NOMINATIONS OPEN December 13th 2021 - February 11th 2022
UNDEBBANGOR.COM/ELECTIONS
ENWEBIADAU AR AGOR Rhagfyr 13eg 2021 - Chwefror 11eg 2022
UNDEBBANGOR.COM/ETHOLIAD
2022
13/12/2021 - 11/2/2022
13/12/2021 - 11/2/2022
13 RHESWM I SEFYLL 1. 2. 3.
Cyfle i siarad â myfyrwyr eraill, datblygu'ch syniadau a gwneud bywydau myfyrwyr yn well.
Cyfle i weithio ar ymgyrchoedd a prosiectau gwladol
Cael profiad gwerthfawr o gynllunio projectau, o'r syniad cychwynnol i'w cwblhau.
4. 5. 6.
Cael cipolwg gwych ar weithio'n agos fel tîm tuag at yr un nod.
Defnyddio a datblygu ystod eang o sgiliau
Cyfle i wella'ch CV fel eich bod yn sefyll allan i gyflogwyr y dyfodol.
Cyfle unwaith mewn oes i gael swydd sy'n amlweddog lle'r ydych yn
7.
gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr yn ogystal â staff ar lefel uchel yn y Brifysgol ar brojectau a chynlluniau newydd i greu newid gwirioneddol.
8.
Cwrdd â phobl newydd a chael hwyl.
9.
Mae swydd sabb yn swydd llawn amser sy’n ennill dros
10. 11. 12. 13.
£19,000 y flwyddyn.
Gweithio gyda myfyrwyr brwd eraill.
Cyfle i wneud swydd yn un eich hun.
Cyfle I wneud newidiadau positif ar gyfer myfyrwyr a gadel eich hoel.
Os ydych chi'n llwyddiannus, cewch fod ym Mangor dros yr haf ac mae'n hyfryd pan mae'r haul yn tywynnu.
Atebion i'ch Pryderon PRYDER: Mae yna Sabb presennol yn ail rhedeg, sgen i ddim gobaith. ATEB: Ella eich bod yn credu fod Sabb presennol o hyd yn cael ei ail ethol, ond a oeddech yn gwybod dros y ddwy flynedd diwethaf nid yw’r Sabb presennol o hyd wedi cael ei ail ethol.
PRYDER: Dwi ddim ddigon da i’r swydd. ATEB: Mae’r swydd y beth rydych chi’n neud o. Er fyddwch yn hynod o brysur drwy gydol y flwyddyn, bydd gennych ddigonedd o gymorth o fewn yr undeb, i ganiatáu chi i lwyddo.
PRYDER: Ni does gennyf amser i ymgyrchu. ATEB: Ni does angen i chi wneud y cyfan. Gofynnwch i’ch ffrindiau i fod yn rhan o’ch tîm ymgyrch i’ch helpu. Cofiwch fod ansawdd yn bwysicach na nifer. Ac yn fwy aml na dim, mae’r hyn rydych chi yn ei wneud eisoes, yn gallu bod yn hynod o effeithiol wrth ymgyrchu.
PRYDER: Efallai nai golli. ATEB: Tydi cael eich ethol byth yn garantid, byddwch byth yn gwybod heb driol. Mae rhedeg ar gyfer yr etholiad yn brofiad gwych hun, ac yn rhywbeth i chi ychwanegu i’ch CV.
PRYDER: Ni does gennaf ddigon o arian i ymgyrchu. ATEB: Mae etholiadau yn yma ym Mangor yn hygyrch i bawb. Rydym yn darparu cyllideb i bob ymgeisydd, a ni all yr ymgeisydd fynd dros y sŵn hwn, i sicrhau fod pawb yn gyfartal. PRYDER: Nid ydw’i ddigon poblogaidd i ennill yr etholiad. ATEB: Os oes gennych chi bolisïau da sydd wedi ei seilio ar yr hyn mae myfyrwyr eisiau, bydd hyn yn eu hysbrydoli’ch cefnogi.
PRYDER: Ni allai ddylunio posteri. ATEB: Nid yw’r rhan helaeth o’r ymgeiswyr yn arbenigwyr mewn dylunio graffeg. Mae o i gyd i wneud a chael eich neges ar draws. Rydym yn awgrymu defnyddio Canva.com i helpu chi i ddylunio poster. Am ysbrydoliaeth ewch i undebbangor.com/manifesto a chymerwch olwg ar faniffestos o’r gorffennol.
