Cymric yn wir gobeithio ein bod wedi medru trefnu digwyddiadau cymdeithasol a oedd yn gwneud eich blwyddyn yn y brifysgol yn un i’w gofio. O wythnos y glas, i’r holl glybiau Cymru i’r wythnos ffarwelio, rydym wedi gwneud y mwyaf o’r flwyddyn hon heb unrhyw gyfyngiadau i’n rhwystro rhag medru cymdeithasu. Heb anghofio uchafbwynt y flwyddyn sef ddod yn fuddugol unwaith yn rhagor yn yr Eisteddfod Rynggolegol – am y seithfed tro yn olynol! I ni Cymric, mae’r dair blynedd diwethaf wedi bod yn rhai neith aros yn y cof am byth. Os na sylweddoloch chi wedi crol-olaf – mae’n wir fod y mwyafrif ohonom yn y drydedd flwyddyn ac ôlradd am weld eisiau Bangor ac UMCB blwyddyn nesaf gyda sawl ddeigryn yn cael eu rhannu’n glôb – welwn ni chi yn Hasbins! Hoffwn ni ddiolch i chi gyd am yr holl gefnogaeth dros y flwyddyn ddiwethaf ac am wneud yn siŵ r ein bod yn gallu gwneud hon yn flwyddyn i’w gofio unwaith eto. Hoffwn ni hefyd ddymuno pob lwc i’r Cymric blwyddyn nesaf.
ADRODDIAD BLYNYDDOL
2022