Swydd Disgrifiadau Swyddogion Sabothol
Pob Swyddog Sabothol: Cyflog Blynyddol:
£ 20,092
Cyfnod Gwasanaeth: 1af o Gorffennaf 30ain o Fehefin
Yn ymddiriedolwr Undeb y Myfyrwyr. Yn cael ei ystyried yn 'ddeiliad un o brif swyddi'r undeb' fel y'i diffinnir gan Ddeddf Addysg 1994. Yn aelod llawn â phleidlais o Fwrdd Ymddiriedolwyr Undeb Bangor a Phwyllgor Gwaith Undeb Bangor. Yn cynnig arweinyddiaeth ar gyfeiriad ymgyrchoedd a phortffolio digwyddiadau Undeb y Myfyrwyr. Yn cynorthwyo ac yn cefnogi gweithgareddau'r Wythnos Groeso, gan gynnwys Ffair y Glas. Yn cefnogi gwaith swyddogion a staff yr Undeb. Ar brydiau gall hyn fod gyda'r hwyr ac ar benwythnosau, y tu allan i oriau swyddfa arferol. Yn hyrwyddo gwerthoedd yr Undeb ar bob adeg. Yn gweithio i sicrhau bod eu gwaith hwy, a gwaith Undeb y Myfyrwyr, yn cael eu cyfleu'n briodol ac yn effeithiol i fyfyrwyr. Disgwylir iddynt lunio erthyglau yn rheolaidd ar gyfer cyhoeddiadau'r Undeb, gan gynnwys y wefan. Yn gweithio i gefnogi a darparu cylch gwaith iechyd, lles, cynaliadwyedd a chymunedol Undeb y Myfyrwyr. Yn gweithio'n rhagweithiol ar syniadau a pholisïau myfyrwyr a basiwyd yng Nghyngor Undeb Bangor. Yn bresennol yng nghyfarfodydd lefel uchel y brifysgol ac yn cynrychioli myfyrwyr ynddynt, gan gynnwys; grwpiau strategol, grwpiau tasg a gorffen a phwyllgorau. Yn cysylltu ag adrannau perthnasol y brifysgol ar faterion sy'n bwysig i fyfyrwyr. Yn mynd i gynadleddau cenedlaethol. Yn eistedd ar baneli cyfweld Undeb y Myfyrwyr a'r brifysgol yn ôl yr angen. Yn cynorthwyo i gynrychioli myfyrwyr ym mhrosesau apêl a disgyblu'r brifysgol yn ôl yr angen. Yn mynd i gyfarfodydd Undeb y Myfyrwyr megis y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Chyngor Undeb Bangor, gan gyflwyno adroddiadau ac ateb cwestiynau myfyrwyr yn ôl yr angen. Yn cefnogi Undeb y Myfyrwyr trwy lunio adroddiadau. Yn ymwneud yn gyson â myfyrwyr ar draws y campws.
Swydd Disgrifiadau Swyddogion Sabothol Cyflog Blynyddol:
£ 20,092
Cyfnod Gwasanaeth: 1af o Gorffennaf - 30ain o Fehefin
Bydd yn brif swyddog yr Undeb ac yn bennaeth Tîm y Swyddogion Sabothol. Bydd yn brif gynrychiolydd yr Undeb i'r brifysgol, gan gysylltu rhwng Undeb y Myfyrwyr a Phwyllgor Gweithredu'r Brifysgol. Bydd yn brif gynrychiolydd yr Undeb i'r gymuned leol a'r cyfryngau lleol a chenedlaethol. Bydd yn cynnal cysylltiadau ag undebau myfyrwyr eraill a sefydliadau allanol perthnasol. Bydd yn gyfrifol am oruchwyliaeth ar lunio a drafftio cyllideb yr Undeb ar ran Bwrdd yr Ymddiriedolwyr. Bydd yn gyfrifol am ddrafftio a gweithredu strategaeth yr Undeb a bydd yn goruchwylio'r polisi gweithredol ar y cyd â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a Chyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr. Bydd yn cyflwyno adroddiad ar waith y Swyddogion Sabothol i bob cyfarfod o Gyngor Undeb Bangor a Chyfarfod Cyffredinol Undeb Bangor. Bydd ganddo/ganddi gyfrifoldeb rheoli llinell wedi'i ddirprwyo dros Gyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr rhwng cyfarfodydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Undeb Bangor. Bydd yn brif swyddog ar faterion yn ymwneud â staffio yn yr Undeb. Bydd yn cadeirio cyfarfodydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Undeb Bangor. Bydd yn brif swyddog ar faterion yn ymwneud â democratiaeth yr Undeb a bydd yn gyfrifol am gynnal a dehongli'r cyfansoddiad. Ef/hi fydd y swyddog sy'n gyfrifol am gylch gwaith cymunedol yr Undeb, gan gynnwys gwaith project myfyrwyr yn y gymuned, ymgyrchoedd cymunedol lleol a byd-eang, yr agenda ddinasyddiaeth a chysylltu â grwpiau preswylwyr a'r cyngor lleol. Bydd yn arwain ar faterion yn ymwneud â Sicrwydd Ansawdd y brifysgol. Bydd yn gweithio'n agos gyda'r Is-lywydd Addysg ar faterion yn ymwneud ag addysg.
Swydd Disgrifiadau Swyddogion Sabothol Cyflog Blynyddol:
£ 20,092
Cyfnod Gwasanaeth: 1af o Gorffennaf - 30ain o Fehefin
Ef/hi fydd y swyddog sy'n gyfrifol am gylch gwaith Addysg yr Undeb, gan ganolbwyntio'n benodol ar faterion polisi cenedlaethol a lleol, cyllid ac ansawdd addysg. Bydd hyn hefyd yn cwmpasu pob mater sy'n ymwneud ag addysg ôl-radd. Bydd yn cysylltu'n rheolaidd â Phwyllgor Gweithredu'r brifysgol ar faterion sy'n ymwneud ag addysg. Bydd yn gweithio'n agos gyda Llywydd UMCB ar faterion yn ymwneud ag addysg gyfrwng Cymraeg. Ef/hi fydd y swyddog sy'n gyfrifol am gydlynu trefn Cynrychiolwyr Cwrs Undeb y Myfyrwyr ac yn sicrhau cyswllt rheolaidd â'r brifysgol ac ysgolion academaidd unigol. Bydd yn cynllunio a hwyluso Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs. Bydd yn gweithio'n agos gyda Chabinet y Cynrychiolwyr Cwrs a Chynrychiolwyr Cwrs ar fentrau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd. Bydd yn gweithio'n agos gyda Llywydd UMCB i gydlynu agweddau cyfrwng Cymraeg trefn cynrychiolwyr cwrs y brifysgol. Bydd yn cefnogi gwaith Ymchwil Academaidd Undeb y Myfyrwyr. Bydd yn cefnogi Undeb y Myfyrwyr trwy lunio adroddiadau'n ymwneud â phrofiad academaidd.
Swydd Disgrifiadau Swyddogion Sabothol Cyflog Blynyddol:
£ 20,092
Cyfnod Gwasanaeth: 1af o Gorffennaf - 30ain o Fehefin
SEf/hi fydd y swyddog sy'n gyfrifol am gylch gwaith Cymdeithasau a Gwirfoddoli Undeb y Myfyrwyr, gan gysylltu'n agos â'r brifysgol a chynrychioli myfyrwyr ar faterion yn ymwneud â Chymdeithasau a Gwirfoddoli. Ef/hi fydd y swyddog sy'n gyfrifol am gylch gwaith cymdeithasau a gwirfoddoli'r Undeb, gan gynnwys bod yn gyfrifol am ei weithrediad a'i gyllid, a sicrhau bod gan ei gymdeithasau'r adnoddau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i weithredu. Bydd yn cysylltu â'r Is-lywydd Chwaraeon a'r Is-lywydd Myfyrwyr Cymraeg / Llywydd UMCB i gydlynu pecyn hyfforddi cynhwysfawr ar gyfer aelodau pwyllgor yr UA, Cymdeithasau, Grwpiau Gwirfoddoli a grwpiau UMCB. Bydd yn annog ac yn hyrwyddo gweithgareddau hamdden yn y brifysgol ac yn cynnig cymorth trwy Dîm Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor. Bydd yn gweithio'n agos gyda Phwyllgorau Gwaith y Cymdeithasau a Gwirfoddoli, ac yn eu cadeirio, ac yn cefnogi mentrau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd. Bydd yn gweithio'n agos gydag aelodau pwyllgorau'r cymdeithasau a gwirfoddoli i gefnogi mentrau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd. Bydd yn cynorthwyo i fonitro gweithgareddau'r cymdeithasau a gwirfoddoli. Ar brydiau gall hyn fod gyda'r hwyr ac ar benwythnosau, y tu allan i oriau swyddfa arferol. Bydd yn cynorthwyo i gynllunio a hwyluso digwyddiadau rhyng-golegol y Cymdeithasau a Gwirfoddoli.
Swydd Disgrifiadau Swyddogion Sabothol Cyflog Blynyddol:
£ 20,092
Cyfnod Gwasanaeth: 1af o Gorffennaf - 30ain o Fehefin
Ef/hi fydd y swyddog sy'n gyfrifol am gylch gwaith Chwaraeon Undeb y Myfyrwyr, gan gysylltu'n agos â'r brifysgol ac Adran Chwaraeon Bangor, a chynrychioli myfyrwyr ar faterion yn ymwneud â chwaraeon. Bydd yn mynd i bob cyfarfod perthnasol Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) a BUCS Cymru. Ef/hi fydd Llywydd yr Undeb Athletau, yn gyfrifol am ei weithrediad a'i gyllid ac am sicrhau bod gan ei glybiau'r adnoddau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i weithredu. Bydd yn cysylltu â'r gymuned leol a chyrff cenedlaethol ar faterion yn ymwneud â chwaraeon. Bydd yn cysylltu â'r Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli a Llywydd UMCB i gydlynu pecyn hyfforddi cynhwysfawr ar gyfer aelodau pwyllgor yr UA, Cymdeithasau, Grwpiau Gwirfoddoli a grwpiau UMCB. Bydd yn annog ac yn hyrwyddo cyfranogiad yr aelodau mewn chwaraeon cystadleuol a hamdden yn y brifysgol, gan gynnig cymorth drwy'r Undeb Athletau. Bydd yn gweithio'n agos gyda Phwyllgor Gwaith yr Undeb Athletau ac yn cefnogi mentrau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd. Bydd yn gweithio'n agos gydag aelodau pwyllgorau clybiau chwaraeon i gefnogi mentrau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd. Bydd yn cynorthwyo i fonitro'r Undeb Athletau a gweithgareddau chwaraeon. Ar brydiau gall hyn fod gyda'r hwyr ac ar benwythnosau, y tu allan i oriau swyddfa arferol. Bydd yn cynorthwyo i gynllunio a hwyluso digwyddiadau chwaraeon rhyng-golegol.
Swydd Disgrifiadau Swyddogion Sabothol Cyflog Blynyddol:
£ 20,092
Cyfnod Gwasanaeth: 1af o Gorffennaf - 30ain o Fehefin Bydd yn siaradwr Cymraeg ac yn cynrychioli pob siaradwr a dysgwr Cymraeg. Ef/hi fydd y swyddog sy'n gyfrifol am gylch gwaith cyfrwng Cymraeg Undeb y Myfyrwyr, gan gysylltu'n agos â'r brifysgol a chynrychioli myfyrwyr ar faterion yn ymwneud â'r iaith Gymraeg. Ef/hi fydd Llywydd UMCB, yn gyfrifol am ei weithrediad a'i gyllid, ac am sicrhau bod gan ei grwpiau'r adnoddau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i weithredu. Bydd yn cysylltu â'r brifysgol, cyrff lleol cymunedol a chenedlaethol ar faterion yn ymwneud â darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac ehangu cyfranogiad siaradwyr Cymraeg. Bydd yn gweithio'n agos gyda'r Is-lywydd Addysg i gydlynu agweddau cyfrwng Cymraeg trefn cynrychiolwyr cwrs y brifysgol, ac ar faterion yn ymwneud ag addysg gyfrwng Cymraeg. Bydd yn cwrdd yn rheolaidd â Chynrychiolwyr Cwrs Cymraeg eu hiaith. Bydd yn cysylltu â'r Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli a'r Is-lywydd Chwaraeon i gydlynu pecyn hyfforddi cynhwysfawr ar gyfer aelodau pwyllgor yr UA, Cymdeithasau, Grwpiau Gwirfoddoli a grwpiau UMCB. Bydd yn annog cynnwys a hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn holl faterion y brifysgol a'r Undeb. Bydd yn gweithio i gynnwys y gymuned Gymraeg leol yng ngwaith yr Undeb ac
ŷ
yn cysylltu â'r Llywydd a'r Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli yngl n â gwaith cymunedol. Bydd yn gweithio'n agos gyda Phwyllgor Gwaith UMCB ac aelodau pwyllgor cymdeithasau UMCB i gefnogi mentrau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd. Bydd yn cynorthwyo i fonitro gweithgareddau UMCB. Ar brydiau gall hyn fod gyda'r hwyr ac ar benwythnosau, y tu allan i oriau swyddfa arferol. Bydd yn cynorthwyo i gynllunio a hwyluso digwyddiadau rhyng-golegol cyfrwng Cymraeg. Bydd yn aelod o Gyngor y Brifysgol.
PA SWYDDOG SABOTHOL DYLECH FOD?
Shrek
Dim o gwbl
Donkey
DAL YN ANSICR BETH MAE SABB YN GWNEUD? EWCH I UNDEBBANGOR.COM/EICHLLAIS/ETHOLIADAU/ETHOLIADAUSWYDDOGIONSABOTHOL/ SWYDDOGIONSABOTHOL
Amserlen Digwyddiad
Dyddiad
Amser 13/12/2021
09:00
15/12/2021
14:00-15:00
Dydd Iau
16/12/2021
15:00-16:00
Microsoft Teams
Dydd Mercher
26/01/2022
13:00-14:00
Cyfnod Enwebu'n Cau
Dydd Gwener
Cyfnod Enwebu yn Dechrau
Dydd Llun
Dydd Mercher
Sesiynau Galw Heibio'r Ymgeiswyr
11/02/2022
17:00
Sesiwn Briffio'r Ymgeiswyr
Dydd Mawrth
15/02/2022
Gweithdy Ymgyrchu
Dydd Mercher
16/02/2022
13:00-14:00
Gweithdy Marchnata
Dydd Mercher
23/02/2022
13:00-14:00
Cyfarfod â Chyfarwyddwr Undeb
Dydd Mercher
02/03/2022
13:00-14:00
18:00-20:00
Dyddiad Cau ar gyfer Maniffestos, Dydd
Deunyddiau Hyrwyddo a
16/02/2022
12:00
Mercher
Daliadau'r Ymgeiswyr Cyfyngiad o 350 gair ar Maniffestos
Cyfieithiadau yn ôl i'r Ymgeiswyr
Dydd Gwener
25/02/2022
17:00
Dyddiad Cau i gyflwyno fideos a unrhyw dyluniadau (e.e. posteri
Dydd Mawrth
01/03/2022
17:00
07/03/2022
09:00
07/03/2022
12:00
ayyb.)
Cyfnod Ymgyrchu yn Dechrau
Sesiwn Holi'r Ymgeiswyr
Pleidleisio'n Agor
Dydd Llun
Wythnos yn dechrau
Dydd Mercher
16/03/2022
00:00
Pleidleisio'n Cau
Dydd Gwener
18/03/2022
12:00
Cyfrif y Canlyniadau
Dydd Gwener
18/03/2022
14:30
18/03/2021
16:00
Cyhoeddiad Canlyniadau'r Etholiad Dydd Gwener
Anfonwch eich deunyddiau, ac unrhyw cwestiynau i etholiadau@undebbangor.com
Etholiad Sabothol Sut i gysylltu gyda myfyrwyr ar-lein Bydd y ddogfen hon yn amlinellu rhai awgrymiadau ar sut i gyfathrebu â myfyrwyr ar-lein.
1. Sefydlu tudalen neu gr
ŵp Facebook
a. Mae tudalen yn broffil cyhoeddus a grëwyd ar gyfer achos neu sefydliad penodol. Yn wahanol i'ch proffil personol, byddwch chi'n ennill cefnogwyr ac nid ffrindiau. Gallwch wahodd eich ffrindiau o'ch proffil personol i hoffi'ch tudalen a gallwch hefyd bostio dolen i'r dudalen fel y gall pobl weld eich tudalen.
ŵp yn cael ei greu ar gyfer pobl sy'n rhannu diddordeb cyffredin i rannu gwybodaeth a dogfennau. Gall unrhyw un sy'n rhano'r grŵp bostio. b. Mae gr
2. Sefydlu tudalen Instagram
3. Gallwch ddod o hyd i gyfeiriad e-bost pob clwb a chymdeithasau ar wefan Undeb Bangor.
4. Edrychwch ar bwy sy'n dilyn Undeb Bangor a Phrifysgol Bangor ar Instagram a'u dilyn eich hun, efallai y cewch ddilyniant yn ôl.
5. Mae gan y mwyafrif o glybiau a chymdeithasau dudalen Facebook ac maen nhw'n ei ddefnyddio i gyfathrebu â'u haelodau. Nid oes rhestr gynhwysfawr o'r tudalennau hyn ond maent yn ddigon syml i'w darganfod. a. Os teipiwch ‘Prifysgol Bangor’ neu ‘Bangor University’ i mewn i far chwilio Facebook bydd yn cynnig rhestr hir o dudalennau sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Bangor. Fel rheol gallwch ofyn am ymuno â'r grwpiau hyn. b. Mae gan rai o'n clybiau a'n cymdeithasau eu dolenni Facebook a Twitter ar eu tudalen Undeb Bangor. Ewch trwy'r rhain ac efallai y dewch o hyd i ychydig o dudalennau defnyddiol.
Gall unrhyw ymholiad gael ei yrru at elections@undebbangor.com
YSGRIFENNU MANIFFESTO Nid oes angen chwysu chwartiau dros ysgrifennu maniffesto etholiad. Yn sylfaenol, dylai eich maniffesto ddatgan eich cynlluniau ynglyn â’r hyn y byddech yn ei wneud yn eich cyfnod yn y swydd, a pha newidiadau fyddech chi'n eu cyflwyno.
Nid yw'n esgus i ymosod ar eich gwrthwynebwyr, na gwneud addewidion gwag. Cymerwch amser cyn ysgrifennu i feddwl am yr hyn rydych yn credu y gallech ei gyflawni a’r hyn fyddai'r pleidleiswyr yn ymateb iddo.
Awgrymiadau ar sut i lunio eich maniffesto;
Byddwch yn gryno a defnyddiwch iaith glir. Osgowch eiriau hir, cymhleth -ni fyddwch yn ennill gwobrau am fod yn glyfar ac efallai y byddwch yn dieithrio pleidleiswyr pwysig. Meddyliwch yn ofalus am y cynllun a chofiwch bydd y maniffesto gorffenedig yn ymddangos yn ddwyieithog. Ceisiwch ei ddylunio i fod yn ddwyieithog o'r cychwyn. Amlinellwch eich nodau dros eich cyfnod yn y swydd a sicrhewch eu bod yn realistig ac yn gyraeddadwy. Mae eich maniffesto amdanoch chi, nid am eich gwrthwynebwyr. Dylech osgoi difrio ac amharchu pobl eraill am ei fod yn amhroffesiynol ac yn y pendraw gallai arwain at dorri rheol! Byddwch yn berthnasol. Meddyliwch am yr hyn sydd ei angen ar gyfer y swydd a chanolbwyntiwch ar hynny. Bydd enghreifftiau ohonoch yn dangos arweinyddiaeth, dycnwch a sensitifrwydd yn awgrymu i'r pleidleiswyr eich bod yn addas i’r swydd. Cadwch at y terfyn geiriau (350 o eiriau). Dyna’r rheolau, ac, wedi'r cyfan, bydd y pleidleiswyr yn awyddus i ddarllen yr hyn sydd gennych i'w ddweud. Meddyliwch yn ofalus am sut i gyfleu eich prif bwyntiau. Byddwch yn greadigol ac yn barod i ysbrydoli. Cofiwch aros o fewn y rheolau. Os ydych chi'n ansicr, gofynnwch bob amser.
Rhaid i chi gyflwyno'ch maniffesto yn www.undebbangor.com/nominations erbyn 12:00, dydd Mercher y 16eg o Chwefror, 2022. GALLWCH WELD ENGHREIFFTIAU O FANIFFESTOS A PHOSTERI BLAENOROL AR UNDEBBANGOR.COM/MANIFESTO
CANDIDATE MATCH Candidate match will be used to identify to students your stance as a Sabbatical Officer Candidate on various issues that affect the student body. Let us know how you feel about the issues below! You will be given the chance to submit a 100-word statement discussing your stances and the reasons for your answers.
DALIADAU'R YMGEISWYR Caiff daliadau'r ymgeiswyr i'w ddefnyddio i ddangos i fyfyrwyr beth yw eich safiad fel ymgeisydd ar amrywiaeth o faterion sydd yn effeithio ar fyfyrwyr. Rhowch wybod i ni am unrhyw broblemau isod! Cewch gyfle i ysgrifennu datganiad 100 gair, i drafod eich safiad ac eich rhesymau am eich atebion
Go to...
Ewch i...
www.undebbangor.com/candidatematch Deadline | Dyddiad Cau: 16/02/2022